databas cerddi guto'r glyn

Diddordebau uchelwyr

Playing chess
Playing chess
Click for a larger image

 Yr oedd gampau ar Ieuan
 I’w garu mwy no’r gwŷr mân:
 Ar Ieuan deg a’i rôn dur
 Y perthyn campau Arthur.
(cerdd 106.37-40)

Roedd disgwyl i uchelwyr Cymru feistroli campau penodol yng nghyfnod Guto'r Glyn, gan gynnwys rhai corfforol a meddyliol, chwarae gemau bwrdd, campau corfforol a hela. Addysgid rhai o’r noddwyr nes eu bod yn hyddysg mewn dysg a llên ac roedd ganddynt hefyd ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth. Wrth gwrs, roedd eu byd ym ymwneud â chyraeddiadau arbennig gan fod eu statws o fewn y gymdeithas mor bwysig, ac felly, wrth ganmol y doniau hyn yn y cerddi iddynt, roedd y beirdd yn pwysleisio eu statws uchel.

Mae’n rhaid fod gan yr uchelwyr glust dda hefyd - un o’r pedair camp ar hugain y disgwylid iddynt eu dysgu oedd tiwnio telyn!

Perthyn y rhestr o’r pedair camp ar hugain i’r unfed ganrif ar bymtheg (yn llaw Gruffudd Hiraethog ym Mheniarth 155), ond mae’n amlwg o ran tystiolaeth y beirdd fod dysgu’r campau hyn yn digwydd cyn hynny.

Roedd yna gampau corfforol (gw. Gemau):
1. cryfder
2. rhedeg
3. neidio
4. nofio
5. ymafael
6. marchogaeth
7. saethu
8. chwarae cleddyf a bwcled
9. chwarae cleddau deuddwr
10. chwarae ffon ddwybig

Campau yn ymwneud â hela (gw. Hela):
11. hela â milgi
12. hela pysg
13. hela aderyn

Campau a ystyrid yn ddiwylliannol (gw. Dysg a llên a Statws a herodraeth):
14. barddoniaeth
15. canu telyn
16. darllen Cymraeg
17. tynnu arfau
18. herodraeth
19. canu cywydd gan dant
20. canu cywydd pedwar ac acennu

Campau a elwid yn ‘gogampau’ a ymwnâi â chwarae gemau (gw. Gemau):
21. chwarae gwyddbwyll
22. chwarae tawlbwrdd
23. chwarae ffristial
24. cyweirio telyn.

Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration