Chwilio uwch
 
20a – Ateb Hywel Dafi
Golygwyd gan Barry J. Lewis


1Rhyfedd ydiw arfeddyd
2Rhai da o’r beirdd: rhodio’r byd,
3Hely gŵyl o hael i’i gilydd,
4Helynt iwrch o helynt hydd,
5Newidiaw ôl, un a dau,
6Anwadal yw’r newidiau.
7Treiglaw a fynnant lawer
8Trwy’r byd fal troi ar y bêr.
9Treiglent a rhodient yr haf;
10Tua Rhaglan y treiglaf.
11Ymlyniad – llei moliannwyf –
12Ar ôl mab Syr Wiliam wyf.
13Nid af i newidiaw ôl
14Syr Wiliam dros yr eilol.
15Hyddgi da (hawdd ei gadw ef)
16A ddilid yr un ddolef;
17Ar y gainc ni ŵyr y gog
18Ond un llais, edn lluosog;
19Brenhinedd, ni wedd uddun’,
20Yr India, enw da ond un.

21Ni bwyf fyw, ni bo ei fam,
22Nos ar ôl enw Syr Wiliam.
23Ni phair ym Gymro na Ffranc
24Dewi am Herbard ieuanc.
25Efrydd, er nad ysgarwyf,
26Aur a gwledd un arglwydd wyf.
27Ni chyrchaf ddŵr dros afon
28Er un saig o’r ynys hon.
29Naw seler nis cymerwn
30Islaw’r haul am seler hwn,
31Bwrdiaws Nudd yr Herbardiaid,
32Baiwn chwaer heb win ni chaid,
33Gasgwin, gynefin yfed;
34Glyn Rhin, drwy Raglan y rhed!
35Holl Gymru berchentyaeth
36I’r un tŷ ym mro Went aeth.

37Bryd swrn, o baradwys Went
38’Y nhwyllaw, hyn ni allent.
39Un o feirdd, yno a fu,
40Gwynedd, yn cenfigennu.
41Gweled mewn felfed (mwyn fu)
42A sidan fy nhrwsiadu,
43Gweled fy muddugoliaeth
44Gan un pendefig a wnaeth.
45Medd ef, tu yma i Ddyfi,
46Guto, myn gyty â mi.
47Nid trwy sôn ond trwy synnwyr
48A thrwy deg f’athrod a ŵyr,
49Cynnig aur ym – cawn ei gred –
50Yma i Wynedd er myned
51A cheisiaw rhoi iddaw rhawg
52Fy lle innau fal llwynawg.
53Minnau er da creiriau Cred,
54Ni fynnaf o nef fyned.
55Od oes nef ar ddaearen,
56Mae ’n y graig mewn y gaer wen.
57Aed ef i newidiaw ôl,
58Ni fudaf o nef fydol.
59Fy mryd sy ar gadw fy mro
60Ac atal ffrwyn y Guto.
61Bryd y gŵr, bwriadai gam,
62Sy ar olud Syr Wiliam.
63I Went y dwg yntau daith
64A damwain od â ymaith.
65Nid oes, onid ymgroeswn,
66O daw, rhag hir drigaw hwn.

1Rhyfedd yw bwriad
2rhai da o blith y beirdd: rhodio drwy’r byd,
3hela gŵyl o un bonheddwr i’r llall,
4hela iwrch ar ôl hela hydd,
5newid trywydd, un a dau,
6anwadal yw’r newidiadau.
7Mae llawer yn mynnu teithio
8drwy’r byd fel troi ar fêr.
9Gadewch iddynt deithio a rhodio’r haf;
10i Raglan y teithiaf i.
11Helgi – lle gallaf ganu mawl –
12sy’n ymlid mab Syr Wiliam ydw i.
13Nid af i gyfnewid trywydd
14Syr Wiliam am unrhyw drywydd arall.
15Bydd hyddgi da (hawdd ei gadw ef)
16wastad yn dilyn yr un cri;
17ar y gangen ni fydd y gog yn arfer
18ond un dôn, aderyn toreithiog;
19brenhinoedd India, nid oes unrhyw enw da
20yn gweddu iddynt ond un.

21Na foed i mi fyw, na foed i’w fam,
22gymaint â noson ar ôl i enw Syr Wiliam ballu.
23Ni fydd na Cymro na Ffrancwr
24yn gwneud i mi dewi am Herbert ieuanc.
25Dyn cloff, ar yr amod nad wyf yn ymwahanu,
26yn dibynnu ar aur a gwledd un arglwydd ydw i.
27Ni wnaf gyrchu dŵr dros afon
28er mwyn un saig o’r ynys hon.
29Ni fyddwn yn cymryd unrhyw naw seler
30dan haul yn lle seler y gŵr hwn,
31Bordeaux Nudd yr Herbertiaid,
32chwaer Bayonne na ellid ei dal heb win,
33Gwasgwyn, cartref yfed;
34Dyffryn Rhein, mae’n rhedeg drwy Raglan!
35Mae lletygarwch holl Gymru
36wedi ymgynnull i un tŷ ym mro Gwent.

37Bwriad criw mawr, fy nhwyllo i
38o baradwys Gwent, ni allent gyflawni hyn.
39Bu un o feirdd Gwynedd
40yno yn cenfigennu.
41Gwelodd fi yn cael fy nilladu,
42mewn melfed a sidan (cwrtais oedd),
43gwelodd fy ngoruchafiaeth
44gydag un arglwydd.
45Meddai ef, y tu yma i afon Dyfi,
46Guto, ei fod yn dymuno cyd-fyw â mi.
47Nid drwy siarad yn blaen ond drwy gyfrwystra
48a thrwy edrych yn deg mae’n gwybod sut i beri tramgwydd i mi,
49cynnig aur i mi – cawn ei lw –
50yma er mwyn i mi fynd i Wynedd,
51a cheisio cael yn rhodd fy lle innau
52iddo’i hun o hyn ymlaen, fel llwynog.
53Ni fynnaf innau fynd o’r nef
54er budd holl greiriau byd Cred.
55Os oes nef ar y ddaear,
56mae o fewn y maen y tu mewn i’r gaer ddedwydd.
57Boed iddo ef fynd i newid trywydd,
58ni fyddaf i’n symud o nef y byd hwn.
59Mae fy meddwl ar gadw fy mro
60a dal ffrwyn Guto.
61Mae meddwl y gŵr hwnnw, byddai’n chwenychu drwg,
62ar gyfoeth Syr Wiliam.
63I Went y mae hwn yn dwyn taith
64a go brin yr â i ffwrdd eto.
65Nid oes, os daw ef,
66fodd i atal y gŵr hwn rhag aros yn hir, oni wnawn arwydd y groes.

20a – Hywel Dafi’s reply

1Strange is the intent
2of some good men from among the poets: to roam the world,
3chasing a feast from one gentleman to another,
4chasing a roebuck after chasing a stag,
5changing spoor, one and then another,
6fickle are the changes.
7Many desire to travel
8through the world as if turning on a spit.
9Let them travel and roam in summer;
10it’s Raglan to which I’ll be travelling.
11I’m a hound – where I may get to practise praise –
12on the track of Sir William’s son.
13I’m not going to exchange Sir William’s spoor
14for any other spoor.
15A good stag-hound (it’s easy to keep him)
16always follows the same cry;
17on the branch the cuckoo knows
18only one tune, a prolific bird;
19the kings of India, no good name
20befits them except for one.

21Let me not live, let his mother not live either
22a single night after Sir William’s name perishes.
23Neither Welshman nor Frenchman
24will make me stop talking about the young Herbert.
25I am a cripple, so long as I never part from him,
26maintained by the gold and food of one lord.
27I won’t cross a river to look for water on the other side,
28not for any delicacy of this island.
29I wouldn’t take any nine cellars
30under the sun in exchange for this man’s cellar,
31the Bordeaux of the Nudd of the Herberts,
32the sister of Bayonne which would never be found without wine,
33a Gascony, an abode of drinking;
34the Rhine Valley, it runs through Raglan!
35The hospitality of all Wales
36has assembled at one house in the region of Gwent.

37The intent of many, to lure me
38from the paradise of Gwent, they couldn’t do that.
39One of the poets of Gwynedd
40was there, getting all jealous.
41He saw me being clothed (it was courtly)
42in velvet and silk,
43he saw my triumph
44with one lord.
45He says, on this side of the river Dyfi,
46Guto, that he’d like to share my quarters.
47Not through open words, but through slyness
48and seeming fair, he knows how to do me down,
49offering me gold here – I could have his pledge –
50to get me to go to Gwynedd,
51and trying to get my own place
52given to him from now on, like a fox.
53I for my part do not wish
54to leave heaven, not for the benefit of all the relics in Christendom.
55If there’s a heaven on earth,
56it’s within the stone inside the blessed fortress.
57Let him go to change his spoor,
58I don’t intend to leave heaven on earth.
59My intent is set on keeping my own patch
60and keeping Guto on his bridle.
61That man’s intent, he’d aim for wickedness,
62is set on the wealth of Sir William.
63He makes a journey to Gwent,
64and it’s not likely he’ll ever leave again.
65There’s no way, if he comes,
66to stop this man staying long, unless we sign ourselves with the cross.

Y llawysgrifau
Cadwyd ymryson Guto’r Glyn a Hywel Dafi mewn 49 o lawysgrifau. Mae’r copïau’n amrywio’n sylweddol ac yn aml nid oes arweiniad clir i’w gael yn y llawysgrifau. Defnyddiwyd y copïau a ganlyn wrth lunio testun y cywydd hwn: LlGC 3056D, LlGC 17114B, LlGC 3051D, Pen 103, C 2.114, Ba (M) 5, Pen 63, Pen 83, BL 14882, Brog I.2, CM 5, C 3.37, CM 27, BL 14971, BL 31061, C 2.68, Brog I.1, LlGC 3057D, J 137, Llst 155, Stowe 959, LlGC 16964A, pum copi Llywelyn Siôn (Llst 134, C 2.630, C 5.44, LlGC 6511B, LlGC 970E), Pen 86 a Llst 55. O’r rhain, mae LlGC 17114B, LlGC 3051D, Pen 103, CM 5, BL 14971 a C 2.68 yn ffurfio grŵp; mae Ba (M) 5, J 137, BL 14882 a LlGC 3057D yn ffurfio grŵp arall; copïau o gynsail gyffredin yw C 3.37 a CM 27; ceir perthynas bosibl rhwng Pen 83 a LlGC 16964A; ac mae pum copi Llywelyn Siôn bron yn unffurf â’i gilydd. Mae’r stema a gynigir yn arbennig o betrus ac ansicr gan yr ymddengys fod cryn groesffrwythloni wedi bod ar waith. Mae’r llawysgrifau nas defnyddiwyd wrth lunio’r golygiad yn tarddu o’r llawysgrifau a ddefnyddiwyd.

Fel yn achos cywydd Guto, mae’r dewisiadau a wnaed yn GGl braidd yn anfoddhaol yn achos y gerdd hon, gydag enghreifftiau niferus o ddilyn un llawysgrif yn erbyn tystiolaeth lethol y lleill, a hyd yn oed o gyflwyno darlleniadau nad oes unrhyw sail iddynt yn y llawysgrifau.

Collwyd 1–14 yn Brog I.1. Collwyd popeth ond 1–8 yn Llst 155. Pytiau byrion yn unig a geir yn Llst 55. 55–66 yn unig a geir yn Pen 86. Collwyd y cywydd hwn o LlGC 5282B.

Trawsysgrifiadau: Pen 103, LlGC 3057D, LlGC 17114B, LlGC 3051D, LlGC 3056D, Pen 63.

stema
Stema

1 ydiw arfeddyd  Llwgr iawn yn C 2.114: yw ar Rvw feddfyd.

1 ydiw  CM 5, Pen 103, Ba (M) 5 a J 137 ydiwr, LlGC 17114B ydiw yr, C 2.68 fv draw, Llst 155, LlGC 16964A, Llywelyn Siôn a Pen 83 ydiw /n/.

1 arfeddyd  LlGC 17114B, BL 14882, C 2.68, LlGC 3057D a J 137 arfeddfyd, CM 5 rafeddfyd, C 3.37 a CM 27 orfeddfyd, BL 31061 farfedydddyd, LlGC 16964A, Stowe 959, Llst 155 a Pen 83 ryfeddyd.

2 rhai da o’r beirdd  Pen 103 rroi da ir bardd, BL 14882, Llst 155 a Stowe 959 Rroi da ir beirdd, Pen 83 roi da orbairdd, Ba (M) 5 rhai dai’r beirdd.

2 rhodio’r  LlGC 17114B, LlGC 3051D, C 2.114, C 3.37, CM 27 a J 137 yn rrodior, Ba (M) 5 yr rhodio, Pen 103, Stowe 959 a Llst 155 er rodior, BL 14882 er rodio. Mae’r llinell yn hir o sillaf yn y copïau hyn oni chywesgir da o’r. Yn y pedwar copi olaf mae angen er er mwyn yr ystyr, gan fod hanner cyntaf y llinell yn llwgr. Dichon fod copïydd Pen 83 wedi hepgor er er mwyn hyd y llinell, er bod hynny’n cawlio’r ystyr sydd ganddo. Ond nid oes angen yn yn y lleill, a cheir digon o gopïau heb ddim byd o gwbl yma. Nid yw presenoldeb yn neu’i absenoldeb yn effeithio lawer ar yr ystyr.

3 hely  Felly Pen 63 a Llywelyn Siôn; ceir hel yn LlGC 3051D a hael yn Brog I.2. Mae’r lleill yn cynnwys y ffurf fwy diweddar hela (CM 5 hela/i/). Rhaid derbyn hely (ffurf unsill) er mwyn hyd y llinell.

3 gŵyl  LlGC 3051D gwael.

3 o  Nis ceir yn LlGC 17114B, Brog I.2, CM 5 a C 2.68. Dichon fod yr arddodiad wedi ei hepgor oherwydd y ffurf ddeusill hela yn gynharach yn y llinell (gw. uchod).

3 hael  Pen 103, BL 14971 a Llywelyn Siôn havl (ond nid LlGC 6511B, ac yn Pen 103 a C 2.630 cywirwyd ef yn hael gan y brif law), C 2.68 ol.

3 i’i  LlGC 3056D, C 3.37, CM 27 a BL 14971 yw.

4 helynt  LlGC 3051D, Ba (M) 5 a J 137 heliant, Pen 63 hylynt, C 2.68 helant.

4 iwrch  C 2.68 iwrth, J 137 wrth (cywirwyd yn wrch).

4 o  Darlleniad mwyafrif mawr y llawysgrifau; gthg. LlGC 3056D wrth, LlGC 3051D, BL 14971 a C 2.68 a (felly GGl), Pen 103 mewn, Pen 63, C 3.37 a CM 27 nev. Gan fod o, y lectio difficilior yn ddi-os, yn digwydd mewn cymaint o lawysgrifau, rhaid gwrthod a (darlleniad GGl) a neu, er cystal eu hystyr. Gw. y nodyn esboniadol.

4 helynt  LlGC 3057D heliant (cywirwyd yn helynt, y brif law), Llst 155 hwylynnt (cywirwyd yn helant gan y brif law).

5–6  Nis ceir yn LlGC 3056D na Brog I.2. Yn LlGC 3051D y drefn yw 6, 5.

5 ôl  Pen 103 a BL 31061 yn ol.

6 yw’r  LlGC 17114B yw (darlleniad GGl).

6 newidiau  BL 31061 anwydav.

7–8  Nis ceir yn C 3.37.

7 treiglaw  BL 31061 a LlGC 16964A treilo.

7 a  Nis ceir yn CM 27.

7 fynnant  Pen 103 wnant.

7 lawer  BL 31061 at lawer.

8 trwy’r  C 2.68 trwy.

8 troi ar y  LlGC 3051D troi a y, C 2.114 a BL 31061 troir, Pen 63 a CM 27 tro ar y, Llst 155 troi ar yn.

8 bêr  Pen 63 bêl.

9 treiglent a rhodient  Felly Brog I.2, C 2.68, BL 31061, LlGC 3057D, Ba (M) 5, J 137 a Llst 55; gthg. LlGC 3056D, LlGC 17114B, LlGC 3051D, BL 14882, CM 5, Pen 63, C 3.37 a CM 27 treiglant a rhodiant; Pen 103 a Llywelyn Siôn treiglynt a rodiynt, C 2.114 treiglent a Roddent, BL 14971 Treiglynt a rhodynt, LlGC 16964A treiglent rrodent, Stowe 959 a Pen 83 Traiglynt a rodyent. Rhaid dewis rhwng y presennol -ant a’r gorchmynnol ent yma. Mae digon o dystiolaeth dros y naill neu’r llall yn y llawysgrifau, ond o ran yr ystyr y gorchmynnol sydd drechaf. Gan fod WG 329 yn nodi bod -ant yn digwydd fel terfyniad gorchmynnol yn ogystal â phresennol yn y Beibl Cymraeg, gall mai fel y gorchmynnol y’i deellid yma gan rai o leiaf o’r copïwyr a roddodd -ant. Derbyniwyd -ant yn GGl.

10 tua  Pen 103 tro, Brog I.2 tvw a.

11 ymlyniad  LlGC 17114B ym lynia, LlGC 16964A am lluniad, Llywelyn Siôn ymlynaid (ac eithrio LlGC 6511B), Pen 83 Amliniad.

11 llei  LlGC 17114B, BL 14971, BL 31061, J 137, LlGC 16964A, Stowe 959, Llywelyn Siôn a Pen 83 lle.

12 ar ôl  LlGC 3051D o ol, C 3.37 a BL 31061 yn ol.

12 wyf  LlGC 17114B mwy.

13–14  Nis ceir yn LlGC 3056D, C 2.114, Brog I.2, Pen 63, C 3.37, CM 27, BL 31061, LlGC 16964A, Stowe 959, copïau Llywelyn Siôn na Pen 83. Mae’r cwpled yn sicr yn cryfhau ystyr y rhan hon o’r gerdd, er nad yw’n gwbl angenrheidiol ar gyfer rhediad y synnwyr, ac mae hen ddigon o dystiolaeth dros ei gadw. Dichon mai presenoldeb cwpled tebyg iawn yn nes ymlaen yn y gerdd (57–8) a arweiniodd at golli hwn mewn cymaint o gopïau. Yn LlGC 3051D dryswyd rhwng y cwpled hwn a’r cwpled tebyg 57–8 a rhoddodd y copïydd ni fvdaf o nef vydol (sef llinell 58) yn lle 14; copïodd 58 lle y dylai fod hefyd.

13 nid  Pen 103 ag nid.

13 af  CM 5 a J 137 af fi.

13 i  BL 14882, C 2.68 a LlGC 3057D ni.

13 newidiaw  Pen 103, Ba (M) 5 a J 137 newid, C 2.68 a LlGC 3057D newidiaf.

14 yr eilol  J 137 yrheol, BL 14882 yr eil (cywirwyd yr ail air i eiol, a thebyg mai r(h)eiol a oedd ym meddwl y copïydd).

15–16  Mae’r cwpled hwn rhwng 12 a 13 yn LlGC 3057D.

15 ei  Stowe 959 oy.

16 ddilid  Pen 63, C 3.37, CM 27, LlGC 16964A a Llst 55 ddylyn, Llywelyn Siôn ddilyn, Pen 83 ddilin.

16 un  Nis ceir yn LlGC 16964A.

16 ddolef  Stowe 959 ddoledd.

17 y gainc  Brog I.1 vn gaing, BL 31061 yr vn.

17 y gog  Brog I.2 gog.

18 lluosog  BL 14882 lleissiog.

18  Ar ôl y llinell hon yn C 2.68 ychwanegodd llaw arall y cwpled annilys nid ansod bwyd or vnsaig / nid ymheithvn yr vn wraig a ychwanegwyd at gywydd Guto yn LlGC 3056D a CM 5 (gw. 20.60n).

20 yr India  LlGC 3051D a C 2.68 or yndia, Pen 103 newidav, C 2.114 a Brog I.1 ni da, CM 5 a BL 31061 nid da, Pen 63 hyd rindia, C 3.37 a CM 27 rinda, BL 14971, Ba (M) 5, LlGC 3057D, Stowe 959 a Llywelyn Siôn India, J 137 o India, LlGC 16964A a Pen 83 eindia.

20 enw  Pen 103 henwav.

20 ond  BL 14971, Stowe 959 a Pen 83 onid.

20 un  C 2.114 i vn dyn.

21 ni bwyf  LlGC 3051D, Pen 63, C 3.37, CM 27 a C 2.68 na bwy.

21 ni bo  LlGC 3056D, LlGC 3051D, Brog I.2, Pen 63, C 3.37 a CM 27 na bo, LlGC 17114B a CM 5 ac na bo, BL 14882 ni by.

22 nos  Stowe 959 neb.

22 enw  Llywelyn Siôn marw.

23–6  Mae’r llawysgrifau yn nodedig o ddryslyd yma ac ni ellir bod yn sicr am drefn y cwpledau hyn na’u dilysrwydd. Mewn nifer sylweddol o lawysgrifau ceir naill ai 23–4 neu 25–6, ond nid y ddau. Mae 25 yn eithriadol o amrywiol a llwgr ac mae’r aceniad yn chwithig yn 26 (gw. isod; cf. hefyd y nodyn ar 25). Y llawysgrifau lle ceir y ddau gwpled yn y drefn a dderbyniwyd yma yw BL 14882, LlGC 3057D, Ba (M) 5 a J 137. Yng nghopïau Llywelyn Siôn hefyd fe geir y ddau gwpled, ond mae 23–4 wedi eu lleoli rhwng 20 a 21 (mae yno hefyd yn Stowe 959, nad yw’n cynnwys 25–6). Yn olaf mae 25–6 mewn lle cwbl wahanol yn LlGC 17114B, Pen 103, CM 5, BL 14971 a C 2.68, sef rhwng 58 a 59. O ran y copïau lle na cheir ond un o’r cwpledau hyn: ceir 25–6, ond nid 23–4, yn LlGC 3056D, C 2.114, Pen 63, C 3.37, CM 27 a Brog I.1, a cheir 23–4, ond nid 25–6, yn LlGC 3051D a Stowe 959. Ym mhob un o’r copïau hyn mae’r cwpled, pa un bynnag ohonynt a geir, yn dod ar ôl 22. Ni cheir y naill gwpled na’r llall yn Brog I.2, Pen 83, BL 31061 a LlGC 16964A, ond yn Pen 83 gadawyd lle ar gyfer un cwpled o leiaf. Credaf yn betrus fod yn rhaid, ar sail nifer y copïau sy’n bleidiol i’r naill gwpled neu’r llall, gynnwys y ddau yn y testun. Mae’r dystiolaeth hefyd yn pwyso o blaid rhoi’r ddau gwpled yn y lle hwn, sef ar ôl 22, ac yn erbyn rhoi 25–6 yn rhan olaf y gerdd. Rhaid cyfaddef, fodd bynnag, fod 25–6 yn rhoi synnwyr yn y ddau le.

23 ym Gymro  Pen 103 na chynro, BL 14882, LlGC 3057D, Ba (M) 5 a J 137 na chymro, CM 5 vn kymro.

23 na  Nis ceir yn Llst 134 na C 5.44.

24 dewi  LlGC 3051D a CM 5 tewi, BL 14882, LlGC 3057D, Ba (M) 5 a J 137 ym dewi.

24 Herbard  -t a geir ar ddiwedd yr enw ym mhob copi sy’n cynnwys y llinell hon. Ond dewi yw gair cyntaf y llinell ym mhob copi ond dau, ac mae’r gystrawen hefyd o blaid dewi. Mae’r gynghanedd, felly, o blaid darllen Herbard yma, cf. Herbardiaid yn 31, lle mae’r llawysgrifau a’r gynghanedd yn gytûn ar -d-.

25 Efrydd, er nad ysgarwyf  Hynod lwgr yn y llawysgrifau: LlGC 3056D hyfrvd er nad ysgarwy, LlGC 17114B yn efrydd nad ysgarwy, Pen 103 efrydd er nad ysgorwy, C 2.114 efrydd fab nad ysgarwyf, BL 14882 a J 137 efryd arnad ysgarwyf, CM 5 mae ymryd ar nad ysgarwyf, Pen 63 yn kael erhynny kelwyf, C 3.37 a CM 27 hyfryd er nas dangoswyf, BL 14971 a Ba (M) 5 efrydd ar nad ysgarwyf, C 2.68 efrydd fal nad ysgarwyf (felly GGl), Brog I.1 efrydd ac nid ysgarwyf, LlGC 3057D e rydd er nad ysgarwy, Llywelyn Siôn efrydd ar nad esgarwyf. Mae’r dystiolaeth, felly, yn weddol gryf dros efrydd ac nad ysgarwyf. Erys yr angen am un sillaf rhyngddynt. Gellid derbyn efrydd ar (nad ysgarwyf) / Aur a gwledd un arglwydd wyf. Rhoddai hynny gynghanedd lusg ac ystyr foddhaol (ar yn yr ystyr ‘yn dibynnu ar’), ac mae ar yn CM 5, Ba (M) 5, BL 14971 a Llywelyn Siôn, a cf. BL 14882 a J 137 arnad. Anfanteision hyn yw bod rhaid derbyn bod curiad hanner cyntaf y llinell yn syrthio ar yr arddodiad ar, a hefyd fod nad ysgarwyf yn rhannu’r arddodiad oddi wrth yr enwau sy’n dibynnu arno (aur a gwledd yn y llinell nesaf). Mae’n chwithig, ac efallai mai gwell yw derbyn er. Ystyr arferol er na(d) mewn Cymraeg Canol yw ‘gan na(d), yn sgil y ffaith na(d)’ yn hytrach nag ‘er gwaethaf y ffaith na(d)’, gw. GMW 219–20. Erys y gynghanedd yn broblem. Yn betrus deellir mai cynghanedd draws sydd yma. Anwybyddir f yn efrydd, ac mae’r dwy sillaf -arwyf yn ysgarwyf yn ateb efrydd. Yn CD 153–4 dyfynnir yr enghraifft Eisiau am gymwynaswr, lle mae -aswr yn ateb eisiau, gan esbonio felly: ‘… gall traws gyferbyn ddechrau â llafariad acennog heb gystain o’i blaen (Eisiau …); yma y mae’r dechreuad llafarog yn cyfrif, er y gall llafariad yng nghanol gair ei ateb yn yr ail ran.’ Y mae problem bellach, fodd bynnag, sef y clwstwr sg o flaen yr acen. Gellir cyfrif s i’r sillaf flaenorol, ond disgwylid ateb g gan mai hi yw cytsain gyntaf y sillaf acennog. Yn yr enghraifft a ddyfynnir yn CD, mae gymwynaswr yn ymrannu’n gym-wyn-as-wr, ac mae’r dechreuad llafarog, felly, ar ddechrau’r sillaf berthnasol. Rhaid cyfrif y llinell hon yn un broblemus.

26  Nis ceir yn LlGC 3056D, ond gadawyd bwlch ar ei chyfer.

26 a gwledd  Ba (M) 5 i gledd.

26 un  Llywelyn Siôn i. Rhaid rhoi curiad hanner cyntaf y llinell ar y gair un er mwyn cael cynghanedd groes, er gwaethaf aceniad naturiol y llinell a fyddai’n rhoi un yn ail hanner y llinell. Mae’r ffaith fod aceniad 25 a 26 ill dwy’n chwithig yn peri amheuaeth am ddilysrwydd y cwpled, ond fel y dywedwyd uchod, mae’r cwpled mewn nifer sylweddol o lawysgrifau.

27–8  Yn Pen 103 mae’n digwydd rhwng 54 a 37. Nis ceir yn BL 31061.

27 dros  Pen 103 drwyr, BL 14882 or.

28 er  LlGC 17114B a LlGC 3051D ir, Pen 103 yr.

28 saig  LlGC 17114B, LlGC 3051D, CM 5, BL 14971 a Stowe 959 sais, Pen 103 svtt.

29–32  Unwaith eto mae’r drefn yn ansicr. 29–32 yw’r drefn yn yn LlGC 17114B, LlGC 3051D, Pen 103, CM 5, C 3.37, CM 27, BL 14971 a C 2.68, ond 31–2, 29–30 yn LlGC 3056D, C 2.114, BL 14882, Brog I.2, Pen 63, LlGC 3057D, Ba (M) 5, J 137, LlGC 16964A, Stowe 959, copïau Llywelyn Siôn a Pen 83. Ni cheir 29–30 yn Brog I.1 na BL 31061. Er bod mwyafrif y copïau yn rhoi 31–2 o flaen 29–30, ceir achos da dros drefn y lleiafrif: mae 29–30, sy’n cynnwys y geiryn negyddol a berf yn y person cyntaf unigol, yn cyd-fynd yn dda â 27–8, tra bod 31–2, sy’n crybwyll dau fath o win, yn cyd-fynd yn dda â 33–4 lle sonnir am winoedd eraill. Mae’r drefn ym mwyafrif y llawysgrifau yn tarfu ar rediad y rhestr o winoedd. Fel arall nid oes gwahaniaeth o bwys rhwng y ddwy drefn.

29 naw  LlGC 17114B, LlGC 3051D, CM 5, BL 14971 a C 2.68 wyth, a dderbyniwyd yn GGl.

29 nis cymerwn  LlGC 17114B, LlGC 3051D, C 2.114, Brog I.2, CM 5, Pen 63 a BL 14971 nichymerwn.

30 islaw’r  C 3.37 a CM 27 is yr.

30 haul  LlGC 3051D hawl.

30 am  Brog I.2, Pen 63, LlGC 3057D, Ba (M) 5 a J 137 er (J 137 cywirwyd i am gan y brif law), Llywelyn Siôn am y.

31 Bwrdiaws  Ceir llawer o ffurfiau amrywiol: bwrdiawns (LlGC 3056D, Pen 103, Brog I.2, Brog I.1, BL 31061, LlGC 16964A, Stowe 959, Llywelyn Siôn a Pen 83), bwrdiwns (LlGC 17114B, CM 5, Pen 63, C 3.37 a CM 27), bwrdias (LlGC 3051D, C 2.114 a C 2.68), bwrdais (BL 14882), bwrdiws (BL 14971), bwrdiaws (LlGC 3057D, Ba (M) 5 a J 137). Ar sail y penderfyniad a wnaed yn 20.22 mabwysiedir yr olaf yma, gw. 20.22n. bwrdiais a geir yn GGl, yn groes i’r llawysgrifau.

31 Nudd  Felly LlGC 3051D, Pen 103, BL 14882, Brog I.2, Pen 63, C 3.37, CM 27, BL 14971, LlGC 3057D, J 137, LlGC 16964A, Stowe 959 (nyd), Llywelyn Siôn (y nydd) a Pen 83; gthg. LlGC 3056D, LlGC 17114B, CM 5, Brog I.1, Ba (M) 5 a BL 31061 gwin, C 2.114 a C 2.68 win. Yn anffodus mae’r gynghanedd draws yn gadael y gair hwn yn rhydd i gyfnewid ag unrhyw air unsill arall. Dilynwyd mwyafrif y llawysgrifau, ond o ran yr ystyr byddai gwin lawn cystal.

31 yr  Nis ceir gan Llywelyn Siôn ac eithrio yn LlGC 6511B.

32 Baiwn  Mae’r enw yn amrywio’n fawr yn y llawysgrifau: LlGC 3056D a Brog I.2 ba enw, LlGC 17114B baean, LlGC 3051D baiwn, Pen 103 bavn, C 2.114 bayan, BL 14882 bayvn, CM 5 beian, Pen 63, C 3.37 a CM 27 ba vn, BL 14971, Stowe 959 a Pen 83 bayon, C 2.68 bavon, Brog I.1 a BL 31061 bawn, LlGC 3057D, Ba (M) 5 a J 137 baywn, LlGC 16964A ba von, Llywelyn Siôn banw. Cyfeirir at Bayonne yn Ffrainc. Sonia beirdd eraill am y lle hwn. Yn GHD 2.49 a TA III.15, IV.121, VIII.71 a XXIII.33 mae baiwn yn safle’r odl, gan ategu -wn fel y sillaf olaf. Gan na rydd y llawysgrifau unrhyw arweiniad clir yma, mabwysiedir y ffurf Baiwn y gwyddys bod dau fardd ychydig yn ddiweddarach nag amser Guto’r Glyn wedi ei harfer.

32 chwaer  C 2.68 a Stowe 959 chwyrn, J 137 chayr, LlGC 16964A chware.

32 heb win ni  BL 14882 ba win na, CM 5 ba win ni, C 2.68 heb hwn ni.

33–8  Nis ceir yn C 3.37 na CM 27.

33–4  Nis ceir yn LlGC 3056D, Brog I.2 na Pen 63.

33 Gasgwin  BL 14882 a LlGC 16964A gascgwin, CM 5 gasgen win (nodwyd yr enw lle Gasgwyn wrth yr ymyl gan law arall), J 137 gwasgwyn (cywirwyd yn gasgwin).

33 gynefin  J 137 gemefin.

33 yfed  C 2.114 gwnyfed.

34 Glyn Rhin  LlGC 17114B a CM 5 gwinllan (yn CM 5 ychwanegwyd y darlleniad amrywiol Glynn Rin gan law arall), Pen 103, C 2.68, Brog I.1 a BL 31061 glan rrin, Llywelyn Siôn gwin Rin.

34 y rhed  LlGC 17114B, Pen 103, CM 5, C 2.68, J 137 a Llywelyn Siôn a red, LlGC 16964A cred.

36 i’r  BL 14882 yn.

36 ym mro Went aeth  Pen 103 ofro went aeth, C 2.114 ymron ytraeth, Brog I.1 i fro wen aeth, BL 31061, LlGC 16964A a Pen 83 i fro went aeth, Llywelyn Siôn vro went ir aeth.

37–8  Mae lleoliad a dilysrwydd y cwpled hwn yn ansicr. Nis ceir yn LlGC 3056D, C 2.114, Brog I.2, Pen 63, C 3.37, CM 27, Brog I.1, BL 31061, LlGC 16964A na Pen 83. Yn LlGC 17114B, LlGC 3051D, CM 5, BL 14971 a C 2.68 ceir y drefn a ganlyn: 35–6, 55–6, 53–4, 37–40, fel hefyd Pen 103 (ond daw 27–8 rhwng 54 a 37 yno). Yn BL 14882, LlGC 3057D, Ba (M) 5 a J 137 ceir y drefn fel yn y golygiad. Yn Stowe 959 nid yw 37–8 yn eu lle. Yn hytrach, mae 61–2 yn sefyll rhwng 40 a 41, sef yn agos iawn i’r lle y dylai 37–8 fod. Y rheswm syml am hyn yw bod 37 a 61 yn dechrau â’r gair bryd a bod y copïydd neu gopïydd ei gynsail wedi drysu rhygddynt. Mae 37–8 yn digwydd ar ôl 54. Yna daw 65–6 a 55–8 (gyda llinellau eraill wedi eu hychwanegu eto rhwng 66 a 55). Yng nghopïau Llywelyn Siôn mae’r cwpled yn digwydd ar ôl 60. Os yw 37–8 yn ddilys, yna mae’n ymddangos eu bod yn perthyn rhwng 36 a 39. Maent yn gweddu’n dda yno, er nad ydynt yn anhepgor ar gyfer rhediad yr ystyr. Cefnogir safle 53–6 gan fwyafrif y llawysgrifau, ac felly dylid gwrthod eu lleoliad yn LlGC 17114B a’i grŵp. Rhaid cyfaddef, fodd bynnag, fod y drefn 35–6, 55–6, 53–4, 37–40 yn rhoi synnwyr da hefyd, a bod rhan olaf y gerdd hefyd yn darllen yn iawn heb fod 53–6 rhwng 52 a 57. Mae 53–6 yn ffurfio gyda 57–8 gyfres o dri chwpled yn seiliedig ar y gair nef. Eto fe ellid dadlau mai presenoldeb nef yn 57–8 a dynnodd 53–6 atynt, ac felly gwelir bod y ddadl yn un gylchog. Dylid dilyn mwyafrif y llawysgrifau yn erbyn LlGC 17114B a’i grŵp, sydd yn amlwg yn agos gysylltiedig â’i gilydd. Dylid hefyd dderbyn 37–8 gan eu bod nid yn unig yng ngrŵp LlGC 17114B ond hefyd yng ngrŵp Ba (M) 5, sef pedwar copi nad ydynt wedi symud 53–6 o’u lle. Erys yn bosibilrwydd, fodd bynnag, fod 37–8 wedi eu hychwanegu at gynsail grŵp Ba (M) 5, gan nas ceir yn y llawysgrifau eraill y mae testun y gerdd yn gorffen â 58 ynddynt. Anodd taeru eu bod yng nghynsail yr holl lawysgrifau hynny.

37 bryd  Llywelyn Siôn a bryd.

37 o  LlGC 17114B a LlGC 3057D ar, BL 14882 am, J 137 fv ar, Ba (M) 5 fv o, ac o wedi ei dileu.

38 ’y  LlGC 17114B fv yn, BL 14971 a C 2.68 yw.

38 hyn ni allent  LlGC 17114B fi ni ellent, LlGC 3051D hynn ni ellent, C 2.68 hyn i Allent, LlGC 3057D hyny ni allent, J 137 hwyr ni allent. Ceir i ni allent yn GGl, yn groes i’r llawysgrifau.

39 yno  C 3.37 a Stowe 959 yma, CM 27 yna, C 2.68 gwynedd.

40 yn cenfigennu  Pen 103 sydd im goganv, C 2.114, BL 14971 a Llywelyn Siôn mae n kynfigenv (felly GGl), CM 5 syn kenfigenv, LlGC 16964A a Pen 83 mae ym goganv, Stowe 959 vym gogany.

41–8  Mae’r drefn yn wahanol yn LlGC 17114B, LlGC 3051D, Pen 103, CM 5, BL 14971 a C 2.68, sef 45–8, 43–4, 41–2. Mae’r drefn hon yn creu patrwm o bedwar cwpled sy’n dechrau â berfenw (45 gweled, 41 gweled, 49 cynnig, 53 a cheisiaw). Ffactor arall, efallai, oedd chwithdod cael dau gwpled ar yr un odl yn olynol (39–42). Ar y llaw arall, mae’r drefn yn fwy rhesymegol yn y copïau eraill: yn gyntaf mae Guto yn gweld y driniaeth wych a gaiff Hywel (41–4), yno mae’n ceisio ennill safle Hywel trwy dwyll (45–). Ni cheir 41–2 yn Brog I.1 na BL 31061.

41 mewn felfed   Felly Pen 103, Stowe 959, Llywelyn Siôn a Pen 83; gthg. LlGC 3056D, LlGC 17114B, C 2.114, BL 14882, Brog I.2, CM 5, Pen 63, C 3.37, CM 27, BL 14971, C 2.68, LlGC 3057D, Ba (M) 5, J 137 a LlGC 16964A mewn melved, LlGC 3051D trwy velved. Mae’n rhyfedd fod cymaint o lawysgrifau’n ffafrio melfed, oherwydd o ran y gynghanedd ni ellir ei dderbyn.

41 mwyn fu  Ceir mwyn fu yn Pen 103, BL 14882, BL 14971, LlGC 3057D, Ba (M) 5, J 137, LlGC 16964A, Stowe 959, Llywelyn Siôn a Pen 83; gthg. LlGC 3056D, LlGC 17114B, Brog I.2 a CM 5 man fv, LlGC 3051D draw fv, C 2.114 mwy fv, Pen 65 mân mav, C 3.37 a CM 27 main fv, C 2.68 my fy. Gellid derbyn mwyn neu mân yma, ond mae mwy o dystiolaeth dros mwyn.

42 fy nhrwsiadu  Pen 63 fynrhwsiadav.

43 gweled  BL 31061 gwel.

43 fy muddugoliaeth  Brog I.1 vymygoliaeth.

45 medd ef  LlGC 17114B medde.

45 tu  Pen 103 a BL 31061 ar tv, C 2.114, BL 14882 a Brog I.1 or tv, C 3.37 a CM 27 y tv.

46 Guto  Pen 103, C 3.37, CM 27, C 2.68 a Brog I.1 y gvtto.

46 myn  C 2.114, BL 14882 a LlGC 3057D i myn.

46 gyty  BL 31061 gvtt.

46 â  BL 14882 a BL 31061 i.

47 nid trwy … ond  C 2.114 ond troi … nid.

47 sôn  LlGC 3051D senn.

48 deg  Felly LlGC 17114B, LlGC 3051D, Pen 103, C 2.114, BL 14882, Brog I.2, CM 5, C 2.68, Brog I.1, BL 31061, LlGC 3057D, LlGC 16964A, Stowe 959, Llywelyn Siôn a Pen 83; gthg. LlGC 3056D, Pen 63, C 3.37, CM 27, BL 14971, Ba (M) 5 a J 137 dwyll.

48 f’athrod  LlGC 17114B athrod.

48 a  Nis ceir yn LlGC 16964A.

49 ei  Nis ceir yn Brog I.2.

49 gred  Felly LlGC 17114B, LlGC 3051D, Pen 103, CM 5, Pen 63, LlGC 16964A, Stowe 959 a Pen 83; gthg. LlGC 3056D, C 2.114, BL 14882, Brog I.2, C 3.37, CM 27, BL 14971, C 2.68, Brog I.1, BL 31061, LlGC 3057D, Ba (M) 5, J 137 a Llywelyn Siôn ged. O ran ystyr byddai’r naill neu’r llall yn tycio. O ran y gynghanedd gred sydd ei angen os yw curiad hanner cyntaf y llinell ar ym, ond gellid derbyn ged o roi’r curiad ar aur a chyfrif ym yn ail hanner y llinell. Y cyntaf sydd orau o ran cystrawen naturiol y frawddeg. ged a dderbyniwyd yn GGl.

50 yma  LlGC 3056D, Brog I.2, Pen 63, CM 3.37 a CM 27 i mi, BL 14882 a Stowe 959 ym, CM 5, BL 14971, Ba (M) 5 a J 137 i mae.

50 i  Nis ceir yn Brog I.2.

51 iddaw  BL 31061 addo.

52 innau  J 137 ime.

53–6  Am leoliad y llinellau hyn gw. 37–8n. Saif 59–62 rhwng 52 a 53 yn BL 14882, gw. 59–66n isod.

53 da  Nis ceir yn C 2.114.

54 fynnaf  LlGC 17114B, LlGC 3051D, CM 5 a C 2.68 fynwn, C 3.37 a CM 27 fynai, Brog I.1, BL 31061 a Stowe 959 mynaf.

54 o  Brog I.1 or.

54 fyned  Brog I.1 a BL 31061 ymyned, Stowe 959 myned.

55 ar  LlGC 17114B, Pen 103, C 2.114, BL 14882, CM 5, Brog I.1 a Pen 83 ar y. Mae’r fannod y gwneud y llinell yn rhy hir.

55 ddaearen  BL 31061 ddaiar aren.

56 mae ’n  BL 31061 men.

56 y graig  Brog I.1 a LlGC 3057D graig.

56 mewn y  LlGC 17114B a Pen 83 yn y, Pen 103, C 3.37, CM 27 a LlGC 16964A ar, C 2.114 y, Stowe 959 myn y.

57–8  Nis ceir yn C 3.37 na CM 27.

57 i  Brog I.1 a BL 31061 ni.

57 newidiaw  C 2.114 newid, BL 14882 a LlGC 16964A newidiol, Brog I.1 a BL 31061 n(e)widiaf, LlGC 3057D nywidiof, Llywelyn Siôn newid i.

58 fudaf  J 137 newidia (cywiriad fvda, llaw arall).

58 o  C 2.68 i; nis ceir yn J 137 na LlGC 16964A.

59–66  Nis ceir yn Ba (M) 5, Brog I.1, BL 31061, LlGC 3057D, LlGC 16964A a Pen 83; ychwanegwyd hwy gan law arall yn J 137. Gellir amau bod y llinellau hyn wedi eu hychwanegu at gynseiliau rhai llawysgrifau eraill. Yn BL 14882 mae 59–62 yn sefyll rhwng 52 a 53, tra mae 63–6 yn sefyll ar y diwedd. Gall fod y llinellau hyn wedi eu hychwanegu at gynsail a ddaeth i ben â 58, er nad yw hyn yn sicr: gall fod 59–62 wedi eu camleoli, dyna i gyd. Ond gan Llywelyn Siôn fe geir yr 8 llinell hyn i gyd rhwng 54 a 55. Mae hynny’n edrych fel mewnosodiad bwriadol. Yn Stowe 959 ceir anhrefn pur yma. Unwaith eto saif llinellau rhwng 54 a 55, ond y tro hwn cwpled gwahanol (37–8) a geir (dryswyd rhyngddo a 61–2, bid sicr), ac yna daw 65–6. Wedyn mae 65–6 wedi eu hychwanegu gan y brif law eto (pam?) gyda 59–60. Yn olaf daw 55–8. Ai testun cyfansawdd yw Stowe 959, sef un a seiliwyd ar fwy nag un gynsail? Bid a fo, nid yw dilysrwydd y llinellau yn y fantol, nac ychwaith eu lleoliad. Rhydd mwyafrif mawr y llawysgrifau 59–66 ar ôl 58.

59 Fy mryd sy ar gadw fy mro  Llwgr iawn yn Pen 103 mawr yw fym ryd ar fy mro, C 2.114 am bryd i drigo im bro, J 137 (ychwanegiad) am brvd ar drigaw ym bro, Stowe 959 (ychwanegiad gan y brif law) ymryd yw drigio nym ro, Llywelyn Siôn y mryd yw trigo ny mro, Pen 86 mae mryd ar drigaw/n/ ymro. Yn GGl ceir A’m bryd sy i drigaw i’m bro, yn groes i’r llawysgrifau.

59 sy  BL 14882 fy, C 2.68 iw; nis ceir yn Brog I.2.

59 ar  Nis ceir yn LlGC 17114B, LlGC 3051D na C 2.68.

59 gadw  LlGC 3056D a BL 14882 gynnal, LlGC 3051D drigaw a, C 2.68 kadw.

61–2  Nis ceir yn Pen 103. Yn Stowe 959 a chopïau Llywelyn Siôn mae’n sefyll rhwng 40 a 41. Gan fod 37–8 yn sefyll lle dylai 61–2 fod yng nghopïau Llywelyn Siôn, ac yn agos i’r lle hwnnw yn Stowe 959 (gw. uchod), dichon fod rhyw ddryswch rhwng 61–2 a 37–8 ynddynt: mae’r ddau gwpled yn dechrau â bryd/fy mryd. Os felly, gwthiwyd 61–2 i mewn yn agos i’r lle y dylai 37–8 fod.

61 bwriadai  LlGC 3056D, BL 14882, Brog I.2, C 3.37, C 2.68, J 137 (ychwanegiad), Stowe 959 a Llywelyn Siôn bwriadav (ac eithrio C 2.630), LlGC 17114B bwriadv ar, CM 5 bwriadav ar. Er gwaethaf y sillafiad bwriadav mewn nifer sylweddol o gopïau rhaid mai’r ferf bwriadai sydd yma oherwydd y treiglad i gam.

61 gam  C 2.68 gân (cywiriad gan law arall gam).

62 sy  Stowe 959 ssydd.

62  Ar ôl y llinell hon yn C 2.68 ceir cwpled ychwanegol i went ennyd i tynnaf / ynte dynn i went o daf.

63–4  Nis ceir yn Stowe 959.

63 y  BL 14882 a C 2.68 o.

63 dwg  Felly LlGC 3051D, Pen 103, C 2.114, BL 14882, Brog I.2, CM 5, BL 14971, C 2.68, J 137 (ychwanegiad), Pen 86 a Llywelyn Siôn; gthg. LlGC 3056D, LlGC 17114B, Pen 63, C 3.37 a CM 27 dug. Mae’r dystiolaeth lawysgrifol yn ffafrio dwg. Cf. daw yn 66.

63 yntau  Llywelyn Siôn hynt o.

64 a … od  BL 14882 o … nid.

64 a  Nis ceir yn C 2.68, ond ceir yw ar ôl damwain yno.

64 od â  LlGC 6511B a Llst 134 o dae.

65 onid  Felly’r llawysgrifau, ond odid a geir yn GGl, enghraifft o newid y testun yn ddiangen.

65 ymgroeswn  Llywelyn Siôn a Stowe 959 ymswynwn (ond yn Stowe 959 ychwanegodd y brif law y cwpled hwn eto ar ôl y fersiwn cyntaf, a’r darlleniad yno yw ym groysswn).

66 O daw, rhag hir drigaw hwn  Llwgr iawn yn C 2.68 o daw/r hynt hir daro a hwn.

66 rhag  BL 14882 ond rag.

Am achlysur a phwnc yr ymryson hwn, gw. y nodyn cefndir (esboniadol) i gywydd Guto’r Glyn (cerdd 20) a’i dechreuodd.

Roedd Guto wedi cyhuddo Hywel Dafi o aros yn ddiantur mewn un llys yn barhaus yn hytrach na chlera’r wlad. Mae Hywel yn talu’r pwyth yn ôl drwy alw Guto yn ei dro yn anwadal. Wrth fynd o lys i lys yn treulio gwyliau yn y naill ohonynt ar ôl y llall, mae Guto fel heliwr sydd, ar ôl dal carw coch (anifail uchel iawn ei statws), yn mynnu mynd ar ôl rhyw iwrch bach distadl (llinellau 1–4). Syr Wiliam Herbert, perchennog y llys, yw’r carw a ddaliwyd gan Hywel, wrth gwrs. Yr awgrym yw bod Guto’n llai dethol o ran ei ddewis o noddwyr. Gad i feirdd o’r math hwn fynd ble bynnag y dymunant, meddai Hywel: mae’n well gennyf innau aros gyda Syr Wiliam (11–12). Mae’r gymhariaeth ddigrif rhwng Hywel a chi hela, a rhwng Syr Wiliam a’i brae, yn parhau drwy 11–16. Mae Hywel hefyd yn debyg i’r gog, nad yw’n newid ei chân, ac i Breutur Siôn, yr enw a ddygid gan frenhinoedd Cristnogol chwedlonol India: dyma ddelweddau cadarnhaol, nid negyddol, o ddyfalbarhad.

Yn nesaf mae Hywel yn troi at ganmol Herbert o ddifrif (21–36). Y rheswm paham y mae’n dewis aros yn Rhaglan yw, wrth gwrs, mai dyna’r lle gorau ym Mhrydain (28). Paham cyrchu dŵr dros afon (27)? O ran ei win, mae Rhaglan cystal â lleoedd canolog y fasnach win: Bayonne, Gwasgwyn, Dyffryn Rhein.

Wedi canmol Syr Wiliam yn y modd hwn, mae Hywel yn dychwelyd i ddwrdio Guto’r Glyn. Twyll a rhagrith sy’n llechu y tu ôl i sylwadau Guto amdano. Y gwir yw bod Guto’n genfigennus o’r cyfoeth a gaiff Hywel yn Rhaglan ac yn awyddus i ddwyn safle Hywel yno ar ei gyfer ef ei hun (37–52). Fel y nodwyd yn y nodyn cefndir i gerdd 20, mae diwedd cywydd Guto bron fel petai’n gwahodd y cyhuddiad hwn, ac mae’n bosibl fod Guto’n fwriadol wedi agor y drws i’r bardd arall wneud hwyl am ei ben. Yn sicr nid yw Hywel yn gwrthod y cyfle. Awgryma, yn wir, fod Guto wedi cynnig llwgrwobr iddo am fynd i Wynedd yn ei le (49–50). I gloi, dyma Hywel yn taeru na fydd yn caniatáu i Guto ddwyn ei le yn llys Wiliam Herbert (59–60). Mae’n amau na fydd Guto ychwaith, er gwaethaf ei gwynion am lesgedd Hywel, byth yn gadael Rhaglan (64). Boed i bawb wneud arwydd y groes drostynt eu hunain er mwyn atal y fath drychineb (65–6)!

Am arwyddocâd yr ymryson hwn o ran pennu bro Guto’r Glyn, gw. y nodyn cefndir i gerdd 20.

Dyddiad
Gelwir Wiliam Herbert yn Syr Wiliam yng nghywydd cyntaf yr ymryson (20.13). Urddwyd ef yn farchog adeg y Nadolig 1452, gw. DNB Online. Dengys llinell 21 yn y gerdd hon fod mam Herbert yn fyw o hyd. Yn ôl GLGC 577 a DNB2 26.729 bu farw Gwladus Gam, mam Herbert, yn 1454, ond ni lwyddais i olrhain ffynhonnell yr wybodaeth hon. Os yw’n gywir, fodd bynnag, dyna ddyddio’r ymryson i’r cyfnod 1452x1454, yn weddol gynnar yng ngyrfa Herbert.

Golygiadau blaenorol
GGl cerdd LXI; Rolant 1976: cerdd 12; Lewis 1982: cerdd 10.

Mesur a chynghanedd
Cywydd, 66 llinell.
Cynghanedd: croes 61% (40 llinell), traws 17% (11 llinell), sain 11% (7 llinell), llusg 12% (8 llinell).

4 Helynt iwrch o helynt hydd  Nid ystyrid yr iwrch yn anifail uchel ei statws yn yr Oesoedd Canol (gw. DG.net cerdd 46 (nodiadau)), felly’r ergyd yma yw bod rhai beirdd yn troi oddi wrth noddwr teilwng i fynd ar ôl un israddol. Posibilrwydd arall yw bod yr helynt cyntaf yn golygu ‘helbul, gofal, ffwdan’ (gw. GPC 1847) ac yn cyfeirio at banig iwrch o flaen helwyr sy’n hela (yr ail helynt) hydd. Felly byddai Hywel yn dweud bod Guto’n rhedeg o gwmpas fel anifail ofnus.

5 ôl  Hynny yw, trywydd yr anifail a helir. Dilyn un trywydd a wna Hywel.

10 Rhaglan  Cartref Syr Wiliam Herbert, castell mawreddog yn arglwyddiaeth Brynbuga (bellach yn sir Fynwy).

11 ymlyniad  Gellir ei arfer am gi hela yn ogystal â dilynwr ffyddlon, gw. GPC 3792 d.g. ymlyniad2.

12 mab Syr Wiliam  Syr Wiliam Herbert, mab Syr Wiliam ap Tomas.

19–20 brenhinedd … / Yr India  Cyfeiriad at y Preutur Siôn, yn ôl pob tebyg, gan ei fod wedi ei grybwyll eisoes yng nghywydd Guto. Brenin-offeiriad chwedlonol y credid ei fod yn teyrnasu rywle yn y dwyrain, yn enwedig yn India, oedd y Preutur Siôn. Roedd y chwedl amdano’n cylchredeg am ganrifoedd. Gw. Edwards 1999. Yma fe ymddengys fod Hywel Dafi yn credu bod cyfres o frenhinoedd wedi dwyn yr un enw.

21 ei fam  Awgrym clir fod mam Syr Wiliam, Gwladus ferch Dafydd Gam, yn fyw o hyd. Bu farw yn 1454 yn ôl GLGC 577 a DNB2 26.729. Gw. cerdd 20 (nodyn cefndir).

24 Herbard ieuanc  Awgrymir yn DNB2 26.729 fod Herbert wedi ei eni c.1423. Byddai oddeutu deg ar hugain adeg yr ymryson, a chymryd bod y dyddiad c.1453 yn gywir (gw. cerdd 20 (nodyn cefndir)).

25 efrydd  Mae Hywel yn cydio yng nghyhuddiad Guto ei fod yn grupl sy’n dibynnu ar elusengarwch Herbert (20.63–4).

27 Ni chyrchaf ddŵr dros afon  Ymadrodd diarhebol yw cyrchu dŵr dros afon: yr ystyr yw mynd yn bell i chwilio am rywbeth gwerthfawr er bod cyflenwad ar stepen y drws.

31 Bwrdiaws  Bordeaux yn ne-orllewin Ffrainc. O’r dref honno y deuai llawer o’r gwin a fewnforid i Brydain yn y cyfnod hwn.

31 Nudd  Un o hoff gymeriadau’r beirdd oedd Nudd ap Senyllt, un o’r Tri Hael (gw. TYP3 5–6, 464–6 a WCD 509); y ddau arall oedd Rhydderch Hael a Mordaf Hael. Patrwm o haelioni yw Nudd.

32 Baiwn  Bayonne, ardal yn ne-orllewin Ffrainc a oedd yn bwysig ar gyfer y fasnach win.

33 Gasgwin  Ffurf ar Gwasgwyn, enw Cymraeg Gascogne (Saesneg Gascony), sef rhan dde-orllewinol Ffrainc. Roedd ym meddiant y Saeson tan 1453, ac efallai mai felly yr oedd adeg canu’r ymryson, ond syrthiodd yn derfynol i frenin Ffrainc yn y flwyddyn honno. O Wasgwyn y deuai gwin o Ffrainc i Loegr yn yr Oesoedd Canol. Mae’n debygol fod yma hefyd chwarae ar eiriau (Gasgwin = casgwin, gwin casgen).

34 Glyn Rhin  Dyffryn afon Rhein yn yr Almaen, ardal enwog am gynhyrchu gwin.

45 tu yma i Ddyfi  Mae afon Dyfi yn dynodi’r ffin draddodiadol rhwng gogledd Cymru a’r de. Yr awgrym yw bod Guto’n ymddwyn yn hy y tu allan i’w briod gynefin.

64 damwain  Cf. GPC 886 ‘digwyddiad anfynych, eithriad’.

Llyfryddiaeth
Edwards, G.Ll. (1999) (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Llythyr y Preutur Siôn): Cyfieithiadau Cymraeg Canol o Epistola Presbyteri Iohannis (Caerdydd)
Lewis, W.G. (1982), ‘Astudiaeth o Ganu’r Beirdd i’r Herbertiaid hyd Ddechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Rolant, E. (1976) (ed.), Poems of the Cywyddwyr: A Selection of Cywyddau c. 1375–1525 (Dublin)

For the occasion and subject of this bardic dispute, see the background (explanatory) note to Guto’r Glyn’s original poem (poem 20).

Guto had accused Hywel Dafi of unadventurously remaining in a single household rather than touring the country. Hywel responds by calling Guto fickle. In going from court to court, celebrating festivals in one after another, Guto resembles a huntsman who, having once caught a red-deer stag (an animal of very high status), insists on chasing some little roebuck (lines 1–4). Sir William Herbert, the host of this bardic dispute, is of course the stag which has been caught by Hywel. The implication is that Guto is not so particular regarding his patrons. Let poets of his sort go wherever they want, says Hywel: I prefer to remain with Sir William (11–12). The humorous comparison between Hywel and a hunting dog, and between Sir William and the prey, extends through lines 11–16. Hywel also resembles the cuckoo, which has only one song, and Prester John, the name eternally born by the mythical Christian kings of India: positive, rather than negative, images of constancy.

Next, Hywel turns to some concerted praise for Herbert (21–36). The reason why he chooses to remain at Raglan, naturally, is that it is the best place in Britain (28). Why cross a river to look for water, when the river itself is ample (27n)? As regards wine, Raglan is as good as the very centres of the wine trade: Bayonne, Gascony, the Rhine Valley.

Having praised Sir William in this way, Hywel returns to lambasting Guto’r Glyn. Guto’s comments about him conceal deceit and hypocrisy. The truth is that Guto is envious of all the wealth which Hywel receives at Raglan and wants to appropriate Hywel’s position there for himself (37–52). As observed in the background note to poem 20, the end of Guto’s poem virtually invites this accusation, and it is possible that Guto has deliberately offered a red rag to the bull, as it were, for the sake of the joke. For sure, Hywel is not slow to take advantage. Indeed, he suggests that Guto has even offered him a bribe if he will go to Gwynedd instead of him (49–50). To conclude, Hywel insists that he will not allow Guto’r Glyn to steal his place with William Herbert (59–60). He doubts furthermore whether Guto himself, for all his complaints about Hywel’s lack of enterprise, will ever leave Raglan (64). Let all present cross themselves to avert the horror of a long stay on the part of Guto (65–6)!

On the significance of this bardic dispute for the question of Guto’r Glyn’s native area, see the background note to poem 20.

Date
In the previous poem in the debate Herbert is called Syr William (20.13). Herbert was knighted at Christmas 1452, see DNB Online. Line 21 of the present poem shows that Herbert’s mother must still have been alive. GLGC 577 and DNB2 26.729 say that Gwladus Gam, Herbert’s mother, died in 1454, but I have been unable to trace the source of this information. If it is true, however, it dates the bardic dispute to 1452x1454, fairly early in Herbert’s career.

The manuscripts
This poem occurs in 49 manuscripts. For the details, see the background note to poem 20. As was the case with Guto’s poem, the GGl text is rather unsatisfactory, showing numerous examples of following one copy in the teeth of overwhelming evidence, and even some readings wholly lacking manuscript support.

1–14 are lost in Brog I.1. All but 1–8 is lost in Llst 155. Llst 55 contains only short extracts. Only 55–66 are found in Pen 86. The whole poem has ben lost from LlGC 5282B.

stema
Stemma

Previous editions
GGl poem LXI; Rolant 1976: poem 12; Lewis 1982: poem 10.

Metre and cynghanedd
Cywydd, 66 lines.
Cynghanedd: croes 61% (40 lines), traws 17% (11 lines), sain 11% (7 lines), llusg 12% (8 lines).

4 Helynt iwrch o helynt hydd  The roe deer was not considered a very prestigious animal in the Middle Ages (see DG.net poem 46 (notes)), so the sense here is that some poets indiscriminately pursue unworthy as well as worthy patrons. An alternative possibility is that the first helynt means ‘fuss, bother’ (see GPC 1847) and refers to the panic of a roebuck caught up in a hunt (the second helynt) for a red-deer stag. The image would be that Guto runs around like a frightened animal.

5 ôl  That is, the spoor of the animal being hunted. Hywel follows a single trail.

10 Rhaglan  The home of Sir William Herbert, a splendid castle in the lordship of Usk (now in Monmouthshire).

11 ymlyniad  Literally a ‘follower’ or a ‘pursuer’, this word can be used of a hunting dog as well as a faithful follower, see GPC 3792 s.v. ymlyniad2.

12 mab Syr Wiliam  Sir William Herbert, son of Sir William ap Tomas.

19–20 brenhinedd … / Yr India  A reference to Prester John, in all likelihood, especially given that he has already been mentioned in Guto’s poem. A legendary priest-king who was believed to rule somewhere in the east, particularly in India. Stories about Prester John circulated for centuries. See Edwards 1999. Here, Hywel Dafi seems to think that there must have been a whole series of kings bearing the name.

21 ei fam  A clear implication that Sir William Herbert’s mother, Gwladus ferch Dafydd Gam, is still alive. She died in 1454 according to GLGC 577 and DNB2 26.729. See poem 20 (background note).

24 Herbard ieuanc  DNB2 26.729 suggests that Herbert was born c.1423. He would be about thirty at the time of this bardic dispute, assuming that the date of c.1453 is correct (see poem 20 (background note)).

25 efrydd  Hywel picks up Guto’s accusation that he is a crupl ‘cripple’ who depends on Herbert’s charity (20.63–4).

27 Ni chyrchaf ddŵr dros afon  Cyrchu dŵr dros afon ‘to go to fetch water across a river’ is a proverbial expression in Welsh even today: the point of the image is that one should not go looking for something far off which is readily available on one’s own doorstep. An English equivalent is ‘carrying coals to Newcastle’.

31 Bwrdiaws  Bordeaux in southwest France. Much of the wine imported into Britain in this period came from there.

31 Nudd  Nudd ap Senyllt, one of the Three Generous Men, a favourite character of the poets (see TYP3 5–6, 464–6 and WCD 509); the other two were Rhydderch Hael and Mordaf Hael. Nudd is a paradigm of generosity.

32 Baiwn  Bayonne, an area of southwest France prominent in the wine business.

33 Gasgwin  A variant of Gwasgwyn, the Welsh name for Gascony, i.e. the southwest of France. It was held by the English until 1453, and may still have been at the time this bardic dispute occurred, but in that year it fell definitively to the French. It was from Gascony that wine would come from France to England in the Middle Ages. There is also a probable pun here on gasgwin as a lenited form of casgwin ‘cask wine’.

34 Glyn Rhin  The Rhine Valley in Germany, famous for its wines.

45 tu yma i Ddyfi  The river Dyfi marks the traditional boundary between north and south Wales. The suggestion is that Guto is throwing his weight about outside his own patch.

64 damwain  Cf. GPC 886 ‘rare event, chance, contingency’.

Bibliography
Edwards, G.Ll. (1999) (ed.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Llythyr y Preutur Siôn): Cyfieithiadau Cymraeg Canol o Epistola Presbyteri Iohannis (Caerdydd)
Lewis, W.G. (1982), ‘Astudiaeth o Ganu’r Beirdd i’r Herbertiaid hyd Ddechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Rolant, E. (1976) (ed.), Poems of the Cywyddwyr: A Selection of Cywyddau c. 1375–1525 (Dublin)

Cliciwch ar rif llinell i weld amrywiadau
Image Dialog
Wiliam Herbert o Raglan, iarll cyntaf Penfro, 1423–m. 1469Hywel Dafi, 1450–80

Wiliam Herbert o Raglan, iarll cyntaf Penfro, c.1423–m. 1469

Top

Wiliam Herbert oedd noddwr amlycaf Guto’r Glyn. Rhwng 1445, pan fu farw ei dad, a’i farwolaeth yntau yn 1469, enillodd le digyffelyb iddo’i hun yng ngweinyddiaeth de Cymru, ac yn ystod y 1460au ef oedd prif gefnogwr y Brenin Edward IV yng Nghymru gyfan. Roedd ei nawdd i farddoniaeth yn gymesur â’i uchelgais wleidyddol. Ef oedd noddwr yr ymryson rhwng Guto a Hywel Dafi a gynhaliwyd yn Rhaglan (cerddi 20 a 20a) a gwrthrych dau gywydd mawl (cerddi 21 a 23). Mae’r farwnad a ganodd Guto i’w goffáu yn 1469 (cerdd 24) ymhlith cerddi mwyaf teimladwy’r bardd. Canodd llawer o feirdd eraill i Wiliam Herbert: Dafydd Llwyd Mathafarn (GDLl cerddi 28 a 54, efallai 48), Lewys Glyn Cothi (GLGC cerddi 111 a 112), Hywel Swrdwal (GHS cerddi 4, 5 a 7) a Hywel Dafi (Lewis 1982: cerdd 16). Lluniodd Huw Cae Llwyd farwnad i Wiliam a’i frawd Rhisiart ar y cyd (HCLl cerdd 4). Byddai meibion y ddau frawd yn eu tro yn noddwyr blaenllaw i’r beirdd, gan gynnwys Guto’r Glyn. Ar nawdd yr Herbertiaid yn gyffredinol, gw. Lewis 1982.

Rhaid diystyru dwy gerdd y dywedir yn gyfeiliornus eu bod wedi eu canu i Wiliam Herbert. Awdl i’w frawd, Syr Rhisiart Herbert, ac yn bennaf oll i fab hwnnw, Syr Wiliam Herbert o Golbrwg, yw HCLl cerdd 2. Awgrymir mai mab Wiliam Herbert o Raglan yw gwrthrych cerdd a olygwyd gan Lewis (1982: cerdd 17 a gw. Wiliam Herbert o Raglan, ail iarll Penfro), nid Herbert ei hun: mae’r gerdd fel petai’n ymateb i’r tyndra a gododd rhwng yr Herbertiaid a’u perthnasau, y Fychaniaid, yn y 1470au, a cheir cyfeiriad tebygol at farwolaeth Wiliam Herbert yn llinell 46. Ceir ansicrwydd ynghylch un gerdd arall: gallai GDLl cerdd 48 fod yn gywydd i Wiliam neu i’w fab.

Achres
Seiliwyd yr achresi isod ar WG1 ‘Godwin’ 8. Dangosir y rheini a enwir gan Guto yn ei gerddi i Wiliam mewn print trwm, a thanlinellir enwau ei noddwyr.

lineage
Achres Wiliam Herbert o Raglan, iarll cyntaf Penfro

Wiliam Herbert oedd mab hynaf Syr Wiliam ap Tomas o Raglan, yntau’n ŵr a groesawodd Guto’r Glyn i’w gartref. Ei fam oedd Gwladus Gam, merch Syr Dafydd Gam o Aberhonddu. Roedd ganddo nifer o frodyr a chwiorydd, cyfreithlon ac yn anghyfreithlon. Yr amlycaf oedd ei frawd cyfreithlon iau, Rhisiart Herbert. Ail ŵr i Wladus oedd Syr Wiliam ap Tomas, ac roedd ganddi feibion o’i phriodas gyntaf â Syr Rhosier Fychan o Frodorddyn. Y meibion hyn, sef Water (Watgyn), Tomas a Rhosier Fychan, oedd hanner brodyr yr Herbertiaid a chefnogwyr ffyddlon iddynt.

lineage
Teulu Wiliam Herbert o Raglan

Noddwyd Guto gan dri o feibion Wiliam, Wiliam Herbert, ail iarll Penfro, Water Herbert a mab anghyfreithlon, sef Wiliam Herbert o Benfro.

Ei gartrefi
Rhestrir y tai a fuasai ym meddiant Syr Wiliam ap Tomas yn 19.21–6. Aeth Colbrwg, ger y Fenni, i Risiart Herbert, a delid Tro ger Trefynwy gan Domas Herbert, brawd arall, cyn mynd i ddwylo Wiliam Herbert (Bradney 1991–4, 2.2: 162). Rhoddodd Herbert Dretŵr i’w hanner brawd Rhosier Fychan; roedd Rhosier yn byw yno erbyn 1457 (Ralegh-Radford 1960: 16). Ond daliodd Herbert ei afael ar brif gartref ei dad, sef castell Rhaglan, ac yno y trigai hyd ei farwolaeth. Roedd Syr Wiliam ap Tomas wedi dechrau noddi gwaith adeiladu mawr yn Rhaglan, a pharhaodd ei fab i gynnal y gwaith. Ceir ansicrwydd ai Wiliam Herbert ynteu ei dad a gododd y tŵr mawr (Emery 1975: 162–4, 167; Newman 2000: 490; Kenyon 2008: 114n69) ond yn sicr Wiliam Herbert a oedd yn gyfrifol am droi’r castell yn gartref gwirioneddol fawreddog drwy ailadeiladu’r ystafelloedd byw (ibid. 109).

Ei yrfa hyd 1461
Y prif bwyntiau yn unig a gaiff sylw yn y nodyn hwn, oherwydd mae gyrfa Wiliam Herbert yn ddeunydd llyfr sylweddol. Dyma ŵr a gododd o fod yn fonheddwr lleol i fod yn arglwydd a wysid i sesiynau’r Senedd ac a ddyrchafwyd, yn y pen draw, yn iarll, y Cymro cyntaf o waed llawn i dderbyn yr anrhydeddau hyn.

Ganed Wiliam Herbert o ail briodas ei dad, ac felly rhwng 1420 a marwolaeth Wiliam ap Tomas yn 1445. Awgryma R.A. Griffiths y dyddiad c.1423 (DNB Online s.n. Herbert, William). Mae’n bosibl ei fod yn farsiandïwr yn gynnar yn ei yrfa (Thomas 1994: 13 ac ibid. n3 yn enwedig). Yn sicr byddai ganddo yn nes ymlaen ddiddordebau sylweddol yn y fasnach ar hyd afon Hafren (Evans 1915: 75). Aeth i Ffrainc ym mlynyddoedd olaf y Rhyfel Can Mlynedd. Yn hyn o beth roedd yn dilyn ôl traed ei dad, a oedd wedi gwasanaethu Richard, dug Iorc, yn Normandi. Yn 1449 roedd Herbert yn gapten ar dref Carentan, ynghyd â’r milwr enwog o Gymro, Mathau Goch. Bu’n rhaid iddynt ildio’r dref i’r Ffrancwyr, a oedd erbyn hynny ar fin rhoi ergyd farwol i rym y Saeson yn Normandi (ibid. 75–6). Ymladdwyd y frwydr fawr olaf yn Formigny, 15 Ebrill 1450. Er bod Herbert wedi llwyddo i achub bywyd Mathau Goch ar faes y gad (cadarnheir hynny gan Lewys Glyn Cothi, GLGC 111.27–8), eto fe’i daliwyd ef ei hun gan y Ffrancwyr, a bu’n rhaid talu’n ddrud am ei ryddid (DNB Online s.n. Herbert, William).

Yn Awst 1449, yn ôl yng Nghymru, roedd Herbert wedi priodi Ann Devereux (Defras yn Gymraeg), merch i Sir Walter Devereux (Water Defras), tirfeddiannwr sylweddol yn swydd Henffordd (Thomas 1994: 13). Trwy’r briodas hon cryfhawyd dylanwad Herbert yn ardal Henffordd, ac yn ystod y blynyddoedd nesaf gwelir Herbert a Devereux yn gweithredu fel cynghreiriaid agos. Bu farw Walter Devereux yn 1459, ond parhau a wnaeth y berthynas agos rhwng y ddau deulu: gadawodd fab, a elwid hefyd Walter Devereux ac a oedd yr un mor ffyddlon i’w frawd yng nghyfraith ac y buasai’i dad (DNB Online s.n. Devereux, Walter).

Ffurfiodd teuluoedd Herbert, Devereux a Fychan glymblaid gref a dylanwadol a ddaeth i lywodraethu dros arglwyddiaethau de-ddwyrain Cymru a rhannau cyfagos swyddi Henffordd a Chaerloyw. Disgrifir hwy fel ‘the Devereux-Herbert gang’ gan un hanesydd sydd wedi astudio’u gweithgareddau aflywodraethus yn swydd Henffordd yn ystod y 1450au (Herbert 1981: 107). Fel deiliaid a chefnogwyr Richard, dug Iorc, roedd yn anochel y caent eu tynnu i mewn i’r gwrthdaro rhwng y dug a llys y Brenin Harri VI yn y 1450au. Ar 10 Hydref 1452 derbyniodd Herbert bardwn cyffredinol, arwydd ei fod wedi cefnogi’r dug yn erbyn plaid y llys: eisoes yng Ngorffennaf y flwyddyn honno cyhuddwyd Sir Walter Devereux o deyrnfradwriaeth (Thomas 1994: 15; DNB Online s.n. Devereux, Walter). Ymddengys fod plaid y llys wedi ceisio denu Wiliam oddi wrth Richard, dug Iorc. Urddwyd ef yn farchog yn ystod y Nadolig, 1452 (DNB Online s.n. Herbert, William), yn fuan ar ôl i Siasbar Tudur, hanner brawd y brenin, gael ei wneud yn iarll Penfro. I’r cyfnod Tachwedd/Rhagfyr 1452 y perthyn y gerdd gyntaf hysbys i Herbert, sef GLGC cerdd 111, sy’n fawr ei chanmoliaeth i deyrngarwch Herbert tuag at Siasbar a’r Goron.

Ni pharhaodd y teyrngarwch hwn yn hir. Yn fuan ailgyneuwyd y gynnen, a hynny ar stepen drws Wiliam Herbert yn ne Cymru. Richard Neville, iarll Warwick, oedd biau arglwyddiaeth fawr Morgannwg, a gwasanaethai Herbert fel siryf yno drosto. Roedd yr iarll yntau’n gynghreiriad i Richard, dug Iorc. Yn 1453 cyhuddwyd Herbert o amddiffyn yr arglwyddiaeth drwy rym arfau yn erbyn dug Somerset a’i hawliai iddo’i hun gyda chefnogaeth plaid y llys (Pugh 1971: 196). Daeth arwydd arall o benderfynoldeb didrugaredd Wiliam Herbert ym mis Mawrth 1456, pan lofruddiwyd ei hanner brawd, Watgyn Fychan, yn Henffordd. Arweiniodd Herbert a Walter Devereux lu o gefnogwyr i Henffordd, gan feddiannu’r dref drwy rym a gorfodi’r awdurdodau yno i grogi’r dynion euog yn y man a’r lle. Canwyd cywydd gwaedlyd gan Hywel Swrdwal i goffáu’r digwyddiadau hyn ac yn galw am ddial Watgyn (GHS cerdd 23; Evans 2006). Ond chwarae bach oedd hyn o’i gymharu â digwyddiadau Awst 1456. Erbyn hynny roedd yr ymgiprys rhwng dug Iorc a’r llys yn cyrraedd penllanw. Arweiniodd Syr Wiliam Herbert a Sir Walter Devereux lu o wŷr arfog i dde-orllewin Cymru. Bu iddynt feddiannu castell Caerfyrddin yn enw dug Iorc a charcharu Edmwnd Tudur, hanner brawd y brenin, cyn cipio castell Aberystwyth hefyd (Thomas 1994: 15). Erbyn mis Hydref roedd Herbert yn codi llu arall yn arglwyddiaethau’r De-ddwyrain (ibid. 16n2). Er i Herbert gael ei garcharu dros dro yn Nhŵr Llundain, buan y maddeuwyd iddo (Ebrill/Mai 1457, gw. ibid. 16–17). Wedi hynny, ymddengys iddo dynnu’n ôl o’r gwrthdaro rhwng dug Iorc a’r llys brenhinol, ac mae’n debygol mai dyna sut y llwyddodd i gadw ei safle a’i swyddi ar ôl i’r dug ac iarll Warwick gael eu dyfarnu’n deyrnfradwyr ar ddiwedd 1459.

Daeth tro ar fyd, fodd bynnag, ym mis Gorffennaf 1460. Daliwyd Harri VI yn sgil brwydr Northampton a daeth iarll Warwick yn feistr ar y sefyllfa. Comisiynwyd Herbert a Devereux i gynnal achos plaid Iorc yng Nghymru (Thomas 1994: 20). Ym mis Chwefror 1461 ymladdodd Herbert o blaid Edward, mab y dug, ym mrwydr Mortimer’s Cross, lle trechwyd byddin Siasbar Tudur (DNB Online s.n. Herbert, Wiliam). Aeth gydag Edward i Lundain a bu’n bresennol pan ddyrchafwyd ef yn frenin (Thomas 1994: 23; buasai dug Iorc ei hun farw yn Rhagfyr 1460). Wedyn fe’i dilynodd i ogledd Lloegr i wynebu’r Lancastriaid. Ymladdodd ym mrwydr dyngedfennol Towton (29 Mawrth 1461), fel y cadarnheir gan Lewys Glyn Cothi, sy’n sôn amdano’n ymladd yn Efrog (GLGC 112.33; mae safle’r frwydr yn swydd Efrog).

Goruchafiaeth yng Nghymru: 1461–9
I bob pwrpas dyrchafodd y brenin newydd Wiliam Herbert yn brif gynrychiolydd iddo yn ne Cymru. Afraid rhestru’r holl swyddi a roddodd i Herbert: digon yw nodi bod y brenin yn ystod y 1460au wedi rhoi i Herbert bob swydd o bwys a oedd ar gael iddo yn yr ardal hon. Ar 8 Mai 1461 gwnaed Herbert yn ustus, yn siambrlen, yn stiward ac yn brif fforestydd Deheubarth Cymru am oes (Thomas 1994: 24). Dyma roi yn ei feddiant diroedd y Goron yn ne-orllewin Cymru. Tua’r un pryd cafodd gomisiwn i feddiannu tiroedd Siasbar Tudur, sef iarllaeth Penfro, yn y De-orllewin (ibid.). Ym mis Medi cafodd gomisiwn i feddiannu tiroedd dug Buckingham yng Nghymru gan fod etifedd y teitl dan oed. Roedd dwy arglwyddiaeth fawr a chyfoethog yn eu plith, sef Brycheiniog a Gwynllŵg neu Gasnewydd (Thomas 1994: 25). Eisoes ym mis Gorffennaf 1461 fe’i dyrchafwyd yn Arglwydd Herbert. Dyrchafwyd Walter Devereux yn Farwn Ferrers of Chartley ar yr un pryd (Griffiths 2008: 266; DNB Online s.n. Devereux, Walter).

Roedd safle Herbert yn y De-ddwyrain yn gadarn, ond os dymunai wireddu’r pwerau a ddyfarnwyd iddo yn y Gorllewin, lle buasai Edmwnd a Siasbar Tudur yn cynnal achos Harri VI, byddai’n rhaid iddo ymladd drostynt. Ar 30 Medi ildiodd castell Penfro iddo ef a Walter Devereux (cf. 21.19–20). Yno y daeth mab ifanc Edmwnd Tudur, Harri, i ofal Herbert (Thomas 1994: 25–6). Ar 16 Hydref trechasant Siasbar Tudur ym mrwydr Twthill, y tu allan i dref Caernarfon (Ross 1974: 49). Bu ymgyrchu eto yn 1462, y tro hwn yn erbyn Tomas ac Owain, meibion Gruffudd ap Nicolas, a ddaliai gastell Carreg Cennen. Erbyn Mai 1462 ildiodd y castell i Risiart Herbert a Rhosier Fychan a difawyd ei amddiffynfeydd (Griffiths 1993: 28), buddugoliaeth y cyfeiria Guto ati yn 21.21–2.

Yn Chwefror 1462 grantiwyd tiroedd helaeth iawn i Herbert, gan gynnwys popeth a berthynai i iarllaeth Penfro a hefyd i arglwyddiaeth Gŵyr (tra oedd yr etifedd cyfreithiol dan oed). Hefyd grantiwyd Harri Tudur yn ward iddo. Talodd fil o bunnau am y grant olaf hwn, sy’n dangos nid yn unig mor werthfawr oedd Harri, ond hefyd mor fawr oedd adnoddau Herbert erbyn hynny (Thomas 1994: 28). Cyfeiria Dafydd Llwyd o Fathafarn at bresenoldeb Harri Tudur yn y llys yn Rhaglan, ac at fwriad Herbert i drefnu priodas rhyngddo a’i ferch, mewn cywydd a ganwyd rywdro yn y 1460au (GDLlM cerdd 28). Ym mis Mawrth derbyniwyd Herbert yn aelod o Urdd y Gardas (Thomas 1994: 28). Yn yr haf daeth yn arglwydd Crucywel (ibid. 29). Yn ystod gaeaf 1462–3 roedd Herbert a Devereux gyda’r brenin yng ngogledd Lloegr, yn wynebu ymgais gan y Lancastriaid i godi gwrthryfel yno (ibid.). Gwobrwywyd Herbert eto, y tro hwn â thiroedd yng Ngwlad-yr-haf, Dyfnaint a Suffolk (ibid. 30).

Roedd 1463 yn arwyddocaol hefyd am estyn awdurdod Herbert i ogledd Cymru: ym mis Mehefin rhoddwyd sir Feirionnydd yn ei ofal (ibid.). Ond damcaniaethol oedd yr awdurdod hwn, oherwydd arhosodd castell Harlech ym meddiant garsiwn a oedd yn ffyddlon i Harri VI, ac roedd y milwyr hyn yn gweithredu’n rhydd ar draws y sir. Mae’n debygol mai rywdro yn 1463/4 y canwyd GLGC cerdd 112, awdl fawreddog i Wiliam Herbert sy’n canmol ei wasanaeth yng ngogledd Lloegr, ei awdurdod yng Ngwynedd a’i fwriad i ymuno â’r Brenin Edward ar groesgad. Ni wireddwyd yr olaf, ond mae’n adlewyrchu’r sôn mynych a fu yn y blynyddoedd hyn am y posibilrwydd y byddai Edward yn arwain croesgad (Hughes 2002: 182–3).

Yn 1465 dyrchafwyd Rhaglan yn arglwyddiaeth y Mers, yn annibynnol felly ar Frynbuga (Thomas 1994: 32): dyma’r tro diwethaf i frenin Lloegr greu arglwyddiaeth o’r fath (DNB Online s.n. Herbert, William). Yn 1466 cafodd Herbert diroedd helaeth yn swydd Gaerloyw (Thomas 1994: 33–4). Rhwng 1465 a 1467 derbyniodd hefyd y swyddi pwysicaf yn yr arglwyddiaethau a berthynai i Edward IV fel iarll y Mars (Brynbuga, Buellt ac eraill: ibid. 34; Griffiths 2008: 267). Ym mis Medi 1466 priododd mab Wiliam Herbert â Mary Woodville, chwaer y frenhines (Thomas 1994: 45). Dathlwyd y briodas yn Windsor a’r seremoni i urddo’r gŵr ifanc yn farchog gan Hywel Swrdwal (GHS cerdd 6).

Ehangwyd rôl Herbert yn y Gogledd yn 1467. Meddiannodd arglwyddiaeth Powys tra oedd yr etifedd dan oed (Thomas 1994: 34). Apwyntiwyd ef hefyd yn ustus y Gogledd (ibid. 35). Yn olaf, cafodd feddiant o arglwyddiaethau Dinbych, Ceri, Cedewain a Threfaldwyn (ibid.).

Yn 1468 daeth gyrfa Herbert i uchafbwynt. Roedd castell Harlech wedi bod yn ddraenen yn ystlys y brenin byth ers ei ddyfodiad i’r orsedd. Yn 1468, o’r diwedd, awdurdododd Edward ymgyrch a fyddai’n rhoi terfyn ar wrthsafiad ystyfnig y garsiwn. Herbert a apwyntiwyd i arwain yr ymgyrch, a bu’n llwyddiant disglair, oherwydd ildiodd y castell ar 14 Awst 1468. Mae cerdd 21 yn dathlu’r achlysur hwn, fel hefyd cywydd Hywel Dafi (Lewis 1982: cerdd 16). Yn wobr am ei wasanaeth cafodd Herbert fraint nad oedd unrhyw Gymro o waed llawn eto wedi ei derbyn: iarllaeth. Dyrchafwyd ef yn iarll Penfro ar 8 Medi 1468. I flwyddyn olaf bywyd Wiliam Herbert, ar ôl iddo gael ei ddyrchafu, y perthyn cerdd 22 a 23. Tua’r un pryd, yn 1468, y daeth Herbert yn berchennog llawn ar arglwyddiaeth Gŵyr a phrynodd hefyd arglwyddiaeth Cas-gwent (Smith and Pugh 1971: 259).

Y ffrae gyda Richard Neville, iarll Warwick, a marwolaeth Wiliam Herbert
Go brin y gallai neb godi yn y byd i’r graddau y gwnaeth Wiliam Herbert heb ennill gelynion. Ei elyn pennaf oedd Richard Neville, iarll Warwick. Ef oedd prif gefnogwr Edward IV a dibynnai’r brenin newydd yn drwm arno. Rheolai’r iarll ogledd Lloegr dros y brenin mewn modd cyffelyb i Herbert yng Nghymru. Asgwrn y gynnen rhwng y ddau oedd y dylanwad mawr a enillodd Herbert ar y brenin, grym cynyddol Herbert yng Nghymru (lle roedd iarll Warwick yntau’n dirfeddiannwr o bwys) a’r berthynas agos rhwng Herbert a theulu’r frenhines, a ystyrid gan iarll Warwick yn fygythiad i’w ddylanwad ef. Yn 1469 cododd cefnogwyr iarll Warwick wrthryfel yng ngogledd Lloegr. Gwysiwyd Herbert o dde Cymru i wynebu byddin y gwrthryfelwyr, a oedd yn anelu tua’r de. Ar 24 Gorffennaf 1469 cyfarfu’r ddwy fyddin ger pentref Edgecote yn swydd Northampton, nid nepell o dref Banbury (Lewis 2011: 103–6). Ar ôl ymladd yn ddewr, trechwyd llu Herbert. Lladdwyd Tomas ap Rhosier Fychan, hanner brawd yr Herbertiaid, ar faes y gad, a daliwyd Wiliam Herbert a’i frawd Rhisiart. Aethpwyd â hwy i Northampton, ac ar 27 Gorffennaf dienyddiwyd Wiliam Herbert. Erys ar glawr gopi o’r atodiad i’w ewyllys olaf a ysgrifennodd ar fore’r diwrnod hwnnw (Thomas 1994: 109–10). Claddwyd Wiliam Herbert yn abaty Tyndyrn (am lun o’r beddrod cyn ei ddinistrio, gw. Lord 2003: 262). Canwyd marwnadau iddo gan Guto’r Glyn, Hywel Swrdwal, Huw Cae Llwyd a Dafydd Llwyd Mathafarn.

Asesiad
Mae’n anodd pwyso a mesur arwyddocâd Wiliam Herbert ar gyfer y beirdd Cymraeg. Cred ddigon cyffredin ymhlith haneswyr yw eu bod wedi trin Herbert fel arwr i’w genedl (e.e. Ross 1974: 78 ‘in contemporary Welsh literature, where he appears as a national hero’). O ddarllen y cerddi sy’n ei ganmol, hawdd yw cytuno. Mae Hywel Swrdwal, er enghraifft, yn annog ei gynulleidfa i sylweddoli cymaint o fendith yw cael arglwydd o Gymro sy’n siarad Cymraeg yn lle’r Sais arferol (GHS 4.49–56). Ac, ar awr anterth grym Herbert yn 1468, mae Guto’r Glyn yn cyflwyno gweledigaeth y gellir ei galw’n un genedlaethol: dylai Herbert uno Cymru o un pen i’r llall o dan ei arweiniad (21.65–70). Yn sicr, taniwyd dychymyg y beirdd hyn gan rychwant awdurdod Herbert a’i agosrwydd at y brenin. Mae ysbryd Sieffre o Fynwy yn cyniwair drwy awdl Lewys Glyn Cothi (GLGC cerdd 112) lle darlunnir Herbert yn rheoli Cymru yn uniongyrchol o dan awdurdod y Brenin Edward IV, yr olrheinir ei ach yn ôl i frenhinoedd Brythonig Prydain.

Roedd y weledigaeth hon yn realistig, ond dim ond i’r graddau y cydnabyddid bod grym Herbert yn deillio, yn y pen draw, o’i berthynas â’r brenin. Er bod y beirdd yn annog Herbert i wrthsefyll y Saeson (e.e. 21.65–70), ni chlywir gair am herio’r Goron ei hun. Gweledigaeth Sieffre o Fynwy – Lloegr, Cymru a’r Alban, tair gwlad yn ffurfio un deyrnas o dan un goron, ac arglwyddi eilradd ond anrhydeddus yn rheoli Cymru a’r Alban o dan awdurdod y goron honno – yw cyd-destun y breuddwydion hyn. Rhaid cofio hyn wrth ddarllen geiriau Guto’r Glyn, yn annog Herbert i estyn am ‘y dalaith’ (23.58; cf. GDLl 28.4), sef nod tywysog Cymru. Un cymeriad nas enwir byth yn y canu i Herbert yw Owain Glyndŵr, y Cymro olaf i ennill awdurdod yng Nghymru a oedd hyd yn oed yn ymylu ar y grym a gynullodd Herbert. Y rheswm, yn ddiau, oedd bod ei wrthryfel yn erbyn Coron Lloegr yn tynnu’n hollol groes i ddull Wiliam Herbert o ennill grym personol drwy aros yn gyson deyrngar i’w frenin. Wedi’r cwbl, bu taid Wiliam Herbert, Syr Dafydd Gam, yn un o elynion pennaf Owain.

Os ‘arwr cenedlaethol’ oedd Wiliam Herbert yng ngolwg y beirdd, felly, roedd hynny’n wir o fewn cyfyngiadau syniadau gwleidyddol y cyfnod. Ac roedd ochr arall i’r geiniog. Mae taerineb Guto’r Glyn wrth ymbil ar Herbert i arbed Gwynedd rhag ei ddicter (cerdd 21) yn awgrymu pa mor greulon y gallai Herbert fod. Mewn cenedlaethau diweddarach byddai storïau’n cylchredeg am yr anrheithio didrugaredd a ddioddefodd Gwynedd yn ystod ymgyrch 1468 (Evans 1915: 168–9). Mae’n amhosibl, wrth gwrs, i ni dreiddio o dan yr wyneb a gofyn sut yn union y teimlai gwŷr megis Lewys Glyn Cothi a Dafydd Llwyd Mathafarn, a fuasai’n gefnogwyr selog i’r Tuduriaid a theulu Gruffudd ap Nicolas, wrth iddynt ymlwybro draw i Raglan yn ystod y 1460au. Y tebyg yw ei bod yn sylfaenol amhosibl i fardd proffesiynol ennill bywoliaeth yn ne Cymru yn y degawd hwnnw heb gydnabod goruchafiaeth Herbert a’r cwlwm o deuluoedd a’i cefnogai. Ceir awgrym o hyn gan y bardd Llywelyn ap Gutun (GLlGt 15.5–6):Nid rhydd man ym Morgannwg
Os diawl Gwent sy’n dala gwg.Diau mai Herbert yw ‘diawl Gwent’, fel yr awgryma’r golygydd. Cofiwn fod Lewys Glyn Cothi wedi ffoi ar herw i Feirionnydd ar ddechrau’r 1460au. Yn ei awdl fawl i Herbert mae Lewys yn sôn am hawl Herbert i roi pardwn i’r rhai a oedd wedi gwrthwynebu Edward IV (GLGC 112.84). Erbyn 1463/4, ac awdurdod Herbert yn dechrau ymledu dros afon Dyfi, mae’n amlwg y bu’n rhaid i Lewys blygu’r glin i arglwydd Rhaglan. Mae’n dra phosibl fod GLGC cerdd 112 yn rhan o’r pris y bu’n rhaid i Lewys dalu i ennill pardwn.

Mae rhai o’r cerddi a ganwyd i Herbert fel petaent yn rhoi’r argraff fod eu hawduron yn ymdrechu’n lew i argyhoeddi eraill o fanteision ei oruchafiaeth. Mae awdl Hywel Swrdwal (GHS cerdd 4) yn enghraifft wiw o hyn, a GLGC cerdd 112 (e.e., llinellau 13–16). Maent hefyd yn sôn am wrthwynebwyr iddo. Gwir fod yr hen dopos ‘gŵr wrth ŵr, gwâr wrth wâr’ yn gyffredin mewn canu mawl Cymraeg, ond yn y cerddi i Herbert mae’r gwrthwynebwyr yn cael sylw annisgwyl ac mae pwyslais arbennig ar yr ofn y mae Herbert yn ei hennyn yn ei elynion (ibid. 112.29–32). Parhau y mae’r thema yn y marwnadau. Mae Hywel Swrdwal yn cydnabod y gallai Herbert fod yn drwm i rai (GHS 7.67). Sonia Dafydd Llwyd am ei ryfeddod fod Herbert yn ymddwyn mor rhwysgfawr, fel petai’n ymerawdwr (GDLl 54.57–8), ac mae’n ymbil ar ei gynulleidfa i faddau i Herbert am ei falchder a gweddïo dros ei enaid.

Mae’r canu ar gyfer y ‘national hero’ Wiliam Herbert yn ein hatgoffa nad yw gwaith y beirdd canoloesol yn fonolith. Yn hytrach, mae’n amrywio o fardd i fardd ac yn adlewyrchu gwahaniaethau barn. Mae hefyd yn rhan o ddisgwrs gwleidyddol ei ddydd, a’i syniadau am genedligrwydd yw rhai’r bymthegfed ganrif, nid heddiw.

Llyfryddiaeth
Bradney, J.A. (1991–4, cyhoeddwyd yn gyntaf yn 1904–33), A History of Monmouthshire, ail argraffiad (London (1–3.1), Cardiff (3.2–4), Cardiff and Aberystwyth (5))
Emery, A. (1975), ‘Raglan Castle and Keeps in Late Medieval England’, Archaeological Journal, 132: 151–86
Evans, D.F. (2006), ‘Murder in the Marches: Poetry and the Legitimisation of Revenge in Fifteenth-century Wales’, Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium, 18 and 19: 42–72
Evans, H.T. (1915), Wales and the Wars of the Roses (Cambridge)
Griffiths, R.A. (1993), Sir Rhys ap Thomas and his Family: A Study in the Wars of the Roses and Early Tudor Politics (Cardiff)
Griffiths, R. (2008), ‘Lordship and Society in the Fifteenth Century’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords (Cardiff), 241–79
Herbert, A. (1981), ‘Herefordshire, 1413–61: Some Aspects of Society and Public Order’, R.A. Griffiths (ed.), Patronage, the Crown and the Provinces in Later Medieval England (Gloucester), 103–22
Hughes, J. (2002), Arthurian Myths and Alchemy: The Kingship of Edward IV (Stroud)
Kenyon, J.R. (2008), ‘Masonry Castles and Castle Building’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords (Cardiff), 89–114
Lewis, B.J. (2011), ‘The Battle of Edgecote or Banbury (1469) through the Eyes of Contemporary Welsh Poets’, Journal of Medieval Military History, 9: 97–117
Lewis, W.G. (1982), ‘Herbertiaid Rhaglan fel Noddwyr Beirdd yn y Bymthegfed Ganrif a Dechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’, THSC: 33–60
Lord, P. (2003), Diwylliant Gweledol Cymru: Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd)
Newman, J. (2000), The Buildings of Wales: Gwent/Monmouthshire (London)
Pugh, T.B. (1971), ‘The Marcher Lords of Glamorgan, 1317–1485’, T.B. Pugh (ed.), Glamorgan County History, ii: The Middle Ages (Cardiff), 167–204
Ralegh-Radford, C.A. (1960), ‘Tretower: The Castle and the Court’, Brycheiniog, 6: 1–50
Ross, C. (1974), Edward IV (Berkeley)
Smith. J.B. and Pugh, T. (1971), ‘The Lordship of Gower and Kilvey in the Middle Ages’, T.B. Pugh (ed.), Glamorgan County History, ii: The Middle Ages (Cardiff), 205–83
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)

Hywel Dafi, fl. c.1450–80

Top

Hywel Dafi, neu Hywel ap Dafydd ab Ieuan ap Rhys, oedd gwrthwynebydd Guto’r Glyn mewn dau ymryson, sef cerddi 18a ac 18 a cherddi 20 a 20a. Ychydig a wyddys i sicrwydd amdano, oherwydd, yn syml iawn, ni chyhoeddwyd astudiaeth fanwl o’i waith hyd yn hyn. Golygwyd ambell gerdd yma a thraw, ond ni chasglwyd ei waith cyfan at ei gilydd erioed. (Mae Dr A.C. Lake ar hyn o bryd yn paratoi golygiad o waith Hywel Dafi, i’w gyhoeddi yng Nghyfres Beirdd yr Uchelwyr.) Gan hynny ni wyddys na dyddiadau na chylch nawdd Hywel yn fanwl gywir. Ceir y drafodaeth fwyaf diweddar ar Hywel Dafi gan Johnston (2005: 254–5).

Bro
Ceir cerddi gan Hywel o’r Gogledd yn ogystal â’r De, ond yn y De-ddwyrain y gweithiodd fwyaf. Roedd cysylltiad agos rhyngddo a theuluoedd Herbert a Fychan: yn wir, mae Guto’n ei gyhuddo o dreulio’r cyfan o’i amser yn Rhaglan (cerdd 20), ond gorddweud y mae Guto yma. Credir bod Hywel yn frodor o Frycheiniog (Johnston 2005: 254n102).

Dyddiadau
Amhosibl pennu dyddiadau Hywel Dafi nes y cesglir ei holl waith ynghyd. Mae’n debygol fod ei ymrysonau â Guto’r Glyn yn perthyn i’r 1430au neu’r 1440au. Roedd Morgan ap Rhosier, noddwr cerddi 18a ac 18, yn ei flodau 1417–47/8. Gellir dyddio cerddi 20 a 20a i’r cyfnod cyn 1454 os cywir y dyb fod mam Wiliam Herbert wedi marw yn y flwyddyn honno. Yn y ByCy Ar-lein rhoddir Hywel Dafi yn ei flodau c.1450–c.1480.

Ei waith
Mae dybryd angen golygu gwaith Hywel Dafi. Fel y noda Johnston (2005: 254), ef yw’r ‘bardd pwysicaf na chafwyd astudiaeth gyflawn ar ei waith eto’. Un rheswm dros ei ystyried yn fardd o bwys yw swmp mawr y corff o waith a briodolir iddo: rhestrir 157 o gerddi yn MCF (2011). Hyd yn oed os yw hyd at hanner y rhain yn ddyblygion, fel sy’n wir yn gyffredin am gofnodion MCF, gallwn awgrymu bod dros 70 o gerddi Hywel Dafi ar glawr. Mae’r dyrnaid o’i gerddi a olygwyd hyd yn hyn yn awgrymu ei fod yn fardd ffraeth, deallus, deheuig ac amryddawn, un a ganodd rychwant mawr o genres gwahanol. Pwynt arall sydd o bwys yw’r ffaith fod cynifer o’i gerddi ar glawr yn ei law ei hun yn Pen 67 (Huws 2000: 97).

Llyfryddiaeth
Huws, D. (2000), Medieval Welsh Manuscripts (Cardiff)
Johnston, D. (2005), Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300–1525 (Caerdydd)


Top
  • AASTAnglesey Antiquarian Society and Field Club Transactions, 1913- ŷŵ
  • ActauActauyr Apostolion yn y Testament Newydd
  • ActsThe Acts of the Apostles in the New Testament
  • APD.Gwenallt Jones (gol.), Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934)
  • Arch CambArchaeologia Cambrensis, 1846
  • ArchifMRCronfa Ddata Enwau Lleoedd: Archif Melville Richards / Archif Melville Richards Place-name Database
  • <http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr>
  • Arm PIfor Williams (gol.), Armes Prydein o Lyfr Taliesin (Caerdydd, 1955)
  • Arm P2Ifor Williams (ed.), Armes Prydain from the Book of Taliesin, English version by Rachel Bromwich (Dublin, 1972)
  • ASCentM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Apocrya Sin Cent (Aberystwyth, 2004)
  • BBwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 1921-93
  • BaLlawysgrif yng nghasgliad Prifysgol Cymru, Bangor
  • Ba(M)Llawysgrif yng nghasgliad Bangor (Mostyn) ym Mhrifysgol Cymru, Bangor
  • BarnwyrLlyfry Barnwyr yn yr Hen Destament
  • BDHenry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942)
  • BDeD.Simon Evans, Buchedd Dewi (Caerdydd, 1959)
  • BDGOwen Jones a William Owen (goln.), Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (Llundain, 1789)
  • BeirnJ. Morris Jones, Y Beirniad (1911-20)
  • BettisfieldCasgliad Bettisfield yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / The Bettisfield collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BLLlawysgrifau Ychwanegol yngnghasgliad y Llyfrgell Brydeinig, Llundain / The Additional Manuscripts in the British Library, London
  • BlBGCC Marged Haycock (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (Llandybe, 1994)
  • Bl BXIV Dafydd Johnston (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif arDdeg (Llandybe, 1989)
  • BodLlawysgrif yng nghasgliad Bodewryd, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth / A manuscript in the Bodewryd collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BodWLlawysgrif Gymreig yng nghasgliadLlyfrgell Bodley, Rhydychen / A Welsh manuscript in the Bodleian Library, Oxford
  • 1 BrenhinoeddLlyfr Cyntaf y Brenhinoedd yn yr Hen Desatement
  • 2 BrenhinoeddAil Lyfr y Brenhinoedd yn yr Hen Destament
  • BrenSaesThomas Jones (gol.), Brenhinedd y Saesson (Caerdydd, 1971)
  • BritishHOBritish History Online http://www.british-history.ac.uk>
  • BrMIfor Williams (gol.), Breuddwyd Maxen (Bangor,1908)
  • BrM2Brynley F. Roberts (ed.), Breudwyt Maxen Wledic (Dublin, 2005)
  • BrogLlawysgrif yng nghasgliad Brogyntyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Brogyntyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BRhMelville Richards (gol.), Breudwyt Ronabwy (Caerdydd, 1948)
  • BTThomasJones (gol.), Brut y Tywysogyon PeniarthMs. 20 (Caerdydd, 1941)
  • BYThomas Jones (gol.), Y Bibyl Ynghymraec (Caerdydd, 1940)
  • ByCyY Bywgraadur Cymreig hyd 1940(Llundain, 1953)
  • ByCy Ar-leinY Bywgraffiadur Ar-lein
  • <http://yba.llgc.org.uk/cy/index.html>
  • CLlawysgrifyn Llyfrgell Ganolog Caerdydd / A manuscript in Cardiff Central Library
  • CAIfor Williams (gol.), Canu Aneirin, (Caerdydd, 1938)
  • CAMBMCatalogueof Additions to the Manuscripts in the British Museum
  • CCJ. Fisher (ed.), The Cefn Coch MSS (Liverpool, 1889)
  • CCRCalendarof the close rolls preserved in the Public Record Office [12721509] (London,1900-63)
  • CDJohn Morris-Jones, Cerdd Dafod (Rhydychen, 1925)
  • CFGMelville Richards, Cystrawen y Frawddeg Gymraeg (ail arg.,Caerdydd, 1970)
  • CLC2Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (ailarg., Caerdydd, 1997)
  • CLlHIfor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen (Caerdydd, 1935)
  • CLlLlBrynley F. Roberts (ed.), CyfrancLludd a Llefelys (Dublin, 1975)
  • CMLlawysgrif yng nghasgliad Cwrtmawr, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Cwrtmawrcollection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • CMCSCambridge Medieval Celtic Studies,19811993; Cambrian Medieval CelticStudies, 1993
  • CMOC2Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (ailarg., Pen-y-bont ar Ogwr, 1998)
  • CO3 Rachel Bromwich a D. Simon Evans(goln.) gyda chymorth D.H. Evans Culhwchac Olwen (Caerdydd, 1997)
  • CPRCalendar of Patent Rolls preserved in the Record Office (London, 18911986)
  • CSTBP.J.Donovan (gol.), Cywyddau Serch y Tri Bedo(Caerdydd, 1982)
  • CTIfor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)
  • CTCCatrin T. Beynon Davies, `Cerddir TaiCrefydd (M.A. Cymru [Bangor], 1973)
  • CyY Cymmrodor, The Magazine of the HonourableSociety of Cymmrodorion, 18771951
  • CylchgCHSFeirCylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirion (n)ydd, 1949
  • CylchgHCCylchgrawnHanes Cymru, 1960
  • Cylchg LlGC Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru,1939
  • ChOIfor Williams (gol.), Chwedleu Odo (Wrecsam, 1926)
  • 1 Chronicles The First Book of the Chronicles in the Old Testament
  • 2 Chronicles The Second Book of the Chronicles in the Old Testament
  • Datguddiad`Datguddiad Ioan' yn y Testament Newydd
  • DBHenry Lewis a P. Diverres (goln.), Delwy Byd (Caerdydd, 1928)
  • DEThomas Roberts (gol.), Gwaith Dafydd ab Edmwnd (Bangor, 1914)
  • DGAHelenFulton (ed.), Selections from the Dafyddap Gwilym Apocrypha (Llandysul, 1996)
  • DGG Ifor Williams a TRoberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym ai Gyfoeswyr (Bangor, 1914)
  • DGG2Ifor Williams a T. Roberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i Gyfoeswyr(ail arg., Caerdydd, 1935)
  • DG.netDafydd ap Gwilym.net <http://www.dafyddapgwilym.net>
  • DNThomasRoberts and Ifor Williams (eds.), ThePoetical Works of Dafydd Nanmor (Cardi and London, 1923)
  • DNB2H.C.G. Matthew and B. Harrison (eds.), Oxford Dictionary of National Biography (Oxford, 2004)
  • DNBOnlineOxford Dictionary of National Biography <http://www.oxforddnb.com/>
  • DWBWelsh Biography Online
  • <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • DWHMichael Powell Siddons, The Development of Welsh Heraldry (3vols., Aberystwyth, 19913)
  • L.Dwnn: HVS.R. Meyrick (ed.), Heraldic Visitations of Wales (Llandovery,1846)
  • EANCR.J. Thomas, Enwau Afodyn a Nentydd Cymru Caerdydd, 1938)
  • EEWT.H. Parry-Williams, The English Element in Welsh (Londons, 1923)
  • tudesÉtudes celtiques, 1936
  • EVWM.E. Griths, Early Vaticination in Welsh with English Parallels (Cardi, 1937)
  • EWGTP.C. Bartrum (ed.), Early Welsh Genealogical Tracts (Cardiff, 1966)
  • GJ. Lloyd-Jones (gol.), Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg(Caerdydd, 1931-63)
  • GazMFEWGazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516 <http://www.history.ac.uk/cmh/gaz/gazweb2.html>
  • GBDdGwaith Bleddyn Ddu, gol. R. Iestyn Daniel (Aberystwyth, 1994)
  • GBFRhian M. Andrews et al. (goln.), Gwaith Bleddyn Fardd a Beirdd Eraill AilHanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1996)
  • GCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Casnodyn (Aberystwyth, 1999)
  • GCBMiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,i (Caerdydd, 1991)
  • GCBMiiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,ii (Caerdydd, 1995)
  • GDBN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill o FeirddHanner Cyntaf y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1995)
  • GDCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o LyfrCoch Hergest (Aberystwyth, 2002)
  • GDEpOwen Thomas (gol.), Gwaith Dafydd Epynt (Aberystwyth, 2002)
  • GDG Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym(Caerdydd, 1952)
  • GDG3 Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (trydydd arg., Caerdydd, 1979)
  • GDGorErwain H. Rheinallt (gol.), Gwaith Dafydd Gorlech (Aberystwyth,1997)
  • GDIDA.Eleri Davies (gol.), Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992)
  • GDLlW. Leslie Richards (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn(Caerdydd, 1964)
  • Genesis`Llyfr Genesis' yn yr Hen Destament
  • GenesisThe Book of Genesis in the Old Testament
  • GEOR. Geraint Gruydd a Rhiannon Ifans(goln.), Gwaith Einion Oeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug, gol. (Aberystwyth, 1997)
  • GGDTN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Gruudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995)
  • GGHD.J. Bowen (gol.), Gwaith Gruudd Hiraethog (Caerdydd, 1990)
  • GGGrBarry J. Lewis ac Eurig Salisbury (goln.), Gwaith Gruffudd Gryg(Aberystwyth 2010)
  • GGlJ. Llywelyn Williams ac Ifor Williams (goln.), Gwaith Gutor Glyn (Caerdydd, 1939)
  • GGl2 J. Llywelyn Williams ac Ifor Williams(goln.), Gwaith Guto'r Glyn (ail arg., Caerdydd, 1961)
  • GGLlRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruudd Llwyd ar Llygliwiaid Eraill(Aberystwyth, 2000)
  • GGMDiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, i, Canu i deulu Penmynydd (Aberystwyth, 2003)
  • GGMD iiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, ii, Canu Crefyddol (Aberystwyth, 2005)
  • GGMDiiiAnn Parry Owen (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, iii, Canu Amrywiol (Aberystwyth, 2007)
  • GGrGRhiannon Ifans, Ann Parry Owen,W. Dyfed Rowlands ac Erwain H. Rheinallt (goln.), Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog, Mab Clochyddyn, Gruudd ap Tudur Goch ac Ithel Ddu (Aberystwyth, 1997)
  • GHCIslwyn Jones (gol.), Gwaith Hywel Cilan (Caerdydd, 1963)
  • GHCEMHuw Ceiriog Jones (gol.), Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor(Caerdydd, 1990)
  • GHDA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Huw ap Dafyddap Llywelyn ap Madog (Aberystwyth, 1995)
  • GHSDylanFoster Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwala'i deulu (Aberystwyth, 2000)
  • GIBHGwaithIeuan Brydydd Hir (gol.), M. Paul Bryant-Quinn (Aberystwyth, 2000)
  • GIFHowell L. Jones ac E.I. Rowlands(gol.), Gwaith Iorwerth Fynglwyd(Caerdydd, 1975)
  • GIGD.R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988)
  • GILlFM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Ieuan ap Llywelyn Fychan, Ieuan Llwyd Brydydd a Lewys Aled (Aberystwyth, 2003)
  • GIRhR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth,2003)
  • GLDA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Lewys Daron (Caerdydd, 1994)
  • GLGCDafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd,1995)
  • GLMEurys I. Rowlands, Gwaith Lewys Mn (Caerdydd, 1975)
  • GLMorgA. CynfaelLake (gol.), Gwaith Lewys Morgannwg (dwy gyfrol, Aberystwyth, 2004)
  • GLlR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Llawdden (Aberystwyth, 2006)
  • GLlBHAnn Parry Owen a Dylan Foster Evans(gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996)
  • GLlFKathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994)
  • GLlGDafydd Johnston (gol.), Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen(Aberystwyth, 1998)
  • GLlLlElin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn `Prydydd y Moch' (Caerdydd, 1989)
  • GMBJ.E. Caerwyn Williams et al. (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994)
  • GMBrA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Mathau Brwmld (Aberystwyth,2002)
  • GMDHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Madog Dwygraig (Aberystwyth,2006)
  • GMRhEnid Roberts (gol.), Gwaith Mareduddap Rhys ai Gyfoedion (Aberystwyth, 2003)
  • GMWD. Simon Evans, A Grammar of Middle Welsh (Dublin, 1964)
  • GMWLTimothy Lewis, A Glossary of Mediaeval Welsh Law (Manchester,1913)
  • GOE. Bachellery (d.), Loeuvre potique de Gutun Owain(Paris, 19501)
  • GOLlMEurys Rolant (gol.), Gwaith Owain ap Llywelyn ab y Moel(Caerdydd, 1984)
  • GP G.J. Williams ac E.J. Jones (gol.), Gramadegaur Penceirddiaid (Caerdydd,1934)
  • GPBHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan, Rhys ap Dafydd ab Einion, Hywel Ystorm, a cherddi dychan dienw o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth,2000)
  • GPCGeiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950)
  • GPC2Geiriadur Prifysgol Cymru (ail argraad, Caerdydd, 2003)
  • GPhEM.Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Syr Phylib Emlyn, Syr Lewys Meudwy a Mastr Harri ap Hywel (Aberystwyth, 2001)
  • GRhBEurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Rhys Brydydd a Rhisiart ap Rhys (Caerdydd,1976)
  • GRhGEDylan Foster Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007)
  • GSCA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin Ceri (Aberystwyth, 1996)
  • GSCyfR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd 'Sypyn Cyfeiliog a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998)
  • GSDTRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2005)
  • GSHA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin ap Hywel (Aberystwyth, 1999)
  • GSRhNerys Ann Jones ac Erwain Haf Rheinallt(gol.), Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn,Gruudd Fychan ap Gruudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth,1995)
  • GSTEnid Roberts (gol.), Gwaith Sin Tudur (2 gyf., Caerdydd,1980)
  • GTPThomas Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap TudurPenllyn, gol. (Caerdydd, 1958)
  • GwynLlawysgrif yng nghasgliad J. Gwyneddon Davies, yn Llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor
  • GyBDafydd Johnston (gol.), Galar y Beirdd: Marwnadau Plant/Poets'Grief: Medieval Welsh Elegies for Children (Caerdydd, 1993)
  • HCLlLeslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac Eraill(Caerdydd, 1953)
  • HPEHistoriaPeredur vab Efrawc, gol. Glenys Witchard Goetinck (Caerdydd, 1976)
  • HPFJ.Y.W. Lloyd, The History of Powys Fadog, (6 vols., London, 18817)
  • IDIfor Williams (gol.), Casgliad o Waith Ieuan Deulwyn (Bangor,1909)
  • IGEHenry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (Bangor, 1925)
  • IGE2Henry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (ail arg., Caerdydd, 1937)
  • IGPDafydd Johnston (ed.), Iolo Goch: Poems (Llandysul, 1993)
  • Ioan`Yr Efengyl yn l Sant Ioan' yn y Testament Newydd
  • JMHRSJournalof the Merioneth Historical and Record Society, 1949
  • JohnThe Gospel according to John in theNew Testament
  • JudgesThe Book of Judges in the Old Testament
  • KAA 2Patricia Williams (gol.), Kedymdeithyas Amlyn ac Amic (Caerdydd,1982)
  • 1 KingsThe First Book of the Kings in the Old Testament
  • 2 KingsThe Second Book of the Kings in the Old Testament
  • LBSS. Baring-Gould and J. Fisher, The Lives of the British Saints (4vols., London, 190713)
  • Luc`Yr Efengyl yn l Sant Luc' yn yTestament Newydd
  • LukeThe Gospel according to Luke in theNew Testament
  • LlAJ. Morris Jones and John Rhŷs (eds.), The Elucidarium from Llyvyr Agkyr Llandewivrevi (Oxford, 1894)
  • LlBS.J. Williams a J.E. Powell (gol.), Cyfreithiau Hywel Dda yn l Llyfr Blegywryd(Caerdydd, 1942)
  • LlCyLlnCymru, 1950
  • LlGCLlawysgrif yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the collection of theNational Library of Wales, Aberystwyth
  • LlIAled Rhys Wiliam (ed.), Llyfr Iorwerth (Cardi, 1960)
  • LlstLlawysgrif yng nghasgliad Llanstephan, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Llanstephan collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Marc`Yr Efengyl yn l Sant Marc' yn y Testament Newydd
  • MarkThe Gospel according to Mark in the New Testament
  • Mathew`Yr Efengyl yn l Sant Mathew' yn y Testament Newydd
  • MatthewThe Gospel according to Matthew in the New Testament
  • MCFY Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau / The Index to Welsh Poetry inManuscript
  • <http://maldwyn.llgc.org.uk>
  • MEDMiddle English Dictionary (Michigan, 1963)
  • MonWMonastic Wales <http://www.monasticwales.org>
  • MontCollCollections Historical and Archaeological... by the Powysland Club, 1868
  • MosLlawysgrif yng nghasgliad Mostyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Mostyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • MWMDaniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Cardiand Aberystwyth, 2000)
  • NCENewCatholic Encyclopaedia (New York, 1967-79)
  • NCLWMeic Stephens (ed.), The New Companion to the Literature of Wales(Cardiff, 1998)
  • NLWJNational Library of Wales Journal, 1939
  • OBWVThomasParry (ed.), The Oxford Book of Welsh Verse (Oxford, 1976)
  • OCD3Simon Hornblower and Antony Spawforth(eds.), The Oxford Classical Dictionary(third ed., Oxford, 1996)
  • ODCC3F.L. Cross and E.A. Livingstone (eds.), The Oxford Dictionary of the Christian Church (third ed., Oxford, 1967, revised 2005)
  • OED2The Oxford English Dictionary (second ed., Oxford, 1989)
  • OED OnlineThe Oxford English Dictionary
  • <http://www.oed.com>
  • PACFJ.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Bangor, 1914)
  • PenLlawysgrif yng nghasgliad Peniarth, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Peniarth collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Peniarth49E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 49 (Caerdydd, 1929)
  • Peniarth67E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (ed.), Peniarth 67 (Cardiff, 1918)
  • Peniarth76E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 76 (Caerdydd, 1927)
  • PKM Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930)
  • PsalsmThe Psalms in the Old Testament
  • RBJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Bruts from the Red Book of Hergest (Oxford, 1890)
  • RCAHM (Anglesey)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Anglesey (London, 1937)
  • RCAHM (Caernarvonshire) An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Caernarvonshire (3 vols.,London, 1956, 1960, 1964)
  • RCAHM (Flint)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire, Vol II: County of Flint (London, 1912)
  • RCAHM (Merionethshire) An Inventory of Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Merionethshire (London, 1921)
  • RepWMDaniel Huws, Repertory of Welsh Manuscripts (iw gyhoeddi)
  • RevelationThe Revelation to John in the New Testament
  • RMJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Mabinogion from the Red Book of Hergest(Oxford, 1887)
  • RWMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), Report on Manuscripts in the Welsh Language(London, 18981910)
  • SalmauLlyfr y Salmau yn yr Hen Destament
  • SCStudiaCeltica, 1966
  • SoldierLMEThe Soldier in later Medieval England
  • <http://www.medievalsoldier.org>
  • StoweLlawysgrif o gasgliad Stowe yn yLlyfrgell Brydeinig
  • TAT. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926)
  • TCT.J.Morgan, Y Treigladau au Cystrawen (Caerdydd,1952)
  • TCHSTransactionsof the Caernarvonshire Historical Society, 1939
  • TCHSDdTrafodionCymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 1952
  • TCHSGTrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon,1939
  • TDHSTransactionsof the Denbighshire Historical Society, 1952
  • THSCTheTransactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1892/3
  • TLlMG.J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948)
  • TYP3Rachel Bromwich (ed.), Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (third ed., Cardi, 2006)
  • WATU Melville Richards, Welsh Administrative and TerritorialUnits (Cardi, 1969)
  • WBOnlineWelsh Biography Online <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • WCDP.C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 (Aberystwyth, 1993)
  • WGJ. Morris Jones, A Welsh Grammar (Oxford, 1913)
  • WG1P.C.Bartrum, Welsh Genealogies AD 300-1400 (Cardiff, 1974)
  • WG2P.C. Bartrum, Welsh Genealogies AD 1400-1500 (Aberystwyth, 1983)
  • WHRThe Welsh History Review, 1960-
  • WMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), The White Book Mabinogion (Pwllheli,1907; adargraffiad, Caerdydd, 1973)
  • WyLlawysgrif yng nghasgliad Wynnstay, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Wynnstay collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • YBJ.E. Caerwyn Williams (gol.), Ysgrifau Beirniadol, (Dinbych, 1965 )
  • YBHMorgan Watkin (gol.),Ystorya Bown de Hamtwn, (Caerdydd, 1958)
  • YCM2Stephen J. Williams (gol.), Ystorya de Carolo Magno (ail arg.,Caerdydd, 1968)
  • YER. Iestyn Daniel (gol.), Ymborth yr Enaid (Caerdydd, 1995)
  • YEPWCGruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (Caerdydd, 1986)
  • YGIVGwilymLloyd Edwards (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Caerdydd, 1999)
  • YMThA.O.H. Jarman (gol.), Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (Caerdydd, 1951)