Chwilio uwch
 

Siôn Eutun ap Siâms Eutun o Barc Eutun, fl. c.1439–m. 1477

Canodd Guto gywydd i ofyn corn hela gan Sieffrai Cyffin o Groesoswallt ar ran Siôn Eutun, yr unig gerdd gan Guto y gellir ei chysylltu â Siôn (cerdd 99). Diogelwyd dyrnaid o gerddi sy’n ymwneud ag ef gan feirdd eraill:

  • cywydd marwnad gan Gutun Owain, GO cerdd XLIX;
  • cywydd i ofyn cwrwgl o waith Ieuan Fychan ab Ieuan y deil Roberts iddo gael ei ganu i Siôn, GMRh 5–6 a cherdd 9;
  • ymryson rhwng Ieuan Fychan a Maredudd ap Rhys yn sgil y cais uchod am gwrwgl, a fu’n aflwyddiannus, ibid. cerddi 10–12. Canodd Maredudd gywydd ateb i Ieuan ar ran Siôn a chanodd Ieuan yntau gywydd arall yn ei sgil. At hynny, canodd y ddau fardd gyfres o englynion i’w gilydd ar yr un pwnc.

At hynny, canwyd cryn dipyn o gerddi i’w ddisgynyddion:

  • cywydd mawl i’w fab, Wiliam Eutun ap Siôn Eutun, gan Gutun Owain, GO cerdd XLIX;
  • cywydd i ofyn bwa gan Wiliam Eutun o waith Maredudd ap Rhys. Deil Roberts mai ar ran nai Wiliam, Siôn Eutun ab Elis Eutun, y gwnaeth hynny, GMRh cerdd 6 a’r nodiadau arni;
  • cywydd gan Dudur Aled i ofyn pedwar bwcled gan bedwar mab Elis Eutun ar ran eu hewythr, Hywel ap Siencyn, TA cerdd 116;
  • cywydd mawl i ŵyr Siôn, Siôn Eutun ab Elis Eutun, gan Gutun Owain, GO cerdd L;
  • marwnadau Siôn Eutun ab Elis Eutun gan Huw ap Dafydd, Lewys Daron a Lewys Môn, GHD cerdd 5; GLD cerdd 27; GLM cerdd 76;
  • marwnadau i ŵyr Siôn, Owain Eutun ap Wiliam Eutun, gan Ruffudd Hiraethog a Wiliam Llŷn, GGH 235; Stephens 1983: 418;
  • cywydd i ofyn chwe ych ac awdl foliant o waith Huw ap Dafydd (yn ôl pob tebyg) i Siôn Trefor ab Edward, a briododd Elsbeth, sef gororwyres Siôn, GHD cerddi 26 a 27. Ceir tebygrwydd rhwng y cywydd gofyn a ganodd Huw i Siôn Trefor a chywydd i ofyn am ddau filgi a ganodd Guto ar ran Sieffrai Cyffin (100.44n). Gall fod Huw yn gyfarwydd â cherdd Guto yn sgil y ffaith fod Ann, mam Siôn Trefor, yn ferch i Sieffrai;
  • cerddi i’w or-orwyr, Wiliam Eutun ap Siôn Eutun ap Siôn Eutun, gan Wiliam Cynwal a Wiliam Llŷn, Jones 1969: 52; Williams 1965: 300; Stephens 1983: 340, 491.

Cyfeirir at Siôn mewn cerdd gan Huw ap Dafydd (GHD 17.11n).

Achres
Ymddengys fod dau Siôn Eutun yn byw yn ystod ail hanner y bymthegfed ganrif, y naill yn daid i’r llall, ac mae’n bur debyg mai’r hynaf o’r ddau a roes ei nawdd i Guto. Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 9, 11, ‘Ednywain Bendew’ 2, 3, ‘Gruffudd ap Cynan’ 6, ‘Gwenwys’ 2, ‘Hanmer’ 1, ‘Morgan Hir’ 1, 2, ‘Puleston’, ‘Rhirid ap Rhiwallon’ 2, ‘Sandde Hardd’ 4, ‘Tudur Trefor’ 13, 25; WG2 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 11D, ‘Tudur Trefor’ 14C2, 25A1, A2, B. Dangosir mewn print trwm y rheini a enwir yn y drafodaeth isod a thanlinellir enwau noddwyr Guto.

stema
Achres Siôn Eutun ap Siâms Eutun o Barc Eutun

Gwraig Siôn oedd Gwenhwyfar ferch Einion ab Ithel. Yn ôl HPF ii: 158–9, roedd ei thad, Einion, yn ‘Esquire of the body to John of Gaunt, Duke of Lancaster 1395, and High Sheriff of Meirionydd for life’.

Dengys yr achres y berthynas rhwng teulu Siôn a theulu Sieffrai Cyffin, y gŵr y canodd Guto gywydd iddo i ofyn am gorn hela ar ran Siôn. Geilw Guto’r naill yn [g]yfyrderw i’r llall (99.61). Roedd Gwenllïan, mam Siôn, yn gyfnither i Farged ferch Llywelyn, gwraig gyntaf Ieuan Gethin ap Madog Cyffin, ond yn ôl tystiolaeth yr achresi a’r farddoniaeth nid Marged oedd mam Morus, tad Sieffrai. Dengys cwpled o gywydd gofyn am frigawn a ganodd Guto i Sieffrai ar ran Dafydd Llwyd o Abertanad y credid mai Marged ferch Ieuan oedd mam Morus, oherwydd enwir yno ddau o’i hynafiaid hi, sef Addaf a Meurig (98.7–8). Gellid bwrw amheuaeth ar yr wybodaeth a geir yn y cywydd hwnnw yn sgil y ffaith mai mewn rhai llawysgrifau’n unig y diogelwyd y cwpled perthnasol, ond mae llinell 10 [C]ae Alo (a geir mewn gwahanol ffurfiau ym mhob llawysgrif, gw. y nodyn testunol ar y llinell honno) yn dyst ychwanegol i’r gred honno gan fod Sieffrai’n disgyn o Alo ap Rhiwallon Fychan drwy fam ei dad, sef Marged ferch Ieuan. Bernir, felly, fod Siôn a Morus, tad Sieffrai, yn hanner cyfyrdryd, a bod hyn, yn ei dro, yn gwarantu galw Sieffrai a Siôn yn gyfyrdryd o fath yn y cywydd i ofyn am gorn.

At hynny, roedd gan Siôn a Sieffrai gyswllt teuluol drwy briodas mab y naill, Elis Eutun, a hanner chwaer y llall, Marged. Wrth ymyl copi o gerdd 98 yn llawysgrif BL 14978 ceisiwyd cysylltu Sieffrai a Siôn drwy un o hendeidiau’r ail, sef Gruffudd Fychan ap Gruffudd, ond nid ymddengys fod gan Sieffrai unrhyw gyswllt â’r gŵr hwnnw. Gall fod rhyw gopïydd neu achyddwr wedi drysu rhwng un o gefndryd mam Siôn, Ieuaf Gethin, a thaid Sieffrai, Ieuan Gethin (roedd gan y ddau gyswllt ag ardal Llansilin).

Ei yrfa
Bu farw Siôn yn 1477 (GMRh 5–6; LlGC 1504E, 177). Yn ôl HPF ii: 158, lle gelwir ef yn Siôn Eutun Hen, roedd yn fyw yn 1439 ac yn stiward arglwyddiaeth Brwmffild yn 1477. Y tebyg yw mai ef a enwir fel John Eyton mewn llythyr a ysgrifennodd Siasbar Tudur o Ddinbych y Pysgod ar 25 Chwefror 1461 (Evans 1995: 84). Os felly, roedd Siôn yn Lancastriad a fu’n gyd-stiward castell Dinbych yn Nyffryn Clwyd gydag un arall o noddwyr Guto, Rhosier ap Siôn Pilstwn.

Y tebyg yw mai ef hefyd yw’r Johanne Eyton a enwir mewn dogfen gyfreithiol a luniwyd yn Holt ar 19 Hydref 1467 (Dienw 1846: 338, ond sylwer bod y flwyddyn yn anghywir yno; HPF ii: 84). Er nad yw’n gwbl eglur beth yn union a nodir yn y ddogfen, ymddengys yr enwir Dafydd Bromffild a Wiliam Rodn (dau o noddwyr Guto), ynghyd â Wiliam Hanmer, Siôn Eutun, Edward ap Madog, Hywel ab Ieuan ap Gruffudd a Morgan ap Dafydd ap Madog, mewn cyswllt â chynnal gwŷr arfog ym Maelor Gymraeg (cf. hefyd Pratt 1988: 48, lle enwir ‘John Eyton’, ‘David Eyton’ a ‘David Bromfield’ fel tystion a ‘William Eyton’ mewn cyswllt â’i was yn natganiadau rheithgor beilïaeth Wrecsam yn 1467). Cyfeirir at gyswllt proffesiynol Siôn â Holt ym marwnad Gutun Owain iddo: Rryol dadl yr Hold ydoedd (GO XLVIII.24). At hynny, ceir y disgrifiad diddorol a ganlyn yn yr un gerdd (ibid. XLVIII.57–8):

Golevo tair rraglawiaeth
Ydd oedd, hyd y dydd ydd aeth

Cyfeirir yn HPF ii: 159, 174–5, at briodas Siôn â Gwenhwyfar ferch Einion (fe’i gelwir yn Wenllïan, ibid. 158): ‘By this lady, John Eyton Hên had issue Elis Eyton of Rhiwabon, and then was divorced from her upon account of near consanguinity, by which means his son Elis was made illegitimate; but afterwards he obtained a dispensation from the Pope to marry her again, and then had issue’. Fodd bynnag, er craffu ar yr achresi, ni ddaethpwyd o hyd i gyswllt teuluol agos iawn rhwng y ddau.

Pan sefydlodd David Holbache ysgol ramadeg yng Nghroesoswallt rhwng 1407 ac 1421, roedd gŵr o’r enw ‘John Eyton’ yn un o’r ‘feofees that were put in trust … for the School Lands’ (Knight 1926: 69 (Appendix II); 102.23n). Nid yw’n amhosibl mai noddwr Guto ydoedd.

Llyfryddiaeth
Dienw (1846), ‘Proceedings’, Arch Camb 2: 147–52, 210–15, 335–8
Evans, H.T. (1995), Wales and the Wars of the Roses (second ed., Stroud)
Jones, G.P. (1969), ‘Astudiaeth Destunol o Ganu William Cynwal yn Llawysgrif (Bangor) Mostyn 4’ (M.A. Cymru)
Knight, L.S. (1926), Welsh Independent Grammar Schools to 1600 (Newtown)
Pratt, D. (1988), ‘Bromfield and Yale: Presentments from the Court Roll of 1467’, TCHSDd 37: 43–53
Stephens, R. (1983), ‘Gwaith William Llŷn’ (Ph.D. Cymru)
Williams, S.Rh. (1965), ‘Testun Beirniadol o Gasgliad Llawysgrif Mostyn 111 ynghyd â Rhagymadrodd, Nodiadau a Geirfa’ (M.A. Cymru)