Chwilio uwch
 
20 – Ymryson Guto’r Glyn a Hywel Dafi yn llys Syr Wiliam Herbert
Golygwyd gan Barry J. Lewis


1Mawr yw dysg (yno mae’r da)
2Mwynwyr o wlad Sermania:
3Mynnu o waelod grodir
4Mwyn aur tawdd, a minio’r tir.
5Mae aur ym yn ’y mro iach,
6Oes, ac arian segurach:
7Mae cwarel aur, mae caer lân,
8Greiglwyth i’r gŵr o Raglan.
9Mwy fy rhent lle mae fy rhi
10No’r mwyndir o Normandi,
11A mwy fy nghyflog bob mis
12No dau fwynwr hyd Fenis.
13Syr Wiliam, gwrser olwyn,
14A rôi erioed yr aur ynn.
15Af i Raglan at f’annwyl,
16Aed y traed hyd ataw’r ŵyl.
17Af i lys – nefawl osai –
18Herbart wych: hir y bo’r tai!
19O fewn awr wyf un oroen
20Â Phawl, gweles nef a phoen.
21Gwelaf innau gwal feinin,
22B’radwys Gwent, Bwrdiaws y gwin,
23A phoen herwyr, ffyn hirion;
24I’r rhai ffeils rhôi warae â ffon.
25Troes gŵr rhag treisio gwirion
26Tros Went fal y Pretur Siôn.
27Marchog yw meirch a gwewyr,
28Mwy ei wledd no mil o wŷr.
29Mawr fu ’n Israel gaffaeliad,
30Mwy no dim, Salmon a’i dad;
31Am ynys Went mwy yw’n sôn
32A’r ddau Wiliam urddolion.
33Ni wŷs eisiau ’n y sesiwn
34Ei dad doeth o dywaid hwn.
35Nid cryf i Gaerdyf o daw,
36Nid nerthawg undyn wrthaw.
37Ni aned, myn y nawnef,
38Marchog aur mor wych ag ef,
39Na Syr Gei, na Syr Gawen,
40Na Syr Ffwg, na Syr Raff hen.
41Ei dyrnau a’i gadernyd
42A yrr bw ar wŷr y byd.
43Gadu o’r Iesu rosyn
44A’r glain aur o Raglan ynn!

45Gwawdydd i’r marchog ydwyf
46Ac erioed prydydd gŵr wyf.
47Hywel, un o’r Deheuwyr,
48Hwn ni chân haeach i wŷr,
49Moli merched mal Meirchiawn;
50Moli gwŷr, mwy elw a gawn!
51Ni fawl Hywel ryfelwr
52Na dyn gwych, onid un gŵr;
53Ni chyrch i Wynedd, ni chân,
54Ni threigl unwaith o Raglan.
55Nid saethydd beunydd bennod
56Y dyn ni wŷl ond un nod;
57Y ci ni helio rhag haint
58Onid carw, hwn nid cywraint;
59Nid gŵr heb newid gware;
60Nid llong heb fyned o’i lle;
61Brawd heb gerdded y gwledydd,
62Ei bregeth oferbeth fydd!
63Ai crupl yw acw o’r plas
64Na cherdda (fynych urddas)?
65Ai ancr yw? Pam y câi rodd?
66Os ermid, cafas ormodd.
67Mi a rown dalm o’r ynys
68Er ynnill hwn o’r un llys.
69Gweiddi maent gywyddau mêl
70I’m tuedd am wawd Hywel.
71Och am rai (o chaem ei ran!)
72A’i twyllai o Went allan
73Fal y twyllwyd (wrth fwyd fu)
74Y Sais aeth i lys Iesu!
75Aed y bardd i rodiaw byd,
76Awn innau yno ennyd.
77Eled i Fôn, y wlad fau,
78I Efenni yr af innau.

1Mawr yw dysg (yno mae’r budd)
2mwynwyr o wlad yr Almaen:
3tynnu o waelod tir gro
4mwyn aur pur, a mwyngloddio’r tir.
5Mae aur i mi yn fy mro ffyniannus,
6oes, ac arian sy’n llai trafferthus:
7mae chwarel aur, mae caer landeg,
8tomen o graig gan y gŵr o Raglan.
9Mwy yw fy nhaliad lle mae fy arglwydd
10na thir mwyn Normandi,
11a mwy yw fy nghyflog bob mis
12nac unrhyw ddau fwynwr rhwng y fan hyn a Fenis.
13Syr Wiliam, un a chanddo ryfelfarch â phedrain wen,
14a roddai’r aur i ni yn wastad.
15Af i Raglan at fy nghyfaill annwyl,
16boed i’r traed fynd ato adeg yr ŵyl.
17Af i lys – gwin osai nefolaidd –
18Herbert gwych: boed i’r adeiladau sefyll yn hir!
19O fewn awr rwyf mor orfoleddus
20â Paul, gwelodd ef nef a phoenedigaeth.
21Gwelaf innau wal faen
22Bordeaux y gwin, paradwys Gwent,
23a phoenedigaeth herwyr, ffyn hirion;
24i’r rhai ffals byddai’n rhoi gêm â ffon.
25Daeth gŵr i atal treisio pobl ddiniwed
26yn ben ar Went fel y Preutur Siôn.
27Marchog meirch a gwaywffyn ydyw,
28mwy yw ei wledd nag eiddo mil o wŷr.
29Mawr o gaffaeliad fu yn Israel,
30mwy na dim byd arall, Solomon a’i dad;
31mwy yw ein siarad ni am wlad Gwent
32a’r ddau Wiliam urddedig.
33Ni welir eisiau ei dad doeth
34yn y sesiwn os yw hwn yn rhoi barn.
35Os daw i Gaerdydd, nid cryf,
36nid nerthog yw unrhyw ddyn yn ei erbyn.
37Ni aned, myn y naw nef,
38farchog euraid ei wisg mor wych ag ef,
39na Syr Gai, na Syr Gawain,
40na Syr Ffwg, na Syr Raff hen.
41Mae ei sesiynau llys a’i ddiysgogrwydd
42yn gyrru ofn ar bob dyn yn y byd.
43Boed i Iesu adael y rhosyn
44a’r gem aur o Raglan i ni!

45Bardd mawl i’r marchog ydwyf
46a bûm erioed yn brydydd gŵr.
47Hywel, un o wŷr y Deau,
48prin y mae hwn yn canu i wŷr,
49moli merched fel Meirchion;
50moli gwŷr, cawn fwy o elw!
51Nid yw Hywel yn moli rhyfelwr
52na dyn gwych, ac eithrio un gŵr;
53nid yw’n teithio i Wynedd, nid yw’n canu,
54nid yw byth yn teithio o Raglan.
55Nid saethydd targed bob dydd
56yw’r dyn sydd ond yn gweld un targed;
57y ci nad yw’n hela oherwydd rhyw anhwylder
58ond y carw, nid hyfedr yw hwn;
59nid gŵr yw gŵr nad yw’n newid ei gêm;
60nid llong yw llong nad yw’n symud o’i lle;
61brawd crwydrol heb gerdded drwy’r gwledydd,
62peth di-werth fydd ei bregeth!
63Ai crupl yw ef fan draw na all gerdded
64o’r lle (anrhydedd mynych)?
65Ai ancr yw? Pam y câi rodd?
66Os meudwy, cafodd ormod.
67Rhoddwn i ddarn mawr o’r ynys
68er mwyn hudo hwn allan o’r un llys.
69Maen nhw’n gweiddi cywyddau o fêl
70yn fy ngwlad i am foliant Hywel.
71Och am rywrai (o na baem ninnau’n cael ei ran ef!)
72a allai ei hudo allan o Went
73fel yr hudwyd (drwy fwyd y bu hynny)
74y Sais a aeth i lys Iesu!
75Boed i’r bardd fynd i rodio’r byd,
76mi awn innau yno mewn chwinciad.
77Boed iddo fynd i Fôn, fy ngwlad i,
78i Efenni yr af innau.

20 – The bardic dispute between Guto’r Glyn and Hywel Dafi at the court of Sir William Herbert

1Great is the knowledge (that’s where the gain is)
2of miners from the land of Germany:
3fetching out from the depths of the gravelly land
4ore of pure gold, and mining the land.
5There is gold for me in my fruitful land,
6oh yes, and silver too, less hard to get at:
7there is a quarry of gold, there is a pure fortress,
8a mass of stone belonging to the man of Raglan.
9My reward is greater where my lord is
10than all the delightful land of Normandy,
11and my salary is greater every month
12than any two miners between here and Venice.
13It is Sir William, he with the white-rumped charger,
14who has always given us the gold.
15I will go to Raglan to my dear friend,
16let the feet make for him at festival time.
17I will go to the court – heavenly osey wine –
18of magnificent Herbert: long may the buildings stand!
19Within an hour I share the joy
20of St Paul, he saw heaven and the pains.
21I for my part will see the stone wall
22of the Bordeaux of wine, the paradise of Gwent,
23and the pains of outlaws, long rods;
24he would give the false some stick-play.
25A man has come to rule Gwent
26to save the innocent from violence, like Prester John.
27He is a knight of horses and spears,
28his feast is greater than a hundred men’s.
29Solomon and his father, more than any,
30were a great asset in Israel;
31our boast is greater about the land of Gwent
32and the two knighted Williams.
33His wise father’s absence is not felt
34in the session if he should speak.
35If he should come to Cardiff
36none is strong, none is mighty against him.
37Never was born a gilded knight
38who was his equal, by the nine heavens,
39neither Sir Guy, nor Sir Gawain,
40nor Sir Fulk, nor Sir Ralph of old.
41His tourns and his strength of purpose
42strike terror into every man in the world.
43May Jesus leave the rose
44and golden gem of Raglan for us!

45I am praise-poet to the knight,
46and I have always been a praiser of men.
47Hywel, one of the Southerners,
48he sings hardly at all to men,
49praising women like Meirchion;
50praising men, I’d get more reward!
51Hywel doesn’t praise a warrior
52or any fine man, except one;
53he doesn’t go to Gwynedd, he doesn’t sing,
54he doesn’t once leave Raglan.
55No marksman shooting daily at a target
56is the man who sees only one target;
57the dog which only hunts stags
58due to some disorder, is not a skilful one;
59a man who never varies his game is no man;
60a ship which never moves from the spot is no ship;
61a friar who doesn’t wander the lands,
62his sermon is a pointless thing!
63Is he a cripple over there who cannot walk
64from the place (frequent honour)?
65Is he an anchorite? Why then should he get a gift?
66If he’s a hermit, he’s had too much.
67I would give a hefty share of this island
68to lure this man out of this one court.
69In my country they’re bellowing poems of honey
70about Hywel’s praise.
71Oh for someone (if only we could get our hands on his position!)
72who would lure him out of Gwent,
73just as the Englishman who went to Jesus’s court
74was lured away (it was for food)!
75Let the poet go to wander the world,
76I would be there in an instant.
77Let him go to Anglesey, my own country,
78Meanwhile it’s to Gefenni that I’ll be going.

Y llawysgrifau
Cadwyd ymryson Guto’r Glyn a Hywel Dafi mewn 49 o lawysgrifau. Mae’r copïau’n amrywio’n sylweddol ac yn aml nid oes arweiniad clir i’w gael yn y llawysgrifau. Defnyddiwyd y copïau a ganlyn wrth lunio testun y cywydd hwn: LlGC 3056D, LlGC 17114B, LlGC 3051D, Pen 103, C 2.114, Ba (M) 5, Pen 63, Pen 83, BL 14882, Brog I.2, CM 5, C 3.37, CM 27, BL 14971, BL 31061, C 2.68, Brog I.1, LlGC 3057D, J 137, Llst 155, Stowe 959, LlGC 16964A, LlGC 5282B, pum copi Llywelyn Siôn (Llst 134, C 2.630, C 5.44, LlGC 6511B, LlGC 970E) a Llst 55. O’r rhain, mae LlGC 17114B, LlGC 3051D, Pen 103, CM 5, BL 14971 a C 2.68 yn ffurfio grŵp; mae Ba (M) 5, J 137, BL 14882 a LlGC 3057D yn ffurfio grŵp arall; copïau o gynsail gyffredin yw C 3.37 a CM 27; ceir perthynas bosibl rhwng Pen 83 a LlGC 16964A; ac mae pum copi Llywelyn Siôn bron yn unffurf â’i gilydd. Mae’r stema a gynigir yn arbennig o betrus ac ansicr gan yr ymddengys fod cryn groesffrwythloni wedi bod ar waith. Mae’r llawysgrifau nas defnyddiwyd wrth lunio’r golygiad yn tarddu o’r llawysgrifau a ddefnyddiwyd.

Mae dewisiadau GGl yn nodedig o fympwyol yn achos y gerdd hon, ac yn aml penderfynwyd yno ddilyn un copi yn nannedd yr holl gopïau eraill. Nodais ambell enghraifft o hyn isod.

Collwyd 1–42 o Pen 83. Detholiadau yn unig a geir yn Llst 55.

Trawsysgrifiadau: Pen 103, LlGC 3057D, LlGC 17114B, LlGC 3051D, LlGC 3056D, Pen 63.

stema
Stema

1 yw  Ceir y fannod ar ôl y gair hwn yn LlGC 3056D, LlGC 3051D, Pen 103, C 2.114, BL 14882, Brog I.2, CM 5, C 3.37, LlGC 3057D, Ba (M) 5, J 137, LlGC 16964A, Stowe 959 (wedi ei hychwanegu), Llst 155 a Llst 55 a phob copi Llywelyn Siôn ond Llst 134, ac fe’i derbyniwyd yn GGl. O ran y gystrawen, fodd bynnag, gwell yw ei hepgor fel y gellir cydio dysg â mwynwyr yn y llinell nesaf yn hytrach na gadael y llinell honno’n ddigyswllt. Y tebyg yw bod y fannod wedi ei hychwanegu yn y copïau hyn dan ddylanwad mae’r yn ail hanner y llinell. Nid yw’n effeithio ar y gynghanedd.

1 yno mae’r  Llst 55 am avr.

1 yno  LlGC 3051D yma, Brog I.1 a BL 31061 ymro.

1 mae’r  Ni cheir y fannod yn Brog I.1 na BL 31061.

2 mwynwyr  LlGC 3051D, C 3.37 a CM 27 mw(y)nwr.

2 o wlad  Llywelyn Siôn yngwlad.

2 Sermania  Pen 63, C 3.37 a CM 27 normania. Mae orgraff Sermania yn amrywio yn y llawysgrifau, ond dewisais y ffurf fwyaf cyffredin. Y ffurfiau eraill yw LlGC 3051D, Ba (M) 5, BL 14971, C 2.68 a LlGC 5282B siermania, C 2.114 germania, BL 14882 siar mania, Llst 134 a LlGC 970E iermania.

3 mynnu  LlGC 3056D, C 2.114, C 3.37 a CM 27 mine, Pen 63 minav, BL 31061 mwyn, J 137 mynnv (cywirwyd yn mynnav).

3 waelod  LlGC 3056D a C 2.114 wlad y (cywirwyd yn waelod yn y cyntaf). Ceir y ar ôl waelod yn LlGC 17114B, Pen 103, BL 14882 (ychwanegiad), Brog I.2, CM 5, C 3.37, CM 27, BL 14971, Ba (M) 5, J 137 a LlGC 5282B. Nid oes ei angen ar gyfer yr ystyr ac mae’n gwneud y llinell yn rhy hir oni chywesgir mynnu o. Efallai mai presenoldeb y a arweiniodd at roi wlad yn lle waelod yn LlGC 3056D a C 2.114.

3 grodir  Ymranna’r llawysgrifau yma: ceir grodir yn LlGC 17114B, LlGC 3051D, Pen 103, BL 14882, Brog I.2, CM 5, BL 14971, C 2.68, Brog I.1, BL 31061, LlGC 3057D, Ba (M) 5, J 137 a LlGC 5283B, ond brodir yn LlGC 3056D, C 2.114, Pen 63, C 3.37, CM 27, LlGC 16964A, Stowe 959, copïau Llywelyn Siôn a Llst 155 (brodyr yn yr olaf).

4 mwyn aur tawdd  C 2.114 mewn avr tawch, Brog I.1 a LlGC 5282B mwyn o avr tawdd, BL 31061 mae avr tawdd, Llst 134 a LlGC 970E mewn aur tawdd (cywirwyd mewn yn mwyn yn yr olaf).

4 a minio’r  LlGC 3056D, C 2.114, CM 5, C 3.37, CM 27 a J 137 (cywiriad) yn minio/r/, LlGC 17114B minio ir (derbyniwyd yn GGl), Pen 63 a meinior, LlGC 16964A a mainior, Llywelyn Siôn a maini or, Llst 155 a manior, LlGC 5282B meini /r/, Llst 55 er minio ’r.

5–10  Nis ceir yn C 2.114.

5 mae  BL 31061 imae.

5 ym  Nis ceir yn LlGC 17114B, BL 31061, LlGC 3057D na LlGC 5282B.

5 yn  Nis ceir yn BL 14882, Brog I.1 na BL 31061.

5 ’mro  C 2.68 môr.

6 Oes … segurach  Ni cheir oes yn LlGC 3051D, BL 14971, Brog I.1, BL 31061, LlGC 16964A a thri o gopïau Llywelyn Siôn, ond ceir yn o flaen segurach i gadw saith sillaf yn y llinell. Yn Llst 134 a LlGC 6511B ceir oes ac yn, a dilewyd oes yn y cyntaf. Yn Llst 155 ceir avr (cywirwyd yn oes ac), ac yn o flaen segurach eto.

7–8  Nis ceir yn Pen 103.

7 mae cwarel aur  LlGC 3051D maen kwarel ym, BL 31061 mae kwarel avl, LlGC 3057D may kwarel ym.

7 caer lân  C 3.37 kator lan, BL 31061 kae glan.

8 greiglwyth  LlGC 3051D, Ba (M) 5, Brog I.1 a BL 31061 grvglwyth, C 3.37 griglwyth, C 2.68 gryglwyth, LlGC 16964A, Stowe 959, Llywelyn Siôn a Llst 155 graiglys. Derbyniwyd gruglwyth yn GGl ond nid yw’r llawysgrifau o blaid hynny.

8 i’r  LlGC 3056D y.

9 mwy  LlGC 17114B, CM 5 amwy, BL 14971, Brog I.1, BL 31061, Stowe 959 amwy yw, LlGC 5282B mwy yw.

9 rhent  LlGC 5282B rhan.

9 fy rhent  C 2.68 fv Rent.

9 fy rhi  C 2.68 faur i, BL 31061 fri, Stowe 959 fy rif.

10 o  LlGC 3051D, Pen 103, C 2.68, LlGC 16964A, Stowe 959 a Llst 155 yn (felly GGl), BL 14882 a LlGC 3057D y, Brog I.2 a.

11 a mwy  LlGC 3051D, BL 14971, Brog I.1, BL 31061 a Stowe 959 mwy yw, C 2.114 mwy.

12 no  Brog I.1 nod.

12 dau fwynwr  LlGC 17114B dav o fwynwyr, Ba (M) 5, C 2.114 a BL 14882 dav fwynwyr, LlGC 3057D dav fwniwr.

12 hyd Fenis  C 2.114 o drer fenis.

13 gwrser olwyn  Pen 63 gwrser olyn, CM 27 gŵr siriolwyn, LlGC 16964A gwrsser olwym. Camrannwyd yr ymadrodd yn GGl gŵr serolwyn, yn groes i’r llawysgrifau.

14 a rôi erioed  BL 14882 a J 137 yrioed a roed (yn J 137 cywirwyd yn a roe irroyd), Ba (M) 5 er ioed aroe, LlGC 5282B Irioed a roer.

14 yr  Brog I.2 i; nis ceir yn BL 14882.

14 ynn  LlGC 16964A ym.

16 aed  Pen 103 ar.

16 y  Llst 155 yn.

16 ’r  Llywelyn Siôn ar.

17 i lys  Pen 103 illys, BL 14971 yw lys.

18 Herbart  Mae’r llawysgrifau’n amrywio o ran -art neu -ert, ond -art sydd yn y mwyafrif. Gthg. -ert yn LlGC 17114B, LlGC 3051D, BL 14882, C 2.68 a BL 16964A.

18 y  Nis ceir yn LlGC 3056D na BL 14882.

18 bo’r  Pen 103 boyr, BL 14882 bvr.

19 o fewn awr  LlGC 16964A a Llst 155 Ievan awr, Stowe 959 a Llywelyn Siôn yr vn (felly GGl, yn groes i fwyafrif mawr y llawysgrifau).

19 wyf  C 2.68 af.

19 un  Stowe 959 a Llywelyn Siôn o ran; LlGC 3056D, Pen 103, BL 14882, CM 5, C 3.37, CM 27, C 2.68, LlGC 3057D, LlGC 16964A, LlGC 5282B a Llst 155 yn. Nid yw yn yn rhoi synnwyr yma.

19 oroen  Llst 155 orren.

20 Phawl  C 2.68 ffawb.

20 gweles  Felly LlGC 3056D, LlGC 17114B, BL 14882, Pen 63, C 2.68, Ba (M) 5, J 137, Llst 155 a LlGC 5282B; gthg. LlGC 3051D gweled, Pen 103, Brog I.2, CM 5, C 3.37 a CM 27 gwelais, C 2.114 a LlGC 3057D gwelodd, BL 14971, Stowe 959 a Llywelyn Siôn gwelas (ac felly GGl), Brog I.1 a BL 31061 yn gweled, LlGC 16964A gwalas.

20 a phoen  Llst 155 oi phen.

21 innau  LlGC 3056D, Pen 63, C 3.37 a CM 27 yno, Pen 103 yn ner.

21 gwal  LlGC 17114B gwlad, BL 31061 gwael, Llywelyn Siôn gwalh, LlGC 5282B gwyl.

22 Gwent  LlGC 3056D gwaed.

22 Bwrdiaws  Mae’r llawysgrifau yn amrywio’n fawr yma, ac ni ellir adfer y ffurf wreiddiol gydag unrhyw radd o sicrwydd. Rhaid ystyried tystiolaeth cywydd ateb Hywel Dafi hefyd, gan y ceir yr un gair ganddo ef (gw. 20a.24), er nad yw’n dilyn o reidrwydd fod y ddau fardd wedi arddel yr un ffurf. O ran y llinell hon, dim ond yn LlGC 3057D y ceir bwrdiaws. Y ffurf fwyaf cyffredin yw bwrdais (LlGC 3056D, BL 14882, Pen 63, C 3.37, CM 27, BL 14971, J 137 a LlGC 5282B); ceir hefyd bwrdiws (LlGC 17114B), bwrdias (Ba (M) 5, LlGC 3051D, C 2.114, C 2.68 a Stowe 959 yn wreiddiol), bwrdiawns (Pen 103, Brog I.2, LlGC 16964A, Stowe 959 (cywiriad), Llywelyn Siôn a Llst 155), bwrdiwns (CM 5), bwrdavs (cywiriad yn BL 14971), bwrdiais (BL 31061). Yn Brog I.1 cafwyd gwrdiaw drwy gywasgu’r gair â’r un blaenorol (?Gwent yn wreiddiol). Yn 20a.31 ceir bwrdiawns (LlGC 3056D, Pen 103, Brog I.2, BL 31061, LlGC 16964A, Stowe 959, Llywelyn Siôn a Pen 83), bwrdiwns (LlGC 17114B, CM 5, Pen 63, C 3.37 a CM 27), bwrdias (LlGC 3051D, C 2.114 a C 2.68), bwrdais (BL 14882), bwrdiws (BL 14971), bwrdiaws (LlGC 3057D, Ba (M) 5 a J 137). Collwyd y rhan berthnasol o Brog I.1, Llst 155 a LlGC 5282B. At dref Bordeaux y cyfeirir, tref a chwaraeai rôl flaenllaw yn y fasnach win rhwng Ffrainc a Phrydain. Gallwn wrthod bwrdais a bwrdiais fel camgymeriad ar ran rhai copïwyr nad adwaenent yr enw lle. Ceir cryn gefnogaeth yn y llawysgrifau ar gyfer bwrdiawns, ond mae’r n yn tarfu ar y gynghanedd yn llinell Guto’r Glyn. Gellid ei chyfrif yn enghraifft o n berfeddgoll, ond haws yw cymryd nad oedd n yma’n wreiddiol, yn enwedig o gofio na cheir n yn yr enw Ffrangeg y seiliwyd yr enw Cymraeg arno. Crybwyllir yr enw gan feirdd eraill. Yn GDEp 7.8 ceir Fwrdiaws, wedi ei gadarnhau gan yr odl, fel hefyd yn GRhB 34.3 Bwrdiaws, yn odli â haws. Yn GLGC 105.29 mae Fwrdios yn odli ag wythnos. I ddychwelyd at yr ymryson: mae digon o dystiolaeth yn y llawysgrifau dros y ddeusain aw, ac yn wyneb y ddwy enghraifft gadarn o Bwrdiaws gan feirdd a oedd yn agos o ran amser at Guto’r Glyn, Bwrdiaws yw’r ffurf a fabwysiadwyd yn y golygiad. Gthg. GGl lle derbyniwyd bwrdais.

22 y  BL 14882 ai; nis ceir yn LlGC 17114B, LlGC 3051D, Pen 103, Brog I.2, CM 5, Pen 63, BL 14971, C 2.68, Brog I.1, BL 31061, LlGC 3057D, Ba (M) 5, J 137, LlGC 16964A a Stowe 959; dilewyd y gair yn CM 27. Y tebyg yw iddo gael ei hepgor o’r copïau hyn yn sgil peidio â chywasgu baradwys.

23–6  Nis ceir yn Stowe 959.

23–4  Nis ceir yn LlGC 3056D, LlGC 3051D, Brog I.2, Pen 63, C 3.37 na CM 27.

23 a  Nis ceir yn C 5.44 na LlGC 970E, a dilewyd ef yn LlGC 6511B.

23 phoen  LlGC 16964A pho, Llst 155 ffo y.

23 herwyr  Llst 155 herwir.

23 ffyn  Pen 103 affyn, Llywelyn Siôn au ffoen (ond nid Llst 134, a dilewyd y gair cyntaf yn C 2.630).

24 I’r rhai ffeils rhôi warae â ffon  Mae’r llinell hon yn eithriadol o lwgr yn y llawysgrifau. Mae i’r rhai ffeils yn sicr (ac anwybyddu’r mân amrywiadau a nodir isod), fel hefyd â ffon. Mae mwyafrif y copïau sy’n cynnwys y llinell hon yn cynnig rhyw ffurf ar y berfenw warae, a cheir rhyw ffurf ar y ferf rhoi o’i flaen yn y rhan fwyaf hefyd. Dyma sail y darlleniad a dderbyniwyd. Pen 103 yn unig sy’n rhoi’r llinell yn union fel yn y golygiad, ond o gymryd y dystiolaeth yn ei chrynswth ceir digon o ateg i bob elfen yn y llinell. Isod trafodir yr elfennau fesul un, ond nodir yn gyntaf y fersiynau a lygrwyd yn fwy difrifol: C 2.114 ef aroer hyr ir war hon, CM 5 i rai ffeils ni chwery a ffon, LlGC 16964A a Llst 155 o roi phailst i chw(a)re a phon, Llywelyn Siôn ny wyr ffailst chwarav o ffon. Yn GGl ceir Rhai ffeils a rydd her â ffon.

24 i’r rhai  LlGC 17114B a Ba (M) 5 irai, Pen 103 ir rai, BL 14882 a C 2.68 i rai, BL 14971 ir rhai, Brog I.1 ir, BL 31061 yrhai, LlGC 3057D ir hai, J 137 irhai, LlGC 5282B I rhai; cf. hefyd yr amrywiadau yn y nodyn blaenorol. Amhosibl bod yn sicr ai i rai ynteu i’r rhai a ddylai fod yma, ac nid yw’r gynghanedd yn helpu. Nid yw’n effeithio ar yr ystyr.

24 ffeils  C 2.68, Brog I.1 a BL 31061 ffeilst, cf. hefyd LlGC 16964A, Llywelyn Siôn a Llst 155 (uchod).

24 rhôi  LlGC 17114B arroe, BL 14882, LlGC 3057D, Ba (M) 5, J 137 a LlGC 5282B i rydd, C 2.68 ry, Brog I.1 ire, BL 31061 i Rroi. Gellid derbyn rhôi, rhydd neu rhy yma, er mai digon pitw yw’r dystiolaeth dros yr olaf mewn gwirionedd. Nid yw’r gynghanedd yn torri’r ddadl rhwng rhydd a rhôi, gan y gellid derbyn cynghanedd draws yma (os gall warae ateb i’r rhai; cofier hefyd fod i rai yn ddarlleniad posibl). Gwrthrych y ferf yw Herbert, gan mai ef a drafodir o linell 13 ymlaen, ond gellid deall rhoi fel berfenw yn hytrach na ffurf trydydd unigol amherffaith.

24 warae  LlGC 17114B daro, BL 14882 chware, BL 14971, Ba (M) 5 a J 137 war (dilewyd g ar ddechrau’r gair yn Ba (M) 5), C 2.68 warrai, LlGC 5282B waer; nis ceir yn BL 31061.

24 â  BL 14971 y, BL 31061 ar; nis ceir yn C 2.68, Brog I.1, Ba (M) 5, J 137 na LlGC 5282B.

25–8  Yn BL 14882, LlGC 3057D, Ba (M) 5, J 137 a LlGC 5282B y drefn yw 27–8, 25–6.

25–6  Nis ceir yn Brog I.1 na BL 31061.

25 gŵr  LlGC 17114B, CM 5, BL 14971 a C 2.68 gwyr, Pen 103 a C 2.114 y gwr.

25 rhag  Pen 103, LlGC 16964A, Llst 155 a LlGC 5282B fal.

25 treisio  LlGC 16964A treission.

26 tros  LlGC 17114B, Pen 103, BL 14882, CM 5, BL 14971, C 2.68, Ba (M) 5, J 137, LlGC 16964A, Llst 155 a LlGC 5282B troes.

26 Went  LlGC 3056D y wlad, Brog I.2 wlad.

26 y  Nis ceir yn C 2.114 na LlGC 5282B.

26 Pretur  Llywelyn Siôn Prester, LlGC 5282B petr. Mae’r orgraff yn amrywio yn y copïau eraill ond hon yw’r ffurf fwyaf cyffredin.

27 marchog  Brog I.1 march.

27 a  BL 14971 y.

27 gwewyr  C 3.37 a BL 31061 gwywyr (cywirwyd yn gwewyr yn yr olaf), Brog I.1 gweyr, LlGC 5282B gwyr.

28 wledd  LlGC 3057D rent, J 137 ladd. Addasodd Guto’r llinell hon ar gyfer marwnad Wiliam Herbert (24.10). O’r llinell honno y daw’r darlleniad ladd.

28 o  LlGC 3051D oi.

29 mawr  LlGC 3051D, Pen 63, C 3.37 a CM 27 mwy.

29 fu ’n  Pen 103 ywr, C 2.114 a fv yn, BL 14882, Brog I.2 a Llywelyn Siôn fyr, Pen 63, C 3.37 a CM 27 fv ir, C 2.68, BL 31061 a J 137, LlGC 3057D, LlGC 16964A a LlGC 5282B fvr, Stowe 959 ny r. Anodd penderfynu rhwng fu ’n a fu i’r, ond nid yw’n effeithio odid ddim ar yr ystyr.

29 Israel  BL 31061 yskrael, J 137 i fael, Llst 155 yr eissiael.

29 gaffaeliad  LlGC 17114B gyff eiliaid, LlGC 3051D gyssayliad, LlGC 16964A, Stowe 959 a Llywelyn Siôn gyfaeliad, Llst 155 geveliad.

30 Salmon  C 2.68, LlGC 16964A a Llst 155 Samson.

30 a’i  LlGC 3051D, Pen 103, J 137, LlGC 16964A, Llywelyn Siôn, Llst 155 a LlGC 5282B i.

30 dad  LlGC 17114B daid.

31–4  Yn LlGC 3057D y drefn yw 33–4, 31–2, fel hefyd yn Stowe 959 lle ychwanegwyd y llinellau ar yr ymyl gyda 43–4.

31–2  Nis ceir yn LlGC 3056D, Pen 103, C 2.114, Brog I.2, Pen 63, C 3.37, CM 27, Brog I.1, BL 31061, LlGC 16964A na Llst 155. Hawdd gweld sut y’i hepgorwyd, gan fod y geiriau sesiwn a dad yn 33–4 yn dwyn i gof yn naturiol dad a Salmon (a fu’n enwog fel barnwr) yn 30. Ond heb y cwpled hwn nid oes gwir synnwyr yn y rhan hon o’r gerdd. Yn benodol, mae angen sôn am Wiliam er mwyn egluro’r rhagenwau ei a hwn yn 34. Nid at Salmon a Dafydd y cyfeiriant, wedi’r cwbl, ond at Herbert a’i dad, Syr Wiliam ap Tomas. Yn Pen 103 saif 43–4 yma.

31 am  Felly LlGC 3051D, BL 14882, CM 5, BL 14971, C 2.68, LlGC 3057D, Ba (M) 5, J 137, Stowe 959, Llywelyn Siôn a LlGC 5282B; gthg. LlGC 17114B yn. Rhoddai yn synnwyr da ac nid oes rhaid ateb m yn mwy yn y gynghanedd, ond mae’r llawysgrifau yn gryf o blaid am. Gw. hefyd 32n.

31 mwy yw’n  BL 14882, Ba (M) 5, J 137 a LlGC 5282B y mae.

31 ’n  Stowe 959 r; nis ceir yn LlGC 17114B.

32 a’r  LlGC 3051D or, Stowe 959 am. am yw’r arddodiad a ddefnyddir yn gyson gyda’r ferf sôn, gw. GPC 3319–20, felly ni ellir derbyn ar nac â’r. Golyga hynny fod yn rhaid derbyn a’r, ac mae hynny wedyn fwy neu lai yn ein gorfodi i dderbyn am Ynys Went yn wrthrych sôn, fel y gellir cydio a’r ddau Wiliam wrth weddill y frawddeg. Dealler: ‘mwy eto yw ein broliant ninnau am deyrnas Gwent a’r ddau Wiliam urddol’.

33–6  Yng nghopïau Llywelyn Siôn y drefn yw 35–6, 33–4.

33 wŷs  C 3.37 wyiddis, Llst 155 wyddis.

33 ’n y  Pen 103 a BL 14882 vn, BL 14971 /n/ vn, J 137 yn.

34 ei dad  LlGC 3056D, Pen 103 a LlGC 3057D y tad.

34 doeth  Brog I.2 hael.

34 o dywaid  LlGC 17114B adawed, LlGC 3051D o gedid (felly GGl), BL 14882 a ddoetai, Pen 63 o dawiad.

35–6  Nis ceir yn LlGC 3056D, C 2.114, Brog I.2, Pen 63, C 3.37, CM 27, Brog I.1, BL 31061, LlGC 3057D, LlGC 16964A na Llst 155. Hawdd fyddai hepgor y cwpled hwn mewn cyfres o linellau ar y cymeriad geiriol ni(d).

35 nid  C 2.68 ond; nis ceir yn Stowe 959.

35 cryf i Gaerdyf  LlGC 17114B a CM 5 rrydd i gaer dydd, Stowe 959 kryf i gaer dydd; dengys y rhain ddryswch oherwydd bod yr enw Caerdyf wedi troi’n Caerdydd yn yr iaith ddiweddarach. Mewn llawysgrifau eraill ceir cryf Caerdyf (Pen 103, BL 14882, Ba (M) 5, J 137 a LlGC 5282B), gan hepgor yr arddodiad a chymryd Caerdyf fel goddrych brawddeg enwol. Mae hyn yn gadael yn llinell yn fyr. Yn Pen 103 ceir akw ar ôl Caerdyf i adfer hyd y llinell.

35 o  BL 14971 y, C 2.68 a Llywelyn Siôn i.

37 myn  LlGC 3057D yn.

38 aur  C 2.114 wr, ac felly GGl.

40 Syr Raff  BL 31061 sarff.

42 a  C 2.114 ef a.

42 wŷr  C 2.114 wyd.

43–6  Yn LlGC 17114B, CM 5, BL 14971 a C 2.68 y drefn yw 45–6, 43–4.

43–4  Nis ceir yn LlGC 3051D. Yn Pen 103 mae’n sefyll rhwng 30 a 33, yn lle 31–2 nas ceir yn y llawysgrif hon (gw. uchod). Yn Stowe 959 ychwanegwyd y cwpled ar yr ymyl, ar y cyd â 33–4, 31–2 ac yn eu dilyn, gw. uchod.

43 gadu  C 2.114 gado, Stowe 959 a gady. Yn LlGC 5282B ceir gador drwy gywasgu gadu neu gado ac or.

43 rosyn  BL 14971 y Rhossyn, Llst 155 y rossyn, LlGC 5282B rossyssyn (cf. y nodyn blaenorol am gador, lle collwyd sillaf).

44 a’r  Pen 103, C 2.114, LlGC 3057D, Ba (M) 5, J 137 a Stowe 959 y, C 2.68 a.

44 o Raglan  Brog I.1 or ragla, BL 31061 ar galan.

44 ynn  CM 27 vn; nis ceir yn Brog I.1.

46 prydydd gŵr  Pen 63 bardd ir gwr, CM 27 prydydd y gŵr, C 2.68 prydyddwr, Brog I.1 ibrydydd gwr.

47 o’r  Llywelyn Siôn o.

48 hwn ni chân haeach  C 2.114 ni chan hwn.

49–50  Y drefn yn C 2.68 yw 50, 49.

49 mal  CM 5 mawl, Llst 155 mab.

50 gwŷr  LlGC 5283B gwr.

50 mwy  Brog I.2 mwyn, C 2.68 mae, Llywelyn Siôn mwy o.

51–2  Nis ceir yn Brog I.1.

51  Ceir cwpled ychwanegol o flaen y llinell hon yn LlGC 5282B: gwell I gwelais I treissiaw / na bwrw tryth heb rhaid draw.

52 na  LlGC 17114B a CM 5 vn, LlGC 3051D an, Stowe 959 yn.

52 gwych  C 2.114 gwyn.

52 onid un  LlGC 17114B ond ivn, BL 31061 ond.

53–4  Yn BL 31061 ceir yn lle’r llinellau hyn gwpled o gywydd ateb Hywel Dafi (20a.27–8), diau oherwydd tebygrwydd geiriau agoriadol y ddau gwpled (ni chyrch/ni chyrchaf). Yn Brog I.1 ysgrifennwyd yr un cwpled yn yr un lle (ond collwyd 51–2 yno) ac yna fe’i dilewyd. Gallwn ddyfalu bod y copïydd wedi ei ddileu pan gyrhaeddodd yr un cwpled yn y cywydd ateb.

53 chyrch  CM 5 cherdd.

54 threigl  C 2.114 a BL 14882 threigla.

56 y  LlGC 17114B mor.

56 un  LlGC 16964A y.

57–60  Y drefn yn LlGC 17114B, LlGC 3051D, Pen 103, BL 14971, C 2.68 a Llst 55 yw 59–60, 57–8. Nid yw’n amharu ar yr ystyr. Eto mae mwyafrif y llawysgrifau o blaid y drefn 57–60. Ni ellir bod yn sicr am C 2.114 oherwydd ni cheir 57–8 ynddi.

57 y  Pen 103, BL 14882 a LlGC 5282B nid.

57 ci  LlGC 5282B kri.

57 ni helio  LlGC 17114B a CM 5 nid ymlid, Pen 103 yn hela, BL 14882 a J 137 ni heilio.

57 rhag  BL 14882 kyn.

58 onid  BL 14882, Brog I.2, CM 5, Pen 63, C 3.37, CM 27, Brog I.1, BL 31061, LlGC 3057D, Ba (M) 5, J 137, LlGC 16964A, Stowe 959, Llst 155, Llst 55 a Pen 83 ond, LlGC 5282B nid. Er bod nifer sylweddol o lawysgrifau yn cefnogi ond, mae’r llinell yn rhy fyr. Dengys y darlleniadau amrywiol yng ngweddill y llinell (gw. isod) sut yr aeth gwahanol gopïwyr ati i ddatrys y broblem hon. Yn y copïau lle nad ychwanegwyd sillaf arall rywle yn y llinell, rhaid deall eu bod yn cyfrif carw yn ddeusill.

58 carw  LlGC 3051D, CM 27, J 137 a LlGC 16964A y karw.

58 hwn nid  LlGC 17114B nid vn, LlGC 3051D a C 2.68 nid, BL 14882, Brog I.1, BL 31061, LlGC 3057D a Llst 55 hwnw nid, Pen 63 efo nid, Brog I.2, C 3.37 a CM 27 ef nid (felly GGl).

59–60  Yn LlGC 3057D y drefn yw 60, 59.

59 heb  BL 14971 ond.

59 gware  C 3.37 a CM 27 gwaref.

60 llong  Llst 155 llonge.

60 fyned  LlGC 17114B syflyd.

60 lle  C 3.37 a CM 27 llef.

60  Ar ôl y llinell hon ceir cwpled ychwanegol yn LlGC 3056D a CM 5: nid ansawdd bwyd or vn saig / nid amhevthyn yr vn wraig. Yn BL 14971 fe’i ceir ar ôl 58 (ond y drefn yno yw 59–60, 57–8, cf. uchod). Yn J 137 fe’i hychwanegodd gan law arall ar ôl 56 (noder yr amrywiadau … ansod … o).

61–2 heb gerdded … / Ei bregeth  Mae’r cwpled hwn yn benbleth. Dim ond tair llawysgrif agos gysylltiedig â’i gilydd sy’n rhoi’r darlleniad a dderbyniwyd, sef LlGC 17114B, LlGC 3051D a CM 5. Ceir rhywfaint o ateg yn Llst 155 a Pen 83, lle ceir heb gerdded … a ffregeth. Ond yn y lleill i gyd, sef mwyafrif llethol y llawysgrifau, ceir yn cerdded … heb bregeth. Eto, sut y gallai hynny gyd-fynd â chŵyn y bardd yma? Holl bwynt y cyhuddiad yw bod Hywel, er ei fod efallai yn fardd teilwng ei waith, yn bradychu ei grefft drwy wrthod symud o Raglan. Felly mae’n debyg i saethydd nad yw’n anelu ond at un nod, i gi nad yw’n hela ond ceirw, i ŵr nad yw’n fodlon chwarae ond un gêm, ac i long nad yw’n symud o’r porthladd. Byddai sôn am bregethwr sy’n crwydro ond heb bregethu yn difetha’r ergyd yn llwyr: pregethwr sy’n pregethu, ond dim ond i’r un gynulleidfa bob tro, sydd ei eisiau yma. Daw hyn yn gliriach byth o ystyried y ddau gwpled nesaf, lle cymherir Hywel i ddyn anabl, ancr neu feudwy. O ran yr ystyr, felly, rhaid derbyn heb gerdded ac ei bregeth neu â phregeth. Ond os felly, pam y mae’r lleill i gyd yn cynnig yr un darlleniadau llwgr? Rhaid bod y llygru wedi digwydd fwy nag unwaith. Tybed a oedd syniad y brawd fel crwydryn mor gryf nes disodli heb o 61 i 62? Derbyniodd GGl yn … heb.

61 yn  BL 14882 yw.

63–70  Mae trefn y cwpledau hyn yn amrywio’n sylweddol yn y llawysgrifau ac nid oes arweiniad clir ynddynt. I raddau helaeth rhaid dewis ar sail rhesymeg ac ystyr. Dechreuwn gyda 69–70, lle mae’r dystiolaeth gryfaf: mae eu safle o flaen 71 yn gadarn ac wedi ei ategu gan LlGC 3056D, C 2.114, BL 14882, Brog I.2, Pen 63, C 3.37, CM 27, Brog I.1, BL 31061, LlGC 3057D, J 137, LlGC 16964A, Stowe 959, Llywelyn Siôn, Llst 155, LlGC 5282B a Pen 83. Yr eithriadau yw LlGC 17114B, LlGC 3051D, Pen 103, CM 5, BL 14971 a C 2.68 lle safant ar ôl 62. Mae’r ystyr yn erbyn y safle ar ôl 62 oherwydd mae’r cwpled yn tarfu ar rediad y synnwyr: mae 63–6, sy’n pardduo Hywel fel crupl neu feudwy, yn dilyn yn naturiol y gyfres o gymariaethau anffafriol yn 55–62 sydd oll yn cynnwys y thema diffyg symud. Ar y llaw arall, mae 69–70 yn mynd yn dda o flaen 71.

Mae trefn 67–8 yn fwy problemus. Nis ceir o gwbl yn LlGC 3056D, C 2.114, Brog I.2, Pen 63, C 3.37, CM 27, Brog I.1, BL 31061, LlGC 16964A, Stowe 959 yn wreiddiol (fe’u hychwanegwyd gan y brif law), Llst 155 na Pen 83. Yn y llawysgrifau hynny lle disodlwyd 69–70 mae 67–8 yn dod yn uniongyrchol o flaen 71 (felly LlGC 17114B, LlGC 3051D, Pen 103, CM 5, BL 14971 a C 2.68). Yn BL 14882, LlGC 3057D, J 137, Stowe 959 (drwy ychwanegiad) a LlGC 5282B ceir y drefn fel yn y golygiad, sef 67–70. Yn olaf, yng nghopïau Llywelyn Siôn mae’r cwpled rhwng 65–6 a 63–4. Mae’r copïau sy’n cynnwys 67–8, felly, yn eu rhoi tua diwedd yr adran broblemus hon o’r gerdd, o flaen 69–70 lle na ddisodlwyd y rheini, ac yn sicr ar ôl i’r gyfres o gymariaethau difrïol ddod i ben. Ceir digon o ateg i’w dilysrwydd yn y llawysgrifau, a hefyd ddigon o ateg ar gyfer eu rhoi o flaen 69–70. Gallwn esbonio’r drefn ryfedd yng nghopïau Llywelyn Siôn drwy gymryd eu bod wedi eu hychwanegu at ei gynsail ef (neu’n gynharach) yn sgil eu colli ynghynt, ond yn y lle anghywir. Posibilrwydd arall, fodd bynnag, yw mai 63–4 yn unig a ddisodlwyd yng nghynsail Llywelyn Siôn. Wedi’r cwbl, mae 67–8 yn eu lle cywir ar ôl 65–6 ac wedyn daw 63–4 ac yna 69–70.

Erys i drafod 63–6. Amrywio y mae trefn y rhain yn y llawysgrifau. Dilynir LlGC 17114B, LlGC 3051D, Pen 103, CM 5, BL 14971, C 2.68, LlGC 16964A, Stowe 959, Llst 155 a Pen 83. Yn LlGC 3056D, BL 14882, Brog I.2, Pen 63, C 3.37, CM 27, Brog I.1, BL 31061, LlGC 3057D, Ba (M) 5, J 137 a LlGC 5282B y drefn yw 65–6, 63–4, ac yng nghopïau Llywelyn Siôn, fel y gwelwyd, ceir 65–8, 63–4. Yn C 2.114 ceir 65–6, 61–4. Nid yw newid trefn 63–6 yn amharu fawr ar yr ystyr, ond mae dwy ystyriaeth o blaid y drefn fel y’i rhoddir yn y golygiad: i. mae cherdda yn 64 yn adleisio gerdded yn 61, ac mae rodd yn 65 yn cael ei adleisio gan rown yn 67. Yn anffodus nid yw’r ystyriaethau hyn mor amlwg yn y copïau sy’n ategu’r drefn 63–6 eu hunain. Yn gyntaf, mae nifer ohonynt yn rhoi 69–70 rhwng 62 a 63, gan ddifetha’r cysylltiad a awgrymais rhwng cherdda (64) a gerdded (61). Trafodwyd y llawysgrifau hyn eisoes uchod, sef LlGC 17114B, LlGC 3051D, Pen 103, CM 5, BL 14971 a C 2.68. Yn ail, collwyd 67–8 o LlGC 16964A a Llst 155. Erys Stowe 959 fel y unig gopi sy’n rhoi’r drefn yn union fel y mae yn y golygiad – ac ychwanegiad yw 67–8 yno! Eto, o adfer 69–70 i’w priod le, fel ym mwyafrif mawr y copïau, ac o adfer 67–8 i’w priod le, eto gan bwyso ar nifer dda o gopïau, ceir trefn resymol a dealladwy yn y llawysgrifau hyn.

63 ai  LlGC 16964A, Llst 155 a Pen 83 a.

63 crupl  LlGC 16964A kypyl.

63 o’r  C 2.114 ir.

64 na  C 2.114, BL 14882, BL 14971, C 2.68, LlGC 16964A, Stowe 959, Llywelyn Siôn, Llst 155 a Pen 83 ni. Gellid derbyn ni yma ond ceir digon o dystiolaeth dros na.

64 cherdda  LlGC 3051D [  ]erdd at, BL 14882 a LlGC 5282B cherddai i, Brog I.2, C 3.37 a CM 27 cherdd i, C 2.68 cherddaf, BL 31061 cherddai, LlGC 3057D cherdded.

64 urddas  C 3.37 o vrddas.

65 ai  Stowe 959 os; nis ceir yn C 2.114 sydd fel petai’n cyfrif angkar yn ddeusill.

65 pam y  Brog I.2 bann, Pen 63 pann i, C 2.68 pan, J 137 a Llst 155 pan i, LlGC 5282B pen I. Derbyniodd GGl pan.

66 os  Nis ceir yn BL 31061.

66 ermid  LlGC 17114B ermed, BL 14882 ernyd, Brog I.2, C 3.37 a CM 27 ermin, Llst 155 a Pen 83 (h)ermynt, Llst 55 ermig.

66 cafas  Pen 103, Pen 63 a LlGC 3057D kafos, Brog I.1 a BL 31061 egas, Llywelyn Siôn ve gas.

67 mi  C 2.68 ni.

68 er  LlGC 17114B i (felly GGl).

69 maent  C 3.37 amaen.

69 gywyddau  Pen 103 igowyddav, C 2.114, C 3.37 a CM 27 am gywydde.

69 mêl  Llst 155 a nel.

70 i’m  Pen 103, BL 14882, Brog I.2, BL 31061, LlGC 3057D, LlGC 16964A, Stowe 959, Ba (M) 5, Llst 155, LlGC 5282B a Pen 83 in, C 2.114 yn y. Ymranna’r llawysgrifau, felly, o ran i’m neu i’n, ond mae’r gynghanedd o blaid i’m. Efallai fod y ffurf person cyntaf lluosog yn y llinell nesaf wedi dylanwadu ar y copïau sy’n cynnwys i’n.

71 och am rai (o chaem  Ailgyfansoddi yn LlGC 5282B: nychv yr ym nachaem.

71 och  LlGC 17114B os.

71 rai  LlGC 3056D a C 2.114 Roi (felly GGl).

71 o  Pen 103 oni.

71 chaem  LlGC 17114B, Pen 103, C 3.37 a CM 27 chem, BL 14882 a J 137 chayn, BL 31061 chawn, Llywelyn Siôn chai ym.

71 ei  BL 14971, LlGC 16964A, Llst 155 a Pen 83 o; nis ceir yn Pen 103 na BL 31061.

72 a’i  Stowe 959 u, Pen 83 a (cywirwyd yn ai gan law arall).

72 o Went  LlGC 17114B, Brog I.1 a BL 31061 or ty.

73 fal y  LlGC 17114B fo ai, CM 5 modd y.

73 wrth  LlGC 5282B am.

74 i  BL 14971 a LlGC 5282B o.

75 rodiaw  Pen 103, Ba (M) 5, J 137 a LlGC 5282B rodior, C 3.37 a Brog I.1 rodio y, LlGC 16964A rodi.

76 awn  Llst 155 a Pen 83 af.

76 innau  Pen 63, Llst 134, C 2.630 a LlGC 6511B ninnav, a ddilynwyd yn GGl.

77 eled  LlGC 3056D aed a llythyren anodd ei darllen, y cyfan wedi ei gywiro i eled, Brog I.2 aed e, C 3.37 a CM 27 aed o, LlGC 3057D eled e.

77 i Fôn  Pen 103, C 2.68, Ba (M) 5, J 137 a LlGC 5282B yfo, BL 14882 y fo (cywirwyd yn i Fôn ond dilewyd y cywiriad), CM 5 yfo (darlleniad amrywiol, ceir i fôn yn y testun), BL 14971 efô, Brog I.1 afon; i Fôn yn y lleill. Dewisodd GGl efô er gwaethaf cryfder y dystiolaeth dros i Fôn, mae’n debygol oherwydd credu na allai Guto alw Ynys Môn yn wlad iddo, gw. y nodyn esboniadol am drafodaeth.

77 y  LlGC 17114B, LlGC 3051D, Pen 103, CM 5, BL 14971, Ba (M) 5, J 137 a LlGC 5282B ir, BL 14882 ir (cywirwyd yn i ond dilewyd y cywiriad), C 3.37 i, LlGC 16964A i (cywirwyd yn i’r gan law arall), C 2.68 iw, Brog I.1 a BL 31061 ar. Mae’r llawysgrifau sy’n darllen efô, etc., yn tueddu i ddarllen i’r yma oherwydd y synnwyr.

78 i  Dim ond LlGC 17114B sy’n cynnig ir.

78 Efenni  Ceir darlleniad teirsill (efeni, yfenni etc) yn Pen 103, C 2.114, Brog I.2, Brog I.1 a BL 31061, ond fenni a geir fel arall. Byddid yn cywasgu’r enw ar ôl yr arddodiad i, beth bynnag. Nid oes yr un copi’n cywasgu’r geiryn yr/ydd o flaen af. Yn LlGC 3056D ysgrifennwyd fenis a’i gywiro’n fenni, yn LlGC 17114B ceir fenis.

78 yr  BL 14971, C 2.68, LlGC 16964A, Llywelyn Siôn, Llst 155 a Pen 83 ydd.

Mae’r ymryson hwn yn codi cwr y llen ar agwedd dau fardd tuag at y grefft farddol. I Guto’r Glyn, ni ellir sôn am fardd nad yw’n clera, nad yw’n teithio o gartref i gartref. Mae Hywel Dafi, ar y llaw arall, yn dewis aros yn ei unfan yn fath o fardd llys parhaol i Syr Wiliam Herbert o Raglan. Wrth gwrs ceir gor-ddweud gan y ddau. Gwyddom o gorff gwaith Hywel Dafi ei fod wedi teithio’n helaeth, gan gynnwys mynd i Wynedd. Eto, er mwyn y ddadl (a’r hiwmor) mae’r ddau fardd yn creu gagendor mwy rhwng ei gilydd nag a fodolai mewn gwirionedd.

Mae cywydd Guto’r Glyn yn agor â darn helaeth o fawl i Syr Wiliam Herbert sy’n cyfrif am fwy na hanner y gerdd. Diau fod Guto, cyn annog Hywel Dafi i ymadael â Rhaglan, yn awyddus i sicrhau na theimlai Herbert fod ei berchentyaeth ef yn cael cam. Mae Guto’n pwysleisio mor gyfoethog a hael yw Herbert: iddo yntau mae Rhaglan cystal â mwynglawdd, ond dyma un man lle nad oes angen unrhyw ymdrech i gael ei aur gwerthfawr (llinellau 1–12). Bydd Guto’n mynd yno adeg gŵyl (15–18). Yna (19–24) mae’n cyflwyno amrywiad trawiadol ar yr hen dopos ‘gŵr wrth ŵr, gwâr wrth wâr’: mae’r bardd yn profi perchentyaeth hael Wiliam Herbert, ond ar yr un pryd yn gweld y cosbion y mae Herbert yn eu dyfarnu i ddrwgweithredwyr. Dyma ef yn teimlo fel Paul, y sant a gafodd weledigaeth o nef ac o uffern. Eto mae’n cymeradwyo agwedd ddigymrodedd Herbert tuag at droseddwyr oherwydd ei fod wedi gosod trefn ar Went (25–6). Cymherir Wiliam a’i dad, Syr Wiliam ap Tomas (yntau’n noddwr i Guto gynt), â Solomon a Dafydd yn y Beibl. Mae’n eglur fod Wiliam ap Tomas wedi marw (33–4): digwyddodd hyn yn 1445 (Thomas 1994: 11). I gloi’r adran hon o’r gerdd, mae Guto’n cymharu Herbert â phedwar marchog enwog ac yn dymuno hir oes iddo (37–44).

Wedi cyflawni ei ddyletswyddau fel bardd mawl, gall Guto droi at ddigrifwch: mae hi’n bryd gwneud ei gyd-fardd iau, Hywel Dafi, yn gyff gwawd. Gwna hyn yn gyntaf drwy awgrymu nad yw Hywel yn fawr o ddyn: yn lle’r cywyddau mawl i wŷr go iawn y mae Guto’n eu canu, mae’n well gan Hywel wenieithio merched (45–50). Mae un eithriad, yn sicr, sef Syr Wiliam Herbert, a folir yn selog gan Hywel. Ond mae Guto’n troi hyn hefyd yn arf yn ei erbyn. Nid yw Hywel, yn ôl Guto, byth yn mynd ar gylch clera o’r math a ddisgwylir gan fardd, ond yn hytrach yn aros yn barhaus yn Rhaglan. Mewn cyfres o gymariaethau gwatwarus mynega Guto ei ddirmyg tuag at yr ymagwedd eiddil hon: mae Hywel fel saethydd sy’n gwrthod anelu at fwy nag un nod, fel ci hela nad yw ond yn hela ceirw, fel gŵr sy’n mynnu chwarae’r un gêm o hyd, fel llong nad yw’n hwylio, fel brawd pregethwr nad yw’n mynd o amgylch y wlad (55–62). Neu efallai mai crupl ydyw (63) neu ancr neu feudwy (65). Os yr olaf, mae’n amhriodol fod Hywel yn cael cymaint o fudd (66): wedi’r cwbl, ni ddylai meudwy hel cyfoeth!

I gloi’r cywydd, mae Guto’n amlygu ei awydd i hudo Hywel o’i le. Fel y bydd Hywel yn nodi yn ei gywydd ateb, mae eironi yn yr adran hon o’r gerdd sy’n tanseilio’r safbwynt y mae Guto wedi bod yn ei amddiffyn hyd yn hyn: ei bwrpas, wrth wawdio Hywel, yw ceisio bachu safle gyfforddus Hywel iddo ef ei hun (76). Dyma gloi’r gerdd gydag elfen o hiwmor hunanwatwarus y bydd ei wrthwynebydd yn gallu cydio ynddi, ac, wrth gwrs, gyda chompliment arall i Herbert.

Pwynt o ddiddordeb mawr yn yr ymryson hwn yw ei fod yn datgelu i ni fro Guto’r Glyn. Geilw Hywel ef yn ‘un o feirdd … Gwynedd’ (20a.39–40) ac mae’n amlwg hefyd o ddirmyg Guto tuag at y deheuwr Hywel (cf. 47) nad un o’r De mohono. Mae arwyddocâd y cyfeiriad at Ynys Môn fel y wlad fau yn 77 yn ansicr. Nid oes tystiolaeth arall fod Guto’n hanu o Fôn, ac mae crynswth ei waith yn pwyso o blaid rhywle yng ngogledd-ddwyrain Cymru, felly ymddengys mai pars pro toto ydyw Môn am Wynedd. Os chwiliwn am le y mae ei enw yn cynnwys yr elfen glyn, ac sydd ar yr un pryd wedi ei leoli tua’r gogledd-ddwyrain ac eto yn rhan o Wynedd, y dewis amlwg yw Glyndyfrdwy yn Edeirnion.

Dyddiad
Gelwir Wiliam Herbert yn Syr Wiliam (13). Urddwyd ef yn farchog adeg y Nadolig 1452, gw. DNB (Online). Dengys 20a.21 fod mam Herbert yn fyw o hyd adeg yr ymryson. Yn ôl GLGC 577 a DNB2 26.729 bu farw Gwladus Gam, mam Herbert, yn 1454, ond ni lwyddais i olrhain ffynhonnell yr wybodaeth hon. Os yw’n gywir, fodd bynnag, dyna ddyddio’r ymryson i’r cyfnod 1452x1454, yn weddol gynnar yng ngyrfa Herbert.

Golygiadau blaenorol
GGl cerdd LX; Rolant 1976: cerdd 11; Lewis 1982: cerdd 9.

Mesur a chynghanedd
Cywydd, 78 llinell.
Cynghanedd: croes 56% (44 llinell), traws 29% (23 llinell), sain 8% (6 llinell), llusg 6% (5 llinell).

2 Mwynwyr o wlad Sermania  Yn 1459 cafodd Almaenwr o’r enw Adrian Sprinkler holl fwyngloddiau arglwyddiaeth Casnewydd, nid nepell o Raglan, ar les, gw. Griffiths 2008: 276n77.

4 tawdd  Mewn perthynas ag aur golyga ‘pur, coeth’, gw. GPC 3456 d.g. tawdd1.

6 segurach  Am yr ystyr ‘hawdd, rhwydd, didrafferth’, gw. GPC 3205 (3).

8 creiglwyth  Cyfeirir, yn ôl pob tebyg, at adeiladwaith trwchus castell Rhaglan.

8 Rhaglan  Cartref Syr Wiliam Herbert, castell mawreddog yn arglwyddiaeth Brynbuga (bellach yn sir Fynwy).

10 mwyndir  Mwysair yn dibynnu ar wahanol ystyron mwyn yn Gymraeg, sef ‘hyfryd, tirion’, ‘mwyn metal’, ‘budd, lles’.

13 cwrser  March rhyfel cydnerth, gw. GPC 649.

17 osai  Math o win gwyn melys, gw. GPC 2657 ac OED Online s.v. osey.

18 tai  Cyffredin yw defnyddio’r lluosog wrth gyfeirio at gartref uchelwr yn y cyfnod hwn, diau am fod mwy nag un adeilad ynghlwm.

20 Pawl, gweles nef a phoen  Yr Apostol Paul. Testun apocryffaidd a ddarllenid yn eang oedd y ‘Visio Pauli’ a ddarluniai’r apostol yn ymweld ag uffern a’r nef ac yn gweld tynged wahanol y rhai pechadurus a’r rhai cyfiawn. Ceir fersiwn Cymraeg Canol o’r testun, gw. Parry-Williams 1926–7.

22 Bwrdiaws  Bordeaux yn ne-orllewin Ffrainc. O’r dref honno y deuai llawer o’r gwin a fewnforid i Brydain yn y cyfnod hwn. Fe’i crybwyllir gan Hywel Dafi yn ei gywydd ateb.

26 y Pretur Siôn  Brenin-offeiriad chwedlonol y credid ei fod yn teyrnasu rywle yn y dwyrain, yn enwedig yn India. Cyfeiria Hywel Dafi ato yn ei gywydd ateb (20a.19–20). Gw. Edwards 1999.

30 Salmon a’i dad  Dafydd oedd tad Solomon.

31 ynys  Yn yr ystyr ‘teyrnas, rhanbarth’.

32 dau Wiliam  Syr Wiliam ap Tomas a’i fab Syr Wiliam Herbert.

32 urddolion  Urddwyd y ddau’n farchogion, Syr Wiliam ap Tomas yn 1426 a’i fab yn 1452, gw. Griffiths 1998: 80–1 a DNB2 26.730.

33 sesiwn  Llys cyfreithiol.

35 Caerdyf  Caerdydd oedd prif ganolfan arglwyddiaeth Morgannwg lle daliai Syr Wiliam Herbert swydd y siryf, gw. Thomas 1994: 44 a Pugh 1971: 196.

39 Syr Gei  Sir Guy of Warwick, arwr rhamant Saesneg boblogaidd. Mae’r beirdd yn cyfeirio ato’n aml, cf. GSCyf 6.19n a GLl 9.56n. Nid oes rheswm dros dreiglo enw ar ôl syr, felly nid yr arwr Arthuraidd Cai sydd yma.

39 Syr Gawen  Gawain, Gwalchmai, arwr Arthuraidd.

40 Syr Ffwg  Fulk fitz Waryn, arwr rhamant y cyfeirir ato’n fynych gan y Cywyddwyr, e.e. GIG 195 a GGLl 11.57n.

40 Syr Raff  Enw hynafiad yw Syr Raff yn 18.44n a hefyd yn GLGC 87.39, mae’n ymddangos, ond arwr chwedlonol ydyw yma, gellir tybied, ac yn TA LXIV.25 a GDID XV.2. Awgrymir dau arwr rhamant yn TA 604, sef Ralph the Collier a Raoul de Cambrai. Nid yw’r naill na’r llall yn debygol. Gwladwr cyffredin yw Ralph the Collier, arwr rhamant Sgoteg (Rauf Coilyear), ac mae Raoul de Cambrai yn gymeriad digon amheus a losgodd eglwys yr oedd pobl ddiniwed yn llochesu ynddi. Efallai fod GGl 344 yn gywir wrth awgrymu mai Sir Ralph Mortimer ydyw, er y disgwylid enw cymeriad rhamant i gyd-fynd â’r tri enw arall. Arglwydd grymus yn y Gororau a Chymru oedd Ralph Mortimer, a briododd â Gwladus Ddu, merch Llywelyn Fawr. Bu farw yn 1246.

41 tyrnau  Twrn oedd cylch siryf drwy’r sir a oedd dan ei reolaeth, cylch a gynhelid ddwywaith y flwyddyn, gw. OED Online s.v. tourn. Ni nodir yr ystyr yn GPC 3662.

46 prydydd gŵr  Sef bardd a ganai gerddi mawl, cf. yr ymadroddion cywydd mab a cywydd gŵr (GGl ix).

47 Hywel, un o’r Deheuwyr  Nid yw’n sicr o ble yr hanai Hywel Dafi, ond fe’i cysylltir yn bennaf â Brycheiniog a sir Fynwy, gw. Johnston 2005: 254–5.

49 Meirchiawn  Ceir nifer o gymeriadau o’r enw hwn, gw. TYP3 447–8 a WCD 464–5, ond ni sonnir am yr un ohonynt mewn perthynas â chanu serch.

61 brawd  Sef brawd crwydrol, aelod o urdd y Dominicaniaid a grwydrai’r wlad yn pregethu.

64 mynych urddas  Gan fod Guto’n mynd ymlaen i gyhuddo Hywel o ymagweddu fel crefyddwr, mae’n bosibl ei fod yn chwarae ar yr ystyron ‘mynych’ a ‘mynaich’ yma.

65 ancr  Meudwy a drigai mewn cell a gaewyd â brics neu gerrig fel na allai fynd allan, gw. Hamilton 1986: 185.

65–6 pam y câi rodd? / Os ermid, cafas ormodd  Mae Guto’n cwyno bod Hywel yn derbyn rhoddion: fel ancr neu feudwy, dylai ymwrthod â’r syniad o ddal eiddo personol.

73–4 Fal y twyllwyd … / Y Sais  Fe geid hen jôc am y Cymry’n codi cymaint o stŵr yn y nef nes bod Pedr wedi agor y pyrth, gweiddi ‘Caws pobi!’ y tu allan, aros i’r holl Gymry ruthro allan ac yna gau’r pyrth ar eu holau. Fe’i hadroddir yn Rhŷs 1901: 599–600 yn dilyn ffynhonnell o’r unfed ganrif ar bymtheg. Dichon mai fersiwn Cymreig coll o’r jôc sydd mewn golwg yma, un a wnâi’r Saeson yn gyff gwawd yn lle’r Cymry.

76 yno  Hynny yw, Rhaglan.

77 Môn  Gw. nodyn cefndir.

78 Gefenni  Ardal o amgylch tref y Fenni, gw. 19.9n.

Llyfryddiaeth
Edwards, G.Ll. (1999) (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Llythyr y Preutur Siôn): Cyfieithiadau Cymraeg Canol o Epistola Presbyteri Iohannis (Caerdydd)
Griffiths, R.A. (1998), The Reign of King Henry VI (second ed., Stroud)
Griffiths, R.A. (2008), ‘Lordship and Society in the Fifteenth Century’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords (Cardiff), 241–79
Hamilton, B. (1986), Religion in the Medieval West (London)
Johnston, D. (2005), Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300–1525 (Caerdydd)
Lewis, W.G. (1982), ‘Astudiaeth o Ganu’r Beirdd i’r Herbertiaid hyd Ddechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Parry-Williams, T.H. (1926–7), ‘Breuddwyd Pawl’, B iii: 81–9
Pugh. T.B. (1971), ‘The Marcher Lords of Glamorgan and Morgannwg, 1317–1485’, T.B. Pugh (ed.), Glamorgan County History, iii: The Middle Ages (Cardiff), 167–204
Rolant, E. (1976) (ed.), Poems of the Cywyddwyr: A Selection of Cywyddau c. 1375–1525 (Dublin)
Rhŷs, J. (1901), Celtic Folklore: Welsh and Manx (Oxford)
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)

This bardic dispute reveals something of the attitudes of two poets regarding the craft of poetry. For Guto’r Glyn, there can be no question of calling someone a poet who does not engage in clera, that is, the regular touring from house to house which seems to have been typical for late medieval Welsh poets. Hywel Dafi, on the other hand, prefers to remain in one place as a kind of permanent court poet attached to Sir William Herbert of Raglan. Of course, there is exaggeration on both sides. We know from the totality of Hywel Dafi’s works that he travelled extensively, even as far as Gwynedd. Nevertheless, for the sake of the argument (and the humour) both poets conspire to create a much deeper gulf between them than existed in reality.

Guto’r Glyn opens his poem with extensive praise for Sir William Herbert, occupying more than half the text. It is probable that Guto wanted to ensure, before urging Hywel Dafi to leave Raglan, that Herbert would not feel that the standard of his hospitality was being slighted. Guto emphasises how rich and generous Herbert is: Raglan is as good as a mine, but a mine which requires no effort on the part of the miner (Guto himself) in order to get hold of its precious metal (1–12). Guto is accustomed to go there at festival times (15–18). Next (19–24) he offers a striking variant on the traditional topos ‘strong towards the strong, meek towards the meek’: the poet himself is able to bear witness to William Herbert’s generosity and hospitality, but while he is there he witnesses the punishments which Herbert is exacting against wrongdoers. He feels like St Paul, who was granted a vision of heaven and of hell. All the same, he approves of Herbert’s harsh treatment of criminals, because he has restored order to Gwent (25–6). William and his father, Sir William ap Tomas (also a patron of Guto formerly) are compared to Solomon and David from the Bible. It is clear that William ap Tomas is dead (33–4): he died in 1445 (Thomas 1994: 11). To conclude this section of the poem, Guto compares Herbert with four famous knights and wishes him a long life (37–44).

Having performed his duties as a praise poet, Guto can turn to humour: it is time to make a laughing-stock of his younger colleague, Hywel Dafi. He first suggests that Hywel is not much of a man: in place of the proper praise poems for real men which Guto composes, Hywel prefers to charm women (45–50). There is one exception, to be sure, Sir William Herbert, whom Hywel praises constantly. But Guto makes this too into a source of criticism. Hywel, according to Guto, never goes on the kind of poetic circuit which is expected of a poet, but rather spends all his time in Raglan. In a series of mocking comparisons Guto expresses his contempt for this feeble attitude: Hywel is like an archer who only ever aims at one target, like a hound which only hunts red-deer stags and no other animal, like a man who insists on playing the same game all the time, like a ship which never sets sail, or like a friar who never goes about preaching (55–62). Or perhaps he is a cripple (63) or an anchorite or a hermit (65). If the latter, is is inappropriate that Hywel should earn so much of a reward (66). After all, a hermit should not seek to accumulate treasure!

To close his poem, Guto tells us that he is eager to entice Hywel from his cushy berth. As Hywel will note in his response, there is an irony in this part of the poem which undermines the viewpoint which Guto has been defending up till now: his purpose, in mocking Hywel, is actually to claim Hywel’s place for himself (76). Thus the poem ends with an element of self-mockery which Guto’s opponent will be able to use as a weapon against him, and needless to say it implies also a final compliment to Herbert.

A further interesting point about this bardic dispute is that it tells us something about Guto’s own home territory. Hywel calls him ‘one of the poets … of Gwynedd’ (20a.39–40) and it is obvious from Guto’s contemptuous attitude towards the southerner Hywel (cf. 47) that he was not himself a native of south Wales. It is unclear how literally we should take the reference in line 77 of Guto’s poem to Anglesey as y wlad fau ‘my country’. There is no other evidence that Guto came from Anglesey, and furthermore the bulk of his work points rather to north-east Wales. It may well be that Anglesey is a pars pro toto expression for Gwynedd. If we are looking for a place whose name contains the element glyn, and which is at once in or near north-east Wales and at the same time part of Gwynedd, then the obvious choice is Glyndyfrdwy in Edeirnion.

Date
In 13 Herbert is called Syr William. Herbert was knighted at Christmas 1452, see DNB (Online). 20a.21 shows that Herbert’s mother must still have been alive at the time of this bardic debate. GLGC 577 and DNB2 26.729 say that Gwladus Gam, Herbert’s mother, died in 1454, but I have been unable to trace the source of this information. If it is true, however, it dates the bardic dispute to 1452x1454, fairly early in Herbert’s career.

The manuscripts
There are 49 manuscript copies of this bardic dispute. There is much variation and little which makes any one copy or group of copies notably better than any other. The following copies were used to make the edition: LlGC 3056D, LlGC 17114B, LlGC 3051D, Pen 103, C 2.114, Ba (M) 5, Pen 63, Pen 83, BL 14882, Brog I.2, CM 5, C 3.37, CM 27, BL 14971, BL 31061, C 2.68, Brog I.1, LlGC 3057D, J 137, Llst 155, Stowe 959, LlGC 16964A, LlGC 5282B, five copies by Llywelyn Siôn (Llst 134, C 2.630, C 5.44, LlGC 6511B and LlGC 970E) and Llst 55. Of these, LlGC 17114B, LlGC 3051D, Pen 103, CM 5, BL 14971 and C 2.68 form a group; Ba (M) 5, J 137, BL 14882 and LlGC 3057D form another group; C 3.37 and CM 27 derive from a common exemplar; there may well be a close relationship between Pen 83 and LlGC 16964A; and the five copies in the hand of Llywelyn Siôn are almost uniform. The mauscripts which were not used to make the edition derive from those which were.

The editorial choices made in GGl were particularly arbitrary in the case of this poem, not infrequently following a single copy in the teeth of all the others. I have pointed out a few examples in the notes.

Pen 83 lacks 1–42. Llst 55 contains only extracts.

stema
Stemma

Previous editions
GGl poem LX; Rolant 1976: poem 11; Lewis 1982: poem 9.

Metre and cynghanedd
Cywydd, 78 lines.
Cynghanedd: croes 56% (44 lines), traws 29% (23 lines), sain 8% (6 lines), llusg 6% (5 lines).

2 Mwynwyr o wlad Sermania  In 1459 a German named Adrian Sprinkler leased all the mines in the lordship of Newport, not far from Raglan, see Griffiths 2008: 276n77.

4 tawdd  With reference to gold it means ‘pure, refined’, see GPC 3456 s.v. tawdd1.

6 segurach  For the meaning ‘easy, effortless’, see GPC 3205 (3).

8 creiglwyth  Probably a reference to the mighty stonework of Raglan Castle.

8 Rhaglan  The home of Sir William Herbert, a splendid castle in the lordship of Usk (now in Monmouthshire).

10 mwyndir  Several meanings are combined here: mwyn can mean ‘gentle, pleasant’, ‘ore’ and ‘benefit, advantage’.

13 cwrser  A powerful warhorse, see GPC 649.

17 osai  A kind of sweet white wine, see GPC 2657 and OED Online s.v. osey.

18 tai  Often used in the plural in this period to refer to a single dwelling, probably because a gentry house consisted of several buildings.

20 Pawl, gweles nef a phoen  The Apostle Paul. The Visio Pauli was an apocryphal text which was very widely read. It showed the apostle visiting heaven and hell and witnessing the very different fates of the sinful and the just. There is a medieval Welsh translation, see Parry-Williams 1926–7.

22 Bwrdiaws  Bordeaux in south-west France. Much of the wine imported into Britain in this period came from there. It is mentioned by Hywel Dafi in his response.

26 Y Pretur Siôn  A legendary priest-king who was believed to rule somewhere in the east, particularly in India. Hywel Dafi mentions him in his response (20a.19–20). See Edwards 1999.

30 Salmon a’i dad  King David was Solomon’s father.

31 ynys  In the meaning ‘kingdom, region’.

32 dau William  Sir William ap Tomas and his son Sir William Herbert.

32 urddolion  Both were knighted, Sir William ap Tomas in 1426 and his son in 1452, see Griffiths 1998: 80–1 and DNB2 26.730.

33 sesiwn  A court of law.

35 Caerdyf  Cardiff was the centre of the lordship of Glamorgan, of which Sir William Herbert was sheriff, see Thomas 1994: 44 and Pugh 1971: 196.

39 Syr Gei  Sir Guy of Warwick, a popular English romance hero. The Welsh poets often refer to him, cf. GSCyf 6.19n and GLl 9.56n. There is no reason to expect lenition after syr, so this is probably not the Arthurian hero Cai.

39 Syr Gawen  Gawain, Arthurian hero.

40 Syr Ffwg  Fulk fitz Waryn, a romance hero often referred to by the Welsh poets, e.g. GIG 195 and GGLl 11.57n.

40 Syr Raff  Syr Raff is an ancestor’s name in 18.44n and also in GLGC 87.39, apparently, but here he ought to be a legendary figure, in all probability, as also in TA LXIV.25 and GDID XV.2. Two romance heroes are suggested in TA 604, namely Ralph the Collier and Raoul de Cambrai. Neither is a likely object of comparison here. Ralph the Collier is an ordinary countryman, the hero of a Scottish romance (Rauf Coilyear), while Raoul de Cambrai is also a fairly dodgy character who burnt down a church in which innocent people where sheltering. GGl 344 may be right to suggest that Sir Ralph Mortimer is the Syr Raff mentioned here, though we would ideally expect the name of a romance hero to match the other three names. Ralph Mortimer was a powerful marcher lord who married Gwladus Ddu, the daughter of Llywelyn the Great, and died in 1246.

41 tyrnau  A tourn was a sheriff’s circuit of the area under his supervision, held twice a year, see OED Online s.v. tourn. The meaning is not noted in GPC 3662 s.v. twrn.

46 prydydd gŵr  I.e. a poet who composes praise poetry, cf. the expressions cywydd mab and cywydd gŵr for ‘praise poem’ (GGl ix). The literal meaning is ‘man’s poet’.

47 Hywel, un o’r Deheuwyr  It is not certain where Hywel Dafi came from, but his main connections are with Breconshire and Monmouthshire, see Johnston 2005: 254–5.

49 Meirchiawn  Several characters bear this name, see TYP3 447–8 and WCD 464–5, but none of them is associated with love poetry.

61 brawd  I.e. a friar preacher, a member of the Dominican Order. Dominicans travelled all over the country preaching.

64 mynych urddas  Since Guto proceeds to accuse Hywel of behaving like a religious, it is possible that he is playing on the meanings ‘frequent’ and ‘monks’ here. Mynych can be a plural form of mynach ‘monk’.

65 ancr  An anchorite, a kind of hermit who dwelt in a cell walled up with bricks or stone so that he could not leave, see Hamilton 1986: 185.

65–6 pam y câi rodd? / Os ermid, cafas ormodd  Guto complains that Hywel is receiving gifts: if he is an anchorite or a hermit, he should reject the idea of personal property.

73–4 Fal y twyllwyd … / Y Sais  There is an old joke told about the Welsh making so much noise in heaven that St Peter opened the gates, shouted Caws pobi (‘toasted cheese’), waited for all the Welsh to rush out and then closed the gates behind them. It is retold in Rhŷs 1901: 599–600 from a sixteenth-century source. Guto may well be referring to a lost, Welsh version of the joke, directed this time against the English.

76 yno  I.e. Raglan.

77 Môn  See background note.

78 Gefenni  A region around the town of Abergavenny, see 19.9n.

Bibliography
Edwards, G.Ll. (1999) (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Llythyr y Preutur Siôn): Cyfieithiadau Cymraeg Canol o Epistola Presbyteri Iohannis (Caerdydd)
Griffiths, R.A. (1998), The Reign of King Henry VI (second ed., Stroud)
Griffiths, R.A. (2008), ‘Lordship and Society in the Fifteenth Century’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords (Cardiff), 241–79
Hamilton, B. (1986), Religion in the Medieval West (London)
Johnston, D. (2005), Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300–1525 (Caerdydd)
Lewis, W.G. (1982), ‘Astudiaeth o Ganu’r Beirdd i’r Herbertiaid hyd Ddechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Parry-Williams, T.H. (1926–7), ‘Breuddwyd Pawl’, B iii: 81–9
Pugh. T.B. (1971), ‘The Marcher Lords of Glamorgan and Morgannwg, 1317–1485’, T.B. Pugh (ed.), Glamorgan County History, iii: The Middle Ages (Cardiff), 167–204
Rolant, E. (1976) (ed.), Poems of the Cywyddwyr: A Selection of Cywyddau c. 1375–1525 (Dublin)
Rhŷs, J. (1901), Celtic Folklore: Welsh and Manx (Oxford)
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)

Cliciwch ar rif llinell i weld amrywiadau
Image Dialog
Wiliam Herbert o Raglan, iarll cyntaf Penfro, 1423–m. 1469Hywel Dafi, 1450–80

Wiliam Herbert o Raglan, iarll cyntaf Penfro, c.1423–m. 1469

Top

Wiliam Herbert oedd noddwr amlycaf Guto’r Glyn. Rhwng 1445, pan fu farw ei dad, a’i farwolaeth yntau yn 1469, enillodd le digyffelyb iddo’i hun yng ngweinyddiaeth de Cymru, ac yn ystod y 1460au ef oedd prif gefnogwr y Brenin Edward IV yng Nghymru gyfan. Roedd ei nawdd i farddoniaeth yn gymesur â’i uchelgais wleidyddol. Ef oedd noddwr yr ymryson rhwng Guto a Hywel Dafi a gynhaliwyd yn Rhaglan (cerddi 20 a 20a) a gwrthrych dau gywydd mawl (cerddi 21 a 23). Mae’r farwnad a ganodd Guto i’w goffáu yn 1469 (cerdd 24) ymhlith cerddi mwyaf teimladwy’r bardd. Canodd llawer o feirdd eraill i Wiliam Herbert: Dafydd Llwyd Mathafarn (GDLl cerddi 28 a 54, efallai 48), Lewys Glyn Cothi (GLGC cerddi 111 a 112), Hywel Swrdwal (GHS cerddi 4, 5 a 7) a Hywel Dafi (Lewis 1982: cerdd 16). Lluniodd Huw Cae Llwyd farwnad i Wiliam a’i frawd Rhisiart ar y cyd (HCLl cerdd 4). Byddai meibion y ddau frawd yn eu tro yn noddwyr blaenllaw i’r beirdd, gan gynnwys Guto’r Glyn. Ar nawdd yr Herbertiaid yn gyffredinol, gw. Lewis 1982.

Rhaid diystyru dwy gerdd y dywedir yn gyfeiliornus eu bod wedi eu canu i Wiliam Herbert. Awdl i’w frawd, Syr Rhisiart Herbert, ac yn bennaf oll i fab hwnnw, Syr Wiliam Herbert o Golbrwg, yw HCLl cerdd 2. Awgrymir mai mab Wiliam Herbert o Raglan yw gwrthrych cerdd a olygwyd gan Lewis (1982: cerdd 17 a gw. Wiliam Herbert o Raglan, ail iarll Penfro), nid Herbert ei hun: mae’r gerdd fel petai’n ymateb i’r tyndra a gododd rhwng yr Herbertiaid a’u perthnasau, y Fychaniaid, yn y 1470au, a cheir cyfeiriad tebygol at farwolaeth Wiliam Herbert yn llinell 46. Ceir ansicrwydd ynghylch un gerdd arall: gallai GDLl cerdd 48 fod yn gywydd i Wiliam neu i’w fab.

Achres
Seiliwyd yr achresi isod ar WG1 ‘Godwin’ 8. Dangosir y rheini a enwir gan Guto yn ei gerddi i Wiliam mewn print trwm, a thanlinellir enwau ei noddwyr.

lineage
Achres Wiliam Herbert o Raglan, iarll cyntaf Penfro

Wiliam Herbert oedd mab hynaf Syr Wiliam ap Tomas o Raglan, yntau’n ŵr a groesawodd Guto’r Glyn i’w gartref. Ei fam oedd Gwladus Gam, merch Syr Dafydd Gam o Aberhonddu. Roedd ganddo nifer o frodyr a chwiorydd, cyfreithlon ac yn anghyfreithlon. Yr amlycaf oedd ei frawd cyfreithlon iau, Rhisiart Herbert. Ail ŵr i Wladus oedd Syr Wiliam ap Tomas, ac roedd ganddi feibion o’i phriodas gyntaf â Syr Rhosier Fychan o Frodorddyn. Y meibion hyn, sef Water (Watgyn), Tomas a Rhosier Fychan, oedd hanner brodyr yr Herbertiaid a chefnogwyr ffyddlon iddynt.

lineage
Teulu Wiliam Herbert o Raglan

Noddwyd Guto gan dri o feibion Wiliam, Wiliam Herbert, ail iarll Penfro, Water Herbert a mab anghyfreithlon, sef Wiliam Herbert o Benfro.

Ei gartrefi
Rhestrir y tai a fuasai ym meddiant Syr Wiliam ap Tomas yn 19.21–6. Aeth Colbrwg, ger y Fenni, i Risiart Herbert, a delid Tro ger Trefynwy gan Domas Herbert, brawd arall, cyn mynd i ddwylo Wiliam Herbert (Bradney 1991–4, 2.2: 162). Rhoddodd Herbert Dretŵr i’w hanner brawd Rhosier Fychan; roedd Rhosier yn byw yno erbyn 1457 (Ralegh-Radford 1960: 16). Ond daliodd Herbert ei afael ar brif gartref ei dad, sef castell Rhaglan, ac yno y trigai hyd ei farwolaeth. Roedd Syr Wiliam ap Tomas wedi dechrau noddi gwaith adeiladu mawr yn Rhaglan, a pharhaodd ei fab i gynnal y gwaith. Ceir ansicrwydd ai Wiliam Herbert ynteu ei dad a gododd y tŵr mawr (Emery 1975: 162–4, 167; Newman 2000: 490; Kenyon 2008: 114n69) ond yn sicr Wiliam Herbert a oedd yn gyfrifol am droi’r castell yn gartref gwirioneddol fawreddog drwy ailadeiladu’r ystafelloedd byw (ibid. 109).

Ei yrfa hyd 1461
Y prif bwyntiau yn unig a gaiff sylw yn y nodyn hwn, oherwydd mae gyrfa Wiliam Herbert yn ddeunydd llyfr sylweddol. Dyma ŵr a gododd o fod yn fonheddwr lleol i fod yn arglwydd a wysid i sesiynau’r Senedd ac a ddyrchafwyd, yn y pen draw, yn iarll, y Cymro cyntaf o waed llawn i dderbyn yr anrhydeddau hyn.

Ganed Wiliam Herbert o ail briodas ei dad, ac felly rhwng 1420 a marwolaeth Wiliam ap Tomas yn 1445. Awgryma R.A. Griffiths y dyddiad c.1423 (DNB Online s.n. Herbert, William). Mae’n bosibl ei fod yn farsiandïwr yn gynnar yn ei yrfa (Thomas 1994: 13 ac ibid. n3 yn enwedig). Yn sicr byddai ganddo yn nes ymlaen ddiddordebau sylweddol yn y fasnach ar hyd afon Hafren (Evans 1915: 75). Aeth i Ffrainc ym mlynyddoedd olaf y Rhyfel Can Mlynedd. Yn hyn o beth roedd yn dilyn ôl traed ei dad, a oedd wedi gwasanaethu Richard, dug Iorc, yn Normandi. Yn 1449 roedd Herbert yn gapten ar dref Carentan, ynghyd â’r milwr enwog o Gymro, Mathau Goch. Bu’n rhaid iddynt ildio’r dref i’r Ffrancwyr, a oedd erbyn hynny ar fin rhoi ergyd farwol i rym y Saeson yn Normandi (ibid. 75–6). Ymladdwyd y frwydr fawr olaf yn Formigny, 15 Ebrill 1450. Er bod Herbert wedi llwyddo i achub bywyd Mathau Goch ar faes y gad (cadarnheir hynny gan Lewys Glyn Cothi, GLGC 111.27–8), eto fe’i daliwyd ef ei hun gan y Ffrancwyr, a bu’n rhaid talu’n ddrud am ei ryddid (DNB Online s.n. Herbert, William).

Yn Awst 1449, yn ôl yng Nghymru, roedd Herbert wedi priodi Ann Devereux (Defras yn Gymraeg), merch i Sir Walter Devereux (Water Defras), tirfeddiannwr sylweddol yn swydd Henffordd (Thomas 1994: 13). Trwy’r briodas hon cryfhawyd dylanwad Herbert yn ardal Henffordd, ac yn ystod y blynyddoedd nesaf gwelir Herbert a Devereux yn gweithredu fel cynghreiriaid agos. Bu farw Walter Devereux yn 1459, ond parhau a wnaeth y berthynas agos rhwng y ddau deulu: gadawodd fab, a elwid hefyd Walter Devereux ac a oedd yr un mor ffyddlon i’w frawd yng nghyfraith ac y buasai’i dad (DNB Online s.n. Devereux, Walter).

Ffurfiodd teuluoedd Herbert, Devereux a Fychan glymblaid gref a dylanwadol a ddaeth i lywodraethu dros arglwyddiaethau de-ddwyrain Cymru a rhannau cyfagos swyddi Henffordd a Chaerloyw. Disgrifir hwy fel ‘the Devereux-Herbert gang’ gan un hanesydd sydd wedi astudio’u gweithgareddau aflywodraethus yn swydd Henffordd yn ystod y 1450au (Herbert 1981: 107). Fel deiliaid a chefnogwyr Richard, dug Iorc, roedd yn anochel y caent eu tynnu i mewn i’r gwrthdaro rhwng y dug a llys y Brenin Harri VI yn y 1450au. Ar 10 Hydref 1452 derbyniodd Herbert bardwn cyffredinol, arwydd ei fod wedi cefnogi’r dug yn erbyn plaid y llys: eisoes yng Ngorffennaf y flwyddyn honno cyhuddwyd Sir Walter Devereux o deyrnfradwriaeth (Thomas 1994: 15; DNB Online s.n. Devereux, Walter). Ymddengys fod plaid y llys wedi ceisio denu Wiliam oddi wrth Richard, dug Iorc. Urddwyd ef yn farchog yn ystod y Nadolig, 1452 (DNB Online s.n. Herbert, William), yn fuan ar ôl i Siasbar Tudur, hanner brawd y brenin, gael ei wneud yn iarll Penfro. I’r cyfnod Tachwedd/Rhagfyr 1452 y perthyn y gerdd gyntaf hysbys i Herbert, sef GLGC cerdd 111, sy’n fawr ei chanmoliaeth i deyrngarwch Herbert tuag at Siasbar a’r Goron.

Ni pharhaodd y teyrngarwch hwn yn hir. Yn fuan ailgyneuwyd y gynnen, a hynny ar stepen drws Wiliam Herbert yn ne Cymru. Richard Neville, iarll Warwick, oedd biau arglwyddiaeth fawr Morgannwg, a gwasanaethai Herbert fel siryf yno drosto. Roedd yr iarll yntau’n gynghreiriad i Richard, dug Iorc. Yn 1453 cyhuddwyd Herbert o amddiffyn yr arglwyddiaeth drwy rym arfau yn erbyn dug Somerset a’i hawliai iddo’i hun gyda chefnogaeth plaid y llys (Pugh 1971: 196). Daeth arwydd arall o benderfynoldeb didrugaredd Wiliam Herbert ym mis Mawrth 1456, pan lofruddiwyd ei hanner brawd, Watgyn Fychan, yn Henffordd. Arweiniodd Herbert a Walter Devereux lu o gefnogwyr i Henffordd, gan feddiannu’r dref drwy rym a gorfodi’r awdurdodau yno i grogi’r dynion euog yn y man a’r lle. Canwyd cywydd gwaedlyd gan Hywel Swrdwal i goffáu’r digwyddiadau hyn ac yn galw am ddial Watgyn (GHS cerdd 23; Evans 2006). Ond chwarae bach oedd hyn o’i gymharu â digwyddiadau Awst 1456. Erbyn hynny roedd yr ymgiprys rhwng dug Iorc a’r llys yn cyrraedd penllanw. Arweiniodd Syr Wiliam Herbert a Sir Walter Devereux lu o wŷr arfog i dde-orllewin Cymru. Bu iddynt feddiannu castell Caerfyrddin yn enw dug Iorc a charcharu Edmwnd Tudur, hanner brawd y brenin, cyn cipio castell Aberystwyth hefyd (Thomas 1994: 15). Erbyn mis Hydref roedd Herbert yn codi llu arall yn arglwyddiaethau’r De-ddwyrain (ibid. 16n2). Er i Herbert gael ei garcharu dros dro yn Nhŵr Llundain, buan y maddeuwyd iddo (Ebrill/Mai 1457, gw. ibid. 16–17). Wedi hynny, ymddengys iddo dynnu’n ôl o’r gwrthdaro rhwng dug Iorc a’r llys brenhinol, ac mae’n debygol mai dyna sut y llwyddodd i gadw ei safle a’i swyddi ar ôl i’r dug ac iarll Warwick gael eu dyfarnu’n deyrnfradwyr ar ddiwedd 1459.

Daeth tro ar fyd, fodd bynnag, ym mis Gorffennaf 1460. Daliwyd Harri VI yn sgil brwydr Northampton a daeth iarll Warwick yn feistr ar y sefyllfa. Comisiynwyd Herbert a Devereux i gynnal achos plaid Iorc yng Nghymru (Thomas 1994: 20). Ym mis Chwefror 1461 ymladdodd Herbert o blaid Edward, mab y dug, ym mrwydr Mortimer’s Cross, lle trechwyd byddin Siasbar Tudur (DNB Online s.n. Herbert, Wiliam). Aeth gydag Edward i Lundain a bu’n bresennol pan ddyrchafwyd ef yn frenin (Thomas 1994: 23; buasai dug Iorc ei hun farw yn Rhagfyr 1460). Wedyn fe’i dilynodd i ogledd Lloegr i wynebu’r Lancastriaid. Ymladdodd ym mrwydr dyngedfennol Towton (29 Mawrth 1461), fel y cadarnheir gan Lewys Glyn Cothi, sy’n sôn amdano’n ymladd yn Efrog (GLGC 112.33; mae safle’r frwydr yn swydd Efrog).

Goruchafiaeth yng Nghymru: 1461–9
I bob pwrpas dyrchafodd y brenin newydd Wiliam Herbert yn brif gynrychiolydd iddo yn ne Cymru. Afraid rhestru’r holl swyddi a roddodd i Herbert: digon yw nodi bod y brenin yn ystod y 1460au wedi rhoi i Herbert bob swydd o bwys a oedd ar gael iddo yn yr ardal hon. Ar 8 Mai 1461 gwnaed Herbert yn ustus, yn siambrlen, yn stiward ac yn brif fforestydd Deheubarth Cymru am oes (Thomas 1994: 24). Dyma roi yn ei feddiant diroedd y Goron yn ne-orllewin Cymru. Tua’r un pryd cafodd gomisiwn i feddiannu tiroedd Siasbar Tudur, sef iarllaeth Penfro, yn y De-orllewin (ibid.). Ym mis Medi cafodd gomisiwn i feddiannu tiroedd dug Buckingham yng Nghymru gan fod etifedd y teitl dan oed. Roedd dwy arglwyddiaeth fawr a chyfoethog yn eu plith, sef Brycheiniog a Gwynllŵg neu Gasnewydd (Thomas 1994: 25). Eisoes ym mis Gorffennaf 1461 fe’i dyrchafwyd yn Arglwydd Herbert. Dyrchafwyd Walter Devereux yn Farwn Ferrers of Chartley ar yr un pryd (Griffiths 2008: 266; DNB Online s.n. Devereux, Walter).

Roedd safle Herbert yn y De-ddwyrain yn gadarn, ond os dymunai wireddu’r pwerau a ddyfarnwyd iddo yn y Gorllewin, lle buasai Edmwnd a Siasbar Tudur yn cynnal achos Harri VI, byddai’n rhaid iddo ymladd drostynt. Ar 30 Medi ildiodd castell Penfro iddo ef a Walter Devereux (cf. 21.19–20). Yno y daeth mab ifanc Edmwnd Tudur, Harri, i ofal Herbert (Thomas 1994: 25–6). Ar 16 Hydref trechasant Siasbar Tudur ym mrwydr Twthill, y tu allan i dref Caernarfon (Ross 1974: 49). Bu ymgyrchu eto yn 1462, y tro hwn yn erbyn Tomas ac Owain, meibion Gruffudd ap Nicolas, a ddaliai gastell Carreg Cennen. Erbyn Mai 1462 ildiodd y castell i Risiart Herbert a Rhosier Fychan a difawyd ei amddiffynfeydd (Griffiths 1993: 28), buddugoliaeth y cyfeiria Guto ati yn 21.21–2.

Yn Chwefror 1462 grantiwyd tiroedd helaeth iawn i Herbert, gan gynnwys popeth a berthynai i iarllaeth Penfro a hefyd i arglwyddiaeth Gŵyr (tra oedd yr etifedd cyfreithiol dan oed). Hefyd grantiwyd Harri Tudur yn ward iddo. Talodd fil o bunnau am y grant olaf hwn, sy’n dangos nid yn unig mor werthfawr oedd Harri, ond hefyd mor fawr oedd adnoddau Herbert erbyn hynny (Thomas 1994: 28). Cyfeiria Dafydd Llwyd o Fathafarn at bresenoldeb Harri Tudur yn y llys yn Rhaglan, ac at fwriad Herbert i drefnu priodas rhyngddo a’i ferch, mewn cywydd a ganwyd rywdro yn y 1460au (GDLlM cerdd 28). Ym mis Mawrth derbyniwyd Herbert yn aelod o Urdd y Gardas (Thomas 1994: 28). Yn yr haf daeth yn arglwydd Crucywel (ibid. 29). Yn ystod gaeaf 1462–3 roedd Herbert a Devereux gyda’r brenin yng ngogledd Lloegr, yn wynebu ymgais gan y Lancastriaid i godi gwrthryfel yno (ibid.). Gwobrwywyd Herbert eto, y tro hwn â thiroedd yng Ngwlad-yr-haf, Dyfnaint a Suffolk (ibid. 30).

Roedd 1463 yn arwyddocaol hefyd am estyn awdurdod Herbert i ogledd Cymru: ym mis Mehefin rhoddwyd sir Feirionnydd yn ei ofal (ibid.). Ond damcaniaethol oedd yr awdurdod hwn, oherwydd arhosodd castell Harlech ym meddiant garsiwn a oedd yn ffyddlon i Harri VI, ac roedd y milwyr hyn yn gweithredu’n rhydd ar draws y sir. Mae’n debygol mai rywdro yn 1463/4 y canwyd GLGC cerdd 112, awdl fawreddog i Wiliam Herbert sy’n canmol ei wasanaeth yng ngogledd Lloegr, ei awdurdod yng Ngwynedd a’i fwriad i ymuno â’r Brenin Edward ar groesgad. Ni wireddwyd yr olaf, ond mae’n adlewyrchu’r sôn mynych a fu yn y blynyddoedd hyn am y posibilrwydd y byddai Edward yn arwain croesgad (Hughes 2002: 182–3).

Yn 1465 dyrchafwyd Rhaglan yn arglwyddiaeth y Mers, yn annibynnol felly ar Frynbuga (Thomas 1994: 32): dyma’r tro diwethaf i frenin Lloegr greu arglwyddiaeth o’r fath (DNB Online s.n. Herbert, William). Yn 1466 cafodd Herbert diroedd helaeth yn swydd Gaerloyw (Thomas 1994: 33–4). Rhwng 1465 a 1467 derbyniodd hefyd y swyddi pwysicaf yn yr arglwyddiaethau a berthynai i Edward IV fel iarll y Mars (Brynbuga, Buellt ac eraill: ibid. 34; Griffiths 2008: 267). Ym mis Medi 1466 priododd mab Wiliam Herbert â Mary Woodville, chwaer y frenhines (Thomas 1994: 45). Dathlwyd y briodas yn Windsor a’r seremoni i urddo’r gŵr ifanc yn farchog gan Hywel Swrdwal (GHS cerdd 6).

Ehangwyd rôl Herbert yn y Gogledd yn 1467. Meddiannodd arglwyddiaeth Powys tra oedd yr etifedd dan oed (Thomas 1994: 34). Apwyntiwyd ef hefyd yn ustus y Gogledd (ibid. 35). Yn olaf, cafodd feddiant o arglwyddiaethau Dinbych, Ceri, Cedewain a Threfaldwyn (ibid.).

Yn 1468 daeth gyrfa Herbert i uchafbwynt. Roedd castell Harlech wedi bod yn ddraenen yn ystlys y brenin byth ers ei ddyfodiad i’r orsedd. Yn 1468, o’r diwedd, awdurdododd Edward ymgyrch a fyddai’n rhoi terfyn ar wrthsafiad ystyfnig y garsiwn. Herbert a apwyntiwyd i arwain yr ymgyrch, a bu’n llwyddiant disglair, oherwydd ildiodd y castell ar 14 Awst 1468. Mae cerdd 21 yn dathlu’r achlysur hwn, fel hefyd cywydd Hywel Dafi (Lewis 1982: cerdd 16). Yn wobr am ei wasanaeth cafodd Herbert fraint nad oedd unrhyw Gymro o waed llawn eto wedi ei derbyn: iarllaeth. Dyrchafwyd ef yn iarll Penfro ar 8 Medi 1468. I flwyddyn olaf bywyd Wiliam Herbert, ar ôl iddo gael ei ddyrchafu, y perthyn cerdd 22 a 23. Tua’r un pryd, yn 1468, y daeth Herbert yn berchennog llawn ar arglwyddiaeth Gŵyr a phrynodd hefyd arglwyddiaeth Cas-gwent (Smith and Pugh 1971: 259).

Y ffrae gyda Richard Neville, iarll Warwick, a marwolaeth Wiliam Herbert
Go brin y gallai neb godi yn y byd i’r graddau y gwnaeth Wiliam Herbert heb ennill gelynion. Ei elyn pennaf oedd Richard Neville, iarll Warwick. Ef oedd prif gefnogwr Edward IV a dibynnai’r brenin newydd yn drwm arno. Rheolai’r iarll ogledd Lloegr dros y brenin mewn modd cyffelyb i Herbert yng Nghymru. Asgwrn y gynnen rhwng y ddau oedd y dylanwad mawr a enillodd Herbert ar y brenin, grym cynyddol Herbert yng Nghymru (lle roedd iarll Warwick yntau’n dirfeddiannwr o bwys) a’r berthynas agos rhwng Herbert a theulu’r frenhines, a ystyrid gan iarll Warwick yn fygythiad i’w ddylanwad ef. Yn 1469 cododd cefnogwyr iarll Warwick wrthryfel yng ngogledd Lloegr. Gwysiwyd Herbert o dde Cymru i wynebu byddin y gwrthryfelwyr, a oedd yn anelu tua’r de. Ar 24 Gorffennaf 1469 cyfarfu’r ddwy fyddin ger pentref Edgecote yn swydd Northampton, nid nepell o dref Banbury (Lewis 2011: 103–6). Ar ôl ymladd yn ddewr, trechwyd llu Herbert. Lladdwyd Tomas ap Rhosier Fychan, hanner brawd yr Herbertiaid, ar faes y gad, a daliwyd Wiliam Herbert a’i frawd Rhisiart. Aethpwyd â hwy i Northampton, ac ar 27 Gorffennaf dienyddiwyd Wiliam Herbert. Erys ar glawr gopi o’r atodiad i’w ewyllys olaf a ysgrifennodd ar fore’r diwrnod hwnnw (Thomas 1994: 109–10). Claddwyd Wiliam Herbert yn abaty Tyndyrn (am lun o’r beddrod cyn ei ddinistrio, gw. Lord 2003: 262). Canwyd marwnadau iddo gan Guto’r Glyn, Hywel Swrdwal, Huw Cae Llwyd a Dafydd Llwyd Mathafarn.

Asesiad
Mae’n anodd pwyso a mesur arwyddocâd Wiliam Herbert ar gyfer y beirdd Cymraeg. Cred ddigon cyffredin ymhlith haneswyr yw eu bod wedi trin Herbert fel arwr i’w genedl (e.e. Ross 1974: 78 ‘in contemporary Welsh literature, where he appears as a national hero’). O ddarllen y cerddi sy’n ei ganmol, hawdd yw cytuno. Mae Hywel Swrdwal, er enghraifft, yn annog ei gynulleidfa i sylweddoli cymaint o fendith yw cael arglwydd o Gymro sy’n siarad Cymraeg yn lle’r Sais arferol (GHS 4.49–56). Ac, ar awr anterth grym Herbert yn 1468, mae Guto’r Glyn yn cyflwyno gweledigaeth y gellir ei galw’n un genedlaethol: dylai Herbert uno Cymru o un pen i’r llall o dan ei arweiniad (21.65–70). Yn sicr, taniwyd dychymyg y beirdd hyn gan rychwant awdurdod Herbert a’i agosrwydd at y brenin. Mae ysbryd Sieffre o Fynwy yn cyniwair drwy awdl Lewys Glyn Cothi (GLGC cerdd 112) lle darlunnir Herbert yn rheoli Cymru yn uniongyrchol o dan awdurdod y Brenin Edward IV, yr olrheinir ei ach yn ôl i frenhinoedd Brythonig Prydain.

Roedd y weledigaeth hon yn realistig, ond dim ond i’r graddau y cydnabyddid bod grym Herbert yn deillio, yn y pen draw, o’i berthynas â’r brenin. Er bod y beirdd yn annog Herbert i wrthsefyll y Saeson (e.e. 21.65–70), ni chlywir gair am herio’r Goron ei hun. Gweledigaeth Sieffre o Fynwy – Lloegr, Cymru a’r Alban, tair gwlad yn ffurfio un deyrnas o dan un goron, ac arglwyddi eilradd ond anrhydeddus yn rheoli Cymru a’r Alban o dan awdurdod y goron honno – yw cyd-destun y breuddwydion hyn. Rhaid cofio hyn wrth ddarllen geiriau Guto’r Glyn, yn annog Herbert i estyn am ‘y dalaith’ (23.58; cf. GDLl 28.4), sef nod tywysog Cymru. Un cymeriad nas enwir byth yn y canu i Herbert yw Owain Glyndŵr, y Cymro olaf i ennill awdurdod yng Nghymru a oedd hyd yn oed yn ymylu ar y grym a gynullodd Herbert. Y rheswm, yn ddiau, oedd bod ei wrthryfel yn erbyn Coron Lloegr yn tynnu’n hollol groes i ddull Wiliam Herbert o ennill grym personol drwy aros yn gyson deyrngar i’w frenin. Wedi’r cwbl, bu taid Wiliam Herbert, Syr Dafydd Gam, yn un o elynion pennaf Owain.

Os ‘arwr cenedlaethol’ oedd Wiliam Herbert yng ngolwg y beirdd, felly, roedd hynny’n wir o fewn cyfyngiadau syniadau gwleidyddol y cyfnod. Ac roedd ochr arall i’r geiniog. Mae taerineb Guto’r Glyn wrth ymbil ar Herbert i arbed Gwynedd rhag ei ddicter (cerdd 21) yn awgrymu pa mor greulon y gallai Herbert fod. Mewn cenedlaethau diweddarach byddai storïau’n cylchredeg am yr anrheithio didrugaredd a ddioddefodd Gwynedd yn ystod ymgyrch 1468 (Evans 1915: 168–9). Mae’n amhosibl, wrth gwrs, i ni dreiddio o dan yr wyneb a gofyn sut yn union y teimlai gwŷr megis Lewys Glyn Cothi a Dafydd Llwyd Mathafarn, a fuasai’n gefnogwyr selog i’r Tuduriaid a theulu Gruffudd ap Nicolas, wrth iddynt ymlwybro draw i Raglan yn ystod y 1460au. Y tebyg yw ei bod yn sylfaenol amhosibl i fardd proffesiynol ennill bywoliaeth yn ne Cymru yn y degawd hwnnw heb gydnabod goruchafiaeth Herbert a’r cwlwm o deuluoedd a’i cefnogai. Ceir awgrym o hyn gan y bardd Llywelyn ap Gutun (GLlGt 15.5–6):Nid rhydd man ym Morgannwg
Os diawl Gwent sy’n dala gwg.Diau mai Herbert yw ‘diawl Gwent’, fel yr awgryma’r golygydd. Cofiwn fod Lewys Glyn Cothi wedi ffoi ar herw i Feirionnydd ar ddechrau’r 1460au. Yn ei awdl fawl i Herbert mae Lewys yn sôn am hawl Herbert i roi pardwn i’r rhai a oedd wedi gwrthwynebu Edward IV (GLGC 112.84). Erbyn 1463/4, ac awdurdod Herbert yn dechrau ymledu dros afon Dyfi, mae’n amlwg y bu’n rhaid i Lewys blygu’r glin i arglwydd Rhaglan. Mae’n dra phosibl fod GLGC cerdd 112 yn rhan o’r pris y bu’n rhaid i Lewys dalu i ennill pardwn.

Mae rhai o’r cerddi a ganwyd i Herbert fel petaent yn rhoi’r argraff fod eu hawduron yn ymdrechu’n lew i argyhoeddi eraill o fanteision ei oruchafiaeth. Mae awdl Hywel Swrdwal (GHS cerdd 4) yn enghraifft wiw o hyn, a GLGC cerdd 112 (e.e., llinellau 13–16). Maent hefyd yn sôn am wrthwynebwyr iddo. Gwir fod yr hen dopos ‘gŵr wrth ŵr, gwâr wrth wâr’ yn gyffredin mewn canu mawl Cymraeg, ond yn y cerddi i Herbert mae’r gwrthwynebwyr yn cael sylw annisgwyl ac mae pwyslais arbennig ar yr ofn y mae Herbert yn ei hennyn yn ei elynion (ibid. 112.29–32). Parhau y mae’r thema yn y marwnadau. Mae Hywel Swrdwal yn cydnabod y gallai Herbert fod yn drwm i rai (GHS 7.67). Sonia Dafydd Llwyd am ei ryfeddod fod Herbert yn ymddwyn mor rhwysgfawr, fel petai’n ymerawdwr (GDLl 54.57–8), ac mae’n ymbil ar ei gynulleidfa i faddau i Herbert am ei falchder a gweddïo dros ei enaid.

Mae’r canu ar gyfer y ‘national hero’ Wiliam Herbert yn ein hatgoffa nad yw gwaith y beirdd canoloesol yn fonolith. Yn hytrach, mae’n amrywio o fardd i fardd ac yn adlewyrchu gwahaniaethau barn. Mae hefyd yn rhan o ddisgwrs gwleidyddol ei ddydd, a’i syniadau am genedligrwydd yw rhai’r bymthegfed ganrif, nid heddiw.

Llyfryddiaeth
Bradney, J.A. (1991–4, cyhoeddwyd yn gyntaf yn 1904–33), A History of Monmouthshire, ail argraffiad (London (1–3.1), Cardiff (3.2–4), Cardiff and Aberystwyth (5))
Emery, A. (1975), ‘Raglan Castle and Keeps in Late Medieval England’, Archaeological Journal, 132: 151–86
Evans, D.F. (2006), ‘Murder in the Marches: Poetry and the Legitimisation of Revenge in Fifteenth-century Wales’, Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium, 18 and 19: 42–72
Evans, H.T. (1915), Wales and the Wars of the Roses (Cambridge)
Griffiths, R.A. (1993), Sir Rhys ap Thomas and his Family: A Study in the Wars of the Roses and Early Tudor Politics (Cardiff)
Griffiths, R. (2008), ‘Lordship and Society in the Fifteenth Century’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords (Cardiff), 241–79
Herbert, A. (1981), ‘Herefordshire, 1413–61: Some Aspects of Society and Public Order’, R.A. Griffiths (ed.), Patronage, the Crown and the Provinces in Later Medieval England (Gloucester), 103–22
Hughes, J. (2002), Arthurian Myths and Alchemy: The Kingship of Edward IV (Stroud)
Kenyon, J.R. (2008), ‘Masonry Castles and Castle Building’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords (Cardiff), 89–114
Lewis, B.J. (2011), ‘The Battle of Edgecote or Banbury (1469) through the Eyes of Contemporary Welsh Poets’, Journal of Medieval Military History, 9: 97–117
Lewis, W.G. (1982), ‘Herbertiaid Rhaglan fel Noddwyr Beirdd yn y Bymthegfed Ganrif a Dechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’, THSC: 33–60
Lord, P. (2003), Diwylliant Gweledol Cymru: Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd)
Newman, J. (2000), The Buildings of Wales: Gwent/Monmouthshire (London)
Pugh, T.B. (1971), ‘The Marcher Lords of Glamorgan, 1317–1485’, T.B. Pugh (ed.), Glamorgan County History, ii: The Middle Ages (Cardiff), 167–204
Ralegh-Radford, C.A. (1960), ‘Tretower: The Castle and the Court’, Brycheiniog, 6: 1–50
Ross, C. (1974), Edward IV (Berkeley)
Smith. J.B. and Pugh, T. (1971), ‘The Lordship of Gower and Kilvey in the Middle Ages’, T.B. Pugh (ed.), Glamorgan County History, ii: The Middle Ages (Cardiff), 205–83
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)

Hywel Dafi, fl. c.1450–80

Top

Hywel Dafi, neu Hywel ap Dafydd ab Ieuan ap Rhys, oedd gwrthwynebydd Guto’r Glyn mewn dau ymryson, sef cerddi 18a ac 18 a cherddi 20 a 20a. Ychydig a wyddys i sicrwydd amdano, oherwydd, yn syml iawn, ni chyhoeddwyd astudiaeth fanwl o’i waith hyd yn hyn. Golygwyd ambell gerdd yma a thraw, ond ni chasglwyd ei waith cyfan at ei gilydd erioed. (Mae Dr A.C. Lake ar hyn o bryd yn paratoi golygiad o waith Hywel Dafi, i’w gyhoeddi yng Nghyfres Beirdd yr Uchelwyr.) Gan hynny ni wyddys na dyddiadau na chylch nawdd Hywel yn fanwl gywir. Ceir y drafodaeth fwyaf diweddar ar Hywel Dafi gan Johnston (2005: 254–5).

Bro
Ceir cerddi gan Hywel o’r Gogledd yn ogystal â’r De, ond yn y De-ddwyrain y gweithiodd fwyaf. Roedd cysylltiad agos rhyngddo a theuluoedd Herbert a Fychan: yn wir, mae Guto’n ei gyhuddo o dreulio’r cyfan o’i amser yn Rhaglan (cerdd 20), ond gorddweud y mae Guto yma. Credir bod Hywel yn frodor o Frycheiniog (Johnston 2005: 254n102).

Dyddiadau
Amhosibl pennu dyddiadau Hywel Dafi nes y cesglir ei holl waith ynghyd. Mae’n debygol fod ei ymrysonau â Guto’r Glyn yn perthyn i’r 1430au neu’r 1440au. Roedd Morgan ap Rhosier, noddwr cerddi 18a ac 18, yn ei flodau 1417–47/8. Gellir dyddio cerddi 20 a 20a i’r cyfnod cyn 1454 os cywir y dyb fod mam Wiliam Herbert wedi marw yn y flwyddyn honno. Yn y ByCy Ar-lein rhoddir Hywel Dafi yn ei flodau c.1450–c.1480.

Ei waith
Mae dybryd angen golygu gwaith Hywel Dafi. Fel y noda Johnston (2005: 254), ef yw’r ‘bardd pwysicaf na chafwyd astudiaeth gyflawn ar ei waith eto’. Un rheswm dros ei ystyried yn fardd o bwys yw swmp mawr y corff o waith a briodolir iddo: rhestrir 157 o gerddi yn MCF (2011). Hyd yn oed os yw hyd at hanner y rhain yn ddyblygion, fel sy’n wir yn gyffredin am gofnodion MCF, gallwn awgrymu bod dros 70 o gerddi Hywel Dafi ar glawr. Mae’r dyrnaid o’i gerddi a olygwyd hyd yn hyn yn awgrymu ei fod yn fardd ffraeth, deallus, deheuig ac amryddawn, un a ganodd rychwant mawr o genres gwahanol. Pwynt arall sydd o bwys yw’r ffaith fod cynifer o’i gerddi ar glawr yn ei law ei hun yn Pen 67 (Huws 2000: 97).

Llyfryddiaeth
Huws, D. (2000), Medieval Welsh Manuscripts (Cardiff)
Johnston, D. (2005), Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300–1525 (Caerdydd)


Top
  • AASTAnglesey Antiquarian Society and Field Club Transactions, 1913- ŷŵ
  • ActauActauyr Apostolion yn y Testament Newydd
  • ActsThe Acts of the Apostles in the New Testament
  • APD.Gwenallt Jones (gol.), Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934)
  • Arch CambArchaeologia Cambrensis, 1846
  • ArchifMRCronfa Ddata Enwau Lleoedd: Archif Melville Richards / Archif Melville Richards Place-name Database
  • <http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr>
  • Arm PIfor Williams (gol.), Armes Prydein o Lyfr Taliesin (Caerdydd, 1955)
  • Arm P2Ifor Williams (ed.), Armes Prydain from the Book of Taliesin, English version by Rachel Bromwich (Dublin, 1972)
  • ASCentM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Apocrya Sin Cent (Aberystwyth, 2004)
  • BBwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 1921-93
  • BaLlawysgrif yng nghasgliad Prifysgol Cymru, Bangor
  • Ba(M)Llawysgrif yng nghasgliad Bangor (Mostyn) ym Mhrifysgol Cymru, Bangor
  • BarnwyrLlyfry Barnwyr yn yr Hen Destament
  • BDHenry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942)
  • BDeD.Simon Evans, Buchedd Dewi (Caerdydd, 1959)
  • BDGOwen Jones a William Owen (goln.), Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (Llundain, 1789)
  • BeirnJ. Morris Jones, Y Beirniad (1911-20)
  • BettisfieldCasgliad Bettisfield yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / The Bettisfield collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BLLlawysgrifau Ychwanegol yngnghasgliad y Llyfrgell Brydeinig, Llundain / The Additional Manuscripts in the British Library, London
  • BlBGCC Marged Haycock (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (Llandybe, 1994)
  • Bl BXIV Dafydd Johnston (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif arDdeg (Llandybe, 1989)
  • BodLlawysgrif yng nghasgliad Bodewryd, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth / A manuscript in the Bodewryd collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BodWLlawysgrif Gymreig yng nghasgliadLlyfrgell Bodley, Rhydychen / A Welsh manuscript in the Bodleian Library, Oxford
  • 1 BrenhinoeddLlyfr Cyntaf y Brenhinoedd yn yr Hen Desatement
  • 2 BrenhinoeddAil Lyfr y Brenhinoedd yn yr Hen Destament
  • BrenSaesThomas Jones (gol.), Brenhinedd y Saesson (Caerdydd, 1971)
  • BritishHOBritish History Online http://www.british-history.ac.uk>
  • BrMIfor Williams (gol.), Breuddwyd Maxen (Bangor,1908)
  • BrM2Brynley F. Roberts (ed.), Breudwyt Maxen Wledic (Dublin, 2005)
  • BrogLlawysgrif yng nghasgliad Brogyntyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Brogyntyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BRhMelville Richards (gol.), Breudwyt Ronabwy (Caerdydd, 1948)
  • BTThomasJones (gol.), Brut y Tywysogyon PeniarthMs. 20 (Caerdydd, 1941)
  • BYThomas Jones (gol.), Y Bibyl Ynghymraec (Caerdydd, 1940)
  • ByCyY Bywgraadur Cymreig hyd 1940(Llundain, 1953)
  • ByCy Ar-leinY Bywgraffiadur Ar-lein
  • <http://yba.llgc.org.uk/cy/index.html>
  • CLlawysgrifyn Llyfrgell Ganolog Caerdydd / A manuscript in Cardiff Central Library
  • CAIfor Williams (gol.), Canu Aneirin, (Caerdydd, 1938)
  • CAMBMCatalogueof Additions to the Manuscripts in the British Museum
  • CCJ. Fisher (ed.), The Cefn Coch MSS (Liverpool, 1889)
  • CCRCalendarof the close rolls preserved in the Public Record Office [12721509] (London,1900-63)
  • CDJohn Morris-Jones, Cerdd Dafod (Rhydychen, 1925)
  • CFGMelville Richards, Cystrawen y Frawddeg Gymraeg (ail arg.,Caerdydd, 1970)
  • CLC2Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (ailarg., Caerdydd, 1997)
  • CLlHIfor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen (Caerdydd, 1935)
  • CLlLlBrynley F. Roberts (ed.), CyfrancLludd a Llefelys (Dublin, 1975)
  • CMLlawysgrif yng nghasgliad Cwrtmawr, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Cwrtmawrcollection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • CMCSCambridge Medieval Celtic Studies,19811993; Cambrian Medieval CelticStudies, 1993
  • CMOC2Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (ailarg., Pen-y-bont ar Ogwr, 1998)
  • CO3 Rachel Bromwich a D. Simon Evans(goln.) gyda chymorth D.H. Evans Culhwchac Olwen (Caerdydd, 1997)
  • CPRCalendar of Patent Rolls preserved in the Record Office (London, 18911986)
  • CSTBP.J.Donovan (gol.), Cywyddau Serch y Tri Bedo(Caerdydd, 1982)
  • CTIfor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)
  • CTCCatrin T. Beynon Davies, `Cerddir TaiCrefydd (M.A. Cymru [Bangor], 1973)
  • CyY Cymmrodor, The Magazine of the HonourableSociety of Cymmrodorion, 18771951
  • CylchgCHSFeirCylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirion (n)ydd, 1949
  • CylchgHCCylchgrawnHanes Cymru, 1960
  • Cylchg LlGC Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru,1939
  • ChOIfor Williams (gol.), Chwedleu Odo (Wrecsam, 1926)
  • 1 Chronicles The First Book of the Chronicles in the Old Testament
  • 2 Chronicles The Second Book of the Chronicles in the Old Testament
  • Datguddiad`Datguddiad Ioan' yn y Testament Newydd
  • DBHenry Lewis a P. Diverres (goln.), Delwy Byd (Caerdydd, 1928)
  • DEThomas Roberts (gol.), Gwaith Dafydd ab Edmwnd (Bangor, 1914)
  • DGAHelenFulton (ed.), Selections from the Dafyddap Gwilym Apocrypha (Llandysul, 1996)
  • DGG Ifor Williams a TRoberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym ai Gyfoeswyr (Bangor, 1914)
  • DGG2Ifor Williams a T. Roberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i Gyfoeswyr(ail arg., Caerdydd, 1935)
  • DG.netDafydd ap Gwilym.net <http://www.dafyddapgwilym.net>
  • DNThomasRoberts and Ifor Williams (eds.), ThePoetical Works of Dafydd Nanmor (Cardi and London, 1923)
  • DNB2H.C.G. Matthew and B. Harrison (eds.), Oxford Dictionary of National Biography (Oxford, 2004)
  • DNBOnlineOxford Dictionary of National Biography <http://www.oxforddnb.com/>
  • DWBWelsh Biography Online
  • <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • DWHMichael Powell Siddons, The Development of Welsh Heraldry (3vols., Aberystwyth, 19913)
  • L.Dwnn: HVS.R. Meyrick (ed.), Heraldic Visitations of Wales (Llandovery,1846)
  • EANCR.J. Thomas, Enwau Afodyn a Nentydd Cymru Caerdydd, 1938)
  • EEWT.H. Parry-Williams, The English Element in Welsh (Londons, 1923)
  • tudesÉtudes celtiques, 1936
  • EVWM.E. Griths, Early Vaticination in Welsh with English Parallels (Cardi, 1937)
  • EWGTP.C. Bartrum (ed.), Early Welsh Genealogical Tracts (Cardiff, 1966)
  • GJ. Lloyd-Jones (gol.), Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg(Caerdydd, 1931-63)
  • GazMFEWGazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516 <http://www.history.ac.uk/cmh/gaz/gazweb2.html>
  • GBDdGwaith Bleddyn Ddu, gol. R. Iestyn Daniel (Aberystwyth, 1994)
  • GBFRhian M. Andrews et al. (goln.), Gwaith Bleddyn Fardd a Beirdd Eraill AilHanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1996)
  • GCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Casnodyn (Aberystwyth, 1999)
  • GCBMiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,i (Caerdydd, 1991)
  • GCBMiiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,ii (Caerdydd, 1995)
  • GDBN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill o FeirddHanner Cyntaf y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1995)
  • GDCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o LyfrCoch Hergest (Aberystwyth, 2002)
  • GDEpOwen Thomas (gol.), Gwaith Dafydd Epynt (Aberystwyth, 2002)
  • GDG Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym(Caerdydd, 1952)
  • GDG3 Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (trydydd arg., Caerdydd, 1979)
  • GDGorErwain H. Rheinallt (gol.), Gwaith Dafydd Gorlech (Aberystwyth,1997)
  • GDIDA.Eleri Davies (gol.), Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992)
  • GDLlW. Leslie Richards (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn(Caerdydd, 1964)
  • Genesis`Llyfr Genesis' yn yr Hen Destament
  • GenesisThe Book of Genesis in the Old Testament
  • GEOR. Geraint Gruydd a Rhiannon Ifans(goln.), Gwaith Einion Oeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug, gol. (Aberystwyth, 1997)
  • GGDTN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Gruudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995)
  • GGHD.J. Bowen (gol.), Gwaith Gruudd Hiraethog (Caerdydd, 1990)
  • GGGrBarry J. Lewis ac Eurig Salisbury (goln.), Gwaith Gruffudd Gryg(Aberystwyth 2010)
  • GGlJ. Llywelyn Williams ac Ifor Williams (goln.), Gwaith Gutor Glyn (Caerdydd, 1939)
  • GGl2 J. Llywelyn Williams ac Ifor Williams(goln.), Gwaith Guto'r Glyn (ail arg., Caerdydd, 1961)
  • GGLlRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruudd Llwyd ar Llygliwiaid Eraill(Aberystwyth, 2000)
  • GGMDiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, i, Canu i deulu Penmynydd (Aberystwyth, 2003)
  • GGMD iiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, ii, Canu Crefyddol (Aberystwyth, 2005)
  • GGMDiiiAnn Parry Owen (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, iii, Canu Amrywiol (Aberystwyth, 2007)
  • GGrGRhiannon Ifans, Ann Parry Owen,W. Dyfed Rowlands ac Erwain H. Rheinallt (goln.), Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog, Mab Clochyddyn, Gruudd ap Tudur Goch ac Ithel Ddu (Aberystwyth, 1997)
  • GHCIslwyn Jones (gol.), Gwaith Hywel Cilan (Caerdydd, 1963)
  • GHCEMHuw Ceiriog Jones (gol.), Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor(Caerdydd, 1990)
  • GHDA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Huw ap Dafyddap Llywelyn ap Madog (Aberystwyth, 1995)
  • GHSDylanFoster Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwala'i deulu (Aberystwyth, 2000)
  • GIBHGwaithIeuan Brydydd Hir (gol.), M. Paul Bryant-Quinn (Aberystwyth, 2000)
  • GIFHowell L. Jones ac E.I. Rowlands(gol.), Gwaith Iorwerth Fynglwyd(Caerdydd, 1975)
  • GIGD.R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988)
  • GILlFM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Ieuan ap Llywelyn Fychan, Ieuan Llwyd Brydydd a Lewys Aled (Aberystwyth, 2003)
  • GIRhR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth,2003)
  • GLDA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Lewys Daron (Caerdydd, 1994)
  • GLGCDafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd,1995)
  • GLMEurys I. Rowlands, Gwaith Lewys Mn (Caerdydd, 1975)
  • GLMorgA. CynfaelLake (gol.), Gwaith Lewys Morgannwg (dwy gyfrol, Aberystwyth, 2004)
  • GLlR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Llawdden (Aberystwyth, 2006)
  • GLlBHAnn Parry Owen a Dylan Foster Evans(gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996)
  • GLlFKathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994)
  • GLlGDafydd Johnston (gol.), Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen(Aberystwyth, 1998)
  • GLlLlElin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn `Prydydd y Moch' (Caerdydd, 1989)
  • GMBJ.E. Caerwyn Williams et al. (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994)
  • GMBrA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Mathau Brwmld (Aberystwyth,2002)
  • GMDHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Madog Dwygraig (Aberystwyth,2006)
  • GMRhEnid Roberts (gol.), Gwaith Mareduddap Rhys ai Gyfoedion (Aberystwyth, 2003)
  • GMWD. Simon Evans, A Grammar of Middle Welsh (Dublin, 1964)
  • GMWLTimothy Lewis, A Glossary of Mediaeval Welsh Law (Manchester,1913)
  • GOE. Bachellery (d.), Loeuvre potique de Gutun Owain(Paris, 19501)
  • GOLlMEurys Rolant (gol.), Gwaith Owain ap Llywelyn ab y Moel(Caerdydd, 1984)
  • GP G.J. Williams ac E.J. Jones (gol.), Gramadegaur Penceirddiaid (Caerdydd,1934)
  • GPBHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan, Rhys ap Dafydd ab Einion, Hywel Ystorm, a cherddi dychan dienw o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth,2000)
  • GPCGeiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950)
  • GPC2Geiriadur Prifysgol Cymru (ail argraad, Caerdydd, 2003)
  • GPhEM.Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Syr Phylib Emlyn, Syr Lewys Meudwy a Mastr Harri ap Hywel (Aberystwyth, 2001)
  • GRhBEurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Rhys Brydydd a Rhisiart ap Rhys (Caerdydd,1976)
  • GRhGEDylan Foster Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007)
  • GSCA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin Ceri (Aberystwyth, 1996)
  • GSCyfR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd 'Sypyn Cyfeiliog a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998)
  • GSDTRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2005)
  • GSHA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin ap Hywel (Aberystwyth, 1999)
  • GSRhNerys Ann Jones ac Erwain Haf Rheinallt(gol.), Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn,Gruudd Fychan ap Gruudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth,1995)
  • GSTEnid Roberts (gol.), Gwaith Sin Tudur (2 gyf., Caerdydd,1980)
  • GTPThomas Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap TudurPenllyn, gol. (Caerdydd, 1958)
  • GwynLlawysgrif yng nghasgliad J. Gwyneddon Davies, yn Llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor
  • GyBDafydd Johnston (gol.), Galar y Beirdd: Marwnadau Plant/Poets'Grief: Medieval Welsh Elegies for Children (Caerdydd, 1993)
  • HCLlLeslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac Eraill(Caerdydd, 1953)
  • HPEHistoriaPeredur vab Efrawc, gol. Glenys Witchard Goetinck (Caerdydd, 1976)
  • HPFJ.Y.W. Lloyd, The History of Powys Fadog, (6 vols., London, 18817)
  • IDIfor Williams (gol.), Casgliad o Waith Ieuan Deulwyn (Bangor,1909)
  • IGEHenry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (Bangor, 1925)
  • IGE2Henry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (ail arg., Caerdydd, 1937)
  • IGPDafydd Johnston (ed.), Iolo Goch: Poems (Llandysul, 1993)
  • Ioan`Yr Efengyl yn l Sant Ioan' yn y Testament Newydd
  • JMHRSJournalof the Merioneth Historical and Record Society, 1949
  • JohnThe Gospel according to John in theNew Testament
  • JudgesThe Book of Judges in the Old Testament
  • KAA 2Patricia Williams (gol.), Kedymdeithyas Amlyn ac Amic (Caerdydd,1982)
  • 1 KingsThe First Book of the Kings in the Old Testament
  • 2 KingsThe Second Book of the Kings in the Old Testament
  • LBSS. Baring-Gould and J. Fisher, The Lives of the British Saints (4vols., London, 190713)
  • Luc`Yr Efengyl yn l Sant Luc' yn yTestament Newydd
  • LukeThe Gospel according to Luke in theNew Testament
  • LlAJ. Morris Jones and John Rhŷs (eds.), The Elucidarium from Llyvyr Agkyr Llandewivrevi (Oxford, 1894)
  • LlBS.J. Williams a J.E. Powell (gol.), Cyfreithiau Hywel Dda yn l Llyfr Blegywryd(Caerdydd, 1942)
  • LlCyLlnCymru, 1950
  • LlGCLlawysgrif yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the collection of theNational Library of Wales, Aberystwyth
  • LlIAled Rhys Wiliam (ed.), Llyfr Iorwerth (Cardi, 1960)
  • LlstLlawysgrif yng nghasgliad Llanstephan, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Llanstephan collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Marc`Yr Efengyl yn l Sant Marc' yn y Testament Newydd
  • MarkThe Gospel according to Mark in the New Testament
  • Mathew`Yr Efengyl yn l Sant Mathew' yn y Testament Newydd
  • MatthewThe Gospel according to Matthew in the New Testament
  • MCFY Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau / The Index to Welsh Poetry inManuscript
  • <http://maldwyn.llgc.org.uk>
  • MEDMiddle English Dictionary (Michigan, 1963)
  • MonWMonastic Wales <http://www.monasticwales.org>
  • MontCollCollections Historical and Archaeological... by the Powysland Club, 1868
  • MosLlawysgrif yng nghasgliad Mostyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Mostyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • MWMDaniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Cardiand Aberystwyth, 2000)
  • NCENewCatholic Encyclopaedia (New York, 1967-79)
  • NCLWMeic Stephens (ed.), The New Companion to the Literature of Wales(Cardiff, 1998)
  • NLWJNational Library of Wales Journal, 1939
  • OBWVThomasParry (ed.), The Oxford Book of Welsh Verse (Oxford, 1976)
  • OCD3Simon Hornblower and Antony Spawforth(eds.), The Oxford Classical Dictionary(third ed., Oxford, 1996)
  • ODCC3F.L. Cross and E.A. Livingstone (eds.), The Oxford Dictionary of the Christian Church (third ed., Oxford, 1967, revised 2005)
  • OED2The Oxford English Dictionary (second ed., Oxford, 1989)
  • OED OnlineThe Oxford English Dictionary
  • <http://www.oed.com>
  • PACFJ.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Bangor, 1914)
  • PenLlawysgrif yng nghasgliad Peniarth, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Peniarth collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Peniarth49E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 49 (Caerdydd, 1929)
  • Peniarth67E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (ed.), Peniarth 67 (Cardiff, 1918)
  • Peniarth76E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 76 (Caerdydd, 1927)
  • PKM Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930)
  • PsalsmThe Psalms in the Old Testament
  • RBJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Bruts from the Red Book of Hergest (Oxford, 1890)
  • RCAHM (Anglesey)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Anglesey (London, 1937)
  • RCAHM (Caernarvonshire) An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Caernarvonshire (3 vols.,London, 1956, 1960, 1964)
  • RCAHM (Flint)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire, Vol II: County of Flint (London, 1912)
  • RCAHM (Merionethshire) An Inventory of Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Merionethshire (London, 1921)
  • RepWMDaniel Huws, Repertory of Welsh Manuscripts (iw gyhoeddi)
  • RevelationThe Revelation to John in the New Testament
  • RMJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Mabinogion from the Red Book of Hergest(Oxford, 1887)
  • RWMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), Report on Manuscripts in the Welsh Language(London, 18981910)
  • SalmauLlyfr y Salmau yn yr Hen Destament
  • SCStudiaCeltica, 1966
  • SoldierLMEThe Soldier in later Medieval England
  • <http://www.medievalsoldier.org>
  • StoweLlawysgrif o gasgliad Stowe yn yLlyfrgell Brydeinig
  • TAT. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926)
  • TCT.J.Morgan, Y Treigladau au Cystrawen (Caerdydd,1952)
  • TCHSTransactionsof the Caernarvonshire Historical Society, 1939
  • TCHSDdTrafodionCymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 1952
  • TCHSGTrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon,1939
  • TDHSTransactionsof the Denbighshire Historical Society, 1952
  • THSCTheTransactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1892/3
  • TLlMG.J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948)
  • TYP3Rachel Bromwich (ed.), Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (third ed., Cardi, 2006)
  • WATU Melville Richards, Welsh Administrative and TerritorialUnits (Cardi, 1969)
  • WBOnlineWelsh Biography Online <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • WCDP.C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 (Aberystwyth, 1993)
  • WGJ. Morris Jones, A Welsh Grammar (Oxford, 1913)
  • WG1P.C.Bartrum, Welsh Genealogies AD 300-1400 (Cardiff, 1974)
  • WG2P.C. Bartrum, Welsh Genealogies AD 1400-1500 (Aberystwyth, 1983)
  • WHRThe Welsh History Review, 1960-
  • WMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), The White Book Mabinogion (Pwllheli,1907; adargraffiad, Caerdydd, 1973)
  • WyLlawysgrif yng nghasgliad Wynnstay, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Wynnstay collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • YBJ.E. Caerwyn Williams (gol.), Ysgrifau Beirniadol, (Dinbych, 1965 )
  • YBHMorgan Watkin (gol.),Ystorya Bown de Hamtwn, (Caerdydd, 1958)
  • YCM2Stephen J. Williams (gol.), Ystorya de Carolo Magno (ail arg.,Caerdydd, 1968)
  • YER. Iestyn Daniel (gol.), Ymborth yr Enaid (Caerdydd, 1995)
  • YEPWCGruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (Caerdydd, 1986)
  • YGIVGwilymLloyd Edwards (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Caerdydd, 1999)
  • YMThA.O.H. Jarman (gol.), Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (Caerdydd, 1951)