Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn 26 llawysgrif sy’n dyddio o ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ac eithrio Pen 221, LlGC 1579C a LlGC 1559B, sydd bob un yn cynnwys cwpled yn unig, mae’r testunau’n cynnwys 62 neu 60 o linellau, yn ôl a geir ynddynt linellau 43–4 ai peidio. Mae pob lle i gredu bod y cwpled hwn yn rhan o’r gerdd wreiddiol (gw. 43–4n) ac mai 62 llinell, felly, oedd ynddi. Ni cheir amrywio geiriol mawr yn y testunau a’r un yw trefn sylfaenol eu llinellau. Diau eu bod i gyd yn tarddu o’r un gynsail ysgrifenedig. Mae llawysgrifau’r gerdd yn gysylltiedig â gogledd a chanolbarth Cymru.
Ymranna’r testunau yn dri math, sef LlGC 17114B a Pen 64 sydd ill dau yn cynnwys 43–4, ac X, ‘Cynsail Dyffryn Conwy’, sydd hebddynt. Mae darlleniadau Pen 64 yn rhagori ar eiddo LlGC 17114B ac yn debycach i eiddo X. Ni ellir pennu union berthynas Pen 221, LlGC 1579C a LlGC 1559B â’r testunau eraill gan mor fyr ydynt a heb unrhyw ddarlleniadau arwyddocaol.
Canodd Guto gywydd i Siân gwraig Siôn Bwrch hefyd (cerdd 81) ond gwahanol yw hynt llawysgrifau’r gerdd honno. Fe’i ceir gyda’r cywydd i Siôn yn LlGC 17114B ac yn Pen 64 ond nid yn nhestunau X.
Seiliwyd y testun golygyddol ar LlGC 17114B, LlGC 8497B, Gwyn 4, Pen 64, BL 14866.
Trawsysgrifiadau: LlGC 17114B, LlGC 8497B, Gwyn 4, Pen 64, BL 14866.
1 Christiawn Yn Gwyn 4 newidiwyd chwestiawn yn christiawn ac yn Pen 64 darllenir chwestiawn gyda’r amrywiad christiawn. Dengys y gynghanedd mai Christiawn sy’n gywir.
2 i Ceir or neu o mewn ychydig o lawysgrifau, megis LlGC 17114B, ond ni rydd gystal synnwyr.
6 i’r Gthg. LlGC 17114B y. Yn BL 14866, dilewyd ir a rhoi y yn ei le, ac yn LlGC 6681B ceir y gydag ir yn amrywiad. Fel arall, mae tystiolaeth y llawysgrifau yn drwm o blaid i’r.
9 yw Yn LlGC 17114B darllenir ydiw, darlleniad dichonadwy os ceseilir ei.
10 daly Y geiriau dala neu dal (yn bennaf) a geir yn y llawysgrifau cynnar ac eithrio BL 14866 daly. Er hynny, daly yw’r ffurf arferol gan Guto. Sylwer bod dala yn ffurf ddeusill.
10 barn … bod Ceir varn … vod yn nhestunau X (ond barn … vod yn Gwyn 4). Fodd bynnag, ni ddisgwylid i’r berfenw (dal) beri treiglad, a barn … bod a geir yn y llawysgrifau eraill. Ar beidio treiglo’r gwrthrych (bod) ar ôl ffurf trydydd unigol presennol mynegol y ferf (dyly), gw. TC 190.
12 un Ceir dyn hefyd yn LlGC 5272C a BL 14866 (a cf. GGl).
16 daly … dilëu Gthg. GGl Dala … dileu. Ymysg y testunau cynnar, ceir dala yn LlGC 17114B yn unig. Ar y ffurf daly, gw. 10n daly.
17 ac aur Pen 64 ai avr ond tyr ar y gynghanedd.
18 o’r Ceir ar yn LlGC 17114B ac fe’i nodir fel amrywiad yn Pen 64 a LlGC 6681B. Yr ystyr felly fyddai ‘dros ofron’.
24 trof Gthg. GGl Tref, darlleniad y rhan fwyaf o’r llawysgrifau cynnar, ond gwell o ran synnwyr a pheidio ailadrodd tref yn yr un llinell yw trof a geir yn C 5.167 a BL 14866. Ategir hyn gan ’r (i’r) (gw. y nodyn nesaf) a geir yn nes ymlaen yn y llinell ac sy’n canlyn yn naturiol ar ystyr trof.
24 iso’r sir Y geiriau iso ir yw darlleniad mwyaf cyffredin y llawysgrifau, felly fel talfyriad o i’r, sef yr arddodiad i a’r fannod, y dylid deall ’r. Amlwg mai gwallus yw tref y saif{iso’r} tir LlGC 17114B.
29 mawr Y gair ym a geir yn nhestunau LlGC 17114B, efallai o dan ddylanwad yr un gair yn y llinell ddilynol.
30 rydd Y gair rodd a geir yn y rhan fwyaf o destunau LlGC 17114B.
31 Amheirchion Y geiriau y me(i)rchion a geir yn nhestunau LlGC 17114B.
32 cheirw Ac eithrio LlGC 6681B, chyrav a geir yn nhestunau grŵp LlGC 17114B.
34 ar y sir fo Dyma ddarlleniad yr holl lawysgrifau cynnar (ond LlGC 17114B i sir). Gthg. GGl y sir yw fo, darlleniad nas ceir ond yn Pen 99 a’r testunau sy’n tarddu ohono.
35 aer Gthg. GGl aur ond mae tystiolaeth y llawysgrifau yn gryf o blaid aer (nas ceir yn nhestunau X).
38 Libus Gthg. GGl Libius ond libvs a geir yn yr holl lawysgrifau cynnar.
38 Disgwynus Diddorol yw sylwi ar ddarlleniad Pen 99 Asganivs, mab Aeneas. Tebyg nad oedd y ffurf yn hysbys i rai o’r copïwyr (ar Syr Libus Disgwynus, gw. 38n (esboniadol)).
40 Siohannes Yn nhestunau X ceir rhai darlleniadau anghywir: LlGC 8497B Siahanes, Gwyn 4 Sahaeni, LlGC 3049D sahaem.
42 O’r tri … rheial Dyma ddarlleniad y rhan fwyaf o’r llawysgrifau cynnar. Gthg. O dri … reial GGl a geir gyntaf yn Llst 30 (o kaio dri owain).
43–4 Ni cheir y cwpled hwn yn X ond mae’r dystiolaeth yn gryfach o’i phlaid.
46 wych Y gair iach yw darlleniad testunau grŵp LlGC 17114B.
50 freiniaw Dyma, ymysg y testunau cynnar, ddarlleniad LlGC 8497B, Gwyn 4 (vreniaw), LlGC 3049D, Pen 64 a BL 14866. Gthg. vre(i)n(i)av a geir yn LlGC 17114B a LlGC 5272C ond cryfach yw’r dystiolaeth o blaid y cyntaf.
51 bedeirllys Ceir bedwarllys yn rhai o’r testunau (megis LlGC 17114B). Yn ramadegol, mae’r ddwy ffurf yn gywir gan fod llys yn enw gwrywaidd neu fenywaidd yn y cyfnod (gw. GPC 2276). Mae digon o dystiolaeth mai fel enw benywaidd yn bennaf, os nad yn llwyr, y mae Guto yn trin llys.
52 i Rys LlGC 17114B (a Llst 122) frvtys, darlleniad cwbl anghywir. Yn LlGC 5272C ceir Ervllys ond a llinell drwyddo gyda i rys yn ei ddilyn.
58 Tregarn Dyma’r darlleniad cryfaf ei dystiolaeth ymysg y testunau cynnar (LlGC 5272C trefgarn) ond Tregan a geir yn nhestunau X.
59 hir Dyma’r darlleniad arferol ond diddorol sylwi ei fod am ryw reswm, yn C 2.617, wedi ei groesi allan a dodi rhwydd yn ei le.
60 honno Y gair (h)enw, darlleniad anfoddhaol, a geir yn nhestunau grŵp LlGC 17114B.
Llyfryddiaeth
Jones, T. (1958–60), ‘Disgrifiad Elis Gruffudd o’r Cynadleddau rhwng Harri VIII, Siarl V a Ffranses I’, B 18 (1958–60): 311–37
Cywydd mawl yw’r gerdd hon i’r bonheddwr mawr o Eingl-Gymro ac arglwydd Mawddwy, Syr Siôn Bwrch o’r Drefrudd (Wattlesborough) yn swydd Amwythig. Mae’n amlwg oddi wrth eiriau Guto mai i’r Drefrudd yr aethai (llinellau 23–6, 55–8 yn enwedig), ac nid i Fawddwy, i gyflwyno’i gerdd ac i fwynhau nawdd Siôn, er y gall nad yno y cyflwynodd hi gyntaf (23–6n). Fodd bynnag, yn y Drefrudd y canodd ei gywydd i wraig Siôn, Siân Bwrch (cerdd 81). Canodd Llawdden hefyd gywydd i Siôn ac mae’n naturiol meddwl mai yn y Drefrudd y cyflwynodd yntau ei gerdd (GLl cerdd 9).
Dechreua’r gerdd â moliant i Siôn (1–22). Yna, cyhoedda Guto ei fod yn mynd ato yn ei gartref i dderbyn aur, gan ei gyffelybu i amryw arwyr chwedlonol (23–40). Manylir ar ei achau ardderchog wedyn (41–54) cyn cloi’r gerdd a dymuno hir oes iddo (55–62).
Dyddiad
Gesyd cyfeiriad Guto at Siôn fel marchog aur (27) terminus post quem o 1444–5, gan mai dyna pryd yr urddwyd Siôn yn farchog. Gelwir ef hefyd yn sirif (34n): bu’n siryf dair gwaith ar ôl ei urddo’n farchog, sef yn 1449, 1453 a 1463–4, ond ni ellir defnyddio’r un o’r siryfiaethau hyn i ddyddio’r gerdd yn fanylach gan nad oes arwydd pa un a olygir. Os ystyrir ieuanc yn y disgrifiad o Siôn fel Syr Gei ieuanc (36n), yna gellid dadlau mai nid ymhell wedi 1444–5 y cyflwynodd Guto ei gerdd i Siôn, pan oedd hwnnw eto’n ŵr cymharol ifanc. Fodd bynnag, nid oes sicrwydd mai dyna yw arwyddocâd ieuanc yn yr achos hwn, a rhaid bodloni, felly, i ddyddio’r gerdd rhwng tua 1445 ac adeg marw Siôn yn 1471.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd XLV.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 62 llinell.
Cynghanedd: croes 65% (40 llinell), traws 16% (10 llinell), sain 18% (11 llinell), llusg 2% (1 llinell).
1 ustus Roedd Siôn, ymysg ei ddyletswyddau eraill, yn ynad heddwch yn swydd Amwythig, gw. Smith 2001: 165; cf. 10 daly barn.
2 fry Fe’i cydir wrth nef ond gall hefyd mai cyfeiriad (annelwig) ydyw at gartref Siôn.
4 ar ymyl y sir Tebyg mai sir Feirionnydd, un o siroedd y dywysogaeth, a olygir. Cyffyrddai arglwyddiaeth Mawddwy, a gyfrifid yn un o arglwyddiaethau’r Mers, â’i ffin ddwyreiniol.
5 Idwal Iwrch Mab i Gadwaladr Fendigaid, disgynnydd o Einion Yrth ap Cunedda. Roedd Siôn yn disgyn ohono drwy linachau brenhinol Powys a Gwynedd, gw. Siôn Bwrch.
6 brenin Dibynna pa frenin a olygir ar ddyddiad y gerdd (gw. uchod). Os canwyd hi nid yn hwyrach na c.1450, Harri VI yw’r brenin. Ond os canwyd hi ar ôl hynny ac nid yn ddiweddarach na 1471, yna y brenin yw naill ai Edward IV, a deyrnasodd o 1461 i 1469, ynteu Harri VI, a ddychwelodd i’r orsedd am gyfnod byr o 1470 i 1471.
7–8 Cyfeirir at waith Siôn a’i dad, Huw (a fu farw yn 1430), yn cynnal cyfraith a threfn yn arglwyddiaeth Mawddwy, gw. Smith 2001: 160–4.
8 tu acw i Hafren Llifa afon Hafren am beth o’i chwrs trwy ffindir dwyrain Powys Wenwynwyn a swydd Amwythig, ac mae’n amlwg mai am yr olaf y mae Guto’n meddwl.
10 daly barn Gw. 1n.
18 Drefrudd Y Drefrudd, sef Wattlesborough ym mhlwyf Alberbury, swydd Amwythig. Roedd gan Siôn gysylltiad â’r lle trwy fod ei nain Elizabeth yn ferch i Fulk Corbet o Wattlesborough, gw. Smith 2001: 157, 167. Mae’n debyg mai ar safle Wattlesborough Hall yr oedd llys Siôn Bwrch, gw. 81.12n.
19–20 gomeddodd … / O Cyffredin gyda’r ferf gomedd yw ei dilyn gan wrthrych personol a rhagflaenu’r hyn a omeddir gan yr arddodiad o, gw. G 556; GPC 1458. Yma, ymddengys hefyd fod gwrthrych personol, megis neb, yn ddealledig.
21–2 Hynny yw, mae Siôn ddwywaith yn haelach nag unrhyw noddwr arall.
23 trwsio Sef tecáu â chân.
23 yr afon Afon Hafren (gw. 8n).
23–6 Yn y llinellau hyn dywed Guto ei fod yn Trwsio … tref Syr Siôn ond ar yr un pryd ei fod yn teithio yno. A oes awgrym, felly, ei fod wedi canu’r cywydd yn nhŷ rhywun arall cyn cyrraedd y Drefrudd? Cf. 57–8 I’r Dref Rudd adref yr af, / Iôn Tregarn, yno trigaf.
24 iso’r Cywasgiad o iso i’r. Cyfeirir at dir is swydd Amwythig sy’n cyferbynnu â [g]ofron (18) Cymru.
25 Tŵr Gwyn Cyfeirir yn drosiadol at lys Siôn fel petai’n Dŵr Llundain, gw. GLGC 584.
25 trugeinwyr Rhif confensiynol i ddynodi llawer yw trugein- yma; cf. trigeintref, trigeinwyl, trugeinsir a geir hefyd yng ngwaith Guto.
26 Gwalchmai Sef Gwalchmai ap Gwyar, un o farchogion y Brenin Arthur, gw. TYP3 367–71; WCD 303–5.
27–9 marchog aur … / … / Urddol Roedd Siôn wedi ei urddo’n farchog erbyn 1444–5, gw. Smith 2001: 165; ag urddol, cf. hefyd y term marchog urddol ‘dubbed or ordained knight’, GPC 2357.
30 eurddail Cf. 19.4 Salmon urddolion aur ddail, 115.1–2 Mae deusant i’m dewisaw, / Mae dail aur ym o’u dwy law. Ai tefyll tenau o aur (cf. Saesneg gold leaf) a olygir? Ond, os felly, nid yw’n eglur beth fyddai eu diben i Guto. Efallai na olygir mwy na darnau o aur yn gyffredinol.
31 March Amheirchion Y Brenin Marc yn chwedl Trystan ac Esyllt, sef gŵr Esyllt ac ewythr Trystan, gw. TYP3 435–8, 447–8; GCBM ii, 3.12n.
32 achau’r Mars Dechreuodd cysylltiad achyddol teulu Siôn â’r Mers pan briododd ei daid, Siôn Mawddwy (neu John de la Pole), ag Elisabeth ferch Fulk Corbet o’r Drefrudd yn swydd Amwythig, gw. Smith 2001: 157.
32 ceirw Môn Gw. 44n Môn.
34 sirif Bu Siôn yn siryf swydd Amwythig bedair gwaith, sef yn 1442, 1449, 1453 a 1463–4 (am ddwy flynedd), gw. Bridgeman 1868: 97.
35 Syr Ffwg Sef Fulk Fitzwarine, ffigwr hanesyddol o un o deuluoedd pwerus y Mers a herwr a ddaeth yn arwr chwedlonol a grybwyllir yn fynych gan y Cywyddwyr, gw. GLl 9.53n.
35–6 y sy aer a phen, / … ieuanc Mae’n fwy tebygol mai cyfeiriadau at Siôn nag at y marchogion Ffwg a Gei yw’r disgrifiadau hyn.
36 ieuanc Gallai hyn olygu bod Siôn yn ddyn ifanc, ond gallai hefyd olygu mai Syr Gei arall ydyw (cf. y defnydd Saesneg o junior i wahaniaethu rhwng tad a mab o’r un enw).
36 Gei Sef Sir Guy of Warwick, arwr rhamant Eingl-Normanaidd boblogaidd, gw. DNB Online, s.n. Guy of Warwick; IGE2 371; GSH 7.65n. Fel Syr Ffwg ap Gwarin (35n), cyfeirir ato’n aml gan y Cywyddwyr.
36 Syr Gawen Syr Gawain, sef y cymeriad sy’n cyfateb i Walchmai yn y rhamantau Ffrengig, gw. WCD 303–5.
37 Syr Liwnel Brawd Bwrt, un o brif arwyr ‘Chwedl y Greal’, gw. TYP3 290.
38 Syr Libus Disgwynus Cymreigiad o Libius Disconius (yn llythrennol, ‘yr Hardd Anhysbys’), arwr chwedl fydryddol a gyfansoddwyd yn wreiddiol yn Ffrangeg sy’n adrodd am ymgais marchog ifanc dibrofiad i achub rhiain rhag swyngyfaredd. Crybwyllir ef gan Chaucer yn ‘The Tale of Sir Thopas’, un o straeon ‘The Canterbury Tales’. Dyma’r unig gyfeiriad at y ffigwr hwn a welwyd yn y canu Cymraeg.
39 Syr Befus Arwr y chwedl Ffrangeg ‘La Geste de Boun de Hamtone’ a gyfieithwyd i’r Gymraeg dan y teitl ‘Ystorya Bown de Hamtwn’. Ceir hefyd y ffurfiau Bewys a Bŵn ar ei enw, gw. GLMorg 1.1n; cf. 48.4.
39 llwyddiannus lw Cyfeirir at Siôn, nid Syr Befus (gw. uchod).
40 Siohannes Johannes, sef Siôn.
42 tri Owain Sef Owain Gwynedd (45n), Owain ap Hywel Dda (46n) ac Owain Cyfeiliog (47n).
42 r wreiddgoll.
43 arwyddion Tebyg mai arwyddion herodrol a olygir.
44 Glyndyfrdwy, Mawddwy Cysylltir Glyndyfrdwy yn fynych ag enw Owain Glyndŵr a drigai yno, ac yn ôl GGl 336 ef yw un o’r tri Owain y cyfeirir atynt yn llinell 42 (gw. y nodyn uchod). Fodd bynnag, nid oedd Siôn yn perthyn i Owain drwy waed, eithr roedd un o hynafiaid Siôn, Wiliam de la Pole, yn ewythr i Owain drwy ei briodas â Marged ferch Tomas, chwaer i fam Owain, gw. Smith 2001: 157, 167. Anghywir, felly, a siarad yn fanwl – ac anghyson hefyd ag achyddiaeth ofalus y beirdd yn gyffredinol – fyddai olrhain tras Siôn i Owain, ac nid tan y ddau gwpled nesaf y dywed Guto pwy oedd y tri Owain. Gellir deall y cyfeiriad at Lyndyfrdwy, ynghyd â Mawddwy, fel un at arglwyddi traddodiadol talaith Powys. Mae’n bosibl, er hynny, y byddai crybwyll Glyndyfrdwy yn atgoffa cynulleidfa Guto o gysylltiad Siôn Bwrch â gwron y fro honno.
44 Mawddwy Cyfeiriad at swydd Siôn fel arglwydd Mawddwy.
44 Môn Disgynnai Siôn o linach Hwfa ap Cynddelw, Môn, trwy briodas ei hynafiad, Gruffudd ap Gwenwynwyn, â Gwenllïan ferch Syr Hywel y Pedolau, gw. PACF 295.
45 Llywelyn Llywelyn Fawr ab Iorwerth, yn ôl pob tebyg. Nid oedd Siôn yn disgyn o Lywelyn yn uniongyrchol, eithr o daid Llywelyn, Owain Gwynedd, trwy briodas ei hynafiad, Owain Cyfeiliog, â Gwenllïan ferch Owain Gwynedd, gw. Siôn Bwrch; PACF 295.
45–8 Cyfetyb y tair llinach a grybwyllir yma i dair talaith Cymru, sef Gwynedd, Powys a Deheubarth (gw. y tri nodyn isod).
46 Tewdwr Sef Tewdwr Mawr ap Cadell, tad Rhys ap Tewdwr (gw. 49n, 52), a oedd yn frenin Deheubarth yn yr unfed ganrif ar ddeg ac yn daid i’r enwog Rys ap Gruffudd (yr Arglwydd Rhys). Disgynnai Siôn ohono trwy briodas ei hynafiad, Gruffudd ap Maredudd, â Gwerful, a oedd yn ferch i Farged ferch Rhys ap Tewdwr, gw. Siôn Bwrch; PACF 295. Cyfeirir ato am ei fod yn ddisgynnydd i Owain ap Hywel Dda.
47–8 Trydydd … / Tu ei nain at Wenwynwyn Sef y trydydd Owain (42n), Owain Cyfeiliog ap Gruffudd, tad Gwenwynwyn, gw. Siôn Bwrch; Smith 2001: 167. Bu Gwenwynwyn (m. 1216) yn dywysog Powys.
47 dwyn Ar yr ymadrodd dwyn achau, gw. GPC 1130. Er nad yw’r gair ach(au) wedi ei fynegi yma, eto mae’n oblygedig.
49 Rhys ap Tewdwr Gw. 46n; cf. 52.
51 pedeirllys Ymddengys mai pedwar llys o eiddo Siôn a olygir. Os felly, diau bod dau ohonynt yn y Drefrydd a Mawddwy. Gall fod un arall yn Nhregarn (58n), ond nid yw’n eglur ble roedd y pedwerydd. Yn ôl Bridgeman (1868: 97–8), ‘Sir John increased his great estates by marrying Joane, the younger daughter and coheir of Sir William Clopton of Radbroke, Knt., whereby he acquired the manors of Radbroke and Clopton in the county of Gloucester, and divers other lands and manors in the counties of Warwick and Worcester.’
52 Rhys Gw. 46n.
56 gantaw Sylwer ar ddefnydd Guto o’r ffurf ddeheuol ar yr arddodiad a gw. Thomas 2009; cf. 30.48 Try fi gantaw, Trefgwnter.
57 r wreiddgoll.
57–8 Cf. 23–6n.
58 Tregarn Ffurf fyrrach ar Dref y Garn, sef Trefgarnowain ym mhlwyf Breudeth (Brawdy), sir Benfro, gw. GIG 225. Priododd hendaid Siôn, Wiliam de la Pole, â Marged, merch a chyd-aeres Tomas ap Llywelyn o Is Coed a Gwynionydd, Ceredigion, a Threfgarnowen yn arglwyddiaeth Hwlffordd, gw. Smith 2001: 157.
60 honno Sef y Dref Rudd (57).
Llyfryddiaeth
Bridgeman, G.T.O. (1868), ‘The Princes of Upper Powys, Chapter IV’, Mont Coll 1: 5–194
Smith, J.B. (2001), ‘Mawddwy’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff) 151–67
Thomas, P.W. (2009), ‘(-th-): Tystiolaeth Beirdd y Tywysogion a’r Uchelwyr’, Dwned, 15: 11–32
This poem of praise was composed for the great Anglo-Welsh aristocrat and lord of Mawddwy, Sir John Burgh (or Siôn Bwrch) of Wattlesborough in Shropshire. Guto was clearly, to judge from his own words (lines 23–6, 55–8 in particular), going to Wattlesborough, and not to Mawddwy, to present his poem and to enjoy John’s patronage, although it may be that he first presented it elsewhere (23–6n). However it was at Wattlesborough that he sang his poem to John’s wife, Joan Burgh (poem 81). Llawdden too sang a poem to John and it is natural to suppose that it was at Wattlesborough that he presented it.
The poem begins by praising John (1–22). Guto then announces that he is going to visit him at his home in order to receive gold and compares him to a number of legendary heroes (23–40). He then describes his splendid pedigree in detail (41–54) before concluding the poem and wishing him a long life (55–62).
Date
Guto’s reference to John as marchog aur ‘golden knight’ (27) sets a terminus post quem of 1444–5, since that was when John was knighted. He is also called sirif ‘sheriff’ (34n): he was sheriff three times after being knighted, namely in 1449, 1453 and 1463–4, but none of these sheriffalties can be used to date the poem more accurately as there is no indication as to which one is meant. If the adjective ieuanc ‘young’ in the description of John as Syr Gei ieuanc ‘young Sir Guy’ (36n) is taken into account, then it could be argued that it was not long after 1444–5 that Guto presented his poem, when John was still a young man. However, there is no certainty that such is the significance of ieuanc in this case, and we must therefore be content to date the poem between about 1445 and the time of John’s death in 1471.
The manuscripts
The poem has been preserved, complete or incomplete, in 26 manuscripts dating from the second half of the sixteenth century to the nineteenth century. There is no great verbal variation in the texts and the basic line sequence is the same. Such texts as LlGC 8497B and Gwyn 4, which derive from the ‘Conwy Valley Exemplar’, lack lines 43–4 but there is every reason to believe that they formed part of the poem originally. All the texts no doubt derive from a common written exemplar. The manuscripts have links with north and mid Wales, and none is of south Walian origin. They fall into three main groups, represented by LlGC 17114B, the ‘Conwy Valley Exemplar’ and Pen 64. The best readings are found in the last two groups. The edited text is based on LlGC 17114B, LlGC 8497B, Gwyn 4, Pen 64 and BL 14866.
Previous edition
GGl poem XLV.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 62 lines.
Cynghanedd: croes 65% (40 lines), traws 16% (10 lines), sain 18% (11 lines), llusg 2% (1 line).
1 ustus John was, among his other duties, a ‘justice’ of the peace in Shropshire, see Smith 2001: 165; cf. 10 Daly barn ‘maintaining judgement’.
2 fry ‘Above’, to be taken with nef ‘heaven’, but it may also be a (vague) reference to John’s home.
4 ar ymyl y sir ‘On the border of the country’. Probably Merionethshire, one of the counties of the principality. The lordship of Mawddwy, which counted as one of the Marcher lordships, touched its eastern border.
5 Idwal Iwrch Son of Cadwaladr Fendigaid, a descendant of Einion Yrth ap Cunedda. John was descended from him through both the royal line of Powys and of Gwynedd, see John Burgh.
6 brenin Which king is meant depends on the date of the poem (see above). If it was sung no later than c.1450, the king is Henry VI. But if it was sung after that and not later than 1471, then the king is either Edward IV, who reigned from 1461 to 1469, or Henry VI, who returned to the throne for a short period from 1470 to 1471.
7–8 Reference is made to the action of John and his father, Hugh (who died in 1430), upholding law and order in the lordship of Mawddwy, see Smith 2001: 160–4.
8 tu acw i Hafren The river Severn runs for part of its course through the borderland of east Powys Wenwynwyn and Shropshire, and Guto is clearly thinking of the latter.
10 daly barn See 1n.
18 Drefrudd Wattlesborough in the parish of Alberbury, Shropshire. John was connected with the place in that his grandmother Elizabeth was daughter of Fulk Corbet of Wattlesborough, see Smith 2001: 157, 167. John’s court was probably on the site of Wattlesborough Hall, see 81.12n.
19–20 gomeddodd … / O The verb gomedd is frequently followed by a personal object while that which is refused is preceded by the preposition o, see G 556; GPC 1458. A personal object, such as neb, seems to be understood here.
21–2 I.e. John is twice as generous as any other patron.
23 trwsio I.e. ‘adorn’ with song.
23 yr afon The river Severn (see 8n).
23–6 In these lines Guto says that he is Trwsio … tref Syr Siôn ‘adorning Sir John’s home’, but at the same time that he is travelling there. Is there therefore a suggestion that he had sung the poem at somebody else’s house before reaching Wattlesborough? Cf. 57–8 I’r Dref Rudd adref yr af, / Iôn Tregarn, yno trigaf ‘To Wattlesborough shall I return home, lord of Tregarn, there shall I reside’.
24 iso’r An elision of iso i’r. Reference is made to the lower terrain of Shropshire which contrasts with the gofron ‘higher land’ (18) of Wales.
25 Tŵr Gwyn John’s house is referred to metaphorically as though it were the Tower of London, see GLGC 584.
25 trugeinwyr The word trugein- ‘sixty’ is here a conventional number expressing many; cf. trigeintref (‘sixty towns/homes’), trigeinwyl (‘sixty feasts’), trugeinsir (‘sixty counties’), which are also found in Guto’s works.
26 Gwalchmai Gwalchmai ap Gwyar, one of King Arthur’s knights, see TYP3 367–71; WCD 303–5.
27–9 marchog aur … / … / Urddol John was knighted by 1444/5, see Smith 2001: 165; with urddol ‘dignitary’, cf. also the term marchog urddol ‘dubbed or ordained knight’, GPC 2357.
30 eurddail ‘Pieces of gold’. Cf. 19.4 Salmon urddolion aur ddail ‘a Solomon amidst the noblemen of leaf-gold’, 115.1–2 Mae deusant i’m dewisaw, / Mae dail aur ym o’u dwy law ‘There are two saints who choose me, / I receive gold leaf from their two hands’. Does he mean thin leaves of gold (cf. English gold leaf)? If so, it is not clear what their purpose would be for Guto. Perhaps nothing more is meant than pieces of gold generally.
31 March Amheirchion King Marc of the legend of Tristan and Iseult. He was the husband of Iseult and the uncle of Tristan, see TYP3 435–8, 447–8; GCBM ii, 3.12n.
32 achau’r Mars The genealogical link of John’s family with the March began when his grandfather, John de la Pole (or Siôn Mawddwy), married Elizabeth daughter of Fulk Corbet of Wattlesborough in Shropshire, see Smith 2001: 157.
32 ceirw Môn See 44n Môn.
34 sirif John was sheriff of Shropshire four times, in 1442, 1449, 1453 and 1463–4 (for two years), see Bridgeman 1868: 97.
35 Syr Ffwg Fulk Fitzwarine, a historical personage from one of the powerful Marcher families and an outlaw who became a legendary hero frequently mentioned by the poets, see GLl 9.53n.
35–6 y sy aer a phen, / … ieuanc ‘Heir and chief … young’. These descriptions are more likely to refer to John than to the knights Fulk and Guy (on the latter, see 36n s.n. Gei).
36 ieuanc ‘Young’. This could mean that John was a young man, but it could also mean that he is another Sir Guy (cf. the use in English of junior to differentiate between a father and son sharing the same name).
36 Gei Sir Guy of Warwick, hero of a popular Anglo-Norman romance, see DNB Online, s.n. Guy of Warwick; IGE2 371; GSH 7.65n. Like Sir Fulk Fitzwarine (35n), he is often cited by the poets.
36 Syr Gawen Sir Gawain, the character who corresponds to the Welsh Gwalchmai in the French romances, see WCD 303–5.
37 Syr Liwnel Sir Lionel, brother of Bort, one of the chief protagonists of the ‘Grail’ cycle, see TYP3 290.
38 Syr Libus Disgwynus A Welsh form of the name Libius Disconius (literally, ‘the Fair Unknown’), hero of a verse legend composed originally in French which tells of the attempt of an inexperienced young knight to save a lady from enchantment. He is mentioned by Chaucer in ‘The Tale of Sir Thopas’, one of the stories comprising ‘The Canterbury Tales’. This is the only reference to this figure known to the editor in Welsh poetry.
39 Syr Befus Sir Befis, the hero of the French tale ‘La Geste de Boun de Hamtone’, which was translated into Welsh under the title ‘Ystorya Bown de Hamtwn’. The forms Bewys and Bŵn also occur, see GLMorg 1.1n; cf. 48.4.
39 llwyddiannus lw ‘Prospering his vow’. The reference is to John, not to Syr Befus (see above).
40 Siohannes Johannes, i.e. John.
42 tri Owain ‘The three Owains’, namely Owain Gwynedd (45n), Owain ap Hywel Dda (46n) and Owain Cyfeiliog (47n).
42 r wreiddgoll.
43 arwyddion Probably heraldic insignia are meant.
44 Glyndyfrdwy, Mawddwy Glyndyfrdwy is frequently associated with the name of Owain Glyndŵr, who lived there, and according to GGl 336 he is one of the tri Owain ‘three Owains’ referred to in line 42 (see the note above). However, John was not related to Glyndŵr by blood, but his ancestor, William de la Pole, was Glyndŵr’s nephew through his marriage to Marged daughter of Tomas, a sister to Glyndŵr’s mother, see Smith 2001: 157, 167. Strictly speaking, therefore, it would be incorrect – and also out of keeping with the careful genealogizing of the poets generally – to trace John’s descent to Glyndŵr, and it is not until the next two couplets that Guto states who the three Owains were. The reference to Glyndyfrdwy, together with Mawddwy, can be understood as one to the traditional lords of the province of Powys. It is nonetheless possible that mentioning Glyndyfrdwy would remind Guto’s audience of John’s link with the hero of that vicinity.
44 Mawddwy An allusion to John’s office as lord of Mawddwy.
44 Môn John was descended from the line of Hwfa ap Cynddelw of Anglesey by the marriage of his ancestor, Gruffudd ap Gwenwynwyn, to Gwenllïan daughter of Syr Hywel y Pedolau, see PACF 295.
45 Llywelyn Llywelyn Fawr ab Iorwerth, in all likelihood. John was not descended directly from Llywelyn, but from Llywelyn’s grandfather, Owain Gwynedd, through the marriage of his ancestor, Owain Cyfeiliog, to Gwenllïan daughter of Owain Gwynedd, see John Burgh; PACF 295; WG1 ‘Gruffudd ap Cynan’ 3.
45–8 The three lines mentioned here correspond to the three provinces of Wales, Gwynedd, Powys and Deheubarth (see the three notes below).
46 Tewdwr Tewdwr Mawr ap Cadell, father of Rhys ap Tewdwr (see 49n, 52), who was king of Deheubarth in the eleventh century and grandfather of the famous Rhys ap Gruffudd (the Lord Rhys). John was descended from him through the marriage of his ancestor, Gruffudd ap Maredudd, to Gwerful, who was the daughter of Marged daughter of Rhys ap Tewdwr, see John Burgh; PACF 295. He is referred to here as he was descended from Owain ap Hywel Dda.
47 dwyn On the phrase dwyn achau ‘to trace a pedigree’, see GPC 1130. Although the word ach(au) ‘lineage(s)’ has not been expressed, it is nonetheless implied.
47–8 Trydydd … / Tu ei nain at Wenwynwyn ‘The third … on the side of his grandmother back to Gwenwynwyn’, namely the third Owain (42n), Owain Cyfeiliog ap Gruffudd, father of Gwenwynwyn, see John Burgh; Smith 2001: 167. Gwenwynwyn was prince of Powys and died in 1216).
49 Rhys ap Tewdwr See 46n; cf. 52.
51 pedeirllys It appears that four courts belonging to John are meant here. If so, two of them were doubtless at Wattlesborough and Mawddwy. Another one could be at Tregarn (58n), but the location of the fourth is uncertain. According to Bridgeman (1868: 97–8), ‘Sir John increased his great estates by marrying Joane, the younger daughter and coheir of Sir William Clopton of Radbroke, Knt., whereby he acquired the manors of Radbroke and Clopton in the county of Gloucester, and divers other lands and manors in the counties of Warwick and Worcester.’
52 Rhys See 46n.
56 gantaw Note Guto’s use of the South Walian form of the preposition and see Thomas 2009; cf. 30.48 Try fi gantaw, Trefgwnter ‘Tregunter, it lures me to be with him’.
57 r wreiddgoll.
57–8 Cf. 23–6n.
58 Tregarn A shorter form of Tref y Garn, namely Trefgarnowain in the parish of Breudeth (Brawdy), Pembrokeshire, see GIG 225. John’s great grandfather, William de la Pole, married Margaret, daughter and co heir of Tomas ap Llywelyn of Is Coed and Gwynionydd, Ceredigion, and Trefgarnowen in the lordship of Haverfordwest, Smith 2001: 157.
60 honno Namely the Tref Rudd (57).
Bibliography
Bridgeman, G.T.O. (1868), ‘The Princes of Upper Powys, Chapter IV’, Mont Coll 1: 5–194
Smith, J.B. (2001), ‘Mawddwy’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff) 151–67
Thomas, P.W. (2009), ‘(-th-): Tystiolaeth Beirdd y Tywysogion a’r Uchelwyr’, Dwned, 15: 11–32
Canodd Guto gywydd mawl (cerdd 80) i Syr Siôn Bwrch o’r Drefrudd a chywydd mawl arall (cerdd 81) i’w wraig, Siân. Un gerdd arall i Siôn a ddiogelwyd, sef cywydd gofyn am farch a ganwyd iddo gan Lawdden ar ran gŵr o’r enw Dafydd Llwyd ap Gruffudd (GLl cerdd 9).
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar y ffynonellau a nodir isod ac ar WG1 ‘3’, ‘12’, ‘41’, ‘42’, ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 1, 29, 31, ‘Elystan Glodrydd’ 31, ‘Gruffudd ap Cynan’ 1, 3, ‘Rhys ap Tewdwr’ 1, ‘Tewdwr Mawr’ 1. Nodir mewn print trwm y rheini a enwir yn y ddwy gerdd a ganodd Guto i’r Siôn ac i Siân, a thanlinellir enwau ei noddwyr.
Achres Syr Siôn Bwrch ap Huw Bwrch o’r Drefrudd a Siân Bwrch ferch William Clopton
Fel y gwelir, cafodd Siôn a Siân bedair merch (neu dair, o bosibl, os cyplysir y ddwy Elisabeth), sef Elisabeth (a briododd William Newport), Angharad (a briododd John Leighton), Isbel (a briododd Syr John Lingen, Burgess 1877: 374–85), ac Elisabeth (neu Eleanor, a briododd Thomas Mytton, Baugh 1989: 71–118). Roedd yr olaf yn fam yng nghyfraith i’r bardd Lewys Aled (gw. GILlF 173–5, lle ceir rhywfaint o ansicrwydd ynghylch ach mam Siôn, Elisabeth ferch Siôn Mawddwy).
Syr Siôn Bwrch ap Huw Bwrch
Ganwyd Syr Siôn Bwrch yn y Drefrudd, sef Wattlesborough, swydd Amwythig, ar 12 Mehefin 1414. Drwy ei fam, Elisabeth ferch Siôn Mawddwy (neu John de la Pole), daeth arglwyddiaeth Mawddwy i’w feddiant yn 1430 (Smith and Smith 2001: 611–12), ond rhan fechan a chymharol dlawd o’i ystad oedd yr arglwyddiaeth honno ac ni wyddys ble yn union yr oedd llys y teulu yn y cyffiniau. Roedd Siôn yn llawer prysurach yn swydd Amwythig, lle roedd y rhan fwyaf o’i gyfoeth a’i swyddi pwysicaf, a chadwai ei brif ganolfan yn y Drefrudd. Bu’n siryf swydd Amwythig bedair gwaith, sef yn 1442, 1449, 1453 a 1463–4 (am ddwy flynedd), ac yn ynad heddwch. Ymddengys i Siôn a Siân (gw. isod) briodi yn ystod tridegau’r ganrif. Roedd Siôn wedi ei urddo’n farchog erbyn 1444–5. Bu farw yn 1471. Fe’i disgrifir gan Bridgeman (1868: 96) fel ‘person of great magnificence’, ac ategir hyn gan Guto. Ymhellach arno, gw. Smith 2001: 163–7; Bridgeman 1868: 96–100.
Siân Bwrch ferch William Clopton
Hanai teulu Siân Bwrch o Clopton ger Quinton yn swydd Gaerloyw. Roedd ei thad, William Clopton, yn fab i John Clopton, gŵr cyntaf Juliana de Morehall (o Moor Hall, Wixford, swydd Warwick). Er i fam Wiliam ailbriodi, ef oedd yr unig etifedd pan fu farw ei lystad, Thomas Crewe, yn 1418 (coffeir Crewe a mam Wiliam ar gorffddelw bres yn eglwys Wixford). Yn 1407/8 penodwyd Wiliam yn ddirprwy siryf swydd Caerwrangon, ac yn rhinwedd ei swydd fe wasanaethodd Richard Beauchamp, iarll Warwick (ceir ei enw ar ei restr fwstro yn 1417).
Tua 1403 fe briododd Wiliam â Joan Besford ferch Syr Alexander Besford, o Besford yn swydd Caerwrangon (Willis-Bund 1924: 20–1). Roedd Besford yn aelod seneddol ac yn gyfreithiwr a gwasanaethodd Thomas Beauchamp, deuddegfed iarll Warwick (Roskell 1992: 194). Yn ogystal â Joan, ymddengys fod gan Besford ferch arall, Agnes, a thrwy ei phriodas hi â Thomas Throgmorton y perthynai’r Besfordiaid i’r teulu enwog hwnnw. Yn ôl Roskell (1992: 722–3), roedd Thomas Throgmorton yn un o uchelwyr mwyaf dylanwadol y sir, a gwasanaethodd ei fab, John, yntau Richard Beauchamp (ar y teulu, gw. DNB Online s.n. Throgmorton family). Cysylltu dau deulu uchelwrol oedd y bwriad wrth briodi ei ferch arall, Joan, â William Clopton. Dengys Carpenter (1992: 319) sut yr oedd gan yr uchelwyr a wasanaethai ieirll Warwick bron i gyd ryw fath o gyswllt â’i gilydd drwy briodas, cyswllt a elwir yn ‘Beauchamp affinity’. Ceir y cyfeiriad olaf at Wiliam yn 1419, pan fu farw, yn ôl pob tebyg (ibid. 652). Bu farw ei wraig, mam Siân, yn 1430 (Willis-Bund 1913: 313–16). Darlunnir hwy ar gorffddelwau yng nghapel Quinton, swydd Gaerloyw, lle gwelir hefyd arfbeisiau’r ddau deulu (Davis 1899: 30–3).
Cysylltir teulu Siân Bwrch â Llawysgrif Clopton, llawysgrif bwysig o orllewin canolbarth Lloegr ac ynddi chwe thestun Saesneg Canol, yn cynnwys copi o’r gerdd ‘Piers Plowman’ (a gyfansoddwyd c.1360–87). Credir yn gyffredinol mai William Clopton a gomisiynodd y llyfr rywbryd rhwng 1403 a 1419 gan gopïydd proffesiynol o Loegr (Turville-Petre 1990: 36), ond deil Perry (2007: 154–5) mai ei wraig Joan a oedd yn gyfrifol, neu o bosibl un o deulu’r Throgmorton. Ar ffolio cyntaf y llawysgrif ceir tair arfbais herodrol: i. lle cyfunir herodraeth Clopton a Besford; ii. lle darlunnir herodraeth ei lystad, Crewe; iii. lle darlunnir herodraeth teulu Throgmorton (ibid. 137). Dyma dri theulu uchelwrol a oedd, fel y nododd Cross (1998: 48), yn perthyn i’w gilydd drwy’r gwragedd. Yng ngoleuni neges Guto ar ddechrau ail ran ei gerdd i Siân Bwrch, lle molir ei thras, gellir dyfynnu Turville-Petre (1990: 38) ar gysylltiadau’r tri theulu: ‘three wealthy and pious gentry families, closely bound together by loyalties and marriage, all much involved in local administration and with strong local associations, and all long standing retainers of the Earl of Warwick’. Ymhellach arni, gw. Salzman 1945: 54–5, 190–1.
Llyfryddiaeth
Baugh, G.C. (1989), A History of the County of Shropshire, Volume 4 (Woodbridge)
Bridgeman, G.T.O. (1868), ‘The Princes of Upper Powys, Chapter IV’, Mont Coll 1: 5–194
Burgess, J.T. (1877), ‘The Family of Lingen’, The Archaelogical Journal, 34: 374–85
Carpenter, C. (1992), Locality and Polity: A Study of Warwickshire Landed Society, 1401–1499 (Cambridge)
Davis, C.T. (1899), The Monumental Brasses of Gloucestershire (London)
Perry, R. (2007), ‘The Clopton Manuscript and the Beauchamp Affinity: Patronage and Reception Issues in a West Midlands Reading Community’, W. Scase (ed.), Essays in Manuscript Geography: Vernacular Manuscripts of the English West Midlands from the Conquest to the Sixteenth Century (Hull), 131–59
Roskell, J.S. (1992), The History of Parliament: The House of Commons 1386–1421 (Stroud)
Salzman, L.F. (1945) (ed.), A History of the County of Warwick: Volume 3 (Woodbridge)
Smith, J.B. (2001), ‘Mawddwy’, Smith and Smith 2001, 151–67
Smith, J.B., and Smith, Ll.B. (2001) (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff)
Turville-Petre, T. (1990), ‘The Relationship of the Vernon and Clopton Manuscripts’, Derek Pearsall (ed.), Studies in the Vernon Manuscript (Woodbridge), 29–44
Willis-Bund, J.W. (1913) (ed.), A History of the County of Worcester: Volume 3 (Woodbridge)
Willis-Bund, J.W. (1924) (ed.), A History of the County of Worcester: Volume 4 (Woodbridge)