Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn 7 llawysgrif. Mae pob un yn dilyn yr un drefn llinellau (ac eithrio J 101, copi o Brog I.2, sydd wedi cyfnewid llinellau 25–6).
Gwelir o’r stema fod yr holl gopïau yn tarddu o’r un gynsail ac mai’r testun yn Brog I.2 sydd agosaf at y gynsail honno. Ceir rhai llinellau anghyflawn yn y copi hwn, fodd bynnag, ac ymddengys i’r copïydd, Wmffre Dafis, adael bylchau bwriadol (gw. 14 ac 16). Mae’n bosibl iddo gopïo’r gerdd o lawysgrif arall (X1 yn y stema), un ddiffygiol o bosibl gyda rhai llinellau yn aneglur neu dudalennau wedi eu rhwygo. Ymddengys fod Bod 1 hefyd yn gopi o’r lawysgrif honno ond ceir mân amrywiadau sy’n dangos ‘cywiriadau’ yn hytrach na darlleniadau gwahanol, megis ‘tacluso’ y gynghanedd ac ymestyn neu gywasgu hyd y llinell (gw. 16, 19, 23, 23, 29 a 48). Yn wahanol i J 101 (sydd wedi gadael bylchau yn union fel Brog I.2), mae’n bosibl fod Wmffre Dafis yn Bod 1 wedi ‘dyfalu’ neu ‘ailgyfansoddi’ ail ran y llinellau anghyflawn. Yn Pen 100 mae’r copïydd wedi dilyn Bod 1 ar wahân i rai amrywiadau (e.e. 2) ac mae Pen 152 yn gopi o Pen 100.
Trawsysgrifiadau: Brog I.2 a Bod 1.
2 iachaf bryn Y darlleniad iacha bryn a geir yn Brog I.2 ac a gadwyd hefyd yn Bod 1; gthg. y darlleniad iach y bryn yn Pen 100. Efallai i’r copïydd gamddeall yr ystyr a phenderfynu newid yr ansoddair ac ychwanegu’r fannod o’r herwydd.
4 I’r bryn uwch Aberriw ’r af Sef darlleniad Brog I.2, gthg. y bryn yn Bod 1. Newidiwyd, o bosibl, i osgoi’r r wreiddgoll. Y gynghanedd hefyd sy’n cyfrif am y darlleniad naf yn hytrach nag af a geir yn Bod 1. Ymddengys i’r copïydd roi’r orffwysfa ar ôl uwch i gael cynghanedd groes yn hytrach na chynghanedd draws a newid y darlleniad i ateb n. Nid yw uwch Aberriw naf yn ystyrlon (dichon i naf yn llinell 5 ddylanwadu ar y copïydd hefyd). Er mai’r ffurf beriw a geir yn Brog I.2 a Pen 100, y ffurf Aberriw yw’r hynaf a dilynwyd hynny yn y testun golygedig.
6 Ifan Mae’r ffurf ar yr enw’n amrywio, Ifan yn Brog I.2 a Ievan yn Bod 1 a Pen 100.
14 tâl y Rhiw Collwyd y darlleniad hwn yn Brog I.2 a gadael bwlch bwriadol. Gall hynny awgrymu mai copi diffygiol oedd cynsail Wmffre Dafis wrth gopïo’r cywydd (gw. hefyd llinell 16, rhwyg yn y llawysgrif efallai). Mae’n bosibl, felly, iddo ddyfalu gweddill y llinell yn Bod 1 er mwyn llenwi’r bwlch ac i’r copïydd yn Pen 100 ddilyn y dyfaliad hwnnw. Ni ellir bod yn sicr mai tal y rhyw oedd yn y testun gwreiddiol felly.
16 Heb wleddoedd y bobl iddaw Y darlleniad yn Brog I.2 yw heb wleddoedd bobl. Eto, efallai i Wmffre Dafis yn Brog I.2 gopïo’r cywydd o gynsail ddiffygiol a bod gweddill y llinell ar goll (ymddengys fod bwlch bwriadol yma eto). Ni cheir y fannod yn Brog I.2, a chan fod Bod 1 yn gopi o Brog I.2, gellir gweld amcanion y copïydd yn amlwg yn ei ddarlleniad yn y llinell hon. Ychwanegodd y fannod ar ôl ysgrifennu’r llinell oherwydd y treiglad meddal a hyd y llinell: ybobl iddaw. Mae’r darlleniad yn un ansicr, fodd bynnag, ond gan na cheir y llinell yn gyflawn yn Brog I.2 rhaid dilyn y darlleniad yn Bod 1.
19 y mae Ni cheir y ar ddechrau’r llinell yn Brog I.2, sydd eto’n awgrymu cynsail ddiffygiol. Mae’r copïydd yn Bod 1 wedi ei hychwanegu: ymae. Rhaid ei chynnwys er mwyn hyd y llinell.
23 y rhydd Ni cheir y yn Brog I.2 ac mae’r copi yn Bod 1 wedi ei chynnwys er mwyn hyd y llinell. Ymddengys mai hynny sy’n gywir yma.
26 O’r hil fry haelaf erioed Y llinell anoddaf o ran darlleniadau gan nad yw’n hawdd esbonio’r newid o’r darlleniad hwn a geir yn Brog I.2 i ddarlleniad Bod 1 A’r hil fry hael fu erioed. Mae’r ddwy ffurf yn ystyrlon ac nid effeithir ar y gynghanedd groes o gyswllt wrth ei newid. Gellir esbonio ar yn hytrach nac or gan fod y llythrennau’n debyg iawn i’w gilydd yn y llawysgrifau. Ond anodd yw deall y newid o haelaf i hael fu. Mae’n bosibl fod y tebygrwydd sain wedi effeithio ar hyn: ceir odl fewnol yn y darlleniad A’r hil fry hael fu erioed. Dilynir Brog I.2 yma gan fod y testun hwnnw’n nes at y gynsail.
29 ar y bryn Dilynir Bod 1, gthg. Brog I.2 ar bryn. Ni threiglir bryn, felly, a dichon fod angen y fannod fel yn Bod 1.
32 i’u Ceir fo i plant yn Brog I.2 sef i’u (‘i’w’ mewn Cymraeg diweddar, gw. GMW 53n2) sy’n ystyrlon yma, gthg. Bod 1 vo yw plant.
39 a wŷl Dyma’r darlleniad yn Bod 1 a Pen 100. Mae’r darlleniad ai wyl a geir yn Brog I.2 yn gywiriad anfoddhaol oherwydd fe dreiglir y ferf yn dilyn rhagenw mewnol gwrthrychol.
44 a’r mur a’i mur sydd ym mhob copi ond rhaid ei ddiwygio yn a’r mur gan mai gwrywaidd yw tŷ, cf. llinell 41 ei fwg. Mae’n bosibl mai a’r mur oedd yn y gynsail ond i’r copïwyr ei newid yn a’i mur i osgoi’r r wreiddgoll.
48 ’mdanaw Mae’r llinell hon yn wythsill yn Brog I.2 A dinas Iork am danaw sydd a ceisiodd y copïydd gywasgu’r llinell yn Bod 1 gan ddileu’r am. Mae’r newid hwn, fodd bynnag, yn peri bod y ddelwedd o furiau dinas Iorc yn amgylchynu’r tŷ yn cael ei newid yn ddelwedd o’r ddinas o dan y tŷ (gw. hefyd 48n esboniadol). Yn y llinell nesaf dywedir bod y tŷ ‘wedi ei gau’ â choed a cherrig sy’n awgrymu mai cyfeiriad at y coed sydd yn llinell 47, ac yna’r wal gerrig yn y llinell hon. Mae amdanaw yn well na danaw yma felly. Fodd bynnag, rhaid cywasgu’r llinell a cheisio cadw’r a ar ddechrau’r llinell. Y ffordd orau, felly, yw cywasgu amdanaw yn ’mdanaw.
51 tai Rhoddodd golygyddion GGl tŷ yma ond y lluosog tai sydd ym mhob copi.
52 garth Diddorol yw’r darlleniad arth yn Brog I.2. Mae’r copïydd wedi ei newid yn garth yn Bod 1 a hynny sy’n gywir yn yr achos hwn oherwydd gofynion y gynghanedd.
54 ys mwy Yn Brog I.2 ni cheir geiryn o flaen mwy ac felly mae’r llinell yn fyr o sillaf. Yn Bod 1 ceir oesys mwy sy’n awgrymu mai dyfaliad ydyw. Dilynwyd hynny i wneud y llinell yn seithsill.
56 merch Rhys Disgwylir i enw priod dreiglo’n feddal ar ôl enw benywaidd mewn Cymraeg Canol, ond ni chefnogir y treiglad yn y llawysgrifau.
Canwyd y cywydd hwn i ddathlu ailadeiladu neuadd y Faenor yn Aberriw, sef cartref Edward ap Hywel ab Ieuan Llwyd a Gwenllïan ferch Rhys ap Dafydd Llwyd. Perthyn y cywydd i ddosbarth o gerddi gan Guto a’i gyfoeswyr i ddathlu codi neu adnewyddu tai, cf. cerddi 55, 85 a 90. Profa’r dystiolaeth ddendrocronolegol i uchelwyr Cymru yn ystod y bymthegfed ganrif ailadeiladu eu tai a ddifrodwyd o bosibl yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr. Erys peth o’r gwaith pren hynafol mewn rhai tai ym Mhowys o hyd (Suggett 2003: 153), ond nid oes unrhyw dystiolaeth o'r fath wedi goroesi o’r Faenor yn Aberriw. Er bod cyfeiriadau cynnar at y Faenor, mae olion hynaf y tŷ a adnabyddir heddiw fel y Faenor yn dyddio o 1640. Fodd bynnag, mae Richard Haslam yn awgrymu mai ailadeiladu’r Faenor a wnaethpwyd yr adeg hynny ac i’r tŷ a adeiladodd Edward ap Hywel sefyll hyd at gyfnod Arthur Price, siryf y sir yn 1578 (Haslam 1977: 43–6). Ymhellach, dywed arbenigwyr ar dirluniau ei bod hi’n debygol fod y Faenor heddiw yn sefyll ar safle’r tŷ neuadd canoloesol: ‘It is likely that there has been a house on the site of the present hall since the later Middle Ages, and an adjacent deer park too’ (Silvester and Alfrey 2007: 39). Ar sail hynny, uniaethir lleoliad Parc y Faenor heddiw â lleoliad y tŷ canoloesol.
Yn rhan gyntaf y cywydd dymuna’r bardd iechyd i’r sawl sy’n ymweld â thŷ Edward a dweud ei fod yntau ‘am fynd’ i lys ei noddwr ar y bryn uwch Aberriw (llinellau 1–4). Â’r bardd rhagddo yn yr ail ran i fanylu am ei daith i’r wledd a’r croeso a gaiff gan y ddeuddyn dda, Edward a Gwenllïan. Mae’r bardd yn dymuno gofal Duw dros y tŷ newydd a Gwenllïan, ac mae hyn yn awgrymu eu bod, o bosibl, newydd briodi (9–12). Molir Gwenllïan a’i theulu o’r Tywyn gan ganmol Gwenllïan a’i gŵr unwaith eto am eu haelioni (17–18).
Y tŷ newydd a gaiff sylw yn yr adran nesaf. Mynega’r bardd fod ei gerdd am fod yn llesol i’r adeilad newydd, a’i fod yntau am fendithio’r tŷ â’i farddoniaeth (35–8), sy’n awgrymu’n gryf mai cerdd wedi ei chanu i ddathlu’r Neuadd fawr, newydd, firain yw hon (27). Tŷ o goed a cherrig ydyw, sef o ffrâm dderw ar sylfaen o gerrig (33, 47) gyda’r muriau allanol wedi eu gwyngalchu (44). Dywed Guto ei fod yn dŷ ifanc ar hyn o bryd ond y bydd, rhyw ddiwrnod, yn hen dŷ i ddisgynyddion y ddau. Canmolir y tŷ â gormodiaith ddoniol yn yr adran hon. Mae’n dŷ rhagorol i ddarparu medd a gwin i’r beirdd – yn llawn cystal â holl dai gwin Llundain (34). Dywed sut y byddai rhywun yn gallu gweld y tŷ wrth orwedd mewn gwely yn Lloegr (39–40)! Gallai pobl Caerllion ar Wysg a Môn weld mwg y tŷ a gellid gweld ei furiau gwyn o Forgannwg (41–4). Dyma dŷ sy’n frawd i gastell y Felallt, ac sydd, fel tref Dover, wedi ei leoli ar godiad tir. Pwysleisir eto ei faint a’i uchder (49–56): yn uwch na Sycharth, llys Owain Glyndŵr, yn fwy llydan na thai Powys a Môn a chyda’r naw ystafell angenrheidiol wedi eu cynnwys o dan yr un to (gw. 57n). I gloi, dymuna’r bardd i Edward a Gwenllïan gynnal y neuadd ddisglair yno am amser hir gan ddymuno hiroes i’r pâr ifanc.
Dyddiad
Ni ellir cynnig dyddiad gan na wyddys pryd y daeth y Faenor yn eiddo i Edward ap Hywel. Rhieni Edward, sef Hywel ab Ieuan Llwyd a Myfanwy, oedd yn noddi beirdd yn y Faenor pan ganodd Gwilym ab Ieuan Hen (fl. 1435–70) ddwy gerdd iddynt (GDID cerddi IV a V). Fel y nodir uchod, mae’n bosibl fod y cywydd hwn wedi ei ganu yn fuan ar ôl priodas Edward a Gwenllïan. Byddai’r briodas yn ddigon o reswm i Edward ailadeiladu’r tŷ a’i wneud yn gartref iddo ef a’i wraig newydd. Awgrymir oddeutu 1450au neu hyd yn oed yn gynharach (rhoir dyddiadau geni’r ddau yn Bartrum oddeutu 1430), ac mae’n bosibl fod tad Gwenllïan, Rhys ap Dafydd Llwyd (gw. 22n), yn fyw o hyd, felly cyn 1469.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd XXI.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 60 llinell.
Cynghanedd: croes 67% (40 llinell); traws 22% (13 llinell); sain 12% (7 llinell).
2 bryn uchel Saif y Faenor heddiw ar fryn uchel uwchben pentref Aberriw. Byddai tŷ ar godiad tir i’w weld o bell ac felly’n amlygu statws ac awdurdod ei berchennog i bawb, cf. 19.47 Uchel yw’r llys uwchlaw’r llaill (am Raglan), 56.23–4 Uchel yw craig y Felallt, / Uwch ei ryw ’n amgylch yr allt (am y Penrhyn).
3 Edwart Edward ap Hywel ab Ieuan Llwyd. Rhoir ei ddyddiad geni gan Bartrum tua 1430.
4 Aberriw Plwyf ar y ffin rhwng cwmwd Cedewain a Llannerch Hudol, gw. WATU 11. Aeth Aberriw (neu Aber-rhiw) yn Y Berriw yn ddiweddarach o ganlyniad i lafariad ragobennol yn colli ei hansawdd a'i dehongli fel y fannod.
5 Hywel Sef Hywel ab Ieuan Llwyd ap Dafydd ap Phylip Goch o’r Faenor, tad y noddwr, Edward ap Hywel, gw. WG1 ‘Meilir Gryg’ 5. Priodasai â Myfanwy ferch Madog Llwyd. Hwy oedd noddwyr Gwilym ab Ieuan Hen, gw. GDID cerddi IV a V.
7 Nudd Nudd Hael ap Senyllt, un o ‘Dri Hael Ynys Prydain’, gw. TYP3 5–7, 464–6 a WCD 509.
7–8 Gruffudd … / Iôr Ffordun Taid a nain Edward ar ochr ei fam oedd Madog Llwyd a Sioned ferch Gruffudd Ffordun. Roedd Gruffudd Ffordun yn ŵr pwysig yn Nhrefaldwyn yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg a cheir cyfeiriadau ato yn nogfennau’r cyfnod. Yn ôl yr achau fe briododd Mawd, merch i Syr Ralph Stafford, Cawres, a bu’n stiward i’w dad yng nghyfraith yn ogystal, gw. GSC cerdd 24.
9 Af o’r deml i’r ford yma Tybed ai cyfeiriad at adeilad crefyddol penodol yw teml yn y llinell hon, un o’r abatai o bosibl? Saif abaty Llanllugan oddeutu wyth milltir i’r gorllewin o’r Faenor. Cyfeiria Guto’n aml at ei daith i dŷ ei noddwr, e.e. 13.21 Af i Flaen-tren, 51.13 Af i’r Wengraig, 55.31 Mi af i’w lys. Gw. hefyd gerdd 30 a Lake 1995: 125–48.
10 deuddyn dda Am y treiglad meddal i’r ansoddair yn dilyn y ffurf ddeuol deuddyn, gw. TC 61–3.
13 tyddyn Yng nghyfraith Hywel Dda, defnyddir tyddyn am stad o bedair erw. Nid yw’r ystyr hon yn gweddu yma ac ymddengys mai ‘tŷ’ yn gyffredinol a olygir, sef stad y Faenor.
14 talu rhent Am yr ystyr ‘tâl, rhodd, budd, elw, cyllid, incwm’ i rhent, gw. GPC 3055. Canmolir Edward am dalu incwm i’r beirdd a swyddogion y llys.
14 tâl y Rhiw Fe’i dehonglwyd yn enw lle yn GGl, Talyrhiw, ond ni ddarganfuwyd unrhyw Dalyrhiw yn yr ardal a allai fod yn berthnasol i'r cywydd hwn (cf. Evans a Smith 1995: 39). Ceir tal yn aml mewn enwau lleoedd (cf. Tal-y-bont, Tal-y-llyn) a’r ystyr, gan amlaf, yw ‘un pen i rhywbeth, pen draw, pen eithaf’, gw. GPC 3425 d.g. tal2. Gall fod yn gyfeiriad at enw lle anhysbys o amgylch Aberriw gan fod taith afon Rhiw – afon a red trwy Lanllugan, Manafon, Aberriw – yn dod i’w therfyn yr ochr draw i blwyf Aberriw wrth iddi ymuno ag afon Hafren. Cyfeirir at y Rhiw ar ei ben ei hun yn 22 a 56, ac efallai fod yma amwysedd bwriadol rhwng Rhiw fel enw afon a’r enw cyffredin ‘llechwedd’ neu ‘llethr’. Mae Guto mewn man arall yn disgrifio lleoliad tŷ ei noddwr ar y rhiw, gw. 13.24 Af i’r rhiw fwyaf fy rhodd (am Flaen-tren). Gwell, felly, yw dehongli tâl fel ‘taliad’ ac y Rhiw yn enwol am y llys.
20 y Tywyn Priododd taid Gwenllïan ar ochr ei thad, Dafydd Llwyd ap Dafydd ab Einion, â Gwenllïan ferch Owain ab Gruffudd ab Einion o’r Tywyn, y Ferwig, Ceredigion, gw. WG1 ‘Elystan Glodrydd’ 45.
21 Gwenllïan Gwenllïan ferch Rhys ap Dafydd Llwyd a gwraig Edward ap Hywel.
22 gwenlloer Rhys Roedd gwraig Hywel yn ferch i Rys ap Dafydd Llwyd ap Dafydd ab Einion. Canodd Guto i’w dad, Dafydd Llwyd ap Dafydd ab Einion o’r Drenewydd, gw. cerdd 37. Roedd Rhys yn stiward i’r Brenin Edward IV a’i arglwyddiaeth yng Nghedewain, Ceri, Cyfeiliog ac Arwystli a bu farw ym mrwydr Banbri yn 1469.
26 hil fry Gellir ystyried i’r cywydd hwn gael ei ddatgan mewn gwledd yn neuadd newydd y Faenor a bod hil fry yn gyfeiriad at y teulu a eisteddai ar y bwrdd tâl, sef bwrdd hir ar lwyfan fechan ym mhen y neuadd, cf. DG.net 87.4n. Neu gallai fry olygu ‘rhagddywededig’ a chyfeirio at linachau’r ddau deulu a grybwyllwyd gan y bardd eisoes.
27 neuadd fawr Y neuadd oedd prif ystafell fyw’r llys. Yn y bymthegfed ganrif roedd y fframiau pren a oedd yn ymestyn o’r muriau hyd y nenfwd i’w gweld yn agored, sef y fframiau a oedd yn cynnal y tŷ. Ar un wal roedd lle tân ac addurnid y waliau eraill â thapestrïau. Eisteddai’r noddwr a’i deulu wrth y bwrdd tâl ym mhen y neuadd ar lwyfan hir a’r gwesteion o’u blaenau, gw. Tai ac Adeiladau: Dodrefn: Byrddau a Meinciau.
29 tair bro Dyfelir yn betrus mai’r broydd sydd dan sylw yma yw Aberriw, Manafon a Chedewain, y tri phlwyf a oedd yn amgylchynu’r Faenor. Ond gan fod tri yn rhif perffaith, gall y cyfeiriad fod yn llai penodol.
30 tŵr Mae’n bur debyg mai ystyr ffigurol sydd i tŵr yma, sef y tŷ fel adeilad cadarn ac uchel. Ond mae’n bosibl hefyd fod y Faenor yn cynnwys tŵr yn y cyfnod hwn, yn enwedig o gofio pa mor agos ydoedd i’r ffin â Lloegr.
30 Beuno Sant a oedd yn enedigol o Aberriw a nawddsant eglwys Aberriw a Betws Cedewain, gw. ByCy 30; cf. GDID IV.34 a GSC 24.12.
31 yn toi awyr Berfenw o’r enw to sydd â’r ystyr ‘rhywbeth wedi ei orchuddio â tho; cuddio’ yn GPC 3512. Mae’r nenfwd yn ‘cuddio’ yr awyr gan fod y tŷ mor fawr ac uchel, cf. 50 Cae hyd awyr Cydewain.
33 tŷ’r medd Roedd yn gartref a ddarparai ddigonedd o fedd i’r beirdd, cf. GDID IV.27–8 Tai Olifer Aberyw / Tai’r medd, gorau tir ym yw (‘Moliant Myfanwy o’r Faenor a Hywel ab Ieuan Llwyd ei gŵr’ gan Wilym ab Ieuan Hen).
33 o goed derw a main Brithir pentref Aberriw heddiw â thai du a gwyn fel sy’n draddodiadol ar ororau Cymru. Mae nifer helaeth ohonynt yn dyddio i gyfnod y Tuduriaid a chynt ac yn goffâd i arddull cynnar tai’r ardal. Ond cesglir yn gyffredinol mai adeiladau o ffrâm bren (‘half-timbered’) o dderw lleol oedd y rhai mwyaf cyfarwydd yn yr ardal ar ddiwedd y bedawredd ganrif ar ddeg a’r bymthegfed ganrif gan gynnwys, yn fwy na thebyg, y Faenor, gw. Haslam 1977: 43–6. Byddai ffrâm bren y muriau yn sefyll ar walblad a orweddai ar sylfaen o gerrig, sef wal fechan a oedd yn ymestyn rhyw droedfedd yn uwch na’r tir, gw. Smith 1988: 76.
41–2 Gweled ei fwg o wlad Fôn / A gâi’r llu, o Gaerllion Mae ergyd y cwpled hwn yn aneglur, yn enwedig gyda’r ailadrodd rhyfedd a geir yn llinell 43, Ym Môn y gwelid y mwg. Awgrymir fod y bardd yn cyfeirio at weld mwg y tŷ o ddau begwn eithaf y wlad, y naill yn y gogledd, sef Môn, a’r llall yn y de, sef Caerllion ar Wysg yng Ngwent.
43 mwg Un o’r newidiadau mwyaf i dai neuadd sir Drefaldwyn yng nghanol y bymthegfed ganrif oedd cyfnewid yr aelwyd agored yng nghanol y neuadd am le tân pwrpasol a simnai ar un o’r muriau, gw. Smith 1988: 46. Er na chyfeirir yn benodol yn y gerdd hon at simnai hir, tybed a yw’r cyfeiriad yma at weld y mwg o bell yn awgrymu i Edward ap Hywel adeiladu simnai newydd yn y Faenor? Gw. Williams 1978: 85–99.
43–4 Môn … / … Morgannwg Cynrychiolant begynau eithaf Cymru.
44 mur gwyn Arfer gyffredin yn y cyfnod hwn oedd gwyngalchu adeiladau, gw. Peate 1944: 20, cf. GRhGE 2.18n a GSRh 1.29n.
45 y Felallt Beeston yn Swydd Gaer, ac o bosibl y castell enwog yno, cf. 56.23 Uchel yw craig y Felallt.
46 Dofr Cyfeirir at dref Dover yn ne-ddwyrain Lloegr yn aml yn y farddoniaeth i gynrychioli un o begynau eithaf Prydain. Yr ergyd yma, fodd bynnag, yw bod Dofr yn dref ar godiad tir fel y Faenor.
47 Dyblu derw, dwbled irwydd I gysylltu’r to a’r waliau gyda’r fframwaith bren gosodid nifer o barau o goed derw wedi eu pegio’n dynn i’r ffrâm a gall mai hynny a olygir gyda’r cyfuniad dyblu derw, sef cyplau o dderw. Ond gellir hefyd ei ddehongli fel derw wedi ei ddyblu, gw. un o’i ystyron yn ôl GPC 1113 d.g. dyblu, sef ‘leinio’. Byddai hyn yn ddisgrifiad o’r deunydd a oedd yn leinio’r gwaith pren ym mhaneli’r fframwaith, sef brigau o goed ifainc wedi eu plethu i’w gilydd ac yna’u llenwi â mwd neu glai. Ategir y dehongliad hwn gan y ddelwedd nesaf dwbled irwydd. Gwisgid y ddwbled (sef côt dynn) o dan arfwisg a’r ergyd yw bod y gwaith pren neu’r waliau mewnol yn debyg i du mewn dwbled. Defnyddir trosiadau dillad ac arfwisgoedd yn aml gan y beirdd i ddisgrifio ymddangosiad adeiladau a’u pensaernïaeth, cf. GTP 16.11–12 A’i fur fal gwisgo curas, / O nen i lawr yn iäen las (am y Tŷ Gwyn yn Abermo).
48 dinas Iorc ’mdanaw Un o drefi pwysicaf Lloegr yn y bymthegfed ganrif oedd Efrog a chyfeiriad, fe ymddengys, at furiau’r dref honno a geir yma. Disgrifia Steane (1985: 56) y muriau fel ‘the most complete set of medieval town walls in England, and among the finest in Europe’. Y ddelwedd yma felly yw bod y muriau a amgylchynai’r Faenor fel muriau dinas Efrog.
49 Caewyd ymysg coed a main Ymddengys fod fframwaith pren y tŷ wedi ei orchuddio â tho carreg, fel y disgrifir yma gan y bardd. Mewn cywydd arall yn disgrifio tŷ Siôn Mechain yn Llandrunio, awgrymir mai cerrig o fynydd cyfagos Cornatun (Corndon Hill) oedd deunydd y to, gw. 85.23–4 Cerrig ar frig awyr fry / Cornatun yn cau’r nawty. Ymhellach, gw. Tai ac Adeiladau: Gwneuthuriad: Gwaith Maen.
50 Cydewain Y cwmwd rhwng afonydd Rhiw a Hafren lle y saif y Faenor heddiw.
51 Sycharth Enw llys Owain Glyndŵr yn Llansilin ym Mhowys a thestun cerdd enwog gan Iolo Goch sy’n disgrifio’r llys yn fanwl iawn, gw. GIG cerdd X. Llosgwyd Sycharth i’r llawr gan y Brenin Harri V yn 1403. Daeth yn llathen fesur i’r beirdd wrth ddisgrifio adeiladau, cf. 90.38 Neuadd fal seren Owain a’r nodyn esboniadol. Gw. hefyd Roberts 1973: 12–47.
54 is Manafon Pentref rhyw bedair milltir i’r gorllewin ac ychydig i’r gogedd o Aberriw (sy’n egluro is yma).
55 gwart Benthyciad o’r Saesneg ward neu garde, gw. GPC 1586–7 ac OED Online s.v. ward, n.2. Yr ystyr orau yma yw ‘cwrt mewnol (castell), … gwarchodfa, amddiffynfa’, rhan o’r clos neu’r iard a oedd o amgylch y tŷ, cf. 105.1–2 Llydan oedd gastell Edwart / A’i dyrau gwych a’i dair gwart. Odlir gwart ag enwau priod fel Edwart a Risiart yn aml gan Guto, cf. 103.10, 26, 105.1–2, 13.
56 braich y Rhiw Ceir lle o’r enw Braich y Rhiw yn Nhywyn, Meirionnydd, yn ôl ArchifMR, ac enw priod sydd yma yn ôl GGl. Ond cysylltiad â’r Tywyn yng Ngheredigion sydd gan deulu Gwenllïan yn ôl yr achau. Tybed ai trosiad am y tŷ yw braich y Rhiw a bod y bardd, unwaith eto, yn chwarae ar ystyr ‘rhiw, llechwedd’ ac afon Rhiw? Cf. 90.35–6 Yng ngwar rhiw yngo y rhoed / Angel diargel derwgoed (am Foeliwrch). Un o ystyron braich yn GPC 307 yw ‘esgair (o fynydd), pentir’: addas iawn o gofio lleoliad uchel y Faenor.
57 nawty Yn ôl cyfraith Hywel Dda adeiladwyd naw tŷ ar gyfer y brenin, sef neuadd, ystafell, cegin, capel, ysgubor, odyn, ystabl, cynordy neu gyfordy a ‘thŷ bach’ yn y naw tŷ. Ond yn yr Oesoedd Canol cynnar, nid oedd y cyfan o dan yr un to. Y ganmoliaeth yma o bosibl yw bod pob tŷ neu ‘ystafell’ wedi eu cynnwys o fewn un adeilad. Dichon fod naw hefyd yn rhif perffaith ac mai ystyr nawty erbyn y cyfnod hwn oedd ‘tŷ a chanddo bob ystafell angenrheidiol’, hynny yw yn berffaith a chyflawn, gw. Roberts 1986: 9; cf. 85.21–2 Neuadd hir newydd yw hon, / Nawty’n un a’r tai’n wynion.
60 newydd, hen Llifa’r thema o wrthgyferbyniad rhwng yr hen a’r newydd trwy’r cywydd, cf. 31–2 Tŷ ieuanc yn toi awyr, / Tŷ hen fo i’u plant a’u hŵyr.
Llyfryddiaeth
Evans, G.G. and Smith, D.W. (1995), ‘The Place-names of Berriw’, Mont Coll 83: 1–40
Haslam, R. (1977), ‘A Note on the Architecture of Vaynor Park’, Mont Coll 65: 43–6
Lake, A.C. (1995), ‘Goblygiadau Clera a Golwg ar Ganu Guto’r Glyn’, YB XX: 125–48
Peate, I.C. (1944), The Welsh House: A Study in Folk Culture (Liverpool)
Roberts, E.P. (1973), ‘Tŷ Pren Glân mewn Top Bryn Glas’, TCHSDd 22: 12–47
Roberts, E.P. (1986), Tai Uchelwyr y Beirdd 1350–1650 (Caernarfon)
Silvester, R. and Alfrey, J. (2007), ‘Vaynor: A Landscape and its Buildings in the Severn Valley’, J. Finch and K. Giles (eds.), Estate Landscapes: Design, Improvement and Power in the Post-medieval Landscape (Woodbridge)
Smith, P. (1988), Houses of the Welsh Countryside (London)
Steane, J. (1985), The Archaeology of Medieval England and Wales (London)
Suggett, R. (2003), ‘Dendrochronology: Progress and Prospects’, S. Briggs (ed.), Towards a Research Agenda for Welsh Archaeology (Oxford)
Williams, E. (1978), ‘Yr Aelwyd: The Architectural Development of the Hearth in Wales’, Folk Life, 16: 85–99
This poem was composed to celebrate the rebuilding of the new house at Vaynor in Berriew, the home of Edward ap Hywel ab Ieuan Llwyd and Gwenllïan daughter of Rhys ap Dafydd Llwyd. A number of poems by Guto and his contemporaries celebrate the building or renovating of houses, cf. poems 55, 85 and 90. Dendrochronological evidence suggests that many uchelwyr rebuilt their homes in the fifteenth century, perhaps as a result of damage sustained during the Glyndŵr rebellion. Some fifteenth-century timber survives in many houses in Powys (Suggett 2003: 153). Although there are early references to a house at Vaynor, the oldest part of the present house dates to 1640. However, Richard Haslam suggests that in the 1640s the ‘modern’ house was actually constructed on an older structure; the fifteenth-century house built by Edward ap Hywel was evidently still standing in 1578, when it was the home of Arthur Price, the sheriff of the shire (Haslam 1977: 43–6). Furthermore, landscape experts agree that the present mansion stands on the same site as the old medieval hall: ‘It is likely that there has been a house on the site of the present hall since the later Middle Ages, and an adjacent deer park too’ (Silvester and Alfrey 2007: 39). Therefore, it is very likely that the location of Vaynor Park today is the same as that of the medieval house described in this poem.
In the first section of the poem, the poet wishes good health to whoever visits the home of Edward and states his intention to go to his patron’s house on the hill above Berriew (lines 1–4). He goes on to describe his journey to the welcoming feast that he’ll receive from y ddeuddyn dda, ‘the two kind people’, Edward and Gwenllïan. The poet wishes that God may protect Edward’s house and his wife, which may suggest that they were recently married (9–12). He praises Gwenllïan and her family from Tywyn, and then both Gwenllïan and her husband once more for their generosity (17–18).
The house itself is the subject of the next section. Guto states that his cywydd will be beneficial for the new house, almost as if he is giving it his blessing (35–8). This strongly suggests that the poem was composed to celebrate the ‘grand hall, new and beautiful’ at Vaynor (27). We learn that the house is constructed of timber and stones, possibly an oak frame on a stone foundation (33, 47), with the external walls whitewashed (44). Guto states that the house is now a young one, but some day it will be an old house for the descendants of Edward and Gwenllïan. This section is full of humorous exaggerations: the house is equal to all the wine houses of London in terms of mead and wine for the poets; it is so large that it can be seen by someone sleeping in a bed in England (39–40)! People from as far as Caerleon and Anglesey could see the smoke rise from the house and its whitewashed walls could be seen from Glamorgan (41–4). The house is the brother of Beeston castle, raised above the land like the town of Dover and surrounded by walls similar to those of the city of York. The size and height of the house is again emphasized (49–56): it is higher than Sycharth, the home of Owain Glyndŵr, and wider than any house in Powys or Anglesey with all of its nine rooms under one roof. The poem ends by wishing that Edward and Gwenllïan may maintain this splendid hall for a long time, thus wishing them also a long life.
Date
It is not possible to date this poem because it is not known when the estate was passed on to Edward ap Hywel. His parents, Hywel ab Ieuan Llwyd and Myfanwy, were the patrons at Vaynor when Gwilym ab Ieuan Hen (fl. 1435–70) composed his poems to them (see GDID poems IV and V). As noted above, it is possible that this poem was composed soon after the marriage of Edward and Gwenllïan, a good enough reason for the rebuilding of the house in order to establish it as a home for the couple. This could be in the 1450s or earlier if P.C. Bartrum’s suggestion of c.1430 as a possible date of birth for the pair is correct. It is also possible that Gwenllïan’s father, Rhys ap Dafydd Llwyd, was still alive (see 22n). He died in 1469 at the battle of Banbury.
The manuscripts
This poem occurs in 7 manuscripts. There are two copies in the hand of Humphrey Davies, Brog I.2 and Bod 1. The earliest copy, Brog I.2, seems to be the closest to the source. However, there are some incomplete lines in this copy where Davies has left gaps. It is possible that he copied the poem from another source (X1 in the stemma) which was faulty or unclear. The other copy in his hand, Bod 1, has some variations, but they are ‘corrections’ rather than true variant readings. Also, there are no gaps in this copy which could suggest that Davies completed the lines himself. J 101 is a copy of Brog I.2 and Pen 100 is a copy of Bod 1. Pen 152 is also connected to Bod 1 but with some variations.
Previous edition
GGl poem XXI.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 60 lines.
Cynghanedd: croes 67% (40 lines), traws 21% (13 lines), sain 12% (7 lines).
2 bryn uchel Y Faenor or Vaynor Park today stands on a high hill above the village of Berriew. An elevated house would be visible from afar, displaying the status and authority of its owner, cf. 56.23–4 Uchel yw craig y Felallt, / Uwch ei ryw ’n amgylch yr allt ‘Beeston’s rock is high, / higher is his lineage around the slope’ (for Penrhyn); 19.47 Uchel yw’r llys uwchlaw’r llaill ‘The court rises taller than any other’ (of Raglan).
3 Edwart Edward ap Hywel ab Ieuan Llwyd. Bartrum suggests that he was born c.1430.
4 Aberriw The name of a parish on the border between the commotes of Cedewain and Llannerch Hudol, see WATU 11. The original pretonic vowel at the beginning of the word Aberriw (i.e. Aber-rhiw ‘mouth of river Rhiw’) has been reinterpreted as the definite article, giving rise to the form Y Berriw (and English Berriew).
5 Hywel Hywel son of Ieuan Llwyd ap Dafydd ap Phylip Goch of Vaynor was the father of Edward ap Hywel, see WG1 ‘Meilir Gryg’ 5. He married Myfanwy daughter of Madog Llwyd. They were the patrons of Gwilym ab Ieuan Hen, see GDID poems IV and V.
7 Nudd Nudd Hael ap Senyllt, one of ‘Three Generous Men’ recorded in the Triads, see TYP3 5–7, 464–6 and WCD 509.
7–8 Gruffudd … / Iôr Ffordun The grandparents of Edward on his mother’s side were Madog Llwyd and Sioned, daughter of Gruffudd Ffordun. Gruffudd Ffordun was an important man in Montgomery during the fourteenth century and there are some references to him in the documents of the period. According to the genealogies he married Maud, the daughter of Sir Ralph Stafford of Caus and he was also a steward to his father-in-law, see GSC poem 24.
9 Af o’r deml i’r ford yma Is it likely that teml (‘temple’ or ‘sanctuary’) refers to a specific religious building, maybe one of the abbeys? Not far from Vaynor (about eight miles) was the abbey of Llanllugan. Guto often refers to his journeys to his patron’s houses, e.g. 13.21 Af i Flaen-tren (‘I will go to Blaen-tren’), 51.13 Af i’r Wengraig (‘I will go to Y Wengraig’), 55.31 Mi af i’w lys (‘I’ll go to his court’); see also poem 30 and Lake 1995: 125–48.
10 deuddyn dda For the lenition of the adjective da ‘kind’ or ‘good’ here following the dual form deuddyn ‘two people’, see TC 61–3.
13 tyddyn In the Welsh laws of Hywel Dda, tyddyn applies to an estate of four acres. Here it seems to mean ‘estate’ or ‘house’ in general.
13 talu rhent GPC 3055 gives the meaning ‘payment, gift, benefit, profit revenue, income’ to rhent ‘rent’. Guto is commending Edward for his payment to poets and others.
14 tâl y Rhiw This is interpreted as a place name, Talyrhiw, in GGl, but no place called Talyrhiw has been found which could be relevant to this poem (see Evans and Smith 1995: 39). The word tal is fairly common in place names, cf. Tal-y-bont, Tal-y-llyn, and among its meanings in GPC 3425 s.v. tâl2 are ‘end (of object), gable end, furthest or highest end’. It could be a reference to an unknown place around Berriew: the river Rhiw, which runs through Llanllugan, Manafon and Berriew, comes to an end at the other side of Berriew parish when it joins the river Severn. Guto refers to y Rhiw on its own in lines 22 and 56 and he could possibly be using rhiw as the name of the river as well as in the meaning ‘slope’ or ‘hillside’. In other poems he describes his patron’s house as y rhiw, cf. 13.24 Af i’r rhiw fwyaf fy rhodd ‘I will go to the hillside where my gift was greatest’ (for Blaen-tren). However, an even better meaning here is to interpret tâl as ‘taliad’, ‘payment’ and that y Rhiw is a metonymy for the court.
20 y Tywyn The grandfather of Gwenllïan on her father’s side, Dafydd Llwyd, married Gwenllïan, daughter of Owain ab Gruffudd ab Einion of Y Tywyn, Ferwig, Ceredigion, see WG1 ‘Elystan Glodrydd’ 45.
21 Gwenllïan Gwenllïan, the daughter of Rhys ap Dafydd Llwyd and wife of Edward ap Hywel.
22 gwenlloer Rhys Edward‘s wife was the daughter of Rhys ap Dafydd Llwyd ap Dafydd ab Einion. Guto composed a poem to Rhys’s father, Dafydd Llwyd of Newtown, see poem 37. Rhys was steward of King Edward IV’s lordships in Cedewain, Ceri, Cyfeiliog and Arwystli and died at the battle of Banbury in 1469.
26 hil fry One suggestion is that Guto sang this poem before an audience at a feast in the new hall at Vaynor and that hil fry ‘the lineage yonder’ could be a reference to the family sitting at the high table on a small platform at the end of the hall, cf. DG.net 87.4n. However, fry could also mean ‘above mentioned’ since the poet has already mentioned the lineages of both their families in the poem.
27 neuadd fawr The hall was the main living area in a medieval court. In the fifteenth century, the timber frames ascending from the floor to the roof were visible and those frames were the main support of the house. On one wall there would be a fireplace and on the others tapestries were hung. The patron and his family would sit at the high table at the end of the hall and the guests would sit in front of them, see Houses and Buildings: Furniture: Tables and Benches.
29 tair bro The three regions could be Berriew, Manafon and Cedewain: the three surrounding parishes of Vaynor. But tri ‘three’ could also be a perfect number rather than a specific reference.
30 tŵr It is likely that tŵr ‘tower’ is used figuratively here, meaning that the house was a solid and tall building. But it is also possible that the house had a tower in this period, especially being so close to the English border.
30 Beuno A saint native to Berriew and the patron saint of the churches of Berriew and Betws Cedewain, see ByCy 30; cf. GDID IV.34 and GSC 24.12.
31 yn toi awyr A verbal noun formed from the noun to ‘roof’ and meaning ‘to roof’, ‘to cover’ or ‘to hide’, see GPC 3512. The vaulted roof hid the sky because the house was so large and high, cf. 50 Cae hyd awyr Cydewain ‘the enclosure of Cedewain which stretches to the sky’.
33 tŷ’r medd The house provided plenty of mead for the poets, cf. GDID IV.27–8 Tai Olifer Aberyw / Tai’r medd, gorau tir ym yw ‘Houses of the Oliver of Berriew, / houses of mead, it is the best land for me.’
33 o goed derw a main The village of Berriew today is dotted with black and white houses, as is traditional on the Welsh border. Most of them date to the Tudor period or later and are a reminder of the style of earlier houses in this part of Powys. It is generally agreed that half-timbered houses of local oak were the most familiar style in this region at the end of the fourteenth century and during the fifteenth century, and most probably that was the style of the medieval hall at Vaynor Park, see Haslam 1977: 43–6. The timber frame would stand on a partition, which was constructed on a stone foundation , see Smith 1988: 76.
41–2 Gweled ei fwg o wlad Fôn / A gâi’r llu, o Gaerllion The force of this couplet is unclear, especially with the repetition of Môn in line 43 Ym Môn y gwelid y mwg ‘The smoke could be seen in Anglesey.’ The poet is probably claiming that smoke from the house can be seen from the two furthest points of Wales, namely Anglesey in the north and Caerleon in the south.
43 mwg One of the greatest developments that took place in the middle of the fifteenth century regarding the hall houses of Montgomeryshire was to replace the open hearth in the centre of the hall with a proper fireplace and a chimney on one of the walls, see Smith 1988: 46. Is it likely that Edward ap Hywel replaced his hearth with a fireplace in his new hall at Vaynor? See Williams 1978: 85–99.
43–4 Môn … / … Morgannwg Anglesey and Glamorgan represent the furthest points of Wales.
44 mur gwyn A common custom in this period was to limewash buildings, see Peate 1944: 20, cf. GRhGE 2.18n and GSRh 1.29n.
45 Y Felallt Beeston in Cheshire and possibly the famous Beeston castle, cf. 56.23 Uchel yw craig y Felallt ‘Beeston’s rock is high.’
46 Dofr Dover in south-east England often represents one of the furthest points of Britain in medieval poetry. However, its purpose here is to imply that Vaynor was raised on higher ground, like Dover.
47 Dyblu derw, dwbled irwydd The phrase dyblu derw ‘oak that has been doubled’ could be a reference to the many pairs of oak trusses which were tightly pegged to the main timber frame to bond the roof and the walls. But dyblu could also mean ‘to line (a garment)’, see GPC 1113, and here it could describe the material used to line the inside panels of the timber frame, which were branches of young trees pleated into each other and filled with mud and clay. This interpretation is strengthened by the next image, dwbled irwydd ‘doublet of fresh timbers’. The doublet (a tight coat) was worn underneath armour, and here the poet suggests that the timber or the internal walls of the building are similar to the inside of a doublet. Terms connected with clothing and armour were widely used as metaphors to describe the appearance of buildings by the poets, cf. GTP 16.11–12 A’i fur fal gwisgo curas, / O nen i lawr yn iäen las ‘with its wall like wearing a cuirass, / a pale sheet of ice from the ceiling downwards’ (on the Tŷ Gwyn at Barmouth).
48 dinas Iorc ’mdanaw York was one of the most important towns in England in the fifteenth century, and this is probably a reference to the town walls which Steane (1985: 56) describes as ‘the most complete set of medieval town walls in England, and among the finest in Europe’. Guto suggests that the walls around Vaynor are similar to the town walls of York.
49 Caewyd ymysg coed a main It is likely that the timber frame was covered with a roof of stones or slates, as the poet suggests here. In a poem describing the house of Siôn Mechain, Llandrinio, Guto hints that the material used for the roof came from the nearby Corndon Hill, see 85.23–4 Cerrig ar frig awyr fry / Cornatun yn cau’r nawty ‘Stones from Corndon Hill on top in the sky above / a roof for the nine buildings’. For further discussion, see Houses and Buildings: Construction: Masonry.
50 Cydewain The commote between the rivers Rhiw and Severn.
51 Sycharth Owain Glyndŵr’s court in Llansilin, Powys, and the subject of a famous poem by Iolo Goch, where he describes the court in detail, see GIG poem X. In 1403 King Henry V put Sycharth to the torch. The court became a standard comparison for the poets when describing buildings, cf. 90.38 Neuadd fal seren Owain ‘a hall like Owain’s star’, and see further 90.38n (explanatory). See also Roberts 1973: 12–47.
54 is Manafon A village about four miles to the west and slightly to the north of Berriew (which explains is ‘below’ here).
55 gwart Borrowed from the English ward or garde, see GPC 1586–7 and OED Online s.v. ward, n.2 meaning ‘the (inner or outer) circuit of the walls of a castle; the ground between two encircling walls’, that is, the part of the close or yard that surrounded the house, cf. 105.1–2 Llydan oedd gastell Edwart / A’i dyrau gwych a’i dair gwart ‘Wide was Edward’s castle / with its fine towers and three wards.’ The word gwart is often rhymed with proper names like Edwart and Risiart by Guto, cf. 103.10, 26, 105.1–2, 13.
56 braich y Rhiw There is a place called Braich y Rhiw in Tywyn, Merioneth, according to ArchifMR, and the editors of GGl suggest that it is a proper name here. However, the family connection was with Y Tywyn in Ceredigion according the genealogies. Is it likely that braich y Rhiw is a metaphor for the house itself here, and that the poet, once again, is playing on the meaning of rhiw ‘slope’ and Rhiw, the river? Cf. 90.35–6 Yng ngwar rhiw yngo y rhoed / Angel diargel derwgoed ‘There in the slope’s nape was placed / a clear, oakwood angel’ (for Moeliwrch). One of the meanings of braich in GPC 307 is ‘ridge or spur (of mountain), headland’, which is quite appropriate considering the high location of Vaynor.
57 nawty According to the Welsh laws of Hywel Dda, nine houses were built for the king: a hall, a bedroom, a kitchen, a chapel, a barn, a kiln, a stable, a gate-house and a ‘toilet’. In the early Middle Ages, these were not under the same roof. The reference to nawty ‘nine houses’ here could simply mean that the new house at Vaynor had all of the ‘rooms’ required in one building. Nine could often convey perfection and it is possible that nawty by this period simply meant ‘a house with all of the essential rooms’, that is a ‘perfect’ and ‘complete’ house, see Roberts 1986: 9 and cf. 85.21–2 Neuadd hir newydd yw hon, / Nawty’n un a’r tai’n wynion ‘This is a long new hall, / nine buildings in one, the buildings being white.’
60 newydd, hen The contrast between the old and new is a theme that runs through the poem, cf. lines 31–2 Tŷ ieuanc yn toi awyr, / Tŷ hen fo i’u plant a’u hŵyr ‘a young house hiding the sky, / may it be an old house for their children and grandchildren’.
Bibliography
Evans, G.G. and D.W. Smith (1995), ‘The Place-names of Berriw’, Mont Coll 83: 1–40
Haslam, R. (1977), ‘A Note on the Architecture of Vaynor Park’, Mont Coll 65: 43–6
Lake, A.C. (1995), ‘Goblygiadau Clera a Golwg ar Ganu Guto’r Glyn’, YB XX: 125–48
Peate, I.C. (1944), The Welsh House: A Study in Folk Culture (Liverpool)
Roberts, E.P. (1973), ‘Tŷ Pren Glân mewn Top Bryn Glas’, TCHSDd 22: 12–47
Roberts, E.P. (1986), Tai Uchelwyr y Beirdd 1350–1650 (Caernarfon)
Silvester, R. and Alfrey, J. (2007), ‘Vaynor: A Landscape and its Buildings in the Severn Valley’, J. Finch and K. Giles (eds.), Estate Landscapes: Design, Improvement and Power in the Post-medieval Landscape (Woodbridge)
Smith, P. (1988), Houses of the Welsh Countryside (London)
Steane, J. (1985), The Archaeology of Medieval England and Wales (London)
Suggett, R. (2003), ‘Dendrochronology: Progress and Prospects’, S. Briggs (ed.), Towards a Research Agenda for Welsh Archaeology (Oxford)
Williams, E. (1978), ‘Yr Aelwyd: the Architectural Development of the Hearth in Wales’, Folk Life, 16: 85–99
Canodd Guto gywydd mawl (cerdd 38) i Edward ap Hywel o’r Faenor a’i wraig gyntaf, Gwenllïan ferch Rhys. Un gerdd arall i Edward a oroesodd, sef cywydd mawl gan Owain ap Llywelyn ab y Moel (GOLlM cerdd 13). Canodd Gwilym ab Ieuan Hen gywydd ac awdl foliant i rieni Edward, sef Hywel ab Ieuan Llwyd a Myfanwy ferch Gruffudd (GDID cerddi IV a V). Canodd Guto gywydd mawl (cerdd 37) i daid Gwenllïan, sef Dafydd Llwyd ap Dafydd o’r Drenewydd.
Achresi
Seiliwyd yr achresi isod ar WG1 ‘Elystan Glodrudd’ 45, ‘Meilyr Gryg’ 1, 5; WG2 ‘Elystan Glodrudd’ 45 A1, ‘Meilyr Gryg’ 3A, 5A. Nodir mewn print trwm yr unigolion a enwir gan Guto yn ei gerdd i Edward, a thanlinellir enwau’r noddwyr.
Achres Edward ap Hywel o’r Faenor
Cafodd tad Edward, Hywel ab Ieuan Llwyd, hefyd fab o’r enw Morus Goch gyda Siân ferch Hywel a merch o’r enw Marian gydag Arglwyddes Brychdwn. Fel y gwelir, roedd Edward yn ddisgynnydd i Feilyr Gryg, gŵr y credir iddo ymgartrefu yn y Llwynmelyn yn Nhregynon, un o blwyfi Cedewain (L. Dwnn: HV i, 283).
Achres Gwenllïan ferch Rhys o’r Faenor
Gwraig gyntaf Edward oedd Gwenllïan ferch Rhys o’r Drenewydd. Ar ei thad, Rhys ap Dafydd Llwyd, gw. Dafydd Llwyd ap Dafydd. Roedd dau o neiaint Gwenllïan, Arthur ap Tomas a Mathau Goch ap Tomas, yn siryfion y sir yn 1548 a 1578. Roedd ail wraig Edward, Elisabeth, yn ferch i Siôn Corbed, gŵr a roes ei nawdd i Owain ap Llywelyn ab y Moel (GOLlM cerdd 14).
Priododd Catrin, unig ferch Edward a Gwenllïan, ŵr o’r enw Gruffudd ap Hywel ab Ieuan Blaenau. Ceir casgliad o ddogfennau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru dan y teitl Vaynor Park Estate, a dyddiad y ddogfen hynaf yn y casgliad yw 1459. Nodir yn y ddogfen honno i ŵr o’r enw Hywel ab Ieuan dderbyn y felin ŷd a’r pandy yn Aberriw gan Richard dug Iorc (LlGC Vaynor Park Estate 315). Uniaethwyd y gŵr hwnnw â Hywel ab Ieuan Llwyd o’r Faenor, tad Edward ap Hywel, gan fod y ddogfen wedi ei chadw yng nghasgliad y stad. Fodd bynnag, dadleuodd Thomas (1979: 91–109) mai Hywel ab Ieuan Blaenau ydoedd.
Y Faenor yn Aberriw
Cartref Edward a Gwenllïan oedd y Faenor yn Aberriw yng nghwmwd Cedewain. Cysylltir Phylib Goch, gorhendaid Edward ar ochr ei dad, â’r Faenor ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg yn achresi Bartrum (WG1 ‘Meilir Gryg’ 5). Fodd bynnag, mae hanes cynnar yr adeilad yn niwlog. Fel nifer o dai eraill ym Mhowys, mae’n bosibl i’r tŷ brofi peth difrod yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr, pan losgwyd nifer o dai ar y Gororau (Huws 2007: 97–138). O’r herwydd, ailadeiladwyd nifer helaeth o dai yn y bymthegfed ganrif yn unol â’r datblygiadau diweddaraf ym maes pensaernïaeth (Suggett 1996: 28). Fodd bynnag, ni oroesodd unrhyw dystiolaeth o waith adeiladu cyffelyb yn y Faenor gan i’r tŷ gael ei ailadeiladu’n llwyr yn yr ail ganrif ar bymtheg (Haslam 1977: 43–6). Dyddir y gwaith adeiladu cynharaf yno heddiw i 1640. Nid oes amheuaeth, fodd bynnag, fod y Faenor yn dŷ neuadd mawreddog yn amser Edward a Gwenllïan (Silvester and Alfrey 2007: 39).
Llyfryddiaeth
Haslam, R. (1977), ‘A Note on the Architecture of Vaynor Park’, Mont Coll 65: 43–6
Huws, B.O. (2007), ‘Ailadeiladu Bywyd ar ôl Gwrthryfel Glyndŵr: Tystiolaeth y Canu i Foelyrch’, Dwned, 13: 97–137
Silvester, R. and Alfrey, J. (2007), ‘Vaynor: A Landscape and its Buildings in the Severn Valley’, J. Finch and K. Giles (eds.), Estate Landscapes: Design, Improvement and Power in the Post-medieval Landscape (Woodbridge)
Suggett, R. (1996), ‘The Chronology of Late-Medieval Timber Houses in Wales’, Vernacular Architecture, xxvii: 28–37
Thomas, S.P. (1979), ‘A Postscript to “Branches of the Blayney Family” ’, Mont Coll 67: 91–108
Gw. Edward ap Hywel a Gwenllïan ferch Rhys o’r Faenor