Y llawysgrifau
Ceir chwe chopi o’r gerdd hon yn y llawysgrifau. Diogelwyd yr unig gopi cyflawn ohoni mewn cynsail goll y credir iddi gael ei chreu yn nyffryn Conwy, sef X (gw. y stema). Collwyd llinellau 55–60 o destun Gwyn 4 gan fod 53–4 a 59–60 yn rhannu’r un odl ac i lygaid William Salesbury neidio o linell 53 i linell 60 wrth gopïo (gw. 54n min). Cyfnewidiwyd llinellau 3 a 4 ganddo hefyd mewn ymgais, fe dybir, i wella llif yr ystyr. Deil darlleniadau LlGC 3051D ar gyfer llinellau 13, 18, 29 a 38 (gw. y nodiadau) nad o X y’i codwyd a gall fod lle i gredu mai traddodiad llafar a fu’n sail iddo yn sgil colli llinellau 31–2 a 41–54. Yn nhestun X y ceid y copi glanaf o’r gerdd a bod modd ei ailgreu’n bur hyderus ar sail tystiolaeth y tri thestun a ddeilliodd ohono. Gan na cheir lle i gredu bod testun LlGC 3051D yn rhagori ar X seiliwyd testun y golygiad ar X (ond sylwer hefyd ar 30n).
Trawsysgrifiadau: Gwyn 4, LlGC 3049D, LlGC 8497B.
Teitl
Ni cheir rhyw lawer o ddychymyg yn y teitlau a rydd y llawysgrifau i’r gerdd hon. Ar sail y teitlau a geir yn LlGC 3049D a Gwyn 4 mae’n debygol mai rhywbeth tebyg i K’ i Sieffrai kyffyn a geid yn X. Er mwyn gwahaniaethu rhwng y cywydd hwn a chywyddau mawl eraill a ganodd Guto i Sieffrai, cynhwysir enw ei wraig, Siân ferch Lawrence Stanstri, yn nheitl y golygiad hwn, gan fod Guto’n cyfeirio ati ddwywaith yng nghorff y gerdd (gw. 25 a 58).
2 pederau Dilynir y ffurf amrywiol a geid yn X (gw. GPC 2666 d.g. pader).
3–4 Cyfnewidiwyd llinellau’r cwpled hwn yn Gwyn 4 (gw. y nodyn cefndir uchod).
8 Sieffrai, i Borth Siaff a’r Bedd Dilynir X (gw. Williams 1978–80: 613–14). Ni cheir GGl siaffr a’r yn yr un lawysgrif.
10 a rhinweddau Bernir mai diwygiad gan William Salesbury a geir yn Gwyn 4 o rinweddau, ac a ddilynwyd yn GGl.
13 yno Dilynir X. Gthg. LlGC 3051D yma.
16 rhydd Ni cheir darlleniad GGl rhwydd yn yr un lawysgrif.
18 moc Dilynir X. Gthg. darlleniad GGl yn LlGC 3051D morc.
18 ’y mwyd Ni cheir fy yn yr un lawysgrif.
21 A chred a meichiau a rhaith Bernir mai diwygiad a geir yn LlGC 3049D a chyrd ameichie a rhiaith, lle ceir y bai crych a llyfn. Gall mai ailwampio sydd wrth wraidd [c]yrd, sef ffurf luosog ar cord ‘rheffyn, tennyn’ (gw. GPC 556).
25 na Dilynir X. Gthg. LlGC 3051D a.
27 Os y rhain a gred Syr Rys Deil X a LlGC 3051D mai syr rys yw’r ffurf yma. Gwyn 4 Syr Rys yn unig sy’n amwys. Disgwylid Syr Rhys er mwyn cwblhau cyfatebiaeth gref â rhain yn hanner cyntaf y llinell, ond bernir mai Syr Rys oedd y ffurf a ddefnyddiai’r beirdd (gw. Syr Rhys).
29 myn f’einioes Dilynir X. Gthg. LlGC 3051D yn fenioes.
30 Gost mwy ond gwesta i’m oes Mae’r ffaith mai gwest a geir yn LlGC 3049D a Gwyn 4 yn awgrymu mai dyma geid yn X hefyd ac i Thomas Wiliems adfer y darlleniad cywir yn LlGC 8497B gwesta. Fe’i ategir gan LlGC 3051D. Dilynwyd y ddwy lawysgrif gyntaf yn GGl Gost mwy onid gwest i’m oes, gan adfer y sillaf gydag onid, nas ceir yn yr un lawysgrif.
31–2 Ni cheir y llinellau hyn yn nhestun LlGC 3051D (gw. y nodyn cefndir uchod).
32 rhaid Ceir rhydd yn LlGC 8497B, o bosibl dan ddylanwad yr un gair yn llinellau 16 a 23.
38 o’r môr a fyn Gthg. naill ai gamosod neu ailwampio yn LlGC 3051D or morfa ynn.
41–54 Ni cheir y llinellau hyn yn nhestun LlGC 3051D (gw. 31–2n).
45 yfed Bernir bod copïwyr LlGC 3049D yvedd a Gwyn 4 y vedd wedi camddehongli orgraff darlleniad X, ac mai copïydd y llawysgrif gyntaf yn unig a sylweddolodd ei gamgymeriad. Thomas Wiliems yn LlGC 8497B yved yn unig a’i darllenodd yn gywir.
45 amrafael Ni cheir GGl amryfael yn yr un lawysgrif.
46 Mawr yw saig mab Morus hael Bernir mai camgopïo neu ailwampio gan Thomas Wiliems a geir yn LlGC 8497B mawr yw’r saic val morus hael.
48 neithior Cf. y ffurf amrywiol neithiar yn LlGC 21248D (gw. GPC 2568).
51 felir Ceir GGl welir yn Gwyn 4, ac, o bosibl, yn narlleniad aneglur LlGC 3049D welir. Yn LlGC 8497B yn unig y diogelwyd y darlleniad cywir.
53 sinamwm Rhaid wrth y ffurf amrywiol sinamwm er mwyn cwblhau’r gynghanedd lusg (gw. GPC 3283 d.g. sinamon), a geir yn LlGC 8497B ac fel cywiriad yn Gwyn 4 Sinamxxwm. Noder y ceir ffurf amrywiol arall yn LlGC 21248D sinamwnd.
53 clows Nid yw’n eglur beth yw’r ffurf a geid yn X: LlGC 3049D klows, LlGC 8497B clos, Gwyn 4 clus. Y drydedd yw’r unig ffurf annilys a gellid ei defnyddio i gefnogi klows neu clos, felly dilynir y llawysgrif gynharaf er hwylustod.
54 suwgr Mae LlGC 3049D a Gwyn 4 svwgwr yn awgrymu mai dyma a geid yn X hefyd, ond gthg. LlGC 8497B sugr (ar y ffurfiau, gw. GPC 3296–7 d.g. siwgr). Disgwylid siwgr er mwyn cynnal y cymeriad llythrennol si- â’r llinell flaenorol, ond bernir mai’r un fyddai ynganiad y ddwy ffurf ar lafar.
54 min Neidiodd llygaid William Salesbury i ddiwedd llinell 60 yn Gwyn 4 gwin (gw. y nodyn cefndir uchod).
55–60 Ni cheir y llinellau hyn yn nhestun Gwyn 4 (gw. y nodyn cefndir uchod).
56 siaffr Bernir y ceir siaffar yn LlGC 3049D dan ddylanwad 8 Siaff a’r.
59 llaw’n Er mai yn LlGC 8497B yn unig y ceir collnod bernir mai’r un yw’r ystyr, er na cheir collnod, yn LlGC 3049D a LlGC 3051D llawn (gthg. GGl llawn).
60 llaw ’n Bernir bod LlGC 3049D llaw in a LlGC 8497 llaw’n i yn awgrymu mai llaw a olygir yn hytrach na darlleniad GGl llawn.
64 ni Dilynir X. Gthg. LlGC 3051D na.
Llyfryddiaeth
Williams, G.A. (1978–80), ‘Siaffr (GGGl lxxxvi. 8)’, B xxviii: 613–14
Cywydd crefftus iawn yw hwn i Sieffrai Cyffin a’i wraig, Siân, a ganwyd pan ddychwelodd Sieffrai i Groesoswallt o bererindod i Jerwsalem. Roedd Guto’n fwrdais yn y dref ar y pryd. Ymdrinnir â nifer o wahanol bynciau gan lifo’n gyflym o’r naill i’r llall, ac yn hynny o beth ymddengys fod y gerdd yn un gymharol bersonol. Mae Guto’n dilyn ei drywydd ei hun o bwnc i bwnc gan gyffwrdd fel y myn â sawl agwedd ar ei berthynas â Sieffrai.
Rhoir sylw i’r bererindod yn rhan agoriadol y gerdd (llinellau 1–10). Teithiodd Sieffrai drwy Rufain a phorthladd Jaffa i Jerwsalem gan ymweld â’r eglwys a adeiladwyd yno ar fan tybiedig claddu Crist. Dyma’r bererindod bwysicaf a hwyaf y gallai Cymry’r Oesoedd Canol ymgymryd â hi, ac nid yw’r pum cwpled a rydd Guto i’w disgrifio fel pe baent yn gwneud cyfiawnder ag anferthedd y daith. Byddai Sieffrai wedi treulio misoedd lawer yn cyrchu Canaan ac yn dychwelyd i Gymru. Mae’n bosibl fod Guto wedi rhoi mwy o sylw i’r daith mewn cywydd mawl (cerdd 96) arall a ganodd i Sieffrai, ond mae’r sylw cryno a rydd i’r bererindod yn y cywydd hwn yn awgrymu ei fod bellach yn awyddus i adfer ei berthynas broffesiynol â Sieffrai wedi cyfnod hir o absenoldeb. Mae diwedd y rhan hon o’r gerdd yn bryfoclyd o debyg i’r modd y terfynir cerddi mawl yn gyffredinol, sef drwy ddymuno’n dda i’r noddwr.
Yn rhan nesaf y gerdd (11–24) mae Guto’n canolbwyntio arno ef ei hun ac yn darlunio ei berthynas â Sieffrai ar ffurf perthynas carcharor a cheidwad carchar. Fel yn ei gerddi personol i nifer o noddwyr eraill mae Guto’n ymdrin yn chwareus â’r cysyniad o gaethiwed, a defnyddir y ddyfais o gael ei garcharu a’i erlid mewn achos llys i bwysleisio cymaint mae ei noddwr ei angen ef a’i wasanaeth fel bardd. Crisielir syniadaeth y rhan hon o’r gerdd mewn gwrtheb syniadol yn llinellau 23–4, lle mae Guto’n honni bod ei ryddid yn seiliedig ar ei gaethiwed yng nghartref Sieffrai. Ceir tebygrwydd rhwng yr agwedd hon â’r modd yr honnodd Guto fod yr Abad Rhys o Ystrad-fflur wedi ei rwystro rhag cyrchu llys Phylib ap Gwilym Llwyd o Drefgwnter yn ei gywydd mawl (cerdd 30) i’r noddwr hwnnw. Roedd ei dafod yn ei foch pan ganodd yn y cywair hwnnw i Phylib ac i Sieffrai, ond roedd yn fodd hefyd iddo ddangos bod galw mawr am ei wasanaeth yn eu tai.
Aiff Guto yn ei flaen wedyn (25–30) i ymdrin â honiadau a wnaeth bardd o’r enw Syr Rhys yn ei erbyn. Canodd Guto a Syr Rhys o Garno gywyddau dychan i’w gilydd, a phrif gŵyn Syr Rhys yn ei gywydd dychan (cerdd 101a) ef yw bod Guto wedi methu mynychu gwledd y Nadolig yn abaty Glyn-y-groes o achos ei fod yn dioddef o ryw afiechyd. Yn ôl Syr Rhys achoswyd yr afiechyd gan dra newyn drwy’i neuadd (101a.8), ac aiff rhagddo i restru’r holl fwydydd y methodd Guto eu darparu pan gynhaliodd ei wledd ei hun yn ei gartref yng Nghroesoswallt. Diau mai at Syr Rhys y cyfeirir yn y cywydd hwn i Sieffrai hefyd, lle mae Guto’n achub ar y cyfle i gael y gorau ar ei gyd-fardd drwy gyfaddef na fydd angen ei fwyd ei hun arno o hyn ymlaen gan y bydd Sieffrai yn ei letya yng nghastell Croesoswallt (31–6). Ni fyddai’n rhaid iddo deithio’n hir o’i gartref i’r castell ac mae’n briodol fod y castell bellach wedi troi o fod yn [g]archar rhydd (16) i fod ein caerau ni (35).
Mae Guto’n ymhelaethu ar gynnwys y wledd yn y castell (37–40) cyn cymharu ei hun â Syr Hywel ap Gruffudd a’i fwyell enwog er mwyn pwysleisio cymaint yw ei chwant am fwyd (37–48). Mawr, fel bwyell Hywel, yw popeth yng ngwledd Sieffrai, ond newidir y pwyslais wedyn er mwyn canolbwyntio ar y mân gynhwysion sy’n rhoi blas i fwydydd y wledd: sinsir, graens, sinamwm, clows, [c]wmin, suwgr, mas a [ph]upr (51–5). Un o rinweddau Siân yw gwneud defnydd o’r perlysiau hyn yn y gegin ac un arall yw tywallt y gwin wrth fwrdd y wledd (57–60). Gorffennir y gerdd drwy awgrymu mai cwmni Sieffrai, ynghyd â’r holl fanteision a ddaw yn ei sgil, sy’n gwneud castell a thref Croesoswallt yn arbennig (63–4). Cyfeddyf Guto na fynnai fod yno, yn fardd yn y castell nac yn fwrdais yn y dref o bosibl, pe na bai Sieffrai yno hefyd, gan led-gyfeirio’n ôl at y cyfeiriadau at gaethiwed yn llinellau 11–24. Tybed a yw Guto’n cyfeirio at y ffaith mai cartref dros dro’n unig oedd Croesoswallt iddo?
Nid yng ngallu Guto i weu i’w gilydd nifer o wahanol bynciau y gwelir camp y gerdd hon fel cyfanwaith, ond yn ei allu i greu dilyniant o ddarluniau ac iddynt ddiben arbennig. Ceir yr argraff ei fod, fel zoom ar gamra, yn canolbwyntio’n raddol ar ei destun gydol y dweud. Try ei lygad o orwelion eang Ewrop a thu hwnt i ganolfan drefol fywiog ar ororau Cymru, cyn rhoi sylw i gastell Croesoswallt a’r wledd a gynhelir yno. Ceir gwrthgyferbynnu cynnil rhwng taith hirfaith y noddwr o Gymru i Ganaan ac yn ôl a thaith fer y bardd yntau o’i gartref i’r castell yng Nghroesoswallt (32–3). Troir wedyn at fwyd y wledd ac yn olaf at fân gynhwysion y bwydydd, gan gwblhau’r symud trosiadol o ddarlun mawr o bellafion y byd i ddarlun bychan o’r hyn y gellir ei gadw mewn [c]wpwrd (61) a’i ddal yng nghledr y llaw (58–60).
Dyddiad
Yn ôl Gruffudd Hiraethog priododd Sieffrai ei ail wraig, Ann ferch Richard Arglwydd Ystraens, yn 1467. Os felly, dyma terminus ante quem y gerdd hon gan fod ynddi fawl i Siân, gwraig gyntaf Sieffrai. Mae’n debygol y dylir cysylltu’r cyfeiriadau ar ddechrau’r gerdd at bererindod Sieffrai â chyfeiriadau helaethach at ei deithiau mewn cywydd mawl (cerdd 96) arall a ganodd Guto iddo, ac os cywir dyddio’r gerdd honno yn dilyn achosion o’r Pla Du yn y Gororau rhwng 1463 a 1465, gall fod y gerdd hon yn perthyn i’r un cyfnod.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd LXXXVI.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 64 llinell.
Cynghanedd: croes 55% (35 llinell), traws 22% (14 llinell), sain 12% (8 llinell), llusg 11% (7 llinell).
2 pederau ffydd Pedr Gw. GPC 2666 d.g. pader ‘gweddi; (yn aml yn y lluosog) llaswyr, glain’. Y tebyg yw mai’r ail ystyr sydd fwyaf priodol yma ac mai at leiniau a ddygodd Sieffrai adref o Rufain y cyfeirir (cf. cywydd Guto i ddiolch am baderau (cerdd 59) gan Risiart Cyffin). Ond dylid cadw mewn cof fod pererinion yn arfer llefaru gweddïau arbennig wrth ymweld â mannau cysegredig.
2 Pedr Y sant, gw. 5n.
2 ffon Ni ddaethpwyd o hyd i draddodiadau sy’n cysylltu Pedr â ffon benodol, a’r tebyg yw mai at ffon Sieffrai, y pererin, y cyfeirir yma. Fodd bynnag, prynai rhai pererinion eu ffyn mewn mannau arbennig ar y daith, a gellid ystyried ffon yn y llinell hon yn eiddo i Bedr pe bai Sieffrai wedi ei phrynu, ynghyd â’r pederau o bosibl, yn Rhufain (gw. Birch 1998: 76; cf. Roberts 1916: 190 affon gan beder affawl (Hywel ap Llywelyn i’w bererindod i Rufain)). O ran y trugareddau a nodweddai bererin yn y cyfnod hwn roedd ffon gerdded yn gyffredin iawn (gw. Olson 2008: 16), ond ni ddaethpwyd o hyd i gyfeiriad at [b]ederau ffydd Pedr yn y cyd-destun hwn.
3 rhoes ffordd dda Benthyciwyd yr ymadrodd ‘rhoi ffordd’ o’r Saesneg ‘give way, to yield’ (gw. GPC 3089 d.g. rhoddaf, lle nodir yr enghraifft gynharaf yn 1684). Dengys OED Online s.v. give 49 y defnyddid give way yn Saesneg mor gynnar ag 1413. Er nad yw’r union ystyr honno’n taro deuddeg yma gellid dadlau nad yw’r ystyr hanfodol ymhell ohoni, sef ‘gwneud y ffordd yn glir, sicrhau ffordd’.
4 Sant Cyffin Chwaraeir ar enw Sieffrai Cyffin drwy ei alw’n sant.
5 tŷ’r ddau Sef tŷ Pedr a Paul. Cyplysid y ddau sant yn aml gan y beirdd ar sail y gred (gyfeiliornus, yn ôl pob tebyg) iddynt gael eu merthyru ar yr un diwrnod, sef 29 Mehefin (gw. ODCC3 1234–8, 1260–1 ac 1297; cf. GGMD i, 2.56n; GRhGE 14.85–6). Credir iddynt gael eu dienyddio yn Rhufain ac ystyrid basilica Sant Pedr yn ninas y Fatican yn [d]ŷ’r ddau yn ystod yr Oesoedd Canol. Er i fasilica arall y tu hwnt i furiau’r ddinas gael ei chysegru i Paul, arddangosid pennau’r ddau sant ynghyd ym masilica Sant Ioan yn y Fatican (gw. Jones 1912: 177n2; Olson 2008: 34n166; Roberts 1916: 188 gweled pen peder yvedrwn / affawl or lle goraff hwn (Hywel ap Llywelyn i’w bererindod i Rufain)).
6 Pawl Yr Apostol o Darsus (gw. 5n).
6 yn ei gorffolaeth ‘In body, bodily’. Am enghreifftiau eraill o’r cyfuniad hwn, gw. GPC 560 d.g. corffolaeth. Fe’i defnyddir mewn gwrthgyferbyniad â’r arfer o anfon pererin ar daith ar ran rhywun arall (gw. Duffy 2002: 174–7). Mae’n debygol iawn i Lewys Glyn Cothi fynd ar bererindod i Rufain ar ran Wiliam Fychan ap Gwatcyn o Rydhelig, gan ganu cywydd i’w farf yn ei sgil gan nad eilliodd wrth deithio (gw. GLGC cerdd 90).
8 Porth Siaff Dangosodd Williams (1978–80: 613–14) mai at borthladd Siaff (Hebraeg Yafo) ar arfordir Israel y cyfeirir yma. Roedd Port Iaff, port Iaph a Porte Iaffe yn ffurfiau Saesneg ar enw’r porthladd yn ystod y bymthegfed ganrif, lle glaniai pererinion o Ewrop cyn cyrchu Jerwsalem ar ran olaf eu taith. Byddai’r rhan fwyaf o’r pererinion hyn yn cyrraedd muriau Jerwsalem o gyfeiriad y gorllewin ac yn ceisio mynediad i’r ddinas drwy borth a elwid yn Hebraeg Sha’ar Yafo yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg. Gellid Cymreigio’r enw hwn hefyd, yn ei dro, yn Borth Siaff, ond gan mai yn 1538 yr adeiladwyd y porth newydd a welir hyd heddiw ym muriau’r hen ddinas ni ellir ond dyfalu ai Porth Siaff oedd yr enw ar y porth cynharach a safai yno o’i flaen. Ar porth, ‘porthladd’ neu ‘fynedfa’, gw. GPC 2855 d.g. porth2, 3 (cf. GLGC 138.45–6).
8 y Bedd Eglwys y Beddrod Sanctaidd yn Jerwsalem a adeiladwyd ar safle tybiedig claddu Crist a’i atgyfodiad (gw. ODCC3 787).
9 Enaid rhydd a aned draw Ar enaid rhydd ‘absolved or pardoned soul, one freed or acquitted by the church’, gw. GPC 1212 d.g. enaid (cf. GLGC 98.3–4 adre’ doed yn dra dedwydd / ganto’r haf ag enaid rhydd (awdl i Ddafydd ap Siôn pan oedd yn Rhufain)). Tybed ai o ganlyniad i bechod penodol yr aeth Sieffrai ar bererindod?
10 y rhain Sef Pedr a Paul (gw. 2n Pedr a 6n Pawl).
11 wrth wyn ‘Yn ôl dymuniad’ (gw. GPC 1770 d.g. gwyn2; cf. 5.34 Cyfod wrth wyn y cwfaint). Ond cf. awdl Lewys Glyn Cothi i Ddafydd ap Siôn pan oedd yn Rhufain ar bererindod, GLGC 98.13–16 Wrth wyn Mawd y ffawd, dda ei ffydd, – a’r saint, / wrth wyn Siôn yn drydydd; / wrth wyn pob oferddyn fydd / ei dro ef drwy’r holl drefydd, ac ibid. 571 ‘wrth wyn: wrth fodd’. Mae’n ddiddorol fod Lewys yn cyfeirio yma at Fawd, mam Dafydd ap Siôn, ynghyd â’i dad, Siôn ap Dafydd, a bod Guto’n cyfeirio at Fabli, mam Sieffrai, yn yr un modd (gw. y nodyn isod).
11 Mabli Mabli ferch Llywelyn Gogof ab Ieuan Llwyd, mam Sieffrai ac ail wraig Morus ab Ieuan Gethin.
12 fy mywyd i ‘Fy mywoliaeth i’ (cf. 5.2 Abad wyd a bywyd ym).
16 carchar rhydd ‘Free-ward’ (gw. GPC 423 d.g. carchar). Ceir yr enghraifft gynharaf yn Saesneg yn 1538 (gw. OED Online s.v. free). Golygai math o garchar agored ar gyfer pobl gyfoethog gan amlaf, ‘pending the payment of ransom’.
18 moc O’r Saesneg mock, ‘dirmyg, gwatwar’ (gw. GPC 2468). Dyma’r enghraifft gynharaf ar glawr o’r gair hwn.
20 ond ‘Onid, os nad’ (gw. GPC 2647–8 d.g. ond2).
21 meichiau Lluosog mach ‘un sy’n mynd yn gyfrifol am sicrhau cyflawni contract, am ymddangosiad rhywun mewn llys, &c.’ (gw. GPC 2299).
21 rhaith Gw. GPC 3033–4 d.g. rhaith (b) ‘corff o bobl sy’n cyd-dyngu ag un o’r pleidiau mewn achos; rheithgor’. Ond gall hefyd mai ‘rheol, gorchymyn’ a olygir yma (gw. ibid. (a)).
23 yr ŵyl O’i ystyried yn llythrennol gallai’r ŵyl ddynodi unrhyw un o’r prif wyliau crefyddol: y Nadolig, y Sulgwyn a’r Pasg. Gan fod Guto a Syr Rhys o Garno (gw. 27n) yn cyfeirio yn eu cerddi dychan at ŵyl y Nadolig mae’n bosibl mai at ŵyl y Sulgwyn neu’r Pasg y cyfeirir yma.
25 Siân Merch Lawrence Stanstry a gwraig gyntaf Sieffrai.
27 Syr Rys Syr Rhys ap Hywel Dyrnor o’r Dre-wen a Charno, bardd-offeiriad a ganodd gerdd ddychan i Guto y cyfeirir ati yn llinellau 25–8.
28 dyfalai Gw. GPC 1122 d.g. dyfalaf (b) ‘gwatwar, goganu, dychanu’.
33 caer Oswallt Sef castell tref Croesoswallt. Y tebyg yw mai at gastell Croesoswallt y cyfeirir yn Llyfr Domesday (1086), lle nodir i siryf Normanaidd o’r enw Rainald adeiladu castell ger trefgordd Maesbury. Nodir yn y brut fod Madog ap Maredudd, yr olaf o frenhinoedd Powys, wedi adeiladu castell yng Nghroesoswallt yn 1149 (gw. Jones 1973: 128). Roedd y castell yn ganolfan filwrol bwysig yn ystod y Goncwest a thyfodd y dref yn ganolfan fasnachol o’i amgylch yn ystod yr Oesoedd Canol diweddar. Ymhellach, gw. Smith 1978: 221–2.
34 y bryn ar grib yr allt Cwyd y tir yn raddol yn nhueddau gogleddol tref Croesoswallt tuag at sgwâr y beili, a safai’r castell ar dwmpath uwch ar ben y tir hwnnw.
38 a fyn Yr hyn a fynnai Sieffrai, yn ôl pob tebyg (cf. 56 a fyn Sieffrai).
41 Hywel Syr Hywel y Fwyall (fl. c.1346–c.1381), mab i Ruffudd ap Hywel o Chwilog yn Eifionydd ac un o filwyr Cymreig enwocaf y Rhyfel Can Mlynedd. Mae ar glawr gerddi iddo gan Iolo Goch, Gruffudd ap Maredudd a Rhisierdyn, a chywydd gan Ruffudd Gryg i’w frawd, Einion ap Gruffudd (gw. GIG cerdd II; GGMD iii, cerdd 2; GSRh cerdd 6; GGGr cerdd 1). Ceir traddodiad iddo ddal John II, brenin Ffrainc, ym mrwydr fawr Poitiers yn 1356, ac mai yno yr enillodd fri i’w fwyell yn ogystal, fel y dengys y rhaglith canlynol i’r cywydd a ganodd Iolo Goch iddo yn llawysgrif BL 14866, 118 (David Johns, 1586–7): Cowydd i Syr Howel y fwyall … rhwn Syr howel a wnaed yn varchog yn ffrainc gidar Twyssog Edd. vab Edd. y drydydd pan ddaliwyd brenin ffrainc: mae’r gair ymplith y Cymbry mai Syr howel ai delwys ef ac a roes ffrwyn yn i ben a chael o hono, alowans gan y brenin saig iddo i hun ac un arall yw fwyall ac yn ol hyny rhenti melinau Caer ac yn ddiwaetha gastell Cryckarth ai berthynas. At yr hanes hwn am natur fwyteig bwyell Hywel y cyfeirir gan Guto yn llinellau 41–4.
41–2 Fal Hywel yn rhyfelu, / Felly ’dd wyf, â’r fwyall ddu Cf., benthyciad gan Lewys Glyn Cothi mewn cywydd mawl i Siôn ap Tomas o Ganwrda a ganwyd wedi 1487, GLGC 24.31–2 Syr Hywel yn rhyfelu, / ‘felly’dd oedd â’r fwyall ddu (am y dyddiad, gw. ibid. 534).
43 unsaig Gw. GPC 3168 d.g. saig ‘dysglaid (o fwyd), (cwrs mewn) pryd bwyd, gwledd’.
43 Winsawr Sef castell Windsor ar lannau afon Tafwys i’r gorllewin o Lundain, prif gastell a phalas brenhinoedd Lloegr.
45 amrafael Cf. Guto yn ei gywydd i Hywel ap Llywelyn Fychan o Lyn Aeron, 10.23–4 Mawr y barnaf amrafael / Y rhwng y cybydd a’r hael.
46 Morus Morus ab Ieuan Gethin, tad Sieffrai.
48 neithior Gwledd briodas, ac, yn ôl Statud Gruffudd ap Cynan (1523), un o’r pum erw rydd pryd y câi’r beirdd gyrchu llys noddwr (gw. Davies 1904–6: 101; ymhellach, gw. MacCana 1968–70: 316–19).
50 castell Oswallt Gw. 33n.
51 sinsir Benthyciad o’r Saesneg ginger (gw. GPC 3285).
52 graens da rhag yr annwyd Benthyciwyd graens o’r Saesneg grain (gw. GPC 1522 d.g. graen3). Cf. Lewys Glyn Cothi mewn cywydd mawl i Ieuan ap Lewys a Thangwystl o Aber-mad ym Mefenydd, GLGC 88.52 graens rhag haint gwres (cf. 53n Sinamwm, cloes a chwmin a 55n Pob rhyw fwyd mewn pupr a fai).
53 Sinamwm, clows a chwmin Cf. Lewys Glyn Cothi mewn cywydd mawl i Ieuan ap Lewys a Thangwystl o Aber-mad ym Mefenydd, GLGC 88.47–8 sinamwm, almwns, cwmin, / balsamẃm yw blas ’y min (cf. 52n a 55n Pob rhyw fwyd mewn pupur a fai).
53 sinamwm Benthyciad o’r Saesneg cinnamom (gw. GPC 3283 d.g. sinamon).
53 clows Benthyciad o’r Saesneg cloves (gw. GPC 505 d.g. clofs).
53 cwmin Benthyciad o’r Saesneg cumin (gw. GPC 641).
54 suwgr Ffurf ar siwgr, sef benthyciad o’r Saesneg Canol sugre (neu’n uniongyrchol o Ffrangeg Lloegr) (gw. GPC 3296 d.g. siwgr).
54 mas Benthyciad o’r Saesneg mace (gw. GPC 2370 d.g. mas2).
55 Pob rhyw fwyd mewn pupr a fai Cf. Lewys Glyn Cothi mewn cywydd mawl i Ieuan ap Lewys a Thangwystl o Aber-mad ym Mefenydd, GLGC 88.42 pupur o fewn pob rhyw fwyd (cf. 52n a 53n Sinamwm, cloes a chwmin).
55 pupr Benthyciad o’r Saesneg Canol piper (gw. GPC 2930 d.g. pupur).
57 sew Benthyciad o’r Saesneg Canol seu ‘cawl, potes, stiw’ (gw. GPC 3236).
63 malsai Benthyciad o’r Saesneg Canol malmsey ‘gwin melys cryf, yn wreiddiol o wlad Groeg’ (gw. GPC 2329 d.g. malmsai).
64 f’annedd Cf. Guto yn ei gywydd mawl i Groesoswallt, 102.13–14 Am hynny ’dd wyf a’m hannedd / Yn y Mars; caf win a medd.
Llyfryddiaeth
Birch, D.J. (1998), Pilgrimage to Rome in the Middle Ages (Woodbridge)
Davies, J.H. (1904–5), ‘The Roll of the Caerwys Eisteddfod of 1523’, Transactions of the Liverpool Welsh National Society: 87–102
Duffy, E. (2002), ‘The Dynamics of Pilgrimage in Late Medieval England’, C. Morris and P. Roberts (eds.), Pilgrimage: The English Experience from Becket to Bunyan (Cambridge), 164–77
Jones, G.H. (1912), Celtic Britain and the Pilgrim Movement (London)
Jones, T. (1973) (ed. and trans.), Brut y Tywysogyon, or, The Chronicle of the Princes, Red Book of Hergest Version (second ed., Cardiff)
MacCana, P. (1968–70), ‘Elfennau Cyn-Gristnogol yn y Cyfreithiau’, B xxiii: 316–20
Olson, K.K. (2008), ‘ “Ar Ffordd Pedr a Phawl”: Welsh Pilgrimage and Travel to Rome, c.1200–c.1530’, Cylchg HC 24: 1–40
Roberts, E.S. (1916) (ed.), Llanstephan Ms. 6 (Cardiff)
Smith, Ll.B. (1978), ‘Oswestry’, R.A. Griffiths (ed.), Boroughs of Medieval Wales (Cardiff), 218–42
Webb, D. (1999), Pilgrims and Pilgrimage in the Medieval West (London)
Williams, G.A. (1978–80), ‘Siaffr (GGGl lxxxvi. 8)’, B xxviii: 613–14
This skilfully crafted poem for Sieffrai Cyffin and his wife, Siân, was composed following Sieffrai’s return to Oswestry from a pilgrimage to Jerusalem. Guto was a burgess of the town at the time. A number of themes are addressed in quick succession, which give the poem a somewhat personal lilt. Guto weaves his own course from theme to theme and touches upon many different aspects of his relationship with Sieffrai.
The opening part of the poem is focused on the pilgrimage (lines 1–10). Sieffrai travelled through both Rome and the port of Jaffa to Jerusalem, where he visited the church which is said to have been built upon Christ’s tomb. This was both the most important and longest pilgrimage that a Welshman could embark upon in the Middle Ages, and the modest five couplets with which Guto describes it do not seem to do justice to the immensity of the journey. It would have taken Sieffrai months both to reach Canaan and to then return to Wales. Guto may have described the journey in more detail in another praise poem (poem 96) which he addressed to Sieffrai, yet his concise treatment of the pilgrimage in the present poem suggests that he was eager to resume his professional relationship with Sieffrai after a long period of absence. The concluding lines of this part of the poem are tantalizingly similar to the way praise poems are concluded in general, namely by wishing the patron well.
In the next part of the poem (11–24), Guto gives his own perspective and portrays his relationship with Sieffrai as a relationship between a prisoner and a prison keeper. As in other personal poems for a number of patrons, Guto playfully explores the concept of confinement, and here he uses the conceit of being imprisoned and tried in a court of law in order to emphasize how much his patron needs both him and his services as a poet. This is summed up in a paradox in lines 23–4, where Guto claims that his freedom is based on his confinement in Sieffrai’s home. There is a similarity between this theme and Guto’s claim that Abbot Rhys of Strata Florida prevented him from visiting the court of Phylib ap Gwilym Llwyd of Tregunter in his praise poem (poem 30) for Phylib. Guto’s tongue was firmly in his cheek when he sang in this key for both Sieffrai and Phylib, yet his point was also to show that his poetry was in great demand in their houses.
Next Guto gets to grips with accusations made against him by a poet named Syr Rhys (25–30). Guto and Syr Rhys of Carno composed satirical poems to each other, and in his poem (poem 101a) Syr Rhys complains that Guto had been too ill to attend a Christmas feast at the abbey of Valle Crucis. According to Syr Rhys, the illness was caused by [t]ra newyn drwy’i neuadd ‘a great famine throughout his hall’ (101a.8), and he then lists the numerous foods that Guto failed to provide when he held his own feast in his home at Oswestry. Guto doubtless refers to Syr Rhys again in this poem for Sieffrai, where he jumps at the chance to get one-up on his fellow-poet by admitting that he would not need to feed himself from now on as Sieffrai will accommodate him in Oswestry castle (31–6). He would not have to travel far from his home to the castle and it is appropriate enough that the castle has now changed from being a carchar rhydd ‘free ward’ (16) to ein caerau ni ‘our forts’ (35).
Guto then details the content of the feast in the castle (37–40) before comparing himself with Sir Hywel ap Gruffudd and his famous axe in order to emphasize his immense appetite (37–48). Like Hywel’s axe, everything in Sieffrai’s feast is of great size, but then the emphasis changes as Guto turns his attention to the fine ingredients that give flavour to the food: sinsir ‘ginger’, graens ‘grains’, sinamwm ‘cinnamon’, clows ‘cloves’, [c]wmin ‘cumin’, suwgr ‘sugar’, mas ‘mace’ and pupr ‘pepper’ (51–5). One of Siân’s virtues is her ability to make use of these herbs in the kitchen and another is to pour wine at the table (57–60). Guto concludes the poem by suggesting that it is Sieffrai’s company, along with all the benefits it entails, that make the castle and town of Oswestry special (63–4). He admits that he would not be yno ‘there’ in the castle, possibly both as a poet and as a burgess in the town, if Sieffrai was not also there, by way of which he also links back with the earlier references to imprisonment in lines 11–24. Is Guto implying that Oswestry was simply a temporary residence for him?
The brilliance of this poem is not in Guto’s ability to weave together a number of disparate themes, but in his ability to create a sequence of images for a specific purpose. Like a zoom on a camera, he seems to be gradually focusing on his subject throughout the poem. He turns his gaze from the vast horizons of Europe and beyond to a vibrant civil centre in the Marches of Wales, then he depicts the castle at Oswestry and the feast held there. Guto subtly contrasts the arduously long journey of his patron both to and from Canaan with his own short journey from his home to the castle in Oswestry (32–3). He then turns his attention to the food provided in the feast and finally to the fine ingredients, therefore completing the metaphoric transition from a wide, panoramic view of the ends of the earth to a minute depiction of things that can be kept in a [c]wpwrd ‘cupboard’ (61) and held in the palm of a llaw ‘hand’ (58–60).
Date
According to Gruffudd Hiraethog, Sieffrai married his second wife, Ann daughter of Richard Lord Strange, in 1467. If so, this is the poem’s terminus ante quem as it contains praise for Siân, Sieffrai’s first wife. The references at the beginning of the poem to Sieffrai’s pilgrimage are in all likelihood related to more extensive references to his travels in another of Guto’s praise poems (poem 96) for Sieffrai. If the dating of that poem following an outbreak of the Black Death in the Marches sometime between 1463 and 1465 is correct, it is likely that the present poem also belongs to the same period.
The manuscripts
This poem survives in six manuscript copies. Gwyn 4, LlGC 3051D and LlGC 8497B derive from a lost manuscript which contained an extensive collection of Guto’s work and which was written, in all likelihood, in Dyffryn Conwy. The collective evidence of these three manuscripts faithfully reflects the text of the lost source, which was fortunately in good condition. The text of LlGC 3051D is incomplete and was probably derived from an oral source.
Previous edition
GGl poem LXXXVI.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 64 lines.
Cynghanedd: croes 55% (35 lines), traws 22% (14 lines), sain 12% (8 lines), llusg 11% (7 lines).
2 pederau ffydd Pedr See GPC 2666 s.v. pader ‘prayer; (often in the pl.) rosary, bead’. Guto is in all likelihood referring to the second meaning, namely ‘St Peter’s faith beads’, which Sieffrai brought home with him from Rome (cf. Guto’s poem of thanks for a rosary (poem 59) from Rhisiart Cyffin). However, it is worth keeping in mind that pilgrims would often use specific prayers as they visited holy places.
2 Pedr St Peter (see 5n).
2 ffon As there is no recorded tradition which connects St Peter with a specific ffon ‘staff’, Guto is probably referring to the pererin’s staff (‘pilgrim’), namely Sieffrai. Nonetheless, pilgrims would sometimes buy staffs in specific places along their journey, and the ffon could therefore belong to St Peter in this context if Sieffrai had bought it, possibly along with the pederau ‘faith beads’, in Rome (see Birch 1998: 76; cf. Roberts 1916: 190 affon gan beder affawl ‘and a staff from St Peter and St Paul’ (Hywel ap Llywelyn to his pilgrimage to Rome)). The staff was one of the objects most commonly associated with pilgrims in the Middle Ages (see Olson 2008: 16), yet no reference to pederau ffydd Pedr ‘St Peter’s faith beads’ has been found in this context.
3 rhoes ffordd dda The phrase rhoi ffordd was borrowed from the English ‘give way, to yield’ (see GPC 3089 s.v. rhoddaf, where the earliest example belongs to 1684). OED Online s.v. give 49 shows that give way was used in English as early as 1413. Although the exact meaning of give way is not appropriate in this context, the essential meaning is arguably not far off, namely ‘to make the way clear, assure a road’.
4 Sant Cyffin A play on Sieffrai Cyffin’s name, ‘Saint Cyffin’.
5 tŷ’r ddau ‘The two men’s house’, namely St Peter and St Paul. Both saints were often named together by the poets on the (probably spurious) belief that they were martyred on the same day, namely 29 June (see ODCC3 1234–8, 1260–1 and 1297; cf. GGMD i, 2.56n; GRhGE 14.85–6). It is believed that they were martyred in Rome and the basilica of St Peter in the Vatican City was considered the church of both St Peter and St Paul during the Middle Ages. Although another basilica was dedicated to St Paul beyond the walls of the city, both saints’ heads were displayed together in the basilica of St John in the Vatican (see Jones 1912: 177n2; Olson 2008: 34n166; Roberts 1916: 188 gweled pen peder yvedrwn / affawl or lle goraff hwn ‘I could see St Peter’s head and St Paul’s from this splendid place’ (Hywel ap Llywelyn to his pilgrimage to Rome)).
6 Pawl St Paul the Apostle from Tarsus (see 5n).
6 yn ei gorffolaeth ‘In body, bodily’. For other examples of this phrase, see GPC 560 s.v. corffolaeth. It is used in contrast with the custom of sending a pilgrim to a holy place on behalf of someone else (see Duffy 2002: 174–7). It is very likely that Lewys Glyn Cothi went on a pilgrimage to Rome on behalf of Wiliam Fychan ap Gwatcyn of Rhydhelig, and composed a poem for his beard on his return as he had not shaved during the journey (see GLGC poem 90).
8 Porth Siaff Williams (1978–80: 613–14) showed that Guto is referring to the port of Jaffa (Hebrew Yafo) on the coast of Israel. Port Iaff, port Iaph and Porte Iaffe were English forms of the name during the fifteenth century, where pilgrims from Europe would land before beginning the last leg of their journey overland to Jerusalem. The majority of pilgrims would arrive at Jerusalem from the west and would seek entry to the city through a gatehouse which was called in Hebrew Sha’ar Yafo during the sixteenth century. This name could also be rendered into Welsh as Porth Siaff, but as the new gatehouse which can still be seen today in the old city walls was built in 1538, it is not clear whether the earlier gatehouse bore the same name. On porth, ‘port’ or ‘gateway’, see GPC 2855 s.v. porth2, 3 (cf. GLGC 138.45–6).
8 y Bedd ‘The Tomb’, namely the Church of the Holy Sepulchre in Jerusalem built upon the supposed site of Christ’s burial and resurrection (see ODCC3 787).
9 Enaid rhydd a aned draw On enaid rhydd ‘absolved or pardoned soul, one freed or acquitted by the church’, see GPC 1212 s.v. enaid (cf. GLGC 98.3–4 adre’ doed yn dra dedwydd / ganto’r haf ag enaid rhydd ‘may he bring the summer home very blessed with a pardoned soul’ (for Dafydd ap Siôn when he was in Rome)). Was Sieffrai’s pilgrimage prompted by specific sins?
10 y rhain ‘These’, namely St Peter and St Paul (see 2n Pedr and 6n Pawl).
11 wrth wyn ‘By the will’ (see GPC 1770 s.v. gwyn2; cf. 5.34 Cyfod wrth wyn y cwfaint ‘rise up to the delight of the monks’). But cf. Lewys Glyn Cothi’s poem for Dafydd ap Siôn when he was on pilgrimage in Rome, GLGC 98.13–16 Wrth wyn Mawd y ffawd, dda ei ffydd, – a’r saint, / wrth wyn Siôn yn drydydd; / wrth wyn pob oferddyn fydd / ei dro ef drwy’r holl drefydd ‘By the will of Maud of the fortune, good her faith, and the saints, thirdly by the will of Siôn; by the will of every wandering poet will his journey be through all the towns,’ and ibid. 571. It is noteworthy that Lewys refers to Maud, Dafydd ap Siôn’s mother, and then to his father, Siôn ap Dafydd, and that Guto also refers similarly to Mabli, Sieffrai’s mother (see the note below).
11 Mabli Mabli daughter of Llywelyn Gogof ab Ieuan Llwyd, Sieffrai’s mother and the second wife of Morus ab Ieuan Gethin.
12 fy mywyd i ‘My living’ (cf. 5.2 Abad wyd a bywyd ym ‘you are abbot and life to me’).
16 carchar rhydd ‘Free ward’ (see GPC 423 s.v. carchar). The earliest example in English belongs to 1538 (see OED Online s.v. free ‘detention not involving close or ignominious restraint, as sometimes offered to wealthy or noble captives pending the payment of ransom’).
18 moc From the English word mock ‘mockery’ (see GPC 2468). This is the earliest example of the word in Welsh.
20 ond ‘Unless, if … not’ (see GPC 2647–8 s.v. ond2).
21 meichiau Plural of mach ‘one who accepts responsibility for the fulfilment of a contract’ or for someone’s appearance in court (see GPC 2299).
21 rhaith See GPC 3033–4 s.v. rhaith (b) ‘body of compurgators; jury’, although ibid. (a) ‘rule, decree’ is also possible.
23 yr ŵyl ‘The feast’ or ‘festival’, possibly one of the three main religious holidays: Christmas, Whitsunday and Easter. As both Guto and Syr Rhys of Carno (see 27n) refer in their satirical poems to a Christmas feast, this [g]ŵyl may refer to either Whitsunday or Easter.
25 Siân Daughter of Lawrence Stanstry and Sieffrai’s first wife.
27 Syr Rys Syr Rhys ap Hywel Dyrnor of Whittington (y Dre-wen) and Carno, a poet-priest who composed a satirical poem for Guto which is referred to in lines 25–8.
28 dyfalai See GPC 1122 s.v. dyfalaf (b) ‘to mock, deride, ridicule’.
33 caer Oswallt ‘St Oswald’s fort’, namely the town castle. The castle of Oswestry is in all likelihood referred to in the Domesday Book (1086), where it is noted that a Norman sheriff named Rainald built a castle near the township of Maesbury. The brut notes that Madog ap Maredudd, the last of the kings of Powys, built a castle at Oswestry in 1149 (see Jones 1973: 128). The castle was an important military centre during the Conquest and the town that surrounded it developed into a notable commercial centre during the latter Middle Ages. See further Smith 1978: 221–2.
34 y bryn ar grib yr allt ‘The hill on the slope’s ridge’. The land gradually rises up northwards in Oswestry towards the bailey square, and the castle stood on a raised hillock above it.
38 a fyn In all likelihood what Sieffrai ‘wants’ (cf. 56 a fyn Sieffrai ‘what Sieffrai wants’).
41 Hywel Sir Hywel y Fwyall (of the Axe) (fl. c.1346–c.1381), son of Gruffudd ap Hywel of Chwilog in Eifionydd and one of the most famous Welsh warriors of the Hundred Years War. Poems of praise for him have survived by Iolo Goch, Gruffudd ap Maredudd and Rhisierdyn, and also a poem of praise for his brother, Einion ap Gruffudd, by Gruffudd Gryg (see IGP poem 2; GGMD iii, poem 2; GSRh poem 6; GGGr poem 1). Legend has it that Hywel captured John II, king of France, in the great battle of Poitiers in 1356, where he also won renown for his axe. According to a preface to a copy of Iolo Goch’s poem for him in the hand of David Johns in BL 14866, 118 (1586–7), Hywel received a knighthood for his feats as well as two dishes, one for himself and another for his axe. Guto refers directly to the greedy nature of Hywel’s axe in lines 41–4.
41–2 Fal Hywel yn rhyfelu, / Felly ’dd wyf, â’r fwyall ddu Cf. a borrowing by Lewys Glyn Cothi in a praise poem for Siôn ap Tomas of Llanwrda, composed after 1487, GLGC 24.31–2 Syr Hywel yn rhyfelu, / felly’dd oedd â’r fwyall ddu (for the date, see ibid 534).
43 unsaig See GPC 3168 s.v. saig ‘dish (of food), (course of a) meal, feast’.
43 Winsawr Windsor castle on the banks of the river Thames west of London, the principal castle and palace of the kings of England.
45 amrafael ‘Multifarious’. Cf. Guto in his poem of praise for Hywel ap Llywelyn Fychan of Glyn Aeron, 10.23–4 Mawr y barnaf amrafael / Y rhwng y cybydd a’r hael ‘I judge that there will be a great difference between the miser and the generous man.’
46 Morus Morus ab Ieuan Gethin, Sieffrai’s father.
48 neithior ‘Marriage feast’, according to Statud Gruffudd ap Cynan (1523) one of the pum erw rydd ‘five free accesses’ when poets were allowed to visit a patron’s house (see Davies 1904–6: 101; see further MacCana 1968–70: 316–19).
50 castell Oswallt ‘St Oswald’s castle’ (see 33n).
51 sinsir Borrowed from the English ginger (see GPC 3285).
52 graens da rhag yr annwyd ‘Excellent grains to keep against the cold’. The plural graens is borrowed from the English grain (see GPC 1522 s.v. graen3). Cf. Lewys Glyn Cothi in a poem of praise for Ieuan ap Lewys and Tangwystl of Aber-mad in Mefenydd, GLGC 88.52 graens rhag haint gwres ‘grains to keep against fever’ (cf. 53n Sinamwm, clows a chwmin and 55n Pob rhyw fwyd mewn pupr a fai).
53 Sinamwm, clows a chwmin Cf. Lewys Glyn Cothi in a poem of praise for Ieuan ap Lewys and Tangwystl of Aber-mad in Mefenydd, GLGC 88.47–8 sinamwm, almwns, cwmin, / balsamẃm yw blas ’y min ‘cinnamon, almonds and cumin, balsam is the taste on my lips’ (cf. 52n and 55n Pob rhyw fwyd mewn pupr a fai).
53 sinamwm Borrowed from the English cinnamom (see GPC 3283 s.v. sinamon).
53 clows Borrowed from the English cloves (see GPC 505 s.v. clofs).
53 cwmin Borrowed from the English cumin (see GPC 641).
54 suwgr A form of siwgr, borrowed from the Middle English sugre (or possibly directly from the French of England) (see GPC 3296 s.v. siwgr).
54 mas Borrowed from the English mace (see GPC 2370 s.v. mas2).
55 Pob rhyw fwyd mewn pupr a fai ‘Every such food in pepper that be’. Cf. Lewys Glyn Cothi in a poem of praise for Ieuan ap Lewys and Tangwystl of Aber-mad in Mefenydd, GLGC 88.42 pupur o fewn pob rhyw fwyd ‘pepper in every such food’ (cf. 52n and 53n Sinamwm, clows a chwmin).
55 pupr Borrowed from Middle English piper (see GPC 2930 s.v. pupur).
57 sew Borrowed from Middle English seu ‘soup, broth, stew’ (see GPC 3236).
63 malsai Borrowed from Middle English malmsey ‘A strong sweet wine, originally the product of the district of Monemvasia (Napoli di Malvasia) in the Peloponnese, Greece, later also from other parts of the Mediterranean, the Azores, the Canaries, Madeira, and elsewhere’ (see OED Online s.v. malmsey 1; GPC 2329 s.v. malmsai).
64 f’annedd ‘My home’. Cf. Guto in his poem of praise for Oswestry, 102.13–14 Am hynny ’dd wyf a’m hannedd / Yn y Mars; caf win a medd ‘that’s why my home is in the Marches; I receive wine and mead’.
Bibliography
Birch, D.J. (1998), Pilgrimage to Rome in the Middle Ages (Woodbridge)
Davies, J.H. (1904–5), ‘The Roll of the Caerwys Eisteddfod of 1523’, Transactions of the Liverpool Welsh National Society: 87–102
Duffy, E. (2002), ‘The Dynamics of Pilgrimage in Late Medieval England’, C. Morris and P. Roberts (eds.), Pilgrimage: The English Experience from Becket to Bunyan (Cambridge), 164–77
Jones, G.H. (1912), Celtic Britain and the Pilgrim Movement (London)
Jones, T. (1973) (ed. and trans.), Brut y Tywysogyon, or, The Chronicle of the Princes, Red Book of Hergest Version (second ed., Cardiff)
MacCana, P. (1968–70), ‘Elfennau Cyn-Gristnogol yn y Cyfreithiau’, B xxiii: 316–20
Olson, K.K. (2008), ‘ “Ar Ffordd Pedr a Phawl”: Welsh Pilgrimage and Travel to Rome, c.1200–c.1530’, Cylchg HC 24: 1–40
Roberts, E.S. (1916) (ed.), Llanstephan Ms. 6 (Cardiff)
Smith, Ll.B. (1978), ‘Oswestry’, R.A. Griffiths (ed.), Boroughs of Medieval Wales (Cardiff), 218–42
Webb, D. (1999), Pilgrims and Pilgrimage in the Medieval West (London)
Williams, G.A. (1978–80), ‘Siaffr (GGGl lxxxvi. 8)’, B xxviii: 613–14
Roedd Sieffrai Cyffin yn un o noddwyr pwysicaf Guto yn y Mers. Er ei bod yn debygol fod Sieffrai wedi noddi nifer o feirdd, pum cerdd iddo gan Guto yw’r unig gerddi sydd wedi goroesi iddo yn y llawysgrifau: cywydd mawl (cerdd 96); cywydd mawl i Sieffrai a’i wraig, Siân ferch Lawrence Stanstry (cerdd 97); cywydd gofyn am frigawn ar ran Dafydd Llwyd o Abertanad (cerdd 98); cywydd gofyn am gorn hela ar ran Siôn Eutun o Barc Eutun (cerdd 99); cywydd gofyn am ddau filgi ar ran Sieffrai gan Robert ab Ieuan Fychan o Goetmor (cerdd 100). Canodd Tudur Aled gywydd mawl i Edward Trefor a’i wraig, Ann Cyffin ferch Sieffrai (TA cerdd 51 a llinellau 43–56 yn arbennig). Molwyd Lewys Cyffin ap Siôn, ŵyr i frawd Sieffrai, mewn cywydd gan Huw ap Dafydd (GHD cerdd 20) a chanodd Wiliam Llŷn gywydd marwnad iddo (Stephens 1983: 327; nis ceir yn WLl).
Mae’n rhaid gwahaniaethu rhwng Sieffrai Cyffin a gŵr arall o’r un enw a fu’n abad Aberconwy yn hanner cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg (Williams 1970–2: 188, 196; idem 2001: 295). I’r Abad Sieffrai Cyffin y canodd Tudur Aled awdl fawl (TA cerdd 27). Yn Lowe (1921: 272), honnir bod ‘Geoffrey Kyffin’ yn abad Aberconwy yn 1450, camgymeriad am 1550, yn ôl pob tebyg.
Achresi
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ac Cynfyn’ 9, 10, 11; WG2 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 10 F2, 11 A3. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.
Achres Sieffrai Cyffin ap Morus o Groesoswallt
Fel y gwelir, roedd Sieffrai’n hanner ewythr i Faredudd ap Hywel o Groesoswallt ac yn hanner cefnder i Ddafydd Cyffin ab Iolyn o Langedwyn ac i Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch. Roedd yn hanner cefnder i Ruffudd ab Ieuan Fychan o Abertanad hefyd, sef gŵr Gweurful ferch Madog a thad Dafydd Llwyd. At hynny, roedd Sieffrai’n perthyn o bell i Siôn Eutun o Barc Eutun ac i Robert ab Ieuan Fychan o Goetmor.
Yn y goeden achau isod dangosir teulu Sieffrai ei hun. Fe’i seiliwyd ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 9, 11, 27, ‘Seisyll’ 2, WG2 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 11D ac ar wybodaeth a geir yn llaw John Davies o Riwlas (1652–c.1718) yn LlGC 8497B, 66r–67r wrth ymyl copi o gerdd 97 yn llaw Thomas Wiliems.
Teulu Sieffrai Cyffin ap Morus o Groesoswallt
Eiddo John Davies yw’r wybodaeth ynghylch priodas Catrin ferch Sieffrai a gŵr o’r enw Edward ap Dafydd ab Edmwnd, y pencerdd o blwy hanmer. Ni nodir yn achresi Bartrum fod mab gan y bardd, Dafydd ab Edmwnd, eithr merch yn unig, sef Marged, ond gall fod y cof amdano wedi pylu yn sgil y ffaith na bu iddynt ddim plant (WG1 ‘Hanmer’ 2; sylwer bod cyfeiriad at ŵr o’r enw Hopgyn ap Dafydd ab Edmwnd yn ibid. ‘Trahaearn Goch of Llŷn’ 2). At hynny, dywed Davies fod merch anhysbys Sieffrai a briododd Syr Tomas Cinast wedi marw yn ddi blant. Priododd merch arall iddo, Ann, ag Edward Trefor ap Siôn Trefor, constable castell y drewen yn ôl Davies. Dywed bod Ales ferch Sieffrai wedi cael perthynas gydag un o noddwyr Guto, Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais, ac wedi cenhedlu vn plentyn ohono ef ond ni bu hi ddim yn briod. Cafodd Ales ferch a fu farw’n ifanc (Griffiths 1993: 64, 270).
Priododd Sieffrai ddwywaith, yn gyntaf â Siân ferch Lawrence Stanstry (yr hon a elwyd y saesnes goch o gent yn ôl Davies) ac wedyn ag Ann o deulu arglwyddi Strange o’r Cnwcin. Nododd Gruffudd Hiraethog yn Pen 176, 357 (c.1552), mai merch oedd Ann i John arglwydd Strange, a’r un oedd ei farn wreiddiol yn Pen 134, 380 (c.1550–8), cyn iddo newid ei feddwl: Ann fh’ chwaer sion arglwydd ystraens. Ategir y diwygiad ddwywaith gan Wiliam Llŷn yn Pen 139, i, 64–5 (c.1567–77), ac er iddo nodi ar dudalen 66 fod Ann yn ferch i John, diwygiwyd yr wybodaeth honno maes o law (gan Wiliam ei hun yn ôl pob tebyg): nid gwir fry am blant argl’ straens chwaer oedd wraic sieffre kyffin i iohn y diweddaf or arglwydde straens. Yn ôl Wiliam olynwyd John, yr olaf o arglwyddi Strange Cnwcin drwy waed, gan ei ferch, Sian, a briododd George arglwydd Stanley, mab iarll cyntaf Derbi. Ategir yr wybodaeth honno yn Kidd and Williamson (1990: P 1075), lle dywedir mai Joan (Siân) oedd unig ferch John. Seiliwyd yr achres isod ar ibid. ac ar wybodaeth ddiwygiedig y llawysgrifau.
Teulu Ann ferch Richard arglwydd Strange
Ei deulu a’i yrfa
Roedd Sieffrai’n ŵyr i Ieuan Gethin ac felly’n aelod o deulu Cymreig mwyaf dylanwadol y gororau i’r dwyrain o’r Berwyn yn ystod y bymthegfed ganrif. Y tebyg yw mai drwy gyswllt Guto ag aelodau eraill o’r teulu hwnnw (megis Hywel ab Ieuan Fychan) y dechreuodd dderbyn nawdd gan Sieffrai yn y lle cyntaf. Roedd cyfenw Sieffrai yn enw teuluol a ddefnyddiwyd gyntaf gan ei hendaid, Madog Cyffin. Yn ôl Griffith (1998: 196), mabwysiadodd Madog y cyfenw o’r enw lle Cyffin yn Llangedwyn (gw. GPC 730 d.g. cyffin ‘ffin, goror’) er mwyn gwahaniaethu rhyngddo ef a’i dad, Madog Goch. Roedd tad Sieffrai, Morus ab Ieuan Gethin, yn ynad cwmwd Mochnant Is-Rhaeadr yn ystod nawdegau’r bedwaredd ganrif ar ddeg a cheir ei enw mewn cofnod arall yn dilyn methiant gwrthryfel Owain Glyndŵr (Huws 2007: 97–8, 117n77). Roedd yn fyw yn 1445 ac yn gysylltiedig â Chroesoswallt (CPR 1441–6, 397–8). Dywed Guto fod Morus wedi teithio i dref Aras yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc ac i Brwsia yn yr Almaen (96.25–6), o bosibl ar bererindod (gw. y nodyn isod ar bererindod ei fab). Ar arfau herodrol Sieffrai a’i deulu, gw. DWH ii: 93–4.
Roedd Guto’n canu i Sieffrai cyn Tachwedd 1465, oherwydd oddeutu dechrau’r mis hwnnw bu farw Dafydd Llwyd o Abertanad a’i wraig, Catrin, o haint y nodau. Canodd Guto gywydd gofyn am frigawn i Sieffrai ar ran Dafydd (cerdd 98) lle cyfeirir at gwnstablaeth Sieffrai yng Nghroesoswallt (98.16, 22). Gwyddys ei fod yn un o feilïaid y dref yn 1463 ac yn berchen ar dir yno ar 29 Medi 1465 (Huws 2007: 122n93; DWH ii: 93). Ni ellir profi bod Sieffrai’n gwnstabl y dref yn ogystal ag yn feili yn 1463, nac ychwaith ei fod yn parhau i fod yn gwnstabl yn 1465, ond fe ymddengys hynny’n debygol. Canodd Syr Rhys gerdd ddychan i Guto pan oedd yn fwrdais yng Nghroesoswallt (cerdd 101a) a chyfeirir at y dychan hwnnw yng nghywydd mawl Guto i Sieffrai ac i Siân, ei wraig gyntaf (97.25–8). Yng ngherdd Syr Rhys enwir Siôn ap Rhisiart, abad Glyn-y-groes, c.1455–c.1480. Yn ei gywydd i ofyn brigawn gan Sieffrai, cyfeiria Guto at y bwrdeisiaid a ddioddefai pe na bai Sieffrai’n gwnstabl, ac yn y llinellau nesaf defnyddir y rhagenw personol cyntaf lluosog ein i ddisgrifio pwysigrwydd Sieffrai yn y dref (98.19–26). Yr awgrym cryf yw bod y bardd ei hun yn fwrdais yn y dref pan ganwyd y gerdd rywdro cyn Tachwedd 1465, ac felly mae’n bur debygol fod Syr Rhys yntau wedi canu ei gerdd ddychan i Guto oddeutu’r un adeg, pan oedd Siôn yn abad. Mae’n gymharol eglur, felly, y gellir lleoli Sieffrai yng Nghroesoswallt yn hanner cyntaf y 1460au.
Cyfeiriwyd eisoes at y cywydd mawl a ganodd Guto i Sieffrai ac i’w wraig gyntaf, Siân. Yn Pen 176 dywed Gruffudd Hiraethog fod Sieffrai wedi priodi ei ail wraig, Ann ferch Richard arglwydd Strange, yn 1467, ond dywed yn Pen 134 mai Syr Peter Newton a Siân, merch hynaf Sieffrai ac Ann, a briododd y flwyddyn honno. A chymryd nad oedd Gruffudd yn hau dyddiadau yn ôl ei fympwy, mae’n eithriadol o annhebygol fod y ddwy briodas wedi eu cynnal yn yr un flwyddyn, felly ym mha lawysgrif yr aeth ar gyfeiliorn? A chymryd y byddai Siân ferch Sieffrai dros ddeg oed o leiaf yn priodi, os dilynir Pen 134 mae’n rhesymol tybio y byddai wedi ei geni cyn c.1457 a bod ei rhieni, felly, wedi priodi erbyn canol y pumdegau. O ganlyniad, byddai’n rhaid dyddio’r cywydd a ganodd Guto i Sieffrai a’i wraig gyntaf cyn c.1452 a chasglu bod Guto yn fwrdais yng Nghroesoswallt bryd hynny. Er nad yw hynny’n gwbl amhosibl, mae dyddiad diweddarach yn llawer mwy tebygol yn sgil swm y dystiolaeth a amlinellwyd uchod, ynghyd â’r ffaith fod Guto’n aml yn cyfeirio ato’i hun fel gŵr oedrannus yn y cerddi sy’n ymwneud â Chroesoswallt (97.26; 101.20, 47–50; 101a.31–6, 40, 55, 60; 102.1–4, 7, 49–50). Cesglir, felly, mai ail briodas Sieffrai a gynhaliwyd yn 1467 yn hytrach na phriodas ei ferch, ac felly mae’n rhaid dyddio’r cywydd a ganodd Guto i Sieffrai a Siân cyn y flwyddyn honno.
Nodir yn GGl 347 i Sieffrai farw yn 1509, ond ei ferch, Ann, mewn gwirionedd, a fu farw’r flwyddyn honno (Griffith 1998: 254; HPF iv: 84). Roedd yn fyw ar 11 Mawrth 1475 (Jones 1933: 93), pan gafodd ei enwi’n dyst i weithred i ryddhau tir yng Ngwernosbynt a’i alw’n Seneschal of Chirkesland. Er nad oedd rhyw lawer o wahaniaeth mewn rhai achosion rhwng dyletswyddau cwnstabl a dyletswyddau distain (ibid. xxxiii), mae cyswllt y swydd ag arglwyddiaeth y Waun yn awgrymu’n gryf nad yr un ydoedd â swydd cwnstabl prif dref arglwyddiaeth Croesoswallt. Y tebyg yw bod Sieffrai, felly, wedi symud o Groesoswallt erbyn y flwyddyn honno, a gall mai yn sgil priodi ei ail wraig, Ann ferch Richard arglwydd Strange, y daeth i gyswllt â byd y gyfraith. Gwysiwyd brawd Ann, John arglwydd Strange, i’r senedd yn Llundain o 1446 i 1472 (Kidd a Williamson 1990: P 1075).
Yn Pen 139, i, 64, dywed Wiliam Llŷn i ail wraig Sieffrai, Ann, ailbriodi ar ôl i Sieffrai farw, a hynny â Sr’ tomas mytyn. Ar waelod dalen 66 yn y llawysgrif honno ceir nodyn gan y bardd Rhys Cain (a ysgrifennwyd c.1604), lle cyfeirir at Ann ac at y ferch a gafodd gyda Sieffrai, Siân:Ann mitton vcho a Ioan mrch ac et
Sieffrey kyffin oeddynt vyw yr ail
vlwyddyn o deyrnasiad hari 7
mae’r weithred gyda ni Ric Blodwell.Dengys cywydd mawl anolygedig Rhys Cain i Risiart Blodwel ap Siôn Blodwel fod Rhisiart wedi bod yn swyddog o bwys yn nhref Croesoswallt ac yn weithgar yn atgyweirio’r gaer yno (LlGC 11986B, 33). Ac yntau a’i wraig, Marged, yn ddisgynyddion i Fadog Cyffin ac yn byw yn y fwrdeistref, nid yw’n syndod efallai fod dogfen yn ymwneud â theulu Sieffrai yn ei feddiant (WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 9, 45; WG2 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 42G, 45B). Fe’i hysgrifennwyd rhwng 22 Awst 1486 a 21 Awst 1487, a gellir casglu nad oedd Sieffrai’n fyw y flwyddyn honno. Bu farw, felly, rywdro rhwng 1475 a 1486/7 (bu farw ei hanner brawd, Hywel, yn 1481, gw. Pen 75, 5).
Sylwer bod Rhys Cain yn cyfeirio at Siân fel et[ifedd] Sieffrey kyffin yn y nodyn uchod. Yn wahanol i’w frodyr nid ymddengys i linach Sieffrai barhau yn sgil ei fab. Un mab i Sieffrai a nodir yn yr achresi, sef Harri Cyffin, a cheir ansicrwydd ynghylch pwy oedd ei fam. Gall mai mab anghyfreithlon ydoedd, oherwydd ni chyfeirir ato o gwbl mewn fersiwn o achau Sieffrai a gofnodwyd yn LlGC 8497B, 66r–67r (gw. uchod), a gall fod a wnelo hynny â’r ffaith na cheir yn yr un llawysgrif awgrym i Harri briodi na chael plant. Mae’n ddigon posibl ei fod yntau, fel ei dad, wedi marw erbyn 1486/7, a hynny naill ai’n ddietifedd neu heb iddo gael ei gydnabod fel etifedd ei dad. Fel y gwelir o’r llawysgrifau achyddol uchod o waith Gruffudd Hiraethog a Wiliam Llŷn, yn sgil teuluoedd yr uchelwyr a briododd ferched Sieffrai (a Siân wraig Peter Newton yn benodol efallai) y diogelwyd y cof am ei linach.
Ei fro
Yn ôl achresi Bartrum a chywydd a ganodd Huw ap Dafydd i Lewys Cyffin, ŵyr i frawd Sieffrai, Wiliam ap Morus, ymgartrefodd y gangen honno o deulu Morus yn llys Gartheryr ger Llanrhaeadr-ym-Mochnant (GHD 20.8, 37). Yn nhref Croesoswallt yr ymgartrefodd Sieffrai. Ceir ei enw yn yr ail safle ar restr hir o fwrdeisiaid Croesoswallt a luniwyd ar gais beilïaid y dref yn 1546, ynghyd â’i fab, Harri, a nifer o’i feibion-yng-nghyfraith ac aelodau o’i deulu estynedig (archifdy Croesoswallt, OB/A12). Ymddengys fod y rhestr yn gofnod dethol o brif fwrdeisiaid y dref rhwng c.1450 a 1546, a’r tebyg yw ei bod yn seiliedig ar restrau eraill a luniwyd mewn cyfnodau cynharach. Gwelir oddi wrth achresi Bartrum fod nifer fawr o’r bwrdeisiaid hyn yn perthyn drwy waed neu briodas, ac mae’r rhestr yn dyst gwerthfawr i’r cysylltiadau a sefydlwyd rhwng teuluoedd mawr Cymreig a Saesnig y gororau ac a fu’n sail i ffyniant tref Croesoswallt yn y cyfnod hwn. Ceir enw Guto ar y rhestr hefyd, ynghyd â Thudur Aled (gw. cerdd 102 (esboniadol)).
Ei bererindod
Rywdro tua’r flwyddyn 1460, yn ôl pob tebyg, aeth Sieffrai ar bererindod i Rufain a Jerwsalem. Cyfeirir yn frysiog at y daith ar ddechrau cywydd Guto i Sieffrai a’i wraig, Siân, lle nodir ei fod wedi ymweld ag eglwys Sant Pedr yn ninas y Fatican cyn teithio i borthladd Jaffa yn Israel ac ymweld ag eglwys y Beddrod Sanctaidd yn Jerwsalem (97.1–10). Mae’n hynod o debygol fod Guto’n cyfeirio at yr un daith mewn cywydd arall a ganodd i Sieffrai. Er na sonnir am y bererindod yn y gerdd honno, dywedir bod Sieffrai wedi teithio dros y sianel i Ffrainc a thrwy Fyrgwyn i Wlad Groeg ac Affrica (96.27–30). A chlymu’r cyfeiriadau yn y ddwy gerdd at ei gilydd, ymddengys fod Sieffrai wedi teithio drwy Fyrgwyn er mwyn croesi mynyddoedd yr Alpau. Yn ôl Olson (2008: 19–20), roedd tair prif ffordd yn croesi’r Alpau yn yr Oesoedd Canol. Mae’r ffaith fod Lewys Glyn Cothi, pan deithiodd yntau ar bererindod i Rufain, wedi dilyn yr hyn a elwid ‘y ffordd Almaenig’ yn awgrymu y gall fod Sieffrai yntau wedi croesi’r mynyddoedd o’r un cyfeiriad. Dywed Lewys ei fod wedi teithio (o Fôn, efallai) i Frabant a Fflandrys ac i lawr ar hyd dyffryn afon Rhein i Fyrgwyn. Oddi yno teithiodd drwy’r Almaen a Swabia (ardal yn ne-orllewin yr Almaen heddiw) i Lombardi yng ngogledd yr Eidal (GLGC 90.11–16). Fel yn achos pererin arall o’r enw William Wey (1405/6–76; DNB Online s.n. William Wey), a aeth ar bererindod i Rufain ac i Jerusalem yn 1458, nid yw’n eglur ym mhle’n union y croesodd Lewys na Sieffrai yr Alpau, ond mae’n bosibl eu bod wedi teithio drwy Fwlch Sant Gotthard (Olson 2008: 20), Bwlch Reschen neu fwlch arall yng ngorllewin Awstria heddiw (Davey 2010: 113).
Rhydd y manylion a gofnododd William Wey ynghylch ei bererindod syniad go dda o’r profiadau a gafodd Sieffrai oddeutu’r un adeg, megis hyd y daith a chyngor wrth ymwneud â brodorion mewn gwahanol wledydd. Fel mwyafrif y pererinion a fynnai deithio i Jerwsalem yn ystod yr Oesoedd Canol, aeth Wey i Fenis er mwyn dod o hyd i long a’i cludai i borthladd Jaffa. Ymddengys fod Sieffrai, fel Wey, wedi ymweld â Rhufain yn gyntaf cyn teithio i Fenis, lle byddai pererinion yn aml yn gorfod disgwyl am wythnosau neu fisoedd am long addas ac yna am amgylchiadau ffafriol i godi angor. O Fenis byddai llongau’r pererinion yn hwylio ar hyd y Môr Canoldir gan oedi o bosibl ar ynysoedd megis Creta a Chyprus (cf. cyfeiriad Guto at Roeg) cyn cyrraedd Jaffa. Oddi yno byddai’r pererinion yn cerdded neu’n marchogaeth i ddinas Jerusalem. Yn wahanol i Wey, nid ymddengys bod Sieffrai wedi dychwelyd yn syth eithr ei fod wedi ymweld ag Affrica hefyd, sef yn ôl pob tebyg yr Aifft. Mae’n bosibl ei fod wedi ymweld ag Alecsandria ar ei fordaith adref neu wedi teithio i Fynydd Sinai hyd yn oed. Am fap o daith Wey, gw. Davey 2010: 20–1.
Llyfryddiaeth
Davey, F. (2010), The Itineraries of William Wey (Oxford)
Griffith, J.E. (1998), Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (third ed., Wrexham)
Griffiths, R.A. (1993), Sir Rhys ap Thomas and his Family (Cardiff)
Huws, B.O. (2007), ‘Ailadeiladu Bywyd ar ôl Gwrthryfel Glyndŵr: Tystiolaeth y Canu i Foelyrch’, Dwned, 13: 97–137
Jones, G.P. (1933), The Extent of Chirkland (1391–1393) (London)
Kidd, C. and Williamson, D. (1990) (eds.), Debrett’s Peerage and Baronetage (London)
Lowe, W.B. (1912), The Heart of Northern Wales (Llanfairfechan)
Olson, K.K. (2008), ‘ “Ar Ffordd Pedr a Phawl”: Welsh Pilgrimage and Travel to Rome, c.1200–c.1530’, Cylchg HC 24: 1–40
Stephens, Roy (1983), ‘Gwaith Wiliam Llŷn’ (Ph.D. Cymru [Aberystwyth])
Williams, D.H. (1970–2), ‘Fasti Cistercienses Cambrenses’, B xxiv: 181–229
Williams, D.H. (2001), The Welsh Cistercians (Leominster)
Gw. Sieffrai Cyffin ap Morus a Siân ferch Lawrence Stanstry o Groesoswallt