Chwilio uwch
 
97 – Moliant i Sieffrai Cyffin ap Morus o Groesoswallt a’i wraig, Siân ferch Lawrence Stanstry
Golygwyd gan Eurig Salisbury


1Pererin piau’r awron
2Pederau ffydd Pedr a’i ffon,
3Sieffrai ddoeth a roes ffordd dda
4(Sant Cyffin, saint a’i coffa)
5I dŷ’r ddau, at Bedr ydd aeth
6A Phawl, yn ei gorffolaeth.
7Sathrodd ddaear trugaredd,
8Sieffrai, i Borth Siaff a’r Bedd.
9Enaid rhydd a aned draw,
10A rhinweddau’r rhain iddaw!

11Y cwnstabl wrth wyn Mabli
12Yma doeth, fy mywyd i.
13Ni’m cad, yno y’m cedwir,
14O’i dai er pan ddoeth i dir.
15Carcharawr mawr wyf i’m iôn,
16Carchar rhydd cyrchu rhoddion.
17I’r castell y’m cymhellwyd
18Ar boen moc erbyn ’y mwyd.
19Mae cwyn na ddown i’m ciniaw
20A dirwy drom ond air draw,
21A chred a meichiau a rhaith,
22Od elwn, ddyfod eilwaith.
23Od af i’r ŵyl nid wyf rydd
24Oni bawn yno beunydd.

25Ni chredai Sieffrai na Siân
26Fod i hen fwyd ei hunan
27Os y rhain a gred Syr Rys,
28A ddyfalai wledd felys.
29Ni wnaf innau, myn f’einioes,
30Gost mwy ond gwesta i’m oes!
31Y mae castell i’m costiaw,
32Ym nid rhaid ond myned draw
33I’r grisiau ar gaer Oswallt
34Ac i’r bryn ar grib yr allt,
35Cair nef yn ein caerau ni,
36Cair gwledd nis câi arglwyddi.
37Amryw adar, mawr ydyn’,
38Amryw fwyd o’r môr a fyn,
39Amryw fodd ar ansoddau,
40Amryw saws yn fy mrasáu.

41Fal Hywel yn rhyfelu,
42Felly ’dd wyf, â’r fwyall ddu,
43A gâi unsaig o Winsawr
44Ac arall i’r fwyall fawr.
45Mawr yw’r yfed amrafael,
46Mawr yw saig mab Morus hael,
47Mawr yw cost post Powystir,
48Mwy no thraul mewn neithior hir,
49Cost gwin ar elin yr allt,
50Cost llysiau castell Oswallt.
51Sinsir a felir ar fwyd
52A graens da rhag yr annwyd,
53Sinamwm, clows a chwmin,
54Suwgr, mas i wresogi’r min;
55Pob rhyw fwyd mewn pupr a fai
56O fewn siaffr a fyn Sieffrai.
57Lliwio sew â llysieuoedd
58Llaw Siân ar y llysiau oedd,
59Llaw’n gog oll yn y gegin,
60Llaw ’n ei gwaith yn llenwi gwin.
61Ni bu gwpwrd y gwrda,
62Ni bydd un dydd, heb win da;
63Heb Sieffrai a’i falsai fo,
64Heb f’annedd, ni bwyf yno.

1Pererin biau’n awr
2baderau ffydd a ffon Pedr,
3Sieffrai doeth a sicrhaodd ffordd weddus
4(Sant Cyffin, bydd saint yn ei gofio)
5i dŷ’r ddau’n gorfforol,
6at Bedr a Paul yr aeth.
7Troediodd Sieffrai dir trugaredd
8i Borth Siaff a’r Bedd.
9Enaid rhydd o bechodau a anwyd acw,
10a boed iddo dderbyn rhinweddau’r rhain!

11Y cwnstabl yn ôl dymuniad Mabli
12a ddaeth yma, fy mywoliaeth i.
13Ni allodd fy nghael i adael ei dai
14er pan ddaeth i dir, fe’m cynhelir yno.
15Carcharor mawr wyf i’m harglwydd,
16carchar rhydd i gyrchu rhoddion.
17Cefais fy ngorfodi i fynd i’r castell
18mewn pryd i gael fy mwyd dan boen cael fy ngwatwar.
19Ceir cwyn na ddelwn i gael fy nghinio
20a dirwy fawr onid eir acw,
21a llw a meichiau a rheithgor,
22os awn yno, i’m gorfodi i ddod eilwaith.
23Os af i’r ŵyl nid wyf yn rhydd
24oni bawn yno bob dydd.

25Ni chredai Sieffrai na Siân
26fod gan hen ŵr ei fwyd ei hun
27pe bai’r rhain yn credu Syr Rhys,
28a watwarai wledd felys.
29Ni wnaf innau, myn fy einioes,
30fwy o draul na lletya am weddill fy oes!
31Mae yma gastell i’m cynnal,
32nid oes rhaid i mi ond mynd acw
33i’r grisiau ar gaer Oswallt
34ac i’r bryn ar ben yr allt,
35ceir nef yn ein caerau ni,
36ceir gwledd na châi arglwyddi.
37Llawer o adar, rhai mawr ydynt,
38llawer o fwyd o’r môr a fyn,
39llawer math o ddanteithion,
40llawer o sawsiau yn fy mhesgi.

41Fel Hywel yn rhyfela
42â’r fwyell ddu, felly’r wyf,
43a gâi un pryd o Winsor
44a phryd arall i’r fwyell fawr.
45Mawr yw’r yfed amrywiol,
46mawr yw pryd mab Morus hael,
47mawr yw traul cynheiliad tir Powys,
48mwy na thraul mewn neithior hir,
49traul gwin ar frig yr allt,
50traul llysiau castell Oswallt.
51Sinsir a felir ar fwyd
52a grawn da rhag yr annwyd,
53sinamon, clows a chwmin,
54siwgr, mas i gynhesu’r gwefusau;
55pob math o fwyd mewn pupur a fo
56mewn padell dân a fyn Sieffrai.
57Roedd llaw Siân ar y llysiau
58yn rhoi lliw i botes â llysiau,
59llaw’n gogydd yn y gegin i gyd,
60llaw’n gweini gwin yn ei gwaith.
61Ni bu cwpwrdd y gŵr bonheddig,
62ni bydd un dydd, heb win da;
63heb Sieffrai a’i win malmsai ef,
64heb fy nghartref, na foed i mi fod yno.

97 – In praise of Sieffrai Cyffin ap Morus of Oswestry and his wife, Siân daughter of Lawrence Stanstry

1To a pilgrim now belong
2St Peter’s faith beads and staff,
3wise Sieffrai who assured a good road
4(St Cyffin, saints will remember him)
5to their house in body,
6he went to St Peter and St Paul.
7Sieffrai trod the ground of compassion
8to Jaffa and the Tomb.
9A pardoned soul was born there,
10and may he receive these men’s virtues!

11The constable came here
12by the will of Mabli, my living.
13He couldn’t get me to leave his houses
14ever since he came to land, I’m kept there.
15I’m a great prisoner to my lord,
16a free ward to seek gifts.
17I was forced to go to the castle
18on pain of mockery in time for my food.
19There’s a complaint that I won’t come to my dinner
20and a severe fine if I don’t go there,
21and a pledge and guarantors and compurgators,
22if I went there, in order for me to come again.
23If I go to the feast I’m not free
24unless I’m there every day.

25Sieffrai and Siân wouldn’t believe
26that an old man had his own food
27if they were to believe Syr Rhys,
28who mocked a delicious feast.
29I won’t make more provisions, by my soul,
30other than lodging for the rest of my life!
31There’s a castle to provide for me,
32there’s no need for me but to go yonder
33to the stairs on St Oswald’s fort
34and to the hill on the slope’s ridge,
35heaven is found in our forts,
36a feast is held that lords wouldn’t have.
37Various poultry, they’re large,
38various seafoods is what he wants,
39various kinds of delicacies,
40various sauces fattening me.

41Like Hywel waging war
42with the black axe, so am I,
43who received one dish from Windsor
44and another dish for the great axe.
45Great is the multifarious drinking,
46great is the dish of generous Morus’s son,
47great is the provision of the upholder of Powys’s land,
48greater than the consumption in an extensive marrige feast,
49provision of wine on top of the slope,
50St Oswald’s castle’s provision of herbs.
51Ginger is ground on food
52and excellent grains to keep against the cold,
53cinnamon, cloves and cumin,
54sugar, mace to warm the lips;
55every such food in pepper that be
56in a chafing dish is what Sieffrai wants.
57Siân’s hand on the herbs
58tinged the broth with herbs,
59a hand that’s altogether a cook in the kitchen,
60a hand in her work that pours wine.
61The nobleman’s cupboard was never
62without excellent wine, nor will it be one day;
63without Sieffrai and his malmsey,
64without my home, may I not be there.

Y llawysgrifau
Ceir chwe chopi o’r gerdd hon yn y llawysgrifau. Diogelwyd yr unig gopi cyflawn ohoni mewn cynsail goll y credir iddi gael ei chreu yn nyffryn Conwy, sef X (gw. y stema). Collwyd llinellau 55–60 o destun Gwyn 4 gan fod 53–4 a 59–60 yn rhannu’r un odl ac i lygaid William Salesbury neidio o linell 53 i linell 60 wrth gopïo (gw. 54n min). Cyfnewidiwyd llinellau 3 a 4 ganddo hefyd mewn ymgais, fe dybir, i wella llif yr ystyr. Deil darlleniadau LlGC 3051D ar gyfer llinellau 13, 18, 29 a 38 (gw. y nodiadau) nad o X y’i codwyd a gall fod lle i gredu mai traddodiad llafar a fu’n sail iddo yn sgil colli llinellau 31–2 a 41–54. Yn nhestun X y ceid y copi glanaf o’r gerdd a bod modd ei ailgreu’n bur hyderus ar sail tystiolaeth y tri thestun a ddeilliodd ohono. Gan na cheir lle i gredu bod testun LlGC 3051D yn rhagori ar X seiliwyd testun y golygiad ar X (ond sylwer hefyd ar 30n).

Trawsysgrifiadau: Gwyn 4, LlGC 3049D, LlGC 8497B.

stema
Stema

Teitl
Ni cheir rhyw lawer o ddychymyg yn y teitlau a rydd y llawysgrifau i’r gerdd hon. Ar sail y teitlau a geir yn LlGC 3049D a Gwyn 4 mae’n debygol mai rhywbeth tebyg i K’ i Sieffrai kyffyn a geid yn X. Er mwyn gwahaniaethu rhwng y cywydd hwn a chywyddau mawl eraill a ganodd Guto i Sieffrai, cynhwysir enw ei wraig, Siân ferch Lawrence Stanstri, yn nheitl y golygiad hwn, gan fod Guto’n cyfeirio ati ddwywaith yng nghorff y gerdd (gw. 25 a 58).

2 pederau  Dilynir y ffurf amrywiol a geid yn X (gw. GPC 2666 d.g. pader).

3–4  Cyfnewidiwyd llinellau’r cwpled hwn yn Gwyn 4 (gw. y nodyn cefndir uchod).

8 Sieffrai, i Borth Siaff a’r Bedd  Dilynir X (gw. Williams 1978–80: 613–14). Ni cheir GGl siaffr a’r yn yr un lawysgrif.

10 a rhinweddau  Bernir mai diwygiad gan William Salesbury a geir yn Gwyn 4 o rinweddau, ac a ddilynwyd yn GGl.

13 yno  Dilynir X. Gthg. LlGC 3051D yma.

16 rhydd  Ni cheir darlleniad GGl rhwydd yn yr un lawysgrif.

18 moc  Dilynir X. Gthg. darlleniad GGl yn LlGC 3051D morc.

18 ’y mwyd  Ni cheir fy yn yr un lawysgrif.

21 A chred a meichiau a rhaith  Bernir mai diwygiad a geir yn LlGC 3049D a chyrd ameichie a rhiaith, lle ceir y bai crych a llyfn. Gall mai ailwampio sydd wrth wraidd [c]yrd, sef ffurf luosog ar cord ‘rheffyn, tennyn’ (gw. GPC 556).

25 na  Dilynir X. Gthg. LlGC 3051D a.

27 Os y rhain a gred Syr Rys  Deil X a LlGC 3051D mai syr rys yw’r ffurf yma. Gwyn 4 Syr Rys yn unig sy’n amwys. Disgwylid Syr Rhys er mwyn cwblhau cyfatebiaeth gref â rhain yn hanner cyntaf y llinell, ond bernir mai Syr Rys oedd y ffurf a ddefnyddiai’r beirdd (gw. Syr Rhys).

29 myn f’einioes  Dilynir X. Gthg. LlGC 3051D yn fenioes.

30 Gost mwy ond gwesta i’m oes  Mae’r ffaith mai gwest a geir yn LlGC 3049D a Gwyn 4 yn awgrymu mai dyma geid yn X hefyd ac i Thomas Wiliems adfer y darlleniad cywir yn LlGC 8497B gwesta. Fe’i ategir gan LlGC 3051D. Dilynwyd y ddwy lawysgrif gyntaf yn GGl Gost mwy onid gwest i’m oes, gan adfer y sillaf gydag onid, nas ceir yn yr un lawysgrif.

31–2  Ni cheir y llinellau hyn yn nhestun LlGC 3051D (gw. y nodyn cefndir uchod).

32 rhaid  Ceir rhydd yn LlGC 8497B, o bosibl dan ddylanwad yr un gair yn llinellau 16 a 23.

38 o’r môr a fyn  Gthg. naill ai gamosod neu ailwampio yn LlGC 3051D or morfa ynn.

41–54  Ni cheir y llinellau hyn yn nhestun LlGC 3051D (gw. 31–2n).

45 yfed  Bernir bod copïwyr LlGC 3049D yvedd a Gwyn 4 y vedd wedi camddehongli orgraff darlleniad X, ac mai copïydd y llawysgrif gyntaf yn unig a sylweddolodd ei gamgymeriad. Thomas Wiliems yn LlGC 8497B yved yn unig a’i darllenodd yn gywir.

45 amrafael  Ni cheir GGl amryfael yn yr un lawysgrif.

46 Mawr yw saig mab Morus hael  Bernir mai camgopïo neu ailwampio gan Thomas Wiliems a geir yn LlGC 8497B mawr yw’r saic val morus hael.

48 neithior  Cf. y ffurf amrywiol neithiar yn LlGC 21248D (gw. GPC 2568).

51 felir  Ceir GGl welir yn Gwyn 4, ac, o bosibl, yn narlleniad aneglur LlGC 3049D welir. Yn LlGC 8497B yn unig y diogelwyd y darlleniad cywir.

53 sinamwm  Rhaid wrth y ffurf amrywiol sinamwm er mwyn cwblhau’r gynghanedd lusg (gw. GPC 3283 d.g. sinamon), a geir yn LlGC 8497B ac fel cywiriad yn Gwyn 4 Sinamxxwm. Noder y ceir ffurf amrywiol arall yn LlGC 21248D sinamwnd.

53 clows  Nid yw’n eglur beth yw’r ffurf a geid yn X: LlGC 3049D klows, LlGC 8497B clos, Gwyn 4 clus. Y drydedd yw’r unig ffurf annilys a gellid ei defnyddio i gefnogi klows neu clos, felly dilynir y llawysgrif gynharaf er hwylustod.

54 suwgr  Mae LlGC 3049D a Gwyn 4 svwgwr yn awgrymu mai dyma a geid yn X hefyd, ond gthg. LlGC 8497B sugr (ar y ffurfiau, gw. GPC 3296–7 d.g. siwgr). Disgwylid siwgr er mwyn cynnal y cymeriad llythrennol si- â’r llinell flaenorol, ond bernir mai’r un fyddai ynganiad y ddwy ffurf ar lafar.

54 min  Neidiodd llygaid William Salesbury i ddiwedd llinell 60 yn Gwyn 4 gwin (gw. y nodyn cefndir uchod).

55–60  Ni cheir y llinellau hyn yn nhestun Gwyn 4 (gw. y nodyn cefndir uchod).

56 siaffr  Bernir y ceir siaffar yn LlGC 3049D dan ddylanwad 8 Siaff a’r.

59 llaw’n  Er mai yn LlGC 8497B yn unig y ceir collnod bernir mai’r un yw’r ystyr, er na cheir collnod, yn LlGC 3049D a LlGC 3051D llawn (gthg. GGl llawn).

60 llaw ’n  Bernir bod LlGC 3049D llaw in a LlGC 8497 llaw’n i yn awgrymu mai llaw a olygir yn hytrach na darlleniad GGl llawn.

64 ni  Dilynir X. Gthg. LlGC 3051D na.

Llyfryddiaeth
Williams, G.A. (1978–80), ‘Siaffr (GGGl lxxxvi. 8)’, B xxviii: 613–14

Cywydd crefftus iawn yw hwn i Sieffrai Cyffin a’i wraig, Siân, a ganwyd pan ddychwelodd Sieffrai i Groesoswallt o bererindod i Jerwsalem. Roedd Guto’n fwrdais yn y dref ar y pryd. Ymdrinnir â nifer o wahanol bynciau gan lifo’n gyflym o’r naill i’r llall, ac yn hynny o beth ymddengys fod y gerdd yn un gymharol bersonol. Mae Guto’n dilyn ei drywydd ei hun o bwnc i bwnc gan gyffwrdd fel y myn â sawl agwedd ar ei berthynas â Sieffrai.

Rhoir sylw i’r bererindod yn rhan agoriadol y gerdd (llinellau 1–10). Teithiodd Sieffrai drwy Rufain a phorthladd Jaffa i Jerwsalem gan ymweld â’r eglwys a adeiladwyd yno ar fan tybiedig claddu Crist. Dyma’r bererindod bwysicaf a hwyaf y gallai Cymry’r Oesoedd Canol ymgymryd â hi, ac nid yw’r pum cwpled a rydd Guto i’w disgrifio fel pe baent yn gwneud cyfiawnder ag anferthedd y daith. Byddai Sieffrai wedi treulio misoedd lawer yn cyrchu Canaan ac yn dychwelyd i Gymru. Mae’n bosibl fod Guto wedi rhoi mwy o sylw i’r daith mewn cywydd mawl (cerdd 96) arall a ganodd i Sieffrai, ond mae’r sylw cryno a rydd i’r bererindod yn y cywydd hwn yn awgrymu ei fod bellach yn awyddus i adfer ei berthynas broffesiynol â Sieffrai wedi cyfnod hir o absenoldeb. Mae diwedd y rhan hon o’r gerdd yn bryfoclyd o debyg i’r modd y terfynir cerddi mawl yn gyffredinol, sef drwy ddymuno’n dda i’r noddwr.

Yn rhan nesaf y gerdd (11–24) mae Guto’n canolbwyntio arno ef ei hun ac yn darlunio ei berthynas â Sieffrai ar ffurf perthynas carcharor a cheidwad carchar. Fel yn ei gerddi personol i nifer o noddwyr eraill mae Guto’n ymdrin yn chwareus â’r cysyniad o gaethiwed, a defnyddir y ddyfais o gael ei garcharu a’i erlid mewn achos llys i bwysleisio cymaint mae ei noddwr ei angen ef a’i wasanaeth fel bardd. Crisielir syniadaeth y rhan hon o’r gerdd mewn gwrtheb syniadol yn llinellau 23–4, lle mae Guto’n honni bod ei ryddid yn seiliedig ar ei gaethiwed yng nghartref Sieffrai. Ceir tebygrwydd rhwng yr agwedd hon â’r modd yr honnodd Guto fod yr Abad Rhys o Ystrad-fflur wedi ei rwystro rhag cyrchu llys Phylib ap Gwilym Llwyd o Drefgwnter yn ei gywydd mawl (cerdd 30) i’r noddwr hwnnw. Roedd ei dafod yn ei foch pan ganodd yn y cywair hwnnw i Phylib ac i Sieffrai, ond roedd yn fodd hefyd iddo ddangos bod galw mawr am ei wasanaeth yn eu tai.

Aiff Guto yn ei flaen wedyn (25–30) i ymdrin â honiadau a wnaeth bardd o’r enw Syr Rhys yn ei erbyn. Canodd Guto a Syr Rhys o Garno gywyddau dychan i’w gilydd, a phrif gŵyn Syr Rhys yn ei gywydd dychan (cerdd 101a) ef yw bod Guto wedi methu mynychu gwledd y Nadolig yn abaty Glyn-y-groes o achos ei fod yn dioddef o ryw afiechyd. Yn ôl Syr Rhys achoswyd yr afiechyd gan dra newyn drwy’i neuadd (101a.8), ac aiff rhagddo i restru’r holl fwydydd y methodd Guto eu darparu pan gynhaliodd ei wledd ei hun yn ei gartref yng Nghroesoswallt. Diau mai at Syr Rhys y cyfeirir yn y cywydd hwn i Sieffrai hefyd, lle mae Guto’n achub ar y cyfle i gael y gorau ar ei gyd-fardd drwy gyfaddef na fydd angen ei fwyd ei hun arno o hyn ymlaen gan y bydd Sieffrai yn ei letya yng nghastell Croesoswallt (31–6). Ni fyddai’n rhaid iddo deithio’n hir o’i gartref i’r castell ac mae’n briodol fod y castell bellach wedi troi o fod yn [g]archar rhydd (16) i fod ein caerau ni (35).

Mae Guto’n ymhelaethu ar gynnwys y wledd yn y castell (37–40) cyn cymharu ei hun â Syr Hywel ap Gruffudd a’i fwyell enwog er mwyn pwysleisio cymaint yw ei chwant am fwyd (37–48). Mawr, fel bwyell Hywel, yw popeth yng ngwledd Sieffrai, ond newidir y pwyslais wedyn er mwyn canolbwyntio ar y mân gynhwysion sy’n rhoi blas i fwydydd y wledd: sinsir, graens, sinamwm, clows, [c]wmin, suwgr, mas a [ph]upr (51–5). Un o rinweddau Siân yw gwneud defnydd o’r perlysiau hyn yn y gegin ac un arall yw tywallt y gwin wrth fwrdd y wledd (57–60). Gorffennir y gerdd drwy awgrymu mai cwmni Sieffrai, ynghyd â’r holl fanteision a ddaw yn ei sgil, sy’n gwneud castell a thref Croesoswallt yn arbennig (63–4). Cyfeddyf Guto na fynnai fod yno, yn fardd yn y castell nac yn fwrdais yn y dref o bosibl, pe na bai Sieffrai yno hefyd, gan led-gyfeirio’n ôl at y cyfeiriadau at gaethiwed yn llinellau 11–24. Tybed a yw Guto’n cyfeirio at y ffaith mai cartref dros dro’n unig oedd Croesoswallt iddo?

Nid yng ngallu Guto i weu i’w gilydd nifer o wahanol bynciau y gwelir camp y gerdd hon fel cyfanwaith, ond yn ei allu i greu dilyniant o ddarluniau ac iddynt ddiben arbennig. Ceir yr argraff ei fod, fel zoom ar gamra, yn canolbwyntio’n raddol ar ei destun gydol y dweud. Try ei lygad o orwelion eang Ewrop a thu hwnt i ganolfan drefol fywiog ar ororau Cymru, cyn rhoi sylw i gastell Croesoswallt a’r wledd a gynhelir yno. Ceir gwrthgyferbynnu cynnil rhwng taith hirfaith y noddwr o Gymru i Ganaan ac yn ôl a thaith fer y bardd yntau o’i gartref i’r castell yng Nghroesoswallt (32–3). Troir wedyn at fwyd y wledd ac yn olaf at fân gynhwysion y bwydydd, gan gwblhau’r symud trosiadol o ddarlun mawr o bellafion y byd i ddarlun bychan o’r hyn y gellir ei gadw mewn [c]wpwrd (61) a’i ddal yng nghledr y llaw (58–60).

Dyddiad
Yn ôl Gruffudd Hiraethog priododd Sieffrai ei ail wraig, Ann ferch Richard Arglwydd Ystraens, yn 1467. Os felly, dyma terminus ante quem y gerdd hon gan fod ynddi fawl i Siân, gwraig gyntaf Sieffrai. Mae’n debygol y dylir cysylltu’r cyfeiriadau ar ddechrau’r gerdd at bererindod Sieffrai â chyfeiriadau helaethach at ei deithiau mewn cywydd mawl (cerdd 96) arall a ganodd Guto iddo, ac os cywir dyddio’r gerdd honno yn dilyn achosion o’r Pla Du yn y Gororau rhwng 1463 a 1465, gall fod y gerdd hon yn perthyn i’r un cyfnod.

Golygiad blaenorol
GGl cerdd LXXXVI.

Mesur a chynghanedd
Cywydd, 64 llinell.
Cynghanedd: croes 55% (35 llinell), traws 22% (14 llinell), sain 12% (8 llinell), llusg 11% (7 llinell).

2 pederau ffydd Pedr  Gw. GPC 2666 d.g. pader ‘gweddi; (yn aml yn y lluosog) llaswyr, glain’. Y tebyg yw mai’r ail ystyr sydd fwyaf priodol yma ac mai at leiniau a ddygodd Sieffrai adref o Rufain y cyfeirir (cf. cywydd Guto i ddiolch am baderau (cerdd 59) gan Risiart Cyffin). Ond dylid cadw mewn cof fod pererinion yn arfer llefaru gweddïau arbennig wrth ymweld â mannau cysegredig.

2 Pedr  Y sant, gw. 5n.

2 ffon  Ni ddaethpwyd o hyd i draddodiadau sy’n cysylltu Pedr â ffon benodol, a’r tebyg yw mai at ffon Sieffrai, y pererin, y cyfeirir yma. Fodd bynnag, prynai rhai pererinion eu ffyn mewn mannau arbennig ar y daith, a gellid ystyried ffon yn y llinell hon yn eiddo i Bedr pe bai Sieffrai wedi ei phrynu, ynghyd â’r pederau o bosibl, yn Rhufain (gw. Birch 1998: 76; cf. Roberts 1916: 190 affon gan beder affawl (Hywel ap Llywelyn i’w bererindod i Rufain)). O ran y trugareddau a nodweddai bererin yn y cyfnod hwn roedd ffon gerdded yn gyffredin iawn (gw. Olson 2008: 16), ond ni ddaethpwyd o hyd i gyfeiriad at [b]ederau ffydd Pedr yn y cyd-destun hwn.

3 rhoes ffordd dda  Benthyciwyd yr ymadrodd ‘rhoi ffordd’ o’r Saesneg ‘give way, to yield’ (gw. GPC 3089 d.g. rhoddaf, lle nodir yr enghraifft gynharaf yn 1684). Dengys OED Online s.v. give 49 y defnyddid give way yn Saesneg mor gynnar ag 1413. Er nad yw’r union ystyr honno’n taro deuddeg yma gellid dadlau nad yw’r ystyr hanfodol ymhell ohoni, sef ‘gwneud y ffordd yn glir, sicrhau ffordd’.

4 Sant Cyffin  Chwaraeir ar enw Sieffrai Cyffin drwy ei alw’n sant.

5 tŷ’r ddau  Sef tŷ Pedr a Paul. Cyplysid y ddau sant yn aml gan y beirdd ar sail y gred (gyfeiliornus, yn ôl pob tebyg) iddynt gael eu merthyru ar yr un diwrnod, sef 29 Mehefin (gw. ODCC3 1234–8, 1260–1 ac 1297; cf. GGMD i, 2.56n; GRhGE 14.85–6). Credir iddynt gael eu dienyddio yn Rhufain ac ystyrid basilica Sant Pedr yn ninas y Fatican yn [d]ŷ’r ddau yn ystod yr Oesoedd Canol. Er i fasilica arall y tu hwnt i furiau’r ddinas gael ei chysegru i Paul, arddangosid pennau’r ddau sant ynghyd ym masilica Sant Ioan yn y Fatican (gw. Jones 1912: 177n2; Olson 2008: 34n166; Roberts 1916: 188 gweled pen peder yvedrwn / affawl or lle goraff hwn (Hywel ap Llywelyn i’w bererindod i Rufain)).

6 Pawl  Yr Apostol o Darsus (gw. 5n).

6 yn ei gorffolaeth  ‘In body, bodily’. Am enghreifftiau eraill o’r cyfuniad hwn, gw. GPC 560 d.g. corffolaeth. Fe’i defnyddir mewn gwrthgyferbyniad â’r arfer o anfon pererin ar daith ar ran rhywun arall (gw. Duffy 2002: 174–7). Mae’n debygol iawn i Lewys Glyn Cothi fynd ar bererindod i Rufain ar ran Wiliam Fychan ap Gwatcyn o Rydhelig, gan ganu cywydd i’w farf yn ei sgil gan nad eilliodd wrth deithio (gw. GLGC cerdd 90).

8 Porth Siaff  Dangosodd Williams (1978–80: 613–14) mai at borthladd Siaff (Hebraeg Yafo) ar arfordir Israel y cyfeirir yma. Roedd Port Iaff, port Iaph a Porte Iaffe yn ffurfiau Saesneg ar enw’r porthladd yn ystod y bymthegfed ganrif, lle glaniai pererinion o Ewrop cyn cyrchu Jerwsalem ar ran olaf eu taith. Byddai’r rhan fwyaf o’r pererinion hyn yn cyrraedd muriau Jerwsalem o gyfeiriad y gorllewin ac yn ceisio mynediad i’r ddinas drwy borth a elwid yn Hebraeg Sha’ar Yafo yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg. Gellid Cymreigio’r enw hwn hefyd, yn ei dro, yn Borth Siaff, ond gan mai yn 1538 yr adeiladwyd y porth newydd a welir hyd heddiw ym muriau’r hen ddinas ni ellir ond dyfalu ai Porth Siaff oedd yr enw ar y porth cynharach a safai yno o’i flaen. Ar porth, ‘porthladd’ neu ‘fynedfa’, gw. GPC 2855 d.g. porth2, 3 (cf. GLGC 138.45–6).

8 y Bedd  Eglwys y Beddrod Sanctaidd yn Jerwsalem a adeiladwyd ar safle tybiedig claddu Crist a’i atgyfodiad (gw. ODCC3 787).

9 Enaid rhydd a aned draw  Ar enaid rhydd ‘absolved or pardoned soul, one freed or acquitted by the church’, gw. GPC 1212 d.g. enaid (cf. GLGC 98.3–4 adre’ doed yn dra dedwydd / ganto’r haf ag enaid rhydd (awdl i Ddafydd ap Siôn pan oedd yn Rhufain)). Tybed ai o ganlyniad i bechod penodol yr aeth Sieffrai ar bererindod?

10 y rhain  Sef Pedr a Paul (gw. 2n Pedr a 6n Pawl).

11 wrth wyn  ‘Yn ôl dymuniad’ (gw. GPC 1770 d.g. gwyn2; cf. 5.34 Cyfod wrth wyn y cwfaint). Ond cf. awdl Lewys Glyn Cothi i Ddafydd ap Siôn pan oedd yn Rhufain ar bererindod, GLGC 98.13–16 Wrth wyn Mawd y ffawd, dda ei ffydd, – a’r saint, / wrth wyn Siôn yn drydydd; / wrth wyn pob oferddyn fydd / ei dro ef drwy’r holl drefydd, ac ibid. 571 ‘wrth wyn: wrth fodd’. Mae’n ddiddorol fod Lewys yn cyfeirio yma at Fawd, mam Dafydd ap Siôn, ynghyd â’i dad, Siôn ap Dafydd, a bod Guto’n cyfeirio at Fabli, mam Sieffrai, yn yr un modd (gw. y nodyn isod).

11 Mabli  Mabli ferch Llywelyn Gogof ab Ieuan Llwyd, mam Sieffrai ac ail wraig Morus ab Ieuan Gethin.

12 fy mywyd i  ‘Fy mywoliaeth i’ (cf. 5.2 Abad wyd a bywyd ym).

16 carchar rhydd  ‘Free-ward’ (gw. GPC 423 d.g. carchar). Ceir yr enghraifft gynharaf yn Saesneg yn 1538 (gw. OED Online s.v. free). Golygai math o garchar agored ar gyfer pobl gyfoethog gan amlaf, ‘pending the payment of ransom’.

18 moc  O’r Saesneg mock, ‘dirmyg, gwatwar’ (gw. GPC 2468). Dyma’r enghraifft gynharaf ar glawr o’r gair hwn.

20 ond  ‘Onid, os nad’ (gw. GPC 2647–8 d.g. ond2).

21 meichiau  Lluosog mach ‘un sy’n mynd yn gyfrifol am sicrhau cyflawni contract, am ymddangosiad rhywun mewn llys, &c.’ (gw. GPC 2299).

21 rhaith  Gw. GPC 3033–4 d.g. rhaith (b) ‘corff o bobl sy’n cyd-dyngu ag un o’r pleidiau mewn achos; rheithgor’. Ond gall hefyd mai ‘rheol, gorchymyn’ a olygir yma (gw. ibid. (a)).

23 yr ŵyl  O’i ystyried yn llythrennol gallai’r ŵyl ddynodi unrhyw un o’r prif wyliau crefyddol: y Nadolig, y Sulgwyn a’r Pasg. Gan fod Guto a Syr Rhys o Garno (gw. 27n) yn cyfeirio yn eu cerddi dychan at ŵyl y Nadolig mae’n bosibl mai at ŵyl y Sulgwyn neu’r Pasg y cyfeirir yma.

25 Siân  Merch Lawrence Stanstry a gwraig gyntaf Sieffrai.

27 Syr Rys  Syr Rhys ap Hywel Dyrnor o’r Dre-wen a Charno, bardd-offeiriad a ganodd gerdd ddychan i Guto y cyfeirir ati yn llinellau 25–8.

28 dyfalai  Gw. GPC 1122 d.g. dyfalaf (b) ‘gwatwar, goganu, dychanu’.

33 caer Oswallt  Sef castell tref Croesoswallt. Y tebyg yw mai at gastell Croesoswallt y cyfeirir yn Llyfr Domesday (1086), lle nodir i siryf Normanaidd o’r enw Rainald adeiladu castell ger trefgordd Maesbury. Nodir yn y brut fod Madog ap Maredudd, yr olaf o frenhinoedd Powys, wedi adeiladu castell yng Nghroesoswallt yn 1149 (gw. Jones 1973: 128). Roedd y castell yn ganolfan filwrol bwysig yn ystod y Goncwest a thyfodd y dref yn ganolfan fasnachol o’i amgylch yn ystod yr Oesoedd Canol diweddar. Ymhellach, gw. Smith 1978: 221–2.

34 y bryn ar grib yr allt  Cwyd y tir yn raddol yn nhueddau gogleddol tref Croesoswallt tuag at sgwâr y beili, a safai’r castell ar dwmpath uwch ar ben y tir hwnnw.

38 a fyn  Yr hyn a fynnai Sieffrai, yn ôl pob tebyg (cf. 56 a fyn Sieffrai).

41 Hywel  Syr Hywel y Fwyall (fl. c.1346–c.1381), mab i Ruffudd ap Hywel o Chwilog yn Eifionydd ac un o filwyr Cymreig enwocaf y Rhyfel Can Mlynedd. Mae ar glawr gerddi iddo gan Iolo Goch, Gruffudd ap Maredudd a Rhisierdyn, a chywydd gan Ruffudd Gryg i’w frawd, Einion ap Gruffudd (gw. GIG cerdd II; GGMD iii, cerdd 2; GSRh cerdd 6; GGGr cerdd 1). Ceir traddodiad iddo ddal John II, brenin Ffrainc, ym mrwydr fawr Poitiers yn 1356, ac mai yno yr enillodd fri i’w fwyell yn ogystal, fel y dengys y rhaglith canlynol i’r cywydd a ganodd Iolo Goch iddo yn llawysgrif BL 14866, 118 (David Johns, 1586–7): Cowydd i Syr Howel y fwyall … rhwn Syr howel a wnaed yn varchog yn ffrainc gidar Twyssog Edd. vab Edd. y drydydd pan ddaliwyd brenin ffrainc: mae’r gair ymplith y Cymbry mai Syr howel ai delwys ef ac a roes ffrwyn yn i ben a chael o hono, alowans gan y brenin saig iddo i hun ac un arall yw fwyall ac yn ol hyny rhenti melinau Caer ac yn ddiwaetha gastell Cryckarth ai berthynas. At yr hanes hwn am natur fwyteig bwyell Hywel y cyfeirir gan Guto yn llinellau 41–4.

41–2 Fal Hywel yn rhyfelu, / Felly ’dd wyf, â’r fwyall ddu  Cf., benthyciad gan Lewys Glyn Cothi mewn cywydd mawl i Siôn ap Tomas o Ganwrda a ganwyd wedi 1487, GLGC 24.31–2 Syr Hywel yn rhyfelu, / ‘felly’dd oedd â’r fwyall ddu (am y dyddiad, gw. ibid. 534).

43 unsaig  Gw. GPC 3168 d.g. saig ‘dysglaid (o fwyd), (cwrs mewn) pryd bwyd, gwledd’.

43 Winsawr  Sef castell Windsor ar lannau afon Tafwys i’r gorllewin o Lundain, prif gastell a phalas brenhinoedd Lloegr.

45 amrafael  Cf. Guto yn ei gywydd i Hywel ap Llywelyn Fychan o Lyn Aeron, 10.23–4 Mawr y barnaf amrafael / Y rhwng y cybydd a’r hael.

46 Morus  Morus ab Ieuan Gethin, tad Sieffrai.

48 neithior  Gwledd briodas, ac, yn ôl Statud Gruffudd ap Cynan (1523), un o’r pum erw rydd pryd y câi’r beirdd gyrchu llys noddwr (gw. Davies 1904–6: 101; ymhellach, gw. MacCana 1968–70: 316–19).

50 castell Oswallt  Gw. 33n.

51 sinsir  Benthyciad o’r Saesneg ginger (gw. GPC 3285).

52 graens da rhag yr annwyd  Benthyciwyd graens o’r Saesneg grain (gw. GPC 1522 d.g. graen3). Cf. Lewys Glyn Cothi mewn cywydd mawl i Ieuan ap Lewys a Thangwystl o Aber-mad ym Mefenydd, GLGC 88.52 graens rhag haint gwres (cf. 53n Sinamwm, cloes a chwmin a 55n Pob rhyw fwyd mewn pupr a fai).

53 Sinamwm, clows a chwmin  Cf. Lewys Glyn Cothi mewn cywydd mawl i Ieuan ap Lewys a Thangwystl o Aber-mad ym Mefenydd, GLGC 88.47–8 sinamwm, almwns, cwmin, / balsamẃm yw blas ’y min (cf. 52n a 55n Pob rhyw fwyd mewn pupur a fai).

53 sinamwm  Benthyciad o’r Saesneg cinnamom (gw. GPC 3283 d.g. sinamon).

53 clows  Benthyciad o’r Saesneg cloves (gw. GPC 505 d.g. clofs).

53 cwmin  Benthyciad o’r Saesneg cumin (gw. GPC 641).

54 suwgr  Ffurf ar siwgr, sef benthyciad o’r Saesneg Canol sugre (neu’n uniongyrchol o Ffrangeg Lloegr) (gw. GPC 3296 d.g. siwgr).

54 mas  Benthyciad o’r Saesneg mace (gw. GPC 2370 d.g. mas2).

55 Pob rhyw fwyd mewn pupr a fai  Cf. Lewys Glyn Cothi mewn cywydd mawl i Ieuan ap Lewys a Thangwystl o Aber-mad ym Mefenydd, GLGC 88.42 pupur o fewn pob rhyw fwyd (cf. 52n a 53n Sinamwm, cloes a chwmin).

55 pupr  Benthyciad o’r Saesneg Canol piper (gw. GPC 2930 d.g. pupur).

57 sew  Benthyciad o’r Saesneg Canol seu ‘cawl, potes, stiw’ (gw. GPC 3236).

63 malsai  Benthyciad o’r Saesneg Canol malmsey ‘gwin melys cryf, yn wreiddiol o wlad Groeg’ (gw. GPC 2329 d.g. malmsai).

64 f’annedd  Cf. Guto yn ei gywydd mawl i Groesoswallt, 102.13–14 Am hynny ’dd wyf a’m hannedd / Yn y Mars; caf win a medd.

Llyfryddiaeth
Birch, D.J. (1998), Pilgrimage to Rome in the Middle Ages (Woodbridge)
Davies, J.H. (1904–5), ‘The Roll of the Caerwys Eisteddfod of 1523’, Transactions of the Liverpool Welsh National Society: 87–102
Duffy, E. (2002), ‘The Dynamics of Pilgrimage in Late Medieval England’, C. Morris and P. Roberts (eds.), Pilgrimage: The English Experience from Becket to Bunyan (Cambridge), 164–77
Jones, G.H. (1912), Celtic Britain and the Pilgrim Movement (London)
Jones, T. (1973) (ed. and trans.), Brut y Tywysogyon, or, The Chronicle of the Princes, Red Book of Hergest Version (second ed., Cardiff)
MacCana, P. (1968–70), ‘Elfennau Cyn-Gristnogol yn y Cyfreithiau’, B xxiii: 316–20
Olson, K.K. (2008), ‘ “Ar Ffordd Pedr a Phawl”: Welsh Pilgrimage and Travel to Rome, c.1200–c.1530’, Cylchg HC 24: 1–40
Roberts, E.S. (1916) (ed.), Llanstephan Ms. 6 (Cardiff)
Smith, Ll.B. (1978), ‘Oswestry’, R.A. Griffiths (ed.), Boroughs of Medieval Wales (Cardiff), 218–42
Webb, D. (1999), Pilgrims and Pilgrimage in the Medieval West (London)
Williams, G.A. (1978–80), ‘Siaffr (GGGl lxxxvi. 8)’, B xxviii: 613–14

This skilfully crafted poem for Sieffrai Cyffin and his wife, Siân, was composed following Sieffrai’s return to Oswestry from a pilgrimage to Jerusalem. Guto was a burgess of the town at the time. A number of themes are addressed in quick succession, which give the poem a somewhat personal lilt. Guto weaves his own course from theme to theme and touches upon many different aspects of his relationship with Sieffrai.

The opening part of the poem is focused on the pilgrimage (lines 1–10). Sieffrai travelled through both Rome and the port of Jaffa to Jerusalem, where he visited the church which is said to have been built upon Christ’s tomb. This was both the most important and longest pilgrimage that a Welshman could embark upon in the Middle Ages, and the modest five couplets with which Guto describes it do not seem to do justice to the immensity of the journey. It would have taken Sieffrai months both to reach Canaan and to then return to Wales. Guto may have described the journey in more detail in another praise poem (poem 96) which he addressed to Sieffrai, yet his concise treatment of the pilgrimage in the present poem suggests that he was eager to resume his professional relationship with Sieffrai after a long period of absence. The concluding lines of this part of the poem are tantalizingly similar to the way praise poems are concluded in general, namely by wishing the patron well.

In the next part of the poem (11–24), Guto gives his own perspective and portrays his relationship with Sieffrai as a relationship between a prisoner and a prison keeper. As in other personal poems for a number of patrons, Guto playfully explores the concept of confinement, and here he uses the conceit of being imprisoned and tried in a court of law in order to emphasize how much his patron needs both him and his services as a poet. This is summed up in a paradox in lines 23–4, where Guto claims that his freedom is based on his confinement in Sieffrai’s home. There is a similarity between this theme and Guto’s claim that Abbot Rhys of Strata Florida prevented him from visiting the court of Phylib ap Gwilym Llwyd of Tregunter in his praise poem (poem 30) for Phylib. Guto’s tongue was firmly in his cheek when he sang in this key for both Sieffrai and Phylib, yet his point was also to show that his poetry was in great demand in their houses.

Next Guto gets to grips with accusations made against him by a poet named Syr Rhys (25–30). Guto and Syr Rhys of Carno composed satirical poems to each other, and in his poem (poem 101a) Syr Rhys complains that Guto had been too ill to attend a Christmas feast at the abbey of Valle Crucis. According to Syr Rhys, the illness was caused by [t]ra newyn drwy’i neuadd ‘a great famine throughout his hall’ (101a.8), and he then lists the numerous foods that Guto failed to provide when he held his own feast in his home at Oswestry. Guto doubtless refers to Syr Rhys again in this poem for Sieffrai, where he jumps at the chance to get one-up on his fellow-poet by admitting that he would not need to feed himself from now on as Sieffrai will accommodate him in Oswestry castle (31–6). He would not have to travel far from his home to the castle and it is appropriate enough that the castle has now changed from being a carchar rhydd ‘free ward’ (16) to ein caerau ni ‘our forts’ (35).

Guto then details the content of the feast in the castle (37–40) before comparing himself with Sir Hywel ap Gruffudd and his famous axe in order to emphasize his immense appetite (37–48). Like Hywel’s axe, everything in Sieffrai’s feast is of great size, but then the emphasis changes as Guto turns his attention to the fine ingredients that give flavour to the food: sinsir ‘ginger’, graens ‘grains’, sinamwm ‘cinnamon’, clows ‘cloves’, [c]wmin ‘cumin’, suwgr ‘sugar’, mas ‘mace’ and pupr ‘pepper’ (51–5). One of Siân’s virtues is her ability to make use of these herbs in the kitchen and another is to pour wine at the table (57–60). Guto concludes the poem by suggesting that it is Sieffrai’s company, along with all the benefits it entails, that make the castle and town of Oswestry special (63–4). He admits that he would not be yno ‘there’ in the castle, possibly both as a poet and as a burgess in the town, if Sieffrai was not also there, by way of which he also links back with the earlier references to imprisonment in lines 11–24. Is Guto implying that Oswestry was simply a temporary residence for him?

The brilliance of this poem is not in Guto’s ability to weave together a number of disparate themes, but in his ability to create a sequence of images for a specific purpose. Like a zoom on a camera, he seems to be gradually focusing on his subject throughout the poem. He turns his gaze from the vast horizons of Europe and beyond to a vibrant civil centre in the Marches of Wales, then he depicts the castle at Oswestry and the feast held there. Guto subtly contrasts the arduously long journey of his patron both to and from Canaan with his own short journey from his home to the castle in Oswestry (32–3). He then turns his attention to the food provided in the feast and finally to the fine ingredients, therefore completing the metaphoric transition from a wide, panoramic view of the ends of the earth to a minute depiction of things that can be kept in a [c]wpwrd ‘cupboard’ (61) and held in the palm of a llaw ‘hand’ (58–60).

Date
According to Gruffudd Hiraethog, Sieffrai married his second wife, Ann daughter of Richard Lord Strange, in 1467. If so, this is the poem’s terminus ante quem as it contains praise for Siân, Sieffrai’s first wife. The references at the beginning of the poem to Sieffrai’s pilgrimage are in all likelihood related to more extensive references to his travels in another of Guto’s praise poems (poem 96) for Sieffrai. If the dating of that poem following an outbreak of the Black Death in the Marches sometime between 1463 and 1465 is correct, it is likely that the present poem also belongs to the same period.

The manuscripts
This poem survives in six manuscript copies. Gwyn 4, LlGC 3051D and LlGC 8497B derive from a lost manuscript which contained an extensive collection of Guto’s work and which was written, in all likelihood, in Dyffryn Conwy. The collective evidence of these three manuscripts faithfully reflects the text of the lost source, which was fortunately in good condition. The text of LlGC 3051D is incomplete and was probably derived from an oral source.

stema
Stemma

Previous edition
GGl poem LXXXVI.

Metre and cynghanedd
Cywydd, 64 lines.
Cynghanedd: croes 55% (35 lines), traws 22% (14 lines), sain 12% (8 lines), llusg 11% (7 lines).

2 pederau ffydd Pedr  See GPC 2666 s.v. pader ‘prayer; (often in the pl.) rosary, bead’. Guto is in all likelihood referring to the second meaning, namely ‘St Peter’s faith beads’, which Sieffrai brought home with him from Rome (cf. Guto’s poem of thanks for a rosary (poem 59) from Rhisiart Cyffin). However, it is worth keeping in mind that pilgrims would often use specific prayers as they visited holy places.

2 Pedr  St Peter (see 5n).

2 ffon  As there is no recorded tradition which connects St Peter with a specific ffon ‘staff’, Guto is probably referring to the pererin’s staff (‘pilgrim’), namely Sieffrai. Nonetheless, pilgrims would sometimes buy staffs in specific places along their journey, and the ffon could therefore belong to St Peter in this context if Sieffrai had bought it, possibly along with the pederau ‘faith beads’, in Rome (see Birch 1998: 76; cf. Roberts 1916: 190 affon gan beder affawl ‘and a staff from St Peter and St Paul’ (Hywel ap Llywelyn to his pilgrimage to Rome)). The staff was one of the objects most commonly associated with pilgrims in the Middle Ages (see Olson 2008: 16), yet no reference to pederau ffydd Pedr ‘St Peter’s faith beads’ has been found in this context.

3 rhoes ffordd dda  The phrase rhoi ffordd was borrowed from the English ‘give way, to yield’ (see GPC 3089 s.v. rhoddaf, where the earliest example belongs to 1684). OED Online s.v. give 49 shows that give way was used in English as early as 1413. Although the exact meaning of give way is not appropriate in this context, the essential meaning is arguably not far off, namely ‘to make the way clear, assure a road’.

4 Sant Cyffin  A play on Sieffrai Cyffin’s name, ‘Saint Cyffin’.

5 tŷ’r ddau  ‘The two men’s house’, namely St Peter and St Paul. Both saints were often named together by the poets on the (probably spurious) belief that they were martyred on the same day, namely 29 June (see ODCC3 1234–8, 1260–1 and 1297; cf. GGMD i, 2.56n; GRhGE 14.85–6). It is believed that they were martyred in Rome and the basilica of St Peter in the Vatican City was considered the church of both St Peter and St Paul during the Middle Ages. Although another basilica was dedicated to St Paul beyond the walls of the city, both saints’ heads were displayed together in the basilica of St John in the Vatican (see Jones 1912: 177n2; Olson 2008: 34n166; Roberts 1916: 188 gweled pen peder yvedrwn / affawl or lle goraff hwn ‘I could see St Peter’s head and St Paul’s from this splendid place’ (Hywel ap Llywelyn to his pilgrimage to Rome)).

6 Pawl  St Paul the Apostle from Tarsus (see 5n).

6 yn ei gorffolaeth  ‘In body, bodily’. For other examples of this phrase, see GPC 560 s.v. corffolaeth. It is used in contrast with the custom of sending a pilgrim to a holy place on behalf of someone else (see Duffy 2002: 174–7). It is very likely that Lewys Glyn Cothi went on a pilgrimage to Rome on behalf of Wiliam Fychan ap Gwatcyn of Rhydhelig, and composed a poem for his beard on his return as he had not shaved during the journey (see GLGC poem 90).

8 Porth Siaff  Williams (1978–80: 613–14) showed that Guto is referring to the port of Jaffa (Hebrew Yafo) on the coast of Israel. Port Iaff, port Iaph and Porte Iaffe were English forms of the name during the fifteenth century, where pilgrims from Europe would land before beginning the last leg of their journey overland to Jerusalem. The majority of pilgrims would arrive at Jerusalem from the west and would seek entry to the city through a gatehouse which was called in Hebrew Sha’ar Yafo during the sixteenth century. This name could also be rendered into Welsh as Porth Siaff, but as the new gatehouse which can still be seen today in the old city walls was built in 1538, it is not clear whether the earlier gatehouse bore the same name. On porth, ‘port’ or ‘gateway’, see GPC 2855 s.v. porth2, 3 (cf. GLGC 138.45–6).

8 y Bedd  ‘The Tomb’, namely the Church of the Holy Sepulchre in Jerusalem built upon the supposed site of Christ’s burial and resurrection (see ODCC3 787).

9 Enaid rhydd a aned draw  On enaid rhydd ‘absolved or pardoned soul, one freed or acquitted by the church’, see GPC 1212 s.v. enaid (cf. GLGC 98.3–4 adre’ doed yn dra dedwydd / ganto’r haf ag enaid rhydd ‘may he bring the summer home very blessed with a pardoned soul’ (for Dafydd ap Siôn when he was in Rome)). Was Sieffrai’s pilgrimage prompted by specific sins?

10 y rhain  ‘These’, namely St Peter and St Paul (see 2n Pedr and 6n Pawl).

11 wrth wyn  ‘By the will’ (see GPC 1770 s.v. gwyn2; cf. 5.34 Cyfod wrth wyn y cwfaint ‘rise up to the delight of the monks’). But cf. Lewys Glyn Cothi’s poem for Dafydd ap Siôn when he was on pilgrimage in Rome, GLGC 98.13–16 Wrth wyn Mawd y ffawd, dda ei ffydd, – a’r saint, / wrth wyn Siôn yn drydydd; / wrth wyn pob oferddyn fydd / ei dro ef drwy’r holl drefydd ‘By the will of Maud of the fortune, good her faith, and the saints, thirdly by the will of Siôn; by the will of every wandering poet will his journey be through all the towns,’ and ibid. 571. It is noteworthy that Lewys refers to Maud, Dafydd ap Siôn’s mother, and then to his father, Siôn ap Dafydd, and that Guto also refers similarly to Mabli, Sieffrai’s mother (see the note below).

11 Mabli  Mabli daughter of Llywelyn Gogof ab Ieuan Llwyd, Sieffrai’s mother and the second wife of Morus ab Ieuan Gethin.

12 fy mywyd i  ‘My living’ (cf. 5.2 Abad wyd a bywyd ym ‘you are abbot and life to me’).

16 carchar rhydd  ‘Free ward’ (see GPC 423 s.v. carchar). The earliest example in English belongs to 1538 (see OED Online s.v. free ‘detention not involving close or ignominious restraint, as sometimes offered to wealthy or noble captives pending the payment of ransom’).

18 moc  From the English word mock ‘mockery’ (see GPC 2468). This is the earliest example of the word in Welsh.

20 ond  ‘Unless, if … not’ (see GPC 2647–8 s.v. ond2).

21 meichiau  Plural of mach ‘one who accepts responsibility for the fulfilment of a contract’ or for someone’s appearance in court (see GPC 2299).

21 rhaith  See GPC 3033–4 s.v. rhaith (b) ‘body of compurgators; jury’, although ibid. (a) ‘rule, decree’ is also possible.

23 yr ŵyl  ‘The feast’ or ‘festival’, possibly one of the three main religious holidays: Christmas, Whitsunday and Easter. As both Guto and Syr Rhys of Carno (see 27n) refer in their satirical poems to a Christmas feast, this [g]ŵyl may refer to either Whitsunday or Easter.

25 Siân  Daughter of Lawrence Stanstry and Sieffrai’s first wife.

27 Syr Rys  Syr Rhys ap Hywel Dyrnor of Whittington (y Dre-wen) and Carno, a poet-priest who composed a satirical poem for Guto which is referred to in lines 25–8.

28 dyfalai  See GPC 1122 s.v. dyfalaf (b) ‘to mock, deride, ridicule’.

33 caer Oswallt  ‘St Oswald’s fort’, namely the town castle. The castle of Oswestry is in all likelihood referred to in the Domesday Book (1086), where it is noted that a Norman sheriff named Rainald built a castle near the township of Maesbury. The brut notes that Madog ap Maredudd, the last of the kings of Powys, built a castle at Oswestry in 1149 (see Jones 1973: 128). The castle was an important military centre during the Conquest and the town that surrounded it developed into a notable commercial centre during the latter Middle Ages. See further Smith 1978: 221–2.

34 y bryn ar grib yr allt  ‘The hill on the slope’s ridge’. The land gradually rises up northwards in Oswestry towards the bailey square, and the castle stood on a raised hillock above it.

38 a fyn  In all likelihood what Sieffrai ‘wants’ (cf. 56 a fyn Sieffrai ‘what Sieffrai wants’).

41 Hywel  Sir Hywel y Fwyall (of the Axe) (fl. c.1346–c.1381), son of Gruffudd ap Hywel of Chwilog in Eifionydd and one of the most famous Welsh warriors of the Hundred Years War. Poems of praise for him have survived by Iolo Goch, Gruffudd ap Maredudd and Rhisierdyn, and also a poem of praise for his brother, Einion ap Gruffudd, by Gruffudd Gryg (see IGP poem 2; GGMD iii, poem 2; GSRh poem 6; GGGr poem 1). Legend has it that Hywel captured John II, king of France, in the great battle of Poitiers in 1356, where he also won renown for his axe. According to a preface to a copy of Iolo Goch’s poem for him in the hand of David Johns in BL 14866, 118 (1586–7), Hywel received a knighthood for his feats as well as two dishes, one for himself and another for his axe. Guto refers directly to the greedy nature of Hywel’s axe in lines 41–4.

41–2 Fal Hywel yn rhyfelu, / Felly ’dd wyf, â’r fwyall ddu  Cf. a borrowing by Lewys Glyn Cothi in a praise poem for Siôn ap Tomas of Llanwrda, composed after 1487, GLGC 24.31–2 Syr Hywel yn rhyfelu, / felly’dd oedd â’r fwyall ddu (for the date, see ibid 534).

43 unsaig  See GPC 3168 s.v. saig ‘dish (of food), (course of a) meal, feast’.

43 Winsawr  Windsor castle on the banks of the river Thames west of London, the principal castle and palace of the kings of England.

45 amrafael  ‘Multifarious’. Cf. Guto in his poem of praise for Hywel ap Llywelyn Fychan of Glyn Aeron, 10.23–4 Mawr y barnaf amrafael / Y rhwng y cybydd a’r hael ‘I judge that there will be a great difference between the miser and the generous man.’

46 Morus  Morus ab Ieuan Gethin, Sieffrai’s father.

48 neithior  ‘Marriage feast’, according to Statud Gruffudd ap Cynan (1523) one of the pum erw rydd ‘five free accesses’ when poets were allowed to visit a patron’s house (see Davies 1904–6: 101; see further MacCana 1968–70: 316–19).

50 castell Oswallt  ‘St Oswald’s castle’ (see 33n).

51 sinsir  Borrowed from the English ginger (see GPC 3285).

52 graens da rhag yr annwyd  ‘Excellent grains to keep against the cold’. The plural graens is borrowed from the English grain (see GPC 1522 s.v. graen3). Cf. Lewys Glyn Cothi in a poem of praise for Ieuan ap Lewys and Tangwystl of Aber-mad in Mefenydd, GLGC 88.52 graens rhag haint gwres ‘grains to keep against fever’ (cf. 53n Sinamwm, clows a chwmin and 55n Pob rhyw fwyd mewn pupr a fai).

53 Sinamwm, clows a chwmin  Cf. Lewys Glyn Cothi in a poem of praise for Ieuan ap Lewys and Tangwystl of Aber-mad in Mefenydd, GLGC 88.47–8 sinamwm, almwns, cwmin, / balsamẃm yw blas ’y min ‘cinnamon, almonds and cumin, balsam is the taste on my lips’ (cf. 52n and 55n Pob rhyw fwyd mewn pupr a fai).

53 sinamwm  Borrowed from the English cinnamom (see GPC 3283 s.v. sinamon).

53 clows  Borrowed from the English cloves (see GPC 505 s.v. clofs).

53 cwmin  Borrowed from the English cumin (see GPC 641).

54 suwgr  A form of siwgr, borrowed from the Middle English sugre (or possibly directly from the French of England) (see GPC 3296 s.v. siwgr).

54 mas  Borrowed from the English mace (see GPC 2370 s.v. mas2).

55 Pob rhyw fwyd mewn pupr a fai  ‘Every such food in pepper that be’. Cf. Lewys Glyn Cothi in a poem of praise for Ieuan ap Lewys and Tangwystl of Aber-mad in Mefenydd, GLGC 88.42 pupur o fewn pob rhyw fwyd ‘pepper in every such food’ (cf. 52n and 53n Sinamwm, clows a chwmin).

55 pupr  Borrowed from Middle English piper (see GPC 2930 s.v. pupur).

57 sew  Borrowed from Middle English seu ‘soup, broth, stew’ (see GPC 3236).

63 malsai  Borrowed from Middle English malmsey ‘A strong sweet wine, originally the product of the district of Monemvasia (Napoli di Malvasia) in the Peloponnese, Greece, later also from other parts of the Mediterranean, the Azores, the Canaries, Madeira, and elsewhere’ (see OED Online s.v. malmsey 1; GPC 2329 s.v. malmsai).

64 f’annedd  ‘My home’. Cf. Guto in his poem of praise for Oswestry, 102.13–14 Am hynny ’dd wyf a’m hannedd / Yn y Mars; caf win a medd ‘that’s why my home is in the Marches; I receive wine and mead’.

Bibliography
Birch, D.J. (1998), Pilgrimage to Rome in the Middle Ages (Woodbridge)
Davies, J.H. (1904–5), ‘The Roll of the Caerwys Eisteddfod of 1523’, Transactions of the Liverpool Welsh National Society: 87–102
Duffy, E. (2002), ‘The Dynamics of Pilgrimage in Late Medieval England’, C. Morris and P. Roberts (eds.), Pilgrimage: The English Experience from Becket to Bunyan (Cambridge), 164–77
Jones, G.H. (1912), Celtic Britain and the Pilgrim Movement (London)
Jones, T. (1973) (ed. and trans.), Brut y Tywysogyon, or, The Chronicle of the Princes, Red Book of Hergest Version (second ed., Cardiff)
MacCana, P. (1968–70), ‘Elfennau Cyn-Gristnogol yn y Cyfreithiau’, B xxiii: 316–20
Olson, K.K. (2008), ‘ “Ar Ffordd Pedr a Phawl”: Welsh Pilgrimage and Travel to Rome, c.1200–c.1530’, Cylchg HC 24: 1–40
Roberts, E.S. (1916) (ed.), Llanstephan Ms. 6 (Cardiff)
Smith, Ll.B. (1978), ‘Oswestry’, R.A. Griffiths (ed.), Boroughs of Medieval Wales (Cardiff), 218–42
Webb, D. (1999), Pilgrims and Pilgrimage in the Medieval West (London)
Williams, G.A. (1978–80), ‘Siaffr (GGGl lxxxvi. 8)’, B xxviii: 613–14

Cliciwch ar rif llinell i weld amrywiadau
Image Dialog
Sieffrai Cyffin ap Morus, 1460–75, a Siân ferch Lawrence Stanstry, 1460–7, o GroesoswalltSiân ferch Lawrence Stanstry o Groesoswallt

Sieffrai Cyffin ap Morus, fl. c.1460–75, a Siân ferch Lawrence Stanstry, fl. c.1460–7, o Groesoswallt

Top

Roedd Sieffrai Cyffin yn un o noddwyr pwysicaf Guto yn y Mers. Er ei bod yn debygol fod Sieffrai wedi noddi nifer o feirdd, pum cerdd iddo gan Guto yw’r unig gerddi sydd wedi goroesi iddo yn y llawysgrifau: cywydd mawl (cerdd 96); cywydd mawl i Sieffrai a’i wraig, Siân ferch Lawrence Stanstry (cerdd 97); cywydd gofyn am frigawn ar ran Dafydd Llwyd o Abertanad (cerdd 98); cywydd gofyn am gorn hela ar ran Siôn Eutun o Barc Eutun (cerdd 99); cywydd gofyn am ddau filgi ar ran Sieffrai gan Robert ab Ieuan Fychan o Goetmor (cerdd 100). Canodd Tudur Aled gywydd mawl i Edward Trefor a’i wraig, Ann Cyffin ferch Sieffrai (TA cerdd 51 a llinellau 43–56 yn arbennig). Molwyd Lewys Cyffin ap Siôn, ŵyr i frawd Sieffrai, mewn cywydd gan Huw ap Dafydd (GHD cerdd 20) a chanodd Wiliam Llŷn gywydd marwnad iddo (Stephens 1983: 327; nis ceir yn WLl).

Mae’n rhaid gwahaniaethu rhwng Sieffrai Cyffin a gŵr arall o’r un enw a fu’n abad Aberconwy yn hanner cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg (Williams 1970–2: 188, 196; idem 2001: 295). I’r Abad Sieffrai Cyffin y canodd Tudur Aled awdl fawl (TA cerdd 27). Yn Lowe (1921: 272), honnir bod ‘Geoffrey Kyffin’ yn abad Aberconwy yn 1450, camgymeriad am 1550, yn ôl pob tebyg.

Achresi
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ac Cynfyn’ 9, 10, 11; WG2 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 10 F2, 11 A3. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.

lineage
Achres Sieffrai Cyffin ap Morus o Groesoswallt

Fel y gwelir, roedd Sieffrai’n hanner ewythr i Faredudd ap Hywel o Groesoswallt ac yn hanner cefnder i Ddafydd Cyffin ab Iolyn o Langedwyn ac i Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch. Roedd yn hanner cefnder i Ruffudd ab Ieuan Fychan o Abertanad hefyd, sef gŵr Gweurful ferch Madog a thad Dafydd Llwyd. At hynny, roedd Sieffrai’n perthyn o bell i Siôn Eutun o Barc Eutun ac i Robert ab Ieuan Fychan o Goetmor.

Yn y goeden achau isod dangosir teulu Sieffrai ei hun. Fe’i seiliwyd ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 9, 11, 27, ‘Seisyll’ 2, WG2 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 11D ac ar wybodaeth a geir yn llaw John Davies o Riwlas (1652–c.1718) yn LlGC 8497B, 66r–67r wrth ymyl copi o gerdd 97 yn llaw Thomas Wiliems.

lineage
Teulu Sieffrai Cyffin ap Morus o Groesoswallt

Eiddo John Davies yw’r wybodaeth ynghylch priodas Catrin ferch Sieffrai a gŵr o’r enw Edward ap Dafydd ab Edmwnd, y pencerdd o blwy hanmer. Ni nodir yn achresi Bartrum fod mab gan y bardd, Dafydd ab Edmwnd, eithr merch yn unig, sef Marged, ond gall fod y cof amdano wedi pylu yn sgil y ffaith na bu iddynt ddim plant (WG1 ‘Hanmer’ 2; sylwer bod cyfeiriad at ŵr o’r enw Hopgyn ap Dafydd ab Edmwnd yn ibid. ‘Trahaearn Goch of Llŷn’ 2). At hynny, dywed Davies fod merch anhysbys Sieffrai a briododd Syr Tomas Cinast wedi marw yn ddi blant. Priododd merch arall iddo, Ann, ag Edward Trefor ap Siôn Trefor, constable castell y drewen yn ôl Davies. Dywed bod Ales ferch Sieffrai wedi cael perthynas gydag un o noddwyr Guto, Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais, ac wedi cenhedlu vn plentyn ohono ef ond ni bu hi ddim yn briod. Cafodd Ales ferch a fu farw’n ifanc (Griffiths 1993: 64, 270).

Priododd Sieffrai ddwywaith, yn gyntaf â Siân ferch Lawrence Stanstry (yr hon a elwyd y saesnes goch o gent yn ôl Davies) ac wedyn ag Ann o deulu arglwyddi Strange o’r Cnwcin. Nododd Gruffudd Hiraethog yn Pen 176, 357 (c.1552), mai merch oedd Ann i John arglwydd Strange, a’r un oedd ei farn wreiddiol yn Pen 134, 380 (c.1550–8), cyn iddo newid ei feddwl: Ann fh’ chwaer sion arglwydd ystraens. Ategir y diwygiad ddwywaith gan Wiliam Llŷn yn Pen 139, i, 64–5 (c.1567–77), ac er iddo nodi ar dudalen 66 fod Ann yn ferch i John, diwygiwyd yr wybodaeth honno maes o law (gan Wiliam ei hun yn ôl pob tebyg): nid gwir fry am blant argl’ straens chwaer oedd wraic sieffre kyffin i iohn y diweddaf or arglwydde straens. Yn ôl Wiliam olynwyd John, yr olaf o arglwyddi Strange Cnwcin drwy waed, gan ei ferch, Sian, a briododd George arglwydd Stanley, mab iarll cyntaf Derbi. Ategir yr wybodaeth honno yn Kidd and Williamson (1990: P 1075), lle dywedir mai Joan (Siân) oedd unig ferch John. Seiliwyd yr achres isod ar ibid. ac ar wybodaeth ddiwygiedig y llawysgrifau.

lineage
Teulu Ann ferch Richard arglwydd Strange

Ei deulu a’i yrfa
Roedd Sieffrai’n ŵyr i Ieuan Gethin ac felly’n aelod o deulu Cymreig mwyaf dylanwadol y gororau i’r dwyrain o’r Berwyn yn ystod y bymthegfed ganrif. Y tebyg yw mai drwy gyswllt Guto ag aelodau eraill o’r teulu hwnnw (megis Hywel ab Ieuan Fychan) y dechreuodd dderbyn nawdd gan Sieffrai yn y lle cyntaf. Roedd cyfenw Sieffrai yn enw teuluol a ddefnyddiwyd gyntaf gan ei hendaid, Madog Cyffin. Yn ôl Griffith (1998: 196), mabwysiadodd Madog y cyfenw o’r enw lle Cyffin yn Llangedwyn (gw. GPC 730 d.g. cyffin ‘ffin, goror’) er mwyn gwahaniaethu rhyngddo ef a’i dad, Madog Goch. Roedd tad Sieffrai, Morus ab Ieuan Gethin, yn ynad cwmwd Mochnant Is-Rhaeadr yn ystod nawdegau’r bedwaredd ganrif ar ddeg a cheir ei enw mewn cofnod arall yn dilyn methiant gwrthryfel Owain Glyndŵr (Huws 2007: 97–8, 117n77). Roedd yn fyw yn 1445 ac yn gysylltiedig â Chroesoswallt (CPR 1441–6, 397–8). Dywed Guto fod Morus wedi teithio i dref Aras yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc ac i Brwsia yn yr Almaen (96.25–6), o bosibl ar bererindod (gw. y nodyn isod ar bererindod ei fab). Ar arfau herodrol Sieffrai a’i deulu, gw. DWH ii: 93–4.

Roedd Guto’n canu i Sieffrai cyn Tachwedd 1465, oherwydd oddeutu dechrau’r mis hwnnw bu farw Dafydd Llwyd o Abertanad a’i wraig, Catrin, o haint y nodau. Canodd Guto gywydd gofyn am frigawn i Sieffrai ar ran Dafydd (cerdd 98) lle cyfeirir at gwnstablaeth Sieffrai yng Nghroesoswallt (98.16, 22). Gwyddys ei fod yn un o feilïaid y dref yn 1463 ac yn berchen ar dir yno ar 29 Medi 1465 (Huws 2007: 122n93; DWH ii: 93). Ni ellir profi bod Sieffrai’n gwnstabl y dref yn ogystal ag yn feili yn 1463, nac ychwaith ei fod yn parhau i fod yn gwnstabl yn 1465, ond fe ymddengys hynny’n debygol. Canodd Syr Rhys gerdd ddychan i Guto pan oedd yn fwrdais yng Nghroesoswallt (cerdd 101a) a chyfeirir at y dychan hwnnw yng nghywydd mawl Guto i Sieffrai ac i Siân, ei wraig gyntaf (97.25–8). Yng ngherdd Syr Rhys enwir Siôn ap Rhisiart, abad Glyn-y-groes, c.1455–c.1480. Yn ei gywydd i ofyn brigawn gan Sieffrai, cyfeiria Guto at y bwrdeisiaid a ddioddefai pe na bai Sieffrai’n gwnstabl, ac yn y llinellau nesaf defnyddir y rhagenw personol cyntaf lluosog ein i ddisgrifio pwysigrwydd Sieffrai yn y dref (98.19–26). Yr awgrym cryf yw bod y bardd ei hun yn fwrdais yn y dref pan ganwyd y gerdd rywdro cyn Tachwedd 1465, ac felly mae’n bur debygol fod Syr Rhys yntau wedi canu ei gerdd ddychan i Guto oddeutu’r un adeg, pan oedd Siôn yn abad. Mae’n gymharol eglur, felly, y gellir lleoli Sieffrai yng Nghroesoswallt yn hanner cyntaf y 1460au.

Cyfeiriwyd eisoes at y cywydd mawl a ganodd Guto i Sieffrai ac i’w wraig gyntaf, Siân. Yn Pen 176 dywed Gruffudd Hiraethog fod Sieffrai wedi priodi ei ail wraig, Ann ferch Richard arglwydd Strange, yn 1467, ond dywed yn Pen 134 mai Syr Peter Newton a Siân, merch hynaf Sieffrai ac Ann, a briododd y flwyddyn honno. A chymryd nad oedd Gruffudd yn hau dyddiadau yn ôl ei fympwy, mae’n eithriadol o annhebygol fod y ddwy briodas wedi eu cynnal yn yr un flwyddyn, felly ym mha lawysgrif yr aeth ar gyfeiliorn? A chymryd y byddai Siân ferch Sieffrai dros ddeg oed o leiaf yn priodi, os dilynir Pen 134 mae’n rhesymol tybio y byddai wedi ei geni cyn c.1457 a bod ei rhieni, felly, wedi priodi erbyn canol y pumdegau. O ganlyniad, byddai’n rhaid dyddio’r cywydd a ganodd Guto i Sieffrai a’i wraig gyntaf cyn c.1452 a chasglu bod Guto yn fwrdais yng Nghroesoswallt bryd hynny. Er nad yw hynny’n gwbl amhosibl, mae dyddiad diweddarach yn llawer mwy tebygol yn sgil swm y dystiolaeth a amlinellwyd uchod, ynghyd â’r ffaith fod Guto’n aml yn cyfeirio ato’i hun fel gŵr oedrannus yn y cerddi sy’n ymwneud â Chroesoswallt (97.26; 101.20, 47–50; 101a.31–6, 40, 55, 60; 102.1–4, 7, 49–50). Cesglir, felly, mai ail briodas Sieffrai a gynhaliwyd yn 1467 yn hytrach na phriodas ei ferch, ac felly mae’n rhaid dyddio’r cywydd a ganodd Guto i Sieffrai a Siân cyn y flwyddyn honno.

Nodir yn GGl 347 i Sieffrai farw yn 1509, ond ei ferch, Ann, mewn gwirionedd, a fu farw’r flwyddyn honno (Griffith 1998: 254; HPF iv: 84). Roedd yn fyw ar 11 Mawrth 1475 (Jones 1933: 93), pan gafodd ei enwi’n dyst i weithred i ryddhau tir yng Ngwernosbynt a’i alw’n Seneschal of Chirkesland. Er nad oedd rhyw lawer o wahaniaeth mewn rhai achosion rhwng dyletswyddau cwnstabl a dyletswyddau distain (ibid. xxxiii), mae cyswllt y swydd ag arglwyddiaeth y Waun yn awgrymu’n gryf nad yr un ydoedd â swydd cwnstabl prif dref arglwyddiaeth Croesoswallt. Y tebyg yw bod Sieffrai, felly, wedi symud o Groesoswallt erbyn y flwyddyn honno, a gall mai yn sgil priodi ei ail wraig, Ann ferch Richard arglwydd Strange, y daeth i gyswllt â byd y gyfraith. Gwysiwyd brawd Ann, John arglwydd Strange, i’r senedd yn Llundain o 1446 i 1472 (Kidd a Williamson 1990: P 1075).

Yn Pen 139, i, 64, dywed Wiliam Llŷn i ail wraig Sieffrai, Ann, ailbriodi ar ôl i Sieffrai farw, a hynny â Sr’ tomas mytyn. Ar waelod dalen 66 yn y llawysgrif honno ceir nodyn gan y bardd Rhys Cain (a ysgrifennwyd c.1604), lle cyfeirir at Ann ac at y ferch a gafodd gyda Sieffrai, Siân:Ann mitton vcho a Ioan mrch ac et
Sieffrey kyffin oeddynt vyw yr ail
vlwyddyn o deyrnasiad hari 7
mae’r weithred gyda ni Ric Blodwell.Dengys cywydd mawl anolygedig Rhys Cain i Risiart Blodwel ap Siôn Blodwel fod Rhisiart wedi bod yn swyddog o bwys yn nhref Croesoswallt ac yn weithgar yn atgyweirio’r gaer yno (LlGC 11986B, 33). Ac yntau a’i wraig, Marged, yn ddisgynyddion i Fadog Cyffin ac yn byw yn y fwrdeistref, nid yw’n syndod efallai fod dogfen yn ymwneud â theulu Sieffrai yn ei feddiant (WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 9, 45; WG2 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 42G, 45B). Fe’i hysgrifennwyd rhwng 22 Awst 1486 a 21 Awst 1487, a gellir casglu nad oedd Sieffrai’n fyw y flwyddyn honno. Bu farw, felly, rywdro rhwng 1475 a 1486/7 (bu farw ei hanner brawd, Hywel, yn 1481, gw. Pen 75, 5).

Sylwer bod Rhys Cain yn cyfeirio at Siân fel et[ifedd] Sieffrey kyffin yn y nodyn uchod. Yn wahanol i’w frodyr nid ymddengys i linach Sieffrai barhau yn sgil ei fab. Un mab i Sieffrai a nodir yn yr achresi, sef Harri Cyffin, a cheir ansicrwydd ynghylch pwy oedd ei fam. Gall mai mab anghyfreithlon ydoedd, oherwydd ni chyfeirir ato o gwbl mewn fersiwn o achau Sieffrai a gofnodwyd yn LlGC 8497B, 66r–67r (gw. uchod), a gall fod a wnelo hynny â’r ffaith na cheir yn yr un llawysgrif awgrym i Harri briodi na chael plant. Mae’n ddigon posibl ei fod yntau, fel ei dad, wedi marw erbyn 1486/7, a hynny naill ai’n ddietifedd neu heb iddo gael ei gydnabod fel etifedd ei dad. Fel y gwelir o’r llawysgrifau achyddol uchod o waith Gruffudd Hiraethog a Wiliam Llŷn, yn sgil teuluoedd yr uchelwyr a briododd ferched Sieffrai (a Siân wraig Peter Newton yn benodol efallai) y diogelwyd y cof am ei linach.

Ei fro
Yn ôl achresi Bartrum a chywydd a ganodd Huw ap Dafydd i Lewys Cyffin, ŵyr i frawd Sieffrai, Wiliam ap Morus, ymgartrefodd y gangen honno o deulu Morus yn llys Gartheryr ger Llanrhaeadr-ym-Mochnant (GHD 20.8, 37). Yn nhref Croesoswallt yr ymgartrefodd Sieffrai. Ceir ei enw yn yr ail safle ar restr hir o fwrdeisiaid Croesoswallt a luniwyd ar gais beilïaid y dref yn 1546, ynghyd â’i fab, Harri, a nifer o’i feibion-yng-nghyfraith ac aelodau o’i deulu estynedig (archifdy Croesoswallt, OB/A12). Ymddengys fod y rhestr yn gofnod dethol o brif fwrdeisiaid y dref rhwng c.1450 a 1546, a’r tebyg yw ei bod yn seiliedig ar restrau eraill a luniwyd mewn cyfnodau cynharach. Gwelir oddi wrth achresi Bartrum fod nifer fawr o’r bwrdeisiaid hyn yn perthyn drwy waed neu briodas, ac mae’r rhestr yn dyst gwerthfawr i’r cysylltiadau a sefydlwyd rhwng teuluoedd mawr Cymreig a Saesnig y gororau ac a fu’n sail i ffyniant tref Croesoswallt yn y cyfnod hwn. Ceir enw Guto ar y rhestr hefyd, ynghyd â Thudur Aled (gw. cerdd 102 (esboniadol)).

Ei bererindod
Rywdro tua’r flwyddyn 1460, yn ôl pob tebyg, aeth Sieffrai ar bererindod i Rufain a Jerwsalem. Cyfeirir yn frysiog at y daith ar ddechrau cywydd Guto i Sieffrai a’i wraig, Siân, lle nodir ei fod wedi ymweld ag eglwys Sant Pedr yn ninas y Fatican cyn teithio i borthladd Jaffa yn Israel ac ymweld ag eglwys y Beddrod Sanctaidd yn Jerwsalem (97.1–10). Mae’n hynod o debygol fod Guto’n cyfeirio at yr un daith mewn cywydd arall a ganodd i Sieffrai. Er na sonnir am y bererindod yn y gerdd honno, dywedir bod Sieffrai wedi teithio dros y sianel i Ffrainc a thrwy Fyrgwyn i Wlad Groeg ac Affrica (96.27–30). A chlymu’r cyfeiriadau yn y ddwy gerdd at ei gilydd, ymddengys fod Sieffrai wedi teithio drwy Fyrgwyn er mwyn croesi mynyddoedd yr Alpau. Yn ôl Olson (2008: 19–20), roedd tair prif ffordd yn croesi’r Alpau yn yr Oesoedd Canol. Mae’r ffaith fod Lewys Glyn Cothi, pan deithiodd yntau ar bererindod i Rufain, wedi dilyn yr hyn a elwid ‘y ffordd Almaenig’ yn awgrymu y gall fod Sieffrai yntau wedi croesi’r mynyddoedd o’r un cyfeiriad. Dywed Lewys ei fod wedi teithio (o Fôn, efallai) i Frabant a Fflandrys ac i lawr ar hyd dyffryn afon Rhein i Fyrgwyn. Oddi yno teithiodd drwy’r Almaen a Swabia (ardal yn ne-orllewin yr Almaen heddiw) i Lombardi yng ngogledd yr Eidal (GLGC 90.11–16). Fel yn achos pererin arall o’r enw William Wey (1405/6–76; DNB Online s.n. William Wey), a aeth ar bererindod i Rufain ac i Jerusalem yn 1458, nid yw’n eglur ym mhle’n union y croesodd Lewys na Sieffrai yr Alpau, ond mae’n bosibl eu bod wedi teithio drwy Fwlch Sant Gotthard (Olson 2008: 20), Bwlch Reschen neu fwlch arall yng ngorllewin Awstria heddiw (Davey 2010: 113).

Rhydd y manylion a gofnododd William Wey ynghylch ei bererindod syniad go dda o’r profiadau a gafodd Sieffrai oddeutu’r un adeg, megis hyd y daith a chyngor wrth ymwneud â brodorion mewn gwahanol wledydd. Fel mwyafrif y pererinion a fynnai deithio i Jerwsalem yn ystod yr Oesoedd Canol, aeth Wey i Fenis er mwyn dod o hyd i long a’i cludai i borthladd Jaffa. Ymddengys fod Sieffrai, fel Wey, wedi ymweld â Rhufain yn gyntaf cyn teithio i Fenis, lle byddai pererinion yn aml yn gorfod disgwyl am wythnosau neu fisoedd am long addas ac yna am amgylchiadau ffafriol i godi angor. O Fenis byddai llongau’r pererinion yn hwylio ar hyd y Môr Canoldir gan oedi o bosibl ar ynysoedd megis Creta a Chyprus (cf. cyfeiriad Guto at Roeg) cyn cyrraedd Jaffa. Oddi yno byddai’r pererinion yn cerdded neu’n marchogaeth i ddinas Jerusalem. Yn wahanol i Wey, nid ymddengys bod Sieffrai wedi dychwelyd yn syth eithr ei fod wedi ymweld ag Affrica hefyd, sef yn ôl pob tebyg yr Aifft. Mae’n bosibl ei fod wedi ymweld ag Alecsandria ar ei fordaith adref neu wedi teithio i Fynydd Sinai hyd yn oed. Am fap o daith Wey, gw. Davey 2010: 20–1.

Llyfryddiaeth
Davey, F. (2010), The Itineraries of William Wey (Oxford)
Griffith, J.E. (1998), Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (third ed., Wrexham)
Griffiths, R.A. (1993), Sir Rhys ap Thomas and his Family (Cardiff)
Huws, B.O. (2007), ‘Ailadeiladu Bywyd ar ôl Gwrthryfel Glyndŵr: Tystiolaeth y Canu i Foelyrch’, Dwned, 13: 97–137
Jones, G.P. (1933), The Extent of Chirkland (1391–1393) (London)
Kidd, C. and Williamson, D. (1990) (eds.), Debrett’s Peerage and Baronetage (London)
Lowe, W.B. (1912), The Heart of Northern Wales (Llanfairfechan)
Olson, K.K. (2008), ‘ “Ar Ffordd Pedr a Phawl”: Welsh Pilgrimage and Travel to Rome, c.1200–c.1530’, Cylchg HC 24: 1–40
Stephens, Roy (1983), ‘Gwaith Wiliam Llŷn’ (Ph.D. Cymru [Aberystwyth])
Williams, D.H. (1970–2), ‘Fasti Cistercienses Cambrenses’, B xxiv: 181–229
Williams, D.H. (2001), The Welsh Cistercians (Leominster)

Siân ferch Lawrence Stanstry o Groesoswallt

Top

Gw. Sieffrai Cyffin ap Morus a Siân ferch Lawrence Stanstry o Groesoswallt


Top
  • AASTAnglesey Antiquarian Society and Field Club Transactions, 1913- ŷŵ
  • ActauActauyr Apostolion yn y Testament Newydd
  • ActsThe Acts of the Apostles in the New Testament
  • APD.Gwenallt Jones (gol.), Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934)
  • Arch CambArchaeologia Cambrensis, 1846
  • ArchifMRCronfa Ddata Enwau Lleoedd: Archif Melville Richards / Archif Melville Richards Place-name Database
  • <http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr>
  • Arm PIfor Williams (gol.), Armes Prydein o Lyfr Taliesin (Caerdydd, 1955)
  • Arm P2Ifor Williams (ed.), Armes Prydain from the Book of Taliesin, English version by Rachel Bromwich (Dublin, 1972)
  • ASCentM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Apocrya Sin Cent (Aberystwyth, 2004)
  • BBwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 1921-93
  • BaLlawysgrif yng nghasgliad Prifysgol Cymru, Bangor
  • Ba(M)Llawysgrif yng nghasgliad Bangor (Mostyn) ym Mhrifysgol Cymru, Bangor
  • BarnwyrLlyfry Barnwyr yn yr Hen Destament
  • BDHenry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942)
  • BDeD.Simon Evans, Buchedd Dewi (Caerdydd, 1959)
  • BDGOwen Jones a William Owen (goln.), Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (Llundain, 1789)
  • BeirnJ. Morris Jones, Y Beirniad (1911-20)
  • BettisfieldCasgliad Bettisfield yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / The Bettisfield collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BLLlawysgrifau Ychwanegol yngnghasgliad y Llyfrgell Brydeinig, Llundain / The Additional Manuscripts in the British Library, London
  • BlBGCC Marged Haycock (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (Llandybe, 1994)
  • Bl BXIV Dafydd Johnston (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif arDdeg (Llandybe, 1989)
  • BodLlawysgrif yng nghasgliad Bodewryd, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth / A manuscript in the Bodewryd collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BodWLlawysgrif Gymreig yng nghasgliadLlyfrgell Bodley, Rhydychen / A Welsh manuscript in the Bodleian Library, Oxford
  • 1 BrenhinoeddLlyfr Cyntaf y Brenhinoedd yn yr Hen Desatement
  • 2 BrenhinoeddAil Lyfr y Brenhinoedd yn yr Hen Destament
  • BrenSaesThomas Jones (gol.), Brenhinedd y Saesson (Caerdydd, 1971)
  • BritishHOBritish History Online http://www.british-history.ac.uk>
  • BrMIfor Williams (gol.), Breuddwyd Maxen (Bangor,1908)
  • BrM2Brynley F. Roberts (ed.), Breudwyt Maxen Wledic (Dublin, 2005)
  • BrogLlawysgrif yng nghasgliad Brogyntyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Brogyntyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BRhMelville Richards (gol.), Breudwyt Ronabwy (Caerdydd, 1948)
  • BTThomasJones (gol.), Brut y Tywysogyon PeniarthMs. 20 (Caerdydd, 1941)
  • BYThomas Jones (gol.), Y Bibyl Ynghymraec (Caerdydd, 1940)
  • ByCyY Bywgraadur Cymreig hyd 1940(Llundain, 1953)
  • ByCy Ar-leinY Bywgraffiadur Ar-lein
  • <http://yba.llgc.org.uk/cy/index.html>
  • CLlawysgrifyn Llyfrgell Ganolog Caerdydd / A manuscript in Cardiff Central Library
  • CAIfor Williams (gol.), Canu Aneirin, (Caerdydd, 1938)
  • CAMBMCatalogueof Additions to the Manuscripts in the British Museum
  • CCJ. Fisher (ed.), The Cefn Coch MSS (Liverpool, 1889)
  • CCRCalendarof the close rolls preserved in the Public Record Office [12721509] (London,1900-63)
  • CDJohn Morris-Jones, Cerdd Dafod (Rhydychen, 1925)
  • CFGMelville Richards, Cystrawen y Frawddeg Gymraeg (ail arg.,Caerdydd, 1970)
  • CLC2Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (ailarg., Caerdydd, 1997)
  • CLlHIfor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen (Caerdydd, 1935)
  • CLlLlBrynley F. Roberts (ed.), CyfrancLludd a Llefelys (Dublin, 1975)
  • CMLlawysgrif yng nghasgliad Cwrtmawr, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Cwrtmawrcollection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • CMCSCambridge Medieval Celtic Studies,19811993; Cambrian Medieval CelticStudies, 1993
  • CMOC2Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (ailarg., Pen-y-bont ar Ogwr, 1998)
  • CO3 Rachel Bromwich a D. Simon Evans(goln.) gyda chymorth D.H. Evans Culhwchac Olwen (Caerdydd, 1997)
  • CPRCalendar of Patent Rolls preserved in the Record Office (London, 18911986)
  • CSTBP.J.Donovan (gol.), Cywyddau Serch y Tri Bedo(Caerdydd, 1982)
  • CTIfor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)
  • CTCCatrin T. Beynon Davies, `Cerddir TaiCrefydd (M.A. Cymru [Bangor], 1973)
  • CyY Cymmrodor, The Magazine of the HonourableSociety of Cymmrodorion, 18771951
  • CylchgCHSFeirCylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirion (n)ydd, 1949
  • CylchgHCCylchgrawnHanes Cymru, 1960
  • Cylchg LlGC Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru,1939
  • ChOIfor Williams (gol.), Chwedleu Odo (Wrecsam, 1926)
  • 1 Chronicles The First Book of the Chronicles in the Old Testament
  • 2 Chronicles The Second Book of the Chronicles in the Old Testament
  • Datguddiad`Datguddiad Ioan' yn y Testament Newydd
  • DBHenry Lewis a P. Diverres (goln.), Delwy Byd (Caerdydd, 1928)
  • DEThomas Roberts (gol.), Gwaith Dafydd ab Edmwnd (Bangor, 1914)
  • DGAHelenFulton (ed.), Selections from the Dafyddap Gwilym Apocrypha (Llandysul, 1996)
  • DGG Ifor Williams a TRoberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym ai Gyfoeswyr (Bangor, 1914)
  • DGG2Ifor Williams a T. Roberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i Gyfoeswyr(ail arg., Caerdydd, 1935)
  • DG.netDafydd ap Gwilym.net <http://www.dafyddapgwilym.net>
  • DNThomasRoberts and Ifor Williams (eds.), ThePoetical Works of Dafydd Nanmor (Cardi and London, 1923)
  • DNB2H.C.G. Matthew and B. Harrison (eds.), Oxford Dictionary of National Biography (Oxford, 2004)
  • DNBOnlineOxford Dictionary of National Biography <http://www.oxforddnb.com/>
  • DWBWelsh Biography Online
  • <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • DWHMichael Powell Siddons, The Development of Welsh Heraldry (3vols., Aberystwyth, 19913)
  • L.Dwnn: HVS.R. Meyrick (ed.), Heraldic Visitations of Wales (Llandovery,1846)
  • EANCR.J. Thomas, Enwau Afodyn a Nentydd Cymru Caerdydd, 1938)
  • EEWT.H. Parry-Williams, The English Element in Welsh (Londons, 1923)
  • tudesÉtudes celtiques, 1936
  • EVWM.E. Griths, Early Vaticination in Welsh with English Parallels (Cardi, 1937)
  • EWGTP.C. Bartrum (ed.), Early Welsh Genealogical Tracts (Cardiff, 1966)
  • GJ. Lloyd-Jones (gol.), Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg(Caerdydd, 1931-63)
  • GazMFEWGazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516 <http://www.history.ac.uk/cmh/gaz/gazweb2.html>
  • GBDdGwaith Bleddyn Ddu, gol. R. Iestyn Daniel (Aberystwyth, 1994)
  • GBFRhian M. Andrews et al. (goln.), Gwaith Bleddyn Fardd a Beirdd Eraill AilHanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1996)
  • GCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Casnodyn (Aberystwyth, 1999)
  • GCBMiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,i (Caerdydd, 1991)
  • GCBMiiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,ii (Caerdydd, 1995)
  • GDBN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill o FeirddHanner Cyntaf y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1995)
  • GDCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o LyfrCoch Hergest (Aberystwyth, 2002)
  • GDEpOwen Thomas (gol.), Gwaith Dafydd Epynt (Aberystwyth, 2002)
  • GDG Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym(Caerdydd, 1952)
  • GDG3 Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (trydydd arg., Caerdydd, 1979)
  • GDGorErwain H. Rheinallt (gol.), Gwaith Dafydd Gorlech (Aberystwyth,1997)
  • GDIDA.Eleri Davies (gol.), Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992)
  • GDLlW. Leslie Richards (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn(Caerdydd, 1964)
  • Genesis`Llyfr Genesis' yn yr Hen Destament
  • GenesisThe Book of Genesis in the Old Testament
  • GEOR. Geraint Gruydd a Rhiannon Ifans(goln.), Gwaith Einion Oeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug, gol. (Aberystwyth, 1997)
  • GGDTN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Gruudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995)
  • GGHD.J. Bowen (gol.), Gwaith Gruudd Hiraethog (Caerdydd, 1990)
  • GGGrBarry J. Lewis ac Eurig Salisbury (goln.), Gwaith Gruffudd Gryg(Aberystwyth 2010)
  • GGlJ. Llywelyn Williams ac Ifor Williams (goln.), Gwaith Gutor Glyn (Caerdydd, 1939)
  • GGl2 J. Llywelyn Williams ac Ifor Williams(goln.), Gwaith Guto'r Glyn (ail arg., Caerdydd, 1961)
  • GGLlRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruudd Llwyd ar Llygliwiaid Eraill(Aberystwyth, 2000)
  • GGMDiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, i, Canu i deulu Penmynydd (Aberystwyth, 2003)
  • GGMD iiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, ii, Canu Crefyddol (Aberystwyth, 2005)
  • GGMDiiiAnn Parry Owen (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, iii, Canu Amrywiol (Aberystwyth, 2007)
  • GGrGRhiannon Ifans, Ann Parry Owen,W. Dyfed Rowlands ac Erwain H. Rheinallt (goln.), Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog, Mab Clochyddyn, Gruudd ap Tudur Goch ac Ithel Ddu (Aberystwyth, 1997)
  • GHCIslwyn Jones (gol.), Gwaith Hywel Cilan (Caerdydd, 1963)
  • GHCEMHuw Ceiriog Jones (gol.), Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor(Caerdydd, 1990)
  • GHDA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Huw ap Dafyddap Llywelyn ap Madog (Aberystwyth, 1995)
  • GHSDylanFoster Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwala'i deulu (Aberystwyth, 2000)
  • GIBHGwaithIeuan Brydydd Hir (gol.), M. Paul Bryant-Quinn (Aberystwyth, 2000)
  • GIFHowell L. Jones ac E.I. Rowlands(gol.), Gwaith Iorwerth Fynglwyd(Caerdydd, 1975)
  • GIGD.R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988)
  • GILlFM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Ieuan ap Llywelyn Fychan, Ieuan Llwyd Brydydd a Lewys Aled (Aberystwyth, 2003)
  • GIRhR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth,2003)
  • GLDA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Lewys Daron (Caerdydd, 1994)
  • GLGCDafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd,1995)
  • GLMEurys I. Rowlands, Gwaith Lewys Mn (Caerdydd, 1975)
  • GLMorgA. CynfaelLake (gol.), Gwaith Lewys Morgannwg (dwy gyfrol, Aberystwyth, 2004)
  • GLlR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Llawdden (Aberystwyth, 2006)
  • GLlBHAnn Parry Owen a Dylan Foster Evans(gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996)
  • GLlFKathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994)
  • GLlGDafydd Johnston (gol.), Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen(Aberystwyth, 1998)
  • GLlLlElin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn `Prydydd y Moch' (Caerdydd, 1989)
  • GMBJ.E. Caerwyn Williams et al. (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994)
  • GMBrA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Mathau Brwmld (Aberystwyth,2002)
  • GMDHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Madog Dwygraig (Aberystwyth,2006)
  • GMRhEnid Roberts (gol.), Gwaith Mareduddap Rhys ai Gyfoedion (Aberystwyth, 2003)
  • GMWD. Simon Evans, A Grammar of Middle Welsh (Dublin, 1964)
  • GMWLTimothy Lewis, A Glossary of Mediaeval Welsh Law (Manchester,1913)
  • GOE. Bachellery (d.), Loeuvre potique de Gutun Owain(Paris, 19501)
  • GOLlMEurys Rolant (gol.), Gwaith Owain ap Llywelyn ab y Moel(Caerdydd, 1984)
  • GP G.J. Williams ac E.J. Jones (gol.), Gramadegaur Penceirddiaid (Caerdydd,1934)
  • GPBHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan, Rhys ap Dafydd ab Einion, Hywel Ystorm, a cherddi dychan dienw o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth,2000)
  • GPCGeiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950)
  • GPC2Geiriadur Prifysgol Cymru (ail argraad, Caerdydd, 2003)
  • GPhEM.Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Syr Phylib Emlyn, Syr Lewys Meudwy a Mastr Harri ap Hywel (Aberystwyth, 2001)
  • GRhBEurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Rhys Brydydd a Rhisiart ap Rhys (Caerdydd,1976)
  • GRhGEDylan Foster Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007)
  • GSCA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin Ceri (Aberystwyth, 1996)
  • GSCyfR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd 'Sypyn Cyfeiliog a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998)
  • GSDTRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2005)
  • GSHA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin ap Hywel (Aberystwyth, 1999)
  • GSRhNerys Ann Jones ac Erwain Haf Rheinallt(gol.), Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn,Gruudd Fychan ap Gruudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth,1995)
  • GSTEnid Roberts (gol.), Gwaith Sin Tudur (2 gyf., Caerdydd,1980)
  • GTPThomas Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap TudurPenllyn, gol. (Caerdydd, 1958)
  • GwynLlawysgrif yng nghasgliad J. Gwyneddon Davies, yn Llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor
  • GyBDafydd Johnston (gol.), Galar y Beirdd: Marwnadau Plant/Poets'Grief: Medieval Welsh Elegies for Children (Caerdydd, 1993)
  • HCLlLeslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac Eraill(Caerdydd, 1953)
  • HPEHistoriaPeredur vab Efrawc, gol. Glenys Witchard Goetinck (Caerdydd, 1976)
  • HPFJ.Y.W. Lloyd, The History of Powys Fadog, (6 vols., London, 18817)
  • IDIfor Williams (gol.), Casgliad o Waith Ieuan Deulwyn (Bangor,1909)
  • IGEHenry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (Bangor, 1925)
  • IGE2Henry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (ail arg., Caerdydd, 1937)
  • IGPDafydd Johnston (ed.), Iolo Goch: Poems (Llandysul, 1993)
  • Ioan`Yr Efengyl yn l Sant Ioan' yn y Testament Newydd
  • JMHRSJournalof the Merioneth Historical and Record Society, 1949
  • JohnThe Gospel according to John in theNew Testament
  • JudgesThe Book of Judges in the Old Testament
  • KAA 2Patricia Williams (gol.), Kedymdeithyas Amlyn ac Amic (Caerdydd,1982)
  • 1 KingsThe First Book of the Kings in the Old Testament
  • 2 KingsThe Second Book of the Kings in the Old Testament
  • LBSS. Baring-Gould and J. Fisher, The Lives of the British Saints (4vols., London, 190713)
  • Luc`Yr Efengyl yn l Sant Luc' yn yTestament Newydd
  • LukeThe Gospel according to Luke in theNew Testament
  • LlAJ. Morris Jones and John Rhŷs (eds.), The Elucidarium from Llyvyr Agkyr Llandewivrevi (Oxford, 1894)
  • LlBS.J. Williams a J.E. Powell (gol.), Cyfreithiau Hywel Dda yn l Llyfr Blegywryd(Caerdydd, 1942)
  • LlCyLlnCymru, 1950
  • LlGCLlawysgrif yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the collection of theNational Library of Wales, Aberystwyth
  • LlIAled Rhys Wiliam (ed.), Llyfr Iorwerth (Cardi, 1960)
  • LlstLlawysgrif yng nghasgliad Llanstephan, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Llanstephan collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Marc`Yr Efengyl yn l Sant Marc' yn y Testament Newydd
  • MarkThe Gospel according to Mark in the New Testament
  • Mathew`Yr Efengyl yn l Sant Mathew' yn y Testament Newydd
  • MatthewThe Gospel according to Matthew in the New Testament
  • MCFY Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau / The Index to Welsh Poetry inManuscript
  • <http://maldwyn.llgc.org.uk>
  • MEDMiddle English Dictionary (Michigan, 1963)
  • MonWMonastic Wales <http://www.monasticwales.org>
  • MontCollCollections Historical and Archaeological... by the Powysland Club, 1868
  • MosLlawysgrif yng nghasgliad Mostyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Mostyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • MWMDaniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Cardiand Aberystwyth, 2000)
  • NCENewCatholic Encyclopaedia (New York, 1967-79)
  • NCLWMeic Stephens (ed.), The New Companion to the Literature of Wales(Cardiff, 1998)
  • NLWJNational Library of Wales Journal, 1939
  • OBWVThomasParry (ed.), The Oxford Book of Welsh Verse (Oxford, 1976)
  • OCD3Simon Hornblower and Antony Spawforth(eds.), The Oxford Classical Dictionary(third ed., Oxford, 1996)
  • ODCC3F.L. Cross and E.A. Livingstone (eds.), The Oxford Dictionary of the Christian Church (third ed., Oxford, 1967, revised 2005)
  • OED2The Oxford English Dictionary (second ed., Oxford, 1989)
  • OED OnlineThe Oxford English Dictionary
  • <http://www.oed.com>
  • PACFJ.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Bangor, 1914)
  • PenLlawysgrif yng nghasgliad Peniarth, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Peniarth collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Peniarth49E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 49 (Caerdydd, 1929)
  • Peniarth67E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (ed.), Peniarth 67 (Cardiff, 1918)
  • Peniarth76E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 76 (Caerdydd, 1927)
  • PKM Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930)
  • PsalsmThe Psalms in the Old Testament
  • RBJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Bruts from the Red Book of Hergest (Oxford, 1890)
  • RCAHM (Anglesey)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Anglesey (London, 1937)
  • RCAHM (Caernarvonshire) An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Caernarvonshire (3 vols.,London, 1956, 1960, 1964)
  • RCAHM (Flint)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire, Vol II: County of Flint (London, 1912)
  • RCAHM (Merionethshire) An Inventory of Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Merionethshire (London, 1921)
  • RepWMDaniel Huws, Repertory of Welsh Manuscripts (iw gyhoeddi)
  • RevelationThe Revelation to John in the New Testament
  • RMJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Mabinogion from the Red Book of Hergest(Oxford, 1887)
  • RWMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), Report on Manuscripts in the Welsh Language(London, 18981910)
  • SalmauLlyfr y Salmau yn yr Hen Destament
  • SCStudiaCeltica, 1966
  • SoldierLMEThe Soldier in later Medieval England
  • <http://www.medievalsoldier.org>
  • StoweLlawysgrif o gasgliad Stowe yn yLlyfrgell Brydeinig
  • TAT. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926)
  • TCT.J.Morgan, Y Treigladau au Cystrawen (Caerdydd,1952)
  • TCHSTransactionsof the Caernarvonshire Historical Society, 1939
  • TCHSDdTrafodionCymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 1952
  • TCHSGTrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon,1939
  • TDHSTransactionsof the Denbighshire Historical Society, 1952
  • THSCTheTransactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1892/3
  • TLlMG.J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948)
  • TYP3Rachel Bromwich (ed.), Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (third ed., Cardi, 2006)
  • WATU Melville Richards, Welsh Administrative and TerritorialUnits (Cardi, 1969)
  • WBOnlineWelsh Biography Online <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • WCDP.C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 (Aberystwyth, 1993)
  • WGJ. Morris Jones, A Welsh Grammar (Oxford, 1913)
  • WG1P.C.Bartrum, Welsh Genealogies AD 300-1400 (Cardiff, 1974)
  • WG2P.C. Bartrum, Welsh Genealogies AD 1400-1500 (Aberystwyth, 1983)
  • WHRThe Welsh History Review, 1960-
  • WMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), The White Book Mabinogion (Pwllheli,1907; adargraffiad, Caerdydd, 1973)
  • WyLlawysgrif yng nghasgliad Wynnstay, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Wynnstay collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • YBJ.E. Caerwyn Williams (gol.), Ysgrifau Beirniadol, (Dinbych, 1965 )
  • YBHMorgan Watkin (gol.),Ystorya Bown de Hamtwn, (Caerdydd, 1958)
  • YCM2Stephen J. Williams (gol.), Ystorya de Carolo Magno (ail arg.,Caerdydd, 1968)
  • YER. Iestyn Daniel (gol.), Ymborth yr Enaid (Caerdydd, 1995)
  • YEPWCGruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (Caerdydd, 1986)
  • YGIVGwilymLloyd Edwards (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Caerdydd, 1999)
  • YMThA.O.H. Jarman (gol.), Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (Caerdydd, 1951)