Y llawysgrifau
Dim ond dau gopi o’r gerdd hon sy’n hysbys, sef eiddo LlGC 1553A a Pen 81. Mae’r ddau gopi’n cynrychioli dau fersiwn o’r gerdd, i bob diben, ac ni ellir dadlau bod yr un o’r ddau’n rhagori ar y llall. Mae’n sicr na ellir sefydlu testun boddhaol o’r gerdd ar sail tystiolaeth un llawysgrif yn unig gan fod gan y naill ddarlleniadau sy’n eglur ddiffygiol yn llinellau 1, 5, 6, 12, 16, 17, 21, 22, 25 a 26 a’r llall yn yr un modd yn llinellau 4, 8, 10, 11, 21, 23, 29 a 32 (gw. y nodiadau). Gwallau ysgrifennu esgeulus yw’r rhan fwyaf ohonynt, ond mae rhai’n ymgeision amlwg i newid y testun yn wyneb naill ai ddiffyg dealltwriaeth o ddarlleniad mewn ffynhonnell goll neu ddiffyg yn y cof. At hynny, collwyd y seithfed englyn, na cheir lle i amau ei ddilysrwydd (gw. 25–8n), o destun Pen 81 a daw’r pumed englyn o flaen y pedwerydd englyn yn y llawysgrif honno. Mae’n eglur mai’r drefn a welir yn LlGC 1553A yw’r un gywir gan fod cyfeiriad at yr Abad Dafydd ar ddiwedd y pumed englyn ac ar ddechrau’r chweched (20–1). Lle ceir anghytundeb yn y llawysgrifau ynghylch ffurf gair, dilynir y ffurf a geir yn y cofnod ar ei gyfer yn GPC er hwylustod.
Trawsysgrifiadau: LlGC 1553A a Pen 81.
Teitl
Ni cheir teitl wrth y gerdd hon yn y llawysgrifau, felly dilynir teitl cerdd debyg 121. Gelwir y rhodd yn fantell (15), toryn (23 a 29), hws (25) a ffaling (32), a defnyddir yr olaf gan ei fod yn fwy penodol, o bosibl, na’r lleill.
1 gwylliad Gthg. LlGC 1553A gwiliad. Mae gwiliad neu gwyliad yn bosibl, ond cf. 1n grym eirchiad.
1 grym eirchiad Gthg. camgopïo yn LlGC 1553A grymeichiad. Cf. 1n gwylliad.
1 gorau LlGC 1553A gore (ond cf. 12 geillie a 13 wefle).
2 ac i gont yn Gthg. LlGC 1553A i gonte oedd. Rhydd ystyr dderbyniol, ond dilynir Pen 81 ar sail ei darlleniadau cywir yn y llinell gyntaf.
3 gostwng Cf. ffurf amrywiol ar y gair yn Pen 81 gestwng (gw. GPC 1515 d.g. gostyngaf).
4 greithiog Gthg. Pen 81 grythor, lle ailgopiwyd y gair o ddechrau’r llinell.
5 rhoes Dilynir y cywiriad a geir yn Pen 81 rross rroes. Gthg. LlGC 1553A rhos. Bernir mai rroes a geid yn y gynsail a’i fod yn edrych yn debyg iawn i rross.
5 fannog – warlle’ Dilynir darlleniad anos Pen 81. Gthg. LlGC 1553A fownog oerl[ ]yd. Bernir mai ailwampiad ydyw yn sgil darllen rhos yn gynharach (gw. 5n rhoes). Byddai oerllyd yn odli â gwerllyd yn yr ail linell ac yn chwithig, fe dybir. Er nad yw ystyr darlleniad Pen 81 warlle yn gwbl eglur, cynigir gwar-, ffurf amrywiol ar gor- (gw. GPC 1459 d.g. gor-), + lle’, ffurf lafar ar llef (er gwaethaf y ffaith na cheir gorllef yn GPC).
6 chigog Cf. camgopïo yn LlGC 1553A rhigog.
7 is Gthg. LlGC 1553A fal, a ymddengys yn ddarlleniad gwell ar yr olwg gyntaf gan ei fod yn cymharu coesau Rhys â chadwyni tenau’r og. Ond a chymryd [b]annog (5) i olygu ‘corniog’ mae’n debygol iawn mai cymharu Rhys ag anifail gwaith a wneir, megis ych, a dynnai’r og. Er mai defnydd cadarnhaol a wneid o ych wrth foli uchelwr gan amlaf, diau y gellid ei ddefnyddio er mwyn dychan hefyd mewn cyd-destun gwahanol fel hwn (cf. 25 gul amws).
8 wyd Fe’i collwyd o destun Pen 81.
9 gŵn Cf. LlGC 1553A gown. Yr un yw’r ystyr (gw. GPC 1517 d.g. gown). Dilynir Pen 81 er hwylustod.
9 ceiliog Cf. LlGC 1553A keliog, sef naill ai gwall copïo neu ffurf dafodieithol ar y gair a glywir heddiw yn y gogledd-ddwyrain a’r canolbarth (gw. Thomas a Thomas 1989: 103).
10 i Gthg. Pen 81 a. Ceir gwell synnwyr yn narlleniad y golygiad.
11 blaidd Gthg. Pen 81 blaid, sef plaid ‘pared o wiail plethedig’ (gw. GPC 2815 d.g. (a)), a allai fod yn ddisgrifiad o ddillad Rhys, ond nid ymddengys gwrid blaid ‘pared cochni’ yn synhwyrol.
11 gurad Cf. Pen 81 gwirad, y dylid ei ddiwygio’n giwrad, sef ffurf amrywiol ar yr un gair (gw. GPC 630 d.g. curad1).
11 eb Cf. Pen 81 heb. Dilynir darlleniad LlGC 1553A er mwyn osgoi caledu -d ar ddiwedd y gair blaenorol.
12 gwaell Gthg. LlGC 1553A gwall. Ceir gwaell neidr ‘gwas y neidr’ yn GPC 1550 d.g. gwäell.
12 geillie Derbynnir y ffurf a geir yn y ddwy lawysgrif.
13 wefle Derbynnir y ffurf a geir yn y ddwy lawysgrif.
13 eb Gthg. Pen 81 drwy r. Ceir gwell ystyr yn narlleniad y golygiad.
16 Onis cai, trig yn was cog Gthg. LlGC 1553A ag onis kei trig yn was kog, sydd sillaf yn rhy hir.
17 dy dynn Gthg. LlGC 1553A dwg hynt, sy’n amlwg yn ddiwygiad (gw. 17n Ruthun). Er nad yw’r ystyr yn gwbl foddhaol ymddengys mai ‘dy dyniad’ a olygir (gw. GPC 3678 d.g. tyn1 fel enw), hynny yw, i fro’r fynachlog (18). Posibilrwydd arall llai tebygol yw mai berf orchmynnol a geir yma, sef dy- (rhagddodiad cryfhaol, gw. ibid. 1112 d.g. dy-1) + tynnu ‘cyrchu, ymestyn (tua)’ (gw. ibid. 3680 d.g. tynnaf1 (d)), ond ni cheir dydynnaf yn GPC.
17 Ruthun Gthg. LlGC 1553A rythynt, er mwyn odli â hynt (gw. 17n dy dynn).
21 dan Gthg. LlGC 1553A tad. Dilynir darlleniad anos Pen 81, sef teitl crefyddol nas nodir yn GPC. Gw. OED Online s.v. Dan, n.1 ‘An honourable title = Master, Sir’, (a) ‘used in addressing or speaking of members of the religious orders’. Cf. Iorwerth Fynglwyd mewn cywydd i Abad Dafydd o Fargam, GIF 22.57–8 Dewi Sant, gorau dau sydd / dan Dduw ef, a dan Ddafydd, a chywydd i ŵr crefyddol yn BL Cotton Domitian A.iv, 242r dan davydd or defnydd da, 242v dan ddavyd ben llywydd llys ac os kaf gan y dan ddavydd.
21 a rydd Gthg. Pen 81 ai rrydd, nad yw’n rhoi ystyr foddhaol.
21 rieddog Dilynir darlleniad Pen 81 rrieddog, ond fe’i treiglir er mwyn sicrhau cynghanedd gref, fel y gwneir gyda gair gwahanol yn LlGC 1553A rwyddog. Llinell nawsill a geir yn y llawysgrif honno.
22 weirglodd Cf. LlGC 1553A wyrgodd, sef camgopïad o wyrglodd, a geir mewn rhai enghreifftiau yn GPC (1622 d.g. gweirglodd) er nas nodir fel ffurf amrywiol ar y gair.
22 gedenog Cf. LlGC 1553A gydenog, a nodir fel ffurf ar y gair yn GPC 445 d.g. cedenog.
23 hyd tyrnau’r hog Gthg. Pen 81 wyr trwyn yr og. Ceir [t]rwyn yn y llinell nesaf ac annisgwyl iawn fyddai ei gael yma hefyd. At hynny nid yw ystyr wyr yn eglur (gŵyr, o bosibl, sef ‘tro’, gw. GPC 1781 d.g. gŵyr1 fel enw). Er nad yw ystyr tyrnau’r hog yn gwbl eglur (gw. y nodiadau esboniadol) ymddengys yn ddarlleniad anos. Gall fod darlleniad Pen 81 wedi ei ddylanwadu gan yr og yn llinell 7.
25–8 Ni cheir yr englyn hwn yn Pen 81. O ran ei ddilysrwydd, ni cheir dim ynddo sy’n anghydnaws â gweddill y gerdd ac mae 26 Maenan yn ategu’r hyn a geir yn 17–18 o Ruthun i Hiraethog – fry / Ac i fro’r fynachlog.
25 fynni Gthg. LlGC 1553A fynaai (gw. 25–8n). Gellid a fynna neu a fynnai, ond fe’i diwygir am mai yn yr ail berson y cyferchir Rhys gydol y gerdd.
26 Faesbrog Cf. camgopïad LlGC 1553A faelbrog.
29 batsler Diwygir camgopïad Pen 81 bastler. Ceir ffurf ar yr un gair yn LlGC 1553A baedsler (gw. GPC2 601 d.g. batsler).
29–30 cai glwyd / Rhag annwyd rhew gwnnog Gthg. darlleniad cwbl wahanol Pen 81 ai rrydd / o wr rrwydd kalonnog. Rhydd y ddau ddarlleniad synnwyr boddhaol, ond tybed a ddylanwadwyd ar eiddo Pen 81 gan linell 21 a rydd? Gellid ystyried o wr rrwydd yn ymgais ddigon diawen i greu cynghanedd yn y cyrch.
31 llei Gthg. LlGC 1553A kynn. Ceir gwell ystyr yn narlleniad y golygiad.
32 drwyn Gthg. y ffurf gysefin yn Pen 81 trwyn. Mae angen y ffurf dreigledig.
32 cyffylog Cf. Pen 81 keffylog, a nodir fel ffurf ar y gair yn GPC 734 d.g. cyffylog.
Llyfryddiaeth
Thomas, B. a Thomas, P.W. (1989), Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg … Cyflwyno’r Tafodieithoedd (Caerdydd)
Cyfres o englynion yw’r gerdd hon a ganwyd i annog Rhys Grythor i ofyn mantell gain gan yr Abad Dafydd o abaty Sistersiaidd Maenan yn Nyffryn Conwy. Ar ei hawduraeth ansicr, gw. y nodyn isod. Dychenir Rhys yn fasweddus a gwawdir ei ddillad gwachul yn y pedwar englyn agoriadol (llinellau 1–16). Creir darlun ohono fel truan tenau, rhynllyd nad yw ei ŵn na’i gôt yn ddigon hir i orchuddio ei goesau. Yn llinell 15 fe’i hanogir i ofyn mantell newydd, a dywed y bardd mai gan abad Maenan y’i caiff. Ceir mawl i’r Abad Dafydd yn y ddau englyn nesaf ynghyd â dychan eto i’r crythor (17–24) a barheir hyd ddiwedd y gerdd (25–32). Mewn mannau yn y tri englyn olaf molir y rhodd ei hun, gan ei disgrifio fel [g]weirglodd gedenog (22), hws … glymog (25), tŷ gwlân (27) a [ch]lwyd (29). Mae’n debygol mai ffaling yw’r gair sy’n disgrifio orau yr hyn y gofynnir amdano, sef mantell Wyddelig a oedd yn boblogaidd iawn yn ystod y bymthegfed ganrif (gw. 32n ffaling).
Cerdd debyg yw hon mewn llawer ystyr i gerdd 121. Cyfres o englynion unodl yw’r ddau lle dychenir crythorion ynghylch rhodd gan uchelwyr nodedig. Yn ôl Huws (1998: 73), ‘Bron na ellir ystyried cywyddau’r beirdd i’w cyd-gerddorion yn genre ar ei ben ei hun, gan mor wahanol ydynt o ran cywair i’r canu mwy ffurfiol.’ Y gwahaniaeth pennaf rhwng y ddwy gerdd yw mai uchelwr secwlar yw Tudur Aled a rydd ddagr i Hywel Grythor, tra mai gŵr crefyddol yw’r Abad Dafydd a rydd fantell i Rys Grythor. At hynny, mae’r dychan yn y gerdd hon i Rys yn llawer mwy cignoeth na’r dychan i Hywel, efallai am fod y gwrthgyferbyniad rhwng distadledd y crythor a dwyfoldeb yr abad yn amlycach.
Awduraeth
Mewn dwy lawysgrif yn unig y diogelwyd y gerdd hon, ac fe’i priodolir i Dudur Aled yn y naill (Pen 81) ac i Guto yn y llall (LlGC 1553A). Os cywir uniaethu’r Abad Dafydd â Dafydd ab Owain gwelir bod gan y ddau fardd gyswllt ag ef. Gan Dudur yr oedd y cyswllt amlycaf gan iddo ganu naw o gerddi iddo, mwy nac unrhyw fardd arall, ond fe’i molwyd gan Guto hefyd mewn cywydd (cerdd 115) a ganodd iddo ef ac i’r Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes pan oedd Dafydd ab Owain yn abad abaty Ystrad Marchell. Ceir ansicrwydd ynghylch dyddiadau abadaeth Dafydd ym Maenan (o bosibl rhwng naill ai 1490/1 neu 1501 a 1513) ac mae’n bosibl fod Guto’n fyw, yn ogystal â Thudur, pan oedd yn abad yno. Ceir y cyfeiriad cynharaf at Rys Grythor yn 1499, ond mae’n eglur ei fod wedi ennill ei blwyf fel cerddor cyn y flwyddyn honno. O safbwynt estheteg nid yw Guto na Thudur yn enwog am y math o ganu maswedd a welir yn y gerdd hon. Ychydig iawn o ddychan a geir gan Dudur yn gyffredinol, ac ni ddaethpwyd o hyd i enghraifft o ddychan masweddus ganddo. Prin yw’r enghreifftiau yng ngwaith Guto yntau, ond sylwer y perthyn yr englynion (cerdd 46) a ganodd i Ieuan ap Tudur Penllyn i genre maswedd. Yr esboniad amlycaf i broblem awduraeth y gerdd a drafodir yma yw ei bod yn ddienw yn y gynsail, a bod copïwyr diweddarach wedi ei thadogi ar Dudur a Guto yn sgil enwogrwydd eu canu i abadau. Nid yw’n gwbl amhosibl mai Tudur neu Guto a’i canodd, ond mae’r un mor bosibl mai gwaith bardd arall ydyw.
Dyddiad
A chymryd bod Rhys Grythor yn ei flodau yn ystod degawdau olaf y bymthegfed ganrif a degawdau cyntaf y ganrif nesaf, y tebyg yw bod y gerdd hon yn perthyn i’r un cyfnod. Os cywir uniaethu’r Abad Dafydd â Dafydd ab Owain, canwyd y gerdd yn ystod ei abadaeth yn abaty Maenan, sef naill ai rhwng 1490/1 neu 1501 a 1513, neu rhwng c.1503 a 1513.
Golygiad blaenorol
CTC 78 (cerdd 34).
Mesur a chynghanedd
Wyth englyn unodl union, 32 llinell.
Cynghanedd (ceir gweddill o 1%): croes 33% (8 llinell), traws 33% (8 llinell), sain 33% (8 llinell), dim llusg. Ni chynhwysir y cyrch yn y canrannau uchod, lle ceir cyfatebiaeth gytseiniol rhwng y gair cyrch a dechrau’r ail linell ym mhob englyn ac eithrio’r trydydd, y pedwerydd a’r olaf, lle ceir cynghanedd sain (9–10, 13–14, 29–30). Canwyd pob englyn ar y brifodl -og. William Middleton (fl. 1550–1600), yn ôl CD 297, oedd y cyntaf i nodi mai cyfres o englynion unodl oedd gosteg, yn hytrach nac unrhyw gyfres o englynion, boed yn unodl ai peidio, fel y’i deellid o’r blaen. Ceir cynghanedd sain yn llinell gyntaf pob englyn ac eithrio’r olaf, lle ceir cynghanedd draws (yn ôl y disgwyl, gw. ibid. 276), yn ogystal â chynganeddion cytsain yn eu hesgyll ac eithrio llinell 15. At hynny ceir cymeriad llythrennol neu lafarog (cymeriad geiriol yn bennaf) ymron ym mhob englyn.
1 grym Fe’i deellir fel ansoddair (cf. 19 ŵr grym), ond gall mai enw ydyw, ‘nerth, gallu’ (gw. GPC 1539–40).
1 eirchiad Gall fod Rhys eisoes wedi gofyn am y rhodd, ond gthg. 15 arch fantell. Mae’n fwy tebygol mai’r hyn a olygir yw bod Rhys wedi hen arfer â gofyn i uchelwyr am roddion a’i fod, yn llygaid rhai, yn dipyn o gardotyn.
3 fal gast ynghrog Nid ‘gast yn crogi’ yn llythrennol eithr ‘gast ag arni dennyn’, ‘gast wedi ei darostwng’.
3–4 Rhys … / … Grythor Rhys Grythor, y sawl a ddychenir yn y gerdd hon ac sy’n derbyn y rhodd.
5 pedrain Gw. GPC 2708 ‘rhan ôl (ceffyl), crwper’.
5 Rhys fain Cf. enw’r crythor ar restr Gutun Owain o wŷr wrth gerdd, Rys Grythor Vain (gw. Rhys Grythor).
5 rhoes fannog – warlle’ ‘Rhoes floedd fawr, gorniog’. Cyfeirir naill ai at Rys neu at ei bedrain ‘rhan ôl’ (gw. 5n pedrain).
5 bannog A chymryd y cymherir Rhys ag anifail a dynnai og yn yr englyn hwn, deellir ‘corniog’ yma, er nad yw ‘llinell o farddoniaeth’ yn amhosibl (gw. GPC2 575 d.g. (b) fel ansoddair ac enw). Nid ymddengys ‘uchel, aruchel, dyrchafedig’ yn berthnasol (gw. ibid. (a)).
6 Nid gwerllyd na chigog Cyfeirir at goesau neu ben-ôl tenau Rhys (gw. 5n pedrain).
7 dwydid ‘Dwy gadwyn’ (gw. GPC 3497 d.g. tid). Nid ‘dwyfoldeb, duwdod’ (gw. ibid. 1107 d.g. dwydid).
9 ceiliog – y drycin Yr enghraifft gynharaf, fe dybir, o’r cyfuniad hwn, sef ‘ceiliog y gwynt’ (gw. GPC 451 d.g. ceiliog). Sylwer bod drycin yn enw gwrywaidd yma (gw. ibid. 1090 d.g. lle’i rhestrir fel ‘eb.g.’; fe’i diwygiwyd yn CTC 78 y ddrycin).
10 baldog Gw. GPC2 566 d.g. baldog2 ‘math o got fer neu siaced a wisgid gan ddynion yn y 14g. a’r 15g.’. Enghraifft o 1599 yn unig a nodir yno.
12 gwaell neidr Gw. GPC 1550 d.g. gwäell ‘dragon-fly’. O 1547 y daw’r enghraifft gynharaf o’r cyfuniad a nodir yno. Unsill yw gwaell yma.
13 bidog – eb wain Gall fod islais o ddychan rhywiol yn y disgrifiad hwn.
15 cyllell geilliog Disgrifiad digrif o Rys fel truan tenau, ond gall hefyd fod y bardd yn cyfeirio at fath arbennig o gyllell, sef ‘bollock knife/dagger’ y ceir y cyfeiriad cynharaf ato c.1400 yn OED Online s.v. bollock (gw. Peterson 1968: 27–9).
17 o Ruthun i Hiraethog Cyfeirir at dref neu arglwyddiaeth Rhuthun yng nghwmwd Dogfeiling yn Nyffryn Clwyd, a ystyrid weithiau’n gwmwd ar ei ben ei hun (gw. WATU 190 a 265; CLC2 645), ac at ucheldir Hiraethog i’r gorllewin o’r dref honno (gw. WATU 91–2; cf. ibid. 263). Anogir Rhys i gyrchu abaty Maenan (gw. 26n) o Ruthun drwy groesi mynydd-dir Hiraethog. Cf. 26n O Faenan i Faesbrog.
18 bro’r fynachlog Sef yr ardal o amgylch abaty Maenan (gw. 26n) yn Nyffryn Conwy. Gall mai at gwmwd Maenan neu gwmwd Arllechwedd Isaf yng nghantref Arllechwedd y cyfeirir (gw. WATU 148, 238, 319).
21 dan Ni cheir y teitl crefyddol hwn yn GPC ond cynigir ‘meistr’ yn yr aralleiriad. Gw. OED Online s.v. Dan, n.1 ‘An honourable title = Master, Sir’, (a) ‘used in addressing or speaking of members of the religious orders’. Ymhellach, gw. y nodyn testunol ar y gair hwn.
21 Dafydd Sef abad abaty Maenan (gw. 26n), ond nid yw’n gwbl eglur pwy ydyw (gw. Abad Dafydd).
22 gweirglodd gedenog Gw. GPC 1622 d.g. gweirglodd ‘darn o dir isel a gwastad (yn wr. a chlawdd o’i gwmpas) a neilltuir i dyfu gwair’; 445 d.g. cedenog ‘a hirflew garw arno, a’r blew’n tyfu’n dew’. Gall mai trosiad ydyw am y rhodd a roir i Rys, ond gall hefyd mai’r hyn a dyfid ar weirglodd a ddefnyddid i’w chreu a olygir. Cf. disgrifiad Guto o ffaling mewn cywydd a ganodd i ofyn amdani gan Elen ferch Rhobert Pilstwn, 53.56 Dorglwyd o gnwd y weirglodd (ymhellach, gw. 32n ffaling).
23 tyrnau’r hog Nid yw’r ystyr yn gwbl eglur. Gw. GPC 3662 d.g. twrn ‘tro (da, sâl, &c.), gweithred, camp, gorchest; digwyddiad, achlysur; pwl (o salwch, &c.); tro(ad), cylchdroad’; 1881 d.g. hoc2 ‘gwddi, bilwg; math o bladur i dorri eithin neu fieri’. Bernir y cymherir Rhys â bilwg neu bladur denau y gorchuddir ei symudiadau cylchol gan y toryn.
26 O Faenan i Faesbrog Cyfeirir yn gyntaf at abaty Sistersiaidd Maenan yng nghwmwd Maenan yn Nyffryn Conwy a sefydlwyd yn 1186 yn gangen i abaty Ystrad-fflur (gw. Hays 1963; WATU 148; 18n). Roedd gŵr o’r enw Dafydd yn abad yno pan ganwyd y gerdd hon (gw. 21n Dafydd). Cyfeirir yn ail at bentref a elwir Maesbrook heddiw ychydig i’r dwyrain o Lanymynech yn swydd Amwythig (gw. WATU 151; 79.38). Ymddengys mai’r un, yn ei hanfod, yw llwybr y daith y cyfeirir ati yn llinell 17 o Ruthun i Hiraethog (gw. y nodyn).
27 tŷ gwlân Trosiad am y rhodd, ‘tŷ neu fan cysgodol mawr wedi ei wneud o wlân’.
28 yn gribog Gw. GPC 596 ‘a chrest arno’. Ymddengys fod gan y dilledyn gwfl, ond gall hefyd mai dychan sydd yma i Rys (cf. 9 ceiliog – y drycin).
29 batsler cadeiriog Gw. GPC2 601 d.g. batsler (b) ‘baglor’. Mae’n debygol fod yr Abad Dafydd (gw. 21n Dafydd) wedi ennill gradd prifysgol (ond gall hefyd mai cymharu’r rhodd a gaiff Rhys yn syml â gŵn gŵr gradd a wneir). Y tebyg yw bod cadeiriog yn gyfeiriad at awdurdod yr abad ym Maenan (gw. 26n) yn hytrach nac mewn prifysgol.
29 clwyd Gw. GPC 513 d.g. (a) ‘weithiau’n ffig. am amddiffyn, cysgod, gorchudd’. Fe’i deellir yn gyfeiriad at y rhodd, ond gall hefyd mai ‘giât’ neu ‘ddrws’ yr abaty a olygir.
32 ffaling Mantell Wyddelig gain a oedd yn boblogaidd iawn yng Nghymru yn ystod y bymthegfed ganrif. Canodd Guto gywydd gofyn am ffaling (cerdd 53) i Elen ferch Rhobert Pilstwn o’r Llannerch yn Llŷn.
32 trwyn cyffylog Cymherir trwyn Rhys â phig cyffylog (gw. GPC 734 d.g. cyffylog (a) ‘aderyn helwriaeth ymfudol o’r un tylwyth â’r gïach a hynodir gan ei big hir a’i blu amryliw’). Am lun o’r aderyn, gw. DG.net cerdd 53 (nodiadau).
Llyfryddiaeth
Hays, Rh.W. (1963), The History of the Abbey of Aberconway 1186–1537 (Cardiff)
Huws, B.O. (1998), Y Canu Gofyn a Diolch c.1350–c.1630 (Caerdydd)
Peterson, H.L. (1968), Daggers and Fighting Knives of the Western World from the Stone Age until 1900 (New York)
This series of englynion was composed to urge Rhys Grythor to request a fine mantle from Abbot Dafydd of the Cistercian abbey of Maenan in Dyffryn Conwy. On its uncertain authorship, see the note below. In the four opening englynion Rhys is satirized lewdly and his meagre clothing is mocked severely (lines 1–16). He is pictured as a scrawny, shivering wretch whose robe and coat are not long enough to cover his legs. In line 15 he is urged to request a new mantle and is told that he will receive it from the abbot of Maenan. The poet then praises Abbot Dafydd in the next two englynion and makes a further mockery of the crowder (17–24), which continues for the remainder of the poem (25–32). The gift itself is praised occasionally in the last three englynion, and is described as a [g]weirglodd gedenog ‘shaggy meadow’ (22), hws … glymog ‘a knotted covering’ (25), tŷ gwlân ‘a house of wool’ (27) and a [c]lwyd ‘cover’ (29). It seems that ffaling is the word that best describes the gift, namely an Irish mantle which was extremely popular during the fifteenth century (see 32n ffaling).
In many respects this poem is very similar to poem 121. Both are a series of englynion unodl union where crowders are satirized in connection with a gift from a nobleman of note. Huws (1998: 73) has argued that poetry for lowly musicians is so different from formal poetry in terms of tone that it constitutes a separate genre in its own right. The main difference between both poems is that Tudur Aled, who bestowed a gift of a dagger upon Hywel Grythor, is a secular patron, whilst Abbot Dafydd is an ecclesiastic. Furthermore, the satire in this poem composed for Rhys is far more merciless than the satire to Hywel, possibly because there is a marked contrast between the crowder’s lowliness and the abbot’s piousness.
Authorship
This poem has survived in two manuscripts only, and it is attributed to Tudur Aled in one (Pen 81) and to Guto in the other (LlGC 1553A). If the identification of Abbot Dafydd as Dafydd ab Owain is correct, it seems that both poets were associated with him. Tudur was most closely associated with the abbot as he addressed nine poems to him, more than any other poet, yet he was also praised by Guto in a poem (poem 115) composed for both Dafydd ab Owain and Abbot Dafydd ab Ieuan of Valle Crucis, when the first was abbot of Strata Marcella. There is uncertainty concerning the dates of Dafydd’s abbacy at Maenan (possibly either 1490/1 or 1501 to 1513) and Guto, as well as Tudur, may have been alive when he was abbot. The earliest mention of Rhys Grythor occurs in 1499, yet it is obvious that he had long since made his name as a musician by then. In terms of aesthetics, neither Guto nor Tudur are known for the type of lewd satire seen in this poem. Very little satire was composed by Tudur in general and there are no examples of lewd satire in his recognized works. The same is true of Guto, to an extent, yet it is noteworthy that a series of englynion (poem 46) which he composed for Ieuan ap Tudur Penllyn certainly belong to the lewd satire genre. The most likely answer to the problem of authorship is that the poem was nameless in the source, and that later scribes attributed it to Tudur and to Guto due to their renown as poets who praised abbots. It is not wholly impossible that Tudur or Guto composed the poem, yet it is as likely that it is the work of another poet altogether.
Date
Assuming that Rhys Grythor was active during the last decades of the fifteenth century and the first decades of the sixteenth, it is likely that this poem belongs to the same period. If the identification of Abbot Dafydd as Dafydd ab Owain is correct, the poem was composed during his abbacy, either between 1490/1 or 1501 and 1513, or between c.1503 and 1513.
The manuscripts
See the note above on the poem’s authorship.
Previous edition
CTC 78 (poem 34).
Metre and cynghanedd
Eight englynion unodl union, 32 lines.
Cynghanedd (with a remainder of 1%): croes 33% (8 lines), traws 33% (8 lines), sain 33% (8 lines), no llusg. The cynghanedd between the words following the rhyme-word in the first line and the beginning of the second line are not included here, but consonantal cynghanedd is used in every englyn except the third, the fourth and the last, where a cynghanedd sain is used.
1 grym It is understood as an adjective, ‘potent’ (cf. 19 ŵr grym ‘powerful man’), yet it could also be a noun, ‘force, strength’ (see GPC 1539–40).
1 eirchiad ‘Requester’. Rhys may have already requested the gift, but contrast 15 arch fantell ‘request a mantle’. It is more likely that the poet is accusing Rhys of being a dab hand at requesting and that he was, in some people’s opinion, a bit of a miser.
3 fal gast ynghrog Not ‘a bitch hanging’ in a literal sense, but ‘a bitch on a leash’, ‘a subjugated bitch’.
3–4 Rhys … / … Grythor Rhys Grythor, the one who is satirized in this poem and who receives the gift.
5 pedrain See GPC 2708 ‘hindquarters (of horse), crupper’.
5 Rhys fain ‘Thin Rhys’. Cf. the crowder’s name in Gutun Owain’s list of poets and musicians, Rys Grythor Vain (see Rhys Grythor).
5 rhoes fannog – warlle’ ‘He gave a loud, horned shout’. A reference to either Rhys or to his [p]edrain ‘hindquarters’ (see 5n pedrain).
5 bannog ‘Horned’, assuming that Rhys is compared with an animal that could pull a harrow in this englyn, although ‘a line of poetry’ is also possible (see GPC2 575 s.v. (b) as an adjective and as a noun). The meaning ‘high, elevated, exalted’ is not suitable (see ibid. (a)).
6 Nid gwerllyd na chigog The poet is referring to Rhys’s skinny legs or bottom (see 5n pedrain).
7 dwydid ‘Two chains’ (see GPC 3497 s.v. tid). Not ‘divinity, deity’ (see ibid. 1107 s.v. dwydid).
9 ceiliog – y drycin It seems that this is the earliest example of this combination, namely ‘weathercock’ (see GPC 451 s.v. ceiliog). Note that drycin is a masculine noun here (see ibid. 1090 s.v. where both genders are noted; the reading was changed in CTC 78 y ddrycin).
10 baldog See GPC2 566 s.v. baldog2 ‘paltock (short coat or jacket worn by men in the 14c. and 15c.)’. The earliest example in GPC belongs to 1599.
12 gwaell neidr See GPC 1550 s.v. gwäell ‘dragon-fly’. The earliest example of the combination in GPC belongs to 1547. The word gwaell is monosyllabic here.
13 bidog – eb wain ‘A dagger without a sheath’. This description may have an undercurrent of sexual satire.
15 cyllell geilliog ‘Testicled knife’, a humorous description of Rhys as a skinny wretch, yet the poet may also be referring to a specific type of knife, namely a ‘bollock knife/dagger’, which is attested to as early as c.1400 according to OED Online s.v. bollock (see Peterson 1968: 27–9).
17 o Ruthun i Hiraethog The poet is referring to the town or lordship of Ruthin in the commote of Dogfeiling in Dyffryn Clwyd, which was sometimes considered a commote in its own right (see WATU 190 and 265; CLC2 645), and to the highland of Hiraethog to the west of the Ruthin (see WATU 91–2; cf. ibid. 263). Rhys is urged to visit the abbey of Maenan (see 26n) from Ruthin by crossing the uplands of Hiraethog. Cf. 26n O Faenan i Faesbrog ‘from Maenan to Maesbrook’.
18 bro’r fynachlog ‘The monastery’s land’, namely the region surrounding the abbey of Maenan (see 26n) in Dyffryn Conwy. The poet may be referring to the commote of Maenan or the commote of Arllechwedd Isaf in the cantref of Arllechwedd (see WATU 148, 238, 319).
21 dan There is no entry for this ecclesiastic title in GPC, but ‘master’ is used in the translation. See OED Online s.v. Dan, n.1 ‘An honourable title = Master, Sir’, (a) ‘used in addressing or speaking of members of the religious orders’.
21 Dafydd The abbot of Maenan (see 26n), but it is unclear exactly who the poet is referring to (see Abad Dafydd).
22 gweirglodd gedenog See GPC 1622 s.v. gweirglodd ‘(lowland) hay-field, meadow’; 445 s.v. cedenog ‘nappy, shaggy, friezed, fluffy’. It may be a metaphor for Rhys’s gift, yet it is also possible that the poet is referring to the hayfield’s crop, which was used to fashion the mantle itself. Cf. Guto’s description of a ffaling in his request poem to Elen daughter of Rhobert Pilstwn, 53.56 Dorglwyd o gnwd y weirglodd ‘a protective cover made of the crop of a hayfield’ (see further 32n ffaling).
23 tyrnau’r hog The meaning is unclear. See GPC 3662 s.v. twrn ‘(good, bad, &c.) turn, act, feat, exploit; event, occasion; bout (of illness, &c.); a turn(ing), revolution’; 1882 s.v. hoc2 ‘hedging-bill, billhook; kind of scythe for cutting furze or brambles’. Rhys is in all likelihood compared with a billhook or a thin scythe whose rotations are covered by the toryn ‘robe’.
26 O Faenan i Faesbrog A reference first to the Cistercian abbey of Maenan in the commote of Maenan in Dyffryn Conwy, which was founded in 1186 from the abbey of Strata Florida (see Hays 1963; WATU 148; 18n). A man named Dafydd was abbot there when this poem was composed (see 21n Dafydd). The second reference is to a village known today as Maesbrook, a short distance east of Llanymynech in Shropshire (see WATU 151; 79.38). It seems that the same journey, in essence, is described in line 17 o Ruthun i Hiraethog ‘from Ruthin to Hiraethog’ (see the note).
27 tŷ gwlân A metaphor for the gift, ‘a house or large sheltered place made of wool’.
28 yn gribog See GPC 596 ‘with the crest up’. It seems that the mantle had a hood, although the description may also be derisory (cf. 9 ceiliog – y drycin ‘weathercock’).
29 batsler cadeiriog See GPC2 601 s.v. batsler (b) ‘bachelor’. It is likely that Abbot Dafydd (see 21n Dafydd) had received a university degree (although it is also possible that the poet is simply comparing Rhys’s gift with a graduate’s gown). In all likelihood, cadeiriog ‘chaired’ is a reference to the abbot’s authority in Maenan (see 26n), instead of a university.
29 clwyd See GPC 513 s.v. (a) ‘sometimes fig. of protection, cover, defence’. It is understood as a reference to the gift, although the abbey’s ‘gate’ or ‘door’ is also possible.
32 ffaling A fine Irish mantle which was extremely popular in Wales during the fifteenth century. Guto composed a poem to request a ffaling (poem 53) from Elen daughter of Rhobert Pilstwn from Llannerch in Llŷn.
32 trwyn cyffylog Rhys’s nose is compared with ‘a woodcock’s nose’ (see OED Online s.v. woodcock 1 (a) ‘A migratory bird, Scolopax rusticula, allied to the snipe, common in Europe and the British Isles, having a long bill, large eyes, and variegated plumage, and much esteemed as food’). For a picture of the bird, see DG.net poem 53 (notes).
Bibliography
Hays, Rh.W. (1963), The History of the Abbey of Aberconway 1186–1537 (Cardiff)
Huws, B.O. (1998), Y Canu Gofyn a Diolch c.1350–c.1630 (Caerdydd)
Peterson, H.L. (1968), Daggers and Fighting Knives of the Western World from the Stone Age until 1900 (New York)
Gw. Abad Dafydd ab Owain o Ystrad Marchell
Fel y dengys ei enw, enillai Rhys Grythor ei fywoliaeth drwy ganu’r crwth. Ychydig sy’n hysbys amdano. Enwir dau ŵr a allai fod yn Rhys yn rhestr Gutun Owain o wŷr wrth gerdd, y naill yn llaw Gutun ei hun, Rys Grythor Vain, a’r llall gan law ddiweddarach, Rrysyn Grythor (Huws 2004: 83, 87). Y tebyg yw mai’r cyntaf yw’r Rhys a drafodir yma, oherwydd gwneir yn fawr o’i feinder corfforol mewn cyfres o englynion ansicr eu hawduraeth a ganwyd i’w ddychan (cerdd 122). Yn wir, fe’i gelwir yn Rhys fain yn y gerdd honno (122.5). Os ef yw’r gŵr hwn, roedd yn fyw ac yn ennill bywoliaeth fel crythor erbyn 1499, sef dyddiad tebygol llunio’r rhestr wreiddiol gan Gutun (Huws 2004: 81). Fel y nododd Huws (ibid. 83), ceir enw Rys grythor ar restr Gruffudd Hiraethog o raddedigion eisteddfod gyntaf Caerwys, a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf 1523, ac fe’i henwir fel un o’r disgiblion disgyblaidd graddedig (Bowen 1952: 130). Yn dilyn y rhestr fer o’r disgiblion disgyblaidd ceir y nodyn hwn: ond hynny gwrthod i graddio a wnaethant. Camddehonglwyd y nodyn hwnnw yn CTC 328, Miles (1983: 165–6) ac ap Gwilym (1978: 44) fel cyfeiriad at amharodrwydd y beirdd a enwir i dderbyn gradd mor isel. Yr hyn a ddywedir mewn gwirionedd yw bod beirdd eraill wedi ceisio am radd yn yr eisteddfod ond bod yr awdurdodau wedi gwrthod eu graddio. Os yr un yw’r Rhys Grythor a enwir yn 1523 a’r gŵr a enwir gan Gutun, mae’n debygol y byddai’n gymharol hen pan gynhaliwyd yr eisteddfod yng Nghaerwys. Tybed a fyddai’n arferol, chwaethach yn dderbyniol, i ŵr oedrannus dderbyn gradd isel mewn cerdd dafod? Rhaid ystyried y gallai fod mwy nac un Rhys Grythor yn byw ar ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg.
Mae’n sicr fod mwy nac un yn byw pan gynhaliwyd ail eisteddfod Caerwys yn 1567/8, sef Rhys Grythor o Lansannan, Rhys Grythor o Gerrig-y-drudion a Rhys Grythor Hiraethog (Bowen 1952: 133). At yr olaf y cyfeirir yn Jones (1890: 100) ac yn ap Gwilym (1978: 44), sy’n ei uniaethu â’r Rhys Grythor a enwir yn 1523. Nid un o’r tri Rhys hyn a enwir yn y gyfres o englynion uchod gan fod gŵr o’r enw Dafydd yn abad yn abaty Maenan pan y’i canwyd, ac ni bu’r un Dafydd yn abad yno wedi 1513. Nid ef ychwaith, felly, yw’r Rhys Grythor y canodd Wiliam Cynwal gywydd dychan i Siôn Tudur i ofyn amdano (Huws 1998: 73) nac ychwaith yr un a ddychanwyd gan y ddau fardd hynny a chan feirdd eraill yn ystod ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg (yn wahanol i’r hyn a nodir yn CTC 328–9 a Miles 1983: 164–89). Nododd Huws (2004: 83) yr enwir gŵr o’r enw Rhys Grythor mewn cerdd gan Dudur Goch Brydydd a elwir ‘Cywydd tin y glêr’. Enwir dau fardd arall yn y cywydd hwnnw y torrwyd eu henwau gan Gutun Owain ar ei restr yn 1499, sef Tomas Celli a Siôn Cingsiws. Mae’n debygol eu bod yn gyfoeswyr i Rys (rhoir c.1550 fel dyddiad blodeuo Tudur Goch yn ByCy Ar-lein s.n. Gutun Goch Brydydd, ond nodir ansicrwydd), a’r tebyg yw mai’r Rhys a drafodir yma a enwir yng nghywydd Tudur Goch.
Ar sail yr wybodaeth uchod, ynghyd â dyddiadau posibl yr Abad Dafydd ab Owain (yn ôl pob tebyg) y gobeithiai Rhys dderbyn clogyn yn rhodd ganddo, ymddengys fod Rhys yn ei flodau yn negawdau olaf y bymthegfed ganrif a degawdau cyntaf y ganrif nesaf. Ymddengys mai yn Nyffryn Clwyd a’r gororau yr oedd ei gynefin (122.17n a 26n).
Llyfryddiaeth
ap Gwilym, I. (1978), Y Traddodiad Cerddorol yng Nghymru (Abertawe)
Bowen, D.J. (1952), ‘Graddedigion Eisteddfodau Caerwys, 1523 a 1567/8’, LlCy 2: 129–34
Huws, B.O. (1998), Y Canu Gofyn a Diolch c.1350–c.1630 (Caerdydd)
Huws, D. (2004), ‘Rhestr Gutun Owain o Wŷr wrth Gerdd’, Dwned, 10: 79–88
Jones, M.O. (1890), Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig (Caerdydd)
Miles, B.E. (1983), ‘Swyddogaeth a Chelfyddyd y Crythor’ (MA Cymru [Aberystwyth])
Ceir yma nodyn noddwr i’r bardd Tudur Aled gan mai felly y caiff ei drin mewn gosteg o englynion a ganwyd yn sgil rhodd o ddagr a roes i Hywel Grythor (cerdd 121). Fel y gwelir yn y goeden achau isod, roedd Tudur yn perthyn i linach uchelwrol ddigon urddasol. Mae’n annhebygol mai Guto a ganodd y gerdd, ond mae’n werth nodi y gall fod y ddau fardd wedi cyfarfod yn abaty Glyn-y-groes c.1490 pan oedd y naill yn hen iawn a’r llall yn ifanc (Fychan 1983: 59). Ceir cyswllt llawysgrifol rhyngddynt yn achos cerddi 123 ac 124. Ymhellach ar Dudur, gw. DNB Online s.n. Tudur Aled; TA; CLC2 732–3; Fychan 1983.
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 1, 3, ‘Hedd’ 3, 5, ‘Rhys ap Tewdwr’ 1, 4, ‘Tudur Trefor’ 47; WG2 ‘Hedd’ 5F. Ymhellach, gw. Fychan 1983: 69–70. Nodir y rheini a enwir yng ngherdd 121 mewn print trwm.
Achres Tudur Aled ap Rhobert o Iâl
Llyfryddiaeth
Fychan, C. (1983), ‘Tudur Aled: Ailystyried ei Gynefin’, Cylchg LlGC xxiii: 45–74