databas cerddi guto'r glyn

Abaty Glyn-y-groes


A window, Valle Crucis abbey
A window, Valle Crucis abbey
Click for a larger image
Saif abaty Glyn-y-groes ger Llangollen, a’r hyn sy’n nodedig heddiw am y fynachlog hon yw fod tipyn o’r adeiladau canoloesol wedi goroesi. Heb os, dyma’r abaty pwysicaf o ran darparu nawdd i feirdd y bymthegfed ganrif (gw. hefyd Diddordebau uchelwr: Dysg a gwybodaeth). Bu yno ddau abad hynod ddiwylliedig yn ystod oes Guto, sef yr Abad Siôn ap Rhisiart (c.1455‒61), a’r Abad Dafydd ab Ieuan (c.1480‒1503).

Gan fod rhai o’r waliau carreg wedi goroesi, gellir gweld cynllun yr abaty yn fras. Y clwysty oedd calon yr abaty ac o’i amgylch roedd adeiladau eraill megis eglwys, llyfrgell a ffreutur y mynaich. Bu gwaith adnewyddu cyson ar yr abaty er pan adeiladwyd ef gyntaf, yn enwedig yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg a dechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg.[1] Roedd hynny’n wir am y bymthegfed ganrif hefyd, fel y noda’r beirdd.

Canodd Guto’r Glyn a Gutun Owain gerddi i’r Abad Dafydd ab Ieuan a’r ddau fardd yn nodi mor wych oedd pensaernïaeth ac addurniadau’r fynachlog:

 Eurodd, adeilodd y delwau – a’r côr 
 A’r cerygl a’r llyfrau; 
 Arglwyddwalch i roi gwleddau 
16O fewn cwrt ni fyn nacáu. 
Bu iddo oreuro a llunio’r delwau a’r gangell
a’r cwpanau Cymun a’r llyfrau;
pendefig na ddymuna wrthod
darparu gwleddoedd mewn cwrt.

(cerdd 113.13-16)


Sonnir hefyd am gynllun yr abaty, gan gyfeirio at y dortur, sef yr ystafell gysgu, a thri adeilad arall (teirteml):

 Dodes Duw Awdur deirteml a dortur, 
48Dir eglur i dreiglo. 
rhoddodd Duw’r Creawdwr dair eglwys ac ystafell gysgu,
a thir ysblennydd i ymlwybro arno.

(cerdd 113.47-8)


Yn wir, nid yw’n gwbl amhosibl fod gan Guto ystafell neu wely iddo ef ei hun yng Nglyn-y-groes (cerdd 112.26). Fel pob sylweddol, mae yno seler a bwtri i gadw bwyd a diod:

Af i’w seler fry i’w seilio, 
Af, tra fwy’, i’w fwtri ’fo; 
Af at Dafydd lwyd dyfal, 
Af i’w seler draw i’w sefydlu,
af, tra bwyf, i’w bantri ef;
af at Ddafydd bendigaid a diwyd,

(cerdd 117.35-7)


Saif yr abaty o fewn yr hyn a ddisgrifir gan Guto fel palis irglwyd (cerdd 116.23). Gall mai cyfeirio at wal neu ffens allanol i amddiffyn yr adeiladau a’r gerddi a wneir.[2]

O ran addurniadau coeth yr adeiladau yng Nglyn-y-groes, cyfeirir, o bosibl, at ffenestri lliw yn yr abaty, Gwydr a’r plwm yw godre’r plas ‘gwydr a’r plwm yw ochrau’r plas,’ (cerdd 117.46, gw. Tai: Gwydr). Mae’n bosibl hefyd mai cyfeirio at deils ar y lloriau a wneir wrth sôn am Lle’r cwfaint, lloriau cyfun ‘Lle’r mynaich, lloriau unffurf,’ (cerdd 112.53).[3] Ond y to, sef to agored o bren addurnedig, a gaiff y sylw mwyaf. Disgrifir y to yn gaead hardd (cerdd 112.34), yn llydan ac yn gerfiedig:

Newyddodd i Feneddig 
Ei dŷ fry a’i do a’i frig, 
Neuadd fawrnadd i Ferned 
A nen y llys a wnâi’n lled, 
Cwyr, clych, cerrig, gwal i hon, 
Cresti mur, croestai mawrion, 
Adnewyddodd ar gyfer Benedict
ei dŷ fry a’i do a’i gopa,
neuadd fawr a cherfiedig ar gyfer Bernard
a tho’r llys a wnaeth yn fwy llydan,
cwyr, clychau, cerrig, wal i hon,
copaon y rhagfur, adeiladau mawr ar ffurf croes,

(cerdd 112.47-52)


Nodir hefyd mai pren derw o fryn Hyrddin a ddefnyddid (cerdd 112.34). Yn eglwys Sant Collen yn Llangollen ceir to cerfiedig hardd iawn sydd wedi goroesi o’r cyfnod hwn ‒ y to mwyaf cain sydd wedi goroesi o’r bymthegfed ganrif yng Nghymru. Yn wir, mae’n bosibl iawn i’r gwaith cerfio gael ei wneud gan yr un saer, ac mae traddodiad lleol sy’n dweud mai hwn oedd to gwreiddiol Abaty Glyn-y-groes, hyd yn oed (ond mae hynny’n annhebygol iawn).[4] Mae Guto’n nodi mai’r Abad Dafydd ab Ieuan a fu’n gyfrifol am y gwaith cain hwn:

 Doe y coroned ei dai cryno, 
 Dug ar ffyniant (da’u gorffenno!) 
 Dwylys â deuled dwy eglwys dewgled 
72Dan Fened neu Feuno. 
Ddoe y coronwyd ei adeiladau gwych,
yn llwyddiannus bu iddo arwain (boed iddo gwblhau’r gwaith yn dda!)
dau lys sydd ddwywaith mor llydan â dwy eglwys foethus
dan nawdd Benedict neu Feuno.

(cerdd 113.69-72)


Am fwy o wybodaeth gw. Monastic Wales, Abaty Glyn-y-groes.


Bibliography

[1]: D.M. Robinson, The Cistercians in Wales: Architecture and Archaeology 1130‒1540 (London, 2006), 260.
[2]: G.V. Price, Valle Crucis Abbey (Liverpool, 1952), 88.
[3]: G.V. Price, Valle Crucis Abbey, 88. Gw. hefyd C. Norton & D. Park (ed.), Cistercian Art and Architecture in the British Isles (Cambridge, 2012), 228‒55.
[4]: G.V. Price, Valle Crucis Abbey, 105.
>>>Abaty Ystrad-fflur
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration