Chwilio uwch
 

Dafydd Bromffild o Fers, fl. c.1467

Ni cheir unrhyw wybodaeth achyddol am Ddafydd Bromffild yn y cywydd gofyn saeled (cerdd 73) a ganodd Guto ar ei ran. Fe’i disgrifir fel nai Owain, ond mae’n debygol iawn mai arwr un o’r Tair Rhamant a olygir, sef Owain ab Urien (73.49n (esboniadol)). Nodir yn GGl 329 mai Dafydd Bromffild ap Martin Bromffild ap Sieffrai Bromffild ydoedd, ond fel y sylwodd A.C. Lake (GMBr 2), nid yw hynny’n bosibl gan fod y Dafydd hwnnw’n fab i ŵr y canwyd ei foliant gan Wiliam Llŷn oddeutu canol yr unfed ganrif ar bymtheg. Awgrym Lake yw y gall mai hendaid i Sieffrai Bromffild yw’r Dafydd y canodd Guto iddo, sef Dafydd ap Gruffudd ap Madog, ond yn ôl dull Bartrum o ddyddio’r cenedlaethau cafodd y gŵr hwnnw ei eni c.1330 (WG1 ‘Idnerth Benfras’ 6). Mae’n annhebygol iawn, felly, fod achres y Dafydd Bromffild a roddodd nawdd i Guto wedi goroesi, er ei bod yn bosibl ei fod yn perthyn i’r teulu o uchelwyr a oedd yn arddel Bromffild (sef yr enw Saesneg ar gwmwd Maelor Gymraeg) yn gyfenw ac yn byw ym Mryn-y-wiwer (HPF ii: 86).

Achres
Yn ôl llinell 40 y cywydd a ganodd Guto ar ei ran, roedd Dafydd yn gâr i’r rhoddwr, sef Wiliam Rodn, ac, fel y gwelir isod, mae’n bosibl y ceid cyswllt teuluol rhwng y ddau deulu. Seiliwyd yr achres isod ar wybodaeth ddigon ansicr a geir mewn mannau yn WG1 ‘Idnerth Benfras’ 6, ‘Tudur Trefor’ 2, 8, 10, 12, 15, 16; WG2 ‘Idnerth Benfras’ 6C, ‘Roydon’ (ymhellach, gw. HPF ii: 326–8).

stema
Teuluoedd Bromffild a Rodn

Cyfeiriadau
Enwir gŵr o’r enw David Bromfeld gyda phump o uchelwyr eraill ym Maelor Gymraeg mewn dogfen gyfreithiol a luniwyd yn Holt ar y dydd Llun cyntaf wedi gŵyl Sant Luc yn seithfed blwyddyn teyrnasiad Edward IV, sef 19 Hydref 1467 (Dienw 1846: 335, ond sylwer bod y flwyddyn yn anghywir yno; HPF ii: 83). Er nad yw’n gwbl eglur ar hyn o bryd beth yn union a nodir yn y ddogfen, ymddengys yr enwir y Dafydd hwn, ynghyd â Wiliam Hanmer, Siôn Eutun, Edward ap Madog, Hywel ab Ieuan ap Gruffudd a Morgan ap Dafydd ap Madog, mewn cyswllt â chynnal gwŷr arfog ym Maelor Gymraeg. Enwir hefyd nifer o uchelwyr eraill a oedd ar feichiau drostynt, yn cynnwys Wiliam Rodn mewn cyswllt â’i frawd, Tomas Rodn (Dienw 1846: 337; HPF ii: 84). Enwir Dafydd eto mewn cyd-destun gwahanol yn yr un ddogfen (Dienw 1848: 66; HPF ii: 86). Mae’n debygol mai’r Dafydd Bromffild hwn yw’r gŵr y canodd Guto gywydd gofyn ar ei ran a’i fod yn fyw, felly, yn 1467 (cf. hefyd Pratt 1988: 48, lle enwir David Bromfield a John Eyton fel tystion yn natganiadau rheithgor beilïaeth Wrecsam yn 1467).

Roedd gŵr o’r enw David Bromfield yn warden ym mhriordy Ffransisgaidd Caer yn 1434, ond mae’n annhebygol mai ef yw’r gŵr a drafodir yma (Elrington and Harris 1980: 173).

Llyfryddiaeth
Dienw (1846), ‘Proceedings’, Arch Camb 2: 147–52, 210–15, 335–8
Dienw (1848), ‘Proceedings’, Arch Camb 3: 66–8, 107–9
Elrington, C.R. and Harris, B.E. (1980) (eds.), A History of the County of Chester, Vol. 3 (Oxford)
Pratt, D. (1988), ‘Bromfield and Yale: Presentments from the Court Roll of 1467’, TCHSDd 37: 43–53