Y llawysgrif
Mewn un llawysgrif yn unig y diogelwyd y cywydd hwn, sef Llst 123. Nid ymddengys fod y gerdd yn hysbys i olygyddion GGl ac nis ceir yn y gyfrol honno (er nodi’r llawysgrif yn ffynhonnell i’w golygiadau o gerddi 1, 2, 3, 20, 37, 101 a 109 (rhifir yn unol â’r golygiad presennol)). Copïwyd y testun gan Wiliam Bodwrda c.1643–8. Er mor ddiweddar yw’r llawysgrif ni cheir lle i amau’r priodoliad (gw. y nodyn esboniadol) ac mae’r testun ei hun mewn cyflwr gwych. Ymddengys mai yn llinellau 19 a 29 yn unig y llithrodd y copïydd (gw. y nodiadau), ac er iddo ddechrau blino tua diwedd y gerdd bu’n ddigon effro i graffu ar ei ffynhonnell a chywiro ei destun wrth fynd rhagddo (gw. llinellau 53, 54 a 58 yn y trawsysgrifiad).
Sut ffynhonnell oedd honno? Cyfetyb trefn mwyafrif y cerddi a briodolir i Guto yn Llst 123 i drefn y cerddi a briodolir iddo yn LlGC 3057D, er nad yw cerddi Guto wedi eu copïo ynghyd fel grŵp yn yr un o’r ddwy lawysgrif, a’r tebyg yw bod testunau’r naill yn deillio o’r llall yn achos cerddi 1, 2, 20, 56, 57, 101 a 109. Ond ceir tair cerdd yn LlGC 3057D nas ceir yn Llst 123 (cerddi 44, 59 a 99), a dwy gerdd yn Llst 123 nas ceir yn LlGC 3057D (cerddi 37 a 64). Ni cheir lle i gredu bod copi o’r gerdd a drafodir yma wedi bodoli un tro yn LlGC 3057D a chesglir iddi gael ei chodi o ffynhonnell arall anhysbys. O flaen y gerdd hon yn Llst 123 ceir cywydd marwnad Tudur Aled i Rys ap Llywelyn ap Hwlcyn, sef brawd Huw Lewys, ac ar ei hôl ceir cywydd mawl gan Risierdyn i daid y ddau frawd, sef Hwlcyn ap Hywel (gw. TA cerdd LXXV; GSRh cerdd 8). Ceir y ddwy gerdd hyn yn llawysgrifau Bodley Welsh e 7 a Ba (P) 1573 hefyd. Yn ôl golygydd cerdd Rhisierdyn mae copïau Bodley Welsh e 7 a Llst 123 o’r gerdd honno’n deillio o gynsail gyffredin (gw. GSRh 80), a gall fod yr un peth yn wir o ran Ba (P) 1573 (felly hefyd yn achos cerdd Tudur Aled). Gellir tybio fod y gynsail goll honno’n cynnwys casgliad o gerddi i deulu Prysaeddfed ac, o ystyried safon testun y gerdd a drafodir yma, nid yw’n amhosibl fod ganddi gyswllt agos â’r aelwyd honno.
Trawsysgrifiad: Llst 123.
Teitl
Dilynir y llawysgrif: cyw’ i Huw Lewys o Brysaddfed pan fv agos iddo a boddi.
1 llywygais Llawysgrif llywgais. Rhaid wrth ffurf deirsill, a dilynir y ffurf amrywiol ar y gair a nodir yn GPC 2171 d.g. llewygaf.
2 Noe ’m Môn Llawysgrif noe mon.
5 holltrefn Llawysgrif holldrefn. Cf. Malltraeth a 39n.
6 dra chefn Dilynir y ffurf a geir yn y llawysgrif (gw. GPC 3539 d.g. trachefn).
9 minnau ’m Mhenllyn Llawysgrif mine ym mhenllyn. Cywesgir yn bedair sillaf.
15 diliw Dilynir y ffurf a geir yn y llawysgrif (gw. GPC 1017 d.g. dilyw).
19 Cristor Dilynir y llawysgrif. Gellid Cristoffr (cf. 106.1).
19 sy Llawysgrif fv. Diwygir er mwyn y gynghanedd.
23 briwhäu Llawysgrif briwhafv, o briwhavv yn ôl pob tebyg. Cf. LlDC 126 (ffurfiau ar briuhid); T 31 brivhavt (llinell 13).
24 ’i Llawysgrif ei. Cywesgir er mwyn sicrhau llinell seithsill.
24 rhybudd Llawysgrif rybydd. Diau mai’r gysefin a fwriedir.
29 cwyno’r Llawysgrif cyngor, lle cyfetyb -n ag -ng- o ran y gynghanedd. Ceir enghreifftiau o gyfateb fel hyn yng nghesail y gytsain c yn CD 225, ond nid fel arall. Diwygiwyd yn cynnor gan Wiliam (1969–70: 76), sef ‘post ffrâm drws, drws allanol’, ond nid yw cynnor dean yn taro deuddeg (gw. GPC 796 d.g.; cf. Johnston 2003: 212–13). Sylwer bod Guto’n cyfeirio at [dd]eugwyn fawr yn y llinell flaenorol, ac ni cheir lle i gredu y dewisai gyfeirio at ddwy gŵyn yn benodol oni fwriadai ymhelaethu arnynt. Gwelir iddo ymdrin â’r ail gŵyn yn llinellau 31–2 A chŵyn er mwyn aur a medd / A llanw a fu ’n holl Wynedd, ac felly disgwylid ymdriniaeth â’r gŵyn gyntaf yn llinellau 29–30. Yn wir, mae absenoldeb y gair yn amheus o ran synnwyr ac o ran y gynghanedd, oherwydd cyfetyb y cymeriad cynganeddol c-n i gytseiniaid y gair cwyn. Gellid cwyn aur da, ond mae’n annhebygol yn sgil y ffaith fod yr ail gŵyn yn gŵyn er mwyn aur, ac am y byddai rhaid diwygio cyngor. Gwell rhoi cwyno’r yn lle cyngor. Gall fod cynor yn y gynsail yn sgil colli -w-, a bod Wiliam Bodwrda wedi rhoi cyngor yn ei le.
31 a chŵyn Gellid achwyn, ond dilynir y llawysgrif. Sylwer mai at [dd]eugwyn y cyfeirir yn llinell 28.
39 holltrai Llawysgrif holldrai. Cf. Malltraeth a 5n.
40 bodde Ansicr. Dilynir y llawysgrif gan y gall fod boddai rai yn euog o’r bai gormodd odlau.
49 Prysaddfed Dilynir y ffurf a geir yn y llawysgrif (cf. 63.16n (esboniadol)).
56 rhan Llawysgrif ran (cf. 24n rhybudd).
62 sirif Dilynir y ffurf a geir yn y llawysgrif (gw. GPC 3293 d.g. siryf).
Llyfryddiaeth
Johnston, D. (2003), ‘Bywyd Marwnad: Gruffudd ab yr Ynad Coch a’r Traddodiad Llafar’, I. Daniel, M. Haycock, D. Johnston a J. Rowland (goln.), Cyfoeth y Testun (Caerdydd): 200–19
Wiliam, D.W. (1969–70), ‘Y Traddodiad Barddol ym Mhlwyf Bodedern, Môn’, AAST: 39–79
Cywydd yw hwn a ganodd Guto i Huw Lewys pan fu hwnnw bron â boddi ym Malltraeth ym Môn. Byddai’n rhaid i drigolion cymydau Llifon a Malltraeth groesi cors Malltraeth (neu Gors Ddyga) er mwyn cyrraedd de’r ynys a’r tir mawr, a chyn draenio’r gors a newid cwrs afon Cefni rhwng 1788 a 1859 roedd yn rhwystr daearyddol o bwys i deithwyr. Er na chipiwyd Huw gan y gors, sylwer iddi hawlio ei farch a bod rhywrai wedi ei rybuddio amdani o flaen llaw (llinell 24). Mae’r cywydd hwn yn gofnod trawiadol o beryglon ymarferol y gors pan oedd daearyddiaeth y rhan honno o’r ynys gryn dipyn yn wahanol i’r hyn ydyw heddiw (ymhellach, gw. Carr 1982: 22).
Mae rhan gyntaf y cywydd (llinellau 1–18) yn diferu o ddŵr, ac nid yn unig y dŵr a fu bron â boddi Huw Lewys, eithr y dŵr a gynhyrchwyd ac a grynhodd yn llifeiriant yn sgil dagrau’r rheini a glywodd am y ddamwain. Roedd Guto yng nghantref Penllyn ar y tir mawr pan glywodd (9), ac felly nid y môr yn llythrennol a olygir wrth eigion yn y llinell gyntaf, eithr y llif a achosid gan wylo’r bardd ac eraill a ofidiai am Huw. Ystrydeb farddol yw’r dagrau hyn, wrth reswm, ond gwthir yr ystrydeb honno i’w heithaf yma gan fod Guto’n ei ddarlunio ei hun fel gŵr y bu iddo bron â boddi mewn dagrau. Mae Guto’n ymuniaethu â’i noddwr i’r fath raddau nes ei fod yntau hefyd bron â dioddef yr un anffawd. Gwelir yr un math o ymuniaethu ar waith rhwng y bardd a’i noddwr yn rhan agoriadol cywydd iacháu a ganodd Guto i Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch (gw. 92.1–10), ond bron nad yw’r empathi’n fwy celfydd yn y gerdd hon i Huw am fod Guto’n mynnu iddo fyw’r un profiad.
Yn wir, cymaint yw’r argraff a greir bod Guto ei hun wedi dioddef damwain mewn dŵr fel ei bod yn debygol mai’r gerdd hon a roes fod i’r cywydd dychan a ganodd Llywelyn ap Gutun iddo (cerdd 65a). Yn y gerdd ddigrif honno honnir bod Guto wedi boddi ym Malltraeth, ac yng ngherdd Guto cyfeirir yn benodol at haelioni Huw Lewys. Diau bod Llywelyn wedi clywed y cywydd hwn i Huw a bod empathi eithafol Guto wedi ei daro’n chwithig neu ddigrif. Plannwyd hedyn y syniad yn ei feddwl, sef nad oedd Guto wedi profi brath yr heli mewn gwirionedd ac y byddai creu stori ddychmygol yn adrodd y gwrthwyneb yn arbennig o gomig.
Yn ail ran y gerdd manylir ar y modd y daeth Huw i dir sych yn fyw (19–32), sef drwy gymorth dwyfol. Fel y nodwyd eisoes (8) bu’r Forwyn Fair yn ei ddiogelu rhag angau ac felly hefyd Crist a’r seintiau Cristoffer, Paul, Pedr a Dwynwen. Ond nodir bod pobl Gwynedd wedi galw yn eu gofid ar yr unigolion sanctaidd hyn, ac felly’n rhannol gyfrifol am ei achubiaeth. Eu pryder hwy, meddir, a sicrhaodd na fyddai Huw yn eu gadael, a manylir ar ddau gŵyn, neu weddi daer, a glywyd, sef cwyn gan Risiart Cyffin, deon Bangor, a chŵyn arall gan weddill pobl yr ardal.
Yn y drydedd ran rhoir sylw i haelioni Huw (33–48) a gwneir defnydd celfydd iawn o ddelwedd ganolog y gerdd drwy awgrymu bod Huw’n boddi ei westeion â diodydd ei wledd. Ar ei deulu y canolbwyntir yn niweddglo’r gerdd (49–62), lle cyfeirir at ei gartref ym Mhrysaeddfed, ei wraig, Sioned, a’i bedwar brawd. Nodir bod Guto wedi adnabod y brodyr pan oedd yn iau, ffaith a ategir gan gywydd mawl (cerdd 63) a ganodd i’r pump ohonynt ynghyd. Bellach bu farw dau o’r brodyr hynny, ond pery Guto i ganu i’r tri sy fyw, sef Meurig, Huw a Rhys. Cyfeirir at Sioned eto ac yna at ei mab, sef Siôn Lewys, a’i gŵr yn y cwpled olaf, gan ddymuno hir oes i bob un ohonynt yn ei dro.
Awduraeth
Er mai mewn un copi llawysgrif yn unig y diogelwyd y cywydd hwn, mae’n eglur nad cerdd ydyw a briodolwyd i Guto ar gam. Fel yr awgrymir uchod, mae’n debygol iawn mai’r cywydd hwn oedd man cychwyn y cerddi dychan a ganodd Llywelyn ap Gutun a Guto i’w gilydd, a chyfeirir ar ei ddiwedd at y ffaith fod y bardd wedi adnabod pedwar brawd Huw pan oedd yn iau, gwŷr y canodd Guto gywydd mawl i’r pump ohonynt ar y cyd. At hynny, cyfeirir at Risiart Cyffin, gŵr y canodd Guto’n helaeth iddo, a cheir rhai cyfeiriadau a chyfuniadau geiriol a adleisir mewn cerddi eraill gan Guto (gw. 2n llefain … llif Noe, 19n a 30n).
Dyddiad
Mae’n bosibl iawn fod y gerdd hon wedi ei chanu’n fuan cyn Gŵyl Fair ar 8 Rhagfyr 1484 (gw. y nodyn ar ddyddiad cerdd 65; 30n isod). At hynny, gelwir Huw Lewys yn sirif Môn yn llinell olaf y gerdd, swydd y penodwyd ei frawd, Rhys, iddi yn 1485 yn dilyn ei gefnogaeth i Harri Tudur ym mrwydr Bosworth (gw. y nodyn ar y meibion). Ceir y cyfeiriad olaf at Huw yn 1485, ond nid yw dyddiad ei farw’n hysbys.
Golygiad blaenorol
Wiliam 1969–70: 75–7. Nis ceir yn GGl.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 62 llinell.
Cynghanedd: croes 70% (44 llinell), traws 15% (9 llinell), sain 15% (9 llinell), dim llusg.
1 Llywygais garllaw eigion Ceir yr un llinell gyntaf mewn cywydd marwnad anolygedig a ganodd Siôn Brwynog i Gatrin ferch Tomas Mostyn (gw. MCF).
2 llefain … llif Noe Cyfeirir at ddilyw Noa y ceir ei hanes yn Genesis 6–9 (gw. ODCC3 1157; GGLl 2.5n Noe). Ar y cyfuniad llefain a llif Noe, gw. GPC 2177 d.g. llif2; cf. 9.69 Llif Noe yw’r llefain a wnawn, 48.34 Yw llif Noe a’r llefain ynn, 89.31 Llif Noe yw llefain ei wŷr; GSC 26.38n Llefain a droes llif Noe draw; GHS 23.2n A llif Noe a llefain ynn.
2 Môn Lleoliad cartref Huw Lewys (gw. 4n) ym Mhrysaeddfed (gw. 49n) yng nghwmwd Llifon. Safai cartref ei frawd, Rhys (gw. 56n), ym Modychen yn yr un cwmwd â chartref ei frawd arall, Meurig (gw. 55n), ym Modsilin yng nghwmwd Malltraeth (gw. 5n). Ar y cymydau, gw. WATU 233.
4 Huw Lewys Ail fab Llywelyn ap Hwlcyn a noddwr y gerdd hon (ymhellach, gw. Huw Lewys). Roedd yn byw ym mhrif gartref y teulu ym Mhrysaeddfed (gw. 49n Prysaddfed).
5 Malltraeth Sef y pentref a’r traeth ei hun lle llif afon Cefni i’r môr (gw. WATU 152). Saif y traeth rhwng cwmwd Malltraeth yng nghantref Aberffraw a chwmwd Menai yng nghantref Rhosyr. Yng nghyffiniau Malltraeth y cafodd Huw Lewys ddamwain wrth geisio croesi rhyd yn y gors beryglus, nodwedd a adlewyrchir yn ystyr yr enw ei hun, gw. Richards 1998: 21: ‘Rhaid bod mall yma yn ei ystyr gyffredin, sef “pwdr, deifiol”. Ai am fod y tir yn isel a dŵr yn tueddu i gronni ac aros yn llonydd ac yn farw, nes bod pob math o darth annymunol yn codi oddi wrtho? Cymharer y gair malldan am y goleuni neu’r tân a achosir gan nwy yn codi oddi wrth gors.’
5 holltrefn Sef holl + trefn. Ar yr ail elfen, gw. GPC 3574 d.g. (a) ‘ystafell, adeilad, cartref’, (b) ‘cyflwr neu stad a phob elfen, rhan, &c., yn ei phriod le, ordr, cymhendod; cyflwr heddychlon ymysg pobl’. Bernir bod yr ail yn fwy addas.
9 Penllyn Lle roedd y bardd pan glywodd am yr anffawd a gafodd Huw Lewys, sef cantref o gryn faint a gynhwysai gymydau Dinmael, Edeirnion, Is Tryweryn ac Uwch Tryweryn (gw. WATU 174, 310). Canodd Guto gerddi i Syr Bened yng Nghorwen ac i Ieuan ab Einion yn y Cryniarth, y ddau yng nghwmwd Edeyrnion, a hefyd i Einion ap Gruffudd yn Llechwedd Ystrad yng nghwmwd Uwch Tryweryn. Gall fod y farwnad a ganodd i Einion ap Gruffudd yn berthnasol yma gan fod rhan gyntaf y gerdd honno’n darlunio Gwynedd dan lifeiriant mawr o ddagrau (gw. 42.5–6): Môr i Benllyn yw’r llyn llawn, / Môr i Wynedd, marw Einiawn.
12 Huw Gw. 4n.
15 diliw Ffurf ar dilyw, yn ôl pob tebyg (gw. GPC 1017 d.g. dilyw; cf. 2n llefain … llif Noe).
15 bod Mae bod ‘cartref, annedd’ yn ddeniadol, ond nid ymddengys y gwneid defnydd eang o’r gair yn yr ystyr honno (gw. GPC 293 d.g. bod1).
16 dwy Wynedd Ymrannai hen deyrnas Gwynedd yn ddwy ran, sef Gwynedd Is Conwy a Gwynedd Uwch Conwy (gw. WATU 85). Roedd Môn yng Ngwynedd Uwch Conwy.
18 iechyd Gw. GPC 2010 d.g. (a) ‘y cyflwr o fod yn iach yn gorfforol’, (b) ‘iachawdwriaeth, gwaredigaeth, achubiaeth, diogelwch’. Mae’r ddwy ystyr yn arbennig o berthnasol.
19 Sain Cristor sy ’n y croesty Cyfeirir at Gristoffer, sant y credir iddo gael ei ferthyru rywle yn y Dwyrain Canol yn ystod y drydedd ganrif (gw. ODCC3 341). Un hanes amdano y mae’n eglur fod Guto’n ymwybodol ohoni yw un sy’n ei bortreadu fel cawr grymus a gludai deithwyr dros afon. Bu’n rhaid iddo gludo Iesu Grist un tro ac achosodd y baich iddo grymu, cf. 106.1–2 Sain Cristoffr a fu’n offrwm / Yn dwyn Crist megis dyn crwm, ac ibid.n. Priodol iawn, felly, ei fod yn gyfrifol am achub Huw Lewys o’r dŵr. Roedd yn arfer darlunio’r sant ar fur gyferbyn â drws eglwys gan y credid y byddai’n amddiffyn rhag anffawd y bobl a âi heibio iddo. Mae’n debygol iawn mai eglwys Penmon yng nghwmwd Dindaethwy ym Môn yw’r croesty yma, lle ceid delwedd o’r sant barfog yn cludo Iesu dros afon ar ddiwedd y bymthegfed ganrif (gw. Lord 2003: 213–14, 257–8, 281; Haslam et al. 2009: 204–8). Ceid darluniau eraill ohono yn Llanilltud, Llanynys a Gresffordd.
20 Huw Gw. 4n.
21–2 Pawl … / … Pedr Anaml iawn y ceid enw Paul heb enw Pedr, arfer a seiliwyd ar y gred (gyfeiliornus, yn ôl pob tebyg) iddynt gael eu merthyru yn Rhufain ar yr un diwrnod, sef 29 Mehefin (gw. ODCC3 1234–8, 1260–1 a 1297; cf. GGMD i, 2.56n; GRhGE 14.85–6). Ymhellach, gw. 97.5n.
22 Dwynwen Nawddsantes eglwys Llanddwyn neu Landdwynwen yng nghwmwd Menai ym Môn (gw. WATU 113 a 320; CLC2 204; LBS ii: 387–92). Roedd Rhisiart Cyffin, deon Bangor (gw. 29n), yn berson eglwys Llanddwyn a gosododd ddelw o Santes Dwynwen mewn ffenestr liw yn yr eglwys ym Mangor.
23 Huw Gw. 4n.
23 er briwhäu Nid at farch Huw (24) y cyfeirir yn ôl pob tebyg, eithr at Huw ei hun.
25 Ni fynnai Grist fain na gro Iesu Grist ei hun a benderfynai a gâi Huw Lewys fyw ynteu farw (cf. Ieuan Gethin mewn cywydd marwnad i’w fab, gw. Johnston 1993: 74 gŵr digon creulon yw Crist).
29 y dean Y tebyg yw mai at Risiart Cyffin, deon Bangor, y cyfeirir yma, un o brif noddwyr Guto yn y gogledd-orllewin. Dengys cywydd dychan a ganodd Llywelyn ap Gutun i Risiart fod cyswllt rhyngddo a Huw Lewys (gw. GLlGt cerdd 9), ac mae’n eglur fod y ddau ohonynt yn hoff iawn o noddi’r un math o rialtwch barddol. At hynny, canodd Guto gywydd i ofyn gwalch ar ei ran gan frawd yng nghyfraith Huw Lewys, sef Huw Bwlclai (gw. 49n Sioned). Enwir Rhisiart yma am y byddai cwyn neu, yn gywirach, weddi a ddôi o’i enau ef dros achub bywyd Huw Lewys yn sicr o droi’r fantol o’i blaid.
30 Gŵyl Fair Gw. GSDT 11n48: ‘Y chwe phrif ŵyl a ddethlir yn y Gorllewin yw’r rhai a ganlyn: gŵyl Fair dechrau’r gwanwyn, a enwir hefyd gŵyl Fair y Canhwyllau (2 Chwefror); gŵyl Fair hanner y gwanwyn, a enwir hefyd gŵyl Fair y Cyhydedd (25 Mawrth); gŵyl Fair yn yr haf (2 Gorffennaf); gŵyl Fair gyntaf (yn y cynhaeaf), a enwir hefyd gŵyl Fair yn Awst (15 Awst); gŵyl Fair ddiwethaf (8 Medi); gŵyl Fair yn y gaeaf (8 Rhagfyr). Yn ychwanegol at y rhain yr oedd hefyd wyliau llai, a nifer o’r rheini’n cael eu dathlu’n lleol.’ Mae môr garw (7) yn awgrymu nad yn ystod misoedd yr haf y canwyd y gerdd hon, felly ai at ŵyl Fair ar 8 Rhagfyr y cyfeirir? Ymhellach, gw. y nodyn uchod ar ddyddiad y gerdd; GPC 1759 d.g. gŵyl1; Cartwright 1999: 180–6.
30 yn glaf wan Cf. Guto yn ei gywydd i iacháu glin Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch, 92.7–8 Od wyd glaf, y Mordaf mau, / Claf wan y’m clywaf innau.
32 llanw Gellid ei ddeall fel ‘hylif, diod’ ac yn ychwanegiad at aur a medd (31), ond o ystyried pwysigrwydd dagrau llifeiriol yn y cywydd hwn, tebycach mai dyfroedd galar neu ofid ydyw.
32 Gwynedd Gw. 16n.
33 Huw Gw. 4n.
38 Môn Gw. 2n Môn.
39 Malltraeth Gw. 5n.
39 fy holltrai Bernir bod -trai yn gyfeiriad at lifeiriant hylif yma, sef y medd a’r gwin a weinir yn llys Huw Lewys (gw. 41–2).
40 rhyd Cyfeirir at ryw ryd ym Malltraeth (gw. 5n Malltraeth).
41 y tai meinin Sef Prysaeddfed (gw. 49n Prysaddfed).
43 daeardai dordor Cyfeirir at Brysaeddfed (gw. 49n). Cf. Iolo Goch yn ei gywydd enwog i lys Owain Glyndŵr yn Sycharth, GIG X.33–4 Cynglynion yn fronfron fry, / Dordor megis daeardy. Ar daeardy, gw. GPC 876 d.g. ‘carchardy tanddaearol, carcharbwll’, ond gw. y nodyn yn GIG 234: ‘tebyg mai tŷ pridd a feddylir yma, yn hytrach na thŷ tanddaearol. Y pwynt yw fod y muriau heb dyllau ynddynt.’
47–8 Eglurach ynn gael arian / Y glêr lesg … Gellid creu sangiad o y glêr lesg a’i ddeall yn gyfeiriad at Guto a’i fath, ond o gadw mewn cof y math o rialtwch barddol a geid ar aelwyd Huw Lewys efallai ei bod yn fwy priodol ei ddeall yn gyfeiriad dirmygus at feirdd eraill is eu statws na Guto.
49 Prysaddfed Sef ffurf ar Prysaeddfed, cartref Huw Lewys ychydig i’r dwyrain o Fodedern yng nghwmwd Llifon ym Môn (gw. 2n Môn). Saif ffermdy modern heddiw ar safle’r hen dŷ (gw. Haslam et al. 2009: 115). Nid yw’n eglur pryd yr adeiladwyd y llys gwreiddiol, ond mae’n bosibl fod tad Huw, Llywelyn ap Hwlcyn, a’i dad yntau, wedi byw yno (gw. GSRh 109n2).
49 Sioned Sef Sioned ferch Wiliam Bwlclai o Fiwmares, gwraig Huw Lewys a chwaer i Huw Bwlclai y canodd Guto gywydd (cerdd 60) iddo i ofyn gwalch ar ran Rhisiart Cyffin, deon Bangor (gw. 29n). Ymhellach, gw. y nodyn ar Huw Lewys.
50 Gwynedd Gw. 16n.
51 pumaib Sef pum mab Llywelyn ap Hwlcyn y canodd Guto gywydd (cerdd 63) iddynt pan oedd yn iau (52): Meurig, Huw Lewys, Dafydd, Gruffudd a Rhys. Bu farw dau ohonynt erbyn canu’r gerdd hon (gw. 53n a 54n). Ymhellach, gw. y nodyn ar y meibion.
52 Môn Gw. 2n Môn.
53 Y ddau wrol a dderyw Cyfeirir at Ddafydd a Gruffudd, dau o frodyr Huw Lewys a fu farw (gw. 51n a 54n). Ymddengys mai Dafydd oedd y trydydd mab a Gruffudd y pedwerydd. Ni nodir unrhyw ddisgynyddion i Ddafydd yn yr achresi ac ni wyddys ymhle roedd yn byw. Roedd Gruffudd yn byw yn Y Chwaen nid nepell o lys Huw ei frawd ym Mhrysaeddfed (gw. 49n Prysaddfed).
54 tri sy fyw Sef y tri brawd a enwir yn y cwpled nesaf a oedd ar dir y byw pan ganwyd y gerdd: Meurig (gw. 55n), Huw Lewys a Rhys (gw. 56n). Bu farw dau frawd arall (gw. 51n a 53n).
55 Meurig Meurig ap Llywelyn, brawd hŷn i Huw Lewys a mab hynaf Llywelyn ap Hwlcyn (ymhellach, gw. y nodyn ar y meibion). Roedd yn byw ym Modsilin (gw. 2n Môn).
56 Huw Lewys Gw. 4n.
56 Rhys Rhys ap Llywelyn, brawd iau i Huw Lewys a mab ieuengaf Llywelyn ap Hwlcyn; ymhellach, gw. y nodyn ar y meibion. Trigai ym Modychen ychydig i’r de o Landrygarn yng nghwmwd Llifon (gw. 2n Môn), lle na cheir ond adfeilion heddiw.
56 a’i rhan Cyfeirir at arian (55). Gellid a’u rhan, ond amhosibl penderfynu a ystyrid y gair arian yn unigol neu’n lluosog yma.
58 Meurig Gw. 55n.
58–9 a sai’ … / … a red Sylwer ar y gwahaniaeth rhwng y modd y disgrifir bywyd Meurig (gw. 55n) a’i frawd Rhys (gw. 56n). Roedd Meurig, sef brawd hynaf Huw Lewys, mewn cryn dipyn o oedran pan ganwyd y cywydd hwn, a sefyll, neu barhau, yn unig y mae ei einioes. Ond mae’n debygol fod Rhys, y brawd ieuengaf, yn ŵr ifanc, ac mae ei einioes yntau’n rhedeg rhagddi.
59 Rhys Gw. 56n.
59 iso A chymryd mai ym Mhrysaeddfed (gw. 49n Prysaddfed) y datganwyd y cywydd hwn y gellir synio am gartref Rhys ym Modychen (gw. 56n) fel man a oedd islaw iddo’n ddaearyddol.
60 Huw Gw. 4n.
60 unair a Sioned Gellid hefyd unair â Sioned.
60 Sioned Gw. 49n.
61 yr aer Sef Siôn Lewys, etifedd Huw Lewys. Ymhellach, gw. Huw Lewys.
62 mab sirif Môn Sef Siôn Lewys, mab Huw Lewys (gw. 61n). Am swydd weinyddol Huw ym Môn, gw. Huw Lewys.
62 Môn Gw. 2n Môn.
Llyfryddiaeth
Carr, A.D. (1982), Medieval Anglesey (Llangefni)
Cartwright, J. (1999), Y Forwyn Fair, Santesau a Lleianod: Agweddau ar Wyryfdod a Diweirdeb yng Nghymru’r Oesoedd Canol (Caerdydd)
Haslam, R., Orbach, J. and Voelcker, A. (2009), The Buildings of Wales: Gwynedd (London)
Johnston, D. (1993) (gol.), Galar y Beirdd (Caerdydd)
Lord, P. (2003), Diwylliant Gweledol Cymru: Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd)
Richards, M. (1998), Enwau Tir a Gwlad (Caernarfon)
Wiliam, D.W. (1969–70), ‘Y Traddodiad Barddol ym Mhlwyf Bodedern, Môn’, AAST: 39–79
Guto composed this praise poem to Huw Lewys after hearing that his patron had nearly drowned in Malltraeth on Anglesey. Inhabitants of the commotes of Llifon and Malltraeth in the Middle Ages would have to cross Malltraeth bog (or Cors Ddyga) in order to reach the southern parts of the island and the mainland. The bog was drained from 1788 to 1859, changing the course of the river Cefni, but in the fifteenth century the extended beach would have been a significant obstacle for travellers. Huw escaped with his life, but his horse was not so lucky and Guto makes a note of the fact that his patron had been warned of the dangers before hand (line 24). The poem is a striking record of the significant risks involved in crossing the infamous bog at a time when the estuary of the river Cefni was very different from what it is today (see further Carr 1982: 22).
The first part of the poem (lines 1–18) is thoroughly saturated, not only with images of the waters that nearly drowned Huw Lewys but also with the deluge created by those who wept on hearing of his misfortune. Guto was in the cantref of Penllyn on the mainland when he heard the news (9), therefore eigion ‘sea’ in the first line should be understood figuratively as a confluence of tears following the poet’s and others’ grief. This was, of course, a familiar elegiac convention, but Guto makes the very most of it by depicting himself nearly drowning in a torrent of tears. He acutely empathizes with his patron to the point that he comes close to suffering the same misfortune. The same empathic routine is seen between the poet and his patron in the first part of Guto’s healing poem to Hywel ab Ieuan Fychan of Moeliwrch (see 92.1–10), but the affinity seems somewhat more accomplished in the present poem because Guto insists that he has lived through roughly the same experience.
Indeed, so convincing is the impression that Guto himself had suffered a accident in treacherous waters it is very likely that the satirical poem (poem 65a) composed for Guto by Llywelyn ap Gutun was directly triggered by this poem. Llywelyn humorously claims that Guto had drowned in Malltraeth, and in his reply (poem 65) Guto refers specifically to Huw Lewys’s generosity. In all likelihood Llywelyn had witnessed a performance of this present poem and had been struck by the amusing conceit of Guto’s excessive empathic sobbing. His own poetic intuition then stirred as he realized the comic potential of creating an imaginary story about Guto drowning when it was obvious to all involved that he had not even dipped his toe in the surf.
In the second part of the poem, Guto details how Huw returned safe to dry land (19–32), namely through divine intervention. As Guto had already mentioned (8), Mary kept him alive and so too St Christopher, St Paul, St Peter, St Dwynwen and Christ himself. Yet, Guto states that the people of Gwynedd had called in their grief on these holy persons and were therefore also partly responsible for his rescue. It was their trepidation and their care for Huw that secured his salvation, and Guto details two specific laments or grave prayers that were heard in Gwynedd, namely a lament from Rhisiart Cyffin, dean of Bangor, and another collective lament from the region’s inhabitants.
Huw’s generosity is praised in the third part of the poem (33–48), where Guto skilfully makes use of the poem’s watery images by arguing that Huw drowns his guests with wine at his feast. In the concluding part Huw’s family is praised (49–62) as Guto names his home at Prysaeddfed, his wife, Sioned, and his four brothers. He states that he had known all five brothers when he was a young poet, a statement confirmed by the survival of a praise poem (poem 63) that he had composed for them collectively. Two of Huw’s brothers had died by the time Guto composed the present poem, but he continues to sing the praises of tri sy fyw ‘three who are alive’, namely Meurig, Huw and Rhys. In the last two couplets Guto names Sioned again and then her son, Siôn Lewys, and her husband before wishing them all a long life.
Authorship
Although this poem survived in only one manuscript copy there is no reason to doubt its authorship. As is argued above, it is extremely likely that this poem elicited the satirical poems that Llywelyn ap Gutun and Guto addressed to each other, and Guto mentions towards the end of the poem that he knew Huw’s four brothers when he was young, a fact that is validated by the praise poem addressed to all five brothers. Furthermore, Guto refers to Rhisiart Cyffin, a patron to whom he addressed at least four poems, and some references and lines are echoed in other poems by Guto (see 2n llefain … llif Noe, 19n and 30n).
Date
It is very likely that this poem was composed a short time before the festival of the Conception of the Virgin Mary on 8 December 1484 (see the note on the date of poem 65; 30n below). Furthermore, Huw Lewys is called sirif Môn ‘sheriff of Anglesey’ in the last line of the poem, a post held by his brother, Rhys, in 1485 following his support for Henry Tudor at the battle of Bosworth (see the note on the five brothers). Although there is no record of Huw after 1485, the year of his death is not known.
The manuscript
Only one copy of this poem has survived, namely in the hand of Wiliam Bodwrda in Llst 123 (c.1643–8). Despite the relatively late date of the manuscript, the text is in excellent condition and may derive from a lost copy of the poem written in Huw Lewys’s home at Prysaeddfed.
Previous edition
Wiliam 1969–70: 75–7. The poem was not known to the editors of GGl.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 62 lines.
Cynghanedd: croes 70% (44 lines), traws 15% (9 lines), sain 15% (9 lines), no llusg.
1 Llywygais garllaw eigion The same first line appears in the poet Siôn Brwynog’s unedited elegy for Catrin daughter of Tomas Mostyn (see MCF).
2 llefain … llif Noe Guto is referring to Noah’s flood (see Genesis 6–9; ODCC3 1157; GGLl 2.5n Noe). On the combined use of llefain ‘crying’ and llif Noe ‘Noah’s flood’, see GPC 2177 s.v. llif2; cf. 9.69 Llif Noe yw’r llefain a wnawn ‘the tears I shed were Noah’s flood’, 48.34 Yw llif Noe a’r llefain ynn ‘is for us Noah’s flood and its wailing’, 89.31 Llif Noe yw llefain ei wŷr ‘his men’s laments are Noah’s flood’; GSC 26.38n Llefain a droes llif Noe draw ‘wailing caused Noah’s flood to flow yonder’; GHS 23.2n A llif Noe a llefain ynn ‘and Noah’s flood and wailing for us’.
2 Môn Huw Lewys’s (see 4n) home was at Prysaeddfed (see 49n Prysaddfed) in the commote of Llifon on Anglesey. His brother Rhys’s (see 56n) home was at Bodychen in the same commote and his other brother Meurig’s (see 55n) home was at Bodsilin in the commote of Malltraeth (see 5n). On the commotes, see WATU 233.
4 Huw Lewys Llywelyn ap Hwlcyn’s second son and this poem’s patron (see further Huw Lewys). He lived at the family’s principal home at Prysaeddfed (see 49n Prysaddfed).
5 Malltraeth Either the village, Malltraeth (see WATU 152), or, more probably, the beach itself where the river Cefni flows to the sea. The beach was situated between the commote of Malltraeth in the cantref of Aberffraw and the commote of Menai in the cantref of Rhosyr (see 2n Môn). It was somewhere in the beach’s vicinity that Huw Lewys fell into the water as he tried to cross a dangerous ford, a difficulty reflected in Malltraeth as a name, which means ‘rotten/putrid beach’ (see Richards 1998: 21).
5 holltrefn A compound, holl ‘entire’ + trefn, which means either ‘room, building, home’ or, more probably, ‘arrangement, order, disposition’ (see GPC 3574 s.v. (a) and (b)).
9 Penllyn This is where Guto was when he heard of Huw Lewys’s misfortune, a sizeable cantref that included the commotes of Dinmael, Edeirnion, Is Tryweryn and Uwch Tryweryn (see WATU 174, 310). Guto sang the praise of Sir Bened of Corwen and Ieuan ab Einion of Cryniarth in the commote of Edeyrnion, and also Einion ap Gruffudd of Llechwedd Ystrad in the commote of Uwch Tryweryn. Guto’s elegy for Einion ap Gruffudd may be particularly relevant in this context as the first part of the poem is laden with calamitous images of Gwynedd being drowned under a great torrent of tears (see 42.5–6): Môr i Benllyn yw’r llyn llawn, / Môr i Wynedd, marw Einiawn ‘The full lake is a sea for Penllyn, a sea for Gwynedd, the death of delightful Einion’.
12 Huw See 4n.
15 diliw In all likelihood a form of dilyw ‘flood’ (see GPC 1017 s.v. dilyw; cf. 2n llefain … llif Noe).
15 bod ‘Home, dwelling’ is appealing, yet it does not seem that any extensive use was made of the word in this meaning (see GPC 293 s.v. bod1).
16 dwy Wynedd The old kingdom of Gwynedd contained two regions, namely Gwynedd Is Conwy and Gwynedd Uwch Conwy (‘below’ and ‘above’ the river Conwy respectively; see WATU 85). Anglesey was situated in Gwynedd Uwch Conwy.
18 iechyd See GPC 2010 s.v. (a) ‘health’, (b) ‘salvation, deliverance, redemption, safety’. Both meanings are very relevant.
19 Sain Cristor sy’n y croesty Guto is referring to St Christopher, who is believed to have been martyred somewhere in the Middle East during the third century (see ODCC3 341). Guto knew of a tale that portrayed him as a mighty giant who carried travellers across a river. On one occasion he became crooked as he bore the great weight of a small child, who revealed himself to the saint to be Jesus Christ bearing the weight of the world (cf. 106.1–2 Sain Cristoffr a fu’n offrwm / Yn dwyn Crist megis dyn crwm ‘St Christopher sacrificed himself by carrying Christ upon his back like a hunchback’). It is therefore appropriate that he, according to Guto, saved Huw Lewys from the waters of Malltraeth. Medieval artists would often paint a depiction of the saint in a church on the wall facing the main door as it was believed that he would watch over those who passed by. The croesty ‘cruciform house’ is in all likelihood the church of Penmon in the commote of Dindaethwy on Anglesey, where there could be seen at the end of the fifteenth century an image of the saint with a beard carrying Christ over a river (see Lord 2003: 213–14, 257–8, 281; Haslam et al. 2009: 204–8). There were other depictions of the saint at Llanilltud, Llanynys and Gresford.
20 Huw See 4n.
21–2 Pawl … / … Pedr St Paul was rarely named by the poets without St Peter, a convention based on the (probably mistaken) belief that both saints were martyred in Rome on the same day, namely 29 June (see ODCC3 1234–8, 1260–1 and 1297; cf. GGMD i, 2.56n; GRhGE 14.85–6). See further 97.5n.
22 Dwynwen St Dwynwen, female patron saint of the church and parish of Llanddwyn (or Llanddwynwen) in the commote of Menai on Anglesey (see WATU 113 and 320; CLC2 204; LBS ii: 387–92). Rhisiart Cyffin, dean of Bangor (see 29n), was a rector there and a window dedicated to her was placed by him in the church in Bangor.
23 Huw See 4n.
23 er briwhäu ‘Although he was hurt’ refers to Huw, and not to his horse (24).
25 Ni fynnai Grist fain na gro … It was Jesus Christ who ultimately chose if Huw would die or not (cf. the poet Ieuan Gethin in an elegy for his son, see Johnston 1993: 74 gŵr digon creulon yw Crist ‘Christ is a rather cruel man’).
29 y dean Guto is in all likelihood referring to Rhisiart Cyffin, dean of Bangor, one of his principal patrons in Gwynedd. A satirical poem composed for Rhisiart by Llywelyn ap Gutun shows that Rhisiart and Huw Lewys knew each other (see GLlGt poem 9) and it is clear that both patrons enjoyed listening to the same sort of bardic revelry. Furthermore, Guto composed a request poem for a hawk on Rhisiart’s behalf from Huw Lewys’s brother-in-law, Huw Bulkeley (see 49n Sioned). Guto mentions Rhisiart because his lament or prayer as a high-ranking man of religion would have been of great use to Huw Lewys in his misfortune.
30 Gŵyl Fair According to GSDT 11n48, Mary was venerated in six main annual feasts or holy-days in the West (although there were also many other smaller, localized feasts), namely Candlemas or the feast of the Purification of the Virgin Mary (2 February), the Annunciation of the Virgin Mary, St Mary’s Day or Lady Day (25 March), the Visitation of Our Lady (2 July), the festival of the Assumption of the Virgin Mary (15 August), the Nativity of the Virgin Mary (8 September) and Conception Day or the festival of the Conception of the Virgin Mary (8 December). The words môr garw ‘rough sea’ (7) seem to suggest that the poem was not performed during the summer months, therefore Guto may be referring to the feast of St Mary on 8 December. See further the note above on the date of the poem; GPC 1759 s.v. gŵyl1; Cartwright 1999: 180–6.
30 yn glaf wan Cf. Guto in his healing poem for Hywel ab Ieuan Fychan of Moeliwrch, 92.7–8 Od wyd glaf, y Mordaf mau, / Claf wan y’m clywaf innau ‘if you’re ill, the Mordaf of mine, I’ll hear myself a feebly ill man’.
32 llanw Possibly ‘liquid, drink’, to be added to aur a medd ‘gold and mead’ (31), but the importance of tears in this poem suggests that Guto is referring to waters created by distress or sorrow.
32 Gwynedd See 16n.
33 Huw See 4n.
38 Môn See 2n Môn.
39 Malltraeth See 5n.
39 fy holltrai The word -trai ‘ebb-tide’ in all likelihood refers to liquid flowing, namely the mead and wine served at Huw Lewys’s court (see 41–2).
40 rhyd ‘A ford’ somewhere in Malltraeth (see 39n Malltraeth).
41 y tai meinin ‘The stone houses’ of Prysaeddfed (see 49n Prysaddfed).
43 daeardai dordor ‘Earth houses cheek to cheek’ at Prysaeddfed (see 49n Prysaddfed). Cf. the poet Iolo Goch in his famous poem of praise to Owain Glyndŵr’s court at Sycharth, IGP 10.33–4 Cynglynion yn fronfron fry, / Dordor megis daeardy ‘bonds side by side above, cheek-to-cheek like an earthhouse’. On daeardy ‘earthhouse’, see GPC 876 s.v. ‘dungeon, prison-pit’, but Johnston (GIG 234) argues that Iolo (and therefore Guto) is referring to ‘earthhouses’ instead as the walls had no cavities.
47–8 Eglurach ynn gael arian / Y glêr lesg … The words y glêr lesg ‘the languid minstrels’ could be understood as a sangiad (a form of parenthesis) and as a description of Guto and his fellow poets, but in light of the bardic frivolity favoured by Huw Lewys it may be better understood as a derogatory reference to poets of lesser status.
49 Prysaddfed A form of Prysaeddfed, Huw Lewys’s home located a little to the east of Bodedern in the commote of Llifon on Anglesey (see 2n Môn). A modern farmhouse stands on the site today (see Haslam et al. 2009: 115). It is unclear when the original court was built, although it is possible that Llywelyn ap Hwlcyn and his father lived there (see GSRh 109n2).
49 Sioned Sioned daughter of William Bulkeley of Beaumaris, Huw Lewys’s wife and sister of Huw Bulkeley whom Guto addressed in a request poem for a hawk (poem 60) on behalf of Rhisiart Cyffin, dean of Bangor (see 29n). See further the note on Huw Lewys.
50 Gwynedd See 16n.
51 pumaib The five sons of Llywelyn ap Hwlcyn whom Guto addressed collectively in a praise poem (poem 63) when he was iau ‘younger’ (52): Meurig, Huw Lewys, Dafydd, Gruffudd and Rhys. Two of the brothers had died by the time Guto composed the present poem (see 53n and 54n). See further the note on the five brothers.
52 Môn See 2n Môn.
53 Y ddau wrol a dderyw ‘The two courageous ones passed away’, namely Dafydd and Gruffudd, two of Huw Lewys’s brothers (see 51n and 54n). It seems that Dafydd was the third son and Gruffudd the fourth. No descendants of Dafydd’s are noted in the genealogical tables and it is not known where he lived. Gruffudd lived at Y Chwaen not far from his brother Huw’s home at Prysaeddfed (see 49n Prysaddfed).
54 tri sy fyw ‘Three who are alive’, namely the three brothers named in the following lines who were alive when this poem was composed: Meurig (see 55n), Huw Lewys and Rhys (see 56n). Two other brothers had died (see 51n and 53n).
55 Meurig Meurig ap Llywelyn, Huw Lewys’s older brother and Llywelyn ap Hwlcyn’s firstborn, in all likelihood (see the note on the five brothers). He lived at Bodsilin (see 2n Môn).
56 Huw Lewys See 4n.
56 Rhys Rhys ap Llywelyn, Huw Lewys’s younger brother and Llywelyn ap Hwlcyn’s youngest son (see the note on the five brothers). He lived at Bodychen, a little south of Llandrygarn in the commote of Llifon (see 2n Môn) in what is today little more than a ruin.
56 a’i rhan Guto is referring to arian ‘money’ (55). A’u rhan ‘share them’ is possible, but it is impossible to determine whether arian is a singular or plural form in this context.
58 Meurig See 55n.
58–9 a sai’ … / … a red Note how Guto describes the lives of Meurig (see 55n) and Rhys (see 56n). Meurig was in all likelihood a very old man when the poem was composed, and therefore his life simply ‘remains’. Conversely, Rhys, the youngest brother, was probably a young man and his life is said to be ‘continuing’ (a red, literally ‘speeding’).
59 Rhys See 56n.
59 iso Assuming that the poem was performed at Prysaeddfed (see 49n Prysaddfed), Rhys’s home at Bodychen (see 56n) would be geographically situated ‘below’ it.
60 Huw See 4n.
60 unair a Sioned Also possible is unair â Sioned ‘the same renown as Sioned’.
60 Sioned See 49n.
61 yr aer ‘The heir’, namely Siôn Lewys, Huw Lewys’s son. See further Huw Lewys.
62 mab sirif Môn ‘The son of the sheriff of Anglesey’, namely Siôn Lewys (see 61n). For Huw Lewys’s administrative office on Anglesey, see Huw Lewys.
62 Môn See 2n Môn.
Bibliography
Carr, A.D. (1982), Medieval Anglesey (Llangefni)
Cartwright, J. (1999), Y Forwyn Fair, Santesau a Lleianod: Agweddau ar Wyryfdod a Diweirdeb yng Nghymru’r Oesoedd Canol (Caerdydd)
Haslam, R., Orbach, J. and Voelcker, A. (2009), The Buildings of Wales: Gwynedd (London)
Johnston, D. (1993) (gol.), Galar y Beirdd (Caerdydd)
Lord, P. (2003), Diwylliant Gweledol Cymru: Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd)
Richards, M. (1998), Enwau Tir a Gwlad (Caernarfon)
Wiliam, D.W. (1969–70), ‘Y Traddodiad Barddol ym Mhlwyf Bodedern, Môn’, AAST: 39–79
Canodd Guto gywydd mawl i Huw Lewys o Brysaeddfed ym Môn pan fu bron â boddi wrth groesi rhyd ym Malltraeth (cerdd 64). Ysgogodd y gerdd honno Lywelyn ap Gutun i ganu cywydd dychan i Guto (cerdd 65a) a chanodd Guto yntau gywydd i’w ateb (cerdd 65). Yng nghywydd mawl Guto i Huw nodir bod dau o frodyr Huw yn fyw a dau wedi marw. Roedd pum brawd i gyd felly, brodyr y canodd Guto gywydd mawl iddynt gyda’i gilydd (cerdd 63).
Noddodd Huw a’i wraig, Sioned Bwlclai, nifer o feirdd eraill: Ieuan Deulwyn, a ganodd gywydd i Huw i ofyn gosog, ID cerdd XXIII; Tudur Penllyn, a ganodd gywydd mawl i Huw a Sioned, GTP cerdd 10; Lewys Môn, a ganodd gywydd marwnad i Huw ac awdl farwnad i Sioned, GLM cerddi III a IV; Lewys Glyn Cothi, a ganodd gywydd marwnad i Sioned, GLGC cerdd 229. Nodwyd uchod bod Llywelyn ap Gutun wedi canu cywydd dychan i Guto fel ymateb i gywydd a ganodd Guto i Huw, ac enwir Huw gan Lywelyn mewn cywydd dychan arall a ganodd i Risiart Cyffin, deon Bangor (GLlGt cerdd 9). Dywed Llywelyn iddo dderbyn llythyr gan Risiart i’w ddwyn at Huw gan dybio ei fod yn rhoi caniatâd iddo gardota ŵyn yn y Chwaen, ond pan ddatganodd Huw y llythyr cafodd mai cyhuddiad ydoedd fod Llywelyn wedi lladrata ŵyn a gorchymyn i’w garcharu, onid ei grogi hefyd.
Roedd disgynyddion Huw yn noddwyr beirdd hefyd. Canodd Lewys Môn gywydd mawl i’w fab, Siôn Lewys, ac i’w wraig yntau, sef Elsbeth Watgyn (GLM cerddi V a VI), a chanodd Ieuan Deulwyn gywydd i ofyn mantell gan Siôn (ID cerdd XXVI). Marwnadwyd Alis ferch Huw Lewys mewn cywydd gan Gutun Owain a ganwyd, fe ymddengys, rywdro wedi 1480 (GO cerdd 52), a chanodd Lewys Môn gywydd mawl i Owain ap Siôn, gŵr Elin ferch Huw Lewys (GLM cerdd XLVII).
Achres
A rhoi iddo ei enw llawn, gwelir bod Huw Lewys ap Llywelyn ap Hwlcyn wedi mabwysiadu ffurf fachigol ar enw ei dad fel cyfenw, a mabwysiadwyd yr enw hwnnw gan ei ddisgynyddion yn eu tro. Seiliwyd yr achres gyntaf isod ar WG1 ‘Marchudd’ 6; WG2 ‘Bulkeley’ 2, ‘Hwfa’ 8 C1. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.
Achres Huw Lewys ap Llywelyn o Brysaeddfed
Dengys yr achres brif ddisgynyddion Huw o’i briodas gyntaf â Sioned Bwlclai a’i berthynas deuluol â thri o noddwyr eraill Guto. Gwelir ei fod yn ewythr i Ddafydd ap Gwilym o Lwydiarth, yn frawd yng nghyfraith i Huw Bwlclai o Fiwmares ac yn fab yng nghyfraith i Elen, chwaer Wiliam Fychan o’r Penrhyn.
Priodas gyntaf ei chwaer, Elen, yn unig a ddangosir yn yr achres uchod, ond gwelir isod achres yn dangos ei hail briodas. Fe’i seiliwyd ar WG1 ‘Carwed’ 2; WG2 ‘Carwed’ 2 B, ‘Ednywain Bendew’ 3 B5, ‘Hwfa’ 8 C1.
Ail briodas Elen, chwaer Huw Lewys
Dengys yr achres gysylltiadau teuluol Huw â theulu ei chwaer drwy ei hail ŵr, Cynwrig ap Dafydd, a enwir gan Guto yn ei gywydd i ateb dychan Llywelyn (65.27). Gwelir bod Huw wedi priodi’r eildro hefyd, â merch anhysbys i Gynwrig ac Elen. Roedd Huw, felly, yn frawd yng nghyfraith i Gynwrig ac yn fab yng nghyfraith iddo ef ac i’w chwaer ei hun, Elen. Priododd ei nith (os priodi a wnaethant).
Am goeden achau’n dangos brodyr Huw a’i hynafiaid, gw. y nodyn ar y pum brawd.
Ei yrfa
Seiliwyd y nodyn hwn ar erthygl Wiliam (1969–70) oni nodir yn wahanol. Enwir Huw mewn cofnodion rhwng 1461 ac 1467 a dywed Carr (1982: 216) ei fod yn ffermio nifer o wahanol diroedd sied o 1464 ymlaen. Ef oedd rhaglaw cwmwd Malltraeth yn 1471/2 ac roedd yn ffermio rhaglawiaethau cymydau Malltraeth, Llifon a Thalybolion yn 1480/1 (ibid. 215). Ceir y cofnod diweddaraf ato ym Medi 1485.
Yn ôl Carr (ibid. 216), ‘he may at one time have held some office at court’, awgrym a seilir ar yr hyn a ddywed Lewys Môn yn ei farwnad iddo (GLM IV.54):Pwy i roi’n sewer prins ieuanc?‘Swyddog sy’n blasu ac yn gweini bwyd’ yw sewer (GPC 3236), a hynny yn llys y brenin yn benodol hyd y bymthegfed ganrif (OED Online s.v. sewer2). Mae sewer prins ieuanc yn awgrymu mai wrth yr hen ystyr y deellir sewer yma hefyd, ac awgrymodd Wiliam (1969–70) mai Edward Tywysog Cymru (1453–71) yw’r prins ieuanc. Ond dylid rhoi ystyriaeth hefyd i’w olynydd fel tywysog rhwng 1470 ac 1483, sef yr hwn a goronwyd yn ddiweddarach yn frenin Edward V.
Yn llinell olaf ei gywydd mawl i Huw geilw Guto ef yn sirif Môn, cyfeiriad a ategir gan Ieuan Deulwyn mewn cywydd i ofyn gosog gan Huw (ID 39):Y syryf aeth a sir fon
sy huw lewys o liwonac mewn cywydd i ofyn mantell gan ei fab, Siôn Lewys (Wiliam 1969–70: 60):Siryf i Fôn y siroedd
Swydd ei dad, Prysaeddfed oedd(Noder bod darlleniad ychydig yn wahanol yn ID 48 Sirydd i fon y siroedd / Swydd fu i dad prysaddfed oedd.) Awgrymir gan Wiliam mai dirpwy siryf ydoedd mewn gwirionedd gan na cheir cofnod swyddogol i ategu’r hyn a ddywed y beirdd.
Cymerodd yn wraig gyntaf Sioned ferch Wiliam Bwlclai o Fiwmares, a nodwyd arwyddocâd yr uniad hwnnw gan Carr (1982: 228): ‘this … was an alliance of two rising families and in a way marked the acceptance of the Cheshire Bulkeleys into the ranks of the Anglesey uchelwyr.’ Ymddengys y ganed Sioned rywdro wedi 1437 gan mai yn y flwyddyn honno y priododd ei rhieni.
Bu farw Huw rywdro rhwng y cyfeiriad olaf ato yn 1485 ac 1503/4, pan fu farw ei frawd, Rhys (sef yr unig frawd y mae dyddiad ei farw’n hysbys). Ymddengys mai Rhys oedd mab ieuengaf Llywelyn ap Hwlcyn a dywed Guto ei fod ef a Meurig, y brawd hynaf, ar dir y byw pan ganodd ei gywydd mawl i Huw. At hynny, at un brawd yn unig y cyfeirir gan Lewys Môn yn ei farwnad i Huw (GLM IV.46):gwae’i frawd am ei gyfryw ŵrY tebyg yw mai Rhys ydoedd, a bod Meurig yntau wedi marw cyn Huw.
Llyfryddiaeth
Carr, A.D. (1982), Medieval Anglesey (Llangefni)
Wiliam, D.W. (1969–70), ‘Y Traddodiad Barddol ym Mhlwyf Bodedern, Môn’, AAST: 39–79