Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn 49 llawysgrif, yn gyflawn neu’n anghyflawn, dros gyfnod sy’n ymestyn o ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mân amrywiadau yn bennaf a geir yn nhestunau’r llawysgrifau, heb lawer o wahaniaethau amlwg, a’r un drefn llinellau sylfaenol gan amlaf. Diau y gellir eu holrhain i gyd i’r un gynsail ysgrifenedig. Mae’r mwyafrif mawr o lawysgrifau’r gerdd yn gysylltiedig â gogledd a chanolbarth Cymru, ac yn enwedig â’r gorllewin. Mae’n amlwg na fu agos cymaint o gylchrediad i gywydd Guto yn y De, fel y dengys y nifer llawer llai o lawysgrifau ohono o’r De-ddwyrain, a’r rheini’n tarddu o’r un ffynhonnell.
Ymranna’r testunau yn bedwar prif fath a’r rheini’n ymganghennu ymhellach. Nodweddir testunau X1 gan y darlleniad er rhoddi yn 9 lle ceir yn rhoddi yn llawer o’r llawysgrifau eraill. Nodweddir testunau X2 gan y darlleniad yn rhoddi yn yr un man. Nodweddir testunau X3 gan ddiffyg 7–8 ac ymrannant yn ddau fath – X8 ac X9. X8 yw ‘Cynsail Dyffryn Conwy’, ac mae LlGC 3049D a Gwyn 4 yn gopïau ohono, a darllenir er rhoddi yn 9. Ar y llaw arall, ac yn groes braidd i’r graen, yn rhoddi a ddarllenir yn nhestunau X9 a chynigir bod yma groesddylanwadu. Gwahaniaetha testunau X4 mwy oddi wrth y testunau eraill, yn enwedig o ran trefn eu llinellau. At hyn, ceir yn X10 ychwanegiad o bedair llinell at ddechrau’r gerdd (gw. 1n). Heblaw’r testunau hyn, ceir dyrnaid o destunau nad ydynt, un ai am eu bod yn anghyflawn neu oherwydd natur eu darlleniadau, yn disgyn yn dwt i’r un o’r grwpiau uchod, sef Llst 55, Wy 1, Pen 221, LlGC 3288Bi.
O ran ansawdd, ceir y testunau â’r darlleniadau gorau yn nhestunau X1, X2, X3, yn enwedig yn y rhai cynharach. Llwgr mewn cymhariaeth yw testunau X10 ac X11, ac efallai mai trosglwyddiad llafar yn hytrach nag ysgrifenedig sy’n cyfrif am hyn. Testunau C 2.114, LlGC 3049D, Pen 99, C 2.68ii sy’n sail i’r testun golygyddol.
Trawsygrifiadau: C 2.114, LlGC 3049D, Pen 99, C 2.68ii.
1 Mae’n ddiddorol nodi y rhagflaenir y llinell hon yn nhestunau Llywelyn Siôn a’r adysgrifau ohonynt (gw. uchod ar destunau X10) gan bedair llinell nas ceir yn y testunau eraill, sef Twrstan vab trist iawn wyf i / es dauddydd nos da yddi / balch vyddwn llwyddiwn vy llef / a di drist be doi adref, C 2.630, 106v. Cwbl wahanol ydynt o ran naws a chynnwys i weddill y gerdd ac edrychant fel pe baent wedi dod o ryw gywydd serch. (Mae’r llinell olaf yn dwyn i gof GHS 24.9 Didrist wyf o daw adref (Ieuan ap Hywel Swrdwal), er nad serch sydd dan sylw yno.)
9 er Dyma ddarlleniad X1 (ac eithrio LlGC 3288Bi lle mae’r darlleniad yn gymysglyd), Wy 1, X8, tra ceir yn yn X2 ac X9. Mae’r ddau ddarlleniad yn rhoi ystyr burion ac yn digwydd yn y llawysgrifau cynharaf ond mae’n fwy tebygol mai er oedd y darlleniad gwreiddiol gan mai haws fuasai troi er yn yn (os nad oedd ystyr er yn y cyd-destun yn gwbl eglur i ryw gopïwr) nag yn yn er. Rhydd er gynghanedd gyflawn hefyd tra ceir n ganolgoll o ddarllen yn. Yn X4 wrth a geir ond nid yw tystiolaeth y grŵp hwn mor ddibynadwy a cheir rhi yn cyfateb i r.
12 onid yw ar ŵyn Dyma ddarlleniad Pen 103 (cf. GGl). Gellid hefyd ystyried onid ar i ŵyn C 2.68ii. onid ar ŵyn neu ond ar yr ŵyn yw darlleniadau’r llawysgrifau eraill, sy’n gynharach, ond rhy fyr o sillaf yw’r llinell felly. Gellid darllen onid ar yr ŵyn ond llai llyfn fyddai’r gynghanedd.
21 yn eu Dyma ddarlleniad y rhan fwyaf o’r llawysgrifau. Gthg. GGl oedd i’w a geir fel amrywiad ar im yn C 2.114, ond y tebyg yw mai llygriad yw im o ini (‘yn eu’) ac mai ymgais i’w gywiro yw oedd iw yno.
37 anysmonaeth Gthg. GGl am ysmonaeth (cf. Pen 103) ond ceir gwell synnwyr o ddarllen anysmonaeth (gan ei ddeall yn sangiad).
49 yn llaw Gthg. GGl i’n llaw. Y darlleniadau yw Pen 103, Pen 99 yn llaw, LlGC 3049D, C 2.68ii n llaw, ac maent, yn orgraffyddol a chystrawennol o blaid yn llaw. (Yn C 2.114 a Pen 112 ceir im llaw.)
66 Mae’r llinell yn rhy hir o sillaf. Gan nad oes modd ei chywasgu a bod hyd llinellau Guto yn rheolaidd iawn, mae’n ddiddorol ei fod yn caniatáu llinell wythsill. Ai rhan o hiwmor y gerdd yw hyn? A, heb fod yn orffansïol, tybed a yw ail elfen [c]ornir yn gyfeiriad ysmala at hyn?
Yn y cywydd hwn mae’r bardd yn adrodd ei hanes yn gyrru defaid Syr Bened, person Corwen, i Loegr ac yn ceisio eu gwerthu. Disgrifiad doniol o’r daith o Feirionnydd i farchnadoedd a ffeiriau yn Lloegr a geir, a’r trafferthion a fu ar hyd y ffordd. Collodd Guto y rhan fwyaf o’i braidd o ganlyniad i lifogydd ac ni lwyddodd i werthu’r gweddill am brisiau uchel oherwydd i wlân y defaid gael ei ddifetha. Mae’r gerdd yn rhan o ymryson rhwng Guto’r Glyn a Thudur Penllyn (gw. ymhellach gerddi 44a a 45) – ymryson a fu’n diddanu Syr Bened yn ei lys, efallai. Oherwydd bod y cywydd yn cynnwys peth dychan ac yn perthyn i gyfres o gerddi rhwng y bardd a Thudur Penllyn, awgryma Dafydd Johnston (2005: 388) fod hanes y daith yn ddychmygol ac yn dangos y math o hwyl a geid rhwng beirdd; ond nid yw manylion daearyddol y daith yn awgrymu mai dychymyg yw’r gerdd, hyd yn oed os oes ynddi efallai ryw gymaint o or-ddweud. Sylwer hefyd ar y cyfeiriad bywgraffyddol yng nghywydd Guto i Syr Siôn Mechain pan oedd wedi heneiddio, 84.53–6 Nid awn o Wynedd, meddynt, / Heb wlân ac ŵyn o’r blaen gynt. / Od af yn fugail eilwaith, / O gyrraf ŵyn i Loegr faith. Mae’r cyfeiriadau at leoedd hefyd yn adleisio enwau a fu’n amlwg yn helyntion gwleidyddol y cyfnod, er enghraifft Efrog, Warwick a Stafford.
Ceir yn y cywydd dystiolaeth werthfawr am deithiau’r porthmyn o Gymru i Loegr yn y bymthegfed ganrif. Yr unig ffordd o symud anifeiliaid i’w gwerthu yn y cyfnod oedd eu cymell yn araf ar hyd y ffordd. Er bod marchnadoedd anifeiliaid pwysig yng Nghymru, roedd yn rhaid teithio ymhellach i gael prisiau gwell, yn enwedig gan fod nifer o’r trefi marchnad Cymreig yn dal i ddioddef yn economaidd yn sgil gwrthryfel Owain Glyndŵr. Ond roedd teithio yn dasg anodd a blinedig i borthmyn, crefftwyr a masnachwyr yn y bymthegfed ganrif. Problem gyffredin oedd lladron yn dwyn anifeiliaid a nwyddau, yn enwedig ar y Gororau yn ôl deddf a basiwyd yn 1441–2 (Richards 1933: 341), a chlywir y gŵyn hefyd gan ambell fardd (e.e. GDC cerdd 10; GLl cerdd 23). Roedd cyflwr y ffyrdd hefyd yn arafu’r daith, yn enwedig â chymaint o afonydd yn gorlifo a dyna yw cwyn Guto. Mae’n anodd dyfalu hyd ac amser teithiau’r porthmyn gan fod hynny’n dibynnu ar gyflwr y ffyrdd, y tywydd a nifer yr anifeiliaid. Ceir un cofnod ar ffurf dyddiadur porthmon o Loegr a gychwynnodd ar un o’i deithiau ar 12 Mai 1323 (Stenton 1936: 18–19). Aeth â llwyth enfawr o anifeiliaid o Long Sutton yn swydd Lincoln, ac yn eu plith 272 o ŵyn. Cyflogodd bedwar gwas i’w helpu i gymell y gwahanol anifeiliaid ar daith tuag at Cowick yn nwyrain swydd Efrog. Cymerodd y daith bron i fis ac mae’n debygol y byddai taith o Gorwen i ogledd Lloegr wedi cymryd peth amser! Eto, roedd gyrru anifeiliaid o Gymru i bellafion Lloegr yn digwydd yn y bymthegfed ganrif a phrawf o hynny yw’r tollau a godid ar nwyddau wrth groesi pontydd, megis pont Montford ar y ffordd i Amwythig neu doll Henffordd a godid ar nwyddau a groesai’r hen bont ar Wy (Richards 1933: 210). Yn 1463 cyrchwyd gwartheg yr holl ffordd o Wrecsam i Suffolk, ac yng nghanol Rhyfeloedd y Rhosynnau cyflenwyd milwyr o Brydain yn Ffrainc â chigoedd gwartheg o Gymru ar ôl cyrchu’r gwartheg o Gymru i Lundain (gw. Jenkins 1933: 73; Skeel 1926: 137–8).
Swydd amharchus oedd swydd y porthmon yn y cyfnod hwn. Cysylltid porthmyn â bargeinio a’u hystyried yn wŷr busnes amheus a thwyllodrus. (Am enwau rhai porthmyn, gw. Skeel 1926: 150; Carr 1982: 107.) Mewn cywydd o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg sy’n cyfeirio at wahanol swyddi yn y gymdeithas rhestrir porthmyn, cryddion a masnachwyr fel y rhai a oedd yn twyllo ac felly’n anaddas i fod yn rheithwyr mewn achos llys (GGLl cerdd 10). Dyna’r awgrym a geir hefyd yn y cerddi ymryson. Bu porthmona yn destun ymryson rhwng beirdd fel Dafydd Llwyd a Llywelyn ap Gutun, Tudur Penllyn ac Ieuan Brydydd Hir, ac mae’r beirdd yn cyfeirio’n aml at y ddelwedd ddifrïol hon (e.e. GDLl 151). Ond roedd rhai beirdd yn borthmyn llwyddiannus a Thudur Penllyn yn un ohonynt. Roedd ef hefyd yn uchelwr, sy’n awgrymu nad unigolion tlawd fel Llywelyn ap Gutun yn unig oedd yn porthmona, gw. GGM Atodiad iv.35–8; cf. ibid. llinell 8: Fal Gutun o foly goetir.
Mae tair rhan i’r cywydd. Mae’r adran gyntaf (1–10) yn moli Syr Bened am ei haelioni di-ball yn rhoi arian. Mae’r ail adran (11–38) yn adrodd hanes Guto yn cychwyn ar ei daith gyda dau was a’i braidd o ŵyn gwynion a duon. Ond wedi eu gyrru’n ofalus i Loegr, mae’r llifogydd yn peri difrod echrydus. Gan ailadrodd y negydd ni, â’r bardd yn ei flaen i bwysleisio’r darlun truenus o’i ddefaid yn boddi a’r gweddill yn ceisio dianc. Pan geisiodd werthu’r ŵyn oedd yn weddill, sylweddolodd nad oeddynt yn werth dim oherwydd i’w gwlân gael ei ddifrodi. Yn y drydedd adran (39–70) mae’r bardd yn datgelu’n adeiladol hanes eu taith yn mynd i bellafion Lloegr er mwyn ceisio cael prisiau gwell am yr ŵyn. Ond ni lwyddwyd. Cyfeiria at arfer Tudur Penllyn o werthu ei ddefaid yn Ardudwy (sy’n dwyn i gof gywydd dychan Ieuan Brydydd Hir i Dudur Penllyn, GIBH cerdd 2) ac yn dweud y byddai ef, sef Guto, wedi cael prisiau gwell pe bai wedi eu gyrru i’r Gororau a’u gwerthu yno. Er bod y cywydd yn ddechrau ymryson rhwng Guto a Thudur Penllyn, mae’n llawer llai miniog na’r cerddi dychanol eraill. Canolbwyntia’r bardd ar adrodd ei stori’n adeiladol a chwyno am ei drafferthion yn hytrach na difrïo Tudur.
Dyddiad
Cyfeiria Guto at Syr Bened fel person Corwen (4), felly dyna osod 1439 yn terminus post quem ar gyfer adeg canu’r gerdd (gw. Syr Bened). Bu farw Syr Bened yn 1464 ond roedd Thomas Roberts o’r farn fod ateb Tudur Penllyn (cerdd 44a) yn ddiau ‘yn perthyn i gyfnod cynharach na hynny o gryn nifer o flynyddoed’ (GTP xii). Cynigir, felly, mai tua 1450 y canwyd y gerdd.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd XXXI.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 70 llinell.
Cynghanedd: croes 41% (29 llinell), traws 19% (13 llinell), sain 31% (22 llinell), llusg 9% (6 llinell).
3 pen-llywydd llên Roedd Syr Bened yn ŵr llengar ac, yn fwy na thebyg (fel y disgwylid yn achos rhywun o’i statws ef), yn ysgolhaig; cf. 43.9 Haelaf mab llên Syr Bened, 47.49–50 Marw fu Ifor yng Nghorwen, / A thorri llys athro llên; 44a.5–6 Ychydig, Curig Corwen, / Un llaw o’r athrawon llên. Yn ei gywydd i Siôn Mechain cyfeiria Guto at Ddafydd Cyffin fel ei athro cyntaf a Syr Bened fel yr ail, 84.3–8.
4 person Corwen Sef Syr Bened.
6 tri llinyn Sef y tri llinyn a ddefnyddid i agor a chau gwddwf y god arian, manylyn diddorol am ei wneuthuriad.
11–14 Roedd Syr Bened, er ei holl haelioni, hefyd yn fargeiniwr caled.
13 bargen Awgryma Guto fod bargeinio am bris yr ŵyn wedi bod rhyngddo a Syr Bened cyn y daith, ac mae hyn yn ychwanegu at gyffro’r stori.
13 Syr Bened Mae’r teitl ‘Syr’ yn y bymthegfed ganrif fel arfer yn dynodi offeiriad heb radd prifysgol a oedd yn perthyn i esgobaeth benodol yn hytrach nag i urdd grefyddol; ymhellach, gw. GSDT 4.
17 euthum Ar hoffter Guto o ddefnyddio’r ferf mynd i gyfleu’r syniad ei fod o hyd yn symud ac yn teithio, gw. Lake 1995: 141.
17 Mae’r llinell yn rhy hir o sillaf oni chywesgir innau i.
23 Rug Neu Y Rug, cartref nawdd pwysig i feirdd ger Corwen a chartref Elen ferch Hywel ap Rhys, gwraig Dafydd ap Meurig Fychan, Nannau, gw. cerdd 49.
23 Cefn yr Ais Enw lle a grybwyllir yn y farddoniaeth ond sy’n ansicr ei leoliad. Am gyfeiriadau ato, gw. Lewis 1921–3: 303 (llinell 67); G 122; GO LIV.6n; GDB 6.14n; GDGor 7.48n; GSCyf 13.8n; GLGC 89.36 (ond nis trinnir fel enw lle yno). Ymddengys mai safle brwydr benodol ydoedd. Yn ôl Owen 1892–1936: iv, 653, ‘It is not known where Cefn yr Ais was, except that it must have been on the frontier of the older Powys’, a thybir yn GO 284 ei fod aux confins de Powys et de l’Angleterre.
24 Warwig Tref Warwick. Yn ôl cofnod yn 1413, cynhelid ffair flynyddol yno am dridiau yn ystod Gŵyl Fihangel, ‘Gazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516’ s.n. Warwick.
32 y glynawdd eu gwlân Mae arddodiad, megis ynddo neu wrtho, yn ddealledig yn y cymal hwn. Am hepgor arddodiaid rhediadol yn gystrawen hon, gw. GMW 66.
34 Cwyntry Tref Coventry, rhyw 11 milltir o dref Warwick (gw. 24n). Yn ôl Stenton 1936: 10, roedd y ffordd o Warwick i Coventry yn rhan o’r ffordd ganoloesol o Daventry i Stone. O’r drydedd ganrif ar ddeg datblygodd Coventry yn ganolfan economaidd bwysig. Ceir cyfeiriad yn 1445 at ffair yn cael ei chynnal yno drannoeth gwledd Gŵyl Dduw, ‘Gazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516’ s.n. Coventry.
35 Ceseilier a er mwyn hyd y llinell.
40 ffyrdd Iorc Tref Caerefrog. Cynhaliwyd mwy nag un ffair a marchnad yno yn yr Oesoedd Canol. Yn 1449 caniataodd Harri’r VI i drigolion a maer y dref gynnal ffair ar y chweched dydd ar ôl gwledd y Sulgwyn, gw. ‘Gazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516’ s.n. York. Wrth gwrs, byddai cyrraedd Efrog wedi cymryd cryn amser i Guto a'i anifeiliaid yn y cyfnod hwn.
41 treulio ’n Litsffild Tref Lichfield, neu Gaerlwytgoed, yn swydd Stafford. Ceir cofnod o ffair a gynhaliwyd yn y dref ar Ddydd Mercher y Lludw yn 1409 ac a barhaodd hyd at 1622. Yn C 2.114 ceir y darlleniad bidsffild sydd un ai’n amrywiad ar Litsffild neu’n gyfeiriad at Bichfield, lle allweddol i deithwyr yn y cyfnod hwn rhwng Stamford a Lincoln, gw. Stenton 1936: 8.
41 gild Gellid hefyd ei ddeall yn gyfystyr â’r Saesneg gild, sef ‘cymdeithas, urdd, clwb’, sef y gair y benthyciwyd y Gymraeg ohono, er mai 1609 yw dyddiad yr enghraifft gyntaf o’r gair yn yr ystyr honno a restrir yn GPC 1398 d.g. gild1. Os felly, doder coma ar ôl Litsffild ac aralleirio 41–2: ‘Treuliais amser yn Litsffild, cefais hyd i gild (hynny yw, cymdeithas o fasnachwyr), / Ond nid oedd deuddeg oen yn ddigon.’ Roedd rhaid cael nifer penodedig o anifeiliaid i fod yn rhan o gild fel yr un yn Lichfield, gw. Rosser 1985–6: 39–47, ac o ddilyn y dehongliad hwn, efallai mai ergyd yr ail linell fyddai i Guto gael ei wrthod gan y gild am fod nifer ei ŵyn wedi lleihau.
43 Staffordd Tref Stafford yn swydd Stafford yng ngogledd Lloegr.
44 tua’r Nordd Gogledd Lloegr. Boddi mewn camlas yn y Nordd a wnaeth ŵyn Guto yn ôl y cywydd ateb gan Tudur Penllyn: Ar gamlas y boddasant / Yn y Nordd o fewn y nant, 44a.41–2.
49 llog Ar ei ystyron, gw. GPC 2202 d.g. llog1. Yr hyn a olyga yma yw ‘swm o arian’ yn hytrach na ‘tholl’ neu ‘ddirwy’.
50 Deuoen gwynion dan geiniog Yn ôl Lewis 1933–5: 315, 317, gwerthwyd dau oen mewn marchnad yn Nhrefdraeth ar ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg am ddau swllt a thri oen am ddau swllt a thair ceiniog.
50 Ni threiglwyd yr ansoddair gwynion ar ôl y rhif deuol deuoen, yn wahanol i’r arfer, gw. TC 61–2. Tebyg mai gofynion y gynghanedd a barodd hyn.
51 y garreg Ymddengys mai craig neu greigle ar bwys cartref Syr Bened a olygir; cf. 45.17–18 Oeswr baun fo Syr Bened / Ym mynwes craig am nas cred!
57 degwm Ar yr ystyr ‘ŵyn degwm’, cf. y math o nodyn brig a geir yn nhestunau Llywelyn Siôn o’r gerdd, e.e. C 2.630, 106v, llyma y kywyddau ymryson a vy Rwng Gytor glynn A thydyr pennllyn o blegid wyn degwm a brynysai gytor glynn gan syr bened person korwen. Cf. hefyd yr hyn a ddywed Tudur Penllyn yn ei ymateb i Guto, 44a.21–2 Ei amcan, organ eurgerdd, / Cael degwm y Cwm er cerdd, 63–4 Nedwch iddo’ch hudo chwi / Am wlân degwm eleni!
58 Dewi’r Cwm Cyffelyba Guto Syr Bened i Ddewi Sant (bydd y beirdd weithiau’n cyffelybu eu noddwyr i angylion neu fabsaint neu hyd yn oed i Grist). Yn ôl Roberts 1947: 39–40, mae arfer Guto o gymhwyso enw Dewi Sant i’w noddwyr trwy ddefnyddio Dewi a’i ddilyn gan enw yn arbennig i’r bardd hwn. Ar y Cwm, plwyf ger Rhuddlan yn Nhegeingl (sir y Fflint), gw. 43.5–7n. Cf. awdl Guto i Syr Bened, 43.5–7 Traws wyd … / … / Tros y Cwm, ibid. 53 Garmon y Cwm, a chyfeiriadau Tudur Penllyn ato fel arglwydd y Cwm, 44a.56.
59 Ardudwy Cantref ym Meirionnydd a lle bu Tudur Penllyn yn gwerthu ei ddefaid am brisiau uchel, gw. GIBH Atodiad iv.31–2 Dodaf glod i Ardudwy / Dichwith, ni bu fendith fwy.
61–2 Tudur … / Penllyn Y bardd o Gaer-gai yn Llanuwchllyn. Ei ddyddiadau yn ôl GTP xiii yw c.1415–20 hyd c.1485. Dywedir yn ByCy 926, ‘Ymddengys fod Tudur Penllyn yn porthmona, yn cadw preiddiau defaid ac ŵyn ac yn gwerthu gwlân, yn ogystal â barddoni, ond ni chadwai hynny mohono rhag dilyn arfer y beirdd o glera a theithio o Blas i Blas yn y Deau a’r Gogledd.’ Am ei yrfa gw. GTP ix–xxix; Roberts 1942: 141–51; Roberts 1943: 27–35.
61 cwndidwyllt Ar ystyron cwndid, gw. GPC 643 d.g. cwndid1 ‘cân, carol, math o gerdd foesol neu grefyddol a genid ar fesurau’r glêr yn y bymthegfed ganrif a’r ganrif ddilynol yn y Deau, yn enwedig yng Ngwent a Morgannwg; weithiau roedd yn gerdd fawl i ŵr bonheddig ac ambell waith yn farwnad; truth’. Mae’n anodd gwybod ei union ystyr yn yr enghraifft hon, ond ymddengys mai’r ergyd yw bod Tudur Penllyn yn hoff o gyfansoddi caneuon mwy poblogaidd, o ran ffurf neu naws, na’r canu swyddogol.
66 ernes Talodd Syr Bened flaendal i Guto am ei wasanaeth er mwyn sicrhau’r cytundeb rhwng y ddau. Ceiniog o’r tâl hwnnw’n unig sydd gan Guto ar ôl.
Llyfryddiaeth
Carr, A.D. (1982), Medieval Anglesey (Llangefni)
Jenkins, R.T. (1933), Y Ffordd yng Nghymru (Wrecsam a Chaerdydd)
Johnston, D. (2005), Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300–1525 (Caerdydd)
Lake, A.C. (1995), ‘Goblygiadau Clera a Golwg ar Ganu Guto’r Glyn’, YB XX: 125–48
Lewis, E.A. (1933–5), ‘The Toll Books of Some North Pembrokeshire Fairs 1599–1603’, B vii: 284–318
Lewis, H. (1921–3), ‘Cywyddau Brud’, B i: 240–55, 296–309
Owen, H. (1892–1936) (ed.), The Description of Pembrokeshire by George Owen of Henllys (4 vols., London)
Richards, R. (1933), Cymru’r Oesau Canol (Wrecsam)
Roberts, T. (1942), ‘Tudur Penllyn’, Y Llenor, xxi: 141–51
Roberts, T. (1943), ‘Tudur Penllyn’, Y Llenor, xxii: 27–35
Roberts, T. (1947), ‘Guto’r Glyn’, Y Llenor, xxvi: 34–40
Rosser, A.G. (1985–6), ‘The Town and Guild of Lichfield in the Late Middle Ages’, Transactions of the South Staffordshire Archaeological and Historical Society, ccvii: 39–47
Skeel, C. (1926), ‘The Cattle Trade between Wales and England from the Fifteenth to the Ninteenth Centuries’, Transactions of the Royal Historical Society (4th series), vol. ix: 135–58
Stenton, F.M. (1936), ‘The Road System of Medieval England’, The Economic History Review, vii, no. 1: 1–21
Gwefan
‘Gazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516’ www.history.ac.uk/cmh/gaz/gazweb2.html
In this cywydd the poet recounts his experiences driving the sheep of Sir Benet, parson of Corwen, to England and his attempts to sell them. The description of the journey from Meirionnydd to the fairs and markets of England and of the troubles on the way is humorous. Guto lost most of his flock owing to floods and he failed to sell the remainder for high prices as the sheep’s wool had been spoilt. The poem is part of a contention between Guto’r Glyn and Tudur Penllyn (see also poems 44a and 45) – a contention which may have entertained Sir Benet at his court. Because the poem contains some satire and is part of a series of exchanges between Guto and Tudur Penllyn, Dafydd Johnston (2005: 388) suggested that the events of the journey are imaginary and illustrative of the kind of mutual fun in which the poets engaged; but the geographical details of the journey do not suggest that the poem is fictional, even if it perhaps contains some hyperbole. Notice too the autobiographical reference in Guto’s cywydd to Sir Siôn Mechain when he had aged, 84.53–6 Nid awn o Wynedd, meddynt, / Heb wlân ac ŵyn o’r blaen gynt. / Od af yn fugail eilwaith, / O gyrraf ŵyn i Loegr faith ‘Previously, they used to say, I wouldn’t leave Gwynedd / without wool and lambs in front of me. / If I become a shepherd again, / if I drive lambs to vast England.’ The places mentioned also echo names that were prominent in the political struggles of the period, for instance York, Warwick and Stafford.
The poem is valuable testimony to the journeys of drovers from Wales to England in the fifteenth century, when the only way of moving animals in order to sell them was by slowly urging them on along the way. Although there were important livestock markets in Wales, it was necessary to travel further in order to secure better prices, especially with many of the Welsh market towns still suffering economically in the wake of the Owain Glyndŵr rebellion. But travelling was a difficult and tiring task for drovers, craftsmen and merchants in the fifteenth century. A common problem was theft of animals and goods, especially in the March according to a law passed in 1441–2 (Richards 1933: 341), and the complaint is echoed occasionally by the poets (e.g. GDC poem 10; GLl poem 23). The condition of the roads also impeded the journey, especially with so many rivers overflowing, and that is another of Guto’s complaints. It is difficult to estimate the length in distance and time of the drovers’ journeys as that would depend on the condition of the roads, the weather and the number of animals in their possession. A record has survived in the form of a diary of a drover who started on one of his journeys on 12 Mai 1323 (Stenton 1936: 18–19). He took an enormous number of livestock with him from Long Sutton in Lincolnshire, and among them 272 lambs. He employed four farm-hands to help him urge on the various animals on a journey to Cowick in east Yorkshire. It took nearly a month’s journey to drive them there and we can assume, therefore, that a journey from Corwen to the north of England would have taken some time! Yet driving animals from Wales to the ends of England was common in the fifteenth century and proof of this are the tolls raised on goods when crossing bridges, such as Montford bridge on the way to Shrewsbury or the toll at Hereford raised on goods crossing the old bridge over the Wye (Richards 1933: 210). In 1463 cattle were taken all the way from Wrexham to Suffolk, and in the midst of the Wars of the Roses soldiers from Britain fighting in France were supplied with the meat of Welsh cattle driven from Wales to London (see Jenkins 1933: 73; Skeel 1926: 137–8).
The drover’s trade was not a respectable one during this period. Drovers were associated with bargaining and regarded as dubious and deceitful business men. (For the names of some drovers, see Skeel 1926: 150; Carr 1982: 107.) In a cywydd belonging to the end of the fourteenth century referring to different social professions, drovers, cobblers and merchants are listed as deceitful and therefore unsuitable to constitute a jury (GGLl poem 10). Such too is the image that we find in the poems of contention. Droving was a subject of debate between poets such as Dafydd Llwyd and Llywelyn ap Gutun, Tudur Penllyn and Ieuan Brydydd Hir, and the poets frequently refer to this defamatory image (e.g. GDLl 151). But some poets were successful drovers, and Tudur Penllyn was one of them. He was also a nobleman, which suggests that it was not only individuals of limited means like Llywelyn ap Gutun who practised the profession, see GGM Atodiad iv.35–8; cf. ibid. line 8: Fal Gutun o foly goetir ‘like Gutun from a wooded glen’.
The poem is in three parts. In the first (lines 1–10), Sir Benet is praised for his unstinting generosity in giving money. The second section (11–38) tells of Guto starting on his journey with two farm-hands and his flock of white and black sheep. But after driving them carefully to England, floods cause enormous damage. Repeating the negative ni (‘not’), the poet proceeds to emphasize the pitiful spectacle of his sheep drowning while the rest try to escape. When he attempted to sell the remaining sheep, he realized that they were worthless as their wool had been spoilt. In the third section (39–70), the poet reveals in a constructive way the events of their journey to the ends of England to secure better prices for the lambs. But to no avail. He mentions Tudur Penllyn’s practice of selling sheep in Ardudwy (which is reminiscent of Ieuan Brydydd Hir’s satirical cywydd to Tudur Penllyn, GIBH poem 2) and says that he, Guto, would have obtained better prices had he driven them to the March and sold them there. Although the poem initiates a contention between Guto and Tudur Penllyn, it is far less sharp than the other satirical poems. The poet concentrates on telling his story constructively and lamenting his woes rather than on disparaging Tudur.
Date
Guto refers to Sir Benet as person Corwen ‘parson of Corwen’ (4), which sets a terminus post quem of 1439 for the dating of the poem (see Sir Benet). Sir Benet died in 1464 but Thomas Roberts was of the opinion that Tudur Penllyn’s reply (poem 44a) was undoubtedly from a substantially earlier period (GTP xii). It is tentatively suggested, therefore, that the poem was performed around 1450.
The manuscripts
This cywydd has been preserved in 49 manuscripts dating from the second half of the sixteenth century to the nineteenth century, copied mostly in north and central Wales, but with a few from the south-east. The variations between the texts are not great, and they probably all derive from the same written exemplar.
The texts fall into four main types, with subdivisions. Of these, the most important are the first three, represented by such manuscripts as LlGC 3057D, C 2.114, LlGC 3049D (from the lost ‘Conwy Valley Exemplar’), to name some of the earliest. The fourth group, that mainly contains manuscripts in the hand of Llywelyn Siôn, differs more from the others, especially in line order, and generally does not offer such good readings. Apart from these texts, there are a handful which, either because they are incomplete or because of the nature of their readings, do not fit neatly into any of the four groups; these are Llst 55, Wy 1, Pen 221, LlGC 3288Bi. The edited text is based on C 2.114, LlGC 3049D, Pen 99, C 2.68ii.
Previous edition
GGl poem XXXI.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 70 lines.
Cynghanedd: croes 41% (29 lines), traws 19% (13 lines), sain 31% (22 lines), llusg 9% (6 lines).
3 pen-llywydd llên Sir Benet was a man of letters and, more than likely (as one would expect in the case of someone of his standing) a scholar; cf. 43.9 Haelaf mab llên Syr Bened ‘Sir Benet is the most generous clergyman’, 47.49–50 Marw fu Ifor yng Nghorwen, / A thorri llys athro llên ‘Ifor died in Corwen, / shattering the court of a master of learning’; 44a.5–6 Ychydig, Curig Corwen, / Un llaw o’r athrawon llên ‘Few of the masters of learning, St Curig of Corwen, / possess the same authority as you’. In his cywydd to Sir Siôn Mechain, Guto refers to Dafydd Cyffin as his first teacher and to Sir Benet as his second, 84.3–8.
4 person Corwen I.e., Sir Benet.
6 tri llinyn Namely the three strings used to open and close the neck of the purse, an interesting detail regarding its composition.
11–14 Sir Benet, for all his generosity, was also a hard bargainer.
13 bargen Guto suggests that he and Sir Benet had bargained over the price of the lambs before the journey, and this adds to the excitement of the story.
13 Syr Bened The title ‘Sir’ in the fifteenth century usually denotes a priest without a university degree who was attached to a particular diocese rather than to a religious order; further, see GSDT 4.
17 euthum On Guto’s fondness of using the verb mynd (‘go’) to convey the notion that he is constantly on the move, see Lake 1995: 141.
17 The line is a syllable too long unless innau i are elided.
23 Rug Or Y Rug, an important house offering patronage to poets near Corwen; also home of Elen, daughter of Hywel ap Rhys, wife of Dafydd ap Meurig Fychan of Nannau, see poem 49.
23 Cefn yr Ais A place name mentioned in the poetry but of uncertain location. For references to it, see Lewis 1921–3: 303 (line 67); G 122; GO LIV.6n; GDB 6.14n; GDGor 7.48n; GSCyf 13.8n; GLGC 89.36 (but not treated as a place name). It was apparently the site of a particular battle. According to Owen 1892–1936: iv, 653, ‘It is not known where Cefn yr Ais was, except that it must have been on the frontier of the older Powys’, and in GO 284 it is suggested that it was aux confins de Powys et de l’Angleterre.
24 Warwig The town of Warwick. According to a record of 1413, an annual fair was held at Warwick for three days during the Feast of St Michael, see ‘Gazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516’ s.n. Warwick.
32 y glynawdd eu gwlân A preposition such as ynddo (‘in’) or wrtho (‘by’) is understood here. For the loss of the conjugated preposition in such sentences, see GMW 66.
34 Cwyntry The town of Coventry, some 11 miles from Warwick (see 24n). According to Stenton 1936: 10, this road from Warwick to Coventry was part of the medieval road from Daventry to Stone. From the thirteenth century, Coventry developed into an important economic centre. There is a reference in 1445 to a fair being held there on the morrow of the Feast of Corpus Christi, see ‘Gazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516’ s.n. Coventry.
35 The a must be elided for the line to have the correct number of syllables.
40 ffyrdd Iorc The town of York. More than one fair and market was held in York itself throughout the Middle Ages. In 1449 Henry VI allowed the inhabitants and mayor of the town to hold a fair on the sixth day after the Feast of Pentecost, ‘Gazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516’ s.n. York. It would have taken Guto considerable time to reach York this period.
41 treulio ’n Litsffild The town of Lichfield in Staffordshire. A fair was held in the town on Ash Wednesday, 1409, which continued till 1622. C 2.114 gives the reading bidsffild, which is either a variant of Litsffild or a reference to Bichfield, a key place for travellers in this period between Stamford and Lincoln, see Stenton 1936: 8.
41 gild It could also be taken as a loanword from English gild ‘club’ &c., although 1609 is the date of the first example of the word in that sense given in GPC 1398 s.v. gild1. If so, a comma should be placed after Litsffild and lines 41–2 taken to mean ‘I spent time in Lichfield, I found a gild (i.e. a society of merchants), / But twelve lambs were not enough.’ It was necessary to have a specified number of animals to be part of a gild like the one in Lichfield, see Rosser 1985–6: 39–47. Following this interpretation, perhaps the burden of the second line would be that Guto was rejected by the gild as his lambs had decreased in number.
43 Staffordd The town of Stafford in Staffordshire in the north of England.
44 tua’r Nordd The north of England. According to Tudur Penllyn’s reply to Guto, the latter’s lambs drowned in a canal in the North: Ar gamlas y boddasant / Yn y Nordd o fewn y nant ‘They drowned in a canal / in the North in the valley’, 44a.41–2.
49 llog On its meaning, see GPC 2202 s.v. llog1. It means here ‘a sum of money’ rather than ‘toll’ or ‘fine’.
50 Deuoen gwynion dan geiniog According to Lewis 1933–5: 315, 317, two lambs were sold in Newport at the end of the sixteenth century for two shillings and three lambs for two shillings and threepence.
50 Note that, contrary to normal usage in Middle Welsh, the adjective gwynion has not been lenited following the dual deuoen, see TC 61–2. This is probably due to the requirements of cynghanedd.
51 y garreg Apparently a rock or rocky place by Sir Benet’s home is meant; cf. 45.17–18 Oeswr baun fo Syr Bened / Ym mynwes craig am nas cred! ‘May Sir Benet be a peacock for life / in the bosom of the rock for not believing him!’
57 degwm On the sense ‘tithe sheep’, cf. the kind of prefatory note which occurrs in Llywelyn Siôn’s texts of the poem, e.g. C 2.630, 106v, llyma y kywyddau ymryson a vy Rwng Gytor glynn A thydyr pennllyn o blegid wyn degwm a brynysai gytor glynn gan syr bened person korwen ‘Here are the cywyddau of contention exchanged between Guto’r Glyn and Tudur Penllyn because of tithe lambs which Guto had bought from Sir Benet, parson of Corwen’. Cf. also Tudur Penllyn’s words in his response to Guto, 44a.21–2 Ei amcan, organ eurgerdd, / Cael degwm y Cwm er cerdd ‘his intention, organ of glorious song, / would be to have Cwm’s tithe lambs for a poem’, 63–4 Nedwch iddo’ch hudo chwi / Am wlân degwm eleni! ‘Don’t let him fool you / concerning tithe wool this year!’
58 Dewi’r Cwm Guto compares Sir Benet with St David (the poets sometimes liken their patrons to angels or patron saints or even to Christ). According to Roberts 1947: 39–40, Guto’s practice of applying St David’s name to his patrons by using Dewi followed by a noun is peculiar to this poet. On Y Cwm, a parish in Tegeingl (Englefield, Flintshire), see 43.5–7n. Cf. Guto’s awdl to Sir Benet, 43.5–7 Traws wyd … / … / Tros y Cwm … ‘You are powerful … / … / in defending Cwm … ’, ibid. 53 Garmon y Cwm ‘Garmon of Cwm’ and Tudur Penllyn’s references to him as arglwydd y Cwm ‘lord of Cwm’, 44a.56.
59 Ardudwy A cantref in Meirionnydd and one of the places where Tudur Penllyn sold his sheep at high prices, see GIBH Atodiad iv.31–2 Dodaf glod i Ardudwy / Dichwith, ni bu fendith fwy ‘I give praise to delightful / Ardudwy, never was there a greater blessing.’
61–2 Tudur … / Penllyn The poet from Caer-gai in Llanuwchllyn. His dates, according to GTP xiii, are c.1415–20 to c.1485. In DWB 987 it is stated, ‘It appears that, in addition to being a poet, Tudur Penllyn was a sheep grazier and a drover, who traded in the wool of his sheep; this, however, did not prevent him from following the custom of the strolling bards and visiting the halls of the nobility in North and South Wales.’ On his career, see GTP ix–xxix; Roberts 1942: 141–51; Roberts 1943: 27–35.
61 cwndidwyllt On the meanings of cwndid, see GPC 643 s.v. cwndid1 ‘condut, a kind of song or carol, &c.; rigmarole’. It is difficult to know its exact meaning in this example but the point, apparently, is that Tudur Penllyn is fond of composing songs of a more popular kind, either in form or spirit, than the official poetry.
66 ernes Sir Benet paid Guto a deposit for his service so as to safeguard the agreement made by both. Guto has only a penny of that payment left.
Bibliography
Carr, A.D. (1982), Medieval Anglesey (Llangefni)
Jenkins, R.T. (1933), Y Ffordd yng Nghymru (Wrecsam a Chaerdydd)
Johnston, D. (2005), Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300–1525 (Caerdydd)
Lake, A.C. (1995), ‘Goblygiadau Clera a Golwg ar Ganu Guto’r Glyn’, YB XX: 125–48
Lewis, E.A. (1933–5), ‘The Toll Books of Some North Pembrokeshire Fairs 1599–1603’, B vii: 284–318
Lewis, H. (1921–3), ‘Cywyddau Brud’, B i: 240–55, 296–309
Owen, H. (1892–1936) (ed.), The Description of Pembrokeshire by George Owen of Henllys (4 vols., London)
Richards, R. (1933), Cymru’r Oesau Canol (Wrecsam)
Roberts, T. (1942), ‘Tudur Penllyn’, Y Llenor, xxi: 141–51
Roberts, T. (1943), ‘Tudur Penllyn’, Y Llenor, xxii: 27–35
Roberts, T. (1947), ‘Guto’r Glyn’, Y Llenor, xxvi: 34–40
Rosser, A.G. (1985–6), ‘The Town and Guild of Lichfield in the Late Middle Ages’, Transactions of the South Staffordshire Archaeological and Historical Society, ccvii: 39–47
Skeel, C. (1926), ‘The Cattle Trade between Wales and England from the Fifteenth to the Ninteenth Centuries’, Transactions of the Royal Historical Society (4th series), vol. ix: 135–58
Stenton, F.M. (1936), ‘The Road System of Medieval England’, The Economic History Review, vii, no. 1: 1–21
Web site
‘Gazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516’ www.history.ac.uk/cmh/gaz/gazweb2.html
Gellir cysylltu pum cerdd â Syr Bened: awdl fawl gan Guto (cerdd 43); cywydd digrif lle edrydd Guto ei hanes yn porthmona defaid Syr Bened i farchnadoedd yn Lloegr (cerdd 44); cywydd gan Dudur Penllyn sy’n ymateb i’r cywydd porthmona uchod, lle dychenir Guto (cerdd 44a); cywydd gan Guto sy’n ymateb i’r cywydd uchod, lle dychenir Tudur Penllyn (cerdd 45); cywydd marwnad gan Guto (cerdd 47). At hynny, cyfeirir ato gan Guto mewn cywydd mawl i Syr Siôn Mechain, person Llandrunio (84.7n).
Achres
Er na cheir sicrwydd llwyr ynghylch ach Syr Bened, y tebyg yw, ar sail achresi Bartrum, ei fod yn fab i ŵr o’r enw Hywel ap Gruffudd o Lygadog yn Edeirnion. Dywed Guto fel hyn am ei hynafiaid (43.37–40):Y gŵr o Ronwy, geirwir ynad,
Ac o ryw Cadell, gorau ceidwad,
Ac ŵyr i Lywarch, gwir oleuad,
Ac Ithel Felyn a’i hŷn a’i had.Fel y gwelir isod, gellir olrhain y Syr Bened y ceir ei enw yn yr achresi yn ôl i’r pedwar gŵr a enwir gan Guto. Seiliwyd yr achres ar WG1 ‘12’, ‘13’, ‘14’, ‘41’, ‘Llywelyn Eurdorchog’ 3; WG2 ‘Einudd’ 9A, ‘Llywelyn Eurdorchog’ 3 A1. Dangosir y rheini a enwir gan Guto yn ei gerddi i Syr Bened mewn print trwm.
Achres Syr Bened ap Hywel, person Corwen
Fodd bynnag, Benedict ap Grono a enwir fel person Corwen yn 1439 (gw. isod). Tybed a oedd enw tad Syr Benet yn anhysbys i’r sawl a gofnododd yr wybodaeth ond ei fod yn gyfarwydd ag awdl Guto iddo, lle’i gelwir yn Hydd o garennydd Gronwy ac yn ŵr o Ronwy (43.36–7), ac i’r cofnodwr hwnnw gymryd mai dyna oedd enw tad y person? At hynny, rhaid cydnabod ei bod braidd yn annisgwyl fod Guto’n rhoi sylw yn ei gerdd i hynafiaid Syr Bened ar ochr ei fam yn unig, ac yntau’n disgyn o linach ddigon urddasol ar ochr ei dad hefyd.
Daethpwyd o hyd i un gŵr arall o’r enw Bened yn yr achresi, sef Bened ab Ieuan ap Deio o Langar yn Edeirnion (WG1 ‘Idnerth Benfras’ 8). Fel y gŵr uchod, drwy ei fam disgynnai Bened ab Ieuan o ŵr o’r enw Gronwy a gellir olrhain ei ach i Lywarch Hen ac i Gadell Ddyrnllug. Ond mae’n bur annhebygol mai Syr Bened ydyw gan nad enwir ef felly yn yr ach a chan na ellir ei gysylltu ag Ithel Felyn.
Ei yrfa
A dilyn dull Bartrum o rifo cenedlaethau, ganed Syr Bened c.1430. Yn Thomas (1908–13, ii: 144), dan y flwyddyn 1439, ceir yr enw Benedict ap Grono fel Sinecure Rector yng Nghorwen. Yn ôl Thomas (ibid. 148) a CPR (358), bu farw rywbryd yn 1464 a phenodwyd caplan o’r enw Roger Cheshire i’w olynu fel person yr Eglwys ar 1 Ionawr 1465. Fel y nodwyd uchod, nid yw’r wybodaeth honno’n cyd-fynd â’r hyn a geir yn yr achresi. Ond gan mor brin yr enw, mae’n annhebygol fod gŵr arall o’r enw Bened yn berson Corwen yn ystod y bymthegfed ganrif, ac mae’r dyddiadau c.1439–65 yn cyd-daro’n agos iawn â’r hyn a ddisgwylid yn achos Syr Bened.
Ceir rhai cyfeiriadau eraill at ŵr neu wŷr o’r enw Bened a allai gyfeirio at Syr Bened: Ceir rhai cyfeiriadau yng nghronfeydd data gwefan SoldierLME (www.medievalsoldier.org) at filwr o’r enw Benedict neu Benet Flyn(t). Yn 1429 aeth Benedict Flynt i ryfela yn Ffrainc dan y capten Henry Fenwick; ar 21 Awst 1431 aeth Benet Flyn fel bwasaethwr troed ac aelod o osgordd bersonol yn y maes dan gapteiniaeth Mathau Goch i warchae Louviers (yn Normandi); ac yn 1439 aeth Benedict Flynt fel gŵr arfog dan gapteiniaeth Syr Thomas Gray a chadlywyddiaeth John Huntingdon, iarll Huntingdon, i wasanaethu mewn byddin sefydlog yn Acquitaine. Y tebyg yw mai’r un gŵr yw Benedict a Bened y cofnodion hyn (cf. y cyfeiriad uchod at Syr Bened fel Benedict ap Grono). Ond gan ei bod yn debygol mai gŵr o Edeirnion oedd Syr Bened, yn hytrach na o sir y Fflint, mae’n annhebygol mai ato ef y cyfeirir yn y cofnodion milwrol hyn, er mor nodedig yw cyfeiriadau Guto a Thudur Penllyn at faintioli corfforol a milwriaeth Syr Bened (43.6n, 30n). Yng nghasgliad Bettisfield (rhif 380) yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ceir dogfen sy’n cofnodi i farchog o’r enw John Hanmer, ar 2 Mehefin 1449, roi manor Halton, ynghyd â thiroedd yn nhreflannau Bronington ym Maelor Saesneg a Gredington ym Maelor Gymraeg, i Benet Come, clerc a rheithor Corwen, ac eraill ym mhresenoldeb tystion. Dylid crybwyll hefyd Benedictus Com(m)e neu T(h)ome, notari cyhoeddus o esgobaeth Llanelwy y ceir ei enw wrth ddogfennau cyfreithiol a gyflwynwyd ger bron Siôn Trefor, esgob Henffordd, yn y blynyddoedd 1391, 1393 a 1395 (Capes 1914: 52, 67, 70, 102, 285). Os Benedictus Come yn hytrach na Tome oedd gwir enw y gŵr hwn (hawdd oedd cymysgu’r llythrennau c a t), ai Syr Bened ydoedd? Os e, o gofio iddo farw yn 1464, mae’n rhaid ei fod wedi byw i oedran mawr, hyd yn oed os dechreuodd yn ei swydd mor gynnar ag yn ei ugeiniau. Fel arall, dichon mai rhywun o’r enw Benedictus Tome neu ynteu rhyw Benedictus Come arall (er mor anghyffredin yr enw) a ysgrifennodd y dogfennau hyn. Ym mynegai Capes, ystyrir Benedictus Come yr un gŵr â Benedict Corner, Benedict Gomme a Benedict Edine. Fodd bynnag, cysylltir Benedict Corner â bywoliaethau Eastnor, Benedict Gomme â bywoliaethau Eastnor a Stoke Lacy a Benedict Edine â bywoliaeth Colwall, y cwbl yn swydd Henffordd (ibid. 180, 185, 189, 212, 214, 215, 217). Crybwyllir un Iankyn’ ap Sir Benet mewn rhestr o ddisgyblion yn Pen 356 a fu, yn ôl pob tebyg, yn derbyn addysg mewn ysgol Sistersaidd elfennol – a oedd efallai dan adain abaty Dinas Basing – yn y bymthegfed ganrif (Thomson 1982: 78). Ai mab i Syr Bened oedd hwn? Os felly, nis ceir yn yr achresi.
Diau fod Syr Bened yn ŵr da ei fyd. Fel nifer o ddeoniaid gwledig ei gyfnod, derbyniai incwm am fagu defaid a’u gwerthu yn ogystal â chyflog person. Gellir ei gymharu â Syr Siôn Mechain, person Llandrunio, a oedd hefyd yn ŵr eglwysig ac wedi ennill ei gyfoeth trwy fagu defaid. Nid bychan oedd cyflog person eglwysig yn y cyfnod hwn ychwaith, ac ymddengys fod deoniaid gwledig fel Syr Bened yn llawer hapusach eu byd yn ariannol na chlerigwyr plwyfol (Smith 2001: 289). Ceir cryn dystiolaeth i brofi mai’r eglwys yng Nghorwen oedd yr eglwys gyfoethocaf yn Edeirnion ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, ac mae’r gorffddelw o’r esgob Iorwerth Sulien (c.1340–50) yno i’w gweld o hyd (Smith 2001: 225; cf. eglwys Tywyn, ibid. 264–4, 289). Yng nghanol y bymthegfed ganrif byddai’r eglwys yng Nghorwen yn parhau i fod ar ben ei digon a dichon fod cryn statws i’w pherson. At hynny, deil yr achresi (gw. uchod) fod Syr Bened yn ficer Llanfair yn ogystal â pherson Corwen, er nad yw’n eglur pa Lanfair a olygir.
Llyfryddiaeth
Capes, W.W. (1914) (ed.), The Register of John Trefnant, Bishop of Hereford (A.D. 1389–1404) (Hereford)
Smith, J.B and Smith, Ll.B. (2001) (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff)
Thomas, D.R. (1908–13), The History of the Diocese of St Asaph (Oswestry)
Thomson, D. (1982), ‘Cistercians and Schools in Late Medieval Wales’, CMCS 3 (Summer): 76–80
Williams, G. (1976), The Welsh Church from Conquest to Reformation (second ed., Cardiff)
Cyfeirir yn ddirmygus tuag at Dudur Penllyn yng ngherdd 44, cywydd digrif lle edrydd Guto ei hanes yn porthmona defaid Syr Bened, person Corwen, i farchnadoedd yn Lloegr. Atebodd Tudur gyda chywydd yn dychan Guto ac yn ei gyhuddo o dwyllo Syr Bened (cerdd 44a), a chanodd Guto gywydd arall i’w amddiffyn ei hun (cerdd 45). Ceir hefyd ddwy gyfres o englynion yn dychanu Tudur gan Guto (cerdd 46) a chan ei fab, Ieuan ap Tudur Penllyn (cerdd 46a), yn ogystal â chyfres arall o englynion gan Dudur yn ei amddiffyn ei hun (cerdd 46b). Testun y dychan yn yr englynion hyn yw’r honiad (dychmygus, yn ôl pob tebyg) fod ceilliau Tudur wedi eu cipio gan flaidd.
Achres
Olrheiniai Tudur ei ach i Feirion Goch, uchelwr o Edeirnion a sylfaenydd gwehelyth y Rhiw yn Llŷn. Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Meirion Goch’ 1, 3, ‘Rhirid Flaidd’ 3, 8; WG2 ‘Meirion Goch’ 3A.
Fel y gwelir, roedd Tudur yn frawd yng nghyfraith i un o noddwyr Guto, Einion ap Gruffudd o Lechwedd Ystrad.
Ei yrfa
Roedd Tudur yn fardd rhagorol ac yn uchelwr cefnog o Gaer-gai ym mhlwyf Llanuwchllyn ym Meirionnydd. Priodolir 35 o gerddi iddo a rhai cyfresi o englynion. Moli a marwnadu, annerch, gofyn, cymodi a dychan a welir ynddynt. Roedd hefyd yn amaethwr a gadwai ddefaid ac ŵyn ac yn berchen gwartheg a cheffylau. Porthmonai’r defaid a’r ŵyn gan werthu eu gwlân, ac adlewyrchir hyn yng ngherddi 44, 44a a 45. Canai i uchelwyr yng ngogledd a de Cymru ond, ac yntau’n fardd a ganai ar ei fwyd ei hun, mae’n debygol mai fel ymweliadau cyfeillgar yn hytrach nag fel achlysuron clera i gynnal ei hun y dylid gweld y teithiau hyn. Ei brif noddwyr oedd Gruffudd Fychan ap Gruffudd o Gorsygedol, Rheinallt ap Gruffudd o’r Wyddgrug a Dafydd Siencyn o Nanconwy. Yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau cefnogai’r Lancastriaid, ond canodd hefyd i rai o’r Iorciaid. Roedd ei wraig Gwerful Fychan, ei fab Ieuan ap Tudur Penllyn a’i ferch Gwenllïan hwythau’n prydyddu (ar Wenllïan, gw. GGM 3–4; Johnston 1997). Fel beirdd ‘amatur’ eraill, nad oeddynt mor gaeth i gonfensiynau cerdd dafod, ceir ffresni ac amrywiaeth mwy na’r arfer yng ngherddi Tudur, gyda champ ar ei ddisgrifiadau a min ar ei ddychan. Ymhellach, gw. GTP (xiii am ei ddyddiadau); Roberts 1942: 141–51; idem 1943: 27–35; ByCy Ar-lein s.n. Tudur Penllyn; GIBH 3, cerddi 1–3, At iii–v a’r sylwadau arnynt.
Llyfryddiaeth
Johnston, D. (1997), ‘Gwenllïan ferch Rhirid Flaidd’, Dwned, 3: 27–32
Roberts, T. (1942), ‘Tudur Penllyn’, Y Llenor, xxi: 141–51
Roberts, T. (1943), ‘Tudur Penllyn’, Y Llenor, xxii: 27–35