Chwilio uwch
 

Rhestr Noddwyr a Beirdd

Syr Rhys, fl. c.1465–71

Roedd Syr Rhys yn fardd-offeiriad a chanddo gyswllt â’r Dre-wen yn swydd Amwythig ac â Charno yng nghwmwd Cyfeiliog. Pedwar cywydd yn unig o’i waith a oroesodd. Dywed Maredudd ap Rhys y gallai ganu ar fesurau eraill a bod iddo enw fel bardd mawl, o bosibl, ac yn arbennig fel bardd serch (GMRh 3.19–36). Fel Maredudd ap Rhys ac fel y tyst ei ragenw, roedd Syr Rhys yn fardd-offeiriad ac yn aelod o garfan o feirdd na cheid yn eu gwaith fawr ddim ‘dwyster pregethwrol’, fel y dywed Johnston (2005: 46), eithr a nodweddid gan ‘hwyl a thynnu coes’.

Diogelwyd dau gywydd brud gan Syr Rhys yn y llawysgrifau, a dau gywydd ymryson. Brud gwleidyddol yw’r naill a ganwyd, yn ôl E. Roberts, rhwng Hydref 1470 a Mawrth 1471, a brud a phregeth yn erbyn pechodau’r oes yw’r llall a ganwyd rywdro wedi 1463 (GMRh 14, 28.18n, 29.19–22n). Yn ogystal â’r cywydd dychan a ganodd i Guto (cerdd 101a), canodd Syr Rhys gywydd dychan llawer llai dilornus i griw o wŷr a omeddodd iddo ddefaid yng nghwmwd Cyfeiliog (GMRh cerdd 30; GDLl cerdd 73). Roedd Dafydd Llwyd o Fathafarn yn eu plith, a chanodd yntau gywydd i ateb dychan Syr Rhys (GDLl cerdd 74). Dywed Dafydd fod gan Syr Rhys ddigonedd o ŵyn ac iddo dderbyn gan Ddafydd ei hun faharen mawr gwlanog a fu’n gynhaliaeth i Syr Rhys a’i wraig am gyfnod hir. Dengys y cyfeiriad canlynol at Guto yng nghywydd Dafydd fod yr ymryson hwnnw’n ddiweddarach na’r ymryson a fu rhyngddo a’r bardd o’r Glyn c.1465. Nid yw’n eglur pwy yw’r Dafydd a enwir ar ddechrau’r dyfyniad eithr ymddengys ei fod, fel Syr Rhys, yn ddibynnol ar eraill am ei gynhaliaeth (ibid. 74.33–8):

Arfer Ddafydd, ddu herwr,
A’i wir gamp a ŵyr y gŵr,
Megis am y wledd, meddynt,
Iddo a wnâi’r Guto gynt.
Er a gâi fyth gorwag fu,
Ei gynneddf oedd oganu.

Cyfeiriadau ato
Ar anniolchgarwch Syr Rhys y canolbwyntir yn ymatebion Dafydd Llwyd a Guto i’w gywyddau dychan, ond ni raid cymryd bod fawr ddim amgenach na chellwair defodol yn sail i’r cyhuddiadau. Dengys cywydd a ganodd Maredudd ap Rhys iddo o hiraeth pan symudodd o’r gororau i gwmwd Cyfeiliog ei bod yn dda gan feirdd ei gwmni, ac er na chadwyd cerdd ddychan ganddo i Ddafydd ab Edmwnd, ymddengys ei fod yn un o’r criw o feirdd a fu’n bwrw eu sen arno yntau yn ei dro (GMRh cerdd 3). Yn wir, dywed Guto mai Dafydd yw [c]or Syr Rys (67.46), ac fe’i gelwir yn was i Syr Rhys mewn cywydd dychan a ganodd Gwilym ab Ieuan Hen i Ddafydd (GDID XXIII.2 a cf. llau. 11, 24, 50–2; 66.49–50). Erys arwyddocâd y geiriau hyn yn dywyll. Tystir i’w ymwneud â Dafydd Llwyd a’r cylch lliwgar o feirdd a fu’n gysylltiedig ag ef yn yr ymryson a fu rhwng Dafydd a Llywelyn ap Gutun. Yn y cywydd dychan cyntaf a ganodd Dafydd i Lywelyn ac a fu’n sail i’r ymryson, cyfeirir at Syr Rhys fel un a roddodd faddeuant, yn rhinwedd ei alwedigaeth, i Lywelyn am geinioca mor eang (GDLl 69.21–34; cf. GLlGt At.v):

Da a geir, rho Duw i gyd,
Heb ei ennill mae’n benyd.
A gasgal am farch malen
Ni thy’ mwy na gwenith hen.
Meddai Syr Rhys, modd syréw,
‘Mae pardwn i’r mab byrdew.
O Garno hyd ar Gornwel
I geinioca’r dyrfa y dêl,
Am golli’i farch diarchen
A dalai swllt, dulas, hen.’
Haws i werin, mae’n sarrug,
Holl Gymru dalu gwerth dug,
Na thalu, ’m Duw a Theilo
A Chadfarch, werth ei farch fo.

Ymddengys fod Syr Rhys yn tosturio wrth Lywelyn yn sgil y ffaith iddo golli ei hen farch gwachul. Arall, yn ôl Dafydd, oedd gwerth y march gan i’r bardd wneud cymaint o ddefnydd ohono wrth deithio Cymru benbaladr. Gellid cysylltu’r maddeuant hwn a rydd Syr Rhys i’r bardd, a ystyrid yn farus gan Ddafydd Llwyd, â’r modd y caiff y rheini a fu’n grintachlyd wrth Syr Rhys ei hun faddeuant ganddo ar ddiwedd ei gywydd ynghylch cymhortha defaid (GMRh 30.55–8):

O dygan’, er eu digiaw,
Degwm treth dau gwmwd draw,
Mi farnaf gerbron Dafydd
Bardwn i’r rhain, burdan rhydd.

Diau yr elwai Syr Rhys yn ariannol yn sgil ei allu i roi maddeuant ysbrydol lawn cymaint ag y gwnâi wrth ganu cywyddau’n achlysurol, a bod ergyd i’r perwyl hwnnw wrth wraidd dychan Dafydd Llwyd a Guto iddo. Canodd Llywelyn gywydd yn ateb haeriadau Dafydd a chanodd Dafydd un arall eto (GLlGt cerddi 13 ac At.vi). Atebodd Llywelyn ail gywydd Dafydd â chywydd sy’n cynnwys dau gyfeiriad at Syr Rhys. Digon tywyll yw’r cyntaf (GLlGt 14.21–4):

Rhoist werth o arwest wrthaw
I Syr Rhys i’th lys o’th law
Er cywydd o newydd nod
I gymell arnaf gymod.

Deil R.I. Daniel (GLlGt 14.21–4n) ‘fod Dafydd Llwyd wedi darparu perfformiad cerddorol yn ei lys ar gyfer Syr Rhys am i Syr Rhys ddatgan cywydd i Lywelyn ap Gutun yn galw arno i gymodi â Dafydd Llwyd.’ Ond mae’r un mor debygol i Ddafydd annog neu gomisiynu Syr Rhys i ganu cywydd i Lywelyn er mwyn cryfhau ei achos ei hun, gan ddarparu llwyfan a chyfeiliant i’r gerdd honno yn ei lys ym Mathafarn (yno, fe ymddengys, y canwyd cywydd Syr Rhys ynghylch cymhortha defaid am y tro cyntaf, GMRh 30.57). Os felly y bu, ni ddiogelwyd cywydd Syr Rhys, ond tystir i’w ran yn yr ymryson yn rhan olaf cywydd Llywelyn, lle awgrymir y dylid rhannu’r wlad yn dair fel y gall y tri bardd eu ceinioca’n llwyr (GLlGt 14.45–54):

Ni a rannwn yr ynys:
Moes ran yma i Syr Rhys;
Dilid di dy wlad dy hun,
Dyrna, gwna Ddyddbrawd, arnyn’,
A dod Rys i’r deau draw
Yn un rhuthr i’w hanrheithiaw.
Minnau af yma’n un wedd
I ddinistr y Ddwy Wynedd.
Ag un hwyl dygwn helynt
Un brès â’r tair gormes gynt.

Caiff Dafydd fro ei febyd ym Mhowys, Llywelyn ei fro yntau yng Ngwynedd a Syr Rhys y De. Diau y rhoid ardal Syr Rhys ym Mhowys iddo pe nad ystyrid Dafydd yn ben ar feirdd yr ardal honno.

Achres
Yn llaw Wmffre Dafis yn llawysgrif Brog I.2 (1599) y ceir yr unig wybodaeth am ach Syr Rhys: Sr Rys ap holl’ dyrnor ai kant. Y tebyg yw, felly, mai Hywel oedd enw tad Rhys ac mai turniwr ydoedd wrth ei alwedigaeth (GPC 3654 d.g. turniwr ‘un sy’n turnio (coed, metel)’). Nid ymddengys, felly, ei fod o dras uchelwrol ac ni ddiogelwyd ei ach.

Ei fro a’i yrfa
Carpiog yw’r dadleuon a gynigiwyd hyd yma ynghylch yr ardaloedd yr oedd Syr Rhys yn gysylltiedig â hwy. Ymddengys mai barn gweinidog Corwen yn C 4.110 (ar ôl 1788) yn unig a roddodd sail i’r gred fod Syr Rhys wedi bod ‘yn gurad yng Nghorwen, ac yn byw yn y Drewyn, cyn symud yn ficer Llanbryn-mair a Charno’ (GMRh 6, lle dilynir CTC 378, a bernir bod yr wybodaeth debyg a geir yn Williams 1884: 263 yn deillio o’r un ffynhonnell). Yn ogystal â’r Trewyn ym Meirionnydd ceir Trewyn ym Mynwy, ym Môn ac yng nghwmwd Llannerch yn sir Ddinbych (WATU 215), ond nid yw’r un o’r rhain yn cyd-daro â’r wybodaeth a geir yn y cywydd a ganodd Maredudd ap Rhys i Syr Rhys pan symudodd i Gyfeiliog. Cwmwd Nanheudwy sy’n dioddef o absenoldeb Rhys yn ôl Maredudd, ynghyd â’r sir oll (swydd Amwythig, yn ôl pob tebyg) a thref Croesoswallt (GMRh 3.41, 58, 62). Yng nghwmwd Edeirnion y saif Trewyn ger Corwen, ond tiroedd i’r dwyrain o’r Berwyn a grybwyllir gan Faredudd. Mae’n debygol fod y gweinidog dienw o Gorwen wedi ceisio cysylltu bro ei ofalaeth ag un o feirdd y gorffennol drwy gamddarllen y Dre-wen am Drewyn.

Dilynodd GGl 360 ‘Syr Rhys o’r Drewen’ yr hyn a geir ym mwyafrif y llawysgrifau, sef Syr Rhys o ‘Whittington ger Croesoswallt’ yn ôl GDLl 209. Diystyriwyd y ddamcaniaeth honno yn CTC 378, ond ymddengys bod lleoliad y Dre-wen nid nepell i’r gogledd-ddwyrain o Groesoswallt yn cyd-fynd i’r dim â’r wybodaeth a geir yn y llawysgrifau ac yng nghywydd Maredudd ap Rhys. Mae’n debygol, felly, mai Syr Rhys o’r Dre-wen ydoedd yn ei ieuenctid, cyn iddo symud yn ddiweddarach i gwmwd Cyfeiliog. Os cywir ddarfod canu cerddi ar achlysur ailadeiladu cartref Hywel ab Ieuan Fychan ym Moeliwrch yng nghwmwd Cynllaith yn ystod ail chwarter y bymthegfed ganrif, gall fod lle i gredu bod y Syr Rhys ifanc, ac yntau’n byw yn y gornel honno o’r wlad, yn un o’r beirdd a fu’n bresennol yno (Huws 2007: 110, 133).

Gelwir y bardd yn ‘Syr Rhys o Garno’ mewn nifer o lawysgrifau, a hynny, yn ôl pob tebyg, yn sgil y ffaith iddo symud i gwmwd Cyfeiliog. Ond unwaith yn unig yr enwir Carno mewn cyswllt ag ef yn y farddoniaeth, a hynny’n lled anuniongyrchol (GDLl 69.27). Â Llanbryn-mair y’i cysylltir bron yn ddieithriad gan Faredudd ap Rhys a chan Ddafydd Llwyd o Fathafarn (GMRh 3.18, 50; GDLl 74.5–6, 43, lle cyfeirir at Dafolog i’r gogledd o Lanbryn-mair). Yn y canol yn unig y lleolodd Guto ef yn un o’r cywyddau dychan a ganodd i Ddafydd ab Edmwnd (66.50). Tybed felly ai yn ei henaint y bu Syr Rhys yn weithgar yng Ngharno, ac i’r pentref ddod yn gysylltiedig â’i enw gan mai yno y bu farw?

Fel yn achos bardd-offeiriaid eraill y bymthegfed ganrif, megis Syr Phylib Emlyn a Syr Lewys Meudwy, dengys teitl Syr Rhys ei fod yn offeiriad heb radd brifysgol a berthynai i esgobaeth benodol yn hytrach nag i urdd grefyddol (GSPhE 6). Perthynai Syr Phylib a Syr Lewys i esgobaeth Tyddewi, ond roedd ficeriaeth Llanbryn-mair a Charno yn rhan o esgobaeth Llanelwy (Rees 1951: plât 33). Ni ddaethpwyd o hyd i’w enw, fodd bynnag, yng nghofnodion John Le Neve (Jones 1965), a rhaid troi at dystiolaeth y cerddi er mwyn lloffa gwybodaeth am ei yrfa.

Geilw Dafydd Llwyd ef yn ŵr llên ac yn urddol a chanddo laswyrau iesin; ac [ei]n conffesor ydoedd yn ôl Maredudd ap Rhys (GDLl 74.1–2, 4, 39; GMRh 3.34; GPC 2152 d.g. llên (b)). Tebyg yw cyfeiriad Dafydd Llwyd ato yn ei gywydd dychan i Lywelyn ap Gutun fel un a rôi [b]ardwn i’r mab byrdew, ynghyd â’r modd y dywed Syr Rhys ei hun y gallai roi [p]ardwn i’w elynion (GLlGt At.v.26; GMRh 30.5–8). Ceir mwy o wybodaeth gan Guto (101.13–16):

Galw Syr Rys, f’eglwyswr i,
’Y nghurad, i’m cynghori,
Offisial a chyffeswr
A meddyg ym oedd y gŵr.

Ymddengys y dynodai [c]urad ddirprwy neu gynorthwyydd offeiriad plwyf (OED Online s.v. curate, n. 2 (a) a’r nodyn yno), ond nid yw’n eglur pa mor llythrennol y dylid ystyried yr hyn a ddywed Guto amdano yn y cywydd dychan. At hynny, gelwir Syr Rhys yn [b]eriglor yn y priodoliad a geir wrth gopi o’i gerdd ddychan i Guto yn BL 31056, ac yn offeiriad yn LlGC 17114B. Tystir i’w adnabyddiaeth o’r brodyr-bregethwyr ar ddechrau un o’i gywyddau brud (GMRh 29.1–2), a dengys ei ymryson â Guto fod croeso iddo yn abaty Sistersaidd Glyn-y-groes.

Yn CTC 379 dywedir bod Syr Rhys wedi ‘colli ei urddau eglwysig’, naill ai am ei fod yn briod neu am ei fod yn ‘feddwyn brwysg’. Ymddengys y seiliwyd yr honiad hwnnw (er nas nodir) ar yr hyn a awgrymir yn Richards (1954–5: 223) ynghylch llinellau agoriadol y cywydd a ganodd Dafydd Llwyd i ateb Syr Rhys ynghylch cymhortha defaid: ‘Gelwir Syr Rhys yn “ŵr llên urddol” yma, ond awgrymir hefyd ei fod wedi colli ei urddau, ac mai gŵr o Lanbryn-mair ydyw … A oedd ef, tybed, yn un o’r vagabonds y cyfeiria cyfreithiau Harri IV atynt?’ Mewn gwirionedd, ni raid cymryd bod yng ngeiriau Dafydd ragor nac ymateb negyddol i gywydd Rhys (GDLl 74.1–2, 5–6):

Mae gŵr llên yma gerllaw,
Urddol, drwg gwneuthur erddaw …
Bardd, wedi gwahardd ei gân,
Bryn-mair, mae’n brin am arian.

Ei enw
Fel y nodwyd uchod, dynodai Syr swydd grefyddol Rhys. Ymddengys mai’r ffurf gysefin a ddilynai Syr yn ddieithriad gan mai o Loegr y daeth y teitl yn wreiddiol (TC 113). Disgwylid Syr Rhys, felly, ond un enghraifft yn unig a geir o ateb rh yn Syr Rhys â chytsain rh mewn llinell o gynghanedd gytseiniol lle syrth yr acen ar enw’r bardd, sef Os y rhain a gred Syr Rys (97.27). Fel y dangosir yn nodyn testunol y llinell honno, deil y llawysgrifau mai Syr Rys yw’r ffurf gywir ar yr enw yn yr achos hwnnw. Ategir hyn gan enghreifftiau eraill o ateb cytsain gyntaf Rhys gyda’r gytsain r yng ngwaith Guto ac yng ngwaith beirdd eraill:

  • 101.19 ‘Pasio yr wyd’, heb Syr Rys, 28 Medd Syr Rys, ‘meddwi sy raid!’, 32 I Syr Rys a’i was a’i wraig, 40 Meddai Syr Rys maidd sur oedd, 64 Ar Syr Rys a’i rhoi sy raid;
  • GDLl 74.4 Syr Rhys, laswyrau iesin;
  • GLlGt 14.46 Moes ran yma i Syr Rhys, At.v.25 Meddai Syr Rhys, modd syréw;
  • GMRh 3.26 Syr Rhys, er ei bwys o’r aur, 34 Syr Rhys, a’n conffesor oedd, 58 Y sir oll gyda Syr Rhys.
  • GDID XXIII.2 Deio, sy’ raid, was Syr Rhys, 11 Syr Rhys pei sorrai Rhos[i]er, 50 Syr Rhys a ŵyr wersau’r âb, 51 Syr Rhys, cyd bych Syrasin.

Mae’r un peth yn wir yn achos gwŷr eraill o’r enw Syr Rhys:

  • 14.13 Y tri Syr Rys tros yr iaith;
  • GLGC 15.4 a Syr Rhys, mae’n rhoi siars mawr, 15.7 siars Syr Rhys, siars i rosyn, 24.16 brân Syr Rhys ei brins yw’r ail, 87.39 nobl Syr Raff a nobl Syr Rhys, 115.64 einioes hir yt, nai Syr Rhys;
  • GDEp 9.15 Hwn sy o ryw hen Syr Rhys, 10.15 Nid oes o ran dau Syr Rhys, 12.30 Heb wers yr âb war Syr Rhys, 44 Gwŷr Syr Rhys, groes yr Iesu;
  • GHS 3.2 O Ros i Rôn, air Syr Rhys;
  • GMBen 17.4 Syr Rhys, da bob amser oedd;
  • GLl 20.48 A wnaeth saer aur, nith Syr Rhys;
  • GHD 12.78 Cannoes ar ôl, cwyn Syr Rhys.

Diau ei bod yn arwyddocaol iawn mai r a roir i ateb cytsain gyntaf Rhys yn yr enghreifftiau hyn oll, a’r tebyg yw y dylid diwygio’r darlleniadau i Syr Rys o ganlyniad (mae’r unig eithriad, GLl 24.56 Ŵyr Syr Rhys o Roser Hen, yn ateg i’r ddadl honno). Tybed a geid eithriad i’r rheol ynghylch cadw’r gysefin yn dilyn Syr yn achos yr enw Rhys, a hynny dan ddylanwad rhai enwau Saesneg lle ceid R- yn briflythyren ac a ragflaenid yn aml gan y teitl Syr, megis Syr Rosier, Syr Risiart a Syr Raff?

  • 53.8 Ŵyr Risiart ap Syr Rosier (cf. 24.80 Tra ater Syr Rhosier ynn, 25.10 Syr Rhosier, sorri’r Iesu, 16 Oes, ar roswydd Syr Rhosier);
  • GIG 20.1 Syr Rosier asur aesawr;
  • GLGC 87.39 nobl Syr Raff a nobl Syr Rhys, 114.66 draw yw Syr Rhisiart dros yr oesoedd;
  • GHS 7.13 Syr Rhisiart, Tomas ryswr, 9.47 Syr Rhisiart a roes resaw, 24.6 Syr Rhisiart, froesiwr osai;
  • GSRh 11.34 Cryfder Syr Rhosier a’i rym;
  • GLl 20.24 Rhosier, Syr Rhosier reswm.

Fel yn achos Syr Rhys, ni ddaethpwyd o hyd i enghraifft yn y farddoniaeth o ateb cytsain flaen yr enwau Saesneg hyn â’r gytsain rh. Bernir bod digon o dystiolaeth ar glawr i ddangos mai Syr Rys oedd y ffurf ar enw’r bardd a ddefnyddid gan ei gyd-feirdd.

Cerddi annilys
Priodolwyd i fardd o’r enw Rhys yr unig gopi o gywydd mawl a chyngor i ŵr o’r enw Tomas ab Ieuan o Langurig gan law anhysbys yn Pen 82, 228 (cynhwyswyd y gerdd wrth enw Syr Rhys yn MCF). Yn ôl RWM i: 537, priodolwyd y gerdd i A RRys or ARkys. Y darlleniad cywir yw S Rkys. Diau mai Rhys a olygid wrth yr ail air a bod tebygrwydd agos rhwng -k- a -h- yn orgraff ffynhonnell Pen 82. Darlleniad petrus a gynigir ar gyfer yr hyn a geir o flaen Rkys, ond ymddengys mai un llythyren a geir yno ac mai S flêr iawn ydyw. Er na ddisgwylid i fardd-offeiriad fel Syr Rhys ganu cerdd fawl, dengys y cerddi mynych a ganodd Syr Dafydd Trefor i uchelwyr y ceid eithriadau i’r rheol (GDT). Canodd Syr Phylib Emlyn yntau i Domas o Dretŵr a chanodd gywydd gofyn am farch gwyn gan Rys ap Dafydd o Flaen-tren (mab Dafydd ap Tomas), cerdd sydd, o bosibl, yn ‘adlewyrchu tlodi cymharol y glerigaeth yn y bymthegfed ganrif’ (GPhE 11, cerddi 1 a 2). Tybed a fentrai bardd-offeiriaid eraill ehangu eu repertoire pe bai’r esgid yn gwasgu? Fodd bynnag, yn ôl dull Bartrum o rifo cenedlaethau, y tebyg yw fod gwrthrych y gerdd, Tomas ab Ieuan, wedi ei eni c.1500 (WG2 ‘Cydifor ap Dinawal’ 4C), ac ni cheir tystiolaeth fod Syr Rhys wedi byw i weld yr unfed ganrif ar bymtheg. At hynny, ceir yn y gerdd ganran uchel iawn o gynganeddion croes (73%), nodwedd a ddisgwylid yng ngwaith bardd a ganai ar droad y ganrif ac ar ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg. Tybed ai Rhys Nanmor ai piau?

Cerdd arall a gynhwyswyd wrth enw Syr Rhys yn MCF yw englyn gyda’r enw Rh’ S Rys wrtho yn Pen 85 ii, 13. Perthyn i gyfres o englynion a ganwyd gan Rys Nanmor i Syr Rhys ap Tomas (Headley 1938: 240 (69.135–8)). Yn CTC 379, dywedir bod Siôn Dafydd Penllyn (Siôn Dafydd Laes) wedi canu englynion i Syr Rhys pan syrthiodd ef yn ei ddiod, ac fe’u cysylltir â’r darlun diotgar o Rys a geir yn y cywydd a ganodd Guto iddo (dilynir y ddadl honno yn GMRh 8). Mewn gwirionedd, Syr Rhys Cadwaladr, person Llanfairfechan, yw gwrthrych gwawd Siôn Dafydd Penllyn, ac roedd y ddau fardd yn eu blodau yn ystod ail hanner yr ail ganrif ar bymtheg (CLC 75, 176). Dywedir eto yn CTC 379 mai at Syr Rhys y cyfeirir mewn ymryson a fu rhwng Huw Arwystl a Syr Ieuan o Garno (codwyd yr wybodaeth o Rhys 1932: 55–9). Syr Rhys ap Morus o Aberbechan yw’r gŵr hwnnw mewn gwirionedd, a pherthyn yr ymryson i ganol yr unfed ganrif ar bymtheg (Jones 1926: xxxiv–xlviii).

Llyfryddiaeth
Johnston, D. (2005), Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300–1525 (Caerdydd)
Jones, J.A. (1926), ‘Gweithiau Barddonol Huw Arwystl’ (M.A. Cymru)
Headley, M.G. (1938), ‘Barddoniaeth Llawdden a Rhys Nanmor’ (M.A. Cymru [Bangor])
Huws, B.O. (2007), ‘Ailadeiladu Bywyd ar ôl Gwrthryfel Glyndŵr: Tystiolaeth y Canu i Foelyrch’, Dwned, 13: 97–137
Jones, B. (1965) (ed.), John Le Neve: Fasti Ecclesiae Anglicanae 1300–1541 (London)
Richards, W.L. (1954–5) ‘Cywyddau Ymryson a Dychan Dafydd Llwyd o Fathafarn’, LlCy 3: 215–28
Rhys, B. (1932), ‘Ymrysonau’r Beirdd’ (M.A. Cymru)
Williams, R. (1884), ‘Montgomeryshire Worthies’, Collections Historical and Archaeological … by the Powysland Club, xvii: 233–64