Chwilio uwch
 

Wiliam Rodn ap Richard Rodn o Holt, fl. c.1445–67

Canodd Guto gywydd gofyn saeled i Wiliam Rodn ar ran Dafydd Bromffild (cerdd 73). Ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw gerddi eraill iddo.

Achres
Er na cheir unrhyw wybodaeth achyddol am Wiliam yn y cywydd a ganodd Guto iddo, diogelwyd ei ach yn y llawysgrifau. Seiliwyd yr achres isod ar WG2 ‘Roydon’ a HPF iii: 111–12.

stema
Achres Wiliam Rodn o Holt

Ei yrfa
Gelwir Wiliam yn rhysyfwr gan Guto (73.17), a cheir gwybodaeth i’r un perwyl yn llaw Gruffudd Hiraethog yn adran achyddol Pen 135 (1556–64): wilem resysyver koch (td. 98), wiliam Rodyn resyver koch (td. 121), Wiliam Rodyn y rresyvwr koch (td. 140).

Manylir ar yr wybodaeth honno gan Peter Ellis yn BL 28033 (c.1625–37) sy’n cyfeirio ato fel William Roydon Recr of Bromfield (f. 61v). Ac mae’n debygol, hefyd, mai’r un gŵr yw’r ‘William Roydon’ a enwir yn HPF iii: 114 fel ‘Collector Antiquaru’ Eschet de Englefeld, 24 Henry VI’ (sef 1445–6) ac yn ‘Eschetor, 25 et 38 Henry VI’ (sef 1446–7 ac 1459–60).

Y tebyg yw mai ef hefyd yw’r Will’ms Rodon a enwir yn feichiad i’w frawd, Thom’ Rodon, mewn dogfen gyfreithiol a luniwyd yn Holt ar y dydd Llun cyntaf wedi gŵyl Luc Sant yn ystod seithfed blwyddyn teyrnasiad Edward IV, sef 19 Hydref 1467 (Dienw 1846: 337, ond sylwer bod y flwyddyn yn anghywir yno; HPF ii: 84). Er nad yw’n gwbl eglur ar hyn o bryd beth yn union a nodir yn y ddogfen honno, ymddengys yr enwir Dafydd Bromffild, sef y gŵr y canodd Guto gywydd gofyn i Wiliam ar ei ran, ynghyd â Wiliam Hanmer, Siôn Eutun, Edward ap Madog, Hywel ab Ieuan ap Gruffudd a Morgan ap Dafydd ap Madog, mewn cyswllt â chynnal gwŷr arfog ym Maelor Gymraeg.

Cyfeirir at dad Wiliam, Richard Rodn, yn HPF i: 392: ‘In 1442, Richard Roydon, of Kent, the ancestor of the Roydons of Is y Coed, is said to have come into Bromfield with the Commissioners of Lord Abergavenny, lord of the moiety of Bromfield, 20th Henry VI’ (gw. hefyd HPF iii: 111; BL 28033, 61v). Teulu o fewnfudwyr oedd y Rodniaid felly, a gellir eu hychwanegu at deuluoedd estron eraill (megis y Salbrïaid) a fu’n noddwyr blaenllaw i feirdd yn y Gogledd-ddwyrain yn ystod y bymthegfed ganrif a’r unfed ganrif ar bymtheg.

Dylid gwahaniaethu rhwng Wiliam Rodn ap Richard Rodn a’i nai, Syr Wiliam Rodn ap Huw Rodn, a fu’n berson eglwys Gresffordd (HPF iii: 112; CPR 1476–85, 19). Dywed Thomas (1908–13, iii: 254) fod Syr Wiliam yn ‘sinecure rector’ yno yn 1476, ond person ydoedd yn ôl CPR, a’r tebyg yw bod ei alw’n rheithor yn gamarweiniol gan na ddefnyddid y gair hwnnw tan y bedwaredd ganrif ar bymtheg (GPC 3053 d.g. rheithor). Mae’n debygol hefyd mai ei ŵyr, Wiliam Rodn ap Siôn Rodn, a enwir mewn stent a wnaed yn arglwyddiaeth Bromffild ac Iâl yn 1508 (Palmer and Owen 1910: 217).

Llyfryddiaeth
Dienw (1846), ‘Proceedings’, Arch Camb 2: 147–52, 210–15, 335–8
Palmer, A.N. and Owen, E. (1910), A History of Ancient Tenures of Land in North Wales and the Marches (second ed., Wrexham)
Thomas, D.R. (1908–13), The History of the Diocese of St. Asaph (3 vols., Oswestry)