Chwilio uwch
 

Yr Abad Siôn ap Rhisiart o Lyn-y-groes, fl. c.1455–80

Er na cheir cerdd fawl gan Guto i’r abad Siôn ap Rhisiart, ef yn sicr oedd noddwr y cywydd dychan a ganodd Syr Rhys i Guto (cerdd 101a) a’r cywydd a ganodd Guto i’w ateb (cerdd 101). Diau bod Guto wedi canu iddo ond bod y cerddi hynny heb eu diogelu yn y llawysgrifau. Cerddi gan Gutun Owain yw’r mwyaf niferus a ganwyd i Siôn. Goroesodd saith ohonynt:

  • cywydd mawl, GO cerdd XXI; CTC 118;
  • cywydd mawl, GO cerdd XXII; CTC 110;
  • awdl foliant, GO cerdd XVIII; CTC 101;
  • awdl foliant, GO cerdd XIX; CTC 103;
  • awdl foliant, GO cerdd XX; CTC 99;
  • cywydd i ofyn march gan Siôn ar ran Maredudd ap Gruffudd, GO cerdd VIII; CTC 108;
  • cywydd marwnad, GO cerdd XXIII; CTC 119.

Diogelwyd dau gywydd arall i Siôn:

  • cywydd mawl gan Ddafydd ab Edmwnd, DE cerdd L; CTC 105;
  • cywydd dienw i ofyn march, CTC 106.

Dadleuir yn CTC 374 fod y cywydd gofyn dienw wedi ei ganu gan Gutun Owain gan fod y bardd yn cyfeirio at gyswllt teuluol rhyngddo a Siôn. Dywed mai ei gâr ef … / O du ei fam ydwyf i (CTC 106, llinellau 35–6). Fel y gwelir isod, ymddengys bod Gutun yn nai i Siôn, ac felly mae’n annhebygol fod y cyswllt â mam Siôn yn berthnasol yn ei achos ef. Erys awduraeth y gerdd yn ansicr, ond ar sail ei harddull go brin y gellir ei rhoi i Guto. Ni chanodd Tudur Aled i Siôn, er gwaethaf yr hyn a honnir yn DE 160.

Achres
Er gwaethaf y ffaith fod Siôn o vrenhinoedd vric (GO XX.27), nid ymddengys fod ei ach wedi goroesi. Mae’r cerddi a ganwyd iddo’n drymlwythog â chyfeiriadau at ei hynafiaid, a chyfeirir gan Gutun Owain at eu cyswllt teuluol agos (ibid. VIII.17–22):

Vn waed rrieni ydwyf,
Nai i chwi o’r vn iach wyf,
Maredydd, o Rvffvdd rym,
O’n tadav keraint ydym,
Ŵyr Ednyved a Ierwerth,
O vlodav Nannav a’i nerth.

Ategir yr wybodaeth honno yn HPF iii: 386, lle nodir bod mam Gutun yn chwaer i Siôn. Diogelwyd enwau Gutun a’i dad yn yr achresi, ond ni cheir enw ei fam (WG1 ‘Iarddur’ 1). Enwir llu o hynafiaid eraill yng ngherddi Gutun:

  • Edwin, GO VIII.5, XIX.8, XXI.6, XXII.4;
  • Idwal, XIX.8;
  • Awr, XIX.9;
  • Gwên, XIX.9;
  • llwyth Trevawr, XIX.10;
  • Sanddef, XXI.6;
  • Elidir, XXI.7;
  • Kvneddaf Wledic, XXII.6;
  • Einion Yrth, XXII.7.

At hynny, geilw Dafydd ab Edmwnd ef yn wyr … / jenn goch a’i gysylltu â gwŷr o’r enw rywallon ac adda (DE 101–2; cf. GO XVIII.1, XX.26, XXII.35).

Cynigir yr achres seml isod ar sail yr wybodaeth a geir yn HPF iii: 385–6, GO VIII.17–22, DE 101 a WG1 ‘Iarddur’ 1. A dilyn Dafydd ab Edmwnd, cymerir mai Ieuan Goch oedd taid Siôn, er i Gutun Owain ei alw’n ŵyr i Ednyved a Ierwerth (gw. y dyfyniad uchod). Y tebyg yw mai ‘perthynas iau’ yw ystyr ŵyr yng ngherdd Gutun, megis y geilw Siôn yn wyr … Edwin mewn cerdd arall (GO XXII.4).

stema
Achres yr Abad Siôn ap Rhisiart o Lyn-y-groes

Daethpwyd o hyd i ŵr o’r enw Siôn ap Rhisiart ap Madog yn yr achresi a oedd yn un o ddisgynyddion Tudur Trefor a Sanddef ac yn perthyn yn agos i Dreforiaid Bryncunallt (WG1 ‘Tudur Trefor’ 14). Mae’n bosibl fod cyswllt rhyngddo a theulu Nannau drwy ei daid ar ochr ei fam, sef Ieuan, ond ni cheir tystiolaeth y gelwid yntau’n Ieuan Goch. At hynny, nodir iddo briodi gwraig o’r enw Mawd a chenhedlu chwech o blant. Fe’i cysylltir yn yr achresi â Halltyn ym Maelor Saesneg. Er gwaethaf ei gysylltiadau teuluol, felly, mae’n go annhebygol mai’r un ydoedd â Siôn ap Rhisiart, abad Glyn-y-groes.

Ei yrfa
Ceir y cyfeiriad cynharaf at abadaeth Siôn yng Nglyn-y-groes ar 4 Hydref 1456 (CTC 362–3), ond awgrymodd D.H. Williams (2001: 142; 1971: 203) ei bod yn bosibl iddo gael ei benodi’n abad yn 1455 gyda chymorth gŵr o’r enw Siôn Pilstwn, sef, o bosibl, noddwr Guto, Siôn ap Madog Pilstwn. Yn Llst 28, 10–16, ysgrifennodd Gutun Owain ramadeg barddol, kelvyddyd kerdd davod, lle dyfynnir o awdl foliant a ganodd i Siôn (Williams 1929: 212; GO XX.75–80). Gan fod y llawysgrif honno wedi ei hysgrifennu rhwng 1455 a 1456, mae’n debygol iawn fod Siôn wedi ymsefydlu fel abad yng Nglyn-y-groes erbyn 1455. Yn wir, dywed Gutun ddwywaith yn yr awdl y dylid ei benodi’n esgob Llanelwy, a diau na fyddai wedi gwneud hynny pe na bai Siôn wedi dal swydd yr abad am rai blynyddoedd (ibid. XX.11–12, 33–4; cf. Williams 1962: 261). Deil C.T.B. Davies (CTC 363) fod Siôn yn abad mor gynnar â c.1450 gan ei bod yn debygol fod abadaeth ei brif ragflaenydd, Richard Mason, wedi dod i ben yn 1448. Fodd bynnag, gall fod gŵr o’r enw Dafydd yn abad yn 1450 (Williams 2001: 298). Ystyriaeth arall yw’r hyn a nodir gan Robert Vaughan yn Pen 287, 55 (1638–67), sef bod Wiliam Trefor ap Robert Trefor o Fryncunallt wedi ei benodi’n siaplen i Siôn. Os digwyddodd hynny cyn i dad Wiliam farw ar 27 Hydref 1452 a’i gladdu ar dir abaty Glyn-y-groes, gall fod Siôn yn abad mor gynnar â’r flwyddyn honno, ond mae’n bosibl hefyd fod cyswllt Wiliam â’r abaty wedi parhau ar ôl marwolaeth ei dad.

Deil Williams (ibid.) fod abadaeth Siôn wedi dod i ben yn 1461, ond cyfeddyf ei bod yn bosibl iddo barhau’n abad hyd 1480 (ibid. 58–9). Hyn sydd fwyaf tebygol, oherwydd dywed Gutun Owain yn ei farwnad i Siôn iddo gael ei olynu gan yr Abad Dafydd ab Ieuan, a cheir y cyfeiriad cynharaf at Ddafydd fel abad yn 1480 (GO XXIV.1–8; CTC 363; Williams 2001: 298). Yn ôl cofnod yn CPR 1461–7, roedd Siôn yn abad ar 7 Gorffennaf 1461, pan benodwyd ef yn un o atwrneiod y brenin yn arglwyddiaeth y Waun er mwyn derbyn comisiwn ynghyd â chwech o wŷr eraill a fu hwythau’n noddwyr i Guto, sef Dafydd Cyffin, Rhosier ap Siôn Pilstwn, Siôn Hanmer, Siôn Trefor, Siôn ap Madog Pilstwn a Robert ap Hywel (45.49–51n).

Yn ôl Gutun Owain, gŵr o Rywabon oedd Siôn (GO VIII.14; cf. HPF III 386). Fe’i geilw’n iôr y Bryn (GO XVIII.53) ac yn arglwydd y Bryn (ibid. XIX.7, XXI.9), ond nid yw’n eglur at ba lys o’r enw’r Bryn y cyfeirir. Rhoir pwyslais yn Williams (1962: 385), a ddilynir yn Williams (2001: 58–9), ar ei weithgarwch ailadeiladu yng Nglyn-y-groes, ac er na cheir fawr o ateg i hyn yng ngwaith y beirdd, mae’n sicr fod Siôn wedi adfer enw da’r fynachlog wedi cyfnod o ddirywiad dan law ei ragflaenydd, Richard Mason (ibid. 59; Williams 1962: 384; cf. 101a.46n). Pan goronwyd Edward IV yn frenin yn 1461, penodwyd Siôn i gasglu taliadau ar ei ran yn arglwyddiaeth y Waun (Williams 2001: 59), ffaith a barodd i Williams (1962: 261) ei alw’n ‘staunch Yorkist’. Deil Williams (ibid.) fod gan Siôn ei lygad ar swydd esgob Llanelwy rhwng 1461 ac 1471, ond dengys yr awdl foliant a ganwyd iddo gan Gutun Owain y credai rhai ei fod yn deilwng o’r swydd mor gynnar â c.1455.

Llyfryddiaeth
Williams, D.H. (1971), ‘Fasti Cistercienses Cambrenses’, B xxiv: 181–229
Williams, D.H. (2001), The Welsh Cistercians (Leominster)
Williams, G. (1962), The Welsh Church from Conquest to Reformation (Cardiff)
Williams, G.J. (1929), ‘Gramadeg Gutun Owain’, B iv: 207–21