Chwilio uwch
 
36 – Marwnad Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd
Golygwyd gan Barry J. Lewis


1Doe darfu’r Deau derfyn,
2Dwrn Duw a roes dyrnod ynn:
3Daearen dew a oeres,
4Dwyn gŵr oll a dynn ei gwres.
5Dyrnod hoedl drwy Went ydoedd
6Dwyn Harri Ddu, dyn hardd oedd;
7Dyffryn Aur yn deffroi nos
8Heb liw dydd, heb le diddos,
9Euas, gynt wrth lais ei gorn,
10Ac Ergin heb gyweirgorn;
11Saethwyd yna’r saith dinas,
12Swydd Henffordd, Cliffordd a’r Clas.
13Beth a dâl byth o delir
14Belinger heb longwr hir?
15Bro Wy oedd hon: briwodd hi
16(Byd perigl!) bod eb Harri.

17Wylo mae llin Wilym Llwyd,
18Aml dolef am lew dulwyd.
19Nid wyf syth na da fy sâl
20Wedi ef, na diofal.
21Fy nghariad, fy nghynghorwr,
22Fy llyfr gynt, fy llaw fu’r gŵr.
23Dug fi at y dug of Iorc
24Dan amod cael deunawmorc.
25Fy ngwaith fu eilwaith foliant,
26Fwrw gwawd hwn i frig tant.
27Dengair o gellwair i gyd
28Fu rhof a Harri hefyd.
29O dywedais, da ydoedd,
30Ynn na rôi aur, enwir oedd!
31Ni rôi gawn er a genynt
32Glêr y dom, bwngleriaid ŷnt,
33Ac i’r gwŷr gorau eu gwaith
34Ar unrhodd y rhôi’r anrhaith.

35Rhydd fu’r Cwrtnewydd i ni,
36A’r Dref Hir, dra fu Harri.
37Gŵr oedd ef fal Gwrthefyr,
38Gorau â’i law i Gaerlŷr,
39Gwayw ’m mrwydr i Gymru ydoedd,
40Gard aur ysgwieriaid oedd.
41Cwrtiwr oedd y milwr main,
42Cryfa’ o Iorc i Rufain.
43Ni thrwsiodd maen na throsol,
44Ni bu neb na bai’n ei ôl.
45Saeth fawr a saethai f’eryr,
46Saethu ’mlaen seithmil o wŷr.
47Nid âi i’w naid un dyn iach,
48Nid oedd ieithydd du ddoethach.
49Ni roes Iesu rasusoed
50Orlliw ar ŵr well erioed.

51Harri Gruffudd a guddiwyd;
52Heno, Dduw, dwyn hwn ydd wyd.
53Heddiw ydd aeth o’i haddef
54Hydd y Cwrtnewydd i nef.
55Dwyn o’r coed a wnâi ŵr call
56Derwen, a dodi arall.
57Mae un o’i wŷdd yma i ni,
58Mal yw pur, Mil ap Harri.
59Impyn cadr o’m pen-ceidwad,
60Impied ef gampau ei dad.
61Gwŷdd ieuainc a weddïwn,
62Gadu hil yn goed i hwn.

1Ddoe bu farw ffin de Cymru,
2rhoddodd dwrn Duw ergyd i ni:
3mae’r ddaear drwchus wedi oeri,
4dwyn gŵr yn llwyr yw’r hyn sy’n tynnu ei gwres ohoni.
5Ergyd farwol drwy Went oedd
6dwyn Harri Ddu, dyn hardd oedd;
7Dyffryn Aur yn deffro gyda’r nos
8heb liw dydd, heb le clyd,
9Euas, gynt yn dilyn llais ei gorn,
10ac Ergyng heb eu corn tiwnio;
11saethwyd yna saith caer,
12swydd Henffordd, Clifford a’r Clas-ar-Wy.
13Beth yw gwerth belinger
14os delir hi byth heb forwr tal?
15Dyffryn Gwy oedd hwn: mae bod heb Harri
16(byd peryglus!) wedi achosi clwyf iddo.

17Wylo mae disgynyddion Gwilym Llwyd,
18mynych yw gwaedd am y llew dulwyd.
19Nid wyf yn gadarn nac yn dda fy myd
20ar ei ôl ef, na heb ofid.
21Fy anwylyd, fy nghynghorwr,
22fy llyfr unwaith, fy llaw fu’r gŵr hwn.
23Arweiniodd fi at ddug Iorc
24ar gytundeb fy mod yn cael deunaw marc.
25Fy ngwaith i fu rhoi moliant yn ôl,
26bwrw cân o fawl i hwn i frig y tant.
27Deg gair o dynnu coes, dyna i gyd,
28fu rhyngof a Harri hefyd.
29Os dywedais, dyn da oedd ef,
30nad oedd yn fodlon rhoi aur i ni, nid oedd yn wir!
31Ni roddai gyrs yn dâl am yr hyn a ganai
32clêr y domen dail, bwngleriaid ydynt,
33ac i’r gwŷr gorau eu crefft
34y rhoddai’r trysor yn un rhodd.

35Roedd y Cwrtnewydd yn agored i ni
36a’r Dref Hir, tra bu Harri yn fyw.
37Arwr oedd ef fel Gwrthefyr,
38y gorau â’i law o fan hyn hyd Gaerlŷr,
39gwaywffon ym mrwydr i Gymru ydoedd,
40y gardas aur ymhlith yr ysgwieriaid oedd.
41Gŵr llys oedd y milwr gosgeiddig,
42y dyn cryfaf o Efrog i Rufain.
43Ni thriniodd neb faen na bar,
44ni fu neb nad oedd yn waeth nag ef.
45Byddai fy eryr yn saethu saeth fawr,
46saethu’n bellach na saith mil o wŷr.
47Ni allai unrhyw ddyn heini fynd mor bell ag ef ar naid,
48ni fu erioed ieithydd gwalltddu doethach.
49Ni roddodd Iesu graslon Ei fywyd
50lewyrch ar ŵr gwell erioed.

51Cuddiwyd Harri Gruffudd;
52heno, Dduw, rwyt yn dwyn y gŵr hwn.
53Heddiw fe aeth o’i gartref
54hydd y Cwrtnewydd i’r nef.
55Tynnai dyn doeth dderwen o’r coed
56ac yna plannu un arall yn ei lle.
57Mae un o’i goed yma i ni,
58fel ywen ddilychwin, Mil ap Harri.
59Grafft gwych o’m prif amddiffynnwr,
60boed iddo rafftio campau ei dad arno ef ei hun.
61Am goed ifainc y boed i ni weddïo,
62am adael epil yn goed i’r gŵr hwn.

36 – Elegy for Henry Griffith of Newcourt

1Yesterday the border of south Wales perished,
2the fist of God dealt us a blow:
3the heavy earth has grown cold,
4it is the utter snatching away of this man which is sucking out its heat.
5A mortal blow transfixing Gwent
6was the snatching away of Black Harry, he was a handsome man;
7the Golden Valley waking at night
8without daylight, without a place of shelter,
9Ewyas, once following the sound of his horn,
10and Archenfield without their tuning horn;
11seven strongholds were pierced then,
12Herefordshire, Clifford and Glasbury.
13What is the point of a balinger
14if it is ever caught without a single tall seaman?
15The Vale of Wye was one such: being without Harry
16(dangerous world!) has wounded it.

17Gwilym Llwyd’s descendants are weeping,
18many are the wails for the lion with the grey-black hair.
19I am not unbowed, nor well recompensed
20after him, nor without care.
21My dear friend, my counsellor,
22my book this man once was, my hand.
23He took me to the duke of York
24with the agreement that I should get eighteen marks.
25My task was praise in return,
26to direct a song of praise for this man to the top of the harp-string.
27Also, some ten words, no more,
28of leg-pulling passed between me and Harry.
29If I said – he was a good man –
30that he was unwilling to give us gold, it was not true!
31He wouldn’t give reeds for what would be sung
32by the dunghill minstrels, they are bunglers,
33and to the men with the best craftsmanship
34he would give treasure all in one go.

35Newcourt was open to us,
36and Longtown, while Harry lived.
37He was a hero like Vortimer,
38the best man with his hand from here to Leicester,
39he was a spear in battle for Wales,
40he was the golden garter of esquires.
41The slender warrior was a courtier,
42the strongest from York as far as Rome.
43No-one handled stone nor bar,
44there was no-one who was not inferior to him.
45My eagle used to shoot a great arrow,
46shooting further than seven thousand men.
47No fit man could match his leap,
48never was there a more learned dark-haired master of tongues.
49Jesus whose life brought grace
50never bestowed lustre on a better man.

51Harry Griffith has been hidden;
52tonight, God, You are taking this man.
53Today the stag of Newcourt
54went from his home to heaven.
55The wise man would take an oak from the wood
56and then plant another.
57One of his trees is here for us,
58like a faultless yew-tree, Miles ap Harry.
59A fine graft from my chief protector,
60may he graft his father’s qualities upon himself.
61Let us pray for young saplings,
62that offspring be left behind as timber of this man.

Y llawysgrifau
Ceir 12 copi o’r cywydd hwn. Wedi didoli’r copïau sy’n debygol o fod wedi tarddu o gopïau hysbys eraill, erys pum llawysgrif: LlGC 3049D, LlGC 8497B, Gwyn 4, Llst 30 a Llst 125. Mae’r tair llawysgrif gyntaf bron yn unffurf. Gall fod Llst 30 yn tarddu o’r un gynsail neu hyd yn oed o un o’r rhain, megis Gwyn 4. Rhydd Llst 125 ambell ddarlleniad amgen a saif ychydig ar wahân i’r lleill. Ond maent i gyd yn rhyfeddol o debyg i’w gilydd ar y cyfan. Nid oes amrywio o ran nifer na threfn y llinellau ac eithrio yn llinellau 5–6. Rhoddwyd ystyriaeth i bob un o’r pum llawysgrif hyn wrth lunio’r testun golygedig.

Trawsysgrifiadau: LlGC 3049D, LlGC 8497B, Gwyn 4, Llst 30, Llst 125.

stema
Stema

3 dew  Felly’r llawysgrifau; diwygiad di-sail yw Duw yn GGl.

5–6  Yn Llst 125 daw 6 o flaen 5. Mae rhywfaint i’w ddweud dros y drefn hon: golyga fod dwyn Harri Ddu yn adleisio ac yn atgyfnerthu 4 (dwyn gŵr oll) a bod y cyfeiriad at drywanu Gwent yn digwydd yn syth o flaen enw lle arall yn 7. Ar y llaw arall, gellid dadlau mai’r gair dwyn ar ddechrau 4 a 6 sydd wedi achosi i 5 gael ei disodli yn Llst 125. Gan nad oes dadl argyhoeddiadol ar y naill ochr na’r llall, rhaid dilyn y dystiolaeth gynharaf.

10 Ergin  Dilynwyd Llst 125 yn erbyn y llawysgrifau eraill, sy’n cynnig ergid neu ergyd (Llst 30). Gall fod ergi(y)d wedi ei ysbarduno gan y ddelweddaeth gerddorol yma, neu oherwydd y sôn am ergydio yn 1–6. Am y ffurf Ergin, cf. GSRh 6.72 (yn y brifodl) a hefyd GLGC 121.9–12 lle ceir Ergin bedair gwaith, yn odli â gwerin, cyffredin a gwin. Yn GGl adferwyd Erging (ni ddefnyddiwyd Llst 125 ar gyfer y golygiad hwnnw).

11 yna  Felly’r llawysgrifau. Nid yw yma, darlleniad GGl, yn cynganeddu.

16 bod eb  Dilynir LlGC 8497B a Gwyn 4 o ran darllen eb. Ceir enghreifftiau o golli’r h yn y gair hwn yn y bymthegfed ganrif, gw. G 769. Os darllenir heb, dylai’r h galedu’r d sy’n ei rhagflaenu, ond myn y gynghanedd fod bod yn ateb byd, gw. CD 206. Cf. 34.42n (testunol).

17 Wilym  Dilynir Llst 125 yn groes i’r llawysgrifau eraill, sy’n cynnig wiliam. Cf. Gwilym yn 32.13, lle mae’r golygiad yn dibynnu ar drawsysgrifiad John Jones, Gellilyfdy, o gopi cyfoes â’r bardd yn Pen 57. Ond y mae, wrth gwrs, yn bosibl fod Guto’n defnyddio mwy nag un ffurf ar yr enw.

19–20 na  Yn Llst 125 ceir no ddwywaith, sy’n ymddangos fel ffurf ffug-hynafol. Amrywiad hŷn ar na yn yr ystyr ‘than’ yw no, nid ar na yn yr ystyr ‘nor’.

22 llaw  Gthg. Llst 125 llew. Gwedda llaw yn well o lawer i agosatrwydd y delweddu yma.

25 fy ngwaith  Cadarnheir y darlleniad gan y cytundeb rhwng Gwyn 4, Llst 30 a Llst 125; gthg. LlGC 3049D vugwaith a LlGC 8497B vngwaith.

26 gwawd  Unwaith eto mae LlGC 3049D a LlGC 8497B yn anghytuno â’r lleill drwy gynnig gwaed. Go brin fod synnwyr yn hynny.

26 frig tant  Llst 30 yn unig sy’n cynnig frig y tant ac felly’n rhoi cyfrif cywir o sillafau yn y llinell, ac fe’i derbyniwyd yn GGl. Ond yn wyneb y cytundeb rhwng Llst 125 a’r lleill, mae’n rhaid derbyn na cheid y yma’n wreiddiol, a bod fwrw i’w gyfrif yn ddeusill. Posibilrwydd arall yw bod y llinell wedi ei llygru mewn rhyw gynsail sy’n gyffredin i’r holl lawysgrifau a erys.

30 ynn na rôi  Ceir y darlleniad hwn yn LlGC 8497B a Llst 125 yn na roe; agos iawn yw LlGC 3049D a Gwyn 4 yna roe. Gthg. Llst 30 na roe i, a ddilynwyd yn GGl. Mae’r cytundeb rhwng Llst 125 a’r lleill yn gwarantu’r darlleniad. Hawdd gweld sut y gallai lleoliad anarferol ynn o flaen y cysylltair fod wedi drysu rhai copïwyr.

30 enwir  Dilynir Llst 125 enwyr; gthg. nawir neu na wir yn LlGC 3049D, LlGC 8497B a Gwyn 4, ac anair yn Llst 30. Ceir hefyd gywiriad gan law arall yn Llst 125, sef vn a roe avr yn wir oedd. Cystrawen eithaf anghyffredin yw na + elfen a bwysleisir (nid berf). Yn ôl GPC 2545 d.g. na2 2(b) fe’i ceir ‘mewn ateb neu ymateb negyddol i gwestiwn, gorchymyn, neu osodiad’. Ceir enghreifftiau yn PKM 69.17–19 ae guell y gwna neb uy neges i wrthyt ti no mi uu hun? Na well; Thomson 1997: 32.892–3 ae drwc gennyt ti ouyn pa le pan deuy ditheu? Na drwc; CO2 5.135 Na wir, Kei wynn. Nid yw’r enghreifftiau hyn yn rhoi cyfochreb i ddefnyddio na wir fel traethiad oedd mewn brawddeg, felly diogelach yw derbyn darlleniad Llst 125 yma.

31 gawn  Llst 125 gwn, llawer llai tebygol na darlleniad y llawysgrifau eraill.

34 unrhodd … anrhaith  Rhydd Llst 125 y rhagenw meddiannol f’ o flaen y ddau air hyn. Byddai f’anhraith yn rhoi synnwyr da (‘fy anwylyd’), ond nid felly f’unrhodd. Gellid hepgor y rhagenw cyntaf, wrth gwrs, gan ddadlau na chyfrifid f yn f’anrhaith yn y gynghanedd.

50 orlliw  Llawysgrifau or lliw, ond mae rhaid wrth yr enw cyfansawdd er mwyn yr ystyr. Nid oes sail yn y llawysgrifau a ddefnyddiwyd yma dros un lliw yn GGl.

59 cadr  Felly LlGC 8497B, Gwyn 4 a Llst 30; gthg. LlGC 3049D a Llst 125 cadarn, sy’n gwneud y llinell yn rhy hir.

59 o’m  Felly LlGC 3049D, LlGC 8497B a Gwyn 4; gthg. Llst 30 am a Llst 125 a’n. Gwedda o’m yn dda i’r ddelwedd o Mil ap Harri fel impyn sy’n tyfu o’i dad neu a dynnwyd ohono. Derbyniwyd a’m yn GGl.

Llyfryddiaeth
Thomson, R.L. (1997) (ed.), Ystorya Gereint uab Erbin (Dublin)

Bu farw Harri Gruffudd rywbryd yn y degawd 1467–77. Delwedd agoriadol y farwnad hon yw cyhuddo Duw o fod wedi taro cydnabod a chynefin Harri. Fel mewn llawer o farwnadau eraill, ymddengys grym Duw fel ymyrraeth dreisgar a chreulon. Trawiadol iawn, a digon cymhleth, yw delwedd y ddaear yn oeri ar ôl marwolaeth Harri (llinellau 3–4). Yna rhestrir y tiroedd a drechwyd gan y golled: Gwent, Dyffryn Aur, Euas, Ergyng, swydd Henffordd, Clifford a’r Clas-ar-Wy. Cymherir Dyffryn Gwy ar ôl Harri â llong heb forwr i’w llywio, a sonnir hefyd am llin Wilym Llwyd yn wylo (17–18).

Wedyn try’r bardd at ei alar ei hun. Mae’n cofio mai Harri Ddu a’i cyflwynodd i ddug Iorc, efallai yn 1440/1 pan ymrestrodd Guto fel milwr yn rhengoedd y dug, onid cyn hynny yn 1436 pan aeth y dug i Ffrainc am y tro cyntaf, a Guto, efallai, yn ei fyddin. Cofia hefyd y gwasanaeth barddol a roddodd i Harri am ei gymwynas. Ceir tinc o anesmwythyd yn y llinellau nesaf (27–36), sy’n cyfeirio at y gerdd a ganodd Guto i gwyno am gybydd-dod Harri (cerdd 35). Cellwair yr oedd, yn ôl y bardd, ond gallwn amau bod y mater yn mynd yn ddyfnach na hynny, ac awgryma’r lledymddiheuriad yn y llinellau hyn nad oedd y ddau wedi cymodi cyn marw Harri.

Pwnc nesaf y moliant yw campau Harri, fel milwr ac yn y llys. Cofir am ei gryfder wrth drin y maen a’r trosol, ei allu fel saethydd ac fel neidiwr, a’i ddysg. Yn rhan olaf y gerdd ceir delweddau o’r grefft o reoli coed, fel sy’n gyffredin ar ddiwedd cerddi yn y bymthegfed ganrif. Darlunnir Mil ap Harri fel coeden ifanc sy’n olynu’r dderwen fawr, ei dad, a dychmygir ef yn impio rhinweddau ei dad arno ef ei hun. Yn olaf, dymuna’r bardd weld Mil yntau yn cael epil.

Dyddiad
1467x1477, efallai’n agosach at 1477. Mae’r dyddiad yn dibynnu ar ddyddiad marw Harri Gruffudd.

Golygiad blaenorol
GGl cerdd LXXXIII.

Mesur a chynghanedd
Cywydd, 62 llinell.
Cynghanedd: croes 69% (43 llinell), traws 17% (11 llinell), sain 10% (6 llinell), llusg 3% (2 linell).

1 doe  Nid yn llythrennol, yn ôl pob tebyg, gw. Edwards 2000: 25.

3 daearen  Delwedd eithaf cymhleth, o bosibl. Am ystyron daearen, gw. GPC 876. Y ddaear gron, efallai, yw’r ystyr yma: mae’r byd i gyd wedi oeri yn sgil colli Harri. Neu gellid ‘gwlad’, ystyr a gofnodir yn GPC 876 (ond o’r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen yn unig), ac o blaid hyn ceir sôn am wlad benodol yn llinellau 1 a 6. Ond beth am gorff Harri? Yn sicr gellid galw hwnnw’n ddaearen (darn o bridd), a byddai delwedd y corff yn oeri yn iasol yn y cyd-destun. Ni chredaf fod angen dewis rhwng y posibiliadau hyn: maent oll yn ymhlyg yma.

7 Dyffryn Aur  Safai llys Harri, y Cwrtnewydd, ar lan afon Aur (Dore) yn swydd Henffordd. Tardda’r enw Cymraeg Aur o’r enw Saesneg (Ffrangeg) Dore, yntau’n deillio o gamddeall yr enw Cymraeg gwreiddiol (sef Dŵr).

7 yn deffroi nos  Nid yw’r enghreifftiau yn GPC 916 o blaid ‘bod yn effro’, er y byddai hynny’n gweddu’n burion yma. Mae’r bardd yn gweld Dyffryn Aur yn deffro’n sydyn yn y nos, felly, ac yn ei gael ei hun mewn tywyllwch anghynnes. Ond tybed ai ‘deffro mewn nos’ yw’r ystyr, hynny yw, fod y dyffryn yn deffro ar yr amser arferol ond yn cael bod y dydd wedi troi’n nos?

9 Euas  Cwmwd sy’n gorwedd ar lethrau dwyreiniol y Mynydd Du, ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Gyda dyfodiad y Normaniaid daeth Euas yn un o arglwyddiaethau’r Mers (Ewyas Lacy). Fe’i hymgorfforwyd bron i gyd yn swydd Henffordd yn sgil Deddf Uno 1536. Yn y cyfnod hwn perthynai rhan o’r arglwyddiaeth i Iarll Warwick a rhan arall i Richard, dug Iorc. Daliai Harri Ddu swyddi yn yr arglwyddiaeth ac ymddengys ei fod yn byw yn rhannol yn y Dref Hir, sef Longtown, canolfan yr arglwyddiaeth. Ond roedd prif gartref Harri Ddu, y Cwrtnewydd yn Nyffryn Aur, eisoes yn swydd Henffordd, er bod y beirdd yn dal i ystyried yr ardal honno’n rhan o Euas.

10 Ergin  Ergyng, rhanbarth traddodiadol Gymraeg o fewn swydd Henffordd, i’r de-ddwyrain o Euas, Saesneg Archenfield.

11 saith dinas  Enw lle penodol, o bosibl, ond ni lwyddais i’w ddarganfod. Ceid arglwyddiaeth Dinas o fewn arglwyddiaeth Blaenllyfni, i’r gorllewin o Euas, ond erys arwyddocâd saith yn ansicr. Mwy tebygol yw cyfeiriad amhenodol yma, gan fod y beirdd yn hoff iawn o ddefnyddio saith yn yr ystyr ‘llawer’. Ceir enghraifft gyda’r fannod gan Dudur Aled: TA XXXV.40 Morys, i’th lys mae’r saith wlad.

11  Disgwylid treiglad meddal ar ôl saith, gw. TC 134–5, ond yma mae’r gynghanedd yn mynnu cadw d-, cf. GC 8.71 Rhag y saith dylaith ac yw dolau.

12 swydd Henffordd  Roedd cartref Harri, y Cwrtnewydd, o fewn y sir.

12 Cliffordd  Castell ac arglwyddiaeth fechan ar lan afon Gwy.

12 Y Clas  Y Clas-ar-Wy, arglwyddiaeth fechan i’r gorllewin o’r Gelli Gandryll.

14 belinger  GPC 271 ‘math o long fechan ag un hwylbren iddi’; Weekley 1911: 471–2 ‘the smallest warship … used chiefly for scouting’; Harriss 2006: 88–9.

15 bro Wy  Mae’r lleoedd a enwir yn y gerdd i gyd naill ai ar lan yr afon hon neu’n agos ati. Gall bro olygu ‘ardal’, ond yn aml hefyd ‘iseldir’ neu ‘dyffryn’, gw. GPC 329–30.

15 briwodd  Gellid hefyd ‘wedi ei malurio hi’, gw. GPC 328.

16 perigl  Gall fod yn ansoddair yn y cyfnod hwn, gw. GPC 2784 d.g perygl.

17 Gwilym Llwyd  Tad mam Harri. Cyfeirir ato yn 32.13–14. Ei lin fyddai plant Harri yn y cyswllt hwn.

18 dulwyd  Cf. 35.4 lle mae Guto yn dymuno na fydd gwallt Harri’n britho gormod.

21 fy nghariad  Ceir enghreifftiau eraill o alw noddwr yn gariad, cf. 43.64 Un dean Corwen wyd a’n cariad; GHS 1.60 Cariad Adda, carw diddig (i Faredudd ab Adda Moel), 34.59 Hen llew cad, cariad tyner (Dafydd ap Hywel Swrdwal i Ddafydd ap Hywel); GLGC 203.14 Cariad Ynys Prydain (i Rys ap Dafydd Llwyd o’r Drenewydd). Rhan ydyw o hen draddodiad ymhlith y beirdd o arfer ieithwedd serch am eu noddwyr, er enghraifft, crair, anwylyd, ac yn y blaen.

23 y dug of Iorc  Cymreigiad rhannol o’r Saesneg duke of York; cf. Duwc ofiorc yn Llst 125. Y tebyg yw bod hyn yn cyfeirio at wasanaeth milwrol Guto’r Glyn yn 1441, pan aeth i Ffrainc yn lluoedd Richard, dug Iorc. Amdano, gw. Johnson 1998.

24 deunawmorc  Deuparth punt oedd gwerth morc (marc), gw. GPC 2486. Uned arian ryngwladol ydoedd. Y tebyg yw mai cyflog Guto yw hyn, ac yr wyf wedi aralleirio’n unol â hynny. Mae’n annhebygol fod Harri wedi cael yr arian yn gyfnewid am argymell y bardd i’r dug.

26 bwrw  Fe’i cyfrifir yn ddeusill yma.

27 dengair  Nid oes arwyddocâd i’r rhif: ychydig o eiriau, dyna i gyd. Mae Guto’n awyddus i fychanu’r digwyddiad a goffeir yng ngherdd 35.

31–2 genynt / glêr  Cystrawen achlysurol mewn Cymraeg Canol oedd defnyddio berf luosog o flaen goddrych enwol lluosog. Treiglid y goddrych, gw. TC 224.

32 clêr y dom  Sonia Llywelyn Goch ap Meurig Hen am glêr y dom, gw. GLlG 8.50 Clywir ei dwrf, clêr y dom; hefyd Lewys Glyn Cothi (GLGC 63.53–4 gwneuthud, nid fal gwenieithiwr, / i glêr y dom gilio i’r dŵr). Gw. Edwards 1996: 24.

34 ar unrhodd  Mae Harri’n rhoi popeth ar unwaith, nid mewn cyfres o fân roddion llugoer.

35 y Cwrtnewydd  Cartref Harri ym mhlwyf Bacton, swydd Henffordd.

36 y Dref Hir  Longtown, gynt Ewyas Lacy, tref a chanolfan arglwyddiaeth Euas, sydd bellach yn swydd Henffordd.

37 Gwrthefyr  Mab Gwrtheyrn, arwr a ymladdodd yn ddewr yn erbyn y Saeson roedd ei dad wedi eu gwahodd i Ynys Prydain. Ceir ei hanes yn yr Historia Brittonum (nawfed ganrif) ac fe’i datblygwyd gan Sieffre o Fynwy. Gw. WCD 321.

40 gard  Gair ac iddo lu o ystyron. Am yr ystyr a dderbyniwyd yma, gw. GPC 1383 d.g. gartr. Arwydd aelod o Urdd y Gardas oedd y stribyn o ddefnydd ac arno lythrennau aur a wisgid o amgylch y pen-glin. Ceir enghraifft bendant o gard yn yr ystyr hon yn GDLl 50.1 Y gŵr dewr â’r gard eurin (i Syr Rhys ap Tomas). Yma dywedir bod Harri yn ardas yr ysgwieriaid, hynny yw, y gorau ohonynt. Ond gellid hefyd ‘gwarchodwr’, gw. GPC 1381 d.g. gard2.

43 maen na throsol  Cf. 33.41–2 am allu Harri i fwrw’r maen. Cyfeiria trosol at fwrw bar, efallai. O’r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen cawn gyfeiriadau at y pedair camp ar hugain, a dichon fod y rhestr ei hun yn hŷn. Mae Lewys Morgannwg yn nodi bwrw’r maen a bwrw’r bar fel dwy o’r campau hyn, gw. GLMorg 95.35–8 Pedair camp pe dôi i’r côr, / Pa, ar ugain, gamp rhagor? / Bwriodd, rhedodd ar adwy; / Bar a maen ba wiw bwrw mwy?

43–4  Dealler neb na bai’n ei ôl fel goddrych y ddau gymal o’i flaen.

45–6  Roedd saethu hefyd ymhlith y campau, cf. GLMorg 95.40.

47 naid  Cf. GLMorg 95.39.

48 ieithydd  Cf. GRhGE 12.33–4 Darllain teiriaith a gwaith gwawd, / A’u horgraffu, hir groywffawd.

48 doethach  Am dreiglo ansoddair cymharol mewn cymal negyddol, gw. TC 66–7, a cf. well yn llinell 50 isod.

50 gorlliw  GPC 1490 ‘disgleirdeb, gloywder, llewyrch’, ond hefyd ‘lliw’. Byddai’r ail yn cyd-fynd yn daclus â’r cyfeiriad at liw gwallt Harri yn llinell 48; ac os felly, dylid ystyried cydio well wrth orlliw yn hytrach nag ŵr.

52 heno  Cf. 1n.

53 heddiw  Cf. 1n, 52n.

53 haddef  Amrywiad ar addef, gw. GPC 1801.

55–6  Yn yr Oesoedd Canol rheolid coedwigoedd er mwyn cynhyrchu coed adeiladu ar y naill law, a mân goed ar gyfer tanwydd a phwrpasau eraill ar y llall. Torrid y rhan fwyaf o’r coed (y prysgwydd) yn rheolaidd ar gyfer yr ail bwrpas, ond gadewid i leiafrif ohonynt, gan amlaf derw, dyfu i’w llawn dwf ar gyfer adeiladu. Yma sonnir yn bendant am un o’r coed hyn, gan fod prysgwydd yn tyfu’n ôl ac na fyddai rhaid ailblannu. Diddorol yw’r awgrym ei bod hi’n arfer plannu derwen newydd yn lle un a ddygid. Yn ôl Rackham 1986: 153, peth prin oedd plannu coedwig yn yr Oesoedd Canol, ond byddid weithiau yn plannu coed mewn gwrychoedd.

58 yw  Gall ddigwydd fel enw gwrywaidd unigol, gw. GPC 3872 d.g. yw2.

58 Mil ap Harri  Mab ac etifedd Harri Gruffudd. Ef a etifeddodd y Cwrtnewydd. Bu farw yn 1488.

59 impyn  Delweddir Mil naill ai fel blaguryn newydd sy’n tyfu ar yr hen gyff (sef ei dad) neu fel impiad a dynnwyd o’i dad a’i drawsblannu. Mae’r olaf yn cyd-fynd yn dda â’r llinell nesaf ac fe’i dilynwyd yn yr aralleiriad. Am ystyron impyn gw. GPC 2018 d.g. imp.

61  Am y gynghanedd yma, gw. CD 218–19: croes hanner cyswllt. Amrywiad ydyw ar y groes o gyswllt, ond gyda chytsain ddi-lais yn ateb cytsain leisiol ar ddechrau’r llinell: mae c yn ieuainc yn ateb g yn gwŷdd. Daeth y gynghanedd hon yn dderbyniol ar ddiwedd y bymthegfed ganrif yn ôl Morris-Jones (ibid.).

61 gweddïwn  Am gweddïo fel berf anghyflawn, a rhoi’r hyn a ddymunir yn wrthrych iddi, gw. GPC 1612 (b).

62 yn goed  Dychmygir y plant fel coed sy’n ymgorffori deunydd eu tad; neu efallai mai ergyd yn goed yw ‘mor drwchus â choedwig’, hynny yw, llawer ohonynt.

62 hwn  Mil ap Harri, ymddengys, yn hytrach na Harri ei hun (ond, wrth gwrs, mae epil y mab yn epil y tad hefyd).

Llyfryddiaeth
Edwards, H.M. (1996), Dafydd ap Gwilym: Influences and Analogues (Oxford)
Edwards, H.M. (2000), ‘Dwyn Marwnadau Adref’, LlCy 23: 21–38
Harriss, G. (2006), Shaping the Nation: England 1360–1461 (Oxford)
Johnson, P.A. (1998), Duke Richard of York 1411–60 (Oxford)
Rackham, O. (1986), The History of the Countryside (London)
Weekley, E. (1911), ‘Etymologies’, The Modern Language Review, 6, part 4 (October): 471–5

Henry Griffith died sometime during the decade 1467–77. The elegy for him opens with the image of God striking Henry’s acquaintances and locality. As in many other elegies, death is a violent and cruel intervention by God. The image of the earth losing its heat after Henry (lines 3–4) is both striking and complex. Next comes a list of the lands stricken by the loss: Gwent, the Golden Valley, Ewyas, Archenfield, Herefordshire, Clifford and Glasbury. The Wye Valley after Henry is compared to a ship without a sailor to pilot it, and there is also mention of the descendants of Gwilym Llwyd weeping (17–18).

Next the poet turns to his own grief. He recalls that it was Henry Griffith who took him to the duke of York, perhaps in 1440/1 when Guto enlisted as a solider under the duke, if not earlier in 1436, the date of the duke’s first expedition to France, in which Guto may have taken part. He recalls too the poetic services which he rendered to Henry in exchange for the favour. A hint of awkwardness is apparent in the next lines (27–36), which refer to the poem which Guto composed berating Henry for his meanness (poem 35). It was all a joke, says the poet, but we may well feel that things went deeper than that, for the half apology in these lines suggests that the pair had not been reconciled before Henry died.

The next subject of praise is Henry’s achievements, as a solider and at his court. The poet remembers his strength in handling the stone and the bar, his gifts as an archer and in jumping, and his learning. In the last part of the poem we encounter imagery from the sphere of woodland management, as is commonly found concluding poems in the fifteenth century. Miles ap Harry, Henry Griffith’s son, is pictured as a young tree who succeeds that mighty oak, his father, and he is imagined grafting upon himself his father’s virtues. Finally, the poet hopes to see Miles too with offspring of his own.

Date
1467x1477, perhaps nearer 1477. The date depends on when Henry Griffith died.

The manuscripts
There are 12 copies. After eliminating those copies which are likely to derive from other known ones, there remain five manuscripts: LlGC 3049D, LlGC 8497B, Gwyn 4, Llst 30 and Llst 125. The first three are almost identical. Llst 30 may derive from a common exemplar or conceivably from one of these. Llst 125 gives a few distinctive readings and stands slightly apart from the others. But they are all remarkably similar overall. There is no variation in the number and order of these lines except in the case of the couplet 5–6. All five manuscripts were considered in establishing the edited text.

stema
Stemma

Previous edition
GGl poem LXXXIII.

Metre and cynghanedd
Cywydd, 62 lines.
Cynghanedd: croes 69% (43 lines), traws 17% (11 lines), sain 10% (6 lines), llusg 3% (2 lines).

1 doe  Not literally ‘yesterday’ in all probability, see Edwards 2000: 25. The poets use ‘yesterday’ and other adverbs of time rather loosely in elegies.

3 daearen  Possibly quite a complex image. The meanings of daearen are given in GPC 876. The word consists of daear ‘earth’ with a singulative ending (thus implying a specific piece of earth), and daear has all the multiple meanings of its English equivalent. Here perhaps ‘the whole earth’: the world has grown cold with Henry’s departure. Another possibility is ‘country’, a meaning which is attested in GPC 876 (but only from the sixteenth century onwards), and the references to specific regions in lines 1 and 6 would support this. But what about Henry’s body? That could certainly be described as a daearen (lump of earth), and the image of the body growing cold would be very powerful in this context. There is no need to choose between these alternatives: they are surely all implied here.

7 Dyffryn Aur  Henry Griffith’s home, Newcourt, lay on the banks of the river Dore (Aur) in Herefordshire. The Welsh name Aur, which means ‘gold’, derives from the English (or directly from the French) name Dore, which itself arose from a Norman misunderstanding of the original Welsh name, Dŵr (‘water’).

7 yn deffroi nos  In the examples cited in GPC 916 deffro always appears to mean ‘wake up’, so it is difficult to accept ‘lies awake at night’, however suitable that would be here. So the poet must envisage the Golden Valley waking abruptly from its sleep at night to find itself in lonely darkness. But could it be ‘wakes in night’, that is, that the valley wakes at the normal time only to find that the daylight has become darkness?

9 Euas  Ewyas or Ewias, a commote which lies on the eastern slopes of the Black Mountains, on the border between Wales and England. With the coming of the Normans Ewyas became a Marcher lordship, generally called Ewyas Lacy. It was incorporated almost entirely into Herefordshire under the Act of Union of 1536. In our period part of the lordship belonged to the earl of Warwick, and part to Richard, duke of York. Henry Griffith held offices in the lordship and appears to have resided at times in Longtown, the caput or centre of the lordship. But his main home, Newcourt in the Golden Valley, already belonged to Herefordshire proper, though the poets continued to think of the Golden Valley as a part of Euas.

10 Ergin  Ergyng, a traditionally Welsh-speaking area inside Herefordshire, to the southeast of Ewyas. Its English name is Archenfield.

11 saith dinas  Literally ‘seven cities/strongholds’, possibly a specific place name, but I have been unable to locate it. There was a lordship called Dinas within the lordship of Blaenllyfni, which lay to the west of Ewyas, but that leaves saith unexplained. It is more likely to be an unspecific reference here. The poets very often use saith as a general round number, ‘a lot’. The definite article in front of it does not exclude this interpretation, cf. Tudur Aled: TA XXXV.40 Morys, i’th lys mae’r saith wlad (‘Morys, in your court are the seven lands’).

11  We would expect lenition following saith, see TC 134–5, but here the cynghanedd requires d-, cf. GC 8.71 Rhag y saith dylaith ac yw dolau.

12 swydd Henffordd  Henry’s home, Newcourt, lay inside the shire.

12 Cliffordd  Clifford, castle and small lordship beside the river Wye.

12 Y Clas  Glasbury, a small lordship to the west of Hay-on-Wye. A clas was an early religious foundation served by a body of clergy, and the Welsh name Y Clas-ar-Wy, here abbreviated, means literally ‘the clas on the Wye’.

14 belinger  GPC 271; OED Online s.v. balinger, n. ‘a small and light sea-going vessel, apparently a kind of sloop, much used in the 15th and 16th centuries’; Weekley 1911: 471–2 ‘the smallest warship … used chiefly for scouting’; Harriss 2006: 88–9.

15 bro Wy  All the places mentioned in the poem lie either on the banks of the Wye or nearby. The word bro can mean ‘region’, but often ‘lowland’ or ‘vale’, see GPC 329–30.

15 briwodd  Also ‘has pounded it’, see GPC 328.

16 perigl  Often an adjective in this period, see GPC 2784 s.v. perygl.

17 Gwilym Llwyd  The father of Henry’s mother. He is referred to in 32.13–14. His llin, his lineage or descendants, must be Henry’s children.

18 dulwyd  Cf. 35.4 where Guto wishes that Henry’s hair will not become too grey.

21 fy nghariad  There are other examples of calling a patron cariad, cf. 43.64 Un dean Corwen wyd a’n cariad (the translation suggests ‘object of our love’); GHS 1.60 Cariad Adda, carw diddig (‘cariad of Adda, gentle stag’) (to Maredudd ab Adda Moel), 34.59 Hen llew cad, cariad tyner (‘venerable lion of battle, gentle cariad’) (Dafydd ap Hywel Swrdwal to Ddafydd ap Hywel); GLGC 203.14 Cariad Ynys Prydain (‘cariad of the island of Britain’) (to Rhys ap Dafydd Llwyd of Newtown). It is part of an old tradition among the poets of using terms of love in addressing their patrons, such as crair ‘treasure’, anwylyd ‘dear one, darling’. The translation ‘dear friend’ is probably most appropriate.

23 y dug of Iorc  A partial Cymricization of the English duke of York. Indeed, the reading is Duwc ofiorc in Llst 125. This very probably refers to Guto’r Glyn’s military service in 1441, when he went to France in the army of Richard, duke of York. On Richard, see Johnson 1988.

24 deunawmorc  A mark was worth two thirds of a pound, see GPC 2486 and OED Online s.v. mark, n.2 2(a). It was an international unit of currency. This probably refers to Guto’s salary, and I have translated accordingly. It is extremely unlikely that Henry was the recipient, though the syntax is ambiguous (lit. ‘on agreement of getting eighteen marks’).

26 bwrw  Must be counted as two syllables here. Words of this kind which end with an originally non-syllabic vowel are normally counted as monosyllables in the fifteenth century, but the poets appear to have had some room for manoeuvre with them (which suggests that the disyllabic pronunciation, normal today, was already established in speech).

27 dengair  The number ten has no particular significance: a few words, that is all. Guto is obviously keen to minimize the incident which inspired poem 35.

31–2 genynt / glêr  Occasionally in Middle Welsh a plural verb is used before a plural noun subject. The subject was lenited in this construction, see TC 224.

32 clêr y dom  ‘Dunghill minstrels’. Llywelyn Goch ap Meurig Hen mentions clêr y dom, see GLlG 8.50 Clywir ei dwrf, clêr y dom (‘You can hear their commotion, the dunghill minstrels’); likewise Lewys Glyn Cothi (GLGC 63.53–4 gwneuthud, nid fal gwenieithiwr, / i glêr y dom gilio i’r dŵr (‘You would make, not like a flatterer, the dunghill minstrels retreat into the water’). See Edwards 1996: 24.

34 ar unrhodd  Literally ‘at one gift’, i.e. Henry makes his gifts all in one go, rather than making a series of small, half-hearted gifts.

35 y Cwrtnewydd  Henry Griffith’s home in the parish of Bacton, Herefordshire.

36 y Dref Hir  Longtown, formerly known as Ewyas Lacy, township and centre of the lordship of Ewyas Lacy, and now in Herefordshire.

37 Gwrthefyr  Known as Vortimer in English, the son of Vortigern. He fought heroically against the Saxons whom his father had invited into the island of Britain. His story is found in the ninth-century Historia Brittonum and it was developed by Geoffrey of Monmouth. See WCD 321.

40 gard  A word of many meanings. For the one accepted here, see GPC 1383 s.v. gartr. This strip of material with gold lettering, worn around the knee, was the sign of membership of the Order of the Garter. There is a certain example of gard in this sense in GDLl 50.1 Y gŵr dewr â’r gard eurin (‘The bold man with the golden garter’) (to Sir Rhys ap Tomas). Here Henry is described metaphorically as the garter of esquires, that is, the best of them. But we could also accept ‘defender’, see GPC 1381 s.v. gard2.

43 maen na throsol  Cf. 33.41–2 for Henry’s ability at throwing the stone. The trosol, which means ‘bar’ or ‘club’, may refer to some other feat involving the throwing of a metal bar. From the sixteenth century onwards come references to the ‘twenty-four feats’, and the list itself could be older. Lewys Morgannwg notes throwing the stone and the bar as two of these feats, see GLMorg 95.35–8 Pedair camp pe dôi i’r côr, / Pa, ar ugain, gamp rhagor? / Bwriodd, rhedodd ar adwy; / Bar a maen ba wiw bwrw mwy? (‘The twenty-four feats, if ever he came into the arena, / What feats more? / He threw bar and stone, ran for the breach, / What point is there in throwing any more?’).

43–4  Take neb na bai’n ei ôl as subject of both the preceding clauses.

45–6  Archery was also one of the recognized feats, cf. GLMorg 95.40.

47 naid  Cf. GLMorg 95.39.

48 ieithydd  Cf. GRhGE 12.33–4 Darllain teiriaith a gwaith gwawd, / A’u horgraffu, hir groywffawd (‘Reading three languages and poetic work, / And being able to write in them, a long-lasting, clear blessing’).

48 doethach  A comparative adjective following a noun was normally lenited in earlier Welsh in a negative clause such as this one, see WS 46–7, and cf. well in line 50 below.

50 gorlliw  GPC 1490 ‘brilliance, splendour, lustre’, but also ‘colour’. The second option would neatly pick up on the reference to the colour of Henry’s hair in line 48; and if so, it might be better to take well with orlliw rather than with ŵr.

52 heno  Cf. 1n.

53 heddiw  Cf. 1n, 52n.

53 haddef  A variant form of addef ‘residence’, see GPC 1801.

55–6  In the Middle Ages woods were managed to produce timber for building on the one hand, and wood for fuel and other purposes on the other. The terms ‘wood’ and ‘timber’ were not interchangeable as they often are today, but denoted quite different products calling for quite different management techniques. Most of the trees in a wood (the underwood) would be regularly cut for wood, but a minority would be reserved for timber. These, usually oaks, would be allowed to reach maturity before felling. This is certainly a reference to one of these timber oaks, since underwood trees regenerate and would not require replacing. The implication that planting of timber was the norm is interesting. According to Rackham 1986: 153, the planting of a whole new wood was a rare phenomenon in the Middle Ages, but individual trees might sometimes be planted in hedges.

58 yw  Nowadays plural, yw could earlier be a masculine singular noun according to GPC 3872 s.v. yw2.

58 Mil ap Harri  Son and heir to Henry Griffith, sometimes referred to as Miles ap Harry in English. He inherited Newcourt. He died in 1488.

59 impyn  Miles is presented either as a new shoot growing on the old trunk (i.e. his father) or as a graft taken from his father and transplanted. The latter fits well with the next line and has been adopted in the translation. For the meanings of impyn see GPC 2018 s.v. imp.

61  For the cynghanedd here, see CD 218–19: there it is called croes hanner cyswllt. It is a variant of the croes o gyswllt in which the second consonant (c in ieuainc) is voiceless, yet answers a voiced consonant (g in gwŷdd) at the beginning of the line. This became acceptable in the late fifteenth century according to Morris-Jones (ibid.).

61 gweddïwn  For gweddïo as a transitive verb, with what is desired as the direct object, see GPC 1612 (b).

62 yn goed  The children are imagined as trees which embody the timber of their father; or, alternatively, yn goed might mean ‘as dense as a wood’, i.e. lots of them.

62 hwn  Miles ap Harry, apparently, rather than Henry Griffith himself (but, of course, the son’s issue also perpetuate his father’s line).

Bibliography
Edwards, H.M. (1996), Dafydd ap Gwilym: Influences and Analogues (Oxford)
Edwards, H.M. (2000), ‘Dwyn Marwnadau Adref’, LlCy 23: 21–38
Harriss, G. (2006), Shaping the Nation: England 1360–1461 (Oxford)
Johnson, P.A. (1998), Duke Richard of York 1411–60 (Oxford)
Rackham, O. (1986), The History of the Countryside (London)
Weekley, E. (1911), ‘Etymologies’, The Modern Language Review, 6, part 4 (October): 471–5

Cliciwch ar rif llinell i weld amrywiadau
Image Dialog
Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd, 1425–67

Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd, fl. c.1425–67

Top

Harri Gruffudd yw gwrthrych pum cywydd gan Guto’r Glyn (cerddi 32–6) ac awdl o waith Gwilym Tew (Jones 1981: cerdd III; ymhellach ar y canu iddo, gw. isod). Ceir astudiaeth fanwl o’i yrfa yn Chapman 2013.

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Drymbenog’ 12 a WG2 ‘Drymbenog’ 12B1. Dangosir y rheini a enwir yng ngherddi Guto i Harri mewn print trwm.

lineage
Achres Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd

Yn ôl achresi Bartrum cafodd Harri Gruffudd dri o blant gyda’i ail wraig, Mawd ferch Phylib Gwnter. Roedd yn dad i dair merch arall hefyd ond ni nodir pwy oedd eu mam (gall fod Harri wedi cenhedlu rhai ohonynt gyda’i wraig gyntaf, Alison ferch Eustace Whitney). At hynny, cafodd berthynas â merch ddienw i ŵr o’r enw Siencyn Goch o Aberhonddu, a chawsant fab o’r enw Lawrence. Mawd oedd enw mam Harri Gruffudd (cf. 33.54). Yn achresi Bartrum nodir bod Gruffudd, tad Harri, wedi priodi dwy ferch o’r enw Mawd yn olynol, sef merch i Wilym Llwyd ap Gerallt Barri ac yna merch Gwilym Gwnter. Boed hyn yn debygol neu beidio, mae’n sicr mai Mawd ferch Gwilym Llwyd ap Gerallt Barri oedd mam Harri Gruffudd, gan fod Guto’n crybwyll Gwilym Llwyd a Gerallt fel enwau cyndeidiau Harri (32.13–14; 33.24n).

Ei fro
Trigai Harri yn y Cwrtnewydd ym mhlwyf Bacton, ar lan afon Aur (Dore) yn swydd Henffordd, lleoedd y mae Guto’r Glyn yn cyfeirio droeon atynt. Yn amser Harri yr oedd Dyffryn Aur eisoes yn rhan o swydd Henffordd ei hun, ond cofiai’r beirdd Cymraeg fod y lle yn arfer bod yn rhan o’r cwmwd Cymreig Euas. Gorweddai’r rhan fwyaf o Euas i’r gorllewin o Ddyffryn Aur, gan ffurfio arglwyddiaeth o’r Mers a elwid ar ôl ei harglwyddi Normanaidd cyntaf yn Ewyas Lacy. Ymddengys fod gan Harri gartref o fewn yr arglwyddiaeth hon hefyd, sef yn y Dref Hir (sef Longtown; gelwir y lle hefyd yn Ewyas Lacy). Yn sicr mae Guto’r Glyn yn honni ei fod wedi ymweld â Harri yn y Cwrtnewydd ac yn y Dref Hir (36.35–6).

Ei yrfa
Roedd tad Harri Gruffudd, sef Gruffudd ap Harri, ymhlith cefnogwyr Owain Glyndŵr, os am ysbaid fer yn unig (Chapman 2013: 106). Roedd Gruffudd ap Harri yn fyw o hyd yn 1439 pan esgymunwyd ef (ibid. 107). Ysgwïer oedd Harri Gruffudd, sef y radd nesaf islaw marchog (35.7). Roedd yn ŵr o gryn bwys yn ei ardal. Deilliai’r pwysigrwydd hwn i raddau helaeth o’i wasanaeth teyrngar i Richard, dug Iorc, ac o’i gysylltiadau ag uchelwyr lleol eraill. Yn benodol, daeth Harri’n aelod o’r rhwydwaith mawr a ymgasglodd o amgylch teuluoedd Herbert a Devereux, neu’r ‘Devereux-Herbert gang’ yng ngeiriau plaen Ailsa Herbert (1981: 107). Enwir Harri a’i feibion yn aml mewn cysylltiad â’r gwŷr hyn mewn ffynonellau cyfoes.

Rhestrir isod rai dyddiadau sy’n caniatáu i ni olrhain gyrfa Harri Gruffudd:

1425 Tyst gyda’i dad i grant o faenor Llancillo yn Ewyas Lacy (Chapman 2013: 106) 1431 Aelod o arsiwn Carentan, Ffrainc (Chapman 2013: 108) 1433 Cyhuddwyd ef o ymosod ar diroedd eglwysi yn swydd Henffordd (Chapman 2013: 109) 1441–4 Gwasanaethodd o dan Richard, dug Iorc, yn Ffrainc (Chapman 2013: 112). Ef oedd capten y cwmni ordnans (hynny yw, y gynnau) 1443–4 Gwnaed ef yn brif fforestydd yn arglwyddiaeth Buellt ar gyfer Richard, dug Iorc, a derbyniodd swyddi ganddo yn Lloegr hefyd (Chapman 2013: 121; Johnson 1988: 233) 1449 Stiward Machen dros Humphrey, dug Buckingham (Chapman 2013: 121) 1449 Aeth, o bosibl, i Iwerddon gyda Richard, dug Iorc (Chapman 2013: 123) 1450, 1451 Siryf Casnewydd a Gwynllŵg dros Humphrey, dug Buckingham (Chapman 2013: 121) 1450 (Mawrth) Comisiynydd yn dyfarnu ar etifeddiaeth tiroedd Anne Beauchamp yn swydd Henffordd; buasai hi farw yn 1449. Ffermiodd Harri Gruffudd a’r comisiynwyr eraill arglwyddiaeth Ewyas Lacy wedyn (Chapman 2013: 121–2) 1451 Stiward Brynbuga a Chaerllion dros Richard, dug Iorc, a stiward Brycheiniog, Y Gelli a Huntington dros ddug Buckingham (Herbert 1981: 122n91; Chapman 2013: 122–3) 1452 (Awst) Fe’i cosbwyd am gefnogi Richard, dug Iorc, yn erbyn y llys brenhinol ac am dorcyfraith yn swydd Henffordd (Chapman 2013: 127–8; Johnson 1988: 118) 1456 (Mawrth) Cymerodd ei feibion Siôn a Mil ap Harri ran yn meddiannu Henffordd dan arweiniad Wiliam Herbert a Walter Devereux (Chapman 2013: 130–1; GHS 191–3) 1457 (Mehefin) Cafodd faddeuant gyda’i fab Mil, Wiliam Herbert, Walter Devereux ac eraill am ei ran yn helyntion 1456 1460 (22 Mawrth) Fe’i hapwyntiwyd yn stiward Ewyas Lacy am oes yn sgil gwrthryfel Richard, dug Iorc, a Richard Neville, iarll Warwick (Chapman 2013: 132) 1461 (2/3 Chwefror) Ymladdodd ar ochr Edward, iarll y Mers ym mrwydr Mortimer’s Cross (tystiolaeth William Worcester, gw. Chapman 2013: 132) 1461 (28 Mawrth) Comisiynydd yn archwilio tiroedd gwrthryfelwyr yn sir Gaerfyrddin (Chapman 2013: 132–3) 1464–5 Diogelwyd ef rhag effeithiau diddymu grantiau’r brenin (Saesneg resumption) (Chapman 2013: 133) 1467 (14 Awst) Fe’i hapwyntiwyd yn aelod o gomisiwn oyer et terminer yng ngogledd Cymru (Thomas 1994: 34) 1478 Gwnaed rhestr o ddyledion Harri i abaty Dore, gan nodi ei farwolaeth (Williams 1976: 41; Chapman 2013: 133).

Ei nawdd i’r beirdd
Ni wyddom sut na phryd y cyfarfu Guto’r Glyn â Harri Gruffudd gyntaf. Cofnodwyd cerdd 32 yn Pen 57, y rhoddir iddi’r dyddiad c.1440. Mae’r geiriau Herod wyf i Harri deg / A phrifardd (32.15–16) yn awgrymu bod Guto eisoes wedi derbyn nawdd Harri yn y gorffennol, diau yn y 1430au. Ond mae hefyd yn galw Harri’n iôn Bactwn (llinell 8), sy’n awgrymu bod tad Harri wedi marw, ac roedd hwnnw’n fyw o hyd yn 1439 (Chapman 2013: 107). Ni ellir dyddio cerdd 32 cyn 1439, felly, a rhaid ei rhoi yn 1440 neu o leiaf yn gynnar iawn yn y 1440au er mwyn cyd-fynd â dyddiad Pen 57. Flynyddoedd yn ddiweddarach, cofiai Guto mai Harri Gruffudd a’i cyflwynodd i ddug Iorc (36.23–4):Dug fi at y dug of Iorc
Dan amod cael deunawmorc.Cyfeiria hyn at 1436 yn ôl pob tebyg, ond mae 1441, pan aeth Guto a Harri ill dau i Ffrainc, yn bosibilrwydd arall.

Yr unig fardd arall y gwyddys iddo berfformio dros Harri Gruffudd yw Gwilym Tew o Forgannwg. Daeth ag awdl ofyn am farch dros Harri Stradling o Sain Dunawd (Jones 1981: cerdd III). Priododd merch Stradling â mab Harri, Mil. Eto, cyfeiria Guto at wŷr Morgannwg (35.32) yn ymweld â Harri, felly gallwn gymryd bod beirdd eraill wedi teithio i Euas.

Etifeddwyd y Cwrtnewydd gan Mil ap Harri. Ni oroesodd unrhyw gerddi iddo ef. Derbyniodd ei fab yntau, Harri Mil, gywydd hy gan Hywel Dafi, a gofnodwyd mewn llawysgrif c.1483 (Peniarth 67, 67). Ynddo mae’r bardd yn ei gynghori’n daer i beidio â phriodi Saesnes:Pas les o daw Saesnes hir
I baradwys ein brodir?…
Cymer ferch Cymro farchawgDyma dystiolaeth ddiddorol am hunaniaethau diwylliannol yn Nyffryn Aur yn niwedd y bymthegfed ganrif. Nid yw ateb Harri Mil i’r cyngor hwn yn hysbys, ond fe briododd â Saesnes, a ffrwyth y briodas honno oedd Blaens (Blanche) Parri, llawforwyn enwog y frenhines Elizabeth I (Richardson 2007). Hendaid Blaens, felly, oedd Harri Gruffudd.

Llyfryddiaeth
Chapman, A. (2013), ‘ “He took me to the duke of York”: Henry Griffith, a “Man of War” ’, 103–34
Herbert, A. (1981), ‘Herefordshire, 1413–61: Some Aspects of Society and Public Order’, R. Griffiths (ed.), Patronage, the Crown and the Provinces in Later Medieval England (Gloucester), 103–22
Johnson, P.A. (1988), Duke Richard of York 1411–1460 (Oxford)
Jones, A.E. (1981), ‘Gwilym Tew: Astudiaeth Destunol a Chymharol o’i Lawysgrif Peniarth 51, ynghyd ag Ymdriniaeth â’i Farddoniaeth’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Richardson, R. (2007), Mistress Blanche, Queen Elizabeth’s Confidante (Woonton)
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)
Williams, D.H. (1976), White Monks in Gwent and the Border (Pontypool)


Top
  • AASTAnglesey Antiquarian Society and Field Club Transactions, 1913- ŷŵ
  • ActauActauyr Apostolion yn y Testament Newydd
  • ActsThe Acts of the Apostles in the New Testament
  • APD.Gwenallt Jones (gol.), Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934)
  • Arch CambArchaeologia Cambrensis, 1846
  • ArchifMRCronfa Ddata Enwau Lleoedd: Archif Melville Richards / Archif Melville Richards Place-name Database
  • <http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr>
  • Arm PIfor Williams (gol.), Armes Prydein o Lyfr Taliesin (Caerdydd, 1955)
  • Arm P2Ifor Williams (ed.), Armes Prydain from the Book of Taliesin, English version by Rachel Bromwich (Dublin, 1972)
  • ASCentM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Apocrya Sin Cent (Aberystwyth, 2004)
  • BBwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 1921-93
  • BaLlawysgrif yng nghasgliad Prifysgol Cymru, Bangor
  • Ba(M)Llawysgrif yng nghasgliad Bangor (Mostyn) ym Mhrifysgol Cymru, Bangor
  • BarnwyrLlyfry Barnwyr yn yr Hen Destament
  • BDHenry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942)
  • BDeD.Simon Evans, Buchedd Dewi (Caerdydd, 1959)
  • BDGOwen Jones a William Owen (goln.), Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (Llundain, 1789)
  • BeirnJ. Morris Jones, Y Beirniad (1911-20)
  • BettisfieldCasgliad Bettisfield yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / The Bettisfield collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BLLlawysgrifau Ychwanegol yngnghasgliad y Llyfrgell Brydeinig, Llundain / The Additional Manuscripts in the British Library, London
  • BlBGCC Marged Haycock (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (Llandybe, 1994)
  • Bl BXIV Dafydd Johnston (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif arDdeg (Llandybe, 1989)
  • BodLlawysgrif yng nghasgliad Bodewryd, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth / A manuscript in the Bodewryd collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BodWLlawysgrif Gymreig yng nghasgliadLlyfrgell Bodley, Rhydychen / A Welsh manuscript in the Bodleian Library, Oxford
  • 1 BrenhinoeddLlyfr Cyntaf y Brenhinoedd yn yr Hen Desatement
  • 2 BrenhinoeddAil Lyfr y Brenhinoedd yn yr Hen Destament
  • BrenSaesThomas Jones (gol.), Brenhinedd y Saesson (Caerdydd, 1971)
  • BritishHOBritish History Online http://www.british-history.ac.uk>
  • BrMIfor Williams (gol.), Breuddwyd Maxen (Bangor,1908)
  • BrM2Brynley F. Roberts (ed.), Breudwyt Maxen Wledic (Dublin, 2005)
  • BrogLlawysgrif yng nghasgliad Brogyntyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Brogyntyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BRhMelville Richards (gol.), Breudwyt Ronabwy (Caerdydd, 1948)
  • BTThomasJones (gol.), Brut y Tywysogyon PeniarthMs. 20 (Caerdydd, 1941)
  • BYThomas Jones (gol.), Y Bibyl Ynghymraec (Caerdydd, 1940)
  • ByCyY Bywgraadur Cymreig hyd 1940(Llundain, 1953)
  • ByCy Ar-leinY Bywgraffiadur Ar-lein
  • <http://yba.llgc.org.uk/cy/index.html>
  • CLlawysgrifyn Llyfrgell Ganolog Caerdydd / A manuscript in Cardiff Central Library
  • CAIfor Williams (gol.), Canu Aneirin, (Caerdydd, 1938)
  • CAMBMCatalogueof Additions to the Manuscripts in the British Museum
  • CCJ. Fisher (ed.), The Cefn Coch MSS (Liverpool, 1889)
  • CCRCalendarof the close rolls preserved in the Public Record Office [12721509] (London,1900-63)
  • CDJohn Morris-Jones, Cerdd Dafod (Rhydychen, 1925)
  • CFGMelville Richards, Cystrawen y Frawddeg Gymraeg (ail arg.,Caerdydd, 1970)
  • CLC2Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (ailarg., Caerdydd, 1997)
  • CLlHIfor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen (Caerdydd, 1935)
  • CLlLlBrynley F. Roberts (ed.), CyfrancLludd a Llefelys (Dublin, 1975)
  • CMLlawysgrif yng nghasgliad Cwrtmawr, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Cwrtmawrcollection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • CMCSCambridge Medieval Celtic Studies,19811993; Cambrian Medieval CelticStudies, 1993
  • CMOC2Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (ailarg., Pen-y-bont ar Ogwr, 1998)
  • CO3 Rachel Bromwich a D. Simon Evans(goln.) gyda chymorth D.H. Evans Culhwchac Olwen (Caerdydd, 1997)
  • CPRCalendar of Patent Rolls preserved in the Record Office (London, 18911986)
  • CSTBP.J.Donovan (gol.), Cywyddau Serch y Tri Bedo(Caerdydd, 1982)
  • CTIfor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)
  • CTCCatrin T. Beynon Davies, `Cerddir TaiCrefydd (M.A. Cymru [Bangor], 1973)
  • CyY Cymmrodor, The Magazine of the HonourableSociety of Cymmrodorion, 18771951
  • CylchgCHSFeirCylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirion (n)ydd, 1949
  • CylchgHCCylchgrawnHanes Cymru, 1960
  • Cylchg LlGC Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru,1939
  • ChOIfor Williams (gol.), Chwedleu Odo (Wrecsam, 1926)
  • 1 Chronicles The First Book of the Chronicles in the Old Testament
  • 2 Chronicles The Second Book of the Chronicles in the Old Testament
  • Datguddiad`Datguddiad Ioan' yn y Testament Newydd
  • DBHenry Lewis a P. Diverres (goln.), Delwy Byd (Caerdydd, 1928)
  • DEThomas Roberts (gol.), Gwaith Dafydd ab Edmwnd (Bangor, 1914)
  • DGAHelenFulton (ed.), Selections from the Dafyddap Gwilym Apocrypha (Llandysul, 1996)
  • DGG Ifor Williams a TRoberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym ai Gyfoeswyr (Bangor, 1914)
  • DGG2Ifor Williams a T. Roberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i Gyfoeswyr(ail arg., Caerdydd, 1935)
  • DG.netDafydd ap Gwilym.net <http://www.dafyddapgwilym.net>
  • DNThomasRoberts and Ifor Williams (eds.), ThePoetical Works of Dafydd Nanmor (Cardi and London, 1923)
  • DNB2H.C.G. Matthew and B. Harrison (eds.), Oxford Dictionary of National Biography (Oxford, 2004)
  • DNBOnlineOxford Dictionary of National Biography <http://www.oxforddnb.com/>
  • DWBWelsh Biography Online
  • <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • DWHMichael Powell Siddons, The Development of Welsh Heraldry (3vols., Aberystwyth, 19913)
  • L.Dwnn: HVS.R. Meyrick (ed.), Heraldic Visitations of Wales (Llandovery,1846)
  • EANCR.J. Thomas, Enwau Afodyn a Nentydd Cymru Caerdydd, 1938)
  • EEWT.H. Parry-Williams, The English Element in Welsh (Londons, 1923)
  • tudesÉtudes celtiques, 1936
  • EVWM.E. Griths, Early Vaticination in Welsh with English Parallels (Cardi, 1937)
  • EWGTP.C. Bartrum (ed.), Early Welsh Genealogical Tracts (Cardiff, 1966)
  • GJ. Lloyd-Jones (gol.), Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg(Caerdydd, 1931-63)
  • GazMFEWGazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516 <http://www.history.ac.uk/cmh/gaz/gazweb2.html>
  • GBDdGwaith Bleddyn Ddu, gol. R. Iestyn Daniel (Aberystwyth, 1994)
  • GBFRhian M. Andrews et al. (goln.), Gwaith Bleddyn Fardd a Beirdd Eraill AilHanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1996)
  • GCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Casnodyn (Aberystwyth, 1999)
  • GCBMiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,i (Caerdydd, 1991)
  • GCBMiiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,ii (Caerdydd, 1995)
  • GDBN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill o FeirddHanner Cyntaf y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1995)
  • GDCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o LyfrCoch Hergest (Aberystwyth, 2002)
  • GDEpOwen Thomas (gol.), Gwaith Dafydd Epynt (Aberystwyth, 2002)
  • GDG Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym(Caerdydd, 1952)
  • GDG3 Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (trydydd arg., Caerdydd, 1979)
  • GDGorErwain H. Rheinallt (gol.), Gwaith Dafydd Gorlech (Aberystwyth,1997)
  • GDIDA.Eleri Davies (gol.), Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992)
  • GDLlW. Leslie Richards (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn(Caerdydd, 1964)
  • Genesis`Llyfr Genesis' yn yr Hen Destament
  • GenesisThe Book of Genesis in the Old Testament
  • GEOR. Geraint Gruydd a Rhiannon Ifans(goln.), Gwaith Einion Oeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug, gol. (Aberystwyth, 1997)
  • GGDTN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Gruudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995)
  • GGHD.J. Bowen (gol.), Gwaith Gruudd Hiraethog (Caerdydd, 1990)
  • GGGrBarry J. Lewis ac Eurig Salisbury (goln.), Gwaith Gruffudd Gryg(Aberystwyth 2010)
  • GGlJ. Llywelyn Williams ac Ifor Williams (goln.), Gwaith Gutor Glyn (Caerdydd, 1939)
  • GGl2 J. Llywelyn Williams ac Ifor Williams(goln.), Gwaith Guto'r Glyn (ail arg., Caerdydd, 1961)
  • GGLlRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruudd Llwyd ar Llygliwiaid Eraill(Aberystwyth, 2000)
  • GGMDiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, i, Canu i deulu Penmynydd (Aberystwyth, 2003)
  • GGMD iiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, ii, Canu Crefyddol (Aberystwyth, 2005)
  • GGMDiiiAnn Parry Owen (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, iii, Canu Amrywiol (Aberystwyth, 2007)
  • GGrGRhiannon Ifans, Ann Parry Owen,W. Dyfed Rowlands ac Erwain H. Rheinallt (goln.), Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog, Mab Clochyddyn, Gruudd ap Tudur Goch ac Ithel Ddu (Aberystwyth, 1997)
  • GHCIslwyn Jones (gol.), Gwaith Hywel Cilan (Caerdydd, 1963)
  • GHCEMHuw Ceiriog Jones (gol.), Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor(Caerdydd, 1990)
  • GHDA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Huw ap Dafyddap Llywelyn ap Madog (Aberystwyth, 1995)
  • GHSDylanFoster Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwala'i deulu (Aberystwyth, 2000)
  • GIBHGwaithIeuan Brydydd Hir (gol.), M. Paul Bryant-Quinn (Aberystwyth, 2000)
  • GIFHowell L. Jones ac E.I. Rowlands(gol.), Gwaith Iorwerth Fynglwyd(Caerdydd, 1975)
  • GIGD.R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988)
  • GILlFM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Ieuan ap Llywelyn Fychan, Ieuan Llwyd Brydydd a Lewys Aled (Aberystwyth, 2003)
  • GIRhR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth,2003)
  • GLDA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Lewys Daron (Caerdydd, 1994)
  • GLGCDafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd,1995)
  • GLMEurys I. Rowlands, Gwaith Lewys Mn (Caerdydd, 1975)
  • GLMorgA. CynfaelLake (gol.), Gwaith Lewys Morgannwg (dwy gyfrol, Aberystwyth, 2004)
  • GLlR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Llawdden (Aberystwyth, 2006)
  • GLlBHAnn Parry Owen a Dylan Foster Evans(gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996)
  • GLlFKathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994)
  • GLlGDafydd Johnston (gol.), Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen(Aberystwyth, 1998)
  • GLlLlElin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn `Prydydd y Moch' (Caerdydd, 1989)
  • GMBJ.E. Caerwyn Williams et al. (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994)
  • GMBrA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Mathau Brwmld (Aberystwyth,2002)
  • GMDHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Madog Dwygraig (Aberystwyth,2006)
  • GMRhEnid Roberts (gol.), Gwaith Mareduddap Rhys ai Gyfoedion (Aberystwyth, 2003)
  • GMWD. Simon Evans, A Grammar of Middle Welsh (Dublin, 1964)
  • GMWLTimothy Lewis, A Glossary of Mediaeval Welsh Law (Manchester,1913)
  • GOE. Bachellery (d.), Loeuvre potique de Gutun Owain(Paris, 19501)
  • GOLlMEurys Rolant (gol.), Gwaith Owain ap Llywelyn ab y Moel(Caerdydd, 1984)
  • GP G.J. Williams ac E.J. Jones (gol.), Gramadegaur Penceirddiaid (Caerdydd,1934)
  • GPBHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan, Rhys ap Dafydd ab Einion, Hywel Ystorm, a cherddi dychan dienw o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth,2000)
  • GPCGeiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950)
  • GPC2Geiriadur Prifysgol Cymru (ail argraad, Caerdydd, 2003)
  • GPhEM.Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Syr Phylib Emlyn, Syr Lewys Meudwy a Mastr Harri ap Hywel (Aberystwyth, 2001)
  • GRhBEurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Rhys Brydydd a Rhisiart ap Rhys (Caerdydd,1976)
  • GRhGEDylan Foster Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007)
  • GSCA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin Ceri (Aberystwyth, 1996)
  • GSCyfR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd 'Sypyn Cyfeiliog a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998)
  • GSDTRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2005)
  • GSHA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin ap Hywel (Aberystwyth, 1999)
  • GSRhNerys Ann Jones ac Erwain Haf Rheinallt(gol.), Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn,Gruudd Fychan ap Gruudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth,1995)
  • GSTEnid Roberts (gol.), Gwaith Sin Tudur (2 gyf., Caerdydd,1980)
  • GTPThomas Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap TudurPenllyn, gol. (Caerdydd, 1958)
  • GwynLlawysgrif yng nghasgliad J. Gwyneddon Davies, yn Llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor
  • GyBDafydd Johnston (gol.), Galar y Beirdd: Marwnadau Plant/Poets'Grief: Medieval Welsh Elegies for Children (Caerdydd, 1993)
  • HCLlLeslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac Eraill(Caerdydd, 1953)
  • HPEHistoriaPeredur vab Efrawc, gol. Glenys Witchard Goetinck (Caerdydd, 1976)
  • HPFJ.Y.W. Lloyd, The History of Powys Fadog, (6 vols., London, 18817)
  • IDIfor Williams (gol.), Casgliad o Waith Ieuan Deulwyn (Bangor,1909)
  • IGEHenry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (Bangor, 1925)
  • IGE2Henry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (ail arg., Caerdydd, 1937)
  • IGPDafydd Johnston (ed.), Iolo Goch: Poems (Llandysul, 1993)
  • Ioan`Yr Efengyl yn l Sant Ioan' yn y Testament Newydd
  • JMHRSJournalof the Merioneth Historical and Record Society, 1949
  • JohnThe Gospel according to John in theNew Testament
  • JudgesThe Book of Judges in the Old Testament
  • KAA 2Patricia Williams (gol.), Kedymdeithyas Amlyn ac Amic (Caerdydd,1982)
  • 1 KingsThe First Book of the Kings in the Old Testament
  • 2 KingsThe Second Book of the Kings in the Old Testament
  • LBSS. Baring-Gould and J. Fisher, The Lives of the British Saints (4vols., London, 190713)
  • Luc`Yr Efengyl yn l Sant Luc' yn yTestament Newydd
  • LukeThe Gospel according to Luke in theNew Testament
  • LlAJ. Morris Jones and John Rhŷs (eds.), The Elucidarium from Llyvyr Agkyr Llandewivrevi (Oxford, 1894)
  • LlBS.J. Williams a J.E. Powell (gol.), Cyfreithiau Hywel Dda yn l Llyfr Blegywryd(Caerdydd, 1942)
  • LlCyLlnCymru, 1950
  • LlGCLlawysgrif yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the collection of theNational Library of Wales, Aberystwyth
  • LlIAled Rhys Wiliam (ed.), Llyfr Iorwerth (Cardi, 1960)
  • LlstLlawysgrif yng nghasgliad Llanstephan, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Llanstephan collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Marc`Yr Efengyl yn l Sant Marc' yn y Testament Newydd
  • MarkThe Gospel according to Mark in the New Testament
  • Mathew`Yr Efengyl yn l Sant Mathew' yn y Testament Newydd
  • MatthewThe Gospel according to Matthew in the New Testament
  • MCFY Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau / The Index to Welsh Poetry inManuscript
  • <http://maldwyn.llgc.org.uk>
  • MEDMiddle English Dictionary (Michigan, 1963)
  • MonWMonastic Wales <http://www.monasticwales.org>
  • MontCollCollections Historical and Archaeological... by the Powysland Club, 1868
  • MosLlawysgrif yng nghasgliad Mostyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Mostyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • MWMDaniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Cardiand Aberystwyth, 2000)
  • NCENewCatholic Encyclopaedia (New York, 1967-79)
  • NCLWMeic Stephens (ed.), The New Companion to the Literature of Wales(Cardiff, 1998)
  • NLWJNational Library of Wales Journal, 1939
  • OBWVThomasParry (ed.), The Oxford Book of Welsh Verse (Oxford, 1976)
  • OCD3Simon Hornblower and Antony Spawforth(eds.), The Oxford Classical Dictionary(third ed., Oxford, 1996)
  • ODCC3F.L. Cross and E.A. Livingstone (eds.), The Oxford Dictionary of the Christian Church (third ed., Oxford, 1967, revised 2005)
  • OED2The Oxford English Dictionary (second ed., Oxford, 1989)
  • OED OnlineThe Oxford English Dictionary
  • <http://www.oed.com>
  • PACFJ.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Bangor, 1914)
  • PenLlawysgrif yng nghasgliad Peniarth, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Peniarth collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Peniarth49E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 49 (Caerdydd, 1929)
  • Peniarth67E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (ed.), Peniarth 67 (Cardiff, 1918)
  • Peniarth76E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 76 (Caerdydd, 1927)
  • PKM Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930)
  • PsalsmThe Psalms in the Old Testament
  • RBJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Bruts from the Red Book of Hergest (Oxford, 1890)
  • RCAHM (Anglesey)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Anglesey (London, 1937)
  • RCAHM (Caernarvonshire) An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Caernarvonshire (3 vols.,London, 1956, 1960, 1964)
  • RCAHM (Flint)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire, Vol II: County of Flint (London, 1912)
  • RCAHM (Merionethshire) An Inventory of Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Merionethshire (London, 1921)
  • RepWMDaniel Huws, Repertory of Welsh Manuscripts (iw gyhoeddi)
  • RevelationThe Revelation to John in the New Testament
  • RMJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Mabinogion from the Red Book of Hergest(Oxford, 1887)
  • RWMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), Report on Manuscripts in the Welsh Language(London, 18981910)
  • SalmauLlyfr y Salmau yn yr Hen Destament
  • SCStudiaCeltica, 1966
  • SoldierLMEThe Soldier in later Medieval England
  • <http://www.medievalsoldier.org>
  • StoweLlawysgrif o gasgliad Stowe yn yLlyfrgell Brydeinig
  • TAT. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926)
  • TCT.J.Morgan, Y Treigladau au Cystrawen (Caerdydd,1952)
  • TCHSTransactionsof the Caernarvonshire Historical Society, 1939
  • TCHSDdTrafodionCymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 1952
  • TCHSGTrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon,1939
  • TDHSTransactionsof the Denbighshire Historical Society, 1952
  • THSCTheTransactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1892/3
  • TLlMG.J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948)
  • TYP3Rachel Bromwich (ed.), Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (third ed., Cardi, 2006)
  • WATU Melville Richards, Welsh Administrative and TerritorialUnits (Cardi, 1969)
  • WBOnlineWelsh Biography Online <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • WCDP.C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 (Aberystwyth, 1993)
  • WGJ. Morris Jones, A Welsh Grammar (Oxford, 1913)
  • WG1P.C.Bartrum, Welsh Genealogies AD 300-1400 (Cardiff, 1974)
  • WG2P.C. Bartrum, Welsh Genealogies AD 1400-1500 (Aberystwyth, 1983)
  • WHRThe Welsh History Review, 1960-
  • WMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), The White Book Mabinogion (Pwllheli,1907; adargraffiad, Caerdydd, 1973)
  • WyLlawysgrif yng nghasgliad Wynnstay, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Wynnstay collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • YBJ.E. Caerwyn Williams (gol.), Ysgrifau Beirniadol, (Dinbych, 1965 )
  • YBHMorgan Watkin (gol.),Ystorya Bown de Hamtwn, (Caerdydd, 1958)
  • YCM2Stephen J. Williams (gol.), Ystorya de Carolo Magno (ail arg.,Caerdydd, 1968)
  • YER. Iestyn Daniel (gol.), Ymborth yr Enaid (Caerdydd, 1995)
  • YEPWCGruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (Caerdydd, 1986)
  • YGIVGwilymLloyd Edwards (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Caerdydd, 1999)
  • YMThA.O.H. Jarman (gol.), Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (Caerdydd, 1951)