databas cerddi guto'r glyn

Abaty Ystrad-fflur

Strata Florida abbey
Strata Florida abbey
Click for a larger image

Mae lleoliad hyfryd abaty Ystrad-fflur a’r porth gorllewinol eiconic hwnnw sy’n arwain at adfeilion yr hen adeiladau yn dyst i odidowgrwydd y fynachlog hon a pham yr adwaenir hi fel un o brif abatai Sistersaidd Cymru yn yr Oesoedd Canol. Ond ar ddechrau’r bymthegfed ganrif, roedd rhai o’r adeiladau eisoes wedi dechrau dirywio.[1] Wedi’r cwbwl, roedd rhai rhannau, megis y côr neu gangell y mynaich (cerdd 8.58) yn cynnwys gwaith a oedd yn dyddio mor bell yn ôl â’r ddeuddegfed ganrif.

Erbyn cyfnod abadaeth yr Abad Rhys ap Dafydd (c.1436-41), noddwr Guto, gwelwyd mai da o beth fyddai dechrau adnewyddu’r abaty - gwaith costus a blinedig, bid siŵr. Tra oedd hynny ar waith, canodd Guto gerdd o fawl i’r Abad Rhys a chyfeirir yno at fwriad yr abad i adnewyddu’r abaty. Cawn wybod mai cerrig a ddefnyddid i adeiladu’r tai disglair yno: Tref a wneler trwy fain eiliad ‘llys a wneler trwy gydblethu meini’ (cerdd 8.70); cyflogid seiri meini a oedd yn arbenigwyr yn eu maes at y gorchwyl yn ôl Peter Lord.[2] Ceir yno seler a sylfaen da yn ôl y bardd: Tua’r seler, pond da’r seiliad ‘tua’r seler, onid da yw’r sylfaen?’ (cerdd 8.71) a nodir yn benodol i’r Abad Rhys dalu am adeiladu’r ffreutur:

 Credwn nad haelach creadur – no Rhys, 
16Rhoes am waith y ffreutur. 
 Cyfodes y cofiadur 
 Cwfent a phlaid cefn tŷ Fflur. 
Credwn ni nad oes creadur haelach na Rhys,
talodd am waith adeiladu’r ffreutur.
Cododd y cofiadur
grefydd-dy a mur cynhaliol tŷ Fflur.

(cerdd 8.15-18)


Ychwanegir hefyd fod yr abad wedi cynnwys addurniadau ysblennydd iawn yno - ffenestri gwydr rhagorol, rhai lliw o bosibl a fyddai’n sicr yn gostus iawn i’w cynhyrchu (gw. Tai ac adeiladau: Gwydr). Cyfeirir hefyd at fflowrestri, sef addurn blodeuog o ryw fath: gallai hwn fod yn addurn yn y gwaith pren neu faen, megis y pennau colofnau blodeuog sydd wedi goroesi:

 Gaer fflowrestri, gôr Fflur Ystrad, 
 Gwin fenestri ag aur lestri, 
60Gwalchmai’r festri, gweilch Mair fwstrad. 
addurn blodeuog llys, cangell Ystrad-fflur,
gweinyddwyr gwin mewn llestri aur,
Gwalchmai’r festri, cynulliad o hebogiaid Mair.

(cerdd 8.58-60)


A ceramic floor tile from Strata Florida abbey, c.14th-15th century.
A ceramic tile from Strata Florida abbey
Click for a larger image
Er gwaethaf ymdrech yr Abad Rhys, erbyn c.1442 roedd yr abaty mewn cyflwr truenus, er i’r Abad Morgan ap Rhys (1444-86) parhau gyda’r gwaith o adnewyddu’r adeiladau yn ôl Dafydd Nanmor. Erbyn ymweliad John Leland â’r abaty yn y 1530au, roedd rhai o’r adeiladau unwaith eto mewn cyflwr gwael, gyda’r ystafelloedd cyffredin, ffreutur y mynaich a’r clafdy wedi dirywio’n helaeth. Erys nifer o deils yr abaty a cheir beddi yno hefyd o gyfnodau cynharach.

Am fwy o wybodaeth gw. Monastic Wales, abaty Ystrad Fflur.


Bibliography

[1]: D.M. Robinson, The Cistercians in Wales: Architecture and Archaeology 1130‒1540 (London, 2006), 269.
[2]: P. Lord, Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd, 2005), 91.
<<<Abaty Glyn-y-groes      >>>Traddodiad a diwylliant
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration