Y llawysgrifau
Cadwyd testun o’r gerdd ddychan hon i Guto mewn 38 o lawysgrifau. Mae ei thraddodiad llawysgrifol bron yn unffurf ag eiddo’r gerdd a ganodd Guto i’w hateb (cerdd 65) gan fod y ddwy gerdd wedi eu cofnodi ynghyd ymron ym mhob llawysgrif (yr eithriadau yw C 4.10, LlGC 9202B, Llst 122 a Pen 103, ond ni bu’n rhaid pwyso ar dystiolaeth y llawysgrifau hynny wrth lunio’r golygiad; gw. y stema). Mae’n eglur, felly, fod y ddwy gerdd yn cylchredeg ynghyd o gyfnod cynnar, a hynny ar lafar, oherwydd ceir deuddeg fersiwn gwahanol o’r gerdd hon o ran trefn llinellau, ac ni cheir fersiwn cyflawn ohoni mewn unrhyw lawysgrif. Yng ngolygiad GGl dilynwyd y drefn a geir yn LlGC 3050D (copi o LlGC 17114B) gan ychwanegu pedwar cwpled nas ceir yn y llawysgrif honno ar sail y drefn a geir yn LlGC 3051D a LlGC 3046D [i], fe ymddengys. Trefn LlGC 3046D [i] a [ii] a geir yng ngolygiad GLlGt (gw. 121), yn ôl pob tebyg am mai un cwpled yn unig sy’n eisiau o’r testun hwnnw, sef llinellau 27–8. Ychwanegwyd y cwpled hwnnw yn dilyn llinell 26 ar sail y drefn a geir yn Brog I.1 a Llst 155. Felly hefyd yn y golygiad presennol, lle dilynir y drefn sylfaenol a geir yn LlGC 3046D [i] a [ii] a Llst 155. Dau gwpled yn unig sy’n eisiau o’r ddwy lawysgrif hynny, ond o’u huno ceir testun cyflawn o’r gerdd. Ategir y drefn a geir yno gan destunau anghyflawn Brog I.1, Pen 93, X3 ac X7, a bernir mai’r drefn honno a geid yn y gynsail. Ceid trefn gryn dipyn yn wahanol yn X1 (gw. GGl), ac nid yw’n taro deuddeg bob tro, megis pan roir llinellau 27–8 llyna gael ... / Llun pencerdd yn llawn pencwn ar ôl llinell 20, gan eu bod yn rhannu’r un odl, yn hytrach na chyda chwpledi eraill sy’n enwi pysgod. Rhoddwyd blaenoriaeth i dystiolaeth testunau X3 ac X7, ond ni ellir pwyso’n drwm ar dystiolaeth unrhyw lawysgrif unigol. Dim ond llinellau sy’n eisiau o destunau a ddefnyddiwyd wrth lunio’r golygiad a nodir isod (llinellau 1–4, 29–30, 35–6, 43–4 a 56 yn unig a geir yn Llst 55).
Trawsysgrifiadau: Brog I.1, LlGC 3046D [ii], LlGC 16964A, Llst 155 a Pen 93.
Teitl
Fel y sonnir yn y nodyn esboniadol, mae’n debygol fod Llywelyn wedi canu’r gerdd hon fel ymateb i’r galar eithafol a ddarlunir gan Guto mewn cywydd a ganodd i Huw Lewys (cerdd 64) pan fu ef bron â boddi ym Malltraeth. Mewn un llawysgrif yn unig y diogelwyd y gerdd honno, ac ni allai ei thraddodiad llawysgrifol fod yn fwy gwahanol i eiddo’r gerdd hon gan Lywelyn. Tra bu cerdd Llywelyn a’r gerdd a ganodd Guto i’w hateb yn hynod o boblogaidd ar lafar a chan gopïwyr, collwyd y cof bron yn llwyr am darddiad y dychan a welir yng nghywydd Guto i Huw Lewys. Digon annigonol, o ganlyniad, yw’r ychydig deitlau a geir wrth gywydd Llywelyn, megis yn LlGC 5272C cowydd am vreuddwyd a welsai vod gutto r glyn wedi boddi (a seiliwyd ar 65.47–8) a LlGC 5269B k’ marwnad pan herwyd boddi gvtto r glyn. Ond bernir bod yr olaf yn agos ati yn rhinwedd y ffaith fod Guto, yn ei gywydd i Huw Lewys, yn haeru iddo bron â boddi yn yr un modd â’i noddwr, ac fe’i defnyddir yn nheitl y golygiad hwn.
2 tre Gthg. tref mewn nifer fawr o lawysgrifau. Hepgor -f sydd fwyaf priodol, ond mae’n bosibl mai f lafarog a geir yma.
2 Uto Ceir ffurf gysefin enw’r bardd mewn nifer o lawysgrifau, ond disgwylid y ffurf dreigledig.
3 I’w foddi ’r aeth, draeth heb drai Dilynir X1 ac X3. Gthg. X4 ac X7 Boddi a wnaeth ar draeth heb drai, sef llinell wythsill oni chywesgir boddi a wnaeth yn deirsill (cf. Llst 55 bodhi ’naeth). Hepgorwyd a yn GGl a GLlGt. Mae’r ddau ddarlleniad yn gwbl bosibl, ond gall mai’r darlleniad anos a geir yn nhestun y golygiad.
5–6 Ni cheir y cwpled hwn yn Llst 155.
6 O’m caid â’i farwnad o’m cof Dilynir Brog I.1, X4 ac X7, a ategir, o bosibl, gan LlGC 3046D [i] a [ii] o kaid i farwnod om kof (ceir ailwampio yn Pen 93 om kad heb i farnad fo). Gthg. darlleniad GGl a GLlGt yn X1 O’m caid heb farwnad i’m cof.
7–8 Ni cheir y cwpled hwn yn Stowe 959.
8 llaw Gthg. X2 llew.
11 uwch yw f’anap Dilynir mwyafrif y llawysgrifau, a Llst 155 yn arbennig. Gthg. LlGC 3046D [i] a [ii] ychaf fanap a Brog I.1 vchaw vanap.
13 Ni cheir y llinell hon yn Stowe 959.
13 o’i weled Dilynir, yn betrus, Pen 93 ac X4. Gthg. LlGC 3046D [i] a [ii], Llst 155 ni welad, X1 ei weled (darlleniad GGl a GLlGt) ac X7 a’i weled.
13–14 Ni cheir y cwpled hwn yn Brog I.1.
15 och Dilynir mwyafrif y llawysgrifau, a LlGC 3046D [i] a [ii] yn arbennig. Gthg. Brog I.1, Llst 155, Pen 93 ac X7 gwae.
15–16 Ni cheid y cwpled hwn yn X2.
17 ddwyfoch Dilynir mwyafrif y llawysgrifau. Gthg. LlGC 3046D [i] a [ii], Pen 312 ac X4 ddwyoch. Diau ei bod yn fwy tebygol hepgor -v- na’i hychwanegu.
18 dylyn Ceir dylyn, dvlyn neu dvlvn ym mwyafrif y llawysgrifau, ac yn X7 yn unig y ceid dilyn (darlleniad GLlGt). Gall mai dilyn a olygir wrth rai ffurfiau, a gellid ‘erlid eich cyff Nadolig’, fel yr awgrymir yn ibid. 122 ‘Yn gystrawenol, ymddengys ei fod yn dibynnu ar Hwdiwch yn y ll. flaenorol (“a dilyn”, megis).’ Ond, os felly, mae’n annisgwyl na cheir dilyn mewn mwy o lawysgrifau. Bernir bod mwy o dystiolaeth lawysgrifol o blaid y ferf dylynaf ‘glynu (wrth)’ (gw. GPC 1138 d.g.), gyda’r ystyr ‘[a] glynu wrth eich cyff Nadolig’ (cf. 16 ynglŷn). Fodd bynnag, tair enghraifft o’r gair yn unig a nodir yn GPC, a pherthyn y gynharaf i gyfieithiad o Libellus vere aureus gan Thomas More yn 1591 (o eiriaduron y daw’r ddwy enghraifft arall). Mae’n fwy tebygol, felly, mai’r ansoddair dylyn ‘di-baid, parhaol’ sydd yma (gw. GPC 1138 d.g. dylyn2). Cf. DG.net 92.33 ddolef ddylyn ‘waedd ddi-baid’ a GLlLl 19.14 aer dylyn ‘un di-ball [mewn] brwydr’. Gellid ‘cymerwch atoch ddwyfoch ddig, / ddi-baid eich cyff Nadolig’, gyda dychan ymhlyg fod Guto’n ŵr parablus. Ceir dau anhawster â’r dehongliad hwnnw, i. rhaid cymryd bod dechrau ail linell y cwpled yn atal y treiglad; ii. peth pur anarferol yw gweld cwpled yn goferu rhwng dau ansoddair. Yr hyn sy’n sicr yw nad dylyn ‘ffŵl, penbwl’ a olygir, fel yr awgrymir yn GGl 332 ac a ddilynir yn GPC 1138 d.g. dylyn1 (dwlyn a geir ym mhob enghraifft arall yno).
18 eich Dilynodd GGl yn gyff ddarlleniad unigryw LlGC 3051D yn kyff.
20 i’r Dilynir mwyafrif y llawysgrifau. Gthg. LlGC 3046D [i] er, LlGC 3046D [ii] a Llst 155 y, X7 yr.
21 ei gawell Gthg. Stowe 959, Llst 155 ac X4 y cawell.
23 mae hergod o Gthg. X4 mae ’n ei hergod, dan ddylanwad llinellau 19 a 21.
23–4 Ni cheid y cwpled hwn yn X2.
24 ’y Gthg. GGl a GLlGt fy mewn nifer o lawysgrifau.
25 gwŷr Gthg. X1 ac X4 gŵr.
26 ysgadan Ni cheir darlleniad GGl ysgadain yn y llawysgrifau.
26 yn ei ’sgidiau Gthg. darlleniad GGl yn Pen 93 ac X4 o’i esgidiau.
27–8 Ni cheir y cwpled hwn yn LlGC 3046 [i] a [ii] na Pen 93.
27–30 Ni cheid y llinellau hyn yn X4.
29 cair ei fudaw Gthg. LlGC 3046D [i] a [ii] karai vydaw ac ailwampio yn Llst 155 kryff oedd kowyr wyf i ddaw. Gall fod darlleniad annelwig mewn rhyw gynsail goll.
29 fudaw Gthg. LlGC 3051D fwydaw.
30 cregyn a lŷn yn Gthg. ailwampio yn LlGC 3046D [i] a [ii] kregin oi lin hud i law.
30 yn Gthg. Llst 155 ac X6 wrth.
31 y Gthg. LlGC 3046D [i] ar (darlleniad GGl a GLlGt a’r) a LlGC 3046D [ii] or.
31–2 Ni cheid y cwpled hwn yn X1.
33 aeth y Dilynir LlGC 3051D, X4, X6 ac X7. Gthg. X3 y mae’r ac X5 yr âi’r.
34 aeth ei gân Gthg. Pen 77 a Llst 155 yr âi ’i ac X7 aed ei gerdd.
35 Ni bu ryd lle bu rodiwr Ansicr. Dilynir LlGC 3046D [i] a [ii], a ategir gan Brog I.1 ne bv rreid llei bo Roidiwr, Llst 155 lle bai, Pen 93 na bo rryd lle bvr Rodiwr ac X4 na bai. Gthg. X7 Yn y rhyd lle bu’r rhodiwr ac X1 Y rhydau lle bu’r rhodiwr (darlleniad GLlGt a hefyd GGl, er mai lle’i a geir yno). Anwybyddir darlleniad X1 gan y ceid ôl cryn dipyn o ailgyfansoddi ar ei destun, a gellid dilyn darlleniad X7 oni filwriai darlleniadau X3 ac X4 yn ei erbyn. Priodol yw’r negydd ni yma gan ei fod yn pwysleisio pa mor anodd fyddai dod o hyd i ryd addas ym Malltraeth.
36 oedi’r Dilynir, yn betrus, LlGC 3046D [i] a [ii] a LlGC 16964A. Gthg. Brog I.1 a Pen 103 newydio r, Llst 155 nodi, Pen 93 i dir or, X1 fynd o’r (darlleniad GGl a GLlGt) ac X4 ado’r.
37 drwy’i ymwrdd Ni cheir ’i yn y llawysgrifau, ond bernir bod ei hangen yma er mwyn gwella rhediad yr ystyr yn y llinellau sy’n dilyn. Hawdd gweld sut y gellid fod wedi ei cholli rhwng dwy y: drwy y ymwrdd → drwy ymwrdd. Ond cydnabyddir y gall fod y ffurf drwy yn cynrychioli’r cywasgiad drwy’i beth bynnag.
37–8 Ni cheid y cwpled hwn yn Stowe 959 nac X1.
37–62 Ni cheir y llinellau hyn yn Pen 103.
38 a’i ’nfydu Dilynir LlGC 16964A, Brog I.1 a Pen 93. Gthg. LlGC 3046D [i] a [ii] hybu, X4 ar untu (darlleniad GGl a GLlGt) ac ailwampio yn Llst 155 ai vydo ai hyrddyo. Mae hybu yn gweddu yma (gw. GPC 1946 d.g. hybaf 2 ‘atal, rhwystro, ffrwyno’) ond diau mai ailgyfansoddiad ydyw.
39 ruo fyth Dilynir mwyafrif y llawysgrifau. Gthg. LlGC 3046D [i] a [ii] rwyfo fo, Pen 93 ac X1 yrru (darlleniad GGl a GLlGt).
39–40 Ni cheir y cwpled hwn yn LlGC 3051D.
41 llawen fu’r Gthg. darlleniad GGl a GLlGt yn X1 mae’n llawen.
41 fu’r Dilynir LlGC 3046D [i] a [ii] a Pen 93, a ategir gan Brog I.1 fvr ir. Gthg. Llst 155 iw, X4 yw’r ac X7 fydd.
41 cynfigenwyr Dilynir y ffurf amrywiol a geir mewn nifer o lawysgrifau (gw. GPC 462 d.g. cenfigen; cf. 91.34n, 43n (testunol)).
43 pam Dilynir mwyafrif y llawysgrifau. Gthg. darlleniad GGl a GLlGt yn X4 ple.
43 mae i’r Dilynir Brog I.1 maeir a LlGC 17114B maer ir (cf. LlGC 5272C mae rr), a ategir, o bosibl, gan LlGC 3046D [i] maer a LlGC 3046D [ii] mae r. Fe’i cywesgir yn unsill (gthg. 43n isod). Gthg. LlGC 16964A vo a Llst 155 wnay r.
43 secutor Ni cheir darlleniad GGl scutor yn y llawysgrifau.
43–4 Ni cheid y cwpled hwn yn Stowe 959, Pen 93 nac X1.
44 pegan Cf. ffurf amrywiol arall ar y gair yn LlGC 3046D [ii] pygan (gw. GPC 2668 d.g. pagan).
45–6 Ni cheid y cwpled hwn yn Brog I.1 nac X4.
45 fydd Dilynir X1 ac X7. Gthg. X3 oedd.
46 pwy caterwen Dilynir, yn betrus, X1 ac X7, a ategir gan LlGC 3046D [i] a [ii] pwy gaterwen. O ran cadw’r ffurf dreigledig yn dilyn pwy, cf. GLGC 90.41 capten caer wen – pwy carw well?, 159.1 Pwy gwraidd Maesyfaidd (ni ddaethpwyd o hyd i arweiniad yn TC). Gthg. Llst 155 pwy iw, Stowe 959, LlGC 3051D a Pen 93 pwy’n (darlleniad GGl a GLlGt).
46 uwchben Dilynir X1 ac X7. Gthg. X3 dros ben (ac eithrio Llst 155 nei ben).
47 Dafydd, nid iach Dilynir LlGC 3046D [i] a [ii], LlGC 3051D, LlGC 16964A ac X4. Gthg. Brog I.1 ond iaich, Llst 155 grudd grach, X5 od iach, X6 grudd gwrach (ceir darlleniad GGl iddaw, grudd gwrach yn Pen 77 yn unig; cf. Pen 312 i ddafydd grudd gwrach).
47–8 Ni cheir y cwpled hwn yn Stowe 959 na Pen 93.
48 I roi’r gadair ar gadach Gthg. darlleniad GGl yn X1 Roi’r gadair ar ei gadach (ac eithrio LlGC 3051D).
49 ysbryd Ceir ysbryt mewn nifer o lawysgrifau (yn cynnwys LlGC 3046D [i] a [ii] a Pen 93), ond nid ymddengys ei fod yn ffurf ddilys ar y gair (sbyryt yn unig a nodir yn GPC 3826 d.g. ysbryd). Gall fod yma dwyll gynghanedd meddal a chaled.
49 Guto Ni cheir darlleniad GGl Gwido yn y llawysgrifau (cf. 56).
51–2 Ni cheid y cwpled hwn yn Brog I.1, X1 nac X7.
53 yn dwyn Dilynir X1 ac X3. Gthg. LlGC 3046D [i], X4 ac X7 nid un.
54 yw’r Gthg. X4 mo’r.
55–6 Ni cheid y cwpled hwn yn X4.
57 rhodiodd Dilynir LlGC 3046D [i] a [ii] a LlGC 16964A, a ategir gan Stowe 959 rhodied, Llst 155 maen rrodyo mel rrvw eidyon ac X4 rhodio. Gthg. Brog I.1 a Pen 93 rhedai, X5 rhedodd, X6 rhwydodd.
58 ar draws Gthg. Stowe 959 a LlGC 3046D [i] a [ii] ymysg, LlGC 16964A ar hyd.
59–60 Ni cheir y cwpled hwn yn Stowe 959.
60 offeiriaid Cf. ffurf amrywiol ar y gair yn Brog I.1, Pen 77 ac X4 effeiriaid (gw. GPC 2633 d.g. offeiriad).
60 i Dilynir mwyafrif y llawysgrifau. Gthg. LlGC 3046D [i], LlGC 16964A, Llst 155 a Pen 312 ar.
61 gyrrent Gthg. Stowe 959, Llst 155 gyrren’, Pen 93 gyrron’, X2 gyrrant ac X4 gyrran’.
61 yntau’n anguriawl Gthg. X2 hwythau ŵr gwrawl.
62 y Nis ceid yn X5 nac yn LlGC 16964A.
Cywydd dychan doniol a haeddiannol enwog yw hwn i Guto a ganwyd gan Lywelyn ap Gutun. Mae’n debygol iawn mai ymateb ydyw i’r galar eithafol a fynegodd Guto mewn cywydd i Huw Lewys (cerdd 64) pan fu hwnnw bron â boddi ym Malltraeth ym Môn, lle cyffelyba Guto ddyfroedd Malltraeth i ddyfroedd peryglus a grewyd ganddo ef ac eraill wrth lefain am ei noddwr. Mae’n werth nodi mai’r un, yn ei hanfod, oedd man cychwyn yr ymryson enwog a fu rhwng Dafydd ap Gwilym a Gruffudd Gryg, sef bod Gruffudd o’r farn fod Dafydd yn canu’n syrffedus o ailadroddus am boenau serch (gw. GGGr 10–19). Empathi syrffedus a geir yng nghywydd Guto i Huw Lewys wrth i’r bardd gydymdeimlo â’i noddwr yn llythrennol i’r fath raddau nes ei fod yn honni iddo ddioddef yr un anffawd ag ef. Cydiodd Llywelyn yn honiad Guto, sef iddo yntau hefyd bron â boddi, gan greu stori ddychmygol fod y bardd wedi mynd i’r tonnau’n llythrennol ac wedi marw o dan y dŵr. Dengys y cywydd a ganodd Guto i ateb Llywelyn (cerdd 65) mai yn llys Llwydiarth y canwyd y cerddi hyn yn ôl pob tebyg. Mae’n debygol mai adeg gŵyl y Nadolig y canodd Llywelyn ei gerdd, ond ni cheir lle i gredu bellach fod y gerdd honno’n perthyn yn agos i ddefod y cyff clêr (gw. 18n). At hynny, er mai ffug-farwnadau i feirdd yw’r cerddi hyn i bob diben, mae’n annhebygol y dylid eu cysylltu’n rhy agos ag is-genre y ffug-farwnad a fu’n boblogaidd yng nghyfnod cynnar y cywydd yn y bedwaredd ganrif ar ddeg (gw. Edwards 1999: 69; Johnston 2005: 388).
Ar ddechrau’r gerdd (1–6) dywed Llywelyn fod Cymru gyfan yn ei galar yn sgil marwolaeth Guto ar draeth heb drai. Byddai’n farwolaeth ofer, meddai, pe na bai ganddo farwnad i Guto yn ei gof. Marwnad, o fath, sy’n dilyn, lle gwelir doniolwch Llywelyn ar ei orau wrth iddo ddisgrifio ei ffug-alar am ei gyfaill barddol drwy gyfeirio at ei ddwylo, ei gorff, ei ddillad, ei drwyn mawr a’i bwrs (7–16). Yna fe’i disgrifir fel boncyff coeden a lusgid i’r tŷ adeg y Nadolig gan gyfeirio at ei wyneb arth cyn rhoi cyfres o ddisgrifiadau grotèsg o gorff y bardd gyda chreaduriaid a phetheuach y môr yn ei lenwi (17–32). Nesaf manylir ar y boddi ei hun mewn rhyd nad oedd yn rhyd mewn gwirionedd gan fod cymaint o ddŵr ynddi, gan ddisgrifio Guto a’i farch yn creu pob math o dwrw wrth gael eu tynnu o dan y tonnau (35–40).
Am effaith y farwolaeth y sonnir nesaf, a hynny ar y beirdd cenfigennus sydd bellach yn hapus eu byd, ar farddoniaeth a beirdd yn gyffredinol ac ar Ddafydd ab Edmwnd, a fydd bellach yn rhydd i ennill cadair heb neb i’w rwystro (41–50). Ond dywed Llywelyn y bydd ysbryd y Guto yn erlid ei hen elyn fel o’r blaen, ac fe’i disgrifir yn crwydro fel drychiolaeth ar draws yr ynys (51–62). Fe’i cymherir yn briodol ddigon ag ysbryd o’r enw Gwido yr oedd ei hanes yn boblogaidd ledled Ewrop yn ystod yr Oesoedd Canol. Fel yn achos yr ysbryd hwnnw, gelwir ar gymorth offeiriaid i’w ddofi ac i’w yrru unwaith ac am byth naill ai i’r nefoedd neu i uffern.
Dyddiad
Mae’n debygol iawn fod y gerdd hon wedi ei chanu yn ystod gwyliau’r Nadolig 1484 (gw. y nodyn ar ddyddiad cerdd 65).
Golygiadau a chyfieithiad blaenorol
GGl cerdd XXXVII; GLlGt cerdd 11; Bowen 1957: 52–3; OBWV cerdd 66; Clancy 2003: 309–11.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 62 llinell.
Cynghanedd: croes 40% (25 llinell), traws 21% (13 llinell), sain 25% (15 llinell), llusg 15% (9 llinell).
1 Tristach yw Cymry trostyn’ Gall mai adlais a geir yma o linell gan Guto yn ei farwnad i Lywelyn ab y Moel, gw. 82.15 Tristach ydiw’r byd trostaw.
1 trostyn’ Yr ystyr yw bod Cymry ym mhob man yn galaru ar ôl y bardd, yn y dref ac yng nghefn gwlad (gw. 2n).
2 tre a gwlad Cyfeiriad diddorol o gofio fod Guto wedi byw yng Nghroesoswallt.
2 Guto’r Glyn Enghraifft brin o enw’r bardd yn ei ffurf lawn (gthg. Ieuan ap Gruffudd Leiaf a Syr Rhys mewn cerddi iddo, 93.3–4 Guto ... / o’r Glyn, 101a.1 Gutun y Glyn).
3 traeth heb drai Cyfeirir at y dyfroedd twyllodrus ym Malltraeth (gw. 14n).
4 am na nofiai Cf. Bowen (1957: 105) ‘because he would not float’ (dyfynnir o OBWV 545). Ond gall hefyd mai anallu Guto i nofio, yn hytrach nac arnofio, a ddychenir.
5–6 Ofer oedd wneuthur erof / O’m caid â’i farwnad o’m cof Gw. dehongliad GLlGt 121 ‘Ofer fyddai llunio [marwnad] imi pe’m ceid heb farwnad yn fy meddwl.’ Ond ni raid cymryd bod Llywelyn yn cyfeirio at ddim amgenach na marwolaeth y bardd yn llinell 5 (fel y gwelir yn yr aralleiriad). Dywed y byddai marwolaeth Guto wedi bod yn ofer pe na bai ganddo farwnad iddo yn ei feddwl.
7 main mynor Sef bedd Guto o dan y tonnau, fe ymddengys (cf. Rhys Goch Eryri yn ei farwnad i Wilym ap Gruffudd o’r Penrhyn, sef tad Wiliam Fychan, GRhGE 3.73–4 Pan aeth ef, mawr fu’r llefain, / I gôr dan fedd mynor main). Ond dywed Bowen (1957: 105) mai trosiad ydyw am ddwylo mawr Guto.
8 llywio môr Cyfeiriad posibl at y fordaith yr aeth Guto arni i Ffrainc yn 1441 (gw. 33n), ond cofier hefyd y byddai’n rhaid i bawb a fynnai ymweld â Môn groesi’r Fenai.
9 y draethell Ym Malltraeth (gw. 14n).
12 simwr Gw. GPC 3282 d.g. ‘mantell, gŵn, neu glogyn (drudfawr)’. Dygir i gof y cywydd a ganodd Ieuan ap Hywel Swrdwal i Syr Rhisiart Gethin i ddiolch ar ran Guto am hugan a gawsai Guto’n rhodd gan Risiart (gw. GHS cerdd 24).
13 troi’n olwyn Disgrifiad o Guto’n disgyn yn bendramwnwgl i’r dŵr.
14 Mall Draeth Sef Malltraeth, y pentref a’r traeth ei hun lle llif afon Cefni i’r môr (gw. WATU 152). Saif y traeth rhwng cwmwd Malltraeth yng nghantref Aberffraw a chwmwd Menai yng nghantref Rhosyr. Rhennir yr enw’n ddau yma er mwyn y gynghanedd, ond hefyd, o bosibl, er mwyn pwysleisio ystyr yr enw (gw. Richards 1998: 21): ‘Rhaid bod mall yma yn ei ystyr gyffredin, sef “pwdr, deifiol”. Ai am fod y tir yn isel a dŵr yn tueddu i gronni ac aros yn llonydd ac yn farw, nes bod pob math o darth annymunol yn codi oddi wrtho? Cymharer y gair malldan am y goleuni neu’r tân a achosir gan nwy yn codi oddi wrth gors.’
14 â’r fwyall drwyn Gofynnir yn GGl 332 ai enw penrhyn sydd yma (cydnabyddir y posibilrwydd hwnnw gan Bowen 1957: 105), ond mae’n fwy tebygol mai trwyn Guto a olygir (cf. 43 barcut). Gellid ar fwyall drwyn, a chymryd, fel Bowen (ibid.), mai trwyn y bardd yw’r colyn y mae gweddill ei gorff yn troi arno yn y dŵr fel olwyn (13).
15 trichwrs Am ystyron cwrs, gw. GPC 648. Y tebyg yw na olygir fawr mwy na ‘teirgwaith’ yma.
16 ei bwrs Tybed a gyfeirir yma at bwrs a gafodd Guto’n rhodd gan Risiart Cyffin, deon Bangor (gw. cerdd 58)? Roedd Llywelyn yn sicr yn adnabod Rhisiart. Cafodd Guto bwrs arall yn rhodd gan Gatrin ferch Maredudd o Abertanad (gw. cerdd 87).
17 hwdiwch atoch Diau mai’r gynulleidfa a gyferchir yma, ond nid yw’n gwbl amhosibl fod Llywelyn yn cyfarch Guto’n ffurfiol. O ddilyn y dehongliad hwnnw, Llywelyn ei hun yw’r cyff Nadolig yn y llinell nesaf sy’n dymuno i Guto ei dynnu i’r tonnau ar ei ôl (cf. 15–16 och fi ... / Na bawn ynglŷn yn ei bwrs). Ond bernir ei bod yn fwy addas ystyried mai Guto yw’r cyff (gw. 18n).
18 eich cyff Nadolig Cyferchir y gynulleidfa (gw. 17n) a chyfeirir at Guto fel cyff Nadolig ‘boncyff Nadolig’, yn ôl pob tebyg, sef pren arbennig a lusgid i’r tŷ dros yr ŵyl. Nid ‘cyff clêr adeg y Nadolig’ a olygir. Ymhellach, gw. Salisbury 2011.
23–4 pysgodyn / Moelrhon Rhennir y llinellau hyn gan goma yng ngolygiad GGl, ond ceir gwell rhediad o lawer o oferu’r ystyr. Nid pysgodyn yw moelrhon ‘morlo’ fel y cyfryw, ond defnyddid pysgodyn ‘weithiau’n ehangach am unrhyw anifeiliaid sy’n byw mewn dŵr’ (gw. GPC 2966 d.g. pysgod (a)).
25 afon gau Nid enw priod, hyd y gwelir, ond nid yw ystyr [c]au yn gwbl eglur. Gw. GPC 441 d.g. 1 ‘gwag oddi mewn, pantiog, ffig. ffals, twyllodrus’, 2 ‘yn cau neu’n amgáu’. Cf. GLlGt 122 ‘Ymddengys mai’r hyn a olygir yw y byddai gŵr [gwŷr yn y golygiad presennol] a oedd yn pysgota mewn afon a heb ddal dim yn falch o’r holl benwaig yn esgidiau Guto’r Glyn (er mai pysgod môr yw penwaig).’ Ond tybed ai cyfleu natur afiach yr afon fel bedd Guto yw diben [c]au yma?
27 nid llai no gwn Gw. GLlGt 122 ‘Cyfeiriad, fe ymddengys, at faintioli corfforol Guto’r Glyn.’ Fe’i cymherir â gwn, a ystyrid yn beth mawr fel canon yn y bymthegfed ganrif (cf. 18n cyff Nadolig ‘boncyff Nadolig’; gw. Evans 1998: 78).
28 pencerdd Gw. GPC 2734 d.g. ‘bardd o’r radd uchaf, bardd cadeiriol’ (cf. 48n).
28 pencwn Ffurf luosog penci, ond nid yw’n eglur pa anifail a olygir. Gw. GPC 2735 d.g. ‘un o amryw fathau o siarcod bychain, ci môr, yn arbennig morgi brych, Scyliorhinus stellaris; twb y dail, cochgangen, Leuciscus cephalus; penlletwad, penbwl, Cottus gobio; penfras, Gadus morhua; môr-leisiad, morlas, Pollachius pollachius’. Cynigir ‘penfras’ yn yr aralleiriad.
29 mudaw Gw. GPC 2499–500 d.g. mudaf1 ‘symud, ymadael, teithio’. Nid ymddengys fod ibid. 2500 d.g. mudaf2 ‘gwneud yn fud’ na mudaf3 ‘?gweryru, cyfarth’ yn bosibl gan mor brin yw’r enghreifftiau.
31 Y cawell lle bu’r cywydd Cf. 21 mae ’n ei gawell … Yr hyn sy’n ddiddorol yma yw y dôi cywyddau o ‘frest’ Guto, neu ei ysgyfaint, sy’n dyst i’r ffaith fod Guto wedi datgan ei gerddi (nid ‘corff’, fel yr awgrymir yn GGl 332, nac ychwaith ‘penglog’ yn Bowen 1957: 106; gw. GPC 442 d.g. cawell (a) ‘bol, brest’).
33 y milwr Gwasanaethodd Guto fel saethwr ym myddin Richard, dug Iorc, yn Ffrainc yn 1441 (gw. Salisbury 2007: 1). Cf. 42 gwalch (gw. GPC 1565 d.g. 2 (a) ‘milwr gwych, ymladdwr glew’).
38 hyrddu hwrdd Nid yw ystyr hwrdd yn gwbl eglur. Caiff ei drin fel ansoddair er nad yw hynny’n bosibl yn ôl GPC 1933. Cf. GLlGt 122 ‘Nid ychwanega at ystyr hyrddu (sy’n dod ohono) ond dichon ei fod yn ei ddwysáu.’ Ond tybed ai fel hwrdd a olygir?
39 ei farch Sylwer bod march Huw Lewys wedi boddi pan fu hwnnw bron â boddi ym Malltraeth (gw. 64.24).
42 gwalch cywyddau gwŷr Cydnabyddiaeth gyfoes o arbenigedd Guto ym maes canu mawl.
43 secutor Gw. GPC 3200 d.g. ‘ysgutor, dienyddiwr’. Cf. Guto yn ei gywydd marwnad i Edward ap Dafydd o Fryncunallt, lle disgrifir ei etifeddion fel sucutorion, 104.49–50 Teiroes i’r sucutorion / I lywio tir y wlad hon.
47 Dafydd Sef Dafydd ab Edmwnd, yn ôl pob tebyg, bardd y canodd Guto dri chywydd dychan iddo (gw. cerddi 66, 67 a 68). Mae’n eglur fod yr elyniaeth rhyngddynt yn enwog.
48 rhoi’r gadair ar gadach Gw. GPC 375 d.g. cadair 2 (a) ‘eisteddle i’r pencerdd yn neuadd y brenin neu’r tywysog (yn y Cyfreithiau), yn ddiweddarach yng nghyfundrefn y beirdd y tlws arian ar lun cadair a wisgid ar yr ysgwydd chwith yn arwydd fod bardd naill ai’n bencerdd neu’n athro cerdd dafod neu gerdd dant’. Cf. 28n pencerdd a Lewys Môn yn ei gywydd marwnad i Dudur Aled, GLM XCI.23–6 Bu i Aled draw (Ba le trig?) / bardd dwbl. I bwy’r oedd debyg? / Dug ar ei ŵn, fal dau grair / diwedd gwawd, y ddwy gadair (lle cyfeirir at ragoriaeth y bardd ar fesurau’r cywydd a’r awdl, o bosibl, gw. ibid. 527); DE 130 yn y myw ny wyl y mam / vyngwar heb gadair arian: dydh dawch dam.
51 yr hudol Gw. GPC 1907 d.g. hudol ‘swynwr, dewin’. Cf. GP 136 (llinell 12) Tri over gerddor: klerwr, a bardd y blawd, a hvdol. Gall mai at swynwr neu fardd gwael mewn ystyr gyffredinol y cyfeirir, neu at Ddafydd ab Edmwnd fel rhywun yr oedd ysbryd Guto’n ei erlid (gw. 47n a 52n), ond gall hefyd mai Guto ei hun a olygir pan oedd ar dir y byw.
52 ar ei ôl Gall mai at Ddafydd ab Edwmwnd y cyfeirir (gw. 47n) fel rhywun yr oedd ysbryd Guto’n ei erlid, ond y tebyg yw mai ‘wedi iddo farw’ yw’r ystyr ac mai at Guto ei hun y cyfeirir.
53 hwyl yn dwyn helynt A dilyn GPC 1937 d.g. hwyl 2 ‘taith, hynt’ ac ibid. 1847 d.g. helynt 2 ‘cwrs, hynt, llwybr’, cynigir ‘taith yn mynd rhagddi’ yn yr aralleiriad. Ond gellid hefyd ‘cyflwr yn mynd ar daith/creu helbul’ o ddilyn ystyron eraill.
56 Gadach am ysbryd Gwido Gw. GLlGt 123 ‘Y pwynt a wneir yw fod ysbryd Guto’r Glyn, er yn debyg i ysbryd Gwido [gw. 56n isod], hefyd yn wahanol am ei fod yn gwisgo dillad; h.y., yr oedd yn weladwy.’
56 ysbryd Gwido Ceir cyfieithiadau o’r Lladin o hanes ysbryd Gwido mewn llawysgrifau o ddechrau’r bymthegfed ganrif ymlaen, a chyfatebant, fe ymddengys, i fersiynau Gwyddeleg, Saesneg a Ffrangeg o’r stori (gw. Jones 1929–30: 102; Johnston 2005: 443). O’r cyfandir y daeth yn wreiddiol a digwydd yn nhref Alès yn ne Ffrainc wythnos a diwyrnawt kyn y nadolic yn y flwyddyn 1324, pan fu farw bwrdeissor a elwit. Gwidw yr hwnn a wnaeth llawer o dristwch a theruysc y dy i wraic gwedy y varw (Jones 1929–30: 102; dyfynnir o fersiwn Llst 200). Geilw’r weddw ar gymorth y prior, sy’n cyrchu ei chartref ac yn ymddiddan â’r ysbryd. Ceir trafodaeth rhwng y ddau am y purdan ac am y lles a wneir i eneidiau’r meirwon gan offerennau a genir drostynt, ymddiddan a ddisgrifir yn Johnston 2005: 443 fel ‘propaganda amrwd ... gan fod gwŷr eglwysig yn elwa’n fawr o’r arian a adewid mewn ewyllysiau i dalu am ganu offeren y meirw’. Yr hyn sy’n arbennig o berthnasol yma yw cyswllt yr hanes â gwyliau’r Nadolig (nodir bod gweddw Gwido wedi gofyn cymorth ar digwyl Jeuan ebostol yn wythnos y nodolic, sef 27 Rhagfyr) a’r ffaith fod Gwido’n fwrdais yn Alès. Mae’n debygol mai adeg y Nadolig y canwyd y gerdd hon (gw. 18n) ac mae’n ddigon posibl fod Guto’n fwrdais yng Nghroesoswallt bryd hynny (gw. 2n tre a gwlad). O ran ffurf yr enw, sylwer mai Gwidw a geir yn fersiwn Llst 200 ac mewn un fersiwn arall, ond Gwido a geir mewn chwe fersiwn arall (a Gwidow mewn un fersiwn) (gw. Jones 1929–30: 102).
58 mwg Awgrymir yn GLlGt 123 y gall mai ‘cartrefi’ a olygir yma, neu bod i’r gair ystyr ffigurol. Tybed ai cyfleu natur rithiol yr ysbryd yn syml a wneir?
58 Môn Saif Malltraeth (gw. 14n) ym Môn rhwng cwmwd Malltraeth yng nghantref Aberffraw a chwmwd Menai yng nghantref Rhosyr (am fap o’r cymydau a’r cantrefi, gw. WATU 233).
Llyfryddiaeth
Bowen, D.J. (1957) (gol.), Barddoniaeth yr Uchelwyr (Caerdydd)
Clancy, J.P. (2003), Medieval Welsh Poems (Dublin)
Edwards, H.M. (1999), ‘Murnio Marwnadau: Golwg ar y Ffug-farwnad yng Nghyfnod y Cywydd’, Dwned, 5: 47–70
Evans, D.F. (1998), ‘ “Y Carl a’i Trawai o’r Cudd”: Ergyd y Gwn ar y Cywyddwyr’, Dwned, 4: 75–105
Johnston, D. (2005), Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300–1525 (Caerdydd)
Jones, T.G. (1929–30), ‘Ysbryd Gwido a’r Prior’, B v: 100–12
Richards, M. (1998), Enwau Tir a Gwlad (Caernarfon)
Salisbury, E. (2007), Ar Drywydd Guto’r Glyn ap Siancyn y Glyn (Aberystwyth)
Salisbury, E. (2011) ‘Cyff Nadolig’, Dwned, 17: 123–30
This humorous and celebrated satire of Guto was composed by Llywelyn ap Gutun in response, in all likelihood, to the exaggerated sorrow shown by Guto in his poem to Huw Lewys (poem 64). When Huw nearly drowned in Malltraeth on Anglesey Guto likened the literal waters of the estuary to the figurative tumultuous waters created by the tears of those who cried for him. It is noteworthy that the famous series of debate poems between Dafydd ap Gwilym and Gruffudd Gryg were based on a similar grievance, namely that Gruffudd was weary of the exaggerated love-sickness shown by Dafydd in his love poems (see GGGr 10–19). Overbold empathy is what marks out Guto’s poem to Huw Lewys, where the poet sympathizes with his patron to such an extent that he claims to have suffered the same misfortune. Llywelyn seized upon Guto’s conceit (that he, too, had nearly drowned) and concocted an imaginary story that Guto had indeed fallen into the water at Malltraeth and had drowned. Guto’s reply to Llywelyn (poem 65) seems to imply that both poems were performed at Llwydiarth on Anglesey. Llywelyn’s poem was probably performed during a Christmas feast, although it is unlikely that it was part of a bardic custom known as cyff clêr, as was previously believed (see 18n). Also it is unlikely that the poems are closely related to the subgenre of fictitious elegies which were popular in the cywydd’s early period during the fourteenth century, even though both are elegies or contain elegiac sections for poets who were alive (see Edwards 1999: 69; Johnston 2005: 388).
In the opening lines of the poem (lines 1–6) Llywelyn states that the whole of Wales is in mourning because of Guto’s death on a [t]raeth heb drai ‘tideless beach’. His death would have been a complete waste, Llywelyn says, if he did not have in his mind an elegy for him. What follows is an elegy of sorts where Llywelyn’s wit is given free rein as he describes his mock anguish for his fellow poet, concentrating on Guto’s hands, his body, his clothes, his large nose and his purse (7–16). He is likened to a yule-log which was dragged to the court for Christmas and Llywelyn refers to his wyneb arth ‘bear’s face’ before introducing a series of grotesque descriptions of Guto’s body filled with various aquatic creatures (17–32). Next Llywelyn mentions the drowning itself at an unspecified ford, which was not in fact a ford at all as it was full of water, and then the commotion made by Guto and his horse as they were pulled beneath the waves (35–40).
Llywelyn then turns his attention to the effect of Guto’s death on the jealous poets who are now content, on poets and poetry in general and on the poet Dafydd ab Edmwnd, who will now be able to win a chair unhindered (41–50). But ysbryd y Guto ‘the Guto’s ghost’ will continue to haunt his old bardic foe and his apparition is described wandering from place to place on the island (51–62). He is appropriately compared with a ghost named Gwido whose story was popular throughout medieval Europe. Like in Gwido’s case, priests are called upon in order to tame Guto’s ghost and to banish him once and for all either to heaven or to hell.
Date
It is very likely that this poem was performed during a Christmas feast in 1484 (see the note on the date of poem 65).
The manuscripts
There are 38 copies of this poem in the manuscripts. Its manuscript tradition is almost identical to the manuscript tradition of Guto’s reply (poem 65) as both poems were copied together in almost every manuscript. It is therefore clear that both poems circulated together from an early date, mostly in oral form as there are twelve different versions of the present poem in terms of line order, and a complete version of the poem has not survived in any manuscript. Nonetheless, it is possible to create an authoritative edition based mainly on the texts of Brog I.1, LlGC 3046 [i] and [ii], Llst 155 and Pen 93.
Previous editions and translation
GGl poem XXXVII; GLlGt poem 11; Bowen 1957: 52–3; OBWV poem 66; Clancy 2003: 309–11.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 62 lines.
Cynghanedd: croes 40% (25 lines), traws 21% (13 lines), sain 25% (15 lines), llusg 15% (9 lines).
1 Tristach yw Cymry trostyn’ Llywelyn may be echoing one of Guto’s lines from his elegy for the poet Llywelyn ab y Moel, see 82.15 Tristach ydiw’r byd trostaw ‘sadder is the world because of him’.
1 trostyn’ Literally ‘over them [= the Welsh people]’, but with the implication that people are ‘altogether’ sadder both in the town and in the country (see 2n).
2 tre a gwlad ‘Town and country’, an interesting reference as it is known that Guto lived for a time in Oswestry.
2 Guto’r Glyn A rare example of the poet’s name in its proper form (contrast the poets Ieuan ap Gruffudd Leiaf and Syr Rhys in poems to Guto, 93.3–4 Guto … / o’r Glyn ‘Guto from the Glen’, 101a.1 Gutun y Glyn).
3 traeth heb drai Llywelyn is referring to the treacherous waters at Malltraeth (see 14n).
4 am na nofiai Cf. Bowen (1957: 105) ‘because he would not float’ (citing from OBWV 545). Yet, Llywelyn could also be satirizing Guto’s inability to swim.
5–6 Ofer oedd wneuthur erof / O’m caid â’i farwnad o’m cof See GLlGt 121, where it is suggested that Llywelyn is stating that ‘it would be wasteful for me to compose an elegy if I were found without an elegy in my mind’. Yet, Llywelyn is probably referring simply to Guto’s death in line 5 (as seen in the translation). He is stating that Guto’s death would have been very wasteful indeed had he (Llywelyn) not an elegy in his mind.
7 main mynor Guto’s grave of ‘marble stones’ beneath the waves, in all likelihood (cf. the poem Rhys Goch Eryri in his elegy for Gwilym ap Gruffudd, Wiliam Fychan’s father, GRhGE 3.73–4 Pan aeth ef, mawr fu’r llefain, / I gôr dan fedd mynor main ‘When he went, the crying was great, to a chancel underneath a grave of marble stones’). But Bowen (1957: 105) argues that main mynor is a satirical description of Guto’s large hands.
8 llywio môr A possible reference to Guto ‘steering at sea’ when he served as a soldier in Richard duke of York’s army in France in 1441 (see 33n), although it must also be kept in mind that anyone who wished to visit Anglesey would have to cross the Menai Strait.
9 y draethell ‘The strand’ at Malltraeth (see 14n).
12 simwr See GPC 3282 s.v. ‘(costly) mantle, gown, or cloak’. Could this be a reference to the cloak for which the poet Ieuan ap Hywel Swrdwal composed a poem of thanks to Sir Richard Gethin on Guto’s behalf (see GHS poem 24)?
13 troi’n olwyn A description of Guto ‘turning into a wheel’ as he falls head over heels into the water.
14 Mall Draeth Either the village, Malltraeth (see WATU 152), or, more probably, the beach itself where the river Cefni flows to the sea. The beach was situated between the commote of Malltraeth in the cantref of Aberffraw and the commote of Menai in the cantref of Rhosyr. The name is split in two here in order to create a cynghanedd, although Llywelyn could also be drawing attention to the meaning of the name, namely ‘rotten/putrid beach’ (see Richards 1998: 21).
14 â’r fwyall drwyn It is suggested in GGl 332 that [b]wyall drwyn is a description of a promontory near Malltraeth (a possibility recognized by Bowen 1957: 105), but it is more likely that Llywelyn is describing Guto’s nose (cf. 43 barcut ‘kite’). The reading ar fwyall drwyn ‘on an axe-shaped nose’ is possible, as Bowen (ibid.) suggests, so that the poet’s nose is a pivot on which his body revolves in the water like an olwyn ‘wheel’ (13).
15 trichwrs On the various meanings of cwrs, see GPC 648. In all likelihood trichwrs simply means ‘three times’.
16 ei bwrs ‘His purse’, possibly the purse that Guto received from Rhisiart Cyffin, dean of Bangor (see poem 58). Llywelyn and Rhisiart certainly knew each other. Guto received another purse from Catrin daughter of Maredudd of Abertanad (see poem 87).
17 hwdiwch atoch In all likelihood Llywelyn is addressing the audience (‘here, take …’), although it is not altogether impossible that he is addressing Guto formally. According to this interpretation it is Llywelyn himself who is the cyff Nadolig ‘yule-log’ in the next line which he wishes Guto to drag with him under water (cf. 15–16 och fi … / Na bawn ynglŷn yn ei bwrs ‘woe to me … that I wasn’t stuck to his purse’). Nonetheless, cyff Nadolig is more likely to be a description of Guto (see 18n).
18 eich cyff Nadolig ‘Your [= the audience, see 17n] yule-log’, with cyff Nadolig (literally ‘Christmas log’) as a description of Guto, in all likelihood. The earliest reference in English to the tradition of bringing a large log to the house over Christmas in Britain belongs to the beginning of the seventeenth century, yet this reference (once believed to refer to the bardic custom of cyff clêr ‘minstrels’ butt of ridicule’) predates the English reference by over a century. See further Salisbury 2011.
23–4 pysgodyn / Moelrhon These lines are separated by a comma in GGl’s edition, but the meaning is clearer if the whole couplet is seen as one sentence. Although a moelrhon ‘seal’ is not actually a pysgodyn ‘fish’, pysgodyn was ‘sometimes used loosely to include cetaceans, crustaceans, molluscs, &c.’ (see GPC 2966 s.v. pysgod (a)).
25 afon gau Not the name of a river, it seems, although the exact meaning of [c]au is unclear. See GPC 441 s.v. 1 ‘hollow, empty, sunken, fig. false, deceitful’, 2 ‘enclosing; shut, closed’. Cf. GLlGt 122, where it is suggested that people who fished in a river with little fish in it would be glad of all the herring in Guto’s shoes (although herring are salt water fish). Yet, [c]au could simply be a description of the filthy river where Guto found his grave.
27 nid llai no gwn A reference, as suggested in GLlGt 122, to Guto’s size. He is ‘not smaller than a gun’, that is a cannon, as gwn was generally used in this context during the fifteenth century (cf. 18n cyff Nadolig ‘yule-log’; see Evans 1998: 78).
28 pencerdd See GPC 2734 s.v. ‘master-bard, chaired bard’ (cf. 48n).
28 pencwn Plural form of penci, but it is unclear which animal is denoted. See GPC 2735 s.v. ‘dog-fish, esp. nursehound; chub; bullhead; cod; pollack’. ‘Cod’ is used in the translation.
29 mudaw See GPC 2499–50 s.v. mudaf1 ‘to move, depart, journey’. Ibid. 2500 s.v. mudaf2 ‘to silence’ and mudaf3 ‘to neigh; bark’ do not seem possible as there are so few examples shown.
31 Y cawell lle bu’r cywydd Cf. 21 mae ’n ei gawell … ‘there are in his chest …’ It is interesting that Llywelyn states that the cywydd came from Guto’s chest, or his lungs, as it shows that Guto recited his own poems (cawell ‘body’ is suggested in GGl 332 and ‘skull’ in Bowen 1957: 106, but both are unlikely; see GPC 442 s.v. cawell (a) ‘belly, breast’).
33 y milwr ‘The soldier’, probably since Guto served as an archer in Richard duke of York’s retinue in France in 1441 (see Salisbury 2007: 1). Cf. 42 gwalch (see GPC 1565 s.v. 2 (a) ‘fine soldier, brave fighter’).
38 hyrddu hwrdd The meaning of hwrdd is unclear. Llywelyn seems to be using it as an adjective although it is not noted as one in GPC 1933. Cf. GLlGt 122, where it is argued that hwrdd does nothing to complement the meaning of hyrddu (both words share the same root), although it does seem to intensify it. Nevertheless, fel hwrdd ‘like a ram’ is possible.
39 ei farch ‘His horse’. Note that Guto states in his poem to Huw Lewys that Huw’s horse drowned in the waters at Malltraeth (see 64.24).
42 gwalch cywyddau gwŷr Contemporary recognition of Guto’s mastery in composing cywyddau gŵr ‘praise poems’.
43 secutor See GPC 3200 s.v. ‘executor; executioner’. Cf. Guto in his elegy for Edward ap Dafydd of Bryncunallt, where Edward’s heirs are called sucutorion in charge of his will, 104.49–50 Teiroes i’r sucutorion / I lywio tir y wlad hon ‘may the executors enjoy a long life to govern the land of this country’.
47 Dafydd In all likelihood the poet Dafydd ab Edmwnd to whom Guto addressed three satirical poems (see poems 66, 67 and 68). It is clear that the enmity between both poets was well known.
48 rhoi’r gadair ar gadach See GPC 375 s.v. cadair 2 (a) ‘chair for the pencerdd in the king’s or prince’s hall (in the Laws), later in the bardic system a miniature silver chair worn on the left shoulder to signify that the bard was either a pencerdd or a teacher of “cerdd dafod” or “cerdd dant”’. Cf. 28n pencerdd and the poet Lewys Môn in his elegy for the poet Tudur Aled, see GLM XCI.23–6 Bu i Aled draw (Ba le trig?) / bardd dwbl. I bwy’r oedd debyg? / Dug ar ei ŵn, fal dau grair / diwedd gwawd, y ddwy gadair ‘Aled yonder (where does he reside?) ?was a twofold poet, who was he like? He bore on his gown the two chairs like two treasures, the end of praise’ (Lewys is possibly referring to Tudur’s mastery of the cywydd and awdl metres, see ibid. 527); DE 130 yn y myw ny wyl y mam / vyngwar heb gadair arian: dydh dawch dam ‘in my life my mother does not behold my nape without a silver chair on it, good day to you dame’.
51 yr hudol See GPC 1907 s.v. hudol ‘enchanter, sorcerer, wizard’. Cf. GP 136 (line 12) Tri over gerddor: klerwr, a bardd y blawd, a hvdol ‘Three feeble musicians: a minstrel, a mendicant bard and an enchanter’. Llywelyn may be referring to an enchanter or a poor poet in a general sense, or to the poet Dafydd ab Edmwnd as someone whom Guto’s ghost was haunting (see 47n and 52n), or even to Guto himself when he was alive.
52 ar ei ôl ‘After him’, possibly a reference to the poet Dafydd ab Edmwnd (see 47n) as someone who was being haunted by Guto’s ghost, but it is more likely a reference to Guto himself, ‘after he had gone/died’.
53 hwyl yn dwyn helynt Following GPC 1937 s.v. hwyl 2 ‘journey, progress’ and ibid. 1847 s.v. helynt 2 ‘course, way, track’, the likely meaning is ‘journey going forward’, but ‘condition going of a journey/creating havoc’ is also possible.
56 Gadach am ysbryd Gwido ‘A garment on Gwido’s ghost’. See GLlGt 123, where it is suggested that while Guto’s ghost is similar to Gwido’s ghost (see 56n below), Guto’s ghost is also different as he is able to wear clothes (i.e. he was visible).
56 ysbryd Gwido The earliest manuscript versions of the story of ‘Gwido’s ghost’ in Welsh belong to the beginning of the fifteenth century and seem to be closely related to Irish, English and French versions of the story (see Jones 1929–30: 102; Johnston 2005: 443). It originated on the mainland and is located in the town of Alès in the south of France, where a burgess named Gwidw who died a week and a day before Christmas 1324 proceeded to haunt his poor wife (Jones 1929–30: 102, where the text of Llst 200 is shown). His widow asks the local prior for assistance, who promptly visits her home and converses with the ghost. They discuss purgatory and the benefits of singing mass for the souls of the dead, a discussion described in Johnston 2005: 443 as the unrefined propaganda of religious centres which profited greatly from money left in wills to pay for requiem mass. What is particularly relevant to the present poem is the fact that Gwido’s story happens over the Christmas period (note that Gwido’s widow calls on the prior on the feast of St John the Apostle, 27 December) and that he is a burgess in Alès. In all likelihood Llywelyn’s poem was performed during a Christmas feast (see 18n) and it is possible that Guto was a burgess in Oswestry at the time (see 2n tre a gwlad). The form Gwidw is used in Llst 200 and in one other version, but Gwido is used in six other versions of the story (one of which used Gwidow) (see Jones 1929–30: 102).
58 mwg In GLlGt 123 it is suggested that mwg ‘smoke’ refers to houses on Anglesey or bears some figurative meaning. It may simply reflect the shadowy nature of Guto’s ghost.
58 Môn Malltraeth (see 14n) on Anglesey was situated in the commotes of Malltraeth in the cantref of Aberffraw and Menai in the cantref of Rhosyr (for a map of the commotes and cantrefs, see WATU 233).
Bibliography
Bowen, D.J. (1957) (gol.), Barddoniaeth yr Uchelwyr (Caerdydd)
Clancy, J.P. (2003), Medieval Welsh Poems (Dublin)
Edwards, H.M. (1999), ‘Murnio Marwnadau: Golwg ar y Ffug-farwnad yng Nghyfnod y Cywydd’, Dwned, 5: 47–70
Evans, D.F. (1998), ‘ “Y Carl a’i Trawai o’r Cudd”: Ergyd y Gwn ar y Cywyddwyr’, Dwned, 4: 75–105
Johnston, D. (2005), Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300–1525 (Caerdydd)
Jones, T.G. (1929–30), ‘Ysbryd Gwido a’r Prior’, B v: 100–12
Richards, M. (1998), Enwau Tir a Gwlad (Caernarfon)
Salisbury, E. (2007), Ar Drywydd Guto’r Glyn ap Siancyn y Glyn (Aberystwyth)
Salisbury, E. (2011), ‘Cyff Nadolig’, Dwned, 17: 123–30
Canodd Guto gywydd mawl i Huw Lewys o Brysaeddfed ym Môn pan fu bron â boddi wrth groesi rhyd ym Malltraeth (cerdd 64). Ysgogodd y gerdd honno Lywelyn ap Gutun i ganu cywydd dychan i Guto (cerdd 65a) a chanodd Guto yntau gywydd i’w ateb (cerdd 65). Yng nghywydd mawl Guto i Huw nodir bod dau o frodyr Huw yn fyw a dau wedi marw. Roedd pum brawd i gyd felly, brodyr y canodd Guto gywydd mawl iddynt gyda’i gilydd (cerdd 63).
Noddodd Huw a’i wraig, Sioned Bwlclai, nifer o feirdd eraill: Ieuan Deulwyn, a ganodd gywydd i Huw i ofyn gosog, ID cerdd XXIII; Tudur Penllyn, a ganodd gywydd mawl i Huw a Sioned, GTP cerdd 10; Lewys Môn, a ganodd gywydd marwnad i Huw ac awdl farwnad i Sioned, GLM cerddi III a IV; Lewys Glyn Cothi, a ganodd gywydd marwnad i Sioned, GLGC cerdd 229. Nodwyd uchod bod Llywelyn ap Gutun wedi canu cywydd dychan i Guto fel ymateb i gywydd a ganodd Guto i Huw, ac enwir Huw gan Lywelyn mewn cywydd dychan arall a ganodd i Risiart Cyffin, deon Bangor (GLlGt cerdd 9). Dywed Llywelyn iddo dderbyn llythyr gan Risiart i’w ddwyn at Huw gan dybio ei fod yn rhoi caniatâd iddo gardota ŵyn yn y Chwaen, ond pan ddatganodd Huw y llythyr cafodd mai cyhuddiad ydoedd fod Llywelyn wedi lladrata ŵyn a gorchymyn i’w garcharu, onid ei grogi hefyd.
Roedd disgynyddion Huw yn noddwyr beirdd hefyd. Canodd Lewys Môn gywydd mawl i’w fab, Siôn Lewys, ac i’w wraig yntau, sef Elsbeth Watgyn (GLM cerddi V a VI), a chanodd Ieuan Deulwyn gywydd i ofyn mantell gan Siôn (ID cerdd XXVI). Marwnadwyd Alis ferch Huw Lewys mewn cywydd gan Gutun Owain a ganwyd, fe ymddengys, rywdro wedi 1480 (GO cerdd 52), a chanodd Lewys Môn gywydd mawl i Owain ap Siôn, gŵr Elin ferch Huw Lewys (GLM cerdd XLVII).
Achres
A rhoi iddo ei enw llawn, gwelir bod Huw Lewys ap Llywelyn ap Hwlcyn wedi mabwysiadu ffurf fachigol ar enw ei dad fel cyfenw, a mabwysiadwyd yr enw hwnnw gan ei ddisgynyddion yn eu tro. Seiliwyd yr achres gyntaf isod ar WG1 ‘Marchudd’ 6; WG2 ‘Bulkeley’ 2, ‘Hwfa’ 8 C1. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.
Achres Huw Lewys ap Llywelyn o Brysaeddfed
Dengys yr achres brif ddisgynyddion Huw o’i briodas gyntaf â Sioned Bwlclai a’i berthynas deuluol â thri o noddwyr eraill Guto. Gwelir ei fod yn ewythr i Ddafydd ap Gwilym o Lwydiarth, yn frawd yng nghyfraith i Huw Bwlclai o Fiwmares ac yn fab yng nghyfraith i Elen, chwaer Wiliam Fychan o’r Penrhyn.
Priodas gyntaf ei chwaer, Elen, yn unig a ddangosir yn yr achres uchod, ond gwelir isod achres yn dangos ei hail briodas. Fe’i seiliwyd ar WG1 ‘Carwed’ 2; WG2 ‘Carwed’ 2 B, ‘Ednywain Bendew’ 3 B5, ‘Hwfa’ 8 C1.
Ail briodas Elen, chwaer Huw Lewys
Dengys yr achres gysylltiadau teuluol Huw â theulu ei chwaer drwy ei hail ŵr, Cynwrig ap Dafydd, a enwir gan Guto yn ei gywydd i ateb dychan Llywelyn (65.27). Gwelir bod Huw wedi priodi’r eildro hefyd, â merch anhysbys i Gynwrig ac Elen. Roedd Huw, felly, yn frawd yng nghyfraith i Gynwrig ac yn fab yng nghyfraith iddo ef ac i’w chwaer ei hun, Elen. Priododd ei nith (os priodi a wnaethant).
Am goeden achau’n dangos brodyr Huw a’i hynafiaid, gw. y nodyn ar y pum brawd.
Ei yrfa
Seiliwyd y nodyn hwn ar erthygl Wiliam (1969–70) oni nodir yn wahanol. Enwir Huw mewn cofnodion rhwng 1461 ac 1467 a dywed Carr (1982: 216) ei fod yn ffermio nifer o wahanol diroedd sied o 1464 ymlaen. Ef oedd rhaglaw cwmwd Malltraeth yn 1471/2 ac roedd yn ffermio rhaglawiaethau cymydau Malltraeth, Llifon a Thalybolion yn 1480/1 (ibid. 215). Ceir y cofnod diweddaraf ato ym Medi 1485.
Yn ôl Carr (ibid. 216), ‘he may at one time have held some office at court’, awgrym a seilir ar yr hyn a ddywed Lewys Môn yn ei farwnad iddo (GLM IV.54):Pwy i roi’n sewer prins ieuanc?‘Swyddog sy’n blasu ac yn gweini bwyd’ yw sewer (GPC 3236), a hynny yn llys y brenin yn benodol hyd y bymthegfed ganrif (OED Online s.v. sewer2). Mae sewer prins ieuanc yn awgrymu mai wrth yr hen ystyr y deellir sewer yma hefyd, ac awgrymodd Wiliam (1969–70) mai Edward Tywysog Cymru (1453–71) yw’r prins ieuanc. Ond dylid rhoi ystyriaeth hefyd i’w olynydd fel tywysog rhwng 1470 ac 1483, sef yr hwn a goronwyd yn ddiweddarach yn frenin Edward V.
Yn llinell olaf ei gywydd mawl i Huw geilw Guto ef yn sirif Môn, cyfeiriad a ategir gan Ieuan Deulwyn mewn cywydd i ofyn gosog gan Huw (ID 39):Y syryf aeth a sir fon
sy huw lewys o liwonac mewn cywydd i ofyn mantell gan ei fab, Siôn Lewys (Wiliam 1969–70: 60):Siryf i Fôn y siroedd
Swydd ei dad, Prysaeddfed oedd(Noder bod darlleniad ychydig yn wahanol yn ID 48 Sirydd i fon y siroedd / Swydd fu i dad prysaddfed oedd.) Awgrymir gan Wiliam mai dirpwy siryf ydoedd mewn gwirionedd gan na cheir cofnod swyddogol i ategu’r hyn a ddywed y beirdd.
Cymerodd yn wraig gyntaf Sioned ferch Wiliam Bwlclai o Fiwmares, a nodwyd arwyddocâd yr uniad hwnnw gan Carr (1982: 228): ‘this … was an alliance of two rising families and in a way marked the acceptance of the Cheshire Bulkeleys into the ranks of the Anglesey uchelwyr.’ Ymddengys y ganed Sioned rywdro wedi 1437 gan mai yn y flwyddyn honno y priododd ei rhieni.
Bu farw Huw rywdro rhwng y cyfeiriad olaf ato yn 1485 ac 1503/4, pan fu farw ei frawd, Rhys (sef yr unig frawd y mae dyddiad ei farw’n hysbys). Ymddengys mai Rhys oedd mab ieuengaf Llywelyn ap Hwlcyn a dywed Guto ei fod ef a Meurig, y brawd hynaf, ar dir y byw pan ganodd ei gywydd mawl i Huw. At hynny, at un brawd yn unig y cyfeirir gan Lewys Môn yn ei farwnad i Huw (GLM IV.46):gwae’i frawd am ei gyfryw ŵrY tebyg yw mai Rhys ydoedd, a bod Meurig yntau wedi marw cyn Huw.
Llyfryddiaeth
Carr, A.D. (1982), Medieval Anglesey (Llangefni)
Wiliam, D.W. (1969–70), ‘Y Traddodiad Barddol ym Mhlwyf Bodedern, Môn’, AAST: 39–79
Bardd-delynor oedd Llywelyn ap Gutun a ganodd gerdd ddychan i Guto yn honni iddo foddi ym Malltraeth ym Môn (cerdd 65a). Seilir yr wybodaeth isod ar ragymadrodd GLlGt gyda golwg ar yr hyn a ddywed Guto am Lywelyn yn y gerdd ateb a ganodd iddo (cerdd 65).
Achres
Ni cheir ach Llywelyn yn yr achresi, ond gellir llunio’r achres seml isod ar sail yr hyn a nodir amdano wrth droed ei gerddi mewn llawysgrifau a’r hyn a ddywed Llywelyn ei hun yn ei gerddi:
Gwyddys fod ganddo fab o’r enw Gruffudd am iddo ganu cywydd marwnad ingol iddo (GLlGt cerdd 1).
Ei gartref a’i ddyddiadau
Yn y cywydd ateb a ganodd Guto iddo lleolir cartref Llywelyn ym Melwern (65.53), sef plwyf a phentref, o bosibl, i’r de o Groesoswallt yn swydd Amwythig. Llifa afon Efyrnwy i afon Hafren nid nepell i’r dwyrain o’r fan ger y ffin fodern rhwng Cymru a Lloegr. Mae Llywelyn ei hun a Lewys Môn yn cadarnhau ei leoliad.
Cynigir rhwng 1430 ac 1440 fel cyfnod geni Llywelyn. Mae’r dyddiadau hyn yn cyd-fynd â’r hyn a ddywed Guto amdano yn ei gywydd ateb, lle gelwir Llywelyn yn was gwych a mab (65.10, 48). At hynny, geilw Guto ei hun yn lledrith hen (32) ac fe’i gelwir gan Lywelyn yn [g]apten yr henfeirdd (65a.45). Yr hyn a gyflëir yn y ddwy gerdd yw bod Llywelyn rywfaint yn iau na Guto ac felly’n fwy cymwys i’w herio ac i dynnu ei goes am fod yn henwr. Ymddengys iddo farw’n fuan wedi troad yr unfed ganrif ar bymtheg.
Ei yrfa
Fel y nodwyd eisoes ac fel y gwneir yn eglur yng nghywydd ateb Guto, roedd Llywelyn yn delynor yn ogystal â bardd. Ategir y ffaith honno gan Ddafydd Llwyd o Fathafarn a Syr Dafydd Trefor, a dywed Griffith (1913: 246) ei fod yn ‘chwareuydd ar y crwth, a chrythor teuluaidd’ i Ddafydd Llwyd. Yn ôl rhai llawysgrifau roedd Llywelyn yn ‘delynor Llwydiarth’, ac mae’n bosibl mai at lys Llwydiarth ger Llannerch-y-medd ym Môn y cyfeirir (65.19n). Mae’n debygol mai’r grefft o ganu telyn a ddysgodd Llywelyn gyntaf, a hynny gan ei dad, o bosibl, cyn iddo fynd ymlaen i ddysgu cerdd dafod.
Roedd ei statws fel telynor yn ei osod ar wahân i drwch y beirdd proffesiynol a ganai’n bennaf gerddi mawl i uchelwyr er mwyn ennill bywoliaeth. Ni cheir yr un gerdd fawl wrth enw Llywelyn eithr nifer fawr o gerddi dychan ac ymryson. Mae hynny’n adlewyrchu’r ffaith y gallai ddibynnu, i raddau helaeth, ar ei ddawn i ganu’r delyn a’i yrfa fel porthmon er mwyn dod â dau ben llinyn ynghyd, ond adlewyrcha hefyd ei gymeriad cynhennus ei hun. Fel y dywed Daniel (GLlGt 6) ‘[g]ellid disgrifio’r hyn a gesglir am ei yrfa fel cyfres o wrthdrawiadau.’ Gwrthdarodd Llywelyn â Dafydd Llwyd o Fathafarn ar o leiaf dair achlysur: pan fu’n ymrysona ag ef a Gwerful Mechain; pan fu’n ymrysona eto ag ef ynghylch cymhortha defaid (lle cyfeirir at y bardd-offeiriad Syr Rhys); a phan anfonwyd Llywelyn gan Ddafydd ar siwrnai seithug i Ynys Enlli.
Roedd Llywelyn yn un o griw niferus o feirdd a oedd yn arddel cyswllt â chartref Dafydd Llwyd ym Mathafarn, ac awgrymir mai drwy ei ymwneud yno â Dafydd y daeth i gyswllt â Guto ac ag Owain ap Llywelyn ab y Moel (canodd Llywelyn gywydd i ofyn sbectol ar ei ran ac i ofyn am un iddo ef ei hun). Ond gan mai tenau yw cyswllt Guto ac Owain â Mathafarn, tybed ai haws derbyn mai at aelwydydd noddwyr mewn rhannau eraill o’r wlad y daeth i gyswllt â hwy? Mae’n bosibl mai ym Môn y cyfarfu Guto gyntaf, ac yno y canodd y ddau eu cerddi dychan i’w gilydd. Ym Môn neu Arfon hefyd y daeth Llywelyn i wrthdrawiad â Rhisiart Cyffin, deon Bangor, gŵr y canodd iddo dri chywydd dychan ynghylch dau ddigwyddiad. Anghytundeb ynghylch cymhortha defaid ym Môn oedd y naill ac ymgiprys am ferch o Fôn o’r enw Alswn oedd y llall. Ar achlysur arall bu trigolion Gwynedd yn hael wrtho pan deithiodd y wlad yn hel ŵyn i’w gwerthu er mwyn talu dirwy ym Meirionnydd. Priodol cloi’r nodyn hwn â sylwadau Daniel amdano (GLlGt 11, 14):Wrth edrych ar yrfa Llywelyn ap Gutun, y mae’n drawiadol mor wahanol ydoedd i eiddo beirdd hysbys eraill y cyfnod yn gyffredinol. Y mae clwm o resymau yn cyfrif am hyn. Yn un peth, yr oedd yn arfer sawl dull gwahanol er mwyn ennill ei fywoliaeth, sef canu’r delyn, prydyddu a chymhortha, a hynny er gwaethaf y ffaith mai’r cyntaf oedd ei wir broffes. Yn ail … yr oedd â’i fryd i raddau mwy na’r cyffredin ar fywyd goludog a moethus. Yn olaf, yr oedd yn ŵr egnïol, eofn a checrus. Dyma gymeriad anghonfensiynol, lliwgar ac unigolyddol … Efallai nad cystal ei grefft â’i ddychymyg, a cheir llawer o linellau anodd eu dehongli ganddo, ond, megis amryw o feirdd eraill a ganai ar eu bwyd eu hunain, ychwanegodd liw a diddordeb at gerdd dafod swyddogol ei ddydd ac nid yn fuan yr anghofir y bersonoliaeth ymwthgar a chyffrous.
Llyfryddiaeth
Griffith, R. (1913), Llyfr Cerdd Dannau: Ymchwiliad i Hanes Hen Gerddoriaeth a’r Dulliau Hynaf o Ganu (Caernarfon)