Chwilio uwch
 

Meibion Llywelyn ap Hwlcyn o Fôn, fl. c.1451–1503/4

Canodd Guto gywydd mawl i bum mab Llywelyn ap Hwlcyn (cerdd 63), sef:

  • Meurig
  • Huw Lewys
  • Gruffudd
  • Dafydd
  • Rhys

Canwyd mawl i’r pum mab ynghyd gan ddau fardd arall hefyd, sef Hywel Cilan (GHC cerdd XIX) a Rhys Goch Glyndyfrdwy (cywydd anolygedig). Ni cheir cerddi unigol i Feurig, Gruffudd na Dafydd, ond canodd Guto a nifer o feirdd eraill gerddi i Huw Lewys. Canodd Tudur Aled a Lewys Môn gywyddau marwnad i Rys, a cheir mwy o ganu iddo gan Lewys a chan Hywel Rheinallt ac Owain ap Siôn (TA cerdd LXXV; GLM cerddi X, XI, XII; Wiliam 1969–70: 73). Ar y canu i’w hynafiaid, gw. isod.

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 47, 50, 51, ‘Hwfa’ 1, 5, 7, 8, ‘Iarddur’ 1, 5; WG2 ‘Carwed’ 2B, ‘Hwfa’ 8C1, 2, 5, 6. Nodir mewn print trwm y rheini a enwir gan Guto yn ei gerdd i’r pum mab, a rhoir mewn print italig bobl y mae’n bosibl y cyfeirir atynt yn y gerdd. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.

stema
Achres Meibion Llywelyn ap Hwlcyn o Fôn

Gwelir bod meibion Llywelyn yn gyfyrdryd i Ddafydd ap Meurig Fychan o Nannau. Roedd ganddynt un chwaer, sef Elen, a thrwyddi hi yr oeddynt yn ewythredd i Ddafydd ap Gwilym o Lwydiarth ym Môn. Enwir hanner chwaer iddynt yn yr achau, sef Mallt, a’i mam hi oedd Angharad ferch Dafydd. Nid enwir Elen na Mallt yng nghywydd Guto.

Eu hynafiaid
Seiliwyd y nodyn hwn bron yn gyfan gwbl ar erthygl Wiliam (1969–70), oni nodir yn wahanol. Roedd meibion Llywelyn ap Hwlcyn yn ddisgynyddion i Hwfa ap Cynddelw, pennaeth un o Bymtheg Llwyth Gwynedd tua diwedd yr unfed ganrif ar ddeg. Er ei bod bron yn sicr fod mwyafrif helaeth y canu i’r teulu wedi ei golli, diogelwyd digon i ddangos bod disgynyddion Hwfa yn noddwyr blaenllaw ym Môn drwy’r Oesoedd Canol. Canodd Bleddyn Fardd farwnad o saith englyn i or-orwyr Hwfa, sef Gruffudd ab Iorwerth, gŵr y ceir ei enw mewn dogfennau rhwng 1277 ac 1284 (GBF cerdd 56). Roedd pedwar o feibion Gruffudd yn fyw rhwng 1284 ac 1294, sef Hywel, Llywelyn, Gruffudd Fychan ac Iorwerth. Enwir Iorwerth mewn dogfen yn 1316 ac fe’i carcharwyd gyda’i frawd, Hywel, yng nghastell Caernarfon yn 1327. I saith mab yr Iorwerth hwnnw y canodd Gruffudd Gryg gywydd cymod oddeutu canol y bedwaredd ganrif ar ddeg, cywydd a ysgogwyd, o bosibl, gan yr ymryson enwog rhyngddo ef a Dafydd ap Gwilym (GGGr cerdd 2).

Mab hynaf Iorwerth ap Gruffudd, a’r mab a enwir gyntaf yng nghywydd Gruffudd Gryg, oedd Iorwerth Ddu, gŵr a chanddo gyswllt ag eglwys Caergybi a enwir mewn dogfen yn Ionawr 1336/7 ac a oedd yn ei fedd erbyn 1391 (Carr 1982: 215). Roedd ei fab yntau, Hywel, yn gysylltiedig ag eglwys Caergybi yn 1371, bu’n rhaglaw cwmwd Llifon rhwng 1372 ac 1375 ac yn ffermio yn nhrefgorddau Cleifiog a Llanbibio yn 1381–2. Diogelwyd canu i fab Hywel, sef Hwlcyn, gŵr a fu’n rhingyll Talybolion rhwng 1392 ac 1395 ac yn 1397–8. Lluniodd Rhisierdyn gywydd mawl iddo ac mae’n bosibl ei fod yntau hefyd wedi ffermio yng Nghleifiog a Llanbibio (GSRh cerdd 8). Mae’n debygol mai yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr y bu farw rywdro wedi 1408, gwrthryfel yr ymladdodd ei fab ynddo o blaid Owain. Roedd Llywelyn ap Hwlcyn yn un o wŷr cwmwd Talybolion a ddirwywyd am eu rhan yn y gwrthryfel yn 1406, ond llwyddodd i adennill ei statws yn fuan iawn wedi’r gwrthryfel. Roedd yn un o noddwyr eglwys Caergybi tua 1408/10, yn rhaglaw cwmwd Llifon yn 1419–20 ac yn rhingyll cwmwd Talybolion yn 1421–2 (pan fu’n ffermio yng Nghleifiog a Llanbibio) a rhwng 1448 ac 1454. Bu’n ffermio maenor yng Nghemais yn 1453–4, a cheir y cyfeiriad olaf ato yn 1460 (Carr 1982: 215). Ei bum mab ef a folwyd gan Guto.

Meurig ap Llywelyn, fl. c.1451–84
Enwir mab hynaf Llywelyn ap Hwlcyn, sef Meurig, fel tyst i weithred yn 1451, a chafodd ffenestr liw drawiadol ei gosod yn eglwys Llangadwaladr yng nghwmwd Malltraeth naill ai ganddo ef neu er cof amdano, lle gwelir ef a’i wraig, Marged, yn penlinio gerbron Mair (Carr 1982: 216; Lord 2003: 224). Roedd Marged yn ferch i Ieuan Fychan ab Ieuan o Bengwern. Cysylltir Meurig â Bodeon yng nghwmwd Malltraeth ac â Bodsilin yn Arfon (63.10n Bodsilin). Roedd yn fyw pan ganodd Guto gywydd mawl i’w frawd, Huw Lewys, yn 1484 (cerdd 64).

Huw Lewys ap Llywelyn, fl. c.1461–85
Ail fab Llywelyn a pherchennog Prysaeddfed. Arno, gw. Huw Lewys.

Dafydd ap Llywelyn, fl. c.1470au
Nid oes dim amdano’n hysbys ac eithrio ei fod wedi marw cyn i Guto ganu cywydd mawl i’w frawd, Huw Lewys, yn 1484 (cerdd 64). Yn sgil yr hyn sy’n hysbys am ddyddiadau ei frodyr, mae’n debygol ei fod yn fyw yn ystod saithdegau’r bymthegfed ganrif.

Gruffudd ap Llywelyn, fl. c.1470au
Nid oes dim amdano’n hysbys ac eithrio ei fod yn byw yn Y Chwaen (63.21n) a’i fod wedi marw cyn i Guto ganu cywydd mawl i’w frawd, Huw Lewys, yn 1484 (cerdd 64). Yn sgil yr hyn sy’n hysbys am ddyddiadau ei frodyr, mae’n debygol ei fod yn fyw yn ystod saithdegau’r bymthegfed ganrif.

Rhys ap Llywelyn, fl. c.1485–1503/4
Yn sgil cefnogaeth Rhys, y pumed mab, i Harri Tudur ym mrwydr Bosworth fe’i penodwyd yn siryf Môn yn 1485 a derbyniodd fraint dinesydd yn 1486 (Carr 1982: 216). Roedd yn byw ym Modychen.

Llyfryddiaeth
Carr, A.D. (1982), Medieval Anglesey (Llangefni)
Lord, P. (2003), Diwylliant Gweledol Cymru: Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd)
Wiliam, D.W. (1969–70), ‘Y Traddodiad Barddol ym Mhlwyf Bodedern, Môn’, AAST: 39–79