Chwilio uwch
 

Rhestr Noddwyr a Beirdd

Wiliam Fychan ap Gwilym o’r Penrhyn, fl. c.1420–m. 1483

Dwy gerdd a oroesodd gan Guto i Wiliam Fychan, sef dau gywydd mawl (cerddi 56 a 57), ac at hynny gallwn ychwanegu’r cerddi canlynol:

  • cywydd achau gan Rys Goch Eryri, GRhGE cerdd 4;
  • cywydd mawl gan Ddafydd ab Edmwnd, DE cerdd LIV;
  • cywydd mawl gan Ddafydd Llwyd o Fathafarn, GDLl cerdd 47;
  • cywydd mawl gan Gutun Owain, GO cerdd LIV;
  • cywydd mawl gan Dudur Penllyn, GTP cerdd 5;
  • dau gywydd mawl gan Gynwrig ap Dafydd Goch (cerddi anolygedig, gw. LlGC 3051D, 495, 542);
  • dau gywydd mawl gan Robin Ddu (cerddi anolygedig, gw. LlGC 3051D, 493, 498);
  • awdl foliant gan Lewys Glyn Cothi, GLGC cerdd 223;
  • cywydd gan Owain ap Llywelyn ab y Moel ar achlysur codi tŷ Plasnewydd ym Môn yn 1470, GOLlM cerdd 23.

Deil Bowen (2002: 77) bod Gutun Owain wedi canu cywydd gofyn march i Wiliam, ond nid yw’n eglur, mewn gwirionedd, pa aelod o deulu’r Penrhyn a gyferchir yn y cywydd hwnnw (GO cerdd X). Nodir yn GRhGE 176 fod Hywel Dafi wedi canu i Wiliam, a diau bod cerddi eraill anolygedig iddo yn y llawysgrifau. Canwyd degau o gerddi i’w ddisgynyddion. Am y canu i’w hynafiaid, gw. isod.

Achresi
Seiliwyd yr achresi isod ar WG1 ‘Marchudd’ 4, 5, 6, 11, 12, 13, ‘Rhys ap Tewdwr’ 1; WG2 ‘Marchudd’ 6B1; gw. hefyd Carr 1990: 2. Nodir y rheini a enwir yn y ddau gywydd a ganodd Guto i Wiliam mewn print trwm a thanlinellir enwau ei noddwyr.

stema
Achres Wiliam Fychan ap Gwilym o’r Penrhyn

Fel y gwelir uchod, roedd Wiliam yn frawd yng nghyfraith i un o brif noddwyr Guto, Robert Trefor o Fryncunallt.

stema
Teulu Wiliam Fychan o’r Penrhyn

Roedd Wiliam yn gefnder i Ruffudd ap Rhobin, tad Wiliam o Gochwillan, ac i fam Rhisiart Cyffin, deon Bangor. Cafodd Wiliam saith o blant gyda Gwenllïan ferch Iorwerth, sef Rhobert, Edmwnd, Wiliam, Marsli, Alis, Elen ac Annes. Cafodd ferch arall, Sioned, a briododd Tomas Salbri ap Tomas Salbri o Leweni, ond nid yw’n eglur pwy oedd ei mam.

Ei deulu a’i yrfa
Wiliam Fychan ap Gwilym oedd tirfeddiannwr grymusaf y Gogledd yn ystod y bymthegfed ganrif. Elwodd ei dad, Gwilym ap Gruffudd, yn sgil methiant gwrthryfel Owain Glyndŵr ar ddechrau’r ganrif drwy feddiannu tiroedd a fforffedwyd, a bu Wiliam yntau’n weithgar iawn yn cryfhau ei etifeddiaeth yn sir Gaernarfon ac ym Môn. Ceir ymdriniaeth fanwl â gyrfa Gwilym a chip ar un Wiliam gan Carr (1990), ynghyd ag arolwg o’r canu i’r tad a’r mab gan Bowen (2002). Ymhellach, gw. ByCy Ar-lein s.n. Griffith (teulu), Penrhyn.

Perthynai Wiliam i linach urddasol a ddaeth i amlygrwydd yn y drydedd ganrif ar ddeg pan fu Ednyfed Fychan ap Cynwrig yn ddistain i Lywelyn Fawr ab Iorwerth. Canodd Elidir Sais farwnad i Ednyfed (GMB cerdd 18) a bu ei ddisgynyddion ar ochr ei fab, Goronwy, yn hael eu nawdd i’r beirdd ym Môn drwy’r bedwaredd ganrif ar ddeg (GGMD, i 11–12). Erbyn ail hanner y ganrif honno roedd taid Wiliam, Gruffudd ap Gwilym ap Gruffudd (a fu farw yn 1405), wedi ychwanegu tiroedd yn Nyffryn Clwyd, sir Gaernarfon a Môn at ei diroedd yng nghadarnle traddodiadol y teulu yn sir y Fflint (Davies 1995: 51–2). Ymladdodd gyda’i frawd, Bleddyn, yn erbyn y Goron yng ngwrthryfel Owain Glyndŵr a buont ill dau farw cyn Hydref 1406 (Bowen 2002: 60). Gruffudd, yn ôl Davies (1995: 51), oedd y Cymro cyfoethocaf yng ngogledd y wlad ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg. Ni bu fawr o dro’n manteisio ar y rhyddid a roddwyd iddo gan oruchafiaeth cyfraith Lloegr yng Nghymru yn sgil y Goncwest i etifeddu tir drwy briodas.

Gyda throad y ganrif mae’n eglur fod meibion Gruffudd, sef Rhobin, Gwilym a Rhys, wedi ymuno â’r gwrthryfel ym mhlaid Owain. Ond ym mis Awst 1405 ildiodd y tri brawd a phedwar Cymro arall i’r Goron yng ngharchar Caer (ibid. 119; Carr 1990: 8–9). Yn ôl Carr (ibid. 5), aeth tir Gruffudd yn sir y Fflint i Rys ac ymddengys i’w diroedd yng Ngwynedd fynd i Wilym (a ymgartrefodd yn y Penrhyn) ac i Robin (yng Nghochwillan). Canwyd i Wilym gerddi gan Rys Goch Eryri, Gwilym ap Sefnyn ac Ieuan ap Gruffudd Leiaf, a honnodd Guto yntau iddo dderbyn nawdd ganddo (GRhGE cerddi 2 a 3; Williams 1997; Bowen 2002: 73 troednodyn 27, 75–6; 56.19–20n). Ceir crynodeb o yrfa Gwilym yn GRhGE 158 (a seiliwyd ar Carr 1990):

Yr oedd Gwilym yn un o uchelwyr pwysicaf gogledd Cymru yn negawdau cyntaf y bymthegfed ganrif … Daliai Gwilym rai swyddi lleol ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg, a’r bwysicaf ohonynt oedd siryfiaeth Môn yn y cyfnod 1396–7 … ymunodd Gwilym â gwrthryfel Owain Glyndŵr, ond gan iddo ildio i’r awdurdodau yn bur gynnar llwyddodd i adennill ei safle yn y gymdeithas. Yn wir, llwyddodd i’w wella drwy gael gafael ar diroedd fforffed cymaint â saith ar hugain o wrthryfelwyr, gan gynnwys tiroedd teulu ei wraig gyntaf, sef Tuduriaid Penmynydd. Buasai Morfudd ferch Goronwy [Fychan] ap Tudur [Fychan] farw yn gynnar yn y ganrif newydd, ac ailbriododd Gwilym tua 1413 â Sioned (neu Joan) Stanley, ferch Syr William Stanley o Hooton, swydd Gaer. Dietifeddwyd Tudur, mab Gwilym a Morfudd, i raddau helaeth, a mab Gwilym a Sioned, sef Wiliam (neu Wilym) Fychan a etifeddodd y rhan helaethaf o stad ei dad. Dengys gyrfa wleidyddol Gwilym ap Gruffudd, yn ogystal â’r modd yr ymdriniodd â’i deulu ei hun, ei fod yn gymeriad unplyg a chadarn, a hawdd credu na fyddai’n boblogaidd gan bawb yng ngogledd Cymru. Ond rhoes fod i un o deuluoedd mwyaf llwyddiannus y gogledd, teulu a fyddai’n gynheiliaid y traddodiad nawdd am genedlaethau i ddod.

Bu farw Gwilym yn ystod gwanwyn 1431 ond nis olynwyd gan Wiliam hyd 1439, pan oedd yn ddigon hen i dderbyn etifeddiaeth ei dad yn ogystal â hawl i gael ei ystyried yn ddinesydd Seisnig, ac felly’n rhydd oddi wrth y deddfau penyd a roddwyd mewn grym yn erbyn y Cymry er y gwrthryfel (GRhGE 176; Carr 1990: 18). Gellir cymharu’r statws newydd hwnnw ag ymgais debyg a llawer mwy anhygoel gan Wilym yntau i ennill braint dinasyddiaeth o flaen ei fab. Honnodd Gwilym y dylid ei ystyried yn Sais am ei fod yn briod â Saesnes ac am ei fod o linach a oedd bron yn gyfan gwbl Seisnig (ibid. 10–11). At hynny, honnodd iddo ef a’i feibion fod yn ffyddlon i’r Goron yn ystod y gwrthryfel, honiad a adleisiwyd gan Wiliam yntau yn ei gais ef (derbyniodd perthynas iddo, Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan, yr un fraint yn 1486). Bu Wiliam yn siambrlen Gwynedd rhwng 1457 ac 1463 (56.12n), a chyfeirir ato gan rai beirdd fel cwnstabl Caernarfon (Bowen 2002: 76–7). Ceir mwy o wybodaeth yn Bowen (ibid. 77):

Erbyn 1450–1, yr oedd [Wiliam] yn ysgwïer o Neuadd a Siambr y Brenin, ac yn 1451 yr oedd yn aelod o gomisiwn a benodwyd i archwilio pam nad oedd trethi sir Feirionnydd wedi eu talu. Yn ôl pob tebyg, ef oedd y William Griffith a gafodd roddion fel ‘marsial neuadd y brenin’ gan Edward IV yn 1462 ac 1464, a bu’n aelod o sawl comisiwn yng ngogledd Cymru yn ystod teyrnasiad Edward.

Bu farw Wiliam yn 1483 (ibid. 76). At y farwolaeth honno y cyfeiriodd Guto yn rhan agoriadol ei farwnad i Ruffudd Fychan ap Gruffudd o Gorsygedol (cerdd 52), gŵr arall a fu farw yn 1483. Yr awgrym yw bod Guto wedi marwnadu Wiliam hefyd yn yr un flwyddyn ond, os felly y bu, ni ddiogelwyd y gerdd honno yn y llawysgrifau. Olynwyd Wiliam gan yr unig blentyn a gafodd gydag Alis ferch Sir Richard Dalton, sef Syr Wiliam Gruffudd.

Llyfryddiaeth
Bowen, D.J. (2002), ‘Y Canu i Gwilym ap Gruffudd (m. 1431) o’r Penrhyn a’i fab Gwilym Fychan (m. 1483)’, Dwned, 8: 59–78
Carr, A.D. (1990), ‘Gwilym ap Gruffydd and the Rise of the Penrhyn Estate’, Cylchg HC 15: 1–20
Davies, R.R. (1995), The Revolt of Owain Glyndŵr (Oxford)
Williams, G.A. (1997), ‘Cywydd Gwilym ap Sefnyn i Afon Ogwen ac Afon Menai’, Dwned, 3: 83–95