Y llawysgrifau
Rhestrir 32 o gopïau yn MCF. O’r rhain, nid ymddengys fod y testun yn Pen 160, a’r cwpled cyntaf yn unig a geir yn Pen 221.
O ran trefn y llinellau, mae’r holl gopïau yn debyg iawn i’w gilydd. Collwyd ambell gwpled mewn rhai, a disodlwyd ambell gwpled hefyd. Ond, ac anwybyddu’r mân eithriadau hyn, un drefn sylfaenol a geir ym mhob copi, a gellir gweld y drefn hon yn ddilychwin yn Pen 83, LlGC 16964A a Brog I.3. Mae’n debygol iawn o fod yn wreiddiol.
Yng nghopïau Llywelyn Siôn ceir 12 llinell ychwanegol. Maent hefyd yn Pen 96, yn ogystal â chwpled dieithr arall. Ymdebyga LlGC 13061B o ran ei darlleniadau i gopïau Llywelyn Siôn – a gwyddys bod y copïydd, Thomas ab Ieuan, wedi pori yn llawysgrifau hwnnw – ond ni cheir yno’r llinellau ychwanegol. Dichon, felly, fod cynsail Llywelyn Siôn wedi mynd i’w ddwylo ef. Dyma awgrym mai Llywelyn Siôn a ychwanegodd y llinellau hyn, ai o’i ben a’i bastwn ei hun, ai o ryw ffynhonnell anhysbys, ni wyddom. Ond yn sicr ni ellir eu derbyn.
Bychan yw’r gwahaniaethau yn y darlleniadau, ac o’r herwydd mae llunio stema foddhaol yn amhosibl. Gellir didoli rhai grwpiau, megis grwpiau C 2.114 a BL 14866, ond ni ellir bod yn sicr o gydberthynas aelodau’r grwpiau hyn nac ychwaith o gydberthynas y grwpiau. Erys testunau eraill ar eu pennau eu hunain, fel y copïau cynnar Pen 77 a BL 14875. Rhoddwyd ystyriaeth i 12 llawysgrif wrth lunio’r testun golygedig. O’r rhain, y pwysicaf yw Pen 83 a C 2.114.
Trawsysgrifiadau: Pen 83, C 2.114, LlGC 16964A, Brog I.2, BL 14866, Pen 77.
1 da Mae’n anodd penderfynu rhwng da a teg, yn enwedig gan nad yw’r gynghanedd o gymorth. Ceir teg yn llawysgrifau’r de (Pen 83, LlGC 16964A, Llywelyn Siôn, LlGC 13061B a Pen 96) a hefyd mewn dau gopi gogleddol, sef Brog I.2 a LlGC 20574A. Amrywiol iawn yw safon testunau Brog I.2, ac mae LlGC 20574A yn ddiweddar iawn ac yn broblemus o ran ei pherthynas â gweddill y llawysgrifau. Nid yw’r dystiolaeth dros teg mor gryf, felly, ag yr ymddengys ar yr olwg gyntaf. Ar y llaw arall, cefnogir da gan C 2.114, efallai’r copi hynaf ar glawr, a chan Pen 77, BL 14875 a BL 14866, copïau cynnar eraill o’r gogledd, a hefyd Brog I.3. Ymddengys na waherddid proest i’r odl yn amser Guto’r Glyn (CD 256–7), felly byddai da yn llwyr dderbyniol. Tybed ai ‘cywiriad’ rhyw gopïydd diweddarach, ar ôl i broest i’r odl gael ei gollfarnu, yw teg?
9 y Mae mwyafrif y llawysgrifau o’i blaid. Collwyd y sillaf mewn tri chopi (C 2.114, BL 14875, Brog I.3). Dim ond Pen 77 sy’n cynnig a (a dderbyniwyd yn GGl).
11–12 Yn Brog I.2 mae’r cwpled hwn rhwng 26 a 27.
12 y … y Ceir cryn ddryswch yn y llawysgrifau yma. Ceir y sabl yn BL 14866, LlGC 20574A, Brog I.2 a Pen 96, ac a sabl yn y llawysgrifau deheuol eraill a hefyd Brog I.3. Ni cheir geiryn o flaen sabl yn C 2.114, Pen 77 (sy abl) a BL 14875. Mae mwyafrif y llawysgrifau yn rhoi sy heb eiryn o’i flaen: yr eithriadau yw Pen 83, BL 14875, Pen 96 a LlGC 13061B. Hyd yn oed o dderbyn bod y bardd yn cyfrif sabl yn ddeusill, mae angen derbyn un o’r sillafau hyn yn y testun. Gan nad oes patrwm amlwg yn y llawysgrifau, derbyniwyd y ddau y ar y sail mai cyfrif geiriau fel sabl yn unsill yw’r norm (er nad yn ddieithriad) yng nghyfnod Guto’r Glyn.
13 Gorau un lliw, graen a llwydd Dilynir Pen 83, Brog I.2 a LlGC 20574A. Mân amrywiadau ar hyn yn unig a geir yn C 2.114 (o llwydd), BL 14875 a Brog I.3 (y llwydd), BL 14866 (a llwyd), LlGC 16964A (y lliwydd) a LlGC 13061B (graean a llwydd). Felly mae’r dystiolaeth dros y darlleniad a dderbyniwyd yn gryf iawn, a rhaid gwrthod yn bendant y darlleniad Gorau unlliw graeanllwydd a fabwysiadwyd yn GGl. Yno dilynwyd Pen 77 a Llywelyn Siôn o ran darllen graeanllwydd (cf. Pen 96 graianllvdd), ond mae ymhell o fod yn eglur mai cyfansoddair clwm a fwriadwyd yn y llawysgrifau hyn. Ni wna graeanllwydd fawr o synnwyr, a hefyd golyga fynd yn groes i drwch y dystiolaeth a rhannu gwineurwydd ar ddiwedd y llinell nesaf, gw. isod.
14 ydiw Darlleniad trwch y llawysgrifau. Yn C 2.114 y ceir darlleniad GGl, sef yw y.
14 gwineurwydd Unwaith eto, dyna a gefnogir gan y llawysgrifau; dim ond Brog I.3 sy’n cefnogi GGl gwinau rhwydd (er bod Pen 96 yn rhoi’r darlleniad amlwg lwgr gwynav nai rvdd). Gw. y nodyn esboniadol.
15 na Ceir a yn BL 14866, Pen 77, Pen 96 a LlGC 16964A (ond fe’i cywirwyd i na yn C 2.114). Nid oes patrwm amlwg i’r llawysgrifau yma. Dewiswyd na yn y golygiad gan mai brawddeg negyddol yw hon.
19 gyrfab Darlleniad Pen 83, BL 14875, Pen 77, Brog I.2 a 3. Ceir gryfab yn LlGC 16964A, llygriad syml o gyrfab, bid sicr. Yn C 2.114 ceir gyrfa, ac unwaith eto mae’n hawdd esbonio’r ffurf honno o gymryd mai gyrfab oedd y darlleniad gwreiddiol. Gthg. GGl lle y derbyniwyd gwirfab, sef darlleniad BL 14866, Llywelyn Siôn, LlGC 20574A, LlGC 13061B a Pen 96. Sylwer bod tystiolaeth gynnar dros gyrfab yn y de a’r gogledd, ei bod yn haws esbonio’r amrywiadau eraill ar sail gyrfab nag ar sail gwirfab, ac yn olaf, mai gyrfab yw’r darlleniad anos yn ddiamheuaeth.
22 sias Mae’r llawysgrifau’n ymrannu fwy neu lai’n gyfartal o blaid sias a Sais. Brog I.2 a 3 a’r de (ac eithrio Pen 96) sy’n cefnogi sais. Mae C 2.114, Pen 77, BL 14866, LlGC 20574A a Pen 96 o blaid sias. Ni cheir y cwpled yn BL 14875. sias yw’r lectio difficilior ac mae’n cyd-fynd yn dda â’r ddelwedd o Harri fel gyrfab yn llinell 19. Hawdd dychmygu’r llygriad sias → sais yn digwydd fwy nag unwaith.
23 henyw Mae cryn ddryswch yn y llawysgrifau yma. LlGC 16964A yn unig sy’n cynnig y darlleniad hwn (heniw), ond ceir rhywfaint o ateg iddo yn Pen 96 a Brog I.3, y ddau gopi’n cynnig hen yw. Mae hen yw yn chwithig o ran ystyr, ond gallai’n hawdd fod wedi codi o henyw. Gellir dadlau mai henyw sydd y tu ôl i henw yn C 2.114. Gellid derbyn henwi (Pen 83, Brog I.2, Llywelyn Siôn, LlGC 13061B), ond byddai’r berfenw braidd yn ddigyswllt yma. Gellid hefyd dderbyn henwyf ‘boed i mi enwi’ (BL 14866), ond nid yw’r dystiolaeth yn gryf a gallai’r f fod wedi tyfu dan ddylanwad y gair ef sy’n dilyn. Yr amrywiadau eraill yw hyna (BL 14875), hwn yw (Pen 77) a henwa i (LlGC 20574A). Ni cheir digon o dystiolaeth i dderbyn yr un o’r rhain. Ar y cyfan, mae’n haws cyfrif am yr holl amrywiadau hyn o gymryd henyw yn fan cychwyn nag unrhyw bosibilrwydd arall.
23 ef, bo hŷn i wallt Ni cheir darlleniad GGl efô, hen fo’i wallt mewn unrhyw lawysgrif, ond credaf mai C 2.114 fo hyn foi walld oedd y sail iddo. Mae’r dystiolaeth dros y darlleniad a dderbyniwyd yma yn gryf, cf. Pen 83, BL 14875, Llywelyn Siôn, LlGC 13061B a Brog I.3; ymhellach, BL 14866, LlGC 16964A, Brog I.2, LlGC 20574A (hen a geir yn y rhain).
24 Harri, o lin hoyw Erallt Dilynir Pen 83, BL 14875, Pen 96, LlGC 16964A a LlGC 13061B, rhychwant o lawysgrifau sy’n gryf o blaid erallt. Ymhellach, ceir arallt yn C 2.114 a Llywelyn Siôn, orallt yn Pen 77 ac yr allt yn Brog I.3. Hawdd yw gweld pob un o’r darlleniadau hyn yn tarddu o erallt. Ni cheir reinallt, ar y llaw arall, ond yn BL 14971, LlGC 20574A, BL 14866 (Rinallt) a Brog I.2. Yn yr olaf ceir howel yn lle hoyw, gan greu howel Reinalld, enw bardd adnabyddus o sir Gaernarfon! Mae Reinallt yn groes i’r gynghanedd (atebir hrl ´ n yn Harri o lin gan hr ´ n yn hoyw Reinallt). Am y rheswm hwn yn unig, fe ymddengys, y rhoddwyd Harri o rin hoyw Reinallt yn GGl, heb unrhyw sail yn y llawysgrifau. (Ond o leiaf roedd hyn yn llai dychmygus na LlGC 20574A, sy’n cynnig harri winwaed o Reinallt, diau er mwyn datrys yr un broblem.) Methais ddarganfod unrhyw Reinallt yn ach Harri Gruffudd, ond roedd Harri’n sicr yn disgyn o Gerallt, gw. y nodyn esboniadol.
26 owls Darlleniad Pen 83, BL 14875, LlGC 16964A, LlGC 13061B, Llywelyn Siôn a Brog I.3. Yn Pen 77 ceir dowls, a gywirwyd yn gowls. Yn Pen 96, lle mae’r testun wedi ei dalfyrru’n arw, cynigir /g/ yn lle owls: ai talfyriad am gowls? Cynigion y copïau eraill yw awns neu owns (ond LlGC 20574A main, a ysbardunwyd gan cwrel, bid sicr). Nid yw’n syndod fod y gair wedi peri trafferth i gopïwyr diweddarach, oherwydd mai gowls yw’r ffurf arferol, a dyna a ddisgwylid o ystyried tarddiad y gair o’r Saesneg Canol goules (GPC 1571 d.g. gowls). Eto nid oes lle gennym i ddilyn arweiniad Thomas Wiliems yn Pen 77 (ac efallai Lewis Dwnn yn Pen 96) ac adfer g- ar ddechrau’r gair. Dengys yr amrywiadau y tu hwnt i amheuaeth nad oedd cytsain ar ddechrau’r gair yn y llinell hon, a rhaid cymryd bod owls yn digwydd fel amrywiad ar gowls, peth digon naturiol mewn gair estron a chanddo ystyr dechnegol. Yn GHS 12.42 ceir llen o owls, yn y llawysgrif llenn owls; mae’n rhaid cywasgu er mwyn hyd y llinell, a chan mai copi yn llaw’r bardd ei hun yw hwn, dichon na ddylid bod wedi ychwanegu’r arddodiad. Ond gan mai enw benywaidd yw llen, nid yw’r enghraifft hon yn torri’r ddadl. Ni cheir orls (darlleniad GGl) mewn unrhyw lawysgrif.
28 âi Ffefrir â neu a â (= ‘sy’n mynd’) gan C 2.114, Pen 77, LlGC 16964A, Llywelyn Siôn a Brog I.2 a 3; ond mae Pen 83, Pen 96 a LlGC 13061B yn y de, a BL 14866 a BL 14875 yn y gogledd o blaid y ffurf amherffaith, hynny yw, ymranna’r llawysgrifau’n weddol gyfartal. Gwedda’r ffurf amodol (amherffaith) yn well i naws ddamcaniaethol y gosodiad yma.
30 pert Ni cheir darlleniad GGl perl yn yr un o’r llawysgrifau.
32 thry’r Dilynir Pen 83, Llywelyn Siôn, BL 14866, Pen 96 a LlGC 20574A (thry yn yr olaf). Yn BL 14875, Brog I.2 a Brog I.3, LlGC 13061B, Pen 77 a LlGC 16964A ceir thyrr. Y tebyg yw i hyn lithro i mewn dan ddylanwad llinell 34. Mae C 2.114 yn cynnig neithyr yn lle ni thry’r.
33–4 Ni cheir y cwpled hwn yn C 2.114, BL 14866 a LlGC 20574A, ac fe’i hepgorwyd o’r testun yn GGl. Ond fe’i ceir yn y naw copi arall a ystyriwyd yma, ac felly dylid ei dderbyn. Ffurfia bont addas rhwng llinellau 31–2, lle sonnir am eirwiredd Harri, a’r cwpled nesaf sy’n canolbwyntio ar yr arswyd y mae’n ei ennyn mewn brwydr.
33 gwir Dduw Ceir dryswch yn y llawysgrifau yma. Dilynir Pen 77 a Brog I.3. Digwydd yr ymadrodd gwir Dduw fel ebychiad yn y cyfnod hwn, cf. GLlG 5.22 Och wir Dduw amdanaw; GMRh 21.25–6 Gwir Dduw, ni chymer gwawr ddydd / Gae o aur nac o irwydd; GRhGE 2.82 Gwir Dduw, fal unlliw gwawr ddydd. Gellid derbyn gŵyr Dduw, darlleniad BL 14875, Llywelyn Siôn a LlGC 13061B, ond mae’n anodd esbonio’r treiglad i’r goddrych. Fe dreiglir Duw yn yr ymadrodd ni ŵyr Dduw, cf. TC 210–11 a GMRh 23.21, ond ymddengys mai ymadrodd idiomatig yw hwnnw, ac ni cheir enghraifft ddiogel o dreiglo Duw mewn gosodiad cadarnhaol. Yn betrus, felly, gwrthodwyd hynny yma. Posibilrwydd arall yw gwrdd yw, darlleniad Brog I.2. Mae hynny’n taro ychydig yn chwithig gyda’r llinell nesaf, fodd bynnag. Mae’n anodd deall Pen 83 gwr ddyw a Pen 96 gwr i dduw, ac unigryw yw LlGC 16964A gwrdd Dduw.
34 Mae trwch y copïau o blaid y darlleniad a roddir. Llygriad a geir yn Pen 77 ni thyrr vyth athro yw fo a hefyd yn Brog I.2 awdvr fyth a dewr yw fo.
35 baidd Ceir sai (sef saif) yn C 2.114, llygriad sy’n awgrymu trosglwyddiad llafar.
35 yn Dyna ddarlleniad y llawysgrifau: diwygiad yw un yn GGl2 201.
37–8 Ni cheir y cwpled hwn yn C 2.114 nac yn Pen 77.
38 wychyr Ni cheir y darlleniad hwn yn yr un o’r llawysgrifau, ond gellir ei gyfiawnhau fel y man cychwyn mwyaf tebygol i roi bod i’r darlleniadau amrywiol a gadwyd. Ceir wych ar afael yn BL 14875 a BL 14866, hefyd yn LlGC 20574A a Pen 96 (gwych ar afael yn yr olaf). Gellid derbyn hynny, er nad yw’r ystyr yn rhy eglur, ond am y ffaith fod nifer o lawysgrifau yn rhoi sillaf o flaen wych: Pen 83 owych y ravael, LlGC 16964A owych rafael, Brog I.3 o wych arafael. Unigryw yw darlleniad Brog I.2 wychryw afael, ac ailgyfansoddi a welir yng nghopïau Llywelyn Siôn a LlGC 13061B na chawr avael (awgrym cryf fod perthynas rhwng y llawysgrifau olaf hyn). Gellir esbonio’r amrywiadau hyn a chymryd mai wychyr afael a safai yma’n wreiddiol. Ceid ansicrwydd ynglŷn â nifer y sillafau yn y gair gwychyr, cf. GPC 1749, a dichon fod sillaf wedi ei hychwanegu o’i flaen er mwyn ‘cywiro’ hyd y llinell. A chan fod y gair gwychyr yn weddol brin yn y bymthegfed ganrif, hawdd y gellid ei newid yn wych ar mewn llawysgrifau eraill. Awgryma’r ailgyfansoddi gan Lywelyn Siôn ac yn LlGC 13061B fod yma ar un adeg ddarlleniad anodd ei ddeall (nid, felly, y ddau air cyffredin gwych ac ar).
39 er dir a chymell Ceir er yn BL 14875, Brog I.2, LlGC 16964A a Pen 96. Mae’r llawysgrifau eraill o blaid ar, ond ni rydd hynny synnwyr da. Nid yw ychwaith yn hawdd deall o chymell (C 2.114, Llywelyn Siôn, LlGC 13061B). Ymddengys fod y copïau hyn yn dangos diffyg dealltwriaeth o’r ymadrodd dir a chymell, gw. y nodyn esboniadol. Yn Pen 96, ar y llaw arall, deallwyd yr ergyd, os nad yr ymadrodd ei hun: ceir yno er dur a chymell.
43 gwarau Ni restrir y ffurf hon yn GPC 1577 d.g. gwarae, gware nac yn ibid. 1589 d.g. gwarwy, gwary. Fodd bynnag, nodir enghreifftiau o’r ffurfiau chwareu a gwareu yn G 276–7 d.g. chwarae, o lawysgrifau gweddol ddiweddar (ond daw un enghraifft bendant o chwarav o lawysgrif Pen 67, a ysgrifennwyd c.1483). Nid yn unig mae’r odl yn mynnu derbyn y ffurf yma, ond hefyd y rhan fwyaf o lawer o’r llawysgrifau. Cf. GIBH 5.4n Fawr warau, i Fair wiwrym, lle y dadleuir mewn modd tebyg. Yn wyneb hyn ni raid derbyn minne gware, a geir yn C 2.114 a LlGC 16964A yn unig. Yn Brog I.3 mae meinab gwarab yn dystiolaeth eglur dros gynsail ysgrifenedig (camddeall -v -v).
45 hiroedl Ategir hyn gan fwyafrif y llawysgrifau; gthg. hiroed yn Pen 83 a LlGC 13061B, a hiroes yn Llywelyn Siôn a Pen 96.
49 gwallaw a gwin Disgwylid gwallaw gwin neu gwallaw y gwin: cystrawen arferol y ferf gwallaw yw bod y ddiod a weinyddir yn wrthrych uniongyrchol iddi. Ond mae tystiolaeth y llawysgrifau yn gryf yn erbyn y gwin: dim ond Pen 96 (cywiriad gan y copïydd ei hun) a LlGC 13061B sy’n cynnig hynny (gyda Llywelyn Siôn, sy’n rhoi gyrllaw y gwin). O blaid gwallaw a gwin ceir Pen 83, LlGC 16964A, Brog I.2 a 3, BL 14866 a LlGC 20574A. Gwahanol eto yw C 2.114, sy’n cynnig gywallaw gwin, BL 14875 garllawr gwin a Pen 77 e gwallaw gwin. Methais gael yr un enghraifft o’r gystrawen gwallaw â + gwrthrych, felly y tebyg yw mai a gwin /garbron yw’r gystrawen, yn dynodi’r amgylchiadau: ‘mae ef yn gwybod yn well sut i weini, a’r gwin o’i flaen’. Awgryma’r ystumiad yn C 2.114 fod sillaf wedi ei hepgor; byddai hynny’n haws ei esbonio ar sail y darlleniad anodd a ffefrir yma yn hytrach na chymryd bod y fannod wedi ei cholli o flaen gwin.
51 hirbell Felly’r llawysgrifau gogleddol, ond yn y de ceir hir a phell (Pen 83, Llywelyn Siôn, LlGC 13061B, Pen 96), fel hefyd yn Brog I.2. Ond ceir hirbell yn LlGC 16964A. Ac eithrio Pen 83, lle ceir llinell wythsill, mae’r llawysgrifau sy’n cynnig hir a phell yn colli sillaf yn ail hanner y llinell, gw. isod.
51 y catwo Felly pob llawysgrif lle ceir hirbell (ond C 2.114 ith gatwo, LlGC 20574A y cafodd), hefyd Pen 83. Yn Pen 96 ni cheir y. Yn llawysgrifau Llywelyn Siôn, LlGC 13061B a Brog I.2 ceir i bo neu i bych.
54 fab i Fawd Mae’r llawysgrifau a’r gystrawen o blaid hyn, gthg. GGl i fab Fawd, lle dilynwyd Llywelyn Siôn.
55 chadw, Grist Unwaith eto, mae’r llawysgrifau bron yn unfryd, ond darlleniad gwallus C 2.114 chadw o Grist a ddewiswyd yn GGl.
Y llinellau a wrthodwyd
Dyfynnir o LlGC 6511B:
Ar ôl llinell 24:
hawdd yw karv du i dal
harri iauank hoew Rial
Gwalchmai gryf gwelwch mae gras
gwr o awen gwyr Eas
lliw a wedda n llywyddwr
llyna gorff nyd llai na gwr
da i gwyr mae duw ny garv
arwydd dawn yny rudd dv
llew hyddawn llv ai haddef
a llaw dduw ai llwydda ef
Ar ôl llinell 39:
dxu nyda doniav devn
or lliw i heniw i hvn
Yn Pen 96 ceir yn ychwanegol at y rhain, ar ôl llinell 64:
kair ef ym pob kyfa ras
kown wr yw karw tir evas
Cerdd o fawl i Harri Ddu, sef Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd, Bacton, yn Euas yw hon. Mae’n agor drwy dynnu sylw at liw tywyll ei wallt, y sail i’w lysenw. Dyma’r lliw gorau ar gyfer gwallt dyn go iawn, ym marn y bardd (llinellau 1–4), ac mae’n rhestru pethau amheuthun eraill sy’n ddu: gwallt yr Iesu, llun Crist ar y Fernagl (gw. 8n), felfed, muchudd, sidan a phupur. I ba raddau mae’r naws yma’n gellweirus, anodd barnu, ond mae’r cyfeiriadau herodrol fel petaent yn creu effaith ffugarwrol. Cerddi lled anffurfiol a ganodd Guto’r Glyn i Harri ar y cyfan, cerddi sy’n darlunio’r berthynas rhwng bardd a noddwr fel ymddiddan rhwng cyfeillion yn hytrach na pherthynas arglwydd a gwasanaethwr. Yn 13–16 ailadroddir y neges am wallt du er mwyn cloi’r adran agoriadol hon: dynion du eu gwallt yn unig sy’n wirioneddol ddewr. Yna mae’r bardd yn symud ymlaen i ganmol Harri’n benodol. Fe’i cyferchir (17–18) ac yna mae’r ganmoliaeth yn parhau, gan fydryddu ach Harri (ap Gruffudd ap Harri ap Siôn) a chrybwyll taid ei fam (19–24). Delweddaeth filwrol sydd yn y llinellau hyn, ar y cyd ag un o hoff ddelweddau anifeilaidd y bardd (carw) a dymuniad am i wallt Harri fynd yn hen – hynny yw, am iddo gael oes hir. Dychwelir at thema’r lliw du yn 25–8: mae’n well na choch, a dylai pob lliw arall ymrithio’n ddu. Yn yr adran nesaf ysbardunir y ganmoliaeth gan dair agwedd bwysig ar gymeriad Harri: geirwiredd (29–34), cryfder (35–46) a pherchentyaeth (47–50). Dan yr ail bwnc ceir cyfeiriad diddorol at enwogrwydd y bardd ei hun am fwrw’r maen, a chymhariaeth wenieithus rhyngddo a champ Harri yn hyn o beth. Mae’r chwe llinell olaf yn dymuno hir oes i Harri (deirgwaith).
Dyddiad
Dyddiadau Harri Gruffudd yw’r unig ganllaw. Roedd Harri’n ŵr ifanc iawn yn 1425, pan oedd ei dad yn fyw o hyd. Bu farw rywbryd rhwng 1467 a 1477. Gan fod cymaint o bwyslais yma ar liw ei wallt ac ar ei gryfder corfforol, diau mai gŵr ifanc oedd ar y pryd. Perthyn y gerdd i’r 1430au neu’r 1440au, felly.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd LXXV.
Mesur a chynghanedd
Cywydd 56 llinell.
Cynghanedd: croes 43% (27 llinell), traws 34% (16 llinell), sain 18% (10 llinell), llusg 5% (3 llinell).
1 lle Nid yw’r ystyr lythrennol yn rhoi synnwyr boddhaol ac ni ellir derbyn yr ystyr ‘tra’ neu ‘pryd ar y llaw arall’ (GPC 2122 d.g. lle1 fel cys. (b)), a fyddai’n awgrymu gwrthgyferbyniad â’r llinell nesaf. ‘Gan, oherwydd’ yw’r ergyd yma: ‘mewn byd lle nad ystyrir ond du yn lliw da’.
3–4 Ai brawddeg annormal (‘Rhoddodd Duw y lliw gorau …’) neu frawddeg gymysg (‘[Dyma’r] lliw gorau a roddodd Duw …’)? Os y cyntaf, sonnir yn benodol am Harri Ddu; os yr ail, gosodiad cyffredinol ydyw mai du yw’r lliw gorau ar gyfer gwallt unrhyw ddyn o sylwedd.
4 gŵr o stad Gŵr o sylwedd, gŵr a chanddo eiddo (tir) a statws cymdeithasol uchel o’r herwydd.
5 dewin Defnyddir y gair hwn am ‘bardd’, gw. GPC 941 (b) a cf. GLGC 25.51–2 Minnau fûm, rhof a Mynwy, / ddewin hyd hyn uddunt hwy, ibid. 41.73–4 Aur i gennyd yw’r eginoedd / i’th ddewinoedd gyda thannau. Roedd hawlio gwybodaeth a doethineb yn rhan bwysig o ddelwedd y bardd Cymraeg.
5 diwan afael Disgrifiad o’r bardd, yn diffinio dewin, neu sangiad yn cyfeirio at Harri Ddu; os yr ail, rhodder coma o’i flaen.
6 Sef Duw yn y cnawd, Iesu. Fel yr awgrymir yn GGl2 350, byddai’r bardd yn gyfarwydd â delwau o Grist mewn eglwysi.
8 y Fernagl Lliain ac arno lun o wyneb Crist. Yn ôl y chwedl rhoddodd merch o’r enw Veronica liain i Grist tra oedd ar ei ffordd i gael ei groeshoelio. Sychodd ef ei wyneb ac arhosodd delw ohono ar y defnydd. Cedwid y lliain yn Rhufain a daeth yn destun pererindota. Dichon mai lliw y llun ei hun, nid y defnydd, sydd dan sylw yma. Yn sicr roedd y Fernagl ei hun yn wyn, fel y tystia’r bardd Robert Leiaf a’i gwelodd ei hun, gw. Jones 1912: 183–4 peris ar liain purwyn / vronig lwyd vernagl yn.
9 melfed Yn amlwg disgwylia Guto y bydd melfed yn ddu, er bod lliwiau eraill yn gyffredin, cf. 11n.
10 muchudd Math o olosg caled y gellir llunio tlysau a gwrthrychau eraill ohono, Saesneg ‘ebony’, gw. GPC 2499.
11 sidan Fel yn achos melfed (9n), mae Guto am resymau aneglur yn cymryd yn ganiatol fod sidan yn ddu.
12 sabl Term herodrol am ‘du’. Parhau y mae’r ddelwedd herodrol yn yr ymadrodd o’u blaen, fel petai’r sylweddau hyn yn dwyn arfbais ar darian neu faner.
13 graen Benthycair o’r Saesneg grain ‘condition’, yn Gymraeg yn aml am ‘gwedd lewyrchus’. Daw’r enghraifft gyntaf o waith Lewys Morgannwg, ryw ganrif ar ôl amser Guto, yn ôl GPC 1522 d.g. graen3, ond mae’n rhoi gwell ystyr yma na’r gair brodorol graen1 (GPC 1521–2) ‘aruthr, ofnadwy … tywyll, du’. Gallai’r gair hwnnw gyfeirio at liw tywyll gwallt Harri, ond mae angen enw yma, ac ystyron graen1 fel enw yw ‘ofn, braw; alaeth, galar, gofid’. Gw. hefyd 43n.
14 gwineurwydd GPC 1664 ‘yr ansawdd neu’r cyflwr o fod yn winau, brown neu felynddu’; yn Saesneg ‘brownness, swarthiness’; ac ibid. 1662 d.g. gwinau cynigir ‘browngoch … cochddu, melynfrown, coch tywyll’. Ni nodir enghraifft o’r enw haniaethol cyn 1722, ond hawdd y gellid ei fathu ar unrhyw adeg. Ymddengys yr ystyron braidd yn anodd eu cysoni â’r holl bwyslais ar wallt du yn y llinellau hyn. Y tebyg yw bod y bardd yn canmol gwallt tywyll yn gyffredinol (rhagor gwallt melyn) ac nad yw’n gwahaniaethu rhwng du a brown fel y cyfryw.
17 Ifor Ifor ap Llywelyn o Wernyclepa, Ifor Hael, noddwr Dafydd ap Gwilym. Daeth perthynas Ifor a Dafydd yn ddiarhebol ymhlith y beirdd. Yr ergyd yma yw bod llaw (gafael) Harri yr un mor hael ag eiddo’r noddwr enwog hwn.
18 Harri Ddu Chwarae estynedig ar lysenw Harri yw’r rhan fwyaf o sylwedd y gerdd hon.
19 gyrfab Nis nodir yn GPC 1797, ond mae’r ystyr yn eglur, a cf. gyrfeirch yn 99.53.
24 Gerallt Gerald Barry o Euas, taid Mawd ferch Gwilym Llwyd, sef mam Harri Gruffudd, gw. WG2 ‘Barry 3’ a WG1 ‘Drymbenog 12’.
26 owls Gw. y nodyn testunol. Gowls, Saesneg ‘gules’, term herodrol am y lliw coch. Cf. sabl yn llinell 12.
26 cwrel Maen gwerthfawr a wnaed o goral, fel arfer yn goch ei liw, yn enwedig yng ngweithiau’r beirdd Cymraeg, cf. GMBen 6.20n.
27 cyngyd call Sangiad sy’n rhoi sylw ar y cwpled cyfan: byddai’n ‘syniad doeth’ i bob lliw droi’n ddu.
31 daueiriog naturiol Beth yw’r gystrawen yma? Yr esboniad hawsaf yw deall daueiriog yn enwol a naturiol yn ansoddair yn ei oleddfu: ‘un daueiriog o ran ei natur’. Ond gall naturiol olygu ‘caredig’ hefyd (GPC 2554), felly gellid ‘nid yw’r dyn caredig yn dwyllodrus ei eiriau’.
32 try … ar ôl Methais gael enghraifft arall o’r ymadrodd hwn, ond mae’r ystyr yn eglur: nid yw Harri’n torri addewid. Ceir cwpled tebyg iawn i’r llinell hon yn awdl Gwilym Tew i Harri Ddu: Ni thry neb ein hathro ni, / Ni thyr ar a wnaeth Harri, Jones 1981: III.19–20. Ymddengys fod un o’r beirdd hyn yn adleisio’r llall.
33 y gair addawo Cywasgwyd y rhagenw perthynol a o flaen y ferf.
34 a dyr fyth Cystrawen anarferol: disgwylid geiryn negyddol o flaen y ferf. Fe geir enghreifftiau o byth neu fyth mewn cymalau cadarnhaol, gw. GPC 368, ond negyddol yw’r ystyr yma.
35 Nudd Nudd ap Senyllt, un o’r Tri Hael, gw. TYP3 5–6, 464–6 a WCD 509. Patrwm o haelioni oedd Nudd, ac am y rheswm hwn fe’i henwir yn aml gan y beirdd.
36 Henri Ffurfiau amrywiol ar yr un enw oedd Harri a Henri. Yma mae angen yr ail ffurf ar gyfer y gynghanedd. Nid oedd rhaid ateb h ar ôl t (CD 204) ac nid oedd yn broblem ateb r â rh ar ôl yr acen (ibid. 205).
39 dir a chymell Gw. GPC 1030 d.g. dir1, lle nodir ar gyfer y cyfuniad hwn ‘compulsion, constraint … coercion’. Cf. GLGC 137.9 Ni chaem er na dir na chymell – Camlan.
42 ar y maen mawr Bwrw’r maen, camp gorfforol. Ar ddiwedd ei eiriadur mae John Davies, Mallwyd, yn rhestru 24 o gampau y disgwylid i uchelwr eu meistroli. Nid enwir bwrw’r maen neu fwrw’r bar fel y cyfryw, ond y gamp gyntaf yw cryfder – ai dyna ydyw? Gw. IGE2 387.
43 gwiwraen Cf. 13n am graen a GPC 1521–2. Yma gellid graen1 ‘aruthr’, ond cynodiadau negyddol sydd i’r gair hwnnw fel arfer, felly gwell derbyn graen3 ‘llewyrch’.
46 i’m Yn ôl GPC 1991 d.g. i2 9(e), mae’r enghraifft gynharaf o’r gystrawen bod + i + berfenw, sy’n cyfleu rheidrwydd neu dynged, yn dyddio o 1617. Gwell, gan hynny, ddeall i fel amrywiad ar yn yma, cf. ibid. 1993–4 d.g. i5.
47 fy niwyd nêr Cyfeiria at Harri yn ôl pob tebyg, ond gallai hefyd fod yn gyfarchiad i Dduw, a grybwyllir yn llinell 53.
48 o gorfydd Gair ac iddo sawl ystyr yw gorfod. Yma gellid berf gyflawn ohono ‘bod yn rhaid’ neu ‘bod yn gyfrifoldeb’, er bod pob enghraifft a ddyfynnir yn GPC 1481 d.g. gorfyddaf 1(b) a (c) yn cynnwys berfenw fel goddrych, nid enw cyffredin fel sydd yma. Fe’i ceir hefyd yn ferf anghyflawn ac iddi’r ystyr ‘peri, gwneud, gweithredu’, ibid. 1482 (3), ond gorwyf a goryw yw’r unig ffurfiau a nodir dan yr ystyr honno. Mae hefyd ystyr gyfreithiol ‘gwarantu, sicrhau, bod yn gyfrifol am’, ibid. (6).
48 moes ac arfer Ymadrodd idiomatig, gw. GPC 2476 d.g moes; DE LXIV.5 wrth orfod kydfod kadw moes ag arfer.
51–2 Deellir fraich yn wrthrych catwo. Posibilrwydd arall fyddai darllen y’i catwo ‘Boed i Harri ei gadw [sc. y sefyllfa a ddisgrifiwyd] felly’, a deall fraich y Dref Hir fel cyfosodiad yn disgrifio Harri. Yr orgraff arferol ar gyfer y’i oedd y gynt, felly mae hwn yn ddehongliad posibl o’r ffurf yn y llawysgrifau.
52 braich Mewn ystyr drosiadol ‘cynhaliaeth, nerth’, GPC 307 1(a).
52 y Dref Hir Longtown, gynt Ewias Lacy, tref a chanolfan arglwyddiaeth Euas, sydd bellach yn swydd Henffordd.
52 fry Gair a ddefnyddir gan y Cywyddwyr heb ryw lawer o ystyr yn aml, yn debyg i draw.
53 rhwyddael Sef rhwydd + hael; llai tebygol rhwydd + ael ‘parod, ffafriol ei ael’.
54 Mawd Mam Harri Gruffudd, Mawd ferch Gwilym Llwyd, gw. 24n.
Llyfryddiaeth
Jones, A.E. (1981), ‘Gwilym Tew: Astudiaeth Destunol a Chymharol o’i Lawysgrif Peniarth 51, ynghyd ag Ymdriniaeth â’i Farddoniaeth’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Jones, G.H. (1912), Celtic Britain and the Pilgrim Movement (London) (= Y Cymmrodor, 21)
This poem of praise for Harri Ddu, or Henry Griffith, of Newcourt, Bacton, in Ewyas opens with a light-hearted skit on the colour of his hair – the reason for his nickname, ‘Black Harry’. Black is the best colour for a man’s hair, in the poet’s view (lines 1–4), and he lists other fine things which are also black: the hair of Jesus, the image of Christ on the Vernicle (see 8n), velvet, ebony, silk and pepper. It is not easy to judge the seriousness of the tone here, but the heraldic references are suspiciously mock-heroic. Guto’s poems for Henry are fairly informal productions which portray the relationship between patron and poet as one between friends rather than master and servant. This opening section concludes in 13–16 with more generalization about the merits of dark hair: only dark-haired men are really brave. Next the poet moves on to praise Henry in particular. First there is a greeting (17–18) and then the praise continues with a versification of Henry’s lineage (son of Gruffudd son of Henry son of Siôn), including a reference to his mother’s grandfather, Gerald (Barry). These lines contain military imagery, together with one of Guto’s favourite animal comparisons, the stag (carw), and the hope that Henry’s hair will grow older – an oblique and perhaps facetious wish for long life for his patron. 25–8 return to the by now well-worn theme of black: it’s better than red, and if every colour knew its business, it would promptly turn into black. The next section praises Henry for three qualities: holding to his word (29–34), strength (35–46) and hospitality (47–50). While discussing the second quality Guto, interestingly, refers to his own reputation for prowess in casting the stone, offering a flattering comparison between himself and the rising star, Henry. The final six lines of the poem contain three variants on a wish for long life for Henry.
Date
The only guidance is Henry Griffith’s own dates. He was a very young man in 1425, when his father was still alive. He died sometime between 1467 and 1477. Since there is so much emphasis here on the colour of his hair and his physical strength, he was presumably a young man still. The poem therefore belongs to the 1430s or 1440s.
The manuscripts
MCF lists 32 copies. Of these, the text appears not to be in Pen 160, and only the first couplet is in Pen 221.
The order of the lines is very similar in every copy. A few couplets have been lost in some, and a few transposed. But aside from these small exceptions, there is one basic line order common to all the copies, an order which can be seen without exceptions in Pen 83, LlGC 16964A and Brog I.3. It is highly likely to be original.
Llywelyn Siôn’s copies contain 12 extra lines. They are also found in Pen 96, together with yet another anomalous couplet. LlGC 13061B has very similar readings to Llywelyn Siôn’s – and the copyist, Thomas ab Ieuan, is known to have had access to Llywelyn Siôn’s manuscripts – but does not have the extra lines. It may well be that he got hold of Llywelyn Siôn’s exemplar. That suggests that Llywelyn Siôn was responsible for adding these lines, either from his own imagination or from some unknown source. They must be emphatically rejected.
There are only minor variants in the readings, and accordingly it is not possible to draw up a satisfactory stemma. Some groups can be distinguished, especially, the Card 2.114 group and the BL Add 14866 group, but the relationships between the members of these groups are unclear, as are the relationships between the groups themselves. There are also some unaffiliated texts, including early ones such as Pen 77 and BL Add 14875. 12 manuscripts were considered in establishing the edited text. The most important are Pen 83 and Card 2.114.
Previous edition
GGl poem LXXV.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 56 lines.
Cynghanedd: croes 43% (27 lines), traws 34% (16 lines), sain 18% (10 lines), llusg 5% (3 lines).
1 lle The literal meaning ‘where’ gives no sense here and the meanings ‘while, whereas’ (GPC 2122 s.v. lle1 as conjunction (b)) would imply a contrast with the next line. The force seems rather to be ‘since, because’: ‘in a world where no colour except black is considered good’.
3–4 Is this abnormal order (‘God has placed the best colour …’) or mixed order (‘[This is] the best colour which God has placed …’)? In the first case, the reference is specifically to Henry Griffith (Harri Ddu); if the latter, it is a general statement that black hair best suits the man of substance.
4 gŵr o stad A man of substance, a landowner enjoing a prominent social status.
5 dewin Usually ‘magician’, ‘diviner’ or ‘sage’, it is also used simply for ‘poet’, see GPC 941 (b) and cf. GLGC 25.51–2 Minnau fûm, rhof a Mynwy, / ddewin hyd hyn uddunt hwy (‘I have been, I swear by the Monnow, / their poet down to today’), ibid. 41.73–4 Aur i gennyd yw’r eginoedd / i’th ddewinoedd gyda thannau (‘God from you is like fresh shoots / for your poets with the strings’). Presumably it emphasizes the importance of especial knowledge in the medieval Welsh concept of the poet.
5 diwan afael A description of the poet, qualifying dewin, or a sangiad referring to Henry Griffith; if the latter, there needs to be a comma in front of it.
6 I.e. God in his human incarnation, Jesus. As is suggested in GGl2 350, the poet would have been familiar with images of Christ in churches.
8 y Fernagl The Vernicle, a famous cloth upon which was an image of Christ. According to the legend a woman called Veronica offered it to Christ to wipe his face while he was on his way to be crucified. Upon his doing so the imprint of his face remained upon the cloth. The Vernicle was kept in Rome and became an object of pilgrimage. The reference here is surely to the colour of the image, not the cloth itself, which was white, as stated by the poet Robert Leiaf who saw it with his own eyes, see Jones 1912: 183–4 peris ar liain purwyn / vronig lwyd vernagl yn (‘Blessed Veronica made for us / The vernicle on a pure white cloth’).
9 melfed Clearly Guto expects velvet to be black, though other colours were found, cf. 11n.
10 muchudd Ebony, a kind of hard charcoal from which jewellery and ornaments can be made, see GPC 2499.
11 sidan As in the case of velvet (9n), Guto for some reason assumes that silk fabrics will be black.
12 sabl Heraldic term for ‘black’. The heraldic imagery continues with o’u blaen ‘before them’, as if these substances bore coats of arms upon their shields or banners.
13 graen A borrowing from the English grain ‘condition’, in Welsh frequently used of a ‘look or aspect that reflects prosperity’. The first example occurs in the works of Lewys Morgannwg, about a century after Guto, according to GPC 1522 s.v. graen3, but it gives better sense here than the native word graen1 (GPC 1521–2) ‘dire, terrible, awe-inspiring … dark, gloomy’. That might refer to Henry Griffith’s dark hair, but a noun is required here, and as a noun graen1 seems only to have the meanings ‘fear, amazement, terror; lamentation, grief’. See also 43n.
14 gwineurwydd GPC 1664 ‘brownness, swarthiness’; and ibid. 1662 s.v. gwinau ‘bay, reddish brown, auburn’, but also ‘swarthy, dark’. No example of the abstract noun is noted before 1722, but it could easily be coined at any time. The meanings seem rather inconsistent with all the emphasis on black hair so far. Probably the poet has in mind dark hair in general, in contrast to blond, and is not distinguishing brown from black.
17 Ifor Ifor ap Llywelyn of Gwernyclepa, Ifor Hael (‘the generous’), the patron of Dafydd ap Gwilym. The relationship between Ifor and Dafydd became the archetypal poet-patron relationship in medieval Welsh literature. Here the force is that Henry’s hand (gafael) is as generous as that of this famous patron.
18 Harri Ddu Most of this poem consists of an extended play on Henry Griffith’s nickname, ‘Black Harry’.
19 gyrfab Not noted in GPC 1797, but the meaning is clear, cf. gyrfeirch in 99.53. It is a compound of the verb gyrru ‘to drive’ and mab ‘boy, lad, son, man’.
24 Gerallt Gerald Barry of Ewyas, grandfather of Maud, daughter of Gwilym Llwyd, who was Henry Griffith’s mother, see WG2 ‘Barry 3’ and WG1 ‘Drymbenog 12’.
26 owls Apparently a variant on gowls, English ‘gules’, a heraldic term for the colour red. Cf. sabl in line 12.
26 cwrel A precious stone made from coral. It was usually red in colour, and that is its usual significance for the Welsh poets, cf. GMBen 6.20n.
27 cyngyd call A sangiad which offers a commentary on the whole couplet: it would be a ‘wise idea’ for every colour to turn into black.
31 daueiriog naturiol What is the syntax here? The easiest explanation is to take daueiriog as nominal and naturiol as an adjective qualifying it: ‘one whose words are treacherous by nature’. But naturiol can also mean ‘kindly’ (GPC 2554), so we could also accept ‘the kindly man does not use treacherous words’.
32 try … ar ôl I have not been able to find another example of this expression, but the meaning is straightforward: Henry does not twist any one of his words back upon itself, i.e. he does not break a promise. There is a remarkably similar couplet in Gwilym Tew’s poem for Henry Griffith: Ni thry neb ein hathro ni, / Ni thyr ar a wnaeth Harri (‘No-one turns our wise man from his course, / Harry never breaks a promise he has made’), Jones 1981: III.19–20. It looks very much as though one of these poets is echoing the other.
33 y gair addawo The relative pronoun a has been elided before the verb.
34 a dyr fyth Unusual syntax: we would expect the negative particle ni in front of the verb. There are examples of byth or fyth in positive clauses, see GPC 368, but the meaning is clearly negative here.
35 Nudd Nudd ap Senyllt, one of the ‘Three Generous Men’ recorded in the Triads, see TYP3 5–6, 464–6 and WCD 509. Nudd was an exemplar of generosity, which is why he is named so frequently by the poets.
36 Henri Harry and Henry were interchangeable in both Welsh and English. Here the cynghanedd demands the second form. There was no need to answer h after t (CD 204) and there was no objection to answering r with rh after the accent (ibid. 205).
39 dir a chymell See GPC 1030 s.v. dir1, which gives ‘compulsion, constraint … coercion’ for this set expression. Cf. GLGC 137.9 Ni chaem er na dir na chymell – Camlan (‘We would not get for all the force and coercion of Camlan’).
42 ar y maen mawr Casting the stone, a physical feat. At the end of his dictionary John Davies, Mallwyd, lists the 24 feats which a gentleman was expected to master. Casting the stone (or the bar) is not apparently mentioned, but the first feat is cryfder ‘strength’ – is that it? See IGE2 387.
43 gwiwraen Cf. 13n for graen and GPC 1521–2. Here it could be graen1 ‘awesome’, but that word normally has negative connotations, so it is better to accept graen3 ‘lustre … finish’.
46 i’m According to GPC 1991 s.v. i2 9(e), the earliest example of the construction bod + i + verbal noun, conveying necessity or prediction (‘X is to do Y, X is destined to do Y’), dates from 1617. It is preferable, therefore, to take i as a variant of the predicate particle yn here, cf. ibid. 1993–4 s.v. i5.
47 fy niwyd nêr Refers to Henry in all likelihood, but it could also be an address to God, who is mentioned in line 53.
48 o gorfydd Gorfod has many meanings. Here it could be an intransitive verb ‘to be necessary’ or ‘to be a responsibility’, although every example quoted in GPC 1481 s.v. gorfyddaf 1(b) and (c) has a verbal noun as subject, not a common noun as here. It is also found as a transitive verb meaning ‘cause, make, do’, ibid. 1482 (3), but only the perfect forms gorwyf and goryw are recorded under that heading. There is also a legal meaning ‘to guarantee, be responsible for, answer for’, ibid. (6).
48 moes ac arfer An idiom meaning ‘custom and usage’ and ‘etiquette’, see GPC 2476 s.v. moes; there is an example in DE LXIV.5 wrth orfod kydfod kadw moes ag arfer.
51–2 Here fraich is taken as the object of catwo. It would also be possible to read y’i catwo ‘Let Harry keep it [sc. the situation described] thus’, and to understand fraich y Dref Hir in apposition to Harri. The preverbal particle y in combination with an infixed object pronoun is nowadays written y’i, but in earlier orthography it is regularly represented as y, making it impossible to show orthographically whether or not the pronoun is present. So y = y’i would be a legitimate interpretation of the manuscript orthography here.
52 braich Literally ‘arm’, here figuratively ‘help, support, grounds for confidence, strength’, GPC 307 1(a).
52 y Dref Hir Longtown, formerly known as Ewyas Lacy, township and centre of the lordship of Ewyas Lacy, and now in Herefordshire.
52 fry Literally ‘up, up there’, it is often used by the late medieval poets as little more than a line-filler. The word draw ‘there, over there’ is similarly used.
53 rhwyddael A compound of rhwydd + hael, two near-synonyms meaning ‘generous’; less likely is rhwydd + ael ‘with favourable brow’.
54 Mawd Henry Griffith’s mother, Maud, daughter of Gwilym Llwyd, see 24n.
Bibliography
Jones, A.E. (1981), ‘Gwilym Tew: Astudiaeth Destunol a Chymharol o’i Lawysgrif Peniarth 51, ynghyd ag Ymdriniaeth â’i Farddoniaeth’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Jones, G.H. (1912), Celtic Britain and the Pilgrim Movement (London) (= Y Cymmrodor, 21)
Harri Gruffudd yw gwrthrych pum cywydd gan Guto’r Glyn (cerddi 32–6) ac awdl o waith Gwilym Tew (Jones 1981: cerdd III; ymhellach ar y canu iddo, gw. isod). Ceir astudiaeth fanwl o’i yrfa yn Chapman 2013.
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Drymbenog’ 12 a WG2 ‘Drymbenog’ 12B1. Dangosir y rheini a enwir yng ngherddi Guto i Harri mewn print trwm.
Achres Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd
Yn ôl achresi Bartrum cafodd Harri Gruffudd dri o blant gyda’i ail wraig, Mawd ferch Phylib Gwnter. Roedd yn dad i dair merch arall hefyd ond ni nodir pwy oedd eu mam (gall fod Harri wedi cenhedlu rhai ohonynt gyda’i wraig gyntaf, Alison ferch Eustace Whitney). At hynny, cafodd berthynas â merch ddienw i ŵr o’r enw Siencyn Goch o Aberhonddu, a chawsant fab o’r enw Lawrence. Mawd oedd enw mam Harri Gruffudd (cf. 33.54). Yn achresi Bartrum nodir bod Gruffudd, tad Harri, wedi priodi dwy ferch o’r enw Mawd yn olynol, sef merch i Wilym Llwyd ap Gerallt Barri ac yna merch Gwilym Gwnter. Boed hyn yn debygol neu beidio, mae’n sicr mai Mawd ferch Gwilym Llwyd ap Gerallt Barri oedd mam Harri Gruffudd, gan fod Guto’n crybwyll Gwilym Llwyd a Gerallt fel enwau cyndeidiau Harri (32.13–14; 33.24n).
Ei fro
Trigai Harri yn y Cwrtnewydd ym mhlwyf Bacton, ar lan afon Aur (Dore) yn swydd Henffordd, lleoedd y mae Guto’r Glyn yn cyfeirio droeon atynt. Yn amser Harri yr oedd Dyffryn Aur eisoes yn rhan o swydd Henffordd ei hun, ond cofiai’r beirdd Cymraeg fod y lle yn arfer bod yn rhan o’r cwmwd Cymreig Euas. Gorweddai’r rhan fwyaf o Euas i’r gorllewin o Ddyffryn Aur, gan ffurfio arglwyddiaeth o’r Mers a elwid ar ôl ei harglwyddi Normanaidd cyntaf yn Ewyas Lacy. Ymddengys fod gan Harri gartref o fewn yr arglwyddiaeth hon hefyd, sef yn y Dref Hir (sef Longtown; gelwir y lle hefyd yn Ewyas Lacy). Yn sicr mae Guto’r Glyn yn honni ei fod wedi ymweld â Harri yn y Cwrtnewydd ac yn y Dref Hir (36.35–6).
Ei yrfa
Roedd tad Harri Gruffudd, sef Gruffudd ap Harri, ymhlith cefnogwyr Owain Glyndŵr, os am ysbaid fer yn unig (Chapman 2013: 106). Roedd Gruffudd ap Harri yn fyw o hyd yn 1439 pan esgymunwyd ef (ibid. 107). Ysgwïer oedd Harri Gruffudd, sef y radd nesaf islaw marchog (35.7). Roedd yn ŵr o gryn bwys yn ei ardal. Deilliai’r pwysigrwydd hwn i raddau helaeth o’i wasanaeth teyrngar i Richard, dug Iorc, ac o’i gysylltiadau ag uchelwyr lleol eraill. Yn benodol, daeth Harri’n aelod o’r rhwydwaith mawr a ymgasglodd o amgylch teuluoedd Herbert a Devereux, neu’r ‘Devereux-Herbert gang’ yng ngeiriau plaen Ailsa Herbert (1981: 107). Enwir Harri a’i feibion yn aml mewn cysylltiad â’r gwŷr hyn mewn ffynonellau cyfoes.
Rhestrir isod rai dyddiadau sy’n caniatáu i ni olrhain gyrfa Harri Gruffudd:
1425 Tyst gyda’i dad i grant o faenor Llancillo yn Ewyas Lacy (Chapman 2013: 106) 1431 Aelod o arsiwn Carentan, Ffrainc (Chapman 2013: 108) 1433 Cyhuddwyd ef o ymosod ar diroedd eglwysi yn swydd Henffordd (Chapman 2013: 109) 1441–4 Gwasanaethodd o dan Richard, dug Iorc, yn Ffrainc (Chapman 2013: 112). Ef oedd capten y cwmni ordnans (hynny yw, y gynnau) 1443–4 Gwnaed ef yn brif fforestydd yn arglwyddiaeth Buellt ar gyfer Richard, dug Iorc, a derbyniodd swyddi ganddo yn Lloegr hefyd (Chapman 2013: 121; Johnson 1988: 233) 1449 Stiward Machen dros Humphrey, dug Buckingham (Chapman 2013: 121) 1449 Aeth, o bosibl, i Iwerddon gyda Richard, dug Iorc (Chapman 2013: 123) 1450, 1451 Siryf Casnewydd a Gwynllŵg dros Humphrey, dug Buckingham (Chapman 2013: 121) 1450 (Mawrth) Comisiynydd yn dyfarnu ar etifeddiaeth tiroedd Anne Beauchamp yn swydd Henffordd; buasai hi farw yn 1449. Ffermiodd Harri Gruffudd a’r comisiynwyr eraill arglwyddiaeth Ewyas Lacy wedyn (Chapman 2013: 121–2) 1451 Stiward Brynbuga a Chaerllion dros Richard, dug Iorc, a stiward Brycheiniog, Y Gelli a Huntington dros ddug Buckingham (Herbert 1981: 122n91; Chapman 2013: 122–3) 1452 (Awst) Fe’i cosbwyd am gefnogi Richard, dug Iorc, yn erbyn y llys brenhinol ac am dorcyfraith yn swydd Henffordd (Chapman 2013: 127–8; Johnson 1988: 118) 1456 (Mawrth) Cymerodd ei feibion Siôn a Mil ap Harri ran yn meddiannu Henffordd dan arweiniad Wiliam Herbert a Walter Devereux (Chapman 2013: 130–1; GHS 191–3) 1457 (Mehefin) Cafodd faddeuant gyda’i fab Mil, Wiliam Herbert, Walter Devereux ac eraill am ei ran yn helyntion 1456 1460 (22 Mawrth) Fe’i hapwyntiwyd yn stiward Ewyas Lacy am oes yn sgil gwrthryfel Richard, dug Iorc, a Richard Neville, iarll Warwick (Chapman 2013: 132) 1461 (2/3 Chwefror) Ymladdodd ar ochr Edward, iarll y Mers ym mrwydr Mortimer’s Cross (tystiolaeth William Worcester, gw. Chapman 2013: 132) 1461 (28 Mawrth) Comisiynydd yn archwilio tiroedd gwrthryfelwyr yn sir Gaerfyrddin (Chapman 2013: 132–3) 1464–5 Diogelwyd ef rhag effeithiau diddymu grantiau’r brenin (Saesneg resumption) (Chapman 2013: 133) 1467 (14 Awst) Fe’i hapwyntiwyd yn aelod o gomisiwn oyer et terminer yng ngogledd Cymru (Thomas 1994: 34) 1478 Gwnaed rhestr o ddyledion Harri i abaty Dore, gan nodi ei farwolaeth (Williams 1976: 41; Chapman 2013: 133).Ei nawdd i’r beirdd
Ni wyddom sut na phryd y cyfarfu Guto’r Glyn â Harri Gruffudd gyntaf. Cofnodwyd cerdd 32 yn Pen 57, y rhoddir iddi’r dyddiad c.1440. Mae’r geiriau Herod wyf i Harri deg / A phrifardd (32.15–16) yn awgrymu bod Guto eisoes wedi derbyn nawdd Harri yn y gorffennol, diau yn y 1430au. Ond mae hefyd yn galw Harri’n iôn Bactwn (llinell 8), sy’n awgrymu bod tad Harri wedi marw, ac roedd hwnnw’n fyw o hyd yn 1439 (Chapman 2013: 107). Ni ellir dyddio cerdd 32 cyn 1439, felly, a rhaid ei rhoi yn 1440 neu o leiaf yn gynnar iawn yn y 1440au er mwyn cyd-fynd â dyddiad Pen 57. Flynyddoedd yn ddiweddarach, cofiai Guto mai Harri Gruffudd a’i cyflwynodd i ddug Iorc (36.23–4):Dug fi at y dug of Iorc
Dan amod cael deunawmorc.Cyfeiria hyn at 1436 yn ôl pob tebyg, ond mae 1441, pan aeth Guto a Harri ill dau i Ffrainc, yn bosibilrwydd arall.
Yr unig fardd arall y gwyddys iddo berfformio dros Harri Gruffudd yw Gwilym Tew o Forgannwg. Daeth ag awdl ofyn am farch dros Harri Stradling o Sain Dunawd (Jones 1981: cerdd III). Priododd merch Stradling â mab Harri, Mil. Eto, cyfeiria Guto at wŷr Morgannwg (35.32) yn ymweld â Harri, felly gallwn gymryd bod beirdd eraill wedi teithio i Euas.
Etifeddwyd y Cwrtnewydd gan Mil ap Harri. Ni oroesodd unrhyw gerddi iddo ef. Derbyniodd ei fab yntau, Harri Mil, gywydd hy gan Hywel Dafi, a gofnodwyd mewn llawysgrif c.1483 (Peniarth 67, 67). Ynddo mae’r bardd yn ei gynghori’n daer i beidio â phriodi Saesnes:Pas les o daw Saesnes hir
I baradwys ein brodir?…
Cymer ferch Cymro farchawgDyma dystiolaeth ddiddorol am hunaniaethau diwylliannol yn Nyffryn Aur yn niwedd y bymthegfed ganrif. Nid yw ateb Harri Mil i’r cyngor hwn yn hysbys, ond fe briododd â Saesnes, a ffrwyth y briodas honno oedd Blaens (Blanche) Parri, llawforwyn enwog y frenhines Elizabeth I (Richardson 2007). Hendaid Blaens, felly, oedd Harri Gruffudd.
Llyfryddiaeth
Chapman, A. (2013), ‘ “He took me to the duke of York”: Henry Griffith, a “Man of War” ’, 103–34
Herbert, A. (1981), ‘Herefordshire, 1413–61: Some Aspects of Society and Public Order’, R. Griffiths (ed.), Patronage, the Crown and the Provinces in Later Medieval England (Gloucester), 103–22
Johnson, P.A. (1988), Duke Richard of York 1411–1460 (Oxford)
Jones, A.E. (1981), ‘Gwilym Tew: Astudiaeth Destunol a Chymharol o’i Lawysgrif Peniarth 51, ynghyd ag Ymdriniaeth â’i Farddoniaeth’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Richardson, R. (2007), Mistress Blanche, Queen Elizabeth’s Confidante (Woonton)
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)
Williams, D.H. (1976), White Monks in Gwent and the Border (Pontypool)