Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn 19 o lawysgrifau, yn ddieithriad yn dilyn y cywydd gan Hywel Dafi a’i hysbardunodd. Perthyn C 2.114, Pen 112 a LlGC 5269B yn agos i’w gilydd, ac ymddengys eu bod yn tarddu’n annibynnol o’r un gynsail. Ar y cyfan mae’r tri chopi hyn yn llwgr ac nid ydynt, fel arfer, gystal â’r lleill. Gelwir hwy yn ‘grŵp X1’ isod. Nid yw cydberthynas y llawysgrifau eraill, sef Pen 77, Pen 99, Brog I.6 a chopïau Llywelyn Siôn (LlGC 6511B, Llst 134, LlGC 970E, C 5.44), mor amlwg. Dim ond dyfyniadau cryno iawn o’r ddau gywydd a geir yn Llst 55, rhy gryno i bennu pa gopi a oedd o flaen y copïydd, ond nid un o ddosbarth X1. Seiliwyd y golygiad ar grŵp X1, Pen 77, Pen 99, Brog I.6, Llst 55 a chopïau Llywelyn Siôn, sef cyfanswm o 11 o lawysgrifau, a diystyriwyd y lleill am nad ydynt yn annibynnol ar y rhain.
Trawsysgrifiadau: C 2.114, LlGC 5269B, Pen 77, Llst 134.
2 i Nis nodir yng nghopïau Llywelyn Siôn, diau oherwydd y cywasgiad.
3 yw gweled Brog I.6 gweled i.
5 holi Felly Pen 77, Brog I.6 a Llywelyn Siôn; gthg. grŵp X1 yn hela (LlGC 5269B yn hely) a Pen 99 yn hel. Gwedda holi yn well i’r cyd-destun, sef bod Hywel wedi cyhuddo Guto o ganu anwiredd. Deellir bod y berfenw holi yn cyd-fynd â beio o flaen y bydd (holi … a’m beio y bydd), ac felly nid oes angen yn o’i flaen. Dilynodd GGl grŵp X1.
6 y Rhaid cywasgu’r geiryn, ond fe’i nodir ym mhob copi ac eithrio Pen 77.
7 ddyfod Felly pob copi ac eithrio Llywelyn Siôn dd(y)wod a Brog I.6 ddowod.
8 i’r Dyma a geir ym mhob copi ond Pen 99 lle ceir er. Derbyniwyd er yn GGl ond er cystal yr ystyr, nid yw’r dystiolaeth lawysgrifol o blaid hynny.
11 chanaf Brog I.6 chanaf i.
13 minnau Yn LlGC 5269B ceir a o flaen y gair hwn.
13 ni Brog I.6 na.
17 a’r Gthg. Llywelyn Siôn nyd.
20 yn C 2.114 a Pen 112 mewn, Pen 77 nyd, Brog I.6 yn i.
20 unlle Ceir yn unlle yng nghopïau Llywelyn Siôn.
21 yw a gwanc Brog I.6 ai grafank.
22 Siôn y Cent Ni cheir y yn C 2.114 na Pen 112, ond mae yn y lleill. Mae’n digwydd yn aml yn enw’r bardd hwn yn y llawysgrifau, cf. y priodoliadau i’r cerddi yn ASCent.
23–4 Nis ceir yn Brog I.6.
23 heb Gthg. grŵp X1 ar. Gellid amddiffyn y naill ddarlleniad neu’r llall ar sail yr ystyr. Yn y bôn, mae Guto yn cyhuddo Hywel o ganu celwydd, oherwydd nid yw ei fawl i Morgan yn ddigonol; yn wir, mae’n ymylu ar ddychan (28). Felly gellid derbyn ar gelwydd yma. Ond pwynt cerdd Hywel yw ei fod yn ceisio peidio â chynnwys anwiredd yn ei gân, a chredaf fod Guto yn cydnabod hyn yma, ac wedyn yn mynd ymlaen i ddangos sgil-effeithiau anffodus y penderfyniad hwnnw yn y llinellau nesaf (25–8). Derbyniwyd heb, felly.
24–7 Ni cheir y rhain yng ngrŵp X1 yn sgil llithriad llygad o un cwpled ar yr odl an at gwpled arall ar yr un odl. Nid oes amheuaeth am ddilysrwydd y llinellau.
24 gwnaeth waeth Pen 77 a Pen 99; gthg. Llywelyn Siôn gwaeth waeth. Gellid dadlau dros y naill ddarlleniad neu’r llall yma. Rhydd gwnaeth waeth gynghanedd groes reolaidd, ond ceir cynghanedd lusg wyrdro hyd yn oed os derbynnir gwaeth waeth. Awgryma cywreinrwydd y llinell y bwriadwyd cael cynghanedd groes yn ogystal â llusg ynddi, felly derbyniwyd gwnaeth. I gau pen y mwdwl, ceir hefyd gynghanedd sain, gw(n)aeth waeth … weithian.
26 bwa’r Brog I.6 bai ar.
27 brëyr Pen 77 a Pen 99; gthg. Llywelyn Siôn brauwr, diau oherwydd methu sylweddoli bod brëyr gynt yn ddeusill. Yn Brog I.6 ceir brau a llythyren anodd ei darllen, efallai e.
28 hagr Llywelyn Siôn hag; Pen 99 a Brog I.6 hygar. Wedyn fe ddilewyd y cysylltair a yn Pen 99 i reoleiddio hyd y llinell. Ni cheir a yn Brog I.6.
28 brith ogan C 2.114 brithgan, a’r th wedi ei hychwanegu gan yr un llaw.
30 hyn C 2.114 hyny.
32 eir Pen 99 ai, LlGC 5269B aid.
33 dysg a llywodraeth Gthg. C 2.114 a Pen 112 dysgv a llyfodraethv, LlGC 5269B dysgv llywodraethv. Ceir gormod o sillafau yn y rhain.
33 i’i i ym mhob copi ond Pen 77 lle ceir y. Gellid derbyn ei yma hefyd: nid yw orgraff y llawysgrifau yn gallu gwahaniaethu rhyngddynt.
35 olew Gthg. grŵp X1 a llew, Pen 99 o lew.
36 ei Pen 77 a Pen 99 y, ond i yn y lleill.
37 arglwydd a gâi Gthg. C 2.114 argylwyddi i sai, Pen 112 a LlGC 5269B arglwyddi sai. Mae’n debygol mai camddeall cynghanedd y llinell a roes fod i’r darlleniadau hyn. Ceir cynghanedd sain reolaidd yn y llawysgrifau eraill (Swydd gydag arglwydd a gâi), ac fe’u dilynwyd yma, ond hawdd fyddai methu sylwi arni, ac o’r herwydd troi gai yn sai er mwyn creu cynghanedd draws fantach.
37 arglwydd Llywelyn Siôn arlwydd.
38 pes Grŵp X1 a Brog I.6 pe(i).
38 dewisai Brog I.6 dysyfai.
40 y Nis ceir yng ngrŵp X1.
42 sydd Gthg. Pen 77 a Pen 99 sy.
42 o’r Gthg. grŵp X1 ar, sy’n golygu bod graddau a serch yn cyfeirio at ddau beth gwahanol. Byddai hynny’n llwyr dderbyniol, ond gwell derbyn y darlleniad a rennir gan Llywelyn Siôn yn y de a’r copïau gogleddol Pen 77, Pen 99 a Brog I.6.
44 A phob dilechdyd, Raff ŵyr Diwygiais destun y llawysgrifau, efallai braidd yn fentrus, ond ni welais well ffordd o ddatrys problemau’r llinell hon. Rhydd Pen 77 a Pen 99 a phob dilechdid a wŷr (wyr yn Pen 99), tra ceir a ffob dilechtid hoff wyr gan Llywelyn Siôn ac yn Brog I.6. Nid oes cynghanedd yn y cyntaf, ac mae’r ail yn anodd ei ddeall ac yn edrych fel cywiriad o’r cyntaf a wnaed er mwyn creu cynghanedd. Ychwanegu at y dryswch a wna llawysgrifau grŵp X1. Yn C 2.114 ceir a ffob delechdid i gid ag awyr, yn Pen 112 a phob dilechdid igyd a wyr. Anodd yw darllen pob llythyren yn y cywiriad yn Pen 112, ond mae’n eglur mai rhywbeth tebyg iawn i ddarlleniad C 2.114 a oedd yng nghynsail Pen 112 a bod y copïydd wedi ei ddiwygio am ei fod yn rhy hir. Drwy hepgor i gyd (a chymryd mai dyna a oedd yno) mae’n nesáu at ddarlleniad Pen 77 a Pen 99. Gwahanol iawn yw darlleniad LlGC 5269B dy leghtyd y gyd y gwyr. Dyma o leiaf gynghanedd reolaidd a rhywfaint o synnwyr, ac fe’i derbyniwyd yn GGl. Mae dwy ystyriaeth, fodd bynnag, yn gofyn am wrthod darlleniad LlGC 5269B, sef i. mae’r gystrawen yn chwithig – disgwylid a ŵyr; a ii. mae mor wahanol i’r holl gopïau eraill. Yn wir, os oes unrhyw neges glir i’w chanfod yn nhystiolaeth y llawysgrifau, yna y neges honno yw mai pum sillaf gyntaf y llinell yn y gynsail oedd a phob dilechdyd. Erys i sefydlu dwy sillaf olaf y llinell, felly, gan gofio ei bod yn gorffen â gair unsill yn (-)ŵyr. Yr unig fath o gynghanedd sy’n ymarferol bosibl yma yw traws fantach ar ff (ph). Ond nid yw ffwyr yn air arferol erbyn y bymthegfed ganrif ac nid yw’r ystyr yn tycio (GPC 1331 ‘aruthredd, echrys, dychryn, arswyd, ofn; brwydr … niwed, drwg’). Ni ellir derbyn phwyr (pwyr, amrywiad ar poer) ychwaith. Rhaid, felly, fod y gair o’r blaen yn gorffen ag -ff; ac os felly, mae’n bur debyg mai ŵyr yw’r gair olaf. Wedi derbyn ŵyr mae’r meddwl yn troi’n naturiol at gael enw priod o’i flaen, ac mae Raff yn ymgynnig, felly. Disgynnai Morgan ap Rhosier o Syr Raff Maelog, gw. 18.44n (esboniadol). Mae’n ddigon hawdd gweld sut y gallai hyn gael ei lygru yn ystod trosglwyddiad y gerdd gan bobl na wyddent am y gŵr hwn. Gan mai dysg yw pwnc y cwpled, byddid yn naturiol yn dehongli ŵyr fel trydydd unigol presennol gwybod, a thrwy hynny golli’r enw priod o’i flaen a rhoi’r rhagenw perthynol a yn lle. Dyma’r sefyllfa fel y mae yn Pen 77 a Pen 99. Yna gallwn weld dau ymgais i adfer cynghanedd, sef i. darlleniad Llywelyn Siôn a Brog I.6; a ii. ymgais grŵp X1 i roi i gyd mewn a chreu cynghanedd sain gyda gŵyr. Methu ymsefydlu a wnaeth yr ail ymgais yn benodol am ei fod yn creu llinell ry hir, ac felly ymddengys fod copïwyr Pen 112 a LlGC 5269B wedi ei newid eto. Gellid hefyd ddadlau bod Raff wedi ei gadw yng nghynsail Llywelyn Siôn a/neu Brog I.6 a’i fod wedi ei newid yn uniongyrchol i hoff.
45 a phedeiriaith Gthg. grŵp X1 o bedeiriaith.
46 awgrym Gthg. grŵp X1 awdyr/awdvr, a dderbyniwyd yn GGl; Pen 99 a grym. Mae’r gynghanedd o blaid awgrym, y lectio difficilior yn ddi-os. Ceir yr un llinell yn union yn GO 24.29.
47 cerddor Pen 99 a Brog I.6; gthg. kerddwr gan Llywelyn Siôn, cerdder yn Pen 77, kerdder yn C 2.114 a Pen 112, kordio yn LlGC 5269B. Mae’r olaf yn ddiwygiad bwriadol, yn ôl pob tebyg, a wnaed yn sgil diwygio ail hanner y llinell, gw. isod. Er gwaethaf y tebygrwydd rhwng darlleniadau gweddill grŵp X1 a Pen 77, nid yw cerdder yn air hysbys (ni thycia presennol amhersonol cerdded yma). Rhaid dewis, felly, rhwng cerddor a cerddwr, dau air tebyg iawn eu hystyr, a cheir cerddor mewn dau gopi sy’n debygol o fod yn annibynnol ar ei gilydd.
47 cywirddant C 2.114, Pen 112, Llywelyn Siôn, Pen 99 a Brog I.6; gthg. cyweirddant Pen 77, kyweirdant LlGC 5269B. Ac eithrio’r llawysgrif olaf hon mae’r copïau yn unfryd o blaid ffurfiau yn -dd- yn nau hanner y llinell, ac awgrymaf fod darlleniad LlGC 5269B yn ymgais i gywiro ystyr y llinell. cyweirdant yw ffurf wreiddiol y gair hwn, cyfansoddair o cywair + tant. Hawdd gweld sut y gallai hynny droi’n cywirdant, a cheir digon o enghreifftiau o’r ddwy ffurf mewn testunau. Nid mor hawdd yw deall y ffurfiau cyweirddant a cywirddant, sydd fel petaent yn cynnwys dant, nid tant. Ond sut bynnag y daethant i fodolaeth, y maent yn bodoli, fel y gwelir yn GLMorg 78.47–8 Cyweiriaist, byddinaist, baedd iôn, / Cywirddant, Ffrainc o ’Werddon ac yn GYB 72 (ll. 14) a’m cyweirddant a’m cerddor (Ieuan Gethin). Mae’r gynghanedd yn y ddwy enghraifft hyn yn ddiamwys yn ategu -dd-. Ceisia GLMorg 78.48n esbonio cywirddant fel cyfansoddair o cywir + dant yn yr ystyr ‘moesau, anian’, ond fel y cydnabyddir yno, nid yw’r ystyr honno yn sicr o bell ffordd, ac mewn gwirionedd, dengys y cyd-destun (cyweiriaist yn y llinell flaenorol) mai ffurf ar cyweirdant yw cywirddant yn yr enghraifft gan Lewys Morgannwg fel ydyw cyweirddant yn y llall. Dyma a dderbynnir yma ar gyfer llinell Guto’r Glyn hefyd. Diau fod copïydd LlGC 5269B yn ymwybodol mai tant, nid dant oedd gwreiddyn y gair, a’i fod wedi diwygio yn unol â hynny.
48 yw Nis ceir yn Pen 99 na chan Llywelyn Siôn.
49–50 Nis ceir yn Brog I.6.
49 ystronomïwr Dilynir Pen 77 a LlGC 5269B (ond gellir amau mai diwygio’i gynsail a wnaeth copïydd y llawysgrif honno). Gthg. C 2.114, Pen 112 a Pen 99 ysdromiwr, Llywelyn Siôn ystoriawr. Rhaid cywasgu’r sillaf gyntaf er mwyn hyd y llinell, a dichon fod y darlleniadau byrrach hyn wedi codi er mwyn osgoi’r cywasgiad.
50 Ym mhob rhyw gamp mae praw gŵr Dilynir Pen 77, Llst 55 a Llywelyn Siôn. Mae’r llinell yn llwgr yn y copïau eraill. Ni cheir gamp yn C 2.114 a Pen 112, a cheir yno profir (C 2.114) a profi/r/ (Pen 112) yn lle praw. Heb gamp, fodd bynnag, nid oes cynghanedd. Ymddengys, unwaith yn rhagor, fod copïydd LlGC 5269B wedi diwygio darlleniad ei gynsail wrth roi mhob prif gamp mae profi gwr. Gan y cadarnheir rhyw gan bob copi arall, rhaid gwrthod darlleniad LlGC 5269B. Mae Pen 99 yn wahanol eto: o amryw gamp/y mae /r/ gwr. Gallwn ddyfalu mai colli praw oedd man cychwyn y llygru yma.
51 foli hwn fal Hu C 2.114 moli hwn vn hyy, Pen 112 a LlGC 5269B moli hwnn yn hy. Mae’r gynghanedd yn llawnach yn y copïau eraill a’r ystyr yn gyfoethocach o dipyn.
52 fyn Nis treiglir yng ngrŵp X1.
53 myn fy Llywelyn Siôn a Llst 55 llyma.
54 y’i C 2.114, Llywelyn Siôn, Brog I.6 i; y yn y lleill. Ni allai orgraff y Gymraeg wahaniaethu rhwng y ac y’i yn gyson tan yn ddiweddar. Mae angen y rhagenw ar gyfer yr ystyr, gthg. GGl Y gwnaf beth bynnag a wnêl. Ni ellir derbyn hynny: gwrthod dilyn patrwm Hywel y mae’r bardd.
56 er Brog I.6 ag er, gyda sillaf ychwanegol, ac felly ni cheir ei yn nes ymlaen yn y llinell.
56 y Llywelyn Siôn (ac eithrio LlGC 970E) a Pen 99; i yn y lleill. Annhebygol fyddai cael y rhagenw ei yma, a diau fod ail hanner y llinell wedi dylanwadu ar yr hanner cyntaf yn y copïau sy’n cynnig i.
57 y Gthg. grŵp X1 ar.
57 ieuanc Llywelyn Siôn bychan, dan ddylanwad y llinell nesaf.
59 gawn Felly Llywelyn Siôn a Pen 99; gthg. Pen 77 gan, Brog I.6 ga hyn, C 2.114 a Pen 112 gaf, LlGC 5269B ga yna. Unwaith eto gwelir bod LlGC 5269B wedi diwygio darlleniad sy’n edrych fel ei fod yn unffurf â dau gopi arall grŵp X1 yn wreiddiol. Mae’r gynghanedd yn mynnu cael -n yma.
60 roeso Felly C 2.114, Pen 112; Pen 77 a Llst 55 reso, Llywelyn Siôn raeso; groes(s)o yn y lleill. Nid oes gwahaniaeth o ran na’r ystyr na’r gynghanedd, felly derbynnir y darlleniad heb g- a rennir gan grŵp X1 a dau gopi arall (cymerir bod groeso yn LlGC 5269B yn ddiwygiad eto).
Dyma ateb Guto’r Glyn i ymosodiad gan Hywel Dafi ar ei onestrwydd fel bardd mawl (cerdd 18a). Fel y dadleuir yn y nodiadau i’r gerdd honno, perfformiad trwyadl eironig a llawn hiwmor cynnil a gafwyd gan Hywel, nid datganiad fod rhyw anghydfod mawr rhwng y ddau fardd ar bwnc seiliau moesol y canu mawl, ac mae Guto’n ymateb i’r cyhuddiad yn ei erbyn mewn dull sydd yr un mor gellweirus.
Rhyw fath o godi’r ysgwyddau mewn geiriau a geir yn llinellau 1–4, fel petai Guto wedi alaru ar y grefft farddol yn sgil cael ei fflangellu gan lach genfigennus Hywel Dafi. Eto i gyd, mae amddiffyniad yn barod ganddo, ac mae’n mynd ymlaen i ddangos bod y bardd iau, wrth geisio deol gweniaith o’r canu mawl, wedi mynd ar gyfeiliorn yn llwyr. Y cam cyntaf yn ei ddadl yw cydnabod ei fod yn canu gweniaith (11–12). Yna mae’n taeru nad oedd yn fwriad ganddo dwyllo neb wrth wneud hyn (13–14): yr awgrym, felly, yw y disgwylid i’r gynulleidfa ddeall y confensiwn a gallu nithio’r gwir oddi wrth y gau pe dymunent. Yn nesaf, etymoleg: mae Guto’n chwarae ar darddiad y gair gweniaith, gan ei galw’n iaith deg (15–16). Mae hyn yn arwain at 17–18, ond mae’r llinellau hyn yn anos eu dehongli. Dichon fod Guto’n pwysleisio mor bwysig yw cael y gair tecaf (18), sef cyfeiriad yn ôl at iaith deg (16), mewn barddoniaeth: cymysgfa yw barddoniaeth o’r gwir a’r gau (17), hynny yw, o realiti a ffuglen, ond mewn barddoniaeth fawl, tegwch (harddwch) sy’n cyfrif yn bennaf oll. Mae trywydd y ddadl yn aneglur yma oherwydd nad yw’r berthynas rhwng y pwnc a gododd Hywel Dafi, sef gwir a gau, a’r pwnc y mae’n well gan Guto ei drafod, sef tegwch iaith, yn cael ei diffinio. Ar lefel rhesymeg, yn wir, mae’n anodd honni bod Guto’n ateb dadl Hywel Dafi yn llwyr.
Fodd bynnag, nid ar sail rhesymeg yn unig y mae Guto’n dadlau, ond yn hytrach mae’n apelio at esiamplau eraill. Dyma a wna yn 19–20: mae’n cyfiawnhau’r ffaith fod elfen realistig ac elfen ffug wedi eu cymysgu yn ei farddoniaeth drwy honni mai dyna sy’n digwydd yn gyffredin mewn llyfrau hefyd. Ystyr y gwir i gyd yn 19 yw ‘y gwir a dim ond y gwir’, yn hytrach nag ‘y cyfan o’r gwir’, fel y dengys 17 a’r cyd-destun yn gyffredinol: mae’r bardd yn cyfiawnhau cymysgu gwir ac anwir. Yna mae’n dyfynnu tystiolaeth Hywel Dafi ei hun: iawn, fe ganodd gerdd nad oedd yn cynnwys ond yr elfen gyntaf, sef y gwir, ond cerdd echrydus o sâl ydoedd (21–4)! Nid oedd yn deilwng o Forgan ap Rhosier (25–8, byr yw’r glod). Mae mawl heb or-ddweud yn annigonol, mae’n mynd yn groes i gonfensiwn cydnabyddedig; yn wir, mae’n nesáu at fod yn ogan, yn ddychan (28). Ystyr brith ogan yw bod canu Hywel yn gymysgfa o fawl ac o ddychan, am y rheswm syml fod yr iaith yn hagr (28). Dim ond iaith deg a all gyfleu mawl: os nad yw’r iaith yn deg, yna dychan ydyw, ac mae’r angen am iaith deg yn golygu bod angen gweniaith (cf. 15–18).
Yna mae Guto’n gwneud yr hyn a wnaethai Hywel, sef canu mawl i Forgan ap Rhosier, y noddwr sy’n goruchwylio’r ymryson, gan ddilyn ei egwyddorion ei hun (31–50). Yn sicr, perfformiad llyfnach a mwy hyderus ydyw na’r rhan gyfatebol yng nghywydd Hywel (gw. cerdd 18a (esboniadol)). Yn y diwedd mae’n dychwelyd at feirniadu anwybodaeth a rhyfyg Hywel Dafi. Sylwch ar 52: A’m brawd ni fyn ym brydu. Mae’r dull o ganu mawl a awgrymodd Hywel mor ddieithr i’r grefft go iawn fel ei fod, yn y bôn, yn waharddiad ar ganu mawl (prydu) o gwbl. Myn Guto y bydd yn anwybyddu cyngor ei gyd-fardd iau (53–4) ac yn parhau i ganu i Forgan ap Rhosier yn y dull traddodiadol. I gloi, mae’n ymorfoleddu yn yr union arfer y beiodd Hywel ef am ei ddilyn, sef gofyn am aur ei noddwr ar ddiwedd ei gerdd (55–60). Caiff Guto, mae’n argyhoeddedig, groeso gan Forgan o fath na all Hywel Dafi freuddwydio amdano.
Dyddiad
1430au neu 1440au. Mae dyddiad diweddarach yn bosibl hefyd gan na wyddys pryd y bu farw Morgan ap Rhosier. Roedd yn oedolyn yn 1417 a cheir cofnodion amdano hyd 1447–8. Nid yw dyddiadau Hywel Dafi eto wedi eu pennu i sicrwydd gan na chafwyd golygiad o’i waith, ond roedd ychydig yn iau na Guto.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd LXVI.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 60 llinell.
Cynghanedd: croes 45% (27 llinell), traws 28% (17 llinell), sain 23% (14 llinell), llusg 3% (2 linell).
2 ac iawn a wnaf Hynny yw, dywed Guto fod ei benderfyniad i roi’r gorau i’r canu mawl yn un cywir o ystyried y genfigen sy’n cyniwair o’i amgylch.
4 gwynion Mae llawer o ystyron posibl i gwyn, gw. GPC 1770 d.g. gwyn1. Gallai olygu ‘llewyrchus’ neu ‘dedwydd’, gan danlinellu mor annheg yw cenfigen Hywel. Ond yn wyneb hoffter Guto o wallt tywyll, awgrymaf mai ‘golau eu gwallt’ yw’r ystyr yma, gw. ibid. (b). Yn ei gywydd yn canmol gwallt du Harri Gruffudd, dywed Guto Gorau lliw dan gwr lleuad / A roes Duw ar ŵr o stad, Duw Ei hun oedd ŵr du hael a Ni chair er ofn na charu / Un dewr dewr ond o ŵr du (33.3–4, 6 15–16). Sylwer bod Hywel yn tynnu sylw at ben moel Guto yn ei gywydd yntau (18a.64), ac felly disgwylid ateb cymwys gan Guto.
6 beio y bydd Rhaid cywasgu y er mwyn hyd y llinell.
8 glas Cyfeirir at loywder a thryloywder medd ffres.
10 cywydd gŵr Dyma enw cyffredin y cyfnod ar gywydd mawl i uchelwr, cf. 35.57 Gweithydd fûm ar gywydd gŵr, 65a.42 Cuddio gwalch cywyddau gwŷr.
11 chwaith Am yr ystyr ‘dim’ neu ‘unrhyw beth’, gw. GPC 839.
14 myn y gannwyll Sef yr haul, yn ôl pob tebyg, cf. 56.45–8 Goleuad lleuad oll oedd / Gyda’r sêr i gadw’r siroedd. / Ac ennyn fal y gannwyll / Y mae dros bawb, medrus bwyll. Neu ryw ganwyll a ddigwyddai fod gerllaw?
15 gofeg Gair ac iddo amryfal ystyron, gw. GPC 1429: ‘meddwl, synnwyr, bryd; amcan, ewyllys; ymadrodd, lleferydd; bodd, serch, trachwant’. Yng ngoleuni llinellau 13–14 y tebyg yw ei fod yn cyfeirio at fwriad gonest y bardd y tu ôl i’w eiriau gwenieithus.
16 gweniaith … iaith deg Mae’r bardd yn chwarae ar darddiad y gair gweniaith.
22 Siôn y Cent Bardd Cymraeg a flodeuai yn hanner cyntaf y bymthegfed ganrif yw Siôn Cent: ymosododd yn ffyrnig ar y traddodiad mawl, gan ei alw’n gelwyddgar ac yn gaeth wrth bethau’r byd hwn yn hytrach na’r byd a ddaw. Gw. Johnston 2005: 222–8. Yn aml fe geir y fannod yng nghanol ei enw, fel yma, cf. y priodoliadau i’r cerddi yn ASCent.
26 bwa’r glêr Gan mai delwedd gadarnhaol yw’r bwa gan mwyaf, y tebyg yw mai Morgan ap Rhosier yn hytrach na Hywel Dafi yw bwa’r glêr, cf. 82.24 Gwedy bwa gwawd Boŵys (am Llywelyn ab y Moel), 31.62 Bwa clod, tra fo byw clêr (am Siancyn Hafart).
28 brith Am yr ystyr ‘hanner, lled, rhannol’, gw. GPC 326 d.g. brith1 a cf. yr ymadrodd brith gof heddiw.
29 anach Yn ôl GPC2 251–2 ystyr y gair hwn fel enw yw ‘rhwystr, atalfa’, ond mae’n werth cadw mewn cof ei ystyr fel ansoddair hefyd, sef ‘difonedd, salw, gwael’. Dichon fod arlliw o’r ystyr hon yma hefyd: mae cerdd annigonol Hywel yn dioddef o dan y rhwystr diangen a osododd Hywel ei hun, ond mae hefyd yn bwrw sen ar foneddigrwydd Morgan ap Rhosier drwy fethu ei ddisgrifio yn y modd priodol.
29 llw Sylwedd y cwpled hwn yw’r llw neu’r adduned, sef bod Guto yn ymrwymo i ganmol Morgan yn y ffordd gywir.
35 y Castellnewydd Casnewydd, prif dref yr arglwyddiaeth lle roedd Morgan yn dal swyddi.
40 yn y lle’r aeth Ai at fro Morgan y cyfeirir, hynny yw, y lle yr aeth, y lle a fendithiwyd gan ei bresenoldeb? Neu efallai mai ‘ble bynnag yr âi’ yw’r ergyd.
41 Rhydderch Rhydderch Hael, patrwm o haelioni ac un o hoff gymeriadau’r beirdd. Cyfrifid Tri Hael (gw. TYP3 5–6, 464–6 a WCD 509); y ddau arall oedd Nudd Hael a Mordaf Hael.
44 dilechdyd Dilechdid, un o dri phwnc sylfaenol y cwricwlwm ysgol (trivium) yn yr Oesoedd Canol. Rhesymeg a’r gelfyddyd o ymresymu yw dilechdid, cf. GPC 1012 ac OED Online s.v. dialectic, n.1.
44 Raff Syr Raff Maelog (Sir Ralph Maelog). Yn ôl ach ei frawd Trahaearn roedd Morgan ap Rhosier yn disgyn ohono, gw. WG1 ‘Adam ab Ifor’ 1 a ‘Maelog’. Dyma’r ach: [Morgan] ap Roger ab Adam Fychan ab Adam ab Ifor ab Arurys, a briododd Joan, ferch Syr Raff Maelog. Mae’n amlwg fod yr ach yn ddiffygiol oherwydd mae’n neidio o genhedlaeth 6 i genhedlaeth 11, ond nid yw hynny’n bwysig o’n safbwynt ni; yr hyn a gredid sydd o ddiddordeb yma, nid y gwirionedd. Mae amryw ffynonellau achyddol yn cysylltu Syr Raff ag ardal Caerdydd ac Allteuryn, gw. WG1 ‘Maelog’. Enwir rhyw glerigwr o’r enw Radulphus Mailoc Magister (mae’r orgraff yn amrywio) droeon fel tyst i freinlenni ym Morgannwg ar ddechrau’r drydedd ganrif ar ddeg, gw. y mynegai i Clark 1893–1910, vi, 79–8 d.g. Mailoc, Maeloc, a’r drafodaeth ibid. ii, 434. Aelod o’r un teulu oedd hwnnw, gellir tybied, ond nid yr un dyn.
45 pedeiriaith Cf. 18a.56n (esboniadol) lle awgrymir mai Cymraeg, Saesneg, Lladin a Ffrangeg ydynt.
46 awgrym Benthycair o’r Saesneg Canol augrim, awgrym, bellach algorism. Enw ydoedd ar y gyfundrefn rifo Arabaidd ac felly ar rifyddeg yn gyffredinol, gw. GPC2 544 ac OED Online s.v. algorism, n. Roedd rhifyddeg yn un o bedwar pwnc y cwricwlwm uwch (quadrivium) yn yr Oesoedd Canol.
46 mydr Roedd mydryddiaeth yn rhan bwysig o ramadeg (grammatica) yn yr Oesoedd Canol.
46 gramadeg Grammatica, pwnc cyntaf y cwricwlwm sylfaenol (trivium) a’r pwnc pwysicaf oll. Mae’n cynnwys mwy na gramadeg yn ystyr ddiweddar y gair, gan gofleidio pob agwedd ar lythrennedd, dadansoddi llenyddiaeth, rheolau mydryddol, a dadansoddi iaith ffigurol (lle mae’n ymgysylltu â’r ail bwnc, sef rhethreg, nas crybwyllir yn y gerdd).
47 cerddor Roedd cerddoriaeth yn un arall o bedwar pwnc y cwricwlwm uwch yn yr Oesoedd Canol.
47 cywirddant Amrywiad ar cyweirdant, gw. 47n (testunol). Y cyweirdant yw tant telyn y cyweirir yr offeryn wrtho, gw. GPC 830.
48 cerdd dafod a thant Enwau traddodiadol ar farddoniaeth a cherddoriaeth delyn.
49 ystronomïwr Un arall o bedwar pwnc y cwricwlwm uwch oedd seryddiaeth. Cywasger y sillaf gyntaf er mwyn hyd y llinell.
51 Hu Hu Gadarn, ymherawdr Caergustennin y ceir disgrifiad ohono’n aredig yn ‘Pererindod Siarlymaen’, gw. YCM2 187 a Rejhon 1983. Am gyfeiriadau eraill ato yng ngwaith y beirdd, gw. GIG XXVIII.63; TA IV.66; GRhGE 14.10n; GGLl 15.2n.
52 prydu Gall olygu ‘canu mawl’ yn benodol, nid ‘barddoni cyffredinol’, cf. GP 15 kanys ny phryta neb y’r drwc, ac ny dychana neb y’r da.
60 chwaith Cf. 11n.
Llyfryddiaeth
Clark, G.L. (1893–1910) (ed.), Cartae et Alia Munimenta quae ad Dominium de Glamorgancia pertinent (Cardiff)
Johnston, D. (2005), Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300–1525 (Caerdydd)
Rejhon, A.C. (1983), ‘Hu Gadarn: Folklore and Fabrication’, P.K. Ford (ed.), Celtic Folklore and Christianity: Studies in Memory of William W. Heist (Santa Barbara), 202–12
Here is Guto’r Glyn’s response to the attack on his honesty as a praise poet made by Hywel Dafi (poem 18a). As is argued in the notes to that poem, Hywel gave a thoroughly ironic and humorous performance, certainly not a declaration of any profound disagreement between the two poets regarding the moral bases of praise poetry, and Guto responds with equal humour to the accusation against him.
Lines 1–4 are a kind of verbal shrug of the shoulders, as if Guto has decided to abandon praise poetry following the vicious assault on him by the envious Hywel Dafi. Nevertheless, Guto has his defence ready and prepared, and he goes on to demonstrate that the younger poet, in attempting to expunge gweniaith, flattery, from praise poetry, has gone completely astray. First of all Guto acknowledges that he does indeed employ gweniaith (11–12). However, he insists that he never intended to deceive anyone in doing this (13–14): the implication is that the audience should be expected to understand the convention and to be able to sort the truth from the untrue, if they so desired. Next, some etymologizing: Guto plays with the literal meaning of gweniaith, i.e. gwen ‘white, bright, blessed, fair’ + iaith ‘language’, calling it iaith deg ‘fair language’ (15–16). This leads on to what he says in 17–18; unfortunately, it is not quite so easy here to see what exactly he is saying. It seems that Guto is emphasising how important it is to have y gair tecaf ‘the fairest word’ (18) in poetry, a clear reference to iaith deg (16); poetry itself is a mixture of true and false (y gwir a’r gau, 17), that is, of reality and fiction. In praise poetry, fairness (beauty) is what counts. The thread of his argument is not clear here, since the relationship between the subject which Hywel Dafi raised, i.e. true and false, and the subject which Guto would rather talk about, beauty, is not addressed. On the level of logic, indeed, it would be difficult to assert that Guto answers the other poet’s arguments satisfactorily.
However, Guto is not arguing on the basis of strict logic, but instead appealing to precedents. Thus in 19–20 he justifies the fact that a true element and an untrue element are mixed together in his verse by saying that this is true of books also. The phrase y gwir i gyd in 19 means ‘the truth and nothing else’, rather than ‘the whole of the truth’, as is shown by 17 and the context in general: the poet is justifying the mixing of true and untrue. Then he calls on the witness of Hywel Dafi himself: fair enough, Hywel did compose a poem which contained only the first element, i.e. the truth, but it was a truly awful poem (21–4)! It was not worthy of Morgan ap Roger (25–8, byr yw’r glod). Praise without exaggeration is not sufficient, it breaks an agreed convention; indeed, it approaches gogan, satire (28). The meaning of brith ogan ‘speckled satire’ is that Hywel’s poem is a mixture of praise and dispraise, for the simple reason that its language is ugly (iaith hagr, 28). Only iaith deg ‘fair language’ can convey praise: if the language is not fair, then it is satire, and the need for fair language (iaith deg) implies the need for gweniaith (cf. 15–18).
Now Guto does what Hywel had done, praise Morgan ap Roger, the patron who is overseeing the debate, whilst following his own conventions (31–50). For sure, it is a smoother and more assured performance that the equivalent part of Hywel’s poem (see the background note to 18a). Finally Guto returns to criticizing Hywel Dafi’s ignorance and impudence. Consider 52: A’m brawd ni fyn ym brydu. The kind of poetry which Hywel suggests is basically so foreign to the real craft of praise as to prohibit praise poetry (prydu) in its entirety. Guto affirms that he will ignore the advice of his younger colleague (53–4) and continue to sing to Morgan ap Roger in the traditional manner. To conclude, he revels in the exact habit for which Hywel criticized him, namely asking his patron for gold at the end of his poem (55–60). Guto is convinced that he will receive the kind of welcome from Morgan that Hywel Dafi cannot even imagine.
Date
1430s or 1440s. A later date is also possible since it is not known when Morgan ap Roger died. He was an adult in 1417 and he is recorded until 1447–8. Hywel Dafi’s dates are not yet certain since there has been no edition of his works, but he was somewhat younger than Guto.
The manuscripts
This poem is preserved in 19 manuscripts, and without exception it follows the poem by Hywel Dafi which provoked it. C 2.114, Pen 112 and LlGC 5269B are very similar to one another and probably derive independently from a common exemplar. On the whole they are quite corrupt and inferior to the rest. The relationship between the other copies, Pen 77, Pen 99, Brog I.6 and Llywelyn Siôn’s copies (LlGC 6511B, Llst 134, LlGC 970E and C 5.44) is less clear. Llst 55 contains only brief excerpts from the poem, too brief to reveal anything much about its exemplar, save that it was not one of the C 2.114 group. The edition is based on the X1 group, Pen 77, Pen 99, Brog I.6, Llst 55 and Llywelyn Siôn, so 11 copies in all. The remaining copies are derivative and were not used.
Previous edition
GGl poem LXVI.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 60 lines.
Cynghanedd: croes 45% (27 lines), traws 28% (17 lines), sain 23% (14 lines), llusg 3% (2 lines).
2 ac iawn a wnaf That is, Guto says that his decision to abandon praise poetry is a correct one given the envy which besets him.
4 gwynion gwyn has many possible meanings, see GPC 1770 s.v. gwyn1. It might mean ‘prosperous’ or ‘blessed’, underlining how unfair is Hywel’s envy. But in the light of Guto’s approval of dark hair, I suggest that it means ‘fair-haired’ here, see ibid. (b). In his poem in praise of the black hair of Henry Griffith, Guto says Gorau lliw dan gwr lleuad / A roes Duw ar ŵr o stad (‘God has set upon a man of substance / The best colour which exists under the horn of the moon’), Duw Ei hun oedd ŵr du hael (‘God himself was a noble black-haired man’) and Ni chair er ofn na charu / Un dewr dewr ond o ŵr du (‘You won’t find for fear nor love / A really bold man except a black-haired one’, 33.3–4, 6, 15–16). Note that Hywel mentions Guto’s bald head in his own poem (18a.64), and so we would expect some kind of suitable response from Guto.
6 beio y bydd The y must be elided for the sake of the syllable count.
8 glas A reference to the sparkle and clarity of fresh mead.
10 cywydd gŵr A common term of the period for a praise poem addressed to a male patron, cf. 35.57 Gweithydd fûm ar gywydd gŵr (‘I used to be a craftsman in praise poetry’), 65a.42 Cuddio gwalch cywyddau gwŷr (‘for concealing the soldier of praise cywyddau’).
11 chwaith For the meaning ‘any, not … at all’, see GPC 839.
14 myn y gannwyll I.e. the sun, in all probability, cf. 56.45–8 Goleuad lleuad oll oedd / Gyda’r sêr i gadw’r siroedd. / Ac ennyn fal y gannwyll / Y mae dros bawb, medrus bwyll (‘He was full moonlight along with the stars to defend the shires, and he shines over everyone like the candle, skillful wisdom.’). Or a candle which happened to be nearby?
15 gofeg A word with several meanings, see GPC 1429: ‘mind, sense, thought; intention, intent, will; speech, utterance; pleasure, affection, lust’. In view of lines 13–14 it most likely refers to the honest intent of the poet behind his flattering words.
16 gweniaith … iaith deg A play on the origin of the word gweniaith from gwen, feminine of gwyn ‘white, blessed, fair’ + iaith ‘language’.
22 Siôn y Cent Siôn Cent was a Welsh poet who flourished in the first half of the fifteenth century and who fiercely attacked the praise tradition, accusing it of untruthfulness and of being bound to material things rather than spiritual matters. See Ruddock 1997: 150–67. The definite article often occurs in his name, as here; for other examples cf. the attributions to the poems in ASCent.
26 bwa’r glêr Since the bow is generally a positive image, bwa’r glêr is probably meant to be Morgan ap Roger rather than Hywel Dafi, cf. 82.24 Gwedy bwa gwawd Bowys (‘after the bow of song of Powys’, i.e. Llywelyn ab y Moel), 31.62 Bwa clod, tra fo byw clêr (‘bow of fame, while poets live’, i.e. Siancyn Havard).
28 brith For the meaning ‘half-, partly, partially’, see GPC 326 s.v. brith1 (and cf. the expression brith gof nowadays for an uncertain memory).
29 anach According to GPC2 251–2 this word as a noun means ‘impediment, hindrance’, but it is worth remembering the adjectival meanings ‘ignoble, base, mean’. There may be a flavour of these here: Hywel’s inadequate poem suffers under a self-imposed hindrance, but it also demeans Morgan ap Roger’s status by failing to describe him in the appropriate way.
29 llw The oath or vow is the substance of this couplet, i.e. that Guto undertakes to praise Morgan in the right way.
35 y Castellnewydd Newport, Casnewydd in modern Welsh, the chief town of the lordship where Morgan held office.
40 yn y lle’r aeth Is this a reference to Morgan’s locality, i.e., where he went, the place blessed by his presence? Or simply ‘wherever he went’?
41 Rhydderch Rhydderch Hael (‘the generous’), a paragon of generosity and one of the poets’ favourite characters. There were three ‘generous men’ (tri hael, see TYP3 5–6, 464–6 and WCD 509); the other two were Nudd Hael and Mordaf Hael.
44 dilechdyd Dialectic, one of the three basic subjects in the medieval school curriculum (trivium). Dialectic is the science of logic and argument, cf. GPC 1012 and OED Online s.v. dialectic, n.1.
44 Raff Syr Raff Maelog (Sir Ralph Maelog). According to his brother Trahaearn’s genealogy Morgan ap Roger was descended from this Ralph, see WG1 ‘Adam ab Ifor’ 1 and ‘Maelog’. Here is the genealogy: [Morgan] ap Roger ab Adam Fychan ab Adam ab Ifor ab Arurys, who married Joan, daughter of Sir Ralph Maelog. It is clear that the genealogy is defective, since it leaps from generation 6 to generation 11, but that does not matter for our purposes; what was believed matters here, not the truth. Several genealogical sources connect Sir Ralph with the region of Cardiff and Goldcliff, see WG1 ‘Maelog’. A certain cleric by the name of Radulphus Mailoc Magister (the spelling varies) is named repeatedly as a witness to charters in Glamorgan at the beginning of the thirteenth century, see the index to Clark 1893–1910, vi: 79–8 s.v. Mailoc, Maeloc, and the discussion ibid. ii.434. This man must have been a member of the same family, though he cannot have been the same man.
45 pedeiriaith Cf. 18a.56n where I suggest that the four languages are Welsh, English, Latin and French.
46 awgrym A borrowing of Middle English augrim, awgrym, now algorism. It was a name for the system of Arabic numerals and then for arithmetic in general, see GPC2 544 and OED Online s.v. algorism, n. Arithmetic was one of the four subjects of the advanced curriculum (quadrivium) in the Middle Ages.
46 mydr Metrics was an important aspect of grammar (grammatica) in the Middle Ages.
46 gramadeg Grammatica, the first subject of the basic curriculum (trivium) and the most important subject of all. It includes more than what is narrowly defined today as grammar, including all aspects of literacy, the interpretation of literature, metrical rules and the interpretation of figurative language (where it overlaps with the second subject, rhetoric, which is not mentioned in the poem).
47 cerddor Music was another one of the four subjects of the advanced curriculum in the Middle Ages.
47 cywirddant A variant form of cyweirdant ‘tuning string’, see GPC 830.
48 cerdd dafod a thant Traditional names for poetry and harp music.
49 ystronomïwr Astronomy was also one of the advanced subjects in the medieval curriculum. The first syllable is elided for the syllable count.
51 Hu Hu Gadarn, Hugun le Fort, an emperor of Constantinople who undertakes ploughing in ‘Pererindod Siarlymaen’, see YCM2 187 and Rejhon 1983. For other references by the poets, see GIG XXVIII.63; TA IV.66; GRhGE 14.10n; GGLl 15.2n.
52 prydu This verb can mean ‘compose praise poetry’ in particular, not just any kind of poetry, as is clear in, e.g., the bardic grammars, cf. GP 15 kanys ny phryta neb y’r drwc, ac ny dychana neb y’r da (‘for no-one composes praise poetry for that which is bad, and no-one composes satire for that which is good’).
60 chwaith Cf. 11n.
Bibliography
Clark, G.L. (1893–1910) (ed.), Cartae et Alia Munimenta quae ad Dominium de Glamorgancia pertinent (Cardiff)
Rejhon, A.C. (1983), ‘Hu Gadarn: Folklore and Fabrication’, P.K. Ford (ed.), Celtic Folklore and Christianity: Studies in Memory of William W. Heist (Santa Barbara), 202–12
Ruddock, G.E. (1997), ‘Siôn Cent’, A.O.H. Jarman and Gwilym Rees Hughes (eds.), A Guide to Welsh Literature ii: 1282–c.1550, revised by Dafydd Johnston (second ed., Cardiff), 150–67
Morgan ap Rhosier oedd noddwr ymryson rhwng Hywel Dafi a Guto’r Glyn (cerddi 18a ac 18). Dysgwn o’r ddau gywydd hyn mai ei enw llawn oedd Morgan ap Rhosier ab Adam, ei fod yn gysylltiedig â Gwenllwg, â Chasnewydd ac efallai â lle o’r enw Y Morfa, a’i fod yn disgyn o’r Cemeisiaid a rhywun o’r enw Raff.
Achres
Ni welir Morgan yn yr achau, ond serch hynny mae’n hawdd ei leoli, oherwydd brawd iddo yn ôl pob tebyg oedd Trahaearn ap Rhosier ab Adam a gofnodir yno (WG1 ‘Adam ab Ifor’ 1 a ‘Maelog’; dangosir y rheini a enwir gan Guto a Hywel Dafi yn eu cywyddau i Forgan mewn print trwm):
Achres Morgan ap Rhosier o Wynllŵg
Ei yrfa
Tad Morgan, felly, oedd Rhosier ab Adam, a oedd yn feili Gwynllŵg yn 1401. Ystyr Gwynllŵg (Wentloog) mewn cofnodion swyddogol yw’r iseldir o gwmpas Casnewydd, yn hytrach na’r cantref cyfan a ymestynnai rhwng afonydd Rhymni ac Wysg, ac efallai fod Hywel Dafi yn defnyddio Gwenllwg (amrywiad ar yr enw) yn yr ystyr gyfyng hon (18a.20n). Roedd brawd Morgan, Trahaearn, yn grwner Gwynllŵg yn 1435–6 ac eto yn 1448–9. Roedd ganddo frawd o’r enw Gwilym hefyd a fu’n feili yn 1409 (Evans 2008: 295–6, 306). Mae Evans (1915: 27n1) yn nodi bod Morgan ei hun yn grwner yno yn 1417. Rhestrir ef a’i frawd Trahaearn yn ddeiliaid rhydd yn arglwyddiaeth Casnewydd yn rholyn sesiynau 1432 (Pugh 1963: 82). Roedd Morgan yn ddirprwy siryf yr arglwyddiaeth hyd 1444 (ibid. 276–7). Fe’i henwir droeon yng nghyfrifon yr arglwyddiaeth am y blynyddoedd 1447–8 (ibid. 203–5, 212, 228). Ar y llaw arall nis henwir yno yn rholyn sesiynau 1476 (ibid. 83–117), sef yn yr un cyd-destun ag y ceir ei enw yn 1432: mae’n debygol y buasai farw cyn 1476, felly, peth nad yw’n syndod o gofio ei fod yn gweithredu fel crwner Gwynllŵg mor gynnar â 1417. Dyma osod dyddiadau Morgan ap Rhosier yn fras yn hanner cyntaf y bymthegfed ganrif.
Ni wyddys beth oedd cysylltiad Morgan â theulu Cemais (Kemeys). Priododd aelodau o’i deulu ef â Chemeisiaid yn y genhedlaeth nesaf (WG1 ‘Adam ab Ifor’ 1; am y teulu ei hun, gw. WG2 ‘Kemeys’ 1–4 a Griffiths 2008: 261–2). Roedd Hywel Cemais yn olynydd iddo yn swydd dirprwy siryf Casnewydd yn 1444 (Pugh 1963: 276–7). Am y Raff y disgynnai Morgan ohono, gw. yr ach uchod ac 18.44n (esboniadol).
Bro
Roedd tir gan dad Morgan ym Machen yn yr ardal a elwir Cyfoeth Maredudd (Evans 2008: 306). Gwelir safle o’r enw Castell Meredydd heddiw ar fap yr Arolwg Ordnans, ychydig i’r dwyrain o bentref Machen (ST 226887). Ni wyddys ble yr oedd Morgan ei hun yn byw. Cyfeiria Hywel Dafi at Y Morfa (18a.19), a ddehonglir yn betrus fel enw lle penodol. Gallai hefyd gyfeirio at ran ddeheuol arglwyddiaeth Casnewydd neu Wynllŵg, a elwid yn Saesneg Wentloog. Mae’r ardal hon ar lan y môr yn isel iawn a rhannau ohoni wedi eu hadennill o’r môr. Dengys y ddogfen a atgynhyrchwyd yn Pugh (1963: 203–5) fod Morgan yn dal tir yn Stow, sydd bellach wedi ei llyncu gan Gasnewydd (cf. Stow Park, ST 303873). Roedd ganddo hefyd dir wrth afon fach o’r enw Nant Melyn, yr hawl i bysgota yn nŵr Ebboth (sef Ebwy, yr afon ei hun, efallai) ac roedd ganddo goedwig mewn lle a elwir Kirkebleyth’ (ibid. 203, 212, 228). Enwir, ibid. 205, ragor o leoedd, sef rhannau o dir arglwydd Casnewydd ei hun, lle roedd Morgan yn denant yn ystod y blynyddoedd cyn 1447/8.
Llyfryddiaeth
Evans, D.F. (2008), ‘ “Talm o Wentoedd”: The Welsh Language and its Literature, c.1070–c.1530’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords, c.1070–1536 (Cardiff), 280–308
Evans, H.T. (1915), Wales and the Wars of the Roses (Cambridge)
Griffiths, R. (2008), ‘Lordship and Society in the Fifteenth Century’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords (Cardiff), 241–79
Pugh, T.B. (1963), The Marcher Lordships of South Wales 1415–1536: Select Documents (Cardiff)
Hywel Dafi, neu Hywel ap Dafydd ab Ieuan ap Rhys, oedd gwrthwynebydd Guto’r Glyn mewn dau ymryson, sef cerddi 18a ac 18 a cherddi 20 a 20a. Ychydig a wyddys i sicrwydd amdano, oherwydd, yn syml iawn, ni chyhoeddwyd astudiaeth fanwl o’i waith hyd yn hyn. Golygwyd ambell gerdd yma a thraw, ond ni chasglwyd ei waith cyfan at ei gilydd erioed. (Mae Dr A.C. Lake ar hyn o bryd yn paratoi golygiad o waith Hywel Dafi, i’w gyhoeddi yng Nghyfres Beirdd yr Uchelwyr.) Gan hynny ni wyddys na dyddiadau na chylch nawdd Hywel yn fanwl gywir. Ceir y drafodaeth fwyaf diweddar ar Hywel Dafi gan Johnston (2005: 254–5).
Bro
Ceir cerddi gan Hywel o’r Gogledd yn ogystal â’r De, ond yn y De-ddwyrain y gweithiodd fwyaf. Roedd cysylltiad agos rhyngddo a theuluoedd Herbert a Fychan: yn wir, mae Guto’n ei gyhuddo o dreulio’r cyfan o’i amser yn Rhaglan (cerdd 20), ond gorddweud y mae Guto yma. Credir bod Hywel yn frodor o Frycheiniog (Johnston 2005: 254n102).
Dyddiadau
Amhosibl pennu dyddiadau Hywel Dafi nes y cesglir ei holl waith ynghyd. Mae’n debygol fod ei ymrysonau â Guto’r Glyn yn perthyn i’r 1430au neu’r 1440au. Roedd Morgan ap Rhosier, noddwr cerddi 18a ac 18, yn ei flodau 1417–47/8. Gellir dyddio cerddi 20 a 20a i’r cyfnod cyn 1454 os cywir y dyb fod mam Wiliam Herbert wedi marw yn y flwyddyn honno. Yn y ByCy Ar-lein rhoddir Hywel Dafi yn ei flodau c.1450–c.1480.
Ei waith
Mae dybryd angen golygu gwaith Hywel Dafi. Fel y noda Johnston (2005: 254), ef yw’r ‘bardd pwysicaf na chafwyd astudiaeth gyflawn ar ei waith eto’. Un rheswm dros ei ystyried yn fardd o bwys yw swmp mawr y corff o waith a briodolir iddo: rhestrir 157 o gerddi yn MCF (2011). Hyd yn oed os yw hyd at hanner y rhain yn ddyblygion, fel sy’n wir yn gyffredin am gofnodion MCF, gallwn awgrymu bod dros 70 o gerddi Hywel Dafi ar glawr. Mae’r dyrnaid o’i gerddi a olygwyd hyd yn hyn yn awgrymu ei fod yn fardd ffraeth, deallus, deheuig ac amryddawn, un a ganodd rychwant mawr o genres gwahanol. Pwynt arall sydd o bwys yw’r ffaith fod cynifer o’i gerddi ar glawr yn ei law ei hun yn Pen 67 (Huws 2000: 97).
Llyfryddiaeth
Huws, D. (2000), Medieval Welsh Manuscripts (Cardiff)
Johnston, D. (2005), Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300–1525 (Caerdydd)