Chwilio uwch
 

Rhestr Noddwyr a Beirdd

Huw Lewys ap Llywelyn o Brysaeddfed, fl. c.1461–85

Canodd Guto gywydd mawl i Huw Lewys o Brysaeddfed ym Môn pan fu bron â boddi wrth groesi rhyd ym Malltraeth (cerdd 64). Ysgogodd y gerdd honno Lywelyn ap Gutun i ganu cywydd dychan i Guto (cerdd 65a) a chanodd Guto yntau gywydd i’w ateb (cerdd 65). Yng nghywydd mawl Guto i Huw nodir bod dau o frodyr Huw yn fyw a dau wedi marw. Roedd pum brawd i gyd felly, brodyr y canodd Guto gywydd mawl iddynt gyda’i gilydd (cerdd 63).

Noddodd Huw a’i wraig, Sioned Bwlclai, nifer o feirdd eraill:

  • Ieuan Deulwyn, a ganodd gywydd i Huw i ofyn gosog, ID cerdd XXIII;
  • Tudur Penllyn, a ganodd gywydd mawl i Huw a Sioned, GTP cerdd 10;
  • Lewys Môn, a ganodd gywydd marwnad i Huw ac awdl farwnad i Sioned, GLM cerddi III a IV;
  • Lewys Glyn Cothi, a ganodd gywydd marwnad i Sioned, GLGC cerdd 229.

Nodwyd uchod bod Llywelyn ap Gutun wedi canu cywydd dychan i Guto fel ymateb i gywydd a ganodd Guto i Huw, ac enwir Huw gan Lywelyn mewn cywydd dychan arall a ganodd i Risiart Cyffin, deon Bangor (GLlGt cerdd 9). Dywed Llywelyn iddo dderbyn llythyr gan Risiart i’w ddwyn at Huw gan dybio ei fod yn rhoi caniatâd iddo gardota ŵyn yn y Chwaen, ond pan ddatganodd Huw y llythyr cafodd mai cyhuddiad ydoedd fod Llywelyn wedi lladrata ŵyn a gorchymyn i’w garcharu, onid ei grogi hefyd.

Roedd disgynyddion Huw yn noddwyr beirdd hefyd. Canodd Lewys Môn gywydd mawl i’w fab, Siôn Lewys, ac i’w wraig yntau, sef Elsbeth Watgyn (GLM cerddi V a VI), a chanodd Ieuan Deulwyn gywydd i ofyn mantell gan Siôn (ID cerdd XXVI). Marwnadwyd Alis ferch Huw Lewys mewn cywydd gan Gutun Owain a ganwyd, fe ymddengys, rywdro wedi 1480 (GO cerdd 52), a chanodd Lewys Môn gywydd mawl i Owain ap Siôn, gŵr Elin ferch Huw Lewys (GLM cerdd XLVII).

Achres
A rhoi iddo ei enw llawn, gwelir bod Huw Lewys ap Llywelyn ap Hwlcyn wedi mabwysiadu ffurf fachigol ar enw ei dad fel cyfenw, a mabwysiadwyd yr enw hwnnw gan ei ddisgynyddion yn eu tro. Seiliwyd yr achres gyntaf isod ar WG1 ‘Marchudd’ 6; WG2 ‘Bulkeley’ 2, ‘Hwfa’ 8 C1. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.

stema
Achres Huw Lewys ap Llywelyn o Brysaeddfed

Dengys yr achres brif ddisgynyddion Huw o’i briodas gyntaf â Sioned Bwlclai a’i berthynas deuluol â thri o noddwyr eraill Guto. Gwelir ei fod yn ewythr i Ddafydd ap Gwilym o Lwydiarth, yn frawd yng nghyfraith i Huw Bwlclai o Fiwmares ac yn fab yng nghyfraith i Elen, chwaer Wiliam Fychan o’r Penrhyn.

Priodas gyntaf ei chwaer, Elen, yn unig a ddangosir yn yr achres uchod, ond gwelir isod achres yn dangos ei hail briodas. Fe’i seiliwyd ar WG1 ‘Carwed’ 2; WG2 ‘Carwed’ 2 B, ‘Ednywain Bendew’ 3 B5, ‘Hwfa’ 8 C1.

stema
Ail briodas Elen, chwaer Huw Lewys

Dengys yr achres gysylltiadau teuluol Huw â theulu ei chwaer drwy ei hail ŵr, Cynwrig ap Dafydd, a enwir gan Guto yn ei gywydd i ateb dychan Llywelyn (65.27). Gwelir bod Huw wedi priodi’r eildro hefyd, â merch anhysbys i Gynwrig ac Elen. Roedd Huw, felly, yn frawd yng nghyfraith i Gynwrig ac yn fab yng nghyfraith iddo ef ac i’w chwaer ei hun, Elen. Priododd ei nith (os priodi a wnaethant).

Am goeden achau’n dangos brodyr Huw a’i hynafiaid, gw. y nodyn ar y pum brawd.

Ei yrfa
Seiliwyd y nodyn hwn ar erthygl Wiliam (1969–70) oni nodir yn wahanol. Enwir Huw mewn cofnodion rhwng 1461 ac 1467 a dywed Carr (1982: 216) ei fod yn ffermio nifer o wahanol diroedd sied o 1464 ymlaen. Ef oedd rhaglaw cwmwd Malltraeth yn 1471/2 ac roedd yn ffermio rhaglawiaethau cymydau Malltraeth, Llifon a Thalybolion yn 1480/1 (ibid. 215). Ceir y cofnod diweddaraf ato ym Medi 1485.

Yn ôl Carr (ibid. 216), ‘he may at one time have held some office at court’, awgrym a seilir ar yr hyn a ddywed Lewys Môn yn ei farwnad iddo (GLM IV.54):

Pwy i roi’n sewer prins ieuanc?

‘Swyddog sy’n blasu ac yn gweini bwyd’ yw sewer (GPC 3236), a hynny yn llys y brenin yn benodol hyd y bymthegfed ganrif (OED Online s.v. sewer2). Mae sewer prins ieuanc yn awgrymu mai wrth yr hen ystyr y deellir sewer yma hefyd, ac awgrymodd Wiliam (1969–70) mai Edward Tywysog Cymru (1453–71) yw’r prins ieuanc. Ond dylid rhoi ystyriaeth hefyd i’w olynydd fel tywysog rhwng 1470 ac 1483, sef yr hwn a goronwyd yn ddiweddarach yn frenin Edward V.

Yn llinell olaf ei gywydd mawl i Huw geilw Guto ef yn sirif Môn, cyfeiriad a ategir gan Ieuan Deulwyn mewn cywydd i ofyn gosog gan Huw (ID 39):

Y syryf aeth a sir fon
sy huw lewys o liwon

ac mewn cywydd i ofyn mantell gan ei fab, Siôn Lewys (Wiliam 1969–70: 60):

Siryf i Fôn y siroedd
Swydd ei dad, Prysaeddfed oedd

(Noder bod darlleniad ychydig yn wahanol yn ID 48 Sirydd i fon y siroedd / Swydd fu i dad prysaddfed oedd.) Awgrymir gan Wiliam mai dirpwy siryf ydoedd mewn gwirionedd gan na cheir cofnod swyddogol i ategu’r hyn a ddywed y beirdd.

Cymerodd yn wraig gyntaf Sioned ferch Wiliam Bwlclai o Fiwmares, a nodwyd arwyddocâd yr uniad hwnnw gan Carr (1982: 228): ‘this … was an alliance of two rising families and in a way marked the acceptance of the Cheshire Bulkeleys into the ranks of the Anglesey uchelwyr.’ Ymddengys y ganed Sioned rywdro wedi 1437 gan mai yn y flwyddyn honno y priododd ei rhieni.

Bu farw Huw rywdro rhwng y cyfeiriad olaf ato yn 1485 ac 1503/4, pan fu farw ei frawd, Rhys (sef yr unig frawd y mae dyddiad ei farw’n hysbys). Ymddengys mai Rhys oedd mab ieuengaf Llywelyn ap Hwlcyn a dywed Guto ei fod ef a Meurig, y brawd hynaf, ar dir y byw pan ganodd ei gywydd mawl i Huw. At hynny, at un brawd yn unig y cyfeirir gan Lewys Môn yn ei farwnad i Huw (GLM IV.46):

gwae’i frawd am ei gyfryw ŵr

Y tebyg yw mai Rhys ydoedd, a bod Meurig yntau wedi marw cyn Huw.

Llyfryddiaeth
Carr, A.D. (1982), Medieval Anglesey (Llangefni)
Wiliam, D.W. (1969–70), ‘Y Traddodiad Barddol ym Mhlwyf Bodedern, Môn’, AAST: 39–79