Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn tair llawysgrif. Mae’r gynharaf, sef Pen 152, yn llaw Robert Vaughan, nid cyn 1654, a’r ail, BL 12230, yn gopi gan ei fab Gruffudd. Fel arfer, mae’n bosibl adnabod ffynhonnell Robert Vaughan ar gyfer ei destunau o waith Guto (John Davies, Mallwyd, yn bennaf) ond ni wyddys o ble y cododd y testun hwn. Mae ei ansawdd yn lled dda. Copi arall, diweddarach, yw LlGC 428C o Pen 152. Seiliwyd y testun golygyddol ar destun Pen 152.
Trawsysgrifiad: Pen 152.
6 capten Pen 152 cadpen, enghraifft o eirdarddu ffug (cad a pen), mae’n debyg, ond benthyciad yw capten o’r Saesneg captain, GPC 421.
17 ddoe ’r oedd ym wahodd Pen 152 Ddoe yr oedd im wadd. Mae hyn yn gywir fel y saif ond gthg. 19 Heddiw ’r oedd wahodd lle ceir ffurf fer y fannod a’r ffurf lawn gwahodd. Y tebyg yw mai Ddoe yr oedd im wahodd ar ŵr oedd y darlleniad yn wreiddiol a bod copïwr wedi ei throi’n seithsill trwy fyrhau wahodd yn wadd yn lle troi yr yn ’r. Nodir GGl gwadd yn GPC 1562.
19 heddiw Yn y cyd-destun gellir ei ddehongli i olygu ‘ar gyfer heddiw’ ond tybed, er hynny, nad ddoe (os felly, ddoe yr oedd i gael llinell seithsill) oedd y darlleniad gwreiddiol? Fel hyn byddai’r cwpled yn canlyn yn fwy naturiol ar y gwrthgyferbyniad rhwng doe a heddiw a geir yn y cwpled blaenorol.
19 yr ŵyl Felly Pen 152. Yn GGl dehonglir yr yn i’r ond er bod hynny’n bosibl, nid yw’n gyson ag orgraff Pen 152, a gellir sôn am ‘wahoddiad yr ŵyl’ yn yr ystyr ‘gwahoddiad i’r ŵyl’.
26 Rolant Pen 152 Roland. Diwygir er mwyn yr odl (ceir y ffurf Roland yn ogystal â Rolant yn y farddoniaeth).
29–30 Er bod modd cael synnwyr o’r cwpled (gw. yr aralleiriad), mae gwneud rhywun yn wrthrych berf ac enw haniaethol (ansyberwyd) yn oddrych iddi yn anarferol, ac nid yw’r ymadrodd Gŵr o gorff rywfodd yn taro deuddeg. Mae’n bosibl fod rhywbeth wedi mynd o’i le yn nhrosglwyddiad y rhan hon o’r gerdd ond anodd fyddai cynnig diwygiad.
42 chaid Gthg. GGl chaed.
45 roud Felly Pen 152. Gthg. GGl roed ond rhydd ail berson unigol amherffaith dibynnol rhoddi, sef rho(dd)ud, synnwyr purion.
53 ar Felly Pen 152. Gthg. GGl er. Cf. GDG3 49.1–2 Rhai o ferched y gwledydd, / Sef gwnân ar ffair, ddiddan ddydd. Ar yr ystyr hon i ar, gw. GPC2 402 (f).
Cywydd marwnad yw’r gerdd hon i Syr Bened, person Corwen, a fu farw yn 1464. Mae iddi ddwy ran. Yn gyntaf (llinellau 1–22), gresynir at waith Duw yn bwrw i lawr y fath wron ac arweinydd cadarn a dysgedig gan ddisgrifio’r holl alar a dagrau ar ei ôl. Yn yr ail ran (23–60), dyhea’r bardd am weld Syr Bened ar dir y byw eto a chael noddwr o Gymro arall o gyffelyb haelioni yn olynydd iddo, er cydnabod y byddai’n annhebygol y câi’r dymuniad hwnnw ei wireddu.
Dyddiad
1464 neu’n fuan wedyn.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd XXXV.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 60 llinell.
Cynghanedd: croes 47% (28 llinell), traws 25% (15 llinell), sain 20% (12 llinell), llusg 8% (5 llinell).
5 pan ei Ffurf lafarog y rhagenw mewnol a ddilynai'r cysylltair pan (Pen 152 pan y), gw. GMW 53, 56.
8 Edeirniawn Cwmwd ym Meirionnydd a gynhwysai Gorwen, lle trigai Syr Bened, gw. WATU 63, 266.
9 Brân Y cawr chwedlonol Bendigeidfran fab Llŷr Llediaith (gw. y nodyn nesaf) sydd yn amlwg yn ail gainc y Mabinogi, gw. WCD 51–2; TYP3 290–2.
9 Llŷr Llŷr Llediaith, tad Brân (gw. y nodyn blaenorol) ac arwr y cyfeirir ato’n fynych gan y beirdd, gw. WCD 421–2; TYP3 418–21.
13–16 Cf. 82.13–18 Mawr yw anaf cerdd dafawd, / Mawr os gwir marw eos gwawd / … / ... / Cwyn mawr acw yn y Main / A mwy uchod ym Mechain.
15–16 câr, / Yn Nhegeingl Roedd Tegeingl yn un o bedwar cantref y Berfeddwlad (y lleill oedd Rhos, Rhufoniog a Dyffryn Clwyd) a daeth yn 1284 yn rhan o sir y Fflint, gw. CLC2 697; WATU 202, 324. Roedd gan Syr Bened berthnasau yno ar ochr ei fam.
17 ar Ar y defnydd hwn o’r arddodiad yn dynodi symudiad tuag at, gw. GPC 402, 2 (b).
19 yr ŵyl Gallai’r geiriau fod yn adferfol hefyd. Os felly, yr ystyr yn llawn fyddai ‘gwahoddiad (i ymweld â Syr Bened) adeg yr ŵyl.’ Cyfeirir at un o’r tair gŵyl arbennig pan fyddai’r beirdd yn ymweld â’u noddwyr, sef y Nadolig, y Pasg a’r Sulgwyn.
24 Edn Llwch Gwin Ar y creaduriaid chwedlonol Adar Llwch Gwin, gw. 48.53–4n. Defnyddir y term, yn yr unigol, megis yma, am arwr.
25 côr Sulien Sant Roedd eglwysi Corwen yn sir Feirionnydd a’r Cwm yn sir y Fflint wedi eu cysegru iddo, gw. 43.5–7n.
26 Rolant Arwr brwydr Roncesvalles yn chwedlau Siarlymaen.
28 yr holl gampau Sef y Saith Gamp Deuluaidd, gw. 40.13n.
32 Dewi i’w gyfodi Cyfeirir at waith Dewi Sant yn cyfodi o farw’n fyw Magnus, unig fab gwraig weddw, gw. Sharpe and Davies 2007: 144; Evans 1959: 16; GIRh 8.77n. Nis henwir yn y fuchedd Gymraeg, gw. Evans 1959: 14.
33–4 Beuno … / … saith Sant pwysig o’r bumed i’r chweched ganrif a gysylltir yn bennaf â Chlynnog Fawr, sir Gaernarfon, gw. CLC2 45; LBS i: 208–21. Roedd traddodiad ei fod, yn ystod ei fywyd, wedi codi chwe pherson o farw’n fyw ac y byddai ryw ddydd yn codi seithfed, ibid. 221.
47 Ifor Hael Ifor ap Llywelyn, cyfaill a noddwr enwog Dafydd ap Gwilym a aeth yn ddiarhebol ymysg y beirdd am safon ei nawdd, gw. CLC2 361–2.
48 Rhys Leiaf Awgryma Ifor Williams, GGl2 331, mai Rhys (sef Rhys ap Meredudd ab Owain), noddwr y bardd Dafydd Nanmor, a olygir. Ceir ei ach yn WG1 ‘Gwynfardd’ 2, WG2 ‘Gwynfardd’ 2 (A1), ond ni elwir ef yno yn Rhys Leiaf. Ni welwyd ychwaith neb o’r enw Rhys Leiaf yn yr achau.
57 rhag dwyn aliwn Hynny yw, rhag i Sais gael ei benodi yn olynydd i Syr Bened. Sais, er hynny, sef Roger Cheshire, a’i dilynodd, gw. Syr Bened.
Llyfryddiaeth
Evans, D.S. (1959) (gol.), Buchedd Dewi (Caerdydd)
Sharpe, R. and Davies, J.R. (2007), ‘Rhygyfarch’s Life of St David’, J.W. Evans and J.M. Wooding (eds.), St David of Wales: Cult, Church and Nation (Woodbridge), 107–55
This cywydd is an elegy for Sir Benet, parson of Corwen, who died in 1464. It consists of two parts. First (lines 1–22), regret is expressed at God’s action in striking down such a stalwart and learned hero and leader and it is accompanied by a description of all the grief and tears following his death. In the second part (23–60), the poet yearns to see Sir Benet on the land of the living again and to have another Welshman who will be a patron of like generosity to succeed him, although the improbability of the latter being fulfilled is acknowledged.
Date
1464 or soon afterwards.
The manuscripts
The poem has been preserved in three manuscripts. The earliest, Pen 152, is in the hand of Robert Vaughan, not before 1654, while the second, BL Add 12230, is a copy by his son Gruffudd. Vaughan’s source is not known, however the quality of the text quality is quite good.
Previous edition
GGl poem XXXV.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 60 lines.
Cynghanedd: croes 47% (28 lines), traws 25% (15 lines), sain 20% (12 lines), llusg 8% (5 lines).
5 pan ei The conjunction pan was followed by the syllabic form of the infixed pronoun (Pen 152 pan y), see GMW 53, 56.
8 Edeirniawn A commote in Meirionnydd which included Corwen, where Sir Benet lived, see WATU 63, 266.
9 Brân The mythical giant Bendigeidfran fab Llŷr Llediaith (see the next note) who is prominent in the second branch of the Mabinogi, see WCD 51–2; TYP3 290–2.
9 Llŷr Llŷr Llediaith, father of Brân (see preceding note) and a hero mentioned frequently by the poets, see WCD 421–2; TYP3 418–21.
13–16 Cf. 82.13–18 Mawr yw anaf cerdd dafawd, / Mawr os gwir marw eos gwawd / … / ... / Cwyn mawr acw yn y Main / A mwy uchod ym Mechain ‘Great is the injury to poetic art, / great if true the passing of the nightingale of song. / ... / ... / There is great mourning in Main / and more above in Mechain’.
15–16 câr, / Yn Nhegeingl Tegeingl (or Englefield) was one of the four cantrefs of the Perfeddwlad (the others were Rhos, Rhufoniog and the Vale of Clwyd) and it became part of the county of Flint in 1284, see NCLW 219; WATU 202, 324. Sir Benet had relatives there on his mother’s side.
17 ar On the use of this preposition to denote movement towards, see GPC 402, 2 (b).
19 yr ŵyl These words could be adverbial as well. If so, the meaning in full would be ‘an invitation (to visit Sir Benet) at the time of the feast’. Reference is made to one of the three special feasts on which the poets would visit their patrons, namely Christmas, Easter and Whitsun.
24 Edn Llwch Gwin On the mythical creatures the Birds of Llwch Gwin, see 48.53–4n. The term is used, in the singular, as here, for a hero.
25 côr Sulien Sant The churches of Corwen in Merionethshire and of Cwm in Flintshire were dedicated to him, see 43.5–7n.
26 Rolant The hero of the battle of Roncesvalles in the Charlemagne cycle of tales.
28 yr holl gampau Namely the Seven Household Feats, see 40.13n.
32 Dewi i’w gyfodi A reference to the action of St David raising Magnus, the only son of a widow, from death to life, see Sharpe and Davies 2007: 144; Evans 1959: 16; GIRh 8.77n. He is not named in the Welsh life, see Evans 1959: 14.
33 Beuno … / … saith An important saint from the fifth to sixth century associated chiefly with Clynnog Fawr, Caernarfonshire, see NCLW 46; LBS i: 208–21. There was a tradition that he had, during his life, raised six persons from death to life and that some day he would raise a seventh, ibid. 221.
47 Ifor Hael Ifor ap Llywelyn, the celebrated friend and patron of Dafydd ap Gwilym remembered by the poets for the quality of his patronage, see NCLW 347.
48 Rhys Leiaf Ifor Williams suggests, GGl2 331, that Guto is referring to Rhys (Rhys ap Meredudd ab Owain), the patron of the poet Dafydd Nanmor. His pedigree can be found in WG1 ‘Gwynfardd’ 2, WG2 ‘Gwynfardd’ 2 (A1), but he is not called Rhys Leiaf there. I have not seen either anyone called Rhys Leiaf in the genealogies.
57 rhag dwyn aliwn I.e., in case an Englishman be appointed successor to Sir Benet. It was an Englishman nonetheless, Roger Cheshire, who succeeded him, see Sir Benet.
Bibliography
Evans, D.S. (1959) (gol.), Buchedd Dewi (Caerdydd)
Sharpe, R. and Davies, J.R. (2007), ‘Rhygyfarch’s Life of St David’, J.W. Evans and J.M. Wooding (eds.), St David of Wales: Cult, Church and Nation (Woodbridge), 107–55
Gellir cysylltu pum cerdd â Syr Bened: awdl fawl gan Guto (cerdd 43); cywydd digrif lle edrydd Guto ei hanes yn porthmona defaid Syr Bened i farchnadoedd yn Lloegr (cerdd 44); cywydd gan Dudur Penllyn sy’n ymateb i’r cywydd porthmona uchod, lle dychenir Guto (cerdd 44a); cywydd gan Guto sy’n ymateb i’r cywydd uchod, lle dychenir Tudur Penllyn (cerdd 45); cywydd marwnad gan Guto (cerdd 47). At hynny, cyfeirir ato gan Guto mewn cywydd mawl i Syr Siôn Mechain, person Llandrunio (84.7n).
Achres
Er na cheir sicrwydd llwyr ynghylch ach Syr Bened, y tebyg yw, ar sail achresi Bartrum, ei fod yn fab i ŵr o’r enw Hywel ap Gruffudd o Lygadog yn Edeirnion. Dywed Guto fel hyn am ei hynafiaid (43.37–40):Y gŵr o Ronwy, geirwir ynad,
Ac o ryw Cadell, gorau ceidwad,
Ac ŵyr i Lywarch, gwir oleuad,
Ac Ithel Felyn a’i hŷn a’i had.Fel y gwelir isod, gellir olrhain y Syr Bened y ceir ei enw yn yr achresi yn ôl i’r pedwar gŵr a enwir gan Guto. Seiliwyd yr achres ar WG1 ‘12’, ‘13’, ‘14’, ‘41’, ‘Llywelyn Eurdorchog’ 3; WG2 ‘Einudd’ 9A, ‘Llywelyn Eurdorchog’ 3 A1. Dangosir y rheini a enwir gan Guto yn ei gerddi i Syr Bened mewn print trwm.
Achres Syr Bened ap Hywel, person Corwen
Fodd bynnag, Benedict ap Grono a enwir fel person Corwen yn 1439 (gw. isod). Tybed a oedd enw tad Syr Benet yn anhysbys i’r sawl a gofnododd yr wybodaeth ond ei fod yn gyfarwydd ag awdl Guto iddo, lle’i gelwir yn Hydd o garennydd Gronwy ac yn ŵr o Ronwy (43.36–7), ac i’r cofnodwr hwnnw gymryd mai dyna oedd enw tad y person? At hynny, rhaid cydnabod ei bod braidd yn annisgwyl fod Guto’n rhoi sylw yn ei gerdd i hynafiaid Syr Bened ar ochr ei fam yn unig, ac yntau’n disgyn o linach ddigon urddasol ar ochr ei dad hefyd.
Daethpwyd o hyd i un gŵr arall o’r enw Bened yn yr achresi, sef Bened ab Ieuan ap Deio o Langar yn Edeirnion (WG1 ‘Idnerth Benfras’ 8). Fel y gŵr uchod, drwy ei fam disgynnai Bened ab Ieuan o ŵr o’r enw Gronwy a gellir olrhain ei ach i Lywarch Hen ac i Gadell Ddyrnllug. Ond mae’n bur annhebygol mai Syr Bened ydyw gan nad enwir ef felly yn yr ach a chan na ellir ei gysylltu ag Ithel Felyn.
Ei yrfa
A dilyn dull Bartrum o rifo cenedlaethau, ganed Syr Bened c.1430. Yn Thomas (1908–13, ii: 144), dan y flwyddyn 1439, ceir yr enw Benedict ap Grono fel Sinecure Rector yng Nghorwen. Yn ôl Thomas (ibid. 148) a CPR (358), bu farw rywbryd yn 1464 a phenodwyd caplan o’r enw Roger Cheshire i’w olynu fel person yr Eglwys ar 1 Ionawr 1465. Fel y nodwyd uchod, nid yw’r wybodaeth honno’n cyd-fynd â’r hyn a geir yn yr achresi. Ond gan mor brin yr enw, mae’n annhebygol fod gŵr arall o’r enw Bened yn berson Corwen yn ystod y bymthegfed ganrif, ac mae’r dyddiadau c.1439–65 yn cyd-daro’n agos iawn â’r hyn a ddisgwylid yn achos Syr Bened.
Ceir rhai cyfeiriadau eraill at ŵr neu wŷr o’r enw Bened a allai gyfeirio at Syr Bened: Ceir rhai cyfeiriadau yng nghronfeydd data gwefan SoldierLME (www.medievalsoldier.org) at filwr o’r enw Benedict neu Benet Flyn(t). Yn 1429 aeth Benedict Flynt i ryfela yn Ffrainc dan y capten Henry Fenwick; ar 21 Awst 1431 aeth Benet Flyn fel bwasaethwr troed ac aelod o osgordd bersonol yn y maes dan gapteiniaeth Mathau Goch i warchae Louviers (yn Normandi); ac yn 1439 aeth Benedict Flynt fel gŵr arfog dan gapteiniaeth Syr Thomas Gray a chadlywyddiaeth John Huntingdon, iarll Huntingdon, i wasanaethu mewn byddin sefydlog yn Acquitaine. Y tebyg yw mai’r un gŵr yw Benedict a Bened y cofnodion hyn (cf. y cyfeiriad uchod at Syr Bened fel Benedict ap Grono). Ond gan ei bod yn debygol mai gŵr o Edeirnion oedd Syr Bened, yn hytrach na o sir y Fflint, mae’n annhebygol mai ato ef y cyfeirir yn y cofnodion milwrol hyn, er mor nodedig yw cyfeiriadau Guto a Thudur Penllyn at faintioli corfforol a milwriaeth Syr Bened (43.6n, 30n). Yng nghasgliad Bettisfield (rhif 380) yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ceir dogfen sy’n cofnodi i farchog o’r enw John Hanmer, ar 2 Mehefin 1449, roi manor Halton, ynghyd â thiroedd yn nhreflannau Bronington ym Maelor Saesneg a Gredington ym Maelor Gymraeg, i Benet Come, clerc a rheithor Corwen, ac eraill ym mhresenoldeb tystion. Dylid crybwyll hefyd Benedictus Com(m)e neu T(h)ome, notari cyhoeddus o esgobaeth Llanelwy y ceir ei enw wrth ddogfennau cyfreithiol a gyflwynwyd ger bron Siôn Trefor, esgob Henffordd, yn y blynyddoedd 1391, 1393 a 1395 (Capes 1914: 52, 67, 70, 102, 285). Os Benedictus Come yn hytrach na Tome oedd gwir enw y gŵr hwn (hawdd oedd cymysgu’r llythrennau c a t), ai Syr Bened ydoedd? Os e, o gofio iddo farw yn 1464, mae’n rhaid ei fod wedi byw i oedran mawr, hyd yn oed os dechreuodd yn ei swydd mor gynnar ag yn ei ugeiniau. Fel arall, dichon mai rhywun o’r enw Benedictus Tome neu ynteu rhyw Benedictus Come arall (er mor anghyffredin yr enw) a ysgrifennodd y dogfennau hyn. Ym mynegai Capes, ystyrir Benedictus Come yr un gŵr â Benedict Corner, Benedict Gomme a Benedict Edine. Fodd bynnag, cysylltir Benedict Corner â bywoliaethau Eastnor, Benedict Gomme â bywoliaethau Eastnor a Stoke Lacy a Benedict Edine â bywoliaeth Colwall, y cwbl yn swydd Henffordd (ibid. 180, 185, 189, 212, 214, 215, 217). Crybwyllir un Iankyn’ ap Sir Benet mewn rhestr o ddisgyblion yn Pen 356 a fu, yn ôl pob tebyg, yn derbyn addysg mewn ysgol Sistersaidd elfennol – a oedd efallai dan adain abaty Dinas Basing – yn y bymthegfed ganrif (Thomson 1982: 78). Ai mab i Syr Bened oedd hwn? Os felly, nis ceir yn yr achresi.
Diau fod Syr Bened yn ŵr da ei fyd. Fel nifer o ddeoniaid gwledig ei gyfnod, derbyniai incwm am fagu defaid a’u gwerthu yn ogystal â chyflog person. Gellir ei gymharu â Syr Siôn Mechain, person Llandrunio, a oedd hefyd yn ŵr eglwysig ac wedi ennill ei gyfoeth trwy fagu defaid. Nid bychan oedd cyflog person eglwysig yn y cyfnod hwn ychwaith, ac ymddengys fod deoniaid gwledig fel Syr Bened yn llawer hapusach eu byd yn ariannol na chlerigwyr plwyfol (Smith 2001: 289). Ceir cryn dystiolaeth i brofi mai’r eglwys yng Nghorwen oedd yr eglwys gyfoethocaf yn Edeirnion ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, ac mae’r gorffddelw o’r esgob Iorwerth Sulien (c.1340–50) yno i’w gweld o hyd (Smith 2001: 225; cf. eglwys Tywyn, ibid. 264–4, 289). Yng nghanol y bymthegfed ganrif byddai’r eglwys yng Nghorwen yn parhau i fod ar ben ei digon a dichon fod cryn statws i’w pherson. At hynny, deil yr achresi (gw. uchod) fod Syr Bened yn ficer Llanfair yn ogystal â pherson Corwen, er nad yw’n eglur pa Lanfair a olygir.
Llyfryddiaeth
Capes, W.W. (1914) (ed.), The Register of John Trefnant, Bishop of Hereford (A.D. 1389–1404) (Hereford)
Smith, J.B and Smith, Ll.B. (2001) (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff)
Thomas, D.R. (1908–13), The History of the Diocese of St Asaph (Oswestry)
Thomson, D. (1982), ‘Cistercians and Schools in Late Medieval Wales’, CMCS 3 (Summer): 76–80
Williams, G. (1976), The Welsh Church from Conquest to Reformation (second ed., Cardiff)