Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn 28 o lawysgrifau. Perthyn LlGC 3049D a Gwyn 4 yn agos i’w gilydd, fel yn achos nifer o gerddi eraill Guto’r Glyn. Y patrwm arferol yw cael copi hefyd yn LlGC 8497B neu Pen 77, yn llaw Thomas Wiliems, copi a fydd bron yn unffurf â’r rhain. Nid yw’r gerdd hon yno, ond o gymharu trefn y cerddi yn y llawysgrifau hyn gellir casglu bod copi Thomas Wiliems o’r gerdd wedi sefyll mewn plyg coll o Pen 77, ac yn wir fe’i nodir ym mynegai’r llawysgrif honno. Fel arfer mae testunau’r grŵp hwn o lawysgrifau, grŵp Dyffryn Conwy, o ansawdd uchel, ond diddorol yw nodi yn achos y gerdd hon nad yw trefn y llinellau’n ddilychwin ynddynt (gw. 11–16n). Ceir y drefn gywir yn nau gopi Wmffre Dafis, LlGC 3056D a Brog I.2. Mae’r ddau hyn bron yn unffurf â’i gilydd, a pherthyn BL 14976 a LlGC 16B yn agos iddynt fel y gwnânt mewn achosion eraill hefyd. Copïwyd LlGC 16B o gynsail ysgrifenedig a chafodd y copïydd beth trafferth i ddeall orgraff ei gynsail. Ni nodir isod ddarlleniadau unigryw o LlGC 16B sy’n debyg o fod wedi codi drwy i’r copïydd gamddeall ei gynsail. Copïau eithaf llwgr ac anodd eu rhoi mewn stema yw Brog I.1, BL 14978 a C 1.2, ond perthyn yr olaf yn nes i Stowe 959 a chopïau Llywelyn Siôn na’r lleill. Perthyn Stowe 959 a phum copi Llywelyn Siôn yn weddol agos i’w gilydd, ond fel sy’n arferol, nid yw union natur y berthynas yn eglur. Er gwaethaf y darlleniadau llwgr mae’r holl lawysgrifau eraill hyn yn ategu trefn y llinellu fel y’i ceir gan Wmffre Dafis. Rhoddwyd ystyriaeth, felly, i’r canlynol: LlGC 3049D, Gwyn 4, LlGC 3056D, Brog I.2, LlGC 16B, Brog I.1, BL 14978, C 1.2, Stowe 959, Llst 134, LlGC 970E, C 5.44, LlGC 6511B a LlGC 21290E. Ni nodir darlleniadau a gefnogir gan un neu ddwy o lawysgrifau Llywelyn Siôn yn unig. Mae’r copïau eraill yn dibynnu ar y sawl a drafodwyd ac nis defnyddiwyd ar gyfer y golygiad. Mae BL 31092 yn cynnwys darlleniadau amrywiol a dynnwyd o gopi nad yw wedi goroesi ac a gynhwysai rai cwpledi ychwanegol hynod amheus. Mae’n debygol mai gwaith Iolo Morganwg yw’r rhain: ym mhennawd y gerdd yn BL 31092 priodolir y copi y tynnwyd y darlleniadau amrywiol ohono i Iolo.
Trawsysgrifiadau: LlGC 3049D, LlGC 3056D, LlGC 16B a Llst 134.
1 a Collwyd y geiryn hwn yn BL 14978 a Stowe 959 gan ychwanegu sillaf arall yn nes ymlaen yn y llinell (vnn yn, yma n).
2 Oes, un fal yr haul a’r sêr Mae pob copi’n unfryd ac eithrio C 1.2 yn y sir fel havl a ser a chopïau Llywelyn Siôn lle ceir ir yn lle a’r.
3 y Fe’i ceir ym mhop copi ond BL 14978, lle ceir sillaf ychwanegol yn nes ymlaen yn y llinell (gw. isod).
3 y sydd LlGC 16B ossyd, Brog I.1 sy, C 1.2 ysy, Llywelyn Siôn (a) sydd.
3 tu’r sêl Felly llawysgrifau Dyffryn Conwy ac Wmffre Dafis, tur isel yn LlGC 16B; ceir tyr sel yn Brog I.1, tvar sel yn BL 14978 ac (y) tair sel yn C 1.2, Stowe 959 a chopïau Llywelyn Siôn. Mae’r dystiolaeth dros tu’r, felly, yn gryfach na’r darlleniadau eraill.
4 ar Felly pob copi ond BL 14978 sy’n cynnig o.
4 sych LlGC 3056D sydd.
4 o’r BL 14978 a, Stowe 959 o, C 5.44 a LlGC 21290E ar.
4 Mae C 1.2 yn llwgr iawn: ar barch a bri o vchel.
5–6 Nis ceir yn C 1.2, Stowe 959 a chopïau Llywelyn Siôn.
5 yr … yn BL 14978 sr’ … syn.
5 eurbyrth Brog I.1 i heurbyrth, BL 14978 hevrbyrth, er bod rh yn rhoi eisoes yn ateb h yn Herbart.
6 a’i gwnâi Dilynir LlGC 16B; yn llawysgrifau Dyffryn Conwy ac Wmffre Dafis ceir a gwnai, yn BL 14978 a wnai ac yn Brog I.1 Ei roi (anodd darllen y llythyren gyntaf). Mae’r synnwyr o blaid derbyn y rhagenw.
7 seiri’r Asia Lluosog ac eithrio yn LlGC 3056D. Ni cheir y fannod yn Brog I.1 na C 1.2 (siri) ac yn BL 14978 ceir synnwyr asa.
8 ni Gthg. Brog I.1 a BL 14978 a.
8 wnaent Gthg. copïau Llywelyn Siôn wnant.
8 ryw BL 14978 i.
9 ni Copïau Dyffryn Conwy a, cf. 8n.
9 ddyn ei BL 14978 ddyn vw, C 1.2 vn o, Stowe 959 vn y, Llywelyn Siôn ym i.
10 ni Felly Wmffre Dafis, LlGC 16B, Brog I.1, BL 14978, Llywelyn Siôn; gthg. na yng nghopïau Dyffryn Conwy, C 1.2 a Stowe 959. Mae’r ystyr yn mynnu derbyn ni.
10 wnâi LlGC 16B wna, Gwyn 4 wna a ddilewyd a rhoi yn ar ôl lawnter.
10 lantern Amrywia’r llawysgrifau o ran ffurf y gair hwn; dilynir copïau Wmffre Dafis a Stowe 959. Tebyg iawn yw Llywelyn Siôn lantarn a LlGC 16B lawntern. lawnter neu lanter a geir yn y lleill.
11–16 Ceir y drefn gywir yng nghopïau Wmffre Dafis, LlGC 16B, Brog I.1 a BL 14978. Collwyd 13–14 yn C 1.2, Stowe 959 a chopïau Llywelyn Siôn, ond mae’r ddau gwpled arall yn y drefn gywir. Gthg. llawysgrifau Dyffryn Conwy 13–16, 11–12. Hawdd gweld y rheswm dros y llygru, sef y gyfatebiaeth agos rhwng 11–12 a 17–18, ond mae’r newid trefn yn difetha ystyr yr adran hon yn lân.
11 gynt Gthg. copïau Wmffre Dafis, LlGC 16B a Brog I.1 gwent, dan ddylanwad 18. Mae’r camgymeriad hwn yn tywyllu ystyr y rhan hon o’r gerdd.
12 ei Llywelyn Siôn au neu ai.
12 yn LlGC 16B vn, BL 14978 or, Llywelyn Siôn ny (= yn y).
13–14 Nis ceir yn C 1.2, Stowe 959 a chopïau Llywelyn Siôn.
14 drwy Brog I.1 draw.
14 o’i Copïau Dyffryn Conwy, Brog I.1, BL 14978; gthg. copïau Wmffre Dafis a LlGC 16B ai.
19 wydr Brog I.1 wybr.
19 yn Nis ceir yn C 1.2.
21 mae Stowe 959 maen, C 1.2 a Llywelyn Siôn maent.
22 gestyll LlGC 3049D gastell.
23 tŷ Felly’r llawysgrifau ac eithrio copïau Wmffre Dafis to, Stowe 959 twr. Hepgorwyd y gair yn gyfan gwbl yn LlGC 16B.
23 chyriau Gthg. LlGC 3056D chvriav, Stowe 959 a Llywelyn Siôn chayray. Ymgais i wella’r ystyr yw’r olaf, gellir tybied, gw. 23n (esboniadol).
23–4 tir, / … chantir C 1.2 twr … chantwr.
25 Uwch no thŵr yw’r milwr mau Dilynir copïau Dyffryn Conwy, Brog I.1 (nor twr), C 1.2, Stowe 959 a chopïau Llywelyn Siôn. Tebyg yw BL 14978 vwch no gwr vwr milwr mav. Gthg. copïau Wmffre Dafis a LlGC 16B ywch ywr gwr nar milwr mav.
26 no Copïau Wmffre Dafis a LlGC 16B nai (noi), gyda rhagenw meddiannol diangen nas cefnogir gan y llawysgrifau eraill.
28 dwy Stowe 959 day.
28 a dalai Brog I.1 adala, BL 14978 a dal (gydag a ar ddechrau’r llinell).
29 Ehangwen yng Ngefenni BL 14978 hangwen fal yngyfenni, Llywelyn Siôn y llys wenn yngyvenni (ond ceir y darlleniad cywir yn LlGC 6511B a 21290E), Brog I.2 ehangben yngefenni.
30 a’i BL 14978 a; C 1.2, Stowe 959 a Llywelyn Siôn i neu y.
31 perced Gthg. BL 14978 perkydd; yn C 1.2 mae’r llinell gyfan yn llwgr: pe kaid yr Ieirll ar park draw.
31 yr Gthg. Copïau Wmffre Dafis, LlGC 16B a thri o gopïau Llywelyn Siôn (Llst 134, LlGC 6511B, LlGC 21290E) ir.
31 ieirll Lluosog ym mhob copi ond LlGC 16B a rhai Llywelyn Siôn.
32 palis Gthg. Brog I.1 powlws.
33–4 Yn C 1.2, Stowe 959 a chopïau Llywelyn Siôn saif y llinellau hyn rhwng 22 a 23. Hawdd gweld sut y’u disodlwyd a’u rhoi yno, gan fod 22, 23 a 33–4 oll yn sôn am adeiladu neu am yr adeilad penodol a ganmolir yn y gerdd.
33 i Nis ceir yn BL 14978, C 1.2 a Stowe 959.
34 bell Nis ceir yng nghopïau Wmffre Dafis a LlGC 16B nac ychwaith yn Brog I.1. Mae rhif y sillafau yn y llawysgrifau hyn, gan hynny, yn brin.
34 torrai Copïau Wmffre Dafis, LlGC 16B torri, BL 14978 tyrav. Mae gweddill y llawysgrifau yn cefnogi torrai.
35–8 Y drefn yw 37–8, 35–6 yn C 1.2, Stowe 959 a chopïau Llywelyn Siôn.
35 obry Gthg. Brog I.1 vry, fel nad oes angen cywasgu yn yn nes ymlaen.
35 ’n y Copïau Wmffre Dafis a LlGC 16B mewn.
36 mae LlGC 16B I mae.
36 fry BL 14978 fellv.
37 mewn BL 14978 yn (b-), C 1.2, Stowe 959 a Llywelyn Siôn fal.
39–40 Nis ceir yn BL 14978.
39 eurin Brog I.1 a Llywelyn Siôn eirin, o bosibl dan ddylanwad grâbs yn y llinell nesaf, onid amrywiad orgraffyddol pur ydyw.
40 ei Llawysgrifau Dyffryn Conwy ai.
40 grâbs gwin Gwyn 4 grabs a gwin, rhy hir o sillaf.
41 a Nis ceir yn Brog I.1.
42 cyrff BL 14978 a C 1.2 kryfft.
42 y Nis ceir yn Brog I.1, C 1.2, Stowe 959 a chopïau Llywelyn Siôn. Yn yr olaf ychwanegwyd yw ar ôl derw i adfer rhif y sillafau.
42 derw BL 14978 deri.
43 llys goed Brog I.1 llysogoed.
43 main oll LlGC 3049D, Gwyn 4 a Brog I.1 meillion oll. Cyd-ddigwyddiad yw bod yr un camgymeriad yn digwydd yn Brog I.1 ac yn llawysgrifau Dyffryn Conwy: gellir ei briodoli i ddylanwad y llinell nesaf. Yn BL 14978 ceir maintelle.
45 i’r Dilynir llawysgrifau Dyffryn Conwy, C 1.2, Stowe 959 a chopïau Llywelyn Siôn. Ceir or yn llawysgrifau Wmffre Dafis a LlGC 16B, ar yn BL 14978 ac Ary yn Brog I.1.
45 mae’r BL 14978 kair.
46 a BL 14978 y.
46 oll oll C 1.2 a Stowe 959 oll.
47–8 Nis ceir yn BL 14978.
47 i’r Gthg. C 1.2, Stowe 959 a Llywelyn Siôn y.
48 annedd LlGC 3049D a medd.
49 a Nis ceir yn C 1.2.
49 wnâi LlGC 3049D mai.
49 pen well LlGC 16B pan wel.
51 Pwy … â’m … i Stowe 959 pwyn … an … ni.
51 penaig LlGC 16B pen a gadawyd bwlch ar gyfer gweddill y gair.
51 Mae BL 14978 yn drwyadl lwgr: pwy yn y twr penaic y tri.
52 yw Nis ceir yn Brog I.1.
52 patrwn Felly Gwyn 4, Brog I.2, LlGC 16B, BL 14978, Stowe 959 a chopïau Llywelyn Siôn; gthg. patrwm yn LlGC 3049D, LlGC 3056D, Brog I.1 a C 1.2. O ran yr ystyr gellid derbyn y naill neu’r llall, ond mae’r cytundeb rhwng rhai copïau gogleddol, Stowe 959 a Llywelyn Siôn o blaid patrwn.
52 Unwaith eto mae BL 14978 yn llwgr: pwy ond patrwn y poytri.
53–4 Nis ceir yn Brog I.1.
53 gampau BL 14978 synnwyr.
54 barwniaid C 1.2 ar weniaid.
55–8 Nis ceir yn Stowe 959.
55 alarch a BL 14978 alawnt o.
57 ef Brog I.1 afi.
57 myn Copïau Wmffre Dafis a LlGC 16B mewn, darlleniad annhebygol iawn.
57 Iefan O fabwysiadu’r ffurf hon fe geir cynghanedd ddwbl yn y llinell, sef croes a llusg. Mae orgraff y llawysgrifau’n amrywio yma: ceir Ieann’ yn LlGC 3049D, Ievan neu Ieuan gan Wmffre Dafis ac yn Gwyn 4 a LlGC 16B a hefyd yn Brog I.1 a chopïau Llywelyn Siôn (hefyd iauan yno); Ifan yn BL 14978 a C 1.2.
58 rôt a luwt LlGC 3049D rrod lvwt, Gwyn 4 rhod a luwt, LlGC 16B rot a llwyd, Brog I.1 vort rrydd, BL 14978 rawt a lvwt, C 1.2 rot ai lvwt, Llywelyn Siôn Rod a lywt.
60 i Nis ceir yn Brog I.1 a Stowe 959, ond ceir a o flaen gwin ynddynt, sy’n adfer rhif y sillafau. Ond noder bod a yno yn BL 14978 hefyd er gwaethaf hyd y llinell.
60 Wydrin Nis treiglir yn C 1.2 a chopïau Llywelyn Siôn. Yn BL 14978 ceir owdrwin, a nod (?dileu) o dan n.
61–2 Nis ceir yn Stowe 959.
62 a’r gwydr a’r plas Felly pob llawysgrif ond rhai Llywelyn Siôn, sy’n cynnig ar wydr y plas, disgrifiad o waith latis plwm ar y ffenestri. Eto mae trwch y dystiolaeth o blaid y darlleniad a dderbyniwyd.
63 grwybr Brog I.1 grwydr.
63 y gaer Copïau Dyffryn Conwy gaerav, BL 14978 gayr (gan gyfrif grwybr yn ddeusill, fe ddichon).
64 fry LlGC 3056D kry, drwy gydweddiad â’r gair blaenorol.
65 dwys BL 14978 dwyn.
66 welo C 1.2, Stowe 959 a Llywelyn Siôn wyl.
67 y Nis ceir yn C 1.2 a Stowe 959.
67 ’n Ni cheir y rhagenw yng nghopïau Dyffryn Conwy.
69 i’w Stowe 959 y; yn C 1.2 nis ceir o gwbl.
70 a Nis ceir yng nghopïau Llywelyn Siôn, ond ceir sillaf ychwanegol yn nes ymlaen yn y llinell, gw. isod.
70 i’r Felly copïau Wmffre Dafis, LlGC 16B, Brog I.1 a Llywelyn Siôn; gthg. copïau Dyffryn Conwy, BL 14978 a C 1.2 yr, darlleniad derbyniol hefyd. Ni cheir dim yma yn Stowe 959, sy’n cynnwys sillaf ychwanegol ar ôl iarll, gw. isod.
70 biau Brog I.1 abie, Stowe 959 y biay, Llywelyn Siôn a biav.
Brawd iau Wiliam Herbert, iarll cyntaf Penfro, oedd Syr Rhisiart Herbert, perthynas y cyfeiria Guto ati’n gynnil yn 31 ac yn agored yn llinell olaf y gerdd. Trigai yng Ngholbrwg, tŷ ar gyrion deheuol y Fenni (Thomas 1994: 85), a dyma’r tŷ a ddisgrifir mor frwd yn y cywydd hwn. Gwaetha’r modd fe ddymchwelwyd Colbrwg yn 1954, ond ceir dadansoddiad ohono gan Peter Smith (1957). Eisoes cyn ei ddymchwel roedd wedi ei weddnewid yn ddifrifol ers dyddiau Guto, nid yn unig yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg a’r ail ar bymtheg, ond hefyd yn sgil atgyweiriad pellgyrhaeddol Sir Charles Hanbury-Williams yr ymgymerwyd ag ef o 1746 ymlaen. Nododd Smith olion mewnol a âi yn ôl i gyfnod cyn Guto, felly nid tŷ newydd sbon a ddisgrifir yn y cywydd, ond yn hytrach gwaith adeiladu ar dŷ a fodolai eisoes. Y brif nodwedd ar y gwaith hwn oedd codi tŵr o frics yn llawn ffenestri gwydr ac efallai gyda lantern (gw. 10n) uwchben. Eto nodir hefyd waliau o garreg felen a tho teils cochion yn ogystal â gwaith pren godidog a pharc (ceirw). Cymherir y gŵr sy’n trigo yn y campwaith hwn â Diogenes, yr athronydd a drigai mewn casgen (gw. 11–12n a 13–14n am anawsterau mewn perthynas â hyn). Fe’i canmolir hefyd fel cerddor ar y delyn, y rôt a’r liwt (58n). Rhoddir pwyslais mawr ar y defnydd helaeth o wydr yn y tŷ – arwydd o foethusrwydd mawr – gan gymharu’r tŷ â drych y gall y wlad gyfan ei gweld ei hun wedi ei hadlewyrchu ynddo.
Dyddiad
Ar sail y llinell olaf gellir dyddio’r cywydd i gyfnod o lai na blwyddyn: rhwng dyrchafu Wiliam Herbert yn iarll Penfro ym mis Medi 1468 a dienyddiad y ddau frawd yn sgil brwydr Banbury ym mis Gorffennaf 1469 (Thomas 1994: 40, 70–1).
Golygiadau blaenorol
GGl cerdd XLIX; Lewis 1982: cerdd 25.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 70 llinell.
Cynghanedd: croes 61% (43 llinell), traws 23% (16 llinell), sain 13% (9 llinell), lusg 3% (2 linell). Gellid cyfrif 57 fel llusg yn ogystal â chroes.
1 unplas … siampler Atebir np ag mp. Am gymysgu’r trwynolion yn y gynghanedd, gw. CD 225 lle nodir mai mewn geiriau benthyg (megis siampler) y digwydd hyn.
3 tu’r sêl Mae’r ystyr yma’n ansicr. Ceir jêl, siêl yn Gymraeg o’r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen o leiaf, gw. GPC 2046. Benthycair o Saesneg jail ydyw, gw. OED Online s.v. jail/gaol, n. Byddai ‘ochr carchardy’ yn ddelwedd ddealladwy yma, a dyna a dderbyniwyd yn yr aralleiriad. Posibilrwydd arall yw sêl2 ‘seal’ (GPC 3217), a chymryd bod llun o dŵr neu o’r tŵr penodol hwn ar sêl Rhisiart Herbert. Ond ni wyddom a yw hynny’n wir.
4 parc Lle amgaeedig i gadw ceirw, yn bennaf, oedd parc yn wreiddiol, ac yn raddol y tyfodd y syniad o roi parc wrth ymyl tŷ (neu’r gwrthwyneb) fel lle i hamddena ynddo, gw. Rackham 1986: 122, 128–9.
4 brics Yn ôl Smith 1975: 265 ni ddefnyddid brics yng Nghymru tan ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg, ond bod sir Fynwy ymhlith yr ardaloedd cynharaf i’w mabwysiadu. Noda Newman (2000: 5) fod rhyw ddefnydd ar frics yng nghastell Rhaglan yn y 1460au, sef tua’r un pryd ag y byddai Syr Rhisiart wrthi’n ailadeiladu Colbrwg. Yn ddiddorol ddigon, darganfuwyd bod tyrau Colbrwg wedi eu gwneud o frics pan ddymchwelwyd y tŷ (Smith 1957: 68), ond priodolwyd hwy i waith adeiladu Sir Charles Hanbury-Williams yn y ddeunawfed ganrif, yn bennaf ar y sail mai o frics oeddynt.
6 Einion Yrth Un o hynafiaid teulu brenhinol Gwynedd, mab Cunedda Wledig a thad Cadwallon Lawhir, tad Maelgwn. Gw. WCD 232.
9–10 Deellir annedd iach a lantern ill dau gydag alontach.
10 lantern Ni nodir yr ystyr bensaernïol yn GPC 2052–3 ond cf. OED Online s.v. lantern, n. (4) ‘an erection, either square, circular, elliptical, or polygonal, on the top either of a dome or of an apartment, having the sides pierced, and the apertures glazed, to admit light’.
11–12 athro Diogenes, athronydd o Roegwr y dywedir iddo fyw mewn casgen. Dywedir hefyd fod Alecsander Fawr unwaith wedi cynnig rhoi iddo beth bynnag a ddymunai, a bod Diogenes wedi ateb drwy fynnu bod y gorchfygwr mawr yn symud allan o’i ffordd, gan fod Alecander yn sefyll rhyngddo a’r heulwen. Mae’r gymhariaeth yma rhwng casgen Diogenes, symbol o ymwrthod yn ddigymrodedd â rhwysg y byd hwn, a phlas mawreddog Syr Rhisiart Herbert yng Ngholbrwg yn un annisgwyl. Rhyfedd hefyd yw cred Guto fod casgen yr athronydd wedi ei gwneud o wydr (os wyf wdi dehongli’r cyfeiriad yn gywir, gw. 13–14n). Ni cheir y syniad hwn yn unman arall hyd y gwn. Ond fe geir stori enwog am Alecsander ei hun yn teithio o dan y môr mewn casgen wydr. Tybed a yw Guto wedi drysu rhwng y ddwy stori hyn? Gw. Cary 1956: 83–5, 146–8 am hanes Alecsander a Diogenes (neu Socrates mewn rhai ffynonellau).
13–14 Bwrw rheolaeth bro’r heulwen / Y bu drwy bib wydr o’i ben Mae’r cwpled hwn yn anodd iawn ei ddeall gan na wyddom pa ffurf ar yr hanes a oedd yn hysbys i Guto’r Glyn. Deellir pib yn yr ystyr ‘casgen’, gw. GPC 2792–3 (5). Mae Guto’n cymharu tŷ Syr Rhisiart Herbert â chasgen wydr a berthynai i’r athro, sef Diogenes (11–12n). Ergyd y gymhariaeth yw bod y ddau’n mynnu gweld awyr a sêr (16) ac felly wedi defnyddio gwydr yn helaeth yn eu cartrefi. Fel y nodwyd, nid awgrymir yn unman arall mai o wydr y gwnaed y gasgen y trigai Diogenes ynddi, ond ar y llaw arall mae’n debygol fod 15–16 yn cyfeirio at hanes yr ymdaro rhwng Diogenes ac Alecsander. Y gallu i weld y byd yw’r syniad y tu ôl i’r hanes hwn: nid oedd Diogenes yn fodlon aberthu ei fywyd o astudio natur drwy gael ei ddallu gan gyfoeth y concwerwr. Fel casgen Diogenes, mae tŷ Syr Rhisiart Herbert yn cynnig golygfeydd bendigedig, a doethwr cystal â Diogenes yn trigo ynddo (47–50). Cyfeiria bro’r heulwen naill ai at yr awyr neu at y byd hwn dan yr haul. Deallaf bwrw rheolaeth yn gyfeiriad at athronyddu am drefn yr wybren neu’r byd. Posibilrwydd arall yw bod bwrw yn golygu ‘ymwrthod â, diosg’, a bod y llinell yn cyfeirio at Diogenes yn gwrthod rheolaeth bro’r heulwen, yn gwrthod y cyfle i reoli’r byd (meddiant Alecsander). Anodd cynnwys o’i ben yn y dehongliad hwnnw, fodd bynnag: ai ymysgwyd oddi ar ei ben reolaeth y byd? Beth am drwy bib wydr wedyn? Byddai’n rhaid deall drwy yn yr ystyr ‘oherwydd, ar gyfrif’, gw. GPC 3630 d.g. trwy (g): gwell gan Diogenes ei gasgen. Ar y cyfan, haws yw glynu wrth y dehongliad cyntaf, a ddilynir yn yr aralleiriad.
15 meddiant Alecsander Am ateb nd ag nt, gw. CD 219.
15 Alecsander Alecsander Fawr, brenin Macedonia 356–323 C.C.
19 gwydr Hynny yw, y ffenestri.
19 cyfredeg GPC 713 ‘cydredeg â, hebrwng’, ond hefyd, ac yn fwy addas yma, ‘cytuno â, ymgynnull’. Dichon fod y gair yn cyfeirio at y darnau o wydr yn cydasio’n llyfn.
21 wythwynt Mae nifer y gwyntoedd a adnabyddir yn amrywio’n fawr, ond mae wyth yn rhif cyffredin, sef pedwar prif bwynt y cwmpawd a’u cyfuniadau (e.e. gogledd-ddwyrain). Gw. Brown 1949: 125–6. Ceir enghreifftiau eraill yn GHD 3.63; GLM LV.1–2 a LXI.19–20 (mae’r ddau gwpled hyn yn debyg o ran eu cyd-destun i’r llinell bresennol, sef disgrifio gwaith adeiladu).
22 Fferyll Y bardd Publius Vergilius Maro (70–19 O.C.). Yn yr Oesoedd Canol tyfodd chwedlau amdano fel dewin, ac mae nifer o’r rhain yn ei bortreadu fel pensaer gwyrthiol, gw. Comparetti 1908: 258, 268, 293–4, 296, 303.
23–6 uwch Chwaraeir ar ystyr lythrennol uwch ‘talach’ a’r ystyr ffigurol ‘uwch ei statws neu ei barch’ yn y llinellau hyn. Ceisiais gyfleu hyn yn yr aralleiriad drwy roi uwch y saif yn lle uwch yw.
23 cyriau’r tir Nid yw’r gymhariaeth yma’n hollol eglur. A ddywedir yn syml fod tŷ Syr Rhisiart yn uwch ei barch na rhannau ymylol y wlad? Neu ai cyfeiriad sydd yma at y lleoliad, yn nyffryn Wysg, a bryniau i’r gorllewin ac i’r gogledd ohono y cymherir uchder y tŷ â hwy?
26 Powls Cadeirlan St Paul’s yn Llundain, a ddefnyddir yn aml gan y beirdd Cymraeg fel patrwm o wychder pensaernïol. Gwaetha’r modd fe losgwyd yr adeilad y maent hwy’n sôn amdano i’r llawr yn ystod Tân Mawr Llundain (1666).
27–8 Deuryw adail … / Dwy lys hwn Sonia’r bardd am ddau lys a oedd yn eiddo i Risiart. Colbrwg yw un ohonynt, ond ni wyddys ble roedd y llall.
28 Siêb Cheapside, ardal fasnachol yn Llundain a oedd yn ddiarhebol i’r beirdd Cymraeg am ei chyfoeth.
29 Ehangwen Neuadd Arthur, gw. WCD 28. Cymherir Colbrwg (gw. nodyn nesaf) â’r neuadd chwedlonol hon.
29 Gefenni Enw ar afon sy’n ymuno ag afon Wysg wrth dref y Fenni. Fodd bynnag, er y gellid derbyn yr ystyr hon yn 19.9 ac yn 12.11, nid yw’n tycio yn achos 19.23, lle dywedir bod llys Syr Wiliam yng Ngefenni. Enw lle ydyw yno, a byddai hynny’n gweddu’n well nag enw afon yn 20.78 hefyd. Noda Thomas (1938: 144–5) fod Gefenni gynt yn enw ar ardal o amgylch y dref. Nid yw maint yr ardal hon yn sicr: a gwmpasai’r cyfan o arglwyddiaeth y Fenni, neu gylch llai na hynny? Bid a fo am hynny, gellir derbyn yr ystyr hon yn achos pob enghraifft o’r enw yng ngwaith Guto. O’r ffurf dreigledig Efenni y daw enw Cymraeg modern y dref ei hun, sef y Fenni, sy’n awgrymu y gallai Gefenni gyfeirio at y dref ei hun. Eto, gan fod 19.23 yn sôn yn ôl pob tebyg am Golbrwg, sydd y tu allan i’r Fenni, nid enw ar y dref ei hun yw Gefenni yno. Y tebyg yw mai Colbrwg yw’r tŷ dan sylw yma hefyd.
30 a’i chwaer Sef yr ail lys a grybwyllir yn 27–8, ble bynnag yr ydoedd.
31 perced Yn ôl GPC 2768 ‘rhwyd bysgota’, gan ddilyn geiriaduron cynharach ond gan fynegi amheuaeth am yr ystyr. Tycia’r ystyr hon yn dda yn DG.net 160.24 Pwrcas arweddawdr perced (am frithyll) ac yn DE 112 lle y’i defnyddir yn ffigurol am fantell. Ond ni thycia yma, ac mae’n amlwg fod Ifor Williams yn gywir wrth awgrymu mai bachigyn [Ffrangeg] o parc ydyw, cf. GGl 338. Gw. Le Grand Robert de la Langue Française (ail argraffiad, Paris, 1985), vii: 116 d.g. parquet ‘compartiment, espace délimité dans yn parc, un pâturage’ (tystiolaeth o’r bedwaredd ganrif ar ddeg ymlaen).
32 plas Arthur Hynny yw, y tŷ i gyd, nid y parc yn benodol.
32 palis Ffens o gwmpas parc, cf. OED Online s.v. palis, n. Gair Ffrangeg oedd hwn hefyd yn wreiddiol. Gw. Rackham 1986: 125 am wneuthuriad palis neu pale (a llun IX yno).
33 Ector Gadarn Arwr pennaf Caerdroea, mab y brenin Priaf. Mae’r epithet Gadarn yn adlewyrchu ei statws fel un o’r tri dyn cadarn yn y Trioedd, gw. TYP3 129, 337–8.
34 torrai … barn Am yr ystyr gw. GPC 3532 d.g. torri. Ceir enghreifftiau eraill yn 16.20 a 104.55, 114.2.
35–6 obry … / … fry Mae’r ystyron penodol yn aneglur yma, os oes rhai. Nid yw’n sicr ai cyfeirio at rannau gwahanol o Golbrwg a wnânt ynteu a sonnir am ddau lys gwahanol eto (cf. 27–8n, 30n).
35–8 naw tŷ … / … ganty … / … tai bychain Cyffredin mewn disgrifiadau o gartrefi yw sôn am fwy nag un tŷ, cf. GIG X.37–8 Tai nawplad … / Tai pren glân. Rhan o’r esboniad, efallai, yw bod tŷ yn golygu ‘adeilad’ a bod nifer o adeiladau mewn clwstwr, ond hefyd mae pwyslais ar faintioli’r adeilad(au), megis yma: dichon fod naw tŷ ’n y tŵr yn awgrymu bod lle i gynnwys naw tŷ yn y tŵr, mor fawr ydyw. Neu a yw tŷ hefyd yn golygu ‘ystafell’? Cf. GIG X.38 Tai pren glân mewn top bryn glas (Iolo Goch i Sycharth).
37 tref Gellid yr ystyr ‘trefgordd, cartref’ ond i gyd-fynd â’r gor-ddweud yn y rhan hon o’r gerdd, gwell derbyn ‘tref’.
39 caerau Am yr ystyr ‘mur, magwyr, rhagfur’, gw. GPC 384 (2).
39 craig eurin Carreg o liw melyn. Cymharer y garreg felen a ddefnyddid wrth atgyweirio castell Rhaglan tua’r un pryd, a ddisgrifir gan Newman (2000: 5 a 491): ‘an extremely fine yellowish-grey sandstone, quarried at Redbrook in the Wye Valley’. Tybed a ddefnyddid ef yng Ngholbrwg hefyd?
40 crib sy goch Rhaid mai to teils yw’r grib y cyfeirir ati.
42 derw Derw a ddefnyddid amlaf fel pren adeiladu yn yr Oesoedd Canol, gw. Rackham 1986: 86.
44 meillion ac adar Hynny yw, wedi eu naddu yn y pren. Am luniau o waith saer celfydd y cyfnod hwn, gw. Suggett 2005: 24, 82, 173.
50 aeth Rhaid deall y rhagenw perthynol a o’i flaen, gw. TC 174 am golli a.
57 bedd Ieuan Bedd rhyw sant o’r enw Ieuan, ond ansicr yw pa un. Credir bod bedd Ieuan Efengylydd yn Effesus (bellach yn Nhwrci), a bedd Ieuan Fedyddiwr yn Sebaste yn Samaria, ond roedd Sant Ieuan o Beverley, swydd Efrog, yn sant enwog yn Lloegr yn yr Oesoedd Canol, ac efallai mai ato ef y cyfeirir.
58 heb … Herbart r berfeddgoll.
58 rôt GPC 2989 ‘math o grwth’; OED Online s.v. rote, n.2 ‘a mediaeval musical instrument, probably of the violin class’.
58 luwt GPC 2065 ‘offeryn tannau, nid annhebyg i’r gitâr, ond bod ei gorff ar lun gellygen wedi ei thorri yn ei hanner ar ei hyd’.
59 Teirgwent Cyfrifai’r beirdd dair Gwent, gw. Foster Evans 2008: 283–4. Y tebyg yw mai arglwyddiaethau Cas-gwent, Brynbuga (gyda Chaerllion) a’r Fenni yw’r rhain. Ymddengys fod Trefynwy a’r Tri Chastell heb eu cyfrif yn ôl y dull hwn.
60 Ynys Wydrin Glastonbury yng Ngwlad yr Haf. Ceir enghreifftiau o’r enw Cymraeg o’r ddeudegfed ganrif ymlaen, gw. Williams 1948: 103–4. Bid a fo am ystyr wreiddiol gwydrin, mae’n amlwg fod y bardd yn ei ddehongli’n ansoddair o gwydr a’i fod yn parhau i ganmol ffenestri’r tŷ.
61 elment Elfen; cydnabyddid pedair ohonynt yn yr Oesoedd Canol, sef daear, awyr, tân a dŵr. Ffigurol yw defnydd Guto o’r gair yma.
61 maen Tomas Cyfeiriad tebygol at Faen yr Athronwyr, maen a chanddo rymoedd arbennig y chwiliai alcemegwyr yr Oesoedd Canol yn ddyfal amdano. Credid y gallai droi metalau eraill yn aur ac efallai ddyrannu anfarwoldeb. Priodolir traethodau alcemegol i’r diwinydd enwog Tomas o Acwin (1225–74), a dyna’r rheswm, gellir tybied, paham y mae priodolir y maen iddo yn y llinell hon. Cyfeirir ato hefyd yn 63.38. Gw. Holmyard 1957: 15–18 am y maen, a 115 a 117 am Domas o Acwin. Yr ergyd yma yw bod gweld tŷ Syr Rhisiart yn adfer ieuenctid y bardd.
63 crwybr Cyfeirir at ystafelloedd anneirif y tŷ.
64 corfau cyfrwyau GPC 558 d.g. corf ‘bwa cyfrwy, sef y ddau gorn blaen ac ôl a godai’n bur uchel’. Trosiad am dyrau neu addurniadau ar ben muriau’r adeilad neu am simneiau ydyw.
65 dwys anun Ni ellir cysgu gan fod ysblander yr adeilad hwn yn dallu’r llygaid.
66 lamp Cymherir y tŷ â lamp ddisglair sy’n adlewyrchu wyneb y sawl sy’n edrych arni. Dyma ddychwelyd at thema’r ffenstri gwydr a’r gasgen wydr a grybwyllwyd yn 14.
68 yntaw Amrywiad ar ffurf y person trydydd unigol ar yr arddodiad yn, gw. GPC 3813 d.g. yn1 (yr amrywiadau) am y ffurf hon. Nis nodir yn WG 402 na GMW 60.
Llyfryddiaeth
Brown, L.A. (1949), The Story of Maps (Boston, Massachussetts)
Cary, G. (1956), The Medieval Alexander, ed. D.J.A. Ross (Cambridge)
Comparetti, D. (1908), Vergil in the Middle Ages, translated by E.F.M. Benecke (London)
Evans, D.F. (2008), ‘ “Talm o Wentoedd”: The Welsh Language and its Literature, c.1070–c.1530’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords, c.1070–1536 (Cardiff), 280–308
Holmyard, E.J. (1957), Alchemy (Harmondsworth)
Lewis, W.G. (1982), ‘Astudiaeth o Ganu’r Beirdd i’r Herbertiaid hyd Ddechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Newman, J. (2000), The Buildings of Wales: Gwent/Monmouthshire (London)
Rackham, O. (1986), The History of the Countryside (London)
Smith, P. (1957), ‘Coldbrook House’, Arch Camb cvi: 64–71
Smith, P. (1975), Houses of the Welsh Countryside (London)
Suggett, R. (2005), Houses and History in the March of Wales: Radnorshire 1400–1800 (Aberystwyth)
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)
Thomas, R.J. (1938), Enwau Afonydd a Nentydd Cymru (Caerdydd)
Williams, I. (1948), ‘Glasinfryn’, TCHSG 9: 101–8
Sir Richard Herbert was the younger brother of William Herbert, the first earl of Pembroke, a relationship to which Guto refers obliquely in 31 and openly in the last line of the poem. He lived at Coldbrook, a house on the southern outskirts of Abergavenny (Thomas 1994: 85), and it is this house which is described with such enthusiasm in this poem. Unfortunately Coldbrook was demolished in 1954, but there is an analysis of the house by Peter Smith (1957). Even before its demolition it had been seriously altered since Guto’s time, not only during the sixteenth and seventeenth centuries, but also as a result of restoration by Sir Charles Hanbury-Williams which began in 1746. Smith noted internal remnants from a period even earlier than Guto, so the poem is not describing a brand new house, but rather improvements to a dwelling already in existence. The most notable feature of the work appears to have been the building of a tower made of bricks and with many glass windows, perhaps topped by a lantern (see 10n). But the poet also refers to walls of yellow stone and a roof of red tiles as well as splendid woodwork and a (deer) park. The man who lives in this masterpiece is compared with Diogenes, the philosopher who lived in a barrel (see 11–20n for the difficulties which this raises). He is also praised as a musician on the harp, the rote and the lute (58n). There is great emphasis on the extensive use of glass in making the house – a sign of great luxury – and a comparison of the house to a mirror in which the whole region can see its own reflection.
Date
On the basis of the last line, the poem can be dated to a period of less than a year: between the elevation of William Herbert to the earldom of Pembroke in September 1468 and the execution of both brothers following the battle of Edgcote or Banbury in July 1469 (Thomas 1994: 40, 70–1).
The manuscripts
This poem is found in 28 manuscripts. LlGC 3049D and Gwyn 4 are closely related, as is the case with a number of other poems by Guto’r Glyn. Poems which occur in these two manuscripts are normally also found in LlGC 8497B or Pen 77, in the hand of Thomas Wiliems, and again with a virtually identical text. This poem is not found there, but by comparing the order in which the poems occur in all these manuscripts it is possible to see that Thomas Wiliems must have entered it into a missing quire of Pen 77, and indeed it is listed in the index of that manuscript. This group of manuscripts, the Conwy Valley group, normally offers texts of a high quality, but interestingly in the case of this poem the line order is imperfect. The correct order is available in the two copies of Humphrey Davies, LlGC 3056D and Brog I.2. These are virtually identical to one another, and both BL 14976 and LlGC 16B are close relatives of Davies’s copies, as is the case with other poems by Guto. LlGC 16B was copied from a written exemplar and the copyist had some difficulty in understanding its orthography. Brog I.1, BL 14978 and C 1.2 are all fairly corrupt and difficult to place in a stemma, but the last is related more closely to Stowe 959 and Llywelyn Siôn’s copies than are the others. Stowe 959 and Llywelyn Siôn’s five copies are close to one another, but as usual it is not possible to determine quite how they are related. In spite of their corrupt readings all of these manuscripts broadly support the line order as given by Humphrey Davies. The following, therefore, are the manuscripts which were considered in editing: LlGC 3049D, Gwyn 4, LlGC 3056D, Brog I.2, BL 14976, LlGC 16B, Brog I.1, BL 14978, C 1.2, Stowe 959, Llst 134, LlGC 970E, C 5.44, LlGC 6511B a LlGC 21290E. The other copies are dependent on the ones already discussed, and were not used for the edition. BL 31092 includes variants from a copy which has not survived and which contained some very suspicious extra couplets, probably the work of Iolo Morganwg, since the copy from which the variants were drawn is attributed to him in the heading in BL 31092.
Previous editions
GGl poem XLIX; Lewis 1982: poem 25.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 70 lines.
Cynghanedd: croes 61% (43 lines), traws 23% (16 lines), sain 13% (9 lines), lusg 3% (2 lines). 57 might be counted as llusg as well as croes.
1 unplas … siampler np is answered by mp. On the confusion of nasals in cynghanedd, see CD 225 where it is described as happening in borrowed words (such as siampler).
3 tu’r sêl The meaning here is uncertain. Jêl, siêl for ‘jail’ occur in Welsh from the sixteenth century at least, see GPC 2046. They are borrowings from English jail, for which see OED Online s.v. jail/gaol, n. ‘side of a prison’ would make sense here, and is accepted in the translation. Another possibility is sêl2 ‘seal’ (GPC 3217), assuming that an image of a tower or of this specific tower occurred on Sir Richard Herbert’s seal. But we do not know whether that was the case.
4 parc A park was originally an enclosure for keeping animals, usually deer. The idea of placing a park by a house (or vice versa) as a place of leisure developed gradually, see Rackham 1986: 122, 128–9.
4 brics According to Smith 1975: 265 brick was not used in Wales before the second half of the sixteenth century, though Monmouthshire was among the earliest areas to adopt it. Newman (2000: 5) notes some use of brick at Raglan Castle in the 1460s, about the same time as Sir Richard Herbert’s work at Coldbrook. Interestingly, when the house was demolished the towers at Coldbrook were discovered to be of brick (Smith 1957: 68), but they were attributed to the activity of Sir Charles Hanbury-Williams in the eighteenth century, largely because they were made of brick.
6 Einion Yrth One of the ancestors of the royal family of Gwynedd, the son of Cunedda Wledig and the father of Cadwallon Lawhir, the father of Maelgwn. See WCD 232.
9–10 Understand both annedd iach and lantern with alontach.
10 lantern The architectural meaning is not noted in GPC 2052–3 but cf. OED Online s.v. lantern, n. (4) ‘an erection, either square, circular, elliptical, or polygonal, on the top either of a dome or of an apartment, having the sides pierced, and the apertures glazed, to admit light’.
11–12 athro Diogenes, a Greek philosopher who is said to have lived in a barrel. It is also said that Alexander the Great once offered him any favour he cared to ask for, and that Diogenes replied by asking the famous conqueror not to stand in his light. The comparison here between Diogenes’s barrel, a symbol of the uncompromising rejection of wordly pomp, and Sir Richard Herbert’s magnificent manor house at Coldbrook is unexpected. Guto’s apparent belief that the philosopher’s barrel was made of glass is also peculiar (if my interpretation is correct here, see 13–14n). The idea does not occur anywhere else as far as I know. There is, however, a famous story about Alexander descending to the bottom of the sea in a glass barrel. Has Guto confused these two stories? See Cary 1956: 83–5, 146–8 for the story of Alexander and Diogenes (or Socrates according to some versions).
13–14 Bwrw rheolaeth bro’r heulwen / Y bu drwy bib wydr o’i ben This couplet is very difficult to understand given that we do not know which version of the story was known to Guto’r Glyn. Pib is understood to mean ‘barrel’, see GPC 2792–3 (5). Guto is comparing Sir Richard Herbert’s house with the glass barrel of the philosopher Diogenes (11–12n). The point of the comparison is that both insisted on seeing awyr a sêr ‘air and stars’ (16) and therefore made extensive use of glass in their homes. As already stated, there is no other reference to Diogenes’s barrel being of glass, but on the other hand it is likely that 15–16 do refer to the encounter between the Diogenes and Alexander. This is a story about the ability to see the world: Diogenes was unwilling to give up his life of contemplating nature through being blinded by the conqueror’s wealth. Like Diogenes’ barrel, the house of Sir Richard Herbert offers clear views, and there is an equally wise man living in it (47–50). Bro’r heulwen refers either to the air or to this world under the sun. I take bwrw rheolaeth as a reference to philosophizing about the ordering of the heavens or the world. Another possibility is that bwrw means ‘reject, slough off’, and that Diogenes rejects rheolaeth bro’r heulwen, the chance to rule the world (meddiant Alecsander). It is however difficult to include o’i ben in this interpretation: does Diogenes shake the weight of ruling the world from off his head? What about drwy bib wydr? Drwy would have to mean ‘because of, on account of’, see GPC 3630 s.v. trwy (g): Diogenes prefers his barrel. On the whole, the first interpretation is easier and is followed in the translation.
15 meddiant Alecsander For the correspondence of nd and nt in cynghanedd, see CD 219.
15 Alecsander Alexander the Great, king of Macedonia 356–323 B.C.
19 gwydr That is, the windows.
19 cyfredeg GPC 713 ‘keep pace with, accompany’, but also, and more relevantly here, ‘concur with, assemble’. The word seems to describe the pieces of glass fitting smoothly together in unison.
21 wythwynt The number of winds recognised varies greatly, but eight is common, i.e. the four compass points and their combinations (e.g. north-east). See Brown 1949: 125–6. There are other examples in GHD 3.63; GLM LV.1–2 and LXI.19–20 (these two couplets are similar in context to the present line, i.e. they describe building work).
22 Fferyll Virgil, the poet Publius Vergilius Maro (70–19 A.D.). In the Middle Ages he developed into a magician, and a number of anecdotes portray him as a miraculous builder, see Comparetti 1908: 258, 268, 293–4, 296, 303.
23–6 uwch There is play here on the literal meaning of uwch ‘taller’ and the figurative ‘of higher status, more respected’. I have tried to convey this in the translation by giving ‘stands higher’ for uwch yw.
23 cyriau’r tir This comparison is not entirely clear. Is it simply saying that Sir Richard’s house is more respected than the outlying regions of the land? Or is there a reference to the location in the Usk Valley, with hills to the west and north, with which the height of the house is compared?
26 Powls St Paul’s cathedral in London, often used by the Welsh poets as an example of architectural splendour. Unfortunately the actual building to which they are referring burnt down in the Great Fire of London (1666).
27–8 Deuryw adail … / Dwy lys hwn The poet mentions two courts which belonged to Richard. One of these is Coldbrook, but the other one is unknown.
28 Siêb Cheapside, a commercial area in London which was proverbial among the Welsh poets for its wealth.
29 Ehangwen Arthur’s hall, see WCD 28. Coldbrook (see next note) is being compared with this legendary court.
29 Gefenni The name of a river which joins the river Usk beside the town of Abergavenny. However, though this meaning is acceptable in 19.9 and in 12.11, it does not suit 19.23, which states that Sir William has a court in Gefenni. It must be a place name there, and that would also make better sense in 20.78 than would a river name. Thomas (1938: 144–5) notes that Gefenni was formerly used to denote a region around the town. The extent of this region is not known: did it encompass the whole lordship of Abergavenny, or merely a smaller zone? In any case, Gefenni makes sense as a region name in every case where it occurs in Guto’s poetry. The modern Welsh name for Abergavenny, y Fenni, derives from the lenited form Efenni, which opens up the possibility that Gefenni could refer specifically to the town. However, since 19.23 is most likely referring to Coldbrook, which lies outside the town, Gefenni is not being used to refer to the town there. Coldbrook is probably meant here too.
30 a’i chwaer I.e. the second court mentioned in 27–8, wherever it was.
31 perced According to GPC 2768 a ‘fishing-net’, following earlier dictionaries, but doubt is expressed as to this meaning. It works well in DG.net 160.24 Pwrcas arweddawdr perced (concerning a trout) and in DE 112 where it is used figuratively for a mantle. But it will not do here, and it is clear that Ifor Williams was right in suggesting that it is a diminutive of (French) parc, cf. GGl 338. See Le Grand Robert de la Langue Française (second edition, Paris, 1985), vii, 116 s.v. parquet ‘compartiment, espace délimité dans yn parc, un pâturage’ (attested from the fourteenth century).
32 plas Arthur That is, the whole house, not the park in particular.
32 palis A fence around a park, cf. OED Online s.v. palis, n. This too was originally a French word. See Rackham 1986: 125 for how a palis or pale was made (and plate IX there).
33 Ector Gadarn The chief hero of Troy, son of king Priam. The epithet Gadarn (‘the Mighty’) reflects his status as one of the three mighty men in the Triads, see TYP3 129, 337–8.
34 torrai … barn For the meaning, see GPC 3532 s.v. torri. There are other examples in 16.20 and 104.55, 114.2.
35–6 obry … / … fry The precise meanings are unclear here, if they have any. It is not certain whether these words describe different parts of Coldbrook or whether two different courts are meant (cf. 27–8n, 30n).
35–8 naw tŷ … / … ganty … / … tai bychain The poets frequently describe houses as being composed of more than one tŷ, cf. GIG X.37–8 Tai nawplad … Tai pren glân. Part of the explanation, perhaps, is that tŷ can mean ‘building’ and that there are a number of buldings in a cluster, but also there is an emphasis on the size of the building(s): naw tŷ ’n y tŵr surely suggests that there is room in the tower to encompass nine houses. Or can tŷ also mean ‘chamber’? Cf. Iolo Goch to Sycharth, GIG X.38 Tai pren glân mewn top bryn glas ‘pure wooden houses on top of a green hill’.
37 tref This could mean ‘household, homestead’ but to fit in with the exaggeration in this part of the poem it is best to translate it as ‘town’.
39 caerau For the meaning ‘wall, rampart, bulwark’, see GPC 384 (2).
39 craig eurin Yellow-coloured stone. Cf. the yellow stone used to restore Raglan Castle at about the same time, described by Newman (2000: 5 and 491) as ‘an extremely fine yellowish-grey sandstone, quarried at Redbrook in the Wye Valley’. Was it also used at Coldbrook?
40 crib sy goch The crest referred to must be a tiled roof.
42 derw Oak was the main timber tree in the Middle Ages, see Rackham 1986: 86.
44 meillion ac adar That is, carved into the wood. For images of the skilled carving of this period, see Suggett 2005: 24, 82, 173.
50 aeth The relative pronoun a must be supplied before this verb, see TC 174 for the loss of a.
57 bedd Ieuan The grave of a saint called John, but it is uncertain which. The grave of the evangelist John is supposed to be at Ephesus (now in Turkey), and that of John the Baptist at Sebaste in Samaria, but St John of Beverley, Yorkshire, was a famous saint in England in the late Middle Ages, and this may be a reference to him.
58 heb … Herbart r berfeddgoll.
58 rôt GPC 2989; OED Online s.v. rote, n.2 ‘a mediaeval musical instrument, probably of the violin class’.
58 luwt GPC 2065; OED Online s.v. lute, n.1 ‘a stringed musical instrument’.
59 Teirgwent The poets counted three Gwents, see Foster Evans 2008: 283–4. These are probably the lordships of Strigoil (or Chepstow), Usk (with Caerleon) and Abergavenny. Monmouth and the Three Castles appear to be outside this scheme.
60 Ynys Wydrin Glastonbury in Somerset. The Welsh name is attested from the twelfth century onwards, see Williams 1948: 103–4. Whatever gwydrin meant originally, it is clear that the poet is interpreting it as an adjective derived from gwydr ‘glass’ and that he is continuing to praise the windows.
61 elment An element; four elements were recognized in the Middle Ages, i.e. earth, air, fire and water. The word is used figuratively here.
61 maen Tomas A probable reference to the Philosophers’ Stone, a substance with special powers for which medieval alchemists searched diligently. It was believed that it might turn base metals into gold and perhaps convey immortality. Alchemial tracts are attributed to the famous theologian Thomas Aquinas (1225–74), and that is the likely reason for the phrase maen Tomas. Guto refers to the stone again in 63.38. See Holmyard 1957: 15–18 for the stone, and 115 and 117 for Thomas Aquinas. The implication here is that seeing Sir Richard’s house restores the poet’s youth.
63 crwybr A reference to the many rooms in the house.
64 corfau cyfrwyau GPC 558 s.v. corf ‘saddle-bow’, where it is noted that the two points of the saddle formerly rose much higher than is the case today. This is a metaphor for towers or ornamentation on the top of the walls or for chimneys.
65 dwys anun No-one can sleep on account of the splendour of this building dazzling the eyes.
66 lamp The house is compared to a bright lamp which reflects the image of whoever looks at it. This is a return to the theme of the glass windows and the glass barrel mentioned in 14.
68 yntaw A variant form of the third person singular of the preposition yn, see GPC 3813 s.v. yn1 (the variants) for the form. It is not noted in WG 402 or GMW 60.
Bibliography
Brown, L.A. (1949), The Story of Maps (Boston, Massachussetts)
Cary, G. (1956), The Medieval Alexander, ed. D.J.A. Ross (Cambridge)
Comparetti, D. (1908), Vergil in the Middle Ages, translated by E.F.M. Benecke (London)
Evans, D.F. (2008), ‘ “Talm o Wentoedd”: The Welsh Language and its Literature, c.1070–c.1530’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords, c.1070–1536 (Cardiff), 280–308
Holmyard, E.J. (1957), Alchemy (Harmondsworth)
Lewis, W.G. (1982), ‘Astudiaeth o Ganu’r Beirdd i’r Herbertiaid hyd Ddechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Newman, J. (2000), The Buildings of Wales: Gwent/Monmouthshire (London)
Rackham, O. (1986), The History of the Countryside (London)
Smith, P. (1957), ‘Coldbrook House’, Arch Camb cvi: 64–71
Smith, P. (1975), Houses of the Welsh Countryside (London)
Suggett, R. (2005), Houses and History in the March of Wales: Radnorshire 1400–1800 (Aberystwyth)
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)
Thomas, R.J. (1938), Enwau Afonydd a Nentydd Cymru (Caerdydd)
Williams, I. (1948), ‘Glasinfryn’, TCHSG 9: 101–8
Noddwr nodedig oedd Syr Rhisiart Herbert, er mai dim ond un cywydd a erys iddo gan Guto’r Glyn (cerdd 22). Ceir awdl iddo gan Lewys Glyn Cothi (GLGC cerdd 114), cywydd mawl gan Ieuan Deulwyn (Lewis 1982: cerdd 26) ac awdl gan Huw Cae Llwyd i’w fab, Syr Wiliam Herbert o Golbrwg, a ganwyd efallai tra oedd Rhisiart yn dal yn fyw (HCLl cerdd 2). Ceir hefyd ymryson rhwng Ieuan Deulwyn a Bedo Brwynllys a gynhaliwyd ar ei aelwyd ef yng Ngholbrwg (Lewis 1982: cerddi 28 a 29). Yn olaf, ceir marwnadau gan Fedo Brwynllys (Lewis 1982: cerdd 30) a Hywel Dafi (Lewis 1982: cerdd 31) a marwnad i Risiart a’i frawd Wiliam, iarll Penfro, gan Huw Cae Llwyd (HCLl cerdd 4).
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Godwin’ 8; WG2 ‘Godwin’ 8B1. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.
Achres Syr Rhisiart Herbert o Golbrwg
Roedd Rhisiart yn ail fab cyfreithlon i Syr Wiliam ap Tomas o Raglan a’i ail wraig, Gwladus ferch Dafydd Gam o Aberhonddu. Ei frawd hynaf oedd Wiliam Herbert, iarll cyntaf Penfro (m. 1469). Ei wraig oedd Margred ferch Tomas ap Gruffudd ap Nicolas (Griffiths 1972: 116). Gadawodd feibion, sef Syr Wiliam Herbert o Golbrwg ac eraill. At hynny, roedd yn hanner brawd i feibion Syr Rhosier Fychan.
Ei gartref
Trigai yng Ngholbrwg, tŷ i’r de-ddwyrain o’r Fenni, bellach yn sir Fynwy (SO 3112; Thomas 1994: 85). Ceir disgrifiad estynedig o’r tŷ yng ngherdd 22, ac mae’n amlwg fod Syr Rhisiart wedi gwario’n hael i’w adnewyddu. Ysywaeth, dymchwelwyd y tŷ yn 1954 a bellach dim ond y parc sy’n nodi lle safai (Smith 1957).
Ei yrfa
Ymddengys Syr Rhisiart Herbert yn bennaf fel cydymaith a chefnogwr i’w frawd, Wiliam, iarll cyntaf Penfro. Derbyniodd bardwn yn 1457 ar yr un pryd â’i frawd (Thomas 1994: 85). Awgryma hynny ei fod yn cefnogi Wiliam Herbert yn yr ymgiprys rhwng noddwr Herbert, Richard, dug Iorc, a phlaid y Brenin Harri VI. Noda Thomas (ibid.) ei fod wedi ymladd gyda’i frawd ym mrwydr Mortimer’s Cross, lle trechwyd llu Siasbar Tudur gan Edward, mab dug Iorc. Ar ôl i Edward gael ei gydnabod yn frenin ymddengys Rhisiart droeon gyda’i frawd yn cyflawni swyddogaethau pwysig yn ne Cymru. Ef, er enghraifft, oedd cyd-arweinydd yr ymgyrch yn erbyn castell Carreg Cennen yn 1462. Delid y castell yn erbyn Edward IV gan Domas ac Owain ap Gruffudd ap Nicolas, ond bu’n rhaid iddynt ildio i Risiart Herbert erbyn Mai 1462 (Griffiths 1993: 28). Roedd Rhisiart yn ddirprwy i’w frawd fel ustus Deheubarth Cymru yn 1464 a 1466, yn siedwr siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi 1461–9 ac yn gwnstabl Aberteifi o 1463 (Thomas 1994: 86). Daliai swyddi hefyd yn arglwyddiaeth Casnewydd, a reolid gan ei frawd (ibid.). Pan ymestynnodd grym Wiliam Herbert i ogledd Cymru, dilyn a wnaeth Rhisiart. Yn 1468 arweiniodd un o dri rhaniad byddin Wiliam Herbert a aeth yn erbyn castell Harlech, a ddelid gan y Lancastriaid. Ar y ffordd yno fe drechodd lu Siasbar Tudur ger tref Dinbych (Ross 1974: 114). Fel ei frawd, gwobrwywyd Rhisiart Herbert yn hael gan y brenin; rhestrir y tiroedd a dderbyniodd, llawer ohonynt yn swyddi Henffordd a Chaerloyw, yn Thomas (1994: 86).
Ei farwolaeth
Am yr amgylchiadau, gw. Wiliam Herbert, iarll cyntaf Penfro. Daliwyd Rhisiart a’i frawd ym mrwydr Edgecote, 24 Gorffennaf 1469, gan gefnogwyr eu gelyn, Richard Neville, iarll Warwick. Aethpwyd â hwy i Northampton a’u dienyddio. Mae’r beirdd Cymraeg yn dweud bod Rhisiart wedi ei ladd ddiwrnod cyn ei frawd, sef ar 26 Gorffennaf (Lewis 2011: 108–9). Dygwyd ei gorff yn ôl i’r Fenni a’i gladdu yno yn eglwys Priordy Mair. Gellir gweld ei feddrod ysblennydd yno o hyd.
Llyfryddiaeth
Griffiths, R.A. (1972), The Principality of Wales in the Later Middle Ages: The Structure and Personnel of Government, i: South Wales, 1277–1536 (Cardiff)
Griffiths, R.A. (1993), Sir Rhys ap Thomas and his Family: A Study in the Wars of the Roses and Early Tudor Politics (Cardiff)
Lewis, B.J. (2011), ‘The Battle of Edgecote or Banbury (1469) through the Eyes of Contemporary Welsh Poets’, Journal of Medieval Military History, 9: 97–117
Lewis, W.G. (1982), ‘Astudiaeth o Ganu’r Beirdd i’r Herbertiaid hyd Ddechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Ross, C. (1974), Edward IV (Berkeley)
Smith, P. (1957), ‘Coldbrook House’, Arch Camb cvi: 64–71
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)