Chwilio uwch
 
83 – Moliant i Ruffudd Fychan ap Gruffudd Deuddwr o’r Collfryn
Golygwyd gan R. Iestyn Daniel


1Chwerddais am ben Sais o’r sir,
2Chwarddaid yw ni ddichwerddir;
3E ddaeth, ni bu ddoeth na’i bwyll
4Na’i ddigondab, Nudd geindwyll;
5Dal co’ ar fedr dala cant
6I’n bro neu docio deucant.
7Bâr gygus er bwrw gogan,
8Bais lid, ar holl Bowys lân.
9Bugad mawr, ba gwd merydd,
10A wnaeth, er nad aeth â’r dydd.
11Bwriwyd yntau bryd anterth,
12Ba radd od coeth, breuddwyd certh.

13Bwria’, hea’ yn hawdd,
14Burion mawl iddo a’i bwriawdd:
15Gruffudd gloywlain, fuchudd glew,
16Fychan, leifdan alafdew.
17Dur a hebog dewr hybarch
18Deuddwr fawr, da oedd ar farch.
19Pan glybu ef y llefain,
20Pestel cad, post dial cain,
21Cyfrwyodd, duriodd yn dyn,
22Ŵr uchelwaed, farch olwyn,
23Heb amwyll claim, ddibwyll clau,
24Wasgwr eirf, wisgwr arfau;
25Eithr rhag gochel gelyn,
26Osgl gwayw ac ysgŵl gwyn,
27Cael golwg, fraw ledwg fraint,
28Orau gŵr, ar ei geraint.
29Cynnig yn lud, Cynog lun,
30’Dduned rhwystr, fyned trostun’.

31Po tecaf, goreunaf gwrdd,
32Y cynigiai, cun agwrdd,
33Hacraf, oeraf oedd eiriau
34Wlasgód o Alis gau.
35Yntau Ruffudd, ddigudd wg,
36Uchel ael, ni chêl olwg,
37Nid oedd arfer, dewrner du,
38Gan hwn fawr ymgynhennu.
39Troi blaen gwayw, graen o’i grwm,
40Tua’i fwnwgl, tew fonwm,
41Treiglo’r anfad benadur
42Tros ei farch, pand trawsa’ fur?
43Canu yna, garwa’ gŵr,
44Gri a ‘mersi!’ o’r Marswr.
45Bwrw’r ail, ffyrf gynheiliad,
46Bwrw’r trydydd, cynigydd cad.
47Traethu o’i lu nid oedd lân
48Tristyd uddun’, pand trwstan?

49Cyd bai dan ei ddifai ddaint
50Gerydd mawr am ei geraint,
51Gwae fi, hawdd oedd foli hwn,
52Nod oed dydd, nad atoeddwn
53Yn gweled enwog waywLyr
54Â gwayw yn trywanu gwŷr!
55Pa lun gwynfydu, pa les,
56Petwn, gwae wŷr y potes,
57Yn edrych, eurych araith,
58A ddelai co’ ym ddal y caith!
59O chais hwn achos hynny
60Ddial ar dâl nac ar dŷ,
61Nid hawdd ymwasg i wasgod
62Â llew du glew da ei glod.
63Ergyd mawr i’r gwd merydd
64Yr ail diwrnod a rydd,
65Cadr farchog tawedog tyn,
66Callfryd fydd llorf y Collfryn.
67Aeth hil Hors yn y corsydd,
68Aeth milwr Deuddwr â’r dydd!

1Chwerddais am ben Sais o’r sir,
2chwarddiad ydyw nas dadwneir;
3fe ddaeth, ni fu’n ddoeth o ran ei grebwyll
4na’i fedr, y Nudd celfydd ei dwyll;
5ystyried gan fwriadu dal cant o drigolion
6yn ein bro neu docio dau gant.
7Llid bygythiol oedd iddo i fwrw gwawd,
8curas dig, ar holl Bowys dda.
9Rhoddodd ruad mawr, y fath sachaid ddiffaith,
10er na chafodd y fuddugoliaeth.
11Bwriwyd yntau yn y bore,
12gŵr o’r fath statws hynod a gwych, hunllef aruthr.

13Lluniaf, heuaf yn rhwydd,
14y mawl pennaf i hwnnw a’i bwriodd:
15Gruffudd Fychan disglair ei waywffon, du a glew,
16tanllyd ei gleddyf a helaeth ei gyfoeth.
17Dur a hebog glew ac uchel ei barch
18Deuddwr fawr, roedd yn dda ar farch.
19Pan glywodd ef y llefain,
20pastwn cad, pennaeth gwych sy’n dial,
21cyfrwyodd, ysbardunodd yn ffyrnig,
22ŵr ucheldras, farch gwyn ei ôl,
23heb ynfydrwydd braint, gŵr byrbwyll chwim,
24gorthrymwr ag arfau, gwisgwr arfau;
25eithr yn hytrach nag osgoi gelyn,
26blaen gwaywffon a helm wen,
27cael golwg a wnaeth, un o ragorfraint llawn soriant pryder,
28ŵr gorau, ar ei geraint.
29Cynnig yn daer, un â llun Cynog,
30addewid i beri rhwystr, ymladd trostynt.

31Po decaf y cynigiai,
32arglwydd gorau gwrol, pennaeth cadarn,
33yr hyllaf a’r annifyrraf oedd geiriau
34y gŵr o Woolascott o hil Alis ffals.
35O ran Gruffudd, dicter eglur,
36uchel ei drem, ni chudd ei olwg –
37nid oedd yn arfer gan hwn, arglwydd dewr du,
38gynhennu’n fawr.
39Pwyntio blaen gwaywffon, ofnadwy oedd yn ei gwman,
40tuag at ei wddf, y plocyn tew,
41taflu’r pennaeth anfad
42tros ei farch, onid arglwydd mwyaf gormesol ydoedd?
43Yna datgan a wnaeth y dyn o’r Mers,
44gŵr mwyaf garw, floedd a ‘trugaredd!’
45Bwrw’r ail a wnaeth, cynheilad praff,
46bwrw’r trydydd, ceisiwr ymladdfa.
47Dweud a wnaeth ei lu dianrhydedd
48ei bod yn achos tristwch iddynt, onid trwstan oedd y digwyddiad?

49Er bod dan ei ddannedd di-fai
50eiriau cerydd mawr oherwydd ei geraint,
51gwae fi, hawdd fyddai moli hwn,
52cydgyfarfod enwog, nad oeddwn
53yn gweld Llŷr enwog â gwaywffon
54yn trywanu gwŷr â’r arf!
55Y fath orfoledd a fyddai, y fath les,
56pe bawn, gwae i wŷr y potes,
57yn edrych, eurych ymadrodd,
58a ddeuai cof i mi ddal y taeogion!
59Os yw hwn oherwydd hynny yn ceisio
60dial ar ben neu ar dŷ,
61nid hawdd i amddiffynnwr fydd ymgodymu
62â llew du dewr uchel ei glod.
63Rhydd ergyd fawr i’r sachaid ddiffaith
64ar ddiwrnod arall,
65marchog hardd tawel a chadarn,
66call ei fryd fydd cynheiliad y Collfryn.
67Aeth hil Hors i’r corsydd,
68cafodd milwr Deuddwr y fuddugoliaeth!

83 – In praise of Gruffudd Fychan ap Gruffudd Deuddwr of Collfryn

1I laughed at an Englishman from the county,
2laughter that will not be undone.
3He came, he was not wise either in sense
4or competence, Nudd of subtle deception;
5he deliberated intending to catch a hundred inhabitants
6in our land or to lop off two hundred.
7Scowling fury was his to hurl contempt,
8wrathful cuirass, on all of goodly Powys.
9He gave a great roar, such an useless sackful,
10though he didn’t carry the field.
11He was toppled in the morning,
12a man of such distinguished and excellent standing, dreadful nightmare.

13I shall cast, I shall sow freely,
14the utmost praise to him who cast him down:
15Gruffudd Fychan of the brilliant spear, black and valiant,
16with a fiery sword and possessing great wealth.
17Steel and brave revered hawk
18of great Deuddwr, he was adept on horseback.
19When he heard the wailing,
20pestle of battle, fine avenging chief,
21he saddled, he spurred on fiercely,
22the man of high lineage, a white-hinded steed,
23without the folly of privilege, impulsive and swift person,
24armed oppressor, wielder of weapons;
25but rather than avoid an enemy,
26tip of a spear and white helmet,
27he cast a glance, privileged man angered by concern,
28best of men, at his kinsmen.
29He offered tenaciously, man like St Cynog in form,
30a promise to cause impediment, to fight for them.

31The more fairly he offered,
32best valiant lord, stalwart chief,
33the more truculent, the colder were the words
34of the man from Woolascott descending from deceitful Alice.
35As for Gruffudd, open displeasure,
36head high, he hides not his countenance –
37this man, black brave lord,
38was not accustomed to great contention.
39He pointed the tip of his spear, terrible was he in his hunched posture,
40towards his neck, the fat lump,
41toppled the heinous lord
42off his steed, was he not a most oppressive chief?
43Then he from the March, roughest of men,
44uttered a cry and ‘mercy!’
45He struck the second, staunch supporter,
46struck the third, offerer of combat.
47His men, who were not honourable, said
48that it was a sad affair for them, wasn’t it a bungle?

49Although there was beneath his faultless tongue
50great reproach because of his kinsmen,
51woe is me, it would be easy to praise this man,
52famous meeting, that I did not
53behold famous spear-wielding Llŷr
54piercing men with the weapon!
55What joy there would be, what benefit,
56if I were, woe to the pottage men,
57to see, goldsmith of words,
58whether it was remembered that I caught the churls!
59If this man tries because of that
60to take vengeance on head or house,
61it will not be easy for a defender
62to grapple with a black lion of good repute.
63He will give a great blow to the useless sackful
64some other day,
65a fair knight, quiet and resolute,
66of wise mind will the defender of Collfryn be.
67The race of Horsa went to the marshes,
68the soldier of Deuddwr carried the day!

Y llawysgrif
Ceir y cywydd hwn mewn un llawysgrif yn unig, sef LlGC 3051D sy’n gysylltiedig â’r Berth-ddu, Arfon. Ni wyddys enw’r copïydd a enwir X123 yn RepWM; dechreuodd ef ei waith nid yn hwyrach na 1579. Mae’r testun yn lled dda ond ceir rhai llinellau afreolaidd o ran hyd, sy’n annodweddiadol o waith arferol Guto.

Trawsysgrifiad: LlGC 3051D.

stema
Stema

5 dala  Felly LlGC 3051D. Mwy arferol fyddai dal(y) ond efallai mai awydd i gael llinell seithsill sy’n gyfrifol am y ffurf.

10 nad aeth  LlGC 3051D na daeth, camraniad.

12 ba radd od  LlGC 3051D baraddod (a cf. GGl). Ni welwyd enghraifft o’r ffurf nac (os treiglad ydyw) o paraddod, felly dichon mai enghraifft arall o gamraniad sydd yma (cf. 10n). Ar ba radd, cf. 9 ba gwd, 55 Pa lun … pa les. Yn Salisbury 2006: 67 rhennir y gair yn Bar addod ond heb gynnig ystyr.

13 bwria’, haea’  LlGC 3051D bwria haya.

17 dur a  Felly LlGC 3051D, ond yn GGl darllennir Durir.

26 osgl  LlGC 3051D ysgl (cf. GGl), ffurf anhysbys. Yn Salisbury 2006: 144 fe’i diwygir yn ysgâl ‘llestr, cwpan …’ (GPC 3831) gan awgrymu y gall mai rhest i ddal gwaywffon a olygir, ond gellir amau a ddefnyddid y gair yn yr ystyr hon. Apelir yno hefyd at y ffaith fod ysgâl yn gwneud y llinell yn seithsill, ond ceir llinellau chwesill eraill yn y cywydd (13, 25, 39, 45, 64). Ar osgl … ysgŵl, cf. GOLlM 6.15 Osgl wydr ar ysgŵl ydwyd.

29 Cynog  LlGC 3051D cynnog (a cf. GGl). Ceir cynnog yn amrywiad ar cynnogn, a byddai’r ystyr ‘gwrthwynebwr, gelyn’ (gw. GPC 796 (c)) hefyd yn gweddu i’r cyd-destun. Crybwyllir Cynog Sant yn 12.4, I riain rywiog y cân, myn Cynog. Cf. Salisbury 2006: 68, 144.

30 ’dduned  LlGC 3051D ddvned. Fel y dywedir yn GGl 365, gallai gynrychioli adduned neu eidduned. Dewiswyd y cyntaf yn yr aralleiriad ond gellid yr ail hefyd (‘dymuniad, dyhead ..’, GPC 1189).

34 Wlasgód  LlGC 3051D w las god a gw. 34n (esboniadol). Derbynnir dehongliad Salisbury 2006: 68, 144 (ond ar yr hyn a ddynodir yn union, gw. 34n (esboniadol)). Yn GGl 365, mewn nodyn cymysglyd, darllenir Wlas god gan ddadlau ei fod yn golygu ‘sachaid o wlân’ ac yn llysenw ar bobl Woolascott neu Woolaston yn swydd Amwythig, eithr gan golli golwg ar y ffaith mai Cymreigiad o Woolascott sydd yma.

38 ymgynhennu  LlGC 3051D yngynhennvi, gwall amlwg.

42 pand  LlGC 3051D pan (a GGl; Salisbury 2006: 68) ond cf. 48 pand trwstan.

42 trawsa’  LlGC 3051D trowsa. Dilynir orgraff y llawysgrif yn GGl; Salisbury 2006: 68.

44 gri a ‘mersi!’  LlGC 3051D gria mersi. Yn GGl derbynnir y darlleniad hwn gan ddisgrifio’r geiriau fel ffurf, yn ôl pob tebyg, ar graunt merci, grammercy (‘mawr ddiolch’, o’r Hen Ffrangeg trwy’r Saesneg Canol, gw. GPC 1524 dan gramersi). Ond mae angen rhannu’r darlleniad yn dri er mwyn y gynghanedd fel bod gri yn odli â mersi (onid ystyrir hi’n gynghanedd wreiddgoll, sy’n annhebygol). Gwneir hyn yn Salisbury 2006: 68, Gri Ah! mersi!, ond gwell deall yr ail elfen fel y cysylltair. Gan nad mersi ‘diolch’ megis yn gramersi sydd yma, gellir ei ddeall yn yr ystyr ‘trugaredd’ (gw. GPC 2436) sy’n gweddu’n well i’r cyd-destun.

49 cyd bai  LlGC 3051D cyd I bai. Diwygir er mwyn y synnwyr a hyd y llinell.

53 yn  LlGC 3051D An. Diwygir er mwyn y synnwyr, cf. GGl.

54 trywanu  LlGC 3051D trawanv, ffurf amrywiol, gw. GPC 3646.

57–8 araith, / … caith  LlGC 3051D araeth … caeth. Fel y dywedir yn GGl 365, prin y gall araeth sefyll am araith a chyngir ei ddiwygio yn arfaeth, ond ni cheir cystal synnwyr felly a daw’r f berfeddgoll dan yr acen.

62 â  Yn GGl trinnir A LlGC 3051D fel cysylltair ond gwell yw ei drin fel arddodiad i’w gydio wrth ymwasg.

64 diwrnod  Felly LlGC 3051D. Gellid ei ddiwygio trwy ddefnyddio’r ffurf deirsill diwarnod / diwyrnod er mwyn hyd y llinell.

Canwyd y cywydd i Ruffudd Fychan ap Gruffudd Deuddwr o’r Collfryn yng nghwmwd Deuddwr, rhan o arglwyddiaeth Powys. Thema’r cywydd yw camp Gruffudd yn gwarchod ei bobl trwy drechu Sais o swydd Amwythig – Woolascott o bosibl (gw. 34n) – a ddaethai gyda’i lu i’r cylch i ormesu’r trigolion. Ymddengys nad oedd y bardd yn bresennol ei hun ar yr achlysur, er cymaint yr hoffasai fod, a bod ei ddisgrifiad wedi ei seilio ar dystiolaeth Gruffudd Fychan (gw. 49–54n). Pleser o’r mwyaf iddo hefyd fuasai mwynhau’r atgof o fod wedi dal dilynwyr y Sais (gw. 55–8n). Mae’r gerdd yn nodedig am ei bod yn cynnwys disgrifiad anarferol o fanwl o ddau farchog yn ymwan ac ni welwyd dim tebyg iddi yn hyn o beth. Mae hi hefyd yn nodedig o ran ei chasineb rhyfelgar agored at Saeson a gellir synhwyro yma beth o ysbryd gwrthryfel Owain Glyndŵr. (Diddorol yw cofio bod Gruffudd Fychan arall, sef Syr Gruffudd Fychan o Gegidfa, yn gymydog agos i’r gŵr o Ddeuddwr a’i fod yntau hefyd, mae’n debyg, yn ymwanwr profiadol. Cymerodd ran mewn twrnamaint â Sais, Syr Christopher Talbot, yng nghastell Cawres gan ei ladd â’i waywffon, er iddo dalu am hynny â’i fywyd pan ddienyddiwyd ef yn 1447 (GLGC 619).)

Mewn un llawysgrif yn unig, a honno’n gymharol hwyr (ar ôl c.1579) y ceir y cywydd, felly ni ellir bod yn gwbl hyderus mai gwaith Guto ydyw. Ceir yma rai pethau nad ydynt yn nodweddiadol o drwch cerddi Guto: i. mae’r arddull yn sangiadol ac aml gymalog, megis yn rhai o gerddi cynnar Guto (e.e., cerddi 15, 30); ii. mae’r gynghanedd sain (38%) yn fwy niferus na’r groes (33%), patrwm a welir yn nwy o gerddi cynnar Guto (cerddi 1, 3); iii. ceir cynifer â phump o gynganeddion sain gadwynog (15, 23, 27, 30, 51) a dwy gynghanedd sain drosgl (31, 46); iv. ceir ynddi chwech o linellau chwesill (13, 25, 26, 39, 45, 64), ond ni ellir profi mai’r bardd yn hytrach na chopïw(y)r a oedd yn gyfrifol am y rhain; v. mae’r gwrth-Seisnigrwydd rhyfelgar, agored yn eithriadol er nad yn amhosibl ei gysoni ag osgo arferol Guto. Pe dymunid dadlau nad gwaith Guto mo’r gerdd hon, mae E. Salisbury (2006: 143) wedi tynnu sylw at ei thebygrwydd o ran y rhyfelgarwch a ddisgrifir ynddi i gywydd moliant Hywel Cilan i’r un gwrthrych (GHC cerdd I) a’r un yn union yw llinell olaf y ddwy gerdd. Dichon y dangosai astudiaeth o grefft Hywel Cilan debygrwydd pellach, ond fel y saif pethau ar hyn o bryd, nid oes digon o reswm dros wrthod y priodoliad i Guto, a gellir darganfod cyfochrebau i’r rhan fwyaf o elfennau ‘gwahanol’ y gerdd yn ei waith cynnar, hyd yn oed os na ellir dweud yr un peth am y gwrth-Seisnigrwydd.

Dyddiad
Mae crefft ac arddull y gerdd – ac yn enwedig flaenoriaeth y gynghanedd sain – yn ogystal â chyfnod ei gwrthrych Gruffudd Fychan, yn awgrymu’n gryf hanner cyntaf y bymthegfed ganrif ond ychydig sydd ynddi a fyddai’n gymorth i’w hamseru’n fanylach. O’r hyn sy’n hysbys am ddyddiadau’r beirdd a ganodd i deulu’r Collfryn, cesglir i’w cerddi i gyd gael eu canu yn ystod y 1430au a’r 1440au (Salisbury 2006: 143) ac mae’r sôn am ymladd Saeson yn awgrymu’r 1430au.

Golygiadau blaenorol
GGl cerdd XXXVI; Salisbury 2006: 67–9, 143–5.

Mesur a chynghanedd
Cywydd, 68 llinell.
Cynghanedd: croes 33% (22 llinell), traws 21% (14 llinell), sain 38% (26 llinell), llusg 8% (6 llinell).

1 sir  Sef swydd Amwythig a ffiniai â gogledd-ddwyrain Maesyfed.

4 Nudd geindwyll  Roedd Nudd ap Senyllt, ynghyd â Mordaf ap Serfan a Rhydderch ap Tudwal Tutglyd, yn un o ‘Dri Hael’ Ynys Prydain ac yn safon o haelioni gan y beirdd, gw. TYP3 5–76, 464–65; WCD 509. Efallai mai’r rheswm y cyffelybir y Sais iddo yw er mwyn gwrthgyferbynnu’n fwy effeithiol y haelioni y dylai fod yn ei ddangos â’i geindwyll.

5 dal co’  Ar yr ymadrodd, gw. GPC 882.

9 cwd merydd  Ar ystyron cwd a merydd, gw. GPC 635, 2438 dan merydd1. Mae blas dilornus iddynt yma, cf. 40 lle gelwir y Sais yn tew fonwm, ond anodd pennu eu hunion ystyr. Os ‘sachaid’ (gw. yr aralleiriad) yw ystyr cwd yma, efallai mai llond sach o gnawd a olygir.

13  Mae’r llinell yn fyr o sillaf. Gellid ennill sillaf o ddarllen Bwria’ a hea’.

14  Cywesgir iddo a’i yn ddeusill i gael llinell seithsill.

15–18 Gruffudd … / Fychan … / … / Deuddwr  Hoffai’r beirdd alw Gruffudd yn Gruffudd Fychan Deuddwr, efallai i wahaniaethu rhyngddo a Syr Gruffudd Fychan o Gegidfa; gw. uchod a GHS 205–6.

18 Deuddwr  Y cwmwd ym Mhowys, ger cymer afonydd Efyrnwy a Hafren, lle safai’r Collfryn, gw. WATU 57, 264.

23 heb amwyll claim  Ymddengys mai’r ergyd yw na adawai Gruffudd Fychan i falchder yn ei hawliau a’i statws ei arwain i weithredu’n fyrbwyll neu’n ffôl.

25  Mae’r llinell yn fyr o sillaf oni chyfrifir eithr yn ddeusill.

26 osgl  Os hwn yw’r darlleniad cywir (gw. 25n (testunol)), ymddengys fod y bardd yn gweld tebygrwydd rhwng blaen miniog gwaywffon a chyrn carw.

26  Mae’r llinell yn fyr o sillaf, oni chyfrifir osgl neu gwayw yn ddeusill.

29 Cynog  Mab hynaf Brychan Brycheiniog a sant, gw. LBS ii: 264–71; ByCy 84; GDEp 88–91. Ym Mrycheiniog yn bennaf y coffeir ef ond ceir eglwysi dan ei nawdd mewn mannau eraill hefyd, gan gynnwys eglwys Llangynog ger Llanfyllin ychydig i’r gogledd o gwmwd Deuddwr. Mae’n debyg mai’r hyn a oedd flaenaf ym meddwl y bardd wrth gyffelybu Gruffudd Fychan iddo oedd y stori am y sant yn achub bywyd mab gwraig weddw rhag cawr canibalaidd trwy ei ddodi ei hun yn lle’r mab a lladd y cawr trwy gymorth dwyfol.

34 Wlasgód  Ymddengys mai ffordd gwta sydd yma o ddynodi rhywun o Woolascott – oni bai bod y bardd yn chwarae ar yr enw gan olygu (yn ddilornus) ‘cod (cf. 9, 63 [c]wd) o Woolascott’. Fel arall, mwy naturiol fyddai deall Wlasgód yn gyfenw ar y marchog o Sais neu’n rhan o deitl, ond ni welwyd neb o’r enw hwnnw. Ar Woolascott, trefgordd yng nghyffiniau Amwythig, gw. GGl 365.

34 Alis  Yr enw a ddefnyddid gan y Cymry am fam y Saeson. Cyfeirir atynt hefyd fel plant Alis, a chyfystyron yw Plant Ronwen a Phlant Hors (cf. 67 hil Hors); gw. WCD 11, 559, a cf. 24.51–2 Os gwir i blant Alis gau, / Draeturiaid, dorri tyrau.

39 o’i grwm  Ymddengys mai’r hyn a ddisgrifir yw ystum corff Gruffudd Fychan wrth iddo bwyso ymlaen ar gefn ei farch wrth ruthro tuag at ei elyn â’i waywffon wedi ei hanelu ato.

39  Mae’r llinell yn fyr o sillaf, oni chyfrifir gwayw yn ddeusill.

42 trawsa’ fur  Ar y treiglad meddal yn dilyn gradd eithaf yr ansoddair, gw. TC 52.

45 bwrw  Gruffudd Fychan yw’r goddrych.

45  Mae’r llinell yn fyr o sillaf. Gellid ystyried bwrw yn ddeusill ond sylwer ei fod yn unsill yn y llinell ddilynol.

45–6 ail … / … trydydd  Sef dau farchog arall.

53 gwaywLyr  Cyffelybir Gruffudd Fychan i Lŷr Llediaith, tad Bendigeidfran o’r Mabinogi. Cyfeirir at Lŷr weithiau yn y farddoniaeth ynglŷn â’i lid, megis yma; gw. TYP3 418–21.

55 pa … pa  Gthg GGl lle deellir hwy fel geirynnau gofynnol a cf. 9, 12.

56 gwŷr y potes  Llysenw ar Saeson Amwythig, efallai, GGl 365.

57 eurych araith  Cyfeiriad gan Guto ato’i hun.

58  Ceseilier co’ ym yn unsill ar gyfer hyd y llinell.

60 tâl  Fe’i deellir i olygu person, trwy gydgymeriad.

63 cwd  Sylwer mai enw benywaidd yw yma. Enw gwrywaidd yn unig yw yn ôl GPC 635 d.g. cwd1.

64  Mae’r llinell yn fyr o sillaf.

66 y Collfryn  Cartref Gruffudd Fychan yng nghwmwd Deuddwr.

67 hil Hors  Gw. 34n.

68  Fel y sylwir yn GHC 51, yr un llinell yn union a geir yn cloi cerdd I yno.

Llyfryddiaeth
Salisbury, E. (2006), ‘Cerddi Cynnar Guto’r Glyn’ (M.Phil. Cymru [Aberystwyth])

This cywydd was sung to Gruffudd Fychan ap Gruffudd Deuddwr of Collfryn in the commote of Deuddwr which formed part of the lordship of Powys. The theme is Gruffudd’s achievement in protecting his people by defeating an Englishman from Shropshire – possibly Woolascott (see 34n) – who had come with his men to the neighbourhood to oppress the inhabitants. It appears that the poet was not present himself on the occasion, much as he would have liked to be, and that his description is based on Gruffudd Fychan’s testimony (see 49–54n). It would also have given him the greatest pleasure to enjoy the recollection of having caught the Englishman’s followers (see 55–8n). The poem is noteworthy in that it includes an unusually full description of jousting and no other one like it in this respect is known to the editor. It is also noteworthy for its open, militant enmity towards the English and it is possible to sense in this some of the spirit of Owain Glyndŵr’s uprising. (It is interesting to recall that another Gruffudd Fychan, namely Sir Gruffudd Fychan of Guilsfield, was a close neighbour of the man from Deuddwr and that he also seems to have been a skilled jouster. He took part in a tournament with an Englishman, Sir Christopher Talbot, at Cause Castle, killing him with his spear, although he paid for that with his life when executed in 1447 (GLGC 619).)

The poem has been preserved in only one, relatively late manuscript (after c.1579), so there is some uncertainty regarding the authorship. There are some features which are not typical of the majority of Guto’s poems: i. the style is characterised by sangiad and multiple clauses, as in some of Guto’s early poems (e.g., poem 15, 30); ii. the cynghanedd sain (38%) is more frequent than the cynghanedd groes (33%), a pattern which is seen in two of Guto’s early poems (poem 1, 3); iii. there are as many as five instances of cynghanedd sain gadwynog (15, 23, 27, 30, 51) and two of cynghanedd sain drosgl (31, 46); iv. there are six hexasyllabic lines (13, 25, 26, 39, 45, 64), but it cannot be proved that it was the poet rather than a scribe / scribes that was responsible for these; v. the militant, unmitigated sentiment against the English is exceptional. If one chose to argue that this poem is not Guto’s, E. Salisbury (2006: 143) has drawn attention to the similarity in respect of its militancy to Hywel Cilan’s praise to the same subject (GHC poem I), and the closing line is identical in both cases. A study of Hywel Cilan’s craft might reveal further similarity, but presently there is not sufficient reason for rejecting the ascription to Guto, and parallels can be adduced to most of the poem’s ‘different’ elements in his early work, even if the same cannot be said of the bitter anti-English sentiment.

Date
The craft and style of the poem – and especially the dominance of the cynghanedd sain – as well as the period of its subject Gruffudd Fychan, strongly suggests the first half of the fifteenth century but there is little in it that would help to fix a more precise date. From what is known of the dates of the poets who sang to the family of Collfryn, the conclusion has been drawn that their poems were all sung during the 1430s and 1440s (Salisbury 2006: 143) and the talk of fighting the English suggests the 1430s.

The manuscript
As already mentioned, the poem has been preserved in only one manuscript, namely LlGC 3051D associated with Berth-ddu, Arfon. The scribe’s name is unknown and he began his work not later than 1579. The text is of middling quality and has some six-syllable lines.

stema
Stemma

Previous editions
GGl poem XXXVI; Salisbury 2006: 67–9, 143–5.

Metre and cynghanedd
Cywydd, 68 lines.
Cynghanedd: croes 33% (22 lines), traws 21% (14 lines), sain 38% (26 lines), llusg 8% (6 lines).

1 sir  Shropshire, which bordered on the north-east of Radnorshire.

4 Nudd geindwyll  Nudd ap Senyllt, together with Mordaf ap Serfan and Rhydderch ap Tudwal Tutglyd, was one of the ‘Three Generous Men’ of the Isle of Britain and was considered by the poets a standard of generosity, see TYP3 5–76, 464–65; WCD 509. Perhaps the reason the Englishman is compared to him is to contrast more effectively the generosity which he should be showing with his ceindwyll.

5 dal co’  On the phrase, see GPC 882.

9 cwd merydd  On the meanings of cwd and merydd, see GPC 635, 2438 s.v. merydd1. They have a derogatory feel here, cf. 40 where the Englishman is called tew fonwm, but it is difficult to fix their exact meaning. If ‘sackful’ (see the translation) is the meaning of cwd here, perhaps a sackful of flesh is meant.

13  The line is a syllable short. Bwria’ a hea’ would provide the extra syllable.

14  iddo a’i are to be compressed to two syllables to obtain a line of seven syllables.

15–18 Gruffudd … / Fychan … / … / Deuddwr  The poets liked to call Gruffudd Gruffudd Fychan Deuddwr, perhaps to differentiate between him and Sir Gruffudd Fychan of Guilsfield; see above and GHS 205–6.

18 Deuddwr  The commote in Powys, by the confluence of the rivers Efyrnwy and Hafren, where Collfryn was located, see WATU 57, 264.

23 heb amwyll claim  The import, apparently, is that Gruffudd Fychan would not let pride in his entitlements and status lead him to act rashly or foolishly.

25  The line is short of a syllable, unless eithr is given two syllables.

26 osgl  Apparently the poet sees a similarity between the sharp tip of a spear and the antlers of a stag.

26  The line is a syllable short unless either osgl or gwayw are given two syllables.

29 Cynog  The eldest son of Brychan Brycheiniog and a saint, see LBS ii: 264–71; DWB 91–2; GDEp 88–91. He is remembered chiefly in Brycheiniog but churches dedicated to him are found in other places too, including the church of Llangynog near Llanfyllin a little to the north of the commote of Deuddwr. Probably what was foremost in the poet’s mind when comparing Gruffudd Fychan to Cynog was the story about the saint saving the life of a widow’s son from a cannibalistic giant by putting himself in the place of the son and killing the giant by divine assistance.

34 Wlasgód  Apparently a shortened way of denoting someone from Woolascott – unless the poet is playing on the name, intending it (disparagingly) to mean a ‘sackful (cf. 9, 63 cwd) from Woolascott’. Otherwise, it would be more natural to take Wlasgód as the surname of the Englishman or as part of his title, but I have been unable to find anyone of that name. On Woolascott, a township in the Shropshire area, see GGl 365.

34 Alis  The name used by the Welsh for the mother of the English, who are often called plant Alis ‘children of Alis’. Synonymous with plant Alis are Plant Ronwen and Plant Hors (cf. 67 hil Hors); see WCD 11, 559, and cf. 24.51–2 Os gwir i blant Alis gau, / Draeturiaid, dorri tyrau ‘If it’s true that Alice’s treacherous children, / the traitors, have felled men who were towers.’

39 o’i grwm  Apparently a description of Gruffudd Fychan’s posture as he leans forward on the back of his steed while charging at his enemy with spear pointed.

39  The line is a syllable short, unless gwayw is given two syllables.

42 trawsa’ fur  On the lenition following the superlative degree of the adjective, see TC 52.

45 bwrw  The subject is Gruffudd Fychan.

45  The line is a syllable short. Bwrw could be disyllabic but it is monosyllabic in the following line.

45–6 ail … / … trydydd  Two other combatants.

53 gwaywLyr  Gruffudd Fychan is likened to Llŷr Llediaith, father of Bendigeidfran of the Mabinogi. Llŷr is sometimes alluded to in the poetry in connection with his wrath, as here; see TYP3 418–21.

55 pa … pa  Contrast GGl where these words are taken as interrogatives and cf. 9, 12.

56 gwŷr y potes  Perhaps a nickname for the English of Shrewsbury, GGl 365.

57 eurych araith  A reference by Guto to himself.

58  The words co’ ym are to be compressed to give the line seven syllables.

60 tâl  It is taken to mean a person by synecdoche.

63 cwd  A feminine noun here; however GPC 635, s.v. cwd1, has it as a masculine noun only.

64  The line is a syllable short.

66 y Collfryn  Home of Gruffudd Fychan in the commote of Deuddwr.

67 hil Hors  See 34n.

68  As observed in GHC 51, exactly the same line concludes poem I there.

Bibliography
Salisbury, E. (2006), ‘Cerddi Cynnar Guto’r Glyn’ (M.Phil. Cymru [Aberystwyth])

Cliciwch ar rif llinell i weld amrywiadau
Image Dialog
Gruffudd Fychan ap Gruffudd Deuddwr o’r Collfryn, 1406–48

Gruffudd Fychan ap Gruffudd Deuddwr o’r Collfryn, fl. c.1406–48

Top

Canodd Guto gywydd mawl (cerdd 83) i Ruffudd Fychan ap Gruffudd Deuddwr. Diogelwyd tair cerdd arall iddo: cywydd mawl gan Hywel Cilan, GHC cerdd I; cywydd marwnad gan Hywel Cilan, ibid. cerdd II; cywydd marwnad gan Ieuan ap Hywel Swrdwal, GHS cerdd 28. At hynny, canodd Hywel Swrdwal gywydd mawl anacronistaidd i or-orhendaid Gruffudd, sef Meurig ap Pasgen, a’i ddau frawd yntau (GHS cerdd 17). Ceir rhai cywyddau mawl i’w feibion: i Ddafydd Llwyd ap Gruffudd Fychan gan Hywel Cilan, GHC cerdd IV; i Ddafydd Llwyd gan fardd dienw, Salisbury 2006: cerdd Atodiad; i Lywelyn ap Gruffudd Fychan, GHC cerdd VI. Canodd Hywel Cilan gywydd mawl i ŵyr Gruffudd, Gruffudd Penrhyn ap Llywelyn (GHC cerdd VII). Ymhellach ar y canu i’r teulu, gw. Roberts 1980: 70–3.

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 9, 10, 11, ‘Gwyn ap Gruffudd’ 3; WG2 ‘Gwyn ap Gruffudd’ 3C. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.

lineage
Achres Gruffudd Fychan ap Gruffudd Deuddwr o’r Collfryn

Fel y gwelir, roedd Gruffudd yn frawd yng nghyfraith i un o noddwyr Guto, sef Dafydd Cyffin ab Iolyn o Langedwyn. At hynny, roedd ei wraig, Mali ferch Iolyn, yn gyfnither i ddau o noddwyr eraill Guto, sef Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch a Sieffrai Cyffin ap Morus o Groesoswallt.

Ei yrfa
Roedd Gruffudd yn byw yn y Collfryn yng nghwmwd Deuddwr, rhan o arglwyddiaeth Powys. Mae tystiolaeth iddo fod yn fwrdais yn y Trallwng yn 1406 ac yn Llanfyllin yn 1448, a daliai dir ym Mechain Uwch Coed (GHS 206). Ar sail ei ryfelgarwch (nodwedd a grybwyllir yng ngherddi’r beirdd) a rhai cyfeiriadau ynddynt sy’n awgrymu cysylltiad rhwng ei deulu ac Owain Glyndŵr, dichon iddo ef ac un o’i feibion, Llywelyn, ymladd dros arglwydd Sycharth (Salisbury 2006: 143). Ymddengys iddo farw rywdro’n gynnar yn ail hanner y bymthegfed ganrif (GHS 206).

Llyfryddiaeth
Roberts, R.L. (1980), ‘Noddwyr y Beirdd yn Sir Drefaldwyn’ (M.A. Cymru [Aberystwyth])
Salisbury, E. (2006), ‘Cerddi Cynnar Guto’r Glyn’ (M.Phil. Cymru [Aberystwyth])


Top
  • AASTAnglesey Antiquarian Society and Field Club Transactions, 1913- ŷŵ
  • ActauActauyr Apostolion yn y Testament Newydd
  • ActsThe Acts of the Apostles in the New Testament
  • APD.Gwenallt Jones (gol.), Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934)
  • Arch CambArchaeologia Cambrensis, 1846
  • ArchifMRCronfa Ddata Enwau Lleoedd: Archif Melville Richards / Archif Melville Richards Place-name Database
  • <http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr>
  • Arm PIfor Williams (gol.), Armes Prydein o Lyfr Taliesin (Caerdydd, 1955)
  • Arm P2Ifor Williams (ed.), Armes Prydain from the Book of Taliesin, English version by Rachel Bromwich (Dublin, 1972)
  • ASCentM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Apocrya Sin Cent (Aberystwyth, 2004)
  • BBwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 1921-93
  • BaLlawysgrif yng nghasgliad Prifysgol Cymru, Bangor
  • Ba(M)Llawysgrif yng nghasgliad Bangor (Mostyn) ym Mhrifysgol Cymru, Bangor
  • BarnwyrLlyfry Barnwyr yn yr Hen Destament
  • BDHenry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942)
  • BDeD.Simon Evans, Buchedd Dewi (Caerdydd, 1959)
  • BDGOwen Jones a William Owen (goln.), Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (Llundain, 1789)
  • BeirnJ. Morris Jones, Y Beirniad (1911-20)
  • BettisfieldCasgliad Bettisfield yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / The Bettisfield collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BLLlawysgrifau Ychwanegol yngnghasgliad y Llyfrgell Brydeinig, Llundain / The Additional Manuscripts in the British Library, London
  • BlBGCC Marged Haycock (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (Llandybe, 1994)
  • Bl BXIV Dafydd Johnston (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif arDdeg (Llandybe, 1989)
  • BodLlawysgrif yng nghasgliad Bodewryd, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth / A manuscript in the Bodewryd collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BodWLlawysgrif Gymreig yng nghasgliadLlyfrgell Bodley, Rhydychen / A Welsh manuscript in the Bodleian Library, Oxford
  • 1 BrenhinoeddLlyfr Cyntaf y Brenhinoedd yn yr Hen Desatement
  • 2 BrenhinoeddAil Lyfr y Brenhinoedd yn yr Hen Destament
  • BrenSaesThomas Jones (gol.), Brenhinedd y Saesson (Caerdydd, 1971)
  • BritishHOBritish History Online http://www.british-history.ac.uk>
  • BrMIfor Williams (gol.), Breuddwyd Maxen (Bangor,1908)
  • BrM2Brynley F. Roberts (ed.), Breudwyt Maxen Wledic (Dublin, 2005)
  • BrogLlawysgrif yng nghasgliad Brogyntyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Brogyntyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BRhMelville Richards (gol.), Breudwyt Ronabwy (Caerdydd, 1948)
  • BTThomasJones (gol.), Brut y Tywysogyon PeniarthMs. 20 (Caerdydd, 1941)
  • BYThomas Jones (gol.), Y Bibyl Ynghymraec (Caerdydd, 1940)
  • ByCyY Bywgraadur Cymreig hyd 1940(Llundain, 1953)
  • ByCy Ar-leinY Bywgraffiadur Ar-lein
  • <http://yba.llgc.org.uk/cy/index.html>
  • CLlawysgrifyn Llyfrgell Ganolog Caerdydd / A manuscript in Cardiff Central Library
  • CAIfor Williams (gol.), Canu Aneirin, (Caerdydd, 1938)
  • CAMBMCatalogueof Additions to the Manuscripts in the British Museum
  • CCJ. Fisher (ed.), The Cefn Coch MSS (Liverpool, 1889)
  • CCRCalendarof the close rolls preserved in the Public Record Office [12721509] (London,1900-63)
  • CDJohn Morris-Jones, Cerdd Dafod (Rhydychen, 1925)
  • CFGMelville Richards, Cystrawen y Frawddeg Gymraeg (ail arg.,Caerdydd, 1970)
  • CLC2Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (ailarg., Caerdydd, 1997)
  • CLlHIfor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen (Caerdydd, 1935)
  • CLlLlBrynley F. Roberts (ed.), CyfrancLludd a Llefelys (Dublin, 1975)
  • CMLlawysgrif yng nghasgliad Cwrtmawr, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Cwrtmawrcollection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • CMCSCambridge Medieval Celtic Studies,19811993; Cambrian Medieval CelticStudies, 1993
  • CMOC2Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (ailarg., Pen-y-bont ar Ogwr, 1998)
  • CO3 Rachel Bromwich a D. Simon Evans(goln.) gyda chymorth D.H. Evans Culhwchac Olwen (Caerdydd, 1997)
  • CPRCalendar of Patent Rolls preserved in the Record Office (London, 18911986)
  • CSTBP.J.Donovan (gol.), Cywyddau Serch y Tri Bedo(Caerdydd, 1982)
  • CTIfor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)
  • CTCCatrin T. Beynon Davies, `Cerddir TaiCrefydd (M.A. Cymru [Bangor], 1973)
  • CyY Cymmrodor, The Magazine of the HonourableSociety of Cymmrodorion, 18771951
  • CylchgCHSFeirCylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirion (n)ydd, 1949
  • CylchgHCCylchgrawnHanes Cymru, 1960
  • Cylchg LlGC Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru,1939
  • ChOIfor Williams (gol.), Chwedleu Odo (Wrecsam, 1926)
  • 1 Chronicles The First Book of the Chronicles in the Old Testament
  • 2 Chronicles The Second Book of the Chronicles in the Old Testament
  • Datguddiad`Datguddiad Ioan' yn y Testament Newydd
  • DBHenry Lewis a P. Diverres (goln.), Delwy Byd (Caerdydd, 1928)
  • DEThomas Roberts (gol.), Gwaith Dafydd ab Edmwnd (Bangor, 1914)
  • DGAHelenFulton (ed.), Selections from the Dafyddap Gwilym Apocrypha (Llandysul, 1996)
  • DGG Ifor Williams a TRoberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym ai Gyfoeswyr (Bangor, 1914)
  • DGG2Ifor Williams a T. Roberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i Gyfoeswyr(ail arg., Caerdydd, 1935)
  • DG.netDafydd ap Gwilym.net <http://www.dafyddapgwilym.net>
  • DNThomasRoberts and Ifor Williams (eds.), ThePoetical Works of Dafydd Nanmor (Cardi and London, 1923)
  • DNB2H.C.G. Matthew and B. Harrison (eds.), Oxford Dictionary of National Biography (Oxford, 2004)
  • DNBOnlineOxford Dictionary of National Biography <http://www.oxforddnb.com/>
  • DWBWelsh Biography Online
  • <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • DWHMichael Powell Siddons, The Development of Welsh Heraldry (3vols., Aberystwyth, 19913)
  • L.Dwnn: HVS.R. Meyrick (ed.), Heraldic Visitations of Wales (Llandovery,1846)
  • EANCR.J. Thomas, Enwau Afodyn a Nentydd Cymru Caerdydd, 1938)
  • EEWT.H. Parry-Williams, The English Element in Welsh (Londons, 1923)
  • tudesÉtudes celtiques, 1936
  • EVWM.E. Griths, Early Vaticination in Welsh with English Parallels (Cardi, 1937)
  • EWGTP.C. Bartrum (ed.), Early Welsh Genealogical Tracts (Cardiff, 1966)
  • GJ. Lloyd-Jones (gol.), Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg(Caerdydd, 1931-63)
  • GazMFEWGazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516 <http://www.history.ac.uk/cmh/gaz/gazweb2.html>
  • GBDdGwaith Bleddyn Ddu, gol. R. Iestyn Daniel (Aberystwyth, 1994)
  • GBFRhian M. Andrews et al. (goln.), Gwaith Bleddyn Fardd a Beirdd Eraill AilHanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1996)
  • GCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Casnodyn (Aberystwyth, 1999)
  • GCBMiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,i (Caerdydd, 1991)
  • GCBMiiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,ii (Caerdydd, 1995)
  • GDBN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill o FeirddHanner Cyntaf y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1995)
  • GDCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o LyfrCoch Hergest (Aberystwyth, 2002)
  • GDEpOwen Thomas (gol.), Gwaith Dafydd Epynt (Aberystwyth, 2002)
  • GDG Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym(Caerdydd, 1952)
  • GDG3 Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (trydydd arg., Caerdydd, 1979)
  • GDGorErwain H. Rheinallt (gol.), Gwaith Dafydd Gorlech (Aberystwyth,1997)
  • GDIDA.Eleri Davies (gol.), Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992)
  • GDLlW. Leslie Richards (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn(Caerdydd, 1964)
  • Genesis`Llyfr Genesis' yn yr Hen Destament
  • GenesisThe Book of Genesis in the Old Testament
  • GEOR. Geraint Gruydd a Rhiannon Ifans(goln.), Gwaith Einion Oeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug, gol. (Aberystwyth, 1997)
  • GGDTN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Gruudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995)
  • GGHD.J. Bowen (gol.), Gwaith Gruudd Hiraethog (Caerdydd, 1990)
  • GGGrBarry J. Lewis ac Eurig Salisbury (goln.), Gwaith Gruffudd Gryg(Aberystwyth 2010)
  • GGlJ. Llywelyn Williams ac Ifor Williams (goln.), Gwaith Gutor Glyn (Caerdydd, 1939)
  • GGl2 J. Llywelyn Williams ac Ifor Williams(goln.), Gwaith Guto'r Glyn (ail arg., Caerdydd, 1961)
  • GGLlRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruudd Llwyd ar Llygliwiaid Eraill(Aberystwyth, 2000)
  • GGMDiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, i, Canu i deulu Penmynydd (Aberystwyth, 2003)
  • GGMD iiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, ii, Canu Crefyddol (Aberystwyth, 2005)
  • GGMDiiiAnn Parry Owen (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, iii, Canu Amrywiol (Aberystwyth, 2007)
  • GGrGRhiannon Ifans, Ann Parry Owen,W. Dyfed Rowlands ac Erwain H. Rheinallt (goln.), Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog, Mab Clochyddyn, Gruudd ap Tudur Goch ac Ithel Ddu (Aberystwyth, 1997)
  • GHCIslwyn Jones (gol.), Gwaith Hywel Cilan (Caerdydd, 1963)
  • GHCEMHuw Ceiriog Jones (gol.), Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor(Caerdydd, 1990)
  • GHDA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Huw ap Dafyddap Llywelyn ap Madog (Aberystwyth, 1995)
  • GHSDylanFoster Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwala'i deulu (Aberystwyth, 2000)
  • GIBHGwaithIeuan Brydydd Hir (gol.), M. Paul Bryant-Quinn (Aberystwyth, 2000)
  • GIFHowell L. Jones ac E.I. Rowlands(gol.), Gwaith Iorwerth Fynglwyd(Caerdydd, 1975)
  • GIGD.R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988)
  • GILlFM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Ieuan ap Llywelyn Fychan, Ieuan Llwyd Brydydd a Lewys Aled (Aberystwyth, 2003)
  • GIRhR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth,2003)
  • GLDA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Lewys Daron (Caerdydd, 1994)
  • GLGCDafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd,1995)
  • GLMEurys I. Rowlands, Gwaith Lewys Mn (Caerdydd, 1975)
  • GLMorgA. CynfaelLake (gol.), Gwaith Lewys Morgannwg (dwy gyfrol, Aberystwyth, 2004)
  • GLlR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Llawdden (Aberystwyth, 2006)
  • GLlBHAnn Parry Owen a Dylan Foster Evans(gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996)
  • GLlFKathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994)
  • GLlGDafydd Johnston (gol.), Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen(Aberystwyth, 1998)
  • GLlLlElin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn `Prydydd y Moch' (Caerdydd, 1989)
  • GMBJ.E. Caerwyn Williams et al. (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994)
  • GMBrA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Mathau Brwmld (Aberystwyth,2002)
  • GMDHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Madog Dwygraig (Aberystwyth,2006)
  • GMRhEnid Roberts (gol.), Gwaith Mareduddap Rhys ai Gyfoedion (Aberystwyth, 2003)
  • GMWD. Simon Evans, A Grammar of Middle Welsh (Dublin, 1964)
  • GMWLTimothy Lewis, A Glossary of Mediaeval Welsh Law (Manchester,1913)
  • GOE. Bachellery (d.), Loeuvre potique de Gutun Owain(Paris, 19501)
  • GOLlMEurys Rolant (gol.), Gwaith Owain ap Llywelyn ab y Moel(Caerdydd, 1984)
  • GP G.J. Williams ac E.J. Jones (gol.), Gramadegaur Penceirddiaid (Caerdydd,1934)
  • GPBHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan, Rhys ap Dafydd ab Einion, Hywel Ystorm, a cherddi dychan dienw o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth,2000)
  • GPCGeiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950)
  • GPC2Geiriadur Prifysgol Cymru (ail argraad, Caerdydd, 2003)
  • GPhEM.Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Syr Phylib Emlyn, Syr Lewys Meudwy a Mastr Harri ap Hywel (Aberystwyth, 2001)
  • GRhBEurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Rhys Brydydd a Rhisiart ap Rhys (Caerdydd,1976)
  • GRhGEDylan Foster Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007)
  • GSCA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin Ceri (Aberystwyth, 1996)
  • GSCyfR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd 'Sypyn Cyfeiliog a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998)
  • GSDTRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2005)
  • GSHA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin ap Hywel (Aberystwyth, 1999)
  • GSRhNerys Ann Jones ac Erwain Haf Rheinallt(gol.), Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn,Gruudd Fychan ap Gruudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth,1995)
  • GSTEnid Roberts (gol.), Gwaith Sin Tudur (2 gyf., Caerdydd,1980)
  • GTPThomas Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap TudurPenllyn, gol. (Caerdydd, 1958)
  • GwynLlawysgrif yng nghasgliad J. Gwyneddon Davies, yn Llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor
  • GyBDafydd Johnston (gol.), Galar y Beirdd: Marwnadau Plant/Poets'Grief: Medieval Welsh Elegies for Children (Caerdydd, 1993)
  • HCLlLeslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac Eraill(Caerdydd, 1953)
  • HPEHistoriaPeredur vab Efrawc, gol. Glenys Witchard Goetinck (Caerdydd, 1976)
  • HPFJ.Y.W. Lloyd, The History of Powys Fadog, (6 vols., London, 18817)
  • IDIfor Williams (gol.), Casgliad o Waith Ieuan Deulwyn (Bangor,1909)
  • IGEHenry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (Bangor, 1925)
  • IGE2Henry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (ail arg., Caerdydd, 1937)
  • IGPDafydd Johnston (ed.), Iolo Goch: Poems (Llandysul, 1993)
  • Ioan`Yr Efengyl yn l Sant Ioan' yn y Testament Newydd
  • JMHRSJournalof the Merioneth Historical and Record Society, 1949
  • JohnThe Gospel according to John in theNew Testament
  • JudgesThe Book of Judges in the Old Testament
  • KAA 2Patricia Williams (gol.), Kedymdeithyas Amlyn ac Amic (Caerdydd,1982)
  • 1 KingsThe First Book of the Kings in the Old Testament
  • 2 KingsThe Second Book of the Kings in the Old Testament
  • LBSS. Baring-Gould and J. Fisher, The Lives of the British Saints (4vols., London, 190713)
  • Luc`Yr Efengyl yn l Sant Luc' yn yTestament Newydd
  • LukeThe Gospel according to Luke in theNew Testament
  • LlAJ. Morris Jones and John Rhŷs (eds.), The Elucidarium from Llyvyr Agkyr Llandewivrevi (Oxford, 1894)
  • LlBS.J. Williams a J.E. Powell (gol.), Cyfreithiau Hywel Dda yn l Llyfr Blegywryd(Caerdydd, 1942)
  • LlCyLlnCymru, 1950
  • LlGCLlawysgrif yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the collection of theNational Library of Wales, Aberystwyth
  • LlIAled Rhys Wiliam (ed.), Llyfr Iorwerth (Cardi, 1960)
  • LlstLlawysgrif yng nghasgliad Llanstephan, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Llanstephan collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Marc`Yr Efengyl yn l Sant Marc' yn y Testament Newydd
  • MarkThe Gospel according to Mark in the New Testament
  • Mathew`Yr Efengyl yn l Sant Mathew' yn y Testament Newydd
  • MatthewThe Gospel according to Matthew in the New Testament
  • MCFY Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau / The Index to Welsh Poetry inManuscript
  • <http://maldwyn.llgc.org.uk>
  • MEDMiddle English Dictionary (Michigan, 1963)
  • MonWMonastic Wales <http://www.monasticwales.org>
  • MontCollCollections Historical and Archaeological... by the Powysland Club, 1868
  • MosLlawysgrif yng nghasgliad Mostyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Mostyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • MWMDaniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Cardiand Aberystwyth, 2000)
  • NCENewCatholic Encyclopaedia (New York, 1967-79)
  • NCLWMeic Stephens (ed.), The New Companion to the Literature of Wales(Cardiff, 1998)
  • NLWJNational Library of Wales Journal, 1939
  • OBWVThomasParry (ed.), The Oxford Book of Welsh Verse (Oxford, 1976)
  • OCD3Simon Hornblower and Antony Spawforth(eds.), The Oxford Classical Dictionary(third ed., Oxford, 1996)
  • ODCC3F.L. Cross and E.A. Livingstone (eds.), The Oxford Dictionary of the Christian Church (third ed., Oxford, 1967, revised 2005)
  • OED2The Oxford English Dictionary (second ed., Oxford, 1989)
  • OED OnlineThe Oxford English Dictionary
  • <http://www.oed.com>
  • PACFJ.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Bangor, 1914)
  • PenLlawysgrif yng nghasgliad Peniarth, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Peniarth collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Peniarth49E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 49 (Caerdydd, 1929)
  • Peniarth67E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (ed.), Peniarth 67 (Cardiff, 1918)
  • Peniarth76E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 76 (Caerdydd, 1927)
  • PKM Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930)
  • PsalsmThe Psalms in the Old Testament
  • RBJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Bruts from the Red Book of Hergest (Oxford, 1890)
  • RCAHM (Anglesey)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Anglesey (London, 1937)
  • RCAHM (Caernarvonshire) An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Caernarvonshire (3 vols.,London, 1956, 1960, 1964)
  • RCAHM (Flint)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire, Vol II: County of Flint (London, 1912)
  • RCAHM (Merionethshire) An Inventory of Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Merionethshire (London, 1921)
  • RepWMDaniel Huws, Repertory of Welsh Manuscripts (iw gyhoeddi)
  • RevelationThe Revelation to John in the New Testament
  • RMJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Mabinogion from the Red Book of Hergest(Oxford, 1887)
  • RWMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), Report on Manuscripts in the Welsh Language(London, 18981910)
  • SalmauLlyfr y Salmau yn yr Hen Destament
  • SCStudiaCeltica, 1966
  • SoldierLMEThe Soldier in later Medieval England
  • <http://www.medievalsoldier.org>
  • StoweLlawysgrif o gasgliad Stowe yn yLlyfrgell Brydeinig
  • TAT. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926)
  • TCT.J.Morgan, Y Treigladau au Cystrawen (Caerdydd,1952)
  • TCHSTransactionsof the Caernarvonshire Historical Society, 1939
  • TCHSDdTrafodionCymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 1952
  • TCHSGTrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon,1939
  • TDHSTransactionsof the Denbighshire Historical Society, 1952
  • THSCTheTransactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1892/3
  • TLlMG.J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948)
  • TYP3Rachel Bromwich (ed.), Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (third ed., Cardi, 2006)
  • WATU Melville Richards, Welsh Administrative and TerritorialUnits (Cardi, 1969)
  • WBOnlineWelsh Biography Online <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • WCDP.C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 (Aberystwyth, 1993)
  • WGJ. Morris Jones, A Welsh Grammar (Oxford, 1913)
  • WG1P.C.Bartrum, Welsh Genealogies AD 300-1400 (Cardiff, 1974)
  • WG2P.C. Bartrum, Welsh Genealogies AD 1400-1500 (Aberystwyth, 1983)
  • WHRThe Welsh History Review, 1960-
  • WMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), The White Book Mabinogion (Pwllheli,1907; adargraffiad, Caerdydd, 1973)
  • WyLlawysgrif yng nghasgliad Wynnstay, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Wynnstay collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • YBJ.E. Caerwyn Williams (gol.), Ysgrifau Beirniadol, (Dinbych, 1965 )
  • YBHMorgan Watkin (gol.),Ystorya Bown de Hamtwn, (Caerdydd, 1958)
  • YCM2Stephen J. Williams (gol.), Ystorya de Carolo Magno (ail arg.,Caerdydd, 1968)
  • YER. Iestyn Daniel (gol.), Ymborth yr Enaid (Caerdydd, 1995)
  • YEPWCGruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (Caerdydd, 1986)
  • YGIVGwilymLloyd Edwards (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Caerdydd, 1999)
  • YMThA.O.H. Jarman (gol.), Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (Caerdydd, 1951)