Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn, yn gyflawn neu’n anghyflawn a chydag ychydig amrywio yn nhrefn y llinellau, mewn 35 llawysgrif a godwyd rhwng ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ceir nifer o fân amrywiadau rhyngddynt, ond credir eu bod i gyd, er hynny, yn tarddu o’r un gynsail. Mae’r rhan fwyaf o’r llawysgrifau yn gysylltiedig â gogledd a chanolbarth Cymru. Ni fu cywydd Guto yn cylchredeg i’r un graddau o gwbl yn y de-ddwyrain.
Ymranna’r testunau yn ddwy brif ffrwd yn ôl tystiolaeth rhai llinellau neilltuol (llinellau 7, 19, 23, 37, 41, 45, 47, 53, 58, 60, 61). Cynrychiolir y ffrwd gyntaf gan Pen 103, BL 31061, LlGC 3049D, Pen 99, Wy 1, testunau X2, Brog I.2, Pen 99, LlGC 16129D. Cynrychiolir yr ail ffrwd gan C 2.114, Pen 112 a X4. Mae rhai o ddarlleniadau’r llinellau uchod yn rhagori yn y ffrwd gyntaf ar eiddo’r ail ffrwd ac nid oes enghraifft o ddarlleniadau yn yr ail yn rhagori ar eiddo’r gyntaf. Cesglir, felly, fod darlleniadau’r ffrwd gyntaf gam yn nes at gynsail y gerdd nag eiddo’r llall. Gellir tarddu testunau’r ffrwd gyntaf o gynsail y gerdd a thestunau yr ail ffrwd o gynsail gyfryngol a elwir X3.
Yn y ffrwd gyntaf ffurfia X2 grŵp neilltuol gan fod y testunau bron i gyd yn llaw Llywelyn Siôn o Forgannwg, gyda LlGC 13061B (Thomas ab Ieuan) yn gopi o un ohonynt. I’r un teulu y perthyn detholiad o ddarlleniadau yn nhestun Llst 55 (Siôn Dafydd Rhys). Yn nhestunau Pen 103 a LlGC 3049D mae llinellau 51–2 yn eisiau; hefyd yn llinell 12 ceir y darlleniad hir yw lle ceir gwedir yn y testunau eraill. Gallwn dybio eu bod yn tarddu, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, o gynsail gyffredin, X1. Er ei fyrred, mae arwyddion mai i’r un ffrwd y perthyn Pen 221.
Yn yr ail ffrwd, X3, gellir esbonio perthynas LlGC 5269B a Pen 152 trwy eu tarddu o X4.
Mae testunau’r ffrwd gyntaf o lawysgrifau’r gerdd yn nes mewn sawl man at ei chynsail na thestunau X3, a dewiswyd o’u plith BL 31061, LlGC 3049D, Wy 1, Pen 99 yn sail i’r testun golygyddol. Cynhwyswyd un o destunau X3 hefyd, sef C 2.114, gan ei fod o bwys wrth ystyried rhai darlleniadau croes yn nhestunau’r ffrwd gyntaf.
Trawsysgrifiadau: LlGC 3049D, BL 31061, Pen 99, Wy 1, C 2.114.
1 a’th geidw Darlleniad Wy 1 a Pen 99. Yn Pen 103 a BL 31061, ath gatwo a geir, ond gwna’r llinell yn rhy hir o sillaf. Gellid ystyried hefyd ith gadw LlGC 3049D (cf. Brog I.2) lle mynegir dymuniad ar i Sulien gadw Syr Bened.
3 Ddyfrig Felly BL 31061, LlGC 3049D a Wy 1 (cf. GTP 24.3). ddifrig a geir yn Pen 103 ond ni rydd synnwyr boddhaol. Darllenir ddufrig yn GGl, cf. C 2.114 ddvfrig, sef ‘du ei wallt’, mae’n debyg, ond os felly, gthg. y disgrifiad o Syr Bened yn llinell 7 fel brig wynllwyd. Mae’r cyfeiriad at Ddyfrig hefyd yn gydnaws â’r sôn am Sulien, Samson a Churig yn 1, 2 a 5.
6 o’r Felly BL 31061, LlGC 3049D, Wy 1. Yn GGl a GTP 24.6 darllenir â’r, cf. Pen 103 ar, ond mae hynny’n gadael Ychydig yn y llinell flaenorol ar ei ben ei hun ac yn dywyll ei swyddogaeth.
7 brig b- a geir yn holl destunau’r ffrwd gyntaf (ac eithrio Brog I.2 lle ceir y darlleniad gwahanol ior). Gthg. GGl a GTP 24.7 frig, fel y ceir yn holl destunau X3, efallai am i ryw gopïwr drin brig wynllwyd naill ai fel sangiad yn hytrach nag fel ansoddair i’w gydio wrth ganllaw, neu ynteu fel enw benywaidd. Er mai enw benywaidd yn bennaf yw canllaw yn ôl GPC 412, fe’i trinnir yma yn wrywaidd oherwydd mai dyn (Syr Bened) yw’r ganllaw.
18–22 Yn GGl a GTP 24.18–22 trinnir echwyn a gais fel cymal canlyniad mewn brawddeg yn ymestyn hyd Corwen, ond mwy naturiol yw echwyn a gais fel diwedd brawddeg a Pe gwypai fel cymal amod brawddeg (gyda pe bai ar ben yn is-gymal amodol) sy’n ymestyn hyd er cerdd. Efallai mai diffyg berf yn 21–2 a arweiniodd at ddehongliad Ifor Williams a Thomas Roberts ond hawdd yw ei chyflenwi, megis mewn brawddeg enwol (cf. 5–6).
19 bai ar ben Yn nhestunau X3 ni cheir ar a gwna hynny y llinell yn fyr o sillaf (ac eithrio yn achos J 139 pe byddai bün a LlGC 6499B i byddai benn lle mae’n amlwg fod y llinell wedi ei hwyhau’n fwriadol).
21 eurgerdd Dyma ddarlleniad Pen 103, Brog I.2 a Pen 99. Yn LlGC 3049D, Wy 1 a C 2.630, darllenir irgerdd ond ategir y darlleniad cyntaf gan destunau X3.
23 ddiflinoed Ceir ffurf dreigledig yr ansoddair ym mhob un o destunau’r ffrwd gyntaf ac eithrio Pen 103, a’r ffurf ddidreiglad ym mhob un o destunau X3 ac eithrio LlGC 5269B ddiflimoed. Gthg. GGl diflinoed (GTP 24.23 ddiflinoed).
37 pan na … pennaeth Darlleniad testunau’r ffrwd gyntaf (Brog I.2 pam na, LlGC 16129D peniaeth), ac eithrio Pen 99 (Ban na … benaeth). Ceir ban na … benaeth yn nhestunau X3. Nid yw’r naill ddarlleniad yn rhagori ar y llall (ffurfiau amrywiol yw pa, ba, gw. GPC 2661), ond ar sail statws y ffrwd gyntaf dewisir pan … pennaeth. Ar arfer y beirdd o beidio weithiau â threiglo enw yn y modd cyfarchol yng nghanol llinell, gw. TC 422. Hwylusid hyn gan y saib yn yr orffwysfa; gthg. 49 ddewrwalch lle treiglir y sawl a gyferchir. Gellir ystyried ban na … bennaeth yn ‘ddiwygiad’ o pan na … pennaeth.
40 bu ddrud Pen 103 vv ddrvd, BL 31061 bv[ ] ddryd, LlGC 3049D bv ddrvd, Wy 1 bydd ddrud, Pen 99 bydd ddrvd. Fel y gwelir, amrywir rhwng bu a bydd yn ôl a gyfrifid yr dd yn ddrud yn rhan o’r ferf hefyd neu beidio. Er hynny, bu sy’n fwyaf cydnaws â’r cyd-destun; cf. hefyd C 2.630 bydd ddrüdd, Brog I.2 by ddrvd. Ymysg testunau X3, ceir bydd ddrvd yn C 2.114 ond bv ddrvd yn Pen 112, LlGC 5269B, Pen 152. Bydd ddrud a ddarllenir yn GGl; GTP 24.40.
41 ar gamlas Dyma ddarlleniad holl destunau’r ffrwd gyntaf. Ceir mewn camlas yn nhestunau X3. Mwy tebygol fyddai newid ar yn mewn nag fel arall (ar yr ystyr neilltuol hon i ar i ddynodi lleoliad, gw. GPC2 402 (f)).
45 bob Y ffurf dreigledig a geir ym mhob un o destunau’r ffrwd gyntaf ac eithrio Wy 1, a’r ffurf ddidreiglad yn nhestunau X3. Ar y treiglad ar ôl oedd, gw. TC 305–6.
47 wnaeth lle’r Dyma ddarlleniad testunau’r ffrwd gyntaf (amwys yw Pen 99 Llifo a wnaeth pob lle). Yn nhestunau X3 dilynir wnaeth gan pob, a derbynnir y darlleniad hwnnw yn GGl a GTP 24.47. Yn GGl hepgorir y rhagenw perthynol o flaen wnaeth er mwyn unioni hyd y llinell eithr gan fynd yn groes i dystiolaeth y llawysgrifau, sydd i gyd yn ei gynnwys. Yn GTP fe’i cedwir eithr gan wneud y llinell yn rhy hir o sillaf. O ddilyn darlleniad testunau’r ffrwd gyntaf, ar y llaw arall, ceir llinell seithsill ac nid oes angen pob ar yr ystyr.
49 ym Dyma ddarlleniad Pen 103 a Pen 99. Cf. hefyd BL 31061 yn ddewrwallch, LlGC 16129D im. Ceir am a geir yn LlGC 3049D a Wy 1, a cf. Brog I.2. Ategir ym gan C 2.114 a Pen 112 yn nhestunau X3. O’i dderbyn, cyfarchiad priodol ei ystyr i Syr Bened yw ddewrwalch (cf. 37 pennaeth hoywlyw). O dderbyn am, ar y llaw arall, byddai angen deall ddewrwalch yn gyfeiriad amhriodol braidd yn y cyd-destun at Guto ac mae tystiolaeth y llawysgrifau yn gryfach o blaid ym. Gellir ystyried am yn ‘ddiwygiad’ o ym.
52 brithwyn llwyd Yn Wy 1 a Pen 99 (cf. Brog I.2) ceir brithwyn a llwyd. Rhydd hyn y nifer cywir o sillafau i’r llinell, ond nis ceir yn un arall o destunau’r ffrwd gyntaf nac yn nhestunau X3 a thebyg mai diwygiad ydyw. Os felly, rhaid derbyn bod y llinell yn un chwesill.
53 mae ’mhell Dyma (mae ymhell) ddarlleniad testunau’r ffrwd gyntaf (ansicr yw BL 31061 mae mkell ond diau ei fod yn perthyn i’r un ffrwd). Ond, yn nhestunau X3, ceir mae yn / maen i gell, ac eithrio Pen 112 mae ymhell. O ran synnwyr y cwpled, mae ymhell sy’n gweddu orau gan fod Tudur Penllyn yn awgrymu bod Guto wedi cadw’r mintai ŵyn falch (50) yn y Nordd (42), sef gogledd Lloegr, er mwyn defnyddio’u gwlân, ac roedd y fan honno yn bell o Gorwen. Hawdd gweld hefyd sut y gallesid camgymryd yr h yn ymhell am g gan y gallant edrych yn debyg i’w gilydd mewn rhai llawiau. Byrheir ymhell yn ’mhell er mwyn hyd y llinell (cf. BL 31061 mkell).
53 ei dröell Yn GGl darllenir ymhell, yr hyn nas ceir yn y rhan hon o’r llinell yn yr un o’r llawysgrifau. Yn GTP 24.53 darllenir dröell a dry, cf. Pen 99, J 139 ac X4. Ond rhagflaenir droell yn y rhan fwyaf o destunau’r ffrwd gyntaf gan i, a chan y yn Wy 1. Llifa’r cwpled yn well o gael y cymal ei … dry ynddo a cheir cyfatebiaeth naturiol rhwng ’mhell a Lloegr obry o ran y pellter daearyddol a ddynodir.
55 gwnaed Dyma ddarlleniad Pen 103 a Wy 1; ond BL 31061 gwna, LlGC 3049D gwnai, Pen 99 gwnaeth (cf. C 2.630 a Brog I.2). Gwedda gwna a gwnaed orau i’r cyd-destun a dewiswyd yr olaf, a geir hefyd yn holl destunau X3.
58 ac na ag na neu ag ni a geir yn nhestunau’r ffrwd gyntaf, a gwnn na yn nhestunau X3 (Pen 112 gwmnni na). Gellir dweud nad yw darlleniadau’r naill ffrwd yn rhagori ar ddarlleniadau’r ffrwd arall, ond ar sail statws y cyntaf dewisir ag na. Gellid hefyd ddarllen ag ni gan newid y gystrawen ond heb effeithio ar y synnwyr.
60 ddoeth Mae testunau’r ffrwd gyntaf yn amrywio rhwng ddryd a ddoeth, ac ategir yr olaf yn nhestunau X3. Byddai ddryd hefyd yn rhoi r berfeddgoll yn hanner cyntaf y llinell a hynny dan yr acen.
60 rybuddio Felly testunau’r ffrwd gyntaf, ac eithrio LlGC 3049D rybydd, lle camddeallwyd y gystrawen, fel yn nhestunau X3 (megis pe byddid yn disgwyl gweld rybuddio mae) ond gwna hynny’r llinell yn fyr o sillaf a diau mai ymgeisiau i gael saith sillaf iddi yw J 139 a dy rybüdd ac X4 ond dy rybydd (yr olaf a geir yn GGl a GTP 24.60). Mae’r gystrawen yn hollol gywir os deellir Bydd ddoeth neu ryw air fel hynny yn oddrych yw.
61 o’r Dyma ddarlleniad holl destunau’r ffrwd gyntaf ac eithrio Wy 1 er (amwys yw LlGC 3049D o er). Ceir er yn nhestunau X3, darlleniad a rydd gystal synnwyr, ond dewisir o’r ar sail statws testunau’r ffrwd gyntaf.
Mae’r cywydd hwn yn ymateb i gywydd porthmona Guto’r Glyn (cerdd 44) ac felly’n ail o dair cerdd yn ymwneud â helyntion Guto a Thudur Penllyn yn bennaf. Cyflwyna Tudur ei gerdd i Syr Bened, y gŵr a ganiataodd i Guto fynd â’i ŵyn ar daith hir i’w gwerthu, a’r byrdwn yw rhybuddio Syr Bened i beidio â gadael i Guto fynd ar ail daith o’r fath gan fod sôn iddo werthu’r ŵyn yn ddirgel er elw iddo’i hun!
Mae pedair rhan i’r gerdd. Yn gyntaf (llinellau 1–10), canmola Tudur Syr Bened am ei gadernid a’i ddysg eithriadol. Yn ail (11–34), mae’n bwrw amheuaeth ar eirwiredd Guto wrth Syr Bened am ei daith, gan rybuddio Syr Bened mai awydd am gael rhagor o ŵyn sy’n gyrru’r bardd ac y bydd yn cyflwyno cais i’r perwyl mewn cerdd ac ynddi ogwydd ffafriol ar ei anffodion. Yn drydydd (35–54), dywed Tudur fod y rhan fwyaf o’r ŵyn yr honna Guto eu bod wedi boddi yn fyw mewn gwirionedd a bod sôn ei fod yn manteisio ar eu gwlân yn Lloegr. Yn olaf (55–64), cynghora Tudur Syr Bened i beidio â chymryd ei gamarwain gan Guto i roi ŵyn iddo yr eilwaith.
Dyddiad
c.1450 (gw. cerdd 44).
Golygiadau blaenorol
GGl XXXIII; GTP cerdd 24.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 64 llinell.
Cynghanedd: croes 34.5% (22 llinell), traws 23.5% (15 llinell), sain 33% (21 llinell), llusg 9% (6 llinell).
1 Sulien Gw. LBS iv: 203–6. Roedd eglwys Corwen, lle trigai Syr Bened, wedi ei chysegru i’r sant hwn.
2 Samson Y cymeriad nerthol o’r Hen Destament, gelyn y Philistiaid a’r olaf o’r barnwyr mawr y ceir ei hanes yn Barnwyr, gw. ODCC3 1459–60. Diau mai oherwydd maintioli a chryfder corfforol Syr Bened (gw. 43.30n) y crybwyllir ef yma.
3 Dyfrig Un o’r arweinwyr crefyddol cynharaf a phwysicaf yng Nghymru a chyfaill i Illtud, Deiniol a Dewi. Fe’i cysylltir yn arbennig â de-ddwyrain Cymru a de-orllewin swydd Henffordd, gw. CLC2 205–6; LBS ii: 359–82.
5 Curig Sant a gysylltid â Llangurig yn Arwystli, gw. LBS ii: 192–200; WCD 155. Credid ei fod ar un adeg yn filwr, gw. LBS ii: 195, a cf., e.e., GLGC 117.45 Aed llurig Cirig, farchog gŵraidd, / i’th ogylch. Priodolid iddo hefyd weddi amddiffynnol o’r enw Emyn Gurig, gw. IGE2 354; Roberts 1964–6; GIG XVII.67–8 Emyn Gurig dda ddigawn / A ganaf, fy naf, yn iawn. Ar filwriaeth Syr Bened, gw. 43.6n.
11 dectai yw’r llys Ffordd arall o ddweud bod preswylfod Syr Bened yn wych. Ar y defnydd o’r lluosog tai wrth gyfeirio at gartref noddwr, gw. 72.32n.
20 arian plwy’ Corwen Ymddengys mai blaendal a olygir. Talodd Syr Bened ernes i Guto at ei daith borthmona, gw. 44.66n. Crybwyllir plwy’ Corwen, mae’n debyg, am mai o roddion y plwyfolion y deuai arian Syr Bened.
22 degwm y Cwm Ar ystyr ‘ŵyn degwm’, gw. 44.57n. Ymddengys fod yr ŵyn yn cael eu rhoi fel degwm, felly gelwir hwy, trwy drawsenwad, yn ddegwm. Ar y Cwm yn Nhegeingl, gw. 43.5–7n.
23–4 Merddin … / Glyn Cyffelybir Guto’r Glyn yn goeglyd (fel y sylwir yn GGl 331) i’r bardd chwedlonol a’r daroganwr Myrddin, gw. CLC2 527.
24 ar oed Ar y cyfuniad, gw. GPC 2621.
26 glöyn Duw Ar y cyfuniad, gw. ibid.1410.
26 gwlân du Gwlân du’r ddafad, sef ‘the wool of a black sheep or lamb, brown-coloured wool, sheep’s russet’, ibid. 1680.
27 Ofydd Y bardd Rhufeinig Publius Ovidius Naso (?43 C.C.–17 O.C.) a ystyrid yn yr Oesoedd Canol yn ben-meistr canu serch.
37 pan na Yn ôl GTP 123, ystyr pan yma yw ‘paham’. Ar yr ystyr hon, gw. GMW 76–7; GDG3 1.32n; GPC 2661 (fel adferf). Ar y llaw arall, yn ibid. 2848 d.g. y geiryn poni1 ‘oni’ sy’n cyflwyno cwestiwn negyddol o flaen berf, rhestrir yr amrywiad pana / bana, a rhoddir fel enghraifft DG.net 152.27–8 Pan welom drosom dy rasus—basiwn / Pa nad ystyriwn poen dosturus?, gan wrthod dehongliad Thomas Parry. Anodd gwybod, felly, ai ‘pam na’ ynteu ‘oni’ yw ystyr pan na yn enghraifft y testun. Yn wyneb y ffaith mai fel dau air yr ysgrifennir pan na yn y llawysgrifau, tybir mai’r cyntaf a olygir.
39–48 Cf. 44.27–8 Ni bu gŵn heb ugeinoen, / Ni bu ddŵr na boddai oen. Ychwanega Tudur yn helaeth at eiriau Guto.
40 perhôn Ar yr ystyr adferfol hon i’r gair, gw. GPC 2785.
41 ar Ar yr ystyr hon yn dynodi lleoliad, gw. GPC2 402 (f).
42 nant Mae’r ffaith mai mewn [c]amlas (41) y bu’r ŵyn foddi yn awgrymu mai ‘dyffryn’ yn hytrach na ‘ffrwd’ a olygir.
47 a wnaeth Rhaid deall [l]if yn y llinell ddilynol yn oddrych.
53 mae ’mhell Sef Guto.
53 a dry Mae’n bosibl hefyd mai berf anghyflawn yw [t]ry yma, gyda [t]röell yn wrthrych a Guto yn oddrych dealledig.
53 tröell Awgryma’r cyd-destun mai peiriant at nyddu edafedd a olygir. Yn GPC 3612 (1), 1547 yw dyddiad yr enghraifft gyntaf a restrir.
54 cribwraig Merch a fyddai’n cardio gwlân, gw. GPC 596 d.g. cribwr.
54 Lloegr obry Ar arwyddocâd obry, cf. 78.24n.
60–2 Bydd ddoeth … / Ni thwyllir drud … / … onid yr unwaith Fel y dywedir yn GGl 331, ceir y ddihareb hon yn y rhestr o ddiarhebion yn D, Doeth a dwyllir deirgwaith, ni thwyllir drûd ond unwaith. O gymhwyso’r ddihareb yn llythrennol at Syr Bened, mae’n dilyn (gan ei fod yn ddoeth ac yn galed) y gall gael ei dwyllo deirgwaith ac unwaith, ond tebyg mai byrdwn y geiriau yw ‘Callia, ni ddylai gŵr pengaled fel ti gymryd dy dwyllo byth.’
Llyfryddiaeth
Roberts, B.F. (1964–6), ‘Rhai Swynion Cymraeg’, B xxi: 197–213
This cywydd is a response to Guto’r Glyn’s droving cywydd (poem 44) and therefore the second of three poems concerned mainly with the (mis)adventures of Guto and Tudur Penllyn. Tudur presents his poem to Sir Benet, the man who allowed Guto to take his lambs on a long journey to sell them, and the burden is a warning to Sir Benet not to let Guto go on a second journey of the kind as there is talk that he sold the lambs secretly at a profit to himself!
The poem divides into four parts. In the first section (lines 1–10), Tudur praises Sir Benet for his strength and exceptional learning. In the next section (11–34), he casts doubt on Guto’s truthfulness to Sir Benet regarding his journey, warning Sir Benet that his motive is greed for more lambs and that he will make a request to that effect in a poem presenting his misfortunes in a favourable light. Next (35–54), Tudur states that most of the lambs which Guto maintains had drowned are in fact alive and that there is talk that he is taking advantage of their wool in England. Lastly (55–64), Tudur advises Sir Benet not to be misled by Guto into giving him lambs a second time.
Date
c.1450 (see poem 44).
The manuscripts
The poem has been preserved, completely or incompletely and with a little variation in line sequence, in 35 manuscripts copied between the second half of the sixteenth century and the nineteenth century, mostly in north and central Wales, with a few copies from the south-east. There are quite a few small variations between the copies, but they all probably derive from the same exemplar.
The texts divide into two main streams, with the first represented by such manuscripts as Pen 103, LlGC 3049D, BL 31061, Pen 99, Wy 1, &c., and the second by C 2.114, Pen 112, LlGC 5269B and Pen 152. Of the two, the first stream offers better readings than the second and the edited text is based on LlGC 3049D, BL 31061, Pen 99, Wy 1 but with the addition of C 2.114 to facilitate discussion of some contrary readings in the first stream.
Previous editions
GGl poem XXXII; GTP poem 24.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 64 lines.
Cynghanedd: croes 34.5% (22 lines), traws 23.5% (15 lines), sain 33% (21 lines), llusg 9% (6 lines).
1 Sulien See LBS iv: 203–6. The church of Corwen, where Sir Benet lived, was dedicated to this saint.
2 Samson The mighty Old Testament figure, enemy of the Philistines and the last of the great judges whose history is related in the Book of Judges, see ODCC3 1459–60. It is no doubt because of Sir Benet’s physical stature and strength (see 43.30n) that he is mentioned here.
3 Dyfrig One of the earliest and most important religious leaders in Wales and a friend of Illtud, Deiniol and Dewi. He is associated especially with south-east Wales and south-west Herefordshire, see NCLW 193–4; LBS ii: 359–82.
5 Curig A saint associated with Llangurig in Arwystli, see LBS ii: 192–200; WCD 155. He was believed to have been a soldier at one stage of his life, see LBS ii: 195, and cf., e.g., GLGC 117.45 Aed llurig Cirig, farchog gŵraidd, / i’th ogylch ‘May the breastplate of Curig, valiant knight, / go around you.’ There was also attributed to him a protective prayer called Emyn Gurig ‘The Hymn of Curig’, see IGE2 354; Roberts 1964–6; GIG XVII.67–8 Emyn Gurig dda ddigawn / A ganaf, fy naf, yn iawn ‘Curig’s excellent hymn / will I sing, my lord, correctly.’ On Sir Benet’s military activities, see 43.6n.
11 dectai yw’r llys Another way of saying that Sir Benet’s residence is magnificent. On the use of the plural tai (‘houses’) when referring to a patron’s home, see 72.32n.
20 arian plwy’ Corwen A deposit is apparently meant. Sir Benet paid Guto a ‘deposit’ (ernes) for him to go on his droving journey, see 44.66n. He mentions plwy’ Corwen probably because the donations of the parishioners were the source of Sir Benet’s money.
22 degwm y Cwm On the meaning of ‘ŵyn degwm’, see 44.57n. It appears that the lambs are given as a tithe, so they are called, by metonymy, a degwm. On Cwm in Tegeingl (Englefield), see 43.5–7n.
23–4 Merddin … / Glyn Guto is likened sarcastically (as noted in GGl 331) to the legendary poet and vaticinator Myrddin or Merlin; see NCLW 522.
24 ar oed On the combination, see GPC 2621.
26 glöyn Duw On the combination, see ibid. 1410.
26 gwlân du The black wool of a sheep, namely ‘the wool of a black sheep or lamb, brown-coloured wool, sheep’s russet’, ibid. 1680.
27 Ofydd The Roman poet Publius Ovidius Naso (?43 B.C.–17 A.D.), who was considered in the Middle Ages the chief exponent of love poetry.
37 pan na According to GTP 123, the meaning of pan here is ‘why’. On this sense, see GMW 76–7; GDG3 1.32n; GPC 2661 (as an adverb). However, in GPC 2848 s.v. poni1 ‘not’, a negative interrogative particle introducing a direct question before a verb, the variant pana / bana is listed, with the following example, DG.net 152.27–8 Pan welom drosom dy rasus—basiwn / Pa nad ystyriwn poen dosturus? ‘When we see your gracious passion on our behalf / why do we not consider your grievous pain?’, which is contrary to the interpretation in GDG3 433 and DG.net. It is difficult to know, therefore, whether pan na means ‘why ... not’ or ‘do (we) not (consider)’ here. In view of the fact that pan na is written as two words in the manuscripts, it may be supposed that the first is the more likely.
39–48 Cf. 44.27–8 Ni bu gŵn heb ugeinoen, / Ni bu ddŵr na boddai oen ‘None of the dogs were without twenty lambs, / There were no waters where a lamb didn’t drown.’ Tudur adds substantially to Guto’s words.
40 perhôn On this adverbial sense of the word, see GPC 2785.
41 ar On this sense denoting location, see GPC2 402 (f).
42 nant The fact that the lambs drowned in a canal ([c]amlas, 41) suggests that nant means ‘valley’ rather than ‘stream’ here.
47 a wnaeth [l]if in the following line must be understood as its subject.
53 mae ’mhell I.e., Guto.
53 a dry It is also possible that [t]ry is a transitive verb here with [t]röell as object and Guto understood as subject.
53 tröell The context suggests that a machine for spinning yarn is meant. In GPC 3612 (1), 1547 is the date of the first example listed.
54 cribwraig A woman who carded wool, see GPC 596 s.v. cribwr.
54 Lloegr obry On the significance of obry, cf. 78.24n.
60–2Bydd ddoeth … / Ni thwyllir drud … / … onid yr unwaith As stated in GGl 331, this proverb occurs in the list of proverbs in D, Doeth a dwyllir deirgwaith, ni thwyllir drûd ond unwaith ‘A wise man is fooled three times, a hard man is fooled only once’. If this is applied literally to Sir Benet, it follows (since he is both wise and hard) that he may be fooled three times and once, but the burden of the words is probably ‘Be sensible, a hard-headed man like yourself should never allow yourself to be fooled.’
Bibliography
Roberts, B.F. (1964–6), ‘Rhai Swynion Cymraeg’, B xxi: 197–213
Gellir cysylltu pum cerdd â Syr Bened: awdl fawl gan Guto (cerdd 43); cywydd digrif lle edrydd Guto ei hanes yn porthmona defaid Syr Bened i farchnadoedd yn Lloegr (cerdd 44); cywydd gan Dudur Penllyn sy’n ymateb i’r cywydd porthmona uchod, lle dychenir Guto (cerdd 44a); cywydd gan Guto sy’n ymateb i’r cywydd uchod, lle dychenir Tudur Penllyn (cerdd 45); cywydd marwnad gan Guto (cerdd 47). At hynny, cyfeirir ato gan Guto mewn cywydd mawl i Syr Siôn Mechain, person Llandrunio (84.7n).
Achres
Er na cheir sicrwydd llwyr ynghylch ach Syr Bened, y tebyg yw, ar sail achresi Bartrum, ei fod yn fab i ŵr o’r enw Hywel ap Gruffudd o Lygadog yn Edeirnion. Dywed Guto fel hyn am ei hynafiaid (43.37–40):Y gŵr o Ronwy, geirwir ynad,
Ac o ryw Cadell, gorau ceidwad,
Ac ŵyr i Lywarch, gwir oleuad,
Ac Ithel Felyn a’i hŷn a’i had.Fel y gwelir isod, gellir olrhain y Syr Bened y ceir ei enw yn yr achresi yn ôl i’r pedwar gŵr a enwir gan Guto. Seiliwyd yr achres ar WG1 ‘12’, ‘13’, ‘14’, ‘41’, ‘Llywelyn Eurdorchog’ 3; WG2 ‘Einudd’ 9A, ‘Llywelyn Eurdorchog’ 3 A1. Dangosir y rheini a enwir gan Guto yn ei gerddi i Syr Bened mewn print trwm.
Achres Syr Bened ap Hywel, person Corwen
Fodd bynnag, Benedict ap Grono a enwir fel person Corwen yn 1439 (gw. isod). Tybed a oedd enw tad Syr Benet yn anhysbys i’r sawl a gofnododd yr wybodaeth ond ei fod yn gyfarwydd ag awdl Guto iddo, lle’i gelwir yn Hydd o garennydd Gronwy ac yn ŵr o Ronwy (43.36–7), ac i’r cofnodwr hwnnw gymryd mai dyna oedd enw tad y person? At hynny, rhaid cydnabod ei bod braidd yn annisgwyl fod Guto’n rhoi sylw yn ei gerdd i hynafiaid Syr Bened ar ochr ei fam yn unig, ac yntau’n disgyn o linach ddigon urddasol ar ochr ei dad hefyd.
Daethpwyd o hyd i un gŵr arall o’r enw Bened yn yr achresi, sef Bened ab Ieuan ap Deio o Langar yn Edeirnion (WG1 ‘Idnerth Benfras’ 8). Fel y gŵr uchod, drwy ei fam disgynnai Bened ab Ieuan o ŵr o’r enw Gronwy a gellir olrhain ei ach i Lywarch Hen ac i Gadell Ddyrnllug. Ond mae’n bur annhebygol mai Syr Bened ydyw gan nad enwir ef felly yn yr ach a chan na ellir ei gysylltu ag Ithel Felyn.
Ei yrfa
A dilyn dull Bartrum o rifo cenedlaethau, ganed Syr Bened c.1430. Yn Thomas (1908–13, ii: 144), dan y flwyddyn 1439, ceir yr enw Benedict ap Grono fel Sinecure Rector yng Nghorwen. Yn ôl Thomas (ibid. 148) a CPR (358), bu farw rywbryd yn 1464 a phenodwyd caplan o’r enw Roger Cheshire i’w olynu fel person yr Eglwys ar 1 Ionawr 1465. Fel y nodwyd uchod, nid yw’r wybodaeth honno’n cyd-fynd â’r hyn a geir yn yr achresi. Ond gan mor brin yr enw, mae’n annhebygol fod gŵr arall o’r enw Bened yn berson Corwen yn ystod y bymthegfed ganrif, ac mae’r dyddiadau c.1439–65 yn cyd-daro’n agos iawn â’r hyn a ddisgwylid yn achos Syr Bened.
Ceir rhai cyfeiriadau eraill at ŵr neu wŷr o’r enw Bened a allai gyfeirio at Syr Bened: Ceir rhai cyfeiriadau yng nghronfeydd data gwefan SoldierLME (www.medievalsoldier.org) at filwr o’r enw Benedict neu Benet Flyn(t). Yn 1429 aeth Benedict Flynt i ryfela yn Ffrainc dan y capten Henry Fenwick; ar 21 Awst 1431 aeth Benet Flyn fel bwasaethwr troed ac aelod o osgordd bersonol yn y maes dan gapteiniaeth Mathau Goch i warchae Louviers (yn Normandi); ac yn 1439 aeth Benedict Flynt fel gŵr arfog dan gapteiniaeth Syr Thomas Gray a chadlywyddiaeth John Huntingdon, iarll Huntingdon, i wasanaethu mewn byddin sefydlog yn Acquitaine. Y tebyg yw mai’r un gŵr yw Benedict a Bened y cofnodion hyn (cf. y cyfeiriad uchod at Syr Bened fel Benedict ap Grono). Ond gan ei bod yn debygol mai gŵr o Edeirnion oedd Syr Bened, yn hytrach na o sir y Fflint, mae’n annhebygol mai ato ef y cyfeirir yn y cofnodion milwrol hyn, er mor nodedig yw cyfeiriadau Guto a Thudur Penllyn at faintioli corfforol a milwriaeth Syr Bened (43.6n, 30n). Yng nghasgliad Bettisfield (rhif 380) yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ceir dogfen sy’n cofnodi i farchog o’r enw John Hanmer, ar 2 Mehefin 1449, roi manor Halton, ynghyd â thiroedd yn nhreflannau Bronington ym Maelor Saesneg a Gredington ym Maelor Gymraeg, i Benet Come, clerc a rheithor Corwen, ac eraill ym mhresenoldeb tystion. Dylid crybwyll hefyd Benedictus Com(m)e neu T(h)ome, notari cyhoeddus o esgobaeth Llanelwy y ceir ei enw wrth ddogfennau cyfreithiol a gyflwynwyd ger bron Siôn Trefor, esgob Henffordd, yn y blynyddoedd 1391, 1393 a 1395 (Capes 1914: 52, 67, 70, 102, 285). Os Benedictus Come yn hytrach na Tome oedd gwir enw y gŵr hwn (hawdd oedd cymysgu’r llythrennau c a t), ai Syr Bened ydoedd? Os e, o gofio iddo farw yn 1464, mae’n rhaid ei fod wedi byw i oedran mawr, hyd yn oed os dechreuodd yn ei swydd mor gynnar ag yn ei ugeiniau. Fel arall, dichon mai rhywun o’r enw Benedictus Tome neu ynteu rhyw Benedictus Come arall (er mor anghyffredin yr enw) a ysgrifennodd y dogfennau hyn. Ym mynegai Capes, ystyrir Benedictus Come yr un gŵr â Benedict Corner, Benedict Gomme a Benedict Edine. Fodd bynnag, cysylltir Benedict Corner â bywoliaethau Eastnor, Benedict Gomme â bywoliaethau Eastnor a Stoke Lacy a Benedict Edine â bywoliaeth Colwall, y cwbl yn swydd Henffordd (ibid. 180, 185, 189, 212, 214, 215, 217). Crybwyllir un Iankyn’ ap Sir Benet mewn rhestr o ddisgyblion yn Pen 356 a fu, yn ôl pob tebyg, yn derbyn addysg mewn ysgol Sistersaidd elfennol – a oedd efallai dan adain abaty Dinas Basing – yn y bymthegfed ganrif (Thomson 1982: 78). Ai mab i Syr Bened oedd hwn? Os felly, nis ceir yn yr achresi.
Diau fod Syr Bened yn ŵr da ei fyd. Fel nifer o ddeoniaid gwledig ei gyfnod, derbyniai incwm am fagu defaid a’u gwerthu yn ogystal â chyflog person. Gellir ei gymharu â Syr Siôn Mechain, person Llandrunio, a oedd hefyd yn ŵr eglwysig ac wedi ennill ei gyfoeth trwy fagu defaid. Nid bychan oedd cyflog person eglwysig yn y cyfnod hwn ychwaith, ac ymddengys fod deoniaid gwledig fel Syr Bened yn llawer hapusach eu byd yn ariannol na chlerigwyr plwyfol (Smith 2001: 289). Ceir cryn dystiolaeth i brofi mai’r eglwys yng Nghorwen oedd yr eglwys gyfoethocaf yn Edeirnion ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, ac mae’r gorffddelw o’r esgob Iorwerth Sulien (c.1340–50) yno i’w gweld o hyd (Smith 2001: 225; cf. eglwys Tywyn, ibid. 264–4, 289). Yng nghanol y bymthegfed ganrif byddai’r eglwys yng Nghorwen yn parhau i fod ar ben ei digon a dichon fod cryn statws i’w pherson. At hynny, deil yr achresi (gw. uchod) fod Syr Bened yn ficer Llanfair yn ogystal â pherson Corwen, er nad yw’n eglur pa Lanfair a olygir.
Llyfryddiaeth
Capes, W.W. (1914) (ed.), The Register of John Trefnant, Bishop of Hereford (A.D. 1389–1404) (Hereford)
Smith, J.B and Smith, Ll.B. (2001) (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff)
Thomas, D.R. (1908–13), The History of the Diocese of St Asaph (Oswestry)
Thomson, D. (1982), ‘Cistercians and Schools in Late Medieval Wales’, CMCS 3 (Summer): 76–80
Williams, G. (1976), The Welsh Church from Conquest to Reformation (second ed., Cardiff)
Cyfeirir yn ddirmygus tuag at Dudur Penllyn yng ngherdd 44, cywydd digrif lle edrydd Guto ei hanes yn porthmona defaid Syr Bened, person Corwen, i farchnadoedd yn Lloegr. Atebodd Tudur gyda chywydd yn dychan Guto ac yn ei gyhuddo o dwyllo Syr Bened (cerdd 44a), a chanodd Guto gywydd arall i’w amddiffyn ei hun (cerdd 45). Ceir hefyd ddwy gyfres o englynion yn dychanu Tudur gan Guto (cerdd 46) a chan ei fab, Ieuan ap Tudur Penllyn (cerdd 46a), yn ogystal â chyfres arall o englynion gan Dudur yn ei amddiffyn ei hun (cerdd 46b). Testun y dychan yn yr englynion hyn yw’r honiad (dychmygus, yn ôl pob tebyg) fod ceilliau Tudur wedi eu cipio gan flaidd.
Achres
Olrheiniai Tudur ei ach i Feirion Goch, uchelwr o Edeirnion a sylfaenydd gwehelyth y Rhiw yn Llŷn. Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Meirion Goch’ 1, 3, ‘Rhirid Flaidd’ 3, 8; WG2 ‘Meirion Goch’ 3A.
Fel y gwelir, roedd Tudur yn frawd yng nghyfraith i un o noddwyr Guto, Einion ap Gruffudd o Lechwedd Ystrad.
Ei yrfa
Roedd Tudur yn fardd rhagorol ac yn uchelwr cefnog o Gaer-gai ym mhlwyf Llanuwchllyn ym Meirionnydd. Priodolir 35 o gerddi iddo a rhai cyfresi o englynion. Moli a marwnadu, annerch, gofyn, cymodi a dychan a welir ynddynt. Roedd hefyd yn amaethwr a gadwai ddefaid ac ŵyn ac yn berchen gwartheg a cheffylau. Porthmonai’r defaid a’r ŵyn gan werthu eu gwlân, ac adlewyrchir hyn yng ngherddi 44, 44a a 45. Canai i uchelwyr yng ngogledd a de Cymru ond, ac yntau’n fardd a ganai ar ei fwyd ei hun, mae’n debygol mai fel ymweliadau cyfeillgar yn hytrach nag fel achlysuron clera i gynnal ei hun y dylid gweld y teithiau hyn. Ei brif noddwyr oedd Gruffudd Fychan ap Gruffudd o Gorsygedol, Rheinallt ap Gruffudd o’r Wyddgrug a Dafydd Siencyn o Nanconwy. Yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau cefnogai’r Lancastriaid, ond canodd hefyd i rai o’r Iorciaid. Roedd ei wraig Gwerful Fychan, ei fab Ieuan ap Tudur Penllyn a’i ferch Gwenllïan hwythau’n prydyddu (ar Wenllïan, gw. GGM 3–4; Johnston 1997). Fel beirdd ‘amatur’ eraill, nad oeddynt mor gaeth i gonfensiynau cerdd dafod, ceir ffresni ac amrywiaeth mwy na’r arfer yng ngherddi Tudur, gyda champ ar ei ddisgrifiadau a min ar ei ddychan. Ymhellach, gw. GTP (xiii am ei ddyddiadau); Roberts 1942: 141–51; idem 1943: 27–35; ByCy Ar-lein s.n. Tudur Penllyn; GIBH 3, cerddi 1–3, At iii–v a’r sylwadau arnynt.
Llyfryddiaeth
Johnston, D. (1997), ‘Gwenllïan ferch Rhirid Flaidd’, Dwned, 3: 27–32
Roberts, T. (1942), ‘Tudur Penllyn’, Y Llenor, xxi: 141–51
Roberts, T. (1943), ‘Tudur Penllyn’, Y Llenor, xxii: 27–35