Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn 9 llawysgrif. O’r rhain, y cwpled cyntaf yn unig a geir yn Pen 221, ac yn Pen 112 ni cheir ond croesgyfeiriad at gopi o’r gerdd mewn llawysgrif arall. O’r saith sy’n weddill, didolwyd tri chopi nad ydynt yn annibynnol, gan adael pedwar copi a ystyriwyd wrth lunio’r testun. Nid yw nifer na threfn y llinellau’n amrywio, a hynod debyg yw darlleniadau pob copi. Fel yn achos cerddi eraill, ceir perthynas agos rhwng LlGC 3049D, LlGC 8497B a Gwyn 4 (cf. 4n lle maent oll yn rhannu’r camddarlleniad oedd yn lle nedd). Saif LlGC 6681B ychydig ar wahân i’r tair hyn. Seiliwyd y testun, felly, ar dystiolaeth y tair sy’n ffurfio grŵp ar y naill law, a LlGC 6681B ar y llaw arall.
Trawsysgrifiadau: LlGC 3049D, LlGC 8497B, Gwyn 4, LlGC 6681B.
4 Lyn-nedd Darlleniad LlGC 6681B. Ceir lyn oedd yn LlGC 3049D. Awgryma’r orgraff yn LlGC 8497B lyyn oedd fod y copïydd yn ceisio cysylltu Gwladus â Llŷn, ac yn Gwyn 4 mae’r briflythyren yn Lyn oedd hefyd yn awgrymu bod y copïydd yn ei ystyried yn enw lle. O gofio cynefin Gwladus, mae’n amlwg mai LlGC 6681B sydd wedi cadw’r darlleniad cywir. Yn GGl ceir o lun oedd, ymgais i gael synnwyr o’r darlleniad yn LlGC 3049D a Gwyn 4 (ni wyddai’r golygydd am y copi yn LlGC 6681B).
9–10 oedd … / … oedd Darlleniad LlGC 6681B. Yr amser presennol a geir yn y tair llawysgrif arall. Ymddengys oedd … oedd fel y lectio difficilior, a gellir ei esbonio drwy ddeall bod y bardd yn sôn am achlysur penodol pan enynnodd canu Gwladus edmygedd.
10 haid Felly LlGC 3049D a’i chymheiriaid. Gthg. LlGC 6681B had.
11 forwyn Felly LlGC 3049D a’i chymheiriaid. Gthg. LlGC 6681B ferwyn. Yn GPC 275 d.g. berwyn1 ni nodir enghraifft o’r gair hwn tan 1778 (golyga ‘angerdd’).
12 i Felly LlGC 3049D a’i chymheiriaid; gthg. LlGC 6681B ir.
13 mae yn Nid oes tystiolaeth yn y llawysgrifau dros ddarlleniad GGl y mae’n.
14 ddeugaint Darlleniad LlGC 6681B; yn y lleill ceir ddeugant. Ni ellir bod yn sicr o’r darlleniad gwreiddiol yma, ond deucan(t), nid deugant, yw ffurf arferol Guto (cf. 4.4, 66.3 a 83.6), felly derbyniwyd ddeugaint.
16 gair o’i Felly LlGC 3049D a’i chymheiriaid. Gthg. LlGC 6681B kwr yw. Nid yw cwr yn cynganeddu’n gywir ag ac aur oherwydd mai g yw sain c yn ac, gw. CD 214.
22 heinyf Darlleniad LlGC 6681B (ysgrifennwyd heinif yno’n wreiddiol, ac yna fe’i cywirwyd er mwyn yr odl). Gthg. anyf yn y llawysgrifau eraill, a dderbyniwyd yn GGl 203. O ran yr ystyr ni thycia anyf (sef an- + hy(f)) yma. Am enghraifft o’r ffurf heinyf o gyfnod Guto’r Glyn, cf. GLl 11.31–2 Un henw â’r Owain heinyf / Ab y trydydd Gruffudd gryf.
25 pa na LlGC 3049D; yn Gwyn 4 a LlGC 6681B ceir pan na ac yn LlGC 8497B pam na, fel yn GGl 203 (ond diwygiad ydyw yno, gan na wyddai’r golygydd am LlGC 8497B). O ran yr ystyr gellid derbyn pa na neu pam na, ond nid pan na. Diwygiad gan Thomas Wiliems yw pam na yn LlGC 8497B yn ôl pob tebyg, gan nas ceir yn y ddau gopi cysylltiedig. Hawdd gweld sut y gallai pa na roi bod i pan na, felly pa na a dderbyniwyd yma.
29 ail Luned Ysgrifennir hyn fel ailvned yn LlGC 6681B, a allai gynrychioli’r enw Eiluned. Ceir y ffurf Eluned ar yr enw hwn yn DG.net 140.9.
31 ganu LlGC 6681B; gthg. brydv yn y llawysgrifau eraill. Anodd dewis rhyngddynt, ond cf. 34 na chanwn. Mae 31–2 a 33–4 yn cyd-daro â’i gilydd, y cwpled cyntaf yn cydnabod bod Harri a Gwladus yn destun teilwng i’r bardd, a 33–4 yn disgrifio’i gyndynrwydd i ganu iddynt yn y gorffennol. Cryfheir y gwrthgyferbyniad rhwng y ddau gwpled os derbynnir ganu yn 31, a adleisir wedyn yn 34.
37 y pendefig Felly LlGC 3049D a’i chymheiriaid; gthg. LlGC 6681B i ben defic, nad yw’n gwneud synnwyr.
38 ddichon Felly LlGC 3049D a’i chymheiriaid; gthg. LlGC 6681B ddichin. Ceir ambell enghraifft o dichyn fel amrywiad ar y gair hwn yn GPC 959 d.g. dichonaf, ond dichon a geir gan Guto yn 25.51 a 78.5, felly darlleniad y copïau eraill a fabwysiadwyd yma.
42 fod eb Dilynir LlGC 8497B a Gwyn 4 o ran darllen eb. Cyffredin iawn yw colli’r h yn y gair hwn yn y bymthegfed ganrif, gw. G 769. Os darllenir heb, dylai’r h galedu’r d sy’n ei rhagflaenu, ond myn y gynghanedd fod d yn ateb feudwy, gw. CD 206. Cf. 36.16n.
45 pw’r Felly’r llawysgrifau. Diwygiad yw pwy yn GGl. Rhaid dilyn y llawysgrifau, er na nodir enghraifft o pw’r yn GPC 2947 d.g. pwy1 tan yr unfed ganrif ar bymtheg.
45 fu Felly LlGC 3049D a’i chymheiriad; gthg. LlGC 6681B ywr. Nid oes modd derbyn y fannod yma heblaw bod Ieuan lwydwyn yn 46 yn gyfarchol yn hytrach nag yn enidol.
49 wen Nis ceir yn LlGC 6681B lle mae’r llinell yn rhy fyr o’r herwydd.
53 ai nid Darlleniad unfryd LlGC 3049D a’i chymheiriaid; gthg. LlGC 6681B ag nid. Derbyniwyd ac nid yn GGl, ond diwygiad oedd hynny, mae’n ymddangos, gan na ddefnyddiwyd LlGC 6681B yno. Ceir enghreifftiau prin o’r cyfuniad ai ni(d) gyda’r ystyr oni(d), gw. GPC2 164 d.g. ai1. Gwilym ab Ieuan Hen, bardd cyfoes â Guto’r Glyn, biau’r gyntaf (GDID XXIII.81 Ieuan, Nudd ai ni w[y]ddost).
60 cenych LlGC 3049D kynych, LlGC 8497B cennych, Gwyn 4 i kenych, LlGC 6681B i kynych. Nid yw’n eglur a oedd y copïwyr yn adnabod y gair fel ail unigol presennol dibynnol canu, ynteu a oeddynt yn ei ystyried yn ffurf ail berson lluosog yr arddodiad can (= gan). Yr ail ddehongliad a ddilynwyd yn GGl gan fabwysiadu gennych, ond ni cheir y ffurf dreigledig yn y llawysgrifau. Gwir fod enghreifftiau o’r arddodiad heb ei dreiglo mor ddiweddar â’r unfed ganrif ar bymtheg, cf. GHD 12.63, 17.28 a GLMorg 24.3, ond serch hynny ni fyddai synnwyr cyflawn yn y cwpled. Yn hytrach, myn y synnwyr mai cenych sy’n iawn: dweud y mae Guto yn nau gwpled olaf y gerdd fod Ieuan Gethin yn un da am ganu cân, ond mai Harri sy’n cynnig gwasanaethau dyn go iawn.
Ar yr wyneb, cywydd serch yw hwn i ferch o’r enw Gwladus. Yn unol â phatrwm y canu serch dywedir bod gan y ferch aeliau duon, ei bod yn serchog ac yn hael ac yn ennill canmoliaeth y beirdd, ac y dylai gwrdd â’r carwr yn y goedwig. Adlais arall o’r canu serch yw delwedd y carwr – yma Harri Gruffudd – yn mynd ar gefn march i weld gwrthrych ei addoliad. Diddorol iawn, a llai arferol, yw’r pwyslais ar weithgarwch Gwladus fel bardd, a hynny dan hyfforddiant bardd-uchelwr adnabyddus, Ieuan Gethin ab Ieuan ap Lleision (llinell 15n). Gelwir ef yn feistr ac yn athro iddi (44).
Eto nid cywydd serch syml mo hwn, ond rhyw fath o gellwair rhwng Guto, Harri ac Ieuan Gethin. Sonnir am y ferch yn y trydydd person drwyddi draw, ac nid oes unrhyw arwydd y disgwylid iddi fod yn bresennol i glywed y gerdd. Brolio Harri a dychanu Ieuan yw sylwedd y canu. Dychenir Ieuan fel hen ŵr masweddus nad diogel ei adael ar ei ben ei hun gyda merch uchelwrol barchus. Byddai’n well o lawer, medd Guto, petai hi’n ymweld â dyn ifanc megis Harri. Wrth gwrs, mae safonau dwbl digrif ar waith yma, oherwydd mae Guto yn priodoli i Harri yr unrhyw fwriadau ar gyfer y ferch bert ag a goleddir gan ei ‘hathro’. Gwibio a wna’r bardd rhwng beio Ieuan am fod yn fasweddus a gresynu ei fod yn rhy hen i fodloni’r ferch. O gofio sylw Guto fod [g]wŷr Morgannwg yn ymweld â chartref Harri (35.32), diau fod Ieuan Gethin yn bresennol i fod yn gyff gwawd.
Cyfyd y gerdd ddau gwestiwn anodd eu hateb. Y cyntaf yw natur ymwneud Gwladus â’r grefft farddol. Fe welir ei bod yn cael ei disgrifio fel rhyw fath o fardd, ac mae manylder y disgrifiad a’i natur anarferol yn awgrymu nad trosiad yw hyn, eithr bod Gwladus mewn gwirionedd yn ymhél â barddoni. Eto proffesiwn trwyadl wrywaidd oedd barddoni yn Gymraeg yn yr Oesoedd Canol, hyd y gellir barnu. Sut ac ym mha gyd-destun y gallai Gwladus berfformio’n gyhoeddus fel bardd, anodd barnu. Efallai mai diddanwch o fewn cylch y teulu fyddai’r cyd-destun hawsaf i’w ddychmygu. Uchelwr a ganai farddoniaeth ar ei fwyd ei hun oedd Ieuan Gethin, hynny yw, bardd amatur. Efallai ei fod wedi dysgu rhywfaint o’r grefft i ferch un o’i gymdogion (2n), a’i bod hithau yn diddanu ei pherthnasau a’i chydnabod, ond nid y tu hwnt i’r cylch cyfyng hwn. Mae Haycock (2010) wedi astudio’r gerdd yn fanwl yng nghyd-destun yr hyn a wyddys am feirdd benywaidd Cymru yn yr Oesoedd Canol, ac y mae hi’n fwy parod i ystyried y posibilrwydd y gallai Gwladus fod wedi perfformio mewn tai eraill, hyd yn oed yn (lled) broffesiynol, gan ddwyn i gof y bardd benywaidd enwog Gwerful Mechain (gw. GGM). Yn wir, ceir awgrym cryf yn 35.37–8 fod Gwladus wedi perfformio yn nhŷ Harri Gruffudd, o leiaf, lle ymddengys fod ganddi gymdeithion o brydyddesau i gadw cwmni iddi.
Yr ail broblem yw perthynas y canu serch â safonau rhywiol y gymdeithas a wrandawai arno, peth sy’n gyson broblemus i ni heddiw ei ddeall. Ac ystyried cymaint o bwyslais a roddid ar ddiweirdeb merched, a ellir dychmygu canu’r cywydd hwn, yn enwedig y llinell olaf gyda’i hymhlygiad digamsyniol, yng ngŵydd Gwladus ei hun a hyd yn oed o flaen ei pherthnasau? Mae Haycock (2010: 112–14) yn bleidiol i’r posibilrwydd, ond serch hynny mae’n nodi mor anodd fyddai hi i ferch uchelwrol ‘wynebu dychan a besgai ar ganrifoedd o ragfarn a gwawdlunio’ (ibid. 112). Byddai’n fwy diogel inni ddeall y gerdd fel adloniant rhwng dynion a berfformiwyd yn llys Harri ei hun ac yn bell o Lyn-nedd. Sylwn ymhellach ar 33–6, lle awgrymir bod Guto yn wreiddiol wedi gwrthod canu ar y pwnc hwn. Pam? Ai am ei fod yn teimlo’n anesmwyth ynglŷn â chanu mor dafotrydd am ferch a oedd, yn ôl pob tebyg, o statws uchelwrol ac yn wir yn ferch i un o’i noddwyr (cf. 2n)?
Gallwn ddweud bod y gerdd hon yn ‘dofi’ Gwladus drwy ei darostwng i ofynion genre. Ar ddechrau’r cywydd mae Gwladus, drwy ddatblygu llais annibynnol iddi hi ei hun, yn bygwth trosgynnu ffiniau rôl arferol y ferch yn y canu serch. Rhith yw hyn, fodd bynnag, oherwydd erbyn y diwedd fe’i caethiwir o’r newydd gan ofynion genre y canu serch a’r canu dychan. Mewn canu serch ni all hi ond bod yn wrthrych dyheadau dynion, heb allu gweithredu drosti hi ei hun; ac at bwrpas canu dychan nid yw hi ond esgus dros wawdio gwryweidd-dra a moesau Ieuan Gethin.
Dyddiad
1440au neu 1450au, yn ôl pob tebyg, ond mae’r ansicrwydd ynghylch pwy oedd Gwladus (2n) a’r anghysonderau yn nyddiadau Ieuan Gethin (15n) yn ei gwneud yn amhosibl pennu dyddiad manylach.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd LXXVII.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 62 llinell.
Cynghanedd: croes 44% (27 llinell), traws 31% (19 llinell), sain 18% (11 llinell), llusg 8% (5 llinell).
1 dyn diwael Mewn Cymraeg Canol gall dyn gyfeirio at ferch. Anwadal yw cenedl y gair yn yr ystyr hon, ond gall fod yn wrywaidd, cf. 53 y dyn da a gw. GPC 1140 (b).
2 Gwladus Nid yw Guto’n rhoi digon o wybodaeth amdani i bennu hyd sicrwydd pwy ydoedd. Yr awgrym a ffefrir gan Marged Haycock (2010: 111–12) yw mai Gwladus ferch Siencyn ap Rhys Fychan (WG1 ‘Einion ap Gollwyn’ 3), ail wraig Hopcyn ab Ieuan ap Lleision o Flaen Baglan (WG1 ‘Iestyn’ 8), ydoedd: hynny yw, chwaer yng nghyfraith Ieuan Gethin ei hun. Dyma esbonio sut y daeth hi i gysylltiad ag Ieuan Gethin. Fodd bynnag, roedd y Wladus hon yn perthyn i genhedlaeth 10 yn ôl dosbarthiad WG1, sef yr un genhedlaeth ag Ieuan ei hun, a braidd yn gynnar i fod yn ferch ifanc yn amser Guto’r Glyn (cf. y ffaith fod Wiliam ap Tomas o Raglan, a fu farw yn 1445, yn perthyn i genhedlaeth 11). Gwell gan hynny ystyried Gwladus ferch Rhys ap Siancyn o Aberpergwm, Glyn-nedd (WG2 ‘Einion ap Gollwyn’ 11(F)). Roedd Rhys yn noddwr i Guto (cf. cerdd 15). Roedd y Wladus hon yn perthyn i genhedlaeth 13 yn ôl WG2 (ganed c.1430), sy’n ei gwneud yn gyfoeswraig fras i Wiliam Herbert II (ganed c.1455) a Water Herbert. Byddai’r dyddiad hwn yn gweddu gan fod Harri’n ŵr ifanc iawn yn 1425, tra bod Bleddyn Huws (1997: 47) yn gosod dyddiad geni Ieuan Gethin c.1390. Yn y 1440au byddai Harri yn ei dridegau, efallai, ac Ieuan yn ei bumdegau. Dyma ddyddiad addas ar gyfer y gerdd, ac mae’n cyd-fynd â’r dyddiad 1445–7 a awgrymir gan Huws (1997: 52). Byddai dyddiad yn y 1450au hefyd yn bosibl, ac yn caniatáu mwy o amser i Wladus gyrraedd oedran lle gellid siarad amdani fel gwrthrych rhywiol (tua 15–20 oed, mae’n debygol). Gan fod Ieuan Gethin yn trigo ym Maglan, nid nepell o Lyn-nedd, ac yn fardd adnabyddus, byddai’n naturiol iddo fod yn gyfarwydd ag aelwyd Rhys ap Siencyn, a oedd yn noddwr selog (cf. cerdd 15), a chwrdd â Gwladus yno.
2 hael Mewn Cymraeg Canol gall y gair hwn ddwyn ystyr ehangach na heddiw, sef ‘bonheddig, urddasol’, gw. GPC 1804–5. Anodd dweud a oedd hael yn llysenw sefydlog i Wladus, fel y’i deellir yn GGl 350.
4 Glyn-nedd Gw. 2n.
6 berw Gair a ddefnyddir yn aml am ysbrydoliaeth farddol, gw. GPC 275 d.g. berw1 (c). Cyffredin oedd delweddu ysbrydoliaeth fel bwrlwm hylif.
7 myrr Persawr a wneir o blanhigyn, gw. GPC 2542 d.g. myrr1. Fe’i cyplysir yn aml ag arogldarth, fel yn achos rhoddion y tri gŵr doeth ar gyfer y baban Iesu yn y Testament Newydd.
7 tus Resin persawrus, gw. GPC 3692.
9 moliant … candi Cynghanedd lusg; am ateb -nt â -nd, gw. CD 219, lle nodir mai mympwy ychydig o feirdd a flodeuai ganol y bymthegfed ganrif oedd hyn, a rhoddir enghreifftiau o waith Guto’r Glyn a Hywel Dafi.
9 siwgr candi GPC 3297; OED Online s.v. sugar-candy, n. ‘sugar clarified and crystallized by slow evaporation’.
11 Meurig Anhysbys. Mae’r cyd-destun yn mynnu enw bardd adnabyddus. Ceir un gerdd gan fardd o’r enw Meurig ab Iorwerth yn Llyfr Coch Hergest (c.1400), gw. GDC cerdd 13. Canwyd hi i Hopgyn ap Tomas o Ynysforgan, nid nepell oddi wrth Lyn-nedd. Rhestrir amryw o gymeriadau o’r enw Meurig yn WCD 477–9, ond nid oes awgrym fod yr un ohonynt yn hysbys fel bardd. Am awgrymiadau pellach, gw. Haycock 2010: 110.
15 Ieuan Gethin Ieuan Gethin ab Ieuan ap Lleision, bardd-uchelwr o Faglan ym Morgannwg a oedd yn gyfoeswr hŷn i Guto’r Glyn. Mae dyddiadau Ieuan Gethin yn destun penbleth mawr. Archwilir hwy yn Huws 1997. Dengys ef fod yn rhaid i Ieuan fod yn oedolyn erbyn 1410, pan enwir ef yn y Patent Rolls: cafodd bardwn am gefnogi Owain Glyndŵr, ac roedd yn briod ar y pryd (Huws 1997: 47). Os felly, diau y byddai’n weddol hen, yn ôl safonau’r oes, erbyn y 1440au neu’r 1450au, dyweder, sef dyddiad tebygol y gerdd hon. Erys yn anodd cysoni hyn oll â’r ffaith ei fod yn perthyn i genhedlaeth 10 (geni c.1330) yn ôl WG1 ‘Iestyn’ 8. Mae Huws (1997: 49–51) yn nodi’r anhawster, ond nid oes ateb amlwg. Maen tramgwydd hefyd yw dyddiad hwyr y farwnad a ganodd Iorwerth Fynglwyd iddo (c.1480? c.1490?). A ganwyd ef ymhell ar ôl marwolaeth Ieuan Gethin?
20 o Gaer hyd Went Yr ergyd yw ‘o un pen o Gymru hyd y llall’. ‘Chester’ yw Caer gan mwyaf, sy’n rhoi synnwyr da yma o ystyried bod Euas mewn gwirionedd rhwng Caer a Gwent. Eto fe ddefnyddir Caer weithiau am Gaerfyrddin, e.e. gan Ddafydd ap Gwilym (DG.net cerdd 1 passim).
21 Ofydd Y bardd Lladin Publius Ovidius Naso (43 C.C.–17/18 O.C.). Roedd yn enwog yn yr Oesoedd Canol yn bennaf ar gyfrif ei ganu serch, ac mae’r beirdd yn dyfynnu ei enw’n aml iawn fel delfryd o garwr.
23 Troelus Mab Priaf a Hecuba o Gaerdroea, gw. OCD3 1556 s.n. Troilus, lle nodir ei fod wedi ei gysylltu â cheffylau ers yn gynnar. Mae’r hanes am ei garwriaeth â Chresyd yn ganoloesol, nid yn glasurol. Cf. GLMorg 6.22 Mastr Wiliam â moes Droelus.
23 llwydwen Cyfystyron yw llwyd a gwyn yma, sef ‘bendigaid, sanctaidd’, gw. GPC 2241 a cf. TA LXXXIII.74 Un o flodau nef lwydwen.
25 pa na Fe’i rhestrir yn GPC 2848 d.g. poni1, ponid1 fel amrywiad ar y gair hwnnw, sef geiryn sy’n cyflwyno cwestiwn negyddol.
29 Luned lw Enw llawforwyn Iarlles y Ffynnon yn chwedl ‘Owain’ yw Luned. Nis gwelir yn tyngu llw yn y chwedl, ond yn sicr mae’n dra ffyddlon i Owain, ac o’r herwydd mae ei elynion yn bygwth ei llosgi oni ddaw Owain i’w hamddiffyn. Efallai mai’r fargen anwirfoddol hon yw’r llw yma.
32 a gâr efô Amwys, ond gan nad yw’r bardd fel arall yn datgelu unrhyw beth am agwedd y ferch ei hun, y tebyg yw mai goddrych, nid gwrthrych, yw efô yma.
38 Hi a ddichon heddychu Cf. 25.51 Un a ddichon heddychu.
42 meudwy Nid yw’n sicr paham y geilw Guto ei gyd-fardd yn feudwy yma, ond yn sicr nid oedd Ieuan yn grefyddwr: roedd yn briod a chanddo nifer o blant. Sarhad ydyw yma, efallai, yn awgrymu bod Ieuan yn ddiwair am na chaiff unrhyw lwyddiant gyda merched yn hytrach nag o’i wirfodd.
42 brych GPC 338. Yn llythrennol ‘ysmotiog, mannog, brith’, ac yn ffigurol ‘hyll, salw’. Efallai fod Ieuan yn ysmotiog ei wedd.
44 meistr ac athro Awgrym fod Ieuan yn addysgu Gwladus yn y grefft o ganu neu farddoni.
45 pw’r Cywasgiad o pwy + ’r, ffurf ar pwy ryw, amrywiad ar pa ryw. Am ddefnyddio pwy o flaen enw, gw. GPC 2947 d.g. pwy1 (3).
46 llwydwyn Amwysedd bachog. Cafwyd y gair hwn eisoes yn 23 yn disgrifio Gwladus, a’r un yw’r ystyr yma, sef ‘sanctaidd’, ond yn eironig, gan mai ergyd y rhan hon o’r gerdd yw ensynnu bod meddwl Ieuan Gethin ar hudo’r ferch. Hefyd dichon fod Guto yn gwawdio Ieuan fel hen ŵr llwydwyn ei wallt, fel yn 51.
47 os caru hon Cystrawen gynnil iawn. Deellir hyn fel ateb i’r cwestiwn a osodwyd yn y cwpled blaenorol: dyma oedd sylwedd pregeth Ieuan.
55 gordderchu Gair am rychwant helaeth o weithredoedd rhywiol, gw. GPC 1469. Yma cyfeiria at ymgais Ieuan Gethin i hudo’r ferch drwy gyfrwng canu serch.
58 anni-wair Rhaid ei acennu ar y sillaf olaf er mwyn y gynghanedd ac oherwydd bod gair a’r acen ar y goben ar ddiwedd y llinell flaenorol, gw. GPC2 339. Ceir yr un aceniad yn GIG XII.89 Anniwair fu yn ei oes. Gellir acennu diwair yn yr un modd (felly di-wair), gw. GPC 1054.
Llyfryddiaeth
Haycock, M. (2010), ‘Dwsin o Brydyddesau? Achos Gwladus “Hael” ac Eraill’, Dwned, 16: 93–114
Huws, B.O. (1997), ‘Dyddiadau Ieuan Gethin’, LlCy 20: 46–55
On the surface this appears to be a love poem addressed to a girl called Gwladus. Thus we find here typical generic elements of love poetry: the girl’s black brows, reference to her as serchog (‘loving’ or ‘affectionate’) and as hael (‘generous’ or ‘noble’), the statements that she is an object of poets’ praise and that she should make a tryst with the lover in the woods. Also typical is the journey of the lover – here Henry Griffith – on horseback to see the object of his desire. Less usual, and very interesting, is the emphasis on Gwladus as a poet in her own right, an art which she is practising under the instruction of the well-known gentleman-poet, Ieuan Gethin ab Ieuan ap Lleision (line 15n). He is called her meistr ac athro (‘master and teacher’, 44).
Yet this is no simple love-poem, but rather a joke between Guto, Henry and Ieuan Gethin. All through the poem the girl is referred to in the third person, and there is no suggestion that anyone expected her to be present to hear it. The thrust of the poem is in fact to boost Henry Griffith and satirize Ieuan Gethin. Ieuan is shown up as a lecherous old man who cannot be trusted alone with a pretty upper-class girl. It would be far better, says Guto, if she visited the younger man, Henry, instead. Of course, there are humorous double standards at work here, for Guto attributes to Henry intentions no purer than those he perceives in the girl’s present ‘teacher’. The poet veers from criticizing Ieuan’s lechery to expressing anxiety that he is too old to satisfy the young girl. If we recall how Guto describes the ‘men of Glamorgan’ visiting Henry (35.32), it is very likely that Ieuan Gethin was present and was being made a cyff gwawd, or object of mockery.
The poem raises two issues which are difficult to fathom. The first is Gwladus’s engagement with the craft of poetry. She is clearly described as some kind of poet, and the level of detail and general unusualness of the description suggest that this was in fact the case; it is not a metaphor for something else. Yet poetry was a thoroughly male profession in medieval Wales, so far as we can tell. How and in what context could Gwladus perform publicly as a poet? It is hard to know. Perhaps the easiest context to imagine is within the family circle. Ieuan Gethin was a gentleman who took an amateur interest in poetry. Maybe he taught some of the craft to the daughter of a neighbour (2n), and she then entertained her relatives and acquaintances, not venturing to perform beyond this narrow circle. Haycock (2010) has studied the poem in detail in the context of what is known about Welsh female poets in the Middle Ages, and she is readier to consider the possibility that Gwladus might have performed in other houses, even in a (semi-)professional capacity, recalling the famous female poet Gwerful Mechain (see GGM). Indeed, there is a strong hint in 35.37–8 that Gwladus performed at the home of Henry Griffith, at least, where she seems to have had the company of other female poets (prydyddesau).
The second problem is the relationship of the love poetry to the sexual standards of the society which formed its audience, something which is consistently difficult for us to understand today. Considering that so much emphasis was placed on women’s chastity, can we imagine anyone performing this poem, particularly the final line with its unmistakable implication, in the presence of Gwladus herself, let alone her family? Haycock (2010: 112–14) favours the possibility, but nevertheless admits how difficult it would be for a girl of her status to ‘face satire which fed on centuries of prejudice and mockery’ (ibid. 112). It would be safer to assume that this poem was meant as entertainment to be performed among men only, at Henry Griffith’s home, a long way from Glyn-nedd. Consider 33–6, which suggest that Guto at first was unwilling to compose on this subject. Why? Was it because he felt uncomfortable in speaking so boldly about a girl who was, in all probability, of high social status and even the daughter of one of his other patrons?
We might describe this poem as an act of ‘domestication by genre’. At the beginning Gwladus seems, through developing her own independent voice, to be about to overcome the boundaries of the role habitually assigned to the girl in love poetry. This is a false dawn, however, for by the end she has been subjected once more to the demands made by the genres of love poetry and satire. In love poetry she can only appear as the object of male desire, not as an actor in her own right; while for the purposes of satire she is merely a convenient excuse for impugning Ieuan Gethin’s manhood and morals.
Date
1440s or 1450s, probably, but the uncertainty regarding Gwladus’s identity (2n) and the inconsistencies in Ieuan Gethin’s dates (15n) make it impossible to offer a firmer date.
The manuscripts
There are 9 manuscript copies. Of these, Pen 221 contains only the first couplet, and Pen 112 merely refers the reader to a copy of the poem in another manuscript. Of the remaining seven, three were excluded as derivative, leaving four copies. There is no variation in the number or order of the lines, and the readings are very similar in each copy. As is the case with other poems, LlGC 3049D, LlGC 8497B and Gwyn 4 are closely related. LlGC 6681B stands slightly apart from these. The edition was thus based on these three manuscripts taken together as a group and on LlGC 6681B.
Previous edition
GGl poem LXXVII.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 62 lines.
Cynghanedd: croes 44% (27 lines), traws 31% (19 lines), sain 18% (11 lines), llusg 8% (5 lines).
1 dyn diwael Nowadays dyn is ‘man’ both in the sense of ‘male person’ and ‘person in general’, but in Middle Welsh it could be used specifically of women. In this usage its grammatical gender is unstable, but it often appears to be masculine, cf. 53 y dyn da and see further GPC 1140 (b).
2 Gwladus Guto does not give enough information to determine who she is. The suggestion favoured by Marged Haycock (2010: 111–12) is Gwladus daughter of Siencyn ap Rhys Fychan (WG1 ‘Einion ap Gollwyn’ 3), second wife of Hopgyn ab Ieuan ap Lleision of Blaen Baglan (WG1 ‘Iestyn’ 8); she was Ieuan Gethin’s own sister-in-law. That could explain how she came into contact with Ieuan Gethin. However, that Gwladus belonged to generation 10 in the schema used in WG1, i.e. the same generation as Ieuan Gethin himself, which is rather early for a girl described as young in Guto’r Glyn’s time (cf. William ap Thomas of Raglan, who died in 1445, and belonged to generation 11). For that reason it is preferable to consider Gwladus, daughter of Rhys ap Siancyn of Aberpergwm in the Vale of Neath (WG2 ‘Einion ap Gollwyn’ 11(F)). Rhys was a patron of Guto’s (cf. poem 15). She belonged to generation 13 according to WG2 (born c.1430) which makes her a rough contemporary of William Herbert II (born c.1455) and Walter Herbert. That date would work, since Henry was a very young man in 1425, while Bleddyn Huws (1997: 47) sets Ieuan Gethin’s date of birth c.1390. In the 1440s Henry would probably be in his thirties and Ieuan in his fifties. That would suit the poem, cf. the date of 1445–7 suggested by Huws (1997: 52). A date in the 1450s would also be acceptable, and would allow more time for Gwladus to reach a suitable age to be spoken of as a sexual object, as in this poem (about 15–20 years old). Since Ieuan Gethin lived at Baglan, not far from Glyn-nedd, and was a well-known poet, it would be natural for him to visit Rhys ap Siancyn, a prominent patron, and to meet Gwladus at his home.
2 hael In Middle Welsh this word can have a wider meaning than today, i.e. ‘noble, stately’, see GPC 1804–5. It is hard to tell whether hael is a fixed epithet of Gwladus, as assumed in GGl 350.
4 Glyn-nedd In the Neath Valley in Glamorgan, see 2n.
6 berw Literally ‘boiling’, it often refers to excitement and commotion, and it is particularly applied to poetic inspiration, which was often metaphorically depicted in liquid images.
7 myrr Myrrh, a perfume derived from a plant, see OED Online. It is often coupled with incense, not least in the biblical story of the three wise men bringing gifts to the infant Jesus.
7 tus (Frank)incense, a perfume derived from resin, see OED Online s.v. frankincense, n.
9 moliant … candi Cynghanedd lusg; on the subject of answering -nt with -nd, see CD 219, where it is described as a whim of certain poets around the middle of the fifteenth century, with examples by Guto’r Glyn and Hywel Dafi.
9 siwgr candi GPC 3297; OED Online s.v. sugar-candy, n. ‘sugar clarified and crystallized by slow evaporation’.
11 Meurig Unknown. The context demands that he be a well-known poet. There is one poem by a poet called Meurig ab Iorwerth in the Red Book of Hergest (c.1400), see GDC poem 13. It was composed for Hopgyn ap Tomas of Ynysforgan, not far from Glyn-nedd. Numerous characters sharing the name Meurig are listed in WCD 477–9, but there is no suggestion that any of them was known to be a poet. For further suggestions, see Haycock 2010: 110.
15 Ieuan Gethin Ieuan Gethin ab Ieuan ap Lleision, a gentleman-poet from Baglan in Glamorgan who was an older contemporary of Guto’r Glyn. Ieuan Gethin’s dates are very problematic. They are discussed in Huws 1997. He shows that Ieuan must have been an adult by 1410, when he is named in the Patent Rolls: he received a pardon for supporting Owain Glyndŵr, and he had a wife at the time (Huws 1997: 47). If so, he must have been quite old by contemporary standards by the 1440s or 1450s, the likely date of this poem. It remains difficult to reconcile this with the fact that he belonged to generation 10 (born c.1330) according to WG1 ‘Iestyn’ 8. Huws (1997: 49–51) notes the difficulty, to which there is no obvious answer. The very late date of the elegy which Ieuan received from Iorwerth Fynglwyd (c.1480? c.1490?) is also worrying. Was it composed some considerable time after his death?
20 o Gaer hyd Went I.e. from one end of Wales to the other. Caer is most often Chester, which makes good sense here, especially given that Ewyas does lie between Chester and Gwent, but it is also used for Carmarthen, e.g. by Dafydd ap Gwilym (DG.net poem 1 passim).
21 Ofydd The Latin poet Publius Ovidius Naso, Ovid (43 B.C.–17/18 A.D.). In the Middle Ages he was most famous as a love-poet. His name occurs frequently in comparisons in medieval Welsh.
23 Troelus The son of Priam and Hecuba of Troy, see OCD3 1556 s.n. Troilus, which notes that his connection with horses was an ancient one. The story of his love for Cressida appears only in the Middle Ages. Cf. GLMorg 6.22 Mastr Wiliam â moes Droelus (‘Master William with the custom of Troilus’).
23 llwydwen The adjectives llwyd and gwyn are here synonymous in their figurative meaning of ‘blessed, saintly’, see GPC 2241 and cf. TA LXXXIII.74 Un o flodau nef lwydwen.
25 pa na It is listed in GPC 2848 s.v. poni1, ponid1 as a variant form of that word, a particle which introduces a negative question.
29 Luned lw Luned is the handmaiden of the Countess of the Fountain in the tale of ‘Owain’. She does not appear to swear any oaths in the story, but she is certainly very faithful to Owain, and in consequence is threatened with being burned alive unless Owain returns to defend her. Perhaps this involuntary agreement is the llw (‘oath’) referred to.
32 a gâr efô Ambiguous, because the relative pronoun in Welsh does not distinguish subject from object, so this could also mean ‘who loves him’. The context is in favour of Henry Griffith being the lover here, however, since the girl’s attitude is studiously left unclear throughout the poem.
38 Hi a ddichon heddychu Cf. 25.51 Un a ddichon heddychu ‘One who can make peace’.
42 meudwy It is not certain why Guto calls his fellow-poet a ‘hermit’ here, but Ieuan was certainly no hermit or monk, being married and the father of numerous children. It is surely some kind of insult. Perhaps the suggestion is that Ieuan is involuntarily celibate owing to a lack of success with girls.
42 brych GPC 338. Literally ‘brindled, spotted, speckled’, and figuratively ‘ugly, unsightly’. Perhaps Ieuan had spots on his face.
44 meistr ac athro A suggestion that Ieuan is instructing Gwladus in the craft of song or poetry.
45 pw’r Contraction of pwy (interrogative particle) + ’r, a reduced form of the noun rhyw (‘kind, sort’), so pw’r is a variant on pa ryw ‘what sort of?’. For the use of pwy before a noun, see GPC 2947 s.v. pwy1 (3).
46 llwydwyn Ambiguity with a sting in the tail. We have already met this word in line 23 describing Gwladus, and the same meaning applies here, namely ‘holy’, but in an ironic sense, since the burden of this section of the poem is to imply that Ieuan Gethin intends to seduce the girl. It is also likely that Guto is mocking Ieuan as an old man with greyish-white hair, as in line 51.
47 os caru hon Very concise syntax, literally ‘if loving this one’. The translation assumes that the poet is answering the question which he posed in the previous couplet: this is the substance of Ieuan’s sermon.
55 gordderchu Covers a range of sexual activities, see GPC 1469. Here it refers to attempting to seduce the girl by means of love poetry.
58 anni-wair This word must be accented on the final syllable, both in order to satisfy the cynghanedd (which is traws gytbwys acennog) and to fulfil the requirement that one line in each couplet end in a stressed syllable. See GPC2 339 for the form. The same accentuation is found in GIG XII.89 Anniwair fu yn ei oes. The adjective diwair, from which it derives, can be accented in the same two ways (diwair/di-wair), see GPC 1054.
Bibliography
Haycock, M. (2010), ‘Dwsin o Brydyddesau? Achos Gwladus “Hael” ac Eraill’, Dwned, 16: 93–114
Huws, B.O. (1997), ‘Dyddiadau Ieuan Gethin’, LlCy 20: 46–55
Harri Gruffudd yw gwrthrych pum cywydd gan Guto’r Glyn (cerddi 32–6) ac awdl o waith Gwilym Tew (Jones 1981: cerdd III; ymhellach ar y canu iddo, gw. isod). Ceir astudiaeth fanwl o’i yrfa yn Chapman 2013.
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Drymbenog’ 12 a WG2 ‘Drymbenog’ 12B1. Dangosir y rheini a enwir yng ngherddi Guto i Harri mewn print trwm.
Achres Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd
Yn ôl achresi Bartrum cafodd Harri Gruffudd dri o blant gyda’i ail wraig, Mawd ferch Phylib Gwnter. Roedd yn dad i dair merch arall hefyd ond ni nodir pwy oedd eu mam (gall fod Harri wedi cenhedlu rhai ohonynt gyda’i wraig gyntaf, Alison ferch Eustace Whitney). At hynny, cafodd berthynas â merch ddienw i ŵr o’r enw Siencyn Goch o Aberhonddu, a chawsant fab o’r enw Lawrence. Mawd oedd enw mam Harri Gruffudd (cf. 33.54). Yn achresi Bartrum nodir bod Gruffudd, tad Harri, wedi priodi dwy ferch o’r enw Mawd yn olynol, sef merch i Wilym Llwyd ap Gerallt Barri ac yna merch Gwilym Gwnter. Boed hyn yn debygol neu beidio, mae’n sicr mai Mawd ferch Gwilym Llwyd ap Gerallt Barri oedd mam Harri Gruffudd, gan fod Guto’n crybwyll Gwilym Llwyd a Gerallt fel enwau cyndeidiau Harri (32.13–14; 33.24n).
Ei fro
Trigai Harri yn y Cwrtnewydd ym mhlwyf Bacton, ar lan afon Aur (Dore) yn swydd Henffordd, lleoedd y mae Guto’r Glyn yn cyfeirio droeon atynt. Yn amser Harri yr oedd Dyffryn Aur eisoes yn rhan o swydd Henffordd ei hun, ond cofiai’r beirdd Cymraeg fod y lle yn arfer bod yn rhan o’r cwmwd Cymreig Euas. Gorweddai’r rhan fwyaf o Euas i’r gorllewin o Ddyffryn Aur, gan ffurfio arglwyddiaeth o’r Mers a elwid ar ôl ei harglwyddi Normanaidd cyntaf yn Ewyas Lacy. Ymddengys fod gan Harri gartref o fewn yr arglwyddiaeth hon hefyd, sef yn y Dref Hir (sef Longtown; gelwir y lle hefyd yn Ewyas Lacy). Yn sicr mae Guto’r Glyn yn honni ei fod wedi ymweld â Harri yn y Cwrtnewydd ac yn y Dref Hir (36.35–6).
Ei yrfa
Roedd tad Harri Gruffudd, sef Gruffudd ap Harri, ymhlith cefnogwyr Owain Glyndŵr, os am ysbaid fer yn unig (Chapman 2013: 106). Roedd Gruffudd ap Harri yn fyw o hyd yn 1439 pan esgymunwyd ef (ibid. 107). Ysgwïer oedd Harri Gruffudd, sef y radd nesaf islaw marchog (35.7). Roedd yn ŵr o gryn bwys yn ei ardal. Deilliai’r pwysigrwydd hwn i raddau helaeth o’i wasanaeth teyrngar i Richard, dug Iorc, ac o’i gysylltiadau ag uchelwyr lleol eraill. Yn benodol, daeth Harri’n aelod o’r rhwydwaith mawr a ymgasglodd o amgylch teuluoedd Herbert a Devereux, neu’r ‘Devereux-Herbert gang’ yng ngeiriau plaen Ailsa Herbert (1981: 107). Enwir Harri a’i feibion yn aml mewn cysylltiad â’r gwŷr hyn mewn ffynonellau cyfoes.
Rhestrir isod rai dyddiadau sy’n caniatáu i ni olrhain gyrfa Harri Gruffudd:
1425 Tyst gyda’i dad i grant o faenor Llancillo yn Ewyas Lacy (Chapman 2013: 106) 1431 Aelod o arsiwn Carentan, Ffrainc (Chapman 2013: 108) 1433 Cyhuddwyd ef o ymosod ar diroedd eglwysi yn swydd Henffordd (Chapman 2013: 109) 1441–4 Gwasanaethodd o dan Richard, dug Iorc, yn Ffrainc (Chapman 2013: 112). Ef oedd capten y cwmni ordnans (hynny yw, y gynnau) 1443–4 Gwnaed ef yn brif fforestydd yn arglwyddiaeth Buellt ar gyfer Richard, dug Iorc, a derbyniodd swyddi ganddo yn Lloegr hefyd (Chapman 2013: 121; Johnson 1988: 233) 1449 Stiward Machen dros Humphrey, dug Buckingham (Chapman 2013: 121) 1449 Aeth, o bosibl, i Iwerddon gyda Richard, dug Iorc (Chapman 2013: 123) 1450, 1451 Siryf Casnewydd a Gwynllŵg dros Humphrey, dug Buckingham (Chapman 2013: 121) 1450 (Mawrth) Comisiynydd yn dyfarnu ar etifeddiaeth tiroedd Anne Beauchamp yn swydd Henffordd; buasai hi farw yn 1449. Ffermiodd Harri Gruffudd a’r comisiynwyr eraill arglwyddiaeth Ewyas Lacy wedyn (Chapman 2013: 121–2) 1451 Stiward Brynbuga a Chaerllion dros Richard, dug Iorc, a stiward Brycheiniog, Y Gelli a Huntington dros ddug Buckingham (Herbert 1981: 122n91; Chapman 2013: 122–3) 1452 (Awst) Fe’i cosbwyd am gefnogi Richard, dug Iorc, yn erbyn y llys brenhinol ac am dorcyfraith yn swydd Henffordd (Chapman 2013: 127–8; Johnson 1988: 118) 1456 (Mawrth) Cymerodd ei feibion Siôn a Mil ap Harri ran yn meddiannu Henffordd dan arweiniad Wiliam Herbert a Walter Devereux (Chapman 2013: 130–1; GHS 191–3) 1457 (Mehefin) Cafodd faddeuant gyda’i fab Mil, Wiliam Herbert, Walter Devereux ac eraill am ei ran yn helyntion 1456 1460 (22 Mawrth) Fe’i hapwyntiwyd yn stiward Ewyas Lacy am oes yn sgil gwrthryfel Richard, dug Iorc, a Richard Neville, iarll Warwick (Chapman 2013: 132) 1461 (2/3 Chwefror) Ymladdodd ar ochr Edward, iarll y Mers ym mrwydr Mortimer’s Cross (tystiolaeth William Worcester, gw. Chapman 2013: 132) 1461 (28 Mawrth) Comisiynydd yn archwilio tiroedd gwrthryfelwyr yn sir Gaerfyrddin (Chapman 2013: 132–3) 1464–5 Diogelwyd ef rhag effeithiau diddymu grantiau’r brenin (Saesneg resumption) (Chapman 2013: 133) 1467 (14 Awst) Fe’i hapwyntiwyd yn aelod o gomisiwn oyer et terminer yng ngogledd Cymru (Thomas 1994: 34) 1478 Gwnaed rhestr o ddyledion Harri i abaty Dore, gan nodi ei farwolaeth (Williams 1976: 41; Chapman 2013: 133).Ei nawdd i’r beirdd
Ni wyddom sut na phryd y cyfarfu Guto’r Glyn â Harri Gruffudd gyntaf. Cofnodwyd cerdd 32 yn Pen 57, y rhoddir iddi’r dyddiad c.1440. Mae’r geiriau Herod wyf i Harri deg / A phrifardd (32.15–16) yn awgrymu bod Guto eisoes wedi derbyn nawdd Harri yn y gorffennol, diau yn y 1430au. Ond mae hefyd yn galw Harri’n iôn Bactwn (llinell 8), sy’n awgrymu bod tad Harri wedi marw, ac roedd hwnnw’n fyw o hyd yn 1439 (Chapman 2013: 107). Ni ellir dyddio cerdd 32 cyn 1439, felly, a rhaid ei rhoi yn 1440 neu o leiaf yn gynnar iawn yn y 1440au er mwyn cyd-fynd â dyddiad Pen 57. Flynyddoedd yn ddiweddarach, cofiai Guto mai Harri Gruffudd a’i cyflwynodd i ddug Iorc (36.23–4):Dug fi at y dug of Iorc
Dan amod cael deunawmorc.Cyfeiria hyn at 1436 yn ôl pob tebyg, ond mae 1441, pan aeth Guto a Harri ill dau i Ffrainc, yn bosibilrwydd arall.
Yr unig fardd arall y gwyddys iddo berfformio dros Harri Gruffudd yw Gwilym Tew o Forgannwg. Daeth ag awdl ofyn am farch dros Harri Stradling o Sain Dunawd (Jones 1981: cerdd III). Priododd merch Stradling â mab Harri, Mil. Eto, cyfeiria Guto at wŷr Morgannwg (35.32) yn ymweld â Harri, felly gallwn gymryd bod beirdd eraill wedi teithio i Euas.
Etifeddwyd y Cwrtnewydd gan Mil ap Harri. Ni oroesodd unrhyw gerddi iddo ef. Derbyniodd ei fab yntau, Harri Mil, gywydd hy gan Hywel Dafi, a gofnodwyd mewn llawysgrif c.1483 (Peniarth 67, 67). Ynddo mae’r bardd yn ei gynghori’n daer i beidio â phriodi Saesnes:Pas les o daw Saesnes hir
I baradwys ein brodir?…
Cymer ferch Cymro farchawgDyma dystiolaeth ddiddorol am hunaniaethau diwylliannol yn Nyffryn Aur yn niwedd y bymthegfed ganrif. Nid yw ateb Harri Mil i’r cyngor hwn yn hysbys, ond fe briododd â Saesnes, a ffrwyth y briodas honno oedd Blaens (Blanche) Parri, llawforwyn enwog y frenhines Elizabeth I (Richardson 2007). Hendaid Blaens, felly, oedd Harri Gruffudd.
Llyfryddiaeth
Chapman, A. (2013), ‘ “He took me to the duke of York”: Henry Griffith, a “Man of War” ’, 103–34
Herbert, A. (1981), ‘Herefordshire, 1413–61: Some Aspects of Society and Public Order’, R. Griffiths (ed.), Patronage, the Crown and the Provinces in Later Medieval England (Gloucester), 103–22
Johnson, P.A. (1988), Duke Richard of York 1411–1460 (Oxford)
Jones, A.E. (1981), ‘Gwilym Tew: Astudiaeth Destunol a Chymharol o’i Lawysgrif Peniarth 51, ynghyd ag Ymdriniaeth â’i Farddoniaeth’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Richardson, R. (2007), Mistress Blanche, Queen Elizabeth’s Confidante (Woonton)
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)
Williams, D.H. (1976), White Monks in Gwent and the Border (Pontypool)