Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn deg llawysgrif sy’n dyddio o ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ac eithrio Pen 221, sy’n cynnwys cwpled yn unig, mae’r testunau i gyd yn cynnwys 60 llinell. Ychydig o amrywio geiriol a geir ynddynt, yr un yw trefn sylfaenol eu llinellau a chywir iawn yn gyffredinol yw’r darlleniadau. Diau eu bod i gyd yn tarddu o’r un gynsail ysgrifenedig. Mae llawysgrifau’r gerdd yn gysylltiedig â gogledd Cymru.
Mae Gwyn 4, Pen 77 a LlGC 3049D i gyd yn gopïau o gynsail X (‘Cynsail Dyffryn Conwy’), ac mae gweddill y copïau yn tarddu, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, o’r tair hyn.
Ceir testun y gerdd hon gyda cherdd arall Guto i Syr Siôn Mechain (cerdd 85) heb fwlch rhyngddynt yn yr holl lawysgrifau, sy’n awgrymu mai dyna oedd eu trefn yn X. O gofio mor ddi-drefn fel arfer yw cerddi Guto yn y gynsail honno, mae’n bosibl fod y ddwy gerdd wedi dod i law gwneuthurwr y casgliad ar yr un papur a hwnnw, efallai, wedi dod yn syth o gartref Syr Siôn Mechain. Ategir y posibilrwydd hwn gan safon uchel y darlleniadau.
Seiliwyd y testun golygyddol ar Pen 77.
Trawsysgrifiad: Pen 77.
3–4 Yn Gwyn 4 trefn y llinellau hyn yw 4, 3.
4 dirionrhwydd GGl dirionrwydd ond -rh- a geir yn y llawysgrifau. Ar y calediad wrth droi’r terfyniad haniaethol -rwydd yn -rhwydd, gw. TC 28.
20 ef o’r Felly LlGC 3049D, Pen 77; cf. o’r Moelgrwn yn y llinell nesaf. Ond gellid ystyried hefyd ddarlleniad Gwyn 4 efo’r ‘ef y’, darlleniad sydd yr un mor foddhaol ac sy’n uniaethu Siôn Mechain â’r paun difost yn hytrach na’i wneud yn ddisgynnydd ohono. Hawdd fuasai trin efo ar gam fel ef + yr arddodiad o yn hytrach nag fel ffurf ar y rhagenw personol (gw. GPC 1172 dan efô). Yn GGl darllenir efo, ’r ond pair hynny ddodi’r acen yn y fan anghywir.
21 Moelgrwn Gwyn 4 membrwn (a cf. GGl memrwn), darlleniad na rydd gystal synnwyr. Mae’n ddiddorol sylwi, er mai moelgrwn a geir yn LlGC 3049D, fod llinell yno yn rhagflaenu’r llinell hon ac wedi ei chroesi allan yn darllen patrwm or menrwn mawr. Dichon mai menrwn oedd darlleniad cynsail X ond ei fod wedi ei gywiro yno, efallai trwy ddodi dotiau dileu dano, a bod William Salesbury wedi codi’r darlleniad gwallus yn lle’r un cywir.
41 anoff GGl anhoff. Felly Gwyn 4 ond anoff yn LlGC 3049D a Pen 77 (ar y ddwy ffurf, gw. GPC2 294).
51 o syrth LlGC 3049D, Gwyn 4 ond Pen 77 os syrth.
55 fugail Pen 77 vugeil ond LlGC 3049D vvgail, Gwyn 4 vûgail. Gellir ystyried darlleniad Thomas Wiliems yn enghraifft o olion orgraff Cymraeg Canol neu ynteu’n ymgais i ‘gywiro’r’ gynghanedd lusg wyrdro.
Dyma’r cyntaf o ddau gywydd mawl a ganodd Guto’r Glyn i Syr Siôn Mechain, person Llandrinio, plwyf ar lan afon Hafren ac i’r dwyrain o’r Trallwng ym Mhowys (am yr ail gywydd iddo, gw. cerdd 85).
Egyr y gerdd trwy sôn am ddau ŵr a fu’n noddwyr gwych i Guto, sef yr Athro Dafydd Cyffin a Syr Bened o Gorwen (llinellau 1–8). Yna cyflwynir trydydd noddwr o’r un safon, sef Syr Siôn Mechain, gan ei foli am ei haelioni, ei ofal dros eglwysi’r ardal, ei dras a’i groeso i feirdd (9–36). Datgan Guto yn awr ei fwriad i ymweld â Syr Siôn yn Llandrinio, lle diogel i fod hyd yn oed os daw hi’n rhyfel (37–50). Cloir â dyhead y bardd am fwynhau nawdd Syr Siôn yn ei henaint, hyd yn oed os golyga yrru ŵyn o Landrinio i Loegr (51–60).
Dyddiad
Dywed Guto fod Syr Bened wedi mynd i nef (8). Yn 1464 y bu Syr Bened farw, felly ni all y gerdd fod yn gynharach na’r flwyddyn honno. Ymhellach, a rhoi bod Syr Siôn yn rheithor Llandrinio tua 1470, fel sy’n fwyaf tebygol, yna gellir cynnig mai tua’r un adeg y canodd Guto iddo. Byddai hynny hefyd yn gyson â sôn Guto am ei henaint. Gall llinell 43 fod yn cyfeirio at amgylchiadau gwleidyddol 1471–2 (gw. y nodyn).
Golygiad blaenorol
GGl cerdd CVI.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 60 llinell.
Cynghanedd: croes 38% (23 llinell), traws 28% (17 llinell), sain 24% (14 llinell), llusg 10% (6 llinell).
1 tir saint Sef, mae’n debyg, yr ardal yng ngogledd-ddwyrain Powys Wenwynwyn a gynhwysai gymydau Mochnant Is Rhaeadr a Deuddwr (gw. 15n) lle trigai’r ddau ŵr a grybwyllir yn 5–8.
5–6 Athro Ddafydd / Cyffin Sef Dafydd Cyffin o Langedwyn, eglwyswr dysgedig y canodd Guto iddo, gw. cerdd 94. Am dreiglo enw person yn dilyn teitl, gw. TC 113.
6 gwin o’r gwŷdd Tybed a oedd gan Ddafydd Cyffin ei winllan ei hun?
7 person Corwen Sef Syr Bened ap Hywel, y canodd Guto fawl a marwnad iddo, gw. cerddi 43, 47. Cyfeirir ato yn llinell 52 fel curad Corwen.
8 i nef yr aeth Bu farw Syr Bened yn 1464.
13 conffesor Cf. 101.13–16 lle dywed Guto am yr offeiriad Syr Rhys, Galw Syr Rys, f’eglwyswr i, / ’Y nghurad, i’m cynghori, / Offisial a chyffeswr / A meddyg ym oedd y gŵr; hefyd GIG XVII.15–16 lle dywed Iolo Goch am Ieuan, esgob Llanelwy, Conffesor, can offisial / Sy i ti, Asa a’u tâl. Roedd gwrando cyffes yn un o orchwylion mwyaf nodweddiadol clerigwyr a oedd wedi eu hurddo’n offeiriaid.
14 aeliau muchudd Cf. GMRh 4.5 Llew aur Mechain, lliw’r muchudd.
15 Deuddwr Cwmwd rhwng afonydd Efyrnwy a Hafren a gynhwysai blwyfi Carreghwfa, Llandrinio, Llandysilio, Llansanffraid Deuddwr a rhan o blwyf Meifod, gw. WATU 57, 264; GMRh 4.13n.
16 du Gw. 14n.
17 rhif neu gyfrif gwŷr Ymddengys fod gan Syr Siôn gysylltiadau milwrol. Dichon iddo fod yn filwr ar ryw adeg o’i fywyd, megis Syr Bened, person Corwen, o bosibl.
18 Oswallt Brenin Seisnig a merthyr o hanner cyntaf y seithfed ganrif; gw. ODCC3 1208. Mae cyffelybu Syr Siôn iddo yn briodol gan fod Oswallt, heblaw bod yn ddyn duwiolfrydig, hefyd yn filwr.
20 o’r paun difost Cyfeiriad at dad Syr Siôn, fe ymddengys.
21 o’r Moelgrwn mawr Cyfeiriad arall, fe ymddengys, at linach Siôn Mechain, y tro hwn, mae’n debyg, at ryw gyndad. Ni welwyd neb o’r enw y Moelgrwn yn yr achau ond mae’r ffurf yn dwyn i gof enwau megis y Moelgoch, y Moelfrych a’r ansoddair mawr mewn enwau megis Rhodri Mawr. O ran ffurf, gallai’r enw ddynodi lle hefyd, megis rhyw fryn (cf. Dryll Moelgrwn yn Llanfachreth, ArchifMR), neu ryw drigfan. Os enw ar fryn ydyw, a all mai ffordd arall sydd yma o gyfeirio at fryniau Breiddin nid nepell o gartref Syr Siôn? Dywed Maredudd ap Rhys fod tŷ Siôn Mechain ym mron craig Freiddin, GMRh 4.9 (a cf. llinell 4 yno, dan gryno graig); ond ni cheir unrhyw dystiolaeth ddarfod galw’r bryniau hyn yn ddim amgen na Breiddin.
22 tair allawr Cyfeirir at yr eglwysi dan ofal Syr Siôn. Eglwys Llandrinio oedd un ohonynt. Yn ôl GMRh 106, roedd gan Syr Siôn blwyf cyfagos Llandysilio hefyd ac, o bosibl, y Felwern. Eglwys Llandysilio, felly, fyddai un o’r ‘allorau’ eraill. Ynglŷn â phlwyf y Felwern, ni cheir unrhyw gyfeiriadau swyddogol ato tan yr unfed ganrif ar bymtheg ond mae’n werth sylwi bod Thomas Brereton wedi ei benodi ‘to the “Rectory of Llandrinio, Llandisilio and Melverley” ’ yn 1557 (Thomas 1908–13: iii, 37). Gan fod y Felwern yn agos i blwyfi Llandrinio a Llandysilio, ni fyddai’n syndod petai’r tri phlwyf yn ffurfio math o uned naturiol. Os oedd plwyf y Felwern dan ofal Syr Siôn, buasai’r eglwys yno ar safle eglwys Pedr Sant y gellir ei gweld heddiw (ibid.).
24 bro Drunio Sef Llandrinio, plwyf yng nghwmwd Deuddwr, Powys, lle roedd cartref Syr Siôn Mechain, gw. WATU 108, 264. Ar Drunio, gw. LBS iv: 265.
28 gwell Mae’n goleddfu eglwyswr yn y llinell flaenorol ac yn treiglo fel ansoddair cymharol mewn gosodiad negyddol, gw. TC 66–7; cf. 23–4 Ni bu neb ... / ... dirionach.
30 Iorwerth Foel Sef Iorwerth Foel o Bengwern (fl. 1270–1313). Ni sonnir am Syr Siôn Mechain yn yr achau, ond ymsefydlodd Maredudd ab Ednyfed Gam, un o wyrion Iorwerth Foel, ym Mechain a’r cyffiniau ac awgryma Enid Roberts mai i’w ddisgynyddion ef yno, yng Ngharreghwfa, y perthynai Syr Siôn Mechain; gw. WG1 ‘Tudur Trefor’ 12–13, WG2 ‘Tudur Trefor’ 13A; GMRh 106–7.
34 Cf. GMRh 4.60 Ni bôm heb ei wyneb ef.
36 saer serch Sef bardd serch. Cyffredin yw cyfeirio at fardd fel saer, ac yn benodol fel saer coed.
43–50 Teimla Guto ei fod ef a beirdd eraill o’r un oed yn rhy hen i fynd i ryfel mwyach a breuddwydia am gilio i’r coed ger Llandrinio lle y gall fyw’n llawen yn y gobaith y daw Owain (50) â gwell byd iddynt cyn hir. Mae’r gyfeiriadaeth yn dwyn i gof ddull o fyw herwyr megis Llywelyn ab y Moel yng Nghoed y Graig Lwyd (a gw. 46n) neu Ddafydd ap Siancyn yng Ngharreg y Gwalch (gw. GSCyf cerdd 10; GTP cerdd I).
43 o daw rhyfel Gall fod y geiriau hyn yn adlewyrchu amgylchiadau gwleidyddol ansicr. Os felly, byddai’r blynyddoedd 1471–2, tuag adeg cyfansoddi’r gerdd (gw. uchod), yn taro’n dda.
46 llwyn drain ger Llandrunio Diau mai at guddfan herwyr y cyfeirir. Roedd bryniau Breiddin gerllaw (gw. 21n) lle buasai digon o goed a phrysgwydd, ond roedd hefyd yr enwog Goed y Graig Lwyd ger Llanymynech (gw. 43–50n) ryw dair milltir i’r gogledd o Landrinio. Cyfeiria Guto at y lle hwn yn 66.35–6 Y ddwy Faelor, wadd felen, / Ai’ gyr i’r coed o’r graig hen.
47–8 Ciliwn … / Callwyr Cyfeiria’r lluosog at Guto a beirdd eraill, cf. 44 I dreisiaw beirdd dros y byd.
49 yn y gwŷdd Cydier wrth ni: dengys y sôn yn y llinell nesaf mai ar ôl bod yn y gwŷdd, nid tra’n dal ynddynt, y disgwylir y [b]yd newydd.
50 Owain Dengys y cyd-destun mai gwaredwr disgwyliedig y traddodiad brud Cymreig – y mab darogan – a olygir. Fe’i gelwid yn Owain fel arfer ac weithiau byddid yn ei uniaethu â ffigur hanesyddol, megis Owain ab Urien, Owain Lawgoch neu Owain Glyndŵr; ond droeon eraill anodd gwybod pwy yn union a olygir ac ar adegau felly mae’n bosibl hefyd mai gwaredwr yn gyffredinol a olygir ganddo. Er hynny, ceir sawl cyfeiriad arall gan Guto at Owain Glyndŵr: 53.14, 72.49, 75.39, 82.35, 90.38, 102.21, 106.62, 67, 107.46. Yn ei foliant i feibion Edward ap Dafydd o Fryncunallt cyfeiria Guto atynt fel Ceraint gwych … / I’r gŵr a ddaw â’r gwared (103.23–4), ac nid oes amheuaeth nad Owain Glyndŵr a olygir yno, er nas enwir (gw. ibid. 23–4n); mae’n debygol mai ato ef y cyfeirir yn y testun hwn hefyd.
50 n heb ei hateb o flaen yr acen yn y brifodl.
52 curad Corwen Sef Syr Bened, gw. 7n.
53–8 Ceir hanes helyntion Guto yn gyrru ŵyn i Loegr yng ngherddi 44, 44a, 45.
59 drwy na ‘Ar yr amod na’ yw’r ystyr a roddir yn GGl 360 ac fe’i cynhwysir ymysg ystyron drwy yn GPC 3630 (g), er yn betrus. Nid oes rhaid deall y geiriau yn yr ystyr honno fan yma.
59–60 na cheisio’r … / Siars na mach Yr hyn a olygir yw na fyddai Syr Siôn yn gofyn i Guto roi blaendal na meichiau iddo rhag iddo (sef Guto) beidio â dychwelyd o’i orchwyl o werthu ŵyn drosto; cf. yr hyn a ddywed Llywelyn ap Gutun am Siôn Mechain, GLlGt 5.9–10, Syr Siôn, ni fynnai siars, oedd, / Mechain, gŵr mwya’ iachoedd. Gan fod Guto yn cyffelybu Syr Siôn (yn anuniongyrchol) i Syr Bened yn 51–2, ymddengys mai’r un oedd dull Syr Bened wrth benodi Guto yn borthmon defaid; yn wir, yn ei gywydd porthmona i Syr Bened (44.66) sonia Guto amdano’i hun yn dychwelyd o’r daith i Loegr heb ond [C]einiog ernes, sy’n awgrymu nid yn unig nad oedd Syr Bened wedi mynnu blaendal ganddo ond ei fod hefyd wedi ei dalu o flaen llaw am ei wasanaeth. Mae’n oblygedig hefyd yng ngeiriau Guto, wrth gwrs, y gallai cyflogwr arall fod wedi codi blaendal.
Llyfryddiaeth
Thomas, D.R. (1908–13), The History of the Diocese of St. Asaph (3 vols., Oswestry)
This is the first of two praise poems that Guto’r Glyn sang to Sir Siôn Mechain, parson of Llandrinio, a parish on the banks of the river Severn and to the east of Welshpool in Powys (for the second cywydd to him, see poem 85).
The poem opens by mentioning two men who were splendid patrons of Guto, namely Master Dafydd Cyffin and Sir Benet of Corwen (lines 1–8). Then, a third patron of the same quality is introduced, Sir Siôn Mechain, who is praised for his generosity, his care for the churches of the locality, his lineage and his welcome to poets (9–36). Guto now expresses his intention of visiting Sir Siôn in Llandrinio, a safe place to be even should war break out (37–50). The poem is brought to its conclusion by expressing the poet’s yearning to enjoy Sir Siôn’s patronage in his old age, even if it means driving lambs from Llandrinio to England (51–60).
Date
Guto says that Sir Benet has gone to heaven (8 i nef). Sir Benet died in 1464, therefore the poem cannot be earlier than that. Further, on the assumption that Sir Siôn was rector of Llandrinio around 1470, as is most probable, then it may be suggested that Guto sang to him about the same time. That would also tally with Guto’s mention of his old age. It is also possible that line 43 refers to the political circumstances of 1471–2 (see the note).
The manuscripts
The poem has been preserved, in nearly all cases complete, in ten manuscripts dating from the second half of the sixteenth century to the nineteenth century. There is little verbal variation in the texts, the basic line sequence is the same and the readings generally are very accurate. They doubtless derive from a common written exemplar. The manuscripts have north Wales connections. Gwyn 4, Pen 77 and LlGC 3049D are all copies of the lost ‘Conwy Valley Exemplar’ and all the other texts stem from these three.
The text of this poem is found together with Guto’s other poem to Sir Siôn Mechain (poem 85) with no intervening break in all the manuscripts, which suggests that they were in this order in the lost exemplar. In view of the disorderliness of Guto’s poems in that exemplar, it may be that both poems came to the compiler of the collection on the same piece of paper, which in turn could have come straight from Sir Siôn Mechain’s home. The high quality of the readings lends support to this possibility.
The edited text is based on Pen 77.
Previous edition
GGl poem CVI.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 60 lines.
Cynghanedd: croes 38% (23 lines), traws 28% (17 lines), sain 24% (14 lines), llusg 10% (6 lines).
1 tir saint Probably the area in north-east Powys Wenwynwyn which comprised the commotes of Mochnant Is Rhaeadr and Deuddwr (see 15n) where the two men mentioned in 5–8 dwelt.
5–6 Athro Ddafydd / Cyffin Dafydd Cyffin of Llangedwyn, a learned churchman to whom Guto sang, see poem 94. On the lenition of a personal name following a title, see TC 113.
6 gwin o’r gwŷdd Did Dafydd Cyffin have his own vineyard?
7 person Corwen Sir Benet ap Hywel to whom Guto sang poems of praise and elegy, see poems 43, 47. He is referred to in line 52 as curad Corwen.
8 i nef yr aeth Sir Benet died in 1464.
13 conffesor Cf. 101.13–16 where Guto says of the priest Syr Rhys, Galw Syr Rys, f’eglwyswr i, / ’Y nghurad, i’m cynghori, / Offisial a chyffeswr / A meddyg ym oedd y gŵr ‘I called upon Syr Rhys, my priest, / my curate, to advise me, / the man was an official and a confessor / and a doctor to me’; also GIG XVII.15–16 where Iolo Goch says of Ieuan, bishop of St Asaph, Conffesor, can offisial / Sy i ti, Asa a’u tâl ‘a confessor, a hundred officials / are yours, Asaph will pay them’, IGP 17.15–16. Hearing confessions was one of the most typical tasks of clerics who had been ordained priests.
14 aeliau muchudd Cf. GMRh 4.5 Llew aur Mechain, lliw’r muchudd ‘golden lion of Mechain, dark colour’.
15 Deuddwr A commote between the rivers Efyrnwy and Severn which comprised the parishes of Carreghwfa, Llandrinio, Llandysilio, Llansanffraid Deuddwr and part of the parish of Meifod, see WATU 57, 264; GMRh 4.13n.
16 du See 14n.
17 rhif neu gyfrif gwŷr It appears that Sir Siôn had military links. He may have been a soldier at some stage of his life, like Sir Benet, parson of Corwen.
18 Oswallt St Oswald, the English king and martyr of the first half of the seventh century; see ODCC3 1208. Comparison of him to Sir Siôn is appropriate since Oswald, besides being a pious man, was also a soldier.
20 o’r paun difost Apparently an allusion to Sir Siôn’s father.
21 o’r Moelgrwn mawr Another reference, possibly, to Siôn Mechain’s pedigree, probably in this case to some ancestor. I have not seen anyone called y Moelgrwn in the genealogies but the name does bring to mind names such as y Moelgoch, y Moelfrych and the adjective mawr in names such as Rhodri Mawr. In form, the name could denote a place too, such as a hill (cf. Dryll Moelgrwn in Llanfachreth, ArchifMR), or some habitation. If it is the name of a hill, is this another way of referring here to the Breidden hills not far from Sir Siôn’s home? Maredudd ap Rhys says that Siôn Mechain’s house is ym mron craig Freiddin ‘in the bosom of the rock of Breidden’, GMRh 4.9 (and cf. line 4 dan gryno graig ‘under a compact rock’); but there is no known evidence that these hills were ever called anything other than Breiddin.
22 tair allawr A reference to churches in Sir Siôn’s care. Llandrinio was one of them. According to GMRh 106, Sir Siôn was responsible for the nearby parish of Llandysilio as well, and possibly Melverley. Llandysilio church, therefore, would be one of the other allorau ‘altars’. As for the parish of Melverley, there are no official references to it until the sixteenth century but it is worth noting that Thomas Brereton was appointed ‘to the “Rectory of Llandrinio, Llandisilio and Melverley” ’ in 1557 (Thomas 1908–13: iii, 37). As Melverley was near to the parishes of Llandrinio and Llandysilio, it would not be surprising if the three parishes formed a natural unit. If the parish of Melverley was under the care of Sir Siôn, the church would have stood on the site of the church of St Peter which can be seen today (ibid.).
24 bro Drunio Llandrinio, a parish in the commote of Deuddwr, Powys, where Sir Siôn Mechain’s home was, see WATU 108, 264. On Trunio, see LBS iv: 265.
28 gwell It qualifies eglwyswr in the preceding line, and mutates like a comparative adjective in a negative proposition, see TC 66–7; cf. 23–4 Ni bu neb ... / ... dirionach.
30 Iorwerth Foel Iorwerth Foel of Pengwern (fl. 1270–1313). There is no mention of Sir Siôn Mechain in the genealogies, but Maredudd ab Ednyfed Gam, one of the grandsons of Iorwerth Foel, settled in Mechain and the environs, and Enid Roberts suggests that it was to his descendants there, in Carreghwfa, that Sir Siôn Mechain was related; see WG1 ‘Tudur Trefor’ 12–13, WG2 ‘Tudur Trefor’ 13A; GMRh 106–7.
34 Cf. GMRh 4.60 Ni bôm heb ei wyneb ef ‘let us not be without his presence.’
36 saer serch I.e., a love poet. A poet is often likened to a craftsman, and specifically to a carpenter.
43–50 Guto feels that he and his contemporaries of the same age are too old to go to war any longer and dreams of retreating to the woods by Llandrinio where he can live happily in the hope that Owain (50) will bring them better fortunes before long. The allusions are reminiscent of the lifestyle of outlaws such as Llywelyn ab y Moel in Coed y Graig Lwyd (and see 46n) or Dafydd ap Siancyn in Carreg y Gwalch (see GSCyf poem 10; GTP poem I).
43 o daw rhyfel These words probably reflect uncertain political conditions. If so, the years 1471–2, about the time the poem was presented (see above), would be appropriate.
46 llwyn drain ger Llandrunio No doubt an outlaw’s hideout. The Breidden hills were nearby (see 21n) where there would have been plenty of wood and undergrowth, but there was also the famous Coed y Graig Lwyd by Llanymynech (see 43–50n) some three miles north of Llandrinio. Guto refers to this place in 66.35–6 Y ddwy Faelor, wadd felen, / Ai’ gyr i’r coed o’r graig hen ‘The two Maelors, the sallow mole, / will drive him to the wood from the old rock.’
47–8 Ciliwn … / Callwyr The plural refers to Guto and other poets, cf. 44 I dreisiaw beirdd dros y byd.
49 yn y gwŷdd Take with ni: the next line shows that the byd newydd is expected after being in the woods, not while still in them.
50 Owain The context shows that the awaited saviour of the Welsh prophetic tradition – the son of prophecy – is meant here. He was usually called Owain and sometimes identified with a historical figure, such as Owain ab Urien, Owain Lawgoch or Owain Glyndŵr; but at other times it is difficult to establish who exactly is meant and in such instances the name may also refer generally to a redeemer. However, Guto has several other references to Owain Glyndŵr: 53.14, 72.49, 75.39, 82.35, 90.38, 102.21, 106.62, 67, 107.46. In his praise to the sons of Edward ap Dafydd of Bryncunallt he refers to them as Ceraint gwych … / I’r gŵr a ddaw â’r gwared ‘excellent kinsmen / to the man who will bring salvation’ (103.23–4), and there is no doubt that Owain Glyndŵr is meant there, although he is not named (see ibid. 23–4n); it is probably the same person who is meant here.
50 The n has not been answered before the accent in the end-rhyme.
52 curad Corwen Sir Benet, see 7n.
53–8 Guto’s woes when driving sheep to England are related in poems 44, 44a, 45.
59 drwy na ‘On condition that ... not’ is the sense given in GGl 360 and it is included among the meanings of drwy in GPC 3630 (g), albeit tentatively. It is not necessary to understand the words in that sense here.
59–60 na cheisio’r … / Siars na mach What is meant is that Sir Siôn would not ask Guto to give him a deposit or surety should he (Guto) not return from his task of selling lambs for him; cf. what Llywelyn ap Gutun says about Siôn Mechain, GLlGt 5.9–10, Syr Siôn, ni fynnai siars, oedd, / Mechain, gŵr mwya’ iachoedd ‘Sir Siôn Mechain, he would not demand a deposit, / had the greatest pedigree.’ As Guto is comparing Sir Siôn (indirectly) to Sir Benet in 51–2, it appears that Sir Benet followed the same procedure in appointing Guto as sheep drover; indeed, in his droving poem to Sir Benet (44.66) Guto speaks of himself returning from the journey to England with only a Ceiniog ernes, which suggests not only that Sir Benet had not demanded a deposit from him but that he had also paid him in advance for his service. It is also, of course, implicit in Guto’s words that another employer could have charged a deposit.
Bibliography
Thomas, D.R. (1908–13), The History of the Diocese of St. Asaph (3 vols., Oswestry)
Canodd Guto ddau gywydd i Syr Siôn Mechain, sef cywydd mawl (cerdd 84) a chywydd ar achlysur adeiladu ei dŷ newydd yn Llandrunio (cerdd 85). Canodd Maredudd ap Rhys yntau ddau gywydd mawl iddo (GMRh cerddi 4 a 5) a chyfansoddodd Llywelyn ap Gutun gywydd i ofyn am ddwy sbectol gan Siôn, un ar ei gyfer ef ei hun a’r llall ar gyfer ei gyfaill o fardd, Owain ap Llywelyn ab y Moel (GLlGt cerdd 5). Cyfeirir at Guto ar ddiwedd cywydd Llywelyn fel bardd a ganai i Siôn (ibid. 5.48).
Achres
Ni welwyd enw Siôn yn yr achau, ond dywed Guto ei fod o hil Iorwerth Foel a’i had (84.30n) a dichon ei fod yn disgyn o Faredudd ab Ednyfed Gam, un o wyrion Iorwerth Foel o Bengwern, a ymsefydlodd ym Mechain a’r cyffiniau (GMRh 106–7). Un gŵr yn unig a elwir yn berson Llandrunio y daethpwyd o hyd iddo yn yr achresi, sef Syr Sieffrai, mab i noddwr Guto, Maredudd ap Hywel o Groesoswallt (WG2 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 11 A3).
Ei yrfa
Roedd Siôn yn berson Llandrinio, plwyf ar lan afon Hafren ac i’r dwyrain o’r Trallwng ym Mhowys. Gallai’r teitl Syr o flaen ei enw ddynodi gŵr a chanddo radd brifysgol ynteu offeiriad cyffredin heb radd o’r fath (GST 4), ond ni chafwyd tystiolaeth fod Siôn wedi graddio mewn prifysgol ac nid yw geiriau Guto yn awgrymu hynny (cf. Syr Dafydd Trefor, Syr Thomas Wiliems). Awgryma’r ‘Mechain’ yn ei enw mai yn y cwmwd hwnnw yr oedd ei wreiddiau, a chan fod Llandrinio yng nghwmwd Deuddwr, mae’n amlwg iddo symud o’r naill le i’r llall. Roedd Siôn, heblaw bod yn ŵr eglwysig, hefyd yn ddyn cefnog. Ymddengys fod ganddo gynifer â thri phlwyf dan ei ofal (84.22n) a sonia Guto amdano’n byw yn Llandrinio mewn tŷ newydd sylweddol a dŵr o’i gwmpas (cerdd 85). Yn ôl Glanmor Williams (1976: 265), y tebyg yw iddo, megis Syr Bened, ennill ei gyfoeth trwy fagu defaid, ac mae Guto yn ategu hyn. Tua 1470 yw’r dyddiad a rydd Thomas (1908–13: iii, 158) ar gyfer ei reithoriaeth yn Llandrinio, ac mae’n bosibl i hynny gyd-daro ag adeg codi tŷ newydd a phwysig Siôn a chanmoliaeth Guto o’r achlysur. Mae Guto yn canmol Siôn am ei haelioni a’i santeiddrwydd ond ymddengys fod ganddo hefyd, fel Syr Bened, gysylltiadau milwrol (84.17n).
Llyfryddiaeth
Thomas, D.R. (1908–13), The History of the Diocese of St. Asaph (3 vols., Oswestry)
Williams, G. (1976), The Welsh Church from Conquest to Reformation (2nd ed., Cardiff)