Y Rhyfel Can Mlynedd
Cyfres o frwydrau a ymladdwyd mewn gwirionedd dros gyfnod o 116 o flynyddoedd oedd y ‘Rhyfel Can Mlynedd’.[1] Derbynnir yn gyffredinol i’r rhyfel ddechrau yn 1337, pan gipiodd y Brenin Philip VI o Ffrainc diroedd Ffrengig y Brenin Edward III o Loegr, sef sir Ponthieu yng ngogledd Ffrainc a’r tiroedd mwy helaeth a ddaliai yng Ngwasgwyn (Ffrangeg ‘La Gascogne’) fel dug Acwitania. Daeth y rhyfel i ben pan gollodd y Saeson ardal Gwasgwyn i’r Ffrancwyr yn 1453. Yn ystod y rhyfel enillodd y Saeson sawl buddugoliaeth gan ehangu’n sylweddol eu daliadau yn Ffrainc; hefyd coronwyd un o frenhinoedd Lloegr, Harri VI, yn frenin Ffrainc. Ond ni allent ddal gafael ar eu henillion, ac erbyn diwedd y rhyfel dim ond Calais, yn y gogledd, a oedd yn parhau yn eu meddiant. I rai Cymry, roedd brwydro dros Goron Lloegr yn ystod y cyfnod hwn yn cynnig arian da a chyfle i ddod ymlaen yn y byd. Ond i eraill roedd y Ffrancwyr yn gynghreiriaid defnyddiol yn eu hymdrechion i adennill annibyniaeth i Gymru (gw. milwyr Cymreig). Bu Guto’r Glyn ei hun yn gwasanaethu fel saethydd yn ystod cyfnod olaf y rhyfel a chyfansoddodd gerddi i arweinwyr milwrol Cymreig pwysig megis Mathau Goch a Syr Rhisiart Gethin (gw. Guto a’r Rhyfel). Bibliography[1]: Seilir yr erthygl hon gan fwyaf ar C. Allmand, The Hundred Years War: England and France at War c.1300-c.1450 (Cambridge, 1988) ac A. Curry, The Hundred Years War (2nd edition, Basingstoke, 2003), ac eithrio gwybodaeth am noddwyr Guto’r Glyn a ddaw’n gyffredinol o’r nodiadau noddwr perthnasol yn www.gutorglyn.net. |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru