databas cerddi guto'r glyn

Am y Prosiect

The logo was designed by Martin Crampin
The logo was designed by Martin Crampin
Click for a larger image

Tîm Golygyddol Prosiect Guto’r Glyn:
Dafydd Johnston (Cyfarwyddwr y Ganolfan)
Ann Parry Owen (Arweinydd y Prosiect)
Iestyn Daniel
Jenny Day
Alaw Mai Edwards
Barry Lewis
Eurig Salisbury

Mae ‘Cymru Guto’ yn rhan o Brosiect Guto’r Glyn, ac yn cyd-fynd â golygiad electronig ar lein o waith y bardd, Guto'r Glyn.net. Lluniwyd y wefan gan gwmni Technoleg Taliesin dan gyfarwyddyd Nigel A. Callaghan ac fe’i dyluniwyd gan Martin Crampin (www.martincrampin.co.uk). Alaw Mai Edwards a Jenny Day a fu’n bennaf cyfrifol am y cynnwys ac mae nifer o’r erthyglau yn seiliedig ar waith gweddill y tîm. Diolch i Gwen Angharad Gruffudd am ei gwaith fel golygydd copi. I gysylltu â ni ynglŷn â’r wefan hon anfonwch ebost at .

Hoffem ddiolch i staff Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru am eu haelioni yn rhannu eu gwybodaeth am gartrefi noddwyr Guto’r Glyn, a rhaid nodi ein diolch arbennig i Mr Richard Suggett. Diolch iddynt am ganiatâd i ddefnyddio nifer o ddelweddau at ddibenion y prosiect. Mae’r map sy’n dangos cartrefi noddwyr Guto yn seiliedig ar wybodaeth a gafwyd o wefan Coflein o ran lleoliad yr adeiladau (sef cyfeirnod map ac enwau’r siroedd).

Pleser oedd cydweithio gyda Mr Suggett a staff See3D i gynhyrchu animeiddiad ‘Guto yng Nghochwillan’.

Noddwyr a Chymwynaswyr
Rydym yn ddiolchgar iawn i Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) ac i Brifysgol Cymru am eu nawdd hael i’r prosiect hwn dros bum mlynedd (2008-2012).

Buom yn ffodus iawn yn ein partneriaid ymchwil - Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Y Llyfrgell hefyd sy’n darparu cartref tymor hir i’r wefan. Rydym yn ddiolchgar hefyd i Amgueddfa Cymru am eu caniatâd parod i ddangos rhai delweddau o’u casgliadau ar ein gwefan.

Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration