Canodd Guto farwnad i Siôn ap Madog Pilstwn (cerdd 72), ac felly hefyd Hywel Cilan a Gutun Owain (GHC cerdd XXII; GO cerdd LI). Ceir cywyddau marwnad i’w wraig hithau, Alswn Fechan ferch Hywel, ynghyd â mam honno, Alswn ferch Hywel, gan Gutun Owain (ibid. cerddi XLV ac XLVI). At hynny, canodd Gutun gywydd marwnad i daid Alswn Fechan, Hywel ap Gronwy, ac felly hefyd Lewys Glyn Cothi (ibid. cerdd XLIV; GLGC cerdd 217). Ceir cywyddau mawl gan Hywel Cilan ac Ieuan ap Tudur Penllyn i frawd Siôn, Edward ap Madog Pilstwn (GHC cerdd XXIII; GTP cerdd 42).
Canwyd nifer o gywyddau i fab Siôn ac Alswn, sef Siôn arall (a elwir yn aml Siôn Pilstwn Hen), gan Hywel Dafi (Roberts 1918: 31–2), Lewys Môn (GLM cerddi LXXI, LXXII ac LXXIII), Gutun Owain (GO cerddi XII ac XIV) a Thudur Aled (TA cerddi XLI, XLII ac CXLII), ac fe ymddengys mai i’r Siôn hwnnw y canodd Hywel Rheinallt yntau gywydd mawl (gw. GLM cerdd Atodiad 2). Bu’r Siôn hwnnw’n briod ag Alis ferch Huw Lewys o Fôn, a chanwyd marwnad iddi hithau gan Gutun Owain (GO cerdd LII). At hynny, canodd Guto gywydd i ofyn ffaling (cerdd 53) gan fodryb Siôn ap Madog Pilstwn, Elen ferch Robert Pilstwn, a chanwyd nifer o gerddi i’w gefnder, Rhosier ap Siôn Pilstwn, ac i’w ddisgynyddion yntau.
Ceir y gerdd hysbys gynharaf i aelod o deulu’r Pilstyniaid gan Ruffudd Fychan ap Gruffudd, a gyflwynodd gywydd i hendaid Siôn, Rhisiart ap Syr Rhosier Pilstwn o Emral, yn gofyn am delyn (GSRh cerdd 11). Canwyd nifer fawr o gerddi i Bilstyniaid yr unfed ganrif ar bymtheg gan lu o feirdd, yn cynnwys Siôn Trefor, Siôn Cain, Wiliam Llŷn, Simwnt Fychan, Gruffudd Hiraethog, Tudur Aled, Lewys Môn, Mathau Brwmffild, Lewys Morgannwg a Lewys Daron.
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 5, ‘Marchudd’ 6, ‘Puleston’, ‘Sandde Hardd’ 1, 2, 4, ‘Tudur Trefor’ 1, 14, 25, 34, 38, 39; WG2 ‘Hwfa’ 8 C1, ‘Puleston’ A1. Dangosir y rheini a enwir ym marwnad Guto i Siôn mewn print trwm, a thanlinellir enwau ei noddwyr.
Achres Siôn ap Madog Pilstwn o Hafod-y-wern
Gwelir bod Siôn yn perthyn i nifer fawr o noddwyr blaenllaw’r gogledd. Roedd yn gefnder i Rosier ap Siôn Pilstwn o Emral ac yn nai i Angharad wraig Edward ap Dafydd o Fryncunallt. Rhoes ei fodryb Elen nawdd i Guto ac roedd modryb arall iddo, Annes, yn wraig i Dudur Fychan, hanner brawd Wiliam Fychan o’r Penrhyn. Bu ei fab, Siôn, yn briod ag Alis ferch Huw Lewys o Brysaeddfed.
Ei deulu a’i yrfa
Roedd y Pilstyniaid, megis y Salbrïaid, y Conwyaid a’r Hanmeriaid, yn noddwyr o bwys yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Disgynnent o Syr Roger de Puleston, brodor o Puleston yn swydd Amwythig a gafodd dir gan Edward I yn Emral ym Maelor Saesneg, lle ymsefydlodd cyn 1283 (Charles 1972–3: 3, 22). Priododd taid Siôn ap Madog Pilstwn, Robert Pilstwn, â Lowri ferch Gruffudd Fychan o Lyndyfrdwy, chwaer i Owain Glyndŵr. Ymladdodd Robert yn y gwrthryfel ym mhlaid Owain.
Yn ôl achresi Bartrum, perthynai Siôn ap Madog Pilstwn i’r genhedlaeth a anwyd tua 1400. Trigai yn gyntaf ym Mhlas-ym-Mers ger Wrecsam, lle sefydlwyd cangen o’r teulu yn hanner cyntaf y bymthegfed ganrif, ac yn ddiweddarach, trwy ei briodas ag Alswn Fechan ferch ac aeres Hywel ab Ieuan o Hafod-y-wern yn yr un ardal, ychwanegodd y lle hwnnw at ei feddiant. Gall mai at Siôn y cyfeirir yn 1455 mewn cyswllt â’r Abad Siôn ap Rhisiart o Lyn-y-groes (Williams 2001: 142; 1970–2: 203; Bowen 1995: 154). At hynny, y tebyg yw mai ef a enwir fel un o atwrneiod y brenin yn arglwyddiaeth y Waun ym mis Gorffennaf 1461, pan dderbyniodd gomisiwn ynghyd â chwech o wŷr eraill a fu hwythau’n noddwyr i Guto, sef yr Abad Siôn ap Rhisiart, Dafydd Cyffin, Rhosier ap Siôn Pilstwn, Siôn Hanmer, Siôn Trefor, a Robert ap Hywel (45.49–51). Nid yw dyddiad ei farw’n hysbys, ond mae’n bosibl ei fod yn fyw c.1465 (gw. cerdd 72 (esboniadol)).
Gwobrwywyd Siôn ap Siôn ap Madog Pilstwn yn hael gan Harri VII gan iddo ei gefnogi ym mrwydr Bosworth yn 1485, ac aeth yn ei flaen i ddal nifer o swyddi dylanwadol yn y Gogledd. Yn y ganrif ddilynol, sefydlwyd isgangen o Bilstyniaid Hafod-y-wern yng Nghaernarfon gan fab y Siôn hwnnw, sef Syr Siôn Pilstwn. Ymhellach ar y Pilstyniaid, gw. ByCy Ar-lein s.n. Puleston (Teulu).
Llyfryddiaeth
Bowen, D.J. (1995), ‘Guto’r Glyn a Glyn-y-Groes’, YB XX: 149–82
Charles, R.A. (1972–3), ‘Noddwyr y Beirdd yn Sir y Fflint’, LlCy 12: 3–44
Roberts, T. (1918) (gol.), Peniarth MS. 67 (Cardiff)
Williams, D.H. (1970–2), ‘Fasti Cistercienses Cambrenses’, B xxiv: 181–229
Williams, D.H. (2001), The Welsh Cistercians (Leominster)