Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn un llawysgrif yn unig, sef LlGC 3051D sy’n gysylltiedig â’r Berth-ddu, Arfon, ac fe’i cofnodwyd yno c.1579. Ond ceir dryll hefyd, sef llinellau 41–4, yng ngeiriadur Thomas Wiliems, Pen 228, ar ffurf dyfyniad wedi ei briodoli i Guto dan y gair Lladin regio. Mae darlleniadau LlGC 3051D yn bur dda ond yn anffodus, oherwydd colli peth o ymyl y tudalen, mae llinellau 17–19 a 36–42 yn anghyflawn. Mae darlleniadau Pen 228 i bob golwg yn ddi-fai ac yn gymorth wrth ystyried mannau cyfatebol LlGC 3051D ac, yn enwedig, y bylchau ynddynt.
Ni ellir bod yn sicr i Thomas Wiliems godi ei destun o LlGC 3051D neu o gynsail gyffredin. Lle gwahaniaetha darlleniadau’r ddau destun, rhagora Pen 228 ar LlGC 3051D: gwell yw teirbro dano (41) na [ ]irbrof danof lle ychwanegwyd f at ddiwedd y geiriau trwy ‘orgywirdeb’; a gwell yw mangre y tarw (42) na mangref tarw gan mai mangre yw’r ffurf gywir (cf. y llinell flaenorol) a bod y fannod yn rhoi hyd cywir i’r llinell. Ond gallai’r rhain yn hawdd fod yn ffrwyth y gwaith diwygio deallus a welir yn fynych yn nhestunau Thomas Wiliems.
Trawsysgrifiadau: LlGC 3051D, Pen 228.
2 gywaith Cf. LlGC 3051D; gthg. GGl gywoeth (ffurf ar cyfoeth).
4 y llynedd Dilynir LlGC 3051D; mae cynghanedd y llinell, gydag r wreiddgoll, yn dderbyniol fel y saif ac nid oes rhaid diwygio yn yr llynedd er mwyn cael cynghanedd lawnach (ar yr amrywiadau ar llynedd, gw. GPC 2274).
8 Siôn LlGC 3051D sio ond dengys yr odl fod angen n.
12 tra dewr LlGC 3051D tradewr (cf. GGl) ond mae angen i’r acen fod ar dewr.
13 ederyn LlGC 3051D y deryn. Bernir mai yderyn (amrywiad ar ederyn/aderyn) oedd y darlleniad gwreiddiol a’r y wedi ei gwahanu oddi wrth weddill y gair. Mae’n llai tebygol mai’r fannod a’r ffurf lafar dalfyredig ’deryn sydd yma.
15 gwyched LlGC 3051D gwched. Fe’i diwygir, er cydnabod y gallai fod yn ffurf lafar.
15 Maredudd LlGC 3051D m{e}reddyd, bai am m{e}redydd. Fel y gwelir, mr- oedd yn y darlleniad gwreiddiol ond mae llaw arall wedi ychwanegu e rhwng m ac r er mwyn estyn y llinell (felly hefyd yn 27, 33, 57). Gellir dewis Meredudd ynteu Maredudd yn ffurf lawn (cyfyd y gwamalu o’r ffaith fod ansawdd y llafariad yn aneglur mewn safle rhagobennol), ond safonir ar y ffurf Maredudd yma.
17 Er bod y llinell yn annarllenadwy, eto dengys y cipair fab wrth droed y tudalen blaenorol mai dyna oedd ei gair cyntaf. Yn GGl darllenir gwyr ar ddiwedd y llinell ond nis ceir yn y llawysgrif ac ymddengys mai ffrwyth ymgais ydyw i gael gair tebygol a fyddai’n odli â herwyr yn y llinell nesaf.
19 … ar wyn Gellir darllen [ ]nel o flaen ar, gthg. GGl -amel. Gall mai ail hanner m yw’r hyn sy’n edrych fel n ond ni ellir gweld a o’i blaen.
20 coler LlGC 3051D [ ]er, ond dengys y gynghanedd a’r cyd-destun (cf. 16, 22 aerwy) mai dyma oedd y darlleniad a hwn a geir yn GGl; cf. GHC XXVII.58 Aur teg ydyw’r coler tau.
20 iach GGl ach, ond LlGC 3051D iach sy’n ffurf ddigon arferol ar ac yn y cyfnod, gw. GPC2 17 d.g. ach5.
31 hwyaf LlGC 3051D hwiaf, gthg. GGl hoywaf. Ar yr ystyr, cf. 53 [c]awr.
35 dyn LlGC 3051D [ ]n ond hawdd y gellir, ar sail synnwyr a chynghanedd, adfer y darlleniad (a cf. GGl).
36 o Danad LlGC 3051D o danad. Fe’i deellir yn gyfeiriad at afon Tanad (gw. 36n (esboniadol)). Yn GGl fe’i darllenir o danad, sef ail berson unigol yr arddodiad cyfansawdd o dan; ond eithriadol yn y gerdd hon fyddai cyfeirio at y gwrthrych yn yr ail berson. Cyfeirir at fro Danad yn 87.29, 88.11.
37 ydiw Dilewyd yr i yn LlGC 3051D a dodi y yn ei lle, ond mae ydiw hefyd yn gywir.
40 tref Oswallt LlGC 3051D [ ]swallt. Gellir adfer y darlleniad gwreiddiol ar sail cynghanedd a’r ffurf tref Oswallt (sef Croesoswallt) a geir hefyd yn 96.53.
40 tra LlGC 3051D tre, ffurf amrywiol, gw. GPC 3538 d.g. tra3 (1595 yw dyddiad yr enghraifft gyntaf yno), ond cymerir mai nodwedd ar iaith y copïydd, yn hytrach na’r bardd, yw hwn.
41 y teirbro dano Cf. Pen 228; yn LlGC 3051D ceir [ ]irbrof danof gyda’r f derfynol wedi ei hychwanegu yn ddianghenrhaid yn y ddau air. Yn GGl, sy’n dilyn LlGC 3051D, darllenir … eirbrof danof, ond ni welwyd yn y llawysgrif e o flaen yr i yn eirbrof.
42 tri mangre y tarw Cf. Pen 228; yn LlGC 3051D ceir [ ] mangref tarw a’r copïydd wedi hepgor y fannod, yn ôl pob tebyg, oherwydd ystyried bod tarw yn ddeusill. Ar yr f ar ddiwedd mangref, cf. y nodyn blaenorol (dyma’r unig enghraifft gynnar o’r ffurf yn GPC 2342).
64 byw’r LlGC 3051D bywr y, llithriad syml lle mae’r y yn ailadrodd y fannod sydd eisoes yn bywr.
Cywydd moliant yw i Faredudd ap Hywel. Y thema yw’r annhegwch a wêl Guto yn arfer y Brenin Edward IV o urddo’n farchogion filwyr o gefndir distadl yn hytrach nag o dras fonheddig. Fel enghraifft o’r ail enwa Guto Faredudd ap Hywel gan bwysleisio ei wrhydri, ei haelioni a’i boblogrwydd a’r rhinweddau eraill traddodiadol y molai’r beirdd eu noddwyr amdanynt, a chan nodi nad yw hyd yn oed wedi derbyn swydd na phensiwn am ei wasanaeth. Gwêl S. Lewis (1976: 97–8) gysylltiad rhwng hyn a pholisi Edward IV yn Rhyfeloedd y Rhosynnau o arbed bywydau milwyr cyffredin ond o ladd pob arglwydd a hynny er mwyn diogelu ei hun yn wleidyddol rhag pob gwrthwynebiad posibl iddo.
Dyddiad
Mae nifer uchel iawn y cynganeddion croes yn nodweddiadol o gerddi cyfnod hwyr Guto, ac os ei waith dilys ef yw’r gerdd hon, gellir cynnig mai rywbryd yn y 1480au y cyfansoddwyd hi. Byddai hynny’n gyson ag oed Maredudd ap Hywel ar y pryd, sef tua 50 o dderbyn dyddiad Bartrum ar gyfer ei eni.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd CXXII.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 64 llinell.
Cynghanedd: croes 79% (45 llinell), traws 5% (3 llinell), sain 11% (6 llinell), llusg 5% (3 llinell). Ni chynwyswyd saith o’r llinellau am eu bod yn anghyflawn (17–19, 36–9).
1–2 Ni phery … / … nog ewyn Nid moesoli a wneir (megis yn null Siôn Cent) ond lleisio cwyn neilltuol, sef nad yw manteision dynion sy’n haeddu dyrchafiad yn cyfrif dim o’u plaid.
6 a … ei Cymal perthynol genidol gydag a, lle ceid y heddiw, gw. GMW 65; cf. 10, 32.
6 aur ar ei draed Cyfeiriad at ysbardun aur marchog, gw. 79.65n; cf. 10n isod.
7 y gŵr biau’r goron Gall mai Edward IV, a deyrnasodd hyd 1483, a olygir (a cf. y sylw gan Saunders Lewis y cyfeiriwyd ato uchod), neu Risiart III, 1483–5, neu Harri VII, 1485–1509.
8 Syr Siôn Cymerir nad yw’r bardd yn cyfeirio at berson penodol.
10 aur ar ei frig Cyfeiriad at y ddefod o urddo dyn yn farchog. Gwneid hyn trwy ei wisgo â choler aur, gw. GLl 9.34n.
13 ederyn Sef Maredudd ap Hywel.
14 gwallt o aur Ymddengys mai gwallt golau Maredudd a olygir; gthg. y disgrifiad ohono fel gŵr llwyd yn 11: dichon fod ei wallt wedi dechrau britho.
16 aerwy rhudd Cf. 22 a GSC 19.8 Ni bo’r war heb aerwy rhudd (i Lewys Fychan, yr Ystog). Cyfeiria rhudd at liw yr aur (10), cf. aur rhudd ‘red gold’, GPC2 536.
20 coler Tebyg yw ei ystyr i eiddo aerwy (16, 22).
20 Cuhelyn Yr un gŵr, mae’n debyg, â hwnnw y cyfeirir ato yn 94.47, gw. Maredudd ap Hywel.
21 awydd a serch Gallai’r sangiad gyfeirio at Faredudd ap Hywel neu at ddyheadau pobl eraill er ei fwyn.
22 aerwy rhudd Gw. 16n.
22 Rhydderch Sef Rhydderch Hael, un o ‘Dri Hael Ynys Prydain’ , gw. TYP3 493–5; WCD 585–6.
27 marwor Cf. disgrifiad Guto o fab Siôn ap Madog Pilstwn, 72.61, fel Etewyn, marworyn mawr.
30 Siason Mab Aeson ac arweinydd arwrol yr Argonawtiaid mewn chwedloniaeth Roegaidd a aeth i chwilio am y cnu aur yng Ngholchis (Colchis), gw. OCD3 793 s.n. Jason. Adroddir ei hanes yn Gymraeg yn ‘Dares Phrygius’, RB 1–3. Fe’i henwir hefyd yn y triawd Tri dyn a gauuas pryt Adaf, gw. TYP3 134.
30 Powys isaf Naturiol meddwl mai rhan ddeheuol Powys, sef Powys Wenwynwyn, a olygir. Fodd bynnag, os yng Nghynllaith, a oedd ym Mhowys Fadog, roedd gwreiddiau Maredudd ap Hywel, pam y cysylltir ef â Phowys Wenwynwyn? Un ai roedd wedi mynd yno i filwra, neu ynteu arwyddocáu y mae’r geiriau safle Cynllaith yn agos i ffin ddeheuol Powys Fadog. Tueddir i gredu mai’r ail a olygir yma.
31 hwyaf Roedd Maredudd ap Hywel yn fawr o gorff, cf. 53 Arthur a chawr wrth rai chwyrn.
36 Tanad Afon a ffurfiai ran o’r ffin rhwng Powys Fadog a Phowys Wenwynwyn; ymhellach gw. 36n (testunol).
37 dir traws Oherwydd bod y llinell yn anghyflawn, mae’n anodd gwybod wrth ba air i gydio traws. Mwy arferol ydyw ynglŷn â pherson a dichon fod traws ydiw ef yn ffurfio cymal.
40 tref Oswallt Sef Croesoswallt (gw. 40n (testunol)). Fe’i henwyd ar ôl y brenin a merthyr o Sais o hanner cyntaf y seithfed ganrif; gw. ODCC3 1208.
41 y teirbro Fe’u henwir yn 43–4.
42 Cf. GIG X.95 Gŵr meingryf, gorau mangre.
43 y tri Fe’u henwir yng ngweddill y cwpled.
43–4 A’r tri yw’r Waun, y Traean / A’r Deuparth oll … Cyfeirir at dri rhaniad gweinyddol. Roedd y Waun yn rhan o arglwyddiaeth y Waun, a gyffyrddai â ffin ogleddol arglwyddiaeth Croesoswallt. Roedd y Traean a’r Deuparth yn rhaniadau o arglwyddiaeth Croesoswallt (gyda Whittington, a orweddai rhwng y ddau, yn arglwyddiaeth arall), gw. Pratt 1990: 6. Deallodd I. Williams, GGl 364, Waun ac y Traean yn un enw, Waun y Traean (er gwaethaf y fannod o flaen Waun), am ‘Chirk’, ond dau enw sydd yma mewn gwirionedd.
50 cyrn Nid yw’n eglur pa fath o gyrn a olygir. Ai cyrn rhyfel? Os felly, cydgymeriad sydd yma am frwydrau (i ddarostwng y boblogaeth).
58 Nudd Sef Nudd ap Senyllt a oedd, gyda Mordaf ap Serfan a Rhydderch Hael (22n Rhydderch), yn un o ‘Dri Hael’ Ynys Prydain, a chyfeiria’r beirdd ato’n aml fel safon haelioni, gw. TYP3 464–6.
59 Gwalchmai Sef Gwalchmai ap Gwyar, un o farchogion y Brenin Arthur, gw. TYP3 330–1.
60 Gwent filwr Roedd llys Arthur yng Nghaerllion, Gwent.
Llyfryddiaeth
Lewis, S. (1976), ‘Gyrfa Filwrol Guto’r Glyn’, YB IX: 80–99
Pratt, D. (1990), ‘The Marcher Lordship of Chirk, 1329–1330’, TCHSDd 39: 5–41
This is a cywydd of praise to Maredudd ap Hywel. The theme is the unfairness which Guto perceives in King Edward IV’s practice of knighting soldiers of lowly rather than aristocratic background. As an example of the latter, Guto names Maredudd ap Hywel, stressing his valour, generosity and popularity and the other traditional qualities for which the poets praised their patrons, and noting that he has not even received a post or a pension for his service. S. Lewis (1976: 97–8) identifies a link between this and Edward IV’s policy in the Wars of the Roses of sparing the lives of ordinary soldiers but killing every lord as a safeguard against all possible resistance to himself.
Date
The very high incidence of cynghanedd groes is typical of Guto’s late period, and if the poem is his authentic work, it may be suggested that it was composed sometime in the 1480s. That would tally with Maredudd ap Hywel’s age at the time, namely about 50 if one accepts the date of birth proposed for him by Bartrum.
The manuscripts
The poem has been preserved in one manuscript only, LlGC 3051D, associated with Berth-ddu, Arfon, and written c.1579. However, a fragment (lines 41–4) has also been preserved in Thomas Wiliems’s dictionary in Pen 228, dated 1604–8, in the form of a quotation under the Latin word regio. The copy in LlGC 3051D is good but some of the lines are incomplete owing to wear. Those of Pen 228 are to every appearance without fault. It is possible that Wiliems copied his text from LlGC 3051D rather than from a common exemplar, but this cannot be established with certainty. The edited text is based on both these sources.
Previous edition
GGl poem CXXII.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 64 lines.
Cynghanedd: croes 79% (45 lines), traws 5% (3 lines), sain 11% (6 lines), llusg 5% (3 lines). Seven of the lines (17–19, 36–9) have not been analyzed as they are incomplete.
1–2 Ni phery … / … nog ewyn There is no moralizing here (as in the style of Siôn Cent) but the voicing of a complaint, namely that the advantages enjoyed by men who deserve promotion count for nothing in their favour.
6 a … ei A genitival relative clause with a, where today y would be used, see GMW 65; cf. 10, 32.
6 aur ar ei draed A reference to a knight’s golden spurs, see 79.65n; cf. 10n below.
7 y gŵr biau’r goron Either Edward IV, who reigned till 1483 (and cf. Saunders Lewis’s remark referred to above), or Richard III, 1483–5, or Henry VII, 1485–1509.
8 Syr Siôn It is assumed that the poet is not referring to any specific person.
10 aur ar ei frig A reference to the ritual of knighting. This was done by adorning him with a gold collar, see GLl 9.34n.
13 ederyn Maredudd ap Hywel.
14 gwallt o aur Apparently, Maredudd’s light hair; contrast the description of him as a gŵr llwyd in 11: his hair may have started to grey.
16 aerwy rhudd Cf. 22 and GSC 19.8 Ni bo’r war heb aerwy rhudd ‘may his nape not be without a red torque’ (to Lewys Fychan of Churchstoke). rhudd refers to the colour of the aur (10), cf. aur rhudd ‘red gold’, GPC2 536.
20 coler Its meaning is similar to that of aerwy (16, 22).
20 Cuhelyn Probably the same person as the namesake mentioned in 94.47, see Maredudd ap Hywel.
21 awydd a serch The sangiad could refer to Maredudd ap Hywel or to other people’s aspirations for him.
22 aerwy rhudd See 16n.
22 Rhydderch Rhydderch Hael, one of the ‘Three Generous Men’ of the Isle of Britain, see TYP3 493–5; WCD 585–6.
27 marwor Cf. Guto’s description of Siôn ap Madog Pilstwn’s son, 72.61, as Etewyn, marworyn mawr ‘a firebrand, small great ember’.
30 Siason Son of Aeson and heroic leader of the Argonauts in Greek mythology who went in search of the golden fleece of Colchis, see OCD3 793 s.n. Jason. His deeds are related in Welsh in ‘Dares Phrygius’, RB 1–3. He is also named in the triad Tri dyn a gauuas pryt Adaf ‘Three Men who received the Beauty of Adam’, see TYP3 134.
30 Powys isaf It is natural to suppose that the poet is referring to the southern part of Powys, namely Powys Wenwynwyn. However, if Maredudd ap Hywel’s roots were in Cynllaith, which was in Powys Fadog, why is he associated with Powys Wenwynwyn? Either he had gone there to soldier, or else the words signify Cynllaith’s nearness to the southern border of Powys Fadog. I am inclined to think that the latter is meant here.
31 hwyaf Maredudd ap Hywel was physically large, cf. 53 Arthur a chawr wrth rai chwyrn.
36 Tanad A river that formed part of the border between Powys Fadog and Powys Wenwynwyn.
37 dir traws Because the line is incomplete, it is difficult to know with which word traws should be understood. It is more usual in relation to a person, and traws ydiw ef may form a clause.
40 tref Oswallt Oswestry. It was named after Oswald, the English king and martyr from the first half of the seventh century; see ODCC3 1208.
41 y teirbro They are named in 43–4.
42 Cf. GIG X.95 Gŵr meingryf, gorau mangre ‘slender strong man, best spot’, IGP 10.95.
43 y tri They are named in the remainder of the couplet.
43–4 A’r tri yw’r Waun, y Traean / A’r Deuparth oll … A reference to three administrative divisions. Y Waun was part of the lordship of Chirk, which touched the northern border of the lordship of Oswestry. Y Traean a’r Deuparth (Duparts) were divisions of the lordship of Oswestry (with Whittington, which lay between the two, being another lordship), see Pratt 1990: 6. I. Williams, GGl 364, took Waun and y Traean to be one name, Waun y Traean (in spite of the article before Waun), but in fact there are two names here.
50 cyrn It is not clear what kind of horns are meant. Battle horns? If so, we have here a case of synecdoche for battles (to subjugate the population).
58 Nudd Nudd ap Senyllt who, with Mordaf ap Serfan and Rhydderch Hael (22n Rhydderch), was one of the ‘Three Generous Men’ of the Isle of Britain, and frequently cited by the poets as a standard of generosity, see TYP3 464–6.
59 Gwalchmai Gwalchmai ap Gwyar, one of the knights of King Arthur, see TYP3 330–1.
60 Gwent filwr Arthur’s court was at Caerleon, Gwent.
Bibliography
Lewis, S. (1976), ‘Gyrfa Filwrol Guto’r Glyn’, YB IX: 80–99
Pratt, D. (1990), ‘The Marcher Lordship of Chirk, 1329–1330’, TCHSDd 39: 5–41
Mae cywydd mawl Guto i Faredudd ap Hywel (cerdd 95) yn un o ddwy gerdd a ganwyd iddo – eiddo Lewys Glyn Cothi yw’r llall (GLGC cerdd 208).
Bu peth ansicrwydd ynglŷn â phwy ydoedd, ond fe’i disgrifir fel [t]arian a thŵr / Tref Oswallt (95.39–40), a chyson â’r lleoliad daearyddol hwnnw yw’r cyfeiriadau at [B]owys isaf (30), afon [T]anad (36) a’r Waun, y Traean / A’r Deuparth (43–4). Roedd ganddo hefyd gyndad o’r enw Cuhelyn (20). Yn yr achau rhestrir gŵr o’r enw Maredudd ap Hywel a ddisgynnai o Guhelyn ap Rhun ac a oedd yn perthyn yn agos i nifer fawr o noddwyr Guto (gw. isod). Cysylltid ei deulu â chwmwd Cynllaith yn arglwyddiaeth y Waun. Gan fod y manylion hyn yn gyson ag eiddo’r gerdd, cynigir mai’r Maredudd ap Hywel hwn a noddodd y gerdd, a gwrthodir awgrym Ifor Williams (GGl 364) mai tad Hywel ap Maredudd ap Hywel ydyw, gŵr a enwir mewn rhestr o ddynion a warchodwyd trwy Ddeddf Adfeddiannu (‘Act of Resumption’) 1464–5 (Evans 1995: 93).
Canodd Gruffudd Hiraethog gywydd mawl i Siôn Edward o Groesoswallt (GGH cerdd 40), a oedd yn fab i ŵr o’r enw Maredudd ap Hywel. Roedd y Maredudd hwnnw’n fab i gyfyrder y Maredudd isod, sef Hywel ap Gruffudd ab Ieuan Fychan, brawd i Ddafydd Llwyd ap Gruffudd o Abertanad. Mae’n annhebygol mai’r Maredudd ap Hywel hwnnw a folwyd gan Guto gan yr ymddengys ei fod yn ei flodau yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg.
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 7, 8, 9, 10, 11, ‘Tudur Trefor’ 14; WG2 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 11 A1, A3, ‘Ireland’, ‘Tudur Trefor’ 14 C1. Dangosir mewn print trwm y rheini a enwir yng nghywydd Guto i Faredudd, a thanlinellir enwau ei noddwyr.
Achres Maredudd ap Hywel o Groesoswallt
Yn ogystal â Mabli a Chatrin, roedd gan Faredudd chwiorydd a brodyr eraill, sef Dafydd Llwyd, Hywel Fychan, Ieuan, Llywelyn, Gruffudd a Myfanwy. Gwelir bod Maredudd yn perthyn i nifer o noddwyr Guto. Roedd yn nai i Sieffrai Cyffin o Groesoswallt, ac roedd ei dad yn gefnder i Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch ac i Ddafydd Cyffin o Langedwyn. At hynny, roedd yn frawd yng nghyfraith i Otwel, mab i Siôn Trefor o Fryncunallt. Er na ddangosir hynny yn yr achres, roedd Maredudd yn gyfyrder i Ddafydd Llwyd o Abertanad, gan fod ei dad ef, Gruffudd, yn fab i Ieuan Fychan ab Ieuan Gethin.
Ei yrfa
Ymddengys fod Maredudd wedi ymgartrefu yn nhref Croesoswallt. Ceir ei enw (meredith ap holl’) yn yr unfed safle ar ddeg ar restr hir o fwrdeisiaid Croesoswallt a luniwyd ar gais beilïaid y dref yn 1546, ynghyd â’i dad, Hywel ap Morus, ei frawd, Hywel Fychan ap Hywel, ei ewythrod, Sieffrai Cyffin a Rhys ap Morus, ei dad yng nghyfraith, Richard Ireland, a’i frodyr yng nghyfraith, Tomas Ireland a Robert Ireland (Archifdy Croesoswallt, OB/A12). Ymddengys fod y rhestr yn gofnod dethol o brif fwrdeisiaid y dref rhwng c.1450 a 1546, a’r tebyg yw ei bod yn seiliedig ar restrau a luniwyd mewn cyfnodau cynharach. Gwelir oddi wrth achresi P.C. Bartrum fod nifer fawr o’r bwrdeisiaid hyn yn perthyn i’w gilydd drwy waed neu briodas, ac mae’r rhestr yn dystiolaeth werthfawr i’r cysylltiadau a sefydlwyd rhwng teuluoedd mawr Cymreig a Seisnig y gororau ac a fu’n sail i ffyniant tref Croesoswallt yn y cyfnod hwn. Ceir enw Guto ar y rhestr hefyd, ynghyd â Thudur Aled (gw. cerdd 102 (esboniadol)).
Yn Pryce-Jones (2001: 32) enwir Meredith ap Howell fel un o feilïaid Croesoswallt yn 1463, 1482 ac 1503. Nid yw’n eglur ai’r un gŵr a enwir yn y tri chofnod, ond mae hynny’n debygol.
Llyfryddiaeth
Evans, H.T. (1995), Wales and the Wars of the Roses (second ed., Stroud)
Pryce-Jones, J. (2001), ‘Oswestry Corporation Records – the Bailiffs from Medieval Times to 1673’, Shropshire History and Archaeology: Transactions of the Shropshire Archaeological and Historical Society, lxxvi: 30–9