Y llawysgrifau
Ceir copi o’r gerdd hon mewn 16 llawysgrif. Fel y gwelir yn y stema rhoir ystyriaeth i dri phrif destun, sef Pen 99, X1 ac X2 (cwpled cyntaf y gerdd yn unig a geir yn llaw John Jones Gellilyfdy yn Pen 221, ac ni oroesodd copi cyflawn o’r gerdd yn ei law ef). Mae ôl llaw copïwyr diweddarach i’w weld ar bob un o’r tri, ond mae’n amlycach yn nhestun Pen 99, lle diwygiwyd darlleniadau yn llinellau 9 a 61 a llinell gyfan yn achos 16 (gw. y nodiadau isod). Mae’n ddiffygiol hefyd yn llinellau 1, 18 a 31. Fodd bynnag, mae’n eglur ei fod yn ategu darlleniadau cywir a geir yn un o’r ddau destun arall yn llinellau 7, 10 Gwynedd, 13 ym Nudd, 33, 39, 42, 45, 52 moledau, 53, 54 tri, 59, 65, 66 a 67. At hynny, lle ceir anghytundeb rhwng X1 ac X2 heb fodd o bwys i wahaniaethu rhyngddynt defnyddir tystiolaeth Pen 99 i dorri’r ddadl (11, 13 iach, 22, 23, 26, 41, 43, 50 a 52 fy nheml). Noder bod testun X1 yn ddiffygiol yn llinellau 10 Gwynedd, 13 ym Nudd, 39, 52 moledau, 54 tri, 65 a 67, a thestun X2 yn llinellau 7, 33, 42, 45, 53, 59 a 66.
Trawsysgrifiadau: LlGC 17114B, Pen 77 a Pen 99.
Teitl
O ran y rhodd gellid dilyn ffurf lawn yr hyn a geir yn nheitlau mwyafrif y llawysgrifau ac yn llinell 43 ’sglatys (gw. y nodyn), sef ysglatys (cf. GGl 256 ‘ysglâts’). Ond noder yr hyn a geir mewn llaw ddiweddarach yn Gwyn 4 cerrig teils. Sylwer mai fel teils yr enwir y rhodd yn llinellau 6 a 17, ac, er hwylustod, defnyddir y gair hwnnw yn y golygiad presennol gan y bernir ei fod yn air mwy cyfarwydd heddiw nac ysglatys.
1 Rhoi tŷ’r wyf fry ar y fron Dilynir X1. Gthg. X2 Rhoi tŷ yr wyf fry ar fron. Ceir y ddau ddarlleniad gwahanol ynghyd yn Pen 99 Rhoi ty yr wy fry ar y fron. Bernir mai tyr neu tvyr a geid yn y gynsail ac y dehonglwyd y darlleniad hwnnw fel ty yr yn Pen 99 ac X2, gan achosi i gopïydd X2 hepgor y fannod er mwyn sicrhau llinell seithsill (cf. 7n). Mae’n sicr yn haws dod i’r casgliad hwnnw na chymryd bod y fannod wedi ei hychwanegu yn Pen 99 ac X1.
7 tŷ a siambr Dilynir Pen 99 ac X1. Gthg. X2 to siambr, lle’r ymddengys na sylweddolwyd bod sy ym yn cywasgu ac yr hepgorwyd a er mwyn sicrhau llinell seithsill, gan roi to yn lle ty i greu synnwyr (cf. 1n).
8 Aberogwen Cf. LlGC 17114B aber ogwaen (gw. Owen and Morgan 2007: 354; Williams 1962: 43–4).
9 cyfrio Gthg. Pen 99 kerfio. Er na ellir diystyru’r darlleniad yn llwyr o safbwynt y gynghanedd, bernir mai diwygiad ydyw gan gopïydd a oedd yn anghyfarwydd â darlleniad y golygiad.
10 Gwynedd Dilynir Pen 99 ac X2. Gthg. X1 gwynion. Ymddengys Gwynedd rywfaint yn fwy synhwyrol yma.
10 gaened Gthg. y ffurf gysefin caened ym mhob llawysgrif, ond nid ymddengys y gellir cyfiawnhau’r darlleniad hwnnw’n hawdd iawn o safbwynt ystyr. Cymerir bod kaened yn y gynsail yn sgil y calediad ac na sylweddolodd copïwyr diweddarach mai’r ffurf dreigledig a ddisgwylid.
11 mastr Dilynir Pen 99 ac X2. Gthg. darlleniad GGl yn X1 meistr (cf. 58.5n (testunol)).
13 ym Nudd Dilynir Pen 99 ac X2. Gthg. gwall copïo yn X1 mi Nudd.
13 iach Dilynir y ffurf a geir yn Pen 99 ac X2. Gthg. darlleniad GGl yn X1 ach (gw. GPC2 17 d.g. ach5).
15 o Ronwy Gall mai o Oronwy a olygid ac y ceid cywasgiad, ond ni cheir ateg i hynny yn y llawysgrifau.
16 A Deuddwr, unwaed oeddym Dilynir X1 ac X2. Gthg. Pen 99 o dewdwr vn waed ydym. Fel y trafodir yn y nodyn ar Syr Gruffudd ab Einion nid yw ei ach yn gwbl eglur ac ni ellir cynnig darlleniad hyderus ar gyfer y llinell hon ar sail yr wybodaeth achyddol yn unig. Mae’n bosibl y gallai Syr Gruffudd gyfrif Tewdwr Mawr ymhlith ei hynafiaid, ond ni cheir sicrwydd. Ar y llaw arall, mae ei gyswllt posibl â chwmwd Deuddwr hyd yn oed yn fwy annelwig. Bernir, felly, ei bod yn fwy tebygol y troid devddwr, neu, yn gywirach, devδwr, yn dewdwr wrth gopïo, ac y diwygid ail hanner y llinell yn ei dro er mwyn cwblhau’r gynghanedd.
18 tŷ Gthg. Pen 77 a Pen 99 tai. Bernir mai camgymeriad ydyw am tvy (gw. GPC 3668 d.g. tŷ).
22 ond y Dilynir Pen 99 ac X1. Gthg. X2 neb ond (darlleniad GGl).
23 chynhonwr Dilynir Pen 99 ac X2. Gthg. X1 chanhonwr (er mai darlleniad y golygiad a geir yn LlGC 3049D; ymhellach, gw. 58.9n (testunol)). Ni cheir GGl chanonwr yn y llawysgrifau a drafodir yma.
26 Deinioel Dilynir Pen 99 ac X1. Gthg. darlleniad tebygol X2 denioel.
27 Gwyrfái Gthg. Pen 77 gwrvai (cf. 58.4n Gwyrfái (testunol)).
30 Iarddur Collwyd i- mewn rhai llawysgrifau, ond ni cheir amheuaeth mai Iarddur a geid yn y gynsail (cf. Trearddur ym Môn, sef tref + Iarddur; gw. Owen and Morgan 2007: 463).
31 Efô’n fyr, ni chaf un fwy Dilynir X1. Gthg. Pen 99 evro /n/ fyr ni chawn{ir} vn vwy ac X2 ni chae hvn vwy. Y tebyg yw bod ôl camgopïo ar y ddau: camddehonglwyd evo neu euo yn ffynhonnell Pen 99 ac yna fe’i diwygiwyd yn euro, a gall mai chavvn yn y gynsail a barodd yr amrywio yn ail hanner y llinell.
32 ar draws Gthg. BL 14969 o draws. Dilynir mwyafrif y llawysgrifau. Dilynwyd diwygiad Pen 152 aro draws yn GGl.
33 dean Dilynir Pen 99 ac X1. Gthg. X2 deon. Prawf y gynghanedd mai dean a geir yn llinell 61.
39 ddengmil Gthg. X1 ddeugeinmil, sy’n rhoi llinell wythsill a chynghanedd sain wannach. Ffrwyth camddehongli ddeng- fel ddeug- ydyw yn ôl pob tebyg.
41 nis cyrhaeddai Dilynir Pen 99 ac X1. Gthg. X2 ni chyrhaeddai.
42 rhôi Gthg. darlleniad cynganeddol wallus X2 kae, sef ffrwyth camgopïo k- yn lle R- yn ôl pob tebyg.
43 ’sglatys Dilynir, yn rhannol, Pen 99 ac X1 ysglatys. Nid yw’n gwbl eglur beth a geid yn X2: ceir darlleniad y golygiad yn LlGC 17114B ac ysglats yn BL 14969, ac ysglats eto yn nheitl y gerdd yn y ddau. Gellid dilyn yr olaf (lle syrth yr acen ar yr ail sillaf), sef yr unig ddarlleniad sy’n rhoi llinell seithsill, a chymryd mai cynghanedd drychben a geid yn y llinell hon. Ond mae -ys ym mhob darlleniad arall, ynghyd â 98.62 Ysglatys o’r wisg g’letaf, yn awgrymu mai y- ar ddechrau’r gair y dylid ei hepgor (ar y ffurfiau, gw. GPC 3243 d.g. sglats).
45 cotarmur Gthg. darlleniad rhyfedd X2 kwotharmvr, na cheir unrhyw sail iddo yn y Saesneg coat-armour (gw. OED Online s.v.).
46 côp Dilynir mwyafrif y llawysgrifau. Gthg. BL 14969 kob. Gall mai’r darlleniad hwnnw a geid yn wreiddiol ac mai’r ffurf dan ddylanwad y calediad -b + c- a geir yn y llawysgrifau eraill (gw. CD 214; cf. 10n gaened). Fel y saif rhaid cymryd bod y calediad hwnnw’n digwydd yn esgob capusgain er mwyn sicrhau cynghanedd sain (ceir esgop yn Gwyn 4 a LlGC 17114B). Ar y ffurfiau, gw. GPC 523 d.g. cob.
46 Côp, cap esgob capusgain Gthg. Gwyn 4 cop capcwmp escop campuscain.
48 ungraig Ni cheir darlleniad GGl wengraig yn y llawysgrifau a drafodir yma.
50 phinnau Dilynir Pen 99 ac X2. Gthg. X1 phiniau (darlleniad GGl). Ar y ffurfiau, gw. GPC 2805 d.g. pìn1.
52 moledau Gthg. darlleniad gwallus X1 moldiau.
52 fy nheml Dilynir Pen 99 ac X1. Gthg. X2 ynhemyl.
53 yn Dilynir Pen 99 ac X1. Gthg. darlleniad GGl yn X2 ail. Bernir bod darlleniad y golygiad yn rhagori o ran llif yr ystyr yn llinellau 53–6.
54 tri Dilynir darlleniad anos (o bosibl) Pen 99 ac X2. Gthg. darlleniad GGl yn X1 tir. Sylwer y ceir tir elfydd yng nghopi Llst 119, 26, o’r gerdd chwedlonol ‘Cadair Aur Taliesin’, ond tri elfydd ym mhob copi neu fersiwn arall o’r gerdd (gw. Gruffudd 1997: 158–64). Ymhellach, gw. 61.54n (esboniadol).
54 elfydd Sylwer ar ychwanegiad William Salesbury yn Gwyn 4 eilvydd (gw. GPC 1205 d.g. elfydd2; Williams 1950: 198).
58 Llion Gthg. BL 14969 lleon (darlleniad GGl).
59 cyfalle Dilynir, yn rhannol, X1 cyfallau a darlleniad gwreiddiol Pen 99 kafallv. Gthg. darlleniad GGl yn X2 gryfellau/grafellau, sy’n ddigon derbyniol o safbwynt ystyr (gw. GPC 576 d.g. crafell ‘rhawlech, offeryn hirgoes neu wialen a estynnir gan bobydd i’r ffwrn i’w glanhau a symud y torthau a’r teisennau; llafn, tafell’). Ond gall fod yn ddadlennol i gopïydd diweddarach geisio rhoi’r darlleniad hwnnw yn lle’r darlleniad gwreiddiol yn Pen 99. Bernir mai kyfalle a geid yn y gynsail: dehonglodd copïydd X1 y llythyren olaf fel -au lluosog ac fe’i camgopïwyd yn Pen 99 (cf. bore → borau, gw. GPC 301 d.g.; ond dylid nodi’r posibilrwydd mai cyfallu a geid yn ffynhonnell y llawysgrif honno; gw. GPC 676 d.g. ‘gallu, grym; cyfartaledd’).
61 rhwyddlan Gthg. Pen 99 rhwyddgan.
63 Degeingl Dilynir BL 14969. Gthg. Degaingl yn y llawysgrifau eraill fel yn GGl, ond ni cheir tystiolaeth o blaid y ffurf honno yn ArchifMR. Y tebyg yw mai amrywiad orgraffyddol ydyw (ymhellach, gw. 70.32n (testunol)).
65 am Gthg. darlleniad gwallus X1 vn.
66 Y mae’r glod pe mwy’r gludair Dilynir Pen 99 ac X1. Collwyd y gair cyntaf yn X2. Dilynodd GGl ddiwygiad BL 14969 mae r glod pe bai mwyr glvda[ir].
67 o’i Yn Gwyn 4 yn unig y ceir y rhagenw yng ngrŵp X1.
Llyfryddiaeth
Gruffudd, G.F. (1997), ‘Cerddi Taliesin Ben Beirdd y Gorllewin’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Owen, H.W. and Morgan, R. (2007), Dictionary of the Place-names of Wales (Llandysul)
Williams, I. (1950), ‘elfydd “tebyg” ’, B xiii: 197–8
Williams, I. (1962), Enwau Lleoedd (ail arg., Lerpwl)
Cywydd i ofyn teils to yw hwn a ganwyd i Risiart Cyffin, deon Bangor, ar ran ei berthynas, Syr Gruffudd ab Einion o Henllan ger Dinbych. Mae’r gerdd yn enghraifft wych o gywydd gofyn lle mae’r bardd yn ‘ymabsenoli’n llwyr’ ac yn cymryd arno bersona’r eirchiad o’r cychwyn cyntaf (gw. Huws 1998: 143). Llais Syr Gruffudd a glywir gydol y gerdd, mewn gwirionedd, er y gellid dadlau mai llais Guto a glywir yn llinellau 35–6 ac yn y fendith a roir yn gyfnewid am y to yn y cwpled olaf. Yn ddiddorol ddigon nid yw’r cywydd yn dilyn strwythur arferol genre y cywydd gofyn. Gan amlaf annerchid y darpar roddwr, cyflwynid y cais am rodd a’i dyfalu cyn cloi’r gerdd (gw. ibid. 87, 89). Yn y gerdd hon cyflwynir y cais am rodd yn gyntaf (llinellau 1–10) ac yna’r eirchiad (11–16) cyn moli’r darpar roddwr (17–34), disgrifio’r rhodd (35–64) a dwyn y gerdd i ben gyda bendith (65–8).
Dyddiad
Penodwyd Rhisiart Cyffin yn ddeon Bangor rywdro rhwng 1474 a 1478 a bu farw, yn ôl pob tebyg, yn 1492. Ymddengys yn ddiogel tybio bod y gerdd hon wedi ei chanu rhwng c.1480 a 1492. A chymryd bod Guto’n rhy hen i glera y tu hwnt i gyffiniau abaty Glyn-y-groes erbyn c.1490, cynigir y canwyd y gerdd hon rywdro yn ystod wythdegau’r ganrif. Ni cheir dim gwybodaeth am yr eirchiad, Syr Gruffudd ab Einion, a allai fod o fudd wrth geisio pennu dyddiad manylach ar gyfer y gerdd.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd XCVIII.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 68 llinell.
Cynghanedd: croes 56% (38 llinell), traws 22% (15 llinell), sain 22% (15 llinell), dim llusg.
1 y fron Gall fod yn enw priod, ond ni ddaethpwyd o hyd i fryn amlwg o’r enw hwnnw yng nghyffiniau Henllan.
2 caer uchel rhag gwreichion Cred Lake (GSH 13.52n) mai at y sêr y cyfeirir yma, a gellid cynnig ‘caer uchel o flaen sêr gwib’ fel aralleiraid. Ond yng nghyd-destun y cwpled nesaf ymddengys ystyron mwy uniongyrchol gwreichion yn fwy perthnasol (gw. GPC 1703 d.g. ‘gronyn(nau) bychan (bychain) o dân’). Dywed Guto fod gan feini fantais dros wellt rhyg mawr, a’r tebyg yw mai natur fflamadwy gwellt sydd ganddo mewn golwg. O safbwynt y cwpled cyntaf gall gwreichion, yng nghyd-destun ystyr arferol y gair, olygu ‘dinistr’ yn gyffredinol. Byddai safle uchel llys Syr Gruffudd yn sicrhau ei fod yn rhydd o wreichion tanau a ddefnyddid i ddinistrio trefi ar lawr gwlad, ac mae’r ffaith fod gwreichion yn bethau bach iawn yn mawrygu’r llys ymhellach.
8 To brig tai Aberogwen Mae’n demtasiwn deall brig fel ansoddair yma, er na ellir ei ddeall felly yn ôl GPC 324 d.g. Gall mai ‘safon rhagoriaeth’ yw’r ystyr yn fras yma, neu ‘mwyaf rhagorol’ mewn perthynas â thai Aberogwen (gw. 8n isod), ond gall hefyd mai at frig toeon tai neu dŷ arbennig yn Aberogwen y cyfeirir.
8 Aberogwen Ffermdy heddiw ar lannau dwyreiniol aber afon Ogwen yng nghwmwd Arllechwedd Uchaf yng Ngwynedd (nis rhestrir yn WATU). Gall mai at Landygái neu Dal-y-bont ymhellach i fyny’r afon y cyfeirir, ond ceir nifer o gyfeiriadau eraill at Aberogwen yn benodol mewn cyswllt â’r diwydiant llechi cynnar. Cf. disgrifiad Siôn Tudur o’r teils yn y gerdd a ganodd i’w gofyn gan ddeon Bangor ar ran Tudur ap Rhobert, gw. GST 81.71–2 Brethyn aur yn britho nen, / Brigawndr o Aberogwen. Mae’n ddigon posibl hefyd mai o Aberogwen y cludwyd y teils a ganodd Siôn ap Hywel i’w gofyn gan Wiliam ap Wiliam o Gochwillan ar ran Huw ap Rhys o Fôn (gw. GSH 13.73–4 a 151n): Doir â’i long i dir y wlad; / O’u dwyn, llaw Dduw amdanad! Yn ôl Lindsay (1974: 19–20) mae’n bosibl mai ar long o Aberogwen y cludwyd teils i doi rhannau o gastell Conwy yn y drydedd ganrif ar ddeg, ac mae’n sicr mai oddi yno y’u cludwyd pan aildowyd y castell yn 1525 (ibid. 20). Cyfeirir at weithgarwch tebyg yn 1544 (ibid. 27) pan gloddwyd am lechi ym mhlwyf Llandygái a’u hwylio o Aberogwen neu Abercegin (sef yr hen enw ar Borth Penrhyn ger Bangor). Rhwng 1358 a 1360 cludwyd dros ugain mil o deils i Gaer o ‘Ogwen’ er mwyn toi stablau’r castell yno (ibid. 20).
10 Gwynedd Gw. 26n.
10 craig Gall mai’r graig yn Eryri y tynnwyd y teils ohoni a olygir, ynteu, a chymryd bod cryn dipyn o gerrig ym muriau tŷ newydd Syr Gruffudd (gw. 45 y mur main), y tŷ ei hun.
10 caened Yn GPC 383 d.g. caened2 deellir yr enghraifft hon o’r gair fel ansoddair, sef ‘llwyd’, ond bernir mai enw ydyw mewn gwirionedd, sef ‘math o frethyn llwyd’ (gw. ibid.). Ni raid ystyried caened1, ‘gwisg, gorchudd’ (gw. ibid. d.g.), gan y gwrthodwyd yr unig enghraifft gynnar o’r gair yn yr ystyr honno yn GLlG 4.22n.
11 mastr Risiart Sef Rhisiart Cyffin, deon Bangor a’r rhoddwr yn y gerdd hon. Mae’r teitl mastr yn cyfeirio at ei ddysg.
12 mi yw ei nai Nid o reidrwydd nai yn ystyr lythrennol y gair (er ei bod yn bosibl fod cyswllt teuluol agos rhwng Rhisiart a Syr Gruffudd nas cofnodwyd), eithr yn syml berthynas iau o’r un teulu (gw. Syr Gruffudd).
13 Nudd Ynghyd â Mordaf Hael a Rhydderch Hael roedd Nudd Hael fab Senyllt yn un o Dri Hael Ynys Prydain (gw. TYP3 5–7 a 464–6).
13–14 Syr Gruffudd ... / fab Einion Mae’n debygol iawn mai Syr Gruffudd ab Einion ap Tudur yw’r eirchiad yn y gerdd hon.
15 Gronwy Fychan Fel y trafodir yn y nodyn ar Syr Gruffudd, nid yw’n eglur pwy yw’r gŵr hwn, ai Goronwy ab Ednyfed Fychan neu Oronwy Fychan ap Tudur Fychan, dau o hynafiaid posibl Syr Gruffudd o deulu enwog Penmynydd ym Môn, neu ryw Oronwy Fychan arall anhysbys.
16 Deuddwr Cwmwd ym Mhowys (gw. WATU 57 a 264). Ni ellir ond casglu bod gan Syr Gruffudd gyswllt teuluol anhysbys â’r ardal.
22 y Cyffin Rhisiart Cyffin.
26 côr Deinioel Sef eglwys Deiniol fab Dunawd fab Pabo Post Prydyn, sant a drigai yn y chweched ganrif ac a gysylltir â Bangor Is-coed yng nghwmwd Maelor Saesneg ac, yn bennaf, â Bangor yn Arfon (gw. 27n). Ef oedd esgob cyntaf a sylfaenydd y fynachlog yno (gw. LBS ii: 325–31; ODCC3 468; Lewis 1943: 7; DNB Online s.n. Deiniol.
26 dwy Wynedd Ymrannai hen deyrnas Gwynedd yn ddau gantref, sef Gwynedd Is Conwy a Gwynedd Uwch Conwy (gw. WATU 85).
27 Beuno Sant a fu farw c.642 ac a gysylltir â gogledd Cymru ac yn arbennig â Chlynnog Fawr (gw. Henken 1987: 74–88; LBS i: 208–21; ODCC3 198; GGMD iii 2.2n; GSRh 7.19n).
27 Gwyrfái Dynodai afon Gwyrfai yng Ngwynedd ffin gynt rhwng cymydau Is Gwyrfai ac Uwch Gwyrfai yng nghantref Arfon (gw. WATU 86 a 237). At yr afon neu at gwmwd Is Gwyrfai y cyfeirir yma (ymhellach, gw. 58.4n Gwyrfái (esboniadol)).
27 Bangor Bangor Fawr yn Arfon (gw. WATU 9).
28 Llanddwyn Llanddwyn neu Landdwynwen, eglwys a phlwyf yng nghwmwd Menai ym Môn (gw. WATU 113 a 320). Roedd Rhisiart yn berson eglwys Llanddwyn a gosododd ddelw o Santes Dwynwen mewn ffenestr liw yn yr eglwys ym Mangor (gw. Rhisiart Cyffin).
30 Iarddur Sef Iarddur ap Cynddelw, yn ôl pob tebyg, un o hynafiaid enwocaf Rhisiart Cyffin (gw. 11n; 100.6n; GGMD iii 147).
30 urddol Sef Rhisiart Cyffin (gw. GPC 3719 d.g. ‘clerigwr ordeiniedig’).
31 efô’n fyr Cyfeiriad at daldra Rhisiart. Cyferbynnir y ffaith ei fod yn ŵr byr yn gorfforol â’r ffaith na chaiff Guto un fwy yng Ngwynedd na dyn uwch na hwy’i lên na’i haelioni (31–4). Cf. Llywelyn ap Gutun mewn dau gywydd dychan i Risiart, gw. GLlGt 8.63–4 N’ad, fy ngwen, er a genais, / I gwd byr godi dy bais, 9.63 Ceiliog byr mewn clog o bân.
32 Gwynedd Gw. 26n dwy Wynedd.
32 Conwy Tref ac afon yng Ngwynedd (gw. WATU 48 d.g. Conway). Y tebyg yw mai at yr afon y cyfeirir yma ac at y ffaith y’i defnyddid i wahaniaethu rhwng Gwynedd Is ac Uwch Conwy (gw. 26n).
35 Bangor Gw. 27n Bangor.
36 braich môr Y Fenai.
37 Gwynedd Gw. 26n.
39 Rhoi’n bumil ddengmil ydd wyf Diau mai’r modd y rhennid y llechi a ddisgrifir yma. Hanerid y cyfanswm o ddeng mil ar gyfer toi dwy ochr y to (cf. dyblig ‘plyg’ yn y llinell nesaf).
43 clytiau Gw. GPC 513 d.g. clwt 1 (b) ‘darn o garreg wedi ei hollti â chŷn brasollt o flocyn o’r graig mewn chwarel ac yn barod i’w hollti drachefn yn rhyw 16 o lechi’.
44 croesty Ymddengys fod cartref Syr Gruffudd yn adeilad a chanddo adain groes. Ar y math hwn o adeilad, gw. Suggett 2005: 112–26; cf. 90.66n.
46 côp Gw. GPC 523 d.g. cob ‘hugan neu ŵn hirllaes dilewys a wisgir gan glerigwyr, mantell, clogyn’. Ond gall mai cop ydyw, sef amrywiad ar copa, ‘brig, crib, top’ (gw. GPC 553 d.g.).
46 capusgain Capus ‘cwfl, cwcwll’ + cain (gw. GPC 421 d.g. capus ‘bnth. Ffr. capuce, capuche “cwfl clogyn”’).
47 fal lliw’r ddraig Y tebyg yw mai disgrifiad arall o ddisgleirdeb y teils a geir yma (cf. 48 ariangrys, 62 [t]eirs arian), ond noder bod lliw llechi’n amrywio o ardal i ardal. Gw. Lindsay 1974: 17 ‘In the Penrhyn area the colours are: “green; purplish blue; grey; grey-mottled; mottled and striped; and blue”’ (dyfynnir naill ai o Davies (1878: 30–1) neu o Richards (1933: 3)); porffor yw lliw llechi’r Penrhyn yn ôl Bennett and Pinion (1948: 5).
50 gwasg â phinnau Gall mai gwasg a phinnau a olygir: ‘Rhof we, gwasgfa a phinnau uwchben fy nghaer’. Ond bernir bod darlleniad y golygiad yn fwy perthnasol gan yr hoelid y teils yn sownd wrth bren y to (ar y grefft, nad yw wedi newid rhyw lawer yn ei hanfod hyd heddiw, gw. Bennett and Pinion 1948: 20–1, 25, 52–3).
52 moledau Gw. GPC 2480 d.g. moled1 ‘cadach neu ddilledyn i’w roddi am y pen, y gwddf, neu’r ysgwyddau’.
53 main cowri Sef Côr y Cewri, neu Stonehenge, ger dinas Salisbury (53n Salbri) yn Wiltshire. Yn ôl Koch (2006: 1630) mae’n debygol y cafwyd cor y kevri ym Mrut y Brenhinedd wrth geisio cyfieithu chorea gigantum o Historia Regum Britanniae Sieffre o Fynwy (gw. BD 128, 266; Reeve and Wright 2007: 172–3). Adroddir yn y Brut y gred mai o Iwerddon y daethai’r cerrig yn wreiddiol ac mai drwy allu anghyffredin Myrddin y llwyddwyd i’w cludo i Brydain. Y tebyg yw mai yn sgil y gred iddynt gael eu cludo dros fôr y cyfeirir atynt yma, gan mai ar long y cludwyd y teils o Aberogwen i Ruddlan. Cyfeirir at yr un gred, yn ôl pob tebyg, gan Siôn ap Hywel yn ei gywydd i ofyn teils gan Wiliam ap Wiliam ar ran Huw ap Rhys (gw. GSH 13.67–8). Ymhellach ar Gôr y Cewri, gw. Koch 2006: 1629–31.
53 cowri Ffurf luosog ar cawr (gw. GPC 443 d.g.).
53 Salbri Sef dinas Salisbury yn Wiltshire yn Lloegr. Fe’i henwir yma mewn cyswllt â Chôr y Cewri a saif ychydig dros wyth milltir i’r gogledd ohoni (gw. y nodyn uchod ar main cowri).
54 Main treulfawr mewn tri elfydd Bernir mai’r ystyr yw ‘meini helaethwych mewn tair gwlad’. Hynny yw, roedd meini Côr y Cewri (gw. 53n main cowri) yn fawr eu bri yng Nghymru, yn Lloegr ac yn yr Alban, sef ym Mhrydain benbaladr, ac felly hefyd y teils ar do Syr Gruffudd (gw. TYP3 246, 254).
56 y main obry Gall mai at y meini’n syth islaw’r llechi y cyfeirir, sef y meini ym muriau’r llys (cf. 45 Cotarmur ar y mur main), ond ymddengys yn fwy priodol ei ystyried yn gyfeiriad at y main cowri (gw. 53n) ymhell i’r de o Henllan yn Wiltshire.
57 Rhufain Enwir y ddinas enwog mewn cyswllt â chwedl Breuddwyd Macsen Wledig, lle adroddir sut y cludwyd daear o Rufain i godi llys yng Nghaernarfon ac yna yng Nghaerllion (58n) ac yng Nghaerfyrddin (gw. BrM2 8): Ac ena e dewissaud [Macsen] wneithur e gaer uchaf en Arvon idi [= Elen], ac e ducpwyt gweryt Ruvein hyt eno hyt pan vei yachussach e’r amperauder y gysgu ac y eisted ac y orymdeith endi. Odena e gwnaethpwyt idi e dwy gaer ereill, nyt amgen Caer Llion a Chaer Verdin. Noder bod Macsen yn ei lys newydd yng Nghaerllion pan dderbyniodd lythyr o Rufain gan yr ymherawdr a gipiodd ei le (gw. ibid. 9). Dros fôr hefyd y cludwyd y teils o Aberogwen i Ruddlan, ond nid yw’n gwbl eglur pam y dewisodd Guto gyfeirio at Gaerllion yn hytrach na Chaernarfon yng Ngwynedd (ai am mai mawrygu Bangor oedd ei nod yn y cywydd hwn?). Mae’n debygol mai at yr un stori y cyfeirir gan Siôn ap Hywel yn ei gywydd i ofyn teils gan Wiliam ap Wiliam ar ran Huw ap Rhys (gw. GSH 13.65–6).
58 Caer Llion Sef Caerllion ar gyrion dinas Casnewydd ar lannau gogleddol afon Wysg. Safai yng nghwmwd Edeligion (gw. WATU 26 d.g. Caerleon). Yn ôl chwedl Breuddwyd Macsen Wledig cludwyd daear yno o Rufain gan Facsen er mwyn adeiladu’r gaer (gw. 57n).
60 Bangor Gw. 27n.
61 y dean Sef y deon Rhisiart Cyffin.
62 teirs Gw. GGl d.g. 357 ‘Ai lluosog tors, S. torch? Ai llu. targe? Gwell synnwyr o’r ail.’ Fe’i dyfynnir, yn betrus, yn GPC 3469 d.g. teirs ‘? rhyw fath o orchudd(ion) (?disglair)’. Dilynir GGl yn GLM XV.22 am d’air, sant, nog am deirs aur (gw. 400n), a dilynir GLM yn GOLlM 8.38 a 23.22 (gw. 67n). Cynigir ‘ffagl’ yn GLD 137.
63 Tegeingl Cantref yng ngogledd-ddwyrain eithaf Cymru a gynhwysai gymydau Cwnsyllt, Prestatyn a Rhuddlan (gw. WATU 212 a 324; Richards 1998: 31). Fe’i henwir yma mewn cyswllt â thref Rhuddlan (gw. 64n).
64 Rhuddlan Tref yng nghwmwd Rhuddlan yng nghantref Tegeingl ar lannau dwyreiniol afon Clwyd (gw. 63n; WATU 190). Yn 1277 cyflogwyd nifer fawr o ddynion gan Edward I i unioni cwrs yr afon er mwyn sicrhau y gellid cyrraedd castell y dref o’r môr (gw. Smith 1998: 427). Cludwyd y teils i Ruddlan ar long o Aberogwen (8n), fel y gwnaethpwyd yn achos cais am deils gan Siôn ap Tudur ar ran Tudur ap Rhobert yn ystod ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg.
64 Henllan Pentref a phlwyf yng nghwmwd Is Aled yng nghantref Rhufoniog (gw. WATU 90). Saif oddeutu dwy filltir i’r gogledd-orllewin o dref Dinbych. Rywle yng nghyffiniau’r fan cododd Syr Gruffudd ei lys newydd ar y fron (1n).
Llyfryddiaeth
Bennett, F.E. and Pinion, A. (1948), Roof Slating and Tiling (London)
Davies, D.C. (1878), Slate and Slate Quarrying (London)
Gruffudd, G.F. (1997), ‘Cerddi Taliesin Ben Beirdd y Gorllewin’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Henken, E.R. (1987), Traditions of the Welsh Saints (Cambridge)
Huws, B.O. (1998), Y Canu Gofyn a Diolch, c.1350–c.1630 (Caerdydd)
Koch, J.T. (2006) (ed.), Celtic Culture: A Historical Encyclopedia (Oxford)
Lewis, H. (1943), Yr Elfen Ladin yn yr Iaith Gymraeg (Caerdydd)
Lindsay, J. (1974), A History of the North Wales Slate Industry (Newton Abbot)
Richards, M. (1998), Enwau Tir a Gwlad (Caernarfon)
Richards, W.M. (1933), ‘A General Survey of the Slate Industry of Caernarvonshire and Merionethshire’ (Ph.D. Liverpool)
Reeve, M.D. and Wright, N. (2007) (eds. and trans.), Geoffrey of Monmouth: The History of the Kings of Britain (Woodbridge)
Smith, J.B. (1998), Llywelyn ap Gruffudd: Prince of Wales (Cardiff)
Suggett, R. (2005), Houses and History in the March of Wales: Radnorshire 1400–1800 (Aberystwyth)
Guto addressed this request poem for roof slates to Rhisiart Cyffin, dean of Bangor, on behalf of his relative, Sir Gruffudd ab Einion of Henllan near Denbigh. It is a supreme example of a request poem where the poet assumes the requester’s persona from the outset (see Huws 1998: 143). It is Sir Gruffudd’s voice that is heard throughout, although it could be argued that it is Guto himself who speaks in lines 35–6 and in the blessing given in the last couplet in exchange for the gift. Interestingly, the poem is structured differently from most poems of the request genre, which usually begin by greeting the prospective giver, detailing the request and describing the gift itself before concluding (see ibid. 87, 89). The present poem opens with a formal request (lines 1–10), the requester is introduced (11–16) and then the giver, who is praised (17–34), before extensively describing the gift itself (35–64) and concluding with a blessing (65–8).
Date
Rhisiart Cyffin was appointed dean of Bangor between 1474 and 1478 and died, in all likelihood, in 1492. It seems likely that this poem was composed between c.1480 and 1492. Assuming that Guto was too old to travel far from the vicinity of Valle Crucis abbey by c.1490, this poem was probably composed during the 1480s. There is no information concerning Sir Gruffudd ab Einion that could aid the dating of this poem.
The manuscripts
A copy of this poem has survived in 16 manuscripts. The edition is based on the evidence of three manuscripts, namely Pen 99 and two lost sources which are represented primarily by Pen 77 and LlGC 17114B respectively. The texts of all three manuscripts are deficient in part, yet together they form the basis for a reliable edition of the poem.
Previous edition
GGl poem XCVIII.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 68 lines.
Cynghanedd: croes 56% (38 lines), traws 22% (15 lines), sain 22% (15 lines), no llusg.
1 y fron Possibly a place name (Y Fron ‘the hill’), yet there is no prominent hill of this name in the vicinity of Henllan.
2 caer uchel rhag gwreichion Lake (GSH 13.52n) argues that Guto is referring to the stars: ‘a lofty fort before shooting stars’. Yet in view of the next couplet it seems that gwreichion should be understood in a literal sense (see GPC 1703 s.v. ‘spark(s), sparkle(s), spark or glimmer of fire’). Guto states that main ‘stones’ are superior to gwellt rhyg mawr ‘large rye thatch’, and it is almost certain that he is alluding to the fact that thatch is flammable. In the present line gwreichion ‘sparks’ could also refer to destruction in general, as Sir Gruffudd’s court fry ‘on high’ on the side of a hill would be safe from the sparks of fires that so often consumed lowland towns in times of strife. Furthermore, the relative smallness of sparks in comparison with Sir Gruffudd’s court would be a further means of glorifying his abode.
8 To brig tai Aberogwen It is tempting to understand brig as an adjective (‘high’ or ‘exalted’), yet it is noted as a noun only in GPC 324 s.v. It is therefore understood as ‘standard of excellence’ or ‘most splendid’ in relation to the houses of Aberogwen (see 8n below), although it is also possible that brig refers to the ‘top’ of a specific house or houses in Aberogwen.
8 Aberogwen Today only a farmhouse bears this name on the east bank of the estuary of the river Ogwen, which would have been situated in Guto’s time in the commote of Arllechwedd Uchaf in Gwynedd (it is not referred to in WATU). Guto could be referring to a place further up-river near Llandygái or Tal-y-bont, yet there are other references to Aberogwen as a specific place in relation to the early slate trade in Gwynedd. Cf. the poet Siôn Tudur’s description of the slates he requested in a poem for the dean of Bangor on behalf of Tudur ap Rhobert, see GST 81.71–2 Brethyn aur yn britho nen, / Brigawndr o Aberogwen ‘A gold cloth speckling the sky, a brigandine from Aberogwen’. It is also possible that slates requested by the poet Siôn ap Hywel from Wiliam ap Wiliam of Cwchwillan on behalf of Huw ap Rhys of Anglesey were shipped from Aberogwen (see GSH 13.73–4 and 151n): Doir â’i long i dir y wlad; / O’u dwyn, llaw Dduw amdanad! ‘His ship is brought to the country’s land; after taking them [= the slates], may God’s hand support you!’. A ship from Aberogwen bore slates to roof Conwy castle in 1525, and Lindsay (1974: 19–20) argues that Aberogwen was used again to roof parts of the castle during the thirteenth century. Similar activity is recorded in 1544 (ibid. 27) when slates were quarried in the parish of Llandygái and shipped from Aberogwen or Abercegin (which was the old name for Porth Penrhyn near Bangor). From 1358 to 1360 over twenty thousand slates were transported from ‘Ogwen’ to Chester in order to roof the castle stables there (ibid. 20).
10 Gwynedd See 26n.
10 craig Either literally the ‘rock’ in Snowdonia (Eryri) from which the slates were quarried, or figuratively Sir Gruffudd’s house (presuming its walls were of stone, see 45 y mur main ‘the stone wall’).
10 caened In GPC 383 s.v. caened2 this example of the word is understood as an adjective, ‘grey’, yet it is more likely that it is a noun, ‘a kind of grey cloth, kennet’ (see ibid.). Another meaning, caened1 ‘dress, covering’ (see ibid. s.v.), is now invalid as the only early example of the word in this meaning was dismissed in GLlG 4.22n.
11 mastr Risiart Rhisiart Cyffin, dean of Bangor and the giver in this poem. The title mastr refers to his learning.
12 mi yw ei nai Nai should not be understood literally as ‘nephew’ (although evidence of close family ties between Sir Gruffudd and Rhisiart may have been lost), but simply as a younger relation (see Sir Gruffudd).
13 Nudd Along with Mordaf Hael and Rhydderch Hael, Nudd Hael fab Senyllt was one of the ‘Tri Hael Ynys Prydain’ (‘Three Generous Men of the Island of Britain’; see TYP3 5–7 and 464–6).
13–14 Syr Gruffudd ... / fab Einion In all likelihood Sir Gruffudd ab Einion ap Tudur, the requester in this poem.
15 Gronwy Fychan As is discussed in the note on Sir Gruffudd, it is not clear who this man is. He could be either Goronwy ab Ednyfed Fychan or Goronwy Fychan ap Tudur Fychan, two of Sir Gruffudd’s ancestors who were members of the prominent Penmynydd family on Anglesey, or another unidentified Goronwy Fychan.
16 Deuddwr A commote in Powys (see WATU 57 and 264). Nothing is known of Sir Gruffudd’s connection with the region.
22 y Cyffin Rhisiart Cyffin.
26 côr Deinioel The ‘chancel’ of the church of St Deiniol fab Dunawd fab Pabo Post Prydyn, a saint who lived during the sixth century and who is associated with Bangor in Arfon (see 27n) and, to a lesser extent, with Bangor Is-coed in the commote of Maelor Saesneg. He founded a monastery at Bangor and was its first bishop (see LBS ii: 325–31; ODCC3 468; Lewis 1943: 7; DNB Online s.n. Deiniol.
26 dwy Wynedd The old kingdom that contained two regions, namely Gwynedd Is Conwy and Gwynedd Uwch Conwy (‘below’ and ‘above’ the river Conwy respectively; see WATU 85).
27 Beuno St Beuno, who died c.642 and is associated mainly with north Wales and specifically with Clynnog Fawr (see Henken 1987: 74–88; LBS i: 208–21; ODCC3 198; GGMD iii 2.2n; GSRh 7.19n).
27 Gwyrfái The river Gwyrfai in Gwynedd marked the boundary between commotes Is Gwyrfai and Uwch Gwyrfai (‘below’ and ‘above’ the river respectively) in the cantref of Arfon (see WATU 86 and 237). Guto is referring either to the river or the commote of Is Gwyrfai (see further 58.4n Gwyrfái).
27 Bangor Bangor Fawr in Arfon (see WATU 9).
28 Llanddwyn Llanddwyn (or Llanddwynwen), a church and parish in the commote on Menai on Anglesey (see WATU 113 and 320) where Rhisiart was rector. A window dedicated to St Dwynwen was placed by him in the church in Bangor (see Rhisiart Cyffin).
30 Iarddur In all likelihood Iarddur ap Cynddelw, one of Rhisiart’s most prominent ancestors (see 11n; 100.6n; GGMD iii 147).
30 urddol A reference to Rhisiart Cyffin (see GPC 3719 s.v. ‘ordained cleric’).
31 efô’n fyr A reference to Rhisiart’s small stature, which is contrasted with the fact that Guto will not find un fwy ‘a greater man’ in Gwynedd nor dyn uwch ‘a higher man’ nor one hwy’i lên na’i haelioni ‘greater his learning or generosity’ (31–4). Cf. the poet Llywelyn ap Gutun in two satirical poems to Rhisiart, see GLlGt 8.63–4 N’ad, fy ngwen, er a genais, / I gwd byr godi dy bais ‘Don’t allow, my girl, because of what I sang, a short pouch to lift your skirt’, 9.63 Ceiliog byr mewn clog o bân ‘A short cockerel in a mantle of fur’.
32 Gwynedd See 26n dwy Wynedd.
32 Conwy A town and river in Gwynedd (see WATU 48 s.v. Conway). In all likelihood Guto is referring to the river as it was used to distinguish between Gwynedd Is Conwy and Gwynedd Uwch Conwy (see 26n).
35 Bangor See 27n Bangor.
36 braich môr ‘An arm of sea’, namely the Menai Strait.
37 Gwynedd See 26n.
39 Rhoi’n bumil ddengmil ydd wyf Guto is describing how the slates were arranged. The total of ‘ten thousand’ slates was halved in order to roof both sides of the house (cf. dyblig ‘wrap’ in the next line).
43 clytiau See GPC 513 s.v. clwt 1 (b) ‘a reduced block in slate quarries prepared for splitting into slates’.
44 croesty It seems that Sir Gruffudd’s home was a crosswise house. On this type of house, see Suggett 2005: 112–26; cf. 90.66n.
46 côp See GPC 523 s.v. cob ‘cope, robe, mantle, cloak, coat’. Yet cop, a variant form of copa ‘top, summit, apex’, is also possible (see GPC 553 s.v.).
46 capusgain Capus ‘hood’ + cain ‘fine’ (see GPC 421 s.v. capus, borrowed from the French word capuce, capuche ‘a mantle’s hood’).
47 fal lliw’r ddraig In all likelihood another description of the brightness of the slates (cf. 48 ariangrys ‘silver shirt’, 62 [t]eirs arian ‘silver coverings’), but note that the colour shades of slates vary from region to region. See Lindsay 1974: 17 ‘In the Penrhyn area the colours are: “green; purplish blue; grey; grey-mottled; mottled and striped; and blue”’ (the quotation is either from Davies (1878: 30–1) or Richards (1933: 3)); slates from Penrhyn are shaded purple according to Bennett and Pinion (1948: 5).
50 gwasg â phinnau Gwasg a phinnau is possible: ‘I’ll place a web, a compression and pins above my fort’. Yet the chosen reading is more appropriate as the slates were fixed to timber on the roof (on the craft, which has changed little to this day, see Bennet and Pinion 1948: 20–1, 25, 52–3).
52 moledau See GPC 2480 s.v. moled1 ‘kerchief, coif, wimple’.
53 main cowri A reference to Stonehenge (Côr y Cewri ‘the giants’ circle’) near Salisbury (53n Salbri) in Wiltshire. According to Koch (2006: 1630) cor y kevri in ‘Brut y Brenhinedd’ is probably an attempted translation of chorea gigantum from Geoffrey of Monmouth’s Historia Regum Britanniae (see Reeve and Wright 2007: 172–3; BD 128, 266). Geoffrey states that the stones were transported to Britain from Ireland with Merlin’s assistance, and it is likely that Guto’s main interest in the legend here is the fact that the stones were shipped to the island. The slates were also transported over sea from Aberogwen to Rhuddlan. It seems that the poet Siôn ap Hywel alluded to the same legend in a poem to request slates from Wiliam ap Wiliam on behalf of Huw ap Rhys (see GSH 13.67–8). On Stonehenge, see further Koch 2006: 1629–31.
53 cowri A plural form of cawr ‘giant’ (see GPC 433 s.v.).
53 Salbri Salisbury in Wiltshire is named in connection with Stonehenge, which is situated a little over eight miles to the north of the city (see the note above on main cowri).
54 Main treulfawr mewn tri elfydd It seems that the meaning is ‘magnificent stones in three realms’, i.e. the stones in Stonehenge were renowned in the three realms of Britain, namely Wales, England and Scotland, therefore in all Britain, and so too were the stones on Sir Gruffudd’s roof (see TYP3 246, 254).
56 y main obry ‘The stones down below’, possibly the stones directly below the slates, namely the stone walls of the house (cf. 45 Cotarmur ar y mur main ‘coat-armour on the stone wall’), yet it is more likely that Guto is referring to the main cowri ‘giants’ stones’ (see 53n) far south of Henllan in Wiltshire.
57 Rhufain Rome is referred to in connection with the legend of ‘Breuddwyd Macsen Wledig’ (‘Macsen Wledig’s Dream’), where earth from the famous city was transported by sea to Wales in order to build forts at Caernarfon, Caerleon (see 58n) and Carmarthen (see BrM2 8). Macsen received news of an usurpation against him in Rome when he was at his new court at Caerleon (see ibid. 9). The slates for Sir Gruffudd’s house were also transported by sea from Aberogwen to Rhuddlan, yet it is unclear why Guto chose to mention Caerleon and not Caernarfon in Gwynedd (was it because he wished to glorify Rhisiart’s home at Bangor?). It seems that the poet Siôn ap Hywel refers to the same story in his poem to request slates from Wiliam ap Wiliam on behalf of Huw ap Rhys (see GSH 13.65–6).
58 Caer Llion Caerleon (Caerllion) on the outskirts of Newport on the north side of the river Usk. It was included in the commote of Edeligion (see WATU 26 s.v. Caerleon). According to the legend of ‘Breuddwyd Macsen Wledig’, earth was transported by Macsen from Rome to Caerleon in order to build a fort (see 57n).
60 Bangor See 27n.
61 y dean Rhisiart Cyffin, dean of Bangor.
62 teirs See GGl 357, where Ifor Williams suggests that teirs is a plural form either of tors, which derives from the English word ‘torch’, or of the English word ‘targe’ (‘shield’). He notes that he prefers the second suggestion, which is tentatively followed in GPC 3469 s.v. teirs ‘some kind of (?bright) covering(s)’. Williams is also followed in GLM XV.22 am d’air, sant, nog am deirs aur ‘for your word, saint, than for gold coverings’ (see 400n), and GLM is followed in GOLlM 8.38 and 23.22 (see 67n). GLD 137 suggests ‘ffagl’ (‘flame’ or ‘firebrand’).
63 Tegeingl A cantref in the far north-east corner of Wales that contained the commotes of Cwnsyllt, Prestatyn and Rhuddlan (see WATU 212 and 324; Richards 1998: 31). It is named in connection with the town of Rhuddlan (see 64n).
64 Rhuddlan A town in the commote of Rhuddlan in the cantref of Tegeingl on the east bank of the river Clwyd (see 63n; WATU 190). In 1277, a large number of men were hired by Edward I to straighten the course of the river so that ships could access Rhuddlan castle from the sea (see Smith 1998: 427). The slates for Sir Gruffudd’s house were shipped from Aberogwen (8n) to Rhuddlan, as were slates for Tudur ap Rhobert (requested from Wiliam ap Wiliam on his behalf by the poet Siôn ap Tudur) during the second half of the sixteenth century.
64 Henllan A village and parish in the commote of Is Aled in the cantref of Rhufoniog (see WATU 90). It is located about two miles north-west of the town of Denbigh. Sir Gruffudd built his new house ar y fron (see 1n) somewhere in its vicinity.
Bibliography
Bennett, F.E. and Pinion, A. (1948), Roof Slating and Tiling (London)
Davies, D.C. (1878), Slate and Slate Quarrying (London)
Gruffudd, G.F. (1997), ‘Cerddi Taliesin Ben Beirdd y Gorllewin’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Henken, E.R. (1987), Traditions of the Welsh Saints (Cambridge)
Huws, B.O. (1998), Y Canu Gofyn a Diolch, c.1350–c.1630 (Caerdydd)
Koch, J.T. (2006) (ed.), Celtic Culture: A Historical Encyclopedia (Oxford)
Lewis, H. (1943), Yr Elfen Ladin yn yr Iaith Gymraeg (Caerdydd)
Lindsay, J. (1974), A History of the North Wales Slate Industry (Newton Abbot)
Richards, M. (1998), Enwau Tir a Gwlad (Caernarfon)
Richards, W.M. (1933), ‘A General Survey of the Slate Industry of Caernarvonshire and Merionethshire’ (Ph.D. Liverpool)
Reeve, M.D. and Wright, N. (2007) (eds. and trans.), Geoffrey of Monmouth: The History of the Kings of Britain (Woodbridge)
Smith, J.B. (1998), Llywelyn ap Gruffudd: Prince of Wales (Cardiff)
Suggett, R. (2005), Houses and History in the March of Wales: Radnorshire 1400–1800 (Aberystwyth)
Diogelwyd yn y llawysgrifau gyfanswm nid ansylweddol o ddeunaw cerdd i Risiart Cyffin gan saith o feirdd. Canodd Guto chwe chywydd iddo: diolch am bwrs (cerdd 58); diolch am baderau (cerdd 59); gofyn gwalch gan Huw Bwlclai ap Wiliam Bwlclai o Fiwmares ar ran Rhisiart (cerdd 60); gofyn teils gan Risiart ar ran Syr Gruffudd ab Einion o Henllan (cerdd 61); gofyn wyth ych ar ran Rhisiart gan yr Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes, Siôn Trefor ab Edward o Bentrecynfrig, Siôn Edward o’r Waun a Dafydd Llwyd ap Tudur o Fodidris (cerdd 108); diolch i’r Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes ac i Risiart am wella briw (cerdd 109). Diogelwyd pedair cerdd i Risiart gan Dudur Aled: awdl fawl, TA cerdd VIII; cywydd i ofyn meini melin gan Risiart ar ran gŵr a elwir ‘y Meistr Hanmer o Faelor’, ibid. cerdd CXX; englynion dychan i Risiart ac i’w feirdd, yn cynnwys Rhys Pennardd, Ieuan Llwyd a Lewys Môn, ibid. cerdd CXLI; englyn mawl i Risiart a dychan i’w olynydd, ibid. cerdd CXLV. Canwyd tri chywydd dychan i Risiart gan Lywelyn ap Gutun: cystadlu am Alswn o Fôn a dychan i Risiart, GLlGt cerdd 8; dychan i Risiart yn ymwneud â chardota ŵyn, ibid. cerdd 9; dychan i Risiart ynghylch Alswn ac i’w feirdd, lle enwir Rhys Pennardd, Hywel Rheinallt a Lewys Môn, ibid. cerdd 10. Diogelwyd dau gywydd iddo gan Lewys Môn: ateb i’r cywydd cyntaf uchod o waith Llywelyn ap Gutun, lle amddiffynnir Rhisiart ynghylch Alswn o Fôn, GLM cerdd XV; marwnad, ibid. cerdd XVII. Ceir hefyd rai cerddi unigol i Risiart gan feirdd eraill: cywydd mawl gan Hywel Rheinallt i Santes Dwynwen lle molir Rhisiart fel person eglwys a gysegrwyd iddi yn Llanddwyn ym Môn; cywydd gofyn am ychen gan Ieuan Deulwyn i’r Abad Dafydd Llwyd o Aberconwy, Rhisiart a Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan ar ran Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais, ID cerdd XXIV; cywydd mawl i Risiart gan Syr Siôn Leiaf, lle dychenir Guto, Hywel Grythor a Gwerful Mechain, Salisbury 2011: 101–18. At hynny, canodd Lewys Daron gywydd i ofyn march gan un o feibion Rhisiart, Dafydd Conwy, ar ran Siôn Wyn ap Maredudd (GLD cerdd 22).
Achres
Seiliwyd y goeden achau isod ar Salisbury 2011: 73–77. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.
Achres Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, deon Bangor
Roedd Rhisiart yn gefnder i Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan ac mae’n bosibl ei fod yn perthyn o bell i Syr Gruffudd ab Einion o Henllan.
Ei yrfa
Y tebyg yw fod Rhisiart wedi dechrau ei yrfa eglwysig fel person eglwys blwyf y Gyffin yng nghwmwd Arllechwedd Isaf ym mis Mai 1470 (codwyd yr holl wybodaeth o Salisbury 2011). Cafodd Rhisiart ei ddyrchafu’n ddeon Bangor rywdro rhwng y dyddiad hwnnw a 12 Mai 1478, sef dyddiad y cofnod cynharaf lle gelwir ef yn ddeon. Bu’n ddeon gydol wythdegau’r bymthegfed ganrif a bu farw, yn ôl pob tebyg, ar 13 Awst 1492, a’i gladdu yng nghorff yr eglwys.
Fel deon y cyfarchai’r beirdd Risiart ymron ym mhob cerdd, ond gwnaeth y beirdd yn fawr hefyd o’r ffaith ei fod yn berson eglwys Llanddwyn ym Môn. At hynny, dengys rhannau o’r cerddi a ganwyd iddo gan Guto iddo fod yn weithgar yn ailadeiladu rhannau o’r eglwys a’r esgopty ym Mangor (58.7–10; 59.3–14). Yn sgil ei gefnogaeth i Harri Tudur derbyniodd arian er mwyn adeiladu siantri wedi ei gysegru i Santes Catrin yng nghorff yr eglwys. Rhoes hefyd ffenestr liw ac ynddi ddarluniau o Santes Catrin a Santes Dwynwen ym mur de-ddwyreiniol y gangell. Ar waelod y ffenestr honno ceid enw Rhisiart gyda’r teitl Magistri o’i flaen, teitl a adleisir yn hoffter y beirdd o gyfeirio ato fel mastr Rhisiart. Ymddengys ei fod yn ŵr gradd yn y gyfraith ganon.
Roedd cyfraniad Rhisiart i fywyd diwylliannol ei ddydd yn sylweddol. Rhoes fwy o nawdd i feirdd nag unrhyw ŵr crefyddol arall a ddaliodd swydd yn un o bedair esgobaeth Cymru yn ystod yr Oesoedd Canol. At hynny, o safbwynt genre ceir amrywiaeth eang iawn yn y cerddi a ganwyd iddo neu ar ei gais, oherwydd canwyd iddo ddigon o fawl confensiynol, yn ôl y disgwyl, ond canwyd hefyd lawer o gerddi ysgafn neu ddychanol. Awgrym cryf y cerddi yw ei fod gyda’r iachaf ei hiwmor o’r noddwyr oll.
Llyfryddiaeth
Salisbury, E. (2011), ‘Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, Deon Bangor’, Dwned, 17: 73–118
Canodd Guto gywydd (cerdd 61) ar ran Syr Gruffudd i ofyn i Risiart Cyffin, deon Bangor, am deils i doi ei dŷ newydd yng nghyffiniau Henllan ar fryn nid nepell i’r gogledd-orllewin o Ddinbych (nid yw’n eglur ymhle’r oedd ei lys). Ni ddiogelwyd unrhyw gerddi eraill i Syr Gruffudd.
Achres
Mae Guto’n trafod ei ach fel a ganlyn, ym mhersona Rhisiart (61.11–16):Mastr Risiart mis a drwsiai
Main ym, a mi yw ei nai.
Syr Gruffudd, ym Nudd, mewn iach,
Fab Einion wyf heb anach,
O Ronwy Fychan, ran rym,
A Deuddwr, unwaed oeddym.Mae’n eglur, felly, fod Syr Gruffudd a Rhisiart yn perthyn i’w gilydd. Nid oedd Syr Gruffudd o reidrwydd yn nai yn yr ystyr lythrennol i Risiart, eithr yn syml yn berthynas iau iddo. Dim ond un Syr Gruffudd ab Einion a ganfuwyd yn achresi Bartrum (sef y gŵr a enwir yn GGl 357), gŵr a fu’n berson Llanefydd ychydig filltiroedd i’r gogledd-orllewin o Henllan (Pen 128, 260 a 276 S’ Gr’ persson llann vfudd; Pen 134, 245 s’ gruff’ ap Engio’ pso’ llan vfvdd). Am y cyswllt posibl rhyngddo a deon Bangor, gw. Rhisiart Cyffin. Seiliwyd y goeden achau isod ar WG1 ‘Hedd’ 1, ‘Marchudd’ 4, 11, 12, ‘Marchweithian’ 1, 4, 5; WG2 ‘Marchweithian’ 4E, 5A. Dangosir y rheini a enwir yn y cywydd mewn print trwm a nodir ansicrwydd gyda phrint italig. Ar ochr chwith yr achres dangosir cyswllt teuluol Syr Gruffudd â Thudur ap Rhobert, gŵr y canodd Siôn Tudur gywydd ar ei ran i ofyn teils gan ddeon Bangor yn yr unfed ganrif ar bymtheg (GST 81.71–2).
Achres Syr Gruffudd ab Einion o Henllan
Ceir rhai anawsterau. Yn gyntaf, nid yw’n eglur pwy yw’r Gronwy Fychan a enwir yn y cywydd. Bu Llywarch ap Heilyn Gloff yn briod ddwywaith ac nid oes sicrwydd mai mab i Forfudd ap Tudur oedd Cynwrig ap Llywarch. Ond a chymryd mai Morfudd oedd ei fam, gwelir bod Syr Gruffudd yn perthyn i deulu enwog Penmynydd ym Môn, a gall mai Goronwy ab Ednyfed Fychan a olygir yn y cywydd. Ni cheir lle i gredu y gelwid y gŵr hwnnw’n Oronwy Fychan (GBF cerddi 21 a 45; GGMD, i 11), ond ceid mwy nac un Goronwy arall yn y llinach honno, yn cynnwys gŵr enwog o’r enw Goronwy Fychan ap Tudur Fychan a oedd yn noddwr pwysig (ibid. 11–12, 15–16 a cherddi 4–7; GLlG cerdd 5). Gall, felly, fod Guto wedi cawlio rhywfaint o ran ei wybodaeth o’r ach yn sgil enwogrwydd Goronwy Fychan neu bod Syr Gruffudd yn perthyn i’r Goronwy Fychan hwnnw drwy ryw gyswllt teuluol arall nas cofnodwyd.
Yn ail, yn ôl yr wybodaeth sydd wedi goroesi, nid ymddengys fod gan Syr Gruffudd gyswllt teuluol â chwmwd Deuddwr ym Mhowys. Fodd bynnag, ni cheir yn achresi Bartrum enw ei fam, ei nain, ei hennain na’i orhennain ar ochr ei dad nac fel arall. At hynny, yn ôl yr ach uchod roedd Syr Gruffudd, ei dad, ei daid a’i orhendaid oll yn unig blant, sy’n hynod o annhebygol ac yn awgrym cryf fod cryn dipyn o’r ach wedi ei golli. Mae’n debygol iawn y gellid cysylltu Syr Gruffudd â Deuddwr (ac â rhyw Oronwy Fychan, o bosibl) pe bai’r wybodaeth achyddol honno wedi goroesi.
Dyddiadau
Ni cheir unrhyw wybodaeth ynghylch Syr Gruffudd a allai fod o fudd i bennu ei ddyddiadau, ond dengys y ffaith i Guto ganu cywydd gofyn ar ei ran i Risiart Cyffin ei fod yn fyw pan oedd hwnnw’n ddeon Bangor, sef rhwng c.1478 ac 1492.