databas cerddi guto'r glyn

Crefydd

A Cistercian abbey near Llangollen that became a sanctuary for many poets during the fifteenth century.
Valle Crucis abbey
Click for a larger image

 Wrth y Mab a’i wyrthiau maith
 Ym mrig aberth mae’r gobaith.
 Y Drindod a warendy
 Arnaf ar arch o’r nef fry:
 F’un Ceidwad, fy Nuw cadarn,
 Fy nawdd fo yn Nydd y Farn.
 Fy noddfa, fy niweddfyd,
 Fo nef a’i gartref i gyd!
(cerdd 118.67-74)

Roedd crefydd yn rheoli sawl agwedd ar fywyd yn yr Oesoedd Canol a disgwylid i bob unigolyn gydymffurfio o ran ymddygyiad â’r hyn a ddysgid yng ngwasanaethau'r Eglwys. Pechod mawr oedd peidio â mynychu Offeren y Sul neu dorri’r Saboth. O ran y beirdd, roedd yr eglwysi a’r abatai yn sefydliadau pwysig, yn enwedig gan fod llawer o wŷr eglwysig yn darparu nawdd mor hael iddynt.

Trefnid gwleddoedd a thymhorau yn ôl trefn yr Eglwys. Ystyrid tair gŵyl yn ystod y flwyddyn yn brif wyliau crefyddol, sef y Nadolig, y Sulgwyn a’r Pasg. Ar yr adegau hyn hefyd y cynhelid gwleddoedd mawreddog yn nhai'r uchelwyr ac yn yr abatai.




Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration