Chwilio uwch
 

Rhestr Noddwyr a Beirdd

Elen ferch Robert Pilstwn o’r Llannerch, fl. c.1400–50

Cywydd Guto i ofyn am ffaling yw’r unig gerdd i Elen ferch Robert Pilstwn o’r Llannerch yn Llŷn (gw. cerdd 53). Rhoes disgynyddion Elen nawdd i Hywel Rheinallt ac i Lewys Daron (GLD cerddi 1–3 a thudalen 92).

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Puleston’, ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 5 a ‘Meirion Goch’ 2. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.

stema
Achres Elen ferch Robert Pilstwn o’r Llannerch

Un o blant Robert Pilstwn o Emral a Lowri ferch Gruffudd Fychan o Lyndyfrdwy oedd Elen Pilstwn (fe’i gelwir hefyd yn Elin ac Eleanor Puleston, gw. WG1 ‘Puleston’). Derbyniodd un o’i chyndeidiau, Syr Roger de Puleston, dir gan Edward I ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, ac erbyn y bymthegfed ganrif roedd teulu’r Pilstyniaid yn un o deuluoedd mwyaf awdurdodol a phwerus y gogledd-ddwyrain. Priododd aelodau o’r teulu i mewn i deuluoedd brodorol grymus, megis tad Elen, Robert Pilstwn, a briododd Lowri, chwaer i Owain Glyndŵr.

Rhoir dyddiad geni Elen tua 1370 yn achresi Bartrum. Roedd yn briod â’i hail ŵr, Gruffudd ap Llywelyn, pan ganodd Guto ei gywydd iddi (am ei gŵr cyntaf, Gronw ab Ieuan o’r Gwynfryn yn Llŷn, gw. Gresham 1973: 19). Ymgartrefodd gyda Gruffudd yn y Llannerch ym mhlwyf Llannor (hi oedd ei drydedd wraig). Ni wyddom lawer amdano ac eithrio ei fod yn ddisgynnydd i Feirion Goch, arglwydd y Rhiw a Chastellmarch yn Llŷn (WG1 ‘Meirion Goch’ 2). Ganwyd iddynt dair merch, sef Annes, Marged a Chatrin. Roedd Marged yn briod â Madog ap Ieuan o Flodfel (WG1 ‘Gollwyn’ 5). Roedd Elen yn chwaer yng nghyfraith i Edward ap Dafydd o Fryncunallt, a briododd ei chwaer, Angharad; roedd Elen hefyd yn fodryb i Rosier ap Siôn Pilstwn ac i Siôn ap Madog Pilstwn.

Llyfryddiaeth
Gresham, C.A. (1973), Eifionydd: A Study in Landownership from the Medieval Period to the Present Day (Cardiff)