Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn 41 llawysgrif, yn gyflawn gan amlaf, dros gyfnod sy’n ymestyn o chwarter cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Nid yw’r amrywiadau geiriol yn nhestunau’r llawysgrifau hyn yn fawr nac yn niferus iawn, a cheir peth croesddylanwadu, yn enwedig yn nhestunau X1. Gwelir amrywio mwy sylweddol yn nhrefn llinellau’r gerdd, gyda rhai bylchau, ond serch hynny gellir olrhain y testunau i gyd i un gynsail ysgrifenedig.
Mae llawysgrifau’r gerdd i gyd yn dwyn cyswllt â gogledd a chanolbarth Cymru ac nid oes yr un o darddiad deheuol.
Ymranna’r testunau yn bedwar fersiwn, sef BL 14967, LlGC 17114B, X1, X2 (gw. stema). O’r rhain, LlGC 17114B yn unig a C 5.167 (sy’n gopi ohono) sy’n cynrychioli’r ail fersiwn. Nodweddir BL 14967 gan ddiffyg llinellau 43–6 ac eithrio mewn dau achos (LlGC 17113B, LlGC 3056D) lle cyflenwyd hwy o ffynonellau eraill. Nodweddir X1 gan y drefn llinellau 1–76 a thardda’r testunau o ‘Gynsail Dyffryn Conwy’. Ceir perthynas agos iawn rhwng Gwyn 4 (William Salesbury) a LlGC 3049D (llaw anhysbys) sydd ill dau yn gopïau uniongrychol o’r gynsail honno. Nodweddir X2 gan y darlleniadau yn 8 Ac o Wynedd ac Einiawn ac yn 41 Yn Nasreth llwyth hen Israel nas ceir yn y testunau eraill, gan ddiffyg 39–40 a chan drefn linellau wahanol lle mae 69–70 yn dilyn 66 a 67–8 yn dilyn 70. Y fersiwn hwn sy’n gwahaniaethu fwyaf oddi wrth gynsail y gerdd, er nad yw’r gwahaniaethau’n fawr nac yn niferus. Ceir hefyd ddyrnaid o destunau nad ydynt, un ai am eu bod yn anghyflawn neu oherwydd natur eu darlleniadau, yn cyfateb yn dwt i’r un o’r fersiynau uchod, sef Pen 89(ii), Pen 221, LlGC 3061D, LlGC 1586E.
Ceir y testunau pwysicaf o’r gerdd yn llawysgrifau ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg a’r ganrif ddilynol. Seiliwyd y testun golygyddol ar BL 14967, LlGC 17114B, Gwyn 4.
Trawsysgrifiadau: BL 14967, LlGC 17114B, Gwyn 4.
2 folwn ni volwn i neu volwni a geir yn y llawysgrifau ond yn seinegol gallai’r ddwy ffurf gynrychioli naill ai folwn i neu folwn ni. Mwy arferol fyddai’r ail a mwy cydnaws ag osgo ‘cynhwysol’ Guto, er y gellid y cyntaf hefyd.
7 a’u Gthg. GGl 15.7 a’i. Pair ffurf ai y llawysgrifau ei bod yn amhosibl gwybod ai unigol ynteu lluosog yw’r rhagenw mewnol genidol. Os yw’n unigol, dengys y diffyg treiglad i dawn y dylid ei gydio wrth ryw enw benywaidd, a’r unig un mewn golwg yw [m]erch yn 5. Ar y llaw arall, ymddengys yn fwy naturiol deall y rhagenw yn ai fel un lluosog a’i gydio wrth yr enw lluosog [b]lodau yn yr un llinell.
14 wylliaid Ceir mewn rhai llawysgrifau, megis BL 14889, LlGC 3051D, Brog I.2, &c., y darlleniad eillio / ailliaw. Er y rhydd hwn synnwyr (ar eillio ‘llwyr ddifrodi …’, gw. GPC 1194 (b)), gwell yw wylliaid a’r tebyg yw mai trwy ei gamysgrifennu y cafwyd ailliaw / eillio.
16 o’r Gthg. GGl 15.16 o, ond mewn un llawysgrif yn unig, sef Pen 152, a honno’n gopi o Pen 99 (gw. y stema) y ceir y darlleniad. Nid atebir yr r yn rann ychwaith.
28 treio Gthg. GGl 15.28 treiai, darlleniad a geir yn nhestunau X2 yn bennaf ac sydd felly’n llai dibynadwy (gw. uchod). Peth cwbl idiomatig yw defnyddio berfenw fel hyn a thebyg mai chwiw am gael berf bersonol a barodd ei newid.
39 y môr Ceir yma beth amrywio yn y llawysgrifau. Y darlleniadau pwysicaf yw BL 14967 Amier, LlGC 17113E anner (yn wreiddiol, cyn ei ddileu; cf. BL 14889 Anner), LlGC 17114B y mor, Gwyn 4 Y mor, LlGC 3049D a nner. Digwydd y mor hefyd fel amrywiad mewn llaw arall ar anner yn LlGC 17113E. O’r rhain, y darlleniad sy’n rhoi’r synnwyr gorau, ac sy’n cyfateb i’r ddelwedd o ddyfroedd mawr a geir o 25 ymlaen, yw y môr. Hefyd, o gofio mor aml yr ymgyfnewidiai seiniau a ac y, a’r camrannu minimau a chamddarllen o am e a ddigwyddai ar dro, gellid yn ddigon hawdd fod wedi ysgrifennu amier neu anner am y môr. Posibilrwydd arall fyddai ystyried amier yn wall am amhêr, negydd pêr (gw. GPC2 215) neu fenthyciad posibl o’r Saesneg amêr ‘chwerw’ (gw. MED d.g.) ond ni cheir cystal synnwyr. Prin y gellir ystyried anner, o’i ddeall i olygu’r Saesneg heffer, gan y byddai hynny’n anghydnaws â’r cyd-destun. A môr a ddarllenir yn GGl 15.39 (cf. Ba (M) 11 a mor).
40 feddai Dyma’r darlleniad a geir yn y llawysgrifau cynharaf (ond meddai yn LlGC 17114B). Diddorol sylwi y ceir yn ddiweddarach, yn llawysgrif BL 14978 ac yna mewn tair arall, sef Pen 89(i), LlGC 3061D, 182, LlGC 279D, y darlleniad foddai a cf. LlGC 1271E fodai, a’r pump ohonynt heb fod â pherthynas neilltuol o agos â’i gilydd o ran eu darlleniadau eraill (gw. y stema). Cyfetyb boddai yn fwy penodol i’r hyn a fu pan ddinistriodd y Diluw bechaduriaid y ddaear ond rhydd feddai synnwyr purion hefyd (gw. GPC 2394 d.g. meddaf1) ac mae ei gynharwch o’i blaid.
41 A thrawsran llwyth yr Israel Gthg. GGl 15.41 Yn Nasreth llwyth hen Israel. Ceir y darlleniad hwn yn LlGC 3051D a’r rhan fwyaf o destunau eraill X2 ond nid yw’r rhain mor agos at gynsail y gerdd (gw. uchod). Ceir rhai llygriadau o thrawsran / throwsran yn y llawysgrifau, megis yn BL 14889 throWssan, LlGC 17114B thowsran ac nid anodd gweld sut y gallai darlleniad o’r fath fod wedi drysu copïwr a’i arwain i’w newid, gan gynnig Nasareth dan ddylanwad yr hen drawiad Nasareth … Israel. Mae cynghanedd y testun hefyd yn fwy cymhleth.
43–6 Yn llawysgrif LlGC 17114B dilyn y llinellau hyn linell 72 o’r testun ond amlwg eu bod wedi eu camleoli gan fod y gerdd eisoes erbyn hynny, yn llinellau 60–1, 63–4, wedi sôn am wyth o blant Ieuan ab Einion, nid saith. Yn llawysgrif LlGC 3061D dilynant linell 52 o’r testun, ond diau eu bod wedi eu camleoli yno hefyd gan fod Guto’r Glyn, yn 45–6, yn ystyried Rhydderch, nid Dafydd, yr hynaf a’r cyntaf o’r plant.
43 nef, / grymustref Gthg. GGl 15.43–4 … Nêr / Yw meistr yr holl rymuster, darlleniad a geir yn nhestunau X2 yn bennaf, er y rhydd synnwyr boddhaol.
46 lin Dylid nodi mai len a geir yn y testunau cynharaf, sef LlGC 17113E (ond ychwanegwyd y llinell gan law arall), LlGC 17114B, 41, LlGC 3051D, a bai amlwg amdano (tyst o’r gynghanedd) yw benn LlGC 3049D. Gallai len fod yn ffurf dreigledig un ai llen yn yr ystyr ‘siten neu blât (o bapur …)’, GPC 2152 (b), a gynhwysai achau Rhydderch ab Einion (gw. hefyd 46n (esboniadol)), neu ynteu llên yn yr ystyr ‘dysg, gwybodaeth’, ibid. 2152 (a). Fodd bynnag, ymddengys llin yn ddarlleniad mwy naturiol, er mai yn ddiweddarach yr ymddengys yn y llawysgrifau, sef LlGC 3056D (ond sylwer hefyd mai rhan ydyw yno o ychwanegiad gan law arall), LlGC 727D, &c. Cf. 70 Llin i hen Edwin …
50 Paladr … plaid i’r Gïwn Gthg. GGl 15.50 Pleidiwr gwiw paladr Gïwn, darlleniad a geir yn X2 yn bennaf. Ar plaid i’r Gïwn, cf. 68 Llin i a’r nodyn; GHS 23.55–6 Mae plant, mi a’i gwarantaf, / Blaid i hwn fal blodau haf. Deellir yr arddodiad i yma i ddynodi meddiant – yn llythrennol ‘[aelod o] deulu [sy’n perthyn] i’r Gïwn’. Yn BL 14967, LlGC 17114B pleidiwr gïwn a geir.
52 gyrff Gthg. GGl 15.52 gorff. Ceir gyrff yn y llawysgrifau cynnar BL 14967, LlGC 17113E, Gwyn 4, LlGC 3049D ac mewn saith o rai diweddarach. gorff a geir yn y rhelyw, ond mwy boddhaol yw gyrff gan mai at fywydau dau ŵr y cyfeirir.
56 Eli, Enoc Gthg. GGl 15.56 O lin enwog, darlleniad a geir gyntaf yn y llawysgrif ddiweddarach Pen 99 ac yna mewn pedair o rai eraill, ond mae cyfeirio at Domas a Siôn (57) fel Eli ac Enoc yn gyson â dull trosiadol Guto’r Glyn yn y cywydd hwn.
58 i gadw gweiniaid Gthg. GGl 15.58 A geidw Gwynedd, darlleniad a geir yn nhestunau X2 yn bennaf. Cydnaws yw darlleniad y testun â’r mynych gyfeiriadau yn y farddoniaeth at ddyletswydd noddwyr i ofalu am y tlodion – gweiniaid.
67–70 GGl 15.67–70 lle y rhagflaena’r ail gwpled y cyntaf, trefn llinellau a geir yn nhestunau X2. Mae safle’r cwpled yn y testun yn uchafbwynt priodol i’r holl sôn am aelodau’r teulu.
67 ir Gthg. GGl 15.69 imp, darlleniad a geir yn X2 yn bennaf ac un na rydd gystal synnwyr.
68 i Gthg. GGl 15.70 o, darlleniad sy’n digwydd gyntaf yn llawysgrif BL 14978 lle y ceir i yn y llawysgrifau cynharach. Deellir i i ddynodi meddiant; cf. 50n.
75 hyn Gthg. GGl 15.75 hynny, darlleniad a geir yn X2 yn bennaf ac sy’n edrych fel ymgais i sicrhau digon o sillafau i’r llinell. Fodd bynnag, ceir y nifer rheolaidd o sillafau os cyfrifir gadw yn ddeusill.
Moliant yw’r cywydd hwn i Ieuan ab Einion o’r Cryniarth a’i wraig Angharad, merch Dafydd ab y Gïwn Llwyd, a’u hwyth plentyn.
Mae dau beth yn neilltuol yn ein taro yn y gerdd hon. Un yw’r ffordd y cyfosodir daioni neu dduwioldeb y cymeriadau â’u milwriaeth. Ceir enghraifft o hyn yn y cwpled sy’n disgrifio Ieuan fel Oen tangnefedd a heddwch / A llew traws i wylliaid trwch (13–14), a disgrifir ei blant ymhellach fel Angylion Duw yng Nghlyndŵr, / A thrindeirw llwyth yr Hendwr (65–6). Nodwedd arall yw’r modd y defnyddir delweddau o ddyfroedd mawr yn drosiadol. Cyffelybir Ieuan a’i bobl yn ffoi rhag y gelyn i Foses a’r Israeliaid gynt yn ffoi rhag Pharo a’i filwyr nes boddi’r rheini yn y Môr Coch (24–32). Ac fel pe na bai hynny’n ddigon, llyncir y gelyn drachefn gan lifeiriant arall, sef dilyw oes Noa, gyda Ieuan a’i blant yn dianc yn groeniach ac yn ailgyfaneddu’r ddaear mewn daioni (33–42). Mae darnau fel y rhain yn ddiddorol hefyd, afraid dweud, am y cynefindra agos a ddangosant â’r Ysgrythur.
Dyddiad
Sylwer yn gyntaf ar y cyfeiriad at filwriaeth Dafydd ab Ieuan yn Ffrainc (47). Os yw Thomas Roberts yn iawn yn casglu mai yn ystod blynyddoedd olaf y Rhyfel Can Mlynedd, 1448–51, y bu hynny (gw. 47n), yna ni ellid bod wedi cyfansoddi’r gerdd cyn hynny. Ystyriaeth arall yw nad oes dim sôn yn y gerdd am wrhydri amlwg Dafydd ab Ieuan fel cwnstabl castell Harlech o 1461 hyd 1468 (gw. 47n), ond cofier y buasai Ieuan ab Einion, prif wrthrych y gerdd, tua 90 oed erbyn 1461, oes ry faith o bosibl onid addesir tipyn ar ddyddiadau Bartrum a thybio ei eni tua 1380. Gan nad yw’n dilyn o reidrwydd mai wedi i Ddafydd ddychwelyd o Ffrainc (yn hytrach nag yn ystod ei gyfnod yno) y canodd Guto’r Glyn y gerdd, ac o ystyried oed Ieuan ab Einion, efallai y dylid ei dyddio’n gynharach yn hytrach nag yn hwyrach yn y 1450au.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd XV.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 76 llinell.
Cynghanedd: croes 38 llinell (50%), traws 19 llinell (25%), sain 16 llinell (21%), llusg 3 llinell (4%).
1 cywirdeb Cf. 22 Ac Ieuan a fu gywir.
4 Bŵn Cyffelybir enwogrwydd Ieuan ab Einion i eiddo arwr chanson de geste Eingl-Normanaidd o’r ddeuddegfed ganrif ‘La Geste de Boun de Hamtone’, gwaith a gyfieithwyd i’r Gymraeg yn y drydedd ganrif ar ddeg dan y teitl ‘Ystorya Bown De Hamtwn’; gw. YBH; GSC 9.2n; GLMorg 1.1n.
5 merch Rydderch Sef Tangwystl, un o ferched Rhydderch ab Ieuan Llwyd. Ar ei hach, gw. WG1 ‘Cydifor ap Gwaithfoed’ 3. Roedd Rhydderch yn enwog yng Ngheredigion yn y bedwaredd ganrif ar ddeg fel noddwr beirdd, swyddog mewn llywodraeth leol dan y Goron ac awdurdod ar gyfraith Hywel a daliai nifer o swyddi o natur gyfreithiol, gw. GDC 53, a chyfeirir ato’n fynych gan y beirdd.
8 Gwynedd Roedd Corsygedol, yr aelwyd arall y perthynai Ieuan ab Einion iddi, yng nghantref Ardudwy a oedd yng Ngwynedd (gw. Ieuan ab Einion). Mae ymwybyddiaeth Guto’r Glyn o gysylltiad Ieuan ab Einion a’i deulu â Gwynedd yn gryf, cf. 53–4, 70. Gwelir yr un osgo yng ngherddi Dafydd Llwyd o Fathafarn a Dafydd Nanmor i’w fab Dafydd, gw. GDLl cerdd 36; DN cerdd 21.
8 Einiawn Yn ôl WG1 ‘Osbwrn Wyddel’ 1, roedd yn fyw yn 1380.
9 rhyw Indeg Roedd Indeg, y cymherir Angharad, gwraig Ieuan ab Einion, iddi yma, yn ferch i Garwy Hir ac fe’i hystyrid yn safon prydferthwch gan y beirdd, gw. TYP3 404–5.
9 [yr] Hendwr Gw. Ieuan ab Einion.
11 Beuno … o Ben-y-lan Beuno, un o’r pennaf o saint cynnar Cymru, gw. LBS i: 208–21. Megis llawer o’r saint, fe’i cysylltid â sawl man gwahanol ac yma â lle a elwir Pen-y-lan. Yn GGl 323 dywedir bod Pen-y-lan ger Mathrafal, ar lan afon Efyrnwy. Serch hynny, cysegrwyd eglwys Llanycil ar bwys ochrau gorllewinol y Bala ger Llyn Tegid i Feuno, gw. LBS i: 218, a cheir enwau eraill yn yr ardal, gan gynnwys ffynnon, sy’n coffáu enw’r sant. Nid nepell o’r fan saif pentref o’r enw Penlan, sy’n nes i’r Cryniarth nag i ardal Mathrafal.
14 gwylliaid trwch Meddai Thomas Roberts am y cyfnod, ‘Cyfnod o anllywodraeth a lladrad oedd, pryd y cymerai’r cryf feddiant o dir a da ei gymydog gwan, ac roedd iau y swyddogion Seisnig yn drom ar warrau’r Cymry’, Roberts 1918–20: 115. Gw. hefyd GLl 11.
15 oen Duw Cf. y ddelwedd adnabyddus yn yr Ysgrythur lle cyffelybir Duw neu Grist i fugail da a’i ddilynwyr ffyddlon i’w ŵyn. Mae’n llai tebygol mai un o deitlau Crist a olygir, gw. Ioan 1.29 ‘Dyma Oen Duw, sy’n cymryd ymaith bechod y byd’ (hefyd ibid. 36).
15 sant Gthg. GGl XV.15 Sant, fel pe bai gan y golygydd ryw Sant Ieuan mewn cof, ond traethiadol yw swyddogaeth y gair yn y llinell. Sylwer hefyd mai d yr yngenir sant i gyfateb i Duw; cf., e.e., y ffordd y trinia Hywel Dafi Gwent yn Peniarth 67 XXXVI.34 or india vawr I wend. Gw. CD 218.
18 Angharad Gwraig Ieuan ab Einion.
23 ffoes Yn ôl Carr (1961–4: 292), ‘According to this poem Ieuan had found it necessary to flee to England for a time’ ac yna dyfynna linellau 33–4. Ond nid oes sôn am Loegr yn y cywydd, er mai dyna efallai a olygir wrth gorwlad yn 33 (gw. y nodyn).
23–32 Cyffelybir Ieuan ab Einion yn y llinellau hyn i Foses yn arwain yr Israeliaid o’u caethiwed yn yr Aifft rhag byddin Pharo trwy’r Môr Coch, lle boddwyd y gelyn i gyd; am yr hanes, gw. Ecsodus 14.
24 Dafydd Ymddengys mai mab Ieuan ab Einion a olygir, gw. 47n, a oedd yn filwr o fri.
28 fal trimor Efallai mai’r hyn y ceisir ei gyfleu yw’r Môr Coch yn cilio i dri chyfeiriad – i’r dde, i’r chwith ac yn ei flaen wrth ffurfio llwybr trwy’r tonnau i’r tir ar yr ochr draw. Ond efallai mai cyfeiriad at Gulfor Dover ydyw, man cyfarfod Môr y Gogledd a’r Sianel, gyda’r Culfor yn fath o fôr ynddo’i hun oherwydd y llanw mawr a’r dyfroedd gwyllt a geir yno, gw. GLM 434 (ond, pace Eurys Rowlands, yr un lle yw Môr Rhudd a Môr yr Almaen – enwau eraill am Fôr y Gogledd ‘North Sea’ – a grybwyllir yno ac atgynhyrchir y camgymeriad yn GLGC 525).
32 Cf. GLGC 14.44 Ac ar y ffals y gyr ffo.
33 gorwlad Ar ei ystyron, gw. GPC 1506 ‘gwlad gyffiniol, gwlad estron, gwlad elynol; bro, ardal, rhanbarth, talaith’. Ymddengys fod A.D. Carr yn deall y gair yn gyfeiriad at Loegr (gw. 23n), ond efallai nad yw'n golygu mwy nag ardal gyffiniol o fewn Cymru yma.
33–42 Newidia Guto’r Glyn ei ddelweddaeth yma gan gyffelybu Ieuan ab Einion a’i blant, a’r drygau a’u hwynebai, i Noa a’i deulu adeg y dilyw. Megis yn y ddelwedd flaenorol, mae dyfroedd mawrion yn chwarae rhan amlwg. Ar hanes y dilyw, gw. Genesis 6.11–17.
38 eraill Mewn nodiadau yng nghwr y ddalen yn LlGC 3051D, Llst 30 a Pen 152, dywedir mai brodyr Ieuan Fychan ab Ieuan o Bengwern oedd y rhain ac i’r cyfeiriad hwn atynt ddigio Ieuan Fychan gymaint fel y bu’n rhaid i Guto ganu cywydd cymod iddo, sef cerdd 106 isod. Anodd, er hynny, yw gweld beth yng ngeiriad y llinell a allai fod wedi rhoi lle i Ieuan Fychan ddigio gan mor amhenodol ydyw. Diddorol sylwi bod Isabel, chwaer Ieuan Fychan, yn briod â Gruffudd, un o feibion Ieuan ab Einion (gw. 52n), gw. WG1 ‘Osbwrn’ 2, ‘Tudur Trefor’ 13.
42 planed hael Sef y ddaear ar ei gwedd newydd iach ar ôl boddi’r boblogaeth ddrygionus gynt.
43 Meistr Rhydderch Mab hynaf (gw. 46) Ieuan ab Einion. Nis crybwyllir yn WG2 ‘Osbwrn Wyddel’ 2. Yn ôl Carr (1961–4: 293), ‘he may have been the Roger Crynarth, bachelor of decrees, who, in 1462, was rector of Llandderfel, and who received a papal dispensation to hold any additional benefice, its value not to exceed ten pounds sterling.’ Yn sicr, mae’r cyfeiriad at Rydderch yn annerch nef (44) yn awgrymu clerigwr a’r tebyg, felly, yw mai arwyddocâd clerigol sydd i Meistr hefyd (gw. GPC 2414 (h), ‘Teitl o barch … fe’i rhoddid yn wreiddiol i ddyn o uchel dras neu o ddysg, e.e. clerigwr â gradd …’).
43 annerch nef Cf. yr ymadrodd galw nef yn GO VIII.9–10 Llv o saint yw gwŷr llys Siôn / I alw nef ar lan avon.
44 meistrol Y tebyg yw bod Guto’r Glyn yn meddwl yn bennaf am ystyr Meistr yn y llinell flaenorol ond gan chwarae hefyd ar ystyr fwy arferol meistrol, sef ‘meistrolgar’.
45 ysgol Yn yr ystyr Saesneg ‘ladder’: ai achlen sydd gan Guto mewn golwg lle ceid arwydd tebyg i ysgol yn dynodi tras aelodau’r tylwyth?
46 hynaf Tebyg mai’r Saesneg ‘eldest’ a olygir, ond gallai hefyd olygu ‘pennaeth’ yn fwy cyffredinol.
47 Dafydd Dyma’r enwocaf o feibion Ieuan ab Einion: gw. Lloyd 1881–7: vi: 20; Roberts 1918–20: 115–18; Carr 1961–4: 293–4; Davies 1974: 46–9; WG1 ‘Osbwrn Wyddel’ 2. Fe’i cofir yn bennaf am ei orchestion milwrol yn Ffrainc (gw. hefyd y nodyn nesaf) ac yn enwedig am ei waith, fel cwnstabl castell Harlech o 1461 hyd 1468, yn amddiffyn y gaer dros blaid Lancastr nes ei orfodi yn y diwedd i’w hildio i’r Iorciaid Syr Wiliam Herbert a’i frawd Syr Rhisiart Herbert yn Awst 1468. Y dyddiad hwn hefyd yw’r dystiolaeth sicr ddiweddaraf parthed blynyddoedd ei fywyd (yn ôl WG1 ‘Osbwrn Wyddel’ 2, roedd yn fyw hefyd yn 1440).
47 â phâr onwydd Ffrainc Ceir tystiolaeth yn nwy o gerddi Dafydd Nanmor i Ddafydd ab Ieuan fod yn brwydro yn Rhôn (Rouen) a Harfflyd (Harfleur) yn Normandi, gw. DN cerddi 21, 23. Mae’n fwy tebygol mai iddo ef yn hytrach nag i Ddafydd Llwyd ap Dafydd ap Rhydderch y cyflwynwyd yr ail; ystyrier y cyfeiriad at y gwrthrych fel [Or]ŵyr i hen Rydderch (DN 23.41) sy’n cyfateb i ddisgynyddiaeth Dafydd ab Ieuan o Rydderch ab Ieuan Llwyd. Deil Roberts (1918–20: 117) mai yn ystod blynyddoedd olaf y Rhyfel Can Mlynedd, 1448–51, y bu hynny a’i bod yn sicr i Ddafydd ddwyn arfau yn Ffrainc gyda llawer o Gymry eraill a ymrestrodd tan faner Mathau Goch. Yn Evans 1995: 100 gwedir i Ddafydd ap [Ieuan ap] Einion frwydro yn Ffrainc, ond fel y dywedir yn DN 173, mae’n rhaid nad oedd yr awdur yn gyfarwydd â geiriau Dafydd Nanmor. Gall mai ato ef y cyfeirir fel David ap Jeuan mewn rhestr o filwyr dan awdurdod Mathau Goch yn Normandi ar 1 Mai a 10 Gorffennaf 1431 (SoldierLME, www.medievalsoldier.org).
48 Dewi Ar ddefnydd Guto o enw nawdd sant Cymru, gw. 44.58n.
49 pleidiwr a holwr Awgrym cryf fod Dafydd ab Ieuan yn gyfreithiwr, gan fod amddiffyn ac erlyn yn ddwy ochr swyddogaeth cyfreithiwr; cf. disgrifiad Guto o Sieffrai Cyffin yn 99.3, 7 Cyfreithiwr, holwr haelwych / … Pleder ar bob hawl ydwyd. Roedd tad Dafydd, Ieuan ab Einion, yntau yn ymhél â’r gyfraith oherwydd yn ôl Lloyd (1881–7: iv, 368), roedd yn un o’r rheithwyr mewn ymchwiliad a gynhaliwyd yn y Bala ar 6 Hydref 1427.
50 plaid Ar yr ystyr ‘teulu’, gw. GLl 3.14n.
50 [y] Gïwn Sef y Gïwn Llwyd ap Dafydd, taid Angharad, gwraig Ieuan ab Einion, gw. WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 27.
51 Rhys Fel ei frawd Rhydderch (43), ni chymerodd ran yn y gwarchae ar Harlech, gw. Carr (1961–4: 293). Yn ôl WG1 ‘Osbwrn Wyddel’ 2, roedd yn fyw yn 1448–52.
51 Nannau Plasty yng nghyffiniau Llanfachreth, Meirion, gw. WATU 163, 292 a gw. cerddi 49–51.
52 Gruffudd Yn wahanol i’r brodyr eraill, ni ddywed Guto ddim amdano. Ym marn Ifor Williams, GGl 323–4, ef a’i frodyr Tomas a Siôn (57) yw’r Thomas ap Ieuan ap Eynon, Griffith ap Ieuan ap Eynon, John ap Ieuan ap Eynon a enwir, ynghyd â llawer o Gymry eraill, mewn deiseb, a gyflwynwyd yng nghyfarfod cyntaf Edward IV o’r Senedd ar 4 Tachwedd 1461 gan ‘denantiaid a phobl gyffredin Gogledd Cymru’, yn galw ar Ddafydd ab Ieuan, a oedd yn gwnstabl castell Harlech ar y pryd, i’w ildio; gw. Evans 1995: 86–7. Os felly, dyma dystiolaeth fod y brodyr hyn, hwythau, wedi bod ynglŷn â’r gwarchae ar Harlech (gw. 47n).
53–4 Adar … / Llwch Gwin Cyfeirir at y rhain yn fynych yn y farddoniaeth a chyfatebant i’r creaduriaid chwedlonol a elwir yn Saesneg yn griffins y dywedir mewn chwedl ganoloesol iddynt gludo Alecsander Fawr i fyny i’r awyr mewn caets er mwyn iddo gael gweld byddinoedd Gog a Magog a oedd yn ymgyrchu yn ei erbyn. Gan amlaf fe’i defnyddir, yn yr unigol, am arwr (megis yn 47.24), ac, yn y lluosog (megis yma, a cf. 67.12), i ddynodi cynhalwyr; gw. DN 159–61 ac ymhellach 103.7–8.
54 iachau Ffurf arall ar achau, gw. GPC2 17 d.g. ach5.
55 dau frawd ieuaf Fe’u henwir yn 57.
56 Eli, Enoc Elias, y mwyaf o broffwydi Israel, ac Enoch, mab Iered a thad Methusela. Cafodd y ddau y fraint o beidio â gweld marwolaeth eithr eu cipio i’r nefoedd, gw. 2 Brenhinoedd 2.1–18; Genesis 5.24. Fe’u henwir ynghyd yn fynych, gw. G 468 d.g. Eli3.
57 Tomas a Siôn Gw. 52n.
58 coed Ar ei ddefnydd trosiadol wrth sôn am wehelyth, gw. GLl 6.13–14n, 20.65–6n; cf. y defnydd o llwyn yn 67.
60 merched Enwau merched Ieuan ab Einion, yn ôl WG1 ‘Osbwrn Wyddel’ 2, oedd Mali a Margred.
62 Noe hen Ar y trosiad am Ieuan ab Einion, gw. 34 ymlaen.
65 Glyndŵr Os y cwmwd (Glyndŵr neu Glyndyfrdwy) a olygir, ffiniai hwn i’r gogledd-ddwyrain â phlwyf Llandrillo lle roedd y Cryniarth a’r Hendwr, ac ymddengys fod gan blant Ieuan ab Einion gysylltiad â’r ardal, er na chafwyd tystiolaeth i gadarnhau hynny. Posibilrwydd arall yw bod Guto’r Glyn yn cyffelybu plant Ieuan i blant (angylion Duw) Owain Glyndŵr, yr oedd un o’i gartrefi yng Ngharrog yn y cwmwd.
66 yr Hendwr Yn RCAHM (Merionethshire) 85 fe’i disgrifir fel ‘evidently the lower portion of a mound that has supported a wooden castalet’ ac, mewn nodyn, ‘This is one of the most interesting historical sites in the county. There can be no doubt that it is in the position thus referred to by Leland: “In this commote ys the ruine of Towre Kenuyn [i.e. Cynfyn] now caulid Yrhendwr.” Edward Lhuyd mentions it as Pen y Twr. Hendwr was the seat of one of the barons of Edeirnion, and was probably first constructed as a motte castle by a chieftain named Cynfyn, otherwise unknown …’
67 Llwyn ir … berllan Ar y trawiad, cf. disgrifiad Hywel Cilan o feibion Llywelyn ap Hwlcyn o Brysaeddfed, GHC 19.4, fel Llwyn ir o berllan Iorwerth.
68 Edwin Fel y dywedir yn GGl 324, ‘Edwin ap Goronwy, pennaeth un o bymtheg llwyth Gwynedd’; gw. hefyd Lloyd (1881–7: iii: 101); Bartrum (1963–4: 113); EWGT 185; WG1 ‘Edwin’ 1. Yn ôl WG1 td. 47 ac ‘Edwin’ 1, priododd ag Iwerydd, chwaer Bleddyn ap Cynfyn, sylfaenydd y llinach yr hanai Angharad, gwraig Ieuan ab Einion, ohoni.
69 buarth medd Ar buarth yn yr ystyr ‘cyrchfan’, gw. GPC 343 (b); am yr hen drawiad hwn, cf. GCBM i, 5.73 Gortyfnyad bual buarth metueith.
75 Mae’r llinell yn rhy fyr o sillaf oni chyfrifir gadw yn ddeusill.
76 i’w Ymddengys mai ‘yn’ yw ystyr yr arddodiad i yma. Fe’i ceid yn wreiddiol yn yr ystyr hon o flaen y rhagenw mewnol cyntaf ac ail unigol (i’m, i’th) yn unig ond yn ddiweddarach fe’i harferid o flaen y rhagenwau mewnol ’w, ’n, ’ch hefyd, gw. GPC 1993 d.g. i3.
76 Dydd Frawd Talfyriad o Dydd y Frawd, sy’n esbonio’r treiglad meddal i'r ail elfen, gw. GPC 1119.
Llyfryddiaeth
Bartrum, P.C. (1963–4), ‘Pedigrees of the Welsh Tribal Patriarchs’, Cylchg LlGC xiii: 93–146
Carr, A.D. (1961–4), ‘The Barons of Edeyrnion, 1282–1485’, Cylchg CHSFeir 4: 187–93, 289–301
Davies, G. (1974), Noddwyr Beirdd ym Meirion (Dolgellau)
Evans, H.T. (1995), Wales and the Wars of the Roses (second ed., Stroud)
Lloyd, J.Y.W. (1881–7), The History of Powys Fadog (6 vols., London)
Roberts, T. (1918–20), ‘Noddwyr Beirdd: Teuluoedd Corsygedol, Y Crynierth, a’r Tŵr’, Y Beirniad, viii: 114–35
This cywydd is in praise of Ieuan ab Einion of Cryniarth and his wife Angharad, daughter of Dafydd ab y Gïwn Llwyd, and their eight children.
There are two notable aspects in this poem. One is the way in which the goodness or godliness of the characters is contrasted with their powerful martial prowess. This is particularly apparent in the couplet describing Ieuan as Oen tangnefedd a heddwch / A llew traws i wylliaid trwch ‘lamb of calm and peace and a mighty lion to wicked brigands’ (13–14), and his children are characterised as Angylion Duw yng Nghlyndŵr, / A thrindeirw llwyth yr Hendwr ‘Angels of God in Glyndŵr, / and furious warriors of the stock of Hendwr’ (65–6). Another feature is the way in which images of large floods are used metaphorically. Thus the flight of Ieuan and his people from the enemy is likened to Moses and the Israelites in former times fleeing from Pharo and his soldiers until the latter are drowned in the Red Sea (24–32). And as if that were not enough, the enemy is engulfed again by another flood, namely that of the age of Noa, with Ieuan and his children escaping unscathed and resettling the earth in goodness (33–42). Passages such as these are also interesting, needless to say, for the close familiarity with Scripture which they evince.
Date
Note first the reference to Dafydd ab Ieuan’s military activity in France (47). If Thomas Roberts is correct in concluding that this occurred during the last years of the Hundred Years’ War, 1448–51 (see 47n), then the poem could not have been composed before then. Another consideration is that there is nothing in the poem about Dafydd ab Ieuan’s conspicuous valour as constable of Harlech castle from 1461 to 1468 (see 47n), but it should be recalled that Ieuan ab Einion, the main subject of the poem, would have been aged about 90 by 1461, which is possibly too long a life span unless Bartrum’s dates are adjusted a little and we suppose that he was born around 1380. As it does not necessarily follow that it was after Dafydd had returned from France (rather than during his service there) that Guto’r Glyn sang his poem, and in view of Ieuan ab Einion’s age, it should perhaps be dated earlier rather than later in the 1450s.
The manuscripts
The poem has been preserved in 41 manuscripts, copied between the first quarter of the sixteenth century and the nineteenth century in north or mid Wales. The verbal variations in the texts of the poem are neither great nor numerous, and cross-influence is discernable. There is more substantial variation in line sequence, with some gaps, but the texts can nonetheless be traced back to a single written exemplar.
The texts divide into four versions, represented by BL 14967; LlGC 17114B; Gwyn 4 (and LlGC 3049D, BL 14978, LlGC 727D, J 140); and LlGC 8497B, LlGC 3051D, Pen 89[i]. Of these, the furthest removed from the original exemplar is the last type. The texts in Pen 89 [ii], Pen 221, LlGC 3061D, LlGC 1586E cannot be satisfactorily fitted into this scheme. The edited text is based on BL 14967, LlGC 17114B and Gwyn 4.
Previous edition
GGl poem XV.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 76 lines.
Cynghanedd: croes 38 lines (50%), traws 19 lines (25%), sain 16 lines (21%), llusg 3 lines (4%).
1 cywirdeb Cf. 22 Ac Ieuan a fu gywir.
4 Bŵn Ieuan ab Einion’s fame is likened to that of the hero of the twelfth century Anglo-Norman chanson de geste ‘La Geste de Boun de Hamtone’ translated into Welsh in the thirteenth century under the title ‘Ystorya Bown De Hamtwn’; see YBH; GSC 9.2n; GLMorg 1.1n.
5 merch Rydderch Tangwystl, Ieuan’s mother, was the daughter of Rhydderch ab Ieuan Llwyd: see WG1 ‘Cydifor ap Gwaithfoed’ 3. Rhydderch was renowned in Ceredigion in the fourteenth century as a patron of poets, an official in local government under the Crown and an authority on the law of Hywel, holding a number of posts of a legal nature, see GDC 53, and he is frequently mentioned by the poets.
8 Gwynedd Corsygedol, the other house with which Ieuan ab Einion was associated, was in the cantref of Ardudwy which was in Gwynedd (see Ieuan ab Einion). Guto’r Glyn was obviously well aware of the connection of Ieuan ab Einion and his family with Gwynedd, cf. 53–4, 70. The same attitude is found in the poems of Dafydd Llwyd of Mathafarn and Dafydd Nanmor to his son Dafydd, see GDLl poem 36; DN poem 21.
8 Einiawn According to WG1 ‘Osbwrn Wyddel’ 1, he was alive in 1380.
9 rhyw Indeg Guto compares Angharad, wife of Ieuan ab Einion, to Indeg, the daughter of Garwy Hir who was considered a paragon of beauty by the poets, see TYP3 404–5.
9 [yr] Hendwr See Ieuan ab Einion.
11 Beuno … o Ben-y-lan St Beuno, one of the greatest of the early saints of Wales, see LBS i: 208–21. Like many saints, he was associated with several different places and here with a place called Pen y lan. In GGl 323 it is stated that Pen-y-lan is by Mathrafal, on the banks of the river Efyrnwy. However, the church of Llanycil to the west of Bala by Llyn Tegid was dedicated to Beuno, see LBS i: 218, and other names are found in the area, including a well, which commemorate the saint’s name. Not far from the place, there is a village called Penlan, which is nearer than Mathrafal to Cryniarth.
14 gwylliaid trwch Thomas Roberts says of the age that it was characterized by anarchy and theft, with the strong taking possession of the land and property of the weak and the yoke of English officials resting heavily on the backs of the Welsh, Roberts 1918–20: 115. See also GLl 11.
15 oen Duw Cf. the famous scriptural image where God or Christ is likened to a good shepherd and his followers to his lambs. It is less likely that one of Christ’s titles is meant, see John 1.29 ‘Behold the Lamb of God who takes away the sin of the world’ (also ibid. 36).
15 sant Contrast GGl Sant, as though the editor had some St John in mind, but the word is predicative here. Note also that the t is pronounced as a d to correspond to Duw; cf., e.g., the way in which Hywel Dafi treats Gwent in Peniarth 67 XXXVI.34 or india vawr I wend ‘from great India to Gwent …’. See CD 218.
18 Angharad The wife of Ieuan ab Einion.
23–32 Ieuan ab Einion is likened in these lines to Moses leading the Israelites from their captivity in Egypt in flight from Pharo’s army and through the Red Sea where all the enemy were drowned; for the account, see Exodus 14.
23 ffoes Carr (1961–4: 292) states, ‘According to this poem Ieuan had found it necessary to flee to England for a time’ and he quotes lines 33–4. However, there is no mention of England in the poem, and even if gorwlad in 33 (see note) signifies England, it is not stated that Ieuan fled there and he could have gone to somewhere nearer in Wales.
24 Dafydd Apparently Ieuan ab Einion’s son is meant, see 47n, who was a soldier of renown.
28 fal trimor Guto may be trying to convey that the Red Sea receded in three directions – to the right, to the left and forwards in making a path through the waves to the land on the other side. However, trimor could refer to the Straits of Dover, where the North Sea and the English Channel meet, with the Straits as a kind of sea in itself because of the great tide and turbulent waters there, see GLM 434 (but, pace Eurys Rowlands, Môr Rhudd and Môr yr Almaen – names for the North Sea – are the same place, and the mistake is reproduced in GLGC 525).
32 Cf. GLGC 14.44 Ac ar y ffals y gyr ffo ‘And he puts the deceitful to flight.’
33 gorwlad On its meanings, see GPC 1506 ‘bordering or neighbouring country, foreign soil, enemy territory; land, district, province’. A.D. Carr took it to refer to England (see 23n), but it could also refer here to a neighbouring area within Wales.
33–42 Guto’r Glyn changes his imagery here, likening Ieuan ab Einion and his children, and the evils that faced them, to Noa and his family at the time of the flood. As in the previous image, great waters play a conspicuous part. On the history of the flood, see Genesis 6.11–17.
38 eraill In the marginalia in LlGC 3051D, Llst 30 and Pen 152, 161, it is stated that these were the brothers of Ieuan Fychan ab Ieuan of Pengwern and that this reference to them so angered Ieuan Fychan that Guto had to sing a cywydd of reconciliation to him, namely poem 106 below. It is, however, difficult to see what in the phrasing of the line could have angered Ieuan Fychan as it is so unspecific. Note that Isabel, sister of Ieuan Fychan, was married to Gruffudd, one of Ieuan ab Einion’s sons (see 52n), see WG1 ‘Osbwrn’ 2, ‘Tudur Trefor’ 13.
42 planed hael Namely the earth in its healthy new state after the drowning of the former wicked population.
43 Meistr Rhydderch The eldest son (see 46) of Ieuan ab Einion. He is not mentioned in WG2 ‘Osbwrn Wyddel’ 2. According to Carr (1961–4: 293), ‘he may have been the Roger Crynarth, bachelor of decrees, who, in 1462, was rector of Llandderfel, and who received a papal dispensation to hold any additional benefice, its value not to exceed ten pounds sterling.’ Certainly the reference to Rhydderch ‘addressing heaven’ (yn annerch nef, 44) suggests a cleric and Meistr therefore probably has clerical connotations here (see GPC 2414 (h)).
43 annerch nef Cf. galw nef ‘addressing heaven [i.e. God]’ in GO VIII.9–10 Llv o saint yw gwŷr llys Siôn / I alw nef ar lan avon ‘The men of Siôn’s court are a host of saints / calling on heaven on the bank of a river.’
44 meistrol Guto’r Glyn is probably thinking mainly of the sense of Meistr in the preceding line while, however, at the same time playing on the more usual meaning of meistrol, namely ‘masterly’.
45 ysgol Is Guto thinking of a genealogical chart where a symbol similar to a ladder was used to display family members?
46 hynaf Taken to mean ‘eldest’ here, but note that it could also mean ‘chief’, in a more general sense.
47 Dafydd He was the most famous of Ieuan ab Einion’s sons: see Lloyd 1881–7: vi: 20; Roberts 1918–20: 115–18; Carr 1961–4: 293–4; Davies 1974: 46–9; WG1 ‘Osbwrn Wyddel’ 2. He is remembered chiefly for his military feats in France (see also the next note) and especially for his action, as constable of Harlech castle from 1461 to 1468, in defending the fort for the Lancastrians until he was compelled eventually to surrender it to the Yorkists Sir William Herbert and his brother Sir Richard Herbert in August 1468. This date is also the latest reliable evidence regarding his life (according to WG1 ‘Osbwrn Wyddel’ 2, he was also alive in 1440).
47 â phâr onwydd Ffrainc Two of Dafydd Nanmor’s poems afford evidence that Dafydd ab Ieuan fought in Rouen and Harfleur in Normandy, see DN poems 21, 23 and the notes – it is considered more likely that it was to him rather than to Dafydd Llwyd ap Dafydd ap Rhydderch that the second was addressed; consider, in particular, the reference to the subject as [Or]ŵyr i hen Rydderch (DN 23.41) which matches Dafydd ab Ieuan’s descent from Rhydderch ab Ieuan Llwyd. Thomas Roberts holds that this must have been during the last years of the Hundred Years’ War, 1448–51 and that Dafydd bore arms in France with many other Welshmen who enlisted under the banner of Matthew Gough, Roberts 1918–20: 117. In Evans 1995: 100 it is denied that Dafydd ab [Ieuan ab] Einion fought in France, but as stated in DN 173, the author cannot have been familiar with Dafydd Nanmor’s words. He may be the David ap Jeuan mentioned in a list of soldiers under the authority of Matthew Gough in Normandy on 1 May and 10 July 1431 (SoldierLME, www.medievalsoldier.org).
48 Dewi On Guto’s use of the name of Wales’s patron saint, see 44.58n.
49 pleidiwr a holwr This strongly suggests that Dafydd ab Ieuan was a lawyer, as defending and prosecuting are the two sides of a lawyer’s profession; cf. Guto’s description of Sieffrai Cyffin in 99.3, 7 Cyfreithiwr, holwr haelwych / … Pleder ar bob hawl ydwyd (‘a lawyer, a generous and great plaintiff / … you’re a pleader in every cause’). Dafydd’s father, Ieuan ab Einion, was also involved in the law because according to Lloyd (1881–7: iv, 368), he was one of the jurymen at an inquest held in Bala on 6 October 1427.
50 plaid On the meaning ‘family’, see GLl 3.14n.
50 [y] Gïwn Namely Gïwn Llwyd ap Dafydd, grandfather of Angharad, wife of Ieuan ab Einion, see WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 27.
51 Rhys Like his brother Rhydderch (43), he took no part in the siege of Harlech, see Carr (1961–4: 293). According to WG1 ‘Osbwrn Wyddel’ 2, he was alive in the period 1448–52.
51 Nannau A mansion in the vicinity of Llanfachreth, Meirion, see WATU 163, 292, and poems 49–51.
52 Gruffudd Unlike with the other brothers, Guto says nothing about him. In Ifor Williams’ opinion, GGl 323–4, he and his brothers Tomas and Siôn (57) are the Thomas ap Ieuan ap Eynon, Griffith ap Ieuan ap Eynon, John ap Ieuan ap Eynon who are named, together with many other Welshmen, in a petition, presented at Edward IV’s first Parliament on 4 November 1461 by the tenants and ordinary people of north Wales, calling on Dafydd ab Ieuan, constable of Harlech castle at the time, to surrender it; see Evans 1995: 86–7. If so, then this is evidence that these brothers too were involved in the siege of Harlech (see 47n).
53–4 Adar … / Llwch Gwin These are frequently referred to in the poetry and correspond to the mythical creatures called griffins in English which are said in a medieval tale to have born Alexander the Great up into the air in a cage so that he could view the armies of Gog and Magog who were advancing against him. Mostly it is used, in the singular, for a hero (as in 47.24), and, in the plural (as here), to signify bearers; see DN 159–61 and further 103.7–8n.
54 iachau A variant of achau, see GPC2 17 s.v. ach5.
55 dau frawd ieuaf They are named in 57.
56 Eli, Enoc Elijah, the greatest of the Israelite prophets, and Enoch son of Jared and father of Methuselah. The two enjoyed the privilege of not seeing death and to be snatched up to heaven, see 2 Kings 2.1–18; Genesis 5.24. They are frequently mentioned together, see G 468 s.v. Eli3.
57 Tomas a Siôn See 52n.
58 coed On its metaphorical use when discussing lineage, see GLl 6.13–14n, 20.65–6n; cf. the use of llwyn in 67.
60 merched The names of the daughters of Ieuan ab Einion, according to WG1 ‘Osbwrn Wyddel’ 2, were Mali and Margred.
62 Noe hen On the metaphor for Ieuan ab Einion, see 34 ff.
65 Glyndŵr If the commote (Glyndŵr or Glyndyfrdwy) is meant, it bordered to the north-east on the parish of Llandrillo where Cryniarth and Hendwr were situated, and it appears that Ieuan ab Einion’s children had some connection with the area, although no evidence is known that would corroborate this. Another possibility is that Guto’r Glyn is likening Ieuan’s children to the children (angylion Duw) of Owain Glyndŵr, one of whose homes had been at Carrog in the commote.
66 yr Hendwr In RCAHM (Merionethshire) 85 it is described as ‘evidently the lower portion of a mound that has supported a wooden castalet’ and, in a note, ‘This is one of the most interesting historical sites in the county. There can be no doubt that it is in the position thus referred to by Leland: “In this commote ys the ruine of Towre Kenuyn [i.e. Cynfyn] now caulid Yrhendwr.” Edward Lhuyd mentions it as Pen y Twr. Hendwr was the seat of one of the barons of Edeirnion, and was probably first constructed as a motte castle by a chieftain named Cynfyn, otherwise unknown …’
67 Llwyn ir … berllan Cf. Hywel Cilan’s description of the sons of Llywelyn ap Hwlcyn of Prysaeddfed, GHC XIX.4, as Llwyn ir o berllan Iorwerth ‘a flourishing family from the orchard of Iorwerth’.
68 Edwin As stated in GGl 324, Edwin ap Goronwy, chief of one of the fifteen tribes of Gwynedd; see also Lloyd (1881–7: iii: 101); Bartrum (1963–4: 113); EWGT 185; WG1 ‘Edwin’ 1. According to WG1 p. 47 and ‘Edwin’ 1, he married Iwerydd, sister of Bleddyn ap Cynfyn, founder of the line from which Angharad, wife of Ieuan ab Einion, descended.
69 buarth medd On buarth in the sense of ‘place of resort or assembly’, see GPC 343 (b); on the cliché, cf. GCBM i, 5.73 Gortyfnyad bual buarth metueith ‘customary is a drinking horn in the place where feasts of mead are held’.
75 The line is a syllable short unless gadw is treated as a disyllable.
76 i’w It appears that the meaning of the preposition i here is ‘in’. Originally it occurred in this sense before the first and second person singular of the infixed pronoun (i’m, i’th) only, but it was later used before the infixed pronouns ’w, ’n, ’ch too, see GPC 1993 s.v. i3.
76 Dydd Frawd An abbreviated form of Dydd y Frawd, which explains the lenition, see GPC 1119.
Bibliography
Bartrum, P.C. (1963–4), ‘Pedigrees of the Welsh Tribal Patriarchs’, Cylchg LlGC xiii: 93–146
Carr, A.D. (1961–4), ‘The Barons of Edeyrnion, 1282–1485’, Cylchg CHSFeir 4: 187–93, 289–301
Davies, G. (1974), Noddwyr Beirdd ym Meirion (Dolgellau)
Evans, H.T. (1995), Wales and the Wars of the Roses (second ed., Stroud)
Lloyd, J.Y.W. (1881–7), The History of Powys Fadog (6 vols., London)
Roberts, T. (1918–20), ‘Noddwyr Beirdd: Teuluoedd Corsygedol, Y Crynierth, a’r Tŵr’, Y Beirniad, viii: 114–35
Cerdd 48 yw’r unig gerdd a ddiogelwyd i Ieuan ab Einion o’r Cryniarth yn y llawysgrifau. Fe’i molir ynghyd â’i wraig, Angharad ferch Dafydd, a’u hwyth plentyn. Canodd Lewys Môn gywydd marwnad i wyres Ieuan, ail Angharad ferch Dafydd (GLM cerdd XLIV), a fu’n briod ag un o noddwyr Guto, Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan.
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 21, ‘Edwin’ 1, 10, 12, 14, 15, ‘Osbwrn’ 1, 2. Dangosir y rheini a enwir gan Guto yn ei gywydd i Ieuan mewn print trwm, a thanlinellir enwau ei noddwyr.
Achres Ieuan ab Einion o’r Cryniarth
Fel y gwelir, roedd Ieuan yn nai i’r bardd enwog, Ieuan ap Rhydderch (gw. GIRh).
Ei yrfa
Disgrifiwyd Ieuan ab Einion gan Carr (1961–4: 292) fel un o wŷr blaenaf Meirionnydd wedi gwrthryfel Owain Glyndŵr ac fe’i canmolir yn neilltuol gan Guto am ei gywirdeb (48.1, 22) wrth geisio hyrwyddo heddwch a gwastrodi elfennau digyfraith mewn cyfnod o gythrwfl ac aflywodraeth mawr. Ceir y cofnod swyddogol cyntaf amdano yn 1399 pan oedd yn un o siedwyr Meirionnydd. Yn 1414 roedd yn un o ffermwyr trethi buddiannau’r Goron yn Edeirnion, ac yn 1432 roedd yn siedwr drachefn a pharhaodd yn y swydd honno am dair blynedd (Carr 1961–4: 293).
Er mai yn y Cryniarth roedd Ieuan yn byw, perthynai hefyd i deulu Corsygedol, Ardudwy, a chrybwyllir y cysylltiad hwn â Gwynedd sawl gwaith gan Guto, megis mewn cerddi eraill i’r un teulu (gw. 48.8n). Trwy briodi ag Angharad ferch Dafydd, etifeddes yr Hendwr yn yr un plwyf, ychwanegodd y cartref hwnnw at ei feddiannau. Ymddengys fod Ieuan mewn cryn oed pan ganodd Guto iddo, oherwydd cyfeirir ato fel Noe hen (62), ac efallai iddo farw yn y 1450au (gw. nodyn cefndir cerdd 48).
Ychydig a wyddys am ei wraig, Angharad, ac eithrio’r hyn a ddysgwn o’r gerdd. Sylwer, er hynny, fod Guto’n uchel ei ganmoliaeth i dras y ferch hon, a oedd yn uwch neu gyfuwch â’i gŵr (48.10), a’i fod yn priodoli cymeriad cryf a dylanwadol iddi gan na chaniatâi i Ieuan ddwyn eiddo’r diniwed (17–18). Yr enwocaf o blant Ieuan ac Angharad oedd Dafydd a ymladdodd gyda thri o’i frodyr, Gruffudd, Tomas a Siôn, dros blaid Lancastr yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau (gw. 47n, 52n). Canmolir y chwe mab yn uchel (er na ddywedir dim neilltuol am Ruffudd, 52) ond nid enwir y ddwy ferch ac nis canmolir ond yn anuniongyrchol gan ddweud eu bod, fel y plant eraill, yn deg (61) ac yn gyweithas (63).
Fel y sylwodd Carr (1961–4: 187–8, 299), roedd Edeirnion mewn sefyllfa unigryw yn rhan ogleddol y dywysogaeth yn dilyn trefniant Edward I, oherwydd yn 1284, yn gyfnewid am ildio iddo wedi marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd, caniataodd Edward i arglwyddi Edeirnion gadw eu hawliau a’u breintiau etifeddol. O ganlyniad, arweinwyr yr ardal hon oedd yr arglwyddi Cymreig olaf o waed brenhinol i lywodraethu yn nhir eu hynafiaid a pharhasant felly am dair canrif eto, er mai edwino’n raddol yn fân ysgwieriaid a ffermwyr hamdden fu eu rhan. Serch hynny, mae’n amlwg fod digon o egni a gwroldeb yn aros yn nheulu Ieuan ab Einion pan gyfarchodd Guto hwy.
Llyfryddiaeth
Carr, A.D. (1961–4), ‘The Barons of Edeyrnion, 1282–1485’, Cylchg CHSFeir 4: 187–93, 289–301
Gw. Ieuan ab Einion o’r Cryniarth