Y llawysgrifau
Ceir y gerdd hon mewn 17 llawysgrif. Ceir yr englyn cyntaf ym mhob llawysgrif ond mewn un llawysgrif yn unig y diogelwyd y ddau englyn, sef LlGC 1553A (ni welodd golygyddion GGl y llawysgrif honno a’r englyn cyntaf yn unig a olygwyd ganddynt). Ni cheir lle i amau dilysrwydd yr ail englyn, sy’n adleisio’r englyn cyntaf o ran ei gymeriadau geiriol a chywreindeb ei weadwaith cynganeddol (gw. y nodyn ar fesur a chynghanedd yn y nodiadau esboniadol). Ceir yn llaw Thomas Evans yn LlGC 1553A bum cerdd arall a briodolir i Guto ac a ganwyd ar fesur yr englyn (gw. cerddi 46, 121, 122, 123 a 124). Digon perthnasol yn yr achos hwn yw testunau cyflawn LlGC 1553A o gerddi 46 a 122, sef cyfresi o englynion dychan, y naill i Dudur Penllyn a’r llall i Rys Grythor. Ni cheir tri englyn olaf y gerdd i Dudur mewn unrhyw lawysgrif arall, nac ychwaith englyn olaf ond un y gerdd i Rys, ac ni cheir lle i amau eu dilysrwydd.
Gall fod Guto wedi cyfansoddi’r englyn cyntaf, sy’n englyn digon crwn ar ei ben ei hun, ar farwolaeth Dafydd Nanmor a bod yr englyn hwnnw wedi ei gofnodi yn y gynsail goll yn fuan iawn wedi marw’r bardd hwnnw. Pan fu farw Ieuan Deulwyn yntau’n fuan wedi marwolaeth Dafydd Nanmor gall fod Guto wedi canu englyn arall yn ddilyniant i’r englyn cyntaf. Yna cofnodwyd yr ail englyn mewn ffynhonnell goll arall lle ceid copi o’r englyn cyntaf eisoes, o bosibl, sef X3 (gw. y stema).
Mae testun yr englyn cyntaf yn LlGC 1553A bron yn ddi-fai a phrin y gellir amau safon testun yr ail englyn ychwaith (gw. 5n). Y llawysgrif hon a ddilynwyd yn bennaf wrth sefydlu’r testun, gyda golwg ar destunau eraill y bernir bod ganddynt berthynas agos â’r gynsail, sef Bodley Welsh e 1, C 4.101, LlGC 3049D, Llst 145 a Pen 97. Mae’n nodedig mai testun digon anfoddhaol o’r englyn cyntaf a geir yn y llawysgrif gynharaf, sef Pen 10, a gopïwyd yn fuan wedi marwolaeth Dafydd Nanmor yn ystod ail hanner y bymthegfed ganrif (gw. 1n fal, 2n a 4n).
Trawsysgrifiadau: LlGC 1553A a C 4.101.
1 y Fe’i collwyd yn Bodley Welsh e 1, LlGC 3039B, LlGC 3049D, Llst 145 (a ddilynwyd yn GGl) ac X4, gan adael llinell nawsill oni chyfrifir marw yn ddeusill. Diau mai felly yr ystyrid y gair gan rai copïwyr diweddarach ond sylwer mai gair unsill ydyw yn llinellau 3 a 4 (ac, at hynny, 5, 7 ac 8). Tybed ai darlleniad tebyg i davyddysydd a geid yn y gynsail ac y collwyd y drwy gydweddiad?
1 fal Gthg. Pen 10 yn.
1 i’m esgyrn Dilynir Bodley Welsh e 1, C 4.101, Pen 97, X2 ac X3, ac, i raddau, X1 (gw. y nodyn nesaf). Gthg. darlleniad GGl i’m hesgyrn yn y llawysgrifau eraill. Bernir ei bod yn fwy tebygol yr ychwanegid h- na’i gollwng (gw. Treigladau 153).
1 esgyrn Gthg. X1 asgwrn.
2 pencerddiaeth Dilynir Bodley Welsh e 1, C 4.101, LlGC 3039B, Llst 145, X1 ac X3. Gthg. darlleniad GGl penceirddiaeth yn y llawysgrifau eraill.
3 dedryd Gthg. X1 didro.
4 Marw dysg holl Gymru od aeth Gthg. Pen 10 marw yw dysg kymrv od aeth a darlleniad gwreiddiol LlGC 3039B marw yw dysg kymryv od aeth. Bernir mai’r ail ddarlleniad sydd agosaf at yr hyn a geid yn X2 ac mai ymgais i adfer y sillaf a geir yn Pen 10.
5–8 Mewn un llawysgrif yn unig y diogelwyd yr englyn hwn, sef LlGC 1553A.
5 Ifan Dilynir darlleniad y llawysgrif, ond noder ei bod yn duedd gan gopïwyr diweddar newid Ieuan yn Ifan, naill ai drwy gamgopïo Ievan neu anffurfioli’r enw, a gall felly mai Ievan a geid yn X3. Sylwer mai Ifan oedd enw tad y copïydd, sef Thomas Evans (neu Thomas ab Ifan). Gellid Ieuan heb amharu ar y gynghanedd.
Fel y trafodir yn y nodyn ar Ddafydd Nanmor, bu farw yntau ac Ieuan Deulwyn oddeutu’r un adeg. Mae’n debygol iawn fod Dafydd ab Edmwnd, Tudur Penllyn ac, o bosibl, Deio ab Ieuan Du wedi marw tua’r un adeg hefyd. Dengys y cerddi dychan a ganodd Guto a Dafydd ab Edmwnd i’w gilydd (gw. cerddi 66, 67, 68, 68a a 68b) a hefyd i Dudur Penllyn (gw. cerddi 44, 44a, 45, 46 a 46a) fod Guto’n adnabod y ddau fardd hynny’n dda. Gellid disgwyl y byddai wedi canu cerddi marwnad hwy iddynt, ond bod y rheini wedi eu colli, rywsut, o’r traddodiad llawysgrifol. Ni cheir tystiolaeth fod Guto’n adnabod Dafydd Nanmor nac Ieuan Deulwyn fel y cyfryw (chwaethach Deio ab Ieuan Du), er ei bod yn sicr y byddai’n gwybod amdanynt ac yn gyfarwydd â’u cerddi (er enghraifft, canodd Guto a Ieuan yn helaeth i deulu’r Herbertiaid). Ar sail y cerddi sydd wedi goroesi, felly, byddai’n ddigon naturiol i Guto fynd ati i ddatgan ei alar yn ffurfiol am y ddau bencerdd hyn o safbwynt proffesiynol.
Prisio cyfraniad y ddau fardd i gerdd dafod yn gyffredinol a wneir yma’n bennaf. Disgrifir Dafydd fel ysgol pencerddiaeth (llinell 2) a dysg holl Gymru (4), nodwedd yn sicr a adlewyrchir yn ei ddefnydd arloesol o fesurau, yn y ddysg Ladin a chosmopolitan a welir yn nifer o’i gerddi ac yn y ffaith iddo ennill bri fel bardd yn y Gogledd ac yn y De (gw. Williams 2001: 575). Mae’n werth oedi â thrydedd linell yr englyn, Marw dedryd Nanmor Deudraeth. Ar y naill law gellir ystyried dedryd yn ddisgrifiad o Ddafydd fel bardd y perchid ei farn ar faterion cerdd dafod, ond o ystyried y trafferthion cyfreithiol tebygol a’i gorfododd i ymfudo o Wynedd mae’n demtasiwn ystyried y gair yn ei ystyr fwyaf llythrennol, sef ‘penderfyniad barnwr ar achos cyfreithiol; y gosb neu’r iawn a gyhoeddir gan farnwr ar sail dyfarniad rheithwyr’ (gw. 3n). Ymddengys mai yn sgil ei ganu i wraig briod o’r enw Gwen o’r Ddôl y bu’n rhaid iddo adael bro ei febyd c.1453 a chanu yng nghyffiniau Aberteifi’n bennaf am weddill ei oes. Tybed ai awgrymu y mae Guto fod y ddedfryd a roed arno ac a’i rhwystrai rhag mynd i Wynedd wedi ei diddymu gyda’i farwolaeth a bod modd ystyried ei awen bellach o safbwynt holl Gymru? (Gall fod cyfeiriadaeth debyg ym marwnad Hywel Rheinallt i Ddafydd, gw. GTP Atodiad V.7–8; hefyd DN XL.7–8; Gruffydd 1909: 134.)
Englyn sy’n ymateb i’r cyntaf yw’r ail, lle dwyseir effaith y farwolaeth gyntaf gan y newydd am farwolaeth Ieuan Deulwyn. Ychydig o sylw a roir i Ieuan ei hun mewn gwirionedd gan mai’r ddau fardd a farwnedir ynghyd yn yr esgyll.
Dyddiad
Dadleuir yn y nodyn ar Ddafydd Nanmor ei bod yn bosibl mai rhywbryd rhwng 1485 a 1490 y bu farw yntau ac Ieuan Deulwyn o fewn rhai wythnosau neu fisoedd i’w gilydd, ac i Guto gyfansoddi’r englynion yn fuan iawn wedyn. Os felly, fe’u canwyd pan oedd Guto ei hun mewn cryn dipyn o oedran. Os yn abaty Hendy-gwyn y canwyd yr englynion (a chymryd mai yno y claddwyd Dafydd, gw. DN xxv; ac Ieuan hefyd efallai), mae’n debygol iawn mai eu hanfon yno a wnaeth yng ngofal datgeiniad. Fel arall, mae’n bosibl mai mynaich abaty Glyn-y-groes oedd cynulleidfa wreiddiol y gerdd, gan mai yno y treuliodd Guto ei ddyddiau olaf.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd CIII (yr englyn cyntaf yn unig).
Mesur a chynghanedd
Dau englyn unodl union, 8 llinell.
Cynghanedd: croes 33% (2 linell), traws 33% (2 linell), sain 33% (2 linell), dim llusg. Ni chynhwysir y cyrch yn y canrannau uchod, lle ceir cyfatebiaeth gytseiniol rhwng y gair cyrch a dechrau’r ail linell yn y ddau englyn. Canwyd y ddau englyn ar yr un brifodl a cheir cynghanedd sain yn llinell gyntaf y ddau (yn ôl y disgwyl, gw. CD 276) yn ogystal â chynganeddion cytsain yn eu hesgyll. At hynny, ceir cymeriad geiriol a thestunol yn llinell gyntaf y ddau englyn ynghyd â’r cymeriad geiriol marw yn y llinellau hynny a llinellau 3, 4 a 7 (ceir cymeriad cynganeddol eto yn y llinell olaf ac ailadrodd marw yn ail ran y llinell). Atebir y gytsain m yn y cynganeddion cytsain yn y ddau gyrch a cheir cyfatebiaeth rhwng Deudraeth, Deulwyn a deurwym a hefyd rhwng holl ac oll yng ngorffwysfeydd dwy linell olaf y ddau englyn.
1 Dafydd Sef y bardd cyntaf a farwnedir, Dafydd Nanmor.
2 pencerddiaeth Ffurf ar penceirddiaeth (gw. GPC 2734).
3 dedryd Ffurf ar dedfryd (gw. GPC 911 d.g. dedfryd1 ‘penderfyniad barnwr ar achos cyfreithiol; y gosb neu’r iawn a gyhoeddir gan farnwr ar sail dyfarniad rheithwyr’). Ar ei arwyddocâd posibl yn achos Dafydd Nanmor, gw. y nodyn cefndir uchod.
3 Nanmor Deudraeth Enw llawn y drefgordd neu ranbarth a adwaenir yn gyffredinol wrth yr enw Nanmor ym mhlwyf Beddgelert yng nghwmwd Eifionydd ond a oedd yn rhan o gwmwd Ardudwy Uwch Artro yn y bymthegfed ganrif (gw. WATU 163; Gresham 1978: 97–8; Powell 2004: 89; Owen and Morgan 2007: 336). Rhoes ei enw i’r bardd, Dafydd (gw. 1n), y ceir traddodiad iddo ddal tir yno (gw. Gresham 1978: 118; DN xvi). Yn ôl DN xv gelwid yr ardal yn Nanmor Deudraeth ‘from its situation between the Traeth Mawr, formed by the estuary of the Glaslyn, and the Traeth Bach, formed by that of the Dwyryd’.
5 Ifan Ffurf ar Ieuan (gw. 5n (testunol)), sef yr ail fardd a farwnedir, Ieuan Deulwyn.
5 Deulwyn Sef, yn ôl pob tebyg, ffurf fer ar Pendeulwyn, plwyf (yn ôl ID viii; Gruffydd 1922: 42) neu drefgordd ym mhlwyf Llangynnwr a chwmwd Cydweli (yn ôl WATU 173 d.g. Penddeulwyn). Rhoes ei enw i’r bardd, Ieuan (gw. 5n Ifan).
7 awduriaeth Ffurf ar awduraeth (gw. GPC2 540 d.g. awduriaeth).
Llyfryddiaeth
Gresham, C.A. (1978), ‘Nanmor Deudraeth’, Cylchg CHSFeir 8: 97–121
Gruffydd, W.J. (1909), Y Flodeugerdd Newydd (Caerdydd)
Gruffydd, W.J. (1922), Llenyddiaeth Cymru o 1450 hyd 1600 (Lerpwl)
Owen, H.W. and Morgan, R. (2007), Dictionary of the Place-names of Wales (Llandysul)
Powell, N.M.W. (2004), ‘Dyfalu Dafydd Nanmor’, LlCy 27: 86–112
Williams, G.A. (2001), ‘The Literary Tradition to c.1560’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 507–628
As discussed in the note on the poet Dafydd Nanmor it is believed that he and Ieuan Deulwyn died about the same time. In all likelihood the poets Dafydd ab Edmwnd, Tudur Penllyn and possibly Deio ab Ieuan Du also died at that time. The satire poems that Guto composed to Dafydd ab Edmwnd (see poems 66, 67, 68, 68a and 68b) and to Tudur Penllyn (see poems 44, 44a, 45, 46 and 46a) clearly show that he knew both these poets well, and it can only be assumed that Guto sang their elegies (possibly in the cywydd metre) which were either never written down or subsequently lost from the manuscript tradition. There is no evidence that Guto knew Dafydd Nanmor and Ieuan Deulwyn well (nor Deio ab Ieuan Du), although it is almost certain that he knew of them and their work (for example, Guto and Ieuan both received extensive patronage from the Herbert family). On this basis it is natural to presume that Guto’s grief at the death of his fellow-poets was in this case purely professional.
The poem’s main purpose is to acknowledge in a general sense both poets’ contribution to Welsh poetry. Descriptions of Dafydd as ysgol pencerddiaeth ‘a school of master-poetry’ (line 2) and dysg holl Gymru ‘all Wales’s learning’ (4) are attested to in his innovative use of metres, his Latin and cosmopolitan learning and the fact that he won renown as a poet in both north and south Wales (see Williams 2001: 575). The third line is worthy of note: Marw dedryd Nanmor Deudraeth ‘the death of Nanmor Deudraeth’s judgement’. The word dedryd ‘judgement’ could be understood as a description of Dafydd as a man of repute in matters of poetic craft, but the poet’s alleged legal troubles in Gwynedd suggest that the word should be understood literally as a judgement carried out in a legal case (see 3n). It seems that Dafydd was forced to leave his home c.1453 on account of poems he addressed to a married woman named Gwen o’r Ddôl, and spent the rest of his life singing the praises of patrons mainly in the vicinity of Cardigan in Ceredigion. Guto could be implying that the judgement preventing Dafydd from returning to Gwynedd has now been lifted following his death and that Dafydd’s poetry can at last be appreciated from the point of view of holl Gymru ‘all Wales’ (4). (It is possible that the same point is made in Hywel Rheinallt’s elegy for Dafydd, see GTP Atodiad V.7–8; also DN XL.7–8; Gruffydd 1909: 134.)
The second englyn is simply a sequel to the first where the impact of Dafydd’s death is intensified by the death of another poet, Ieuan Deulwyn. Ieuan receives little or no individual praise as the two poets are elegized together in the last two lines.
Date
It is argued in the note on Dafydd Nanmor that he and Ieuan Deulwyn both died within a few weeks or months of each other sometime between 1485 and 1490, and that Guto composed his elegy almost immediately following their deaths. If so the poem was composed when Guto was a very old man, and if it was sung at the abbey in Whitland (presuming that Dafydd was buried there, see DN xxv, and Ieuan too, possibly) it is likely that this was done via a reciter. Otherwise it is possible that the original audience of this poem was the monks of Valle Crucis abbey where Guto spent the last years of his life.
The manuscripts
The poem occurs in 17 manuscripts. The first englyn occurs in every manuscript but only one manuscript contains both englynion, namely LlGC 1553A (this manuscript was unknown to the editors of GGl where an edition of the first englyn alone was given). Although it is possible that the second englyn was composed at a later date by another poet, its contextually close relationship with the first englyn in terms of poetic craft suggests that it is the work of a highly skilled poet. In all likelihood the first poem was composed shortly after the death of Dafydd as an individual composition and written at that time in a manuscript now lost. This copy served as the ultimate source of the poem for all but one of the extant manuscripts. Following Ieuan’s death Guto composed the second englyn which was written along with the first englyn in another manuscript, also now lost, which was probably seen by Thomas Evans, a scribe of LlGC 1553A. The present edition of the poem is based on this manuscript’s almost faultless text. The earliest extant copy of the first englyn is surprisingly the poorest, written in Pen 10 by an unknown scribe towards the end of the fifteenth century.
Previous edition
GGl poem CIII (lines 1–4 only, see note above).
Metre and cynghanedd
Two englynion unodl union, 8 lines.
Cynghanedd: croes 33% (2 lines), traws 33% (2 lines), sain 33% (2 lines), no llusg. The cynghanedd between the words following the rhyme-word in the first line and the beginning of the second line are not included here, but in both englynion consonantal cynghanedd is used.
1 Dafydd The poet elegized in the first englyn, Dafydd Nanmor.
2 pencerddiaeth A form of penceirddiaeth (see GPC 2734).
3 dedryd ‘Judgement’ (see GPC 911 s.v. dedfryd1). For its possible significance in terms of Dafydd’s legal troubles, see above.
3 Nanmor Deudraeth The name of the township or district known as Nanmor in its fullest form, situated in the parish of Beddgelert in the commote of Eifionydd in Gwynedd but considered part of the commote of Ardudwy Uwch Artro in the fifteenth century (see WATU 163; Gresham 1978: 97–8; Powell 2004: 89; Owen and Morgan 2007: 336). It gave its name to the poet Dafydd Nanmor (see 1n), who is reputed to have held land there (see Gresham 1978: 118; DN xvi). According to DN xv the district was named thus ‘from its situation between the Traeth Mawr, formed by the estuary of the Glaslyn, and the Traeth Bach, formed by that of the Dwyryd’ (Deudraeth means ‘two beaches’).
5 Ifan A form of the name Ieuan given in LlGC 1553A, meaning Ieuan Deulwyn, the second poet elegized. The name Ieuan was often changed to Ifan by later scribes, either by scribal error or informalization, and it is perfectly possible that Ieuan was the original form.
5 Deulwyn A shorter form of Pendeulwyn, a parish (according to ID viii; Gruffydd 1922: 42) or township in the parish of Llangynnwr and the commote of Cydweli (according to WATU 173 s.v. Penddeulwyn). It gave its name to the poet, Ieuan Deulwyn (see 5n Ifan).
7 awduriaeth A form of awduraeth (see GPC2 540 s.v. awduriaeth).
Bibliography
Gresham, C.A. (1978), ‘Nanmor Deudraeth’, JMHRS 8: 97–121
Gruffydd, W.J. (1909), Y Flodeugerdd Newydd (Caerdydd)
Gruffydd, W.J. (1922), Llenyddiaeth Cymru o 1450 hyd 1600 (Lerpwl)
Owen, H.W. and Morgan, R. (2007), Dictionary of the Place-names of Wales (Llandysul)
Powell, N.M.W. (2004), ‘Dyfalu Dafydd Nanmor’, LlCy 27: 86–112
Williams, G.A. (2001), ‘The Literary Tradition to c.1560’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 507–628
Roedd Dafydd Nanmor yn un o feirdd mwyaf y bymthegfed ganrif. Canodd Guto englynion marwnad i Ddafydd ac i Ieuan Deulwyn (cerdd 54). Er yr ymddengys mai yn ardal Nanmor Deudraeth yn Eryri y cafodd Dafydd ei fagu, yn y De-orllewin y treuliodd y rhan fwyaf o’i oes ar ôl c.1453 yn sgil anghydfod cyfreithiol, yn ôl pob tebyg, ym mro ei febyd ynghylch ei ganu i wraig briod o’r enw Gwen o’r Ddôl. Fe’i cysylltir yn bennaf â theulu’r Tywyn ger Ceredigion, teulu a roes nawdd iddo dros dair cenhedlaeth, ond canodd hefyd i uchelwyr eraill yn yr un cyffiniau ac i Ddafydd ab Ieuan ab Einion o Edeirnion. Canodd gerddi gwleidyddol i Edmwnd a Siasbar Tudur ac i fab Edmwnd, Harri Tudur, a goronwyd, maes o law, yn Harri VII. Roedd yn fardd crefyddol o bwys a dengys nifer o’i gerddi ymwybyddiaeth o ddysg amrywiol ei oes. Ymhellach, gw. DN; Lewis 1973; Ruddock 1992; Lloyd 1997; Williams 2001: 567–75; DNB Online s.n. Dafydd Nanmor; Powell 2004: passim (yn arbennig tudalen 86, troednodyn 3).
Dyddiad ei farw
A dilyn nodiadau testunol yr englynion marwnad a ganodd Guto i Ddafydd ac yna i Ieuan Deulwyn, mae’n debygol iddo ganu’r englyn cyntaf yn fuan iawn wedi marwolaeth Dafydd. Mae’n bosibl fod yr englyn hwnnw wedi ei ysgrifennu mewn llawysgrif cyn i Guto gyfansoddi’r ail englyn, hynny yw, naill ai cyn i Ieuan farw neu cyn i Guto glywed am ei farwolaeth. Nid yw’n debygol i Guto dreulio rhyw lawer o amser yn cyfansoddi’r englyn ac ni fyddai copïydd o fynach yn abaty Glyn-y-groes, o bosibl, neu hyd yn oed Guto ei hun wedi bod fawr o dro’n ysgrifennu’r englyn ar waelod dalen o lawysgrif. Nid yw’n amhosibl, felly, i Guto gyfansoddi’r englyn rai dyddiau neu hyd yn oed oriau’n unig wedi iddo glywed am y farwolaeth. Ond hyd yn oed pe bai rhai wythnosau neu fisoedd rhwng marwolaethau’r ddau fardd, mae’n debygol fod yr englyn cyntaf, o leiaf, yn gerdd gyfoes iawn. Pryd, felly, bu farw Dafydd?
Canodd Hywel Rheinallt gywydd marwnad i Ddafydd ac i dri bardd arall a fu farw oddeutu’r un adeg, sef, yn eu trefn yn y gerdd honno, Deio (Deio Ddu/Du o bosibl), Ieuan Deulwyn a Thudur Penllyn. Ar hyn o bryd, anodd yw pwyso’n rhy drwm ar dystiolaeth y golygiadau o’r cywydd hwnnw a geir yn Gruffydd (1909: 134–6), DN cerdd XL na GTP cerdd Atodiad V, gan mai testunau dwy lawysgrif yn unig a welwyd yn achos y cyntaf, tair yn achos yr ail a phedair yn achos yr olaf. Yn ôl MCF ceir copi o’r gerdd mewn cyfanswm o dair llawysgrif ar ddeg. Fodd bynnag, mae’n ddigon amlwg mai Dafydd a farwnedir gyntaf a helaethaf yn ugain llinell agoriadol y gerdd. Bardd o’r enw Deio a farwnedir yn y pedair llinell nesaf, sef naill ai, yn unol â golygiad Gruffydd (1909: 135; idem 1922: 13), Dafydd ab Edmwnd:Deio aeth dan wylo’n ol,
Dug gwiwdduw da cywyddolneu, yn unol â’r ddau olygiad arall (DN xxx, 110, 201; GTP 98), Deio ab Ieuan Du (fe’u dilynwyd yn GDID xvii):Deio aeth dan wylo’n ôl,
Du gweddw, ys da gywyddolSonnir yn y cwpled nesaf am Ieuan Deulwyn (GTP V.25–6):Yr ail dydd ar ôl eu dwyn
Y daliwyd Ieuan DeulwynYna marwnedir Tudur Penllyn am bedair llinell ar ddeg cyn canolbwyntio ar y pedwar bardd ynghyd hyd ddiwedd y gerdd.
Yr hyn a barodd i Ruffydd uniaethu Deio â Dafydd ab Edmwnd yw’r ffaith i Dudur Aled ganu cywydd marwnad i’r bardd hwnnw sy’n awgrymu’n gryf iddo farw oddeutu’r un adeg â Dafydd Nanmor ac Ieuan Deulwyn (TA LXX.9–14; hefyd DE cerdd Atodiad I (tudalennau 137–40); Gruffydd 1909: 137):Bwrw Dafydd gelfydd dan gôr,
Bwrw, ddoe, ’n unmodd, Bardd Nanmor;
Bwrw Deulwyn, y brawd olaf,
Blodau cerdd, ba wlad y caf?
Tair awen oedd i’r trywyr
A fai les i fil o wŷr.Cytunir mai at Ddafydd Nanmor y cyfeirir yma yn hytrach na Rhys Nanmor (TA 609; Gruffydd 1922: 13; DN xxi–ii, xxix). Os nad ato ef ei hun y cyfeiriai Tudur fel y brawd olaf, mae’n debygol mai disgrifiad o Ieuan Deulwyn ydyw fel yr olaf i farw o’r tri bardd a enwir yma. Fodd bynnag, fel yn achos y cywydd uchod o waith Hywel Rheinallt, efallai na ddylid rhoi gormod o bwys ar destun golygiad TA o’r gerdd honno gan iddo gael ei seilio ar ddarlleniadau wyth llawysgrif yn unig, tra nodir dros ddeg ar hugain o ffynonellau yn MCF.
Yr hyn y gellir ei honni â chryn sicrwydd ar hyn o bryd yw bod Dafydd Nanmor, Dafydd ab Edmwnd, Ieuan Deulwyn, Tudur Penllyn ac, o bosibl, Deio ab Ieuan Du oll wedi marw o fewn ychydig fisoedd neu flynyddoedd i’w gilydd, a bod Dafydd Nanmor wedi marw cyn y rhan fwyaf ohonynt, onid pob un. Yn anffodus, ar sail yr ychydig waith ymchwil a wnaed ar y beirdd hynny hyd yma, ni ellir pennu dyddiad marw manwl ar gyfer yr un ohonynt. Fodd bynnag, yn y drafodaeth fanylaf a gaed hyd yma ar y pwnc gan Ifor Williams yn DN xxxi–iv, cyfeirir at DE x, lle dadleuir i Ddafydd ab Edmwnd ganu cywydd i Domas Salbri ap Tomas Salbri yn 1497. Tanseiliodd Williams y ddadl honno’n bur hyderus gan ddangos y gallai Dafydd fod wedi canu’r gerdd rywdro rhwng 1470 a 1490. Eto fyth, anodd yw ymddiried yn llwyr yn y dadleuon hynny, a seiliwyd ar olygiad o gerdd (DE cerdd XLIV) a luniwyd ar sail tystiolaeth chwe llawysgrif yn unig o’r cyfanswm o ddwy lawysgrif ar hugain lle diogelwyd y gerdd (MCF).
At hynny, simsan iawn yw golygiad DN o gerdd arall bwysig yn y cyswllt hwn, sef awdl Dafydd Nanmor i Syr Dafydd ap Tomas o’r Faenor yn Is Aeron (DN cerdd XIX), a seiliwyd ar dystiolaeth pedair neu bum llawysgrif o’r pedair ar ddeg a nodir yn MCF (cf. Thomas 2006). Er gwaethaf gwendid testun golygedig yr awdl honno, ceir dadleuon gan Davies (1964–5: 72–3) iddi gael ei chanu rhwng 1490 a 1492. Prif sail ei ddadl yw cofnodion yn Rhenti Esgobion Tyddewi sy’n nodi bod gŵr o’r enw ‘Syr David’ wedi ymddiswyddo o ficeriaeth ym mhlwyf Nancwnlle yng nghwmwd Pennardd yn 1490 a gŵr o’r enw ‘Syr David ap Thomas’ wedi ymddiswyddo o bersondod ym mhlwyf Maenordeifi yng nghwmwd Emlyn Is Cuch yn 1492. Ni cheir rhyw lawer o amheuaeth nad noddwr Dafydd yw’r ail (yn yr awdl fe’i lleolir yn y Vaenawr … geyrllaw Is Aeron, DN XIX.7, 9, 19, 29), ac nid yw fawr o bwys, mewn gwirionedd, a ddylid uniaethu’r cyntaf ag ef. Awgrym Davies yw mai rhwng 1490 ac 1492 yn unig y bu Syr Dafydd yn berson Maenordeifi, a hynny, hyd y gwelir, ar sail y ddadl wan iawn mai am Nancwnlle’n unig y gofalai Syr Dafydd cyn hynny. Mewn gwirionedd, ni cheir dim yn y cofnodion i awgrymu mai yn 1490 y cafodd swydd ym Maenordeifi, eithr yn syml mai yn 1492 y rhoes y gorau iddi. Y flwyddyn 1492 yw terminus ante quem yr awdl, felly, ac ni raid cymryd bod Dafydd Nanmor yn dal i ganu yn ystod y nawdegau.
Diau mai yn sgil golygu o’r newydd weithiau’r holl feirdd a drafodwyd yn unig y bydd modd pennu dyddiad pendant ar gyfer marwolaeth Dafydd Nanmor. Ar hyn o bryd ni ellir llawer gwell na dilyn awgrym Ifor Williams (DN xxxiv) mai tua 1485 y bu Dafydd farw, a phwyso’n bennaf ar y ffaith na cheir cerddi ganddo yn sgil buddugoliaeth Harri Tudur ar faes Bosworth y flwyddyn honno. Efallai ei bod yn fwy diogel rhoi dyddiad ei farw rhwng 1485 ac 1490, ac ystyried iddo farw oddeutu’r un adeg ag Ieuan Deulwyn (fl. c.1460–88).
Llyfryddiaeth
Davies, W.B. (1964–5), ‘Awdl Dafydd Nanmor i Syr Dafydd ap Tomas’, LlCy 8: 70–3
Gruffydd, W.J. (1909), Y Flodeugerdd Newydd (Caerdydd)
Gruffydd, W.J. (1922), Llenyddiaeth Cymru o 1450 hyd 1600 (Lerpwl)
Lewis, S. (1973), ‘Dafydd Nanmor’, R.G. Gruffydd (gol.), Meistri’r Canrifoedd: Ysgrifau ar Hanes Llenyddiaeth Gymraeg gan Saunders Lewis (Caerdydd), 80–92
Lloyd, D.M. (1997), ‘Dafydd Nanmor’, A.O.H. Jarman and G.R. Hughes (eds.), A Guide to Welsh Literature 1282–c.1550 (Cardiff), 170–81
Powell, N.M.W. (2004), ‘Dyfalu Dafydd Nanmor’, LlCy 27: 86–112
Ruddock, G.E. (1992), Dafydd Nanmor (Caernarfon)
Thomas, O. (2006), ‘Awdl Dafydd Nanmor i Rys ap Maredudd o’r Tywyn (PWDN cerdd III)’, Dwned, 12: 73–91
Williams, G.A. (2001), ‘The Literary Tradition to c.1560’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 507–628
Roedd Ieuan Deulwyn yn un o brif feirdd de Cymru yn ystod y bymthegfed ganrif. Canodd Guto englyn marwnad iddo ar y cyd â Dafydd Nanmor (cerdd 54). O’i gymharu â Dafydd, ychydig iawn o sylw a roed iddo hyd yn hyn. Bardd o gyffiniau Caerfyrddin ydoedd, er y gall fod ganddo gyswllt â Chydweli (ID viii–ix), a bu’n clera tai uchelwyr yng Nghymru gyfan, yn cynnwys Prysaeddfed ym Môn a Rhaglan yng Ngwent. Roedd yn fardd serch o bwys a cheir cipolwg diddorol ar wleidyddiaeth y cyfnod mewn ymryson a fu rhyngddo a Bedo Brwynllys o Frycheiniog yn llys Syr Rhisiart Herbert. Ymhellach, gw. ID; ByCy Ar-lein s.n. Ieuan Deulwyn; Gruffydd 1922: 42–5.
Dyddiad ei farw
Am drafodaeth lawn ar y pwnc hwn, gw. y nodyn ar Ddafydd Nanmor. Digon yw nodi yma nad ar seiliau cadarn y ceisiodd Ifor Williams ddyddio rhai o gerddi Ieuan yn ID ix–xi (fel y cyfeddyf ei hun), ond nid ymddengys y gellir dyddio cerdd ganddo wedi c.1488.
Llyfryddiaeth
Gruffydd, W.J. (1922), Llenyddiaeth Cymru o 1450 hyd 1600 (Lerpwl)