databas cerddi guto'r glyn

Y wledd


Click for a larger image

 Yno cawn fawrddawn fyrddau: - mawr yfed
Ac amrafael fwydau;
Ym mhlas Egwestl, aml seigiau,
Mae llyn hen i’m llawenhau.
(cerdd 113.17-20)

Canolbwynt bywyd cymdeithasol beirdd a noddwyr oedd y wledd lle roedd digonedd o fwyd a diod ar gael. Yn ôl Cyfraith Hywel Dda, cynhelid gwleddoedd arbennig deirgwaith y flwyddyn, sef yn ystod y Nadolig, y Sulgwyn a’r Pasg. Roedd diwrnodau seintiau hefyd yn adegau i ddathlu, yn enwedig yn yr abatai. Yn ystod gwleddoedd mawr felly cyflogid swyddogion pwrpasol i ymgymryd â threfn ddomestig y wledd.

Roedd canmol noddwyr am eu haelioni a’u gwleddoedd wedi bod yn rhan o gonfensiwn y canu mawl ers canrifoedd, ond daeth y wledd yn arbennig o bwysig fel symbol o gyfoeth a statws yn yr Oesoedd Canol diweddarach. Yn wir, er ei bod yn weithgaredd cymdeithasol a oedd yn llawn diddanwch a danteithion, arddangos cyfoeth a statws oedd prif amcan y wledd. Cyplysir y cyfeiriad at wledd yn aml â chyfeiriad at aur neu ddosbarthu anrhegion, sef symbol gweledol arall o haelioni’r noddwr. Swyddogaeth y bardd oedd hysbysu’r cyfoeth hwn a lledaenu enw da ei noddwr.


Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration