Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn 31 copi sy’n dyddio o ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae llawer o ôl trosglwyddo ar y testunau, gyda chryn amrywio yn nhrefn y llinellau, bylchau a chroesddylanwadu. Er gwaethaf hynny, odid na ellir eu holrhain i un gynsail ysgrifenedig eithr gan gofio bod yr amrywio mynych yn nhrefn y llinellau yn awgrymu bod cryn drosglwyddo llafar, ac nid trosglwyddo ysgrifenedig yn unig, wedi bod ar y testun yn ddiweddarach. Ac eithrio Stowe 959 a Pen 83, mae llawysgrifau’r gerdd yn dwyn cyswllt â gogledd a chanolbarth Cymru.
Peth trawiadol am y testunau hyn yw bod nifer ohonynt yn gopïau gan feirdd: mae BL 14986 yn llaw Simwnt Fychan, Pen 83 yn llaw Dafydd Benwyn, Pen 68 yn llaw Rhys Cain a Pen 117 yn llaw ei fab Siôn, C 2.617 yn llaw Huw Machno a Llst 53 yn llaw Siâms Dwnn. Y rheswm am hyn, mae’n debyg, yw y buasai’r gerdd o ddiddordeb mwy na’r cyffredin i’r beirdd am ei bod yn enghreifftio math neilltuol o anhawster a fyddai’n sicr o wynebu bardd ar dro, sef canmol noddwr yn ei ffordd ei hun pan oedd llawer o’i gyd-feirdd eraill eisoes wedi ei ganmol, a byddai’n addas iddynt i’w dysgu a’i chofio. Fel hyn, mae’n debyg, y cafwyd yr holl amrywio yn nhrefn y llinellau, a’r ffin rhwng trosglwyddo ysgrifenedig a llafar yn llai pendant na’r arfer. Mae’n drawiadol, er hynny, mor dda yw testun y gerdd a gellir priodoli hynny i raddau, mae’n debyg, i symlder ac eglurder cofiadwy ei chynnwys.
Ac eithrio’r drylliau Llst 55, Stowe 959, Pen 221, 21 a Pen 221, 137, ymranna’r testunau yn dri phrif fath, X1, X2 a X3 (gw. stema). O’r rhain y cyntaf yw’r gorau. Yn wahanol i X2, X3, ni chynnwys 53–4, ond ar bwys rhagoriaeth ei ddarlleniadau, y tebyg yw i’r llinellau gael eu colli. Ceir rhai testunau nad ydynt yn cyfateb yn dwt i’r tri math, sef Brog I.2, Llst 118, LlGC 3051D a CM 27. Ymddengys fod Llst 118 yn perthyn yn ei hanfod i lawysgrifau X1 ond rhaid bodloni i gysylltu’r lleill yn llac â chynsail y gerdd. O’r drylliau Llst 55, Pen 221, 21 a Pen 221, 137, rhy ychydig sydd i fedru pennu unrhyw berthynas rhyngddynt a’r testunau eraill o’r gerdd. Fodd bynnag, erys deunaw llinell o Stowe 959, a chyn belled ag yr ânt, dilynant yr un drefn â llinellau testunau X2, serch bod cwpled (15–16) yn eisiau.
O’r holl destunau, ceir y darlleniadau gorau yn X4, X5 a Llst 118. Boddhaol hefyd yw trefn eu llinellau, ac odid nad hwy sy’n dod agosaf at drefn llinellau cynsail y gerdd. Gellir ystyried dilyniannau amrywiol llinellau’r testunau eraill gan amlaf yn wyriadau oddi wrth y drefn honno (am eithriad, gw. 53–4n), a chyfetyb hyn i raddau i safon gyffredinol is eu darlleniadau geiriol.
Trawsysgrifiadau: BL 14986, Gwyn 4, LlGC 3049D, BL 14965, Llst 118.
2 Dewi’r Ceir daw’r yn rhai o’r llawysgrifau ond gwna’r llinell yn fyr o sillaf. Diddorol yw sylwi mai Dei’r (ffurf ar Dewi) a geir yn Gwyn 4 a LlGC 3049D ond bod y darlleniad wedi ei newid yn daw yn yr ail.
5 fy Dyma ddarlleniad y rhan fwyaf o’r llawysgrifau. Yn nhestunau X4 (a cf. Brog I.2), darllenir wyd ond llai naturiol yw hyn ac edrych fel ymgais i ddod â math mwy cyffredin o gynghanedd (sef cynghanedd sain anghytbwys ddyrchafedig) i’r llinell er bod ynddi eisoes gynghanedd sain gadwynog.
10 Ceir llawer o gamgopïo ar y llinell hon yn y llawysgrifau. Y llawysgrifau cynharaf sy’n rhoi darlleniad y testun yw BL 14986 (Nev ssin ynn y ssy yno), Gwyn 4 (Ne Sin yn y sy yno), a dyma’r darlleniad gorau.
12 i osb atam Dyma ddarlleniad BL 14986, Gwyn 4, LlGC 3049D, BL 14965, Pen 68, Llst 118, Pen 117[i] (hosb attam). Ceir prif amrywiad arall yn llawer o’r llawysgrifau, sef eos battam yn Pen 83, BL 14898, Brog I.2, BL 14978 (oes batam), LlGC 728D, Stowe 959, LlGC 3051D, C 2.617, LlGC 5273D a Llst 123, ond amlwg, o safbwynt ystyr, mai gwall ydyw a ddaeth o gamddarllen a chamrannu’r geiriau; cf. CM 27, Llst 53 ynys battam. Camrennir y geiriau hefyd (eithr gan gadw’r arddodiad i) yn LlGC 21248D, Pen 117(ii), Pen 152, Llst 156.
14 Pab … dir Yn LlGC 3049D hepgorwyd y llinell hon ar gam ond yn ei lle cyflenwyd gan law arall y darlleniad parch a phen kydewendir nas ceir yn un o’r testunau eraill ac eithrio Brog I.2 a dichon fod yma enghraifft o groesddylanwadu.
16 cedwi Dyma ddarlleniad testunau X4 (LlGC 728D ked i; cf. ibid. caw am cadw yn 17 lle collwyd llythyren yn yr un modd). Ceir hefyd y darlleniadau cadw, ceidw, a’n ceidw ond gwna’r ddau gyntaf y llinell yn rhy fyr o sillaf ac edrych yr olaf fel ymgais i unioni hyd y llinell. Gthg. GGl a’n ceidw.
17 i’n Ceir yn hefyd yn llawer o’r llawysgrifau ond ni cheir cystal synnwyr a diau mai amwyster orgraffyddol yn yn y llawysgrifau a barodd hyn.
18 Dyrnllug Amrywia’r ffurf yn y llawysgrifau, a’r rhan fwyaf ohonynt yn anghywir. Ceir y darlleniad hwn yn LlGC 728D (deiyrnllvc yn BL 14986, BL 14965) a Llst 118; cf. hefyd Pen 83 a Stowe 959 dyrnllig.
20 na’r Dyma ddarlleniad testunau BL 14986, BL 14965 a thestunau X5, sydd ymysg y testunau gorau a chynharaf. Ceir hefyd yr amrywiadau y, er, or, ar y, ar sydd hwythau’n rhoi synnwyr boddhaol ond sydd hefyd efallai’n ymdrechion i gael gwared o’r n ganolgoll. GGl er (cf. Pen 68, Llst 118, CM 27).
21 er rhoi … i’r rhai Dyma ddarlleniad testunau X4 (LlGC 728D ir rroi). Roi da i rhai a geir yn Gwyn 4 ond gwna’r llinell yn fyr o sillaf. [ ] rhoi da ir hai yw darlleniad LlGC 3049D, ac efallai mai a oedd y gair cyntaf (megis yn Pen 68). Ceir hefyd y darlleniad I roi … i rai (e.e. yn BL 14898, Llst 118, a cf. GGl) ond mae pwysau y testunau cynnar mwy o blaid rh … rh, ac amrywia er gystrawen 20–1 o i y llinell flaenorol mewn ffordd foddhaol.
22 daly GGl dal. Ceir daly yn Gwyn 4, LlGC 3049D, dal y yn C 2.617, sy’n awgrymu mai daly oedd darlleniad X5. Mae’n arwyddocaol hefyd mai dal y a geir yn BL 14986, BL 14965, ffrwyth camddeall daly am dal a’r fannod. (Ar yr ymadrodd daly tŷ, gw. 39.12n).
24 â Dyma ddarlleniad BL 14986, BL 14965 a thestunau X5 (ond Gwyn 4 da dan ddylanwad wlad). Mewn llawysgrifau diweddarach y prif amrywiad yw aed (e.e Pen 68, BL 14898, &c., a cf. GGl) ond ymddengys hyn fel ymgais i adfer d i’r gynghanedd er bod d yno eisoes yn niwedd yr orffwysfa (fel cynghanedd groes o gyswllt).
30 weldyna Felly destunau X4 (LlGC 728D wyldyna). Ceir llyna gan X5 ond gwna’r llinell yn fyr o sillaf. Ceir amrywiadau diweddarach megis a dyna, fal llyna, a llyna (cf. GGl).
32 anamlaf Dyma’r darlleniad (An amla) a geir yn BL 14986, BL 14965, testunau X5 a Llst 118. Ceir anhowsa a mân amrywiadau arno yn y testunau eraill (gan gynnwys LlGC 728D; ond an hawdda yn Pen 83 ac an howwa yn Pen 68). Rhydd yr ail gystal synnwyr ond derbynnir y cyntaf ar sail awdurdod testunau X4 a X5 yn gyffredinol.
33 ar Dyma ddarlleniad LlGC 3049D a’r rhan fwyaf o’r testunau eraill. i a geir yn X4, Gwyn 4. Gellid ystyried i (yn yr ystyr ‘ar gyfer’) ond golyga ailadrodd yr arddodiad (er mai gwahanol yw ei ffurf a’i ynganiad yn y ddau achos).
36 a dyr Dyma’r darlleniad mwyaf cyffredin a’r unig un a rydd linell union ei hyd. Fe’i ceir hefyd yn nhestunau X4. Y prif amrywiad arall yw i dorri (e.e. BL 14898, CM 27, a cf. GGl). Yn Gwyn 4 ceir y darlleniad A dore’r a dyna a oedd yn LlGC 3049D hefyd cyn ei newid yn i dori ond nis ceir yn unman arall.
42 wedd Dyma ddarlleniad LlGC 3049D a’r rhan fwyaf o’r llawysgrifau; cf. hefyd Gwyn 4 well, bai amlwg amdano. Ceir weddai yn nhestunau X4, darlleniad posibl ond llai tebygol, efallai.
45 dilesgerdd Dyma’r darlleniad mwyaf cyffredin, ac fe’i ceir yn nhestunau X5. Gellid ystyried hefyd dilyscerdd X4, sydd yntau’n rhoi synnwyr purion, ond cf. 56.3 Adeilais gerdd, dilesg oedd.
48 gwŷdd Amrywia’r llawysgrifau rhwng wŷdd a gwŷdd. Y cyntaf a geir yn nhestunau X4. Yn nhestunau X5, gwydd a geir yn Gwyn 4 ond wydd yn LlGC 3049D. Mae’n ddiddorol sylwi, er hynny, mai gwydd a ysgrifennwyd gyntaf yn LlGC 3049D ond ddarfod ei newid wedyn yn wydd (gan ei drosglwyddo i destunau eraill y grŵp). Yn gystrawennol, mae’r ddwy ffurf yn gywir, gw. TC 207, ond ar sail 36 a dyr gwŷdd, penderfynwyd darllen gwŷdd.
48 llei Ceir yr amrywiad o yn nhestunau X5.
52 â’n Ceir y darlleniad hwn yn nhestunau X1 (ond mae’r llinell yn eisiau yn LlGC 728D), Brog I.2, Llst 118, C 2.617; ceir yn yn y testunau eraill. Gellir cynnig mai a yn a ysgrifennwyd yn wreiddiol ac i rai copïwyr droi hyn yn a’n ac eraill yn yn gan golli golwg ar yr a. Os felly, a’n a ddylid ei ddarllen, er bod yn hefyd yn rhoi synnwyr boddhaol (o drin y cwpled fel brawddeg enwol (‘sydd yn wehilion’).
Yn BL 14898 dilynir y llinell hon gan y cwpled naddv kerdd newydd koedd [gwall am koed] / nid ar wanngyll na dreingoed nas ceir yn yr un o’r llawysgrifau eraill. Nid yw BL 14898 ychwaith ymysg y testunau gorau o’r gerdd a diau mai ychwanegiad diweddarach yw’r cwpled.
53–4 Yn GGl dodir y cwpled hwn ar ôl 56 (cf. Llst 118). Ymhellach ar ei safle, gw. uchod.
53 gwawd Ceir gwaith hefyd yn yr amrywiadau, ond gwell a mwy penodol yw gwawd yn y cyd-destun.
54 Yn BL 14898, Brog I.2 a LlGC 5273D dilynir y llinell hon (heb amrywiadau) gan y cwpled ym henn katerwen teiriaith / mae lle i roi ymwyall ar wayth. Nid yw’r un o’r rhain ymysg testunau gorau’r gerdd ond nid oes perthynas neilltuol o agos rhyngddynt a’i gilydd. Megis yn achos BL 14898 yn dilyn 52 (gw. 52n), rhaid mai’n ddiweddarach yr ychwanegwyd y cwpled hwn.
62 chanbost chambost a geir fynychaf yn y llawysgrifau, gan gynnwys testunau X1 (ac eithrio LlGC 728D chan porth). Tebyg mai dylanwad ynganiad llafar sy’n cyfrif am hyn (cf., e.e., Dimbych o Dinbych) ond mae angen yr n ar gyfer y gynghanedd, megis yn Llst 118 (a cf. GGl).
62 a gwych GGl gwych o (cf. Llst 118) ond mae tystiolaeth y llawysgrifau yn drwm o blaid a gwych.
62 winben Ceir nifer o amrywiadau ar y gair (wim benn, wnnben, wmbenn, &c.) ond hawdd gweld mai winben, megis yn BL 14965, sydd orau yn y cyd-destun. GGl o unben (cf. Llst 118).
64 cholon Dyma ddarlleniad testunau X1 (ond ni ellir ei weld yn BL 14986 oherwyd traul a’r gwall cholol a geir yn BL 14965) a rhai o’r testunau eraill. Ceir y ffurf lawn cholofn mewn ambell un, e.e. Pen 83, Pen 68 a Brog I.2. Gellid bod wedi defnyddio cholofn gan na fyddai hynny’n amharu ar y gynghanedd ond cydgyfnewidiol yw’r ddwy ffurf gan amlaf, gw. GPC 544.
71 ein Hefrog GGl Yn Efrog (cf. Llst 118), fel pe bai yn y llawysgrifau yn dynodi’r arddodiad, ond mae tystiolaeth y llawysgrifau yn gryf iawn o blaid yr h ar ddechrau’r gair sy’n ei ddilyn.
71 yng Nglan Dyma ddarlleniad y rhan fwyaf o destunau X1; sylwer, er hynny, mai o lan a geir yn BL 14986 a LlGC 728D (ond yn glan yn BL 14965), a gellid ystyried y darlleniad hwn hefyd (er nad effeithia ar ystyr y cynnwys). Ceir y darlleniad ar lan hefyd mewn ychydig o lawysgrifau, e.e. Pen 68.
Roedd noddwr y cywydd hwn, Dafydd Llwyd ap Dafydd o’r Drenewydd, yn ŵr o fri yng nghantref Cedewain yng nghanol y bymthegfed ganrif ac yn noddwr pwysig a hael i feirdd.
Yn rhai o’r llawysgrifau disgrifir y gerdd fel ‘cywydd unnos’. Ceir yr esboniad llawnaf ar hyn yn rhaglith testun Gwyn 4:
Cywydd vnnos Rag bod eb vn Cywydd yr wyl lle daethe fo ar ddamwain am fod Swrdwal a llowddengwea chywydde ir gwr hwnnw ganthynt, medd Wiliam midlton Ao 1575.
Gellid dadlau mai cynnwys y gerdd ei hun yw ffynhonnell y gosodiad hwn, ond ceir enghreifftiau eraill o gerddi ‘unnos’. Yr un enwocaf, efallai, a’r gynharaf sy’n hysbys yw awdl Sypyn Cyfeiliog i Ddafydd ap Cadwaladr o Fachelltref y dadleuwyd bod amgylchiadau ei chyfansoddi yn wir yn eu hanfod (Daniel 1995). Yr un hefyd, sylwer, yn achos y ddwy gerdd yw’r rheswm a roddir, sef bod y bardd heb gerdd i’w noddwr pan gyrhaeddodd ei dŷ ond bod beirdd eraill yno a cherddi ganddynt eisoes (ibid. 56–7).
Mae hefyd rai enghreifftiau eraill, er mai gwahanol oedd yr amgylchiadau. Dywedir am gywydd marwnad Tudur Aled i Feistr Raff: Tudur Aled mewn noswaith yn Ruthun [h]yd y doedai Ho[wel] Gethin (TA 380). Dywed Wiliam Cynwal am gywydd a ganodd i ofyn i Iesu iacháu Siôn Salbri: Kowydd i mr John salbri escwiair aer syr John salbr[i] marchoc llaweni a siambrlen gwynedd a wnaed mewn nosswaith pann oedd ef yn glaf (Huws 1996: 119). A dywed Dafydd Johns, person Llanfair Dyffryn Clwyd, am gywydd Dafydd ab Edmwnd i Bedair Merch Duw a Phum Llawenydd, Pum Pryder a Saith Goruchafiaeth Mair: Llyma’n canlyn y cowydd merch a wnaeth Dauid ap Edmunt pan erchis Gruffyth ap Nicolas ir prudyddion wneythur un bob un erbyn tranoeth pan fu r eisteddfod ynghaer fyrddin [sef yn 1453] gar i fron ef ag i cas dd ap Edmwnd y gadair arian yn fwya o ran hwn (DE 164).
Ymranna’r gerdd yn ddwy brif ran. Yn y rhan gyntaf (llinellau 1–28), clodforir haelioni a phoblogrwydd Dafydd Llwyd fel noddwr, gyda phobl o bob cwr o Gymru yn tyrru ato. Yn yr ail ran (29–66), mae poblogrwydd Dafydd Llwyd, er mor glodwiw, hefyd yn peri tipyn o benbleth i Guto gan fod cynifer o feirdd eraill eisoes yn canu ei glodydd fel na ŵyr beth i’w ddweud ei hun. Mewn trosiad estynedig, sonia Guto am y beirdd yn cyfansoddi eu cerddi i Ddafydd fel dynion yn defnyddio pren o goedwig sydd bellach wedi ei dihysbyddu. Ond, yn gyfrwys iawn, mae Guto’n darganfod ei ‘goed’, sef cynnwys neilltuol ei gerdd ef, yn Nafydd Llwyd ei hun ac â ati i’w gyffelybu i dŷ pren a’r gwahanol ddarnau sy’n ei gynnal. Roedd synio am lunio cerdd fel peth tebyg i saernïo tŷ yn beth cyffredin yn y cyfnod. Yng Ngramadeg Gwysanau, testun o ail hanner y bedwaredd ganrif ar ddeg a geir yn Archifdy Sir y Fflint, D/GW MS 2082, dywedir (Parry Owen 2010: 17):
Kyntaf peth a dyly prydyd da: gwneuthur y gerd yn divei a medylyaw dychymic da diarfford. Megys y dyly y penssaer kyn dechrev edeilat y ty keissiaw y defnydyev y’r maes oll, a bwrw messur y ty a gwneuthur y grwndwal y’r ty yn lle sauo yn gadarn. Odyna y kyppleu a’r breichiev a’r tulathev a’r trostyev.
Ac yn y ganrif ddilynol, odid nad oedd yr holl waith adeiladu neu ailadeiladu tai a welwyd yn y cyfnod wedi gwrthryfel Owain Glyndŵr yn ysbardun pellach i’r Cywyddwyr yn eu delweddaeth (Huws 2007: 102–3, 110–11).
Dyddiad
Nid oes dim yn y gerdd sy’n gymorth i’w dyddio’n fanwl. Cynigir, yn fras iawn, ganol y bymthegfed ganrif.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd XLII. Ceir sylwebaeth hefyd yn Birt 1978: pennod VII.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 72 llinell.
Cynghanedd: croes 47% (34 llinell), traws 25% (18 llinell), sain 24% (17 llinell), llusg 4% (3 llinell).
2 Dewi’r glêr Cf. 44.58n. Hefyd, cymherir cartref Dafydd Llwyd yn 9 â Thyddewi.
9 Tyddewi Cyrchfan pererinion y cyffelybir tŷ Dafydd Llwyd iddo.
10 Sin Benthyciad o’r Saesneg Sheen, sef hen enw’r plas brenhinol ger Richmond-on-Thames, GGl 335; LGCD 118.
11 Ynys y Saint Cymerir mai Ynys Enlli a olygir; roedd traddodiad fod ugain mil o saint wedi eu claddu yno, gw. CLC2 234.
11 Sain Siâm Benthyciad o’r Saesneg St James, sef Santiago de Compostela yng ngogledd-orllewin Sbaen, cyrchfan pererinion, gw. IGE2 379.
14 Cydewain Cwmwd yn nhueddau dwyreiniol canolbarth Powys, gw. WATU 38, 255.
15 Croes Naid GPC 604 ‘the sacred jewelled cross of the princes of Gwynedd said to contain a part of the Holy Rood … fig. a symbol of protection and security’.
15 Ceri Cwmwd i’r de o Gedewain, gw. WATU 41, 255.
17–18 Cadell … / Dyrnllug Sylfaenydd llinach frenhinol Powys yn y bumed ganrif; fe’i crybwyllir gan Nennius, gw. Morris 1980: 68; Lloyd 1939: 243–4.
26 i’w lety Cyfeirir at lety y sawl sy’n aros yn nhŷ Dafydd Llwyd, nid at lety Dafydd Llwyd.
28 Ffwg Roedd Fulk Fitzwarine, a dyfynnu Bromwich 1986: 150, yn ‘outlaw in the reign of King John, and a member of a powerful family of Marcher Lords, owners of the castle of Whittington in Shropshire, and long-lasting enemies of their neighbours across the border, the princes of Powys’. Daeth yn arwr chwedlonol a chyfeirir ato’n fynych gan y Cywyddwyr; ymhellach, gw. GLl 9.53n.
34 Gwilym Nid yw’n eglur pwy oedd hwn ond dengys y cyd-destun mai bardd ydoedd. Tybed ai Gwilym ab Ieuan Hen, a ganodd, yntau, gywydd i Ddafydd Llwyd (GDID X)?
37 naddu Dyma un o’r berfau a ddefnyddid yn ffigurol gan y beirdd am saernïo cerdd.
41 i’th Cyfeirir at Ddafydd Llwyd (nid at 34 Wilym).
45 Swrdwal Roedd tri bardd o’r enw Swrdwal yn y bymthegfed ganrif, sef Ieuan Swrdwal, ei fab Hywel a mab Hywel, Dafydd. Ceir ymryson gan Hywel â Llawdden am farch a chan Ieuan â’r un bardd am lateiaeth, gw. GHS cerddi 18, 19, 31, 32; GLl cerddi 30, 31, 32, 33, ond anodd gwybod pa un o’r ddau gyntaf a olygir yma.
45 gwaisg Yn GGl fe’i cydir wrth saer ond gellir yr un mor hawdd ei gydio wrth Swrdwal gan gael gwell cytgord rhwng synnwyr a chynghanedd.
47 Llawdden â’i fwyell Fel y dywedir yn Williams: 1926, 86, ‘ymddengys i’r ymadrodd “ôl bwyall Llawdden” ddyfod yn fath o ddihareb’; gw. hefyd GLl 12. Yn GGl 335, dywedir iddo ganu cywydd i Ddafydd Llwyd, Denais dy gariad ynof, ond ni ellir ei gyfrif yn waith dilys Llawdden, gw. GLl 17.
49 angerdd Yngenir n ac g ar wahân (gw. GPC2 121), nid fel ng, fel y dengys hungwaith sy’n ei ateb. Felly hefyd yn 59.
50 mae’n llai o wŷdd cerdd Er bod ystyr y geiriau hyn yn ddigon clir, yr allwedd i’r gystrawen yw peidio â chydio o wrth llai ond deall rhyw air neu ymadrodd fel hyn / hynny neu hynny sydd o’i flaen.
62 gwinben GPC 1662 d.g. gwinben1, ‘trawst neu bren croes yn cysylltu dwy geibren mewn nen tŷ, gafaelbren’, benthyciad o’r Saesneg wind-beam ‘a cross-beam tying the rafters of a roof’.
64 o Wilym Mae’n ansicr at bwy y cyfeirir, ond roedd gan Gwenllïan, gwraig Dafydd Llwyd, orhendaid o’r enw Gwilym ab Einion Fawr a oedd yn dad i Gwilym Gam, tad y bardd Dafydd ap Gwilym, gw. WG1 ‘Gwynfardd’ 2; GDG xxvi–xxvii.
69 Ifor Sef Ifor Hael (Ifor ap Llywelyn), cyfaill a phrif noddwr Dafydd ap Gwilym ac ymgorfforiad o ddelfryd nawdd ymysg y beirdd, gw. CLC2 361–2.
71 Efrog Tad Peredur, arwr y rhamant o’r un enw. Gw. hefyd G 445; TYP3 478. Mae’n bosibl hefyd mai tŷ Dafydd Llwyd sydd dan sylw a bod Guto’n ei gyffelybu i’r enw lle, er yr ymddengys hynny’n llai tebygol.
71 Glan Hafren Anodd gwybod ai ardal ynteu dŷ a olygir. Heblaw enghraifft y testun, rhestrir deg enghraifft o’r enw ar gyfer Betws Cedewain y Drenewydd yn ArchifMR ond nid yw’r un ohonynt yn gynharach na’r ail ganrif ar bymtheg. Rhestrir tri lle o’r enw yng nghyffiniau’r Drenewydd ar Coflein, sef i. tomen bridd o gyfnod anhysbys a oedd gynt yn goediog ond bellach yn laswelltog; ii. ysgubor, o’r cyfnod ôl-ganoloesol efallai; iii. gardd plasty o’r cyfnod ôl-ganoloesol. Ceir hefyd blasty clasurol ei ddull o’r enw Glansevern hanner milltir i’r de-ddwyrain o Aberriw a ddyddir tua 1801–7, gw. Haslam 1979: 80, plât 77. Mae’r tri olaf yn rhy ddiweddar ac ni wyddys a oes rhyw gysylltiad rhwng enw’r domen bridd ac enw’r testun.
Llyfryddiaeth
Birt, P.W. (1978), ‘Delweddau Estynedig Guto’r Glyn’ (M.A. Cymru [Llanbedr Pont Steffan])
Daniel, R.I. (1995), ‘Rhaglith i Gerdd gan Sypyn Cyfeiliog: Dogfen Hanesyddol?’, Dwned, 1: 55–66
Daniel, R.I. (1997), ‘Cywydd Moliant a Brud i Ddafydd Llwyd ap Dafydd ab Einion o’r Drenewydd’, Dwned, 3: 53–61
Haslam, R. (1979), Powys (Montgomeryshire, Radnorshire, Breconshire) (Cardiff)
Huws, B.O. (1996), ‘Cerdd unnos’, Dwned, 2: 119
Huws, B.O. (2007), ‘Ailadeiladu Bywyd ar ôl Gwrthryfel Glyndŵr: Tystiolaeth y Canu i Foelyrch’, Dwned, 13: 97–137
Jones, E.D. (1955–6), ‘Some Fifteenth Century Welsh Poetry Relating to Montgomeryshire’, Mont Coll 54: 48–64
Lloyd, J.E. (1939), A History of Wales (third ed., London)
Morris, J. (1980) (ed.), Nennius: British History and The Welsh Annals (London and Chichester)
Parry Owen, A. (2010), ‘Gramadeg Gwysanau (Archifdy Sir y Fflint, D/GW 2082)’, LlCy 33: 1–31
Rowlands, E.I. (1958–9), ‘Moliant Dafydd Llwyd o’r Drefnewydd a’i Ddisgynyddion’, LlCy 5: 174–84
Williams, G.J. (1926), Iolo Morganwg a Chywyddau’r Ychwanegiad (Llundain)
Williams, R. (1894), Montgomeryshire Worthies (second ed., Newtown)
The subject of this cywydd, Dafydd Llwyd ap Dafydd of Newtown, was a man of renown in the cantref of Cedewain in the mid-fifteenth century and an important and generous patron of poets.
In some of the manuscripts the poem is referred to as a cywydd unnos ‘one-night cywydd’. This is most fully explained in the preface to the text of Gwyn 4:
Cywydd vnnos Rag bod eb vn Cywydd yr wyl lle daethe fo ar ddamwain am fod Swrdwal a llowddengwea chywydde ir gwr hwnnw ganthynt, medd Wiliam midlton Ao 1575.
‘A one-night cywydd in order to avoid being without a single cywydd at the feast to which he had happened to come, since Llawdden and Swrdwal had cywydd poems for that man, according to William Middleton, AD 1575.’
It could be argued that these words are based on the poem itself, but there are other instances of ‘one-night’ poems. The best-known, perhaps, and the earliest extant, is the awdl of Sypyn Cyfeiliog to Dafydd ap Cadwaladr of Bachelltref for which the argument has been advanced that the circumstances of its composition are essentially true (Daniel 1995). Note too that the reason adduced in both cases is the same – that the poet had no poem for his patron on reaching his house but that there were other poets present who already had theirs (ibid. 56–7).
There are also some other instances, although their circumstances vary. It is stated of Tudur Aled’s elegy to Meistr Raff: Tudur Aled mewn noswaith yn Ruthun [h]yd y doedai Ho[wel] Gethin (TA 380) ‘Tudur Aled (composed it) in one night according to Hywel Gethin.’ Wiliam Cynwal says of the cywydd that he sang to ask Jesus to heal Siôn Salbri: Kowydd i mr John salbri escwiair aer syr John salbr[i] marchoc llaweni a siambrlen gwynedd a wnaed mewn nosswaith pann oedd ef yn glaf (Huws 1996: 119) ‘A cywydd to Mr John Salbri Esq., heir of Sir John Salbri, knight of Lleweni and Chamberlain of Gwynedd, which was composed in one night when he was ill.’ And Dafydd Johns, parson of Llanfair Dyffryn Clwyd, says of Dafydd ab Edmwnd’s cywydd to the Four Women of God and the Five Joys, Five Sorrows and Seven Victories of Mary: Llyma’n canlyn y cowydd merch a wnaeth Dauid ap Edmunt pan erchis Gruffyth ap Nicolas ir prudyddion wneythur un bob un erbyn tranoeth pan fu r eisteddfod ynghaer fyrddin [sef yn 1453] gar i fron ef ag i cas dd ap Edmwnd y gadair arian yn fwya o ran hwn (DE 164) ‘Here follows the cywydd to a woman which Dafydd ab Edmwnd made when Gruffudd ap Nicolas told the poets to make one each by the following day when the Eisteddfod was held in Carmarthen [in 1453] in his presence and Dafydd ab Edmwnd won the silver chair mainly because of this.’
The poem falls into two main parts. In the first (lines 1–28), Dafydd Llwyd is praised for his generosity and popularity as a patron, with people from every corner of Wales flocking to him. In the second part (29–66), Dafydd Llwyd’s popularity, for all its praiseworthiness, also presents Guto with something of a problem as so many other poets are already singing his praises that he does not know what to say himself. In an extended metaphor Guto speaks of the poets composing their poems to Dafydd as though they were men using wood from a by now exhausted forest. However, Guto ingeniously discovers his ‘wood’, that is the particular content of his own poem, in Dafydd Llwyd himself and sets about likening him to a wooden house and the various components that support it. To conceive of a poem as something similar to fashioning a house was commonplace in the period. In the Grammar of Gwysanau, a text from the second half of the fourteenth century, Flintshire Record Office, D/GW MS 2082, it is stated (Parry Owen 2010: 17):
Kyntaf peth a dyly prydyd da: gwneuthur y gerd yn divei a medylyaw dychymic da diarfford. Megys y dyly y penssaer kyn dechrev edeilat y ty keissiaw y defnydyev y’r maes oll, a bwrw messur y ty a gwneuthur y grwndwal y’r ty yn lle sauo yn gadarn. Odyna y kyppleu a’r breichiev a’r tulathev a’r trostyev.
‘The first thing a good poet should do: fashion his poem faultlessly and show good, fresh imagination. Just as an architect, before starting to build the house, should seek all the materials in the field, and make a foundation for the house for it to stand firm. Then the couples and supports and beams and rafters.’
And in the following century all the building and rebuilding of houses in the period following Owain Glyndŵr’s revolt probably gave the poets of the cywydd further impetus in their imagery (Huws 2007: 102–3, 110–11).
Date
There is nothing in the poem to assist with dating. It was perhaps, very roughly speaking, sung around the middle of the fifteenth century.
The manuscripts
This cywydd has been preserved in 31 copies dating from the second half of the sixteenth century to the nineteenth century. The texts show many signs of transmission such as variation in line sequence, gaps and cross-influence. They can probably be derived from a single written exemplar but one which also underwent extensive oral transmission later. With the exception of Stowe 959 and Pen 83, the manuscripts are associated with north and mid Wales.
A striking feature of these texts is that a number of them were copied by poets: BL 14986 is in the hand of Simwnt Fychan, Pen 83 in that of Dafydd Benwyn, Pen 68 in that of Rhys Cain and Pen 117 in that of his son Siôn, C 2.617 in the hand of Huw Machno and Llst 53 in that of Siâms Dwnn. The probable reason for this is that the poem would have been of greater than usual interest to a poet since it exemplifies a particular kind of problem that would certainly face him on occasions, namely that of praising a patron in his own way when many of his fellow-poets had already praised him, and as such it would be suitable for learning and committing to memory. It was probably in this way that all the variation in line sequence came about, with the distinction between written and oral transmission somewhat blurred. The quality of the text is nonetheless impressive and can to some extent probably be attributed to the easily recalled simplicity and clarity of the content.
With the exception of the fragments in Llst 55, Stowe 959, Pen 221, 21 and Pen 221, 137, the texts fall into three main types of which the best is represented by BL 14986, BL 14965, LlGC 728D, Gwyn 4, LlGC 3049D and C 2.617. This type lacks 53–4 but this is probably due to an early slip in the process of transmission. Brog I.2, Llst 118, LlGC 3051D and CM 27 do not fit neatly into the scheme. It seems that Llst 118 is of the same type essentially as BL 14986, &c., while the other three can only be defined in a loose relationship with the archetype of the poem. Of the fragments in Llst 55, Pen 221, 21 and Pen 221, 137, there is insufficient text to define their relationship with the other manuscripts, but the eighteen lines of Stowe 959 follow the same sequence as that of another main type of text represented by Pen 83, Llst 53, Pen 68, Pen 117, 282, Pen 117, 501, except that 15–16 are wanting. In establishing the edited text the five following were used: BL 14986, Gwyn 4, LlGC 3049D, BL 14965 and Llst 118 (to supply 53–4).
Previous edition
GGl poem XLII. There is also a commentary in Birt 1978: chapter VII.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 72 lines.
Cynghanedd: croes 47% (34 lines), traws 25% (18 lines), sain 24% (17 lines), llusg 4% (3 lines).
2 Dewi’r glêr Cf. 44.58n. Dafydd Llwyd’s home is compared in 9 with St David’s.
9 Tyddewi The destination of pilgrims to which Dafydd Llwyd’s home is likened.
10 Sin From the English Sheen, the former name of the royal palace by Richmond-on-Thames, GGl 335; LGCD 118.
11 Ynys y Saint Probably Bardsey Island (Ynys Enlli); according to tradition, twenty thousand saints were buried there, see NCLW 38.
11 Sain Siâm A borrowing from English St James, namely Santiago de Compostela in north-west Spain, a pilgrim centre, see IGE2 379.
14 Cydewain A commote in the eastern region of central Powys, see WATU 38, 255.
15 Croes Naid GPC 604, ‘the sacred jewelled cross of the princes of Gwynedd said to contain a part of the Holy Rood … fig. a symbol of protection and security …’.
15 Ceri A commote to the south of Cedewain, see WATU 41, 255.
17–18 Cadell … / Dyrnllug Founder of the Powys dynasty in the fifth century; he is mentioned by Nennius, see Morris 1980: 68; Lloyd 1939: 243–4.
26 i’w lety A reference to the accomodation of those who stay at Dafydd Llwyd’s house, not to the accomodation of Dafydd Llwyd.
28 Ffwg Fulk Fitzwarine was, to quote Bromwich 1986: 150, ‘an outlaw in the reign of King John, and a member of a powerful family of Marcher Lords, owners of the castle of Whittington in Shropshire, and long-lasting enemies of their neighbours across the border, the princes of Powys’. He became a mythical hero and is frequently mentioned by the Cywyddwyr; further, see GLl 9.53n.
34 Gwilym The context suggests that he was a poet. Was he Gwilym ab Ieuan Hen, who also sang a cywydd to Dafydd Llwyd (GDID X)?
37 naddu This is one of the verbs used by the poets when referring to fashioning a poem.
41 i’th A reference to Dafydd Llwyd (not to 34 Wilym).
45 Swrdwal There were three poets of the name Swrdwal in the fifteenth century – Ieuan Swrdwal, his son Hywel and Hywel’s son Dafydd. There is extant a contest between Hywel and another poet Llawdden for a horse and between Ieuan and Llawdden for a woman, see GHS poems 18, 19, 31, 32; GLl poems 30, 31, 32, 33, but it is difficult to establish which of the first two is meant here.
45 gwaisg In GGl it is taken with saer but it can just as easily be taken with Swrdwal thereby improving the correspondence between sense and cynghanedd.
47 Llawdden â’i fwyell As stated in Williams 1926: 86, it appears that the expression ‘the mark of Llawdden’s axe’ became a kind of proverb; see also GLl 12. In GGl 335 it is stated that Llawdden sang a cywydd to Dafydd Llwyd, Denais dy gariad ynof ‘I attracted your love within me’, but it cannot be considered as Llawdden’s authentic work, see GLl 17.
49 angerdd Note that -ng- represents the sounds n and g (see GPC2 121), not ng, as shown by hungwaith which answers it. So too in 59.
50 mae’n llai o wŷdd cerdd Although the meaning of these words is clear enough, the key to the construction is not to take o with llai but to understand some word or expression such as hyn / hynny or hynny sydd as preceding it.
62 gwinben GPC 1662 s.v. gwinben1 ‘tie-beam, collar-beam’, borrowed from English wind-beam ‘a cross-beam tying the rafters of a roof’.
64 o Wilym It is uncertain who is meant, but Gwenllïan, Dafydd Llwyd’s wife, had a great-great-grandfather called Gwilym ab Einion Fawr who was father of Gwilym Gam, father of the illustrious poet Dafydd ap Gwilym, see WG1 ‘Gwynfardd’ 2; GDG xxvi–xxvii.
69 Ifor Ifor Hael (Ifor ap Llywelyn), friend and chief patron of Dafydd ap Gwilym and the embodiment of the ideal of patronage among the poets, see NCLW 347.
71 Efrog Father of Peredur, hero of the romance of the same name. See also G 445; TYP3 478. It is also possible that Dafydd Llwyd’s house is what is referred to and that Guto is likening it to the place name, although that appears less likely.
71 Glan Hafren It is difficult to know whether an area or a house is meant. Apart from this reference, there are ten instances of the name listed for Betws Cedewain / Newtown in ArchifMR, but not one of them is earlier than the seventeenth century. Three places with the name in the Newtown area are listed on Coflein: i. an earthen mound of unknown period, formerly wooded but now grassy; ii. a barn, perhaps of the post-medieval period; iii. a mansion garden of the post-medieval period. There is also a classical-style mansion called Glansevern half a mile to the south-east of Aberriw dated around 1801–7, see Haslam 1979: 80, plate 77. As can be seen, the last three are too recent and it is not known whether there is a link between the earthen mound and the name cited in the text.
Bibliography
Birt, P.W. (1978), ‘Delweddau Estynedig Guto’r Glyn’ (M.A. Cymru [Llanbedr Pont Steffan])
Daniel, R.I. (1995), ‘Rhaglith i Gerdd gan Sypyn Cyfeiliog: Dogfen Hanesyddol?’, Dwned, 1: 55–66
Daniel, R.I. (1997), ‘Cywydd Moliant a Brud i Ddafydd Llwyd ap Dafydd ab Einion o’r Drenewydd’, Dwned, 3: 53–61
Haslam, R. (1979), Powys (Montgomeryshire, Radnorshire, Breconshire) (Cardiff)
Huws, B.O. (1996), ‘Cerdd unnos’, Dwned, 2: 119
Huws, B.O. (2007), ‘Ailadeiladu Bywyd ar ôl Gwrthryfel Glyndŵr: Tystiolaeth y Canu i Foelyrch’, Dwned, 13: 97–137
Jones, E.D. (1955–6), ‘Some Fifteenth Century Welsh Poetry Relating to Montgomeryshire’, Mont Coll 54: 48–64
Lloyd, J.E. (1939), A History of Wales (third ed., London)
Morris, J. (1980) (ed.), Nennius: British History and The Welsh Annals (London and Chichester)
Parry Owen, A. (2010), ‘Gramadeg Gwysanau (Archifdy Sir y Fflint, D/GW 2082)’, LlCy 33: 1–31
Rowlands, E.I. (1958–9), ‘Moliant Dafydd Llwyd o’r Drefnewydd a’i Ddisgynyddion’, LlCy 5: 174–84
Williams, G.J. (1926), Iolo Morganwg a Chywyddau’r Ychwanegiad (Llundain)
Williams, R. (1894), Montgomeryshire Worthies (second ed., Newtown)
Noddwr cerdd 37 oedd Dafydd Llwyd ap Dafydd o’r Drenewydd. Canwyd iddo gan amryw o feirdd, gan gynnwys Lewys Glyn Cothi (GLGC cerddi 201, 202) a Gwilym ab Ieuan Hen (GDID cerddi IX, X, XVIII; gw. hefyd Daniel 1997).
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Elystan Glodrydd’ 45, ‘Meilir Gryg’ 6. Dangosir y rheini a enwir yng nghywydd Guto i Ddafydd mewn print trwm.
Achres Dafydd Llwyd ap Dafydd o’r Drenewydd
Ei yrfa
Roedd Dafydd yn ŵr o fri yng nghantref Cedewain yng nghanol y bymthegfed ganrif ac yn noddwr pwysig a hael i’r beirdd. Gwyddys iddo fod ar un adeg yn gasglwr trethi yn y Drenewydd i Richard, dug Iorc, ac roedd ei deulu yn gefnogwyr selog i blaid Iorc. Bu farw rhwng 1465 a 1469. Arno, gw. Williams 1894; ByCy 93–4; Jones 1955–6; Rowlands 1958–9.
Bu ei fab, Rhys, yn llywodraethwr castell Trefaldwyn ac yn ysgwïer a stiward i Edward IV yng Nghedewain, Ceri, Cyfeiliog ac Arwystli (ByCy 93). Bu farw Rhys ym mrwydr Banbri yn 1469, a chyfeirir at ei farwolaeth annhymig mewn nifer o gerddi (cf. GLGC cerdd 203; GDLl cerdd 55).
Llyfryddiaeth
Daniel, R.I. (1997), ‘Cywydd Moliant a Brud i Ddafydd Llwyd ap Dafydd ab Einion o’r Drenewydd’, Dwned, 3: 53–61
Jones, E.D. (1955–6), ‘Some Fifteenth Century Welsh Poetry relating to Montgomeryshire’, Mont Coll 54: 48–64
Rowlands, E.I. (1958–9), ‘Moliant Dafydd Llwyd o’r Drefnewydd a’i Ddisgynyddion’, LlCy 5: 174–84
Williams, R. (1894), Montgomeryshire Worthies (second ed., Newtown)