Chwilio uwch
 

Maredudd ap Hywel o Groesoswallt, fl. c.1463–1503

Mae cywydd mawl Guto i Faredudd ap Hywel (cerdd 95) yn un o ddwy gerdd a ganwyd iddo – eiddo Lewys Glyn Cothi yw’r llall (GLGC cerdd 208).

Bu peth ansicrwydd ynglŷn â phwy ydoedd, ond fe’i disgrifir fel [t]arian a thŵr / Tref Oswallt (95.39–40), a chyson â’r lleoliad daearyddol hwnnw yw’r cyfeiriadau at [B]owys isaf (30), afon [T]anad (36) a’r Waun, y Traean / A’r Deuparth (43–4). Roedd ganddo hefyd gyndad o’r enw Cuhelyn (20). Yn yr achau rhestrir gŵr o’r enw Maredudd ap Hywel a ddisgynnai o Guhelyn ap Rhun ac a oedd yn perthyn yn agos i nifer fawr o noddwyr Guto (gw. isod). Cysylltid ei deulu â chwmwd Cynllaith yn arglwyddiaeth y Waun. Gan fod y manylion hyn yn gyson ag eiddo’r gerdd, cynigir mai’r Maredudd ap Hywel hwn a noddodd y gerdd, a gwrthodir awgrym Ifor Williams (GGl 364) mai tad Hywel ap Maredudd ap Hywel ydyw, gŵr a enwir mewn rhestr o ddynion a warchodwyd trwy Ddeddf Adfeddiannu (‘Act of Resumption’) 1464–5 (Evans 1995: 93).

Canodd Gruffudd Hiraethog gywydd mawl i Siôn Edward o Groesoswallt (GGH cerdd 40), a oedd yn fab i ŵr o’r enw Maredudd ap Hywel. Roedd y Maredudd hwnnw’n fab i gyfyrder y Maredudd isod, sef Hywel ap Gruffudd ab Ieuan Fychan, brawd i Ddafydd Llwyd ap Gruffudd o Abertanad. Mae’n annhebygol mai’r Maredudd ap Hywel hwnnw a folwyd gan Guto gan yr ymddengys ei fod yn ei flodau yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg.

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 7, 8, 9, 10, 11, ‘Tudur Trefor’ 14; WG2 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 11 A1, A3, ‘Ireland’, ‘Tudur Trefor’ 14 C1. Dangosir mewn print trwm y rheini a enwir yng nghywydd Guto i Faredudd, a thanlinellir enwau ei noddwyr.

stema
Achres Maredudd ap Hywel o Groesoswallt

Yn ogystal â Mabli a Chatrin, roedd gan Faredudd chwiorydd a brodyr eraill, sef Dafydd Llwyd, Hywel Fychan, Ieuan, Llywelyn, Gruffudd a Myfanwy. Gwelir bod Maredudd yn perthyn i nifer o noddwyr Guto. Roedd yn nai i Sieffrai Cyffin o Groesoswallt, ac roedd ei dad yn gefnder i Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch ac i Ddafydd Cyffin o Langedwyn. At hynny, roedd yn frawd yng nghyfraith i Otwel, mab i Siôn Trefor o Fryncunallt. Er na ddangosir hynny yn yr achres, roedd Maredudd yn gyfyrder i Ddafydd Llwyd o Abertanad, gan fod ei dad ef, Gruffudd, yn fab i Ieuan Fychan ab Ieuan Gethin.

Ei yrfa
Ymddengys fod Maredudd wedi ymgartrefu yn nhref Croesoswallt. Ceir ei enw (meredith ap holl’) yn yr unfed safle ar ddeg ar restr hir o fwrdeisiaid Croesoswallt a luniwyd ar gais beilïaid y dref yn 1546, ynghyd â’i dad, Hywel ap Morus, ei frawd, Hywel Fychan ap Hywel, ei ewythrod, Sieffrai Cyffin a Rhys ap Morus, ei dad yng nghyfraith, Richard Ireland, a’i frodyr yng nghyfraith, Tomas Ireland a Robert Ireland (Archifdy Croesoswallt, OB/A12). Ymddengys fod y rhestr yn gofnod dethol o brif fwrdeisiaid y dref rhwng c.1450 a 1546, a’r tebyg yw ei bod yn seiliedig ar restrau a luniwyd mewn cyfnodau cynharach. Gwelir oddi wrth achresi P.C. Bartrum fod nifer fawr o’r bwrdeisiaid hyn yn perthyn i’w gilydd drwy waed neu briodas, ac mae’r rhestr yn dystiolaeth werthfawr i’r cysylltiadau a sefydlwyd rhwng teuluoedd mawr Cymreig a Seisnig y gororau ac a fu’n sail i ffyniant tref Croesoswallt yn y cyfnod hwn. Ceir enw Guto ar y rhestr hefyd, ynghyd â Thudur Aled (gw. cerdd 102 (esboniadol)).

Yn Pryce-Jones (2001: 32) enwir Meredith ap Howell fel un o feilïaid Croesoswallt yn 1463, 1482 ac 1503. Nid yw’n eglur ai’r un gŵr a enwir yn y tri chofnod, ond mae hynny’n debygol.

Llyfryddiaeth
Evans, H.T. (1995), Wales and the Wars of the Roses (second ed., Stroud)
Pryce-Jones, J. (2001), ‘Oswestry Corporation Records – the Bailiffs from Medieval Times to 1673’, Shropshire History and Archaeology: Transactions of the Shropshire Archaeological and Historical Society, lxxvi: 30–9