Chwilio uwch
 
100 – Gofyn dau filgi gan Robert ab Ieuan Fychan o Goetmor ar ran Sieffrai Cyffin ap Morus o Groesoswallt
Golygwyd gan Eurig Salisbury


1Rhobert, uwch rhiwiau Aber,
2Rhuban o aur glân i’r glêr,
3Fab Ieuan Fychan â’i fedd
4A’i ddau win i ddwy Wynedd,
5Llin Ieuan Llwyd, llawnwin llu,
6Llwyth Iarddur, â’r llath hirddu,
7Gemau oedd dy deidiau di
8A chreiriau cylch Eryri,
9Gwraidd a brig pendefigion,
10Gwinwydd mawr Gwynedd a Môn.
11Eifionydd a ofynnir,
12Nanconwy, Ardudwy dir,
13Arllechwedd, Gwynedd i gyd,
14Ewch â darn o’i chadernyd.
15Ail Fadawg, haelaf, ydwyd,
16Heb enw llai, ab Ieuan Llwyd;
17Ail fych i Hywel Fychan,
18Un natur wyd, na’d dy ran.
19Arth erioed wrth ddewr ydwyd,
20Ac oen i Dduw Gwynedd wyd.
21Ceidwad y ddwywlad ddilys,
22Catwo Mair lew Coetmor lys!

23Rhaid oedd ym, pe rhoid, ddwy arch,
24Rhobert, ysgwïer hybarch.
25Eirchiaid yw’n penaethiaid ni,
26Ni wnânt orchwyl ond erchi,
27Clerwyr, rhuadwyr ydynt
28– Clera nis gwnâi’r gwyrda gynt –
29Erchi pob rhyw dywarchawr,
30Erchi meirch, erchi aur mawr.
31Y mae gŵr yma a garwn,
32Nid eirch ond adar a chŵn,
33Sieffrai Cyffin o’r drin draw
34Y sydd ag emys iddaw.
35Nid eirch yt feirch, wyd di-fai,
36Cŵn torchawg cynt y’u harchai;
37Addewaist ym ddeuwas deg
38I gadw’r ŷd, i gydredeg,
39Cŵn ŷnt hwy, canwn i’w tyrch,
40Cynt no’r corwynt i’r ceiriyrch,
41Carnlladron â’r crwyn llwydrew
42Coetmor blas, cotwm yw’r blew.
43Blwydd a mwy yw bleiddiau Môn,
44Blowmoniaid boliau meinion.
45Rhoed pilis, rhwydau pali,
46Rhita Gawr ar hyd dau gi,
47Milgwn Ffrainc mal gynau ffris,
48Meudwyaid, mi a’u dewis.
49Gnodach nad milgwn ydynt
50Ond gweilch neu genadau gwynt.
51Deuben megis dau abad
52A dwy dorch mal eu dau dad.
53Deugwfl llaes, da goflau llin,
54Drostynt fal brodyr Awstin.
55Rhoi’n benyd dwyn rhawn beunydd
56Ar gŵn teg rhag enaid hydd,
57Crefyddu, ceirw a faeddant,
58Bara a dŵr rhag briwo dant.
59Deugi lân, da galennig,
60Dreigiau, cŵn yn dragio cig,
61Dau archfain filgi dorchfawr,
62Dwy ddwyfron leision i lawr,
63Dau lew a’u blew fal y blaid,
64Dyrnfleiddiau dewr yn flwyddiaid,
65Dau Iddew gyfrodeddwallt,
66Dau gryf yn rhedeg i’r allt.
67Deugawr o Goetmawr a gaf,
68Deugi Robert a gribaf,
69Bleiddiau i Sieffrai, os iach,
70Ni bydd fab heb ddau fwbach;
71Ni bo dy gâr heb dy gŵn,
72Ni bwyf unSul heb fenswn!

1Rhobert, uwchben rhiwiau Aber,
2rhuban o liw aur hardd i’r glêr,
3fab Ieuan Fychan â’i fedd
4a’i ddau win i ddwy Wynedd,
5llinach Ieuan Llwyd, llawnder o win i lu,
6llwyth Iarddur, â’r waywffon hir a du,
7gemau oedd dy deidiau di
8a thrysorau o amgylch Eryri,
9gwraidd a brig pendefigion,
10gwinwydd mawr Gwynedd a Môn.
11Eifionydd a hawlir,
12Nanconwy, tir Ardudwy,
13Arllechwedd, Gwynedd i gyd,
14ewch â darn o’i chadernid.
15Ail Fadog ab Ieuan Llwyd wyt,
16ŵr haelaf, heb lai o enwogrwydd;
17byddi’n debyg i Hywel Fychan,
18rwyt o’r un natur ag ef, paid â gadael dy ran.
19Arth wyt yn erbyn gŵr dewr erioed,
20ac oen i Dduw yng Ngwynedd wyt.
21Amddiffynnwr y ddwy diriogaeth gadarn,
22boed i Fair ddiogelu llew llys Coetmor!

23Rheidrwydd arnaf oedd cyflwyno dwy gais, pe caniateid,
24Rhobert, ysgwïer parchus.
25Gofynwyr yw’n penaethiaid ni,
26ni wnânt unrhyw waith heblaw gofyn,
27clerwyr, bloeddwyr ydynt
28– ni fyddai’r gwŷr bonheddig yn arfer clera gynt –
29gofyn pob math o ych i aredig,
30gofyn meirch, gofyn llawer o aur.
31Mae yma ŵr a garwn,
32nid yw’n gofyn dim ond adar a chŵn,
33Sieffrai Cyffin o’r frwydr acw
34sy’n berchen meirch rhyfel.
35Nid yw’n gofyn meirch gennyt, rwyt yn ddi-fai,
36gofynnai gŵn gynt a chanddynt goleri;
37addewaist roi i mi ddau was teg
38i ddiogelu’r ŷd, i gydredeg,
39cŵn cynt na’r corwynt ydynt hwy
40tuag at y caeriyrchod, canwn i’w coleri,
41pen-lladron plas Coetmor a chanddynt
42y crwyn o liw llwydrew, cotwm yw’r blew.
43Mae bleiddiau Môn dros flwydd oed,
44dynion duon a chanddynt foliau main.
45Rhoddwyd mantell ffwr Rhita Gawr
46ar hyd dau gi, rhwydau sidan,
47milgwn o Ffrainc fel gynau o frethyn blewog,
48meudwyaid, myfi a’u dewisaf.
49Mae’n fwy naturiol dweud nad milgwn ydynt
50ond gweilch neu negeswyr gwynt.
51Dau ben fel pennau dau abad
52a dwy goler fel coleri eu dau offeiriad.
53Dau benwisg hir sydd arnynt fel mynachod Awstin,
54mynwesau da o frethyn llin.
55Gwisgo crys rawn a roir yn benyd beunyddiol
56ar gŵn teg er mwyn enaid hydd,
57ymprydio ar fara a dŵr rhag niweidio dant,
58gorchfygant geirw.
59Dau gi hardd, rhodd dda,
60dreigiau, cŵn yn llarpio cig,
61dau filgi main eu gweisg a mawr eu torchau,
62dwy fynwes hir hyd y llawr,
63dau lew a chanddynt flew fel y pared o wiail plethedig,
64bleiddiau ysglyfaethus a dewr yn flwydd oed,
65dau Iddew cyrliog eu gwallt,
66dau gryf yn rhedeg i’r allt.
67Dau gawr o Goetmor a gaf,
68dau gi Rhobert a gribaf,
69bleiddiau i Sieffrai, os yw’n iach,
70ni bydd ef yn ŵr heb ddau ymladdwr ffyrnig;
71na fydded dy berthynas heb dy gŵn,
72na fydded i mi fod yr un Sul heb gig hela!

100 – Request for two greyhounds from Rhobert ab Ieuan Fychan of Coetmor on behalf of Sieffrai Cyffin ap Morus of Oswestry

1Rhobert, above the slopes of Aber,
2fine, gold-coloured ribbon for the minstrels,
3son of Ieuan Fychan with his mead
4and his two wines for two Gwynedds,
5Ieuan Llwyd’s lineage, plentitude of wine for a host,
6Iarddur’s tribe, with the long, black spear,
7your forefathers were gems
8and treasures around Snowdonia,
9root and shoot of noblemen,
10great vine-trees of Gwynedd and Anglesey.
11Eifionydd is demanded,
12Nanconwy, the land of Ardudwy,
13Arllechwedd, Gwynedd altogether,
14take a piece of her might.
15You’re a second Madog ab Ieuan Llwyd,
16most generous one, with no less fame;
17you’d be second to Hywel Fychan,
18you’re of the same nature, don’t let your portion go.
19You’re a bear always towards a brave man,
20and you’re a lamb to God in Gwynedd.
21Guardian of the two steadfast territories,
22may Mary keep the lion of Coetmor’s court!

23It was a necessity for me to make two requests, were it allowed,
24Rhobert, venerable esquire.
25Our rulers are requesters,
26they do nothing but request,
27they’re minstrels and roarers
28– the noblemen did not clera in time past –
29requesting every such ox for ploughing,
30requesting horses, requesting much gold.
31Here there’s a man whom we love,
32he requests nothing but birds and hounds,
33Sieffrai Cyffin from the battle yonder
34who has war-horses to his name.
35He doesn’t request horses from you, you are faultless,
36he requested torque-wearing hounds before;
37you promised me two fair servants
38to keep the corn, to run together,
39they’re swifter hounds than the whirlwind
40towards the roebucks, we’ll sing to their torques,
41the palace of Coetmor’s arrant thieves
42with the hoar-frost-coloured skins, the hair’s cotton.
43Anglesey’s wolves are over a year old,
44slim-waisted black men.
45Rhita Gawr’s furry mantle was placed
46across two dogs, nets of silk,
47French greyhounds like frieze gowns,
48hermits, I’ll choose them.
49It’s more natural not to call them greyhounds
50but hawks or messengers of the wind.
51Two heads like two abbots’ heads
52and two torques like their two priests’ torques.
53Two long cowls over them
54like friars of St Augustine, good bosoms of linen.
55Wearing a hair-shirt is made a daily penance
56on fair hounds for a hart’s soul,
57fasting on bread and water
58lest they damage a tooth, they defeat stags.
59Two fine hounds, good gift,
60dragons, hounds dragging meat,
61two slimline greyhounds with great torques,
62two long chests to the ground,
63two lions with hair like the interwoven partition,
64ravenous and brave wolves at a year old,
65two curly-haired Jews,
66two strong ones running towards the slope.
67I’ll receive two giants from Coetmor,
68I’ll comb Rhobert’s two hounds,
69wolves for Sieffrai, if he’s well,
70he won’t be a man without two ferocious warriors;
71may your kinsman never be without your dogs,
72may I never be one Sunday without venison!

Y llawysgrifau
Diogelwyd y gerdd hon mewn 39 o lawysgrifau. Fel y gwelir yn y stema ceid tair prif ffynhonnell, sef X1, X2 ac X3. Bernir bod ôl traddodi llafar ar destun X2, lle na cheid llinellau 5–6 nac, o bosibl, 47–8 a 51–2, ynghyd â chryn ansicrwydd o ran trefn llinellau (mae’n bosibl bod dylanwad copi arall safonol o’r gerdd ar destun X6). Yn X2 ac X3 yn unig y ceid llinellau 61–4, a chan na cheir lle i amau eu dilysrwydd rhaid derbyn eu bod yn absennol o destun X1. Diau bod llygad neu gof y copïydd wedi neidio dros y llinellau hynny yn sgil y cymeriad geiriol dau. Cwpled agoriadol y gerdd yn unig a geir yn llaw John Jones Gellilyfdy yn Pen 221 ac ni oroesodd ei gopi cyflawn ef o’r gerdd. Ar sail y ddwy linell hynny mae’n bosibl fod y testun hwnnw’n deillio o X2. Er bod copi o’r gerdd yn llawysgrifau LlGC 3049D a LlGC 8497B fe’u copïwyd ar wahân i’r casgliadau o gywyddau Guto a geir yn y ddwy lawysgrif ac ni cheid copi ohoni yn y casgliad cynnar coll o gerddi Guto a gopïwyd, yn ôl pob tebyg, yn Nyffryn Conwy.

Ceid gwahaniaeth o ran trefn llinellau rhwng testunau X1 ac X3, ac nid ymddengys y gellir rhoi blaenoriaeth i’r un ohonynt o safbwynt ystyr yn unig. Gellid dadlau bod gwell ystyr yn X1 o ran llinellau 19–22 gan fod Guto’n hoff o gloi cerdd neu adran ohoni drwy ddymuno’n dda i wrthrych ei fawl, ond gellid dadlau hefyd bod gwell ystyr yn X2 o ran llinellau 23–30 (gw. y trawsysgrifiad o lawysgrif LlGC 3049D am y drefn a geid yn X2). Dilynir y drefn a geid yn X1 yn nhestun y golygiad oherwydd i. gellid disgwyl y dymunai copïydd gyfnewid llinellau 23–4 er mwyn rhoi blaenoriaeth i enw Rhobart ar ddechrau’r cwpled fel y gwneir ar ddechrau’r cywydd, ond na welai unrhyw gopïydd yn dda i wneud fel arall; ii. yn yr un modd mae’n debygol y byddai copïydd a ddibynnai ar ei gof yn uno diwedd llinell 26 ond erchi â dechrau llinell 29 erchi pob; iii. ceid llai o raen, ar y cyfan, ar ddarlleniadau testun X3 na thestun X1 (gw. isod). (Rhaid derbyn bod y newidiadau a drafodir yn i. a ii. uchod wedi digwydd yn annibynnol yn nhestun llafar X2 hefyd – sylwer eu bod wedi digwydd yn annibynnol yn nhestun Brog I.2 er gwaethaf y ffaith ei fod yn deillio o X1.)

Ymddengys yn debygol fod copi digon safonol, os anghyflawn, o’r gerdd wedi ei ddiogelu yn X1, a seiliwyd y golygiad ar y testun hwnnw’n bennaf pan fo’n eglur pa ddarlleniadau a geid ynddo. Fe’i ategir o dro i dro gan destunau X2 ac X3. Roedd testun y naill yn ddigon derbyniol ond mae’n eglur bod nifer fawr o linellau’n eisiau ohono a chryn amheuaeth o ran trefn llinellau. Yn y llall yn unig y ceid copi cyflawn o’r gerdd ond mae’n eglur bod ei ddarlleniadau’n ddiffygiol mewn mannau (gw. nodiadau llinellau 2, 5, 7, 16, 30, 31, 34 a 59).

Trawsysgrifiadau: BL 14866, BL 14976, LlGC 3049D a LlGC 17113E.

stema
Stema

1 Rhobert  Ceir -art mewn rhai llawysgrifau, ond ni cheir lle i gredu nad -ert a geid yn y tair prif ffynhonnell. O ran y gytsain flaen, yn aml nid yw orgraff y llawysgrifau’n gyson wrth ddynodi rh ac r, ac nid yw’n eglur ai Rhobert ynteu Robert (sef darlleniad GGl) a olygir. Fodd bynnag, mae’n debygol mai Rhobert a geir yn BL 14866, BL 14979 a Brog I.2 a gellid dadlau mai rh a ddynodir gan R yn y testunau eraill a ddeilliodd o X1 (nid yw’n eglur beth a geid yn X2 nac X3). Ystyriaethau eraill o blaid darllen Rhobert yw i. bod Guto’n ateb rh â rh (yn hytrach nac r) yn gymharol gyson, yn arbennig o amgylch prifacenion; ii. y ffaith mai hwn yw gair agoriadol y cywydd ac y gellid disgwyl bod sicrhau cynghanedd gref mewn llinell agoriadol yn allweddol, yn arbennig pan fo’r llinell honno’n cynnwys ac yn cynganeddu enw’r noddwr yn yr orffwysfa; iii. y ffaith fod cymeriad llythrennol a chynganeddol yn llinell 2 rhuban; iv. y ffaith mai fel Rhobert yr enwir yr un gŵr mewn cywydd marwnad a ganodd Siôn ap Hywel i’w ferch, Sioned (gw. GSH 9.10). Mae’n ddigon posibl y defnyddid y Cymreigiad hwn ar yr enw yng Nghoetmor yng Ngwynedd yn hytrach na’r ffurf Saesneg Robert (gthg. Robert Trefor o’r Waun ger Llangollen, gw. 103.37). Ymhellach ar droi r yn rh mewn geiriau benthyg, gw. TC 457.

1 uwch rhiwiau  Gellid dadlau mai uwch riwiau a geir mewn rhai llawysgrifau ac eithrio’r rheini sy’n deillio o X1. Yn ôl TC 401, ni threiglid enw yn dilyn uwch heblaw mewn cyfansoddiadau sefydlog.

2 rhuban  Fel yn achos 1n Rhobert nid yw orgraff mwyafrif y testunau’n gyson o ran dynodi rh- ac r-, ac nid yw’n eglur ai rhuban ynteu ruban a olygir. Sylwer bod rhuban, fel Rhobert, yn air benthyg o’r Saesneg Canol (gw. GPC 3099) a oedd yn ôl pob tebyg yn cylchredeg ar lafar fel rhuban ac fel ruban. Ond ymddengys mai rhuban a geir yn BL 14866, Brog I.2, C 2.114 a Stowe 959, a gall mai’r sillafiad hwnnw a ddynodir gan R- ym mhob testun arall a ddeilliodd o X1. Ceid darlleniad gwahanol yn X3 rhôi bân. Hawdd gweld sut y gellid ysgrifennu rhvban fel rhyban a’i ddehongli fel rhy bân, ‘mae’n rhoddi pân’, yn ei sgil. Gallai rhy wedyn droi’n rhoe dan ddylanwad Rho- yn y llinell flaenorol. Ymddengys fod GGl Ry bân wedi dilyn naill ai ddiweddariad BL 14976 ry/ba^n (nas nodir fel ffynhonnell i’r golygiad hwnnw) neu ddarlleniad C 2.630 Ryban, ond ni cheir lle i gredu bod Llywelyn Siôn yn ystyried Ryban yn ddau air yma.

2 aur  Ansicr. Gthg. llawysgrifau cynnar LlGC 17113E ac X4 wr. Ceid darlleniad y golygiad yn X5 ac nid yw’n eglur, felly, beth a geid yn X1. Dilynir darlleniad X5 gan mai aur a geid yn X2 ac X3. Tybed a geid y ddau ddarlleniad ac ansicrwydd testunol yn X1?

3 Ieuan  Cf. Ifan mewn rhai llawysgrifau, ond ni cheir lle i gredu nad Ieuan a geid yn y tair prif ffynhonnell.

5 llawnwin  Gthg. X3 llownfaen.

5–6  Ni cheid y llinellau hyn yn X2.

7 gemau  Gthg. X3 gorau.

8 cylch  Dilynir LlGC 17113E, X4 ac X3 (ac eithrio BL 14882 gwych). Gthg. darlleniad GGl yn X2 ac X5 uwch.

10 mawr  Dilynodd GGl ddarlleniad unigryw C 2.114 mars.

15–20  Ni cheir y llinellau hyn yn BL 14967.

16 Heb enw llai, ab Ieuan Llwyd  Ni cheid y llinell hon yn X4. Neidiodd llygad y copïydd o linell 15 i linell 20 gan eu bod yn rhannu’r brifodl -wyd.

16 enw  Gthg. darlleniad diffygiol X3 ewin.

16 Ieuan  Cf. Ifan mewn nifer o lawysgrifau, ond dilynir arweiniad 3n.

16–17  Ni cheir y llinellau hyn yn Stowe 959.

17 Ail fych i Hywel Fychan  Drwy ryw amryfusedd ni cheir y llinell hon yn Pen 83.

18 na’d dy ran  Newidiwyd darlleniad GGl n’ad dy ran erbyn cyhoeddi’r ail argraffiad, GGl2 nâd dy ran, sef, o bosibl, ‘cerdd yw dy ran → yr hyn rwyt yn ei dderbyn’. Er bod y dehongliad hwnnw’n ddigon posibl, bernir bod na’d yn fwy tebygol.

19 Arth erioed wrth ddewr ydwyd  Ni cheid y llinell hon yn X4 (gw. 16n Heb enw llai, ab Ieuan Llwyd).

19–20  Ni cheir y llinellau hyn yn C 2.114.

22 catwo Mair  Gthg. X8 cato mawr, sef, fe ymddengys, enw priod (cf. Cadw yn GDC 13.55n; GGMD, i 1.35n; GMD 4.36n).

24 Rhobert  Ar y ffurf, gw. 1n Rhobert.

25–30  Ni cheir y llinellau hyn yn Stowe 959.

26 Ni wnânt orchwyl ond erchi  Gthg. ont erchi mewn rhai llawysgrifau, ond ni cheir lle i gredu nad ond erchi a geid yn y tair prif ffynhonnell. Seiliwyd darlleniad GGl ond d’erchi ar y darlleniad hwnnw yn Pen 99 a LlGC 3049D. Diau mai ymgeision yw’r darlleniadau hyn i ateb -t yn wnânt, heb sylweddoli mai wnând a fwriedid.

27–30  Ni cheir y llinellau hyn yn BL 14967.

30 Erchi meirch, erchi aur mawr  Dilynir X1 a X2. Gthg. ailgyfansoddi yn X3 Erchi’r eleirch a’r meirch mawr, yn ôl pob tebyg yn sgil anhawster â’r r berfeddgoll.

31 y  Fe’i hepgorwyd mewn rhai llawysgrifau (nis ceid, fe ymddengys, yn X3).

33–4  Ni cheid y llinellau hyn yn X6.

34 emys  Gthg. X3 einioes.

35 wyd di-fai  Disgwylid wyd ddi-fai gan na cheir lle i gredu y cedwid ffurf gysefin y dibeniad yn dilyn wyd erbyn y bymthegfed ganrif (gw. TC 294–5; sylwer bod yr unig enghraifft a roir yno o ddibeniad yn ei ffurf gysefin yn dilyn wyd yng ngwaith y cywyddwyr bellach yn ddi-sail, gw. DGG2 XXXVII.4 Mae dy chwŷl? Wyd mad a chain; DG.net 52.4 Mae dy chwŷl; mad wyd a chain). Ceid y treiglad yn X8 ond calediad a welir ym mhob cynsail arall (er enghraifft, LlGC 17113E wyt ti fai). Gall fod treiglad yma’n wreiddiol ond bod -d dd- wedi caledu’n naturiol i greu sain t, fel y gwelir yn Caletwr/Cletwr (caled + ddŵr), llygeitu (llygeid + ddu) a llwytu (llwyt + ddu) (gw. TC 25–6). Ceid y calediad hwn mewn cyfuniadau llai cyffredin hefyd yn achlysurol iawn (cf. GIG V.84 Llewpart aur, lle parod dawn, lle disgwylid parod ddawn yn ôl TC 26).

36 torchawg  Dilynir BL 14967 a C 2.114 yn betrus. Cf. torchog yn y llawysgrifau eraill.

40 i’r  Dilynir X3 a mwyafrif y llawysgrifau sy’n deillio o X1 ac X2.

42 cotwm yw’r  Gthg. darlleniad unigryw Brog I.2 kottymwr (gw. GPC 572 d.g. cotymwr).

44 blowmoniaid  Gthg. X3 blew manwair. Ceir blewmoniaid mewn ambell lawysgrif a ddeilliodd o X2, a gall mai darlleniad tebyg a arweiniodd at yr ailwampio yn X3. Cf. llinell o gywydd gofyn am chwe ych ar ran Siôn Trefor y gellir bod yn bur hyderus mai Huw ap Dafydd ap Llywelyn a’i canodd c.1528–35, GHD 26.54 Blew mân o liw’r blowmoniaid. Tybed a ddylanwadodd y llinell honno ar linell wreiddiol Guto mewn rhai llawysgrifau?

45 pilis  Gthg. BL 14866, BL 14979, C 2.114 ac X4 palis, ynghyd ag ambell lawysgrif arall sy’n deillio o X2 ac X3. Diau fod y darlleniad hwnnw’n euog o’r bai ‘rhy debyg’ (gw. CD 303–4).

45–6  Ni cheir y llinellau hyn yn Stowe 959.

47 gynau  Gthg. darlleniad unigryw LlGC 17113E genav ffris. Ni cheir lle i amau darlleniad y golygiad, sef yr hyn a geir ym mwyafrif y llawysgrifau, ond gall fod genau yn deillio o’r cyfeiriad at fantell farfog Rhita Gawr yn y cwpled blaenorol.

47–8  Ni cheir y llinellau hyn yn BL 14967, Stowe 959 nac X7. Mae’n annhebygol eu bod yn nhestun X2 o ganlyniad, ond ni cheir lle i amau eu dilysrwydd (gw. y nodyn uchod ar y llawysgrifau).

50 gweilch  Gthg. LlGC 17113E gwaeilch a BL 14875 gwalch. Dilynir mwyafrif y llawysgrifau.

50 neu  Nid yw’n eglur o gwbl beth a geid yn X1, ai neu ynteu a. Bernir mai’r cyntaf sydd fwyaf tebygol gan mai’r darlleniad hwnnw a geid yn X2 ac X3.

50 genadau  Ansicr. Mae’n eglur mai cennad ‘negesydd’ a olygir, ond pa ffurf ar yr gair a geid yn y prif ffynonellau? Cynrycholir y pedair ffurf amrywiol a nodir yn GPC 464 d.g. cennad1 yn y llawysgrifau, sef i. cennad: BL 14866 cennadau; Brog I.2, Pen 99 a LlGC 3049D cenadav; ii. ceniad: BL 14979 ceniadav; iii. cynnad: Pen 83 ac X4 cynadav; Stowe 959 cynhaday; LlGC 17113E chlyniadav; C 2.114 gynfiadav; Llst 122 a BL 31056 gyniadav; iv. caniad: BL 14978, C 2.630 a BL 14976 caniadav. Er hwylustod dilynir y ffurf a geir ym mwyafrif y llawysgrifau sy’n deillio o X1, sef i. cenadau.

51–2  Ni cheir y llinellau hyn yn BL 14967, Stowe 959 nac X7. Mae’n annhebygol eu bod yn nhestun X2 o ganlyniad, ond ni cheir lle i amau eu dilysrwydd (gw. y nodyn uchod ar y llawysgrifau).

52 a  Dilynir X3 a mwyafrif llawysgrifau X1. Gthg. LlGC 17113E ac X4 a’u.

53 Deugwfl llaes, da goflau llin  Gthg. ailgyfansoddi yn BL 14978 dwy gofl lwys difiogel lin (cf. GPC 982 d.g. difiog ‘ffyrnig, milain’).

53–6  Ni cheir y llinellau hyn yn BL 14882 na Stowe 959.

55 rhoi’n  Dilynodd GGl Rhôn’ ddarlleniadau C 2.114 a C 2.630.

57 crefyddu  Dilynir X3 a mwyafrif y llawysgrifau sy’n deillio o X1. Gthg. C 2.114, X2 ac X7 crefyddwyr. Sylwer hefyd ar ddarlleniadau LlGC 17113E kyrfvddv, BL 14882 kyrryfyddv a LlGC 8497B krefyddv. Gall fod rhai o’r darlleniadau hyn yn ffurfiau ar cyrfyddu, sef ffurf amrywiol ar cyfarfod (gw. GPC 808 d.g. cyrfyddaf).

59 da  Gthg. X3 dau, yn sgil amlder y gair hwnnw yn y rhan hon o’r gerdd.

61–4  Ni cheid y llinellau hyn yn X1 (gw. y nodyn ar y llawysgrifau uchod).

62 ddwyfron  Dilynir X3. Gthg. X2 lawfron.

62 leision  Dilynir X3. Gthg. y ffurf luosog fwy arferol yn X2 laesion (gw. GPC 2081 d.g. llaes).

63–4  Ni cheir y llinellau hyn yn BL 14967 na BL 14882.

64 Dyrnfleiddiau dewr yn flwyddiaid  Ni cheir y llinell hon yn Pen 83 nac ychwaith ddiweddglo’r gerdd (gw. y nodyn isod).

67–72  Ni cheir y llinellau hyn yn Pen 83 gan na chopïwyd diweddglo’r gerdd yn y llawysgrif honno, am ryw reswm.

68 Robert  Gw. 1n Rhobert, lle dadleuir o blaid Rhobert fel ffurf gysefin yr enw. Ond ymddengys fod y rhan fwyaf o’r llawysgrifau y gellir dibynnu arnynt o safbwynt orgraff o blaid Robert yn achos y llinell hon. Bernir mai R- a geir yn BL 14866, Stowe 959, Brog I.2, C 2.114, LlGC 17113E a Llst 122, a Rh- yn BL 14979, Pen 99 ac X4. Fel y dadleuir yn 1n Rhobert, mae’n debygol y byddai Guto wedi dewis ateb rh gydag rh, yn hytrach nac r, o amgylch y prifacenion mewn cynghanedd gytsain fel hon, a’r tebyg yw ei bod yn ddiogel tybio ar sail gynganeddol, felly, mai Robert a ddisgwylid yn y llinell hon, er mai ffurf gysefin gywir yr enw oedd Rhobert. A ellir cyfiawnhau’r ffurf honno? Ceir tri phosibilrwydd: i. creu cymal ag enw’r noddwr (Deugi, Robert, a gribaf), ond mae hynny’n annhebygol yn sgil y ffaith mai at gŵn a oedd yn eiddo i Robert ei hun y cyfeirir yma; ii. bod yma enghraifft brin iawn o dreiglo enw priod yn dilyn enw gwrywaidd, fel y gwelir mewn marwnad a ganodd Lewys Glyn Cothi i Faredudd ap Morgan (gw. GLGC 136.11 gŵn Feredydd gan frowdiad), ond mae hynny’n annhebygol hefyd gan y ceid y treiglad prin hwnnw gan amlaf yn dilyn geiriau sy’n cyfleu perthynas deuluol yn unig (gw. TC 108–9); iii. bod Guto’n dilyn trywydd yr hyn a wnaeth eisoes yn llinellau 37, 59, 61 a 65, sef treiglo ansoddair ac enw’n feddal ar ôl y rhifolyn dau: [d]euwas deg; deugi lân; dau … filgi dorchfawr; Dau Iddew gyfrodeddwallt (gw. TC 130–1). Er mai cyfansoddeiriau yw deuwas a deugi yn y ddwy enghraifft gyntaf, cedwir ffurf gysefin yr ansoddair wrth eu cynffonau, ac mae’n bosibl fod Guto wedi ymestyn yr un arfer ar gyfer y llinell hon hefyd lle ceir enw priod: deugi Robert.

69–70  Ni cheir y llinellau hyn yn Stowe 959.

70 heb  Gthg. Pen 99 eb, ond ni cheir digon o dystiolaeth o’i blaid. Sylwer bod yr orffwysfa’n medru diddymu grym calediad yn achos dwy gytsain feddal, a’r tebyg yw bod yr un rheol yn berthnasol ar gyfer yr anadliad caled h (gw. CD 217).

Cywydd gofyn yw hwn am bâr o filgwn gan Robert ab Ieuan Fychan ar ran Sieffrai Cyffin. Dilynir patrwm cydnabyddedig y genre fel y’i disgrifir gan Huws (1998: 87). Molir y noddwr yn gyntaf (llinellau 1–22) gan roi sylw i’w hynafiaid ac i fro estynedig ei febyd yng Ngwynedd. Gall fod a wnelo’r pwyslais a rydd Guto ar enwi ardaloedd a oedd yn rhan o hen deyrnas Gwynedd ryw gymaint â’r ffaith fod Rhobert yn disgyn o Lywelyn Fawr ab Iorwerth ab Owain Gwynedd ar ochr ei fam. Rhoir sylw cyfartal i aelodau gwrywaidd ei deulu ar ochr ei fam a’i dad: enwir ei dad (3) a brawd ei dad (17), ei daid ar ochr ei fam (5) a brawd ei fam (15–16), yn ogystal â’r penteulu a oedd yn gyffredin i’r ddwy ochr (6).

Yn nesaf cyflwynir yr arch (y cais) am rodd, neu’n hytrach, y ddwy arch, ond mae Guto’n darbwyllo Rhobert nad cais trachwantus mohono (23–34). Cyflwynir yr eirchiad yn gyfrwys fel gŵr a chanddo emys ‘meirch rhyfel’ eisoes. Hynny yw, mae hwn yn ŵr cefnog nad yw’n gofyn am ddim amgenach na [ch]ŵn torchawg. Yn wir, ceir yn llinellau 25–36 sylwebaeth ddiddorol ar arferion gofyn a adleisir mewn dyrnaid o gerddi gan feirdd eraill. A chymryd mai noddwyr y beirdd a ddynodir gan [ein] penaethiaid, dadleuir gan Huws (1998: 53) nad oedd noddwyr yn arfer ‘gofyn neu glera ar gerdd’, a bod sylw Guto yn llinell 26 Ni wnânt orchwyl ond erchi yn awgrymu bod ‘galw cynyddol am wasanaeth y prydyddion’ (gw. 25n). Gellir dadlau bod y galw cynyddol hwn am gyfnewid rhoddion wedi arwain at ddosbarthu’r gwrthrychau a erchid, gyda gwrthrychau gwerthfawr ac o faint sylweddol (29 pob rhyw dywarchawr, 30 meirch … aur mawr) yn dynodi trachwant a gwrthrychau llai (32 adar a chŵn) yn adlewyrchu agwedd ostyngedig. Ceir sylwebaeth debyg gan Lewys Glyn Cothi mewn cywydd i Ieuan ap Llywelyn Fychan ac, fel y gwelir isod, ceir tebygrwydd rhwng rhannau o’r gerdd honno a chywydd Guto (gw. GLGC 166.21–8; 32n):

Rhoi a ŵyr i rai a west,
ni ŵyr erchi’n yr orchest,
ac od eirch gwedy y’i harchwn,
nid eirch ond adar a chŵn;
nid eirch dim meirch er mawrchwant,
eleirch a eirch, nid er chwant.
Gwell gan Ieuan bob nawawr
gywydd merch nog ei dda mawr.

Ceir adlais o’r un agwedd yng nghywydd Guto i ofyn corn gan Siôn Eutun ar ran Sieffrai Cyffin (gw. 99.51–4):

Ymbilwyr am ebolion
Y sydd annhebig i Siôn;
Nid eirch aur na gyrfeirch gŵr
Ond lamprai anadl emprwr.

A gellir ychwanegu at hynny ran o gywydd Hywel ap Rheinallt i ofyn milgi gan Lywelyn ap Morgan (gw. Jones 1861: 161):

Ei glod barod a buraf,
A chywydd newydd a wnaf,
Nid am farch dihafarchfawr[,]
Ond er erchi milgi mawr.

Yr un yw’r safbwynt a welir mewn cywydd a ganodd Llywelyn ap Gutun i ateb cywydd dychan a ganwydd iddo gan Ddafydd Llwyd o Fathafarn, lle cyhuddir Dafydd o fod yn ben-eirchiad y byd (gw. GLlGt 13.39–72; Thomas 2001: 650–1). Ymddengys mai i ofyn meirch ac ychen (cf. 29 [t]ywarchawr) y cenid cywyddau rhwng c.1350 a c.1500 yn fwy nac unrhyw anifail arall, a daw milgwn yn drydydd o ran nifer yn y rhestr o wrthrychau y canwyd i’w gofyn yn yr un cyfnod (gw. Huws 1998: 231). Mae’n amlwg, fodd bynnag, nad oedd rhai o’r beirdd a enwir uchod yn gyson yn eu hagwedd tuag at y gwrthrychau hyn ac y cenid ganddynt gerddi i ofyn meirch ac aur mawr ar ran noddwyr eraill ar bob cyfle. Diau eu bod yn amrywio eu safbwynt yn unol ag amgylchiadau’r gofyn ym mhob achos, gan ddwys ystyried pob cais am rodd yn ei gyd-destun arbennig ei hun (gw. ibid. 150–3). Erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg rhoid cyfarwyddyd i feirdd ynghylch peidio gofyn am roddion drud, fel y gwelir mewn rhai fersiynau o Statud Gruffudd ap Cynan (gw. testun Pen 270 (c.1580–c.1614) yn llaw Siôn Dafydd Rhys yn Thomas 2001: 803):

Hebhyd na bai [i wr wrth gerdh] drostaw e hvn na thros aralh erchi na [meirch, nac ychen, neu wiscoedh] enrhydedhvs, na dim aralh a elhid ei gael ar [ben gwerth] chweigeint, a hynny dan boen colhi da wrth gerdh [hyd ymhen y tair blynedh, a’i rodh] yn phorphet i’r brenin.

Dywed Guto ei fod wedi gofyn unwaith wrth Robert am rodd (35–7), ac efallai ei fod ef neu fardd arall eisoes wedi canu cywydd gofyn coll ar ran Sieffrai. Fodd bynnag, ni roir sylw gormodol i’r ffaith fod Rhobert yn hwyr yn cwblhau ei ran ef o’r fargen, a goferir yn ddiffwdan i ran nesaf y cywydd, a’r rhan fywiocaf, sef y dyfalu (37–66), lle gwelir dawn Guto i greu darluniau byw a gwreiddiol ar ei gorau. Mae’r diweddglo cellweirus yn nodweddiadol o hiwmor y bardd, lle anogir Rhobert i roi’r cŵn hela’n rhodd er mwyn sicrhau y bydd yn parhau i wledda’n wythnosol ar gig carw (67–8).

Dyddiad
Ceir y nesaf peth i ddim gwybodaeth yn y gerdd ei hun a allai gynorthwyo’r proses o’i dyddio. Ni cheir unrhyw wybodaeth am ddyddiadau Rhobert mewn cofnodion ac ychydig iawn o wybodaeth am Sieffrai Cyffin a geir yn y gerdd ei hun. Gelwir Sieffrai yn ŵr o’r drin draw sy’n berchen emys ‘meirch rhyfel’. Gan na cheir tystiolaeth iddo wasanaethu fel milwr mae’n bosibl mai disgrifiadau digon cyffredinol yw’r rhain ohono fel uchelwr perffaith. Serch hynny, ymddengys y cyfeiriad at y drin draw yn anarferol o benodol, a byddai modd dyddio’r gerdd hon yn fanwl pe bai modd cysylltu Sieffrai ag ymgyrch milwrol (o bosibl fel rhan o Ryfeloedd y Rhosynnau). Gan na cheir cyfeiriad eglur at Sieffrai mewn cyswllt â Chroesoswallt, lle bu’n gwnstabl yn ystod hanner cyntaf y chwedegau, mae’n bosibl fod y gerdd hon yn perthyn i gyfnod diweddarach, megis c.1475, pan oedd yn ddistain arglwyddiaeth Swydd y Waun. Mae’n debygol iawn fod Sieffrai’n ddistain pan ganodd Guto gywydd i ofyn corn hela ganddo ar ran Siôn Eutun, lle nodir fod ei ddylanwad yn ymestyn o [G]oetmawr i’r Dref-fawr (99.4). Gan ei bod yn debygol iawn mai cartref Rhobert yw’r Coetmawr y cyfeirir ato yn y cywydd i ofyn corn hela, mae’n bosibl fod y gerdd bresennol yn perthyn i’r un cyfnod.

Golygiad blaenorol
GGl cerdd LXXIII.

Mesur a chynghanedd
Cywydd, 72 llinell.
Cynghanedd: croes 54% (39 llinell), traws 22% (16 llinell), sain 22% (16 llinell), llusg 2% (1 llinell).

1 Aber  Cf. GGMD i, 3.158 A chlybod ei waith uwchlaw Aber, a’r nodyn lle deellir Aber ‘yn betrus’ fel yr aber enwocaf yng Ngwynedd, sef ‘Abergwyngregyn ar yr arfordir rhwng Bangor a Llanfairfechan’ (cf. GGDT 5.21). Saif plwyf Abergwyngregyn yng nghwmwd Arllechwedd Uchaf yng nghantref Arllechwedd (gw. 13n; Jones Pierce 1962).

1–3 Rhobert … / Fab Ieuan Fychan  Rhobert ab Ieuan Fychan, y rhoddwr.

4 dau win  Cf. Lewys Glyn Cothi mewn cywydd i Huw Conwy ac Elsbeth ei wraig, GLGC 222.1–2 A garo mwyn gwrw a medd / a dau win, aed i Wynedd.

4 dwy Wynedd  Sef Gwynedd Uwch Conwy a Gwynedd Is Conwy (gw. WATU 85).

5 Ieuan Llwyd  Sef taid Rhobert ar ochr ei fam, Gwladus ferch Ieuan Llwyd ap Gruffudd o Orddinog ym mhlwyf Llanfairfechan yng nghwmwd Arllechwedd Uchaf (gw. WATU 79). Fe’i henwir gan Siôn ap Hywel yn ei farwnad i Sioned, merch Rhobert (gw. GSH 9.20n Lleuad aur Ieuan Llwyd oedd; ond cf. hefyd 15–16n).

6 Iarddur  Iarddur ap Cynddelw o gwmwd Arllechwedd Uchaf, un o hynafiaid enwocaf Rhobert ar ochr ei dad a’i fam.

8 cylch Eryri  Y tebyg yw mai arddodiad yw cylch yma, ‘o amgylch Eryri’. Ar y llaw arall, tybed ai cylch clera a olygir? Yn y cywydd a ganodd Iolo Goch ar ffurf ymddiddan rhwng ei gorff a’i enaid disgrifir taith glera o’r gogledd-ddwyrain, drwy’r canolbarth i’r de-orllewin ac yn ôl drachefn ar hyd llwybrau gwahanol (GIG cerdd XIV). Er y cyfeirir at y ddwy Wynedd yn y cywydd, nododd Johnston (ibid. 256) ei bod yn ‘amlwg y byddid yn ymweld â llysoedd Gwynedd ar gylch ar wahân’. Tybed ai enw a ddefnyddid ar gyfer y cylch clera hwn oedd cylch Eryri? Arferid cylch am y gylchdaith yr oedd hawl gan swyddogion llys y brenin (a’r brenin ei hun o bosibl) fynd arni ar wahanol adegau o’r flwyddyn gynt (gw. GPC 747 d.g. cylch; PKM 156; LlB 3; cf. ‘Englynion Cylchu Cymru’ a briodolwyd i Owain Cyfeiliog, GLlF cerdd 15). Yn anffodus ni cheir enghraifft o ddefnyddio cylch mewn cyd-destun barddol tan ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg yn ôl GPC, ac yn ‘Statud Gruffudd ap Cynan’ (c.1523) gelwir y gyfryw daith yn gylchwyl (gw. GPC 750).

11 Eifionydd  Cwmwd a chantref yng Ngwynedd (gw. WATU 65). Roedd hynafiaid Rhobert ar ochr mam ei dad, Marged ferch Ieuan ab Einion, yn dirfeddianwyr pwerus yn ardal Chwilog yn Eifionydd yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg. Diogelwyd cywyddau i’w hendaid, Ieuan ab Einion, gan Iolo Goch ac Owain Waed Da, ac i’w orhendaid, Einion ap Gruffudd ap Hywel, gan Ruffudd Gryg (gw. GIG cerdd III; GMBen cerdd 15; GGGr cerdd 1).

11 gofynnir  Ystyr gref sydd i’r ferf yma, sef ‘hawlio, meddiannu’ (cf. GGMD i, 3.215 Traws ofyn tir ‘[Un a fyddai’n] hawlio tir yn nerthol’).

12 Nanconwy  Cwmwd yng nghantref Arllechwedd (gw. 13n; WATU 162).

12 Ardudwy  Cantref yng Ngwynedd (gw. WATU 7).

13 Arllechwedd  Cantref yng Ngwynedd (gw. WATU 7).

14 ewch  Rhobert a gyferchir yma mewn cywair ffurfiol.

15–16 Madawg … / … ab Ieuan Llwyd  Madog ab Ieuan Llwyd ap Gruffudd, ewythr Rhobert a brawd ei fam.

17 Hywel Fychan  Hywel Fychan ap Madog ap Hywel, ewythr Rhobert, sef brawd ei dad.

19–20 Arth erioed wrth ddewr ydwyd / Ac oen i Dduw  Dyma ddisgrifiad cyfarwydd o’r uchelwr perffaith a fyddai’n ymddwyn yn ddidrugaredd tuag at ei elynion ac yn dyner wrth ei geraint (am gwpledi eraill tebyg, gw. GGGr 1.61–4n; GMBen 16.25–8, 53–6). Diddorol yw cymharu’r rhinweddau hyn ag un o brif rinweddau cŵn hela (gw. Cummins 1988: 13): ‘there should be a total contrast between [the greyhound’s] behaviour in and out of the hunting field: “… it should follow its master and do all his commands, being sweet, clean, joyous, willing and gracious in all its doings except towards the wild beasts, to whom it should be terrible, spiteful and hostile” ’ (dyfynnir a chyfieithir o lyfr hela a ysgrifennwyd gan iarll Ffrengig o’r enw Gaston Phoebus yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg, gw. Tilander 1971: 129). Ysywaeth, yn llinell 37 ddeuwas deg yn unig y gwneir defnydd o rinweddau ufuddgar y cŵn yn y cywydd hwn, a darlun rheibus iawn, ar y cyfan, a gyflwynir ohonynt yng ngweddill y gerdd.

21 y ddwywlad  Sef [d]wy Wynedd (gw. 4n dwy Wynedd).

22 Coetmor  Saif ffermdy o’r enw Coetmor ar Ffordd Coetmor i’r gogledd o Fethesda, a’r tebyg yw mai yno roedd cartref Rhobert. Cyfeirnod OS: SH 618 675.

25 ein penaethiaid ni  Dilynir Huws (1998: 53): ‘Tybiaf mai cyfeirio at y beirdd a wna Guto pan yw’n llefaru yn y person cyntaf lluosog, a “phenaethiaid” y beirdd fyddai’r noddwyr.’

31 carwn  Fe’i hystyrir yn ffurf cyntaf lluosog presennol yma, ond gall hefyd mai cyntaf unigol amherffaith ydyw (cf. 39n).

32 Nid eirch ond adar a chŵn  Cf. yr un llinell yn union mewn cywydd gan Lewys Glyn Cothi i Ieuan ap Llywelyn Fychan (gw. GLGC 166.24 a’r nodyn cefndir uchod).

33 Sieffrai Cyffin o’r drin draw  Yr eirchiad, Sieffrai Cyffin ap Morus, ond nid yw’n eglur o gwbl at ba drin y cyfeirir gan na cheir tystiolaeth fod Sieffrai wedi bod yn filwr. Un posibilrwydd yw mai emys o’r drin draw ‘meirch rhyfel o’r frwydr acw’ a olygir (gw. y llinell nesaf), ac nad oedd a wnelo Sieffrai ei hun ddim oll â’r frwydr.

34 emys  Gw. GPC 1211 d.g. ‘meirch, meirch rhyfel’. Er ei bod yn bosibl mai enw unigol yw emys yma (cf. GIG VII.48 A’i emys yn ei ymyl a’r nodyn ar dudalen 220; IGP 28 ‘and his stallion by his side’), haws yw ei ddeall yn enw lluosog fel yr holl anifeiliaid eraill a enwir felly yn llinellau 29–36.

37 addewaist ym  Guto sy’n siarad yn ôl pob tebyg, ond mae’n bosibl hefyd mai Sieffrai sy’n siarad drwy enau Guto, a bod yma enghraifft o’r dull o ganu cywydd gofyn ‘lle y byddai’r bardd yn ymabsenoli’n llwyr trwy dadogi’r cywydd ar yr eirchiad a rhoi’r argraff mai ef oedd yn llefaru’ (Huws 1998: 143).

38 cadw’r ŷd  Gallu’r cŵn i ladd ceirw ac anifeiliaid cyffelyb a ganmolir yma, gan y byddai perygl i’r anifeiliaid hynny ddifa cnydau drwy eu bwyta a’u sathru. Cf. cywydd a ganodd Bedo Phylib Bach i ofyn cŵn i ladd y ceirw a borase’r ûd (gw. Gwyn 1, 77).

39 canwn  Cyntaf lluosog presennol y ferf yn ôl pob tebyg, ond mae cyntaf unigol amherffaith yn bosibl hefyd (cf. 31n).

43 bleiddiau Môn  Gall fod y disgrifiad hwn o’r cŵn hela’n ateg i’r gred fod yr ynys yn gynefin i fleiddiaid gwyllt am gyfnod wedi iddynt farw o’r tir mawr (gw. Fychan 2006: 5–8).

44 Blowmoniaid boliau meinion  Cf. cywydd gofyn am chwe ych ar ran Siôn Trefor ab Edward y gellir bod yn bur hyderus mai Huw ap Dafydd a’i canodd c.1528–35, GHD 26.54 Blew mân o liw’r blowmoniaid. Gw. hefyd 47n ffris.

45–6 pilis … / Rhita Gawr  Sef ‘mantell ffwr Rhita’, cawr chwedlonol a wnâi [b]ilis … o uarueu brenhined ar ôl eu lladd (gw. BD 170.20–32; Reeve and Wright 2007: 226–7). Fe’i lladdwyd gan Arthur, wedi iddo yntau wrthod torri ei farf ei hun a’i rhoi i Rita (gw. WCD 555–6). Dengys y ffynonellau cynnar mai yng Ngwynedd, y mynyd Eryri (gw. BD ibid.), y digwyddodd hyn, ond ymddengys mai traddodiadau llafar yn unig a roddodd glo onomastig i’r hanes, gan gysylltu bedd y cawr â mynydd yr Wyddfa, sef Gwyddfa Rhita gynt ar lafar gwlad (gw. Rhŷs 1901: 474–80). Yr hyn sy’n ddiddorol yng nghyswllt y cywydd hwn yw bod cartref y noddwr yn agos at yr Wyddfa ac yn agosach fyth at Garnedd Llywelyn, mynydd arall a gysylltid â’r cawr (gw. ibid. 480). Gwneir defnydd helaeth o’r chwedl hon yng nghywydd moliant Gruffudd Llwyd i farf Owain ap Maredudd (gw. GGLl 16.2n).

47 milgwn Ffrainc  Ar ragoriaeth Ffrainc fel ‘the fountainhead of running-hound stock’, gw. Cummins 1988: 16–17.

47 ffris  Cf. disgrifiad Huw ap Dafydd o ychen mewn cywydd gofyn a ganodd ar ran Siôn Trefor, GHD 26.56 Pennau hyd ffroenau o ffris (cf. 44n).

50 gweilch neu genadau gwynt  Mae’n debygol mai’r un yw ystyr a diben gweilch a [ch]enadau gwynt, sef ‘adar sy’n llateion’, ond dwg i gof hefyd gywydd enwog Dafydd ap Gwilym i anfon y gwynt yn llatai at Forfudd (gw. DG.net cerdd 47).

51–8  Cynhelir trosiad estynedig yn y llinellau hyn sy’n cyffelybu’r milgwn i ddau abad o Urdd Sant Awstin (54n). Mae’r disgrifio a’r dyfalu yn hynod o drawiadol a’r tebyg yw y byddai’r dechneg o greu darluniau o grefyddwyr yng nghanol cyfres o ddarluniau digon treisgar wrth fodd y gynulleidfa.

53 deugwfl llaes  Trosiad am glustiau’r milgwn.

54 brodyr Awstin  Mynachod a meudwyaid (48) a ddilynai Reol Sant Awstin o Hippo (354–430) (gw. ODCC 133). Sefydlwyd tŷ Awstinaidd yn Amwythig yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg (gw. Aubrey 1940: 20, 126).

55 dwyn rhawn  Sef y penyd a wnâi’r cŵn beunydd / … rhag enaid hydd. Cymherir blew’r milgwn i ddilledyn wedi ei wneud o rawn (gw. GPC 3041 d.g. rhawn) ac a wisgid gan [f]rodyr Awstin (54n), ond dylid nodi hefyd y gwisgid rhai cŵn hela mewn arfwisg neu ddillad addurnol (gw. Cummins 1988: 14). Posibilrwydd arall yw mai ‘casglu blew’r milgwn’ a ddynodir gan dwyn rhawn. Mae milgwn yn bwrw eu blew yn barhaus a gall fod y proses hwnnw’n fwy amlwg yn achos y math o filgi blewog a ddisgrifir yn y cywydd hwn (cf. 68 Deugi Robert a gribaf). Cedwid gweilch (a gyffelybir yn uniongyrchol â’r milgwn yn llinell 50) rhag hela pan fyddent yn bwrw eu plu gan ei fod yn broses ‘toilsome … and birds often died in the course of it’ (Cummins 1988: 199, 206–8; ymhellach ar gwalch mewn cyd-destun helwrol, gw. Jenkins 2000: 259–60). Tybed a oedd anfanteision tebyg i fwrw blew mewn milgwn, ac y gellid eu disgrifio fel penyd yn y cyd-destun hwn?

58 Bara a dŵr rhag briwo dant  Er bod y cyfeiriad gogleisiol at sacrament y cymun yn llinellau 57–8 yn parhau â’r trosiad crefyddol yn llinellau 51–8 (gw. y nodyn), gwyddys hefyd fod bara yn rhan allweddol o ymborth cŵn hela yn ystod yr Oesoedd Canol. Yn ôl Cummins (1988: 26), ‘the French royal accounts regularly show large bills for bread; to have the hounds in the vicinity was a godsend for a baker’. Gall fod peth sail ymarferol i’r cyfeiriad at les dannedd y milgwn hefyd: ‘Gaston Phoebus [gw. 19–20n] recommends feeding the hounds only on bread when they are not hunting, so that they will associate meat only with the curée [sef bara a gymysgid â gwaed yr anifail a leddid, gw. ibid. 44–5], and hunt the more keenly. For the same reason the curée should always be given to them in the field, after the kill, and never in the kennels, lest they break off, wearied and hungry in a hard chase, to return home for food.’

63 y blaid  Gw. GPC 2815 d.g. plaid (a) ‘pared (symudol) o wiail neu ystyllod plethedig … ; plât (metel)’. Mae’r ystyr gyntaf yn cyd-fynd â llinell 65n [c]yfrodeddwallt, ond mae’n bosibl nad yw’r ail ystyr yn bell ohoni o safbwynt arfwisg filwrol gan y cyfeirir at fynwesau’r milgwn yn y llinell flaenorol, Dwy ddwyfron leision i lawr. Cf. GLGC 23.46 pleidiau fegis plu adar (i ofyn curas). Tybed a ddylanwadwyd ar y gair hwn gan y gair Saesneg Canol pleyt ‘a tress of interwoven strands of hair, a braid’? (Gw. OED Online s.v. plait.)

64 dyrnfleiddiau … yn flwyddiaid  Cf. 43 Blwydd a mwy yw bleiddiau Môn.

65 Dau Iddew gyfrodeddwallt  Ymddengys fod yr ystyr a rydd GPC 719 i cyfrodeddwallt, ‘cedenog, a chanddo flew anhrefnus yn wyllt drwy’i gilydd’, yn anghydnaws ag ystyr cyfrodedd (gw. ibid. ‘cydblethedig, wedi ei nyddu ynghyd’). Bernir mai ‘gwallt cyrliog neu blethedig’ yw’r ystyr yma (cf. 63 blew fal y blaid a 68 deugi … a gribaf). Y tebyg yw bod hyn yn gyfeiriad at farfau Iddewon, a dyfid bron yn ddieithriad ganddynt gynt gan fod y Torah yn gwahardd i ddyn eillio (cf. GRhGE 15.53n).

67 Coetmawr  Gw. 22n.

68 cribaf  Defnyddid cribau pren ‘for grooming and cleaning the hounds’ (Cummins 1988: 175, 254 a 257). Mae Guto’n pwysleisio ei ffyddlondeb i Sieffrai yma ynghyd ag ochr wasanaethgar ei gywydd, gan mai gorchwyl un o weision y llys (‘groom’) oedd cribo’r cŵn.

69 bleiddiau i Sieffrai  Ymddengys yn anarferol, ar yr olwg gyntaf, weld odli -au ag -ai, ond y tebyg yw bod yr arddodiad i ar ôl bleiddiau yn adfer yr odl ag -ai rhyw gymaint.

69 os iach  Nid yw’n eglur ai at Sieffrai y cyfeirir ynteu at y cŵn.

70 bwbach  Cynigir ‘ymladdwr ffyrnig’ yn yr aralleiriad, ond mae ‘ellyll’ neu ‘mynach yn ei abid’ yn bosibl hefyd (gw. GPC 350).

71 dy gâr  Y tebyg yw mai Sieffrai a olygir. Ni ddaethpwyd o hyd i gyswllt teuluol agos rhwng Sieffrai a Rhobert, ond dylid nodi bod y ddau’n disgyn o Fleddyn ap Cynfyn, y naill yn uniongyrchol drwy linach ei dad a’r llall drwy linach ei hennain, Gwladus ferch Gruffudd ap Hywel y Pedolau.

Llyfryddiaeth
Aubrey, G. (1940), The English Austin Friars in the Time of Wyclif (Oxford)
Cummins, J. (1988), The Hound and the Hawk: The Art of Medieval Hunting (London)
Fychan, C. (2006), Galwad y Blaidd (Aberystwyth)
Huws, B.O. (1998), Y Canu Gofyn a Diolch c.1350–c.1630 (Caerdydd)
Jenkins, D. (2000), ‘Hawk and Hound: Hunting in the Laws of Court’, T.M. Charles-Edwards et al. (eds.), The Welsh King and his Court (Cardiff), 255–80
Jones, Rh. (1861) (gol.), Gorchestion Beirdd Cymru (ail arg., Caernarfon)
Jones Pierce, T. (1962), ‘Aber Gwyn Gregin’, TCHSG 23: 37–43
Reeve, M.D. and Wright, N. (2007) (eds. and trans.), Geoffrey of Monmouth: The History of the Kings of Britain (Woodbridge)
Rhŷs, J. (1901), Celtic Folklore (Oxford)
Tilander, G. (1971) (ed.), Livre de chasse (Karlshamn)
Thomas, E.G. (2001), ‘Astudiaeth Destunol o Statud Gruffudd ap Cynan’ (Ph.D. Cymru [Bangor])

This is a request poem for a pair of greyhounds from Rhobert ab Ieuan Fychan on behalf of Sieffrai Cyffin. The genre’s conventional structure as outlined by Huws (1998: 87) is followed faithfully. First the patron is praised (lines 1–22), with special reference to his ancestors and his extended homeland in Gwynedd. Guto may have named regions which were part of the old kingdom of Gwynedd in reference to the fact that Rhobert was descended on his mother’s side from Llywelyn Fawr ab Iorwerth ab Owain Gwynedd. Equal dues are paid to male members of Rhobert’s family both on his mother’s and his father’s side: Guto names his father (3) and his father’s brother (17), his grandfather on his mother’s side (5) and his mother’s brother (15–16), as well as a patriarch from whom both sides were descended (6).

Next the arch ‘request’ is introduced, or rather, the [d]wy arch ‘two requests’, yet Guto assures Rhobert that it is not based upon greed (23–34). The requester is skilfully introduced as one who already owns emys ‘war-horses’, and Guto emphasizes the fact that he is a wealthy man in his own right who wishes nothing more than cŵn torchawg ‘torque-wearing hounds’. Indeed, lines 25–36 contain an interesting critique on the conventions of the request genre that is echoed occasionally in the work of other poets. Assuming that the interpretation of [ein] penaethiaid as ‘our [the poets’] patrons’ is correct, Huws (1998: 53) argues that it was not common practice at one time for patrons to request by means of a poem, and that Guto’s remark in line 26 Ni wnânt orchwyl ond erchi ‘they do nothing but request’ suggests that there was an increased demand for the poets’ services in this respect (see 25n). It is arguable that the increase in demand for request poems led to the process of classifying the various gifts, with very valuable and sizeable gifts (29 pob rhyw dywarchawr ‘every such ox for ploughing’, 30 meirch … aur mawr ‘horses … much gold’) denoting greed, and smaller gifts (32 adar a chŵn ‘birds and hounds’) denoting a more humble disposition. A similar attitude is seen in a poem by Lewys Glyn Cothi for Ieuan ap Llywelyn Fychan, which seems to echo occasionally parts of Guto’s poem (see GLGC 166.21–8; 32n):

Rhoi a ŵyr i rai a west,
ni ŵyr erchi’n yr orchest,
ac od eirch gwedy y’i harchwn,
nid eirch ond adar a chŵn;
nid eirch dim meirch er mawrchwant,
eleirch a eirch, nid er chwant.
Gwell gan Ieuan bob nawawr
gywydd merch nog ei dda mawr.

‘He knows how to give to those who visit him, he knows not how to request in the exploit, and if he requests after we request from him, he requests nothing but birds and hounds; he doesn’t request any horses because of great greed, he requests swans, not because of greed. Ieuan prefers every nine hours a love poem instead of his great wealth.’

There are similar echoes in Guto’s poem to request a hunting horn from Siôn Eutun on behalf of Sieffrai Cyffin (see 99.51–4):

Ymbilwyr am ebolion
Y sydd annhebig i Siôn;
Nid eirch aur na gyrfeirch gŵr
Ond lamprai anadl emprwr.

‘Soliciters of foals are unlike Siôn; he doesn’t request a nobleman’s gold nor race-horses but a lamprey with the breath of an emperor.’

It is also worth drawing attention to lines from a request poem by Hywel ap Rheinallt for a greyhound from Llywelyn ap Morgan (see Jones 1861: 161):

Ei glod barod a buraf,
A chywydd newydd a wnaf,
Nid am farch dihafarchfawr[,]
Ond er erchi milgi mawr.

‘I’ll compose his ready praise, and I’ll create a new cywydd, not for a large, vigorous horse, but in order to request a large greyhound.’

The same point of view is voiced in Llywelyn ap Gutun’s reply to a satire by Dafydd Llwyd of Mathafarn, where Dafydd is accused of being [p]en-eirchiad y byd ‘the world’s foremost requester’ (see GLlGt 13.39–72; Thomas 2001: 650–1). It seems that more poems were composed in order to request horses and oxen (cf. 29 [t]ywarchawr ‘ox for ploughing’) than any other gift between c.1350 and c.1500, and greyhounds appear third on a list of gifts that were requested in the same period (see Huws 1998: 231). Nevertheless, it is obvious that some of the poets mentioned above were not consistent in their attitude towards different kinds of gifts and that they would compose poems to request meirch ‘horses’ and aur mawr ‘much gold’ from other patrons with little or no hesitation. They doubtless adjusted their point of view in line with specific requests and gave due consideration to the unique context of each individual request (see ibid. 150–3). By the sixteenth century the poets were advised not to ask for expensive gifts, as is seen in some versions of Statud Gruffudd ap Cynan (see the text of Pen 270 (c.1580–c.1614) in the hand of Siôn Dafydd Rhys in Thomas 2001: 803):

Hebhyd na bai [i wr wrth gerdh] drostaw e hvn na thros aralh erchi na [meirch, nac ychen, neu wiscoedh] enrhydedhvs, na dim aralh a elhid ei gael ar [ben gwerth] chweigeint, a hynny dan boen colhi da wrth gerdh [hyd ymhen y tair blynedh, a’i rodh] yn phorphet i’r brenin.

‘Also a poet should not ask for himself nor on behalf of another for horses, oxen or splendid clothes, nor for any other requirable object that was worth more than a hundred and twenty pence, under pain of losing payment for poetry for three years and his gift being forfeit to the king.’

Guto notes that he had already asked Rhobert for a gift (35–7), and he or another poet may have composed a request poem on Sieffrai’s behalf which was never committed into writing. Nonetheless, he does not dwell upon Rhobert’s lateness in completing his side of the bargain and progresses effortlessly to the next part of the poem. This is the most lively section of the poem where Guto’s skill in conjuring vibrant and original images to describe the gift is at its most potent (37–66). Guto showcases his humour in the playful conclusion as he urges Rhobert to give the greyhounds as a gift so that Guto can continue to feast on venison on a weekly basis (67–8).

Date
The poem contains little or no information that could aid the process of dating it. There are no references to Rhobert in historical records and the poem itself contains scarcely any references to Sieffrai Cyffin. Sieffrai is referred to as a man o’r drin draw ‘from the battle yonder’ who owns emys ‘war-horses’. As there is no evidence that he served as a soldier these references may simply be general descriptions of Sieffrai as a perfect nobleman. Nonetheless, the reference to the [t]rin draw ‘battle yonder’ seems unusually specific, and the poem could doubtless be more acurately dated if it was possible to associate Sieffrai with a military campaign (possibly as part of the Wars of the Roses). As there is no clear reference in the poem to Sieffrai in connection with Oswestry, where he was constable c.1460–5, it is possible that the poem belongs to a later period, such as c.1475, when he was seneschal of the lordship of Chirkland. It is very likely that Sieffrai was seneschal when Guto composed his poem to request a hunting horn from him on behalf of Siôn Eutun, where it is noted that his influence stretched from Coetmawr i’r Dref-fawr ‘Coetmor to Trefor’ (99.4). As it is very likely that Coetmawr in the poem to request a hunting horn is Rhobert’s home in Gwynedd, it seems reasonable that the present poem belongs to the same period.

The manuscripts
This poem survives in 39 manuscripts. It was evidently transmitted through one or more oral traditions before it was written down, as a handful of lines are missing from a number of manuscript branches, and variations in terms of line order abound. It seems that the best versions of the poem have survived in BL 14866 and LlGC 17113E.

stema
Stemma

Previous edition
GGl poem LXXIII.

Metre and cynghanedd
Cywydd, 72 lines.
Cynghanedd: croes 54% (39 lines), traws 22% (16 lines), sain 22% (16 lines), llusg 2% (1 line).

1 Aber  Cf. GGMD i, 3.158 A chlybod ei waith uwchlaw Aber, and the note where Aber is tentatively understood as the most renowned Aber in Gwynedd, namely Abergwyngregyn on the coast between Bangor and Llanfairfechan (cf. GGDT 5.21). The parish of Abergwyngregyn lies in the commote of Arllechwedd Uchaf in the cantref of Arllechwedd (see 13n; Jones Pierce 1962).

1–3 Rhobert … / Fab Ieuan Fychan  Rhobert ab Ieuan Fychan, the giver.

4 dau win  ‘Two wines’. Cf. Lewys Glyn Cothi in a praise poem for Huw Conwy and Elsbeth his wife, GLGC 222.1–2 A garo mwyn garw a medd / a dau win, aed i Wynedd ‘He who desires fair stag meat and mead and two wines, may he go to Gwynedd.’

4 dwy Wynedd  ‘Two Gwynedds’, namely Gwynedd Uwch Conwy and Gwynedd Is Conwy (Gwynedd ‘above’ and ‘below’ the river Conwy respectively; see WATU 85).

5 Ieuan Llwyd  Rhobert’s grandfather on his mother’s side, Gwladus daughter of Ieuan Llwyd ap Gruffudd of Gorddinog in the parish of Llanfairfechan and the commote of Arllechwedd Uchaf (see WATU 79). He is named by Siôn ap Hywel in his elegy for Sioned, Rhobert’s daughter (see GSH 9.20n Lleuad aur Ieuan Llwyd oedd ‘She was Ieuan Llwyd’s golden moon’; but cf. also 15–16n).

6 Iarddur  Iarddur ap Cynddelw from the commote of Arllechwedd Uchaf, one of Rhobert’s most renowned forebears on both his father’s and his mother’s side.

8 cylch Eryri  In all likelihood cylch is to be understood as a preposition, ‘around Snowdonia’. A less likely possibility is that Guto is referring to a bardic circuit. Iolo Goch’s poem to depict a conversation between the soul and the body follows a bardic circuit from the north-east, through mid Wales to the south-west and back again by other routes (IGP poem 14). Although Iolo refers to y ddwy Wynedd ‘the two Gwynedds’, Johnston (ibid. 168) notes that it is clear ‘that Iolo visited the houses of Gwynedd on a separate circuit’. Was cylch Eryri a name that was used for this specific bardic route? The word cylch was used for a circuit which was followed by officers of the king’s court (as well as possibly the king himself) at different times of the year in the early Middle Ages (see GPC 747 s.v. cylch; PKM 156; LlB 3; cf. ‘Englynion Cylchu Cymru’, attributed to Owain Cyfeiliog, GLlF poem 15). Yet, according to GPC there is no evidence that cylch was used in a bardic context until the end of the sixteenth century, and in Statud Gruffudd ap Cynan (c.1523) a bardic circuit is called a cylchwyl (see GPC 750).

11 Eifionydd  A commote and a cantref in Gwynedd (see WATU 65). Rhobert’s ancestors on his mother’s father’s side, Marged daughter of Ieuan ab Einion, were wealthy landowners in the vicinity of Chwilog in Eifionydd during the fourteenth century. Poems have survived for his great-grandfather, Ieuan ab Einion, by Iolo Goch and Owain Waed Da, as well as a poem by Gruffudd Gryg for his great-great-grandfather, Einion ap Gruffudd ap Hywel (see GIG poem III; GMBen poem 15; GGGr poem 1).

11 gofynnir  The verb bears a stronger meaning than usual, ‘is demanded’ (cf. GGMD i, 3.215 Traws ofyn tir ‘One who’d demand land powerfully’).

12 Nanconwy  A commote in the cantref of Arllechwedd (see 13n; WATU 162).

12 Ardudwy  A cantref in Gwynedd (see WATU 7).

13 Arllechwedd  A cantref in Gwynedd (see WATU 7).

14 ewch  Guto is addressing Rhobert in a formal style.

15–16 Madawg … / … ab Ieuan Llwyd  Madog ab Ieuan Llwyd ap Gruffudd, Rhobert’s uncle and his mother’s brother.

17 Hywel Fychan  Hywel Fychan ap Madog ap Hywel, Rhobert’s uncle, his father’s brother.

19–20 Arth erioed wrth ddewr ydwyd / Ac oen i Dduw  ‘You’re a bear always towards a brave man, and you’re a lamb to God’, a description of Rhobert as a perfect patron who shows no mercy to his foes and is always merciful towards his loved ones (for other similar couplets, see GGGr 1.61–4n; GMBen 16.25–8, 53–6). It is interesting to compare these attributes with one of the main attributes of a greyhound (see Cummins 1988: 13): ‘there should be a total contrast between [the greyhound’s] behaviour in and out of the hunting field: “… it should follow its master and do all his commands, being sweet, clean, joyous, willing and gracious in all its doings except towards the wild beasts, to whom it should be terrible, spiteful and hostile” ’ (Cummins cites from a book on hunting which was written by a French earl named Gaston Phoebus during the fourteenth century, see Tilander 1971: 129). Nonetheless, only in line 37 ddeuwas deg ‘two fair servants’ does Guto make use of the hounds’ dutiful qualities in this poem, and the overall impression is of terrible bloodthirstiness.

21 y ddwywlad  ‘The two territories’, namely [d]wy Wynedd ‘two Gwynedds’ (see 4n dwy Wynedd).

22 Coetmor  A farmhouse called Coetmor stands today on Ffordd Coetmor, north of Bethesda. It is in all likelihood where Rhobert lived. OS reference: SH 618 675.

25 ein penaethiaid ni  ‘Our rulers’. Huws (1998: 53) argues convincingly that when Guto speaks in the first person plural he is referring to the poets, and therefore the ‘rulers’ must be their patrons.

31 carwn  ‘We love’. It is understood as the first person plural present, but the first person singular imperfect is also possible (cf. 39n).

32 Nid eirch ond adar a chŵn  ‘He requests nothing but birds and hounds’. Cf. exactly the same line in a poem by Lewys Glyn Cothi for Ieuan ap Llywelyn Fychan (see GLGC 166.24 and the background note above).

33 Sieffrai Cyffin o’r drin draw  ‘Sieffrai Cyffin from the battle yonder’, namely Sieffrai Cyffin ap Morus, yet it is unclear which battle Guto is referring to as there is no evidence that Sieffrai served as a soldier. One possibility is that Guto is referring to emys o’r drin draw ‘war-horses from the battle yonder’ (see the next line), and that Sieffrai himself had nothing to do with the battle.

34 emys  See GPC 1211 s.v. ‘horses, war-horses’. Although Guto may be using emys as a singular noun (cf. IGP 7.48 A’i emys yn ei ymyl ‘and his stallion by his side’), it is more likely that it is used as a plural like all the other animals in lines 29–36.

37 addewaist ym  ‘You promised me’. In all likelihood it is Guto who is speaking, although it is also possible that Sieffrai is speaking through Guto. In some request poems the poet would absent himself by giving the impression that it was the requester himself who was speaking (see Huws 1998: 143).

38 cadw’r ŷd  ‘Keeping the corn’. Guto praises the greyhounds’ ability to kill deer and other animals that could devour and destroy crops. Cf. Bedo Phylib Bach’s poem i ofyn cŵn i ladd y ceirw a borase’r ûd ‘to request greyhounds to kill the deer that would eat the corn’ (see Gwyn 1, 77).

39 canwn  ‘We’ll sing’. It is understood as the first person plural present, but the first person singular imperfect is also possible (cf. 31n).

43 bleiddiau Môn  ‘Anglesey’s wolves’. This description could bolster the belief that the island was home to wild wolves for a period after they had been wiped out on the mainland (see Fychan 2006: 5–8).

44 Blowmoniaid boliau meinion  ‘Slim-waisted black men’. Cf. a request poem for six oxen on behalf of Siôn Trefor ab Edward, which was in all likelihood composed by Huw ap Dafydd c.1528–35, GHD 26.54 Blew mân o liw’r blowmoniaid ‘Fine hair of the colour of the black men’. See also 47n ffris.

45–6 pilis … / Rhita Gawr  ‘Rhita Gawr’s mantle’. Guto is referring to the legendary giant who made a pilis … o uarueu brenhined ‘mantle from the beards of kings’ after killing them (see BD 170.20–32; Reeve and Wright 2007: 226–7). He was killed by Arthur, who refused to cut off his own beard and give it to the giant (see WCD 555–6). Early sources show that this happened in Gwynedd, y mynyd Eryri ‘in the mountains of Snowdonia’ (see BD ibid.), yet it seems that an onomastic conclusion to the legend belongs to oral traditions alone, which connects the giant’s grave with Snowdon (Yr Wyddfa), known locally as Gwyddfa Rhita ‘Rhita’s burial-mound’ (see Rhŷs 1901: 474–80). What is interesting from the point of view of this poem is that the patron lived a short distance from Snowdon and an even shorter distance from Carnedd Llywelyn, which was also connected with the giant (see ibid. 480). Extensive use of this legend is made by Gruffudd Llwyd in his praise poem for Owain ap Maredudd’s beard (see GGLl 16.2n).

47 milgwn Ffrainc  ‘French greyhounds’. On France’s superiority as ‘the fountainhead of running-hound stock’, see Cummins 1988: 16–17.

47 ffris  ‘Frieze’. Cf. Huw ap Dafydd’s description of oxen in a request poem composed on behalf of Siôn Trefor, GHD 26.56 Pennau hyd ffroenau o ffris ‘Frieze heads right to the nostrils’ (cf. 44n).

50 gweilch neu genadau gwynt  It is likely that both gweilch ‘hawks’ and [c]enadau gwynt ‘messengers of the wind’ bear the same meaning and function, namely ‘messenger birds’, yet the line is also reminiscent of Dafydd ap Gwilym’s poem to send the wind as a love-messenger to Morfudd (see DG.net poem 47; GPC 2099 s.v. llatai).

51–8  An extended metaphor is maintained in these lines which compares the greyhounds with two abbots of the Order of St Augustine (54n). The descriptions are markedly striking and it is likely that the audience would have enjoyed Guto’s references to religious men amidst a series of notably violent images.

53 deugwfl llaes  ‘Two long cowls’, namely the greyhounds’ ears.

54 brodyr Awstin  Friars and meudwyaid ‘hermits’ (48) who followed the Rule of St Augustine of Hippo (354–430) (see ODCC 133). An Augustinian house was founded at Shrewsbury during the fourteenth century (see Aubrey 1940: 20, 126).

55 dwyn rhawn  ‘Wearing a hair-shirt’, namely the penyd ‘penance’ which the dogs would suffer beunydd / … rhag enaid hydd ‘daily for a hart’s soul’. The greyhounds’ hair is compared to a hair-shirt (see GPC 3041 s.v. rhawn) which was worn by brodyr Awstin ‘friars of St Augustine’ (54n), yet it should also be noted that hunting dogs were sometimes clothed in armour (see Cummins 1988: 14). Another possibility is that dwyn rhawn is to be understood as ‘gathering the greyhounds’ hair’. Greyhounds constantly shed their fur and the process could well be markedly more obvious for the hairy greyhounds that are described in this poem (cf. 68 Deugi Robert a gribaf ‘I’ll comb Rhobert’s two hounds’). Hawks (which are compared specifically with the greyhounds in line 50) were not used for hunting when moulting as the process could be ‘toilsome … and birds often died in the course of it’ (Cummins 1988: 199, 206–8; for gwalch ‘hawk’ in the context of hunting, see further Jenkins 2000: 259–60). Did greyhounds also suffer from similar disadvantages which could be described as a penance in this respect?

58 Bara a dŵr rhag briwo dant  ‘Bread and water lest [they] damage a tooth’. Although the playful reference to the sacrament of holy communion in lines 57–8 prolongs the religious metaphor in lines 51–8 (see note), it is also known that bread was a key element in hunting dogs’ diet during the Middle Ages. According to Cummins (1988: 26), ‘the French royal accounts regularly show large bills for bread; to have the hounds in the vicinity was a godsend for a baker’. Also the reference to the dogs’ dental welfare may be grounded in hunting practice: ‘Gaston Phoebus [see 19–20n] recommends feeding the hounds only on bread when they are not hunting, so that they will associate meat only with the curée [namely bread mixed with the hunted animal’s blood, see ibid. 44–5], and hunt the more keenly. For the same reason the curée should always be given to them in the field, after the kill, and never in the kennels, lest they break off, wearied and hungry in a hard chase, to return home for food.’

63 y blaid  See GPC 2815 s.v. plaid (a) ‘(movable) partition of interwoven rods or laths … ; (metal) plate’. The first meaning corresponds with line 65n [c]yfrodeddwallt ‘curly-haired’, yet the second meaning is also possible from the point of view of military armour as the greyhounds’ chests are referred to in the previous line, Dwy ddwyfron leision i lawr ‘two long chests to the ground’. Cf. GLGC 23.46 pleidiau fegis plu adar ‘interwoven partitions like birds’ feathers’ (to request a cuirass). The word may have been influenced by the Middle English word pleyt ‘a tress of interwoven strands of hair, a braid’ (see OED Online s.v. plait).

64 dyrnfleiddiau … yn flwyddiaid  ‘Ravenous wolves at a year old’. Cf. 43 Blwydd a mwy yw bleiddiau Môn ‘Anglesey’s wolves are over a year old’.

65 Dau Iddew gyfrodeddwallt  ‘Two curly-haired Jews’. The meaning of cyfrodeddwallt in GPC 719 ‘shaggy, tousled’ seems to be somewhat at odds with the meaning given to cyfrodedd (see ibid. ‘twisted together, intertwined’). It seems that ‘curly or plaited hair’ is more suitable in this context (cf. 63 blew fal y blaid ‘hair like the interwoven partition’ and 68 deugi … a gribaf ‘I’ll comb two hounds’). Guto is in all likelihood referring to Jews’ beards, which were grown almost without exception by Jewish men in Guto’s time as they were forbidden to shave in line with the teachings of the Torah (cf. GRhGE 15.53n).

67 Coetmawr  See 22n.

68 cribaf  ‘I’ll comb’. Wooden combs were used ‘for grooming and cleaning the hounds’ (Cummins 1988: 175, 254 and 257). Guto is emphasizing his servitude to Sieffrai as well as the serviceable aspect of his poem, for the job of combing the dogs was usually given to the groom.

69 bleiddiau i Sieffrai  On first glance it seems unusual to rhyme -au with -ai in this cynghanedd sain, yet it is likely that the preposition i which follows bleiddiau restores the rhyme to a certain degree.

69 os iach  ‘If he’s well’. Guto may be referring to Sieffrai, or possibly to the greyhounds (‘if they’re well’). In both instances the reasoning is unclear.

70 bwbach  The translation shows ‘ferocious warrior’, although ‘spectre’ or ‘monk in his habit’ are also possible (see GPC 350).

71 dy gâr  ‘Your kinsman’, namely Sieffrai, in all likelihood. Although there is no evidence that Sieffrai and Rhobert were closely related, it should be noted that both noblemen were descended from Bleddyn ap Cynfyn, Sieffrai through his father’s lineage and Rhobert through the lineage of his great-grandmother, Gwladus daughter of Gruffudd ap Hywel y Pedolau.

Bibliography
Aubrey, G. (1940), The English Austin Friars in the Time of Wyclif (Oxford)
Cummins, J. (1988), The Hound and the Hawk: The Art of Medieval Hunting (London)
Fychan, C. (2006), Galwad y Blaidd (Aberystwyth)
Huws, B.O. (1998), Y Canu Gofyn a Diolch c.1350–c.1630 (Caerdydd)
Jenkins, D. (2000), ‘Hawk and Hound: Hunting in the Laws of Court’, T.M. Charles-Edwards et al. (eds.), The Welsh King and his Court (Cardiff), 255–80
Jones, Rh. (1861) (gol.), Gorchestion Beirdd Cymru (ail arg., Caernarfon)
Jones Pierce, T. (1962), ‘Aber Gwyn Gregin’, TCHSG 23: 37–43
Reeve, M.D. and Wright, N. (2007) (eds. and trans.), Geoffrey of Monmouth: The History of the Kings of Britain (Woodbridge)
Rhŷs, J. (1901), Celtic Folklore (Oxford)
Tilander, G. (1971) (ed.), Livre de Chasse (Karlshamn)
Thomas, E.G. (2001), ‘Astudiaeth Destunol o Statud Gruffudd ap Cynan’ (Ph.D. Cymru [Bangor])

Cliciwch ar rif llinell i weld amrywiadau
Image Dialog
Rhobert ab Ieuan Fychan o Goetmor, 1475Sieffrai Cyffin ap Morus, 1460–75, a Siân ferch Lawrence Stanstry, 1460–7, o Groesoswallt

Rhobert ab Ieuan Fychan o Goetmor, fl. c.1475

Top

Cywydd Guto i Robert ab Ieuan Fychan yw’r unig gerdd iddo a oroesodd. Cywydd gofyn ydyw am bâr o filgwn ac fe’i canwyd ar ran Sieffrai Cyffin o Groesoswallt, o bosibl c.1475 (cerdd 100). Canodd Siôn ap Hywel farwnad i’w ferch, Sioned, ac i’w gŵr hithau, Siôn ap Dafydd, cyn 1525 (GSH 4 a cherddi 9 a 10). Priododd merch arall iddo, Gwerful, ag un o noddwyr Guto, Wiliam ap Gruffudd o Gochwillian. Canwyd cerddi i ddisgynyddion eraill Rhobert yn yr unfed ganrif ar bymtheg gan Wiliam Cynwal, Huw Machno, Watcyn Clywedog a Siôn Morgan (Williams 1986: 252–8).

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 13, ‘Gollwyn’ 4, 6, ‘Gruffudd ap Cynan’ 4, 5, 6, ‘Hwfa’ 5, 6, ‘Iarddur’ 1, 2, 3, 5; WG2 ‘Iarddur’ 3C. Nodir mewn print trwm enwau’r rheini a enwir gan Guto yn ei gywydd i Robert. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.

lineage
Achres Rhobert ab Ieuan Fychan o Goetmor

Disgynnai Rhobert o dywysogion Gwynedd drwy fam ei fam ac o rai o noddwyr Gruffudd Gryg, Iolo Goch ac Owain Waed Da drwy fam ei dad (gw. 100.11n Eifionydd). Roedd ei fam, Gwladus ferch Ieuan Llwyd, yn gyfnither i’r bardd Ieuan ap Gruffudd Leiaf, ac roedd Rhobert yntau’n gyfyrder i fab Ieuan, y bardd Syr Siôn Leiaf (116.11–12n). Bu Rhobert yn briod deirgwaith: yn gyntaf â Gwerful ferch Ednyfed Fychan; yn ail â Marsli ferch Edmwnd Stanley; ac yn drydydd â Nest ferch Ieuan (ni nodir iddo gael plant o’r olaf). Nid yw’n eglur o achresi Bartrum pwy oedd mam dwy o’i ferched, Gwerful a Chatrin (efallai Nest). Drwy briodas Gwerful, roedd Rhobert yn dad yng nghyfraith i un o noddwyr Guto, sef Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan.

Ei deulu
Geilw Williams (1986: 247) hendaid Rhobert, Hywel ap Gruffudd, yn ‘Hywel Coetmor … [gŵr] y credir iddo farw yn Fflandrys ym 1388 … a chofnodir ei enw ar restr y rheithgor a dderbyniodd renti cwmwd Llechwedd Uchaf ym 1352.’ Ni nodir ffynhonnell yr wybodaeth. Gall mai’n ddiweddarach y rhoddwyd yr enw Coetmor iddo, o bosibl drwy gydweddiad rhannol â Hywel Coetmor ap Gruffudd Fychan o Ddyffryn Conwy (IGE2 cerdd XXXVI; Davies 1995: 205), oherwydd, fel y cyfeddyf Williams, ymddengys mai Rhobert yw aelod cyntaf y teulu y gellir ei gysylltu â Choetmor ym mhlwyf Llanllechid.

Ceir gwybodaeth gan Williams (1986: 249) am etifedd Rhobert, sef Rhys. Roedd yn ‘ysgwïer o’r Corff i Risiart III, a derbyniodd nifer o diroedd yn Arfon, Môn a sir y Fflint yn rhinwedd y swydd. Erys chwedl amdano yn gwasanaethu Rhisiart ym mrwydr Bosworth, a phan adawodd yr Arglwydd Stanlai a’i wŷr garfan y Brenin ac ymuno â byddin Harri Tudur, galwodd Rhisiart am win ac am ei yswain, Rhys. Yna meddai wrtho: “Yma, Fychan, yr yfaf i ti, y Cymro cywiraf a gefais erioed yng Nghymru.” Yfodd Rhisiart y gwin, a rhuthro am y tro olaf ar ei elynion. Er derbyn pardwn Harri VII wedi’r frwydr, collodd Rhys gyfran helaeth o’i diroedd yn y Gogledd, a chollodd y teulu hefyd gryn dipyn o’u dylanwad.’ Eto, yn anffodus ni nodir ffynhonnell yr wybodaeth.

Llyfryddiaeth
Davies, R.R. (1995), The Revolt of Owain Glyndŵr (Oxford)
Williams, I.Ll. (1986), ‘Noddwyr y Beirdd yn Sir Gaernarfon’ (M.A. Cymru [Aberystwyth])

Sieffrai Cyffin ap Morus, fl. c.1460–75, a Siân ferch Lawrence Stanstry, fl. c.1460–7, o Groesoswallt

Top

Roedd Sieffrai Cyffin yn un o noddwyr pwysicaf Guto yn y Mers. Er ei bod yn debygol fod Sieffrai wedi noddi nifer o feirdd, pum cerdd iddo gan Guto yw’r unig gerddi sydd wedi goroesi iddo yn y llawysgrifau: cywydd mawl (cerdd 96); cywydd mawl i Sieffrai a’i wraig, Siân ferch Lawrence Stanstry (cerdd 97); cywydd gofyn am frigawn ar ran Dafydd Llwyd o Abertanad (cerdd 98); cywydd gofyn am gorn hela ar ran Siôn Eutun o Barc Eutun (cerdd 99); cywydd gofyn am ddau filgi ar ran Sieffrai gan Robert ab Ieuan Fychan o Goetmor (cerdd 100). Canodd Tudur Aled gywydd mawl i Edward Trefor a’i wraig, Ann Cyffin ferch Sieffrai (TA cerdd 51 a llinellau 43–56 yn arbennig). Molwyd Lewys Cyffin ap Siôn, ŵyr i frawd Sieffrai, mewn cywydd gan Huw ap Dafydd (GHD cerdd 20) a chanodd Wiliam Llŷn gywydd marwnad iddo (Stephens 1983: 327; nis ceir yn WLl).

Mae’n rhaid gwahaniaethu rhwng Sieffrai Cyffin a gŵr arall o’r un enw a fu’n abad Aberconwy yn hanner cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg (Williams 1970–2: 188, 196; idem 2001: 295). I’r Abad Sieffrai Cyffin y canodd Tudur Aled awdl fawl (TA cerdd 27). Yn Lowe (1921: 272), honnir bod ‘Geoffrey Kyffin’ yn abad Aberconwy yn 1450, camgymeriad am 1550, yn ôl pob tebyg.

Achresi
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ac Cynfyn’ 9, 10, 11; WG2 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 10 F2, 11 A3. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.

lineage
Achres Sieffrai Cyffin ap Morus o Groesoswallt

Fel y gwelir, roedd Sieffrai’n hanner ewythr i Faredudd ap Hywel o Groesoswallt ac yn hanner cefnder i Ddafydd Cyffin ab Iolyn o Langedwyn ac i Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch. Roedd yn hanner cefnder i Ruffudd ab Ieuan Fychan o Abertanad hefyd, sef gŵr Gweurful ferch Madog a thad Dafydd Llwyd. At hynny, roedd Sieffrai’n perthyn o bell i Siôn Eutun o Barc Eutun ac i Robert ab Ieuan Fychan o Goetmor.

Yn y goeden achau isod dangosir teulu Sieffrai ei hun. Fe’i seiliwyd ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 9, 11, 27, ‘Seisyll’ 2, WG2 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 11D ac ar wybodaeth a geir yn llaw John Davies o Riwlas (1652–c.1718) yn LlGC 8497B, 66r–67r wrth ymyl copi o gerdd 97 yn llaw Thomas Wiliems.

lineage
Teulu Sieffrai Cyffin ap Morus o Groesoswallt

Eiddo John Davies yw’r wybodaeth ynghylch priodas Catrin ferch Sieffrai a gŵr o’r enw Edward ap Dafydd ab Edmwnd, y pencerdd o blwy hanmer. Ni nodir yn achresi Bartrum fod mab gan y bardd, Dafydd ab Edmwnd, eithr merch yn unig, sef Marged, ond gall fod y cof amdano wedi pylu yn sgil y ffaith na bu iddynt ddim plant (WG1 ‘Hanmer’ 2; sylwer bod cyfeiriad at ŵr o’r enw Hopgyn ap Dafydd ab Edmwnd yn ibid. ‘Trahaearn Goch of Llŷn’ 2). At hynny, dywed Davies fod merch anhysbys Sieffrai a briododd Syr Tomas Cinast wedi marw yn ddi blant. Priododd merch arall iddo, Ann, ag Edward Trefor ap Siôn Trefor, constable castell y drewen yn ôl Davies. Dywed bod Ales ferch Sieffrai wedi cael perthynas gydag un o noddwyr Guto, Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais, ac wedi cenhedlu vn plentyn ohono ef ond ni bu hi ddim yn briod. Cafodd Ales ferch a fu farw’n ifanc (Griffiths 1993: 64, 270).

Priododd Sieffrai ddwywaith, yn gyntaf â Siân ferch Lawrence Stanstry (yr hon a elwyd y saesnes goch o gent yn ôl Davies) ac wedyn ag Ann o deulu arglwyddi Strange o’r Cnwcin. Nododd Gruffudd Hiraethog yn Pen 176, 357 (c.1552), mai merch oedd Ann i John arglwydd Strange, a’r un oedd ei farn wreiddiol yn Pen 134, 380 (c.1550–8), cyn iddo newid ei feddwl: Ann fh’ chwaer sion arglwydd ystraens. Ategir y diwygiad ddwywaith gan Wiliam Llŷn yn Pen 139, i, 64–5 (c.1567–77), ac er iddo nodi ar dudalen 66 fod Ann yn ferch i John, diwygiwyd yr wybodaeth honno maes o law (gan Wiliam ei hun yn ôl pob tebyg): nid gwir fry am blant argl’ straens chwaer oedd wraic sieffre kyffin i iohn y diweddaf or arglwydde straens. Yn ôl Wiliam olynwyd John, yr olaf o arglwyddi Strange Cnwcin drwy waed, gan ei ferch, Sian, a briododd George arglwydd Stanley, mab iarll cyntaf Derbi. Ategir yr wybodaeth honno yn Kidd and Williamson (1990: P 1075), lle dywedir mai Joan (Siân) oedd unig ferch John. Seiliwyd yr achres isod ar ibid. ac ar wybodaeth ddiwygiedig y llawysgrifau.

lineage
Teulu Ann ferch Richard arglwydd Strange

Ei deulu a’i yrfa
Roedd Sieffrai’n ŵyr i Ieuan Gethin ac felly’n aelod o deulu Cymreig mwyaf dylanwadol y gororau i’r dwyrain o’r Berwyn yn ystod y bymthegfed ganrif. Y tebyg yw mai drwy gyswllt Guto ag aelodau eraill o’r teulu hwnnw (megis Hywel ab Ieuan Fychan) y dechreuodd dderbyn nawdd gan Sieffrai yn y lle cyntaf. Roedd cyfenw Sieffrai yn enw teuluol a ddefnyddiwyd gyntaf gan ei hendaid, Madog Cyffin. Yn ôl Griffith (1998: 196), mabwysiadodd Madog y cyfenw o’r enw lle Cyffin yn Llangedwyn (gw. GPC 730 d.g. cyffin ‘ffin, goror’) er mwyn gwahaniaethu rhyngddo ef a’i dad, Madog Goch. Roedd tad Sieffrai, Morus ab Ieuan Gethin, yn ynad cwmwd Mochnant Is-Rhaeadr yn ystod nawdegau’r bedwaredd ganrif ar ddeg a cheir ei enw mewn cofnod arall yn dilyn methiant gwrthryfel Owain Glyndŵr (Huws 2007: 97–8, 117n77). Roedd yn fyw yn 1445 ac yn gysylltiedig â Chroesoswallt (CPR 1441–6, 397–8). Dywed Guto fod Morus wedi teithio i dref Aras yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc ac i Brwsia yn yr Almaen (96.25–6), o bosibl ar bererindod (gw. y nodyn isod ar bererindod ei fab). Ar arfau herodrol Sieffrai a’i deulu, gw. DWH ii: 93–4.

Roedd Guto’n canu i Sieffrai cyn Tachwedd 1465, oherwydd oddeutu dechrau’r mis hwnnw bu farw Dafydd Llwyd o Abertanad a’i wraig, Catrin, o haint y nodau. Canodd Guto gywydd gofyn am frigawn i Sieffrai ar ran Dafydd (cerdd 98) lle cyfeirir at gwnstablaeth Sieffrai yng Nghroesoswallt (98.16, 22). Gwyddys ei fod yn un o feilïaid y dref yn 1463 ac yn berchen ar dir yno ar 29 Medi 1465 (Huws 2007: 122n93; DWH ii: 93). Ni ellir profi bod Sieffrai’n gwnstabl y dref yn ogystal ag yn feili yn 1463, nac ychwaith ei fod yn parhau i fod yn gwnstabl yn 1465, ond fe ymddengys hynny’n debygol. Canodd Syr Rhys gerdd ddychan i Guto pan oedd yn fwrdais yng Nghroesoswallt (cerdd 101a) a chyfeirir at y dychan hwnnw yng nghywydd mawl Guto i Sieffrai ac i Siân, ei wraig gyntaf (97.25–8). Yng ngherdd Syr Rhys enwir Siôn ap Rhisiart, abad Glyn-y-groes, c.1455–c.1480. Yn ei gywydd i ofyn brigawn gan Sieffrai, cyfeiria Guto at y bwrdeisiaid a ddioddefai pe na bai Sieffrai’n gwnstabl, ac yn y llinellau nesaf defnyddir y rhagenw personol cyntaf lluosog ein i ddisgrifio pwysigrwydd Sieffrai yn y dref (98.19–26). Yr awgrym cryf yw bod y bardd ei hun yn fwrdais yn y dref pan ganwyd y gerdd rywdro cyn Tachwedd 1465, ac felly mae’n bur debygol fod Syr Rhys yntau wedi canu ei gerdd ddychan i Guto oddeutu’r un adeg, pan oedd Siôn yn abad. Mae’n gymharol eglur, felly, y gellir lleoli Sieffrai yng Nghroesoswallt yn hanner cyntaf y 1460au.

Cyfeiriwyd eisoes at y cywydd mawl a ganodd Guto i Sieffrai ac i’w wraig gyntaf, Siân. Yn Pen 176 dywed Gruffudd Hiraethog fod Sieffrai wedi priodi ei ail wraig, Ann ferch Richard arglwydd Strange, yn 1467, ond dywed yn Pen 134 mai Syr Peter Newton a Siân, merch hynaf Sieffrai ac Ann, a briododd y flwyddyn honno. A chymryd nad oedd Gruffudd yn hau dyddiadau yn ôl ei fympwy, mae’n eithriadol o annhebygol fod y ddwy briodas wedi eu cynnal yn yr un flwyddyn, felly ym mha lawysgrif yr aeth ar gyfeiliorn? A chymryd y byddai Siân ferch Sieffrai dros ddeg oed o leiaf yn priodi, os dilynir Pen 134 mae’n rhesymol tybio y byddai wedi ei geni cyn c.1457 a bod ei rhieni, felly, wedi priodi erbyn canol y pumdegau. O ganlyniad, byddai’n rhaid dyddio’r cywydd a ganodd Guto i Sieffrai a’i wraig gyntaf cyn c.1452 a chasglu bod Guto yn fwrdais yng Nghroesoswallt bryd hynny. Er nad yw hynny’n gwbl amhosibl, mae dyddiad diweddarach yn llawer mwy tebygol yn sgil swm y dystiolaeth a amlinellwyd uchod, ynghyd â’r ffaith fod Guto’n aml yn cyfeirio ato’i hun fel gŵr oedrannus yn y cerddi sy’n ymwneud â Chroesoswallt (97.26; 101.20, 47–50; 101a.31–6, 40, 55, 60; 102.1–4, 7, 49–50). Cesglir, felly, mai ail briodas Sieffrai a gynhaliwyd yn 1467 yn hytrach na phriodas ei ferch, ac felly mae’n rhaid dyddio’r cywydd a ganodd Guto i Sieffrai a Siân cyn y flwyddyn honno.

Nodir yn GGl 347 i Sieffrai farw yn 1509, ond ei ferch, Ann, mewn gwirionedd, a fu farw’r flwyddyn honno (Griffith 1998: 254; HPF iv: 84). Roedd yn fyw ar 11 Mawrth 1475 (Jones 1933: 93), pan gafodd ei enwi’n dyst i weithred i ryddhau tir yng Ngwernosbynt a’i alw’n Seneschal of Chirkesland. Er nad oedd rhyw lawer o wahaniaeth mewn rhai achosion rhwng dyletswyddau cwnstabl a dyletswyddau distain (ibid. xxxiii), mae cyswllt y swydd ag arglwyddiaeth y Waun yn awgrymu’n gryf nad yr un ydoedd â swydd cwnstabl prif dref arglwyddiaeth Croesoswallt. Y tebyg yw bod Sieffrai, felly, wedi symud o Groesoswallt erbyn y flwyddyn honno, a gall mai yn sgil priodi ei ail wraig, Ann ferch Richard arglwydd Strange, y daeth i gyswllt â byd y gyfraith. Gwysiwyd brawd Ann, John arglwydd Strange, i’r senedd yn Llundain o 1446 i 1472 (Kidd a Williamson 1990: P 1075).

Yn Pen 139, i, 64, dywed Wiliam Llŷn i ail wraig Sieffrai, Ann, ailbriodi ar ôl i Sieffrai farw, a hynny â Sr’ tomas mytyn. Ar waelod dalen 66 yn y llawysgrif honno ceir nodyn gan y bardd Rhys Cain (a ysgrifennwyd c.1604), lle cyfeirir at Ann ac at y ferch a gafodd gyda Sieffrai, Siân:Ann mitton vcho a Ioan mrch ac et
Sieffrey kyffin oeddynt vyw yr ail
vlwyddyn o deyrnasiad hari 7
mae’r weithred gyda ni Ric Blodwell.Dengys cywydd mawl anolygedig Rhys Cain i Risiart Blodwel ap Siôn Blodwel fod Rhisiart wedi bod yn swyddog o bwys yn nhref Croesoswallt ac yn weithgar yn atgyweirio’r gaer yno (LlGC 11986B, 33). Ac yntau a’i wraig, Marged, yn ddisgynyddion i Fadog Cyffin ac yn byw yn y fwrdeistref, nid yw’n syndod efallai fod dogfen yn ymwneud â theulu Sieffrai yn ei feddiant (WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 9, 45; WG2 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 42G, 45B). Fe’i hysgrifennwyd rhwng 22 Awst 1486 a 21 Awst 1487, a gellir casglu nad oedd Sieffrai’n fyw y flwyddyn honno. Bu farw, felly, rywdro rhwng 1475 a 1486/7 (bu farw ei hanner brawd, Hywel, yn 1481, gw. Pen 75, 5).

Sylwer bod Rhys Cain yn cyfeirio at Siân fel et[ifedd] Sieffrey kyffin yn y nodyn uchod. Yn wahanol i’w frodyr nid ymddengys i linach Sieffrai barhau yn sgil ei fab. Un mab i Sieffrai a nodir yn yr achresi, sef Harri Cyffin, a cheir ansicrwydd ynghylch pwy oedd ei fam. Gall mai mab anghyfreithlon ydoedd, oherwydd ni chyfeirir ato o gwbl mewn fersiwn o achau Sieffrai a gofnodwyd yn LlGC 8497B, 66r–67r (gw. uchod), a gall fod a wnelo hynny â’r ffaith na cheir yn yr un llawysgrif awgrym i Harri briodi na chael plant. Mae’n ddigon posibl ei fod yntau, fel ei dad, wedi marw erbyn 1486/7, a hynny naill ai’n ddietifedd neu heb iddo gael ei gydnabod fel etifedd ei dad. Fel y gwelir o’r llawysgrifau achyddol uchod o waith Gruffudd Hiraethog a Wiliam Llŷn, yn sgil teuluoedd yr uchelwyr a briododd ferched Sieffrai (a Siân wraig Peter Newton yn benodol efallai) y diogelwyd y cof am ei linach.

Ei fro
Yn ôl achresi Bartrum a chywydd a ganodd Huw ap Dafydd i Lewys Cyffin, ŵyr i frawd Sieffrai, Wiliam ap Morus, ymgartrefodd y gangen honno o deulu Morus yn llys Gartheryr ger Llanrhaeadr-ym-Mochnant (GHD 20.8, 37). Yn nhref Croesoswallt yr ymgartrefodd Sieffrai. Ceir ei enw yn yr ail safle ar restr hir o fwrdeisiaid Croesoswallt a luniwyd ar gais beilïaid y dref yn 1546, ynghyd â’i fab, Harri, a nifer o’i feibion-yng-nghyfraith ac aelodau o’i deulu estynedig (archifdy Croesoswallt, OB/A12). Ymddengys fod y rhestr yn gofnod dethol o brif fwrdeisiaid y dref rhwng c.1450 a 1546, a’r tebyg yw ei bod yn seiliedig ar restrau eraill a luniwyd mewn cyfnodau cynharach. Gwelir oddi wrth achresi Bartrum fod nifer fawr o’r bwrdeisiaid hyn yn perthyn drwy waed neu briodas, ac mae’r rhestr yn dyst gwerthfawr i’r cysylltiadau a sefydlwyd rhwng teuluoedd mawr Cymreig a Saesnig y gororau ac a fu’n sail i ffyniant tref Croesoswallt yn y cyfnod hwn. Ceir enw Guto ar y rhestr hefyd, ynghyd â Thudur Aled (gw. cerdd 102 (esboniadol)).

Ei bererindod
Rywdro tua’r flwyddyn 1460, yn ôl pob tebyg, aeth Sieffrai ar bererindod i Rufain a Jerwsalem. Cyfeirir yn frysiog at y daith ar ddechrau cywydd Guto i Sieffrai a’i wraig, Siân, lle nodir ei fod wedi ymweld ag eglwys Sant Pedr yn ninas y Fatican cyn teithio i borthladd Jaffa yn Israel ac ymweld ag eglwys y Beddrod Sanctaidd yn Jerwsalem (97.1–10). Mae’n hynod o debygol fod Guto’n cyfeirio at yr un daith mewn cywydd arall a ganodd i Sieffrai. Er na sonnir am y bererindod yn y gerdd honno, dywedir bod Sieffrai wedi teithio dros y sianel i Ffrainc a thrwy Fyrgwyn i Wlad Groeg ac Affrica (96.27–30). A chlymu’r cyfeiriadau yn y ddwy gerdd at ei gilydd, ymddengys fod Sieffrai wedi teithio drwy Fyrgwyn er mwyn croesi mynyddoedd yr Alpau. Yn ôl Olson (2008: 19–20), roedd tair prif ffordd yn croesi’r Alpau yn yr Oesoedd Canol. Mae’r ffaith fod Lewys Glyn Cothi, pan deithiodd yntau ar bererindod i Rufain, wedi dilyn yr hyn a elwid ‘y ffordd Almaenig’ yn awgrymu y gall fod Sieffrai yntau wedi croesi’r mynyddoedd o’r un cyfeiriad. Dywed Lewys ei fod wedi teithio (o Fôn, efallai) i Frabant a Fflandrys ac i lawr ar hyd dyffryn afon Rhein i Fyrgwyn. Oddi yno teithiodd drwy’r Almaen a Swabia (ardal yn ne-orllewin yr Almaen heddiw) i Lombardi yng ngogledd yr Eidal (GLGC 90.11–16). Fel yn achos pererin arall o’r enw William Wey (1405/6–76; DNB Online s.n. William Wey), a aeth ar bererindod i Rufain ac i Jerusalem yn 1458, nid yw’n eglur ym mhle’n union y croesodd Lewys na Sieffrai yr Alpau, ond mae’n bosibl eu bod wedi teithio drwy Fwlch Sant Gotthard (Olson 2008: 20), Bwlch Reschen neu fwlch arall yng ngorllewin Awstria heddiw (Davey 2010: 113).

Rhydd y manylion a gofnododd William Wey ynghylch ei bererindod syniad go dda o’r profiadau a gafodd Sieffrai oddeutu’r un adeg, megis hyd y daith a chyngor wrth ymwneud â brodorion mewn gwahanol wledydd. Fel mwyafrif y pererinion a fynnai deithio i Jerwsalem yn ystod yr Oesoedd Canol, aeth Wey i Fenis er mwyn dod o hyd i long a’i cludai i borthladd Jaffa. Ymddengys fod Sieffrai, fel Wey, wedi ymweld â Rhufain yn gyntaf cyn teithio i Fenis, lle byddai pererinion yn aml yn gorfod disgwyl am wythnosau neu fisoedd am long addas ac yna am amgylchiadau ffafriol i godi angor. O Fenis byddai llongau’r pererinion yn hwylio ar hyd y Môr Canoldir gan oedi o bosibl ar ynysoedd megis Creta a Chyprus (cf. cyfeiriad Guto at Roeg) cyn cyrraedd Jaffa. Oddi yno byddai’r pererinion yn cerdded neu’n marchogaeth i ddinas Jerusalem. Yn wahanol i Wey, nid ymddengys bod Sieffrai wedi dychwelyd yn syth eithr ei fod wedi ymweld ag Affrica hefyd, sef yn ôl pob tebyg yr Aifft. Mae’n bosibl ei fod wedi ymweld ag Alecsandria ar ei fordaith adref neu wedi teithio i Fynydd Sinai hyd yn oed. Am fap o daith Wey, gw. Davey 2010: 20–1.

Llyfryddiaeth
Davey, F. (2010), The Itineraries of William Wey (Oxford)
Griffith, J.E. (1998), Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (third ed., Wrexham)
Griffiths, R.A. (1993), Sir Rhys ap Thomas and his Family (Cardiff)
Huws, B.O. (2007), ‘Ailadeiladu Bywyd ar ôl Gwrthryfel Glyndŵr: Tystiolaeth y Canu i Foelyrch’, Dwned, 13: 97–137
Jones, G.P. (1933), The Extent of Chirkland (1391–1393) (London)
Kidd, C. and Williamson, D. (1990) (eds.), Debrett’s Peerage and Baronetage (London)
Lowe, W.B. (1912), The Heart of Northern Wales (Llanfairfechan)
Olson, K.K. (2008), ‘ “Ar Ffordd Pedr a Phawl”: Welsh Pilgrimage and Travel to Rome, c.1200–c.1530’, Cylchg HC 24: 1–40
Stephens, Roy (1983), ‘Gwaith Wiliam Llŷn’ (Ph.D. Cymru [Aberystwyth])
Williams, D.H. (1970–2), ‘Fasti Cistercienses Cambrenses’, B xxiv: 181–229
Williams, D.H. (2001), The Welsh Cistercians (Leominster)


Top
  • AASTAnglesey Antiquarian Society and Field Club Transactions, 1913- ŷŵ
  • ActauActauyr Apostolion yn y Testament Newydd
  • ActsThe Acts of the Apostles in the New Testament
  • APD.Gwenallt Jones (gol.), Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934)
  • Arch CambArchaeologia Cambrensis, 1846
  • ArchifMRCronfa Ddata Enwau Lleoedd: Archif Melville Richards / Archif Melville Richards Place-name Database
  • <http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr>
  • Arm PIfor Williams (gol.), Armes Prydein o Lyfr Taliesin (Caerdydd, 1955)
  • Arm P2Ifor Williams (ed.), Armes Prydain from the Book of Taliesin, English version by Rachel Bromwich (Dublin, 1972)
  • ASCentM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Apocrya Sin Cent (Aberystwyth, 2004)
  • BBwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 1921-93
  • BaLlawysgrif yng nghasgliad Prifysgol Cymru, Bangor
  • Ba(M)Llawysgrif yng nghasgliad Bangor (Mostyn) ym Mhrifysgol Cymru, Bangor
  • BarnwyrLlyfry Barnwyr yn yr Hen Destament
  • BDHenry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942)
  • BDeD.Simon Evans, Buchedd Dewi (Caerdydd, 1959)
  • BDGOwen Jones a William Owen (goln.), Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (Llundain, 1789)
  • BeirnJ. Morris Jones, Y Beirniad (1911-20)
  • BettisfieldCasgliad Bettisfield yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / The Bettisfield collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BLLlawysgrifau Ychwanegol yngnghasgliad y Llyfrgell Brydeinig, Llundain / The Additional Manuscripts in the British Library, London
  • BlBGCC Marged Haycock (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (Llandybe, 1994)
  • Bl BXIV Dafydd Johnston (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif arDdeg (Llandybe, 1989)
  • BodLlawysgrif yng nghasgliad Bodewryd, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth / A manuscript in the Bodewryd collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BodWLlawysgrif Gymreig yng nghasgliadLlyfrgell Bodley, Rhydychen / A Welsh manuscript in the Bodleian Library, Oxford
  • 1 BrenhinoeddLlyfr Cyntaf y Brenhinoedd yn yr Hen Desatement
  • 2 BrenhinoeddAil Lyfr y Brenhinoedd yn yr Hen Destament
  • BrenSaesThomas Jones (gol.), Brenhinedd y Saesson (Caerdydd, 1971)
  • BritishHOBritish History Online http://www.british-history.ac.uk>
  • BrMIfor Williams (gol.), Breuddwyd Maxen (Bangor,1908)
  • BrM2Brynley F. Roberts (ed.), Breudwyt Maxen Wledic (Dublin, 2005)
  • BrogLlawysgrif yng nghasgliad Brogyntyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Brogyntyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BRhMelville Richards (gol.), Breudwyt Ronabwy (Caerdydd, 1948)
  • BTThomasJones (gol.), Brut y Tywysogyon PeniarthMs. 20 (Caerdydd, 1941)
  • BYThomas Jones (gol.), Y Bibyl Ynghymraec (Caerdydd, 1940)
  • ByCyY Bywgraadur Cymreig hyd 1940(Llundain, 1953)
  • ByCy Ar-leinY Bywgraffiadur Ar-lein
  • <http://yba.llgc.org.uk/cy/index.html>
  • CLlawysgrifyn Llyfrgell Ganolog Caerdydd / A manuscript in Cardiff Central Library
  • CAIfor Williams (gol.), Canu Aneirin, (Caerdydd, 1938)
  • CAMBMCatalogueof Additions to the Manuscripts in the British Museum
  • CCJ. Fisher (ed.), The Cefn Coch MSS (Liverpool, 1889)
  • CCRCalendarof the close rolls preserved in the Public Record Office [12721509] (London,1900-63)
  • CDJohn Morris-Jones, Cerdd Dafod (Rhydychen, 1925)
  • CFGMelville Richards, Cystrawen y Frawddeg Gymraeg (ail arg.,Caerdydd, 1970)
  • CLC2Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (ailarg., Caerdydd, 1997)
  • CLlHIfor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen (Caerdydd, 1935)
  • CLlLlBrynley F. Roberts (ed.), CyfrancLludd a Llefelys (Dublin, 1975)
  • CMLlawysgrif yng nghasgliad Cwrtmawr, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Cwrtmawrcollection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • CMCSCambridge Medieval Celtic Studies,19811993; Cambrian Medieval CelticStudies, 1993
  • CMOC2Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (ailarg., Pen-y-bont ar Ogwr, 1998)
  • CO3 Rachel Bromwich a D. Simon Evans(goln.) gyda chymorth D.H. Evans Culhwchac Olwen (Caerdydd, 1997)
  • CPRCalendar of Patent Rolls preserved in the Record Office (London, 18911986)
  • CSTBP.J.Donovan (gol.), Cywyddau Serch y Tri Bedo(Caerdydd, 1982)
  • CTIfor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)
  • CTCCatrin T. Beynon Davies, `Cerddir TaiCrefydd (M.A. Cymru [Bangor], 1973)
  • CyY Cymmrodor, The Magazine of the HonourableSociety of Cymmrodorion, 18771951
  • CylchgCHSFeirCylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirion (n)ydd, 1949
  • CylchgHCCylchgrawnHanes Cymru, 1960
  • Cylchg LlGC Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru,1939
  • ChOIfor Williams (gol.), Chwedleu Odo (Wrecsam, 1926)
  • 1 Chronicles The First Book of the Chronicles in the Old Testament
  • 2 Chronicles The Second Book of the Chronicles in the Old Testament
  • Datguddiad`Datguddiad Ioan' yn y Testament Newydd
  • DBHenry Lewis a P. Diverres (goln.), Delwy Byd (Caerdydd, 1928)
  • DEThomas Roberts (gol.), Gwaith Dafydd ab Edmwnd (Bangor, 1914)
  • DGAHelenFulton (ed.), Selections from the Dafyddap Gwilym Apocrypha (Llandysul, 1996)
  • DGG Ifor Williams a TRoberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym ai Gyfoeswyr (Bangor, 1914)
  • DGG2Ifor Williams a T. Roberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i Gyfoeswyr(ail arg., Caerdydd, 1935)
  • DG.netDafydd ap Gwilym.net <http://www.dafyddapgwilym.net>
  • DNThomasRoberts and Ifor Williams (eds.), ThePoetical Works of Dafydd Nanmor (Cardi and London, 1923)
  • DNB2H.C.G. Matthew and B. Harrison (eds.), Oxford Dictionary of National Biography (Oxford, 2004)
  • DNBOnlineOxford Dictionary of National Biography <http://www.oxforddnb.com/>
  • DWBWelsh Biography Online
  • <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • DWHMichael Powell Siddons, The Development of Welsh Heraldry (3vols., Aberystwyth, 19913)
  • L.Dwnn: HVS.R. Meyrick (ed.), Heraldic Visitations of Wales (Llandovery,1846)
  • EANCR.J. Thomas, Enwau Afodyn a Nentydd Cymru Caerdydd, 1938)
  • EEWT.H. Parry-Williams, The English Element in Welsh (Londons, 1923)
  • tudesÉtudes celtiques, 1936
  • EVWM.E. Griths, Early Vaticination in Welsh with English Parallels (Cardi, 1937)
  • EWGTP.C. Bartrum (ed.), Early Welsh Genealogical Tracts (Cardiff, 1966)
  • GJ. Lloyd-Jones (gol.), Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg(Caerdydd, 1931-63)
  • GazMFEWGazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516 <http://www.history.ac.uk/cmh/gaz/gazweb2.html>
  • GBDdGwaith Bleddyn Ddu, gol. R. Iestyn Daniel (Aberystwyth, 1994)
  • GBFRhian M. Andrews et al. (goln.), Gwaith Bleddyn Fardd a Beirdd Eraill AilHanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1996)
  • GCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Casnodyn (Aberystwyth, 1999)
  • GCBMiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,i (Caerdydd, 1991)
  • GCBMiiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,ii (Caerdydd, 1995)
  • GDBN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill o FeirddHanner Cyntaf y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1995)
  • GDCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o LyfrCoch Hergest (Aberystwyth, 2002)
  • GDEpOwen Thomas (gol.), Gwaith Dafydd Epynt (Aberystwyth, 2002)
  • GDG Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym(Caerdydd, 1952)
  • GDG3 Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (trydydd arg., Caerdydd, 1979)
  • GDGorErwain H. Rheinallt (gol.), Gwaith Dafydd Gorlech (Aberystwyth,1997)
  • GDIDA.Eleri Davies (gol.), Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992)
  • GDLlW. Leslie Richards (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn(Caerdydd, 1964)
  • Genesis`Llyfr Genesis' yn yr Hen Destament
  • GenesisThe Book of Genesis in the Old Testament
  • GEOR. Geraint Gruydd a Rhiannon Ifans(goln.), Gwaith Einion Oeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug, gol. (Aberystwyth, 1997)
  • GGDTN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Gruudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995)
  • GGHD.J. Bowen (gol.), Gwaith Gruudd Hiraethog (Caerdydd, 1990)
  • GGGrBarry J. Lewis ac Eurig Salisbury (goln.), Gwaith Gruffudd Gryg(Aberystwyth 2010)
  • GGlJ. Llywelyn Williams ac Ifor Williams (goln.), Gwaith Gutor Glyn (Caerdydd, 1939)
  • GGl2 J. Llywelyn Williams ac Ifor Williams(goln.), Gwaith Guto'r Glyn (ail arg., Caerdydd, 1961)
  • GGLlRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruudd Llwyd ar Llygliwiaid Eraill(Aberystwyth, 2000)
  • GGMDiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, i, Canu i deulu Penmynydd (Aberystwyth, 2003)
  • GGMD iiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, ii, Canu Crefyddol (Aberystwyth, 2005)
  • GGMDiiiAnn Parry Owen (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, iii, Canu Amrywiol (Aberystwyth, 2007)
  • GGrGRhiannon Ifans, Ann Parry Owen,W. Dyfed Rowlands ac Erwain H. Rheinallt (goln.), Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog, Mab Clochyddyn, Gruudd ap Tudur Goch ac Ithel Ddu (Aberystwyth, 1997)
  • GHCIslwyn Jones (gol.), Gwaith Hywel Cilan (Caerdydd, 1963)
  • GHCEMHuw Ceiriog Jones (gol.), Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor(Caerdydd, 1990)
  • GHDA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Huw ap Dafyddap Llywelyn ap Madog (Aberystwyth, 1995)
  • GHSDylanFoster Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwala'i deulu (Aberystwyth, 2000)
  • GIBHGwaithIeuan Brydydd Hir (gol.), M. Paul Bryant-Quinn (Aberystwyth, 2000)
  • GIFHowell L. Jones ac E.I. Rowlands(gol.), Gwaith Iorwerth Fynglwyd(Caerdydd, 1975)
  • GIGD.R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988)
  • GILlFM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Ieuan ap Llywelyn Fychan, Ieuan Llwyd Brydydd a Lewys Aled (Aberystwyth, 2003)
  • GIRhR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth,2003)
  • GLDA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Lewys Daron (Caerdydd, 1994)
  • GLGCDafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd,1995)
  • GLMEurys I. Rowlands, Gwaith Lewys Mn (Caerdydd, 1975)
  • GLMorgA. CynfaelLake (gol.), Gwaith Lewys Morgannwg (dwy gyfrol, Aberystwyth, 2004)
  • GLlR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Llawdden (Aberystwyth, 2006)
  • GLlBHAnn Parry Owen a Dylan Foster Evans(gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996)
  • GLlFKathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994)
  • GLlGDafydd Johnston (gol.), Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen(Aberystwyth, 1998)
  • GLlLlElin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn `Prydydd y Moch' (Caerdydd, 1989)
  • GMBJ.E. Caerwyn Williams et al. (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994)
  • GMBrA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Mathau Brwmld (Aberystwyth,2002)
  • GMDHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Madog Dwygraig (Aberystwyth,2006)
  • GMRhEnid Roberts (gol.), Gwaith Mareduddap Rhys ai Gyfoedion (Aberystwyth, 2003)
  • GMWD. Simon Evans, A Grammar of Middle Welsh (Dublin, 1964)
  • GMWLTimothy Lewis, A Glossary of Mediaeval Welsh Law (Manchester,1913)
  • GOE. Bachellery (d.), Loeuvre potique de Gutun Owain(Paris, 19501)
  • GOLlMEurys Rolant (gol.), Gwaith Owain ap Llywelyn ab y Moel(Caerdydd, 1984)
  • GP G.J. Williams ac E.J. Jones (gol.), Gramadegaur Penceirddiaid (Caerdydd,1934)
  • GPBHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan, Rhys ap Dafydd ab Einion, Hywel Ystorm, a cherddi dychan dienw o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth,2000)
  • GPCGeiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950)
  • GPC2Geiriadur Prifysgol Cymru (ail argraad, Caerdydd, 2003)
  • GPhEM.Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Syr Phylib Emlyn, Syr Lewys Meudwy a Mastr Harri ap Hywel (Aberystwyth, 2001)
  • GRhBEurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Rhys Brydydd a Rhisiart ap Rhys (Caerdydd,1976)
  • GRhGEDylan Foster Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007)
  • GSCA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin Ceri (Aberystwyth, 1996)
  • GSCyfR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd 'Sypyn Cyfeiliog a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998)
  • GSDTRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2005)
  • GSHA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin ap Hywel (Aberystwyth, 1999)
  • GSRhNerys Ann Jones ac Erwain Haf Rheinallt(gol.), Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn,Gruudd Fychan ap Gruudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth,1995)
  • GSTEnid Roberts (gol.), Gwaith Sin Tudur (2 gyf., Caerdydd,1980)
  • GTPThomas Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap TudurPenllyn, gol. (Caerdydd, 1958)
  • GwynLlawysgrif yng nghasgliad J. Gwyneddon Davies, yn Llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor
  • GyBDafydd Johnston (gol.), Galar y Beirdd: Marwnadau Plant/Poets'Grief: Medieval Welsh Elegies for Children (Caerdydd, 1993)
  • HCLlLeslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac Eraill(Caerdydd, 1953)
  • HPEHistoriaPeredur vab Efrawc, gol. Glenys Witchard Goetinck (Caerdydd, 1976)
  • HPFJ.Y.W. Lloyd, The History of Powys Fadog, (6 vols., London, 18817)
  • IDIfor Williams (gol.), Casgliad o Waith Ieuan Deulwyn (Bangor,1909)
  • IGEHenry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (Bangor, 1925)
  • IGE2Henry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (ail arg., Caerdydd, 1937)
  • IGPDafydd Johnston (ed.), Iolo Goch: Poems (Llandysul, 1993)
  • Ioan`Yr Efengyl yn l Sant Ioan' yn y Testament Newydd
  • JMHRSJournalof the Merioneth Historical and Record Society, 1949
  • JohnThe Gospel according to John in theNew Testament
  • JudgesThe Book of Judges in the Old Testament
  • KAA 2Patricia Williams (gol.), Kedymdeithyas Amlyn ac Amic (Caerdydd,1982)
  • 1 KingsThe First Book of the Kings in the Old Testament
  • 2 KingsThe Second Book of the Kings in the Old Testament
  • LBSS. Baring-Gould and J. Fisher, The Lives of the British Saints (4vols., London, 190713)
  • Luc`Yr Efengyl yn l Sant Luc' yn yTestament Newydd
  • LukeThe Gospel according to Luke in theNew Testament
  • LlAJ. Morris Jones and John Rhŷs (eds.), The Elucidarium from Llyvyr Agkyr Llandewivrevi (Oxford, 1894)
  • LlBS.J. Williams a J.E. Powell (gol.), Cyfreithiau Hywel Dda yn l Llyfr Blegywryd(Caerdydd, 1942)
  • LlCyLlnCymru, 1950
  • LlGCLlawysgrif yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the collection of theNational Library of Wales, Aberystwyth
  • LlIAled Rhys Wiliam (ed.), Llyfr Iorwerth (Cardi, 1960)
  • LlstLlawysgrif yng nghasgliad Llanstephan, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Llanstephan collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Marc`Yr Efengyl yn l Sant Marc' yn y Testament Newydd
  • MarkThe Gospel according to Mark in the New Testament
  • Mathew`Yr Efengyl yn l Sant Mathew' yn y Testament Newydd
  • MatthewThe Gospel according to Matthew in the New Testament
  • MCFY Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau / The Index to Welsh Poetry inManuscript
  • <http://maldwyn.llgc.org.uk>
  • MEDMiddle English Dictionary (Michigan, 1963)
  • MonWMonastic Wales <http://www.monasticwales.org>
  • MontCollCollections Historical and Archaeological... by the Powysland Club, 1868
  • MosLlawysgrif yng nghasgliad Mostyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Mostyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • MWMDaniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Cardiand Aberystwyth, 2000)
  • NCENewCatholic Encyclopaedia (New York, 1967-79)
  • NCLWMeic Stephens (ed.), The New Companion to the Literature of Wales(Cardiff, 1998)
  • NLWJNational Library of Wales Journal, 1939
  • OBWVThomasParry (ed.), The Oxford Book of Welsh Verse (Oxford, 1976)
  • OCD3Simon Hornblower and Antony Spawforth(eds.), The Oxford Classical Dictionary(third ed., Oxford, 1996)
  • ODCC3F.L. Cross and E.A. Livingstone (eds.), The Oxford Dictionary of the Christian Church (third ed., Oxford, 1967, revised 2005)
  • OED2The Oxford English Dictionary (second ed., Oxford, 1989)
  • OED OnlineThe Oxford English Dictionary
  • <http://www.oed.com>
  • PACFJ.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Bangor, 1914)
  • PenLlawysgrif yng nghasgliad Peniarth, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Peniarth collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Peniarth49E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 49 (Caerdydd, 1929)
  • Peniarth67E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (ed.), Peniarth 67 (Cardiff, 1918)
  • Peniarth76E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 76 (Caerdydd, 1927)
  • PKM Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930)
  • PsalsmThe Psalms in the Old Testament
  • RBJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Bruts from the Red Book of Hergest (Oxford, 1890)
  • RCAHM (Anglesey)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Anglesey (London, 1937)
  • RCAHM (Caernarvonshire) An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Caernarvonshire (3 vols.,London, 1956, 1960, 1964)
  • RCAHM (Flint)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire, Vol II: County of Flint (London, 1912)
  • RCAHM (Merionethshire) An Inventory of Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Merionethshire (London, 1921)
  • RepWMDaniel Huws, Repertory of Welsh Manuscripts (iw gyhoeddi)
  • RevelationThe Revelation to John in the New Testament
  • RMJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Mabinogion from the Red Book of Hergest(Oxford, 1887)
  • RWMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), Report on Manuscripts in the Welsh Language(London, 18981910)
  • SalmauLlyfr y Salmau yn yr Hen Destament
  • SCStudiaCeltica, 1966
  • SoldierLMEThe Soldier in later Medieval England
  • <http://www.medievalsoldier.org>
  • StoweLlawysgrif o gasgliad Stowe yn yLlyfrgell Brydeinig
  • TAT. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926)
  • TCT.J.Morgan, Y Treigladau au Cystrawen (Caerdydd,1952)
  • TCHSTransactionsof the Caernarvonshire Historical Society, 1939
  • TCHSDdTrafodionCymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 1952
  • TCHSGTrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon,1939
  • TDHSTransactionsof the Denbighshire Historical Society, 1952
  • THSCTheTransactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1892/3
  • TLlMG.J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948)
  • TYP3Rachel Bromwich (ed.), Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (third ed., Cardi, 2006)
  • WATU Melville Richards, Welsh Administrative and TerritorialUnits (Cardi, 1969)
  • WBOnlineWelsh Biography Online <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • WCDP.C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 (Aberystwyth, 1993)
  • WGJ. Morris Jones, A Welsh Grammar (Oxford, 1913)
  • WG1P.C.Bartrum, Welsh Genealogies AD 300-1400 (Cardiff, 1974)
  • WG2P.C. Bartrum, Welsh Genealogies AD 1400-1500 (Aberystwyth, 1983)
  • WHRThe Welsh History Review, 1960-
  • WMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), The White Book Mabinogion (Pwllheli,1907; adargraffiad, Caerdydd, 1973)
  • WyLlawysgrif yng nghasgliad Wynnstay, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Wynnstay collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • YBJ.E. Caerwyn Williams (gol.), Ysgrifau Beirniadol, (Dinbych, 1965 )
  • YBHMorgan Watkin (gol.),Ystorya Bown de Hamtwn, (Caerdydd, 1958)
  • YCM2Stephen J. Williams (gol.), Ystorya de Carolo Magno (ail arg.,Caerdydd, 1968)
  • YER. Iestyn Daniel (gol.), Ymborth yr Enaid (Caerdydd, 1995)
  • YEPWCGruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (Caerdydd, 1986)
  • YGIVGwilymLloyd Edwards (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Caerdydd, 1999)
  • YMThA.O.H. Jarman (gol.), Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (Caerdydd, 1951)