Canodd Guto gywydd mawl (cerdd 38) i Edward ap Hywel o’r Faenor a’i wraig gyntaf, Gwenllïan ferch Rhys. Un gerdd arall i Edward a oroesodd, sef cywydd mawl gan Owain ap Llywelyn ab y Moel (GOLlM cerdd 13). Canodd Gwilym ab Ieuan Hen gywydd ac awdl foliant i rieni Edward, sef Hywel ab Ieuan Llwyd a Myfanwy ferch Gruffudd (GDID cerddi IV a V). Canodd Guto gywydd mawl (cerdd 37) i daid Gwenllïan, sef Dafydd Llwyd ap Dafydd o’r Drenewydd.
Achresi
Seiliwyd yr achresi isod ar WG1 ‘Elystan Glodrudd’ 45, ‘Meilyr Gryg’ 1, 5; WG2 ‘Elystan Glodrudd’ 45 A1, ‘Meilyr Gryg’ 3A, 5A. Nodir mewn print trwm yr unigolion a enwir gan Guto yn ei gerdd i Edward, a thanlinellir enwau’r noddwyr.
Achres Edward ap Hywel o’r Faenor
Cafodd tad Edward, Hywel ab Ieuan Llwyd, hefyd fab o’r enw Morus Goch gyda Siân ferch Hywel a merch o’r enw Marian gydag Arglwyddes Brychdwn. Fel y gwelir, roedd Edward yn ddisgynnydd i Feilyr Gryg, gŵr y credir iddo ymgartrefu yn y Llwynmelyn yn Nhregynon, un o blwyfi Cedewain (L. Dwnn: HV i, 283).
Achres Gwenllïan ferch Rhys o’r Faenor
Gwraig gyntaf Edward oedd Gwenllïan ferch Rhys o’r Drenewydd. Ar ei thad, Rhys ap Dafydd Llwyd, gw. Dafydd Llwyd ap Dafydd. Roedd dau o neiaint Gwenllïan, Arthur ap Tomas a Mathau Goch ap Tomas, yn siryfion y sir yn 1548 a 1578. Roedd ail wraig Edward, Elisabeth, yn ferch i Siôn Corbed, gŵr a roes ei nawdd i Owain ap Llywelyn ab y Moel (GOLlM cerdd 14).
Priododd Catrin, unig ferch Edward a Gwenllïan, ŵr o’r enw Gruffudd ap Hywel ab Ieuan Blaenau. Ceir casgliad o ddogfennau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru dan y teitl Vaynor Park Estate, a dyddiad y ddogfen hynaf yn y casgliad yw 1459. Nodir yn y ddogfen honno i ŵr o’r enw Hywel ab Ieuan dderbyn y felin ŷd a’r pandy yn Aberriw gan Richard dug Iorc (LlGC Vaynor Park Estate 315). Uniaethwyd y gŵr hwnnw â Hywel ab Ieuan Llwyd o’r Faenor, tad Edward ap Hywel, gan fod y ddogfen wedi ei chadw yng nghasgliad y stad. Fodd bynnag, dadleuodd Thomas (1979: 91–109) mai Hywel ab Ieuan Blaenau ydoedd.
Y Faenor yn Aberriw
Cartref Edward a Gwenllïan oedd y Faenor yn Aberriw yng nghwmwd Cedewain. Cysylltir Phylib Goch, gorhendaid Edward ar ochr ei dad, â’r Faenor ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg yn achresi Bartrum (WG1 ‘Meilir Gryg’ 5). Fodd bynnag, mae hanes cynnar yr adeilad yn niwlog. Fel nifer o dai eraill ym Mhowys, mae’n bosibl i’r tŷ brofi peth difrod yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr, pan losgwyd nifer o dai ar y Gororau (Huws 2007: 97–138). O’r herwydd, ailadeiladwyd nifer helaeth o dai yn y bymthegfed ganrif yn unol â’r datblygiadau diweddaraf ym maes pensaernïaeth (Suggett 1996: 28). Fodd bynnag, ni oroesodd unrhyw dystiolaeth o waith adeiladu cyffelyb yn y Faenor gan i’r tŷ gael ei ailadeiladu’n llwyr yn yr ail ganrif ar bymtheg (Haslam 1977: 43–6). Dyddir y gwaith adeiladu cynharaf yno heddiw i 1640. Nid oes amheuaeth, fodd bynnag, fod y Faenor yn dŷ neuadd mawreddog yn amser Edward a Gwenllïan (Silvester and Alfrey 2007: 39).
Llyfryddiaeth
Haslam, R. (1977), ‘A Note on the Architecture of Vaynor Park’, Mont Coll 65: 43–6
Huws, B.O. (2007), ‘Ailadeiladu Bywyd ar ôl Gwrthryfel Glyndŵr: Tystiolaeth y Canu i Foelyrch’, Dwned, 13: 97–137
Silvester, R. and Alfrey, J. (2007), ‘Vaynor: A Landscape and its Buildings in the Severn Valley’, J. Finch and K. Giles (eds.), Estate Landscapes: Design, Improvement and Power in the Post-medieval Landscape (Woodbridge)
Suggett, R. (1996), ‘The Chronology of Late-Medieval Timber Houses in Wales’, Vernacular Architecture, xxvii: 28–37
Thomas, S.P. (1979), ‘A Postscript to “Branches of the Blayney Family” ’, Mont Coll 67: 91–108