Cywydd Guto i Robert ab Ieuan Fychan yw’r unig gerdd iddo a oroesodd. Cywydd gofyn ydyw am bâr o filgwn ac fe’i canwyd ar ran Sieffrai Cyffin o Groesoswallt, o bosibl c.1475 (cerdd 100). Canodd Siôn ap Hywel farwnad i’w ferch, Sioned, ac i’w gŵr hithau, Siôn ap Dafydd, cyn 1525 (GSH 4 a cherddi 9 a 10). Priododd merch arall iddo, Gwerful, ag un o noddwyr Guto, Wiliam ap Gruffudd o Gochwillian. Canwyd cerddi i ddisgynyddion eraill Rhobert yn yr unfed ganrif ar bymtheg gan Wiliam Cynwal, Huw Machno, Watcyn Clywedog a Siôn Morgan (Williams 1986: 252–8).
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 13, ‘Gollwyn’ 4, 6, ‘Gruffudd ap Cynan’ 4, 5, 6, ‘Hwfa’ 5, 6, ‘Iarddur’ 1, 2, 3, 5; WG2 ‘Iarddur’ 3C. Nodir mewn print trwm enwau’r rheini a enwir gan Guto yn ei gywydd i Robert. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.
Achres Rhobert ab Ieuan Fychan o Goetmor
Disgynnai Rhobert o dywysogion Gwynedd drwy fam ei fam ac o rai o noddwyr Gruffudd Gryg, Iolo Goch ac Owain Waed Da drwy fam ei dad (gw. 100.11n Eifionydd). Roedd ei fam, Gwladus ferch Ieuan Llwyd, yn gyfnither i’r bardd Ieuan ap Gruffudd Leiaf, ac roedd Rhobert yntau’n gyfyrder i fab Ieuan, y bardd Syr Siôn Leiaf (116.11–12n). Bu Rhobert yn briod deirgwaith: yn gyntaf â Gwerful ferch Ednyfed Fychan; yn ail â Marsli ferch Edmwnd Stanley; ac yn drydydd â Nest ferch Ieuan (ni nodir iddo gael plant o’r olaf). Nid yw’n eglur o achresi Bartrum pwy oedd mam dwy o’i ferched, Gwerful a Chatrin (efallai Nest). Drwy briodas Gwerful, roedd Rhobert yn dad yng nghyfraith i un o noddwyr Guto, sef Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan.
Ei deulu
Geilw Williams (1986: 247) hendaid Rhobert, Hywel ap Gruffudd, yn ‘Hywel Coetmor … [gŵr] y credir iddo farw yn Fflandrys ym 1388 … a chofnodir ei enw ar restr y rheithgor a dderbyniodd renti cwmwd Llechwedd Uchaf ym 1352.’ Ni nodir ffynhonnell yr wybodaeth. Gall mai’n ddiweddarach y rhoddwyd yr enw Coetmor iddo, o bosibl drwy gydweddiad rhannol â Hywel Coetmor ap Gruffudd Fychan o Ddyffryn Conwy (IGE2 cerdd XXXVI; Davies 1995: 205), oherwydd, fel y cyfeddyf Williams, ymddengys mai Rhobert yw aelod cyntaf y teulu y gellir ei gysylltu â Choetmor ym mhlwyf Llanllechid.
Ceir gwybodaeth gan Williams (1986: 249) am etifedd Rhobert, sef Rhys. Roedd yn ‘ysgwïer o’r Corff i Risiart III, a derbyniodd nifer o diroedd yn Arfon, Môn a sir y Fflint yn rhinwedd y swydd. Erys chwedl amdano yn gwasanaethu Rhisiart ym mrwydr Bosworth, a phan adawodd yr Arglwydd Stanlai a’i wŷr garfan y Brenin ac ymuno â byddin Harri Tudur, galwodd Rhisiart am win ac am ei yswain, Rhys. Yna meddai wrtho: “Yma, Fychan, yr yfaf i ti, y Cymro cywiraf a gefais erioed yng Nghymru.” Yfodd Rhisiart y gwin, a rhuthro am y tro olaf ar ei elynion. Er derbyn pardwn Harri VII wedi’r frwydr, collodd Rhys gyfran helaeth o’i diroedd yn y Gogledd, a chollodd y teulu hefyd gryn dipyn o’u dylanwad.’ Eto, yn anffodus ni nodir ffynhonnell yr wybodaeth.
Llyfryddiaeth
Davies, R.R. (1995), The Revolt of Owain Glyndŵr (Oxford)
Williams, I.Ll. (1986), ‘Noddwyr y Beirdd yn Sir Gaernarfon’ (M.A. Cymru [Aberystwyth])