Y llawysgrifau
Diogelwyd 62 copi o’r gerdd boblogaidd hon. Er gwaethaf swmp brawychus y dystiolaeth mae’n debygol fod mwyafrif y testunau’n deillio o ffynonellau cynnar coll a oedd yn debyg iawn i’r testun cynharaf a oroesodd, sef eiddo Pen 67. O ran trefn llinellau dilynir testun Pen 67 yn bur agos ym mhob llawysgrif ac eithrio X1, X2, Brog I.2 a LlGC 17114B, lle ceir amrywio helaeth. Bernir bod hyn yn arddangos ôl traddodi llafar (gw. y stema; noder na fu’n bosibl adlewyrchu dyddiadau’r llawysgrifau yn y stema oherwydd prinder gofod). Cambriodolwyd y cywydd i Dudur Aled yn BL 31056.
Braf fyddai medru rhoi blaenoriaeth i dystiolaeth Pen 67, a ysgrifennwyd gan y bardd Hywel Dafi tua 1483. Mae’n ffynhonnell gyfoes â Guto ei hun, a gwyddys ei fod ef a Hywel yn adnabod ei gilydd (gw. cerddi 18, 18a, 20 a 20a). Dyma’r unig gerdd gan Guto a gofnodwyd gan Hywel yn y llawysgrif hon, ac, yn wir, un o’r ychydig gerddi yn llaw Hywel a ganwyd i. gan fardd arall; ii. i uchelwr o’r tu allan i Went (gw. Roberts 1918: ix). Tybed pam, felly, y dewisodd Hywel y gerdd hon i’w chofnodi yn ei lawysgrif, ai am ei bod yn well ganddo, yn sgil yr ymryson rhyngddo a Guto, ganu’r bardd i uchelwyr mewn rhannau eraill o Gymru? Mae’n annhebygol y byddai Hywel wedi rhoi ar glawr un o gerddi Guto i’r Herbertiaid ac yntau wedi addo atal ffrwyn y Guto yn Rhaglan (20a.60). Ar y llaw arall, gellid disgwyl y byddai Hywel wedi gwerthfawrogi’r defnydd helaeth a gwreiddiol mae Guto’n ei wneud o dechneg dyfalu yn y gerdd hon.
Y tebyg yw bod testun Pen 67 yn seiliedig ar adnabyddiaeth uniongyrchol o’r gerdd, naill ai drwy Guto ei hun neu ddatgeiniad. Fodd bynnag, nid yw’r testun yn ddi-fai ac mae’n bosibl mai o’i gof y copïai Hywel a’i fod wedi gwneud mân-newidiadau i’r testun yma a thraw.
Nesaf trafodir X5 ac X6. Ceir dau gopi o’r gerdd hon yn y prif gasgliad o waith Guto yn LlGC 3049D, y naill yn agos at ddechrau’r casgliad ar dudalennau 155–7 a’r llall yn agos at ei ddiwedd ar dudalennau 250–2. Fel y gwelir yn y stema, perthyn testun C 2.617 yn agos at y naill a thestun Gwyn 4 at y llall, ond tybed ai un ffynhonnell, mewn gwirionedd, oedd X5 ac X6 lle ceid dau fersiwn o’r gerdd hon? Gellid dadlau i gopïydd anhysbys LlGC 3049D gopïo’r ddau fersiwn ac i gopïwyr eraill ddewis un yn lle’r llall (gwyddys i William Salesbury roi rhyw fath o drefn ar ei gasgliad ef o gerddi Guto yn Gwyn 4). Gan na cheir copi o’r gerdd hon yn llaw Tomas Wiliems yn LlGC 8497B na Pen 77, a hynny’n groes i’r disgwyl, tybed a fethodd ef ddewis rhwng y ddau fersiwn? Bernir mai yn X5 ac X6 y ceid y copïau glanaf o’r gerdd (er nad yw’n eglur bob tro beth a geid ynddynt, gw. nodiadau llinellau 21, 32, 61 cyfyrder a 62 er) ond annoeth fyddai diystyru tystiolaeth Pen 67. Fel egwyddor, felly, dilynwyd tystiolaeth y ffynonellau hyn wrth sefydlu’r testun, yn arbennig pan fônt yn gytûn. Pan fo tystiolaeth mwyafrif y llawysgrifau yn erbyn Pen 67, dilynwyd arweiniad X5 ac X6 gan amlaf (gw. nodiadau llinellau 3 holwr, 4 Coetmawr, 14, 16, 31, 41 bugunad, 47 a 60).
Nid yw’r drefn yng ngolygiad GGl yn cyfateb yn union i unrhyw destun. Testun C 4.10 [i] yn unig sy’n cyfateb yn union i’r drefn a geir o linellau 1 i 30 yn GGl, ond ni nodir y llawysgrif honno’n ffynhonnell i’r gerdd (fe’i defnyddiwyd, fodd bynnag, yng ngolygiad GGl o gerdd 61, gw. GGl 256). O linell 31 hyd ddiwedd y gerdd yn GGl dilynir y drefn a geir yn Pen 152, gan gynnwys y pedwar cwpled newydd a geir yno (gw. y nodiadau isod ar linellau a wrthodwyd). Fodd bynnag, nid ymddengys fod GGl yn pwyso ar dystiolaeth y llawysgrifau hyn o ran darlleniadau, nac ar unrhyw un llawysgrif arall yn benodol ychwaith. Testun cyfansawdd a geir yno’n bennaf, ond dylid nodi na roddwyd blaenoriaeth i ddarlleniadau’r llawysgrif gynharaf, Pen 67, serch ei rhestru ymhlith ffynonellau’r gerdd.
Trawsysgrifiadau: C 2.617, Gwyn 4, LlGC 3049D [i] a [ii] a Pen 67.
Teitl
Yn unol â’r hyn a geir yn y gerdd ni cheir dim amgenach na chorn i ddisgrifio’r rhodd a erchir yn nheitl y gerdd mewn rhai llawysgrifau. Fe’i gelwir gan eraill yn gorn hela ac yn gorn canu, ac nid oes llawer i’w ennill o ddewis un yn lle’r llall mewn gwirionedd. Ategir corn canu gan y disgrifiad o gorn Arawn yng Nghainc Gyntaf y Mabinogi (PKM 2.4–5 a chorn canu am y uynwgyl), a chefnogir corn hela gan y cyfreithiau (LlB 108.6 a’e gorn hely yn llaw y penkynyd). Defnyddir corn hela yn nheitl y golygiad er mwyn osgoi amwysedd ynghylch corn canu, a allai ddynodi offeryn chwyth.
Llinellau a wrthodwyd
Ceir cwpled ychwanegol yn dilyn llinell 30 yn llaw John Davies yn BL 14971:
melys rhoi wmlys yr hydd
mewn gwin ymhen i gynyd[d]
Sylwodd John Davies fod y cwpled yn digwydd mewn cywydd gan Lawdden a gopïwyd ganddo yn yr un llawysgrif, sef cywydd i ddiolch i ŵr o’r enw Hywel am groen hydd (gw. GLl 7.15–16 Melys yw rhoi wmlys ’r hydd / Mewn gwin er mwyn ei gynydd). Codwyd y cwpled i destun GGl o Pen 152.
Codwyd dau gwpled arall i destun GGl o Pen 152 yn dilyn llinell 40:
llysvwen hardd llas naw hydd
lleuad neuad o newydd
darn aerwy ne fodrwy fawr
dan flermain benfain bonfawr
Yn Pen 152 yn unig y ceir y ddau gwpled hyn, yn wahanol i’r cwpled a drafodwyd eisoes. Ni ddaethpwyd o hyd i’r llinellau hyn yng ngwaith bardd arall, ond mae’n bosibl eu bod yn rhan o gerdd neu gerddi nas cofnodwyd. Ynddynt y ceir yr unig enghraifft o’r gair blermain yn GPC 285, ynghyd â’r enghraifft gynharaf o’r gair neuad (gw. ibid. 2575; ni cheir enghraifft arall hyd y ddeunawfed ganrif, a nodir, at hynny, bod yr ystyr yn amheus).
Codwyd pedwerydd cwpled ychwanegol i destun GGl o Pen 152 yn dilyn llinell 46:
hanner troell yn faner fydd
sef in cŵn o safn cynydd
Yn nhestun Pen 152 yn unig y ceir y cwpled hwn, ac fe’i gwrthodir yn unol â’r dadleuon uchod.
1 Sieffrai a yf osai Ffrainc Mae’r llinell hon yn enghraifft o’r hyn a alwyd gan Simwnt Fychan yn ‘groes anhydyn’, sef llinell lle nad yw’r gytsain olaf o flaen yr acen (yn yr orffwysfa yn yr achos hwn) yn syrthio’n union o flaen llafariad yr acen honno (gw. CD 145). Tybed ai ymgais i greu cynghanedd gryfach o amgylch y prif acenion yw’r ailgyfansoddi a welir yn X1 ac X2 Sieffrai ffrwyth osai o Ffrainc a BL 14979 Sieffrey a Roes sriw i ffraingk?
2 iestus Ansicr. Dilynir X1, X2 a Pen 67, ond ceir y ffurf fwy cyfarwydd ustus ym mwyafrif y llawysgrifau eraill. Gall fod darlleniadau Ba (Penrhos) 1573 ievstvs, BL 14979 estvs, C 4.101 evstys a Gwyn 4 iustus yn ateg i ddarlleniad y golygiad, ac felly hefyd ddarlleniad testun cynnar Pen 57 (c.1440) mewn llinell o gywydd mawl Guto i Rys ap Siancyn o Lyn-nedd (15.14 Nudd ac iestus Nedd gastell). Sylwer mai i- a geir ar ddechrau’r gair ym mhob enghraifft gynnar yn GPC 3720 d.g. ustus (noder bod darlleniad GDG3 325 ustus bellach wedi ei ddisodli gan ddarlleniad DG.net 49.11 iustus).
2 holfainc Dilynir darlleniad mwyafrif y llawysgrifau, ond gthg. X1, X2, Brog I.2, BL 14971 a Pen 67 hawlfainc (am y ffurfiau, gw. GPC 1828). Cymerwyd X8 dewi r brytaniaid ifainc o’r cywydd mawl a ganodd Guto i Siôn Talbod (gw. 78.44 Dewi barwniaid ieuainc).
3 cyfreithiwr Y tebyg yw mai camgopïo a geir yn LlGC 5245A kyfraiwr, ond sylwer bod cyfrai yn ffurf amrywiol ar cyfri ‘brenin, llywiawdwr, pen’ (gw. GPC 716).
3 holwr Dilynir mwyafrif y llawysgrifau. Bernir mai hawlwr a ddynodir gan Pen 67 havlwr (cf. dre vavr am Dref-fawr yn 4n) ac mai’r un gair a olygir yn narlleniad X4 a BL 14971 howlwr.
4 Coetmawr Dilynir mwyafrif y llawysgrifau, ond gthg. X1, X2 a Pen 67 koedmawr.
4 i’r O ran yr arddodiad dilynir mwyafrif y llawysgrifau. Yr unig ddarlleniad arall a gefnogir gan y llawysgrifau yw o neu o’r, a geid yn X3, X4, LlGC 17114B, C 4.101 ac fel ychwanegiad yn BL 14971, ond nid yw’n synhwyrol iawn o ran ystyr. Er nad yw’n gwbl eglur ai’r fannod ynteu’r arddodiad a ddynodir gan i/y mewn rhai llawysgrifau, go brin y gellid cyfiawnhau defnyddio’r fannod ac ynysu Coetmawr ar ddechrau’r llinell gan nad yw creu sangiad goferol yn ei sgil (holwr haelwych / Coetmawr) yn taro deuddeg. Ond ni cheir anhawster yn X5, X6, C 4.10 [ii], LlGC 5245A a Pen 67, lle ceir yr arddodiad a’r fannod ynghyd.
4 Dref-fawr Nid ymddengys fod yr un llawysgrif wedi ystyried y Dref-fawr yn yr un modd â GGl Dref Awr. Dadleuir yn GGl 324 mai Awr ab Ieuaf ap Cuhelyn, hynafiad llawer o deuluoedd ym Mhowys Fadog (gw. WG1 ‘Tudur Trefor’ 2), a roes ei enw i drefgorddau Trefor Uchaf ac Isaf ger Llangollen, dadl a gefnogir gan Roberts (1974: 73): ‘nid oes a wnelo’r Trefor hwn â na “môr” na “mawr”; Tref-Awr ydyw’. Fodd bynnag, a chymryd y ceid y fannod o flaen yr enw (gw. y nodyn uchod) ni ddisgwylid y Dref-Awr, eithr y Dref-fawr. Mewn gwirionedd ni cheir lle i gredu bod y Trefor hwn yn wahanol i’r holl lefydd eraill sy’n dwyn yr un enw ac sy’n deillio o tref + mawr.
5 i Fainc Dilynir X5, X6, X7 a Pen 67 (fe’u hategir gan LlGC 5245A ymaink a BL 14979 a BL 31056 ifanc). Ceir darlleniad GGl ar fainc yn y llawysgrifau eraill.
6 cyfraith fyd Twyllwyd clust sawl copïydd (ynghyd â golygyddion GGl) a ysgrifennodd cyfraith faith er mwyn creu cynghanedd sain gywreiniach: X1, X2, X3, BL 14979, BL 31056, C 4.101, Gwyn 2 (darlleniad gwreiddiol), Gwyn 4, LlGC 643B a LlGC 17114B. Cf. 53n.
7 pleder Dilynir mwyafrif y llawysgrifau. Gthg. X1, Brog I.2, BL 14978, BL 31056 a LlGC 17114B pleidiwr.
8 a’r Comin Plas O ran y fannod dilynir mwyafrif y llawysgrifau. Nis ceid yn X2, X3, BL 15038, C 2.617, C 3.37 [i] a LlGC 17114B.
10 coiff Gall mai gwall camglywed a welir yn narlleniad gwreiddiol Pen 67 coeth (fe’i ceid yn X2 hefyd).
14 Sieffrai, i’n sir Dilynir mwyafrif y llawysgrifau. Gthg. BL 14891, BL 14967, BL 14971, Gwyn 2 a Pen 67 ’n y sir.
16 wnaech Gthg. Pen 67 a Brog I.2 wnewch.
17 pêr Dilynir mwyafrif y llawysgrifau. Gthg. X1, X2, BL 14979, Gwyn 4 a LlGC 17114B pur. Bernir bod pêr yn ddisgrifiad gwell o brydydd.
19 canu Gthg. X2, X7, BL 14891, BL 14978 a LlGC 643B caru.
20 dy hendeidiau di Ceir cynghanedd sain drosgl yn Ba (Penrhos) 1573 a Brog I.2 campav ych hen deidiav chwi (ar y gynghanedd, gw. CD 171–2).
21 mau’i Cefnogir Pen 67 mai gan X6, ac, o bosib, LlGC 5245A yma i. Nid yw’n eglur beth a geid yn X5 (LlGC 3049D [i] mai; C 2.617 mae) nac yn X10 (LlGC 3057D mai; C 3.37 mav). Nid yw mai angerdd yn gwbl amhosibl, ond rhaid wrth gryn ddychymyg i’w gyfiawnhau fel darlleniad dilys, naill ai fel ‘celfyddyd mis Mai’ neu fel ‘celfyddyd gwastadeddau’ (gw. GPC 2321–2 d.g. mai2). Ceir mau yn BL 14967 a C 3.37 ac fe’i cefnogir gan BL 14971 mavwy angerdd a LlGC 17114B mav iangerdd. Yr esboniad mwyaf tebygol yw mai mau’i a olygir wrth mai a mav mewn nifer o lawysgrifau. Darlleniadau carbwl a geir yn y llawysgrifau eraill ac ni cheir darlleniad GGl Mae ungwr mwy ei angerdd yn yr un llawysgrif.
25 pen Gthg. treiglo annisgwyl yn X5, X6, X10, BL 14891, BL 14978, C 2.630, LlGC 643B a LlGC 5245A ben.
31 ymysg y Ceir darlleniad unigryw gan Hywel Dafi yn Pen 67 nid vn or, a’r tebyg yw mai ef a’i haddasodd, efallai’n ddiarwybod iddo ef ei hun gan mor debyg yw ystyr y ddau ddarlleniad. Bernir bod y cynildeb a geir yn corn mawr ymysg y cyrn mân yn cyd-fynd â hoffter Guto ei hun o ganu’n gynnil, a bod Hywel Dafi wedi ceisio gwthio ei ddehongliad mwy echblyg ef ar y llinell maes o law.
32 y Dilynir mwyafrif y llawysgrifau. Hepgorwyd y fannod mewn nifer o lawysgrifau a cheisio adfer y sillaf a gollwyd mewn gwahanol ffyrdd: rhoddwyd megis yn lle fal yn X3, X7, X11, Brog I.2 a BL 31056; ceir ffurf dafodieithol, o bosibl, yn X1, Llst 16 a LlGC 3057D cefen; ceir ychwanegiad yn X2 yw fal ac addasiad yn BL 14890 ar lun. Bernir mai gwall camosod am kefny a geid yn X5 kefyn.
36 tarth Ceir torch mewn rhai llawysgrifau, ond ni cheir sail i’w ystyried o ddifrif yma.
41 genau’n bugunad Dilynir X1, X3, X8, X11, BL 14971, Brog I.2, C 4.10 [i], LlGC 5245A a Pen 67, lle ystyrir bugunad yn ferf, ond gthg. X2, X5, X6, X7, X10, BL 14979, C 4.101, LlGC 1579C a LlGC 17114B genau bugunad, lle’i hystyrir yn enw. Nid yw’n eglur beth a geid yn X4 (BL 14967 yn; LlGC 5272C genau bugunad) nac X13 (BL 14890 n; Llst 16 genau bugunad). Ar y gair, gw. GPC 348.
41 bugunad Ceir gwall copïo, yn ôl pob tebyg, yn Pen 67 begvnnat, er y gellid dadlau mai begin, o megin, a olygir (gw. GPC 2404–5). Mae’r ffaith y ceir buganiad/byganiad mewn nifer o lawysgrifau’n awgrymu bod rhai copïwyr yn anghyfarwydd â bugunad, ond gellid dadlau hefyd mai bu ‘buwch, eidion’ + caniad a olygir gan rai.
46 Organ fawr i gŵn yw fo Dilynir darlleniad X5, X6, X10, C 4.101 a Pen 67, a’i ystyried yn gynghanedd groes-o-gyswllt. Ceir cynghanedd groes ym mwyafrif y llawysgrifau: organ fawr ar gwn yw fo. Mae darlleniad GGl ei gŵn yn bosibl o safbwynt orgraff, ond ni cheir ateg iddo mewn llawysgrifau diweddar.
47 wynnog Nid yw’n eglur pa ffurf ar y gair hwn a geid yn wreiddiol, ai wynnog, a geir yn X2, X5, X6 a BL 14971, ynteu wnnog, a geir ym mwyafrif y llawysgrifau, sef X1, X3, X7, X10, X13, Brog I.2, C 4.101, LlGC 5245A a Pen 67 (gw. GPC 1778 d.g. gwynnog1). Nid yw’n eglur beth a geid yn X4 (BL 14967 wynoc; LlGC 5272C wnoc). Darlleniadau carbwl a geir yn y llawysgrifau eraill. Ar sail egwyddor, felly, dilynir darlleniad X5 ac X6.
50 O’r glun ar gil ei enau Dilynir X5, X6, X10, BL 14979, Brog I.2 a Pen 67. Ceir amrywiadau ar ddarlleniad GGl O’i glun i gil ei enau yn y llawysgrifau eraill.
51 ymbilwyr Dilynir mwyafrif y llawysgrifau. Nid yw ymbiliwr, sef darlleniad gweddill y llawysgrifau a GGl, yn taro deuddeg.
53 Nid eirch aur na gyrfeirch gŵr Cafodd nifer o gopïwyr anhawster â rhythm y gynghanedd sain yn y llinell hon (cf. 6n). Ceir aur yn X4, X6, X7, X8, X13, BL 14971, Brog I.2, C 4.10 [i], C 4.101, LlGC 5245A, LlGC 17114B a Pen 67 ond fe’i newidiwyd i feirch yng ngweddill y llawysgrifau.
56 o’r Dilynir X2, X4, X6, X10, C 4.101, LlGC 17114B a Pen 67. Nid yw’n eglur ai o’r neu a’r a geid yn X3, X5, X11, X13 a BL 14971. Ceir a’r yn y gweddill.
60 myn Gthg. darlleniad unigryw Pen 67 ym.
61 o chaiff Ceir o cheir mewn rhai llawysgrifau (o bosibl dan ddylanwad 58 o chair corn), ond dilynir darlleniad y mwyafrif.
61 cyfyrderw Dilynir, yn betrus, X6 kyfyrderw/kefnderw, Brog I.2 kyvyrderw a Pen 67 kyferdderw. Gthg. X1 ac X2 kyverdder a cyfyrderw yng ngweddill y llawysgrifau. Nid yw’n eglur beth a geid yn X5 (LlGC 3049D [i] kyvyrder; C 2.617 kyvyrderw). Ar y ffurfiau, gw. GPC 726 d.g. cyfyrder.
62 y Ansicr. Nis ceir ym mwyafrif y llawysgrifau, ac fe’i ychwanegwyd (gan Hywel Dafi ei hun, hyd y gwelir) yn Pen 67, ond ategir y darlleniad diwygiedig hwnnw gan X5, X6, BL 14971, BL 14979, C 4.10 [i] a C 4.101. Ar sail eu tystiolaeth hwy y ceir y fannod yma, ond ni ellir diystyru’n llwyr y posibilrwydd yr ystyrid galw yn ddeusill.
62 er Dilynir X1, X2, X10, Brog I.2 a Pen 67, yn bennaf yn sgil anghysondeb a dryswch yng ngweddill y llawysgrifau: X4, X6, BL 14979 a LlGC 17114B yn; X3, X13, C 4.101 a LlGC 5245A a; pendilir rhwng y ddau ddarlleniad yma yn X8, X9, BL 14971 a C 4.10 [i]. Darlleniadau carbwl a geir yn X7 ac X11, ac nid yw’n eglur beth a geid yn X5 (C 2.617 a, ac fe’i hepgorwyd yn llwyr yn LlGC 3049D [i]). Bernir mai er sydd fwyaf priodol o ran ystyr.
64 ceirw yn siêp Dilynir X5, X6, X7, BL 14971, BL 14978, BL 14979, C 4.101 a Pen 67. Nid yw’n eglur beth a geid yn X4 (BL 14967 sieb; LlGC 5272C sied). Ceir sied yng ngweddill y llawysgrifau, sy’n berffaith bosibl o ran ystyr (gw. GPC 3272 d.g. sied1 ‘tir neu eiddo a ddychwelir, fforffed’), ond ymddengys oddi wrth yr enghreifftiau a roir yn GPC mai mewn cyd-destunau negyddol, ar y cyfan, y’i defnyddid, a gellid dadlau mai siêp yw’r darlleniad anodd. Ymhellach, gw. 99.64n siêp (esboniadol).
Llyfryddiaeth
Roberts, E. (1974), ‘Llys Ieuan, Esgob Llanelwy’, TCHSDd xxiii: 70–103
Roberts, E.S. (1918) (gol.), Peniarth MS. 67 (Cardiff)
Cywydd gofyn yw hwn am gorn hela i Sieffrai Cyffin ar ran Siôn Eutun, lle dilynir y patrwm cydnabyddedig ar gyfer canu cerdd ofyn (gw. Huws 1998: 87). Cyferchir Sieffrai yn llinellau 1–20, ond yn hytrach na rhoi sylw cyffredinol i’w ach neu ei haelioni, canolbwyntir ar un agwedd benodol ar ei fywyd, sef ei yrfa ym myd y gyfraith. Ac nid gyrfa gyffredin mohoni, oherwydd fe’i gelwir yn iestus, cyfreithiwr, holwr, Capten i Fainc y Brenin a [ph]leder, a chyfeirir at ganolfannau’r gyfraith yn Llundain (llinellau 8 a 12) ac at lysoedd sirol yng Ngwynedd (4, 5 a 9–10) ac, o bosibl, yn Amwythig (gw. 14n sir). Fodd bynnag, mae’r rhan agoriadol hon o’r gerdd yn frith o dermau a chyfeiriadau cyfreithiol nad yw’n eglur a ddylid eu hystyried yn llythrennol ynteu’n ormodiaeth hael i ŵr a chanddo ddiddordeb achlysurol yn y maes. Er nad enwir Sieffrai wrth ei enw llawn yn y cywydd hwn ni cheir lle i gredu nad yr un ydyw â Sieffrai Cyffin ap Morus y canodd Guto ei fawl mewn cerddi eraill, a’r tebyg yw bod y gerdd wedi ei chanu pan oedd Sieffrai’n ddistain arglwyddiaeth swydd y Waun. Yn ôl Jones (1933: xxxii), ‘[the seneschal] was the chief judicial officer, who, as representative of the lord, presided in person or by deputy at the commote and other courts and signed the rolls … in the fifteenth century, he was probably the highest official in the lordship’.
Cyflwynir yr eirchiad, Siôn Eutun, yn rhan nesaf y gerdd (21–8) ynghyd â’r cais am rodd (23–8). Dyfelir y rhodd am gyfanswm o bedair llinell ar hugain (28–50 a 54) lle gwelir Guto’n rhoi’r ffrwyn i’w allu anhygoel i ddelweddu’r corn mewn cynifer o wahanol ffyrdd unigryw â phosibl. Mae’n amlwg mai’r rhan fywiog hon o’r gerdd a brofodd mor atyniadol i’r lliaws o gopïwyr a’i cofnododd yn y llawysgrifau. Cyn cloi’r gerdd ceir adran fechan annisgwyl yn ymwneud â’r hyn sy’n gwneud Siôn yn gymwys i erchi’r rhodd (51–8). Pwysleisir y ffaith nad cais am ebol neu geffyl a gyflwynir ar ran Siôn eithr gwrthrych llawer llai a ddyfelir yn fwriadol mewn modd rhwysgfawr iawn (54 lamprai anadl emprwr). Diau nad sylwadau wynepsyth llwyr yw’r rhain, megis y cyfeiriadau at Siôn yn betio a gamblo yn llinellau 55–8, ond mae’n werth nodi bod agwedd debyg tuag at arferion gofyn i’w chael mewn cerddi eraill (gw. nodyn cefndir cerdd 100). Yn unol â’r ffaith nad onest pen fforestwr / Heb gorn gyda bwa gŵr (25–6), ergyd y llinellau hyn yw bod fforestwr segur yn rhwym o golli arian wrth arfer o’r dabler deg a chwarae hasard a [ch]ard.
Cloir y gerdd drwy annog Sieffrai i ateb yn gadarnhaol i’r cais am rodd gan nodi’r hyn a gâi’n gyfnewid amdani pe’i rhoid (59–64), sef [g]wledd o gig helyddion a’r ceirw yn fargen. Ceir tinc ffurfiol i’r diweddglo hwn yn hyn o beth, yn arbennig o’i gymharu â’r modd y deuir â cherddi gofyn eraill sy’n ymwneud â Sieffrai i ben. Yn ogystal â mawl y bardd, cyfeillgarwch ei berthynas yn unig a gaiff yn gyfnewid am roi brigawn i Ddafydd Llwyd ap Gruffudd (gw. 98.67–70), ac at les stumog Guto ei hun y cyfeirir yn gellweirus ar ddiwedd cywydd i ofyn dau filgi ar ran Sieffrai i Robert ab Ieuan Fychan (gw. 100.71–2).
Dyddiad
Canwyd y gerdd hon cyn i Siôn Eutun farw yn 1477. Ymddengys fod Sieffrai Cyffin yn gwnstabl Croesoswallt yn ystod hanner cyntaf y chwedegau, ond ni chyfeirir at y swydd na’r dref honno yn y gerdd hon. Fel y nodir uchod, mae’r sylw estynedig a roir i yrfa Sieffrai ym myd y gyfraith ar ddechrau’r gerdd yn awgrymu’n gryf y dylid ei chysylltu â swydd gyfreithiol y gwyddys fod Sieffrai wedi ei dal ganol y saithdegau, sef distain arglwyddiaeth swydd y Waun. Ni ellir dyddio’r gerdd yn fanwl gan nad yw dyddiad penodi Sieffrai’n ddistain yn hysbys, ond mae’n debygol iawn ei bod wedi ei chanu c.1475.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd LXXXI.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 64 llinell.
Cynghanedd: croes 42% (27 llinell), traws 27% (17 llinell), sain 22% (14 llinell), llusg 9% (6 llinell).
1 Sieffrai Y rhoddwr, Sieffrai Cyffin ap Morus.
1 osai Ffrainc Gw. GPC 2657 d.g. osai ‘gwin gwyn melys’; OED Online s.v. osey ‘any of several, probably often sweet, Portuguese wines from the Lisbon area, but freq. associated with the Auxois and Alsace areas of France’.
2 holfainc Gw. GPC 1828 d.g. hawlfainc ‘gorsedd barn, tribiwnlys, sedd barnwr, mainc (ynadon)’.
3 holwr Gw. GPC 1891 d.g. (b) ‘un sy’n hawlio, un a hawl ganddo, hawlwr, hawlydd; cwynwr, achwynwr; echwynnwr’. Cf. Guto yn ei gywydd i ddymuno gwellhad i’r Abad Rhys o Ystrad-fflur, 5.45 Aeth hawlwyr gynt i’th ddilyn.
4 Coetmawr i’r Dref-fawr Y tebyg yw y dylid cysylltu Coetmawr â chartref Rhobert ab Ieuan Fychan yng Nghoetmor, Llanllechid. Canodd Guto gywydd iddo i ofyn dau filgi (cerdd 100) ar ran Sieffrai, a oedd yn perthyn iddo o bell. Ceir lliaws o lefydd sy’n dwyn yr enw Trefor, dau ym Mynwy a Meirionnydd, nifer ym Môn ac un yn Uwch Gwyrfai y ceir lle i gredu iddo fod yn gartref i’r bardd Syr Dafydd Trefor (gw. GSDT 8–9 ac ArchifMR). Fodd bynnag, mae’r cyswllt agos rhwng Sieffrai a Chroesoswallt yn awgrymu y dylid edrych am Drefor arall yn y gogledd-ddwyrain. Ceir trefgordd o’r enw hwnnw yn y Gyffylliog yn sir Ddinbych ond y dewis amlwg yw trefgorddau Trefor Uchaf ac Isaf ym mhlwyf Llangollen. Y tebyg yw mai ergyd y cyfeiriad hwn yw’r ffaith y safai rhwng Coetmor yng nghwmwd Is Gwyrfai a Threfor yn Nanheudwy gyfran helaeth iawn o ogledd Cymru, onid Gwynedd gyfan (gw. 9–10n).
5 Mainc y Brenin Fe’i hystyrir yn dalfyriad o Gwrt Mainc y Brenin ‘Court of King’s Bench’. Ni cheir enghraifft arall ohono yn GPC 649 d.g. cwrt1 hyd ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg, ond fe’i defnyddid yn Saesneg gydol yr Oesoedd Canol (gw. OED Online s.v. bench 2(b)). Cynhelid y llys barn hwnnw yng ngŵydd y brenin yn wreiddiol, gan fynd i’w ganlyn o amgylch y wlad. Safai ar wahân i Gwrt y Comin Plas (8n y Comin Plas) a gynhelid mewn un lleoliad parhaol yn Neuadd Westminster yn Llundain. Fodd bynnag, ymgartrefodd Mainc y Brenin yn y neuadd yn 1215, ac anfonid ustusiaid i deithio’r siroedd ar ei rhan (gw. 9–10n a 10n y Fainc).
6 cyfraith fyd ‘Cyfraith sifil’, mewn gwrthgyferbyniad â chyfraith grefyddol (gw. GPC 711 d.g. cyfraith a’r cyfuniad cyfraith fyd(ol)).
7 pleder Benthyciad o’r Saesneg pleader (gw. GPC 2821 ‘plediwr mewn llys barn, adfocad’).
7 hawl Gw. GPC 1828 d.g. hawl1 1(a) ‘achos; … prawf, treial’ a (b) ‘yr hyn y gellir ei hawlio’n gyfreithiol; … cyngaws … erlyniad’.
8 Powls Cadeirlan Sant Paul ar lannau gogleddol afon Tafwys yn Llundain.
8 y Comin Plas Ar comin-plas, sef benthyciad o’r Saesneg Common Pleas, gw. GPC 548 ‘gweithrediadau cyfreithiol yn wreiddiol heb fod yn llwyr dan awdurdod y Goron’. Fodd bynnag, mae presenoldeb y fannod yn awgrymu mai at Gwrt y Comin Plas ‘Court of Common Pleas’ yn Neuadd Westminster yn Llundain y cyfeirir.
9–10 Yng Ngwynedd yr eisteddych / … ar y Fainc Gwasanaethai Sieffrai yng Nghwrt Mainc y Brenin (gw. 10n y Fainc) mewn llysoedd yng Ngwynedd. Roedd Gwynedd yn cynnwys yr holl dir o Ben Llŷn i Benllyn, onid ymhellach fyth i’r dwyrain (gw. 4n).
10 coiff O’r Saesneg coyfe. Gw. GPC 542 ‘cap yn ffitio’n dynn am y pen, cap gwyn a wisgid gynt gan gyfreithwyr, yn enw. y math a wisgid gan ringyll y gyfraith fel rhan o’i wisg swyddogol’; OED Online s.v. coyfe 3 ‘a white cap formerly worn by lawyers as a distinctive mark of their profession; esp. that worn by a serjeant-at-law as part of his official dress; afterwards represented by the white border or a small patch of black silk on the top of the wig’.
10 y Fainc Bernir y dylid ei uniaethu â [M]ainc y Brenin (gw. 5n).
11 pân Benthyciad o’r Hen Ffrangeg pan(n)e (gw. GPC 2678 ‘ffwr, ermin, manflew’). Wrth ymyl y llinell hon yn BL 14966 ysgrifennwyd pellitium ‘yn gwisgo croen, wedi ei ddilladu â chroen neu ledr’. Cf. GLGC 154.17–18 Syr Huw a wisg amser haf / y capan pân o’r pennaf.
12 hwf Benthyciad o’r Saesneg houve (gw. GPC 1929 ‘penwisg, cwfl, cwcwll’).
13 o dadleuir ‘Os/pan ddadleuir mewn achos cyfreithiol’ (cf. 18n).
14 Bwrlai Diau fod golygyddion GGl (gw. 352) yn llygad eu lle wrth awgrymu mai at ŵr o’r enw William Burley y cyfeirir yma. Yn ôl DNB Online s.n., bu Burley yn gwasanaethu teulu Arundel yn arglwyddiaeth Croesoswallt, teulu Stafford yn arglwyddiaeth Caus a theulu Talbot yn arglwyddiaeth Blackmere. Swydd Amwythig oedd bro ei febyd felly, a bu’n dal swyddi pwysig yn nhrefi Amwythig a Chaer. At hynny, roedd gŵr o’r un enw yn stiward Dinbych yn 1444, a Robert Trefor o Fruncunallt yn ddirprwy iddo. Bu’n Aelod Seneddol dros swydd Amwythig ar ddeunaw achlysur rhwng 1417 a 1455, ac fe’i gwnaethpwyd yn Llefarydd Tŷ’r Cyffredin am gyfnod byr yn 1437 ac yn barhaol yn 1445. Roedd yn gefnogwr brwd i Richard, dug Iorc, a bu’n ei wasanaethu yn 1442/3 fel distain a fforestwr yn Ninbych ac fel distain yn Nhrefaldwyn (gw. Johnson 1988: 229). Y tebyg yw mai ef a enwir yn drydydd ar restr o wŷr ffeodedig mewn cyswllt ag ysgol rydd a sefydlwyd gan David Holbache yng Nghroesoswallt rhwng 1418 a 1421 (gw. Knight 1929: 69; 102.23n). Bu farw 10 Awst 1458.
14 Sieffrai Gw. 1n Sieffrai.
14 sir Swydd Amwythig, neu, yn fwy penodol efallai yng nghyd-destun y rhan hon o’r gerdd, y llys barn sirol a gynhelid yn nhref Amwythig.
15 Rwsel Enwir dau John Russell yn GGl 352: ‘Syr John Russell a fu’n Llefarydd [Tŷ’r Cyffredin] … Enwocach oedd John Russell … a fu’n Esgob Lincoln: Canghellor Lloegr, 1483.’ Diau fod yr esgob John Russell (gw. DNB Online s.n. John Russell (c.1430–1494)) yn enwocach mewn cylchoedd eglwysig yn ei ddydd, ond ymddengys fod y John Russell cyntaf yn fwy tebygol mewn perthynas â’r ddau ŵr arall a enwir yn y rhan hon o’r gerdd. Fel William Burley (14n Bwrlai) a William Tresham (15n Tresam) bu’r Aelod Seneddol John Russell yn Llefarydd Tŷ’r Cyffredin ac yn gefnogwr i blaid Iorc (gw. DNB Online s.n. John Russell (d. 1437)). Bu’n dal tir a swyddi yn swydd Henffordd cyn ei ethol yn Aelod Seneddol, a gwasanaethodd Edward, dug Iorc, a Richard ei fab mewn llysoedd sirol yn ne Cymru. Fe’i hetholwyd yn Llefarydd yn 1423 a 1432 a bu farw 15 Mawrth 1437.
15 Tresam Enwir dau ŵr a oedd yn dwyn yr enw Tresham gan olygyddion GGl 352, sef William a Thomas. Roedd y naill yn dad i’r llall a bu’r ddau’n llefarwyr yn Nhŷ’r Cyffredin (gw. DNB Online s.n. William Tresham (d. 1450) a Sir Thomas Tresham (d. 1471)). Bu’r tad yn archwiliwr i gyfrifon swyddogion brenhinol yn ne Cymru ac yn llefarydd yn 1439, 1442, 1447 a 1449. Fe’i gwnaethpwyd yn ffeodedig (‘feofee’) gan Richard, dug Iorc, yn 1448 ac yn gynghorwr yn 1449, ac fe’i llofruddiwyd pan oedd wrthi’n trefnu i gwrdd â’r dug ym mis Medi 1450 gan ddynion lleol yn ymyl ei gartref yn swydd Northampton. Cafodd ei fab, Thomas Tresham, ei anafu yn ystod yr ymosodiad, a pharhaodd cyswllt y teulu â’r dug yn ystod ei ieuenctid. Bu’n ffyddlon i blaid Lancastr, fodd bynnag, weddill ei oes a bu’n llefarydd yn 1459 a 1470. Cafodd ei ddienyddio am wrthwynebu Edward IV ym mis Mai 1471 yn dilyn brwydr Tewkesbury. Mae’r ffaith i William Burley (14n Bwrlai) gael ei ethol yn Llefarydd Tŷ’r Cyffredin yn 1437 a 1445 a John Russell (15n Rwsel) yn 1423 a 1432 yn awgrymu mai at Lefarwyr a wasanaethodd cyn 1450 y cyfeirir yma, ac mai William Tresham, a fu’n Llefarydd am y tro olaf yn 1449, a olygir yn hytrach na Thomas ei fab.
16 A wnaech chwi rhwng iawn a cham Cf. Siôn Ceri mewn cywydd i Lwchaearn, GSC 55.71–2 A’th waith uddun a’th weddi / Am iawn a cham a wnaech chwi.
18 dadl ‘Achos cyfreithiol, cyngaws’ (gw. GPC 870 d.g. dadl 2(a); cf. 13n).
22 haeach ‘Bron, agos, yn agos’ (gw. GPC 1801).
25 pen ‘Ceg, genau’ (gw. GPC 2726 d.g. pen1 1(d)).
27 Siôn Eutun Yr eirchiad, Siôn Eutun ap Siâms Eutun.
28 dôl ych ‘Oxbow’ (gw. GPC 1073 d.g. dôl1 2; OED Online s.v. oxbow 1 ‘a bow-shaped piece of wood forming a collar for a yoked ox, with the upper ends fastened to the yoke’).
34 cerwyn ‘Llestr mawr at ddal cwrw neu ryw ddiod arall pan fo’n eplesu … twb, casgen’ (gw. GPC 469).
35 cynydd ‘Heliwr … ceidwad cŵn hela’ (gw. GPC 803; cf. 45).
37 melys Fe’i hystyrir yn enw yma yn hytrach nac ansoddair (gw. GPC 2424).
39 bwmbart O’r Saesneg bombard ‘math o offeryn cerdd dyfnllais tebyg i’r basŵn’ (gw. GPC 353; OED Online 4 (a)).
40 parc y llys Saif Parc Eutun ychydig i’r de-orllewin o bentref presennol Eutun (Trefwy) ym Maelor Gymraeg (gw. WATU 68 d.g. Eyton). Yn ddiddorol iawn ceir coedwig fechan o’r enw Huntsman’s Hollow yno heddiw. Cyfeirir at fan o’r enw Coed Eutun mewn dau gywydd o’r bedwaredd ganrif ar ddeg sy’n ymdrin â’r eos. Bernir mai Madog Benfras a ganodd y naill a Dafydd ap Gwilym y llall (gw. DG.net cerddi 154 a 155), a’r tebyg yw bod gan Fadog gyswllt teuluol â’r ardal (gw. GMBen 13–14). Nodir yng Nghalendr y Rholiau Patent (1397/205 a 255) fod gŵr o’r enw Richard Donyngton yn parker of Eyton park in Wales yn 1397. Ymhellach, gw. HPF II 174–5.
41 Bwa genau’n bugunad Gall mai’r un bwa â llinell 26n bwa [a saeth] a olygir, gan fod yr arf a’r corn yn rhannu’r un nodweddion o ran siâp. Am ystyron eraill posibl, gw. GPC 350 d.g. bwa1 2(a) ‘enfys’ (cf. 38), 2(b) ‘adeiladwaith ar lun bwa … mynedfa fwaog’.
42 Bôn trwmp â’i ben tua’r iad Bernir mai rhan bigfain trwmped a olygir yn rhan gyntaf y llinell (gw. GPC 298 d.g. bôn 1(c) ‘cynffon … pen neu ran ôl’). Roedd pen arall y corn yn agored fel y trwmp ac yn wynebu talcen y sawl a’i seiniai.
49 Siôn Eutun Gw. 27n.
52 Siôn Gw. 27n.
53 gyrfeirch Ar gyrfarch ‘march rasio, rhedegfarch … cwrser’, gw. GPC 1797.
54 lamprai ‘Creadur dŵr sy’n debyg i’r llysywen, llysywen bendoll’ (gw. GPC 2052). ‘A fish of the genus Petromyzon, resembling an eel in shape and in having no scales. It has a mouth like a sucker, pouch-like gills, seven spiracles or apertures on each side of the head, and a fistula or opening on the top of the head’ (gw. OED Online s.v.). Wrth yr ymyl yn BL 14966 ysgrifennwyd muranula ‘math o lysywen, llysywen bendoll, llemprog’.
55–8 Ni chyll arian … Cyfeirir at arfer Siôn Eutun o fetio arian pan fo’n segur. Gw. Lake 1996: 96: ‘Y mae’r rhybudd yn amlwg ddigon. Rhodded Sieffre Cyffin y corn yn ebrwydd oni myn weld Siôn Eutun yn gaethwas i oferedd.’ Canodd Lewys Glyn Cothi gywydd mawl i Lewys ap Gwatcyn lle cyfeirir at hoffter y corff (mewn gwrthgyferbyniad â’r enaid) o chwarae gêmau tebyg yng nghartref ei noddwr (gw. GLGC cerdd 133). Yn ôl Lake (1996: 97), ‘synhwyrir bod y ddau fardd yn cynnig beirniadaeth gynnil a gofalus … [Eu] camp … oedd cymhwyso’r arfer hysbys a’i gysylltu â’u cenadwri sylfaenol, y naill mewn cywydd gofyn a’r llall mewn cywydd mawl, ac y mae eu cerddi ar eu hennill o ganlyniad.’ Cyfarwyddir y beirdd yn Statud Gruffudd ap Cynan (1523) i beidio mynd i dafarnau neu i gornelau kuddiedic i chwarau dissiau neu gardiau neu warae arall am dda (gw. Davies 1904–5: 97). Diddorol nodi bod Siôn wedi tystio yn erbyn gŵr o’r enw Madog ap Hywel ab Ithel ar 19 Hydref 1467 am gadw tŷ gamblo yn Wrecsam, ‘for games of dice, cards and other things against the ordinance forbidding’ (Pratt 1988: 48, 51).
56 tabler O’r Saesneg Canol tabler ‘gêm fwrdd i ddau ac iddynt bymtheg o ddarnau bob un a symudir yn ôl tafliad dis(iau), ffristial, taplas’ (gw. GPC 3404).
57 Â chroes ni chwery hasard Cymerir mai ‘darn o arian bath yn dwyn llun croes’ a olygir wrth [c]roes yma. Ni cheir enghraifft o’r gair yn Gymraeg tan yr unfed ganrif ar bymtheg yn ôl GPC 604 d.g. croes (d), ond fe’i defnyddid yn Saesneg mor gynnar â’r bedwaredd ganrif ar ddeg (gw. OED Online s.v. cross 20 ‘The figure of a cross stamped upon one side of a coin; hence, a coin bearing this representation; a coin generally’). Daw hasard o’r Saesneg hazard ‘gêm a chwaraeid â dis’ (gw. GPC 1825).
59 Sieffrai Gw. 1n Sieffrai.
60 Siôn Gw. 27n.
60 Sain Cynin Ŵyr neu fab i Frychan a nawddsant Llangynin yn sir Gâr (gw. LBS ii: 261–2; WCD 181; cf. GIG 286–7).
64 Ceirw yn siêp a’r corn i Siôn! Rhaid ynysu’r llinell hon oddi wrth linellau 61–3 er mwyn cael synnwyr boddhaol. Fe’i deellir yn ddatganiad ynghylch yr hyn yr hoffai Guto ei weld yn digwydd o ganlyniad i’w gerdd.
64 siêp Go brin mai at farchnad Cheapside yn Llundain y cyfeirir yma gan na ddisgwylid i uchelwr o Gymro werthu cig carw yno. At hynny nid yw ystyried siêp yn safon rhagoriaeth, yn sgil enwogrwydd cyffredinol y farchnad honno, yn taro deuddeg. Bernir felly mai o’r Saesneg cheap y daw, ond ceir mwy nac un ystyr bosibl (gw. OED Online s.v. 1 ‘A bargain about the bartering or exchanging of one commodity for another, or of giving money or the like for any commodity; bargaining, trade, buying and selling’, 2 ‘The place of buying and selling; market’, 3 ‘That which is given in exchange for a commodity; price; value’, 7 ‘Abundance of commodities, plenty, cheapness; opposed to dearth’).
64 Siôn Gw. 27n.
Llyfryddiaeth
Davies, J.H. (1904–5), ‘The Roll of the Caerwys Eisteddfod of 1523’, Transactions of the Liverpool Welsh National Society: 87–102
Huws, B.O. (1998), Y Canu Gofyn a Diolch, c.1350–c.1630 (Caerdydd)
Johnson, P.A. (1988), Duke Richard of York 1411–1460 (Oxford)
Jones, G.P. (1933), The Extent of Chirkland (1391–1393) (London)
Knight, L.S. (1926), Welsh Independent Grammar Schools to 1600 (Newtown)
Lake, A.C. (1996), ‘ “Ysgrifen y Fall” ’, Dwned, 2: 95–117
Pratt, D. (1988), ‘Bromfield and Yale: Presentments from the Court Roll of 1467’, TCHSDd 37: 43–53
This request poem for a hunting horn from Sieffrai Cyffin on behalf of Siôn Eutun is structured in the usual style of the request genre (see Huws 1998: 87). Sieffrai is praised in lines 1–20, yet instead of giving general praise to his lineage and generosity as expected, Guto concentrates on one specific aspect of his life, namely his law career. It seems that this was no ordinary career as Sieffrai is called iestus ‘justice’, cyfreithiwr ‘lawyer’, holwr ‘plaintiff’, Capten i Fainc y Brenin ‘captain for the King’s Bench’ and pleder ‘pleader’, and references are made to legal centres in London (lines 8 and 12) and to county courts in Gwynedd (4, 5 and 9–10) and, possibly, Shrewsbury (see 14n sir). Nonetheless, it is unclear whether the legal terms and references that litter this opening part of the poem should be understood literally or simply as generous hyperbole for a man who dabbled occasionally in legal circles. Although Guto does not mention Sieffrai’s surname or his father’s name in this poem, it is very likely that he is Sieffrai Cyffin ap Morus to whom Guto addressed many other poems. In all likelihood the poem was composed when Sieffrai was seneschal of the lordship of Chirkland. According to Jones (1933: xxxii), ‘[the seneschal] was the chief judicial officer, who, as representative of the lord, presided in person or by deputy at the commote and other courts and signed the rolls … in the fifteenth century, he was probably the highest official in the lordship’.
The requester, Siôn Eutun, is introduced in the next part of the poem (21–8) along with the request itself (23–8). The gift is exquisitely described for a total of twenty-four lines (28–50 and 54), where Guto gives full rein to his astonishing ability to re-image the horn in as many different ways as possible. It is evident that it was this part of the poem which proved so attractive to the host of scribes who wrote the poem in their manuscripts. Before Guto concludes his poem he turns aside in a small, unexpected section to discuss Siôn’s suitability as a requester of gifts (51–8). The point is made that Siôn does not request a foal nor a horse, rather he requests a much smaller object which is purposefully described in a grandiose manner (54 lamprai anadl emprwr ‘a lamprey with the breath of an emperor’). In line with references to Siôn betting and gambling in lines 55–8, Guto’s remarks should not be understood too seriously, yet it is noteworthy that similar attitudes are to be found in other poems by Guto (see poem 100). Earlier in the poem he declares Nid onest pen fforestwr / Heb gorn ‘A forester’s honourable mouth isn’t so without a horn’ (25–6), and the same sentiment is outlined in these lines, namely that an idle forester could easily lose money by playing y dabler deg ‘the fair game of backgammon’, hasard ‘hazard’ and card ‘cards’.
The poem is concluded by urging Sieffrai to respond favourably to the request by mentioning what he would receive in return (59–64), specifically [g]wledd o gig helyddion ‘a feast of huntsmen’s meat’ and the ceirw ‘deer’ as a bargain. In this sense the conclusion is a somewhat formal one, especially in comparison with the closing lines of other request poems which involve Sieffrai. In addition to the poet’s praise, Sieffrai also receives his kinsman’s companionship for giving a brigandine to Dafydd Llwyd ap Gruffudd (see 98.67–70), and Guto playfully mentions the well-being of his own stomach in the conclusion to his poem to request two greyhounds from Rhobert ab Ieuan Fychan on Sieffrai’s behalf (see 100.71–2).
Date
This poem was composed before Siôn Eutun’s death in 1477. It seems that Sieffrai was constable of Oswestry c.1460–5, but Guto makes no reference to either that office or the town in this poem. As noted above, the extensive attention given to Sieffrai’s legal career at the beginning of the poem suggests strongly that it is associated with a high legal office which Sieffrai held in the mid-seventies, namely the seneschal of Chirkland. It is not possible to closely date the poem as it is not known when Sieffrai was appointed seneschal, but it seems very likely that the poem was performed c.1475.
The manuscripts
There are 62 copies of this popular poem that have survived. Most derive from a lost source which was very similar to the text of Pen 67, which is the earliest extant copy of the poem written by the poet Hywel Dafi c.1483. The poem was, therefore, committed to writing during Guto’s lifetime by a fellow-poet whom he knew well (see poems 18, 18a, 20 and 20a), yet the fact that Hywel’s copy contains a handful of minor readings which are not found in any other manuscript suggests strongly that he had personally retouched the text. Therefore, this edition is based mainly upon the generally reliable texts of Gwyn 4 and LlGC 3049D [i] and [ii].
Previous edition
GGl poem LXXXI.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 64 lines.
Cynghanedd: croes 42% (27 lines), traws 27% (17 lines), sain 22% (14 lines), llusg 9% (6 lines).
1 Sieffrai The giver, Sieffrai Cyffin ap Morus.
1 osai Ffrainc See GPC 2657 s.v. osai ‘osey (sweet white wine)’; OED Online s.v. osey ‘any of several, probably often sweet, Portuguese wines from the Lisbon area, but freq. associated with the Auxois and Alsace areas of France’.
2 holfainc See GPC 1828 s.v. hawlfainc ‘judgement-seat, tribunal, judge’s seat, bench (of magistrates)’.
3 holwr See GPC 1891 s.v. (b) ‘claimant, pretender; plaintiff; creditor’. Cf. Guto in his poem on the illness of Abbot Rhys of Strata Florida, 5.45 Aeth hawlwyr gynt i’th ddilyn ‘claimants did pursue you once’.
4 Coetmawr i’r Dref-fawr Coetmawr is in all likelihood Rhobert ab Ieuan Fychan’s home at Coetmor near Llanllechid in Gwynedd. Guto composed a poem to request two greyhounds (poem 100) from him on Sieffrai’s behalf, who was related distantly to Rhobert. There are numerous places named Trefor in Monmouthshire, Merionethshire, Anglesey and one in Uwch Gwyrfai, which may have been the home of the poet Syr Dafydd Trefor (see GSDT 8–9 and ArchifMR. Yet, Sieffrai’s close connection with Oswestry suggests that Guto is referring to another Trefor somewhere in the north-east. There is a township which bears the name near Y Gyffylliog in Denbighshire, yet the most obvious choice is the townships of Trefor Uchaf and Isaf (upper and lower Trefor respectively) in the parish of Llangollen. Guto is in all likelihood implying that the greater part of north Wales, and possibly the whole of Gwynedd, lay between Coetmor in the commote of Is Gwyrfai and Trefor in the commote of Nanheudwy (see 9–10n).
5 Mainc y Brenin Understood as an abbreviation of Cwrt Mainc y Brenin ‘Court of the King’s Bench’. Although the earliest examples in GPC 649 s.v. cwrt1 belong to the end of the seventeenth century, it was used in English throughout the Middle Ages (see OED Online s.v. bench 2(b) ‘the place where justice is administered: orig. applied to The (Court of) Common Bench, or (later) Common Pleas [see 8n y Comin Plas] at Westminster … also The (Court of) King’s or Queen’s Bench, in which originally the sovereign presided, and which followed him in his movements’). See also 9–10n and 10n y Fainc.
6 cyfraith fyd ‘Civil law’, in contrast with ecclesiastical law (see GPC 711 s.v. cyfraith and the combination cyfraith fyd(ol)).
7 pleder Borrowed from the English pleader (see GPC 2821 ‘pleader in a court of law, advocate’).
7 hawl See GPC 1828 s.v. hawl1 1(a) ‘claim …; cause; … inquiry, trial’ and (b) ‘legal claim …; lawsuit … prosecution’.
8 Powls St Paul’s Cathedral on the north bank of the river Thames in London.
8 y Comin Plas On comin-plas, a borrowing from the English Common Pleas, see GPC 548. Nonetheless, the use of the definite article suggests that Guto is referring to Cwrt y Comin Plas ‘Court of Common Pleas’ in Westminster Hall.
9–10 Yng Ngwynedd yr eisteddych / … ar y Fainc Sieffrai presided on the King’s Bench (see 10n y Fainc) in Gwynedd’s law courts. Gwynedd included all the land between the Llŷn Peninsula and the cantref of Penllyn, if not also other parts of Wales further to the east (see 4n).
10 coiff From the English coyfe. See 542; OED Online s.v. coyfe 3 ‘a white cap formerly worn by lawyers as a distinctive mark of their profession; esp. that worn by a serjeant-at-law as part of his official dress; afterwards represented by the white border or a small patch of black silk on the top of the wig’.
10 y Fainc ‘The Bench’, in all likelihood [M]ainc y Brenin ‘King’s Bench’ (see 5n).
11 pân Borrowed from the Old French pan(n)e (see GPC 2678 ‘Mustela erminea: fur, ermine, down’). Beside this line in BL 14966 a scribe has written pellitium ‘wearing skin, clothed with skin or leather’. Cf. GLGC 154.17–18 Syr Huw a wisg amser haf / y capan pân o’r pennaf ‘in the summer-time Sir Huw wears the best fur cap’.
12 hwf Borrowed from the English houve (see GPC 1929 ‘hood, cowl’).
13 o dadleuir ‘If/when pleading in a law court’ (cf. 18n).
14 Bwrlai In GGl 352, this man is in all likelihood correctly identified as William Burley. According to DNB Online s.n., Burley served the Arundel family in the lordship of Oswestry, the Stafford family in the lordship of Caus and the Talbot family in the lordship of Blackmere. He therefore lived in Shropshire and was appointed to high offices in both Shropshire and Chester. It seems that he was also steward of Denbigh in 1444, when Robert Trefor of Bryncunallt was his deputy. Burley was Member of Parliament for Shropshire on eighteen occasions between 1417 and 1455, and was appointed Speaker of the House for a short period in 1437 and then permanently in 1445. He was an ardent supporter of Richard, duke of York, whom he served as a seneschal and forester in Denbigh and as a seneschal in Montgomery in 1442/3 (see Johnson 1988: 229). His name also appears as a feofee of David Holbache’s free school at Oswestry between 1418 and 1421 (see Knight 1926: 69; 102.23n). He died 10 August 1458.
14 Sieffrai See 1n Sieffrai.
14 sir ‘Shire’, possibly Shropshire or, more specifically in the context of this part of the poem, the regional court of law which was held in Shrewsbury.
15 Rwsel Two John Russells are named in GGl 352, one Sir John Russell who was Speaker of the House of Commons and an apparently more renowned John Russell who was bishop of Lincoln and Lord Chancellor in 1483. The latter was undoubtedly more renowned in ecclesiastic circles (see DNB Online s.n. John Russell (c.1430–1494)), yet it seems that Sir John Russell is a more obvious choice in relation to both the other men who are named in this part of the poem. Like William Burley (14n Bwrlai) and William Tresham (15n Tresam), Member of Parliament John Russell was both Speaker of the House and a Yorkist (see DNB Online s.n. John Russell (d. 1437)). He owned land and held offices in Herefordshire before he was appointed Member of Parliament and he served both Edward, duke of York, and Richard his son in regional courts in south Wales. He was elected Speaker in 1423 and 1432 and died 15 March 1437.
15 Tresam Two Treshams are named in GGl 352, namely William and his son, Thomas. Both were Speakers of the House of Commons (see DNB Online s.n. William Tresham (d. 1450) and Sir Thomas Tresham (d. 1471)). William was appointed to examine the accounts of the king’s officers in south Wales and served as speaker in 1439, 1442, 1447 and 1449. He was made a feofee by Richard, duke of York, in 1448 and a councillor in 1449, and he was murdered by local men near his home in Northampton as he prepared to meet with the duke in September 1450. His son, Thomas, was injured during the attack and continued to support the Yorkist cause in his youth. Yet, he later became a Lancastrian and remained so until his death, and served as Speaker in 1459 and 1470. He was executed for bearing arms against Edward IV at the battle of Tewkesbury in May 1471. The fact that William Burley (14n Bwrlai) was elected speaker in 1437 and 1445 and John Russell (15n Rwsel) in 1423 and 1432 suggests that Guto is referring to Speakers who served before 1450. Therefore, it is likely that he is referring to William Tresham, who was Speaker for the last time in 1449, rather than his son.
16 A wnaech chwi rhwng iawn a cham ‘What you’d do when differentiating between justice and injustice’. Cf. Siôn Ceri in a poem of praise for Llwchaearn, GSC 55.71–2 A’th waith uddun a’th weddi / Am iawn a cham a wnaech chwi ‘And you’d present to them your work and your prayer concerning justice and injustice.’
18 dadl ‘Action in law, plea’ (see GPC 870 s.v. dadl 2(a); cf. 13n).
22 haeach ‘Almost, very nearly, well nigh’ (see GPC 1801).
25 pen ‘Mouth’ (see GPC 2726 s.v. pen1 1(d)).
27 Siôn Eutun The requester, Siôn Eutun ap Siâms Eutun.
28 dôl ych ‘Oxbow’ (see GPC 1073 s.v. dôl1 and the combination dôl ych; OED Online s.v. oxbow 1 ‘a bow-shaped piece of wood forming a collar for a yoked ox, with the upper ends fastened to the yoke’).
34 cerwyn ‘Mash-vat … tub, cask’ (see GPC 469).
35 cynydd ‘Huntsman, man in charge of hounds’ (see GPC 803; cf. 45).
37 melys Understood as a noun, ‘sweet thing’, instead of an adjective, ‘sweet’ (see GPC 2424).
39 bwmbart From the English bombard ‘A deep-toned wooden musical instrument of the bassoon family’ (see OED Online s.v. 4 (a); GPC 353).
40 parc y llys ‘The court’s park’, namely Parc Eutun, a short distance south-west of the modern village of Eutun (Trefwy) in Maelor Gymraeg (see WATU 68 s.v. Eyton). Interestingly, modern maps show a small wood named Huntsman’s Hollow nearby. A place called Coed Eutun (Eutun wood) is referred to in two fourteenth-century poems to the nightingale which may have been composed by Madog Benfras and Dafydd ap Gwilym (see DG.net poems 154 and 155). It is likely that Madog was related to noblemen in the area (see GMBen 13–14). In the Calendars of Patent Rolls (1397/205 and 255), it is noted that one Richard Donyngton was parker of Eyton park in Wales in 1397. See further HPF II 174–5.
41 Bwa genau’n bugunad ‘A mouth’s bow bellowing’. With bwa, Guto may be referring to his metaphor in line 26 bwa ‘bow [and arrow]’, as both the weapon and the horn share the same features in terms of shape. For other possible meanings, see GPC 350 s.v. bwa1 2(a) ‘rainbow’ (cf. 38), 2(b) ‘arch … archway’.
42 Bôn trwmp â’i ben tua’r iad ‘The butt-end of a trumpet with its head facing towards the pate’. Guto is in all likelihood referring to the thin, pointed part of the horn in the first half of the line (see GPC 298 s.v. bôn 1(c) ‘tail … butt-end’). The other end of the horn was open like a trwmp ‘trumpet’ and faced the blower’s forehead.
49 Siôn Eutun See 27n.
52 Siôn See 27n.
53 gyrfeirch Plural of gyrfarch ‘race-horse, post-horse, courser’ (see GPC 1797).
54 lamprai ‘A fish of the genus Petromyzon, resembling an eel in shape and in having no scales. It has a mouth like a sucker, pouch-like gills, seven spiracles or apertures on each side of the head, and a fistula or opening on the top of the head’ (gw. OED Online s.v.; GPC 2052). Beside the line in BL 14966 the scribe has written murunula ‘a type of eel, lamprey’.
55–8 Ni chyll arian … ‘He doesn’t lose money …’ Guto is referring to Siôn’s tendency to lose money by betting when he is idle. Lake (1996: 96) makes the point that Guto is urging Sieffrai to give the horn without haste so that Siôn does not become a waster. Lewys Glyn Cothi composed a praise poem for Lewys ap Gwatcyn where he refers to the body’s fondness (in contrast with the soul) of playing similar games in his patron’s home (see GLGC poem 133). Lake (1996: 97) notes that both poets succeed in constructing a subtle and careful criticism by giving voice to a general moral stance through their own principal fields of communication, Lewys in a request poem and Guto in a poem of praise. In Statud Gruffudd ap Cynan (1523), poets are advised not to go i dafarnau neu gornelau kuddiedic i chwarau dissiau neu gardiau neu warae arall am dda ‘to taverns or to hidden corners to play dice or cards or to play any other game for money’ (see Davies 1904–5: 97). Interestingly, Siôn is named as one who took oath against one Madog ap Hywel ab Ithel on 19 October 1467 for ‘running a common lodging house in the towne of Wrexham … for games of dice, cards and other things against the ordinance forbidding’ (Pratt 1988: 48, 51).
56 tabler From the Middle English tabler ‘backgammon’ (see GPC 3404).
57 Â chroes ni chwery hasard By [c]roes Guto is in all likelihood referring to ‘a coin which bears an image of a cross’. The earliest example of the word in Welsh belongs to the sixteenth century, according to GPC 604 s.v. croes (d), yet it was used in English as early as the fourteenth century (see OED Online s.v. cross 20 ‘The figure of a cross stamped upon one side of a coin; hence, a coin bearing this representation; a coin generally’). The word hasard was borrowed from the English hazard ‘game at dice’ (see GPC 1825).
59 Sieffrai See 1n Sieffrai.
60 Siôn See 27n.
60 Sain Cynin St Cynin, a grandson or son to St Brychan and patron saint of Llangynin in Carmarthenshire (see LBS ii: 261–2; WCD 181; cf. GIG 286–7).
64 Ceirw yn siêp a’r corn i Siôn! ‘May the deer be a bargain and Siôn have the horn!’ This line needs to be isolated from lines 61–3 for its meaning to be apparent. It is understood as a declaration of what Guto would deem to be a positive outcome to his poem.
64 siêp It is unlikely that Guto is referring to Siêp ‘Cheapside’, the renowned medieval London market, as it would be inappropriate for a nobleman to sell venison there. Furthermore, it is also unlikely that siêp is relevant as a measure of excellence in light of the market’s general renown. It is suggested that siêp in this line is a borrowing of the English cheap, although the exact meaning is open to enquiry (see OED Online s.v. 1 ‘A bargain about the bartering or exchanging of one commodity for another, or of giving money or the like for any commodity; bargaining, trade, buying and selling’, 2 ‘The place of buying and selling; market’, 3 ‘That which is given in exchange for a commodity; price; value’, 7 ‘Abundance of commodities, plenty, cheapness; opposed to dearth’).
64 Siôn See 27n.
Bibliography
Davies, J.H. (1904–5), ‘The Roll of the Caerwys Eisteddfod of 1523’, Transactions of the Liverpool Welsh National Society: 87–102
Huws, B.O. (1998), Y Canu Gofyn a Diolch, c.1350–c.1630 (Caerdydd)
Johnson, P.A. (1988), Duke Richard of York 1411–1460 (Oxford)
Jones, G.P. (1933), The Extent of Chirkland (1391–1393) (London)
Knight, L.S. (1926), Welsh Independent Grammar Schools to 1600 (Newtown)
Lake, A.C. (1996), ‘ “Ysgrifen y Fall” ’, Dwned, 2: 95–117
Pratt, D. (1988), ‘Bromfield and Yale: Presentments from the Court Roll of 1467’, TCHSDd 37: 43–53
Roedd Sieffrai Cyffin yn un o noddwyr pwysicaf Guto yn y Mers. Er ei bod yn debygol fod Sieffrai wedi noddi nifer o feirdd, pum cerdd iddo gan Guto yw’r unig gerddi sydd wedi goroesi iddo yn y llawysgrifau: cywydd mawl (cerdd 96); cywydd mawl i Sieffrai a’i wraig, Siân ferch Lawrence Stanstry (cerdd 97); cywydd gofyn am frigawn ar ran Dafydd Llwyd o Abertanad (cerdd 98); cywydd gofyn am gorn hela ar ran Siôn Eutun o Barc Eutun (cerdd 99); cywydd gofyn am ddau filgi ar ran Sieffrai gan Robert ab Ieuan Fychan o Goetmor (cerdd 100). Canodd Tudur Aled gywydd mawl i Edward Trefor a’i wraig, Ann Cyffin ferch Sieffrai (TA cerdd 51 a llinellau 43–56 yn arbennig). Molwyd Lewys Cyffin ap Siôn, ŵyr i frawd Sieffrai, mewn cywydd gan Huw ap Dafydd (GHD cerdd 20) a chanodd Wiliam Llŷn gywydd marwnad iddo (Stephens 1983: 327; nis ceir yn WLl).
Mae’n rhaid gwahaniaethu rhwng Sieffrai Cyffin a gŵr arall o’r un enw a fu’n abad Aberconwy yn hanner cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg (Williams 1970–2: 188, 196; idem 2001: 295). I’r Abad Sieffrai Cyffin y canodd Tudur Aled awdl fawl (TA cerdd 27). Yn Lowe (1921: 272), honnir bod ‘Geoffrey Kyffin’ yn abad Aberconwy yn 1450, camgymeriad am 1550, yn ôl pob tebyg.
Achresi
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ac Cynfyn’ 9, 10, 11; WG2 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 10 F2, 11 A3. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.
Achres Sieffrai Cyffin ap Morus o Groesoswallt
Fel y gwelir, roedd Sieffrai’n hanner ewythr i Faredudd ap Hywel o Groesoswallt ac yn hanner cefnder i Ddafydd Cyffin ab Iolyn o Langedwyn ac i Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch. Roedd yn hanner cefnder i Ruffudd ab Ieuan Fychan o Abertanad hefyd, sef gŵr Gweurful ferch Madog a thad Dafydd Llwyd. At hynny, roedd Sieffrai’n perthyn o bell i Siôn Eutun o Barc Eutun ac i Robert ab Ieuan Fychan o Goetmor.
Yn y goeden achau isod dangosir teulu Sieffrai ei hun. Fe’i seiliwyd ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 9, 11, 27, ‘Seisyll’ 2, WG2 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 11D ac ar wybodaeth a geir yn llaw John Davies o Riwlas (1652–c.1718) yn LlGC 8497B, 66r–67r wrth ymyl copi o gerdd 97 yn llaw Thomas Wiliems.
Teulu Sieffrai Cyffin ap Morus o Groesoswallt
Eiddo John Davies yw’r wybodaeth ynghylch priodas Catrin ferch Sieffrai a gŵr o’r enw Edward ap Dafydd ab Edmwnd, y pencerdd o blwy hanmer. Ni nodir yn achresi Bartrum fod mab gan y bardd, Dafydd ab Edmwnd, eithr merch yn unig, sef Marged, ond gall fod y cof amdano wedi pylu yn sgil y ffaith na bu iddynt ddim plant (WG1 ‘Hanmer’ 2; sylwer bod cyfeiriad at ŵr o’r enw Hopgyn ap Dafydd ab Edmwnd yn ibid. ‘Trahaearn Goch of Llŷn’ 2). At hynny, dywed Davies fod merch anhysbys Sieffrai a briododd Syr Tomas Cinast wedi marw yn ddi blant. Priododd merch arall iddo, Ann, ag Edward Trefor ap Siôn Trefor, constable castell y drewen yn ôl Davies. Dywed bod Ales ferch Sieffrai wedi cael perthynas gydag un o noddwyr Guto, Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais, ac wedi cenhedlu vn plentyn ohono ef ond ni bu hi ddim yn briod. Cafodd Ales ferch a fu farw’n ifanc (Griffiths 1993: 64, 270).
Priododd Sieffrai ddwywaith, yn gyntaf â Siân ferch Lawrence Stanstry (yr hon a elwyd y saesnes goch o gent yn ôl Davies) ac wedyn ag Ann o deulu arglwyddi Strange o’r Cnwcin. Nododd Gruffudd Hiraethog yn Pen 176, 357 (c.1552), mai merch oedd Ann i John arglwydd Strange, a’r un oedd ei farn wreiddiol yn Pen 134, 380 (c.1550–8), cyn iddo newid ei feddwl: Ann fh’ chwaer sion arglwydd ystraens. Ategir y diwygiad ddwywaith gan Wiliam Llŷn yn Pen 139, i, 64–5 (c.1567–77), ac er iddo nodi ar dudalen 66 fod Ann yn ferch i John, diwygiwyd yr wybodaeth honno maes o law (gan Wiliam ei hun yn ôl pob tebyg): nid gwir fry am blant argl’ straens chwaer oedd wraic sieffre kyffin i iohn y diweddaf or arglwydde straens. Yn ôl Wiliam olynwyd John, yr olaf o arglwyddi Strange Cnwcin drwy waed, gan ei ferch, Sian, a briododd George arglwydd Stanley, mab iarll cyntaf Derbi. Ategir yr wybodaeth honno yn Kidd and Williamson (1990: P 1075), lle dywedir mai Joan (Siân) oedd unig ferch John. Seiliwyd yr achres isod ar ibid. ac ar wybodaeth ddiwygiedig y llawysgrifau.
Teulu Ann ferch Richard arglwydd Strange
Ei deulu a’i yrfa
Roedd Sieffrai’n ŵyr i Ieuan Gethin ac felly’n aelod o deulu Cymreig mwyaf dylanwadol y gororau i’r dwyrain o’r Berwyn yn ystod y bymthegfed ganrif. Y tebyg yw mai drwy gyswllt Guto ag aelodau eraill o’r teulu hwnnw (megis Hywel ab Ieuan Fychan) y dechreuodd dderbyn nawdd gan Sieffrai yn y lle cyntaf. Roedd cyfenw Sieffrai yn enw teuluol a ddefnyddiwyd gyntaf gan ei hendaid, Madog Cyffin. Yn ôl Griffith (1998: 196), mabwysiadodd Madog y cyfenw o’r enw lle Cyffin yn Llangedwyn (gw. GPC 730 d.g. cyffin ‘ffin, goror’) er mwyn gwahaniaethu rhyngddo ef a’i dad, Madog Goch. Roedd tad Sieffrai, Morus ab Ieuan Gethin, yn ynad cwmwd Mochnant Is-Rhaeadr yn ystod nawdegau’r bedwaredd ganrif ar ddeg a cheir ei enw mewn cofnod arall yn dilyn methiant gwrthryfel Owain Glyndŵr (Huws 2007: 97–8, 117n77). Roedd yn fyw yn 1445 ac yn gysylltiedig â Chroesoswallt (CPR 1441–6, 397–8). Dywed Guto fod Morus wedi teithio i dref Aras yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc ac i Brwsia yn yr Almaen (96.25–6), o bosibl ar bererindod (gw. y nodyn isod ar bererindod ei fab). Ar arfau herodrol Sieffrai a’i deulu, gw. DWH ii: 93–4.
Roedd Guto’n canu i Sieffrai cyn Tachwedd 1465, oherwydd oddeutu dechrau’r mis hwnnw bu farw Dafydd Llwyd o Abertanad a’i wraig, Catrin, o haint y nodau. Canodd Guto gywydd gofyn am frigawn i Sieffrai ar ran Dafydd (cerdd 98) lle cyfeirir at gwnstablaeth Sieffrai yng Nghroesoswallt (98.16, 22). Gwyddys ei fod yn un o feilïaid y dref yn 1463 ac yn berchen ar dir yno ar 29 Medi 1465 (Huws 2007: 122n93; DWH ii: 93). Ni ellir profi bod Sieffrai’n gwnstabl y dref yn ogystal ag yn feili yn 1463, nac ychwaith ei fod yn parhau i fod yn gwnstabl yn 1465, ond fe ymddengys hynny’n debygol. Canodd Syr Rhys gerdd ddychan i Guto pan oedd yn fwrdais yng Nghroesoswallt (cerdd 101a) a chyfeirir at y dychan hwnnw yng nghywydd mawl Guto i Sieffrai ac i Siân, ei wraig gyntaf (97.25–8). Yng ngherdd Syr Rhys enwir Siôn ap Rhisiart, abad Glyn-y-groes, c.1455–c.1480. Yn ei gywydd i ofyn brigawn gan Sieffrai, cyfeiria Guto at y bwrdeisiaid a ddioddefai pe na bai Sieffrai’n gwnstabl, ac yn y llinellau nesaf defnyddir y rhagenw personol cyntaf lluosog ein i ddisgrifio pwysigrwydd Sieffrai yn y dref (98.19–26). Yr awgrym cryf yw bod y bardd ei hun yn fwrdais yn y dref pan ganwyd y gerdd rywdro cyn Tachwedd 1465, ac felly mae’n bur debygol fod Syr Rhys yntau wedi canu ei gerdd ddychan i Guto oddeutu’r un adeg, pan oedd Siôn yn abad. Mae’n gymharol eglur, felly, y gellir lleoli Sieffrai yng Nghroesoswallt yn hanner cyntaf y 1460au.
Cyfeiriwyd eisoes at y cywydd mawl a ganodd Guto i Sieffrai ac i’w wraig gyntaf, Siân. Yn Pen 176 dywed Gruffudd Hiraethog fod Sieffrai wedi priodi ei ail wraig, Ann ferch Richard arglwydd Strange, yn 1467, ond dywed yn Pen 134 mai Syr Peter Newton a Siân, merch hynaf Sieffrai ac Ann, a briododd y flwyddyn honno. A chymryd nad oedd Gruffudd yn hau dyddiadau yn ôl ei fympwy, mae’n eithriadol o annhebygol fod y ddwy briodas wedi eu cynnal yn yr un flwyddyn, felly ym mha lawysgrif yr aeth ar gyfeiliorn? A chymryd y byddai Siân ferch Sieffrai dros ddeg oed o leiaf yn priodi, os dilynir Pen 134 mae’n rhesymol tybio y byddai wedi ei geni cyn c.1457 a bod ei rhieni, felly, wedi priodi erbyn canol y pumdegau. O ganlyniad, byddai’n rhaid dyddio’r cywydd a ganodd Guto i Sieffrai a’i wraig gyntaf cyn c.1452 a chasglu bod Guto yn fwrdais yng Nghroesoswallt bryd hynny. Er nad yw hynny’n gwbl amhosibl, mae dyddiad diweddarach yn llawer mwy tebygol yn sgil swm y dystiolaeth a amlinellwyd uchod, ynghyd â’r ffaith fod Guto’n aml yn cyfeirio ato’i hun fel gŵr oedrannus yn y cerddi sy’n ymwneud â Chroesoswallt (97.26; 101.20, 47–50; 101a.31–6, 40, 55, 60; 102.1–4, 7, 49–50). Cesglir, felly, mai ail briodas Sieffrai a gynhaliwyd yn 1467 yn hytrach na phriodas ei ferch, ac felly mae’n rhaid dyddio’r cywydd a ganodd Guto i Sieffrai a Siân cyn y flwyddyn honno.
Nodir yn GGl 347 i Sieffrai farw yn 1509, ond ei ferch, Ann, mewn gwirionedd, a fu farw’r flwyddyn honno (Griffith 1998: 254; HPF iv: 84). Roedd yn fyw ar 11 Mawrth 1475 (Jones 1933: 93), pan gafodd ei enwi’n dyst i weithred i ryddhau tir yng Ngwernosbynt a’i alw’n Seneschal of Chirkesland. Er nad oedd rhyw lawer o wahaniaeth mewn rhai achosion rhwng dyletswyddau cwnstabl a dyletswyddau distain (ibid. xxxiii), mae cyswllt y swydd ag arglwyddiaeth y Waun yn awgrymu’n gryf nad yr un ydoedd â swydd cwnstabl prif dref arglwyddiaeth Croesoswallt. Y tebyg yw bod Sieffrai, felly, wedi symud o Groesoswallt erbyn y flwyddyn honno, a gall mai yn sgil priodi ei ail wraig, Ann ferch Richard arglwydd Strange, y daeth i gyswllt â byd y gyfraith. Gwysiwyd brawd Ann, John arglwydd Strange, i’r senedd yn Llundain o 1446 i 1472 (Kidd a Williamson 1990: P 1075).
Yn Pen 139, i, 64, dywed Wiliam Llŷn i ail wraig Sieffrai, Ann, ailbriodi ar ôl i Sieffrai farw, a hynny â Sr’ tomas mytyn. Ar waelod dalen 66 yn y llawysgrif honno ceir nodyn gan y bardd Rhys Cain (a ysgrifennwyd c.1604), lle cyfeirir at Ann ac at y ferch a gafodd gyda Sieffrai, Siân:Ann mitton vcho a Ioan mrch ac et
Sieffrey kyffin oeddynt vyw yr ail
vlwyddyn o deyrnasiad hari 7
mae’r weithred gyda ni Ric Blodwell.Dengys cywydd mawl anolygedig Rhys Cain i Risiart Blodwel ap Siôn Blodwel fod Rhisiart wedi bod yn swyddog o bwys yn nhref Croesoswallt ac yn weithgar yn atgyweirio’r gaer yno (LlGC 11986B, 33). Ac yntau a’i wraig, Marged, yn ddisgynyddion i Fadog Cyffin ac yn byw yn y fwrdeistref, nid yw’n syndod efallai fod dogfen yn ymwneud â theulu Sieffrai yn ei feddiant (WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 9, 45; WG2 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 42G, 45B). Fe’i hysgrifennwyd rhwng 22 Awst 1486 a 21 Awst 1487, a gellir casglu nad oedd Sieffrai’n fyw y flwyddyn honno. Bu farw, felly, rywdro rhwng 1475 a 1486/7 (bu farw ei hanner brawd, Hywel, yn 1481, gw. Pen 75, 5).
Sylwer bod Rhys Cain yn cyfeirio at Siân fel et[ifedd] Sieffrey kyffin yn y nodyn uchod. Yn wahanol i’w frodyr nid ymddengys i linach Sieffrai barhau yn sgil ei fab. Un mab i Sieffrai a nodir yn yr achresi, sef Harri Cyffin, a cheir ansicrwydd ynghylch pwy oedd ei fam. Gall mai mab anghyfreithlon ydoedd, oherwydd ni chyfeirir ato o gwbl mewn fersiwn o achau Sieffrai a gofnodwyd yn LlGC 8497B, 66r–67r (gw. uchod), a gall fod a wnelo hynny â’r ffaith na cheir yn yr un llawysgrif awgrym i Harri briodi na chael plant. Mae’n ddigon posibl ei fod yntau, fel ei dad, wedi marw erbyn 1486/7, a hynny naill ai’n ddietifedd neu heb iddo gael ei gydnabod fel etifedd ei dad. Fel y gwelir o’r llawysgrifau achyddol uchod o waith Gruffudd Hiraethog a Wiliam Llŷn, yn sgil teuluoedd yr uchelwyr a briododd ferched Sieffrai (a Siân wraig Peter Newton yn benodol efallai) y diogelwyd y cof am ei linach.
Ei fro
Yn ôl achresi Bartrum a chywydd a ganodd Huw ap Dafydd i Lewys Cyffin, ŵyr i frawd Sieffrai, Wiliam ap Morus, ymgartrefodd y gangen honno o deulu Morus yn llys Gartheryr ger Llanrhaeadr-ym-Mochnant (GHD 20.8, 37). Yn nhref Croesoswallt yr ymgartrefodd Sieffrai. Ceir ei enw yn yr ail safle ar restr hir o fwrdeisiaid Croesoswallt a luniwyd ar gais beilïaid y dref yn 1546, ynghyd â’i fab, Harri, a nifer o’i feibion-yng-nghyfraith ac aelodau o’i deulu estynedig (archifdy Croesoswallt, OB/A12). Ymddengys fod y rhestr yn gofnod dethol o brif fwrdeisiaid y dref rhwng c.1450 a 1546, a’r tebyg yw ei bod yn seiliedig ar restrau eraill a luniwyd mewn cyfnodau cynharach. Gwelir oddi wrth achresi Bartrum fod nifer fawr o’r bwrdeisiaid hyn yn perthyn drwy waed neu briodas, ac mae’r rhestr yn dyst gwerthfawr i’r cysylltiadau a sefydlwyd rhwng teuluoedd mawr Cymreig a Saesnig y gororau ac a fu’n sail i ffyniant tref Croesoswallt yn y cyfnod hwn. Ceir enw Guto ar y rhestr hefyd, ynghyd â Thudur Aled (gw. cerdd 102 (esboniadol)).
Ei bererindod
Rywdro tua’r flwyddyn 1460, yn ôl pob tebyg, aeth Sieffrai ar bererindod i Rufain a Jerwsalem. Cyfeirir yn frysiog at y daith ar ddechrau cywydd Guto i Sieffrai a’i wraig, Siân, lle nodir ei fod wedi ymweld ag eglwys Sant Pedr yn ninas y Fatican cyn teithio i borthladd Jaffa yn Israel ac ymweld ag eglwys y Beddrod Sanctaidd yn Jerwsalem (97.1–10). Mae’n hynod o debygol fod Guto’n cyfeirio at yr un daith mewn cywydd arall a ganodd i Sieffrai. Er na sonnir am y bererindod yn y gerdd honno, dywedir bod Sieffrai wedi teithio dros y sianel i Ffrainc a thrwy Fyrgwyn i Wlad Groeg ac Affrica (96.27–30). A chlymu’r cyfeiriadau yn y ddwy gerdd at ei gilydd, ymddengys fod Sieffrai wedi teithio drwy Fyrgwyn er mwyn croesi mynyddoedd yr Alpau. Yn ôl Olson (2008: 19–20), roedd tair prif ffordd yn croesi’r Alpau yn yr Oesoedd Canol. Mae’r ffaith fod Lewys Glyn Cothi, pan deithiodd yntau ar bererindod i Rufain, wedi dilyn yr hyn a elwid ‘y ffordd Almaenig’ yn awgrymu y gall fod Sieffrai yntau wedi croesi’r mynyddoedd o’r un cyfeiriad. Dywed Lewys ei fod wedi teithio (o Fôn, efallai) i Frabant a Fflandrys ac i lawr ar hyd dyffryn afon Rhein i Fyrgwyn. Oddi yno teithiodd drwy’r Almaen a Swabia (ardal yn ne-orllewin yr Almaen heddiw) i Lombardi yng ngogledd yr Eidal (GLGC 90.11–16). Fel yn achos pererin arall o’r enw William Wey (1405/6–76; DNB Online s.n. William Wey), a aeth ar bererindod i Rufain ac i Jerusalem yn 1458, nid yw’n eglur ym mhle’n union y croesodd Lewys na Sieffrai yr Alpau, ond mae’n bosibl eu bod wedi teithio drwy Fwlch Sant Gotthard (Olson 2008: 20), Bwlch Reschen neu fwlch arall yng ngorllewin Awstria heddiw (Davey 2010: 113).
Rhydd y manylion a gofnododd William Wey ynghylch ei bererindod syniad go dda o’r profiadau a gafodd Sieffrai oddeutu’r un adeg, megis hyd y daith a chyngor wrth ymwneud â brodorion mewn gwahanol wledydd. Fel mwyafrif y pererinion a fynnai deithio i Jerwsalem yn ystod yr Oesoedd Canol, aeth Wey i Fenis er mwyn dod o hyd i long a’i cludai i borthladd Jaffa. Ymddengys fod Sieffrai, fel Wey, wedi ymweld â Rhufain yn gyntaf cyn teithio i Fenis, lle byddai pererinion yn aml yn gorfod disgwyl am wythnosau neu fisoedd am long addas ac yna am amgylchiadau ffafriol i godi angor. O Fenis byddai llongau’r pererinion yn hwylio ar hyd y Môr Canoldir gan oedi o bosibl ar ynysoedd megis Creta a Chyprus (cf. cyfeiriad Guto at Roeg) cyn cyrraedd Jaffa. Oddi yno byddai’r pererinion yn cerdded neu’n marchogaeth i ddinas Jerusalem. Yn wahanol i Wey, nid ymddengys bod Sieffrai wedi dychwelyd yn syth eithr ei fod wedi ymweld ag Affrica hefyd, sef yn ôl pob tebyg yr Aifft. Mae’n bosibl ei fod wedi ymweld ag Alecsandria ar ei fordaith adref neu wedi teithio i Fynydd Sinai hyd yn oed. Am fap o daith Wey, gw. Davey 2010: 20–1.
Llyfryddiaeth
Davey, F. (2010), The Itineraries of William Wey (Oxford)
Griffith, J.E. (1998), Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (third ed., Wrexham)
Griffiths, R.A. (1993), Sir Rhys ap Thomas and his Family (Cardiff)
Huws, B.O. (2007), ‘Ailadeiladu Bywyd ar ôl Gwrthryfel Glyndŵr: Tystiolaeth y Canu i Foelyrch’, Dwned, 13: 97–137
Jones, G.P. (1933), The Extent of Chirkland (1391–1393) (London)
Kidd, C. and Williamson, D. (1990) (eds.), Debrett’s Peerage and Baronetage (London)
Lowe, W.B. (1912), The Heart of Northern Wales (Llanfairfechan)
Olson, K.K. (2008), ‘ “Ar Ffordd Pedr a Phawl”: Welsh Pilgrimage and Travel to Rome, c.1200–c.1530’, Cylchg HC 24: 1–40
Stephens, Roy (1983), ‘Gwaith Wiliam Llŷn’ (Ph.D. Cymru [Aberystwyth])
Williams, D.H. (1970–2), ‘Fasti Cistercienses Cambrenses’, B xxiv: 181–229
Williams, D.H. (2001), The Welsh Cistercians (Leominster)
Canodd Guto gywydd i ofyn corn hela gan Sieffrai Cyffin o Groesoswallt ar ran Siôn Eutun, yr unig gerdd gan Guto y gellir ei chysylltu â Siôn (cerdd 99). Diogelwyd dyrnaid o gerddi sy’n ymwneud ag ef gan feirdd eraill: cywydd marwnad gan Gutun Owain, GO cerdd XLIX; cywydd i ofyn cwrwgl o waith Ieuan Fychan ab Ieuan y deil Roberts iddo gael ei ganu i Siôn, GMRh 5–6 a cherdd 9; ymryson rhwng Ieuan Fychan a Maredudd ap Rhys yn sgil y cais uchod am gwrwgl, a fu’n aflwyddiannus, ibid. cerddi 10–12. Canodd Maredudd gywydd ateb i Ieuan ar ran Siôn a chanodd Ieuan yntau gywydd arall yn ei sgil. At hynny, canodd y ddau fardd gyfres o englynion i’w gilydd ar yr un pwnc. At hynny, canwyd cryn dipyn o gerddi i’w ddisgynyddion: cywydd mawl i’w fab, Wiliam Eutun ap Siôn Eutun, gan Gutun Owain, GO cerdd XLIX; cywydd i ofyn bwa gan Wiliam Eutun o waith Maredudd ap Rhys. Deil Roberts mai ar ran nai Wiliam, Siôn Eutun ab Elis Eutun, y gwnaeth hynny, GMRh cerdd 6 a’r nodiadau arni; cywydd gan Dudur Aled i ofyn pedwar bwcled gan bedwar mab Elis Eutun ar ran eu hewythr, Hywel ap Siencyn, TA cerdd 116; cywydd mawl i ŵyr Siôn, Siôn Eutun ab Elis Eutun, gan Gutun Owain, GO cerdd L; marwnadau Siôn Eutun ab Elis Eutun gan Huw ap Dafydd, Lewys Daron a Lewys Môn, GHD cerdd 5; GLD cerdd 27; GLM cerdd 76; marwnadau i ŵyr Siôn, Owain Eutun ap Wiliam Eutun, gan Ruffudd Hiraethog a Wiliam Llŷn, GGH 235; Stephens 1983: 418; cywydd i ofyn chwe ych ac awdl foliant o waith Huw ap Dafydd (yn ôl pob tebyg) i Siôn Trefor ab Edward, a briododd Elsbeth, sef gororwyres Siôn, GHD cerddi 26 a 27. Ceir tebygrwydd rhwng y cywydd gofyn a ganodd Huw i Siôn Trefor a chywydd i ofyn am ddau filgi a ganodd Guto ar ran Sieffrai Cyffin (100.44n). Gall fod Huw yn gyfarwydd â cherdd Guto yn sgil y ffaith fod Ann, mam Siôn Trefor, yn ferch i Sieffrai; cerddi i’w or-orwyr, Wiliam Eutun ap Siôn Eutun ap Siôn Eutun, gan Wiliam Cynwal a Wiliam Llŷn, Jones 1969: 52; Williams 1965: 300; Stephens 1983: 340, 491. Cyfeirir at Siôn mewn cerdd gan Huw ap Dafydd (GHD 17.11n).
Achres
Ymddengys fod dau Siôn Eutun yn byw yn ystod ail hanner y bymthegfed ganrif, y naill yn daid i’r llall, ac mae’n bur debyg mai’r hynaf o’r ddau a roes ei nawdd i Guto. Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 9, 11, ‘Ednywain Bendew’ 2, 3, ‘Gruffudd ap Cynan’ 6, ‘Gwenwys’ 2, ‘Hanmer’ 1, ‘Morgan Hir’ 1, 2, ‘Puleston’, ‘Rhirid ap Rhiwallon’ 2, ‘Sandde Hardd’ 4, ‘Tudur Trefor’ 13, 25; WG2 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 11D, ‘Tudur Trefor’ 14C2, 25A1, A2, B. Dangosir mewn print trwm y rheini a enwir yn y drafodaeth isod a thanlinellir enwau noddwyr Guto.
Achres Siôn Eutun ap Siâms Eutun o Barc Eutun
Gwraig Siôn oedd Gwenhwyfar ferch Einion ab Ithel. Yn ôl HPF ii: 158–9, roedd ei thad, Einion, yn ‘Esquire of the body to John of Gaunt, Duke of Lancaster 1395, and High Sheriff of Meirionydd for life’.
Dengys yr achres y berthynas rhwng teulu Siôn a theulu Sieffrai Cyffin, y gŵr y canodd Guto gywydd iddo i ofyn am gorn hela ar ran Siôn. Geilw Guto’r naill yn [g]yfyrderw i’r llall (99.61). Roedd Gwenllïan, mam Siôn, yn gyfnither i Farged ferch Llywelyn, gwraig gyntaf Ieuan Gethin ap Madog Cyffin, ond yn ôl tystiolaeth yr achresi a’r farddoniaeth nid Marged oedd mam Morus, tad Sieffrai. Dengys cwpled o gywydd gofyn am frigawn a ganodd Guto i Sieffrai ar ran Dafydd Llwyd o Abertanad y credid mai Marged ferch Ieuan oedd mam Morus, oherwydd enwir yno ddau o’i hynafiaid hi, sef Addaf a Meurig (98.7–8). Gellid bwrw amheuaeth ar yr wybodaeth a geir yn y cywydd hwnnw yn sgil y ffaith mai mewn rhai llawysgrifau’n unig y diogelwyd y cwpled perthnasol, ond mae llinell 10 [C]ae Alo (a geir mewn gwahanol ffurfiau ym mhob llawysgrif, gw. y nodyn testunol ar y llinell honno) yn dyst ychwanegol i’r gred honno gan fod Sieffrai’n disgyn o Alo ap Rhiwallon Fychan drwy fam ei dad, sef Marged ferch Ieuan. Bernir, felly, fod Siôn a Morus, tad Sieffrai, yn hanner cyfyrdryd, a bod hyn, yn ei dro, yn gwarantu galw Sieffrai a Siôn yn gyfyrdryd o fath yn y cywydd i ofyn am gorn.
At hynny, roedd gan Siôn a Sieffrai gyswllt teuluol drwy briodas mab y naill, Elis Eutun, a hanner chwaer y llall, Marged. Wrth ymyl copi o gerdd 98 yn llawysgrif BL 14978 ceisiwyd cysylltu Sieffrai a Siôn drwy un o hendeidiau’r ail, sef Gruffudd Fychan ap Gruffudd, ond nid ymddengys fod gan Sieffrai unrhyw gyswllt â’r gŵr hwnnw. Gall fod rhyw gopïydd neu achyddwr wedi drysu rhwng un o gefndryd mam Siôn, Ieuaf Gethin, a thaid Sieffrai, Ieuan Gethin (roedd gan y ddau gyswllt ag ardal Llansilin).
Ei yrfa
Bu farw Siôn yn 1477 (GMRh 5–6; LlGC 1504E, 177). Yn ôl HPF ii: 158, lle gelwir ef yn Siôn Eutun Hen, roedd yn fyw yn 1439 ac yn stiward arglwyddiaeth Brwmffild yn 1477. Y tebyg yw mai ef a enwir fel John Eyton mewn llythyr a ysgrifennodd Siasbar Tudur o Ddinbych y Pysgod ar 25 Chwefror 1461 (Evans 1995: 84). Os felly, roedd Siôn yn Lancastriad a fu’n gyd-stiward castell Dinbych yn Nyffryn Clwyd gydag un arall o noddwyr Guto, Rhosier ap Siôn Pilstwn.
Y tebyg yw mai ef hefyd yw’r Johanne Eyton a enwir mewn dogfen gyfreithiol a luniwyd yn Holt ar 19 Hydref 1467 (Dienw 1846: 338, ond sylwer bod y flwyddyn yn anghywir yno; HPF ii: 84). Er nad yw’n gwbl eglur beth yn union a nodir yn y ddogfen, ymddengys yr enwir Dafydd Bromffild a Wiliam Rodn (dau o noddwyr Guto), ynghyd â Wiliam Hanmer, Siôn Eutun, Edward ap Madog, Hywel ab Ieuan ap Gruffudd a Morgan ap Dafydd ap Madog, mewn cyswllt â chynnal gwŷr arfog ym Maelor Gymraeg (cf. hefyd Pratt 1988: 48, lle enwir ‘John Eyton’, ‘David Eyton’ a ‘David Bromfield’ fel tystion a ‘William Eyton’ mewn cyswllt â’i was yn natganiadau rheithgor beilïaeth Wrecsam yn 1467). Cyfeirir at gyswllt proffesiynol Siôn â Holt ym marwnad Gutun Owain iddo: Rryol dadl yr Hold ydoedd (GO XLVIII.24). At hynny, ceir y disgrifiad diddorol a ganlyn yn yr un gerdd (ibid. XLVIII.57–8):Golevo tair rraglawiaeth
Ydd oedd, hyd y dydd ydd aeth
Cyfeirir yn HPF ii: 159, 174–5, at briodas Siôn â Gwenhwyfar ferch Einion (fe’i gelwir yn Wenllïan, ibid. 158): ‘By this lady, John Eyton Hên had issue Elis Eyton of Rhiwabon, and then was divorced from her upon account of near consanguinity, by which means his son Elis was made illegitimate; but afterwards he obtained a dispensation from the Pope to marry her again, and then had issue’. Fodd bynnag, er craffu ar yr achresi, ni ddaethpwyd o hyd i gyswllt teuluol agos iawn rhwng y ddau.
Pan sefydlodd David Holbache ysgol ramadeg yng Nghroesoswallt rhwng 1407 ac 1421, roedd gŵr o’r enw ‘John Eyton’ yn un o’r ‘feofees that were put in trust … for the School Lands’ (Knight 1926: 69 (Appendix II); 102.23n). Nid yw’n amhosibl mai noddwr Guto ydoedd.
Llyfryddiaeth
Dienw (1846), ‘Proceedings’, Arch Camb 2: 147–52, 210–15, 335–8
Evans, H.T. (1995), Wales and the Wars of the Roses (second ed., Stroud)
Jones, G.P. (1969), ‘Astudiaeth Destunol o Ganu William Cynwal yn Llawysgrif (Bangor) Mostyn 4’ (M.A. Cymru)
Knight, L.S. (1926), Welsh Independent Grammar Schools to 1600 (Newtown)
Pratt, D. (1988), ‘Bromfield and Yale: Presentments from the Court Roll of 1467’, TCHSDd 37: 43–53
Stephens, R. (1983), ‘Gwaith William Llŷn’ (Ph.D. Cymru)
Williams, S.Rh. (1965), ‘Testun Beirniadol o Gasgliad Llawysgrif Mostyn 111 ynghyd â Rhagymadrodd, Nodiadau a Geirfa’ (M.A. Cymru)