Y llawysgrifau
Diogelwyd y farwnad hon mewn deg llawysgrif. Ceir dau brif fersiwn ohoni. Cynrychiolir y naill, a’r gorau, gan LlGC 728D a LlGC 17114B (a oedd yn arddel perthynas agos â’r gynsail) a’r llall gan X1 (gw. y stema). Mae testunau LlGC 728D a LlGC 17114B yn debyg iawn, ond mae eu darlleniadau ar gyfer llinellau 42 er a 44 y yn awgrymu nad yw’r naill yn gopi o’r llall (gw. y nodiadau). At hynny, ceir rhai darlleniadau carbwl yn LlGC 728D (gw. 24n a 48n) a bu’n rhaid dibynnu cryn dipyn ar dystiolaeth LlGC 17114B (ond nid yn llwyr, gw. 42n, 47n a 49n). Gwnaed nifer o newidiadau i destun y gerdd erbyn iddo gael ei gofnodi yn X1 (gw. 36n, 39n, 48n a 54n I Fôr Rudd ŵr fwy ei ras), a gwnaed rhagor wrth ei gopïo yn X2 (gw. 24n, 28n gŵr a 41n). Bernir bod testun LlGC 3049D yn cynrychioli orau yr hyn a geid yn X1, er bod rhyw fymryn o ôl diwygio arno yntau hefyd (gw. 30n anhuddwyd).
Trawsysgrifiadau: C 2.114, LlGC 728D, LlGC 3049D a LlGC 17114B.
1 na Gthg. darlleniad GGl yn LlGC 728D a. Os yw Gutun yn cyfarch awen a chywydd gellir dilyn y darlleniad hwnnw (‘ffarwél, awen a chywydd!’) a chynnig mai ffrwyth camrannu awen a a geir yn y llawysgrifau eraill. Ond gan fod modd cyfiawnhau darlleniad mwyafrif y llawysgrifau fe’u dilynir yma. Gw. 1n (esboniadol).
5 penaig Cf. y ffurf pen aig yn BL 14966, C 2.114 a LlGC 17114B (gw. GPC 2731 d.g. penaig1).
7 fu Dilynir LlGC 728D a LlGC 17114B. Gthg. darlleniad GGl yn X1 yw. Bernir bod gwell ystyr yn narlleniad y golygiad ac ystyried bod Guto wedi marw.
7 a Gthg. LlGC 728D ai, lle deellir fawr gerrynt, fe ymddengys. Dilynir mwyafrif y llawysgrifau. Ceir darlleniad GGl o yn BL 31092 a Pen 240, er na nodir y llawysgrifau hynny yno.
9 ein Dilynir arweiniad Pen 225, a chymryd mai ein a olygir wrth yn yn y llawysgrifau eraill.
10 naddai Ni cheir darlleniad GGl nyddai yn y llawysgrifau.
15 gorau a fu Dilynir X1. Gthg. LlGC 17114B y gorav a vv a LlGC 728D y gorav fv. Gall fod darlleniad y gynsail sillaf yn rhy hir (oni chywesgir gorau a yn ddeusill) a bod copïydd anhysbys LlGC 728D wedi dewis hepgor a a chopïydd X1 y.
17 doen’ yn ei ôl Dilynir LlGC 728D a LlGC 17114B. Gthg. darlleniad GGl yn X1 doe yn ei ôl. Ceir gwell ystyr yn narlleniad y golygiad, lle cyfeirir at bobl a ddôi’n ail i Guto ac a’i dilynai o barch.
18 einion Dilynir LlGC 728D ennion a LlGC 17114B enion. Gthg. darlleniad GGl yn X1 dynion, a rydd linell ddigynghanedd (bernir mai diwygiad a geir yn BL 14966 dynion avr dano /n/ wrol). Ymddengys mai eynyon a geid yn y gynsail a bod dechrau’r gair yn annelwig neu’n ymdebygu i d-. Diau y cryfhawyd achos dynion gan y cymeriad cynganeddol a grëai gyda’r llinell flaenorol a’r llinell nesaf, ond sylwer na cheir y cymeriad hwnnw yn llinell 20. At hynny, einion yn unig a rydd ystyr foddhaol mewn gwirionedd.
19 gwychder Cf. y ffurf gwchder yn BL 14966, C 2.114 a LlGC 3049D (gw. GPC 1748 d.g., lle’i ceir ymhlith yr enghreifftiau er nas nodir fel ffurf amrywiol).
19 gard Cf. LlGC 728D gart, sy’n rhyw gymaint o ateg mai gartr a olygir (gw. y nodiadau esboniadol).
21 ei fin Ymddengys fod rhywfaint o anhawster â’r geiriau hyn yn X2: C 2.114 fvin, Pen 225 vy min. Rhydd darlleniad Pen 225 gynghanedd groes o gyswllt, ond nid yw’r ystyr yn taro deuddeg.
24 Powyswyr ... peiswyn Dilynir LlGC 3049D a LlGC 17114B. Gthg. X2 Powysgwyr ... peisgwyn a LlGC 728D pwysswr ... y peiswyn. Ni cheir sail i Powysgwyr na peisgwyn yn GPC.
25 fo Gthg. LlGC 728D y vo. Mae cywasgiad yn bosibl, ond diau mai camrannu wedyvo a geir yma.
28 gwae’r Gthg. C 2.114 gwaer a LlGC 728D a LlGC 17114B gwar. Tybed ai gwar a geid yn y gynsail ac a ddiwygiwyd yn ddiweddarach? Ni rydd gwa’r fan na gwar/gwâr fan synnwyr.
28 fan Gthg. LlGC 728D vin. Dilynir mwyafrif y llawysgrifau.
28 gŵr Dilynir LlGC 728D, LlGC 3049D a LlGC 17114B. Gthg. X2 gwŷr, efallai dan ddylanwad y llinell nesaf, Oes iddyn’ feirdd sydd yn fyw.
30 anhuddwyd Dilynir LlGC 17114B ac X2. Gthg. LlGC 728D an hvddiwn a darlleniad GGl yn LlGC 3049D anhvdded.
30 eu Dilynir arweiniad Pen 225, a chymryd mai eu a olygir wrth i yn y llawysgrifau eraill.
32 gwan Gthg. LlGC 728D gawn, ffrwyth camgopïo, fe ymddengys.
36 Swllt ynn a chae Esyllt oedd Dilynir LlGC 728D a LlGC 17114B. Gthg. X1 Swllt a chae Esyllt oedd, sydd sillaf yn fyr (ceir ymgais i adfer y sillaf yn BL 14966 aswllt a chae esyllt oedd).
37 â’i gywydd Gthg. LlGC 728D a gafwyd, nad yw’n gwbl amhosibl o ran y gynghanedd nac ystyr, ond diau bod gwell darlleniad ym mwyafrif y llawysgrifau.
37 benaig Cf. BL 14966 a LlGC 17114B ben aig (gw. 5n).
38 Ym mrig cerdd a Chymraeg hen Dilynir LlGC 728D a LlGC 17114B. Ategir rhan gyntaf y llinell gan C 2.114, ond ceir a chynnwrig hen yn ei hail ran yno. Felly hefyd yng ngweddill llawysgrifau X1, ond ceir un frig cerdd yn rhan gyntaf y llinell yn y llawysgrifau hynny: Un frig cerdd â Chynfrig Hen, fe ymddengys. Ac ystyried cymaint o newid a welir yn nhestunau llawysgrifau X1 yn gyffredinol (gw. y nodyn uchod ar y llawysgrifau), y tebyg yw mai diwygiad a geir yma hefyd, o bosibl dan ddylanwad llinellau eraill lle gwneid defnydd o brig a Chynfrig, megis 108.20 Ym mrig Pentrecynfrig hen (sef un o gartrefi Siôn Trefor) a GHCEM 31.24 A henwaed brig Cynfrig hen (Edward Maelor am Risiart ap Siôn). Y tebyg yw mai at yr un gŵr o’r enw Cynwrig y cyfeirir yn y ddwy linell hyn, sef Cynwrig ap Rhiwallon, hynafiad pell i Siôn Trefor ac i Risiart ap Siôn (gw. WG1 ‘Rhirid Flaidd’ 1, 3, ‘Tudur Trefor’ 1, 3, 14, 34, 36, 38, 41, 48; WG2 ‘Rhirid Flaidd’ 5C, ‘Rhys ap Tewdwr’ 10A, ‘Tudur Trefor’ 48C2; GHCEM 183, ond anwybydder y nodyn ar dudalen 184). Cf. hefyd GLM XIII.65 Cawn euro cyff Cynwrig hen a GSC 48.34 Gwenfrewy, cyff Gynfrig hen, ond at Gynwrig ap Rhobert y cyfeirir yn y ddwy gerdd hynny (gw. WG1 ‘Ednywain Bendew’ 4; WG2 ‘Ednywain Bendew’ 4A1, ‘Hookes’ 1, ‘Tudur Trefor’ 13E; anwybydder GSC 48.34n, oherwydd nid at fam y noddwr y cyfeirir eithr at ei wraig). Ni cheir Cynwrig Hen ym mynegeion Bartrum. Yn absenoldeb unrhyw wybodaeth gadarn ynghylch hynafiaid Guto, braf fyddai medru ei roi’n ddisgynnydd i un o’r ddau Gynwrig uchod neu i ryw Gynwrig Hen arall anhysbys. Fodd bynnag, diau ei bod yn fwy diogel dilyn darlleniad LlGC 728D a LlGC 17114B.
39 yn ŵr Dilynir LlGC 728D a LlGC 17114B. Gthg. X1 i wr, sy’n amharu ar y gynghanedd (ond gthg. BL 14966 yn wir, sef ymgais i greu cynghanedd, fe dybir).
41 i’w Dilynir LlGC 728D, LlGC 3049D a LlGC 17114B. Gthg. X2 fwy, sef ffrwyth camddehongli vw, a droes yn vwy, yn ôl pob tebyg.
42 er Dilynir pob llawysgrif ac eithrio LlGC 17114B ai. Mae â’i yn bosibl (gydag r berfeddgoll, gw. y nodyn isod), ond ni cheir digon o dystiolaeth o’i blaid.
42 a’r Cf. LlGC 17114B ar. Dilëwyd y gytsain yn sgil ai ar ddechrau’r llinell yn ôl pob tebyg (gw. y nodyn uchod).
43 Cablud Cf. BL 14966, C 2.114 a LlGC 3049D Cablyd. Dilynir y ffurf amrywiol a geir yn y llawysgrifau eraill (gw. GPC 373 d.g. Cablyd1, Cablud).
44 sôn Dilynir LlGC 728D a LlGC 17114B. Gthg. X1 sŵn. Tebyg yw’r ddau ddarlleniad, ond efallai bod sôn yn fwy addas. At hynny, ceir gwell graen, ar y cyfan, ar destunau LlGC 728D a LlGC 17114B.
44 y Dilynir LlGC 728D ac X1. Gthg. darlleniad GGl yn LlGC 17114B oll (er nas nodir fel ffynhonnell i’r golygiad hwnnw; gall mai o Pen 240 y’i codwyd). Mae’r darlleniad hwnnw’n bosibl, ond ni cheir digon o dystiolaeth o’i blaid.
47 ei ddiweddu Gthg. LlGC 17114B i diweddv. Gall mai at y wledd y cyfeirir, ond ceir gwell ystyr yng ngweddill y llawysgrifau.
48 Ferwydd Dilynir LlGC 17114B. Gthg. X1 Forfudd, nad yw’n synhwyrol (cf. 54n I Fôr Rudd ŵr fwy ei ras). Cafwyd trafferth hefyd yn LlGC 728D maredvdd ddv.
49 rhost Gthg. LlGC 17114B rrot. Gellid rôt ‘math o grwth’ (gw. GPC 2989 d.g.; 22.58n rôt) ond mae’n fwy tebygol mai camgopïad ydyw.
51 garbron Cf. BL 14966 a C 2.114 ger bron, LlGC 728D gar bron a Pen 225 gerbron (gw. GPC 1394 d.g. gerbron).
53 o Fe’i collwyd o BL 14966 a C 2.114.
54 I Fôr Rudd ŵr fwy ei ras Dilynir LlGC 17114B vor rvdd, a ategir gan LlGC 728D vor vdd (ni cheir sail i ddarlleniad GGl Fôr Rhudd, ac ni nodir LlGC 17114B yn ffynhonnell i’r golygiad hwnnw; cf. 44n y). Dilynir y llawysgrif hynaf yma (gw. GPC 2486 d.g. môr1, lle nodir y ddwy ffurf ar yr enw priod). Gthg. X1 i forfydd wr fwyf i ras, sy’n wallus o ran y gynghanedd ac ystyr (cf. diwygiad yn BL 14966 fwyaf i ras).
54 ei Ni cheir darlleniad GGl o yn y llawysgrifau.
55 llys rydd Deellid llys yn air benywaidd gan y beirdd gan amlaf (cf. 90.50 Llys olau garllaw Silin; GIG XXII.97 Llys rydd y sydd, swydd uchel), ond ymddengys mai llys rhydd a geir ym mhob llawysgrif ac eithrio LlGC 17114B. Fe’i dilynir o ran egwyddor.
Hon yw’r unig farwnad i Guto a oroesodd, ac fe’i canwyd gan Gutun Owain. Treuliodd Guto ei flynyddoedd olaf yn abaty Glyn-y-groes a chadarnheir yn y cywydd hwn mai yno y bu farw ac y claddwyd ei gorff. Yn naturiol ddigon, ei ddawn farddol a glodforir yn bennaf (llinellau 1–44), ond nid ychwanegir fawr ddim at ein gwybodaeth amdani. Nodir ei fod yn feistr ar holl fesurau awdl (35), ond fe’i coffeir fel cywyddwr yn bennaf (1, 31–2, 37) a chydnabyddir ei ragoriaeth yn genre canu mawl (8–12, 21, 24, 31, 39–42). Yn wir, rhoir sylw diddorol i’r edmygedd a deimlai beirdd tuag ato ledled y wlad (5, 7, 23–30), gan daro nodyn gwahanol i’r un a geir gan Guto ei hun pan ganodd gywydd yn ei henaint yn erbyn beirdd a fynnai ei ddisodli o’i le yng Nglyn-y-groes (gw. cerdd 116). Diddorol hefyd yw’r hyn a ddywed Gutun am ganu Guto er serch ar Dduw a’r saint yn ei flynyddoedd olaf (41–2). Mae’n bur eglur fod Gutun yn gyfarwydd â’r cywydd crefyddol a ganodd Guto (cerdd 118) ar gais Abad Dafydd ab Ieuan yng Nglyn-y-groes. Un darn arall o dystiolaeth y mae’n werth sylwi arno yw’r cyfeiriad at Guto’n [c]anu (16), a ddengys ei fod, fel pob bardd arall yn y cyfnod hwnnw yn ôl pob tebyg, yn medru perfformio ei gerddi drwy eu datgan.
Neilltuir ychydig linellau er mwyn coffáu agweddau eraill ar fywyd Guto, sef ei gryfder (15, 17–18), ei gyswllt ag Edward IV (19–20) a’i yrfa filwrol (21). Cyfeirir yn benodol at ei allu wrth daflu maen (gw. 15n) a’r tebyg yw mai yng nghyd-destun ei gryfder y cyfeirir at eingion aur hefyd, er y gall fod y cyfeiriad hwnnw’n seiliedig ar gyswllt posibl y bardd â chrefft y gof (gw. 18n). Ymddengys y dylid ystyried y cyfeiriadau at Edward ac at filwriaeth y bardd ar wahân: gall fod y naill wedi ei seilio ar gywydd a ganodd Guto i’r brenin hwnnw (gw. 19–20n) a’r llall ar wasanaeth milwrol y bardd ym myddin tad Edward, Richard dug Iorc, yn Ffrainc (gw. 21n).
Ar ddiwedd y gerdd rhoir sylw i’w noddwr a weinyddodd gladdedigaeth y bardd ac a gynhaliodd wledd adeg yr angladd, sef yr Abad Dafydd ab Ieuan (45–58). Mae haelioni’r abad yn amlwg, ond nid tuag at y bardd a ganai’r gerdd fel y cyfryw eithr er anrhydedd ac er cof am y bardd ymadawedig. Cloir y farwnad ar nodyn tebyg, drwy gymharu’r nefoedd ar y ddaear a brofodd Guto yn yr abaty lle treuliodd ei flynyddoedd olaf â theyrnas Duw yn y nef. Yno yn yr ail nef, yn unol â chonfensiwn cloi marwnadau, y bydd cartref enaid y bardd maes o law.
Dyddiad
Nid yw dyddiad marwolaeth Guto’n hysbys, ond y tebyg yw iddo farw c.1490.
Golygiadau a chyfieithiad blaenorol
GO cerdd LXIII (yn cynnwys cyfieithiad Ffrangeg); GGl cerdd CXXIV.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 58 llinell.
Cynghanedd: croes 57% (33 llinell), traws 31% (18 llinell), sain 10% (6 llinell), llusg 2% (1 llinell).
1 Yn iach, awen na chywydd! Mae’n bosibl mai camraniad a geir yma (awen a → awen na), ond gellir cyfiawnhau na ar sail synnwyr negyddol yn iach. Cf. GO XXXVII.1 Yn iach, vrddas, na cherddwr; TA X.81–2 Yn iach na helwyr na chynheiliaeth, / Na meirch o arial, na marchwriaeth; GSH 3.12 Yn iach aur ynn na chariad; GLMorg 7.53 Yn iach olwg na chalon, 36.43–4 Yn iach ’maenor uwch Mynwy / Ymlitgwn na milgwn mwy. Ond gellid hefyd Yn iach! Awen na chywydd … ‘Ffarwél! Ni bydd mwyach awen na chywydd yn gyfnewid am win neu barch’. Cf. Hywel Rheinallt yn ei gywydd marwnad i Ddafydd Nanmor ac eraill, gw. DN XL.20 Yn iach awen a chowydd.
2 parch Cf. cwpled agoriadol cywydd Guto i amddiffyn ei le yng Nglyn-y-groes, gw. 116.1–2 Mae poen ym a hap ennyd, / Mae parch ac amarch i gyd.
4 gwiw yn ei fedd Cyfeirir, yn ôl pob tebyg, at gorff Guto yn ei fedd yng Nglyn-y-groes. Cf. Guto yn ei farwnad i Robert Trefor, 105.46 A’i le ’n nef a’i wely ’n Iâl. Roedd enaid Guto, fel enaid Robert yntau, wedi mynd i’r nefoedd (gw. 57–8 i gael yr aeth / Gwledd Dduw), ond cedwid ei gorff, fel corff Robert, yn ddiogel ar dir y fynachlog. Mae’n annhebygol mai at y ‘ddiod fedd’ y cyfeirir yma, nac ychwaith at ‘awdurdod’ Guto, gw. GPC 2394 d.g. medd1 a 2.
6 glain nod Gw. y cyfuniad yn GPC 1309 d.g. glain1 ‘paternoster, special bead in a rosary indicating that a paternoster is to be said, usually fig. illustrious one, person of distinction’. Tybed a oedd Gutun yn gyfarwydd â’r cywydd diolch am baderau (cerdd 59) a ganodd Guto i Risiart Cyffin, deon Bangor?
8 eiliai gerdd Iolo Deellir [c]erdd Iolo yn drosiad am ‘ganu mawl’. Hynny yw, nid oedd Guto’n ‘llunio barddoniaeth Iolo Goch’ eithr yn ‘llunio barddoniaeth fawl’. Ystyrid y bardd o’r bedwaredd ganrif ar ddeg yn feistr ar y genre hwnnw.
9 ein eryr Disgwylid ein heryr, ond gw. TC 154.
12 dyrnod o geudod gwn Ymhellach ar y gwn yng nghanu Guto a’i gyfoeswyr, gw. Evans 1998: 81–3 (cf. 106.13n).
15 ar faen gorau a fu Mae Guto ei hun yn cyfeirio at ei allu i daflu maen mewn cywydd mawl a ganodd i Harri Ddu ap Gruffudd o Euas, lle honnir bod ei noddwr yn rhagori arno yn y gamp honno, gw. 33.39–46 Och ym er dir a chymell / O bu ŵr â bwa well, / Na chystal, ynial annerch, / Ar y maen mawr er mwyn merch. / I minnau, gwarau gwiwraen, / Y bu air mawr er bwrw maen; / Hiroedl a fo i Harri / Y sydd im diswyddaw i! Nid ymddengys fod y gamp yn un o’r pedair camp ar hugain. Ymhellach, gw. IGE2 387; GRhGE 12.15–36; y cyfeiriadau yn Salisbury 2007: 43 (troednodiadau 92, 93).
18 einion aur Nid Einion Aur, gan na ddaethpwyd o hyd i ŵr o’r enw hwnnw, nac ychwaith ‘aur a oedd yn eiddo i Einion’, oherwydd go brin mai at Einion ap Gruffudd y cyfeirir, sef yr unig Einion y canodd Guto fawl iddo, hyd y gwyddys (gw. cerdd 42). At hynny, ni wyddys am ŵr o’r enw Einion a oedd yn enwog am ei gryfder. Deellir ‘eingion o aur’, a’r tebyg yw mai at gryfder Guto y cyfeirir (cf. 17 dwyn o nerth). Gall mai’r gamp o godi neu gario eingion a olygir, er nad oedd, fel y gamp o daflu maen (gw. 15n), yn un o’r pedair camp ar hugain. Tystiolaeth allweddol yn hyn o beth fyddai dychan Dafydd ab Edmwnd i Guto, lle honnir i’r bardd ddioddef anaf wrth godi pwysau, gw. 68a.23–4 Er ennill gynt yr einion, / Am y fors yt mwy fu’r sôn. Ac eto mae aur yn ei gwneud yn anodd deall einion yn llythrennol, oherwydd go brin y ceid eingionau o aur yng Nghymru yn y bymthegfed ganrif. Ai dweud y mae Gutun fod gan Guto ‘nerth eingion o aur’, hynny yw, ei fod yn wydn ac yn solet fel eingion ragorol o aur? Cf. GSC 14.22 A thân o nerth einion wyd. Ni ddaethpwyd o hyd i arfbais herodrol yn cynnwys eingion, ond tybed a wobrwyid y rheini a ragorai ar daflu maen ag eingion aur fach, megis y gwobrwyid beirdd o bwys â chadair arian fach (gw. 65a.48n)? Gallai hynny esbonio cyfeiriad at eingion mewn englyn dychan a ganodd Llawdden i Ddafydd ab Edmwnd, GLl 36.3–4 Oni elly o dŷ dy daid / Ddal d’einion, i ddiawl d’enaid! Posibilrwydd arall yw bod a wnelo’r cyfeiriad hwn â chyswllt posibl Guto â chrefft y gof, gan fod rhai cerddi a ganodd yn awgrymu’n gryf ei fod yn gyfarwydd iawn â hi (gw. cerdd 73 (esboniadol); cerdd 98 (esboniadol)).
20 y Brenin Edward Sef Edward IV, yn ôl pob tebyg (gw. 19–20n).
19–20 Dwyn coler, gwychder y gard, / A nod y Brenin Edward Mae arwyddocâd y cwpled hwn yn rhannol ddibynnol ar y modd y dehonglir y gard. Rhoir yr enghraifft hon o’r gair d.g. gartr yn GPC 1383, gyda gard yn ffurf amrywiol ar y gair hwnnw, sef arwydd Urdd y Gardas ‘Order of the Garter’. Mae’n debygol mai gartr yr urdd honno a olygir wrth gard yn 36.40 Gard aur ysgwieriaid oedd (i Harri Ddu ap Gruffudd); GDLl 50.1 Y gŵr dewr â’r gard eurin (i Syr Rhys ap Tomas); Roberts (1918: 48) ef allai r tat profyadwy / wisgo gard rrwng wysc a gwy (Hywel Dafi i Wallter Hafart); Lewis (1931–3: 316) y gards ac, o bosibl, yn GLM LX.1 Pa ŵr, i’w gylch, piau’r gard? Yr unig bosibilrwydd arall yw mai gard ‘gwarchodlu’ a olygir (gw. GPC 1381 d.g. gard2). Nid yw’n eglur pryd y daeth yn arfer gan aelodau o Urdd y Gardas wisgo coleri aur, ond mae’n annhebygol o fod yn gynharach na c.1500 ac fe’i cysylltir â theyrnasiad Harri VII (1485–1509; gw. Begent 1999: 62, 161). O ganlyniad, mae’n annhebygol iawn y dylid cysylltu y gard â’r cyfeiriad at [g]oler, eithr bod Guto wedi dwyn coler … / A nod y Brenin Edward, a rhaid ystyried gwychder y gard yn sangiadol. Mae bron yn gwbl amhosibl ystyried bod Guto wedi ei dderbyn yn aelod o Urdd y Gardas gan mai i farchogion neilltuol yn unig y rhoid yr anrhydedd hwnnw. Derbyniwyd Syr Wiliam Herbert yn aelod gan Edward IV yn 1461/2, a da y gwyddai Guto hynny: gw. 27.19–20 Arweddodd we o ruddaur / Ac aerwy trwm a gartr aur. Gall fod Guto wedi gwasanaethu’r Urdd mewn rhyw fodd, megis fel swyddog, ond ni cheir tystiolaeth i’r perwyl hwnnw. Yr unig bosibilrwydd sy’n gweddu o safbwynt ‘y gartr’, mewn gwirionedd, yw mai fel symbol o wychder y crybwyllir gwychder y gard yma (hynny yw, ‘gwych fel y gartr’), gan fod yr anrhydedd hwnnw’n amlwg yn nod i uchelwr ymgyrraedd tuag ato ym meddyliau’r beirdd (cf. yr enghreifftiau uchod). Beth felly am ‘warchodlu’? Ar sail dehongli y gard yn y modd hwnnw y dadleuodd Lewis (1976: 92–3) fod Guto wedi bod yn aelod o warchodlu Edward. Eto, ni cheir tystiolaeth fod Guto wedi gwasanaethu fel gŵr arfog ac eithrio ym myddin Richard dug Iorc yn Ffrainc yn 1441 (ac 1436 o bosibl) pan oedd Harri VI ar yr orsedd (noder, fodd bynnag, fod Richard yn dad i Edward). Yr hyn a wneir yn eglur yng ngweddill y cwpled yw bod Guto wedi gwisgo coler a nod Edward. Yr hyn sy’n absennol yw’r cyd-destun: ai fel milwr y gwisgwyd Guto fel hyn, fel y disgwylid, ynteu fel bardd yn sgil canu’r cywydd mawl i Edward (cerdd 29) neu ganu i’r Herbertiaid neu ganu i Edward, tywysog Cymru, yn Amwythig yn ystod ail hanner y saithdegau (gw. Bywyd Guto’r Glyn)? Erys union arwyddocâd y cwpled yn agored.
21 milwr fu Yn absenoldeb tystiolaeth i Guto ymladd yn Rhyfeloedd y Rhosynnau (gw. 19–20n) cymerir mai at ei gyfnod fel milwr yn y Rhyfel Can Mlynedd y cyfeirir yma. Ceir enw’r bardd fel saethydd ar restr y milwyr a aeth i Ffrainc ym myddin Richard dug Iorc yn 1441, ac mae’n bosibl iddo wasanaethu yn yr un modd yn 1436.
22 Merddin Sef ffurf ar enw Myrddin ap Morfryn Frych, bardd o’r Hen Ogledd y credir iddo fyw yn y chweched ganrif. Derbyniodd nawdd gan Wenddolau a throes yn broffwyd ynfyd yng Nghoed Celyddon pan orchfygwyd ei noddwr gan Rydderch Hael ym mrwydr Arfderydd, gw. TYP3 458–62; WCD 492–500. Gall mai yn rhinwedd y ffaith ei fod yn fardd ac yn filwr y caiff ei enwi yma (cf. 21n milwr fu).
24–7 Powyswyr … / y Deau … / … Gwynedd Tair rhan Cymru, yn draddodiadol. Cyfeirir at wŷr Powys gyntaf gan mai yn y rhan honno o’r wlad y safai abaty Glyn-y-groes, lle canwyd y gerdd (gw. 56n), ond diau mai ym Mhowys hefyd y canodd Guto fwyafrif ei gerddi (ar Bowys, gw. WATU 182). Gall mai Deheubarth a olygir wrth y Deau (gw. ibid. 56 d.g. Deheubarth), ond gan na chynhwysid Gwent yn y diriogaeth honno’n draddodiadol (lle canodd Guto nifer fawr o gerddi i Herbertiaid Rhaglan), rhaid ei ystyried yn gyfeiriad at ardal ehangach, megis de Cymru’n gyffredinol. Ar Wynedd, gw. ibid. 85.
31 Eiddil cywydd o’i addef Hynny yw, roedd pob cywydd gan fardd arall yn eilradd yn sgil addef ‘adnabod/gwybod am’ ddawn Guto.
33 cerdd â dewis gwiw ‘Cerdd a chanddi wrthrych cymwys’, gw. GPC 941 d.g. dewis ‘y person neu’r peth a ddewisir, dyn neu beth dethol’.
34 ei frisg ydiw Cyfeiriad posibl at y daith i dŷ noddwr lle canai Guto gerdd â dewis gwiw (33n), neu efallai at ‘ôl troed’ Guto, yn ffigurol, mewn cerddi a genid gan feirdd eraill.
35 saer awdl pob mesur Rhaid mai cyfran fechan iawn o’r holl awdlau a ganodd Guto yw’r pum awdl sy’n hysbys, gw. cerddi 8, 12, 43, 111 a 113.
36 cae Esyllt ‘Garlant/coronbleth Esyllt’, gw. GPC 382 d.g. cae. Symbol ydyw o drysor gwerthfawr iawn. Roedd Esyllt ferch Cynan Dindaethwy yn wraig i Farch ap Meirchion ond syrthiodd mewn cariad â nai ei gŵr, Trystan fab Tallwch. Ymhellach, gw. Williams 1925–31; TYP3 350–2; WCD 473–4 d.g. Merfyn Frych ap Gwirad; DG.net 164.51n.
40 merch a garai Fel y nodwyd yn GGl x, ni phriodolwyd ‘cymaint ag un cywydd serch’ i Guto, a gall mai at gywyddau a ganodd i wragedd uchelwyr y cyfeirir yma, gw. cerddi 26, 50, 53, 81, 87, 88, 92 a 97; hefyd cerdd 34. Ond noder hefyd iddo fyw mewn tŷ yng Nghroesoswallt gyda Dwgws ei wraig, gw. 101.46, 101a.20n.
43 Difiau Cablud Gw. GPC 373 d.g. Cablyd1 ‘y dydd Iau neu’r nos Iau o flaen y Pasg pan goffeid am y Swper Olaf a’r weithred o olchi traed y disgyblion’ (gw. Ioan 13). Ymddengys mai dyma pryd y bu Guto farw.
45 Arglwydd Ddafydd Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes, cf. 117.20n.
47 diweddu Gw. GPC 1056 d.g. diweddaf1 ‘ymgeleddu corff at ei gladdu’.
48 gwledd Ferwydd Cyfeirir at ŵr o’r enw Merwydd a gynhaliodd wledd fawreddog. Mae’n debygol y dylid cyfrif ei wledd yn un o Dair Gwledd Anfeidrol Ynys Prydain, ynghyd â gwledd Caswallon ap Beli yn Llundain a gwledd Arthur yng Nghaerllion-ar-Wysg, er bod fersiynau eraill o’r triawd gan Dudur Aled a Dafydd Nanmor (gw. TYP3 239–41). Prif ffynhonnell y triawd yw cywydd mawl a ganodd Gutun i noddwr y farwnad hon, sef yr Abad Dafydd ab Ieuan (gw. GO XXIX.19–24; cf. ibid. XXVI.44), ac fe’i hategir mewn cyfeiriadau at fawredd gwledd Merwydd gan Dudur Aled (gw. TA III.46, VIII.75 a CXLII.1). Ni cheir tystiolaeth am y triawd cyn diwedd y bymthegfed ganrif ac mae’n debygol ei fod yn seiliedig ar draddodiad llafar. Yng nghywydd Gutun i’r abad cyfeirir at Ferwydd fel Merwydd y’ Mon, ac mae’n bosibl y dylid ei uniaethu ag un o gefnogwyr Gruffudd ap Cynan yn yr unfed ganrif ar ddeg.
53–4 o wyneb Euas / i Fôr Rudd ‘O ymyl Euas hyd Fôr y Gogledd’, sef Cymru gyfan. Ar ardal ac arglwyddiaeth Euas ar lethrau dwyreiniol y Mynyddoedd Duon yn y gororau rhwng Cymru a Lloegr, gw. WATU 68 d.g. Ewias. Gall fod yn arwyddocaol fod Guto wedi canu pum cywydd i Harri Ddu ap Gruffudd a’i deulu o Gwrtnewydd yn Euas, gw. cerddi 32, 33, 34, 35 a 36. Ar Fôr Rudd (weithiau Môr Udd), gw. y cyfuniad yn GPC 2486 d.g. môr1 ‘the North Sea, including and later identified with the (English) Channel, also used of St. George’s Channel’. Ymddengys mai Môr y Gogledd yn bennaf a olygir yma. Nid Môr Rhudd ‘y Môr Coch’ ydyw (gw. y cyfuniad yn ibid.).
55 Dafydd Gw. 45n.
56 Iâl Cwmwd ym Mhowys Fadog lle saif abaty Glyn-y-groes, gw. WATU 94 a 284.
58 arglwyddïaeth Ceir yr enghraifft hon o dan (a) ‘urddas neu fraint arglwydd’ yn GPC2 453 d.g. arglwyddiaeth, ond gwell ei rhoi o dan (b) ‘teyrnas’. Cafodd Guto le gyda Duw yn y nefoedd.
Llyfryddiaeth
Begent, P.J. (1999), The Most Noble Order of the Garter 650 Years (London)
Evans, D.F. (1998), ‘ “Y Carl a’i Trawai o’r Cudd”: Ergyd y Gwn ar y Cywyddwyr’, Dwned, 4: 75–105
Lewis, H. (1931–3), ‘Selyf a Marcholffus’, B vi: 314–23
Lewis, S. (1976), ‘Gyrfa Filwrol Guto’r Glyn’, YB IX: 80–99
Roberts, E.S. (1918) (ed.), Peniarth MS. 67 (Cardiff)
Salisbury, E. (2007), Ar Drywydd Guto’r Glyn ap Siancyn y Glyn (Aberystwyth)
Williams, I. (1929–31), ‘Ystorya Drystan’, B v: 115–29
This elegy by Gutun Owain is the only elegy that survives for Guto. Guto spent his last years in the abbey of Valle Crucis and this elegy confirms that he died at the abbey and was buried there. Naturally his poetic ability is praised above all else (lines 1–44), although unfortunately what is said adds very little to what is already known about him. He was a master of all the metres of the awdl (35), yet he is remembered chiefly as a composer of cywyddau (1, 31–2, 37) and his superiority in the praise genre is duly acknowledged (8–12, 21, 24, 31, 39–42). Indeed, Gutun makes an interesting remark about the poets’ admiration of Guto in every part of Wales (5, 7, 23–30), which strikes a different tone to Guto’s own resentment towards poets who wished to take his place in Valle Crucis in his old age (see poem 116). Another interesting reference is to Guto composing poetry er serch ar Dduw a’r saint ‘from love to God and the saints’ in his final years (41–2). It seems very likely that Gutun was familiar with Guto’s religious poem (poem 118) composed at the behest of Abbot Dafydd ab Ieuan in Valle Crucis. One other interesting piece of information is the reference to Guto [c]anu ‘singing’ (16), which probably shows that Guto, like most other poets at that time, in all likelihood, could perform his poems orally.
A few lines are used to commemorate other aspects of Guto’s life, namely his strength (15, 17–18), his association with Edward IV (19–20) and his military career (21). Gutun refers specifically to his ability to throw a large stone (see 15n), and it is possible that the reference to a golden anvil belongs to the same context, although it may be associated with Guto’s possible knowledge of smithcraft (see 18n). It is possible that the references to Edward and to Guto as a soldier are separate: the first may be associated with a poem that Guto composed for the king (see 19–20n) and the second with his military service in the retinue of Edward’s father, Richard duke of York, in France (see 21n).
At the end of the poem Gutun mentions the poem’s patron who officiated Guto’s burial and subsequently held a feast in his honour, namely Abbot Dafydd ab Ieuan (45–58). The abbot’s generosity is evident, although not specifically towards Gutun as the composer of the poem but rather in memory of the departed poet. The elegy is concluded on a similar note by comparing the heavenly delights which Guto experienced in the abbey in his old age with heaven itself. In line with the conventional way of bringing an elegy to a close, it is in the latter heaven that the poet’s soul will eventually reside.
Date
Although the date of Guto’s death is not known, he probably died c.1490.
The manuscripts
This elegy survives in ten manuscripts. There are two main versions, one of which is more closely associated with the source (represented by LlGC 728D and LlGC 17114B). The second version displays traces of retouching, and the edition is based mainly upon the text of LlGC 17114B.
Previous editions and translation
GO poem LXIII (including a French translation); GGl poem CXXIV.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 58 lines.
Cynghanedd: croes 57% (33 lines), traws 31% (18 lines), sain 10% (6 lines), llusg 2% (1 line).
1 Yn iach, awen na chywydd! Possibly an incorrect separation (awen a → awen na), yet na ‘nor’ is justifiable on the basis of the negative meaning of yn iach ‘farewell’. Cf. GO XXXVII.1 Yn iach, vrddas, na cherddwr ‘Farewell, honour and musician’; TA X.81–2 Yn iach na helwyr na chynheiliaeth, / Na meirch o arial, na marchwriaeth ‘Farewell, hunters and sustenance, and horses of vigour, and horsemanship’; GSH 3.12 Yn iach aur ynn na chariad ‘Farewell, gold and love for us’; GLMorg 7.53 Yn iach olwg na chalon ‘Farewell, appearance and heart’, 36.43–4 Yn iach ’maenor uwch Mynwy / Ymlitgwn na milgwn mwy ‘Farewell, manor above the river Monnow, hunting hounds and hounds hereafter’. Another possibility is Yn iach! Awen na chywydd … ‘Farewell! From now on no poetic inspiration nor a cywydd will be given in exchange for wine or prestige.’ Cf. Hywel Rheinallt in his elegy for Dafydd Nanmor and others, see DN XL.20 Yn iach awen a chowydd ‘Farewell, poetic inspiration and cywydd.’
2 parch ‘Prestige’, but also ‘respect’. Cf. the opening couplet of Guto’s poem to defend his place at Valle Crucis, see 116.1–2 Mae poen ym a hap ennyd, / Mae parch ac amarch i gyd ‘There is anguish for me and then good fortune for a while, there is respect and disrespect together.’
4 gwiw yn ei fedd ‘Excellently placed in his grave’, a reference to Guto’s body in its grave at Valle Crucis. Cf. Guto in his elegy for Robert Trefor, 105.46 A’i le ’n nef a’i wely ’n Iâl ‘with his place in heaven and his resting place in Yale’. Like Robert, Guto’s soul has departed to heaven (see 57–8 i gael yr aeth / Gwledd Dduw ‘he has gone to receive God’s feast’), but his body, like Robert’s, is kept safe on the abbey’s land. It is unlikely that Gutun is referring to medd ‘mead’ here, nor to Guto’s ‘authority’, see GPC 2394 s.v. medd1 and 2.
6 glain nod See the combination in GPC 1309 s.v. glain1 ‘paternoster, special bead in a rosary indicating that a paternoster is to be said, usually fig. illustrious one, person of distinction’. Gutun may have been familiar with Guto’s poem of thanks for a rosary (poem 59) from Rhisiart Cyffin, dean of Bangor.
8 eiliai gerdd Iolo ‘He formed Iolo’s poem’, where [c]erdd Iolo ‘Iolo’s poem’ is understood as a metaphor for ‘praise poetry’. Guto did not ‘compose Iolo Goch’s poetry’, but rather ‘composed praise poetry’. The fourteenth-century poet was considered to be an exceptional master of the praise genre.
9 ein eryr The mutation is usually ein heryr, but see TC 154.
12 dyrnod o geudod gwn ‘A blow from the bore of a gun’. Further on the gun in both Guto’s poetry and that of his contemporaries, see Evans 1998: 81–3 (cf. 106.13n).
15 ar faen gorau a fu ‘He was the best at throwing a heavy stone’. Guto himself refers to his ability to throw heavy stones in a praise poem for Henry Griffith of Ewyas, where he claims that his patron’s ability surpassed his own, see 33.39–46 Och ym er dir a chymell / O bu ŵr â bwa well, / Na chystal, ynial annerch, / Ar y maen mawr er mwyn merch. / I minnau, gwarau gwiwraen, / Y bu air mawr er bwrw maen; / Hiroedl a fo i Harri / Y sydd im diswyddaw i! ‘May there be affliction for me on account of force and coercion if there was ever a better man with a bow, or one as good (address full of vigour) at throwing the big rock to impress a girl. I myself, very expert play, have had a high reputation in throwing the stone; long life to Harry, who is putting me in the shade!’ It does not seem that the game was one of the acknowledged twenty-four feats. See further IGE2 387; GRhGE 12.15–36; references in Salisbury 2007: 43 (footnotes 92, 93).
18 einion aur Not Einion Aur, as there is no evidence for the name, nor ‘gold that belonged to Einion’, as it is highly unlikely that Gutun is referring to Einion ap Gruffudd, the only Einion to whom it is known that Guto composed poetry (see poem 42). Furthermore, there is no evidence for a man named Einion who was famed for his strength. ‘Golden anvil’ is more likely as a reference to Guto’s strength (cf. 17 dwyn o nerth ‘carry with strength’). Gutun may be referring to the act of lifting or carrying an anvil, even though it was not one of the acknowledged twenty-four feats (similar to the game of throwing a large stone, see 15n). Key evidence in this context may be Dafydd ab Edmwnd’s satire on Guto, in which he claims that the poet suffered an injury by weight lifting, see 68a.23–4 Er ennill gynt yr einion, / Am y fors yt mwy fu’r sôn ‘Although you won the anvil previously, there’s been more talk about your rupture’. Yet, aur ‘gold’ makes it difficult to interpret einion ‘anvil’ literally, for it is very unlikely that there were golden anvils in Wales in the fifteenth century. Is Gutun saying that Guto possessed the ‘strength of a golden anvil’, that he was hard and solid like a brilliant anvil made of gold? Cf. GSC 14.22 A thân o nerth einion wyd ‘and you are a fire with the power of an anvil’. There is no evidence for the existence of a heraldic coat of arms which included an anvil, but could it have been possible that those who excelled in the feat of throwing a large stone received a small gold anvil, much in the same way that poets were awarded with a miniature silver chair (see 65a.48n)? This may explain a reference to an anvil in Llawdden’s satire on Dafydd ab Edmwnd, GLl 36.3–4 Oni elly o dŷ dy daid / Ddal d’einion, i ddiawl d’enaid! ‘If you cannot from your grandfather’s house / bear your anvil, to hell with your soul!’ Another possibility is that the reference is associated with Guto’s possible knowledge of smithcraft, for a few of his poems seem to suggest that he was very familiar with it (see poems 73 and 98).
20 y Brenin Edward King Edward IV, in all likelihood (see 19–20n).
19–20 Dwyn coler, gwychder y gard, / A nod y Brenin Edward ‘He’d wear King Edward’s collar and mark, the guard’s grandeur’. The meaning of this couplet is dependent to a degree upon how the word gard is interpreted. This example is shown s.v. gartr in GPC 1383, with gard as a variant form of the word, namely the sign of the Order of the Garter. It is likely that gard is used to refer to the Order in 36.40 Gard aur ysgwieriaid oedd ‘he was the golden garter of esquires’ (to Henry Griffith); GDLl 50.1 Y gŵr dewr â’r gard eurin ‘The brave man with the golden garter’ (to Sir Rhys ap Tomas); Roberts (1918: 48) ef allai r tat profyadwy / wisgo gard rrwng wysc a gwy ‘the experienced father could wear the garter between the river Usk and the river Wye’ (Hywel Dafi for Gwallter Hafart); Lewis (1931–3: 316) y gards ‘the garters’ and, possibly, in GLM LX.1 Pa ŵr, i’w gylch, piau’r gard? ‘What man in his circle owns the garter?’ The only other possibility is that gard means ‘guard’ (see GPC 1381 s.v. gard2). It is unclear when exactly it became a custom for members of the Order of the Garter to wear golden collars, but it is unlikely to have been earlier than c.1500 and is associated with the reign of Henry VII (1485–1509; see Begent 1999: 62, 161). Therefore, it is highly unlikely that the reference to y gard is associated with the reference to the coler ‘collar’, but rather that Guto had dwyn coler … / A nod y Brenin Edward ‘worn King Edward’s collar and mark’, and that gwychder y gard ‘the guard’s grandeur’ should be understood as an aside. It is almost impossible that Guto was made a member of the Order of the Garter as it was a lofty honour usually endowed upon a notable knight. Sir William Herbert was made a member by Edward IV in 1461/2, a fact to which Guto referred: see 27.19–20 Arweddodd we o ruddaur / Ac aerwy trwm a gartr aur ‘He wore cloth of red gold and a heavy collar and garter of gold.’ Guto may have served the Order in some way, possibly as an official, but there is no evidence for such a claim. In truth, the only possibility that makes sense in terms of ‘the garter’ is that Gutun refers to it simply as a symbol for excellence, gwychder y gard ‘the garter’s grandeur’ (or ‘grand like the garter’), as it was an honour to which noblemen would aspire in the poets’ minds (cf. the examples above). Therefore, what of ‘guard’? This is how Lewis (1976: 92–3) interpreted y gard in order to argue that Guto had been a member of Edward’s personal guard. Yet, there is no evidence that Guto served as a soldier except in the army of Richard duke of York in France in 1441 (and also, possibly, in 1436) when Henry VI was on the throne (note, nonetheless, that Richard was Edward’s father). What the remainder of the couplet makes clear is that Guto had worn Edward’s coler ‘collar’ and nod ‘mark’. What is absent is the context: did Guto wear these as a soldier, as would be expected, or as a poet due to the poem of praise (poem 29) he composed for Edward or his poems for the Herberts or possibly his service as a poet to Edward, prince of Wales, in Shrewsbury during the second half of the 1470s (see Guto’r Glyn: A Life)? The exact meaning of the couplet remains open to discussion.
21 milwr fu ‘He was a soldier’. As there is no evidence that Guto fought in the Wars of the Roses (see 19–20n), Gutun is in all likelihood referring to his service as a soldier during the Hundred Years’ War. Guto’s name is included in a list of bowmen who served in the army of Richard duke of York in France in 1441, and it is possible that he also served in 1436.
22 Merddin A form of the name Myrddin ap Morfryn Frych, a poet of the Old North who lived during the sixth century. He received patronage from Gwenddolau and became a mad prophet in Coed Celyddon upon the death of his patron by the hand of Rhydderch Hael in the battle of Arfderydd, see TYP3 458–62; WCD 492–500. He may have been named here due to the fact that he was both a poet and a soldier (cf. 21n milwr fu).
24–7 Powyswyr … / y Deau … / … Gwynedd Traditionally the three main parts of Wales. Gutun names Powys first as it contained the abbey of Valle Crucis, where the poem was performed (see 56n), but it is also likely that Powys is where Guto performed most of his poetry (on Powys, see WATU 182). Gutun may have used y Deau to refer to Deheubarth (see ibid. 56 s.v. Deheubarth), but as Gwent was not traditionally part of Deheubarth (where Guto composed a large amount of poetry for the Herberts of Raglan), it must be understood as a reference to a wider area, namely the whole of south Wales. On Gwynedd, see ibid. 85.
31 Eiddil cywydd o’i addef ‘A cywydd is feeble having known him’, by comparison.
33 cerdd â dewis gwiw ‘Strong poem with a worthy subject’, see GPC 941 s.v. dewis ‘person or thing chosen, select person or thing’.
34 ei frisg ydiw ‘It’s his vestige’, a possible reference to the journey to a patron’s home where Guto would sing a [c]erdd â dewis gwiw ‘poem with a worthy subject’ (33n), or it could also be a reference to Guto’s ‘footprint’, in a figurative sense, in poems composed by other poets.
35 saer awdl pob mesur ‘Craftsman of an ode containing every metre’. The five surviving awdlau more than likely represent a large body of lost work, see poems 8, 12, 43, 111 and 113.
36 cae Esyllt ‘Isolde’s garland’, see GPC 382 s.v. cae, a symbol for great treasure. Isolde daughter of Cynan Dindaethwy was the wife of March ap Meirchion but she fell in love with her husband’s nephew, Trystan son of Tallwch. See further Williams 1925–31; TYP3 350–2; WCD 473–4 s.n. Merfyn Frych ap Gwirad; DG.net 164.51n.
40 merch a garai ‘He’d love a woman’. As noted in GGl x, not a single love poem has been attributed to Guto, therefore Gutun may be referring to poems composed by Guto for the wives of noblemen (see poems 26, 50, 53, 81, 87, 88, 92 and 97; also poem 34). Nonetheless, it is also known that Guto lived in Oswestry with his wife, Dwgws (see 101.46, 101a.20n).
43 Difiau Cablud ‘Maundy Thursday, Shear Thursday’ (see GPC 373 s.v. Cablyd1; John 13). It seems that Guto died on this day.
45 Arglwydd Ddafydd Abbot Dafydd ab Ieuan of Valle Crucis (cf. 117.20n).
47 diweddu See GPC 1056 s.v. diweddaf1 ‘lay out (a corpse)’.
48 gwledd Ferwydd ‘Merwydd’s feast’. It is likely that his feast was one of the Three Immense Feasts of the Island of Britain, along with the feast of Caswallon ap Beli in London and Arthur’s in Caerleon, although there are other versions of the triad in the works of Tudur Aled and Dafydd Nanmor (see TYP3 239–41). The main source of the triad is a praise poem composed by Gutun for the patron of this elegy, Abbot Dafydd ab Ieuan (see GO XXIX.19–24; cf. ibid. XXVI.44), which is supported by references to the greatness of Merwydd’s feast by Tudur Aled (see TA III.46, VIII.75 and CXLII.1). There is no evidence for the triad before the end of the fifteenth century and it was in all likelihood based upon an oral tradition. In Gutun’s poem for the abbot, Merwydd is referred to as Merwydd y’ Mon ‘Merwydd on Anglesey’, and he may have been one of the supporters of Gruffudd ap Cynan in the eleventh century.
53–4 o wyneb Euas / i Fôr Rudd ‘From the border of Ewyas to the North Sea’, namely the whole of Wales. On the commote of Ewyas on the eastern slopes of the Black Mountains, see WATU 68 s.v. Ewias. It may be significant that Guto composed five poems for Henry Griffith and his family, who lived at Newcourt in Ewyas, see poems 32, 33, 34, 35 and 36. On Môr Rudd (sometimes Môr Udd), see the combination in GPC 2486 s.v. môr1 ‘the North Sea, including and later identified with the (English) Channel, also used of St. George’s Channel’. It seems that Gutun is referring mainly to the North Sea. He is not referring to Môr Rhudd ‘the Red Sea’ (see the combination in ibid.).
55 Dafydd See 45n.
56 Iâl A commote in Powys Fadog where the abbey of Valle Crucis is located, see WATU 94 and 284.
58 arglwyddïaeth This example is shown under (a) ‘lordship, dominion’ in GPC2 453 s.v. arglwyddiaeth, but it is more likely to be (b) ‘realm’ or ‘kingdom’. Guto was received into God’s land.
Bibliography
Begent, P.J. (1999), The Most Noble Order of the Garter 650 Years (London)
Evans, D.F. (1998), ‘ “Y Carl a’i Trawai o’r Cudd”: Ergyd y Gwn ar y Cywyddwyr’, Dwned, 4: 75–105
Lewis, H. (1931–3), ‘Selyf a Marcholffus’, B vi: 314–23
Lewis, S. (1976), ‘Gyrfa Filwrol Guto’r Glyn’, YB IX: 80–99
Roberts, E.S. (1918) (ed.), Peniarth MS. 67 (Cardiff)
Salisbury, E. (2007), Ar Drywydd Guto’r Glyn ap Siancyn y Glyn (Aberystwyth)
Williams, I. (1929–31), ‘Ystorya Drystan’, B v: 115–29
Canwyd marwnad Guto gan Gutun Owain, bardd o dras uchelwrol a fu’n weithgar yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn bennaf. Ceir dros drigain o gerddi wrth ei enw, yn gerddi mawl a marwnad yn bennaf ynghyd â cherddi gofyn a serch.
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Iarddur 1; HPF iii: 385–6; GO VIII.17–22; DE 101. Tanlinellir enw noddwr Guto.
Ymddengys bod Gutun yn nai i’r Abad Siôn ap Rhisiart o Lyn-y-groes.
Ei yrfa
Roedd Gutun yn gysylltiedig â rhannau o’r Mers yng ngogledd swydd Amwythig heddiw, sef plwyfi Llandudlyst a Llanfarthin, ac roedd ganddo dir yn nhrefgordd Ifton. Roedd yn ddisgybl i Ddafydd ab Edmwnd a bu’n bresennol gyda’i athro barddol yn eisteddfod Caerfyrddin c.1451, pan roes Dafydd, ynghyd â beirdd eraill, drefn newydd ar gerdd dafod eu dydd. Cofnodwyd y drefn honno maes o law mewn gramadegau barddol yn llaw Gutun. Abadau Glyn-y-groes oedd ei brif noddwyr, yr Abad Siôn ap Rhisiart a’r Abad Dafydd ab Ieuan, ond canodd hefyd i nifer o uchelwyr eraill a fu’n noddwyr i Guto yntau. Nid oedd cystal bardd â Guto, ond perthyn naws chwaethus a myfyriol i nifer o’i gerddi, yn arbennig ei gerddi gofyn dychmygus. Yn ogystal â’i ddysg farddol helaeth, roedd Gutun yn arbenigwr hefyd ar agweddau eraill ar ddysg ddiwylliannol, megis achyddiaeth, herodraeth, testunau crefyddol, croniclau a brudiau, ac roedd ei ddiddordebau’n amrywiol ac eang. Ymddengys iddo farw cyn troad yr unfed ganrif ar bymtheg, a’i gladdu yn Llanfarthin.
Ymhellach, gw. DNB Online s.n. Gutun Owain; GO; Williams 1997; ByCy Ar-lein s.n. Gutun Owain.
Llyfryddiaeth
Williams, J.E.C. (1997), ‘Gutun Owain’, A.O.H. Jarman and G.R. Hughes (eds.), A Guide to Welsh Literature ii: 1282–c.1550, revised by D. Johnston (second ed., Cardiff), 240–55