Y llawysgrifau
Cadwyd testun o’r gerdd ddychan hon i Guto, neu rannau ohoni, mewn 56 o lawysgrifau. Mae ei thraddodiad llawysgrifol bron yn unffurf ag eiddo cerdd Syr Rhys (cerdd 101a), gan fod y ddwy gerdd wedi eu cofnodi ynghyd ymron ym mhob llawysgrif (yr unig eithriadau yn achos y gerdd hon yw Ba (M) 9 a LlGC 13078E, ond ni bu’n rhaid pwyso ar dystiolaeth y llawysgrifau hynny wrth lunio’r golygiad; gw. y stema; noder na fu’n bosibl adlewyrchu dyddiadau’r llawysgrifau yn y stema oherwydd prinder gofod). Mae’n eglur, felly, fod y ddwy gerdd yn cylchredeg ynghyd o gyfnod cynnar, ac mae prinder amrywio o ran trefn llinellau yn awgrymu na chawsant eu traddodi gan draddodiad llafar esgeulus (noder nad yw hynny’n sail i gredu na chawsant eu traddodi gan draddodiad llafar da, a gall fod testun BL 14882 yn deillio o draddodiad felly). Fodd bynnag, ni ellir dibynnu’n llwyr ar dystiolaeth unrhyw lawysgrif unigol nac ychwaith gasgliad o lawysgrifau y bernir eu bod yn deillio o ffynhonnell goll. Rhoddwyd ystyriaeth lawn i dystiolaeth debygol pob ffynonnell goll wrth lunio’r testun golygedig, ynghyd â thystiolaeth dwy lawysgrif na ellir eu cysylltu’n agos ag unrhyw lawysgrif arall, sef LlGC 3057D a LlGC 16129D. Yn amlach na pheidio dilynwyd tystiolaeth mwyafrif y llawysgrifau, ac ni thrafferthwyd nodi hynny bob tro yn y nodiadau isod.
Llinellau 1, 21, 29–30, 31, 35–6, 41, 44 a 57 a darnau o linellau 6, 7, 12, 15, 24, 33, 47, 53, 65 a 67 yn unig a geir yn Llst 55, cwpled cyntaf y gerdd yn unig yn Pen 221, llinellau 7–8 yn unig yn LlGC 31078E a llinellau 23–4, 27–8, 37–44, 47–52 yn unig yn Ba (M) 9.
Trawsysgrifiadau: BL 14969, Brog I.2, LlGC 3049D, LlGC 3057D a LlGC 17114B.
3 eniwed Dilynir y ffurf a geir ym mwyafrif y llawysgrifau. Cf. C 2.202, LlGC 3057D a LlGC 21290E aniwed, CM 27 a niwaid (gw. GPC 1217 d.g. eniwed).
5–6 Ni cheir y cwpled hwn yn LlGC 16129D.
6 Llanegwestl Gthg. X2, X4, X6 a nifer o lawysgrifau X1 Llynegwestl. Yn LlGC 5269B a LlGC 17114B yn unig y ceir Egwystl.
7 gwerthu Y tebyg yw mai darlleniad y golygiad a olygir wrth gwerthy yn LlGC 3057D, yn hytrach na gwerth y, a geid yn X7 ac X8.
10 i’m Gthg. yn mewn rhai llawysgrifau, ond ni cheir lle i gredu bod y darlleniad hwnnw mewn unrhyw ffynhonnell goll.
12 y Dilynir CM 27, X4, X5 a rhai o lawysgrifau X1. Collwyd y fannod o’r llawysgrifau eraill, o bosibl yn sgil cyfrif gwayw yn ddeusill. Ond gair unsill ydyw gan amlaf yng ngwaith Guto, a byddai rhag gwayw yn achosi calediad a ddifethai’r gynghanedd.
13 Syr Rys Ceir syr rys mewn nifer o lawysgrifau, ond mae diffyg cysondeb yn orgraff y llawysgrifau’n gyffredinol o ran r a rh yn ei gwneud yn anodd iawn dweud i sicrwydd beth a geid yn y gynsail. Fodd bynnag, disgwylid r- gan fod Rys ar yr acen ac yn ateb -r yn ail ran y llinell. Ymhellach, gw. Syr Rhys.
14 ’y Gthg. fy mewn rhai llawysgrifau, ond ni cheir lle i gredu bod y darlleniad hwnnw mewn unrhyw ffynhonnell goll.
17–18 Ni cheir y cwpled hwn yn C 2.202.
17 Gwir fu, ni bu gywir fo Gthg. ailgyfansoddi yn LlGC 16129D gorfu im fal i gwur fo.
19 ‘Pasio yr wyd,’ heb Syr Rys Gthg. LlGC 3057D, X2 ac X4 ‘Pasio’r wyd,’ heb y Syr Rys. Noder nad y fannod a geir o flaen enw’r bardd eithr perthyn i’r ferf (gw. TC 3n2). Ond dilysir darlleniad y golygiad gan y gynghanedd, oherwydd rhaid wrth effaith s- ar -b er mwyn creu calediad i ateb p- yn hanner cyntaf y llinell (gw. CD 211–12).
21 dy dda’n ddyun Ni cheid dy yn nhestunau X1, X2, X4 nac X7, a gellid dda yn ddyun. Dilynir mwyafrif y llawysgrifau. O ran ’n ddyun, dilynir X6 ac X8, a ategir gan X4 ddihvn (a nodir mewn enghreifftiau yn GPC 1150 d.g. dyun er nas nodir yn ffurf amrywiol ar y gair). Mae’n debygol iawn mai ddyvn a geid yn y gynsail, a gamddeallwyd yn BL 14882, LlGC 16129D ac X2 ddyfyn, BL 31061 ddifwyn, LlGC 3057D ac X5 iddyn, LlGC 17114B di ddvn ac X7 i’th ddilyn. Sylwer y ceir dyfyn a dyfvn yn lle (neu i ddynodi) dyun gan rai llawysgrifau yn achos un o linellau Dafydd ap Gwilym yn ei gywydd i’r wylan (gw. DG.net 45.15, yr amrywiadau).
22 N’ad dim o hwn yt dy hun Gthg. C 2.202 ac X8 na ad ti hwn it dy hyn, LlGC 3057D nad tim eiddot dy hyn, LlGC 6681B nad tim o honot tyhvn a LlGC 17114B nad tim hono yt dy hvn. Mae’r cyntaf yn ddeniadol, ond ni cheir digon o dystiolaeth o’i blaid. Aeth hwn yn hwy yn X5.
23–4 Ni cheir y cwpled hwn yn LlGC 17114B.
23 chawn Gthg. LlGC 3057D, LlGC 6681B, LlGC 16129D, X5, X7 a rhai o lawysgrifau X8 chai. Bernir bod darlleniad y golygiad yn cyd-fynd â doniolwch crafog y cywydd gan ei fod yn datgelu trachwant Syr Rhys.
25–6 Ni cheir y cwpled hwn yn LlGC 16129D.
25 Rhôi ym benyd, rhwym boenau Gall fod darlleniad Lewys Dwnn yn BL 31061 Rroin benyd dwyn Rawn boenav wedi ei ddylanwadu gan linell o gywydd Guto i ofyn dau filgi gan Robert ab Ieuan Fychan ar ran Sieffrai Cyffin (gw. 100.55 Rhoi’n benyd dwyn rhawn beunydd), er ni cheir copi o’r gerdd honno yn ei law ef.
29 phrofais Gthg. LlGC 16129D a rhai o lawysgrifau X8 ffrostiais (gw. GPC 1317 d.g. ffrostiaf ‘ymffrostio, brolio’), a rhai o lawysgrifau X5 ffrwythais.
34 O ŵr blysgar a bloesgi Gthg. LlGC 3057D a LlGC 16129D O’r blysgar ŵr a bloesgi, a cheid darlleniadau digon carbwl yn X5 ac X8.
39 ym ydd Gthg. BL 31061, C 2.202, X1, X2 ac X6 yma. Ceir gwell ystyr yn narlleniad y golygiad.
41 ber Gthg. BL 31061, LlGC 16129D ac X1 bir.
43–4 Ni cheir y cwpled hwn yn BL Stowe 959.
49–50 Ni cheir y cwpled hwn yn BL 14882, LlGC 17114B nac X5.
50 Mi ac ef ym ogyfoed Gthg. LlGC 3057D mi a gaf ym ogyfoed.
53–6 Ni cheir y llinellau hyn yn BL Stowe 959.
54 thery’r croen Gthg. X5 thery’r cranc.
57 drygioni Ffurf gysefin y gair a geir ym mwyafrif helaeth y llawysgrifau cynharaf. Yn ôl TC 186 ceid rhyw fath o ‘reol lenyddol’ a ganiatái cadw’r gysefin yn dilyn gwnaeth. Gthg. hefyd LlGC 3057D ym gyni, LlGC 16129D yn gyni a nifer o lawysgrifau X5 digoni.
58 somes Dilynir y ffurf ar y gair a geir ym mwyafrif y llawysgrifau. Cf. siomes mewn llawysgrifau eraill (gw. GPC 3287 d.g. siomaf).
59 ei haddef Dilynir mwyafrif y llawysgrifau, sef X1, X2, X6 ac X7, a ategir gan LlGC 17114B i daddef. Gthg. LlGC 3057D, LlGC 16129D ac X4 yw addef, X5 oedd addef (carbwl yw darlleniad BL 31061).
60 ar groes Ansicr. Dilynir LlGC 16129D, X9 a rhai o lawysgrifau X8, a ategir, o bosibl, gan LlGC 17114B ar y groes. Ceir ar y groes, a llinell wythsill o ganlyniad, ym mwyafrif helaeth y llawysgrifau eraill (cf. X4 yn y groes), a’r tebyg yw mai’r darlleniad hwnnw a geid yn y gynsail, yn gam neu’n gymwys. Nid yw’r ystyr yn colli dim o hepgor y fannod, a thybed ai ychwanegiad ydoedd o’r cychwyn yn sgil enwogrwydd a phwysigrwydd y groes sanctaidd?
62 bugelydd Dilynir y ffurf luosog ar y gair a geir ym mwyafrif y llawysgrifau. Cf. X4 a rhai o lawysgrifau X8 bugeilydd (gw. GPC 347 d.g. bugail).
63 gelc afraid Gthg. LlGC 3057D ac X8 glec afraid, LlGC 16129D, LlGC 17114B a rhai o lawysgrifau X5 gael cyfraid.
63–4 Ni cheir y cwpled hwn yn BL Stowe 959.
66 drwy’r ên Dilynir, yn betrus, fwyafrif y llawysgrifau. Gthg. C 2.202, LlGC 3057D, LlGC 16129D, LlGC 17114B, X4 ac X8 drwy’i ên.
Ymateb Guto yw’r gerdd hon i gywydd dychan (cerdd 101a) a ganodd Syr Rhys iddo. Cyfeirir yn frysiog at arglwydd … / Llynegwestl yn rhan gyntaf y gerdd (llinellau 1–18), heb enwi’r abad ei hun, ac at haint a rwystrodd y bardd rhag treulio’r Nadolig yng Nglyn-y-groes. Dywed Guto ei fod wedi troi at Rys am ymgeledd ysbrydol a chorfforol, a bod Rhys wedi ymateb drwy ei annog i fod yn hael â’i arian ac i wario ar fwyd tra oedd yn dal yn fyw (19–28). A chofio bod Rhys yn fardd-offeiriad, mae’n debygol y byddai gwŷr crefyddol yr oes yn aml yn annog pobl i beidio â bod yn gybyddlyd. Camp Guto yw cyhuddo Rhys o geisio elwa’n bersonol ar ei anhwylder drwy wledda yn ei gwmni a honni mai felly’n unig y câi Guto fynediad i’r nefoedd. Treuliodd Rhys y Nadolig yng nghartref Guto, gan loddesta ar y bwyd safonol a meddwi’n gaib (29–42). Yn ôl Guto, maint y ddiod a yfodd Rhys a barodd iddo ddwyn sen ar y ddarpariaeth yng nghartref Guto a’i wraig, ac mae Guto’n mynd rhagddo i ateb rhai o’r cyhuddiadau a wnaeth yn ei erbyn (43–68). Mae Guto, yn ei dro, yn bwrw sen ar offeiriadaeth Rhys ac yn cloi’r gerdd drwy fygwth mynd ag ef i gyfraith.
Perthyn y gerdd hon i genre y gerdd ddychan ac mae’n enghraifft nodedig o gerdd ddychan sy’n perthyn i is-genre y gerdd ddychan i fardd neu gerddor sy’n cynnwys mawl i noddwr. Yn wir, roedd yn gerdd boblogaidd iawn gyda chopïwyr diweddarach a diau ei bod yr un mor boblogaidd yn ystod y bymthegfed ganrif, i’r graddau ei bod yn bosibl mai’r gerdd hon a ysgogodd gerddi eraill tebyg gan feirdd-offeiriaid. Canodd Syr Lewys Meudwy a Syr Phylib Emlyn, dau fardd-offeiriad o Ddeheubarth, gerddi dychan i’w gilydd ar destun ‘byrddio’ (sef ‘lletya, rhoi bwyd a llety, cael bwyd a llety’, gw. GPC 365 d.g. byrddiaf 1; GPhE cerddi 3 a 6). Y bardd a ddarparodd y wledd, sef Lewys, a fwriodd y cwch i’r dŵr yn yr ymryson hwnnw, ond yr un yw’r cyhuddiadau a leisir, sef bod ei westai wedi manteisio ar ei letygarwch gan gneifio’r bwrdd a llowcio’n ddi-dâl bob darn o fwyd a gynigiwyd iddo. Atebodd Phylib mai bychan, mewn gwirionedd, oedd yr arlwy a gafodd ac mai aflwyddiannus fu ymdrech Lewys i bardduo ei enw da. Canodd bardd-offeiriad arall, Syr Siôn Leiaf, gywydd dychan i Guto, Hywel Grythor a Gwerful Mechain am fanteisio ar letygarwch Rhisiart Cyffin, deon Bangor, lle disgrifir y tri fel tair gormes yn llys y deon (gw. 101a.61–2n). Mae’r ffaith fod Syr Rhys, Syr Lewys, Syr Phylib a Syr Siôn Leiaf yn feirdd-offeiriaid yn awgrymu mai yng ngwaith y beirdd amatur hynny y datblygodd yr is-genre ymrysongar hwn, o bosibl yn sgil enwogrwydd cywydd Rhys i Guto.
Faint o wirionedd a geir yn y storïau lliwgar sy’n sail i gywyddau Rhys a Guto? Gwyddys fod Guto wedi bod yn fwrdais yng Nghroesoswallt ac iddo gynnal cyswllt agos ag abaty Glyn-y-groes, yn arbennig tua diwedd ei oes. At hynny, nid yw’r cyfeiriadau a geir yn rhai o’i gerddi at ei anhwylderau corfforol yn anghydnaws â’r sôn am haint yn ei rwystro rhag cyrchu’r abaty. Gellir yn hawdd gredu bod Guto’n anhwylus un Nadolig a’i fod wedi methu bod yn bresennol mewn gwledd yng Nglyn-y-groes, a bod Rhys wedyn wedi gweld ei absenoldeb fel cyfle i ganu cerdd ddychan iddo. Mae’r cyfeiriad at Ŵyl Ystwyll (6 Ionawr) yng nghywydd Rhys (101a.27n) yn awgrymu’n gryf na chafodd y gerdd ei chanu ar ddiwrnod Nadolig ac mai rhan ydoedd o hwyl y gwyliau yng Nglyn-y-groes yn dilyn y brif ŵyl. O ran gweddill yr hanes am y wledd wachul a gynhaliodd Guto yn ei gartref ac ymddygiad gwarthus Rhys pan fu’n westai iddo, mae’n fwy tebygol fod y cyfan yn ffrwyth dychymyg y ddau fardd ac yn seiliedig ar gonfesiynau dychan. Yn hynny o beth, gall fod yr elfen ddychmygus yn arddel rhyw fath o berthynas â thestunio yn nefod chwareus y cyff clêr, er mai niwlog iawn yw union natur y berthynas honno (gw. Hunter 1997: 49–52).
Mewn cywydd i Sieffrai Cyffin a’i wraig Siân mae Guto’n cyfeirio at yr honiadau a wnaeth Rhys yn ei erbyn (97.25–8):
Ni chredai Sieffrai na Siân
Fod i hen fwyd ei hunan,
Os y rhain a gred Syr Rys,
A ddyfalai wledd felys.
Cyfeirir at agwedd wrth-ddinesig Rhys, megis ei ddisgrifiad o’r arlwy a ddarparodd Guto, Bara disyml, bwrdeisiaidd (101a.16n), a’r gwrthgyferbiad cynnil rhwng y bwth (39) israddol yn y dref a nef … / Llanegwestl yn y tir gwledig uwch Caer (43–4, 49). Yn anffodus, yn wahanol i Wiliam Llŷn a Rhys Cain, y gwyddys iddynt fyw ar wahanol adegau mewn tŷ yn Wolliowe Streate (Stryd Willow heddiw, gw. Huws 1973–4: 147–8), nid ymddengys fod gwybodaeth ynghylch lleoliad cartref Guto yng Nghroesoswallt wedi goroesi.
‘Pa ryw glwyf’?
Pa afiechyd y bu Guto’n dioddef ohono ac a fu’n sail i’r ymryson? Dyma’r cwestiwn a ofynnir yn llinellau agoriadol cywydd Syr Rhys, ac mae’n werth dyfynnu ei ateb yn llawn (101a.3–10):
Am gynnal fal mwg ennaint
Gŵyl ei hun mae’n gul o haint.
Doluriau llechau a’i lladd
O dra newyn drwy’i neuadd.
Gan enwyn y gwenwynodd
Lle bu’r ŵyl oll heb ei rodd.
Yn gyntaf dywed fod Guto wedi colli pwysau yn sgil haint (cf. 101a.26 annair gul, 30 cerbyd cau). Yna cyfeirir at [dd]oluriau llechau, sef naill ai ryw anhwylder cyffredinol neu afiechyd penodol, megis ‘rickets’ neu glwy’r pennau. Fel y trafodir yn 101a.7n, mae’n hynod o annhebygol fod Guto’n dioddef o ‘rickets’ neu o glwy’r pennau, a gall fod Rhys yn gor-ddychan yn fwriadol yma. Wedyn dywed nad [t]ra newyn yn unig a achosodd yr afiechyd eithr bod Guto wedi ei wenwyno ei hun ac eraill gyda llaeth enwyn. Dwg hyn i gof rai o linellau agoriadol cywydd mawl Guto i dref Croesoswallt (102.5–9):
A garo physygwriaeth
I gylla oer, drwg yw llaeth;
Iachach i gleiriach y glêr
Ei botes a’i ddesgl bewter,
Cael gwres trefi dinesig,
Caru’r can a’r cwrw a’r cig.
Gall fod Guto’n cyfeirio’n gyffredinol at afiechyd er mwyn clodfori rhinweddau llesol y dref, ond mae’r cyfeiriad annisgwyl at gylla oer yn awgrymu’n gryf ei fod yn dioddef o boen go iawn yn ei stumog. Nid yw’n gwbl eglur ai dweud y mae fod llaeth afiach wedi achosi poen iddo yn ei stumog ynteu na fyddai’n llesol iddo geisio ei wella ei hun drwy yfed llaeth. Ni waeth beth a olygir mewn gwirionedd, yr un yw’r ergyd yn y pendraw, sef bod digonedd o fwydydd amrywiol yn y dref i’w wneud yn holliach eto. Mae’n ddigon posibl mai’r un anhwylder y cyfeirir ato yng nghywyddau Rhys a Guto, oherwydd gwayw i’m hais (12) yw disgrifiad Guto o’r boen yn ei gywydd ateb. Nid yw’n amhosibl ei fod yn cyfeirio at boen riwmatic yn ei asennau (cf. cwyn am yr afiechyd hwnnw yn ei gywydd i Siân Bwrch o’r Drefrudd, 81.1–6), neu hyd yn oed at dwbercwlosis y croen (lupus vulgaris), a drosglwyddid yn aml drwy laeth gwartheg (gw. Jex-Blake 1915: 116–63), ond poen stumog yn unig sy’n cyd-fynd â’r symptomau a ddisgrifir yn y cywydd i Groesoswallt ac yng nghywydd Rhys. Tybed, felly, a oedd Rhys yn bresennol pan berfformiwyd y gerdd fawl i Groesoswallt yn y dref a bod y cyfeiriad at anfanteision yfed llaeth wedi glynu yn ei feddwl? Gall iddo ddewis cyfeirio at laeth enwyn, yn hytrach na llaeth arferol, er mwyn pwysleisio safon isel yr arlwy yng nghartref Guto. Mae’n debygol nad oedd ansawdd llaeth a geid mewn canolfannau trefol cystal ag ansawdd llaeth mewn ardaloedd gwledig (gw. Hagen 1992: 20):
Buttermilk is slightly thickened and soured by the activity of airborne bacteria during churning, and bacterial cultures may have been perpetuated in the wood of the dairy utensils. Since it has only a short life, it was probably consumed on the farms where the butter was made, although some may have found its way into markets near at hand.
Gwelir yn safbwyntiau’r ddau fardd ddwy agwedd wrthgyferbyniol tuag at ganolfannau trefol yn y bymthegfed ganrif, y naill yn glodforus am fod mwy o amrywiaeth o fwydydd ar gael yno a’r llall yn wrthwynebus am fod mwy o berygl y gallai’r bwydydd hynny bydru a lledu afiechydon.
Dyddiad
Os cywir dyddio cywydd mawl Guto i Sieffrai Cyffin a’i wraig, Siân, c.1465 (gw. nodyn esboniadol cerdd 97), ymddengys fod y gerdd hon a chywydd Syr Rhys wedi eu canu’n fuan o’i flaen, oherwydd ceir yn y cywydd i Sieffrai gyfeiriad at ddychan Rhys i wledd Guto (gw. y dyfyniad uchod).
Golygiad blaenorol
GGl cerdd CIX.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 68 llinell.
Cynghanedd: croes 66% (45 llinell), traws 22% (15 llinell), sain 9% (6 llinell), llusg 3% (2 linell).
2 uchel Yn yr aralleiriad dilynir GPC 3694 d.g. 2 (a) ‘dyrchafedig, pwysig … gwych, ardderchog’, ond gall fod 2 (c) ‘mawr ei bris neu ei werth masnachol, drud, prid’ yr un mor berthnasol.
4 Iâl Cwmwd yng ngogledd Powys lle saif abaty Glyn-y-groes, gw. WATU 94.
4 y Nadolig Ynghyd â’r Pasg a’r Sulgwyn, un o dair prif ŵyl pryd yr ymwelai’r beirdd â’u noddwyr, gw. Parry 1929–31: 32 (llinellau 4–18).
5–6 arglwydd … / Llanegwestl Cyfeirir at Siôn ap Rhisiart, a fu’n abad Glyn-y-groes rhwng c.1455 a 1480, yn ôl pob tebyg. Enw amrywiol yw Llanegwestl ar abaty Glyn-y-groes, ymhellach, gw. 105.44n.
6 Llanegwestl fal llanw eigiawn Cf. Gutun Owain mewn awdl i Siôn ap Rhisiart (gw. y nodyn uchod), GO XIX.36 Yw mawl Llan Egwestl mal llanw eigion.
7 rhydd Gw. GPC 3128 d.g. rhydd1 (g) ‘rhad (ac am ddim), di-dâl, diamod; hael’, ond gall fod (b) ‘heb fod mewn carchar … di-rwystr, dilyffethair … ; agored (i bawb)’ yn fwy perthnasol mewn cyswllt â’r cyfeiriadau at gell yn llinellau 11 a 61 (gw. y nodyn).
8 drwg Fe’i hystyrir yn enw yma (gw. GPC 1087 (a)).
8 er pedwar ugain Aneglur. Y prif anhawster yw bod pedwar ugain yn rhif penodol eithr rhaid ei drin yn rhif delfrydol yn unol â’r ddau ddehongliad mwyaf tebygol. Yn gyntaf, gall mai cyfeiriad at arian ydyw mewn cyswllt â gwerthu cywydd cain yn y llinell flaenorol, ‘gwerthu cywydd cain am bedwar ugain o ddarnau arian’. Ni fyddai pedair ugain ceiniog yn uned arbennig o synhwyrol (chwe swllt ac wyth ceiniog) a go brin ei fod yn dâl cydnabyddedig am gerdd (er mai felly y dehonglwyd llinellau 7–8 y cywydd hwn mewn un fersiwn o Statud Gruffudd ap Cynan, sef eiddo LlGC 13078E (1593–1617), gw. Thomas 2001: 842–3). Byddai pedwar ugain swllt yn swm afresymol o fawr (pedair punt), ond efallai mai uned ddelfrydol o fawr ydyw wedi’r cyfan ac mai’r nod yw pwysleisio gor-haelioni’r abad dros gyfnod o amser. Yn ail, gall mai uned amseryddol ydyw mewn cyswllt ag abadaeth Siôn ap Rhisiart, ‘lle agored ers pedwar ugain o flynyddoedd’, hynny yw, ers amser maith. Os canwyd y gerdd hon c.1465 mae’n bosibl y byddai Siôn wedi bod yn abad er cyfnod sylweddol o ryw bymtheng mlynedd (cf. mawl gan Lewys Glyn Cothi i Siôn ap Dafydd o Gydweli, GLGC 29.9 Draig yw ein teml bedwar ugain tymor). Fodd bynnag, mae cyfeiriad Syr Rhys yn ei gywydd yntau at ragflaenwyr Seisnig yr Abad Siôn (gw. 101a.46n) yn awgrymu fod y beirdd yn dal i gofio nad oedd yr abaty wedi bod yn lle rhydd erioed, felly dilynir y dehongliad cyntaf, gyda pheth petruster.
10 i’m byw Ceir dwy ystyr bosibl yn GPC 369 d.g. byw (fel enw) 1 (a) ‘dyn neu greadur byw’, (b) ‘bywyd … hoedl, einioes … ; ynni, bywiogrwydd’. Gall mai’r ail a olygir mewn perthynas â iechyd Guto (‘er lles fy mywyd’) ond ymddengys fod y cyntaf yn fwy perthnasol mewn cyswllt â’r abad y cyfeirir ato yn llinell gyntaf y cwpled hwn, ac mewn gwrthgyferbyniad rhwng bywiogrwydd yr abad hwnnw a musgrellni’r bardd.
12 ais Ffurf luosog asen yma, ond gall hefyd mai ffurf unigol ydyw (gw. GPC2 498 d.g. asen2).
13 Syr Rys Syr Rhys ap Hywel Dyrnor, y bardd-offeiriad a ganodd gerdd ddychan (cerdd 101a) i Guto.
15 Offisial a chyffeswr Cf. Iolo Goch mewn cywydd i Ieuan, esgob Llanelwy, GIG XVII.15–16 Conffesor, can offisial / Sy i ti, Asa a’u tâl.
18 gafr chwarthor Gw. GPC 845 d.g. chwarthor (a) ‘chwarter; un o bedair rhan corff a chwarterwyd ar ôl ei ddienyddio; darn neu aelod o gig’. Y tebyg yw bod yr ail is-ystyr yn fwy perthnasol yma ac yn dynodi ‘coes’ yn benodol, cf. 41n ber ysgafn, 54n croen a 61 ber rhydd.
19 pasio Gw. GPC 2698 d.g. pasiaf (c) ‘darfod (amdano), dod i ben, trengi, marw’.
20 dyrys Dilynir GPC 1148 d.g. (c) ‘gwyllt … afreolus, aflywodraethus … drygionus’, ond gall fod (b) ‘afrwydd … anodd ei ddeall neu gymhleth … astrus’ yn berthnasol hefyd. Dengys traddodiadau llawysgrifol y ddau gywydd fod safon testunol y naill yn waeth na’r llall, a hynny’n bennaf yn sgil yr amrywio cystrawennol (dyrys) a welir yng nghanu Guto a’r canu plaen a welir yng ngherdd Syr Rhys.
24 nid ai’n iach orig ‘Ni welli am ennyd’ neu, efallai, ‘ni welli ymhen ychydig/yn fuan’.
25 rhwym boenau Gall y sangiad hwn gyfeirio at y ffaith fod haint Guto yn ei gadw’n gaeth yn ei dŷ (fel y gwelir yn yr aralleiriad, gw. GPC 3117 d.g. rhwym1 (a) fel ansoddair), ond gall hefyd mai at y penyd yn y llinell hon a’r llinell nesaf y cyfeirir yn gellweirus (hynny yw, ‘poenau dan orfodaeth’ [yw’r penyd sy’n fy ngorfodi i yfed gwin], gw. ibid. (b)). Posibilrwydd arall yw mai at rwymedd y coluddion y cyfeirir yn sgil cyfeiriad Syr Rhys at Guto’n cnoi penial gnepynnau er mwyn ysgwrio’i gau, gw. ibid. (c), ond ni cheir enghraifft o rhwym yn yr ystyr honno hyd yr ail ganrif ar bymtheg; 101a.17–18.
31 prinsaig ‘Pryd crintachlyd o fwyd’. Nis nodir yn GPC, ond cf. 2892 d.g. prinfyd ‘bywyd o dlodi, caledi, adfyd’.
32 gwas Gwyddys bod gan rai beirdd weision. Roedd gan Ruffudd Gryg was o’r enw Siencyn, a’r tebyg yw mai gŵr o’r enw Bol y Baeol oedd gwas Dafydd ap Gwilym, gw. GGGr 133–8, 6.32n. Gall hefyd fod gan Syr Rhys was cyffelyb neu rywun a’i cynorthwyai yn ei ddyletswyddau crefyddol, ond mae’r cyfeiriadau at dylwyth Rhys yn llinell 30 ac at ei wraig yn y llinell hon yn awgrymu mai mab i Rys oedd y gwas hwn mewn gwirionedd.
33 wtres Berf yma, gw. GPC 3739 d.g. wtresaf ‘bod yn afradlon, byw yn foethus, cyfeddach, gloddesta, gwledda neu yfed (i ormodedd)’. Y tebyg yw mai ‘i ormodedd’ yr wtresodd Syr Rhys ym marn Guto.
33 ar ein traws ni Gall fod traws yn enw (gw. GPC 3561 ‘cyfeiriad, lle, ardal, bro’), ond gwell ystyried y geiriau hyn yn gyfuniad sy’n golygu ‘in defiance of’, gw. ibid.; cf. un o’r enghreifftiau a restrir yno, sef GLGC 100.7–8 Byd ar ein traws a gawsam, / y cais merch casáu ei mam.
34 o Gw. GPC 2606 d.g. o1 4 (a) ‘gan (yn dynodi goddrych neu wrthrych berf flaenorol)’; cf. 41 Er brwysgo o’r ber ysgafn.
34 bloesgi Fe’i hystyrir yn enw yn GPC 289, ond gwell ei ystyried yn ferf yma.
35 cawg Tybed a ddynodai lestr mwy na’r cyffredin o ran maint yn y cyd-destun hwn, gan gyfeirio felly at drachwant Syr Rhys?
37 breua’ ‘Mwyaf bregus, hawdd ei dorri’, gw. GPC 311 d.g. brau 1, hefyd d.g. brau 2 (c) ‘gwych, coeth’.
38 rhyg Cyfeirir at un o gyhuddiadau Syr Rhys yn erbyn Guto (gw. 101a.13–16 Ni cheisiodd gyda chosyn / Fwrw ei gost ar fara gwyn; / Bara rhyg a bawr a’r haidd, / Bara disyml, bwrdeisiaidd).
40 maidd sur Gw. GPC 2322 d.g. maidd ‘hylif melynwyrdd dyfrllyd, sef gloywon llaeth ceuledig y tynnwyd y ceulfran neu’r caws gwyn ohono, gleision, (weithiau) y caws a’r gloywon yn gymysg’. Ymateb, yn ôl pob tebyg, i linellau 27–8 yng nghywydd Syr Rhys (101a): Y glastwr, ddigwyl Ystwyll, / A wna i’r pen na ŵyr pwyll.
41 ber ysgafn Y tebyg yw bod GGl 361 yn gywir i gysylltu’r geiriau hyn â’r disgrifiadau o Syr Rhys yn llinellau 18 gafr chwarthor, 60 [Rh]ys fain ac â ber eto yn llinell 61. Fodd bynnag, bêr a geir yn GGl, sef ‘picell, gwaywffon, paladr’, fel disgrifiad o gorff tenau’r bardd-offeiriad (gw. GPC2 626 d.g. bêr (a)). Ond bernir mai ber a olygid gan Guto, sef ‘coes, esgair, hegl’ (gw. ibid. d.g. ber1), yn unol â’r disgrifiad yn llinell 18 gafr chwarthor ‘coes gafr’, gw. y nodyn.
43 fitelu Cf. ateb Syr Phylib Emlyn i ddychan Syr Lewys Meudwy, GPhE 3.5–6 Haeraist a gyrraist, heb gêl, / Ym fwyta talm o fitel, ymhellach, gw. y nodyn cefndir uchod.
47 rhemwth Ymateb i ddisgrifiad Syr Rhys o Guto, gw. 101a.39–40 Ni phara bara ’n y bwth / Oni rwymir hen remwth.
47–52 Ymateb i agwedd ddilornus Syr Rhys tuag at henaint Guto a’i farusrwydd, gw. 101a.31–6, 36–40, 55 a 59–64.
49 tyfu hoed Gw. GPC 3871 d.g. tyfaf (b) ‘(peri) cynyddu neu ddatblygu, (ym)ffurfio’. Rhydd ‘magu’ yr ystyr orau yma. Ar hoed ‘hiraeth, chwithdod, tristwch’, gw. ibid. 1883 1.
51 od wyf rwth Ar y treiglad, gw. TC 292. O ran [rh]wth, cf. cywydd dychan Syr Lewys Meudwy i Syr Phylib Emlyn, GPhE 6.5–6 Gwerth ei fwyd, go rwth fu’i wib, / A ffelach fu Syr Phylib, 6.34 gylf rhwth, 6.50 mor rhwth yw’r gŵr.
54 croen Gw. GPC 602 d.g. 1 (a) ‘yn ffig. weithiau mewn tafodiaith am berson sarrug neu ddirmygus neu am lipryn main di-gnawd’. Cf. dychan Llywelyn ab y Moel i’w bwrs, GSCyf 11.51 Uffern boen yt, y croen crach.
54 gŵr cryf Ymateb i honiadau Syr Rhys fod Guto wedi colli ei gryfder wrth heneiddio (gw. 101a.31–6).
56 drwg Fe’i hystyrir yn enw yn yr aralleiriad ond gall hefyd fod yn ansoddair, gw. GPC 1087.
58 cyffes Dewis diddorol o air o gofio bod Syr Rhys yn fardd-offeiriad ac yn eglwyswr, offisial a chyffeswr i Guto ei hun (gw. 13–14). Ni raid trin y gair yn ei ystyr grefyddol (fel y gwelir yn yr aralleiriad: ‘addefiad’ [yr hyn a ddywedodd], gw. GPC 729 d.g. cyffes1), ond go brin y byddai cynulleidfa’r gerdd wedi methu’r cyswllt amlwg rhyngddo a phroffesiwn Rhys; try Guto’r berthynas rhyngddo a Rhys ar ei phen yma felly, gan wyrdroi ymosodiadau barddol Rhys arno yn gyffes bersonol, bechadurus y mae’n ddrwg gan Guto ei chlywed.
58 somes Gw. GPC 3287 d.g. siomaf (a) ‘peri siom (i), digio … llesteirio’, (b) ‘twyllo, dichellu … ; cywilyddio, gwarthruddo’. Mae pob un ystyr yn berthnasol ond gall mai’r cyntaf yw’r amlycaf.
59 ei haddef Sef addef ‘cyfaddef … cydnabod … ; datguddio’ y gyffes ‘addefiad’ (58n) a wnaeth Syr Rhys yn erbyn Guto, a hynny i groes fawr (60n), gw. GPC2 72–3 d.g. addefaf.
59 llefain Gw. GPC 2141 d.g. llefaf ‘galw, ymbil’. Ymbil ar groes fawr (60n) a wneir er mwyn unioni’r cam a wnaeth Syr Rhys â Guto.
60 croes fawr Y Groes Sanctaidd, ond un amhenodol, yn sgil absenoldeb y fannod, gw. y nodyn testunol ar y llinell hon.
61 rhydd Y tebyg yw mai GPC 3127 d.g. rhydd1 (b) ‘heb fod mewn carchar … di-rwystr, dilyffethair, diatal’ sy’n gweddu orau yma. Gwrthgyferbynnir y ffaith y gallai Syr Rhys fynd a dod fel y myn a dweud a fynnai â chaethiwed corfforol Guto yn ei gartref adeg gŵyl a’i anallu i ymateb i’r sen a fwriai Rhys arno: cf. yn arbennig linellau 7 lle rhydd (am Lyn-y-groes) a 11–12 Minnau o’r gell ni ellais / Gam hwnt. Y tebyg yw bod GPC 3127 d.g. rhydd1 (e) ‘eofn, hy, beiddgar, digywilydd’ yn berthnasol hefyd.
62 bugelydd Ffurf luosog bugail (gw. GPC 347). Mae’n air da i ddisgrifio Syr Rhys gan ei fod yn cwmpasu ei alwedigaeth grefyddol (gw. ibid. (b) ‘ceidwad eneidiau … ; offeiriad’) a’i alwedigaeth amaethyddol, gw. ibid. (a) ‘ceidwad anifeiliaid megis defaid’. Canodd Rhys gywydd i wyth gŵr a rwystrodd iddo ddefaid yng nghwmwd Cyfeiliog, gw. GMRh cerdd 30; GDLl cerdd 73.
64 ei rhoi Cyfeirir at y [g]yfraith yn y llinell flaenorol (ar rho(dd)i cyfraith ar rywun, gw. GPC 3089).
67 cywyddan Nid ymddengys fod GPC 837 ‘cywydd bychan, canig, cyfansoddiad mydryddol byr’ yn gweddu yma (cwta ddau gwpled yn hwy na chywydd Syr Rhys yw cywydd ateb Guto, cf. 56 [c]ywydd hir). Gwell ystyried y gair yn ffurf fychanol ar cywydd yn y cyd-destun hwn, sef ‘cywydd gwael/is ei safon’.
68 y gist Gw. GPC 484 d.g. cist (a) ‘coffr, blwch, bocs’, (b) ‘arch y marw … coffin’. Gall mai’r ail sy’n gweddu orau yma, ac mai at ddienyddio neu lofruddio awen Syr Rhys yn sgil ei gamwedd y cyfeirir (byddai gwneud hynny gyfystyr â thynnu ei dafod allan, gw. 65–6). Ond cf. [c]uddio (67) mewn perthynas â’r gist â chyfeiriadau at gistiau a ddefnyddir i guddio plant yn chwedlau Math fab Mathonwy a Chulhwch ac Olwen, PKM 77.16–20, 78.3–8 kyrchu y drws a oruc hi [Aranrhod], ac ar hynny adaw y ryw bethan ohonei; a chyn cael o neb guelet yr eil olwc arnaw, Guydyon a’y kymerth, ac a droes llen o bali yn y gylch, ac a’e cudyawd. Sef y cudyawd, y mywn llaw gist is traed y wely … Val yd oed Wydyon diwarnat yn y wely, ac yn deffroi, ef a glywei diaspat yn y gist is y draet. Kyny bei uchel hi, kyuuch oed ac y kigleu ef. Sef a oruc ynteu, kyuodi yn gyflym, ac agori y gist. Ac ual y hegyr, ef a welei uab bychan yn rwyuaw y ureicheu o blyc y llen, ac yn y guascaru; CO3 17.468–70 Ym penn gwers, pan at pawb eu damsathyr, agori kib a oruc y wreic [gwraig Custennin Heusor] yn tal y pentan, a chyuodi gwas pengrych melyn oheni. Ar cib ‘blwch’, gw. GPC 475 d.g. (a), cf. Davies 2007: 191 ‘coffer’. Dengys y cwpled olaf hwn yr ystyrid cywydd yn beth diriaethol a ysgrifennid ar bapur yn ogystal â haniaethol a leferid (cf. 65–6).
Llyfryddiaeth
Davies, S. (2007), The Mabinogion (Oxford)
Hagen, A. (1992), A Handbook of Anglo-Saxon Food: Processing and Consumption (Chippenham)
Hunter, J. (1997), ‘Cyd-destunoli Ymrysonau’r Cywyddwyr: Cipolwg ar “yr Ysbaddiad Barddol” ’, Dwned, 3: 33–52
Huws, D. (1973–4), ‘Wiliam Llŷn, Rhys Cain a Stryd Wylyw’, Cylchg LlGC 18: 147–8
Jex-Blake, A.J. (1915), Tuberculosis: a General Account of the Disease (London)
Parry, T. (1929–31), ‘Statud Gruffudd ap Cynan’, B xx: 25–33
Thomas, E.G. (2001), ‘Astudiaeth Destunol o Statud Gruffudd ap Cynan’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Williams, D.H. (2001), The Welsh Cistercians (Leominster)
This poem is Guto’s reply to Syr Rhys’s satirical poem (poem 101a). In the first part of the poem Guto briefly mentions arglwydd … / Llynegwestl ‘the lord of Llynegwystl’ (lines 1–18), although the abbot himself is not named, and refers to a disease which prevented him from attending a Christmas feast at Valle Crucis. He declares that he turned to Rhys for both spiritual and physical care, and that Rhys responded by urging him to be generous with his money whilst he was still alive and to spend it on food (19–28). Rhys was a poet-priest who would in all likelihood have often discouraged people from being miserly as part of his ecclesiastical duties. Guto shows his cunning by accusing Rhys of attempting to benefit personally from his ailment by feasting in his house, and then claiming that this was the only means by which Guto could enter heaven. Rhys spent Christmas with Guto by feasting unceremoniously on the sumptuous food and getting blind drunk (29–42). Guto argues that it was the sheer volume of alcohol that Rhys had drunk that caused him to satirize both Guto’s and his wife’s feast, and Guto then takes some of Rhys’s accusations against him to task (43–68). Guto, in his turn, satirizes Rhys’s priesthood and concludes the poem by threatening to take legal proceedings against him.
This poem belongs to the genre of satire poetry and is a notable example of a satirical poem which belongs to a subgenre of satire poetry for a poet or a musician that includes praise for a patron. Indeed, as it was a very popular poem with later scribes and was doubtless as popular in its own day, it is possible that it inspired other similar poems by poet-priests. Syr Lewys Meudwy and Syr Phylib Emlyn, two poet-priests from Deheubarth, composed satirical poems to each other based on the custom of byrddio ‘boarding’ (see GPC 365 s.v. byrddiaf 1; OED Online s.v. board 9 (a) ‘To have stated meals as a lodger at another person’s house; to be supplied with food and lodging at a fixed rate’; GPhE poems 3 and 6). In that case, the poet who provided the feast, namely Lewys, was the first to strike, yet the greviances are generally the same, namely that his guest had taken advantage of his hospitality by figuratively shearing the table and devouring every morsel of food offered to him without paying. Phylib replied that Lewys’s fare was in fact quite meagre and that his fellow-poet’s attempts at defiling his good name were less than successful. Another poet-priest, Syr Siôn Leiaf, composed a satire for Guto, Hywel Grythor and Gwerful Mechain for taking advantage of the generosity of Rhisiart Cyffin, dean of Bangor, where the trio are described as three oppressions in the dean’s house (see 101a.61–2n). The fact that Syr Rhys, Syr Lewys, Syr Philyb and Syr Siôn Leiaf were poet-priests suggests that it was in their work that this contentious subgenre was first developed, possibly as a result of Rhys’s poem.
How much of the colourful stories upon which both Rhys’s and Guto’s poem are based can be said to be true? It is known that Guto was at one time a burgess in Oswestry and that he was closely associated with Valle Crucis abbey, especially towards the end of his life. Furthermore, references in some of his poems to his physical ailments seem to complement the reference to an illness which prevented him from journeying to the abbey. It is certainly believable that Guto was ill over Christmas and that he was unable to be present at a feast in Valle Crucis, and that Rhys saw this as an opportunity to compose a humorous satire. The reference in Rhys’s poem (101a.27n) to the feast-day of Epiphany (6 January) suggests strongly that the poem was performed after Christmas day as part of the Christmas festivities at Valle Crucis during the following days and weeks. As for the rest of the story concerning both the feeble feast held by Guto in his home and Rhys’s disgraceful behaviour as his guest, it was more than likely almost entirely conjured up in the poets’ imagination and based upon the conventions of satire. In that sense, the imaginary element may be connected to the imaginative testunio ‘satirizing’ of the bardic custom known as cyff clêr ‘minstrels’ butt of ridicule’, although the exact nature of the connection remains unclear (see Hunter 1997: 49–52).
In a poem to Sieffrai Cyffin and to his wife, Siân, Guto refers specifically to Rhys’s derogatory assertions (97.25–8):
Ni chredai Sieffrai na Siân
Fod i hen fwyd ei hunan,
Os y rhain a gred Syr Rys,
A ddyfalai wledd felys.
‘Sieffrai and Siân wouldn’t believe / that an old man had his own food / if they were to believe Syr Rhys, / who mocked a delicious feast.’
Guto refers to Rhys’s anti-urban point of view, such as his description of Guto’s fare, Bara disyml, bwrdeisiaidd ‘plain bread befitting a burgess’ (101a.16n), and in the subtle contrast between the inferior bwth ‘booth’ (39) in the town and nef … / Llanegwestl ‘the heaven of Llanegwystl’ in the countryside above Chester (43–4, 49). Unfortunately, unlike the poets Wiliam Llŷn and Rhys Cain, who are known to have lived at different times in a house in Wolliowe Streate (Willow Street, see Huws 1973–4: 147–8), it seems unlikely that evidence has survived concerning the location of Guto’s home in Oswestry.
‘Pa ryw glwyf’ ‘What sort of disease’?
Guto’s illness was used as the basis of both debate poems, yet what sort of illness was it? This question is asked in the opening lines of Syr Rhys’s poem, and it is worth quoting his answer in full (101a.3–10):
Am gynnal fal mwg ennaint
Gŵyl ei hun mae’n gul o haint.
Doluriau llechau a’i lladd
O dra newyn drwy’i neuadd.
Gan enwyn y gwenwynodd
Lle bu’r ŵyl oll heb ei rodd.
‘As a result of holding a feast on his own / like steam from a bath he is lean with disease. / The pain of hard swelling is what kills him / because of a great famine throughout his hall. / With buttermilk did he poison everyone / where he was without his gift at the feast.’
First, Rhys states that Guto had lost weight because of a haint ‘disease’ (cf. 101a.26 annair gul ‘a lean heifer’, 30 cerbyd cau ‘clumsy, empty fellow’). Secondly, he refers to doluriau llechau ‘hard swelling’, either some common illness or a specific ailment, such as rickets or mumps. As is discussed in 101a.7n, it is highly unlikely that Guto is suffering from rickets or mumps, and Rhys may be over-satririzing here on purpose. He then mentions that it was not simply [t]ra newyn ‘great famine’ alone that caused the illness, but that Guto had poisoned himself and others with buttermilk. This seems to echo lines from the beginning of Guto’s praise poem for Oswestry (102.5–9):
A garo physygwriaeth
I gylla oer, drwg yw llaeth;
Iachach i gleiriach y glêr
Ei botes a’i ddesgl bewter,
Cael gwres trefi dinesig,
Caru’r can a’r cwrw a’r cig.
‘Milk is bad for one who desires medicine / for a cold stomach; / healthier for a decrepit old man of the minstrels / is his potage and pewter dish, / to have the warmth of noble towns, / to desire the white bread, the beer and the meat.’
Guto may have been referring to illness in a general sense as an undesirable condition in order to praise the town’s beneficial qualities, yet the unexpected reference to a [c]ylla oer ‘cold stomach’ suggests strongly that he was suffering from an actual pain in his stomach. It is unclear whether he is stating that some unhealthy milk had caused him stomach-ache or that it would be unwise for him to better himself by drinking milk. Either way, Guto reaches the same conclusion, namely that the town has plenty of food for him to recover. It seems likely that the same illness is referred to in both Guto’s and Rhys’s debate poems, for Guto describes it as gwayw i’m hais ‘sharp pain in my ribs’ (12). He may be referring to rheumatic pain in his ribs (cf. a possible reference to the disease in Guto’s poem for Joan Burgh of Wattlesborough, 81.1–6) or even to tuberculosis of the skin (lupus vulgaris), which was often transmitted through cow’s milk (see Jex-Blake 1915: 116–63), yet stomach pain is the only illness which corresponds to the symptoms described in both the poem to Oswestry and Rhys’s poem. Did Rhys therefore witness the performing of Guto’s praise poem to Oswestry and that Guto’s references to the disadvantages of drinking milk had stayed in his mind? He may have chosen to refer to enwyn ‘buttermilk’ instead of normal milk in order to emphasize the sub-standard nature of Guto’s feast. It is likely that the quality of milk in urban centres was inferior to milk in rural areas (see Hagen 1992: 20):
Buttermilk is slightly thickened and soured by the activity of airborne bacteria during churning, and bacterial cultures may have been perpetuated in the wood of the dairy utensils. Since it has only a short life, it was probably consumed on the farms where the butter was made, although some may have found its way into markets near at hand.
Both poets’ points of view embody two contrasting attitudes towards urban centres in the fifteenth century, one full of praise since urban centres provided a wide variety of food, and the other derogatory since there was more risk that food could putrify and spread disease in an urban environment.
Date
Assuming that Guto’s poem for Sieffrai Cyffin and his wife, Siân, was composed c.1465 (see the explanatory note for poem 97), it seems that both the present poem and Syr Rhys’s poem were composed a short time previously, for the poem to Sieffrai contains references to Rhys’s satire of Guto’s feast (see the quotation above).
The manuscripts
This poem (or at least parts of it) has survived in 56 manuscripts. Its manuscript tradition is almost identical to Syr Rhys’s poem (poem 101a), for both poems were copied together in almost every source and probably circulated together from a very early period. However, it is not possible to rely on the evidence of one single manuscript, and almost every group of manuscripts were consulted in the forming of this edition. Special attention was given to BL 14969, Brog I.2, LlGC 3049D, LlGC 3057D and LlGC 17114B.
Previous edition
GGl poem CIX.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 68 lines.
Cynghanedd: croes 66% (45 lines), traws 22% (15 lines), sain 9% (6 lines), llusg 3% (2 lines).
2 uchel The translation follows GPC 3694 s.v. 2 (a) ‘exalted, important … excellent, noble’, yet 2 (c) ‘high-priced, expensive, dear’ is also relevant.
4 Iâl A commote in north Powys where Valle Crucis abbey is located, see WATU 94.
4 y Nadolig Along with Easter and Whitsunday, Christmas was one of the three main feasts during which poets could visit their patrons, see Parry 1929–31: 32 (lines 4–18).
5–6 arglwydd … / Llanegwestl ‘The lord of Llanegwystl’, namely Siôn ap Rhisiart, abbot of Valle Crucis between c.1455 and 1480, in all likelihood. The name Llanegwestl is a variant form of the name of Valle Crucis abbey, see further 105.44n.
6 Llanegwestl fal llanw eigiawn ‘[A feast at] Llanegwystl like the influx of the sea’. Cf. Gutun Owain in a poem to Siôn ap Rhisiart (see the note above), GO XIX.36 Yw mawl Llan Egwestl mal llanw eigion ‘[renowned] is the praise for Llanegwystl like the influx of the sea’.
7 rhydd See GPC 3128 s.v. rhydd1 (g) ‘free, gratis, without charge or condition; generous’, yet (b) ‘free (from detention, imprisonment, &c.) … unrestricted, unrestrained; open (to all)’ may be more relevant in connection with the references to a [c]ell ‘cell’ in lines 11 and 61 (see the note).
8 drwg ‘Injury’, a noun in this context (see GPC 1087 (a)).
8 er pedwar ugain The meaning is unclear. The main difficulty is that although pedwar ugain ‘eighty’ (literally ‘four twenties’) is a specific number it must be treated as an ideal numerical in the two most likely interpretations. First, it may be a reference to money in connection with gwerthu cywydd cain ‘selling a fine cywydd’, therefore ‘selling a fine cywydd for eighty coins’. Eighty pence would not have been a particularly sensible unit of money (six shillings and eight pence) and it seems somewhat inadequate as a payment for a poem (even though lines 7–8 are interpreted thus in one version of Statud Gruffudd ap Cynan, namely LlGC 13078E (1593–1617), see Thomas 2001: 842–3). Eighty shillings would have been an unreasonably large amount (four pounds), yet it may simply have been intended as an ideally large amount of money in order to emphasize the abbot’s generosity over a period of time. Secondly, it may be a unit of time in connection with Siôn ap Rhisiart’s abbacy, ‘an open place since eighty years’, or, in other words, since a very long time. Assuming that this poem was composed c.1465, it is possible that Siôn had been abbot for a significant period of about fifteen years, cf. Lewys Glyn Cothi’s poem for Siôn ap Dafydd of Cydweli, GLGC 29.9 Draig yw ein teml bedwar ugain tymor ‘Our temple is a dragon for eighty seasons’. Nonetheless, as Syr Rhys’s reference in his poem to Abbot Siôn’s English predecessors (see 101a.46n) suggests that the poets could still remember a time when the abbey was not necessarily a lle rhydd ‘open place’, the first interpretation is tentatively followed here.
10 i’m byw There are two possible meanings, following GPC 369 s.v. byw (as a noun) 1 (a) ‘a living person or soul’, (b) ‘living … lifetime; energy, vigour, vitality’. Although it is possible that Guto used the second meaning (‘for the sake of my life’), the first seems more appropriate in connection with both the abbot who is referred to in the first line of this couplet and with the contrast between the abbot’s healthy state and the poet’s feebleness.
12 ais A plural form of asen ‘rib’ here, although it could possibly be a singular form (see GPC2 498 s.v. asen2).
13 Syr Rys Syr Rhys ap Hywel Dyrnor, the poet-priest who composed a satirical poem (poem 101a) for Guto.
15 Offisial a chyffeswr ‘An official and a confessor’. Cf. Iolo Goch in a poem for Ieuan, bishop of St Asaph, IGP 17.15–16 Conffesor, can offisial / Sy i ti, Asa a’u tâl ‘a confessor, a hundred officials are yours, Asaph will pay them’.
18 gafr chwarthor ‘Leg of a goat’. See GPC 845 s.v. chwarthor (a) ‘quarter; one of the parts of a body quartered after execution; leg, saddle or joint (of meat)’. In all likelihood the second sub-meaning is more relevant here and denotes ‘a leg’ specifically (cf. 41n ber ysgafn ‘slight shank’, 54n croen ‘a lean weakling’ and 61 ber rhydd ‘free shank’).
19 pasio See GPC 2698 s.v. pasiaf (c) ‘to pass (away), come to an end, expire, die’.
20 dyrys See GPC 1148 s.v. (c) ‘wild, unruly, unmanageable … mischievous’, although (b) ‘intricate … complicated, perplexing’ may also be relevant. The manuscript traditions of both Guto’s and Syr Rhys’s poems show that the latter was inferior to the former in terms of textual quality, mainly because Guto’s poem is more syntactically rigorous (dyrys) than Rhys’s generally plain verse.
24 nid ai’n iach orig ‘You’ll not for a moment get better’, or, possibly, ‘you won’t get better in a while/soon’.
25 rhwym boenau ‘Captive pains’. This sangiad may be a reference to the fact that Guto’s haint ‘disease’ keeps him housebound (as is seen in the translation, see GPC 3117 s.v. rhwym1 (a) as an adjective), yet it may also be a playful reference to the penance in the same line and the next (in other words, [the penance which forces me to drink wine causes] ‘compulsory pains’, see ibid. (b)). Another possibility is that Guto is referring to constipation in connection with Syr Rhys’s reference to Guto chewing penial gnepynnau ‘pieces of bread made from wheat-flour’ in order to ysgwrio’i gau ‘purge his bowels’, see ibid. (c), although the earliest example of rhwym in this meaning belongs to the seventeenth century; 101a.17–18.
31 prinsaig ‘Mean dish’. The word has no entry in GPC, but cf. 2892 s.v. prinfyd ‘life of poverty, hardship, adversity’.
32 gwas ‘Boy’, although ‘servant’ is also possible. It is known that some poets had servants. Gruffudd Gryg had a servant named Siencyn, and it seems that one Bol y Baeol was a servant to Dafydd ap Gwilym (see GGGr 133–8, 6.32n). Syr Rhys may also have had a similar servant or someone who assisted him with his ecclesiastic duties, yet the references to Rhys’s [t]ylwyth ‘family’ in line 30 and to his [g]wraig ‘wife’ in this line suggest that Guto is referring to Rhys’s son.
33 wtres A verb here, see GPC 3739 s.v. wtresaf ‘to be extravagant, live in luxury, carouse, revel, feast or drink (to excess)’. Guto seems to think that Syr Rhys feasted ‘to excess’.
33 ar ein traws ni The word traws may be a noun here (see GPC 3561 ‘direction, place, district, region’), but it is more likely that ar ein traws ni means ‘in defiance of’, see ibid.; cf. one of the examples shown in GPC, GLGC 100.7–8 Byd ar ein traws a gawsam, / y cais merch casáu ei mam ‘We received a world in defiance of us, where a girl desires to hate her mother’.
34 o See GPC 2606 s.v. o1 4 (a) ‘by (denoting the subj. or agent of a preceding vn.)’; cf. 41 Er brwysgo o’r ber ysgafn ‘Because the slight shank had become intoxicated’.
34 bloesgi ‘To speak indistinctly’. It is regarded as a noun in GPC 289, yet it is more likely to be a verb here.
35 cawg ‘A bowl’. It may denote a larger vessel in connection with Syr Rhys’s greed.
37 breua’ ‘The most brittle’ bread, therefore the finest, see GPC 311 s.v. brau 1, also s.v. brau 2 (c) ‘fine, refined’.
38 rhyg ‘Rye’. Guto is referring to one of Syr Rhys’s accusations, see 101a.13–16 Ni cheisiodd gyda chosyn / Fwrw ei gost ar fara gwyn; / Bara rhyg a bawr a’r haidd, / Bara disyml, bwrdeisiaidd ‘He didn’t try to spend his money on white bread with a piece of cheese; he grazes on rye-bread and barley-bread, plain bread befitting a burgess’.
40 maidd sur ‘Sour whey’. See GPC 2322 s.v. maidd ‘whey, serum, (occasionally) curds and whey’. A reply, in all likelihood, to lines 27–8 in Syr Rhys’s poem (101a): Y glastwr, ddigwyl Ystwyll, / A wna i’r pen na ŵyr pwyll ‘By the feast-day of Epiphany the milky water causes the head to forget what sense is’.
41 ber ysgafn GGl 361 is in all likelihood correct in connecting ber ysgafn ‘slight shank’ with descriptions of Syr Rhys in lines 18 gafr chwarthor ‘leg of a goat’, 60 [Rh]ys fain ‘slender Rhys’ and ber ‘shank’ again in line 61. Nonetheless, GGl reads bêr ‘spear, lance, pike’ as a description of Rhys’s slender frame (see GPC2 626 s.v. bêr (a)). Yet ber ‘leg, shank’ is more likely (see ibid. s.v. ber1) in light of the description in line 18 gafr chwarthor ‘leg of a goat’ (see the note).
43 fitelu ‘Being fed’. Cf. Syr Phylib Emlyn’s reply to Syr Lewys Meudwy’s satire, GPhE 3.5–6 Haeraist a gyrraist, heb gêl, / Ym fwyta talm o fitel ‘You claimed and accused me, without concealment, of eating a large amount of food’, see further the background note above.
47 rhemwth ‘A glutton’. A reply to Syr Rhys’s description of Guto, see 101a.39–40 Ni phara bara ’n y bwth / Oni rwymir hen remwth ‘bread doesn’t last long in the booth unless an old glutton is bound’.
47–52 Guto’s reply to Syr Rhys’s derogatory attitude towards Guto’s old age and his greediness, see 101a.31–6, 36–40, 55 and 59–64.
49 tyfu hoed See GPC 3871 s.v. tyfaf (b) ‘to (cause to) grow, increase, or develop, form’, yet ‘nurture’ is more suitable here. On hoed ‘longing, sorrow, grief’, see ibid. 1883 1.
51 od wyf rwth ‘If I’m greedy’. On the mutation, see TC 292. With [rh]wth, cf. Syr Lewys Meudwy’s satirical poem to Syr Phylib Emlyn, GPhE 6.5–6 Gwerth ei fwyd, go rwth fu’i wib, / A ffelach fu Syr Phylib ‘his food’s worth, his assault was quite greedy, and Syr Phylib was slyer’, 6.34 gylf rhwth ‘greedy snout’, 6.50 mor rhwth yw’r gŵr ‘the man’s so greedy’.
54 croen See GPC 602 s.v. 1 (a) ‘fig. sometimes of a crusty or contemptible fellow or of a lanky fellow’. Cf. Llywelyn ab y Moel’s satire of his purse, GSCyf 11.51 Uffern boen yt, y croen crach ‘May you experience hell’s pains, you dwarfish weakling’.
54 gŵr cryf ‘A strong man’. Guto’s reply to Syr Rhys’s accusations that he had lost his muscles to old age (see 101a.31–6).
56 drwg ‘An evil man’, although it could also be understood as an adjective (see GPC 1087).
58 cyffes ‘Confession’. An interesting choice of word in light of the fact that Syr Rhys was both a poet-priest and Guto’s eglwyswr ‘priest’, offisial ‘official’ and [c]yffeswr ‘confessor’ (see 13–14). It does not necessarily bear an ecclesiastical meaning (‘admission’, see GPC 729 s.v. cyffes1), yet it is highly likely that Guto’s audience would have noticed the unmistakable connection between the word and Rhys’s profession. Guto turns his relationship with Rhys on its head by depicting Rhys’s poetic attack on him as a personal, sinful confession which Guto would rather have not heard.
58 somes See GPC 3287 s.v. siomaf (a) ‘to disappoint, cause disappointment (to), anger … impede’, (b) ‘to deceive, defraud … ; shame, disgrace’, all of which are relevant, yet the first may be more so.
59 ei haddef ‘To disclose it’, namely the [c]yffes ‘confession’ (58n) made by Syr Rhys against Guto (see GPC2 72–3 s.v. addefaf ‘to admit … acknowledge … ; disclose’). It is disclosed to the [c]roes fawr ‘great cross’ (60n).
59 llefain See GPC 2141 s.v. llefaf ‘call, entreat’. Guto entreats upon the [c]roes fawr ‘great cross’ (60n) in order to rectify Syr Rhys’s mischief.
60 croes fawr The Holy Cross, possibly an unspecified one due to the absence of the definite article.
61 rhydd In all likelihood, GPC 3127 s.v. rhydd1 (b) ‘free (from detention, imprisonment, &c.) … unrestricted, unrestrained’. Guto contrasts the fact that Syr Rhys is free to both come and go as he wants and to speak his mind with both his own physical entrapment in his home and his inability to counter Rhys’s accusations: cf. especially lines 7 lle rhydd ‘an open place’ (Valle Crucis) and 11–12 Minnau o’r gell ni ellais / Gam hwnt ‘I myself could not walk one step over there from the cell’. GPC 3127 s.v. rhydd1 (e) ‘familiar, forward, daring, impudent’ may also be relevant.
62 bugelydd A plural form of bugail ‘shepherd’ (see GPC 347). It is an apt description of Syr Rhys as it encompasses both his ecclesiastic duties (see ibid. (b) ‘guardian of souls … ; priest’) and his agricultural occupation, see ibid. (a) ‘herdsman, shepherd’. Rhys composed a poem for six men who refused him some sheep in the commote of Cyfeiliog, see GMRh poem 30; GDLl poem 73.
64 ei rhoi Guto is referring to the cyfraith ‘law’ in the previous line (on rho(dd)i cyfraith ‘to take legal proceedings against’, literally ‘to put the law on’ someone, see GPC 3089).
67 cywyddan GPC 837 ‘little poem, short metrical composition’ does not seem suitable here (Guto’s poem is only two lines longer than Rhys’s poem, cf. 56 [c]ywydd hir ‘long cywydd’). It is more reasonable to believe that cywyddan is a diminutival form of cywydd in this context, namely ‘lowly/inferior cywydd’.
68 y gist See GPC 484 s.v. cist (a) ‘chest, coffer, box’, (b) ‘coffin’. The latter may be more relevant here, so that Guto is implying that Syr Rhys’s poetic inspiration should be executed or murdered due to his mischief (to do so would be the same as pulling out his tongue, see 65–6). Nonetheless, cf. [c]uddio ‘concealing’ (67) in connection with the chest with references to chests used to hide children in the legends of Math fab Mathonwy and Culhwch and Olwen, PKM 77.16–20, 78.3–8 kyrchu y drws a oruc hi [Aranrhod], ac ar hynny adaw y ryw bethan ohonei; a chyn cael o neb guelet yr eil olwc arnaw, Guydyon a’y kymerth, ac a droes llen o bali yn y gylch, ac a’e cudyawd. Sef y cudyawd, y mywn llaw gist is traed y wely … Val yd oed Wydyon diwarnat yn y wely, ac yn deffroi, ef a glywei diaspat yn y gist is y draet. Kyny bei uchel hi, kyuuch oed ac y kigleu ef. Sef a oruc ynteu, kyuodi yn gyflym, ac agori y gist. Ac ual y hegyr, ef a welei uab bychan yn rwyuaw y ureicheu o blyc y llen, ac yn y guascaru, Davies 2007: 54–5, ‘[Aranrhod] made for the door, but as she went she dropped a small something. Before anyone could get a second glimpse of it, Gwydion took it and wrapped a sheet of brocaded silk around it and hid it. He hid it in a small chest at the foot of his bed … One day, as Gwydion was in his bed, and waking up, he heard a cry from the chest at his feet. Although it was not loud, it was loud enough for him to hear it. He got up quickly and opened the chest. As he opened it, he could see a small boy waving his arms free of the folds of the sheet and throwing it aside’; CO3 17.468–70 Ym penn gwers, pan at pawb eu damsathyr, agori kib a oruc y wreic [Custennin Heusor’s wife] yn tal y pentan, a chyuodi gwas pengrych melyn oheni, Davies 2007: 191, ‘After a while, when everyone was milling about, the woman [Custennin Heusor’s wife] opened a coffer at the far end of the hearth, and out came a lad with curly yellow hair’. The last couplet of the poem shows clearly that a poem could be understood as both a concrete object which could be written down on paper and an abstract object which could be recited (cf. 65–6).
Bibliography
Davies, S. (2007), The Mabinogion (Oxford)
Edwards, H.M. (1999), ‘Murnio Marwnadau: Golwg ar y Ffug-farwnad yng Nghyfnod y Cywydd’, Dwned, 5: 47–70
Hagen, A. (1992), A Handbook of Anglo-Saxon Food: Processing and Consumption (Chippenham)
Hunter, J. (1997), ‘Cyd-destunoli Ymrysonau’r Cywyddwyr: Cipolwg ar “yr Ysbaddiad Barddol” ’, Dwned, 3: 33–52
Huws, D. (1973–4), ‘Wiliam Llŷn, Rhys Cain a Stryd Wylyw’, Cylchg LlGC 18: 147–8
Jex-Blake, A.J. (1915), Tuberculosis: a General Account of the Disease (London)
Parry, T. (1929–31), ‘Statud Gruffudd ap Cynan’, B xx: 25–33
Thomas, E.G. (2001), ‘Astudiaeth Destunol o Statud Gruffudd ap Cynan’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Williams, D.H. (2001), The Welsh Cistercians (Leominster)
Roedd Syr Rhys yn fardd-offeiriad a chanddo gyswllt â’r Dre-wen yn swydd Amwythig ac â Charno yng nghwmwd Cyfeiliog. Pedwar cywydd yn unig o’i waith a oroesodd. Dywed Maredudd ap Rhys y gallai ganu ar fesurau eraill a bod iddo enw fel bardd mawl, o bosibl, ac yn arbennig fel bardd serch (GMRh 3.19–36). Fel Maredudd ap Rhys ac fel y tyst ei ragenw, roedd Syr Rhys yn fardd-offeiriad ac yn aelod o garfan o feirdd na cheid yn eu gwaith fawr ddim ‘dwyster pregethwrol’, fel y dywed Johnston (2005: 46), eithr a nodweddid gan ‘hwyl a thynnu coes’.
Diogelwyd dau gywydd brud gan Syr Rhys yn y llawysgrifau, a dau gywydd ymryson. Brud gwleidyddol yw’r naill a ganwyd, yn ôl E. Roberts, rhwng Hydref 1470 a Mawrth 1471, a brud a phregeth yn erbyn pechodau’r oes yw’r llall a ganwyd rywdro wedi 1463 (GMRh 14, 28.18n, 29.19–22n). Yn ogystal â’r cywydd dychan a ganodd i Guto (cerdd 101a), canodd Syr Rhys gywydd dychan llawer llai dilornus i griw o wŷr a omeddodd iddo ddefaid yng nghwmwd Cyfeiliog (GMRh cerdd 30; GDLl cerdd 73). Roedd Dafydd Llwyd o Fathafarn yn eu plith, a chanodd yntau gywydd i ateb dychan Syr Rhys (GDLl cerdd 74). Dywed Dafydd fod gan Syr Rhys ddigonedd o ŵyn ac iddo dderbyn gan Ddafydd ei hun faharen mawr gwlanog a fu’n gynhaliaeth i Syr Rhys a’i wraig am gyfnod hir. Dengys y cyfeiriad canlynol at Guto yng nghywydd Dafydd fod yr ymryson hwnnw’n ddiweddarach na’r ymryson a fu rhyngddo a’r bardd o’r Glyn c.1465. Nid yw’n eglur pwy yw’r Dafydd a enwir ar ddechrau’r dyfyniad eithr ymddengys ei fod, fel Syr Rhys, yn ddibynnol ar eraill am ei gynhaliaeth (ibid. 74.33–8):Arfer Ddafydd, ddu herwr,
A’i wir gamp a ŵyr y gŵr,
Megis am y wledd, meddynt,
Iddo a wnâi’r Guto gynt.
Er a gâi fyth gorwag fu,
Ei gynneddf oedd oganu.
Cyfeiriadau ato
Ar anniolchgarwch Syr Rhys y canolbwyntir yn ymatebion Dafydd Llwyd a Guto i’w gywyddau dychan, ond ni raid cymryd bod fawr ddim amgenach na chellwair defodol yn sail i’r cyhuddiadau. Dengys cywydd a ganodd Maredudd ap Rhys iddo o hiraeth pan symudodd o’r gororau i gwmwd Cyfeiliog ei bod yn dda gan feirdd ei gwmni, ac er na chadwyd cerdd ddychan ganddo i Ddafydd ab Edmwnd, ymddengys ei fod yn un o’r criw o feirdd a fu’n bwrw eu sen arno yntau yn ei dro (GMRh cerdd 3). Yn wir, dywed Guto mai Dafydd yw [c]or Syr Rys (67.46), ac fe’i gelwir yn was i Syr Rhys mewn cywydd dychan a ganodd Gwilym ab Ieuan Hen i Ddafydd (GDID XXIII.2 a cf. llau. 11, 24, 50–2; 66.49–50). Erys arwyddocâd y geiriau hyn yn dywyll. Tystir i’w ymwneud â Dafydd Llwyd a’r cylch lliwgar o feirdd a fu’n gysylltiedig ag ef yn yr ymryson a fu rhwng Dafydd a Llywelyn ap Gutun. Yn y cywydd dychan cyntaf a ganodd Dafydd i Lywelyn ac a fu’n sail i’r ymryson, cyfeirir at Syr Rhys fel un a roddodd faddeuant, yn rhinwedd ei alwedigaeth, i Lywelyn am geinioca mor eang (GDLl 69.21–34; cf. GLlGt At.v):Da a geir, rho Duw i gyd,
Heb ei ennill mae’n benyd.
A gasgal am farch malen
Ni thy’ mwy na gwenith hen.
Meddai Syr Rhys, modd syréw,
‘Mae pardwn i’r mab byrdew.
O Garno hyd ar Gornwel
I geinioca’r dyrfa y dêl,
Am golli’i farch diarchen
A dalai swllt, dulas, hen.’
Haws i werin, mae’n sarrug,
Holl Gymru dalu gwerth dug,
Na thalu, ’m Duw a Theilo
A Chadfarch, werth ei farch fo.Ymddengys fod Syr Rhys yn tosturio wrth Lywelyn yn sgil y ffaith iddo golli ei hen farch gwachul. Arall, yn ôl Dafydd, oedd gwerth y march gan i’r bardd wneud cymaint o ddefnydd ohono wrth deithio Cymru benbaladr. Gellid cysylltu’r maddeuant hwn a rydd Syr Rhys i’r bardd, a ystyrid yn farus gan Ddafydd Llwyd, â’r modd y caiff y rheini a fu’n grintachlyd wrth Syr Rhys ei hun faddeuant ganddo ar ddiwedd ei gywydd ynghylch cymhortha defaid (GMRh 30.55–8):O dygan’, er eu digiaw,
Degwm treth dau gwmwd draw,
Mi farnaf gerbron Dafydd
Bardwn i’r rhain, burdan rhydd.Diau yr elwai Syr Rhys yn ariannol yn sgil ei allu i roi maddeuant ysbrydol lawn cymaint ag y gwnâi wrth ganu cywyddau’n achlysurol, a bod ergyd i’r perwyl hwnnw wrth wraidd dychan Dafydd Llwyd a Guto iddo. Canodd Llywelyn gywydd yn ateb haeriadau Dafydd a chanodd Dafydd un arall eto (GLlGt cerddi 13 ac At.vi). Atebodd Llywelyn ail gywydd Dafydd â chywydd sy’n cynnwys dau gyfeiriad at Syr Rhys. Digon tywyll yw’r cyntaf (GLlGt 14.21–4):Rhoist werth o arwest wrthaw
I Syr Rhys i’th lys o’th law
Er cywydd o newydd nod
I gymell arnaf gymod.Deil R.I. Daniel (GLlGt 14.21–4n) ‘fod Dafydd Llwyd wedi darparu perfformiad cerddorol yn ei lys ar gyfer Syr Rhys am i Syr Rhys ddatgan cywydd i Lywelyn ap Gutun yn galw arno i gymodi â Dafydd Llwyd.’ Ond mae’r un mor debygol i Ddafydd annog neu gomisiynu Syr Rhys i ganu cywydd i Lywelyn er mwyn cryfhau ei achos ei hun, gan ddarparu llwyfan a chyfeiliant i’r gerdd honno yn ei lys ym Mathafarn (yno, fe ymddengys, y canwyd cywydd Syr Rhys ynghylch cymhortha defaid am y tro cyntaf, GMRh 30.57). Os felly y bu, ni ddiogelwyd cywydd Syr Rhys, ond tystir i’w ran yn yr ymryson yn rhan olaf cywydd Llywelyn, lle awgrymir y dylid rhannu’r wlad yn dair fel y gall y tri bardd eu ceinioca’n llwyr (GLlGt 14.45–54):Ni a rannwn yr ynys:
Moes ran yma i Syr Rhys;
Dilid di dy wlad dy hun,
Dyrna, gwna Ddyddbrawd, arnyn’,
A dod Rys i’r deau draw
Yn un rhuthr i’w hanrheithiaw.
Minnau af yma’n un wedd
I ddinistr y Ddwy Wynedd.
Ag un hwyl dygwn helynt
Un brès â’r tair gormes gynt.Caiff Dafydd fro ei febyd ym Mhowys, Llywelyn ei fro yntau yng Ngwynedd a Syr Rhys y De. Diau y rhoid ardal Syr Rhys ym Mhowys iddo pe nad ystyrid Dafydd yn ben ar feirdd yr ardal honno.
Achres
Yn llaw Wmffre Dafis yn llawysgrif Brog I.2 (1599) y ceir yr unig wybodaeth am ach Syr Rhys: Sr Rys ap holl’ dyrnor ai kant. Y tebyg yw, felly, mai Hywel oedd enw tad Rhys ac mai turniwr ydoedd wrth ei alwedigaeth (GPC 3654 d.g. turniwr ‘un sy’n turnio (coed, metel)’). Nid ymddengys, felly, ei fod o dras uchelwrol ac ni ddiogelwyd ei ach.
Ei fro a’i yrfa
Carpiog yw’r dadleuon a gynigiwyd hyd yma ynghylch yr ardaloedd yr oedd Syr Rhys yn gysylltiedig â hwy. Ymddengys mai barn gweinidog Corwen yn C 4.110 (ar ôl 1788) yn unig a roddodd sail i’r gred fod Syr Rhys wedi bod ‘yn gurad yng Nghorwen, ac yn byw yn y Drewyn, cyn symud yn ficer Llanbryn-mair a Charno’ (GMRh 6, lle dilynir CTC 378, a bernir bod yr wybodaeth debyg a geir yn Williams 1884: 263 yn deillio o’r un ffynhonnell). Yn ogystal â’r Trewyn ym Meirionnydd ceir Trewyn ym Mynwy, ym Môn ac yng nghwmwd Llannerch yn sir Ddinbych (WATU 215), ond nid yw’r un o’r rhain yn cyd-daro â’r wybodaeth a geir yn y cywydd a ganodd Maredudd ap Rhys i Syr Rhys pan symudodd i Gyfeiliog. Cwmwd Nanheudwy sy’n dioddef o absenoldeb Rhys yn ôl Maredudd, ynghyd â’r sir oll (swydd Amwythig, yn ôl pob tebyg) a thref Croesoswallt (GMRh 3.41, 58, 62). Yng nghwmwd Edeirnion y saif Trewyn ger Corwen, ond tiroedd i’r dwyrain o’r Berwyn a grybwyllir gan Faredudd. Mae’n debygol fod y gweinidog dienw o Gorwen wedi ceisio cysylltu bro ei ofalaeth ag un o feirdd y gorffennol drwy gamddarllen y Dre-wen am Drewyn.
Dilynodd GGl 360 ‘Syr Rhys o’r Drewen’ yr hyn a geir ym mwyafrif y llawysgrifau, sef Syr Rhys o ‘Whittington ger Croesoswallt’ yn ôl GDLl 209. Diystyriwyd y ddamcaniaeth honno yn CTC 378, ond ymddengys bod lleoliad y Dre-wen nid nepell i’r gogledd-ddwyrain o Groesoswallt yn cyd-fynd i’r dim â’r wybodaeth a geir yn y llawysgrifau ac yng nghywydd Maredudd ap Rhys. Mae’n debygol, felly, mai Syr Rhys o’r Dre-wen ydoedd yn ei ieuenctid, cyn iddo symud yn ddiweddarach i gwmwd Cyfeiliog. Os cywir ddarfod canu cerddi ar achlysur ailadeiladu cartref Hywel ab Ieuan Fychan ym Moeliwrch yng nghwmwd Cynllaith yn ystod ail chwarter y bymthegfed ganrif, gall fod lle i gredu bod y Syr Rhys ifanc, ac yntau’n byw yn y gornel honno o’r wlad, yn un o’r beirdd a fu’n bresennol yno (Huws 2007: 110, 133).
Gelwir y bardd yn ‘Syr Rhys o Garno’ mewn nifer o lawysgrifau, a hynny, yn ôl pob tebyg, yn sgil y ffaith iddo symud i gwmwd Cyfeiliog. Ond unwaith yn unig yr enwir Carno mewn cyswllt ag ef yn y farddoniaeth, a hynny’n lled anuniongyrchol (GDLl 69.27). Â Llanbryn-mair y’i cysylltir bron yn ddieithriad gan Faredudd ap Rhys a chan Ddafydd Llwyd o Fathafarn (GMRh 3.18, 50; GDLl 74.5–6, 43, lle cyfeirir at Dafolog i’r gogledd o Lanbryn-mair). Yn y canol yn unig y lleolodd Guto ef yn un o’r cywyddau dychan a ganodd i Ddafydd ab Edmwnd (66.50). Tybed felly ai yn ei henaint y bu Syr Rhys yn weithgar yng Ngharno, ac i’r pentref ddod yn gysylltiedig â’i enw gan mai yno y bu farw?
Fel yn achos bardd-offeiriaid eraill y bymthegfed ganrif, megis Syr Phylib Emlyn a Syr Lewys Meudwy, dengys teitl Syr Rhys ei fod yn offeiriad heb radd brifysgol a berthynai i esgobaeth benodol yn hytrach nag i urdd grefyddol (GSPhE 6). Perthynai Syr Phylib a Syr Lewys i esgobaeth Tyddewi, ond roedd ficeriaeth Llanbryn-mair a Charno yn rhan o esgobaeth Llanelwy (Rees 1951: plât 33). Ni ddaethpwyd o hyd i’w enw, fodd bynnag, yng nghofnodion John Le Neve (Jones 1965), a rhaid troi at dystiolaeth y cerddi er mwyn lloffa gwybodaeth am ei yrfa.
Geilw Dafydd Llwyd ef yn ŵr llên ac yn urddol a chanddo laswyrau iesin; ac [ei]n conffesor ydoedd yn ôl Maredudd ap Rhys (GDLl 74.1–2, 4, 39; GMRh 3.34; GPC 2152 d.g. llên (b)). Tebyg yw cyfeiriad Dafydd Llwyd ato yn ei gywydd dychan i Lywelyn ap Gutun fel un a rôi [b]ardwn i’r mab byrdew, ynghyd â’r modd y dywed Syr Rhys ei hun y gallai roi [p]ardwn i’w elynion (GLlGt At.v.26; GMRh 30.5–8). Ceir mwy o wybodaeth gan Guto (101.13–16):Galw Syr Rys, f’eglwyswr i,
’Y nghurad, i’m cynghori,
Offisial a chyffeswr
A meddyg ym oedd y gŵr.Ymddengys y dynodai [c]urad ddirprwy neu gynorthwyydd offeiriad plwyf (OED Online s.v. curate, n. 2 (a) a’r nodyn yno), ond nid yw’n eglur pa mor llythrennol y dylid ystyried yr hyn a ddywed Guto amdano yn y cywydd dychan. At hynny, gelwir Syr Rhys yn [b]eriglor yn y priodoliad a geir wrth gopi o’i gerdd ddychan i Guto yn BL 31056, ac yn offeiriad yn LlGC 17114B. Tystir i’w adnabyddiaeth o’r brodyr-bregethwyr ar ddechrau un o’i gywyddau brud (GMRh 29.1–2), a dengys ei ymryson â Guto fod croeso iddo yn abaty Sistersaidd Glyn-y-groes.
Yn CTC 379 dywedir bod Syr Rhys wedi ‘colli ei urddau eglwysig’, naill ai am ei fod yn briod neu am ei fod yn ‘feddwyn brwysg’. Ymddengys y seiliwyd yr honiad hwnnw (er nas nodir) ar yr hyn a awgrymir yn Richards (1954–5: 223) ynghylch llinellau agoriadol y cywydd a ganodd Dafydd Llwyd i ateb Syr Rhys ynghylch cymhortha defaid: ‘Gelwir Syr Rhys yn “ŵr llên urddol” yma, ond awgrymir hefyd ei fod wedi colli ei urddau, ac mai gŵr o Lanbryn-mair ydyw … A oedd ef, tybed, yn un o’r vagabonds y cyfeiria cyfreithiau Harri IV atynt?’ Mewn gwirionedd, ni raid cymryd bod yng ngeiriau Dafydd ragor nac ymateb negyddol i gywydd Rhys (GDLl 74.1–2, 5–6):Mae gŵr llên yma gerllaw,
Urddol, drwg gwneuthur erddaw …
Bardd, wedi gwahardd ei gân,
Bryn-mair, mae’n brin am arian.
Ei enw
Fel y nodwyd uchod, dynodai Syr swydd grefyddol Rhys. Ymddengys mai’r ffurf gysefin a ddilynai Syr yn ddieithriad gan mai o Loegr y daeth y teitl yn wreiddiol (TC 113). Disgwylid Syr Rhys, felly, ond un enghraifft yn unig a geir o ateb rh yn Syr Rhys â chytsain rh mewn llinell o gynghanedd gytseiniol lle syrth yr acen ar enw’r bardd, sef Os y rhain a gred Syr Rys (97.27). Fel y dangosir yn nodyn testunol y llinell honno, deil y llawysgrifau mai Syr Rys yw’r ffurf gywir ar yr enw yn yr achos hwnnw. Ategir hyn gan enghreifftiau eraill o ateb cytsain gyntaf Rhys gyda’r gytsain r yng ngwaith Guto ac yng ngwaith beirdd eraill: 101.19 ‘Pasio yr wyd’, heb Syr Rys, 28 Medd Syr Rys, ‘meddwi sy raid!’, 32 I Syr Rys a’i was a’i wraig, 40 Meddai Syr Rys maidd sur oedd, 64 Ar Syr Rys a’i rhoi sy raid; GDLl 74.4 Syr Rhys, laswyrau iesin; GLlGt 14.46 Moes ran yma i Syr Rhys, At.v.25 Meddai Syr Rhys, modd syréw; GMRh 3.26 Syr Rhys, er ei bwys o’r aur, 34 Syr Rhys, a’n conffesor oedd, 58 Y sir oll gyda Syr Rhys. GDID XXIII.2 Deio, sy’ raid, was Syr Rhys, 11 Syr Rhys pei sorrai Rhos[i]er, 50 Syr Rhys a ŵyr wersau’r âb, 51 Syr Rhys, cyd bych Syrasin. Mae’r un peth yn wir yn achos gwŷr eraill o’r enw Syr Rhys: 14.13 Y tri Syr Rys tros yr iaith; GLGC 15.4 a Syr Rhys, mae’n rhoi siars mawr, 15.7 siars Syr Rhys, siars i rosyn, 24.16 brân Syr Rhys ei brins yw’r ail, 87.39 nobl Syr Raff a nobl Syr Rhys, 115.64 einioes hir yt, nai Syr Rhys; GDEp 9.15 Hwn sy o ryw hen Syr Rhys, 10.15 Nid oes o ran dau Syr Rhys, 12.30 Heb wers yr âb war Syr Rhys, 44 Gwŷr Syr Rhys, groes yr Iesu; GHS 3.2 O Ros i Rôn, air Syr Rhys; GMBen 17.4 Syr Rhys, da bob amser oedd; GLl 20.48 A wnaeth saer aur, nith Syr Rhys; GHD 12.78 Cannoes ar ôl, cwyn Syr Rhys. Diau ei bod yn arwyddocaol iawn mai r a roir i ateb cytsain gyntaf Rhys yn yr enghreifftiau hyn oll, a’r tebyg yw y dylid diwygio’r darlleniadau i Syr Rys o ganlyniad (mae’r unig eithriad, GLl 24.56 Ŵyr Syr Rhys o Roser Hen, yn ateg i’r ddadl honno). Tybed a geid eithriad i’r rheol ynghylch cadw’r gysefin yn dilyn Syr yn achos yr enw Rhys, a hynny dan ddylanwad rhai enwau Saesneg lle ceid R- yn briflythyren ac a ragflaenid yn aml gan y teitl Syr, megis Syr Rosier, Syr Risiart a Syr Raff? 53.8 Ŵyr Risiart ap Syr Rosier (cf. 24.80 Tra ater Syr Rhosier ynn, 25.10 Syr Rhosier, sorri’r Iesu, 16 Oes, ar roswydd Syr Rhosier); GIG 20.1 Syr Rosier asur aesawr; GLGC 87.39 nobl Syr Raff a nobl Syr Rhys, 114.66 draw yw Syr Rhisiart dros yr oesoedd; GHS 7.13 Syr Rhisiart, Tomas ryswr, 9.47 Syr Rhisiart a roes resaw, 24.6 Syr Rhisiart, froesiwr osai; GSRh 11.34 Cryfder Syr Rhosier a’i rym; GLl 20.24 Rhosier, Syr Rhosier reswm. Fel yn achos Syr Rhys, ni ddaethpwyd o hyd i enghraifft yn y farddoniaeth o ateb cytsain flaen yr enwau Saesneg hyn â’r gytsain rh. Bernir bod digon o dystiolaeth ar glawr i ddangos mai Syr Rys oedd y ffurf ar enw’r bardd a ddefnyddid gan ei gyd-feirdd.
Cerddi annilys
Priodolwyd i fardd o’r enw Rhys yr unig gopi o gywydd mawl a chyngor i ŵr o’r enw Tomas ab Ieuan o Langurig gan law anhysbys yn Pen 82, 228 (cynhwyswyd y gerdd wrth enw Syr Rhys yn MCF). Yn ôl RWM i: 537, priodolwyd y gerdd i A RRys or ARkys. Y darlleniad cywir yw S Rkys. Diau mai Rhys a olygid wrth yr ail air a bod tebygrwydd agos rhwng -k- a -h- yn orgraff ffynhonnell Pen 82. Darlleniad petrus a gynigir ar gyfer yr hyn a geir o flaen Rkys, ond ymddengys mai un llythyren a geir yno ac mai S flêr iawn ydyw. Er na ddisgwylid i fardd-offeiriad fel Syr Rhys ganu cerdd fawl, dengys y cerddi mynych a ganodd Syr Dafydd Trefor i uchelwyr y ceid eithriadau i’r rheol (GDT). Canodd Syr Phylib Emlyn yntau i Domas o Dretŵr a chanodd gywydd gofyn am farch gwyn gan Rys ap Dafydd o Flaen-tren (mab Dafydd ap Tomas), cerdd sydd, o bosibl, yn ‘adlewyrchu tlodi cymharol y glerigaeth yn y bymthegfed ganrif’ (GPhE 11, cerddi 1 a 2). Tybed a fentrai bardd-offeiriaid eraill ehangu eu repertoire pe bai’r esgid yn gwasgu? Fodd bynnag, yn ôl dull Bartrum o rifo cenedlaethau, y tebyg yw fod gwrthrych y gerdd, Tomas ab Ieuan, wedi ei eni c.1500 (WG2 ‘Cydifor ap Dinawal’ 4C), ac ni cheir tystiolaeth fod Syr Rhys wedi byw i weld yr unfed ganrif ar bymtheg. At hynny, ceir yn y gerdd ganran uchel iawn o gynganeddion croes (73%), nodwedd a ddisgwylid yng ngwaith bardd a ganai ar droad y ganrif ac ar ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg. Tybed ai Rhys Nanmor ai piau?
Cerdd arall a gynhwyswyd wrth enw Syr Rhys yn MCF yw englyn gyda’r enw Rh’ S Rys wrtho yn Pen 85 ii, 13. Perthyn i gyfres o englynion a ganwyd gan Rys Nanmor i Syr Rhys ap Tomas (Headley 1938: 240 (69.135–8)). Yn CTC 379, dywedir bod Siôn Dafydd Penllyn (Siôn Dafydd Laes) wedi canu englynion i Syr Rhys pan syrthiodd ef yn ei ddiod, ac fe’u cysylltir â’r darlun diotgar o Rys a geir yn y cywydd a ganodd Guto iddo (dilynir y ddadl honno yn GMRh 8). Mewn gwirionedd, Syr Rhys Cadwaladr, person Llanfairfechan, yw gwrthrych gwawd Siôn Dafydd Penllyn, ac roedd y ddau fardd yn eu blodau yn ystod ail hanner yr ail ganrif ar bymtheg (CLC 75, 176). Dywedir eto yn CTC 379 mai at Syr Rhys y cyfeirir mewn ymryson a fu rhwng Huw Arwystl a Syr Ieuan o Garno (codwyd yr wybodaeth o Rhys 1932: 55–9). Syr Rhys ap Morus o Aberbechan yw’r gŵr hwnnw mewn gwirionedd, a pherthyn yr ymryson i ganol yr unfed ganrif ar bymtheg (Jones 1926: xxxiv–xlviii).
Llyfryddiaeth
Johnston, D. (2005), Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300–1525 (Caerdydd)
Jones, J.A. (1926), ‘Gweithiau Barddonol Huw Arwystl’ (M.A. Cymru)
Headley, M.G. (1938), ‘Barddoniaeth Llawdden a Rhys Nanmor’ (M.A. Cymru [Bangor])
Huws, B.O. (2007), ‘Ailadeiladu Bywyd ar ôl Gwrthryfel Glyndŵr: Tystiolaeth y Canu i Foelyrch’, Dwned, 13: 97–137
Jones, B. (1965) (ed.), John Le Neve: Fasti Ecclesiae Anglicanae 1300–1541 (London)
Richards, W.L. (1954–5) ‘Cywyddau Ymryson a Dychan Dafydd Llwyd o Fathafarn’, LlCy 3: 215–28
Rhys, B. (1932), ‘Ymrysonau’r Beirdd’ (M.A. Cymru)
Williams, R. (1884), ‘Montgomeryshire Worthies’, Collections Historical and Archaeological … by the Powysland Club, xvii: 233–64