Cadwyd un cywydd mawl gan Guto i Syr Rosier Cinast ap Gruffudd o’r Cnwcin (cerdd 79). Eiddo Lewys Glyn Cothi yw’r unig gerdd arall iddo a oroesodd a’r gerdd gynharaf i aelod o deulu’r Cinastiaid, sef cywydd i ofyn arfwisg ganddo ef a’i ail wraig, Elisabeth ferch Henry Grey, ar ran Edward ap Dafydd o Erbistog (GLGC cerdd 207). Diogelwyd dwy gerdd i blant Rosier, sef cywydd mawl gan Dudur Penllyn i Fari ferch Syr Rosier Cinast ac i’w gŵr, Hywel ap Siancyn o Ynysymaengwyn (GTP cerdd 6), a chywydd gan Gutun Owain i ofyn bwcled gan Ruffudd ap Hywel ar ran Wmffre ap Syr Rosier Cinast (GO cerdd XV). Molwyd ei ddisgynyddion a Chinastiaid eraill gan nifer o feirdd: Gruffudd Hiraethog, Huw Arwystl, Rhys Cain, Lewys Powys, Wiliam Llŷn, Ieuan Llafar ac Edward Maelor.
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 1, 37, 38; WG2 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 38 A1, A3.
Achres Syr Rosier Cinast o’r Cnwcin
Roedd gan Rosier frodyr a chwiorydd, sef Siancyn, Phylib, Wiliam, Lucy ac Ann. Ceid cysylltiadau niferus iawn rhwng plant Rosier a noddwyr Guto, rhy niferus, yn wir, i’w dangos ar ffurf achres. Gwraig gyntaf Wmffre oedd Elisabeth ferch Maredudd ap Hywel o Groesoswallt, a’i ail wraig oedd Marged ferch Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan. Priododd Marged (merch Rosier) â Rhisiart ap Gruffudd Hanmer, nai i Siôn Hanmer ap Siôn Hanmer o Halchdyn a’r Llai. Roedd gŵr Ermin, Siôn Eutun, yn orwyr i Siôn Eutun ap Siâms Eutun o Barc Eutun. Perthynai gŵr cyntaf Mari, Hywel ap Siancyn o Ynysymaengwyn, i deulu’r Cryniarth, ac roedd ei thad yng nghyfraith, Siancyn ab Iorwerth, yn nai i Ieuan ab Einion. At hynny, cafodd Mari berthynas â Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais. Yn olaf, priododd un o’r ddwy Siân ag Ieuan, mab i Ddafydd Llwyd ap Gruffudd o Abertanad.
Ei yrfa
Cymerodd Rosier ei gyfenw oddi wrth dref Kynaston ym mhlwyf Kinnerley yn swydd Amwythig, ac fe’i cysylltir â phentrefi Cnwcin nid nepell oddi yno a Hordley ymhellach i’r gogledd. Disgleiriodd fel gweinyddwr ac fel milwr ac roedd yn gefnogwr i blaid Iorc yn Rhyfeloedd y Rhosynnau. Bu’n gwnstabl Dinbych yn 1454 ac yn gwnstabl Harlech yn 1473 (Evans 1995: 63, 163). Ymladdodd ym mrwydr Blore Heath yn 1459, lle lladdodd yr Arglwydd Audley, ac yna ym mrwydr Ludford yn yr un flwyddyn, ac roedd Edward IV yn fawr ei ymddiried ynddo (Evans 1995: 62–4; Ebrington 1979: 75). O 1461 hyd 1463 bu’n siryf swydd Amwythig, y gŵr cyntaf i Edward ei benodi i’r swydd honno (Ebrington 1979: 75). Ar 28 Awst 1467 fe’i gwysiwyd gerbron y brenin a danfonwyd Wiliam Herbert ac eraill i’w ymofyn, ond nid yw’n eglur pam y gwnaethpwyd hynny (CPR). Erbyn 1473 fe’i gwnaed yn siryf sir Feirionnydd am ei oes (Evans 1995: 163). Yn 1471, fel yr adroddir yng nghywydd Guto i Rosier, ymladdodd ym mrwydr Barnet (14 Ebrill), ac yna ym mrwydr Tewkesbury (4 Mai), lle dywedir iddo ladd iarll Warwick (79.49n). Ar yr ail achlysur, fe’i gwnaed yn farchog ar y maes hefyd. Atega cerdd Guto yn llwyr yr hyn sy’n hysbys amdano o ffynonellau eraill, ac yn enwedig ei allu milwrol a’r ymddiried amlwg a oedd rhyngddo ac Edward IV. Bu farw yn 1495/6.
Llyfryddiaeth
Ebrington, C.R. (1979) (ed.), A History of Shropshire, vol. iii (Oxford)
Evans, H.T. (1995), Wales and the Wars of the Roses (second ed., Stroud)