Y llawysgrifau
Diogelwyd y gerdd hon mewn 23 llawysgrif. Mae’n debygol ei bod wedi ei chopïo ar y cyd â cherdd 87 yn X2 ac X4 gan fod y ddau’n gywyddau diolch am bwrs (gw. y stema). Ychydig o wahaniaethau a geir rhwng y ddau draddodiad llawysgrifol yn achos y ddwy gerdd. O ran X2 mae’n bosibl fod copïydd BL 14969 wedi ymgynghori â ffynhonnell arall wrth godi ei destun o LlGC 3050D, ac mae’n bosibl nad o destun LlGC 6681B y cododd John Jones Gellilyfdy gwpled cyntaf y gerdd yn Pen 221, eithr o gopi arall coll a gopïwyd ganddo (gw. 2n). Llinellau 41–8 a 53–7 yn unig a geir yn CM 129, a hynny yng nghanol cerdd 87. Anwybyddwyd y tair llawysgrif hyn wrth lunio testun y golygiad. Yn achos X4 fe ymddengys mai William Salesbury yn Gwyn 4 a fu fwyaf ffyddlon i’w gynsail, a bod Thomas Wiliems yn Pen 77 a chopïydd anhysbys LlGC 3049D wedi bod braidd yn esgeulus mewn mannau gan wneud yr un camgymeriadau o dro i dro (gw. 31n, 33n micar a 48n). Am fwy o fanylion ar y ddau draddodiad llawysgrifol, gw. cerdd 87 (testunol).
Ceid trefn unigryw yn X1, lle cyfnewidiwyd llinellau 25–6 a 27–8, ynghyd â llinellau 55–6 a 57–8. Testun digon blêr ydyw ar y cyfan ac nid yw’n werthfawr ond o safbwynt ategol. Testun blerach fyth a geid yn X3 a berthynai, o bosibl, i draddodiad llafar digon ansafonol. Er mai testun Pen 126 yw’r cynharaf (ar ôl 1505), fe’i codwyd o ffynhonnell goll X3 ac ni ellir dibynnu arno. Ymddengys i’r copïydd ddwyn ei destun i ben wedi llinell 52 yn wreiddiol, gan geisio ychwanegu llinellau 53–7, a 58–60 o bosibl, ar ymyl y ddalen yn ddiweddarach. Ond gan na cheid digon o le ar y ddalen copïodd linellau 53–60 ddwywaith mewn dwy fan arall yn y llawysgrif. Trinnir y tri thestun fel un yn y nodiadau isod. Collwyd llinellau 47–8 o’r testun hwnnw, o bosibl yn sgil neidio o gwridog ar ddechrau llinell 47 i gwrid ar ddechrau llinell 49. Gellid dadlau bod testun LlGC 16964A yn rhagori ar eiddo Pen 126 mewn mannau, ond ceir hefyd fwy o ôl ailgyfansoddi a chamgopïo arno (gw., e.e., 4n min Gwyrfái, 27–8n a 59n).
Ceir testun cynnar arall yn llaw Elis Gruffydd yn C 3.4 ond, fel yn achos X3, mae’n debygol ei fod yn deillio o ffynhonnell lafar na ellir dibynnu arni. Ceir ynddo nifer o ddarlleniadau unigryw yr amheuir yn gryf eu bod yn waith datgeiniad neu fardd digon abl, ac fe’i defnyddiwyd yn unig, fel rheol, pan fo’n ategu darlleniadau llawysgrifau eraill (gw. nodiadau 15, 16 yw, 32, 33 micar, 51, 54, 58 a 60). Collwyd llinellau 21–2 o’r testun hwnnw yn sgil cynnal cymeriad geiriol rhwng llinellau 20 a 23.
Ymddengys mai yn X4 y ceid y testun glanaf (er nad yw’n ddi-fai, gw. 11n, 30n a 52n), yn arbennig pan fo’n cytuno ag X2 ac un neu fwy o’r llawysgrifau eraill. Fe’i dilynwyd, fel rheol, wrth lunio testun y golygiad.
Trawsysgrifiadau: C 3.4, Gwyn 4 a LlGC 17114B.
Teitl
Gelwir y noddwr yn Mastr Risiart Cyffin yn Gwyn 4 a C 1.550, ond diau mai o’r gerdd ei hun y codwyd yr wybodaeth honno (gw. 5). Fe’i gelwir yn ddeon Bangor yn LlGC 17114B a C 1.550, ac er nad yw Guto’n ei alw’n ddeon yn y cywydd hwn ni cheir lle i gredu nad deon ydoedd ym Mangor pan ganwyd y gerdd.
Llinellau a wrthodwyd
Ceid yn X3 gwpled ychwanegol yn dilyn llinell 26:
Gorau mab am gwrw a medd,
Gorau llên gair holl Wynedd.
Er na cheir dim o’i le arno fel y cyfryw ni cheir digon o dystiolaeth o’i blaid i’w gynnwys yma. Ymddengys yn gwpled digon cyffredinol y gellid ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw noddwr eglwysig yng Ngwynedd.
2 mi a’i sathr Dilynir C 3.4, X3 ac X4. Nid yw’n eglur beth a geid yn X2: ceir darlleniad y golygiad yn LlGC 6681B ond mi a sathr yn y llawysgrifau eraill (yn cynnwys Pen 221). Ceid mwyai yn X1, yn ôl pob tebyg.
4 min Gwyrfái Gthg. ailgyfansoddi yn LlGC 16964A mangre vawr.
4 Gwyrfái Dilynir mwyafrif y llawysgrifau. Cf. gwrvai yn Gwyn 4 a Pen 77, a allai fod yn ffurf ddilys ar yr enw (gw. Thomas 1938: 26 ac ArchifMR).
5 mastr Dilynir X2 ac X4. Cf. darlleniad GGl yn C 3.4, X1 ac X3 meistr.
7 gwelais Dilynir yn betrus X1 ac X2 gweles, a chymryd mai gweleis a geid yn y gynsail lle nad oedd yn gwbl eglur. Gall fod copïydd y gynsail wedi copïo -i- ac -s yn agos iawn at ei gilydd neu wedi anghofio ysgrifennu -i- ac wedi ei hychwanegu uwchben y gair, gan achosi i’r darlleniad gweles ymddangos yn C 3.4, X2 ac X4. Gall fod rhai o’r copïwyr a ysgrifennodd gweles yn ei ystyried yn ffurf lafar ar ddarlleniad y golygiad, yn hytrach na’r ffurf gorff. 3 un. gweles, sydd, er yn bosibl o ran ystyr, yn annhebygol iawn.
9 cynhonwr Cf. X4 kanhonwr. Ceir -h- ym mhob testun a drafodir yma (ni cheir darlleniad GGl canonwr). Er na cheir -h- yn GPC 417 d.g. canonwr, fe’i ceir yn rhai o’r enghreifftiau yno (cf. 59.25n (testunol)).
11trefnu y mae Gthg. darlleniad GGl yn X4 trefnu mae (ond cf. Gwyn 4 trefny mae) a darlleniadau carbwl Pen 126 tervyn may a LlGC 16964A trefnv wna. Cywesgir trefnu y yn ddeusill.
15 banter Gthg. darlleniad GGl yn C 3.4 bantri, a ychwanegwyd yn lle darlleniad y golygiad yn LlGC 6681B.
16 yw Dilynodd GGl ddarlleniad unigryw C 3.4 ywr.
16 cwrtiwr Dilynir mwyafrif y llawysgrifau. Cf. Brog I.2, LlGC 3049D, Pen 77 a Pen 126 cyrtiwr. Ceid GGl gwrtiwr yn X2.
17 Annedd fawr yw’r neuadd wen Dilynir X4 (a ategir gan Pen 126), lle bernir y ceid y darlleniad anos. Sylwer nad yw sain yr f- o flaen yr acen yn yr orffwysfa yn eglur iawn ar lafar yn sgil ei llyncu’n rhannol gan -dd. Ceisiwyd gwell cynghanedd ar bapur yn y llawysgrifau eraill: C 3.4 annedd vaur ywr noddva wen (cf. 58n), X1 anedd wawr, X2 noddfa wen (sef darlleniad GGl).
21–2 Ni cheir y llinellau hyn yn C 3.4 (gw. y nodyn uchod ar y llawysgrifau).
25 drillu bydd Gthg. C 3.4 a Pen 126 y bydd. Bernir na cheir digon o dystiolaeth o’i blaid yma (gthg. 11n).
26 lywenydd Dilynir C 3.4, LlGC 3049D, LlGC 3056D a thair llawysgrif gynharaf X2. Cf. C 1.550, LlGC 16964A a Pen 77 lawenydd, Gwyn 4 lewenydd.
27–8 Collwyd y llinellau hyn o destun LlGC 16964A.
28 aml Dilynir mwyafrif y llawysgrifau, lle ceir amyl gan amlaf (gthg. Pen 77 aml). Gthg. X1 emyl, nad yw’n argyhoeddi’n llwyr o ran ystyr ac sy’n rhoi llinell wythsill. Ymddengys mai diweddaru’r darlleniad hwnnw a wnaed yn GGl ymyl.
30 rhoi’r Collwyd y fannod yn X4.
31 Urien O ran X4 yn Gwyn 4 yn unig y ceir y darlleniad cywir. Gthg. vrenin yn y ddwy lawysgrif arall. Y tebyg yw bod darlleniad X4 yn wallus ac mai adfer y darlleniad cywir a wnaeth William Salesbury o’i ben a’i bastwn ei hun.
32 mawr fydd rhaib hen Dilynir C 3.4, X2 ac X4. Gthg. X1 mawr fydd hap hen ac, yn achos X3, Pen 126 mawr ywr raid hen a LlGC 16964A mawr yw hap hynn.
33 sum Dilynodd GGl ddarlleniad LlGC 17114B swm (drwy LlGC 3050D).
33 micar Yn Gwyn 4, LlGC 16964A ac X1 yn unig y ceir y darlleniad cywir hwn. Gthg. bicar neu ficar yn y llawysgrifau eraill, a kar yn unig yn C 3.4.
35 benaig afael Gthg. C 3.4 benna gavael.
37 yma Gthg. X1 imi.
47–8 Ni cheir y llinellau hyn yn Pen 126 (gw. y nodyn uchod ar y llawysgrifau).
48 grasu O ran X4 yn Gwyn 4 yn unig y ceir darlleniad y golygiad. Gthg. grisau yn y ddwy lawysgrif arall.
49 egored Dilynir mwyafrif y llawysgrifau.
50 goed Gthg. LlGC 16964A ac X1 gwau.
51 Alwar mawr o liwiau’r main Gthg. C 3.4 a llawr mawr yn lliwior main.
52 brodiai Gthg. X4 brodia.
53 ysgrepan Cf. ffurf amrywiol yn LlGC 17114B a Pen 126 ysgrapan (gw. GPC 3843 d.g. ysgrepan).
54 wyneb Yn C 3.4 hwynneb yn unig y ceir yr anadliad caled (a ddilynwyd yn GGl). Gellid dilyn y darlleniad hwnnw, ond, a dilyn na ddisgwylid h heb ei hateb o flaen yr acen, gall fod eithriad i’r rheol yma (ymhellach, gw. TC 154). Gall hefyd mai’r pwrs ei hun a olygir.
55 cylennig Dilynir C 3.4, Gwyn 4, Pen 126, X1 a X2. Cf. LlGC 3049D celennig, LlGC 16964A a Pen 77 calennig. Ni cheir darlleniad y golygiad fel ffurf amrywiol ar y gair yn GPC 393 d.g. calennig, eithr celennig yn unig, ond fe’i ceir yno mewn enghraifft o’r unfed ganrif ar bymtheg a bernir bod y gefnogaeth a geir iddo yn y llawysgrifau yma’n sail i ddadlau y dylid ei gydnabod fel ffurf amrywiol.
58 coffr fawr Gthg. C 3.4 kofyr vavr (cf. 17n), a ategir, o bosibl, gan LlGC 16964A kophr vair a chan y ddau ddarlleniad a geir ar gyfer y llinell hon yn Pen 126 kofr vawr a kofr avr. Er bod coffr f’aur yn ddarlleniad digon derbyniol nid ymddengys y ceir digon o dystiolaeth o’i blaid, a sylwer bod darlleniad y golygiad yn gwrthgyferbynnu’n briodol ag offer fân yn ail ran y llinell.
59 coffun Dilynir C 3.4 ac X2, er hwylustod. Gthg. X1 a’r cyntaf o’r ddau ddarlleniad a geir yn Pen 126 cwffin, X4 a’r ail ddarlleniad yn Pen 126 coffyn (a chywiriad yn LlGC 6681B). Cawliwyd yn LlGC 16964A kyphyn rrudd kaiph hwnn ai rroes. Ar y ffurfiau, gw. GPC 539 d.g. coffin.
60 cwff Gthg. C 3.4 kvff.
Llyfryddiaeth
Thomas, R.J. (1938), Enwau Afonydd a Nentydd Cymru (Caerdydd)
Un o ddau gywydd yw hwn a ganodd Guto i ddiolch am bwrs. Canodd i ddiolch am bwrs a gafodd gan Gatrin ferch Maredudd o Abertanad (cerdd 87), a cheir tebygrwydd rhwng y cywydd hwnnw a’r cywydd hwn, a ganodd i Risiart Cyffin (gw. nodiadau 44, 52, 55, 57 a 58). Rhoir sylw celfydd i gartref y noddwr ym Mangor ar ddechrau’r gerdd (1–6). Yn y cwpled agoriadol datgan Guto ei fwriad i drigo bellach mewn un man, man sydd rhwng môr a mynydd yn ôl y drydedd linell, sef ym Mangor, fel y datgelir yng ngeiriau olaf yr ail gwpled. Nid enwir Rhisiart hyd y trydydd cwpled, ac o hynny ymlaen (7–20) pwysleisir ei gyswllt ef â’r un man hwnnw, sef yr ailadeiladu sydd ar waith yn yr eglwys a’r haelioni y mae’n ei ddangos yno. Troir wedyn at haelioni cyffredinol y noddwr o’i gymharu â noddwyr eraill nad yw rhoi’n ddim ond poendod iddynt (21–4), gan ganolbwyntio’n bennaf ar yr arlwy a ddarperir ganddo (25–8). Ond yn ychwanegol at yr haelioni hwnnw mae Rhisiart wedi rhoi’r ddwyrodd i Guto, sef aur a phwrs i’w gadw ynddo (29–32). Ar y pwrs hwnnw y canolbwyntir am weddill y cywydd (33–60), lle dyfelir ef yn gelfydd cyn cloi’r gerdd drwy ddymuno oes hir i’r noddwr yn ôl yr arfer. (Mae’n bosibl mai at y pwrs hwn y cyfeirir gan Lywelyn ap Gutun yn ei ffug-farwnad i Guto, gw. 65a.16n.)
Dyddiad
Penodwyd Rhisiart Cyffin yn ddeon Bangor rywdro rhwng 1474 a 1478 a bu farw, yn ôl pob tebyg, yn 1492. Ymddengys yn ddiogel tybio bod y gerdd hon wedi ei chanu rhwng c.1480 a 1492, ac ategir y dybiaeth honno gan sylw Guto yn llinell 32 mawr fydd rhaib hen (hynny yw, roedd Guto’n hen ŵr pan ganwyd y gerdd hon) a chan gyfartaledd uchel y gynghanedd groes (gw. y nodyn isod). A chymryd bod Guto’n rhy hen i glera y tu hwnt i gyffiniau abaty Glyn-y-groes erbyn c.1490, cynigir y canwyd y gerdd hon rywdro yn ystod wythdegau’r ganrif.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd XCIV.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 60 llinell.
Cynghanedd: croes 75% (45 llinell), traws 18% (11 llinell), sain 7% (4 llinell), dim llusg.
4 min Gwyrfái Dynodai afon Gwyrfai yng Ngwynedd ffin gynt rhwng cymydau Is Gwyrfai ac Uwch Gwyrfai yng nghantref Arfon (gw. WATU 86). Mae’n annhebygol mai at yr afon ei hun y cyfeirir yma gan nad yw Bangor ‘ar lan’ Gwyrfai o gwbl, eithr cryn bellter oddi wrthi yng nghornel ogleddol cwmwd Is Gwyrfai. Bernir, felly, y cyfeirir yma naill ai at safle Bangor yn y cwmwd hwnnw neu at Fangor mewn ardal ar wahân i Is Gwyrfai, sef ym Maenol Bangor (gw. ibid. y map ar dudalen 237). Dengys y gynghanedd mai ar yr ail sill y syrth yr acen yma, ac felly hefyd yng nghywydd marwnad Tudur Aled i Elin Bwclai (gw. TA LXXVI.2 Och gau ar fedd Uwch Gwyrfâi). Ymhellach, gw. ibid. 613; Thomas 1938: 26–7; Williams 1962: 52; Richards 1998: 22–3; Owen and Morgan 2007: 184.
4 Bangor Sef Bangor Fawr yn Arfon (gw. WATU 9).
5 Rhisiart Rhisiart Cyffin, deon Bangor a rhoddwr y pwrs.
6 Marthin Sef Martin o Tours yng Ngâl a fu farw yn 397 (gw. ODCC3 1050). Cysegrwyd iddo eglwys Llanfarthin i’r dwyrain o’r Waun yn swydd Amwythig heddiw (gw. WATU 118; yn yr Oesoedd Canol fe’i cynhwyswyd mewn ardal a elwid y Traean, gw. ibid. y map ar dudalen 304).
6 y Cyffin Sef Rhisiart Cyffin (gw. 5n).
7 gwelais dawn Enghraifft o -s + dd- yn rhoi -s + d- (gw. TC 192).
7 dawn Gw. GPC 906 d.g. (c) ‘un â chyneddfau neu allu godidog (am bennaeth, arglwydd, &c.)’. Bernir mai Rhisiart a olygir, ond gall hefyd mai cyfeirio at rinweddau llesol y llys yn gyffredinol a wneir (gw. ibid. (a)).
7 eglwys Deinioel Sef eglwys Deiniol fab Dunawd fab Pabo Post Prydyn, sant a drigai yn y chweched ganrif ac a gysylltir â Bangor Is-coed yng nghwmwd Maelor Saesneg ac, yn bennaf, â Bangor yn Arfon (gw. 4n). Ef oedd esgob cyntaf a sylfaenydd y fynachlog yno (gw. LBS ii: 325–31; ODCC3 468; Lewis 1943: 7; DNB Online).
8 gwŷdd ar ei gwal foel Sef naill ai pren newydd yn sgil y gwaith ailadeiladu a wnaed gan Risiart ym Mangor neu, yn fwy tebygol, y groes sanctaidd ar lun crog.
9 cyn henaint Gobaith Guto yw y bydd Rhisiart yn llwyddo i gwblhau ei gynlluniau adeiladu cyn yr âi’n rhy hen.
10 ail Caint Cyfeiriad confensiynol at Gaer-gaint, y ganolfan eglwysig enwog yn nwyrain Caint (gw. ODCC3 284–5).
11 tref Fe’i deellir fel ‘trigfan’ yn yr aralleiriad (gw. GPC 3572 d.g. tref (b)), ond efallai y dylid ei gyplysu â tref yn llinellau 13 ac 14, sef tref yn ystyr fodern y gair (hynny yw, tref Bangor).
11 tref wen Deellir yr ansoddair fel ‘sanctaidd’ yn yr aralleiriad, ond gall hefyd mai waliau gwyngalchog y bwriadai Rhisiart eu codi ym Mangor a olygir.
12 tŷ’r esgob Gwnaeth Rhisiart waith adeiladu ym mhlas yr esgob ym Mangor (gw. Salisbury 2011: 82–3).
13 Bangor Gw. 4n.
14 Gwynedd Saif Bangor (gw. 4n) yng nghantref Arfon yng Ngwynedd Uwch Conwy (gw. WATU 85).
15 panter Gw. GPC 2681 d.g. panter1 ‘swyddog gynt (mewn neuadd, &c.) a ofalai am y pantri ac am ddarparu bara’.
16 cwrtiwr oediog Disgrifiad o Guto yw hwn, yn ôl pob tebyg, fel hen ŵr a fyddai’n treulio cryn dipyn o’i amser mewn llysoedd.
17 neuadd wen Gw. 11n tref wen.
18 Un annedd â’r wenynen Cymherir llys Rhisiart â bydaf, sef nyth neu gwch gwenyn, gan fod ynddo le i nifer o westeion a digonedd o fwyd melys. Cf. disgrifiad Hywel Dafi o lys Morgan ap Rhosier yn ardal Gwynllŵg, gw. 18a.21n Bydaf Rhosier ab Adam.
23 ar osteg Bernir mai adeg ffurfiol mewn neuadd a olygir, ac yn benodol y tawelwch a geid er mwyn gwrando cerdd yn cael ei datgan (gw. GPC 1514 d.g. gosteg 1).
28 aml Yn yr aralleiriad dilynir GPC2 225 d.g. (c) ‘toreithiog, dibrin’, ond sylwer bod ibid. (d) ‘mynych, cyson’ yr un mor berthnasol.
31 Urien Sef Urien fab Cynfarch, brenin teyrnas Rheged yn yr Hen Ogledd yn y chweched ganrif (gw. TYP3 508–12; WCD 632–5). Roedd yn batrwm o noddwr hael i’r cywyddwyr, a hoffai eu hystyried eu hunain yn olynwyr i’w fardd enwog, Taliesin (cf. DG.net 15.33–6).
32 mawr fydd rhaib hen At Guto ei hun y cyfeirir yma’n gellweirus fel hen ŵr sy’n rheibio llys ei noddwr. Dwg rhaib i gof y cyhuddiad a wnaeth Syr Siôn Leiaf yn erbyn Guto, Hywel Grythor a Gwerful Mechain o fod yn dair gormes ar Risiart Cyffin fel y bu tair gormes arall ar Feuno gynt (gw. Salisbury 2011: 101 (llinellau 25–8) Atarw’r glêr, Guto o’r Glyn, / Yw Llywarch i holl Lëyn, / Bwytawr mawr, bwytâi’r meirch, / Bwyd di-ferf, bwytâi forfeirch). Ymhellach, gw. 101a.61–2n.
33–4 micar … / sienral Sef benthyciad o’r Saesneg vicar general. Gw. GGl 356; GPC 2452 d.g. micar; OED Online s.v. vicar general 2 ‘An ecclesiastical officer, usually a cleric, appointed by a bishop as his representative in matters of jurisdiction or administration’.
36 Rhys Sef Cymreigiad o Risiart. Am enghreifftiau eraill o alw Rhisiart Cyffin yn Rhys, gw. 59.32n; Salisbury 2011: 102 (llinell 56) Dawn a roed i’r deon Rys; TA VIII.55 Llu ’r ynys at Rys, lle ’r wtreser, CXX.15–16 Nid un henwaed o’n hynys, / Dan yr haul, a’r Deon Rhys, 78 Wyth oed y rhain i’th iad, Rhys!; GLlGt 10.30 Efô, Rhys, dau Ifor Hael. Ymhellach, gw. Rhisiart Cyffin. Mae’n debygol y cyfeirid at yr Abad Rhys ap Dafydd o Ystrad-fflur fel Richard mewn rhai cofnodion (gw. Salisbury 2009: 77n90).
36 baetsler Gw. GPC2 601 d.g. batsler, lle rhoir yr enghraifft hon wrth ystyr (a) ‘marchog ifanc’. Ond go brin fod hynny’n gweddu i ddeon Bangor, a’r tebyg yw mai’r ail ystyr, ‘person wedi ennill y radd gyntaf mewn prifysgol’, sydd fwyaf priodol (gw. ibid. (b)). Roedd Rhisiart yn ŵr gradd yn y gyfraith ganon.
37 chwemorc Sef, yn ôl pob tebyg, yr aur, yn drosiadol, a dderbyniodd Guto gyda’r pwrs (gw. 31–2).
38 pwyth Chwery Guto’n gyfrwys ag ystyr y gair hwn yma, sef, yn gyntaf, ‘tâl, gwobr, rhodd’, ond hefyd ‘hynny o edau, &c., a dynnir drwy frethyn, lledr, croen, &c., ag un gwthiad o’r nodwydd, gwnïad’ (gw. GPC 2957 d.g. (a) a (c)).
38 Iorc Tref Caerefrog yn swydd Efrog yng ngogledd Lloegr.
39 pali Gw. GPC 2674 d.g. ‘sidan a brodwaith arno’.
40 wybr a thân Cyfleu disgleirdeb y pwrs a wneir yma, gyda phwyslais, o bosibl, ar ei gochni yn sgil lliw’r awyr adeg y wawr (cf. 47 Gwridog megis gwawr ydoedd) a’i eurder yn sgil prif liw tân.
42 y mab o’r Glyn Sef Guto ei hun. Ar leoliad y Glyn, gw. Bywyd Guto’r Glyn.
43 a ŵyr pris Disgwylid treiglad yma ond, yn ôl TC 210, ceir ‘esiamplau o gadw cysefin y goddrych ar ôl gŵyr (a hynny yn arwydd, efallai, mai cysefin y gwrthrych a ddilynai yn wreiddiol)’.
44 prennol Cf. disgrifiad Guto o’r pwrs a gafodd yn rhodd gan Gatrin ferch Maredudd o Abertanad, gw. 87.24 prennol aur.
44 esgob Yn drosiadol y disgrifir Rhisiart fel esgob yma. Yn ôl Powicke and Fryde (1961: 275) a Jones (1965: 5) roedd gŵr o’r enw Richard Edenham (neu Edenam) yn esgob Bangor rhwng 1465 a 1494.
44 Gwynedd Gw. 14n.
46 Drwy wydr y doir i’w edrych Gall mai hynodrwydd y pwrs a gyfleir yma drwy awgrymu y dôi cymaint o bobl i’w weld ym Mangor fel y byddai’n rhaid i rai syllu drwy ffenestri’r eglwys er mwyn cael cip arno (cf. 33 Sum crair a roes micar ym). Posibilrwydd arall yw bod yr ystyr yn goferu o’r llinell flaenorol, ac mai’r darn o aur (neu’r darian wych), sydd fel pe bai wedi ei wneud o wydr, yw’r peth y deuir i’w edrych yn sgil ei enwogrwydd.
51 o liwiau’r main Cyfleir disgleirdeb y pwrs fel gleiniau llachar.
52 Nis brodiai Ynys Brydain Awgrym mai o’r cyfandir y daeth y pwrs, fel yr honnir yn achos y pwrs a gafodd Guto’n rhodd gan Gatrin ferch Maredudd o Abertanad (gw. 87.23n; cf. ibid. 24 Prennol aur nis prynai’r wlad).
53 ysgrepan Gw. GPC 3843 d.g. ‘bag neu waled fechan, yn enw. un a gludir gan bererin, bugail, neu gardotyn, bag llyfrau, cod, poced (ddatodadwy), cnapsach’.
53 Siêb Ffurf ar Siêp, sef ffurf Gymraeg ar Cheapside yn Llundain lle ceid marchnad enwog yn ystod yr Oesoedd Canol (gw. EEW 124).
54 ei wyneb A chymryd mai at ysgrepan yn y llinell flaenorol y cyfeirir yma, disgwylid ei hwyneb, ond ni cheir yr h- yn rheolaidd mewn testunau o’r cyfnod hwn (gw. y nodyn testunol ar y llinell hon a TC 154). Posibilrwydd arall yw mai at y pwrs y cyfeirir (cf. 50 trwyddaw).
55 cylennig Tybed ai rhodd oedd hon a gafodd Guto ar droad y flwyddyn, ynteu ai rhodd yn gyffredinol a ddynodir gan y gair? Sylwer mai adeg y Nadolig y cafodd Guto bwrs yn rhodd gan Gatrin ferch Maredudd o Abertanad (gw. 87.11n). Tybed a oedd traddodiad o roi pwrs yn anrheg yr adeg honno o’r flwyddyn?
55 Cylennig hael o Wynedd Cf. Guto yn ei gywydd i ddiolch am bwrs gan Gatrin ferch Maredudd o Abertanad, gw. 87.11 Calennig haul y waneg.
55 Gwynedd Gw. 14n.
57 caets i adar Cf. disgrifiad Guto o’r pwrs a gafodd yn rhodd gan Gatrin ferch Maredudd o Abertanad, gw. 87.59 Cist aur fal caets aderyn.
58 coffr fawr Cf. disgrifiad Guto o’r pwrs a gafodd yn rhodd gan Gatrin ferch Maredudd o Abertanad, gw. 87.20 goffr sirig.
58 nis câi offer fân Gw. GPC 2634 d.g. offer (a) ‘(un o’r) gêr neu’r taclau a ddefnyddir gan weithiwr, crefftwr, &c., wrth wneud gorchwyl neu ddilyn ei grefft, teclyn(nau) neu arf(au) a ddefnyddir i wneud gwaith manwl neu gain’. Cadwai crefftwyr megis seiri eu hoffer mewn pyrsiau, ond nid felly Guto yn yr achos hwn. Cf. Guto yn ei gywydd i ddiolch am bwrs i Gatrin ferch Maredudd o Abertanad, gw. 87.57 Cwrt mawr, ni ddwg grotiau mân.
59 Cyffin Gw. 6n.
60 cwff Gw. GPC 637 d.g. cwff1 ‘addurn ar waelod llawes yn ffurfio rhan o ddilledyn; band gwahanedig o liain, &c., a wisgir am yr arddwrn’. Dyma ddisgrifiad digon teg o’r pwrs, a fyddai’n sicr ar ymyl llawes y bardd pan fyddai’n twrio ynddo â’i law. Ond sylwer y perthyn yr enghraifft gynharaf o’r gair cuff yn yr ystyr honno yn yr OED Online s.v. 2 (a) i 1522, tra cheir enghreifftiau o cuff ‘a mitten or glove’ yn ystod y drydedd ganrif a’r ddeg a’r bymthegfed ganrif (gw. ibid. 1). Mae’r ystyr honno’n agosach ati yma, yn awgrymu bod llaw Guto yn y pwrs mor aml fel yr ymddangosai’r pwrs fel maneg.
Llyfryddiaeth
Jones, B. (1965), John Le Neve: Fasti Ecclesiae Anglicanae 1300–1541 (London)
Lewis, H. (1943), Yr Elfen Ladin yn yr Iaith Gymraeg (Caerdydd)
Owen, H.W. and Morgan, R. (2007), Dictionary of the Place-names of Wales (Llandysul)
Powicke, F.M. and Fryde, E.B. (1961), Handbook of British Chronology (London)
Richards, M. (1998), Enwau Tir a Gwlad (Caernarfon)
Salisbury, E. (2009), ‘ “Y traed ataw a redant”: Golwg ar Ganu Guto’r Glyn i Rys, Abad Ystrad-fflur’, LlCy 32: 58–84
Salisbury, E. (2011), ‘Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, Deon Bangor’, Dwned, 17: 73–118
Thomas, R.J. (1938), Enwau Afonydd a Nentydd Cymru (Caerdydd)
Williams, I. (1962), Enwau Lleoedd (ail arg., Lerpwl)
Guto composed two poems of thanks for purses, one for Catrin daughter of Maredudd of Abertanad and the present poem for Rhisiart Cyffin, dean of Bangor. For possible similarities between this poem and the poem to Catrin (poem 87), see notes 44, 52, 55, 57 and 58. Rhisiart’s home in Bangor is meticulously praised in lines 1–6. Guto declares his intention to reside in un man ‘one place’ in the first couplet, a place situated rhwng môr a mynydd ‘between the sea and the highland’. The location is revealed at the end of line 4, namely ym Mangor ‘in Bangor’. Rhisiart himself is not named until the third couplet, and from then on (7–20) Guto praises his patron’s connection with the ‘one place’, specifically the building work that he has commissioned there and his great hospitality. Rhisiart’s generosity is then praised in comparison with other miserly patrons who begrudge the poets their gifts (21–4), and special mention is given to his feasts (25–8). Yet, in addition to the generosity that Rhisiart has already shown the poet, Guto then declares that he has also given him [y] ddwyrodd ‘the two gifts’, namely gold and a purse in which to keep it (29–32). In the remaining lines the purse is lauded skilfully by using a technique known as dyfalu (an elevated form of comparing) and the poem is concluded in the usual manner by wishing a long life for the patron. (It is possible that it is this purse that Llywelyn ap Gutun had in mind when he composed a satirical poem for Guto, see 65a.16n.)
Date
Rhisiart Cyffin was appointed dean of Bangor between 1474 and 1478 and died, in all likelihood, in 1492. It seems likely that this poem was composed between c.1480 and 1492, a presumption confirmed by a reference to Guto’s old age in line 32 mawr fydd rhaib hen ‘great will be the voraciousness of an old man’, and the poem’s high proportion of cynghanedd groes (see the note below). Assuming that Guto was too old to travel far from the vicinity of Valle Crucis abbey by c.1490, this poem was probably composed during the 1480s.
The manuscripts
Copies of this poem have survived in 23 manuscripts. It was possibly copied alongside poem 87 in the original source as both are poems of thanks for purses, and both poems’ manuscript traditions are roughly the same. It seems that some copies derive from sub-standard oral traditions. This edition is based mainly on the texts of Gwyn 4, LlGC 3049D and Pen 77, which share the same source, as well as C 3.4 and LlGC 17114B.
Previous edition
GGl poem XCIV.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 60 lines.
Cynghanedd: croes 75% (45 lines), traws 18% (11 lines), sain 7% (4 lines), no llusg.
4 min Gwyrfái The river Gwyrfai in Gwynedd marked the boundary between commotes Is Gwyrfai and Uwch Gwyrfai (‘below’ and ‘above’ the river respectively) in the cantref of Arfon (see WATU 86). It is unlikely that Guto is referring to the river itself as Bangor was not ‘beside Gwyrfai’ but situated far from the river on the northern boundary of the commote of Is Gwyrfai. Min Gwyrfái ‘at the edge of Gwyrfai’ therefore refers to Bangor’s location either in the commote of Is Gwyrfai or in another region altogether, namely Maenol Bangor (see ibid. map on page 237). The cynghanedd in this line shows that the stress in Gwyrfái fell on the second syllable, as is confirmed in Tudur Aled’s elegy for Elin Bwclai (see TA LXXVI.2 Och gau ar fedd Uwch Gwyrfâi ‘Alas that Uwch Gwyrfai’s grave was closed’). On the name, see ibid. 613; Thomas 1938: 26–7; Williams 1962: 52; Richards 1998: 22–3; Owen and Morgan 2007: 184.
4 Bangor Bangor Fawr in Arfon (see WATU 9).
5 Rhisiart Rhisiart Cyffin, dean of Bangor and the poem’s patron.
6 Marthin St Martin of Tours in Gaul who died in 397 (see ODCC3 1050). A church was founded in his name at St Martin’s (Llanfarthin) near Chirk in Shropshire (see WATU 118; in the Middle Ages it was situated in a region known as the Traean, see ibid. map on page 304).
6 y Cyffin Rhisiart Cyffin (see 5n).
7 dawn See GPC 906 s.v. (c) ‘fig. one of outstanding gifts or ability (of chief, lord, &c.)’. Guto could be referring to Rhisiart or to the general qualities of his church (see ibid. (a)).
7 eglwys Deinioel The church of St Deiniol fab Dunawd fab Pabo Post Prydyn, a saint who lived during the sixth century and who is associated with Bangor in Arfon (see 4n) and, to a lesser extent, with Bangor Is-coed in the commote of Maelor Saesneg. He founded a monastery at Bangor and was its first bishop (see LBS ii: 325–31; ODCC3 468; Lewis 1943: 7; DNB Online.
8 gwŷdd ar ei gwal foel ‘Wood on its bare wall’ could mean timber used in rebuilding the church or (more likely) a rood.
9 cyn henaint Guto hopes that Rhisiart will succeed in completing his rebuilding work before he is too old.
10 ail Caint A conventional reference to Canterbury, the great ecclesiastical centre in Kent (see ODCC3 284–5).
11 tref Understood as ‘residence’ in the translation (see GPC 3572 s.v. tref (b)), although ‘town’ is also possible, as seen in lines 13 and 14 (i.e. the town of Bangor).
11 tref wen Although the adjective [g]wen (‘white’) is understood as ‘blessed’ in the translation, it could also refer to the whitewashed walls of the church (due to Rhisiart’s building work).
12 tŷ’r esgob Rhisiart commissioned rebuilding work in the ‘bishop’s house’ in Bangor (see Salisbury 2011: 82–3).
13 Bangor Gw. 4n.
14 Gwynedd Bangor (see 4n) was situated in the cantref of Arfon in Gwynedd Uwch Conwy (see WATU 85).
15 panter See GPC 2681 s.v. panter1 ‘former household official in charge of bread-supply and the pantry’.
16 cwrtiwr oediog In all likelihood a description of Guto himself as an ‘old courtier’ who would spend most of his time frequenting noblemen’s courts.
17 neuadd wen See 11n tref wen.
18 Un annedd â’r wenynen Rhisiart’s court is compared to a beehive as it could house a multitude of guests and provide plenty of delicious food. Cf. Hywel Dafi’s description of Morgan ap Rhosier’s court near Gwynllŵg, see 18a.21n Bydaf Rhosier ab Adam ‘Beehive of Roger ab Adam’.
23 ar osteg ‘In public’, in all likelihood in a formal setting at court, namely when there would be silence in order to listen to a poem being recited (see GPC 1514 s.v. gosteg 1).
28 aml Understood as ‘plentiful, abundant’, but ‘frequent, constant’ is also possible (see GPC2 225 s.v. (c) and (d)).
31 Urien Urien fab Cynfarch, king of Rheged in the Old North during the sixth century (see TYP3 508–12; WCD 632–5), regarded by the poets as an exemplary generous patron whose poet Taliesin served as their progenitor (cf. DG.net 15.33–6).
32 mawr fydd rhaib hen Guto refers to himself playfully as an old man who ravages his patron’s court. The word rhaib ‘voraciousness’ brings to mind the poet Syr Siôn Leiaf’s description of Guto, Hywel Grythor and Gwerful Mechain as tair gormes ‘three oppressions’ on Rhisiart Cyffin akin to three other oppressions suffered by St Beuno according to legend (see Salisbury 2011: 101 (lines 25–8) Atarw’r glêr, Guto o’r Glyn, / Yw Llywarch i holl Lëyn, / Bwytawr mawr, bwytâi’r meirch, / Bwyd di-ferf, bwytâi forfeirch ‘The minstrels’ half-gelded bull, Guto of the Glyn, is Llywarch for all Lleyn, a great eater, he’d eat the horses, tasty food, he’d eat whales’). See further 101a.61–2n.
33–4 micar … / sienral From the English ‘vicar general’. See GGl 356; GPC 2452 s.v. micar; OED Online s.v. vicar general 2 ‘An ecclesiastical officer, usually a cleric, appointed by a bishop as his representative in matters of jurisdiction or administration’.
36 Rhys A rendering into Welsh of the name Rhisiart or Richard. For other examples of addressing Rhisiart Cyffin by the name Rhys, see 59.32n; Salisbury 2011: 102 (line 56) Dawn a roed i’r deon Rys ‘justice was given to the Deon Rhys’; TA VIII.5 Llu’r ynys at Rys, lle ’r wtreser ‘The island’s host towards Rhys, where revelry is done’, CXX.15–16 Nid un henwaed o’n hynys, / Dan yr haul, a’r Deon Rhys ‘No one from our island under the sun has the same old lineage as the Deon Rhys’, 78 Wyth oed y rhain i’th iad, Rhys! ‘May your pate live for eight ages more than these, Rhys!’; GLlGt 10.30 Efô, Rhys, dau Ifor Hael ‘Him, Rhys, my Ifor Hael’. See further Rhisiart Cyffin. It seems that Abbot Rhys ap Dafydd of Strata Florida was named Richard in a few records (see Salisbury 2009: 77n90).
36 baetsler See GPC2 601 s.v. batsler, where the present example is shown under (a) ‘young knight’. But it is highly unlikely that the dean of Bangor was a knight, and ‘one who holds a first degree from a university’ is far more appropriate (see ibid. (b)). Rhisiart was a graduate in canon law.
37 chwemorc The aur ‘gold’, figuratively, that Guto received with the purse (see 31–2).
38 pwyth Guto cleverly makes use of pwyth’s different meanings in order to describe the purse, namely ‘payment, reward, gift’ and ‘(single) stitch, tack, suture’ (see GPC 2957 s.v. (a) and (c)).
38 Iorc The city of York in Yorkshire.
39 pali See GPC 2674 s.v. ‘brocaded silk’.
40 wybr a thân The purse’s luminosity is compared to (possibly) the redness of the ‘sky’ at sunrise (cf. 47 Gwridog megis gwawr ydoedd ‘it was red-coloured like dawn’) and the gold colour of ‘fire’.
42 y mab o’r Glyn Guto refers to himself as ‘the man of the Glyn’. On the Glyn’s location, see Guto’r Glyn: A Life.
44 prennol Cf. Guto’s description of the purse given to him by Catrin daughter of Maredudd of Abertanad, see 87.24 prennol aur ‘a golden box’.
44 esgob Rhisiart is described figuratively as a ‘bishop’. According to Powicke and Fryde (1961: 275) and Jones (1965: 5) Richard Edenham (or Edenam) was bishop of Bangor between 1465 and 1494.
44 Gwynedd See 14n.
46 Drwy wydr y doir i’w edrych Guto could be referring to the peculiarity of the purse by implying that so many people wished to see it that some would have to peer in through the church’s windows to catch a glimpse of it (cf. 33 Sum crair a roes micar ym ‘A vicar general gave me the sum of a relic’). Another possibility is that it is the darn o aur ‘piece of gold’ (or [t]arian wych ‘brilliant shield’) that is made of [g]wydr ‘glass’ and gaped at.
52 Nis brodiai Ynys Brydain ‘No one on the Island of Britain could embroider it’, a suggestion that the purse was made on the continent, as is implied of the purse given to Guto by Catrin daughter of Maredudd of Abertanad (see 87.23n; cf. ibid. 24 Prennol aur nis prynai’r wlad ‘a golden box that the whole land couldn’t buy’).
53 ysgrepan See GPC 3843 s.v. ‘(pilgrim’s, &c.) scrip, wallet, satchel’.
54 Siêb A form of Siêp, in its turn a Welsh form of the name Cheapside in London where a great medieval market was held (see EEW 124).
54 ei wyneb A h- usually occurs before vowels following the 3 singular feminine form of a noun: therefore ei hwyneb if Guto is referring to ysgrepan in the previous line. Yet Guto may have known of an exception to the rule (if it was indeed a rule in his time) (see TC 154), or he may simply be referring to the masculine noun pwrs ‘purse’ (cf. 50 trwyddaw ‘through it’).
55 cylennig Possibly a ‘New Year’s gift’ or simply a ‘gift’ for any occasion. It is noteworthy that Guto received a purse from Catrin daughter of Maredudd of Abertanad as a Christmas gift (see 87.11n). Was it a tradition to give a purse as a present at that time of year?
55 Cylennig hael o Wynedd Cf. Guto in his poem of thanks for a purse given to him by Catrin daughter of Maredudd of Abertanad, see 87.11 Calennig haul y waneg ‘a festive gift from a sun of the appearance’.
55 Gwynedd See 14n.
57 caets i adar Cf. Guto’s description of the purse given to him by Catrin daughter of Maredudd of Abertanad, see 87.59 Cist aur fal caets aderyn ‘a gold chest like a bird-cage’.
58 coffr fawr Cf. Guto’s description of the purse given to him by Catrin daughter of Maredudd of Abertanad, see 87.20 goffr sirig ‘a silk coffer’.
58 nis câi offer fân See GPC 2634 s.v. offer (a) ‘tool(s), instrument(s), tackle, equipment’. Guto distances himself from craftsmen such as carpenters who would carry their tools in a purse. Cf. Guto’s description of the purse given to him by Catrin daughter of Maredudd of Abertanad, see 87.57 Cwrt mawr, ni ddwg grotiau mân ‘a great courtyard, it doesn’t take small groats’.
59 Cyffin See 6n.
60 cwff See GPC 637 s.v. cwff1 ‘cuff’, a perfectly adequate description of the purse as an object close to the end of the poet’s sleeve, especially when he would have been rummaging in it. Yet the earliest example of cuff in that sense in the OED Online s.v. 2 (a) belongs to 1522, whilst examples of cuff ‘a mitten or glove’ are shown during the thirteenth and fifteenth centuries (see ibid. 1). This meaning may be more appropriate here as it suggests that Guto’s hand was so often hidden in the purse that it could be mistaken for a glove.
Bibliography
Jones, B. (1965), John Le Neve: Fasti Ecclesiae Anglicanae 1300–1541 (London)
Lewis, H. (1943), Yr Elfen Ladin yn yr Iaith Gymraeg (Caerdydd)
Owen, H.W. and Morgan, R. (2007), Dictionary of the Place-names of Wales (Llandysul)
Powicke, F.M. and Fryde, E.B. (1961), Handbook of British Chronology (London)
Richards, M. (1998), Enwau Tir a Gwlad (Caernarfon)
Salisbury, E. (2009), ‘ “Y traed ataw a redant”: Golwg ar Ganu Guto’r Glyn i Rys, Abad Ystrad-fflur’, LlCy 32: 58–84
Salisbury, E. (2011), ‘Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, Deon Bangor’, Dwned, 17: 73–118
Thomas, R.J. (1938), Enwau Afonydd a Nentydd Cymru (Caerdydd)
Williams, I. (1962), Enwau Lleoedd (ail arg., Lerpwl)
Diogelwyd yn y llawysgrifau gyfanswm nid ansylweddol o ddeunaw cerdd i Risiart Cyffin gan saith o feirdd. Canodd Guto chwe chywydd iddo: diolch am bwrs (cerdd 58); diolch am baderau (cerdd 59); gofyn gwalch gan Huw Bwlclai ap Wiliam Bwlclai o Fiwmares ar ran Rhisiart (cerdd 60); gofyn teils gan Risiart ar ran Syr Gruffudd ab Einion o Henllan (cerdd 61); gofyn wyth ych ar ran Rhisiart gan yr Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes, Siôn Trefor ab Edward o Bentrecynfrig, Siôn Edward o’r Waun a Dafydd Llwyd ap Tudur o Fodidris (cerdd 108); diolch i’r Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes ac i Risiart am wella briw (cerdd 109). Diogelwyd pedair cerdd i Risiart gan Dudur Aled: awdl fawl, TA cerdd VIII; cywydd i ofyn meini melin gan Risiart ar ran gŵr a elwir ‘y Meistr Hanmer o Faelor’, ibid. cerdd CXX; englynion dychan i Risiart ac i’w feirdd, yn cynnwys Rhys Pennardd, Ieuan Llwyd a Lewys Môn, ibid. cerdd CXLI; englyn mawl i Risiart a dychan i’w olynydd, ibid. cerdd CXLV. Canwyd tri chywydd dychan i Risiart gan Lywelyn ap Gutun: cystadlu am Alswn o Fôn a dychan i Risiart, GLlGt cerdd 8; dychan i Risiart yn ymwneud â chardota ŵyn, ibid. cerdd 9; dychan i Risiart ynghylch Alswn ac i’w feirdd, lle enwir Rhys Pennardd, Hywel Rheinallt a Lewys Môn, ibid. cerdd 10. Diogelwyd dau gywydd iddo gan Lewys Môn: ateb i’r cywydd cyntaf uchod o waith Llywelyn ap Gutun, lle amddiffynnir Rhisiart ynghylch Alswn o Fôn, GLM cerdd XV; marwnad, ibid. cerdd XVII. Ceir hefyd rai cerddi unigol i Risiart gan feirdd eraill: cywydd mawl gan Hywel Rheinallt i Santes Dwynwen lle molir Rhisiart fel person eglwys a gysegrwyd iddi yn Llanddwyn ym Môn; cywydd gofyn am ychen gan Ieuan Deulwyn i’r Abad Dafydd Llwyd o Aberconwy, Rhisiart a Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan ar ran Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais, ID cerdd XXIV; cywydd mawl i Risiart gan Syr Siôn Leiaf, lle dychenir Guto, Hywel Grythor a Gwerful Mechain, Salisbury 2011: 101–18. At hynny, canodd Lewys Daron gywydd i ofyn march gan un o feibion Rhisiart, Dafydd Conwy, ar ran Siôn Wyn ap Maredudd (GLD cerdd 22).
Achres
Seiliwyd y goeden achau isod ar Salisbury 2011: 73–77. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.
Achres Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, deon Bangor
Roedd Rhisiart yn gefnder i Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan ac mae’n bosibl ei fod yn perthyn o bell i Syr Gruffudd ab Einion o Henllan.
Ei yrfa
Y tebyg yw fod Rhisiart wedi dechrau ei yrfa eglwysig fel person eglwys blwyf y Gyffin yng nghwmwd Arllechwedd Isaf ym mis Mai 1470 (codwyd yr holl wybodaeth o Salisbury 2011). Cafodd Rhisiart ei ddyrchafu’n ddeon Bangor rywdro rhwng y dyddiad hwnnw a 12 Mai 1478, sef dyddiad y cofnod cynharaf lle gelwir ef yn ddeon. Bu’n ddeon gydol wythdegau’r bymthegfed ganrif a bu farw, yn ôl pob tebyg, ar 13 Awst 1492, a’i gladdu yng nghorff yr eglwys.
Fel deon y cyfarchai’r beirdd Risiart ymron ym mhob cerdd, ond gwnaeth y beirdd yn fawr hefyd o’r ffaith ei fod yn berson eglwys Llanddwyn ym Môn. At hynny, dengys rhannau o’r cerddi a ganwyd iddo gan Guto iddo fod yn weithgar yn ailadeiladu rhannau o’r eglwys a’r esgopty ym Mangor (58.7–10; 59.3–14). Yn sgil ei gefnogaeth i Harri Tudur derbyniodd arian er mwyn adeiladu siantri wedi ei gysegru i Santes Catrin yng nghorff yr eglwys. Rhoes hefyd ffenestr liw ac ynddi ddarluniau o Santes Catrin a Santes Dwynwen ym mur de-ddwyreiniol y gangell. Ar waelod y ffenestr honno ceid enw Rhisiart gyda’r teitl Magistri o’i flaen, teitl a adleisir yn hoffter y beirdd o gyfeirio ato fel mastr Rhisiart. Ymddengys ei fod yn ŵr gradd yn y gyfraith ganon.
Roedd cyfraniad Rhisiart i fywyd diwylliannol ei ddydd yn sylweddol. Rhoes fwy o nawdd i feirdd nag unrhyw ŵr crefyddol arall a ddaliodd swydd yn un o bedair esgobaeth Cymru yn ystod yr Oesoedd Canol. At hynny, o safbwynt genre ceir amrywiaeth eang iawn yn y cerddi a ganwyd iddo neu ar ei gais, oherwydd canwyd iddo ddigon o fawl confensiynol, yn ôl y disgwyl, ond canwyd hefyd lawer o gerddi ysgafn neu ddychanol. Awgrym cryf y cerddi yw ei fod gyda’r iachaf ei hiwmor o’r noddwyr oll.
Llyfryddiaeth
Salisbury, E. (2011), ‘Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, Deon Bangor’, Dwned, 17: 73–118